Papur polisi

Marchnad fewnol y DU: crynodeb gweithredol

Mae'r papur gwyn hwn yn nodi'r opsiynau ar gyfer diogelu llif nwyddau a gwasanaethau ym marchnad fewnol y DU.

Dogfennau

Marchnad fewnol y DU: crynodeb gweithredol

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch alt.formats@beis.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae’r papur gwyn yn nodi opsiynau polisi i ddiogelu llif nwyddau a gwasanaethau ledled y DU ar ôl diwedd y Cyfnod Pontio.

I sicrhau hyn, mae’r llywodraeth yn bwriadu ymgorffori dwy egwyddor yn y gyfraith:

  • egwyddor cyd-gydnabod
  • egwyddor peidio â gwahaniaethu

Mae cyd-gydnabod yn golygu bod y rheolau sy’n llywodraethu cynhyrchu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau mewn un rhan o’r DU yn cael eu cydnabod yn y rhannau eraill o’r DU, ac na ddylent fod yn rhwystr i lif nwyddau a gwasanaethau rhwng systemau rheoleiddio gwahanol.

Mae peidio â gwahaniaethu yn golygu nad yw’n bosibl i un gyfundrefn reoleiddio gyflwyno rheolau sy’n gwahaniaethu’n benodol yn erbyn nwyddau a gwasanaethau cyfundrefn reoleiddio arall.

Ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad

Ymgynghorwyd ar yr opsiynau a nodwyd yn y Papur Gwyn, a chyhoeddwyd ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad ar 9 Medi.

Cyhoeddwyd ar 16 July 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 September 2020 + show all updates
  1. Government response to associated consultation published.

  2. First published.