Canllawiau

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Diweddarwyd 1 August 2022

Cyflwyniad

Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn cefnogi ymrwymiad ehangach Llywodraeth y DU i sicrhau ffyniant bro ym mhob rhan o’r DU. Mae’r Gronfa UKSPF yn Gronfa £2.6 Biliwn a gynlluniwyd i lwyddo a gwella ar gronfeydd strwythurol yr UE. Nid yw’r Gronfa UKSPF yn disodli cronfeydd strwythurol yr UE yn uniongyrchol. Mae’n gwella ar y cronfeydd hyn drwy:

  • Ganolbwyntio ar flaenoriaethau’r DU yn hytrach na pholisïau a bennir gan yr UE.
  • Rhoi mwy o lais i ardaloedd lleol o ran buddsoddiadau, trwy roi mwy o atebolrwydd uniongyrchol i arweinwyr lleol etholedig.

Bydd arian yn cael ei ddosbarthu i leoedd ar sail dyraniad cyllid am dair blynedd. Fel cronfa ddirprwyedig, bydd lleoedd wedi’u grymuso i adnabod ac adeiladu ar eu cryfderau a’u hanghenion eu hunain ar lefel leol, gan ganolbwyntio ar feithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd, a chyflawni hynny trwy dair blaenoriaeth fuddsoddi: cymunedau a lle, busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) yn amlinellu’r gofynion adrodd a’r gofynion cysylltiedig fel rhan o’r arweiniad ychwanegol, fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf. Ni fydd yr arweiniad ychwanegol yn cynnwys gwybodaeth a ddylai oedi datblygu cynlluniau buddsoddi mewn unrhyw ffordd, a bydd yno i gynnig eglurder yn unig.

Arweiniad Ychwanegol

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y Prosbectws yn ddigon i ddatblygu cynlluniau lleol i weinyddu’r gronfa, gan gynnwys penderfynu ar yr adnoddau staff/adnoddau eraill y gall fod eu hangen arnoch i reoli’ch dyraniad UKSPF yn llwyddiannus.

Ym mis Gorffennaf, byddwn yn cyhoeddi set gryno o wybodaeth yn pennu ein gofynion adrodd, gofynion brandio, diffiniadau o ddangosyddion a gwybodaeth ychwanegol am werthuso a sicrwydd. Byddwn hefyd yn darparu arweiniad pellach ar reoli cymorthdaliadau i gynorthwyo â dewis prosiectau. Nid yw’r wybodaeth hon yn ofynnol mewn unrhyw ffordd i gwmpasu eich cynlluniau buddsoddi, ond mae’n ategol i gynorthwyo awdurdodau lleol arweiniol i sefydlu systemau a phrosesau cyflawni.

Gwariant

1. Beth yw’r diffiniad o wariant?

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, bydd awdurdodau lleol arweiniol yn derbyn taliadau ymlaen llaw yn gynnar yn y flwyddyn ariannol (ac eithrio 2022-23 pan fydd y dyraniad yn cael ei dalu ar ôl cymeradwyo cynllun buddsoddi’r ardal). Bydd hyn yn amodol ar yr awdurdodau lleol arweiniol yn dangos yn eu cynlluniau buddsoddi ac adroddiadau perfformiad dilynol y bydd taliad blynyddol llawn yn cael ei wario yn y flwyddyn ac yn cael ei gyfrif yn y flwyddyn.

Yng Ngogledd Iwerddon, ein bwriad yw talu cyflawnwyr prosiect uniongyrchol ymlaen llaw, ar gylch chwe misol. Bydd hyn yn amodol ar fod buddsoddiad ac allbynnau’n cael eu cyflawni yn unol â chais cytûn a phroffil gwariant ac allbynnau pob ymyriad.

Mae ‘Gwariwyd a chyfrifwyd amdano’ yn cynnwys gwariant a anfonebwyd ac a dalwyd, yn ogystal â chroniadau, yn unol â safonau cyfrifyddu ariannol.

2. A fydd angen ad-dalu tanwariannau?

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, byddwn yn ystyried cadw’n ôl y rhandaliad blynyddol nesaf hyd nes ein bod wedi derbyn cynlluniau credadwy yn amlinellu sut bydd yr awdurdod lleol arweiniol yn defnyddio tanwariannau yn y flwyddyn nesaf a/neu hyd nes bod cerrig milltir priodol a gwariant wedi’u cyflawni ar gyfer y flwyddyn flaenorol.

Bydd angen i awdurdodau arweiniol lleol sefydlu dulliau rheoli rhaglenni priodol er mwyn hyrwyddo cyflawni effeithiol a chyflawni gwariant i’r proffil.

Yng Ngogledd Iwerddon, rydym yn cadw’r hawl hefyd i gadw’n ôl neu oedi taliad a newid cylchoedd talu lle ceir materion yn ymwneud â pherfformiad neu faterion eraill gyda chyflawni.

Os oes gennym bryderon parhaus ynglŷn â chynlluniau gwario’r dyfodol ar sail profiad i gyflawni’n lleol hyd yma, yna gallwn dalu mewn rhandaliadau ar sail perfformiad, neu fel arall oedi dyraniadau’r dyfodol neu eu cadw’n ôl.

Ni fydd unrhyw gyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer gweithgarwch ar ôl 31 Mawrth 2025 a byddwn yn disgwyl i danwariannau ym mlwyddyn olaf y rhaglen (2024/25) gael eu had-dalu i’r DLUHC.

Fel y dywedwyd yn y Prosbectws, gall gwariant gael ei ôl-ddyddio hefyd i 1 Ebrill 2022.

Blaenoriaethau Buddsoddi

3. A yw cynigion yn ofynnol ar draws pob un o’r 3 blaenoriaeth fuddsoddi?

Nac ydyn, dylai Awdurdodau Lleol weithio gyda phartneriaid lleol i benderfynu ar y cymysgedd gorau i fodloni anghenion a chyfleoedd lleol. Gallai hyn fod drwy fuddsoddi mewn un neu fwy o flaenoriaethau buddsoddi.

4. A oes unrhyw ddisgwyliad bod cyfalaf yn cael ei wario yn erbyn blaenoriaeth benodol?

Nac oes, fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod gwariant cyfalaf yn cydweddu’n well â rhai ymyriadau nag eraill.

5. Pa dystiolaeth a ddisgwylir i gyfiawnhau ein dewis o ran dosbarthu cyllid ar draws y blaenoriaethau?

Yn y cynllun buddsoddi, mae cyfle i amlinellu eich heriau a chyfleoedd lleol ar lefel uchel fel eich sail resymegol ar gyfer dosbarthu’r cyllid rydych wedi’i ddewis. Byddem yn disgwyl bod hyn yn gyson â’r ymyriadau yr ydych wedyn yn dymuno’u Hariannu drwy’r Gronfa UKSPF. Disgwylir sail resymegol ychwanegol ar gyfer ymyriadau pwrpasol. Yn unol â dyletswyddau statudol adran 151, dylai’r gwariant arfaethedig fod yn unol ag egwyddorion gwerth am arian. Ni fyddwn yn gofyn am achosion busnes llawn yn y cynlluniau buddsoddi.

6. [PENODOL I LOEGR] Os nad yw cyllid ar gyfer Pobl a Sgiliau ar gael hyd nes 24/25, a fydd angen cwblhau’r ymyriadau o dan y Flaenoriaeth Fuddsoddi hon ym mlwyddyn 1, gyda chyllid wedi’i wario erbyn 25 Mawrth?

Bydd, mae’r hyblygrwydd gan awdurdodau lleol arweiniol i ariannu darpariaeth pobl a sgiliau dargedig yn 2022-23 a 2023-24 lle mae hon yn flaenoriaeth barhaus ar gyfer 2024-25, a gallai fod dan risg sylweddol o ddod i ben yn sgil gostyngiad yng nghronfeydd yr UE. Gellir ond defnyddio’r hyblygrwydd hwn lle mae darpariaeth yn cael ei chyflwyno ar hyn o bryd gan sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, gan roi ystyriaeth i ffocws y Gronfa a chyllid sydd ar gael lle maent yn bodloni ystyriaethau’r sector gwirfoddol yma https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-interventions-outputs-and-indicators.

Ym mlwyddyn tri, pan fydd y Gronfa wedi codi hyd at £1.5bn y flwyddyn, bydd awdurdodau lleol yn Lloegr yn gallu dewis o ystod lawn o fuddsoddiadau pobl a sgiliau i fodloni anghenion a chyfleoedd lleol. Dylai’r holl ymyriadau ddod i ben erbyn mis Mawrth 2025, neu gynnwys cymal terfynu yn galluogi dod â nhw i ben erbyn Mawrth 2025 os bydd angen (er enghraifft, cyllid adnewyddadwy blynyddol).

Dyraniadau a Chwantwm

7. Beth a ddiffinnir fel gweinyddu? Sut bydd y 4% ar gyfer gweinyddu yn gweithio?

Bydd pob awdurdod lleol arweiniol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn gallu defnyddio hyd at 4% o’u dyraniad yn ddiofyn i ymgymryd â gweinyddu angenrheidiol y Gronfa, fel asesu prosiectau, contractio, monitro a gwerthuso ac ymgysylltiad parhaus â rhanddeiliaid.

Gall fod angen cyllideb weinyddu fwy i sefydlu’r Gronfa yn y flwyddyn gyntaf nag mewn blynyddoedd diweddarach. Mae hyn yn dderbyniol ar yr amod nad eir dros y ganran yn gyffredinol.

Hefyd, gall Lleoedd ddefnyddio’r cyllid rydym wedi’i gyhoeddi ar gyfer datblygu cynlluniau buddsoddi i gefnogi rheoli a gweinyddu yn y flwyddyn gyntaf, yn enwedig sefydlu grwpiau cynghori newydd, ac ymgysylltu â phartneriaid.

8. Mae’r Prosbectws yn dweud y dylai’r gyfran sy’n cael ei gwario ar gyfalaf fod yn 10%, yn codi i 20% erbyn blwyddyn 3. Ai cyfran sefydlog neu gyfran leiaf yw honno?

Cyfran leiaf o wariant yw hwn. Dylai Lleoedd amlinellu’u dewis o gymysgedd cyllid cyfalaf a refeniw yn eu cynllun buddsoddi, yn ddarostyngedig i’r gyfran leiaf a chan ystyried anghenion a chyfleoedd lleol.

9. Ble gall awdurdodau lleol ddod o hyd i’r dyraniadau lleol?

Mae’r dyraniadau ar gael i awdurdodau arweiniol drwy’r porth cynlluniau buddsoddi. Mae’r sgrinlun isod yn dangos lle gall y taenlenni gael eu lleoli ar y porth hwnnw

10. A yw’r dyraniadau’n cael eu gosod fesul awdurdod lleol, fel y cyhoeddwyd, neu a all rhanbarth gyfuno’r holl gronfeydd ariannol ar gyfer y rhanbarth cyfan a’i reoli fel cyfanswm cronfa?

Yn Lloegr, rydym yn disgwyl i ardaloedd gyflwyno cynllun buddsoddi fesul awdurdod lleol unigol, oni bai ei fod yn rhan o ddaearyddiaeth strategol gytûn wedi’i phennu yn y Prosbectws, e.e. Awdurdodau Cyfunol Maerol. Fodd bynnag rydym yn annog cydweithredu’n gryf wrth gyflawni ymyriadau i fynd i’r afael â blaenoriaethau lleol a rhanbarthol, yn enwedig wrth gyflawni ymyriadau busnes lleol ac ymyriadau pobl a sgiliau.

Yng Nghymru a’r Alban, lle mae ardaloedd wedi cytuno i weithio’n rhanbarthol, byddai’r hyblygrwydd gan awdurdodau arweiniol i lunio cynllun ar lefel ranbarthol a dyrannu cyllid o fewn y grŵp rhanbarthol hwnnw. Ar ôl i’r cyllid gael ei dalu, awdurdodau lleol a’r awdurdod arweiniol yn y rhanbarth sydd i reoli’r berthynas.

11. [Gogledd Iwerddon] Sut bydd y 4% ar gyfer gweinyddu yn gweithio yng Ngogledd Iwerddon?

Bydd y cyllid yn cael ei weinyddu gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yng Ngogledd Iwerddon. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid Gogledd Iwerddon i gytuno cynllun buddsoddi, gan gynnwys amlinellu sut bydd cyllid gweinyddol yn cael ei ddefnyddio yn y modd gorau posibl.

Cynlluniau Buddsoddi

12. A yw awdurdodau lleol arweiniol yn gallu siarad â’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ynglŷn â’r oedi y mae etholiadau lleol wedi’u hachosi ar ddatblygu’r cynllun buddsoddi yn barod ar gyfer 1 Awst?

Dylai awdurdodau lleol arweiniol sydd wedi dioddef oedi anrhagweledig o ganlyniad i etholiadau lleol neu fater gweithdrefnol tebyg a fydd yn effeithio ar fodloni’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ar 1 Awst 2022, gysylltu â’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn ukspfenquiries@levellingup.gov.uk gan anfon copi at eu Harweinydd Ardal. Dylai awdurdodau lleol ystyried yr effaith ar gyflawni yn sgil cyflwyno’u cynllun buddsoddi ar ôl oedi cyn gwneud cais am estyniad. Byddwn yn ystyried estyniadau byr, lle y bo’n briodol.

13. A fydd awdurdodau lleol wedi ymrwymo i’r allbynnau a’r deilliannau dangosol a gynhwyswyd yn y Cynllun Buddsoddi?

Yn y cynllun buddsoddi, rydym yn disgwyl gweld uchelgeisiau lefel uchel lle mae lleoedd yn nodi’r deilliannau y maen nhw’n dymuno’u targedu yn seiliedig ar y cyd-destun lleol, a’r ymyriadau y maent yn dymuno rhoi blaenoriaeth iddynt. Rydym yn disgwyl gweithio gydag ardaloedd i fireinio’r uchelgeisiau lefel uchel hyn wrth i’r rhaglen fynd rhagddi. Yn unol ag ethos y cynllun, bydd DLUHC yn lleihau biwrocratiaeth ac yn helpu lleoedd i wneud dewisiadau pragmatig ac addasu uchelgeisiau, lle bo’n angenrheidiol, er mwyn hyrwyddo’r effaith i’r eithaf.

Rydym yn cydnabod y gall rhai blaenoriaethau newid ar ôl cymeradwyo’r cynllun buddsoddi a byddwn yn gweithio gyda’r awdurdod lleol arweiniol os bydd angen gwneud unrhyw newidiadau i’r cynllun buddsoddi.

Mae’n bwysig nodi mai gofyn am gynlluniau a deilliannau lefel uchel, wedi eu selio ar gyd-destun lleol yr ydym yn ei wneud. Nid yw’r cynllun buddsoddi yn ddogfen drylwyr sy’n cynnwys cynlluniau prosiectau neu ymyriadau manwl.

14. A ellir defnyddio cronfeydd i gynnal rhaglenni presennol?

Gellir, gall y Gronfa gefnogi buddsoddi mewn ymyriadau sy’n dechrau o 1 Ebrill 2022, gan alluogi gwario ôl-weithredol lle maent yn cydweddu â’r pecyn cymorth ymyriadau perthnasol a holl ofynion y Gronfa a bennwyd yn y Prosbectws. Dylai awdurdodau lleol arweiniol nodi y bydd unrhyw ymyriadau o’r fath dan risg cyn cymeradwyo cynlluniau buddsoddi lleol.

15. Sut bydd amseriad cyflwyno’r cynllun buddsoddi yn effeithio ar asesu?

Rydym yn cydnabod y bydd ardaloedd eisiau i gynlluniau buddsoddi gael eu cymeradwyo fel y gallant dderbyn cyllid yn brydlon. Rydym yn disgwyl i daliadau’r flwyddyn gyntaf gael eu gwneud i awdurdodau lleol arweiniol o fis Hydref 2022 ymlaen, ar ôl asesu a chymeradwyo cynlluniau buddsoddi. Gall Lleoedd barhau i ariannu blaenoriaethau ar gyfer 2022/23 o 1 Ebrill 2022 ac ôl-ddyddio hwn pan fydd cyllid wedi’i dalu yn yr Hydref. Rydym yn annog ardaloedd lleol i gyflwyno’u cynlluniau buddsoddi cyn gynted â’u bod yn barod, er mwyn ymgorffori amser rhag ofn y bydd angen unrhyw wybodaeth bellach.

16. A oes disgwyl i awdurdodau lleol fod â phrosiectau wedi’u diffinio’n llawn yn eu cynlluniau buddsoddi?

Nac oes, nid oes disgwyl manylion am brosiectau yn y cam cynlluniau buddsoddi. Rydym yn gofyn i leoedd amlinellu beth hoffent ei gyflawni ar y lefel ymyriad a sut byddant yn dod â phrosiectau yn eu blaenau. Ni fydd lleoedd dan anfantais os nad ydynt yn cynnwys manylion ar lefel prosiectau yn y cynllun buddsoddi.

Fodd bynnag, os yw prosiectau eisoes wedi’u nodi y gallai lleoedd fod eisiau eu Hariannu gyda’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, anogwn lleoedd yn gryf i gynnwys hyn yn eu cynllun buddsoddi, ond rydym yn cydnabod nad yw’r wybodaeth hon gan leoedd eto, efallai. Bydd disgwyl bod gwybodaeth fanylach yn cael ei darparu yn ystod rheoli perfformiad y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

17. A oes angen i awdurdodau lleol arweiniol ddarparu manylion ar gyfer yr holl ymyriadau ar draws 3 blynedd?

Yn y cynllun buddsoddi, rydym yn disgwyl gweld uchelgeisiau lefel uchel lle mae lleoedd yn nodi’r deilliannau y maent yn dymuno eu targedu yn seiliedig ar gyd-destun lleol, a’r ymyriadau y maent yn dymuno’u blaenoriaethu, o dan bob blaenoriaeth fuddsoddi, o’r ddewislen o opsiynau. Dylai’r rhain gael eu cysylltu’n glir â chyfleoedd a heriau lleol. Ar ôl cymeradwyo’r cynllun buddsoddi, byddem yn disgwyl i ardaloedd fireinio’r uchelgeisiau lefel uchel hyn, gyda hyblygrwydd wrth i awdurdodau lleol ddechrau cyflawni a dewis prosiectau y maent yn dymuno’u cefnogi.

18. Sut bydd talu yn gweithio?

Byddwn yn talu pob awdurdod lleol arweiniol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn flynyddol ymlaen llaw. Yn 2022-23, bydd cyllid yn cael ei dalu pan fydd y cynllun buddsoddi lleol wedi’i gymeradwyo. Yn 2023-24 a 2024-25, byddwn yn talu tuag at ddechrau’r flwyddyn ariannol, gan ystyried perfformiad yn y flwyddyn flaenorol.

19. A oes terfynau geiriau yng nghwestiynau’r Cynllun Buddsoddi?

Nac oes, er y byddem yn annog cwestiynau cryno sy’n cynnwys gwybodaeth berthnasol yn unig.

20. [CYMRU A’R ALBAN YN UNIG] A all cynllun buddsoddi nodi blaenoriaethau gwahanol mewn awdurdodau lleol gwahanol, neu ai blaenoriaethau rhanbarthol yn unig a ganiateir?

Byddem yn disgwyl gweld cynllun rhanbarthol, fodd bynnag, gall hwn ystyried amrywiadau ar lefel leol neu flaenoriaethau lleol mwy penodol sydd wedi’u nodi. Rydym yn cydnabod y bydd blaenoriaethau’n amrywio ar draws rhanbarthau, ac nid oes rhaid i’r un blaenoriaethau gael eu hariannu ar draws y rhanbarth cyfan.

21. [CYMRU A’R ALBAN YN UNIG] Lle mae gweithio rhanbarthol yn cael ei sefydlu o hyd, a oes cyfle i awdurdodau unigol gyflwyno cynllun buddsoddi cychwynnol gyda bwriad i symud at ymagwedd ranbarthol yn ddiweddarach?

Bydd disgwyl i ardaloedd gyflwyno un cynllun buddsoddi ar gyfer y 3 blynedd; mae hyn yn golygu y bydd rhaid i leoedd ymrwymo i ymagwedd ranbarthol yn ystod cam y cynllun buddsoddi. Fodd bynnag, rydym yn croesawu ymagwedd ranbarthol i gyflawni’r blaenoriaethau hynny lle bo’n briodol.

22. [GOGLEDD IWERDDON YN UNIG] Pwy fydd yn ysgrifennu Cynllun Buddsoddi Gogledd Iwerddon?

Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau fydd yn rheoli cyflawni yng Ngogledd Iwerddon, gan gydnabod y rôl nodedig a gwahanol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae yno.

Bydd Llywodraeth y DU yn ymgymryd â rôl yn cynnull partneriaid ar hyd Gogledd Iwerddon i ddatblygu Cynllun Buddsoddi’r Gronfa UKSPF. Byddwn yn mireinio’r cynllun mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid mewn ffordd sy’n adlewyrchu anghenion economi a chymdeithas Gogledd Iwerddon. Gallai’r grŵp hwn gynnwys cynrychiolwyr o Adrannau Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, awdurdodau lleol, busnesau a’r gymuned a’r sector gwirfoddol.

Ymgysylltu

23. Sut dylai awdurdodau arweiniol ymgysylltu ag Aelodau Seneddol ar gyfer Cronfa UKSPF?

Rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol arweiniol ddangos eu bod wedi mynd ati i estyn allan i ASau. Dylent ddarparu cyngor i awdurdodau lleol arweiniol, gan adolygu’r cynllun gweithredu cyn ei gyflwyno i Lywodraeth y DU i’w gymeradwyo. Bydd angen i bob cynllun nodi manylion yr ASau sy’n ymwneud â’r grŵp partneriaeth lleol (neu sydd fel arall yn ymgysylltu ag adolygu’r cynllun) a ph’un a yw pob un yn gefnogol i’r cynllun terfynol a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU i’w ystyried.

Mae angen i’r cynllun buddsoddi ddangos consensws lleol i’r cynllun drwy’r grŵp partneriaeth. Os nad ydyw, mae gweinidogion yn cadw’r hawl i ohirio cymeradwyo’r cynllun hyd nes y sicrheir consensws eang. Ni fyddai methiant un neu fwy o ASau i gytuno yn atal ystyriaeth o’r cynllun buddsoddi.

Mae awdurdodau lleol arweiniol yn cael eu hannog hefyd i ymgysylltu’n rhagweithiol ac yn adeiladol gydag ASau o bryd i’w gilydd, ar ôl cymeradwyo’r cynllun buddsoddi – gan gynnwys drwy adolygiadau rheolaidd a chyfarfodydd y grŵp partneriaeth yn ei gam cyflawni.

24. Pryd bydd angen sefydlu’r grŵp partneriaeth lleol?

Dylai lleoedd sefydlu neu ddynodi grŵp partneriaeth lleol i ymgynghori ag ef wrth ddatblygu’u cynllun buddsoddi. Mae mynediad i fewnwelediad ac arbenigedd lleol yn hanfodol er mwyn i bob lle adnabod a mynd i’r afael ag angen a chyfle, ac ymateb gyda’r atebion cywir ar gyfer bob lle.

Bydd partneriaethau lleol cynhwysfawr a chytbwys yn elfen graidd o’r modd y caiff y Gronfa ei gweinyddu’n lleol, a bydd yn ffurfio rhan hanfodol o fonitro ac adrodd ar gyfer y Gronfa dros gyfnod 3 blynedd y gronfa. Byddwn yn ystyried ymgysylltu o fewn y broses asesu.

25. [Penodol i Ogledd Iwerddon] Sut bydd y panel rhanddeiliaid yn cael ei benderfynu?

Bydd y Grŵp Partneriaeth lleol yn cael ei gynnull gan Lywodraeth y DU mewn cydweithrediad â phartneriaid Gogledd Iwerddon.

Bydd ei aelodaeth yn cael ei adolygu ar ddiwedd proses y cynllun buddsoddi, wrth i’r Gronfa symud i’w cham cyflawni.

26. [Penodol i Ogledd Iwerddon] Mae’r Prosbectws yn cyfeirio at rôl benodol i Lywodraeth Leol - allwch chi ehangu ar hyn?

Rydym yn disgwyl y bydd awdurdodau lleol yn cael eu cynrychioli ar y Grŵp Partneriaeth, yn darparu mewnwelediad a gwybodaeth leol bwysig i ddatblygu Cynllun Buddsoddi Gogledd Iwerddon. Ar ôl datblygu’r cynllun, bydd awdurdodau lleol yn chwarae rhan bwysig hefyd i gyflenwi’r gronfa.

Arian Cyfatebol a Pherthynas â Chronfeydd Eraill

27. A oes gofyniad am arian cyfatebol?

Er nad yw arian cyfatebol yn ofynnol ac na fydd yn ffurfio rhan o feini prawf asesu’r cynlluniau buddsoddi, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, anogir yr holl awdurdodau lleol arweiniol yn gryf i ystyried arian cyfatebol gan y sectorau preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector ac opsiynau trosoledd wrth ddewis ymyriadau cymunedau a lle, a chynorthwyo busnesau lleol i’w hariannu. Bydd hyn yn hyrwyddo gwerth am arian ac effaith y Gronfa.

28. A oes unrhyw eithriadau i arian cyfatebol?

Nac oes.

29. Gan na fydd awdurdodau lleol yn gwybod canlyniad cynigion y Gronfa Ffyniant Bro cyn cyflwyno’r cynllun buddsoddi, a ellir diwygio’r cynllun buddsoddi os nad yw cynigion y Gronfa Ffyniant Bro yn llwyddiannus?

Rydym yn cydnabod y bydd unrhyw ymyriadau’r Gronfa UKSPF sy’n ddibynnol ar sicrhau cymorth y Gronfa Ffyniant Bro yn ddangosol hyd nes y caiff y cyllid hwn ei sicrhau. Byddem yn cynghori lleoedd i ddatblygu cynigion y gellir eu hehangu’n gyflym a/neu gynigion amgen i’w cynnwys yng nghynlluniau buddsoddi’r Gronfa UKSPF os nad yw prosiectau’r Gronfa Ffyniant Bro yn llwyddiannus.

Multiply yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon

30. Sut bydd cyllid Multiply yn cael ei dalu?

Bydd awdurdodau lleol arweiniol yn yr Alban a Chymru yn derbyn dyraniad Multiply fel rhan o’u taliad blynyddol, a byddwn yn monitro hwn fel rhan o’r adrodd.

Disgwyliwn y bydd buddsoddiadau ac allbynnau’r Gronfa yn cael eu cyflawni yn unol â chynllun buddsoddi pob lle, yn brydlon ac o fewn y flwyddyn. Rydym yn cadw’r hawl i gadw’n ôl neu oedi taliad a newid cylchoedd taliadau o 2023-24 ymlaen lle ceir materion yn ymwneud â pherfformiad neu faterion eraill gyda chyflawni.
Mae’n fwriad gennym i gefnogi cyflawniad a bwriadwn dalu cyflawnwyr prosiectau uniongyrchol (gan gynnwys cyflawnwyr Multiply) yng Ngogledd Iwerddon ymlaen llaw, ar gylch chwe misol. Gellir talu hwn drwy gytundeb cyllid grant neu ddull amgen a gytunwyd, gan ddibynnu ar nifer o ffactorau, yn cynnwys statws y corff cyflawni. Caiff hyn ei arwain gan y cynllun buddsoddi cytûn ar gyfer Gogledd Iwerddon. Bydd pob cyflawnwr prosiect yn derbyn datganiad clir o ofynion a rhwymedigaethau’r Gronfa.

31. A fydd y llwyfan rhifedd oedolion ar-lein cenedlaethol Multiply yn ddwyieithog?

Bydd y llwyfan Multiply ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

32. A oes terfyn oedran is ar gyfer pobl sy’n dymuno defnyddio darpariaeth Multiply?

Rhaid i ddysgwyr Multiply fod yn 19 oed neu’n hŷn ar 31 Awst yn y flwyddyn ariannu a heb gymhwyster mathemateg L2. Gellir targedu gweithgarwch pobl a sgiliau ehangach at y rhai o dan 19 oed.

33. A yw’r llwyfan digidol Multiply ar gael i’w ddefnyddio ledled y DU?

Yn ychwanegol at ddarparu cyllid i ardaloedd lleol i gyflawni atebion arloesol i gynyddu lefelau rhifedd oedolion, bydd yr Adran Addysg yn lansio llwyfan digidol cenedlaethol y DU-gyfan nes ymlaen yn 2022. Bydd hwn yn rhoi’r gallu i bobl ddysgu yn eu lle eu hunain (gan gynnwys yn y gwaith, neu gartref), ac ar eu cyflymder eu hunain. Drwy’r llwyfan, gobeithiwn weld pobl yn cofrestru i gael tiwtorialau am ddim ar-lein wedi’u personoli, er mwyn eu helpu i feithrin eu hyder a chymryd y camau tuag at gymhwyster mathemateg. Bwriadwn hefyd gyfeirio pobl at gyrsiau Multiply mewn ardaloedd lleol a byddem yn croesawu eich cefnogaeth i sicrhau hyn.

Mae ateb interim ar gael nawr, yn cynnwys tudalen we gwybodaeth am Multiply, sy’n cyfeirio at ddarpariaeth fathemateg bresennol drwy’r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol a llwyfannau tebyg yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Lansiwyd cwis ar-lein newydd ym mis Mai i gyda’r bwriad o gael oedolion i feddwl am eu sgiliau rhifedd a chymryd camau i’w hybu. Mae’r cwis byr yn gofyn 6 chwestiwn sy’n amrywio o ran anhawster, i gael oedolion i feddwl am p’un a oes angen helpu arnyn nhw, ac mae’n cyfeirio pobl at ble gallant gael cefnogaeth i wella sgiliau mathemateg a rhifedd, gan gynnwys cyrsiau mathemateg wedi’u hariannu’n llawn hyd at lefel TGAU.

34. A ellir defnyddio cyllid Multiply i Ariannu ymyriadau ‘sgiliau cyflogadwyedd’ ehangach sy’n cynnwys meithrin hyder a sgiliau gwaith ochr yn ochr â mathemateg, a sgiliau craidd eraill?

Nid oes angen i ddarpariaeth a ariennir gan Multiply ganolbwyntio ar rifedd, nac ar bynciau, na sgiliau eraill. Yn y ddewislen genedlaethol o ymyriadau, mae ymyriad (j) yn canolbwyntio ar ymgorffori modiwlau mathemateg ychwanegol mewn cyrsiau galwedigaethol eraill. Rydym yn gwybod bod oedolion yn dysgu orau pan fyddant yn gallu gweld eu dysgu’n cael ei gymhwyso’n ymarferol - er enghraifft, cymarebau ar gyfer cymysgu paent, neu asesu onglau to, neu gyfrifo nifer y briciau sydd eu hangen. Dyna pam yr hoffem weld dysgu rhifedd yn cael ei gynnwys mewn cyrsiau galwedigaethol hefyd, fel bod pobl yn gallu adeiladu’u sgiliau ar yr un pryd.

35. Ai blynyddoedd ariannol yw UKSPF ac ai blynyddoedd academaidd yw Multiply?

Mae Multiply ac UKSPF yn flynyddoedd ariannol.

36. Sut mae Ofsted yn cydweddu â Multiply? A oes rhaid i’r cyflwyno fod yn gyson ag Ofsted?

Rydym wrthi’n trafod gydag Ofsted ynglŷn ag arolygu’r ddarpariaeth hon a byddwn yn darparu gwybodaeth bellach am hyn maes o law. Rydym yn annog Awdurdodau Lleol Cymru a’r Alban i weithio gyda’r cyrff perthnasol wrth ddatblygu’u cynlluniau ar gyfer Multiply, i weld a goruchwyliaeth ganddynt yn ofynnol.

Cyflawni

37. Sut dylai awdurdodau lleol wario’r £20,000 o gyllid paratoadol, a fydd angen i ni ddangos tystiolaeth o hyn mewn unrhyw ffordd?

Rydym yn darparu £20,000 ychwanegol ar gael fesul awdurdod lleol arweiniol, neu £40,000 ar gyfer bob Awdurdod Cyfunol Maerol ac Awdurdod Llundain Fwyaf yn Lloegr, a daearyddiaethau strategol yn yr Alban a Chymru, i ymgymryd â gwaith paratoadol cychwynnol ar gyfer y Gronfa, gan gynnwys datblygu’u cynllun buddsoddi lleol i’w gyflwyno yn yr haf.

Awdurdodau lleol sydd i benderfynu ar y ffordd orau i ddefnyddio’r cyllid hwn. Caiff ei dalu fel cyfandaliad sefydlog, ac ni fydd yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu tystiolaeth o’r modd y mae’r cyllid hwn wedi’i ddefnyddio. Fodd bynnag, byddwn yn gofyn i awdurdodau lleol adrodd am sut y gwariwyd yr arian fel rhan o ddatganiadau chwe misol. Gall unrhyw gyllid paratoadol na wariwyd gael ei ddefnyddio i gynorthwyo â gweinyddu’r gronfa.

38. A ddylai awdurdodau lleol ddylunio’u ffurflenni cais eu hunain ar gyfer prosiectau? Os felly, pa wybodaeth mae angen iddyn nhw ei nodi?

Dylen, dylai awdurdodau lleol arweiniol ddylunio’u ffurflenni cais eu hunain. Dylai awdurdodau lleol arweiniol bennu lefel gywir y wybodaeth ar gyfer eu ffurflenni, gan ystyried amgylchiadau lleol, rhwymedigaethau cyfreithiol, gofynion y Gronfa, a Safon Swyddogaethol Grantiau’r Llywodraeth.

Bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi’r prosesau cais a thempledi ar gyfer Gogledd Iwerddon nes ymlaen eleni.

39. A oes unrhyw arweiniad ar sut dylai ‘cystadlaethau’ gael eu cynnal?

Gellir cael arweiniad pellach ar gystadlaethau am gyllid grant yma (PDF, 282KB).

40. [LLOEGR YN UNIG] A all awdurdodau lleol gontractio Partneriaethau Cyflogaeth Lleol (LEPs) i gynnal ymgysylltiad y Bartneriaeth leol ar draws amryfal ardaloedd cyfagos i osgoi dyblygu?

Yr awdurdodau lleol arweiniol sydd i benderfynu sut i reoli ymgysylltiad y Bartneriaeth leol, gan gynnwys pa gyrff a ddefnyddir ar gyfer y tasgau hyn. Gall y cyllid paratoadol gael ei ddefnyddio ar gyfer adnoddau mewnol neu allanol, fel y bo’n briodol. Gall lleoedd gontractio cyflawniad/talu cyrff allanol (a allai gynnwys Partneriaethau Cyflogaeth Lleol).

41. [YR ALBAN A CHYMRU’N UNIG] A oes rhaid i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau gytuno i’r ddaearyddiaeth cyn bod yr ALl yn paratoi/cyflwyno ei gynllun buddsoddi?

Lleoedd sydd i benderfynu ar y daearyddiaethau. Yn yr Alban, rydym yn cefnogi cyflawni drwy Bartneriaethau Economaidd lle mae ardaloedd lleol yn dewis hyn. Yng Nghymru, rydym yn cefnogi cyflawni ar draws y pedair daearyddiaeth strategol rhanbarthol sy’n cyd-ffinio ag ardaloedd Bargeinion Dinesig a Thwf.

42. [GOGLEDD IWERDDON] Mae’r Prosbectws yn nodi y gellir gwneud taliadau dan risg gan awdurdodau arweiniol Prydain sy’n weithredol o ddechrau’r flwyddyn ariannol, a ellir gwneud hyn yma hefyd?

Fel rhan o ddatblygu Cynllun Buddsoddi Gogledd Iwerddon, bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda phartneriaid Gogledd Iwerddon i nodi ffocws cynnar ar gyfer buddsoddi. Gallai hyn gynnwys estyniadau i ymyriadau sydd eisoes yn gweithredu lle mae hyn yn bodloni anghenion a chyfleoedd ac mai dyma yw’r llwybr cyflawni mwyaf priodol.

43. [GOGLEDD IWERDDON] Beth fydd eich ymagwedd at gymorth gwladwriaethol?

Byddwn yn mynnu bod pob cais prosiect yn amlinellu sut gellir ei gyflawni yn unol â chymorth gwladwriaethol a rheoli cymorthdaliadau. Bydd yr union drefniadau wedi’u hamlinellu ar y ffurflen gais ar broses ymgeisio, y byddwn yn ei chyhoeddi yn ddiweddarach yn yr haf.

44. [GOGLEDD IWERDDON] Pryd ydych chi’n meddwl y bydd y ffenestr ymgeisio i wneud cais am gyllid yn dechrau?

Fel rhan o ddatblygu Cynllun Buddsoddi Gogledd Iwerddon, bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda phartneriaid Gogledd Iwerddon i nodi’r amser priodol i ofyn am geisiadau yn ddiweddarach eleni, yn ogystal â nodi ffocws cynnar ar gyfer buddsoddi.

45. [GOGLEDD IWERDDON] A fydd galwad am gyflwyniadau prosiect?

Bydd – disgwyliwn alw am geisiadau prosiect i gyflawni Cynllun Buddsoddi Gogledd Iwerddon. Byddwn hefyd yn ystyried comisiynu, lle y bo’n briodol.

Amseriadau a Chamau Nesaf

46. A yw’r arweiniad ychwanegol yn ofynnol i gwblhau’r cynllun buddsoddi?

Bydd arweiniad ychwanegol yn cael ei gyhoeddi yn yr haf cyn y dyddiad cyflwyno ar 1 Awst. Gellir cael rhagor o fanylion ar ddechrau’r ddogfen hon, ond mae’r wybodaeth a ddarparwyd eisoes yn ddigon i ddatblygu cynlluniau lleol i weinyddu’r gronfa.

47. Sut bydd monitro’n gweithio?

Bydd y cerrig milltir, disgwyliadau a graddfeydd amser yn cael eu hamlinellu yn yr ‘Arweiniad Ychwanegol’ a’u cytuno drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda phob awdurdod lleol arweiniol. Bydd cais am adroddiad ffurfiol bob chwe mis, a bydd yn ofynnol rhoi diweddariadau ansoddol yn fwy mynych hefyd.

Gan ddibynnu ar amseriadau’r taliad cyntaf, ar gyfer yr ail daliad blynyddo,l efallai y gofynnir i awdurdodau lleol arweiniol gyflwyno adroddiad yn gynharach na chwe mis ar ôl cyflwyno’r adroddiad cyntaf.

48. Pryd bydd cynlluniau buddsoddi’n cael eu cymeradwyo a phryd y gwneir taliadau?

Y dyddiad ar gyfer cyflwyno eich cynllun buddsoddi yw 1 Awst. Byddwn yn eu hasesu wedyn a bydd y taliad ar gyfer 22/23 yn cael ei wneud pan fydd eich cynllun wedi’i asesu a’i gymeradwyo.