Rhifau cofrestru a phlatiau rhif ôl-gerbyd (INF291W)
Diweddarwyd 29 Awst 2025
1. Rhifau cofrestru ôl-gerbyd
1.1 Cofrestru ôl-gerbyd – gwybodaeth gefndirol
O dan ddeddfwriaeth y DU, mae’n rhaid i rai ôl-gerbydau sy’n cael eu defnyddio yn rhyngwladol gael eu cofrestru gydag Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Mae hyn yn berthnasol i:
- bob ôl-gerbyd defnydd masnachol sy’n pwyso dros 750kg mewn pwysau gros
- pob ôl-gerbyd defnydd anfasnachol sy’n pwyso dros 3,500kg mewn pwysau gros
Er nad yw’n orfodol yn y DU, mae’r rhan fwyaf o wledydd yn disgwyl i ôl-gerbydau dros 750kg o bwysau gros sy’n gyrru i’w gwlad neu drwyddi, ac eithrio Iwerddon, Cyprus, Malta a Sbaen, gael eu cofrestru a gallant gymryd camau gorfodi os nad yw’r ôl-gerbyd wedi’i gofrestru. Mae hyn yn berthnasol i ôl-gerbydau masnachol ac anfasnachol (er enghraifft, carafán neu drelar ceffylau).
Rhaid ichi gofrestru unrhyw ôl-gerbyd dros 750kg o bwysau gros i yrru drwy neu i’r rhan fwyaf o wledydd yn Ewrop, i osgoi’r risg o gamau gorfodi wrth ddefnyddio’ch ôl-gerbyd y tu allan i’r DU.
Unwaith y bydd ôl-gerbyd wedi’i gofrestru gyda DVLA, caiff rhif cofrestru unigryw y mae’n rhaid ei arddangos ar yr ôl-gerbyd.
Gellir dod o hyd i’r gwasanaeth cofrestru ôl-gerbyd ar GOV.UK.
1.2 Pam bod gennym rifau cofrestru ôl-gerbyd
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i rai ôl-gerbydau arddangos rhif cofrestru unigryw. Mae’r rhifau cofrestru hyn yn ffordd o adnabod ôl-gerbydau wedi’u cofrestru yn y DU sy’n cael eu gyrru’n rhyngwladol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau hwylustod teithio dramor.
1.3 Fformat rhif cofrestru ôl-gerbyd
Mae fformat rhif cofrestru’r ôl-gerbyd yn un llythyren ac yna 7 rif, sydd wedi’u nodi ar 2 linell. Dyma enghraifft:
1.4 Arddangos rhifau cofrestru ôl-gerbyd
Rhaid arddangos rhifau cofrestru ôl-gerbyd ar blatiau rif yn gywir fel y nodir yn Rheoliadau Cofrestru Ôl-gerbyd 2018. Mae’r rheoliadau hyn yn llywodraethu sut mae platiau rhif ôl-gerbyd yn cael eu dylunio a’u harddangos.
Mae’n drosedd i’r rhif cofrestru gael ei guddio mewn unrhyw ffordd sy’n ei gwneud yn anodd ei ddarllen. Er enghraifft, ni ddylech ddefnyddio bolltau gosod i newid y llythyren neu unrhyw un o’r rhifau. Gall unrhyw un sydd â phlât rhif nad yw’n arddangos y rhif cofrestru yn gywir gael dirwy o hyd at £1,000.
2. Platiau rhif ôl-gerbyd
2.1 Sut i gael plât rhif ar gyfer ôl-gerbyd
Er mwyn cael plât rhif wedi’i wneud ar gyfer eich ôl-gerbyd, rhaid ichi fynd i gyflenwr cofrestredig platiau rhif (RNPS) sy’n cyflenwi platiau rhif ar gyfer ôl-gerbydau.
Dod o hyd i’ch cyflenwr cofrestredig platiau rhif agosaf.
Bydd hefyd angen ichi ddangos tystysgrif awdurdodi plât rhif eich ôl-gerbyd i’r RNPS. 4 Byddwn yn anfon yr awdurdodiad hwn atoch ar ôl ichi gwblhau eich cais cofrestru ar-lein, bydd hon yn ddilys am 5 diwrnod. Pan fyddwch yn derbyn eich tystysgrif gofrestru ôl-gerbyd y DU yn y post, gallwch ei ddefnyddio i gael eich platiau rhif.
Bydd angen i’r cyflenwr hefyd weld dogfennau gwreiddiol sy’n profi eich enw a’ch cyfeiriad. Gallwch ddefnyddio un o’r dogfennau adnabod canlynol:
- trwydded yrru
- bil cyfleustodau, Treth Gyngor neu ardrethi o’r 6 mis diwethaf
- cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu o’r 6 mis diwethaf
- cerdyn hunaniaeth genedlaethol
Bydd y canlynol yn cadarnhau eich enw yn unig:
- pasbort – nid oes rhaid ei gyhoeddi yn y DU
- cerdyn debyd neu gredyd banc neu gymdeithas adeiladu
- cerdyn gwarant yr heddlu
- cerdyn hunaniaeth y lluoedd arfog
2.2 Manyleb dyluniad plât ôl-gerbyd
Mae plât cofrestru ôl-gerbyd yr un siâp â’r plât cerbyd safonol ar gyfer beic modur a rhaid iddo gael nodau du solet (y llythyren a’r rhifau) ar gefndir gwyn. Ni ddylai’r nodau ac arwyneb y plât gynnwys unrhyw ddyluniadau, patrymau na gweadau. Hefyd:
- rhaid i nodau fod yn 64mm o uchder
- rhaid i nodau (ac eithrio’r rhif ‘1’ neu’r llythyren ‘I’) fod yn 44mm o led
- rhaid i’r rhif ‘1’ a’r llythyren ‘l’ fod yn 10mm o led
- rhaid i strôc y nod (trwch y print du) fod yn 10mm o led
- rhaid i’r bwlch rhwng y nodau fod yn 10mm 5
- rhaid i’r bwlch fertigol rhwng pob rhes o nodau fod yn 5mm
- rhaid i led yr ymyl rhwng frig y plât ac unrhyw un o’r nodau fod o leiaf 5mm
- rhaid i led yr ymyl rhwng gwaelod y plât ac unrhyw un o’r nodau fod o leiaf 13mm
Rhaid i’r nodau fod mewn ffont safonol (arddull y llythrennau), er enghraifft:
Rhaid i’r plât rhif ddangos y rhif cofrestru a gwneuthurwr y plât neu fanylion y cyflenwr yn unig (er enghraifft, enw, nod masnach neu ffordd arall o adnabod gwneuthurwr neu gyflenwr y plât).
2.3 Ble i arddangos platiau cofrestru’r ôl-gerbyd
Rhaid arddangos plât cofrestru’r ôl-gerbyd ar gefn yr ôl-gerbyd mewn safle gweladwy a fertigol. Mae’n rhaid ei arddangos yn ogystal â rhif cofrestru’r cerbyd sy’n ei dynnu ac mae’n rhaid ei osod mor bell ag y bo’n rhesymol bosibl o’r plât hwn.
Os nad oes modd arddangos plât ar gefn yr ôl-gerbyd, rhaid gosod plât cofrestru’r ôl-gerbyd ar ddwy ochr yr ôl-gerbyd fel bod y ddau ohonynt i’w gweld yn glir.
2.4 Sticeri y DU
Yn ogystal â phlât cofrestru’r ôl-gerbyd, efallai y bydd rhai gwledydd dramor hefyd yn mynnu bod sticer y DU yn cael ei arddangos ar yr ôl-gerbyd. I osgoi unrhyw risg o gamau gorfodi dramor, argymhellir eich bod yn arddangos sticer y DU.
Ni ddylid arddangos y sticer ar blât cofrestru’r ôl-gerbyd. Dylai hwn fod yn sticer neu arwydd ar wahân wrth ymyl plât yr ôl-gerbyd.
2.5 Beth i’w wneud os yw plât cofrestru’r ôl-gerbyd yn cael ei ddwyn
Os yw eich plât yn cael ei ddwyn, dylech ddweud wrth yr heddlu fel y gallent gynnal ymchwiliad.
2.6 Os nad ydych bellach yn defnyddio’r ôl-gerbyd ar gyfer teithiau rhyngwladol
Os nad ydych bellach yn defnyddio’ch ôl-gerbyd ar gyfer teithio rhyngwladol, dylech ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i ddweud wrth DVLA. Mae hyn oherwydd nid yw’r cynllun yn berthnasol i ôl-gerbydau a ddefnyddir yn y DU yn unig. Dylech hefyd dynnu plât cofrestru’r ôl-gerbyd oddi ar yr ôl-gerbyd ar ôl ichi hysbysu DVLA.
2.7 Beth i’w wneud os ydych yn gwerthu, yn cael gwared ar neu’n trosglwyddo eich ôl-gerbyd
Os nad ydych chi bellach yn geidwad ôl-gerbyd cofrestredig, mae’n rhaid ichi ddweud wrth DVLA drwy’r gwasanaeth ar-lein.
Mae’n rhaid ichi hefyd dynnu plât cofrestru’r ôl-gerbyd, ond dylech chi ddweud wrth unrhyw geidwad newydd beth yw’r rhif cofrestru. Mae hyn rhag ofn eu bod yn dymuno cofrestru fel ceidwad yr ôl-gerbyd fel y gallent ei ddefnyddio’n rhyngwladol yn y dyfodol.