Adolygiad Amddiffyn Strategol 2025: Gwneud Prydain yn Fwy Diogel: yn gadarn gartref, yn gydnerth dramor
Updated 5 June 2025
Rhagair gan yr Adolygwyr
Pan ofynnodd y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Amddiffyn i’r tri ohonom—un gwleidydd, un milwr, ac un arbenigwr polisi tramor—i arwain, yn allanol, yr Adolygiad Amddiffyn Strategol newydd, yr oedd y byd eisoes mewn cyfnod cythryblus. Roedd Rwsia, sy’n wladwriaeth ag arfau niwclear, wedi goresgyn a meddiannu rhan o wladwriaeth sofran gyfagos mewn modd creulon ofnadwy. Ac wrth wneud hyn, cafwyd cefnogaeth gan Tsieina, cyfarpar o Iran, a milwyr o Ogledd Corea ar dir Ewrop am y tro cyntaf erioed.
Mae natur anrhagweladwy y digwyddiadau hyn a digwyddiadau byd-eang eraill, ynghyd â chyflymder y newid ym mhob maes, wedi creu bygythiadau a gwendidau brawychus newydd i’n gwlad—gyda’r byd mewn cyfnod o gymhlethdod peryglus.
A dweud y gwir, mae’r cyd-destun geo-wleidyddol wedi gwaethygu fwy fyth ers i ni ddechrau ar ein gwaith. Mae’r heriau i’r Byd Rhydd wedi dwysau gyda’r gystadleuaeth i fod y ‘prif bŵer’ honedig ac wrth i’r consensws ar ôl yr Ail Ryfel Byd ddatgymalu. Mae’r sicrwydd o amgylch y drefn ryngwladol a dderbyniwyd ers cyhyd bellach yn cael ei herio—ac nid gan yr awdurdodwyr yn unig. Mae’r bwrdd gwyddbwyll rhyngwladol wedi cael ei droi ben i wared.
Mewn byd lle mae’r amhosibl heddiw yn dod yn anochel yfory, ni ellir gorffwys ar ein rhwyfau ynghylch amddiffyn ein gwlad. Ni ellir ystyried mwyach bod amddiffyn yn rhywbeth sy’n cael ei gontractio i’n Lluoedd Arfog yn unig, er cystal a dewr ydynt hwythau. Wrth i ni wynebu nifer o fygythiadau a heriau nawr ac yn y dyfodol, mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu fel cymdeithas gyfan. Mae gan bawb ran i’w chwarae ac mae angen cael sgwrs genedlaethol am sut rydym ni’n gwneud hyn.
I ddechrau, gofynnodd y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Amddiffyn i ni, yr Adolygwyr, ‘bennu’r rolau, y galluoedd a’r diwygiadau sydd eu hangen i fynd i’r afael â heriau, bygythiadau a chyfleoedd yr unfed ganrif ar hugain’. Dros y naw mis diwethaf, dyna yr ydym wedi ceisio’i wneud. Mae’r adroddiad hwn, felly, yn ffrwyth llafur o graffu manwl ar bob agwedd ar Amddiffyn, ac mae wedi cynnwys un o’r ymgynghoriadau dwysaf a mwyaf trylwyr erioed ar y pwnc.
Mae’n adolygiad trawsnewidiol a strategol go-iawn. Fe’i luniwyd i atgyfnerthu ataliaeth drwy ail-adeiladu ein parodrwydd i ymladd rhyfel. Mae’n dwyn i gof y geiriau ‘Os ydych chi’n deisyfu heddwch, paratowch am ryfel’. Mae ein rhaglen niwclear ataliol annibynnol, un o’r ffactorau dylanwadol sydd ar flaen meddwl ein gelynion, wedi ymrwymo i NATO ac, o’r herwydd, mae’n cyfrannu at ddiogelwch y gymuned Ewro-Iwerydd gyfan. Mae hyn yn cael ei adnewyddu.
Rydym yn cynnig cyfuniad o gryfhau ein gwydnwch gartref a model newydd o Lu Integredig, sy’n rhoi NATO yn gyntaf. Drwy hynny, rydym yn sicrhau y bydd pobl Prydain yn fwy diogel gartref ac yn fwy dylanwadol dramor. Fodd bynnag, ni fyddwn byth yn disgwyl brwydro yn y dyfodol yn erbyn pŵer milwrol ‘cyfatebol’ mawr ar ein pen ein hunain. NATO yw carreg sylfaen ein hamddiffyniad, gyda 31 o wledydd eraill wedi ymrwymo i ddiogelu’n gilydd. Mae biliwn o bobl yn ardal yr Ewro-Iwerydd yn cysgu’n dawel bob nos, wedi’u gwarchod gan gymal amddiffyn ar y cyd, sef Erthygl V o Gytuniad Gogledd Iwerydd. Rhaid i ni weithio’n galed i sicrhau bod hyn yn parhau, gan roi hwb i’r Gynghrair drwy ein dull gweithredu a’n hymdrechion beunyddiol.
Drwy archwilio pob agwedd ar Amddiffyn yn drwyadl, mae’r Adolygiad yn herio’r syniad o ‘fusnes fel arfer’, yn union fel y mae ein gelynion ninnau hefyd wedi datblygu a moderneiddio. Mae’n cynnig partneriaeth newydd gyda diwydiant, dan arweiniad Cyfarwyddwr Arfau Cenedlaethol newydd pwerus, i sicrhau bod gan ein lluoedd y cyfarpar sydd eu hangen arnynt—yn brydlon ac o fewn y gyllideb. Mae gan drethdalwyr hawl i fod yn hyderus bod yr arian y maent yn ei dalu i’w cadw’n ddiogel yn cael ei ddefnyddio’n ddoeth ac yn briodol.
Bydd yr Adolygiad yn rhoi hwb i’r Lluoedd Wrth Gefn, yn rhoi bywyd newydd i hyfforddiant, yn mynd i’r afael â phroblemau llety milwyr, yn cael gwared ar fiwrocratiaeth gynhenid, ac yn newid y diwylliant ym maes Amddiffyn. Gan ddysgu o’r datblygiadau arloesol sydd ar waith yn Wcráin, y wers sylfaenol ar gyfer y presennol yw bod yn rhaid i dechnoleg ddatblygu’n gyflymach nawr nag ar unrhyw adeg yn hanes dyn—rhaid i’n lluoedd ein hunain, a’r adran Amddiffyn gyfan, arloesi ar gyflymder rhyfel. Dros amser, bydd rhaid gwyrdroi’r duedd o wanhau ein lluoedd—sef nodwedd o’r ‘difidend heddwch’ mawr ar ôl i’r Rhyfel Oer ddod i ben.
Gofynnwyd i ni gynnal ein Hadolygiad o fewn cyd-destun cyllidebol o drawsnewid i 2.5% o GDP. Rydym yn cydnabod, diolch byth, y bydd hyn yn berthnasol o 2027, ac nid dim hwyrach. Yr hyn sydd hefyd yn arwyddocaol yw’r dyhead i wario 3% o GDP ar Amddiffyn yn y 2030au os bydd yr amodau economaidd ac ariannol yn caniatáu hynny. Mae hyn yn newyddion da o ystyried y gallai’r 2.3% presennol (sy’n cynnwys buddsoddiad sylweddol yn y rhaglen niwclear ataliol, sef prif flaenoriaeth amddiffyn y DU, ac ymrwymiadau craidd eraill) fod wedi gorfodi gwneud arbedion mewn galluoedd hanfodol.
Rydym yn hyderus bod y trawsnewidiad rydym yn ei gynnig ar gyfer y byd caletach hwn rydym yn byw ynddo nawr yn mynd i fod yn fforddiadwy dros ddeng mlynedd, o ystyried yr adnoddau newydd hyn sy’n cael eu haddo. Fodd bynnag, gan ein bod yn byw mewn cyfnod mor gythryblus, efallai y bydd angen symud yn gyflymach. Mae modd cyflymu’r cynllun rydym wedi’i gyflwyno i naill ai roi mwy o sicrwydd neu i gynnull system Amddiffyn mewn argyfwng.
Rydym wedi cynnal yr Adolygiad hwn ar y cyd â’r Weinyddiaeth Amddiffyn (nid ar ei chyfer), ac rydym wedi gweithio’n agos gyda’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Amddiffyn. Felly, ni ddylai’r cynnwys achosi unrhyw sioc iddynt—hyd yn oed os nad oeddem wedi sicrhau consensws ac yn sicr nid ydym yn cefnu ar y cyfle i fod yn feiddgar ac yn radical.
Mae’r Adolygiad wedi elwa o ymdrechion ac arbenigedd ein cyd-arolygwyr, ‘Tîm Adolygiad Amddiffyn 6’: Grace Cassy; Edward Dinsmore; Jean-Christophe Gray; Angus Lapsley; Robin Marshall; a’r Gwir Anrhydeddus Syr Jeremy Quin. Rydym hefyd wedi cael cymorth arwrol drwyddi draw gan dîm o bobl ymroddedig, talentog, o sawl adran wahanol—o’r Weinyddiaeth Amddiffyn, y Lluoedd Arfog, adrannau eraill y Llywodraeth, a charfan o swyddogion cyswllt milwrol rhyngwladol a swyddogion sifiliaid. Rydym yn hynod o ddiolchgar iddynt oll.
Yr Arglwydd Robertson o Port Ellen KT GCMG | Y Cadfridog Syr Richard Barrons KCB CBE | Dr Fiona Hill CMG |
Cyflwyniad a Throsolwg
Mae’r her i’n cenhedlaeth ni heddiw yn gofyn am ymateb dros genhedlaeth. Am y tro cyntaf ers diwedd y Rhyfel Oer, mae’r DU yn wynebu bygythiadau lluosog, uniongyrchol i’w diogelwch, ei ffyniant a’i gwerthoedd democrataidd. Mae’r byd i gyd yn wynebu cyfnod anwadal ac ansicrwydd difrifol.
Mewn ymateb, rhaid i’r DU, gyda’i chynghreiriaid—yn enwedig y rhai yn NATO—fod yn barod unwaith eto i ddelio â’r amgylchiadau anoddaf un: atal a rhwystro rhyfel llawn drwy fod yn barod i ymladd ac i ennill. Tan yn ddiweddar, byddai rhyfel o’r fath yn erbyn gwlad arall sydd â lluoedd milwrol datblygedig yn anodd ei gredu. Mae’n debyg y byddai’r ymateb hwn yn llawn dwyster, hirfaith a chostus ym mhob ffordd. Mae symud i sefyllfa lle’r ydym yn barod i ymladd rhyfel yn yr oes newydd hon yn hanfodol.
Wrth i ddatblygiadau cyflym mewn technoleg yrru’r newidiadau mwyaf ers dros ganrif o ran brwydro mewn rhyfel, mae’n rhaid i’r DU droi at ffordd newydd o ryfela. Rhaid harneisio technoleg newydd yn barhaus a meddwl yn wahanol am beth yw ‘pŵer milwrol’ confensiynol a sut i’w gynhyrchu. Mewn rhyfela modern, mae metrigau syml, fel nifer y bobl a’r platfformau a ddefnyddir, wedi dyddio ac yn annigonol. Bellach, rhaid cael rhwydweithiau deinamig o asedau â chriw, asedau heb griw, asedau awtonomaidd a llifoedd data i greu effaith filwrol a chapasiti i achosi angau,[footnote 1] gyda systemau milwrol yn gwneud penderfyniadau ar gyflymder peiriant ac yn gweithredu’n hyblyg ar draws parthau.
Rhaid i Luoedd Arfog y DU allu goroesi unwaith eto mewn ymgyrchoedd hir drwy gael mynediad sicr at alluoedd allweddol—a hyn i gyd yn cael ei seilio ar ddiwydiant ffyniannus sy’n barod i dyfu a chynnal arloesedd a chynhyrchiant yn ôl yr angen.
Ac mewn newid pendant o’r cyfnod ar ôl y Rhyfel Oer, mae’n hanfodol rhoi pwyslais o’r newydd ar amddiffyn a gwydnwch gartref hefyd, gyda gweithgareddau ‘o dan y trothwy’,[footnote 2] mwy o fynediad at y gofod a’r gofod seiber, a datblygiadau di-ben-draw mewn systemau arfau i gyd yn ei gwneud yn haws i’n gelynion achosi niwed i’r DU, hyd yn oed o bell.
Lle mae adolygiadau blaenorol wedi mynd i’r afael â’r Lluoedd Arfog yn fwy cyfyng, mae’r Adolygiad Amddiffyn Strategol hwn yn adolygiad ‘o’r gwraidd i’r brig’ o Amddiffyn yn y DU a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog ym mis Gorffennaf 2024 mewn ymateb i fyd sy’n newid yn gyflym. Mae’n amlinellu’r diwygiadau dwfn sydd eu hangen i ‘sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn gadarn gartref ac yn gydnerth dramor—nawr ac am flynyddoedd i ddod’. [footnote 3]
Dan oruchwyliaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, cafodd yr Adroddiad Amddiffyn Strategol ei arwain gan Adolygwyr allanol: Yr Arglwydd (George) Robertson; y Cadfridog Syr Richard Barrons; a Dr Fiona Hill. Cafodd ei gynnal o fewn y Cylch Gorchwyl a bennwyd gan y Llywodraeth a’i gostio wedyn o fewn y gyllideb amddiffyn uwch o 2.5% o GDP o Ebrill 2027 a 3% yn y 2030s, yn amodol ar yr amodau economaidd a chyllidol. [footnote 4] Nodir proses yr Adolygiad, gan gynnwys ei ymgysylltiad sylweddol ag arbenigedd mewnol ac allanol, yn yr Atodiad.
Yn yr adroddiad hwn rydym yn nodi:
- Pam mae angen newidiadau i Amddiffyn yn y DU, gan ystyried y cyd-destun rhyngwladol a’r cyd-destun diogelwch yn y cyfnod hyd at 2040 a chyflwr presennol Amddiffyn (Pennod 2).[footnote 5]
-
Pa rolau y dylai Amddiffyn eu chwarae ac ymhle yn y blynyddoedd nesaf (Pennod 3).
-
Sut dylai’r Lluoedd Arfog frwydro a sut dylai Amddiffyn ehangach gefnogi’r frwydr honno, gyda gweithlu sydd wedi’i rymuso a hyblyg i drawsnewid dulliau ymladd rhyfeloedd y DU (Pennod 4).
-
Ochr yn ochr â phwy y dylai Amddiffyn ymladd: pa mor ganolog yw cynghreiriaid a phartneriaid er mwyn i’r DU allu adeiladu pŵer diwydiannol a galluoedd cyffredin, ac yn y pen draw ymladd ac ennill (Pennod 5); a phwysigrwydd creu cysylltiad o’r newydd â chymdeithas y DU i sicrhau gwydnwch a dyfnder strategol yn achos argyfwng neu wrthdaro (Pennod 6).
-
Galluoedd brwydro’r Llu Integredig (Pennod 7), gan roi sylw i elfennau rheng flaen a galluoedd Amddiffyn sylfaenol y DU—creu grym sy’n addas ar gyfer rhyfel yn yr 21ain Ganrif drwy Gynllun Buddsoddi mewn Amddiffyn newydd dros ddeng mlynedd.[footnote 6]
Oes newydd o fygythiadau
Mae hon yn foment bwysig iawn i’r DU a’i chynghreiriaid (Pennod 2). Roedd ymosodiad Rwsia ar Wcráin yn 2022 yn drobwynt strategol. Dangosodd hyn natur cyfnewidiol a deinamig y bygythiad, gyda rhyfel gwladwriaethol yn dychwelyd i Ewrop, gelynion yn defnyddio rhethreg niwclear mewn ymgais i ddylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau, a’r DU a’i chynghreiriaid o dan warchae yn ddyddiol gan weithredoedd o dan drothwy rhyfel wrth i gystadleuaeth ryngwladol ddwysau. Mae’r gwrthdaro hefyd wedi dangos grym technoleg newydd sydd wedi newid ble y caiff rhyfeloedd eu hymladd, sut a gyda beth. Mae perygl y bydd y Lluoedd Arfog nad ydynt yn newid ar yr un cyflymder â thechnoleg yn mynd yn ddiwerth.
Mae’n bwysig nodi mai dim ond un fflachbwynt o lawer yw Wcráin ymysg ansefydlogrwydd ac anwadalrwydd cynyddol yn y byd a amlygir gan gyflymder rhyfeddol y newidiadau yn y dirwedd ryngwladol ers lansio’r Adolygiad hwn yn 2024. Yr hyn sydd fwyaf amlwg adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn yw’r: trafodaethau am gadoediad yn rhyfel Wcráin-Rwsia; y posibilrwydd o ddanfon ‘llu sicrwydd’ i Wcráin petai yna gadoediad; a chwestiynau mawr am ddyfodol diogelwch yn Ewrop sy’n anochel ar ôl i’r Unol Daleithiau newid ei blaenoriaethau diogelwch gyda’i ffocws nawr yn troi at yr Indo-Basiffig a diogelu’r famwlad.[footnote 7] Yn y bôn, nid yw rhagdybiaethau hirsefydlog y DU am strwythurau a balansau pŵer byd-eang mor sicr mwyach.
Mae Lluoedd Arfog y DU wedi dechrau ar broses angenrheidiol o newid mewn ymateb i’r realiti newydd hwn. Ond nid yw’r cynnydd wedi bod yn ddigon cyflym na radical. Mae’r Lluoedd Arfog yn dal i gael eu siapio gan risgiau a gofynion y cyfnod ar ôl y Rhyfel Oer—wedi’u teilwra’n bennaf ar gyfer gwrthdaro yn erbyn gweithredwyr nad ydynt yn wladwriaethau ar ymylon Ewrop a thu hwnt. Er bod y rhain yn sylweddol ac yn heriol, nid oedd y gweithrediadau hyn yn gofyn bod ‘cymdeithas gyfan’ yn ymbaratoi ar gyfer rhyfel, amddiffyn gartref, cadernid, a chynhyrchiant diwydiannol.
Oes newydd i Amddiffyn yn y DU
Mewn ymateb i’r cyd-destun strategol hwn, mae ein Hadolygiad yn disgrifio oes newydd ar gyfer Amddiffyn. Gan adeiladu ar y newidiadau sydd eisoes ar waith, ein gweledigaeth yw y bydd Amddiffyn y DU, erbyn 2035:
Yn bŵer amddiffyn blaenllaw sy’n defnyddio technoleg, gyda Llu Integredig i atal, i ymladd ac i ennill drwy arloesi’n gyson ar gyflymder rhyfel.
Rhaid i Amddiffyn allu cyflawni ei rôl sylfaenol: sef atal bygythiadau i’r DU a’i chynghreiriaid drwy ymbaratoi ar gyfer rhyfel, a darparu polisi yswiriant cadarn petai ataliaeth yn methu. Dylid mynd ar drywydd hyn fel rhan o ddull gweithredu cymdeithas gyfan ar gyfer atal ac amddiffyn, lle mae Amddiffyn yn cyfuno ei gryfderau â rhai’r Llywodraeth, diwydiant a chymdeithas yn ehangach.
Rolau Amddiffyn y DU
Y man cychwyn ar gyfer yr Adolygiad hwn yw polisi ‘NATO yn Gyntaf’ y Llywodraeth (Pennod 3). Mae angen amlwg i’r DU ddyblu ei hymdrechion o fewn y Gynghrair a chynyddu ei chyfraniad at ddiogelwch yr Ewro-Iwerydd yn fwy eang—yn enwedig wrth i ymddygiad ymosodol Rwsia dyfu ar draws Ewrop ac wrth i Unol Daleithiau America addasu ei blaenoriaethau rhanbarthol. Wrth wneud y newid hwn, rhaid prif-ffrydio’r Gynghrair o ran sut mae Amddiffyn yn cynllunio, yn meddwl ac yn gweithredu.
Nid yw ‘NATO yn Gyntaf’ yn golygu ‘NATO yn unig’. Dylai’r DU fabwysiadu dull pragmatig o gryfhau cyd-ddiogelwch yn yr Ewro-Iwerydd drwy gyfrwng partneriaethau dwyochrog ac amlochrog cryfach.[footnote 8] Mae’r Gynghrair ei hun yn cydnabod pwysigrwydd gweithio gyda phartneriaid y tu allan i’r rhanbarth—gan adlewyrchu’r cysylltiad rhwng diogelwch yr Ewro-Iwerydd a diogelwch rhanbarthau eraill fel y Dwyrain Canol a’r Indo-Môr Tawel. Rhaid i Amddiffyn hefyd allu canlyn a diogelu buddiannau, ymrwymiadau a chyfrifoldebau sylweddol y DU y tu allan i’r rhanbarth, gan gynnwys amddiffyn ei thiriogaeth sofran.
Serch hynny, gwelir pwysigrwydd sylfaenol diwallu ymrwymiadau’r Gynghrair a siapio ataliaeth yn yr Ewro-Iwerydd bob dydd yn y rolau parhaus sy’n atgyfnerthu ei gilydd, y mae’n rhaid i Amddiffyn eu cyflawni. Dyma’r tair rôl graidd i Amddiffyn:
-
Rôl 1: Amddiffyn, gwarchod a gwella gwydnwch y DU, ei Thiriogaethau Tramor, a’i Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron.
-
Rôl 2: Amddiffyn ac atal yn yr Ewro-Iwerydd.
-
Rôl 3: Dylanwadu ar yr amgylchedd diogelwch byd-eang.
Y ddwy swyddogaeth galluogi ar gyfer Amddiffyn yw:
- Datblygu sylfaen ddiwydiannol ac arloesedd ffyniannus a chadarn o ran amddiffyn.
- Cyfrannu at gydlyniant a pharodrwydd cenedlaethol.
Trawsnewid gallu’r DU i ymladd rhyfeloedd
Er mwyn ymateb i fygythiadau heddiw ac yfory, rhaid i Amddiffyn newid yn sylfaenol sut mae’n brwydro a sut mae’n cefnogi’r frwydr honno: gan gynyddu’n gyflym capasiti’r Lluoedd Arfog i achosi angau, ac i frwydro drwy arloesi ym maes technoleg (Pennod 4). Gan ddefnyddio gwersi o’r rhyfel yn Wcráin a’r newidiadau sefydliadol a alluogir drwy Diwygio Amddiffyn, dylai’r cyfan o’r gwaith Amddiffyn (y Lluoedd Arfog ac Adran y Wladwriaeth gyda’i gilydd) gael ei sbarduno gan resymeg y cylch arloesi—sef gallu darganfod arloesedd, ei brynu a’i ddefnyddio, a’i wthio drwodd o’r cysyniad cychwynnol i’r rheng flaen yn gyflym.
Wrth wraidd y trawsnewidiad hwn mae tri newid sylfaenol yn y dull gweithredu. Rhaid i Amddiffyn gyflawni’r canlynol:
-
Integreiddio drwy ddyluniad.
Er mwyn i’r Lluoedd Arfog fod mor effeithiol â phosibl o ran capasiti achosi angau, rhaid iddynt gwblhau’r daith o newid o ‘gydweithio’ i ‘integredig’: wedi’u dylunio a’u cyfarwyddo fel un llu o dan awdurdod Pennaeth y Staff Amddiffyn, ac yn cael eu darparu yn unol â’r dyluniad hwn gan un Drefn Reoli Strategol a Gwasanaethau. O dan y model newydd hwn, nid oes angen darparu dyluniad llu sefydlog erbyn dyddiad penodol. Rhaid i ddyluniad a galluoedd y Llu Integredig, a’r ffordd y caiff ei gefnogi gan Amddiffyn yn ehangach, barhau i esblygu yn yr un modd â bygythiadau a thechnoleg. Rhaid i’r Llu Integredig allu gweithredu mewn gwahanol ffurf: fel rhan o Drefniadau Rheoli NATO yn ôl ei ddyluniad; mewn clymblaid; ac fel grym sofran. Er mwyn cyflawni newid sylweddol yn ei gapasiti i achosi angau, rhaid i’r Llu Integredig fod yn seiliedig ar sylfaen ddigidol gyffredin a data a rennir. Dylai darparu fod yn un o’r prif flaenoriaethau. Dylai un ‘cenhadaeth ddigidol’—i ddarparu ‘gwe targedu’ digidol[footnote 9] erbyn 2027—alluogi Amddiffyn i lwyddo lle mae wedi methu o’r blaen, yn ogystal â chreu grŵp arbenigol o Ymladdwyr Rhyfel Digidol y gellid eu defnyddio ochr yn ochr â’r personél rheng flaen (Pennod 4.1). -
Arwain gan arloesedd.
Heddiw, mae llawer o’r arloesi gorau i’w weld yn y sector preifat, tra bo’r cynnydd mewn amlygrwydd technolegau defnydd deuol[footnote 10] wedi ehangu’r rhwyd o ddarpar gyflenwyr sy’n gallu cyfrannu at ganlyniadau Amddiffyn. Rhaid i amddiffyn gofleidio ei rôl o ran sbarduno arloesedd a thwf, gan fabwysiadu technoleg newydd yn gyflym i gadw’r Llu Integredig ar flaen y gad o ran rhyfela. Yn benodol, dylai Amddiffyn feithrin perthynas â’r buddsoddwyr y tu ôl i’r arloeswyr. Dylid ceisio arbenigedd allanol yn systematig drwy Grŵp Cynghori newydd ar gyfer Buddsoddwyr Amddiffyn, gydag aelodau’n cynnwys buddsoddwyr cyfalaf menter ac ecwiti preifat, a bod cyllid preifat yn cael ei ddwyn i mewn o dan fodelau cyllido newydd. Er mwyn paratoi ar gyfer llwyddiant yn fewnol, dylai Amddiffyn ad-drefnu’r strwythurau presennol i greu dau sefydliad ar wahân o dan y Cyfarwyddwr Arfau Cenedlaethol:- Sefydliad Ymchwil a Gwerthuso Amddiffyn,[footnote 11] sy’n canolbwyntio ar alluogi ymchwil camau cynnar allanol ac sy’n agor y drws i academia.
- Sefydliad newydd ar gyfer Arloesedd Amddiffyn y DU (UKDI),[footnote 12] sy’n canolbwyntio ar harneisio arloesedd masnachol, gan gynnwys ar gyfer technolegau defnydd deuol. Bydd gan UKDI gyllideb flynyddol wedi’i chlustnodi o £400m o leiaf (Pennod 4.2).
-
Cefnogir gan ddiwydiant.
Er mwyn datblygu sylfaen ddiwydiannol ac arloesedd ffyniannus a chadarn i gefnogi’r Llu Integredig, rhaid i Amddiffyn greu partneriaeth newydd gyda diwydiant. Wedi’i arwain gan y Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn sydd ar y gweill ac o dan arweiniad y Cyfarwyddwr Arfau Cenedlaethol, mae hyn yn golygu ailwampio prosesau caffael o’r gwaelod i’r brig: gan ymgysylltu â diwydiant yn gynnar mewn prosesau caffael ar ganlyniadau dymunol; sicrhau bod cyflenwyr yn cael eu gwobrwyo am gynhyrchiant a chymryd risgiau; a lleihau’r baich ar ddarpar gyflenwyr, boed y rheini’n fusnesau newydd neu’n brif gwmnïau. Wrth galon y bartneriaeth hon, dylid meithrin agwedd newydd, wedi’i segmentu, at gaffael:[footnote 13] - Platfformau modiwlaidd mawr (contractio o fewn dwy flynedd).
- Uwchraddio’n gyflym ar batrwm troellen a modiwlaidd (contractio o fewn blwyddyn).
- Ecsbloetio masnachol yn gyflym (contractio o fewn tri mis), gydag o leiaf 10% o gyllideb caffael offer Amddiffyn yn cael ei wario ar dechnolegau newydd bob blwyddyn.
Dylid hefyd prif-ffrydio allforion a phartneriaethau gyda galluoedd rhyngwladol[footnote 14] i brosesau caffael o’r cychwyn cyntaf, gyda’r cyfrifoldeb dros allforion amddiffyn yn cael ei roi yn ôl i’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) yn ogystal â fframwaith newydd ar gyfer adeiladu a chynnal cydberthnasau llywodraeth-i-lywodraeth. Dylai penderfyniadau buddsoddi ystyried y costau cysylltiedig i sicrhau eu bod yn wirioneddol fforddiadwy—er enghraifft, caffael, cymorth ac uwchraddio gydol oes, a newidiadau i seilwaith (Pennod 4.2).
Drwy ddefnyddio ei bŵer marchnad yn fwy pwrpasol a thrwy flaenoriaethu busnes yn y DU, dylai Amddiffyn hefyd anelu at gyflawni ar gyfer economi’r DU a darparu ar gyfer ymladdwyr rhyfel yr un pryd. Mae gan amddiffyn botensial sylweddol heb ei wireddu i fod yn beiriant newydd ar gyfer twf wrth galon strategaeth economaidd y DU. Byddai diwygio radical o’r bôn i’r brig ym maes caffael amddiffyn—ynghyd â buddsoddiad sylweddol mewn arloesi, technoleg newydd, gweithgynhyrchu uwch, a sgiliau—yn cynyddu gallu cynhyrchiol economi’r DU. Dylai Amddiffyn anelu’n uchel, gan fesur llwyddiant o ran nifer a maint cwmnïau technoleg amddiffyn a defnydd deuol yn y DU. Bydd llwyddiant hefyd yn golygu gwelliant sylweddol mewn cynhyrchiant Amddiffyn, cystadleurwydd, allforion a gwerth am arian, a chaiff hyn ei gefnogi gan y Cynllun Effeithlonrwydd a Diwygio Amddiffynnewydd (Pennod 4.2).[footnote 15]
Yn y pen draw, rhaid i bobl y DU gyflawni’r trawsnewidiad hwn i Amddiffyn (Pennod 4.3), wedi’u grymuso gan newidiadau mewn polisïau ‘pobl’ a diwylliant sy’n cael gwared ar fiwrocratiaeth ac sy’n dileu ymddygiad annerbyniol yn y gweithle. Mae angen ymyriad wedi’i dargedu i fynd i’r afael â’r argyfwng yn y gweithlu Amddiffyn—gwella recriwtio drwy opsiynau cyflymach a mwy hyblyg fel ‘blynyddoedd i ffwrdd’ milwrol, gwella lefelau cadw drwy gynllun ‘gweithio hyblyg’ arfaethedig y Weinyddiaeth Amddiffyn, a blaenoriaethu buddsoddiad yn y Senedd hon yn y llety sy’n bell iawn o’r safonau angenrheidiol ar hyn o bryd.
Rhaid canolbwyntio ar sicrhau bod y ‘llu cyfan’[footnote 16] mor effeithiol â phosibl:
- Er mwyn cyflawni’r rolau a nodir yn yr Adolygiad hwn, nid oes lle i leihau nifer y Milwyr Parhaol sydd wedi’u hyfforddi a’u harfogi’n dda ar draws y tri Gwasanaeth, hyd yn oed wrth i’r lluoedd symud tuag at roi llawer mwy o bwyslais ar awtonomi. Yn gyffredinol, rydym yn rhagweld cynnydd yng nghyfanswm nifer y personél Rheolaidd pan fydd cyllid yn caniatáu hynny. Mae hyn yn cynnwys cynnydd bach yn nifer Milwyr Rheolaidd y Fyddin fel blaenoriaeth.
- Gan gynyddu nifer y Milwyr Wrth Gefn 20% pan fydd cyllid yn caniatáu (yn fwyaf tebygol yn y 2030au), ac adfywio’r berthynas â’r Lluoedd Wrth Gefn Strategol.
- Ail-lunio gweithlu’r Gwasanaeth Sifil gyda phwyslais ar berfformiad, cynhyrchiant a sgiliau, gan leihau costau o leiaf 10% erbyn 2030.
- Rhyddhau staff milwrol o swyddogaethau swyddfa gefn i rolau rheng flaen ac awtomeiddio 20% o swyddogaethau AD, Cyllid a Masnachol erbyn Gorffennaf 2028. Dylai hyn fod yn gam cyntaf o leiaf.
- Diwygio hyfforddiant ac addysg fel eu bod yn addasu llawer mwy i wersi gweithredol, gan sicrhau y gellir cymryd risgiau dan reolaeth mewn hyfforddiant milwrol, a chreu mwy o gapasiti a hyblygrwydd drwy ddatblygu un amgylchedd ar-lein. Dylid defnyddio cymwysterau a darpariaeth addysg sifil lle bo hynny’n bosibl i gynyddu effeithlonrwydd ac i leihau’r rhwystrau rhwng Amddiffyn, diwydiant a chymdeithas ehangach.
Cryfhau ataliaeth drwy gynghreiriau a phartneriaethau
Rhaid i’r DU gryfhau cyd-ddiogelwch a chreu dyfnder strategol drwy fuddsoddi’n weithredol yn ei berthnasoedd (Pennod 5). Mae adnoddau cyfyngedig yn golygu na all y DU fod yn bopeth i bawb. Rhaid i’r DU flaenoriaethu ei ffordd o weithio, yn seiliedig ar y rolau a amlinellir ym Mhennod 3 a gan ddefnyddio’r ystod lawn o ddulliau sydd ar gael.
Mae cytundebau dwyochrog a phartneriaethau galluogrwydd—gyda’r Unol Daleithiau a Chynghreiriaid NATO Ewropeaidd—yn cynnig arf pwerus i gryfhau perthnasoedd a sefydlogrwydd Ewro-Iwerydd. Mae’r un peth yn wir am weithgarwch dwyochrog â nifer fach o wledydd, gan gynnwys y Fyddin Ymgyrchol ar y Cyd, a’r fformatau E3 ac E5.[footnote 17] Caiff hyn ei ategu drwy weithredu Partneriaeth Diogelwch ac Amddiffyn y DU a’r UE. Rhaid datblygu AUKUS a’r Rhaglen Brwydro Awyr Byd-eang fel patrwm o gydweithio ar alluogrwydd ac fel arwydd pwerus o uchelgais y DU i ddod â phartneriaid o ranbarthau daearyddol gwahanol yn nes at ei gilydd i gefnogi cyd-ddiogelwch. Mae ategu cefnogaeth i Wcráin er mwyn ceisio setliad gwleidyddol gwydn yn hanfodol, yn ogystal â dysgu o’r profiadau eithriadol mewn rhyfela ar y tir, gyda drôn, a brwydro hybrid.
Amddiffyn a gwydnwch gartref: dull cymdeithas gyfan
Mae ffocws o’r newydd ar wydnwch ac amddiffyn gartref yn hanfodol i ataliaeth fodern, gan sicrhau parhad bywyd cenedlaethol mewn argyfwng (Pennod 6). Dylai ail-greu’r cysylltiad rhwng Amddiffyn a chymdeithas fod yn fan cychwyn, fel rhan o sgwrs genedlaethol dan arweiniad y Llywodraeth ar amddiffyn a diogelwch. Gellir cyflawni hyn yn rhannol drwy ehangu’r Lluoedd Cadetiaid 30% erbyn 2030 (gydag uchelgais i gyrraedd 250,000 yn y tymor hwy) a gweithio gyda’r Adran Addysg i ddatblygu dealltwriaeth o’r Lluoedd Arfog ymysg pobl ifanc mewn ysgolion.
Mae angen corff mwy sylweddol o waith i sicrhau diogelwch a gwydnwch y seilwaith cenedlaethol hanfodol a’r gwasanaethau hanfodol mae’n eu darparu. Dylai’r Weinyddiaeth Amddiffyn, gyda’r Llywodraeth ehangach, archwilio ‘cytundeb newydd’ ar gyfer diogelu ac amddiffyn y seilwaith cenedlaethol hanfodol sydd wedi’i wreiddio mewn partneriaeth â’r sector preifat a gweithredwyr cysylltiedig. I gefnogi hyn, dylai’r Llynges Frenhinol chwarae rôl arweiniol a chydlynol newydd i warchod piblinellau a cheblau o dan y môr a thraffig morol.
Rhaid i’r Llywodraeth hefyd allu sicrhau trosglwyddiad cynaliadwy ac effeithiol i ryfel os oes angen. Dylai Bil Parodrwydd i Amddiffyn newydd roi pwerau wrth gefn i’r Llywodraeth i ymbaratoi’r Lluoedd Wrth Gefn a diwydiant petai argyfwng yn datblygu’n wrthdaro. Dylai hefyd hwyluso craffu allanol ar barodrwydd y DU i ymladd rhyfeloedd.
Y Llu Integredig: llu sy’n addas i ryfel yn yr 21ain ganrif
Y dasg hanfodol yw trawsnewid y Lluoedd Arfog, adfer eu parodrwydd i ymladd, a gwrthdroi’r duedd o ‘wanhau’ y galluoedd sylfaenol na ellir dygymod hebddynt mewn gwrthdaro hirfaith a dwys (Pennod 7).
Rhaid i’r DU barhau i ymroi ei rhaglen niwclear ataliol annibynnol gyda NATO (Pennod 7.1), gan addasu ei chynghreiriau, ei sylfaen ddiwydiannol, a’i galluoedd milwrol i sicrhau y gall barhau i atal y bygythiadau mwyaf eithafol. Bydd angen i’r DU gael sbectrwm llawn o opsiynau i reoli unrhyw ddwysau fel rhan o NATO, a hynny drwy ei grymoedd niwclear a chonfensiynol ar y cyd. Dylai Amddiffyn ddechrau trafod â’r Unol Daleithiau a NATO am fanteision ac ymarferoldeb posibl cyfraniad pellach y DU yn ymgyrch niwclear NATO. Byddai rhagor o fuddsoddiad mewn galluoedd ymosodiadau manwl confensiynol ac Amddiffyniad Awyr a Thaflegrau Integredig yn cynyddu’r opsiynau ar gyfer atal ac ymateb i fygythiadau difrifol.
Rhaid i Uwch Weinidogion sbarduno ymdrechion i gynnal y rhaglen niwclear ataliol fel y brif flaenoriaeth Amddiffyn ac fel ‘Ymdrech Genedlaethol’. Mae’r rhaglen i ddisodli’r arfben sofran yn hollbwysig a bydd angen buddsoddiad sylweddol gan y Senedd hon. Byddai cadarnhau niferoedd arfaethedig y llongau tanfor ymosod SSN yn rhoi eglurder ynghylch y capasiti adeiladu a’r tempo angenrheidiol ar gyfer pob llong danfor niwclear. I sicrhau dyfodol hirdymor y rhaglen niwclear ataliol, rhaid i’r Llywodraeth ddechrau gweithio yn y Senedd hon i ddiffinio’r gofyniad am olynydd i’r llong danfor Dreadnought.
Dylai symud tuag at ddefnyddio mwy o awtonomi a Deallusrwydd Artiffisial (AI) yng ngrymoedd confensiynol y DU fod yn flaenoriaeth uniongyrchol ar gyfer trawsnewid y llu (Pennod 7). Fel yn Wcráin, byddai hyn yn darparu mwy o gywirdeb, rhagor o gapasiti i achosi angau, a galluoedd rhatach—gan newid economeg Amddiffyn. Dylai’r symudiad hwn tuag at ddeallusrwydd artiffisial ac awtonomi fanteisio ar y datblygiad cyfochrog o sylfaen ddigidol gyffredin, Cronfa Fuddsoddi Amddiffyn mewn Deallusrwydd Artiffisial sydd wedi’i gwarchod, a galluogrwydd gweithredol cychwynnol ar gyfer Canolfan Systemau Amddiffyn Heb Griw newydd a gaiff ei sefydlu erbyn mis Chwefror 2026.
Dylai’r Lluoedd Arfog gyflymu’r newid hwn i gymysgedd ‘uchel-isel’ o offer—er enghraifft:
- Cysyniad ‘Atlantic Bastion’ y Llynges Frenhinol ar gyfer diogelu Gogledd yr Iwerydd ar ran y DU a NATO a’i chynlluniau ar gyfer llongau cludo asgell awyr hybrid (Pennod 7.2).
- Model ‘Recce-Strike’ y Fyddin ar gyfer grym ymladd ar y tir, gyda’r nod o arwain at ddatblygu deg gwaith y capasiti i achosi angau.[footnote 18] Dylai’r model newydd hwn fod yn sail i drawsnewid y ddwy adran a Phencadlys y Corfflu sydd wedi ymrwymo i Gorfflu Llu Wrth Gefn Strategol NATO (Pennod 7.3).
- Datblygiad yr RAF o’r System Brwydro Awyr yn y Dyfodol—chweched genhedlaeth y jet gyda chriw yn gweithredu drwy blatfformau cydweithredol awtonomaidd (Pennod 7.4).
Gyda’r Llu Integredig yn ymladd fel un ar draws pob un o’r pum maes, rhaid rhoi mwy o sylw i’r parthau gofod a seiber ac electromagnetig (SeiberEM):[footnote 19]
- Mae mynediad sicr i weithredu yn y gofod, oddi yno a thrwyddo yn sail i ddiogelwch a ffyniant y DU. Dylai’r Weinyddiaeth Amddiffyn fuddsoddi yng ngwydnwch systemau gofod milwrol, gan ganolbwyntio ar reoli’r gofod, mantais gwneud penderfyniadau, a galluoedd sy’n cefnogi swyddogaethau ‘Deall’ ac ‘Ymosod’. Dylai’r is-bwyllgor Cabinet ar ei newydd wedd bennu dull strategol y DU o ymdrin â’r gofod, gan fanteisio i’r eithaf ar y synergeddau rhwng sector gofod sifil y DU ac anghenion milwrol clir (Pennod 7.5).
- Mae’r parth SeiberEM yr un mor hanfodol i ddiogelu a gweithredu yn yr holl barthau eraill ac mae’n hanfodol ar gyfer y we targedu digidol. Mae’n hanfodol cryfhau swyddogaethau Amddiffyn hanfodol i ymosodiadau seiber. Rhaid i Amddiffyn symud i sylfaen fwy rhagweithiol yn y maes hwn. Dylai’r Drefn Reoli Seiber-EM newydd—a sefydlwyd o fewn y Drefn Reoli Gweithredol Arbenigol (SOC) neu’r Drefn Reoli Strategol yn flaenorol—efelychu’r Drefn Reoli Gofod wrth sicrhau cydlyniad y parth, yn hytrach na chyfarwyddo gweithrediad. Dylid sefydlu gallu gweithredu cychwynnol erbyn diwedd 2025 (Pennod 7.6).
Wrth Ddiwygio Amddiffyn, bydd y Drefn Reoli Gweithredoedd Arbenigol (SOC) yn gyfrifol am gyflawni (ar gyfarwyddyd y Pencadlys Strategol Milwrol newydd) llawer o gyd-alluogwyr a galluoedd arbenigol y Llu Integredig—o Ddeallusrwydd Amddiffyn i’r Rhwydwaith Amddiffyn Byd-eang Integredig, Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn, y Lluoedd Arfog Arbennig (SF) a’r Lluoedd Gweithredoedd Arbennig (SOF). Mae Lluoedd Arbennig y DU—neu “flaen y llafn” fel y cânt eu hadnabod—yn cynrychioli model gweithredol y Llu Integredig, gan arwain y ffordd o ran arloesi technolegau a systemau newydd ar draws pob parth. Rhaid i Amddiffyn ddal ati i wella’r Lluoedd Arfog Arbennig, gan sicrhau dewis sofran y DU drwy gynnal y gallu strategol hwn ar y lefel uchaf un.
Er bo rhai adolygiadau yn y gorffennol wedi canolbwyntio ar offer rheng flaen ar draul galluoedd sylfaenol, rydym wedi ceisio unioni’r cydbwysedd hwn. Rydym yn argymell canolbwyntio ar y canlynol:
- Grymuso Deallusrwydd Amddiffyn fel arweinydd swyddogaethol yr holl sefydliadau sy’n ymwneud â deallusrwydd amddiffyn—rhoi sylw i flaenoriaethau a safonau cyffredin, wedi’u hategu gan siarter Deallusrwydd Amddiffyn newydd, ac, ymhen amser, sy’n gwbl rhyngweithredol â Chymuned Cudd-wybodaeth y DU (Pennod 7.9).
- Ail-adeiladu Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn, cydlynu gwahanol adnoddau meddygol amddiffyn a chychwyn adolygiad sbrint gyda’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sicrhau y gellir diwallu anghenion personél adeg heddwch ac adeg rhyfel (Pennod 7.10).
- Adfer y Pencadlys Strategol[footnote 20] y mae’r Lluoedd Arfog yn gweithredu oddi yno: cyflwyno Cynllun Ailgyfalafu’r Seilwaith Amddiffyn erbyn mis Chwefror 2026 i fynd i’r afael â blynyddoedd o danariannu a chanfod ffyrdd o gynyddu gwerth yr ystad fel ased cenedlaethol (Pennod 7.11).
- Targedu buddsoddiad mewn cyd-gefnogi galluogwyr ac arfau rhyfel. Dylai Amddiffyn gynnal galluoedd arfau sydd ‘ar waith bob amser’, gan osod y sylfeini diwydiannol i allu cyflymu cynhyrchiant os oes angen. Dylai hyn gael ei ategu gan ddatblygu ymhellach arfau newydd sy’n targedu ynni (Pennod 7).
Y rheidrwydd i drawsnewid
Mae angen dilyniant darbodus i sicrhau bod gan y Lluoedd Arfog yr hyn sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen arnynt o fewn yr adnoddau sydd ar gael ac i sicrhau’r budd gorau posibl ar fuddsoddiad. Mae hyn yn cynnwys bod yn barod i sbarduno ymdrechion i drawsnewid y Lluoedd Arfog ac adfer parodrwydd petai’r amodau’n gwaethygu ymhellach, neu i fyddino Amddiffyn y DU yn gyflym os bydd argyfwng.
Nid oes rheswm dros oedi cyn newid yn sylfaenol sut mae Amddiffyn yn gweithio. Gellir defnyddio Diwygio Amddiffyn—y rhaglen barhaus o newid sefydliadol a diwylliannol (Blwch 1)—fel gyrrwr ar gyfer diwygio ar draws yr Adran Wladol a’r Lluoedd Arfog. Yn wahanol i adrannau eraill yn y Llywodraeth, nid oes gan y Weinyddiaeth Amddiffyn reolaeth dros yr amserlen adeg anghydfod a gwrthdaro. Ond mae gan ‘ddigwyddiadau’ a gelynion y DU hynny. Mae angen gweithredu’n feiddgar a phendant. Nid yw ‘busnes fel arfer’ yn opsiwn.
Rydym yn ymwybodol iawn bod geiriau fel ‘trawsnewid’ wedi cael eu defnyddio o’r blaen mewn adolygiadau amddiffyn ond mai pur anaml y mae’r bwriad wedi cael ei gyflawni. Bydd Diwygio Amddiffyn yn ffactor allweddol o ran llwyddiant yn y blynyddoedd i ddod. Lle mae’r Adolygiad Amddiffyn Strategol yn datgan beth mae’n rhaid i Amddiffyn ei wneud yn y ddegawd nesaf a’r tu hwnt, bydd y rhaglen Diwygio Amddiffyn yn penderfynu yn y pen draw sut mae’n cael ei gyflawni, a pha mor llwyddiannus ydyw. I gefnogi gweithredu, rydym wedi nodi ymyriadau allweddol a dyddiadau profi i roi hwb pellach i gynnydd lle bu’n araf yn y gorffennol a lle bu diffyg atebolrwydd. Yn anorfod, y Weinyddiaeth Amddiffyn fydd yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn o greu cynlluniau gweithredu manwl—sy’n gam hanfodol i sicrhau bod yr adran yn cymryd perchnogaeth dros ganfyddiadau ac argymhellion yr Adolygiad.
Blwch 1: Diwygio Amddiffyn: paratoi ar gyfer llwyddiant ym maes Amddiffyn
Pwrpas Diwygio Amddiffyn yw sefydlu trefniadau llywodraethu cadarn a symlach, creu atebolrwydd cliriach, a phrosesau gwneud penderfyniadau cyflymach ar draws y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Lluoedd Arfog. Y man cychwyn yw ailstrwythuro Amddiffyn o dan bedwar maes (Ffigur 1).
Ffigur 1: Cyfrifoldebau uwch swyddogion a staff milwrol o dan y rhaglen Diwygio Amddiffyn

Rydym yn cefnogi’n gryf y newid sefydliadol a lansiwyd gan yr Ysgrifennydd Amddiffyn ac a geisir o dan Diwygio Amddiffyn. Wrth iddo fynd rhagddo dylai ganolbwyntio ar y canlynol:
- Cefnogi meddylfryd ‘Un Gwasanaeth Amddiffyn’ drwy strwythurau rheoli gyrfa sy’n gwobrwyo ymddygiad a gweithrediad yn unol â hynny, gyda NATO yn brif ystyriaeth. Dylid edrych ar opsiynau mwy radical i ddileu seilos Gwasanaeth unigol, fel byrddau dyrchafu ar y cyd neu drefniadau rheoli gyrfaoedd canolog.
- Creu newid sylweddol yn nhrefniadau rheoli ariannol a rheoli rhaglenni’r adran. Fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu, rhaid i’r Is-ysgrifennydd Parhaol gadw’r prif gyfrifoldeb dros gynllunio ariannol a rhaid iddo allu rhoi cyfrif am sefyllfa ariannol yr adran, hyd yn oed wrth i uwch arweinwyr eraill gael mwy o awdurdod ariannol yn eu priod feysydd cyfrifoldeb. Gellid symleiddio’r broses o gymeradwyo prosiectau a rhaglenni ymhellach drwy weithredu’n llawn y model ‘tair llinell amddiffyn’ safonol yn y diwydiant ar gyfer sicrhau risg.[footnote 21] Mae ymgorffori Trysorlys EM a Swyddogaeth Fasnachol Swyddfa’r Cabinet yn y model hwn yn rhoi’r seiliau yn eu lle ar gyfer gwell perthynas waith.
- Sicrhau bod rôl y Cyfarwyddwr Arfau Cenedlaethol yn canolbwyntio ar ymgysylltu â’r diwydiant a phartneriaid rhyngwladol i ddatblygu agenda diwydiant amddiffyn ac allforion y Llywodraeth. Bydd hyn yn gofyn am ddirprwyo awdurdod dros reoli caffael ac elfennau eraill o waith Grŵp y Cyfarwyddwr Arfau Cenedlaethol.
- Bydd cefnogi’r gwaith o fabwysiadu technolegau newydd yn barhaus, yn enwedig deallusrwydd artiffisial (AI), yn galluogi Amddiffyn i gymryd camau breision yn y ffordd y mae’n brwydro a’r cynhyrchiant y mae’n ei gyflawni. Rhaid i’r Weinyddiaeth Amddiffyn gyfrannu at waith y Cynllun Gweithredu Cyfleon Deallusrwydd Artiffisial,[footnote 22] dan arweiniad yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg, lle bynnag y bo modd.
Cawsom ein harwain yn bennaf gan y tîm Diwygio Amddiffyn, neu drwy gydweithio â nhw, ar y strwythurau sefydliadol mwyaf effeithiol ar gyfer llywodraethu a chyflawni ym maes Amddiffyn. Fodd bynnag, yn yr adroddiad hwn, byddwn weithiau’n gwneud awgrymiadau i’w hystyried ynghylch rolau a chyfrifoldebau i’r rhaglen Diwygio Amddiffyn ddatblygu ymhellach.
-
Mae ‘capasiti i achosi angau’ yn cyfeirio at bŵer ymladd (grym niweidiol a dinistriol) y Lluoedd Arfog. ↩
-
Mae ymosodiadau ‘o dan y trothwy’ yn ymosodiadau nad ydynt bob amser yn cyrraedd y trothwy cyfreithiol ar gyfer ‘rhyfel’. Maent yn cynnwys defnyddio ysbïo, dylanwad gwleidyddol, sabotaj, llofruddio a gwenwyno, ymyrraeth etholiadol, twyllwybodaeth, propaganda, a dwyn Eiddo Deallusol (IP). Mae ymosodiadau o’r fath yn aml yn anodd eu priodoli’n ddiamheuol i droseddwr oherwydd y dulliau a ddefnyddir a’r ffaith bod gwladwriaethau’n aml yn dibynnu ar weithredwyr procsi. Yn yr Adolygiad hwn, rydym yn defnyddio’r term ymosodiad ‘o dan y trothwy’. Efallai y bydd eraill yn cyfeirio atynt fel ‘ymosodiadau tir llwyd’ oherwydd bod gweithredoedd o’r fath yn y tir llwyd rhwng ‘heddwch’ a ‘rhyfel’, gan herio eglurder y gwahaniaeth cyfreithiol rhwng y ddau. Defnyddir y term ‘rhyfela hybrid’ yn gyfnewidiol yn aml o fewn y termau hyn ond rydym ni’n ystyried bod ganddo ystyr mwy penodol, lle defnyddir gweithredoedd milwrol ‘cinetig’ ar yr un pryd ag ymosodiadau o dan y trothwy i gyflawni amcanion y wladwriaeth. ↩
-
Adolygiad Amddiffyn Strategol 2024-2025: Cylch gorchwyl - GOV.UK, 17 Gorffennaf 2024. ↩
-
Adolygiad Amddiffyn Strategol 2024-2025: Cylch gorchwyl - GOV.UK, 17 Gorffennaf 2024; Datganiad Llafar y Prif Weinidog i Dŷ’r Cyffredin: 25 Chwefror 2025. Cyhoeddodd y Prif Weinidog hefyd y bwriad i gydnabod cyfraniad UKIC (Cymuned Cudd-wybodaeth y DU) at amddiffyn y DU, gydag Amddiffyn ac UKIC gyda’i gilydd yn gwario 2.6% o’r GDP ar amddiffyn erbyn 2027. ↩
-
Mae’r Adolygiad hwn wedi ystyried y cyd-destun strategol yn y cyfnod hyd at 2040. Fodd bynnag, mae rhaglenni’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gweithio ar gylchoedd o ddeng mlynedd. Caiff hyn ei adlewyrchu yn yr adroddiad hwn, sy’n cyfleu gweledigaeth ar gyfer Amddiffyn a llwybr at drawsnewid Amddiffyn erbyn 2035. ↩
-
A fydd yn disodli’r Cynllun Cyfarpar. ↩
-
Sylwadau Agoriadau gan yr Ysgrifennydd Amddiffyn Pete Hegseth yn y Grŵp Cyswllt Amddiffyn Wcráin, Brwsel, Gwlad Belg, 12 Chwefror 2025. ↩
-
Hynny yw, mewn grwpiau gyda nifer fach o wledydd a grwpiau gyda nifer fwy o wledydd. ↩
-
Byddai’r we targedu digidol yn cysylltu ‘synwyryddion’, ‘penderfynwyr’, ac ‘effeithiau’. Mae hyn yn arwain at ddewis a chyflymder wrth benderfynu sut i ddifrodi neu ddinistrio targed penodol ar draws parthau, ac mewn parth seiber ac electromagnetig cystadleuol. ↩
-
Technoleg a ddatblygwyd at ddefnydd bywyd sifil ond sydd hefyd â defnydd milwrol o bosibl. ↩
-
Gan gadw’r brand Dstl o bosib. ↩
-
Cyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025. Government to turbocharge defence innovation - GOV.UK. ↩
-
Cyhoeddwyd gan Ganghellor y Trysorlys ym mis Mawrth 2025. Datganiad y Gwanwyn 2025, tud. 36. ↩
-
Megis AUKUS a’r Rhaglen Brwydro Awyr Byd-eang (GCAP). O dan AUKUS, bydd Awstralia, y DU a’r Unol Daleithiau yn datblygu llongau tanfor niwclear wedi’u harfogi’n gonfensiynol y gellir eu cyfnewid, yn ogystal â thechnolegau datblygedig fel AI, systemau awtonomaidd, seiber, taflegrau hypersonig, a rhyfela o dan y dŵr. O dan GCAP, bydd yr Eidal, Japan a’r DU yn datblygu awyren y chweched cenhedlaeth—rhan o’r System Brwydro Awyr yn y Dyfodol (Future Combat Air System), sy’n cynnwys awyrennau â chriw, platfformau heb griw, arfau’r genhedlaeth nesaf, rhwydweithiau a rhannu data. ↩
-
Datganiad Llafar y Prif Weinidog i Dŷ’r Cyffredin: 25 Chwefror 2025. ↩
-
Yn cynnwys y Lluoedd Rheolaidd ac Wrth Gefn, gweision sifil a chontractwyr. ↩
-
Mae’r Llu Ymgyrchol ar y Cyd (Joint Expeditionary Force) yn cael ei harwain gan y DU ac mae’n cynnwys naw aelod arall: Denmarc; Estonia; y Ffindir; Gwlad yr Iâ; Latfia; Lithwania; yr Iseldiroedd; Norwy; a Sweden. Mae’r E3 yn fformat ar gyfer cydweithredu diplomyddol rhwng Ffrainc, yr Almaen a’r DU, tra bo’r E5 yn fformat ar gyfer cydweithredu diplomyddol rhwng Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Gwlad Pwyl a’r DU. ↩
-
Wedi’i fesur yn erbyn model brigâd arfogedig confensiynol. ↩
-
Mae’r sbectrwm electromagnetig a seiberofod bellach yn cael eu trin fel un parth milwrol (Pennod 7.6). ↩
-
Y rhwydwaith seilwaith (meysydd awyr, porthladdoedd, warysau, pencadlysoedd a chanolfannau ymgyrchoedd), ‘asedau trafnidiaeth’ (fel trenau a llongau), a gweithgareddau i gludo milwyr a deunyddiau. ↩
-
Lle mai’r rheolwr rhaglen neu bortffolio yw’r pwynt sicrwydd risg (neu’r ‘llinell amddiffyn’) cyntaf, y bwrdd cymeradwyo mewnol yw’r ail bwynt, a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol sy’n darparu’r trydydd pwynt sicrwydd drwy graffu allanol ↩
-
Cynllun Gweithredu Cyfleoedd AI, 13 Ionawr 2025 – GOV.UK. ↩