Guidance

Credyd Cynhwysol ar gyfer yr hunangyflogedig

Updated 12 December 2018

1. Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol tra’n hunangyflogedig

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno mewn camau a gall amodau cymhwyso eraill fod yn berthnasol. Bydd eich gallu i wneud cais yn dibynnu ar ble rydych yn byw a’ch amgylchiadau personol.

Mae’n rhaid i chi wneud cais ar y cyd fel cwpwl os ydych yn byw gyda’ch partner. Os nad yw un ohonoch yn gymwys, bydd eu cynilion ac incwm hwy yn parhau i gael ei gymryd i ystyriaeth.

Os ydych chi a’ch partner yn gwneud cais fel cwpwl mae’n rhaid i chi hefyd:

  • byw yn yr un cyfeiriad
  • bod yn briod a’ch gilydd, yn bartneriaid sifil i’ch gilydd neu’n byw gyda’ch gilydd fel petaech yn briod

Unwaith mae gennych gais am Gredyd Cynhwysol wedi’i sefydlu, os ydych yn penderfynu mynd yn hunangyflogedig, bydd Credyd Cynhwysol yn darparu cymorth i’ch helpu i dyfu eich busnes.

Mae miloedd o bobl yn cymryd y penderfyniad i ddechrau eu busnes eu hunain bob blwyddyn.

Os ydych yn ystyried hyn fel ffordd o wella eich dyfodol, mae gan GOV.UK ystod helaeth o wybodaeth i’ch helpu i gychwyn yn.

2. Lefel Lleiafswm Incwm (MIF)

Mae Credyd Cynhwysol yn cynnwys ‘Lefel Lleiafswm Incwm’ os ydych mewn hunangyflogaeth a thâl, ac mae eich busnes wedi bod yn rhedeg am 12 mis. Mae’r Lefel Lleiafswm Incwm yn lefel tybiedig. Seilir hwn ar yr hyn y byddem yn disgwyl i berson cyflogedig ei gael mewn amgylchiadau tebyg.

Mae wedi’i gyfrifo drwy ddefnyddio’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eich grŵp oedran, wedi’i luosi â nifer yr oriau y disgwylir i chi chwilio am a bod ar gael i weithio.

Mae hefyd yn cynnwys didyniad tybiannol ar gyfer treth ac Yswiriant Gwladol.

Os yw eich enillion hunangyflogedig yn is na’r Lefel Lleiafswm Incwm rydym wedi’i gyfrifo ar eich cyfer, byddwn yn defnyddio’r Lefel Lleiafswm Incwm i weithio allan eich dyfarniad Credyd Cynhwysol yn lle eich enillion gwirioneddol.

3. Beth a olygir gan ‘hunangyflogaeth â thâl’?

Pan fyddwch yn dweud wrthym eich bod yn hunangyflogedig, mae angen i ni benderfynu a hunangyflogaeth yw’r ffordd fwyaf priodol i chi i fod yn annibynnol yn ariannol.

Y cam cyntaf tuag at wneud y penderfyniad hwn yw asesu p’un a ydych yn ‘hunangyflogedig â thâl’.

Mae hyn yn golygu y dylai hunangyflogaeth mewn crefft, proffesiwn neu alwedigaeth bod eich prif alwedigaeth. Rhaid iddo hefyd fod yn drefnus, yn cael ei datblygu, yn rheolaidd, ac yn cael ei weithredu gyda’r disgwyl o wneud elw.

4. Profi eich bod mewn hunangyflogaeth â thâl

Bydd eich anogwr gwaith y Ganolfan Byd Gwaith yn gofyn i chi am eich busnes ac enillion, a bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi hyn – mae pethau fel ffurflenni treth, eich rhif Cyfeirnod Treth Unigryw oddi wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, eich cynllun busnes, rhestrau cwsmeriaid, neu ddeunyddiau marchnata, i gyd yn dderbyniol.

Er mwyn gwneud penderfyniad os hunangyflogaeth yw eich prif alwedigaeth, byddwn yn edrych ar faint o oriau rydych yn eu treulio yn ymgymryd â gweithgaredd hunangyflogedig a faint rydych yn ei ennill ohono.

Os byddwn yn penderfynu eich bod yn hunangyflogedig â thâl, rydych wedi’ch eithrio rhag yr holl ofynion sy’n gysylltiedig â gwaith, sy’n golygu y gallwch ganolbwyntio’n llwyr ar eich busnes.

5. Bod yn hunangyflogedig a chyflogedig

Byddwn yn gwneud penderfyniad am pa weithgaredd yw eich prif alwedigaeth fel rhan o ‘prawf hunangyflogaeth â thâl’ sydd eisoes wedi’i gynnwys uchod . Mae eich enillion o hunangyflogaeth a chyflogaeth Talu Wrth Ennill (PAYE) yn cael eu cyfuno a’u hystyried i asesu eich dyfarniad Credyd Cynhwysol.

6. Os nad ydych yn hunangyflogaeth â thâl

Os byddwn yn penderfynu nad ydych yn hunangyflogedig â thâl, byddwn yn disgwyl i chi ymrwymo i chwilio am swydd.

Bydd angen i chi roi gwybod am unrhyw enillion o’ch hunangyflogaeth fel y gallant gael eu cymryd i ystyriaeth wrth gyfrifo eich dyfarniad Credyd Cynhwysol.

Gallwch ofyn am gael eich ailasesu yn y dyfodol, a byddwn yn edrych ar eich tystiolaeth, enillion ac oriau gwaith eto.

7. Talu treth ar eich incwm os y penderfynir nad ydych mewn hunangyflogaeth â thâl

Ni fydd y penderfyniad hwn yn effeithio ar eich rhwymedigaethau adroddiadau a treth i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, felly mae’n rhaid i chi barhau i dalu unrhyw dreth sy’n ddyledus ar unrhyw incwm.

8. Y ‘cyfnod sefydlu’ a sut y bydd yn effeithio ar Gredyd Cynhwysol

Os byddwn yn penderfynu eich bod yn hunangyflogedig â thâl, ac o fewn blwyddyn o ddechrau yn hunangyflogedig a’ch bod yn cymryd camau gweithredol i gynyddu eich enillion, byddwch yn gymwys i gael ‘cyfnod sefydlu.’

Mae hyn yn golygu na fydd y Lefel Lleiafswm Incwm yn berthnasol i chi am hyd at flwyddyn, ac ni fydd angen i chi chwilio am neu gymryd swydd arall yn ystod y cyfnod hwnnw. Bydd eich enillion gwirioneddol yn cael eu hystyried i weithio allan eich dyfarniad Credyd Cynhwysol yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd disgwyl i chi gymryd camau i adeiladu eich busnes a chynyddu eich enillion, a byddwn yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o hyn yn ystod eich cyfweliadau chwarterol. Os na wnewch, gallai eich cyfnod sefydlu ddod i ben a chaiff y Lefel lleiafswm Incwm ei gymhwyso i’ch cais.

9. Darparu gwybodaeth am eich enillion

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw enillion o’ch hunangyflogaeth i’r Adran Gwaith a Phensiynau yn fisol.

Mae hyn yn caniatáu i’ch Credyd Cynhwysol gael ei addasu’n fisol, gan sicrhau os bydd eich incwm o hunangyflogaeth yn disgyn, ni fydd rhaid i chi aros sawl mis am gynnydd yn eich Credyd Cynhwysol.

Mae enillion hunangyflogedig yn cael eu hadrodd ar sail ‘arian parod i mewn, arian parod allan’, sy’n cael ei alinio’n agos â system gyfrifo ar sail arian parod symledig Cyllid a Thollau EM, a ddefnyddir ar gyfer treth incwm. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gofyn i chi adrodd cyfanswm y derbyniadau i mewn i’r busnes a manylion y taliadau allan o’r busnes, yn y cyfnod asesu.

Mae cadw cofnodion a chyfrifo yn broses y dylai busnesau eisoes ei wneud er mwyn adrodd eich elw i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, felly dylai fod gennych eisoes yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch ar gyfer Credyd Cynhwysol.

Yn ogystal, dylai’r craffu misol hwn ar gofnodion ariannol eich busnes roi gwell dealltwriaeth i chi ar sut mae eich busnes yn perfformio a bydd hyn yn eich helpu i baratoi cyfrifon ar gyfer eich hunanasesiad treth ar ddiwedd y flwyddyn.

10. Os oes gennych bartner sy’n gweithio

Gall enillion eich partner effeithio ar y Lefel Lleiafswm Incwm sy’n cael ei gymhwyso i’ch cais mewn rhai amgylchiadau.

Mae incwm y cartref yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo swm y Credyd Cynhwysol a gewch, felly efallai y bydd enillion eich partner yn effeithio ar eich taliad.

11. Os oes gennych bartner sydd hefyd yn hunangyflogedig

Byddai gan y ddau ohonoch Lefel Lleiafswm Incwm eich hunain, a gyfrifir yn dibynnu ar eich amgylchiadau, ac mae’r rhain yn cael eu cyfuno i gyfrifo dyfarniad eich cartref.

12. Gofalwyr maeth

Nid yw gofalwyr maeth yn cael eu trin fel eu bod yn hunangyflogedig at ddibenion Credyd Cynhwysol.

13. Cymorth i dyfu eich busnes

Mae miloedd o bobl yn cymryd y penderfyniad i sefydlu eu busnes eu hunain bob blwyddyn. Gallwch ddod o hyd i syniadau, cymorth a chefnogaeth yn

14. Newidiadau i’ch hunangyflogaeth

Bydd angen i chi roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau i’r ganolfan gwasanaethau Credyd Cynhwysol cyn gynted â phosibl.

Yn dibynnu ar y newid, efallai y bydd angen i ni gynnal prawf hunangyflogaeth â thâl newydd i benderfynu a oes angen i’ch cyfnod sefydlu ddod i ben.

Gallai hyn ddigwydd os ydych wedi rhoi’r gorau i fasnachu, neu’n methu â gweithio yn eich busnes mwyach, er enghraifft.

Os bydd eich hunnangyflogaeth yn newid, er enghraifft os ydych yn penderfynu dechrau math gwahanol o fusnes, ni chewch gyfnod sefydlu arall yn awtwomatig, gan eich bod ond â hawl i un ar gyfer pob hunangyflogaeth a dim ond unwaith bob pum mlynedd.