Policy paper

Llwybr Hirdymor Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU

Published 18 December 2023

1. Pwysleisiodd yr Independent Review of Net Zero gyfle economaidd sero net a’r angen i roi sicrwydd polisi hirdymor i fusnesau er mwyn galluogi buddsoddiad datgarboneiddio. Roedd yn cynnig rôl ehangach i Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU (UK ETS) fel sylfaen ar gyfer economi ffyniannus, wedi’i datgarboneiddio hyd at 2050 a thu hwnt. Argymhellodd fod Awdurdod UK ETS yn datblygu llwybr hirdymor ar gyfer y cynllun. [footnote 1] Mae Awdurdod UK ETS, sy’n cynrychioli Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon, yn derbyn yr argymhelliad hwn. Rydym yn nodi yma’r camau yr ydym yn eu cymryd i ddatblygu’r llwybr hirdymor hwnnw. [footnote 2]

Rydym wedi ymrwymo i barhau ag UK ETS yn y tymor hir

2. Mae prisio carbon yn ffordd effeithiol sy’n seiliedig ar y farchnad o alluogi busnesau i wneud penderfyniadau buddsoddi mewn datgarboneiddio sy’n rhesymegol yn economaidd. [footnote 3] Mae UK ETS yn darparu dull eang o brisio carbon, gan gefnogi marchnadoedd cystadleuol i ysgogi datgarboneiddio. Bydd y cynllun yn parhau i fod yn ysgogiad pwysig ar gyfer trosglwyddo’n economaidd effeithlon i sero net. Mae prisio allyriadau’n briodol yn unol â’r egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu yn cymell datgarboneiddio ac arloesi gwyrdd. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i fusnesau a gwmpesir gan UK ETS benderfynu sut i ddatgarboneiddio yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae’n gwneud hynny am y gost leiaf ar draws y sectorau a gwmpesir gan y cynllun ac ar yr un pryd yn darparu refeniw i helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys cefnogi’r pontio i sero net. [footnote 4]

3. Mae Awdurdod UK ETS felly yn cyhoeddi heddiw ein bod yn bwriadu deddfu i barhau ag UK ETS y tu hwnt i 2030 tan o leiaf 2050. Bydd y cynllun yn parhau i fod yn gyson â’n targedau sero net, gan roi’r sicrwydd sydd ei angen ar fusnesau i fuddsoddi mewn datgarboneiddio. Rydym hefyd yn ystyried ymestyn cam nesaf UK ETS, gan ddechrau yn 2031, am fwy na deng mlynedd i’w gysoni â dyddiadau cyllidebau carbon y DU. Byddwn yn ymgynghori ar y cynigion hyn wrth i ni ddatblygu’r cynllun. Byddwn hefyd yn ystyried canfyddiadau asesiad rhaglen werthuso UK ETS o’i heffeithiolrwydd o ran galluogi lleihau allyriadau mewn modd cost-effeithiol.

Byddwn yn parhau i ddatblygu UK ETS

4. Pan sefydlwyd UK ETS, ein nod oedd darparu parhad yn ein dull o brisio carbon wrth inni adael yr UE. Roeddem am roi sicrwydd polisi hirdymor i fusnesau ynghylch rôl y cynllun wrth gefnogi ein llwybr datgarboneiddio tuag at sero net. Fe wnaethom alinio’r cap ETS â’r trywydd sero net priodol, i ymchwilio i ehangu’r cynllun i fwy o sectorau o’r economi, ac i gynnal signal prisio carbon cadarn i roi’r hyder i fusnesau ddefnyddio’r raddfa o fuddsoddiad cyfalaf sydd ei angen i gyflwyno technolegau ynni glân. [footnote 5]

5. Ar ôl sefydlu’r cynllun, mae Awdurdod UK ETS wedi cymryd camau cychwynnol i’w ddatblygu yn unol â’r ymrwymiadau hyn. Nodwyd y camau hyn yn ein hymateb i’r ymgynghoriad ar Ddatblygu UK ETS. [footnote 6]

  • O 2024, bydd cap UK ETS yn cyd-fynd â’r trywydd sero net. Byddwn yn cyfyngu nifer y lwfansau carbon i gwmnïau eu prynu mewn arwerthiant yn 2024 i 69 miliwn – 12.4 y cant yn llai nag yn 2023, a’u lefel isaf erioed. Erbyn 2027, bydd hyn yn gostwng i tua 44 miliwn – gostyngiad o 45 y cant o’i gymharu â 2023 – cyn cyrraedd tua 24 miliwn erbyn 2030.

  • Rydym wedi cyhoeddi ehangiad cychwynnol UK ETS: cwmpas ehangach o allyriadau gan sectorau sydd eisoes yn y cynllun, gan gynnwys cwmpasu awyru CO2 gan y sector olew a nwy uwch o 2025; ehangu i allyriadau morol domestig yn 2026; i ynni o wastraff a llosgi gwastraff yn 2028; ac, yn amodol ar ymgynghoriad, ein bwriad i gynnwys prosesau tynnu nwyon tŷ gwydr peirianyddol (GGRs). Fel y nodwyd gennym yn yr ymateb i’r ymgynghoriad ar Ddatblygu UK ETS, mae’r Awdurdod yn credu y gallai UK ETS hefyd gynnig marchnad hirdymor briodol ar gyfer prosesau tynnu nwyon tŷ gwydr o ansawdd uchel yn seiliedig ar natur, yn amodol ar waith pellach i ystyried yr ystod o faterion posibl y tynnwyd sylw atynt drwy’r alwad am dystiolaeth ar brosesau tynnu nwyon tŷ gwydr a chan y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd ynghylch sefydlogrwydd, costau ac effeithiau rheoli tir ehangach.

  • Mewn byd cysylltiedig, dim ond os cymerir camau i liniaru’r risg o ollyngiadau carbon y gall UK ETS fod yn wirioneddol effeithiol. Mae Llywodraeth y DU wedi cynnal ymgynghoriad helaeth ar fesurau posibl i liniaru’r risg o ollyngiadau carbon gan gynnwys cyflwyno mecanwaith addasu ffiniau carbon ac mae bellach wedi cyhoeddi ei hymateb. Ochr yn ochr â’r gwaith ehangach hwn i fynd i’r afael â’r risg o ollyngiadau carbon, [footnote 7] mae Awdurdod UK ETS yn adolygu ei ddull o ddyrannu lwfansau UK ETS am ddim. Bydd unrhyw fesur neu fesurau newydd yn ystyried yr effaith ar ddiwydiant a bydd angen iddynt weithio’n gydlynol gyda’n mesurau polisi gollyngiadau carbon presennol, yn enwedig dyrannu lwfansau am ddim UK ETS. Bydd Cap y Diwydiant ar faint o lwfansau sydd ar gael i’w dosbarthu am ddim yn cael ei osod ar 40% o’r cap cyffredinol. Rydym yn cynnal Adolygiad o Ddyrannu am Ddim i dargedu cymorth yn well at y sectorau sydd fwyaf mewn perygl o ollyngiadau carbon; a bydd lwfansau am ddim ym maes hedfan yn dirwyn i ben yn raddol yn 2026.

  • Rydym hefyd yn cynnal adolygiad parhaus o’r farchnad i bennu dyluniad polisi marchnadoedd UK ETS yn y dyfodol.

6. Byddwn yn parhau i ddatblygu UK ETS yn unol â’r cyhoeddiadau hyn. Rydym yn lansio ymgynghoriadau heddiw ar bolisi marchnadoedd a dyrannu am ddim. Byddwn yn ymgynghori ymhellach ar y rhyngweithio rhwng UK ETS a’r Cynllun Gwrthbwyso a Lleihau Carbon ar gyfer Hedfan Rhyngwladol (CORSIA) maes o law. Rydym hefyd yn adolygu gweithrediad UK ETS ers ei lansio yn 2021. Byddwn yn ymgynghori yn 2024 ar sut y bydd UK ETS yn cael ei ehangu i gynnwys gwastraff ac allyriadau morol ac ar gynnwys GGRs. Rydym yn datblygu fframwaith rheoleiddio ar gyfer integreiddio cludo heb ddefnyddio piblinellau ar gyfer Dal, Defnyddio a Storio Carbon (CCUS) a byddwn yn ymgynghori ar y manylion penodol yn 2024. Byddwn yn ymgynghori ar gyflwyno meini prawf cynaliadwyedd ar gyfer biomas. Yn amodol ar ymgynghori pellach, rydym hefyd yn bwriadu cynnwys allyriadau methan ac ocsid nitraidd o’r sector olew a nwy uwch yn y cynllun ac adolygu’r diffiniad o ffaglu er diogelwch.

Byddwn yn archwilio ehangu UK ETS i fwy o sectorau’r economi

7. O ystyried rôl prisio carbon wrth alluogi datgarboneiddio cost-effeithiol, byddwn hefyd yn parhau i archwilio ehangu’r cynllun i fwy o sectorau’r economi, gan gynnwys sectorau ag allyriadau uchel. Wrth inni wneud hynny, byddwn yn ystyried y llwybr cyflawni dangosol hyd at 2037 fesul sector a gyhoeddodd Llywodraeth y DU yn y Strategaeth Sero Net, a ddangosir yn y siart isod. [footnote 8] I gydnabod bod gan bob un o’r Gweinyddiaethau Datganoledig eu targedau hinsawdd a’u llwybrau datgarboneiddio a ragwelir eu hunain, byddwn hefyd yn sicrhau bod y rhain yn cael eu hystyried a’u hadlewyrchu yn ein cynlluniau. Byddwn yn sicrhau bod ein hymagwedd at brisio carbon yn cefnogi busnesau ac aelwydydd i drosi i economi sero net, gan gynnwys trwy liniaru’r risg o ollyngiadau carbon, cefnogi buddsoddiad mewn technolegau carbon isel a chefnogi aelwydydd i sicrhau trosi cyfiawn.

8. Byddwn yn ystyried y pum ffactor canlynol wrth i ni archwilio’r posibilrwydd o ehangu UK ETS ymhellach. Byddwn yn cynnal asesiad ac ymgynghoriad pellach ar gyfer sectorau newydd cyn i ni wneud unrhyw benderfyniadau.

  • Ymarferoldeb: byddwn yn archwilio argaeledd technolegau sy’n ddigon cywir ar gyfer Monitro, Adrodd a Gwirio (MRV) nwyon tŷ gwydr ar adegau priodol yn y gadwyn werth.
  • Addasrwydd: byddwn yn asesu’r rôl bosibl y gallai UK ETS ei chwarae wrth annog datgarboneiddio ar gyfer unrhyw sector dan sylw.
  • Effaith busnes: byddwn yn ystyried yr effaith y byddai unrhyw ehangu ar y cynllun yn ei chael ar sectorau newydd ac ar gyfranogwyr presennol ym marchnad UK ETS.
  • Effaith ddosbarthiadol: byddwn yn ystyried unrhyw effeithiau andwyol ar ddefnyddwyr ac aelwydydd a chamau lliniaru posibl sydd eu hangen, gan gynnwys ystyried cydraddoldeb a chysylltiadau da o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, cyn unrhyw ehangu ar UK ETS.
  • Amseru: bydd yr amseriad ar gyfer cynnwys sectorau unigol yn dibynnu ar eu cam ar eu llwybr datgarboneiddio; gallai rhai sectorau gael eu cyflwyno’n raddol i’r cynllun dros nifer o flynyddoedd.

9. Byddwn yn archwilio rôl bosibl marchnadoedd masnachu allyriadau wrth ailgydbwyso prisiau nwy/trydan wrth i ni ystyried opsiynau ar gyfer ailgydbwyso costau polisi i ffwrdd oddi wrth drydan ac at ddefnyddio ynni ffosil pan fydd y prisiau nwy uchel presennol yn disgyn.

10. Nid ydym yn cynnig ehangu UK ETS i amaethyddiaeth ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gan ddefnyddio canfyddiadau’r cais am dystiolaeth ar rôl MRV cadarn o allyriadau nwyon tŷ gwydr ar ffermydd yn ymgynghoriad UK ETS y llynedd a thystiolaeth ychwanegol o brosiectau ymchwil parhaus, yn Lloegr bydd Llywodraeth y DU yn datblygu dull cyson o fesur allyriadau carbon o ffermydd, a allai helpu i ddatgloi llwybrau newydd i ddatgarboneiddio.

Byddwn yn parhau i ymgynghori â rhanddeiliaid wrth i ni nodi rhagor o fanylion am y llwybr hirdymor ar gyfer UK ETS

11. Drwy gydol y gwaith o ddatblygu UK ETS, byddwn yn cynnal ymgynghoriad llawn ar ein cynigion i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i’r diben: marchnad brisio carbon eang i gyfyngu ar allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan helpu i gyflawni datgarboneiddio cost-effeithiol, wedi’i deilwra i anghenion economi’r DU yn ystod ein cyfnod pontio i sero net.

  1. Mission Zero: The Independent Review of Net Zero adroddiad terfynol (HMSO, 13 Ionawr 2023), tud. 276. 

  2. Mae hyn hefyd yn bodloni ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth y DU yn Powering Up Britain: The Net Zero Growth Plan (DESNZ, 30 Mawrth 2030), tud. 55. 

  3. Mae’r syniad hwn wedi bod yn un o hanfodion economeg ers i Pigou (1920) ei ffurfioli. O ran sut mae’n gymwys i newid hinsawdd gweler Adolygiad Stern (2006). Am astudiaeth empirig o effeithiolrwydd prisio carbon gweler  Colmer et al (2020), neu Martin et al (2016) am adolygiad o dystiolaeth ar effeithiau ETS yr UE. Mae’r sefydliadau neu’r grwpiau economaidd sy’n cefnogi prisio carbon economi gyfan yn cynnwys, yn y DU: yr Institute for Fiscal Studies (2014), Policy Exchange (2014), Bright Blue (2021), yr Adam Smith Institute (2021), yr Institute for Public Policy Research (2021) a’r Tony Blair Institute for Global Change (2022). Yn rhyngwladol: OECD (2019), World Bank (2022), IMF (2021), International Energy Agency (2021), Global Commission on the Economy and Climate (2018). 

  4. Gweler y Net Zero Review Final Report (HMT, 19 Hydref 2021), tud. 68. 

  5. Energy White Paper: Powering our net zero future (BEIS, 18 Rhagfyr 2020), tud. 129. 

  6. Main Response i’r ymgynghoriad ar Ddatblygu UK ETS (UK ETS Authority, 3 Gorffennaf 2023). 

  7. Addressing carbon leakage risk to support decarbonisation: Consultation (HMT a DESNZ, 30 Mawrth 2023). 

  8. Net Zero Strategy: Build Back Greener (BEIS, 19 Hydref 2021, diweddarwyd y data 2 Ebrill 2022), tud. 18.