Cystadleuaeth Tref Diwylliant y DU 2028: Hysbysiad preifatrwydd
Diweddarwyd 13 Mawrth 2026
Pwy sy’n casglu fy nata?
Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn helpu i sbarduno twf, cyfoethogi bywydau a hyrwyddo Prydain dramor.
Rydym yn diogelu ac yn hyrwyddo ein treftadaeth ddiwylliannol ac artistig, ac yn helpu busnesau a chymunedau i dyfu drwy fuddsoddi mewn arloesi a thrwy dynnu sylw at Brydain fel lle gwych i ymweld ag ef. Rydym yn helpu i roi mantais unigryw i’r DU ar y llwyfan byd-eang, gan ymdrechu i sicrhau llwyddiant economaidd.
Rheolir y wefan hon (“y Wefan”) gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (“ni” a “DCMS”).
Y DCMS yw’r rheolydd ar gyfer yr wybodaeth bersonol y byddwn ni’n ei phrosesu, oni nodir yn wahanol.
Diben yr hysbysiad preifatrwydd hwn
Darperir yr hysbysiad hwn i fodloni ymrwymiadau a nodir yn Erthygl 13 o Reoliad Cyffredinol Diogelu Data’r DU (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA).
Mae’n egluro sut y byddwn yn defnyddio eich data personol fel rhan o’n hymrwymiadau cyfreithiol mewn perthynas â diogelu data.
Mae siarter y DCMS am wybodaeth bersonol yn esbonio sut rydym yn trin eich gwybodaeth ac yn dangos sut y gallwch ofyn i weld, newid neu dynnu eich gwybodaeth o’n cofnodion.
Beth yw data personol?
Data personol yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn byw y gellir ei adnabod neu sydd yn adnabyddadwy (sef ‘testun y data’).
Testun data yw rhywun y mae modd ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy wybodaeth fel:
- enw
- rhif adnabod
- data o ran lleoliad
- dynodydd ar-lein
- data sy’n ymwneud â’u hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, genetig, feddyliol, economaidd, ddiwylliannol neu hunaniaeth gymdeithasol
Gelwir y mathau hyn o wybodaeth adnabod yn ‘ddata personol’.
Mae cyfraith diogelu data yn berthnasol i gasglu, defnyddio a storio data personol.
Pam yr ydym yn casglu’ch data personol?
Data gan ymgeiswyr
Ar bob cam o gystadleuaeth Tref Diwylliant y DU 2028, bydd y DCMS yn prosesu’r enwau, y cyfeiriadau a’r cyfeiriadau e-bost a ddarperir gan ymgeiswyr, yn ogystal â gwybodaeth am ba sefydliadau y mae’r ymatebwyr yn perthyn iddynt (lle bo hynny wedi’i ddarparu).
Caiff yr wybodaeth hon ei phrosesu gan y DCMS er mwyn:
- cynnal gwiriadau sefydliadol at ddibenion talu grantiau
- cynnal cyswllt drwy gydol y rhaglen
Efallai y bydd y DCMS yn defnyddio gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus amdanoch i wirio’ch cefndir er mwyn asesu unrhyw risgiau i gyllid cyhoeddus wrth ddyfarnu grant i’ch sefydliad.
Beth yw’r sail gyfreithiol dros brosesu fy nata?
Ein sail gyfreithiol dros gasglu a phrosesu’r data personol hyn yw Erthygl 6(1)(e) o UK GDPR:
Mae’n angenrheidiol i gyflawni tasg gyhoeddus — sef gweithredu swyddogaeth gyhoeddus neu arfer pwerau a bennir yn y gyfraith, neu gyflawni tasg benodol er budd y cyhoedd sydd wedi’i nodi yn y gyfraith.
 phwy y caiff eich data eu rannu?
Data ymgeiswyr
Cystadleuaeth Tref Diwylliant y DU 2028 Rhennir holl ddata ymgeiswyr a gesglir yn ystod cystadleuaeth Tref Diwylliant y DU 2028 gan y DCMS â’r panel asesu (sy’n cynnwys aseswyr allanol arbenigol) er mwyn rhedeg y rhaglen hon.
Rhennir holl ddata ymgeiswyr a gesglir yn ystod cystadleuaeth Tref Diwylliant y DU 2028 gan y DCMS â’r panel asesu (sy’n cynnwys aseswyr allanol arbenigol) er mwyn rhedeg y rhaglen hon.
Efallai y bydd y DCMS hefyd yn rhannu data ag arfarnwr allanol at ddiben gwerthuso’r rhaglen hon.
Dim ond pan fo’n angenrheidiol i ni rannu’r data personol â’r panel a’r arfarnwyr ar gyfer eu gwaith, ac yn amodol ar fesurau diogelwch priodol, y byddwn ni’n gwneud hynny.
Gellir rhannu data personol ag asiantaethau atal twyll er mwyn atal twyll a gwyngalchu arian ac i wirio eich hunaniaeth.
Os canfyddir twyll, efallai y cewch eich gwrthod rhag cael rhai gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth.
Am faint o amser y bydd fy nata’n cael ei gadw?
- Ceisiadau llwyddiannus neu dderbynwyr grantiau: 7 mlynedd, i’w dileu erbyn mis Medi 2033
- Ceisiadau aflwyddiannus: 2 flynedd
A fydd fy nata yn cael eu defnyddio ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd neu broffilio?
Ni fyddwn yn defnyddio eich data ar gyfer unrhyw fath o benderfyniadau awtomataidd.
A fydd fy nata’n cael eu trosglwyddo y tu allan i’r DU?
Ni fyddwn yn anfon eich data dramor.
Beth yw eich hawliau diogelu data?
Mae gennych hawliau dros eich data personol o dan UK GDPR a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA 2018).
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn awdurdod goruchwylio ar gyfer deddfwriaeth diogelu data ac yn darparu esboniad llawn o’ch hawliau ar ei gwefan.
Bydd y DCMS yn sicrhau bod eich hawliau’n cael eu parchu wrth brosesu eich data.
Sut mae gwneud cwyn?
Rheolyddion Data: dcmsdataprotection@dcms.gov.uk
Swyddog Diogelu Data
Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
100 Parliament Street
Llundain
SW1A 2BQ
E-bost: dpo@dcms.gov.uk
Os ydych yn anfodlon â’r ffordd rydym wedi trin eich data personol, ysgrifennwch at Swyddog Diogelu Data neu Reolwr Diogelu Data’r Adran.
Sut i gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)
Os credwch fod eich data personol wedi’u camddefnyddio neu eu trin yn amhriodol, gallwch wneud cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n rheoleiddiwr annibynnol.
Gallwch hefyd gysylltu â nhw i gael cyngor annibynnol am ddiogelu data, preifatrwydd a rhannu data.
The Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Wefan: https://cy.ico.org.uk/ Ffôn: 0303 123 1113 E-bost: casework@ico.org.uk
Nid yw gwneud cwyn i’r ICO yn effeithio ar eich hawl i geisio iawndal drwy’r llysoedd.
Ar gyfer ymholiadau ehangach am y gystadleuaeth, cysylltwch â:
uktownofculture2028-competition@dcms.gov.uk
Newidiadau i’n hysbysiad preifatrwydd
Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn.
Yn yr achos hwnnw, bydd y dyddiad ‘diweddarwyd diwethaf’ ar waelod y dudalen hon yn newid hefyd.
Os bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y ffordd y caiff eich data personol eu prosesu, bydd y DCMS yn cymryd camau rhesymol i roi gwybod i chi.
Diweddarwyd diwethaf: 9 Ionawr 2026