Guidance

Rhestr o ymyriadau ar gyfer Cymru

Published 13 April 2022

Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i lywio’r cyfuniad mwyaf priodol o ymyriadau ar gyfer Cymru. Mae’r ymgysylltu hwn wedi llywio’r rhestr ymyriadau ar gyfer pob un o dair blaenoriaeth fuddsoddi’r UKSPF, sydd wedi eu hamlinellu isod.

Anogir lleoedd i adolygu’r ymyriadau a nodi gweithgareddau a fyddai’n cefnogi amcanion UKSPF yn eu hardal, gan gynnwys unrhyw ymyriadau fyddai’n cael eu cyflawni orau ar raddfa fwy gyda lleoedd eraill, neu’n fwy lleol. Pan fydd cyflawni daearyddol mwy yn fwy priodol, rydym yn annog yn gryf y dylid cyflawni ymyriadau ar y raddfa hon. Dylai lleoedd hefyd ystyried sut y gellir addasu gweithredu’r ymyriadau a ddewison nhw i weddu i nodweddion lleol, gan adlewyrchu’r cyfleoedd a’r heriau unigryw y mae cymunedau gwledig, trefol a’r cymoedd yn eu hwynebu.

Mae ein hymgysylltu â phartneriaid yng Nghymru hefyd wedi’i gwneud yn glir y dylai ardaloedd lleol ystyried eu cynlluniau buddsoddi UKSPF gan roi ystyriaeth briodol i’r Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru. Wrth ddewis ymyriadau a dewis eu cynlluniau UKSPF, anogir lleoedd yn gryf i ystyried alnio â strategaethau a gwasanaethau Llywodraeth Cymru. Hefyd, dylai ardaloedd ddatblygu eu cynlluniau i uchafu alinio a chyfatebolrwydd â pholisi cenedlaethol a lleol, a’u fframweithiau economaidd rhanbarthol.

1. Cymunedau a lle

Amcanion:

  • Cryfhau ein gwead cymdeithasol a meithrin ymdeimlad o falchder lleol a pherthyn, trwy fuddsoddi mewn gweithgareddau sy’n gwella cysylltiadau ac amwynderau corfforol, diwylliannol a chymdeithasol, fel seilwaith cymunedol a man gwyrdd lleol, a phrosiectau dan arweiniad y gymuned.
  • Creu cymdogaethau gwydn a diogel, trwy fuddsoddi mewn lleoedd o ansawdd da y mae pobl eisiau byw, gweithio, chwarae a dysgu ynddynt, trwy welliannau targedig i’r amgylchedd adeiledig a dulliau arloesol ar gyfer atal troseddau.

Ymyriadau

  • Cyllid ar gyfer gwelliannau i ganol trefi a strydoedd mawr, gan gynnwys hygyrchedd gwell ar gyfer pobl anabl, yn cynnwys gwariant cyfalaf a chostau rhedeg.
  • Cyllid ar gyfer prosiectau seilwaith cymunedau a chymdogaethau newydd, neu welliannau i rai sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys y rheiny sy’n cynyddu gwydnwch cymunedau i beryglon naturiol, fel llifogydd, a buddsoddi mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy a rheoli gwastraff a berchnogir yn lleol i wella’r pontio i fywyd sy’n isel o ran carbon. Gallai hyn gwmpasu gwariant cyfalaf a chostau rhedeg.
  • Creu a gwella mannau gwyrdd, gerddi cymunedol, cyrsiau dŵr ac argloddiau lleol, ynghyd ag ymgorffori nodweddion naturiol a gwelliannau i fioamrywiaeth mewn mannau cyhoeddus ehangach.
  • Cymorth estynedig ar gyfer sefydliadau diwylliannol, hanesyddol a threftadaeth presennol sy’n rhan o’r cynnig diwylliannol a threftadaeth lleol, gan gynnwys gwelliannau i fynediad i safleoedd i atal effeithiau ynysu, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl.
  • Dylunio a rheoli’r amgylchedd adeiledig a thirweddol i ‘ddileu troseddau trwy ddylunio’.
  • Cefnogaeth ar gyfer celfyddydau lleol, gweithgareddau diwylliannol, treftadaeth a chreadigol.
  • Cyllid ar gyfer cyfleusterau, twrnameintiau, timau a chynghreiriau chwaraeon lleol; i ddod â phobl at ei gilydd.
  • Cefnogaeth ar gyfer gwella teithio llesol a phrosiectau seilwaith trafnidiaeth gwyrdd eraill ar raddfa fach, gan ystyried Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
  • Cyllid ar gyfer datblygu a hyrwyddo ymgyrchoedd ehangach a phrofiadau trwy gydol y flwyddyn sy’n annog pobl i ymweld â’r ardal leol, a’i harchwilio.
  • Cyllid ar gyfer gwirfoddoli sy’n creu effaith a/neu brosiectau gweithredu cymdeithasol i ddatblygu cyfalaf cymdeithasol a dynol mewn lleoedd lleol.
  • Cyllid ar gyfer cyfleusterau, twrnameintiau, timau a chynghreiriau chwaraeon lleol; i ddod â phobl at ei gilydd.
  • Buddsoddi mewn cynlluniau ymgysylltu â’r gymuned i gefnogi ymglymiad cymunedol mewn gwneud penderfyniadau ynghylch adfywio lleol.
  • Mesurau cymunedol i leihau costau byw, yn cynnwys trwy fesurau i wella effeithlonrwydd ynni, a goresgyn tlodi tanwydd a newid hinsawdd.
  • Cyllid i gefnogi astudiaethau dichonoldeb perthnasol.

2. Cynorthwyo busnesau lleol

Dylai Awdurdodau Arweiniol ystyried rhannu eu poblogaeth fusnes yn segmentau, gan ganolbwyntio ar ymyriadau penodol a fydd yn diwallu angen busnes lleol orau. Gellir llywio hyn trwy ymgysylltu’n gynnar â chynrychiolwyr busnesau lleol.

Amcanion:

  • Creu swyddi a hybu cydlyniant cymunedol, trwy fuddsoddiadau sy’n adeiladu ar ddiwydiannau a sefydliadau presennol, ac sy’n amrywio o gymorth i fusnesau sy’n cychwyn arni i welliannau gweladwy i gyfleusterau’r sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden yn lleol.
  • Hyrwyddo rhwydweithio a chydweithredu, drwy ymyriadau sy’n dod â busnesau a phartneriaid at ei gilydd o fewn ac ar draws sectorau i rannu gwybodaeth, arbenigedd ac adnoddau, ac ysgogi arloesedd a thwf.
  • Cynyddu buddsoddiad y sector preifat mewn gweithgareddau sy’n hybu twf, trwy gymorth targedig i fusnesau bach a chanolig i ymgymryd ag arloesi sy’n newydd i’r cwmni, mabwysiadu technolegau a thechnegau effeithlon o ran ynni a charbon isel sy’n gwella cynhyrchiant, a dechrau neu dyfu’u hallforion.

Ymyriadau

  • Buddsoddi mewn marchnadoedd agored a gwelliannau i seilwaith y sector manwerthu a gwasanaethau yng nghanol trefi, gyda chymorth cofleidiol ar gyfer busnesau bach.
  • Cyllid ar gyfer datblygu a hyrwyddo’r economi ymwelwyr (masnach a defnyddwyr, fel ei gilydd), fel atyniadau lleol, llwybrau a chynhyrchion twristiaeth yn fwy cyffredinol.
  • Cefnogi mabwyisadu Made Smarter: Darparu cyngor arbenigol teilwredig, grantiau cyfatebol a hyfforddiant arweinyddiaeth i alluogi busnesau bach a chanolig i fabwysiadu atebion technoleg ddigidol ddiwydiannol, yn cynnwys deallusrwydd artiffisial; roboteg a systemau awtonomaidd; gweithgynhyrchu ychwanegion; rhyngrwyd diwydiannol o bethau; realiti rhithwir; dadansoddi data. Profwyd bod y cymorth yn hwyluso lefelau uchel o fuddsoddiad preifat i dechnolegau sy’n ysgogi twf, cynhyrchiant, effeithlonrwydd a gwydnwch mewn gweithgynhyrchu. 
  • Cynyddu buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu ar y lefel leol. Buddsoddi i gefnogi lledaenu arloesedd, gwybodaeth a gweithgareddau, mewn ardaloedd sy’n bwysig yn economaidd ac ardaloedd datblygol. Cefnogi masnacheiddio syniadau, annog cydweithio a chyflymu’r llwybr i’r farchnad fel bod mwy o syniadau’n cael eu troi yn arferion diwydiannol a masnachol. Buddsoddi mewn canolfannau hyfforddi doethuriaeth.
  • Grantiau ymchwil a datblygu sy’n cefnogi datblygu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol. Grantiau i gynyddu capasiti ymchwil a lefel y cydweithio rhwng cwmnïau i rannu arfer gorau.
  • Cyllid ar gyfer datblygu a chefnogi seilwaith arloesi priodol ar y lefel leol.
  • Buddsoddi mewn seilwaith menter a phrosiectau datblygu safleoedd cyflogaeth / arloesi. Gall hyn helpu datgloi prosiectau datblygu safleoedd a fydd yn cefnogi twf mewn lleoedd.
  • Cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd lleol, a chefnogi busnesau ym mhob cam o’u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi, yn cynnwys trwy rwydweithiau lleol.
  • Cyllid ar gyfer hybiau hyfforddi newydd, a gwelliannau i rai presennol, cynigion cymorth busnes, ‘unedau hybu’ ac ‘unedau sbarduno’ ar gyfer menter leol (yn cynnwys menter gymdeithasol) sy’n gallu cynorthwyo entrepreneuriaid a busnesau newydd trwy gamau cynnar datblygu a thwf trwy gynnig cyfuniad o wasanaethau, yn cynnwys rheoli cyfrifon, cyngor, adnoddau, hyfforddiant, hyfforddi, mentoriaeth a mynediad i leoedd gwaith.
  • Grantiau i helpu lleoedd i wneud cais am ddigwyddiadau a chynadleddau busnes rhyngwladol, a’u cynnal, sy’n cefnogi sectorau twf lleol ehangach.
  • Cymorth ar gyfer tyfu’r economi gymdeithasol leol, yn cynnwys busnesau cymunedol, cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol.
  • Cyllid i ddatblygu rhwydweithiau angel buddsoddi ledled y wlad.
  • Grantiau Allforio i gynorthwyo busnesau i dyfu eu masnachu dramor, gan gefnogi cyflogaeth a buddsoddi lleol. Grantiau i gynorthwyo busnesau i baratoi dogfennau tollau a gweithdrefnau tariff.
  • Cefnogi datgarboneiddio a gwella’r amgylchedd naturiol tra’n tyfu’r economi leol. Arddel ymagwedd system gyfan at fuddsoddi mewn seilwaith i gyflawni datgarboneiddio effeithiol ar draws y sectorau ynni, adeiladau a thrafnidiaeth a thu hwnt, yn unol â’n targed hinsawdd cyfreithiol rwymol. Uchafu cryfderau lleol presennol neu ddatblygol mewn technolegau, nwyddau a gwasanaethau i fanteisio ar y cyfle i dyfu’n fyd-eang.
  • Mesurau cymorth busnes i ysgogi twf mewn cyflogaeth, yn enwedig mewn ardaloedd â chyfraddau diweithdra uwch.
  • Cyllid i gefnogi astudiaethau dichonoldeb perthnasol.
  • Cyllid i gefnogi cynnydd busnesau bach i fod yn gwmnïau cynhyrchiol maint canolig.
  • Cyllid i gefnogi denu mwy o fuddsoddiad ymchwil, datblygu ac arloesi yn y DU ac yn rhyngwladol.
  • Buddsoddi mewn seilwaith gwydnwch ac atebion wedi’u seilio ar natur sy’n diogelu busnesau lleol ac ardaloedd cymunedol rhag peryglon naturiol, yn cynnwys llifogydd ac erydu arfordirol.

3. Pobl a sgiliau

Yng Nghymru, bydd Lluosi (Multiply) yn cael ei gyflawni fel rhan o’r cynllun buddsoddi UKSPF unigol a ddatblygwyd gan ranbarthau. Mae’r prosbectws hwn wedi amlinellu cyfanswm y dyraniad ar gyfer pob rhanbarth / awdurdod lleol yn gysylltiedig â Lluosi, a byddwn yn disgwyl i ardaloedd amlinellu sut maent yn bwriadu cyflawni ymyriadau Lluosi yn unol â’r lefel honno o gyllid yn eu cynlluniau buddsoddi UKSPF. Dylent ystyried nodau, amcanion a blaenoriaethau Lluosi wrth ddatblygu cynlluniau lleol ar gyfer pobl ac ymyriadau sgiliau.

Amcanion:

  • Hybu sgiliau craidd a chynorthwyo oedolion i wneud cynnydd mewn gwaith, trwy dargedu oedolion heb unrhyw gymwysterau neu gymwysterau ar lefel isel a sgiliau mewn mathemateg, ac uwchsgilio’r boblogaeth weithio, gan esgor ar effaith economaidd bersonol a chymdeithasol, drwy annog ymagweddau arloesol at leihau rhwystrau dysgu oedolion.
  • Lleihau lefelau anweithgarwch economaidd trwy fuddsoddi mewn cymorth dwys pwrpasol ar gyfer bywyd a chyflogaeth wedi’i deilwra at angen lleol. Dylai buddsoddi hwyluso cydgysylltu darpariaeth brif ffrwd a gwasanaethau lleol o fewn ardal ar gyfer cyfranogwyr, drwy’r defnydd o gymorth un i un gan weithwyr allweddol, gwella deilliannau cyflogaeth ar gyfer carfannau penodol sy’n wynebu rhwystrau yn y farchnad lafur.
    • Mae’r carfannau disgwyliedig yn cynnwys, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i, bobl dros 50 oed, pobl ag anabledd a chyflwr iechyd, menywod, pobl o gefndir ethnig lleiafrifol, pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a phobl ag anghenion cymhleth lluosog (pobl ddigartref, pobl sy’n gadael gofal, cyn-droseddwyr, pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau a dioddefwyr trais domestig).
  • Cynorthwyo’r bobl sydd bellaf o’r farchnad lafur i oresgyn rhwystrau rhag gweithio trwy ddarparu cymorth cydlynol, wedi’i deilwra’n lleol, yn cynnwys mynediad at sgiliau sylfaenol.
  • Cynorthwyo ardaloedd lleol i ariannu bylchau mewn darpariaeth sgiliau yn lleol i gynorthwyo pobl i wneud cynnydd mewn gwaith, ac ategu darpariaeth sgiliau oedolion yn lleol, e.e. trwy ddarparu maint ychwanegol; cyflenwi darpariaeth trwy ystod ehangach o lwybrau neu alluogi darpariaeth fwy arloesol / dwys, yn seiliedig ar gymwysterau a heb fod yn seiliedig ar gymwysterau. Dylai hyn fod yn ychwanegol at y ddarpariaeth sydd ar gael trwy raglenni cyflogaeth a sgiliau cenedlaethol.

Ymyriadau

Cynorthwyo pobl economaidd anweithgar i oresgyn rhwystrau rhag gweithio trwy ddarparu cymorth cydlynol, wedi’i deilwra’n lleol, yn cynnwys mynediad at sgiliau sylfaenol  

  • Cymorth cyflogaeth ar gyfer pobl economaidd anweithgar: Cymorth un i un dwys a chofleidiol i symud pobl yn agosach at ddarpariaeth brif ffrwd, ac ennill swydd, a’i chadw, wedi’i ategu gan gymorth ychwanegol ac/neu arbenigol â sgiliau bywyd a sgiliau sylfaenol (digidol, Saesneg, mathemateg* a SSIE) ble mae bylchau yn y ddarpariaeth leol. Cyllid ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol i bobl economaidd anweithgar, ble mae’r ddarpariaeth yn ychwanegol i’r ddarpariaeth a ariennir trwy ddarpariaeth brif ffrwd.

  • Gall y ddarpariaeth hon gynnwys prosiectau sy’n hyrwyddo pwysigrwydd gwaith i helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy annibynnol, ochr yn ochr â meithrin eu gwydnwch a’u lles ariannol yn y dyfodol.

  • Mae carfannau disgwyliedig yn cynnwys, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i, bobl ag anghenion cymhleth lluosog (pobl ddigartref, pobl sy’n gadael gofal, cyn-droseddwyr, pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau a dioddefwyr trais domestig), pobl ag anabledd a chyflwr iechyd, pobl dros 50 oed, menywod, pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a phobl o gefndir ethnig lleiafrifol.

*trwy Lluosi.

Cynorthwyo’r bobl sydd bellaf o’r farchnad lafur trwy roi mynediad iddynt at sgiliau sylfaenol

  • Cyrsiau sy’n cynnwys darpariaeth sgiliau sylfaenol (digidol, Saesneg, mathemateg (trwy Lluosi) a SSIE), a sgiliau bywyd a sgiliau gyrfa** ar gyfer pobl nad ydynt yn economaidd anweithgar ac nad ydynt yn gallu cael mynediad at hyfforddiant arall neu gymorth cofleidiol y ceir manylion amdano uchod. Wedi’i ategu gan gymorth ariannol i ddysgwyr gofrestru ar gyrsiau a chwblhau cymwysterau.

Y tu hwnt i hynny, bydd yr ymyrraeth hon hefyd yn cyfrannu at feithrin cydlyniant cymunedol a hwyluso mwy o falchder sifil ar y cyd, gan arwain at integreiddio gwell ar gyfer y rheiny sy’n elwa ar gymorth SSIE.

**ble na fodlonir hyn trwy ddarpariaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Lywodraeth Cymru.

  • Gweithgareddau fel cyfoethogi a gwirfoddoli i wella cyfleoedd a hyrwyddo lles.

  • Ymyriadau i gynyddu lefelau cynhwysiant digidol, gyda ffocws ar sgiliau digidol hanfodol, cyfleu manteision mynd ar-lein (yn ddiogel), a chymorth yn y gymuned i roi hyder ac ymddiriedaeth i ddefnyddwyr aros ar-lein.

Sgiliau i wneud cynnydd mewn gwaith ac ariannu anghenion sgiliau lleol

  • Cymorth teilwredig i helpu pobl mewn gwaith, nad ydynt yn cael eu cynorthwyo gan ddarpariaeth brif ffrwd, i fynd i’r afael â rhwystrau rhag cael mynediad at gyrsiau addysg a hyfforddi. Mae hyn yn cynnwys cefnogi cadw grwpiau sy’n debygol o adael y farchnad lafur yn gynnar.

  • Cymorth ar gyfer ardaloedd lleol i ariannu anghenion sgiliau lleol. Mae hyn yn cynnwys cymwysterau a chyrsiau technegol a galwedigaethol hyd at lefel 2 a hyfforddiant ar gyfer trwyddedau galwedigaethol sy’n berthnasol i anghenion ardaloedd lleol, a chymwysterau gwerth uchel ble mae angen am gapasiti sgiliau ychwanegol na ellir ei fodloni trwy gyllid prif ffrwd.

  • Cyrsiau sgiliau gwyrdd sydd wedi’u targedu o gwmpas sicrhau bod gennym y gweithlu medrus i gyflawni uchelgeisiau sero net ac uchelgeisiau amgylcheddol ehangach y llywodraeth.

  • Cymorth ail hyfforddi ac uwchsgilio ar gyfer y rheiny mewn sectorau carbon uchel, gyda ffocws penodol ar drosglwyddo i swyddi gwyrdd, a swyddi Diwydiant 4.0 a 5.0.

  • Cyllid i gefnogi sgiliau digidol lleol.

  • Cyllid i gefnogi ymgysylltiad a datblygiad sgiliau mwy meddal ar gyfer pobl ifanc.

Ymyriadau Lluosi

  • Cyrsiau wedi eu cynllunio i fagu hyder â rhifau ar gyfer y rheiny sydd angen cymryd y camau cyntaf tuag at gymwysterau ffurfiol.
  • Cyrsiau ar gyfer rhieni sydd eisiau cynyddu eu sgiliau rhifedd er mwyn helpu eu plant, a helpu â’u cynnydd eu hunain.
  • Cyrsiau wedi eu hanelu at garcharorion, y rheiny sydd wedi cael eu rhyddhau o’r carchar yn ddiweddar neu sydd ar drwydded dros dro.
  • Cyrsiau wedi eu hanelu at bobl nad ydynt yn gallu gwneud cais am rai swyddi oherwydd diffyg sgiliau rhifedd ac/neu annog pobl i uwchsgilio er mwyn cael mynediad at swydd / gyrfa benodol.
  • Ymgorffori modiwlau mathemateg ychwanegol mewn cyrsiau galwedigaethol eraill.
  • Cyflwyno rhaglenni arloesol ar y cyd â chyflogwyr – yn cynnwys cyrsiau wedi’u cynllunio i gwmpasu sgiliau rhifedd penodol sydd eu hangen yn y gweithle.
  • Cyrsiau newydd dwys a hyblyg wedi’u targedu at bobl heb gymhwyster mathemateg Lefel 2 yng Nghymru, sy’n arwain at gymhwyster cyfatebol (i gael mwy o wybodaeth am gymwysterau cyfatebol, gweler Qualifications can cross boundaries (sqa.org.uk)
  • Cyrsiau wedi eu cynllunio i helpu pobl i ddefnyddio rhifedd i drin eu harian.
  • Cyrsiau wedi eu hanelu at bobl dros 19 oed sy’n gadael, neu newydd adael, y system ofal.
  • Gweithgareddau, cyrsiau neu ddarpariaeth a ddatblygwyd mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol a phartneriaid eraill wedi’u hanelu at ymgysylltu â’r dysgwyr anoddaf eu cyrraedd – er enghraifft, y rheiny nad ydynt yn y farchnad lafur neu grwpiau eraill y nodwyd yn lleol eu bod mewn angen.