Ffurflen

Ymddiriedolaethau ac ystadau: tystysgrif didynnu Treth Incwm (R185)

Defnyddiwch ffurflen R185 er mwyn cadarnhau bod Treth Incwm wedi’i didynnu o’r taliad ar log, y taliad blynyddol neu’r blwydd-dal.

Dogfennau

Tystysgrif didynnu Treth Incwm

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Os ydych yn gwneud taliad ar log, taliad blynyddol neu flwydd-dal, defnyddiwch ffurflen R185 er mwyn cadarnhau bod y Dreth Incwm wedi’i didynnu o’r taliad. Dylai’r person sy’n cael y taliadau gadw’r ffurflen hon. Bydd angen y ffurflen os gwneir hawliad am ad-daliad o’r dreth a ddidynnwyd.

Ffurflenni cysylltiedig

R185 (Incwm Ystâd) – datganiad incwm o ystâd
IOs ydych yn ysgutor neu’n weinyddwr ystâd, defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod i fuddiolwyr am incwm o ystâd person ymadawedig.

R185 (Incwm o Ymddiriedolaeth) - datganiad incwm o ymddiriedolaeth
Os ydych yn ymddiriedolwr, defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod i fuddiolwyr am symiau a dalwyd neu am hawliau i incwm o ymddiriedolaeth.

Cyhoeddwyd ar 4 April 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 July 2019 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.