Adroddiad corfforaethol

Adroddiad blynyddol a chyfrifon yr Awdurdod Glo 2019 i 2020: Adroddiad atebolrwydd

Cyhoeddwyd 24 September 2020

1. Adroddiad atebolrwydd

Mae’r adroddiad atebolrwydd yn bodloni gofynion atebolrwydd allweddol i’r senedd. Mae’r gofynion wedi’u seilio ar Ddeddf Cwmnïau 2006, fel y’i haddaswyd i’r sector cyhoeddus.

Mae’n ymgorffori’r materion y mae’n ofynnol ymdrin â nhw mewn adroddiad cyfarwyddwyr ac yn yr adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff, fel yr amlinellir ym Mhennod 6 y Ddeddf Cwmnïau. Mae’n ymdrin â materion fel cyflogau cyfarwyddwyr a thaliadau eraill, trefniadau llywodraethu a’r dystysgrif a’r adroddiad archwilio. Mae’r swyddog cyfrifyddu wedi ei lofnodi a rhoi’r dyddiad arno.

Mae’r adroddiad atebolrwydd yn cynnwys tair prif ran, sef:

  1. Adroddiad llywodraethu corfforaethol, sy’n ymdrin â strwythurau llywodraethu’r Awdurdod Glo a sut maen nhw’n helpu i gyflawni amcanion yr Awdurdod Glo.

  2. Adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff, sy’n cynnwys gwybodaeth am gydnabyddiaeth ariannol uwch reolwyr a datgeliadau eraill cysylltiedig â staff sy’n ofynnol gan y Ddeddf Cwmnïau a ffynonellau llywodraethol eraill.

  3. Adroddiad atebolrwydd ac archwilio seneddol, sy’n cynnwys datgeliadau ychwanegol sy’n ofynnol gan y senedd, a barn ar faterion fel rheoleidd-dra gwariant, ffïoedd a thaliadau a thueddiadau gwariant tymor hir. Mae’n cynnwys y dystysgrif a’r adroddiad archwilio.

2. Adroddiad llywodraethu corfforaethol

Mae’r adroddiad llywodraethu corfforaethol yn cynnwys tair prif ran, sef:

  1. Adroddiad y Cyfarwyddwyr, sy’n ymdrin ag amrywiaeth o ddatgeliadau statudol nad ydynt wedi’u hamlinellu mewn mannau eraill yn yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon.

  2. Datganiad o gyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu, sy’n amlinellu’n glir y cyfrifoldebau yr ymgymerir â nhw gan y swyddog cyfrifyddu enwebedig mewn perthynas â’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon, a’r sail ddeddfwriaethol iddynt.

  3. Datganiad llywodraethu, sy’n esbonio cyfansoddiad a threfniadaeth bwrdd a strwythurau llywodraethu’r Awdurdod Glo a sut maen nhw’n helpu i gyflawni amcanion yr Awdurdod Glo.

3. Adroddiad y Cyfarwyddwyr

Mae’r Awdurdod Glo yn cyflwyno ei adroddiad a’i ddatganiadau ariannol archwiliedig ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020. Mae’r cyfrifon wedi cael eu paratoi ar ffurf a gyfarwyddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol gyda chydsyniad Trysorlys EM yn unol â pharagraff 15(1)(b) Atodlen 1 Deddf y Diwydiant Glo 1994 (“y Ddeddf”). Rhoddodd y swyddog cyfrifyddu ganiatâd i gyhoeddi’r datganiadau ariannol hyn ar y dyddiad ardystio gan y Rheolwr a’r Archwilydd Cyffredinol.

3.1 Swyddogaethau, dyletswyddau a phwerau’r Awdurdod Glo

Amlinellwyd pwerau a swyddogaethau’r Awdurdod Glo mewn deddfwriaeth i ddechrau gan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 a Deddf Ymsuddiant 1991 (fel y’u diwygiwyd gan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994). Gwnaethom ymgymryd â’n swyddogaethau ar 31 Hydref 1994.

Mae’r swyddogaethau hyn yn ymwneud â’r diwydiant glo a rheoli buddiannau a etifeddwyd o Gorfforaeth Glo Prydain, trwyddedu gweithrediadau glofaol, ymdrin ag ymsuddiant glofaol a darparu gwybodaeth.

Mae Deddf 1994 wedi cael ei diwygio ymhellach gan ddeddfwriaeth ddilynol, gan gynnwys Deddf Dŵr 2003 a Deddf Gwasanaethau Dŵr (yr Alban) 2005. Mae hyn wedi ymestyn pwerau’r Awdurdod Glo i atal neu leihau effaith gollwng dŵr llygredig o bwll glo ar unrhyw dir neu i gyrsiau dŵr.

Ymestynnodd Deddf Ynni 2011 bwerau’r Awdurdod Glo i ddefnyddio ei arbenigedd mewn cyd-destunau eraill nad ydynt yn lofaol, gan gynnwys gweithredu i warchod ansawdd dŵr rhag effeithiau dŵr mwynglawdd llygredig sy’n gollwng o fwyngloddiau segur, fel sy’n ofynnol gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

3.2 Adolygu gweithrediadau

Mae adroddiad y prif weithredwr yn yr Adroddiad ar Berfformiad yn crynhoi ein gweithgareddau yn ystod y flwyddyn a’r rhagolwg ar gyfer y dyfodol.

3.3 Rheoli risg cyllid

Mae’r datganiad llywodraethu yn amlinellu’r strwythurau llywodraethu rydym wedi’u defnyddio i fonitro a rheoli risg ac ymagwedd y bwrdd at reoli risg. Mae hefyd yn amlygu ac yn trafod y risgiau sylweddol a’r mesurau lliniaru sydd ar waith. Mae gennym system gref o reolaeth ariannol a rheoli risg ariannol yn weithredol. Nid oes gennym unrhyw fenthyciadau ac rydym yn dibynnu ar gymorth grant ac incwm arall i ariannu ein gofynion arian parod.

Felly, mae ein hamlygrwydd i risg hylifedd, credyd a llif arian parod yn lleiafsymiol. Mae’r holl asedau a rhwymedigaethau mewn sterling, felly nid oes amlygrwydd i risg arian cyfred. Nid ydym yn dal unrhyw asedau y mae symudiadau cyfradd llog yn effeithio arnynt yn uniongyrchol ac nid ydym ychwaith yn ymwneud ag unrhyw gyfrifyddu ar sail rhagfantoli.

Rydym yn dal rhai eitemau ar y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol sy’n cael eu gostwng gan ddefnyddio cyfraddau a bennir gan Drysorlys EM, sef darpariaethau, yn benodol. Mae Trysorlys EM yn amrywio’r cyfraddau gostyngol hyn o bryd i’w gilydd, a fydd yn effeithio ar y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol a’r Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr. Mae hyn wedi cael effaith leiafsymiol yn 2019-20 (gostyngiad o £96 miliwn o gymharu â £2,634 miliwn yn 2018-19) fel y dangosir yn nodyn 13 i’r cyfrifon.

3.4 Datblygiadau yn y dyfodol

Mae ein datblygiadau a’n hamcanion ar gyfer y dyfodol wedi cael eu trafod mewn rhannau eraill o’r adroddiad blynyddol, gan gynnwys adroddiad y prif weithredwr ac adran risgiau strategol yr adroddiad ar berfformiad.

3.5 Gweithgareddau ymchwil a datblygu

Rydym yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau ymchwil a datblygu i wella effeithlonrwydd ein gweithrediadau ac, yn arbennig, i leihau cost net tymor hir trin dŵr mwynglawdd. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i ddefnyddiau ar gyfer ein sgil-gynhyrchion (er enghraifft, ocr haearn) a hyrwyddo’r defnydd o ddŵr mwynglawdd sy’n llifo trwy weithfeydd mwyngloddio segur fel ffynhonnell gwres geothermol ac ynni carbon isel.

3.6 Canghennau y tu allan i’r Deyrnas Unedig

Nid oes gennym unrhyw ganghennau y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

3.7 Rhoddion

Ni wnaethom unrhyw roddion gwleidyddol nac elusennol yn ystod y flwyddyn.

3.8 Cyfranogiad cyflogeion

Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â staff ar draws y busnes, fel yr amlinellir yn yr adran ‘Ein pobl’ yn yr adroddiad ar berfformiad.

3.9 Cyflogaeth

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac mae gennym bwyslais cryf ar amrywiaeth a chynhwysiant. Mae’r ymrwymiad hwn yn golygu bod penderfyniadau i benodi, gwobrwyo, hyfforddi, datblygu a dyrchafu yn cael eu gwneud ar sail sgiliau a galluoedd, gan gyfateb y rheiny i ofynion y swydd. Rydym yn cefnogi ac yn dathlu gwahaniaeth ac yn gweithio i ddenu, datblygu a chynnal gweithlu mwy amrywiol. Rydym yn gwneud cynnydd ond yn gwybod bod mwy i’w wneud.

Rydym yn ceisio denu a chadw cyflogeion o safon uchel. Rhoddir blaenoriaeth uchel i gyfleoedd ar gyfer hyfforddi i sicrhau bod pob aelod o staff yn gallu cyfrannu at ei ddatblygiad gyrfaol ei hun. Y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer y flwyddyn oedd
7.7 diwrnod o gymharu â 9.3 diwrnod yn 2018-19.

3.10 Pensiynau a buddion eraill ar ôl ymddeol

Mae cyflogeion blaenorol a phresennol sydd wedi dewis ymuno wedi’u cwmpasu gan ddarpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS), sy’n gynllun buddion diffiniedig amlgyflogwr heb ei ariannu. Rhoddir y polisi cyfrifyddu yn nodyn 1 i’r cyfrifon a darperir rhagor o wybodaeth am y cynllun yn yr adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff.

3.11 Data personol

Nid oedd unrhyw achosion o fynediad diawdurdod at ddata a oedd yn adroddadwy i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn ystod y flwyddyn. Mae’r datganiad llywodraethu’n rhoi rhagor o fanylion am ein gweithgareddau rheol risg gwybodaeth.

3.12 Tueddiadau gwariant tymor hir

Mae’r cyfarwyddwyr yn adolygu’r rhain yn rhan o’r adolygiad blynyddol o ddarpariaethau. Gweler nodyn 13 i’r cyfrifon.

3.13 Archwilwyr

Penodwyd y Rheolwr a’r Archwilydd Cyffredinol o dan Ddeddf Diwydiant Glo 1994 ac mae’n adrodd i’r senedd ar yr archwiliad. Y ffi archwilio oedd £55,000. Yn 2018-19, penodwyd yr archwilwyr allanol gan yr Awdurdod Glo hefyd i gynnal adolygiad annibynnol o gais am grant, y cawsant ffi ychwanegol o £5,500 amdano. Ni wnaed unrhyw waith ychwanegol o’r fath yn 2019-20.

3.14 Mynediad at wybodaeth a chwynion

A ninnau’n gorff cyhoeddus, mae’n ddyletswydd arnom i ateb ceisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIR).

Cawsom 70 o geisiadau (FOIA, EIR a Cheisiadau am Fynediad at Ddata gan y Gwrthrych) yn ystod y flwyddyn ac atebwyd pob un o fewn y terfynau amser a’r safonau a osodwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Ni aeth unrhyw gais ymlaen at apêl.

Cawsom 8 llythyr gan Aelodau Seneddol, 3 gan Aelodau Senedd yr Alban ac 1 gan Aelod o Senedd Cymru.

Cawsom 24 o gwynion gan aelodau’r cyhoedd a chwsmeriaid eraill. Ymdriniwyd â nhw o dan ein gweithdrefn gwyno ac fe’u datryswyd o fewn y sefydliad. Ni chyfeiriwyd yr un ohonynt at yr Ombwdsmon. Darllenwch ein gweithdrefn gwyno i gael rhagor o wybodaeth am ein safonau cwsmeriaid a sut i wneud cwyn.

4. Bwrdd y cyfarwyddwyr

4.1 Stephen Dingle, Cyfarwyddwr Anweithredol

  • fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr y Bwrdd o 1 Mai 2018 tan fis Ebrill 2011. Fe’i hailbenodwyd hyd at 31 Medi 2014

  • fe’i penodwyd yn Gadeirydd o 1 Ebrill 2013 tan 31 Mawrth 2017. Fe’i hailbenodwyd o 1 Ebrill 2017 tan 31 Mawrth 2020, ac ymestynnwyd y cyfnod hwnnw tan 31 Mawrth 2021

4.2 Gemma Pearce, Cyfarwyddwr Anweithredol

  • fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr y Bwrdd o 1 Ebrill 2016 tan 31 Mawrth 2019. Fe’i hailbenodwyd hyd at 31 Mawrth 2022

4.3 Steve Wilson, Cyfarwyddwr Anweithredol

  • fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr y Bwrdd o 1 Ebrill 2017 tan 31 Mawrth 2020. Fe’i hailbenodwyd hyd at 31 Mawrth 2023

4.4 Jayne Scott, Cyfarwyddwr Anweithredol

  • fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr y Bwrdd o 1 Ebrill 2019 tan 31 Mawrth 2022

4.5 Lisa Pinney MBE, Prif Weithredwr

  • fe’i penodwyd yn Brif Weithredwr o 1 Mehefin 2018

  • fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr y Bwrdd o 1 Mehefin 2018 tan 31 Mawrth 2020. Fe’i hailbenodwyd tan 31 Mawrth 2023

4.6 Paul Frammingham, Prif Swyddog Cyllid a Gwybodaeth

  • mynychodd y bwrdd o 6 Mai 2008 tan 31 Mawrth 2011

  • fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr y Bwrdd o 1 Ebrill 2011 tan 31 Mawrth 2014. Fe’i hailbenodwyd o 1 Ebrill 2014 tan 31 Mawrth 2017, yna o 1 Ebrill 2017 tan 31 Mawrth 2020 ac yna o 1 Ebrill 2020 tan 31 Mawrth 2023

4.7 Lisa Stanger (tan 31 Mawrth 2020), Cyfarwyddwr Strategaeth a Pherfformiad

  • mynychodd y bwrdd o 1 Awst 2011 tan 31 Mawrth 2017. Fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr y Bwrdd o 1 Ebrill 2017 tan 31 Mawrth 2020

4.8 Aelodau’r bwrdd a’u buddiannau

Nid oes gan unrhyw aelod o fwrdd yr Awdurdod Glo unrhyw fuddiant ariannol yn yr Awdurdod Glo. Cynhelir cofrestr buddiannau sydd ar gael i’r cyhoedd ei gweld yn ein swyddfeydd ym Mansfield neu ar-lein.

Nid oedd unrhyw drafodion parti cysylltiedig mewn perthynas ag aelodau’r bwrdd yn 2019-20.

5. Datganiad o gyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu

O dan baragraff 15(1)(b) Atodlen 1 Deddf Diwydiant Glo 1994, mae’r Ysgrifennydd Gwladol, gyda chydsyniad Trysorlys EM, wedi cyfarwyddo’r Awdurdod Glo i baratoi datganiad cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol ar y ffurf ac ar y sail a amlinellir yn y Cyfarwyddyd Cyfrifon.

Paratoir y cyfrifon ar sail croniadau ac mae’n rhaid iddynt roi darlun gwir a theg o gyflwr materion yr Awdurdod Glo a’i wariant net, ei sefyllfa ariannol, newidiadau i ecwiti trethdalwyr a llifoedd arian parod ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Wrth baratoi’r cyfrifon, mae’n ofynnol i’r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y llywodraeth ac, yn benodol:

  • dilyn y Cyfarwyddyd Cyfrifon a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu addas yn gyson

  • gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol

  • datgan p’un a ddilynwyd safonau cyfrifyddu perthnasol, fel y’u hamlinellir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y llywodraeth, a datgelu ac esbonio unrhyw wyriadau o bwys yn y datganiadau ariannol

  • paratoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol

  • cadarnhau bod yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol am yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon a’r dyfarniadau sy’n ofynnol i benderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy

Mae swyddog cyfrifyddu’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) wedi dynodi’r prif weithredwr yn swyddog cyfrifyddu’r Awdurdod Glo.

Mae cyfrifoldebau swyddog cyfrifyddu, gan gynnwys y cyfrifoldeb am briodoldeb a rheoleidd-dra’r cyllid cyhoeddus y mae’r swyddog cyfrifyddu’n atebol amdano, cadw cofnodion priodol a diogelu asedau’r Awdurdod Glo, wedi’u hamlinellu yn Rheoli Arian Cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM.

A minnau’n swyddog cyfrifyddu, rwyf wedi cymryd yr holl gamau y dylswn fod wedi’u cymryd i fod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol ac i gadarnhau bod archwilwyr yr Awdurdod Glo yn ymwybodol o’r wybodaeth honno. Hyd y gwn i, nid oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad yw’r archwilwyr yn ymwybodol ohoni.

6. Datganiad llywodraethu

Mae’r datganiad llywodraethu hwn yn amlinellu’r trefniadau llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth sydd ar waith i sicrhau bod amcanion yr Awdurdod Glo yn cael eu cyflawni. Mae’n dod i’r casgliad bod y rhain yn effeithiol ac yn parhau i ddatblygu er mwyn rheoli risgiau’r Awdurdod Glo fel y gallwn barhau i greu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.

6.1 Fframwaith llywodraethu’r Awdurdod Glo

Rydym wedi ymrwymo i safonau uchel o lywodraethu corfforaethol. Rydym yn gweithio o fewn dogfen fframwaith y mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yn ei hadolygu ac yn cytuno arni’n flynyddol. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu diben yr Awdurdod Glo, elfennau craidd y berthynas â BEIS, a’r fframwaith y byddwn yn gweithredu o’i fewn. Ni fu unrhyw newidiadau i’r fframwaith hon.

Mae gan yr Awdurdod Glo fframwaith llywodraethu sefydledig a ategir gan ddiwylliant sefydliadol priodol. Crynhoir hyn isod ac fe’i hesbonnir yn y datganiad hwn.

6.2 Y bwrdd a’i bwyllgorau

Bwrdd y cyfarwyddwyr

Drwy gydol 2019-20, roedd gan yr Awdurdod Glo 7 cyfarwyddwr (3 gweithredol a 4 anweithredol).

Caiff cyfarwyddwyr anweithredol eu recriwtio a’u penodi i’r bwrdd gan Ysgrifennydd Gwladol BEIS. Caiff cyfarwyddwyr gweithredol eu recriwtio i’w swyddi gan y bwrdd a’u penodi i’r bwrdd gan Ysgrifennydd Gwladol BEIS. Mae’r bwrdd yn gosod a chyfleu bwriad a chyfeiriad strategol, yn gwneud penderfyniadau strategol na ellir eu dirprwyo ac yn monitro a herio perfformiad busnes corfforaethol.

Dangosir aelodaeth a phresenoldeb y bwrdd a’i bwyllgorau isod:

Nifer y cyfarfodydd a fynychwyd gan y bwrdd; dangosir nifer y cyfarfodydd a gynhaliwyd mewn cromfachau.

Bwrdd (7) Archwilio (3) Adnoddau Dynol a Chydnabyddiaeth Ariannol (5) Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd (3)
Stephen Dingle, Cadeirydd y Bwrdd
(Cyfarwyddwr Anweithredol)
7 dd/b[footnote 1] 5 dd/b[footnote 1]
Gemma Pearce, Cadeirydd y pwyllgor Adnoddau Dynol a Chydnabyddiaeth Ariannol
(Cyfarwyddwr Anweithredol)
7 3 5 1
Steve Wilson, Cadeirydd y pwyllgor Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd
(Cyfarwyddwr Anweithredol)
7 3 5 3
Jayne Scott, Cadeirydd y pwyllgor Archwilio
(Cyfarwyddwr Anweithredol)
7 3 5 1
Lisa Pinney, Prif Weithredwr
(Cyfarwyddwr Gweithredol)
7 3 5 2
Paul Frammingham, Prif Swyddog Cyllid a Gwybodaeth
(Cyfarwyddwr Gweithredol)
7 3 2 dd/b[footnote 1]
Lisa Stanger, Cyfarwyddwr Strategaeth a Pherfformiad
(Cyfarwyddwr Gweithredol)
4 dd/b[footnote 1] 2 dd/b[footnote 1]

Mae’r cyfarwyddwr masnachol, y cyfarwyddwr gweithrediadau a’r pennaeth cyfreithiol a llywodraethu yn mynychu cyfarfodydd y bwrdd trwy wahoddiad. Mae uwch reolwyr eraill yn mynychu cyfarfodydd y bwrdd i gyflwyno papurau ac ymuno â thrafodaethau strategol ac ar gyfer cyfleoedd dysgu a datblygu.

Roedd cyfarfodydd y bwrdd ar agor i aelodau’r cyhoedd a’r cyfryngau, ac eithrio pan drafodwyd eitemau o gyfrinachedd masnachol. Mae agendâu a dyddiadau ei gyfarfodydd ar gael ar ein gwefan.

Gweler ein tudalen we ‘Ein trefniadau llywodraethu’ i gael rhagor o wybodaeth am ein cyfarfodydd bwrdd

Perfformiad y bwrdd

Cydymffurfio â’r cod llywodraethu corfforaethol

Rydym yn cydymffurfio â’r cod llywodraethu corfforaethol yn adrannau’r llywodraeth ganolog a chanllawiau’r llywodraeth i’r graddau eu bod yn berthnasol ac yn ymarferol i gorff hyd braich o’n maint a’n cymhlethdod ni. Yn unol â’n Dogfen Fframwaith BEIS:

  • mae’r bwrdd yn monitro perfformiad yr Awdurdod Glo mewn modd effeithiol, gan gynnwys trwy gyflawni rôl weithredol wrth reoli’r berthynas â rhanddeiliaid

  • mae’r bwrdd yn herio’n adeiladol ac yn helpu i ddatblygu strategaeth, a gefnogir gan arweinyddiaeth effeithiol y cadeirydd sy’n goruchwylio trafodaethau a dadleuon o safon uchel mewn cyfarfodydd

  • i’w helpu i wneud penderfyniadau, mae’r bwrdd yn cael gwybodaeth gywir, brydlon a chlir sy’n gryno ac yn addas i’r diben, gan gynnwys diweddariadau mynych ar sefyllfa ariannol, rhagolygon a chyflawniadau’r Awdurdod Glo yn erbyn amcanion corfforaethol

  • mae’r bwrdd yn sicrhau bod asesiad cytbwys a rhesymol o berfformiad yn cael ei adrodd i BEIS ac mae’n trafod y prif risgiau sy’n wynebu’r Awdurdod Glo yn rheolaidd. Trwy ei bwyllgorau archwilio, mae’r bwrdd yn cynnal systemau rheoli risg a rheolaeth fewnol cadarn

  • mae’r bwrdd yn adolygu trefniadau llywodraethu’r Awdurdod Glo bob blwyddyn, gan gynnwys y cylch gorchwyl ar gyfer ei is-bwyllgorau

  • mae gan y bwrdd gydbwysedd priodol o sgiliau a phrofiad i’w alluogi i gyflawni ei gyfrifoldebau’n effeithiol

  • mae’r pwyllgor Adnoddau Dynol a Chydnabyddiaeth Ariannol yn cytuno ar gydnabyddiaeth ariannol swyddogion gweithredol o fewn y canllawiau a osodir gan Drysorlys EM a BEIS. Mae cydnabyddiaeth ariannol swyddogion anweithredol yn cael ei gosod gan BEIS a’i hadolygu’n flynyddol

Adolygiad o berfformiad ac effeithiolrwydd y bwrdd

Mae’r bwrdd yn gwerthuso ei berfformiad ei hun a pherfformiad ei gyfarwyddwyr yn rheolaidd. Mae perfformiad pob aelod o’r bwrdd yn cael ei arfarnu’n flynyddol.

Mae’r bwrdd yn ymgymryd â sesiynau datblygu rheolaidd y tu allan i gyfarfodydd ffurfiol y bwrdd i fyfyrio ar agweddau allweddol ar ei waith. Mae aelodau’r bwrdd yn ymweld â safleoedd yn rheolaidd i weld gwaith yr Awdurdod Glo drostynt eu hunain ac, yn ystod mis Mai 2019, ymwelodd y bwrdd â Chamlas Bridgewater, y mae’r Awdurdod Glo yn gyfrifol am gynnal a chadw rhan ohoni. Ym mis Tachwedd 2019, cymerodd y bwrdd ran mewn gweithdy risg i adolygu parodrwydd y bwrdd i dderbyn risg, ac ym mis Rhagfyr 2019 cynhaliodd y bwrdd ddiwrnod strategaeth i adolygu cynnydd yn unol â’i gynllun busnes ac adolygu blaenoriaethau strategol y sefydliad.

Ymgymerodd y bwrdd â sesiwn werthuso a hwyluswyd yn allanol yn ystod mis Ionawr 2020 i gynyddu ei ddealltwriaeth o ddewisiadau gwaith aelodau unigol y bwrdd er mwyn hwyluso gwaith tîm mwy effeithiol fyth, a deall cryfderau cyfunol y bwrdd a’i feysydd i’w datblygu.

Mae’r bwrdd o’r farn ei fod wedi cyflawni ei amcanion yn sylweddol a’i fod wedi parhau i weithredu’n effeithiol yn ystod 2019-20. Mae’r bwrdd o’r farn bod adolygu ei berfformiad a’i amcanion yn rheolaidd yn werth chweil, ac mae’n parhau i adolygu’r rhain i sicrhau eu bod yn aros yn gyfredol.

Pwyllgorau’r bwrdd

Cefnogir y bwrdd gan ei bwyllgorau, fel yr amlinellir isod:

Pwyllgor archwilio

Mae aelodau pwyllgor archwilio’r Awdurdod Glo yn cynnwys yr holl gyfarwyddwyr anweithredol heblaw am gadeirydd y bwrdd. Mae’r prif weithredwr, y prif swyddog cyllid a gwybodaeth a’r pennaeth cyllid yn mynychu cyfarfodydd trwy wahoddiad. Mae uwch reolwyr eraill yn mynychu cyfarfodydd y pwyllgor archwilio i gyflwyno papurau ac ymuno â thrafodaethau. Yn ystod 2019-20, cadeiriwyd y pwyllgor archwilio gan Jayne Scott.

Mae’r pwyllgor yn sicrhau ein bod yn gweithredu systemau rheoli risg a rheolaeth effeithiol ac integredig fel bod y lefel sicrwydd gyffredinol yn ddigonol. Mae’n adolygu strategaeth a chanlyniadau archwilio allanol, yn argymell cymeradwyo’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon, ac yn goruchwylio’r swyddogaeth archwilio mewnol a ddarperir gan Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth (GIAA). Cyfarfu’r pwyllgor 3 gwaith yn ystod y flwyddyn.

Yn ystod y flwyddyn, gwnaeth y pwyllgor archwilio:

  • gynnal pwyslais ar wella prosesau rheoli risg yn barhaus, gan gynnwys mapio sicrwydd a chymhwyso parodrwydd i dderbyn risg

  • cefnogi’r broses o gynhyrchu strategaeth atal twyll yr Awdurdod Glo

  • parhau i ganolbwyntio ar risg adroddiadau ariannol ac adolygu ein polisïau cyfrifyddu, gan gynnwys adolygu dyfarniadau o bwys a wnaed wrth baratoi’r cyfrifon a thybiaethau sy’n sail i’n balans darpariaethau

  • asesu’r amgylchedd rheoli cyffredinol ar gyfer adrodd i’r bwrdd a’r swyddog cyfrifyddu

  • adolygu gwaith archwilio mewnol arall a wnaed gan GIAA, gan gynnwys: rheoli contractau, prosesau’r tîm datblygu, prosesau cyllid ac Adnoddau Dynol byd-eang, cynllunio ariannol a rhagolygon ariannol, y fframwaith llywodraethu, mapio sicrwydd

Yn unol â’r flwyddyn flaenorol, roedd y farn archwilio mewnol ar gyfer 2019-20 yn cynnig lefel ‘sylweddol’ o sicrwydd ynglŷn â digonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, trefniadau rheoli risg a rheolaethau mewnol y sefydliad. Mae hyn yn dilyn cyfres o adolygiadau archwilio mewnol cryf yn ystod y flwyddyn.

Ni amlygodd archwiliadau mewnol unrhyw ganfyddiadau o bwys yn ystod y flwyddyn, ac mae argymhellion i wella rheolaethau mewn meysydd penodol wedi cael eu mabwysiadu fel y bo’n briodol.

Y pwyllgor Adnoddau Dynol (AD) a Chydnabyddiaeth Ariannol

Mae aelodaeth y pwyllgor AD a Chydnabyddiaeth Ariannol yn cynnwys y 4 cyfarwyddwr anweithredol a’r prif weithredwr. Cadeirir y pwyllgor gan Gemma Pearce.

Mae’r cyfarwyddwr strategaeth a pherfformiad, ac aelodau eraill o’r tîm arweinyddiaeth weithredol, yn mynychu cyfarfodydd trwy wahoddiad.

Yn ystod y flwyddyn, cyfunwyd y timau AD a dysgu a datblygu i ffurfio un tîm cyfunol, sef Pobl a Datblygu Sefydliadol. Cyn hynny, ymunodd y pennaeth AD a’r pennaeth dysgu a datblygu, ynghyd â’r uwch bartner busnes AD, â chyfarfodydd trwy wahoddiad. O fis Mawrth 2020 ymlaen, bydd y Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol a’r uwch bartner busnes AD yn mynychu cyfarfodydd y pwyllgor trwy wahoddiad.

Mae’r pwyllgor AD a Chydnabyddiaeth Ariannol wedi cyfarfod 5 gwaith yn ystod y flwyddyn ac wedi parhau i gynorthwyo’r Awdurdod Glo i wella gallu’r sefydliad i fodloni gofynion busnes yn y dyfodol.

Yn ystod y flwyddyn, gwnaeth y pwyllgor:

  • gynorthwyo i lansio ein rhaglen ddysgu ‘Datblygiad i Bawb’, a oedd yn cynnwys y garfan gyntaf ar gyfer datblygu arweinyddiaeth, a lansiwyd ym mis Mai 2019

  • adolygu a chefnogi ein harolwg ymgysylltu â phobl, a ddangosodd lefel uchel o ymgysylltiad ac a amlygodd feysydd i’w dathlu a meysydd i’w datblygu ymhellach

  • cynghori ar ymagwedd yr Awdurdod Glo at fabwysiadu system cyflogau a gwobrwyo newydd i sicrhau ei bod yn cydymffurfio â chanllawiau’r Gwasanaeth Sifil ar gyflogau

  • adolygu data am y gweithlu a’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a thrafod arfer da a’r ymyriadau sy’n cael eu rhoi ar waith a fydd yn cefnogi cymysgedd sgiliau mwy cynaliadwy a gweithlu amrywiol

  • adolygu a chefnogi’r cynnydd a’r ymrwymiad parhaus i hyrwyddo ein hagenda cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn yr Awdurdod Glo

  • gwneud sylwadau ar yr adolygiad o strwythur ein timau AD a dysgu a datblygu i ffurfio un tîm cyfunol, sef Pobl a Datblygu Sefydliadol

Pwyllgor Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd

Cadeirir y Pwyllgor Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd gan Steve Wilson. Mae aelodaeth y pwyllgor yn cynnwys y prif weithredwr, y cyfarwyddwr gweithrediadau, pennaeth yr amgylchedd, y pennaeth diogelwch cyhoeddus ac ymsuddiant a’r pennaeth diogelwch, iechyd a’r amgylchedd.

Ei brif gyfrifoldebau yw arwain strategaeth diogelwch, iechyd a’r amgylchedd a chynaliadwyedd yr Awdurdod Glo, sicrhau bod diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaol wedi’i ymwreiddio yn y sefydliad drwyddo draw a chynghori’r bwrdd ar faterion diogelwch, iechyd a’r amgylchedd i gefnogi’r cynllun busnes. Mae’r pwyllgor hefyd yn goruchwylio gwaith yr Awdurdod Glo ar les cyflogeion.

Mae’r pwyllgor wedi cyfarfod 3 gwaith yn ystod y flwyddyn ac mae wedi:

  • cefnogi datblygiad strategaeth gynaliadwyedd yr Awdurdod Glo

  • monitro cynnydd yn unol â’r arolwg a’r cynllun gweithredu hinsawdd ddiogelwch

  • gwneud sylwadau ar y strategaeth a’r cynllun gweithredu iechyd meddwl a lles

  • adolygu ymagwedd strategol yr Awdurdod Glo at nwy mwynglawdd

6.3 Rheoli perfformiad – y tîm arweinyddiaeth weithredol

Mae’r tîm arweinyddiaeth weithredol yn cynnwys y prif weithredwr, y prif swyddog cyllid a gwybodaeth, y cyfarwyddwr strategaeth a pherfformiad, y cyfarwyddwr gweithrediadau, y cyfarwyddwr masnachol a’r pennaeth cyfreithiol a llywodraethu, sydd oll yn adrodd yn uniongyrchol i’r prif weithredwr. Mae pob aelod o’r tîm arweinyddiaeth weithredol yn gyfrifol am arweinyddiaeth a chyflawniad ei gyfarwyddiaeth, ond maen nhw hefyd yn gyfrifol, gyda’i gilydd, am arweinyddiaeth a chyflawniad ar draws y sefydliad.

Mae’r tîm arweinyddiaeth weithredol yn cyfarfod yn ffurfiol ddwywaith y mis, fel arfer. Mae un cyfarfod yn canolbwyntio ar faterion busnes arferol ac mae gan un cyfarfod bwyslais strategol. Ymunwyd â nhw gan 2 bennaeth adran a fynychodd y cyfarfodydd fel cyfle datblygu ar rota 6 misol.

Mae gan y cyfarfodydd hyn agenda dreigl ffurfiol sy’n ystyried pob agwedd ar waith y sefydliad. Yn ogystal, mae’r cyfarfod yn ystyried adroddiad diweddariad misol y prif weithredwr sy’n darparu lefel uchel o oruchwyliaeth ar sut mae’r busnes yn cyflawni yn ei gyfanrwydd. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys:

  • diweddariadau gan bob cyfarwyddiaeth

  • adolygiad o gynnydd yn erbyn cerdyn sgorio cytbwys yr Awdurdod Glo

  • adroddiad crynodeb ariannol

  • adolygiad o symudiadau yn erbyn risgiau corfforaethol yr Awdurdod Glo

6.4 Rheolaeth ariannol

Mae gan yr Awdurdod Glo system reolaeth ariannol gref wedi’i seilio ar lefelau awdurdod dirprwyedig a ddiffiniwyd yn dda a fframwaith cyllidebol eglur. Mae’r system hon yn parhau i fod yn effeithiol ac ni nodwyd unrhyw faterion rheoli o bwys gan archwiliad mewnol nac allanol yn ystod y flwyddyn.

Mae materion a gadwyd ar gyfer y bwrdd wedi’u hamlinellu’n glir yn y fframwaith rheolaeth strategol ac mae canllawiau manwl pellach ynglŷn â pholisïau, gweithdrefnau a lefelau awdurdod dirprwyedig wedi’u cyhoeddi ac ar gael i’r staff. Mae’r bwrdd wedi cytuno ar fersiwn newydd symlach o’r fframwaith rheolaeth strategol sy’n cynnwys mwy o ddirprwyaeth ariannol i reolwyr. Mae gwaith yn parhau i symleiddio ac egluro rhai o’n dogfennau a’n prosesau.

Mae’r bwrdd buddsoddi a chyfleoedd yn rhan allweddol o’n fframwaith rheolaethau ariannol ac mae ganddo awdurdod dirprwyedig gan y prif weithredwr i gymeradwyo gwariant cyfalaf, rhaglenni allweddol, prosiectau a chyfleoedd masnachol, ar yr amod:

  • eu bod yn unol â strategaeth yr Awdurdod Glo, fel y’i hamlinellir yn ei gynllun busnes 5 mlynedd a gytunwyd gan y bwrdd

  • eu bod o fewn parodrwydd y bwrdd i dderbyn risg

  • nad ydynt yn faterion sydd wedi’u neilltuo i un o adrannau’r llywodraeth

  • eu bod yn cyd-fynd â chanllawiau eraill y llywodraeth sy’n berthnasol i’r Awdurdod Glo

Pan fydd rhaglenni a phrosiectau wedi cael eu cytuno gan y bwrdd buddsoddi a chyfleoedd, cânt eu darparu a’u goruchwylio gan fwrdd rhaglen perthnasol ac mae’r bwrdd buddsoddi a chyfleoedd yn cael diweddariadau rheolaidd ac yn darparu goruchwyliaeth bellach fel y bo’r angen.

6.5 Rheoli risgiau

Dulliau rheoli a diwylliant risg sydd wedi’u hymsefydlu

Rydym wedi gwneud cynnydd da wrth ailwampio ein prosesau parodrwydd i dderbyn risg a sicrwydd risg drwy gydol y flwyddyn. Mae’r cynnydd yn cynnwys dylunio Fframwaith Rheoli a Sicrhau Risgiau (RMAF) newydd. Trafodir a rheolir risgiau trwy’r sefydliad, a bydd gweithredu ein RMAF yn hwyluso hyn ymhellach.

Mae tystiolaeth o’n dulliau rheoli a’n diwylliant risg sydd wedi’u hymsefydlu yn cynnwys:

  • pwyslais y bwrdd ar strategaeth

  • gweithdy parodrwydd i dderbyn risg y bwrdd a gwaith parhaus i gyfleu hyn yn glir

  • rhyngweithio parhaus rhwng ein rheolwyr ac aelodau’r bwrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth o risgiau

  • cofrestr risgiau sy’n gyfredol, yn cael ei gymeradwyo gan reolwyr bob tri mis ac yn destun archwiliad cyfnodol gan y pwyllgor archwilio, y tîm arweinyddiaeth weithredol a’r tîm busnes

  • pwyslais parhaus y tîm arweinyddiaeth weithredol ar faterion strategol a risgiau allweddol yn ymwneud â diwylliant, capasiti a chymhwysedd ein sefydliad

  • y bwrdd buddsoddi a chyfleoedd, fel yr amlinellir uchod

  • mae achosion busnes yn cynnwys gwybodaeth am barodrwydd i dderbyn risg

Sicrwydd gwybodaeth a seiberddiogelwch

Nid yw’r Awdurdod Glo yn dal gwybodaeth dra chyfrinachol na chyfrinachol, ac mae’r risg gwybodaeth gynhenid i’r llywodraeth trwy’r Awdurdod Glo yn gymharol isel. Mae’r uwch berchennog risg gwybodaeth (y prif swyddog cyllid a gwybodaeth) yn aelod o’r bwrdd ac yn sicrhau bod rheolaethau cymesur yn cael eu rhoi ar waith i reoli risg gwybodaeth yn unol â pharodrwydd y bwrdd i dderbyn risg.

Mae gennym bolisïau priodol ar gyfer asesu risgiau, rheoli risg gwybodaeth a diogelu data, yn ogystal â chofrestr asedau gwybodaeth. Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi cynnal ystod o ymgyrchoedd a gweithgareddau sydd wedi parhau i wella ymwybyddiaeth o ddiogelwch gwybodaeth a gwella dealltwriaeth ein staff o risgiau trwy gyflwyno camau syml i reoli’r pynciau hyn. Rydym wedi parhau i wella ein rheolaethau technegol ac mae strategaeth diogelwch technegol o gryfder trwy ddyfnder wedi bod yn effeithiol wrth atal bygythiadau.

Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw achosion arwyddocaol o dorri diogelwch neu bolisïau neu golli gwybodaeth bersonol a ddiogelir yn ystod y flwyddyn.

Asesu risgiau

Amlinellir y risgiau allweddol y bydd angen i ni eu rheoli i gyflawni ein cynlluniau yn yr adran risgiau strategol o’r adroddiad ar berfformiad.

Rydym yn parhau i reoli’r risgiau hyn yn ofalus. Rhoddir esboniad pellach o’r risgiau a’r mesurau rheoli yn yr adroddiad ar berfformiad.

Nid ydym yn ceisio dileu risgiau na dilyn cyfleoedd heb sicrhau bod risgiau’n cael eu hystyried a’u rheoli. Mae cyfeirio’n benodol at ein parodrwydd i dderbyn risg yn caniatáu i ni ddefnyddio iaith gyffredin ar draws yr Awdurdod Glo a datblygu fframwaith sy’n galluogi rheolwyr i wneud penderfyniadau hyderus ar sail risgiau.

Mae’n ofynnol i’r parodrwydd i dderbyn risg gael ei nodi ym mhapurau’r bwrdd a’r bwrdd buddsoddi a chyfleoedd. Mae deall y cysyniad o barodrwydd i dderbyn risg yn parhau i gael ei hyrwyddo trwy hyfforddi a sgyrsiau byw, amser real gyda rheolwyr.

6.6 Adolygiad wedi’i deilwra

Yn 2017, yr Awdurdod Glo oedd un o’r cyrff hyd braich cyntaf i gymryd rhan yn adolygiad wedi’i deilwra gan Swyddfa’r Cabinet. Daeth yr adolygiad i’r casgliad:

  • bod ‘rhesymau clir a darbwyllol pam y dylai’r swyddogaethau a gyflawnir gan yr Awdurdod Glo barhau i gael eu darparu’

  • bod yr Awdurdod Glo ‘wedi ymrwymo i safonau uchel o lywodraethu corfforaethol a’i fod wedi sefydlu fframwaith llywodraethu a ategir gan strwythur sefydliadol priodol’

  • bod gan yr Awdurdod Glo, fel canolbwynt arbenigedd, y potensial i ddarparu gwerth i nifer o feysydd ar draws y llywodraeth

Gwnaeth yr adolygiad nifer fach o argymhellion ac mae’r Awdurdod Glo wedi gwneud cynnydd da yn unol â phob un o’r rhain.

6.7 Gwrth-lwgrwobrwyo, gwrth-lygredd a chwythu’r chwiban

Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd tryloyw ac mae gennym bolisïau gwrth-dwyll (sy’n cynnwys llwgrwobrwyo a llygredd) a chwythu’r chwiban clir. Mae pob polisi’n rhoi arweiniad i’r staff a thynnir sylw atynt yn rhan o’r broses sefydlu. Adolygir y ddau bolisi’n flynyddol i sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn eglur, ac yna rhoddir brîff i’r staff arnynt ac fe’u cyhoeddir ar ein mewnrwyd.

Mae asesu gweithgarwch ac adborth yn cadarnhau y deëllir y polisïau’n dda a’u bod yn effeithiol ac yn hawdd eu defnyddio. Mae’r bwrdd wedi ymrwymo’n arbennig i sicrhau bod staff yn teimlo eu bod wedi’u grymuso, eu cefnogi a’u diogelu os bydd angen iddynt fynegi unrhyw bryderon.

6.8 COVID-19

Tua diwedd mis Mawrth 2020, cyhoeddodd y llywodraeth fesurau i reoli lledaeniad y feirws COVID-19. Cychwynnodd yr Awdurdod Glo ei gynllun parhad busnes a symudodd i weithio o gartref ar unwaith.

Sefydlwyd uwch dîm rheoli yn cynnwys y tîm arweinyddiaeth weithredol a phenaethiaid adrannau allweddol eraill i reoli ymateb yr Awdurdod Glo. Rhoddwyd pwyslais ar flaenoriaethu gweithgareddau rheng flaen, lles staff a chyfathrebu. Arhosodd systemau a phrosesau llywodraethu yn effeithiol ac mae gweithgareddau allweddol yr Awdurdod Glo wedi parhau drwy gydol y cyfnod.

6.9 Gwella’r amgylchedd rheoli’n barhaus

Yn 2019-20, gwnaethom barhau i adolygu ein prosesau llywodraethu corfforaethol i sicrhau eu bod yn dryloyw, yn hawdd eu defnyddio ac yn addas i’r diben. Fel yr amlinellwyd yn flaenorol, rydym wedi datblygu fframwaith newydd symlach o reolaeth strategol, wedi dylunio fframwaith rheoli a sicrhau risg newydd ac wedi ysgrifennu ein strategaeth wrth-dwyll. Mae pob un wedi cael adborth cadarnhaol gan y pwyllgor archwilio ac archwilwyr mewnol a byddant yn cael eu datblygu a’u hymsefydlu ar draws y sefydliad yn ystod 2020-21. Bydd y gwelliannau hyn yn darparu fframwaith rheoli effeithlon sy’n briodol i sefydliad cynyddol amrywiol sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid.

Byddwn yn parhau i adolygu ac esblygu ein hamgylchedd rheoli i sicrhau ei fod yn aros yn gymesur ac yn effeithiol wrth i’r amgylchedd allanol a’n sefydliad barhau i newid.

6.10 Effeithiolrwydd yr amgylchedd rheoli

Mae’r system llywodraethu a rheoli risg wedi’i dylunio i reoli risg i lefel resymol yn hytrach na dileu pob risg o fethiant i gyflawni polisïau, nodau ac amcanion. Felly, gall roi sicrwydd rhesymol yn unig o effeithiolrwydd yn hytrach na sicrwydd llwyr.

Mae’r system rheolaeth fewnol wedi bod ar waith yn yr Awdurdod Glo ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020 ac, fel y dangoswyd, hyd at ddyddiad cymeradwyo’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon, yn unol â chanllawiau Trysorlys EM.

Yn seiliedig ar holl elfennau fframwaith llywodraethu’r Awdurdod Glo, rwyf yn fodlon bod trefniadau llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol yr Awdurdod Glo yn parhau i fod yn gymesur, yn addas i’r diben ac yn gweithio fel y bwriadwyd.

7. Adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff

7.1 Cyflwyniad

Paratowyd yr adroddiad hwn yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y llywodraeth. Gwneir yr adroddiad gan y swyddog cyfrifyddu ar ran y bwrdd ar sail argymhellion y pwyllgor Adnoddau Dynol a Chydnabyddiaeth Ariannol. Yn rhan o’r adroddiad atebolrwydd, mae’r adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff yn rhoi gwybodaeth allweddol ynglŷn â chyflogau a thaliadau eraill, unrhyw daliadau ymadael neu ddyfarniadau eraill o bwys i uwch reolwyr presennol neu flaenorol. Mae hefyd yn cynnwys polisïau penodol ar gyflogau a materion ehangach, a datgeliad statudol yn ymwneud â materion fel cyflog teg a chyflogi oddi ar y gyflogres.

Mae’r tablau a’r adrannau canlynol yn yr adroddiad hwn yn destun archwiliad:

  • cydnabyddiaeth ariannol cyfarwyddwyr anweithredol

  • cydnabyddiaeth ariannol cyfarwyddwyr gweithredol

  • hawliadau pensiwn cyfarwyddwyr gweithredol

  • nifer gyfartalog yr unigolion a gyflogir

  • costau staff a chostau cysylltiedig

  • adrodd am gynlluniau’r gwasanaeth sifil a chynlluniau iawndal eraill

  • lluosrifau cyflogau

7.2 Y pwyllgor Adnoddau Dynol a Chydnabyddiaeth Ariannol

Fel yr esboniwyd yn y datganiad llywodraethu, mae gan yr Awdurdod Glo bwyllgor Adnoddau Dynol (AD) a Chydnabyddiaeth Ariannol sefydledig. Mae’r pwyllgor hwn yn penderfynu ar y strategaeth cyflogau a gwobrwyon ar gyfer holl staff yr Awdurdod Glo, a’i hadolygu’n barhaus, ac mae’n cymeradwyo egwyddorion y cylch gorchwyl cyflogau i’w gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS). Mae cylch gorchwyl y pwyllgor yn pennu na chaiff y prif weithredwr fod yn bresennol pan ystyrir ei gydnabyddiaeth ariannol a’i amodau cyflogaeth.

7.3 Polisi cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer y cyfarwyddwyr gweithredol

Mae cydnabyddiaeth ariannol cyfarwyddwyr gweithredol yn dilyn canllawiau’r uwch wasanaeth sifil. Mae’r pwyllgor AD a Chydnabyddiaeth Ariannol yn adolygu ac yn gwneud argymhellion ynglŷn â chydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwyr gweithredol, gan gynnwys y prif weithredwr, a bennir yn ffurfiol gan BEIS. Dilynodd y pwyllgor ganllawiau’r uwch wasanaeth sifil a dyfarnodd gynnydd o 1.9% ar gyfartaledd i gyflogau cyfarwyddwyr gweithredol o 1 Ebrill 2019.

7.4 Adolygiadau datblygu perfformiad

Mae’r cyfarwyddwyr gweithredol yn cymryd rhan yn ein proses adolygiadau datblygu perfformiad. Mae’r prif weithredwr a’r cadeirydd yn gwneud asesiadau unigol ac fe’u hadolygir gan y pwyllgor AD a Chydnabyddiaeth Ariannol. Mae arfarnu perfformiad unigol wedi’i seilio ar gyflawni amcanion ac ymddygiadau diffiniedig sy’n cael eu hasesu yn unol â 4 sgôr perfformiad.

7.5 Tâl cysylltiedig â pherfformiad (PRP)

Mae tâl cysylltiedig â pherfformiad yn anghytundebol ac yn amhensiynadwy, ac mae’n amodol ar gymeradwyaeth flynyddol gan BEIS trwy’r broses cylch gorchwyl cyflogau. Cymeradwywyd y cylch gorchwyl cyflogau ar gyfer 2019-20 gan BEIS ym mis Ionawr 2020.

Enillir tâl cysylltiedig â pherfformiad ar sail dyfarniad corfforaethol, sy’n adlewyrchu perfformiad corfforaethol ac unigol yn erbyn amcanion. Aseswyd perfformiad corfforaethol ar gyfer 2019-20 gan y bwrdd ar 100% a thalwyd tâl cysylltiedig â pherfformiad yn unol â hynny.

7.6 Rheoliadau’r Undebau Llafur (Gofynion Cyhoeddi Amser Cyfleuster)

O dan y rheoliadau uchod, mae’n ofynnol i’r Awdurdod Glo roi manylion amser undebau llafur. Ar gyfer 2019-20, nid oes unrhyw weithgarwch i’w adrodd.

7.7 Contractau cyfarwyddwyr gweithredol

Ein polisi yw y dylai cyfarwyddwyr gweithredol gael contractau cyflogaeth gyda thymor amhenodol sy’n darparu ar gyfer 6 mis o rybudd.

Dangosir manylion contractau cyflogaeth y cyfarwyddwyr gweithredol isod:

Lisa Pinney MBE

Dyddiad gwasanaeth parhaus:

  • 1 Mehefin 2018

Hawl i gyfnod rhybudd:

  • 6 mis

Paul Frammingham

Dyddiad gwasanaeth parhaus:

  • 6 Mai 2008

Hawl i gyfnod rhybudd:

  • 6 mis

Lisa Stanger [footnote 2]

Dyddiad gwasanaeth parhaus:

  • 1 Ebrill 2010

Hawl i gyfnod rhybudd:

  • 6 mis

Mae’n ofynnol i’r prif weithredwr roi 6 mis o rybudd, ac mae’n ofynnol i’r cyfarwyddwyr gweithredol sy’n weddill roi 3 mis o rybudd.

7.8 Cydnabyddiaeth ariannol cyfarwyddwyr anweithredol

Ers mis Gorffennaf 2016, penodwyd cyfarwyddwyr anweithredol gan BEIS. Rhwng mis Hydref 2008 a mis Mehefin 2016, fe’u penodwyd gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) yn unol â’r Cod Ymarfer a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. BEIS sy’n penderfynu ar eu telerau cyflogaeth a’u cydnabyddiaeth ariannol bellach. Nid ydynt yn gymwys i gymryd rhan yn y cynlluniau pensiwn nac i gael tâl cysylltiedig â pherfformiad.

Dangosir y ffïoedd a dalwyd i’r cyfarwyddwyr anweithredol isod:

Dyddiad diwedd y contract 2019-20
£
2018-19
£
Stephen Dingle 31 Mawrth 2021 27,050 27,050
Gemma Pearce 31 Mawrth 2022 11,666 11,666
Steve Wilson 31 Mawrth 2023 11,666 11,666
Jayne Scott 31 Mawrth 2022 11,666 2,917

7.9 Cydnabyddiaeth ariannol cyfarwyddwyr gweithredol

2019-20
Cyflog £000
2018-19
Cyflog £000
2019-20
Lwfans £000
2018-19
Lwfans £000
2019-20
PRP £000
2018-19
PRP £000
2019-20
Buddion pensiwn £000
2018-19
Buddion pensiwn £000
2019-20
Cyfanswm £000
2018-19
Cyfanswm £000
Lisa Pinney MBE [footnote 3] 135-140 110-115 - 5-10 15-20 0-5 53 45 205-210 170-175
Paul Frammingham 90-95 90-95 10-15 10-15 10-15 5-10 38 37 155-160 150-155
Lisa Stanger [footnote 4] 150-155 80-85 15-20 10-15 - 5-10 35 34 205-210 135-140
Philip Lawrence [footnote 5] [footnote 6] - 20-25 - 0-5 - - - 29 - 50-55
Simon Reed [footnote 5] - 30-35 - 0-5 - - - 2 - 35-40

Mae cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwyr gweithredol yn cynnwys cyflog, tâl cysylltiedig â pherfformiad anghyfunol a enillwyd yn ystod y flwyddyn o dan y broses adolygiadau datblygu perfformiad (anghytundebol), lwfansau penodol a gwerth buddion pensiwn sydd wedi cronni yn ystod y flwyddyn.

Mae lwfansau’n cynnwys lwfansau ceir yn y ddwy flynedd ar gyfer pob cyfarwyddwr, heblaw am Lisa Pinney, ac:

  • yn 2019-20, lwfansau cyfrifoldeb ar gyfer Paul Frammingham a Lisa Stanger

  • yn 2018-19, lwfansau cyfrifoldeb ar gyfer Paul Frammingham, Lisa Stanger a lwfans cadw ar gyfer Simon Reed

Mae tâl cysylltiedig â pherfformiad wedi’i seilio ar lefelau perfformiad a gyrhaeddwyd ac fe’i gwneir yn rhan o’r broses adolygu perfformiad. Mae tâl cysylltiedig â pherfformiad yn ymwneud â pherfformiad yn ystod y flwyddyn pan ddaw’n daladwy i’r unigolyn.

Rydym hefyd yn cymryd rhan mewn cynllun beicio i’r gwaith a gymeradwywyd gan HMRC. Mae Paul Frammingham wedi cymryd rhan yn y cynllun hwn yn 2019-20 a 2018-19.

Ni chafodd unrhyw gyfarwyddwyr gweithredol unrhyw fuddion mewn nwyddau yn ystod 2019-20 na 2018-19.

7.10 Hawliadau pensiwn cyfarwyddwyr gweithredol

Pensiwn cronedig ar oedran pensiwn ar 31 Mawrth 2020 a chyfandaliad cysylltiedig
£000
Gwir gynnydd mewn pensiwn a chyfandaliad cysylltiedig ar oedran pensiwn
£000
CETV ar 31 Mawrth 2020
£000
CETV ar 31 Mawrth 2019
£000
Gwir gynnydd mewn CETV
£000
Lisa Pinney MBE 5-10 2.5-5 61 27 23
Paul Frammingham 25-30 0-2.5 315 276 19
Lisa Stanger 15-20 0-2.5 200 169 17

7.11 Gwerthoedd trosglwyddo cyfwerth ag arian parod (CETV)

Gwerth Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian Parod (CETV) yw gwerth cyfalafu ar ôl asesiad actiwaraidd o fuddion cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Y buddion a gaiff eu prisio yw buddion cronedig yr aelod ac unrhyw bensiwn amodol priod sy’n daladwy o’r cynllun. Mae CETV yn daliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn er mwyn diogelu buddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn penderfynu trosglwyddo’r buddion a gronnwyd yn ei hen gynllun. Mae’r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â’r buddion a gronnwyd gan yr unigolyn o ganlyniad i’w aelodaeth lawn o’r cynllun pensiwn, nid dim ond ei wasanaeth mewn swydd ar lefel uwch y mae datgeliad yn gymwys iddo.

Mae’r ffigurau yn cynnwys gwerth unrhyw fuddiant pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall a drosglwyddwyd gan yr aelod i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddiant pensiwn ychwanegol a gronnwyd gan yr aelod o ganlyniad i brynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun. Cyfrifir CETVau yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygiad) 2008 ac nid ydynt yn ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl mewn buddion sy’n deillio o Dreth Lwfans Oes a allai fod yn ddyledus pan fydd buddion pensiwn yn cael eu codi.

7.12 Gwir gynnydd mewn CETV

Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd mewn CETV a ariennir gan y cyflogwr. Nid yw’n cynnwys y cynnydd mewn pensiwn cronedig o ganlyniad i chwyddiant, cyfraniadau a dalwyd gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae’n defnyddio ffactorau prisio’r farchnad gyffredin ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.

7.13 Pensiynau’r Gwasanaeth Sifil

Darperir buddion pensiwn trwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd ar gyfer gweision sifil ar 1 Ebrill 2015 – y Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill neu alpha, sy’n darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa gydag oedran pensiwn arferol sy’n cyfateb i oedran Pensiwn y Wladwriaeth yr aelod (neu 65 os yw’n uwch). O’r dyddiad hwnnw, ymunodd yr holl weision sifil newydd eu penodi ag alpha, ynghyd â mwyafrif y rhai a oedd eisoes yn eu swyddi. Cyn y dyddiad hwnnw, roedd gweision sifil yn cymryd rhan ym Mhrif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS). Mae gan y PCSPS 4 adran: 3 sy’n darparu buddion ar sail cyflog terfynol (classic, premium neu classic plus) sydd ag oedran pensiwn arferol o 60; ac un sy’n darparu buddion ar sail gyrfa gyfan (nuvos) sydd ag oedran pensiwn arferol o 65.

Ni chaiff y trefniadau statudol hyn eu hariannu a chaiff cost y buddion eu talu gan symiau arian y mae’r Senedd yn pleidleisio arnynt bob blwyddyn. Caiff y pensiynau sy’n daladwy o dan classic, premium, classic plus, nuvos ac alpha eu cynyddu’n flynyddol yn unol â deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Arhosodd aelodau presennol PCSPS a oedd o fewn 10 mlynedd o’u hoedran pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 yn PCSPS ar ôl 1 Ebrill 2015. Bydd y rhai a oedd rhwng 10 mlynedd ac 13 mlynedd a 5 mis o’u hoedran pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 yn symud i alpha rywbryd rhwng 1 Mehefin 2015 ac 1 Chwefror 2022. Caiff buddion PCSPS yr holl aelodau sy’n symud i alpha eu ‘bancio’, a bydd buddion y rhai hynny sydd â buddion cynharach yn un o adrannau cyflog terfynol PCSPS wedi’u seilio ar eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael alpha. (Mae’r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos y pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha – fel y bo’n briodol. Lle mae gan y swyddog fuddion yn PCSPS ac alpha, y ffigur a ddyfynnir yw gwerth cyfunol ei fuddion yn y ddau gynllun.) Gall aelodau sy’n ymuno o fis Hydref 2002 ddewis naill ai’r trefniant buddion diffiniedig priodol neu bensiwn rhanddeiliaid ‘prynu arian’ â chyfraniad gan y cyflogwr (cyfrif pensiwn partneriaeth).

Mae cyfraniadau cyflogeion yn gysylltiedig â chyflog ac yn amrywio rhwng 4.6% ac 8.05% ar gyfer aelodau classic, premium, classic plus, nuvos ac alpha. Mae buddion classic yn cronni ar gyfradd o 1/80fed o’r enillion pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth. Yn ogystal, mae cyfandaliad sy’n gyfwerth â thair blynedd o’r pensiwn cychwynnol yn daladwy wrth ymddeol. Ar gyfer premium, mae buddion yn cronni ar gyfradd o 1/60fed o enillion pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth. Yn wahanol i classic, ni cheir unrhyw gyfandaliad awtomatig. Yn ei hanfod, mae’r cynllun classic plus yn gynllun hybrid gyda buddion mewn perthynas â gwasanaeth cyn 1 Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo’n fras fel y cynllun classic a buddion mewn perthynas â gwasanaeth o fis Hydref 2002 ymlaen yn cael eu cyfrifo fel y cynllun premium. Mae aelod o gynllun nuvos yn cronni pensiwn yn seiliedig ar ei enillion pensiynadwy yn ystod y cyfnod y mae’n aelod o’r cynllun. Ar ddiwedd blwyddyn y cynllun (31 Mawrth), caiff cyfrif pensiwn a enillwyd yr aelod ei gredydu â 2.3% o’i enillion pensiynadwy yn y flwyddyn gynllun honno a chaiff y pensiwn cronedig ei uwchraddio yn unol â deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Mae buddion alpha yn cronni mewn ffordd debyg i’r cynllun nuvos, ond y gyfradd cronni yw 2.32%. Ym mhob achos, gall aelodau ddewis rhoi rhan o’u pensiwn heibio (gohirio) i ddarparu cyfandaliad hyd at y terfynau a bennir gan Ddeddf Cyllid 2004.

Trefniant pensiwn rhanddeiliaid yw’r cyfrif pensiwn partneriaeth. Gwna’r cyflogwr gyfraniad sylfaenol o rhwng 8% a 14.75% (gan ddibynnu ar oed yr aelod) i gynnyrch pensiwn rhanddeiliaid a ddewiswyd gan y cyflogai gan y darparwr a benodwyd – Legal & General. Nid oes rhaid i’r cyflogai gyfrannu, ond os yw’n cyfrannu, bydd y cyflogwr yn gwneud tâl cyfatebol hyd at derfyn o 3% o’r cyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.5% pellach o gyflog pensiynadwy i dalu cost budd risg a ddarperir yn ganolog (pe byddai’r cyflogai yn marw yn y swydd neu’n ymddeol oherwydd afiechyd).

Y pensiwn cronedig a ddyfynnir yw’r pensiwn y mae gan yr aelod hawl i’w gael pan fydd yn cyrraedd oedran pensiwn, neu’n syth ar ôl iddo/iddi orffen bod yn aelod gweithredol o’r cynllun os yw eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn neu’n hŷn na hynny. Yr oedran pensiwn ar gyfer aelodau cynlluniau classic, premium a classic plus yw 60 oed, 65 oed ar gyfer aelodau cynllun nuvos, a’r uchaf o 65 neu Oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer aelodau alpha. (Mae’r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos y pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha – fel y bo’n briodol. Lle mae gan y swyddog fuddion yn PCSPS ac alpha, y ffigur a ddyfynnir yw gwerth cyfunol ei fuddion yn y ddau gynllun, ond sylwch y gallai rhan o’r pensiwn hwnnw fod yn daladwy o oedrannau gwahanol.)

Mae rhagor o fanylion am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil i’w gweld ar y wefan www.civilservicepensionscheme.org.uk

Cynlluniau buddion diffiniedig amlgyflogwr heb eu hariannu yw Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) a’r Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill (CSOPS) – a adwaenir fel ‘alpha’ – ac nid yw’r Awdurdod Glo yn gallu nodi ei gyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sylfaenol ynddynt. Cynhaliwyd prisiad actiwaraidd llawn ar 31 Mawrth 2016. Mae manylion ar gael yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa’r Cabinet: Pensiwn Sifil.

Ar gyfer 2019-20, roedd cyfraniadau cyflogwyr o £2,664,000 yn daladwy i’r cynlluniau uchod (2018-19: £1,963,000) ar un o 4 cyfradd yn yr ystod 26.6% i 30.3% o gyflog pensiynadwy, ar sail bandiau cyflog (2018-19: 20.0% i 24.5%).

Mae Actiwari’r Cynllun yn adolygu cyfraniadau cyflogwyr bob pedair blynedd, ar ôl prisio’r cynllun llawn. Pennir y bandiau cyflog a chyfraddau’r cyfraniadau i fodloni costau’r buddion sy’n cronni yn ystod y flwyddyn sydd i’w talu pan fydd yr aelod yn ymddeol, ac nid y buddion a dalwyd yn ystod y cyfnod hwn i bensiynwyr presennol.

Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, sef pensiwn rhanddeiliaid â chyfraniad gan y cyflogwr. Roedd gan 5 (2018-19: 3) o gyflogeion gyfrif partneriaeth yn ystod y flwyddyn, a chyfanswm y cyfraniad oedd £23,249 (2018-19: £15,115).

Ymddeolodd 1 unigolyn yn gynnar oherwydd salwch yn 2019-20. Daeth y rhwymedigaethau pensiwn cronedig ychwanegol yn ystod y flwyddyn i £12,522 (2018-19: dim unigolyn, £dim rhwymedigaethau pensiwn cronedig ychwanegol).

7.14 Nifer gyfartalog yr unigolyn a gyflogir

Adran 2019-20
Staff
2019-20
Arall
2019-20
Cyfanswm
2018-19
Staff
2018-19
Arall
2018-19
Cyfanswm
Datblygu a Gwybodaeth 55 2 57 48 10 58
Gweithrediadau 89 1 90 88 2 90
Masnachol ac Arloesedd 35 1 36 33 2 35
Technoleg gwybodaeth 32 - 32 32 - 32
Rheolaeth Gorfforaethol a Gwasanaethau 46 3 49 47 2 49
Niferoedd staff 257 7 264 248 16 264

Mae nifer gyfartalog yr unigolion a gyflogir, fel y’i dadansoddir uchod, yn gyson â strwythur sefydliadol yr Awdurdod Glo ar gyfer y ddwy flynedd.

O’r uchod, codwyd 4.3 o unigolion cyfwerth ag amser llawn ar brosiectau cyfalaf yn ystod 2019-20 (2018-19: 5.7).

7.15 Costau staff a chostau cysylltiedig

Mae costau staff yn cynnwys: 2019-20
Staff
2019-20
Arall
2019-20
Cyfanswm
2018-19
Staff
2018-19
Arall
2018-19
Cyfanswm
Cyflogau 10,904 - 10,904 9,935 - 9,935
Costau nawdd cymdeithasol 1,147 - 1,147 1,041 - 1,041
Costau pensiwn eraill 2,687 - 2,687 1,963 - 1,963
Costau staff asiantaeth - 318 318 - 1,132 1,132
Cyfanswm costau staff 14,738 318 15,056 12,939 1,132 14,071

Mae’r cynnydd o flwyddyn i flwyddyn mewn costau staff yn cael ei sbarduno’n bennaf gan y cynnydd yng nghyfraddau cyfranogiad y cyflogwr at Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, a amlinellir uchod.

7.16 Cyfansoddiad staff

Ar 31 Mawrth 2020 Cyfarwyddwyr anweithredol Tîm arweinyddiaeth weithredol Uwch reolwyr Staff Cyfanswm
Gwrywaidd 2 4 11 143 160
Benywaidd 2 3 7 96 108
Cyfanswm 4 7 18 239 268

7.17 Anabledd, amrywiaeth a chynhwysiant

Rydym yn gyflogwr cynhwysol sy’n cymryd camau pendant i annog a chroesawu ceisiadau gan bawb a allai feddu ar y sgiliau iawn i’n helpu i greu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.

Mae hyn yn golygu ein bod yn gwneud y pethau sylfaenol, fel darparu addasiadau rhesymol i ymgeiswyr anabl ac ymgeiswyr a chanddynt alluoedd gwahanol ar adeg cyfweliad a’u helpu i lwyddo yn y gwaith. Rydym yn annog gweithio hyblyg, oriau rhan-amser ac yn ystod y tymor, ac yn y blaen, ond ymdrechwn i fynd ymhellach na hyn a datblygu i fod yn sefydliad mwy amrywiol a chynhwysol – ‘lle gwirioneddol wych i weithio’ i bawb. Rydym yn hyrwyddo datblygiad gyrfaol, camu ymlaen mewn gyrfa a chadw ein holl gyflogeion. Rydym wedi cefnogi ac annog ein pobl i sefydlu ystod o rwydweithiau amrywiaeth, ac rydym yn parhau i wneud hynny, a cheisiwn sicrhau bod amrywiaeth eang o leisiau’n gallu cael eu clywed ar bob lefel o’r sefydliad.

Mae gennym gynllun cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n canolbwyntio ar gamau ymarferol i’n helpu i fod yn well fyth, ac rydym yn parhau i wrando a dysgu. Rydym yn gwybod bod gennym fwy i’w wneud ac rydym wedi ymrwymo i barhau i wella a thyfu.

7.18 Adrodd am gynlluniau’r gwasanaeth sifil a chynlluniau iawndal eraill – pecynnau ymadael

2019-20 (2018-19 mewn cromfachau) Nifer yr ymadawiadau gorfodol o ganlyniad i ddileu swydd Nifer yr ymadawiadau eraill y cytunwyd arnynt Cyfanswm nifer y pecynnau ymadael
<£10,000 0 (0) 0 (0) 0 (0)
£10,000 - £25,000 0 (0) 0 (0) 0 (0)
£25,000 - £50,000 0 (0) 1 (0) 1 (0)
£50,000 - £100,000 0 (0) 0 (0) 0 (0)
Cyfanswm nifer y pecynnau ymadael 0 (0) 1 (0) 1 (0)
Cyfanswm y gost - £000 0 (0) 45-50 (0) 45-50 (0)

Yn ystod 2019-20, cydnabuwyd costau dileu swydd ac ymadawiadau eraill o £45,000-£50,000 (2018-19: £dim) yn y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr yn unol â darpariaethau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil, sef cynllun statudol a wnaed o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Cyfrifwyd am gostau ymadael yn llawn yn y flwyddyn ymadael yn dilyn cyfnod ymgynghori a lle’r oedd sicrwydd ynglŷn â’r symiau i’w talu a dyddiadau ymadael cytunedig.

Nid oedd unrhyw gynlluniau iawndal eraill wedi cronni yn ystod 2019-20 na 2018-19.

7.19 Adrodd am benodiadau cyflog uchel oddi ar y gyflogres

Na
Trefniadau presennol ar 31 Mawrth 2020 1
Sydd wedi bodoli am (ar yr adeg adrodd):  
llai na blwyddyn 1
rhwng 1 a 2 flynedd 0
rhwng 2 a 3 blynedd 0
rhwng 3 a 4 blynedd 0
4 blynedd neu fwy 0

Ymrwymiadau newydd oddi ar y gyflogres, neu’r rhai hynny a gyrhaeddodd 6 mis o hyd, rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020, am fwy na £245 y dydd ac sy’n para mwy na 6 mis:

Na
Ymrwymiadau newydd, neu’r rhai hynny a gyrhaeddodd 6 mis o hyd rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth 2020 1
Ohonynt:  
nifer yr aseswyd bod IR35 yn berthnasol iddynt -
nifer yr aseswyd nad yw IR35 yn berthnasol iddynt 1
nifer a ymrwymodd yn uniongyrchol (trwy Gwmni Gwasanaeth Personol wedi’i gontractio i’r adran) ac sydd ar gyflogres yr adran -
nifer yr ymrwymiadau a ailaseswyd at ddibenion cysondeb/sicrwydd yn ystod y flwyddyn -
Nifer yr ymrwymiadau a welodd newid i statws IR35 yn dilyn yr adolygiad cysondeb -

Mae’r Awdurdod Glo yn cynnal gwiriadau ar rolau arfaethedig fel mater o drefn, gan gynnwys profion Gwasanaeth Statws Cyflogaeth HMRC, i bennu statws IR35 cyn gwneud unrhyw gynnig. Lle mae’r gwiriadau hyn yn awgrymu bod angen sicrwydd ynglŷn â rhwymedigaethau treth incwm ac yswiriant gwladol, mae contractau’n cynnwys y cymalau a grybwyllir uchod a gofynnir am sicrwydd gan y gweithiwr neu’r asiant y mae’n gweithio trwyddo.

Ymrwymiadau oddi ar y gyflogres ar gyfer aelodau’r bwrdd, a/neu uwch swyddogion â chyfrifoldeb ariannol sylweddol, rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020:

  • Dim ymrwymiadau oddi ar y gyflogres ar gyfer aelodau’r bwrdd, a/neu uwch swyddogion â chyfrifoldeb ariannol sylweddol, yn ystod y flwyddyn ariannol

  • 11 unigolyn yr ystyriwyd eu bod yn ‘aelodau’r bwrdd a/neu’n uwch swyddogion â chyfrifoldeb ariannol sylweddol’ yn ystod y flwyddyn ariannol. Mae’r ffigur hwn gynnwys ymrwymiadau ar y gyflogres ac oddi ar y gyflogres

Y gwariant ar ymgynghoriaeth ar gyfer y flwyddyn oedd £dim (2018-19: £dim).

7.20 Lluosrifau cyflogau

Mae’n ofynnol i gyrff adrodd ddatgelu’r berthynas rhwng cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr sydd ar y cyflog uchaf yn eu sefydliad a chydnabyddiaeth ariannol ganolrifol gweithlu’r sefydliad.

Band cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr a oedd ar y cyflog uchaf yn yr Awdurdod Glo yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20 oedd £150,000 i £155,000 (2018-19: £145,000 i £150,000). Roedd hyn 3.7 gwaith (2018-19: 3.7 gwaith) yn fwy na chydnabyddiaeth ariannol ganolrifol y gweithlu, sef £40,738 (2018-19: £40,000).

Yn 2019-20 a 2018-19, ni dderbyniodd unrhyw gyflogai gydnabyddiaeth ariannol uwch na’r cyfarwyddwr sy’n derbyn y cyflog uchaf. Roedd y gydnabyddiaeth ariannol yn amrywio o £18,287 i £155,000 (2018-19: £11,265 i £150,000).

Mae cyfanswm y gydnabyddiaeth ariannol yn cynnwys cyflog, tâl anghyfunol yn gysylltiedig â pherfformiad ac (yn 2018-19), ar gyfer y cyfarwyddwr a oedd yn cael y cyflog uchaf, lwfans adleoli untro. Nid yw’n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr a gwerth trosglwyddo cyfwerth ag arian parod pensiynau.

Mae ffigurau 2019-20 ar gyfer Lisa Stanger yn cynnwys taliadau penodol yn lle rhybudd. Nid yw’r rhain yn rhan o’r cyfrifiadau uchod, a wneir ar sail flynyddol.

Mae ffigurau 2018-19 ar gyfer y cyfarwyddwr a oedd yn cael y cyflog uchaf sydd wedi’u cynnwys yn y cyfrifiad lluosrifau cyflogau wedi’u seilio ar becyn cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr hwnnw ar 31 Mawrth 2019 yn hytrach na’r rhifau sydd wedi’u cynnwys yn nodyn cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwyr gweithredol. Mae troednodyn wedi cael ei ychwanegu at y tabl hwnnw i ddangos hyn.

8. Adroddiad atebolrwydd seneddol ac archwilio

Yn rhan o’r adroddiad atebolrwydd, mae’r adroddiad atebolrwydd Seneddol ac archwilio yn amlinellu’r datgeliadau ychwanegol hynny sy’n ofynnol gan y senedd, os na fanylir arnynt mewn rhannau eraill o’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon, ac mae’n cynnwys yr adroddiad archwilio allanol.

Mae’r rhannau canlynol yn destun archwiliad.

8.1 Rheoleidd-dra gwariant: colledion, taliadau arbennig a rhoddion

Ni fu unrhyw golledion, taliadau arbennig a/neu roddion perthnasol yn ystod 2019-20.

8.2 Ffïoedd a thaliadau

Mae’r Awdurdod Glo yn cydymffurfio â’r gofynion dyrannu costau a chodi tâl a amlinellir yn Rheoli Arian Cyhoeddus Trysorlys EM a chanllawiau Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus. Esbonnir isod ffrydiau incwm mwyaf arwyddocaol yr Awdurdod Glo, fel yr amlinellir yn nodiadau 2 a 4.1 i’r cyfrifon.

Mae’r segment gweithredu Masnachol ac Arloesedd yn cynnwys darparu adroddiadau mwyngloddio, a gynhyrchodd incwm o £9,489,000 (2018-19: £11,648,000), costau o £5,905,000 (2018-19: £6,692,000), a gwarged o £3,584,000 (2018-19: £4,956,000). Mae gwariant sy’n gysylltiedig â rhaglenni a gweithgareddau penodol yn cael ei reoli a’i adrodd o dan y segment gweithrediadau, ond mae’n ymwneud â gwella data a gwybodaeth. Codir tâl am wasanaethau adroddiadau mwyngloddio ar gyfradd fasnachol.

Mae Masnachol ac Arloesedd yn cynnwys darparu gwasanaethau cynghori a thechnegol, a gynhyrchodd incwm o £5,342,000 (2018-19: £5,520,000), costau o £5,120,000 (2018-19: £5,396,000) a gwarged o £222,000 (2018-19: £124,000). Yr amcan ariannol ar gyfer darparu gwasanaethau cynghori a thechnegol yw naill ai adennill costau llawn, gan gynnwys lwfans ar gyfer adennill gorbenion wrth ddarparu gwasanaethau ar draws y llywodraeth, neu gyfraddau masnachol, sy’n adlewyrchu’r lefelau risg uwch, wrth ddarparu gwasanaethau i farchnadoedd cystadleuol.

Y cyfrannau incwm yw 85.2% (2018-19: 93.7%) o ganlyniad i adennill costau llawn a 14.8% (2018-19: 6.3%) o gyfraddau masnachol, sy’n dangos twf gweithgarwch cyfradd fasnachol yn unol â’n rhagolygon.

Mae Datblygu a Gwybodaeth yn cynnwys darparu trwyddedu data a gwybodaeth fwyngloddio, a gynhyrchodd incwm o £994,000 (2018-19: £498,000), costau o £2,766,000 (2018-19: £542,000) a diffyg o £1,772,000 (2018-19: £44,000). Yr amcan ariannol ar gyfer darparu gwasanaethau trwyddedu a chaniatáu yw adennill costau llawn ynghyd â lwfans ar gyfer adennill gorbenion.

Mae Datblygu a Gwybodaeth yn cynnwys darparu gweithgareddau trwyddedu a chaniatáu, a gynhyrchodd incwm o £834,000 (2018-19: £824,000), costau o £926,000 (2018-19: £776,000) a diffyg o £92,000 (2018-19: gwarged £48,000). Yr amcan ariannol ar gyfer darparu gwasanaethau trwyddedu a chaniatáu yw adennill costau llawn ynghyd â lwfans ar gyfer adennill gorbenion.

8.3 Rhwymedigaethau digwyddiadol annhebygol

Nid oes rhaid datgelu rhwymedigaethau digwyddiadol annhebygol o dan Safon Gyfrifyddu Ryngwladol (IAS) 37, ond fe’u hystyrir yma at ddibenion adrodd i’r senedd ac atebolrwydd. Mae’r Awdurdod Glo yn credu bod datgeliad digonol ar gael yn nodyn 16 i’r cyfrifon: Rhwymedigaethau Digwyddiadol ac yn nodyn 13 i’r cyfrifon: Darpariaethau i roi dealltwriaeth lawn i’r darllenydd o’r rhwymedigaethau y mae’n eu hwynebu ac y gallai eu hwynebu.

8.4 Busnes gweithredol

Crëwyd yr adroddiad hwn ar y sail bod yr Awdurdod Glo yn fusnes gweithredol fel y manylir ym mhwynt 1.3 o’r nodiadau i’r cyfrifon.

Cymeradwywyd yr adroddiad atebolrwydd hwn gan y prif weithredwr a’r swyddog cyfrifyddu.

Lisa Pinney MBE, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu

14 Medi 2020

9. Tystysgrif ac adroddiad y rheolwr a’r archwilydd cyffredinol i ddau Dŷ’r Senedd

9.1 Barn ar y datganiadau ariannol

Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol yr Awdurdod Glo ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020 o dan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994. Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys: y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol, y Datganiad Llifoedd Arian Parod, y Datganiad o Newidiadau i Ecwiti Trethdalwyr; a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu arwyddocaol. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn o dan y polisïau cyfrifyddu a nodir ynddynt. Rwyf hefyd wedi archwilio’r wybodaeth yn yr Adroddiad Atebolrwydd a ddisgrifir yn yr adroddiad hwnnw fel gwybodaeth a archwiliwyd.

Yn fy marn i:

  • mae’r datganiadau ariannol yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa’r Awdurdod Glo ar 31 Mawrth 2020 a’r gwariant net ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny; ac

  • mae’r datganiadau ariannol wedi cael eu paratoi’n briodol yn unol â Deddf y Diwydiant Glo 1994 a chyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol a roddwyd o dan y Ddeddf honno.

9.2 Pwysleisio mater – darpariaethau

Heb amodi fy marn, tynnaf sylw at y datgeliadau a wneir yn nodyn 13 i’r datganiadau ariannol ynglŷn â’r ansicrwydd sy’n rhan annatod o rwymedigaethau’r Awdurdod Glo ar gyfer Trin Dŵr Mwynglawdd, Diogelwch Cyhoeddus a Hawliadau Ymsuddiant a Gorsafoedd Pwmpio Ymsuddiant. Fel yr amlinellir yn y nodyn, o ystyried y graddfeydd amser hir iawn dan sylw a chymhlethdod y prosesau sy’n ofynnol, mae cryn ansicrwydd yn parhau ynglŷn â gwerth y rhwymedigaethau hyn, sy’n golygu nad oes modd meintioli’n bendant setliad y rhwymedigaethau a’u heffaith ar ganlyniadau ariannol yr Awdurdod Glo yn y dyfodol.

9.3 Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol wedi eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli.

9.4 Sail y farn

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â Safonau Rhyngwladol ar Archwilio (ISAs) (y Deyrnas Unedig) a Nodyn Ymarfer 10 ‘Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol Endidau Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig’. Caiff fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny eu disgrifio ymhellach yn yr adran cyfrifoldebau’r Archwilydd dros archwilio’r datganiadau ariannol o’m tystysgrif. Mae’r safonau hynny yn mynnu fy mod i a’m staff yn cydymffurfio â Safon Foesegol Ddiwygiedig 2016y Cyngor Adroddiadau Ariannol. Rwyf yn annibynnol ar yr Awdurdod Glo yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad o’r datganiadau ariannol yn y Deyrnas Unedig. Mae fy staff a minnau wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio a gefais yn ddigonol a phriodol i fod yn sail i’m barn.

9.5 Casgliadau ynglŷn â busnes gweithredol

Nid oes gennyf unrhyw beth i’w adrodd mewn perthynas â’r materion canlynol y mae ISAs (y Deyrnas Unedig) yn mynnu fy mod yn adrodd i chi arnynt yn yr amgylchiadau canlynol:

  • lle nad yw’n briodol i’r Awdurdod Glo gyfrifyddu ar sail busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol; neu

  • lle nad yw’r Awdurdod Glo wedi datgelu yn y datganiadau ariannol unrhyw ansicrwydd perthnasol a amlygwyd a allai fwrw cryn amheuaeth ar allu’r Awdurdod Glo i barhau i gyfrifyddu ar sail busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o’r dyddiad yr awdurdodir cyhoeddi’r datganiadau ariannol.

9.6 Cyfrifoldebau’r Bwrdd a’r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol

Fel yr esboniwyd yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, mae’r Bwrdd a’r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am baratoi’r datganiadau ariannol ac am fod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg.

9.7 Cyfrifoldebau’r Archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol

Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio, ardystio ac adrodd ar y datganiadau ariannol yn unol â Deddf y Diwydiant Glo 1994.

Mae archwiliad yn cynnwys cael tystiolaeth am y symiau a’r datgeliadau yn y datganiadau ariannol sy’n ddigonol i roi sicrwydd rhesymol bod y datganiadau ariannol yn rhydd o gam-ddatgan perthnasol, p’un a achoswyd hynny trwy dwyll neu wall. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw’n warant y bydd archwiliad a gynhaliwyd yn unol ag ISAs (y Deyrnas Unedig) bod amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wall ac ystyrir eu bod yn berthnasol pe gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu’n gyfunol, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Fel rhan o archwiliad yn unol ag ISAs (y Deyrnas Unedig), rwyf yn arfer barn broffesiynol ac yn cynnal amheuaeth broffesiynol trwy gydol yr archwiliad. Rwyf hefyd:

  • yn amlygu ac yn asesu risgiau cam-ddatgan perthnasol yn y datganiadau ariannol, p’un a achoswyd hynny trwy dwyll neu wall, yn cynllunio ac yn cyflawni gweithdrefnau archwilio sy’n ymateb i’r risgiau hynny, ac yn cael tystiolaeth archwilio sy’n ddigonol a phriodol i ddarparu sail i’m barn. Mae’r risg o beidio â chanfod camddatganiadau perthnasol sy’n deillio o dwyll yn uwch nag un sy’n deillio o wall, gan y gallai twyll gynnwys cydgynllwynio, ffugio, hepgoriadau bwriadol, camliwiadau, neu drechu rheolaeth fewnol.

  • yn cael dealltwriaeth o reolaeth fewnol sy’n berthnasol i’r archwiliad er mwyn cynllunio gweithdrefnau archwilio sy’n briodol i’r amgylchiadau, ond nid at ddiben mynegi barn ar effeithiolrwydd rheolaeth fewnol yr Awdurdod Glo.

  • yn gwerthuso priodoldeb polisïau cyfrifyddu a ddefnyddiwyd, a rhesymoldeb amcangyfrifon cyfrifyddu a datgeliadau cysylltiedig a wnaed gan y rheolwyr.

  • yn gwerthuso cyflwyniad, strwythur a chynnwys cyffredinol y datganiadau ariannol, gan gynnwys y datgeliadau, a ph’un a yw’r datganiadau ariannol yn cynrychioli’r trafodion a’r digwyddiadau sylfaenol mewn modd sy’n cyflawni cyflwyniad teg.

  • yn dod i gasgliad ynghylch priodoldeb defnydd yr Awdurdod Glo o gyfrifyddu ar sail busnes gweithredol, ac, ar sail y dystiolaeth archwilio a gafwyd, p’un a oes ansicrwydd perthnasol yn bodoli yn ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai fwrw cryn amheuaeth ar allu’r Awdurdod Glo i barhau fel busnes gweithredol. Os dof i’r casgliad fod yna ansicrwydd perthnasol, mae’n ofynnol i mi dynnu sylw yn fy adroddiad at y datgeliadau cysylltiedig yn y datganiadau ariannol neu, os yw’r cyfryw ddatgeliadau yn annigonol, i addasu fy marn. Mae fy nghasgliadau yn seiliedig ar y dystiolaeth archwilio a gafwyd hyd at ddyddiad fy adroddiad. Fodd bynnag, gallai digwyddiadau neu amodau yn y dyfodol achosi i’r Awdurdod Glo beidio â pharhau fel busnes gweithredol.

Rwyf yn cyfathrebu â’r rheiny sy’n gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymhlith materion eraill, cwmpas ac amseru cynlluniedig yr archwiliad a chanfyddiadau archwilio arwyddocaol, gan gynnwys unrhyw ddiffygion sylweddol mewn rheolaeth fewnol a amlygaf yn ystod fy archwiliad.

Yn ogystal, mae’n ofynnol i mi gael tystiolaeth ddigonol i roi sicrwydd rhesymol bod yr incwm a’r gwariant a adroddwyd yn y datganiadau ariannol wedi eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd, a bod y trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli.

9.8 Gwybodaeth arall

Mae’r Bwrdd a’r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am y wybodaeth arall. Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys gwybodaeth a geir yn yr adroddiad blynyddol, heblaw am y rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd a ddisgrifir yn yr adroddiad hwnnw fel gwybodaeth sydd wedi’i harchwilio, y datganiadau ariannol a’m hadroddiad archwilydd ar hynny. Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall, ac nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar hynny. Mewn cysylltiad â’m harchwiliad o’r datganiadau ariannol, fy nghyfrifoldeb i yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried p’un a yw’r wybodaeth arall yn anghyson yn faterol â’r datganiadau ariannol neu fy ngwybodaeth a gefais yn yr archwiliad neu ei bod, fel arall, yn ymddangos ei bod wedi’i cham-ddatgan yn faterol. Os dof i’r casgliad, ar sail y gwaith a gyflawnais, bod y wybodaeth arall hon wedi’i cham-ddatgan yn faterol, mae’n ofynnol i mi adrodd y ffaith honno. Nid oes gennyf unrhyw beth i’w adrodd yn hyn o beth.

9.9 Barn ar faterion eraill

Yn fy marn i:

  • mae rhannau’r Adroddiad Atebolrwydd sydd i’w harchwilio wedi cael eu paratoi’n briodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol a wnaed o dan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994;

  • yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r Awdurdod Glo a’i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi unrhyw gamddatganiadau materol yn yr Adroddiad ar Berfformiad na’r Adroddiad Atebolrwydd; ac

  • mae’r wybodaeth a roddir yn yr Adroddiad ar Berfformiad a’r Adroddiad Atebolrwydd am y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â’r datganiadau ariannol.

9.10 Materion yr adroddaf arnynt drwy eithriad

Nid oes gennyf unrhyw beth i adrodd yn ei gylch mewn perthynas â’r materion canlynol yr adroddaf i chi, os, yn fy marn i:

  • ni chadwyd cofnodion cyfrifyddu digonol neu nid wyf wedi derbyn yr adroddiadau sy’n ddigonol ar gyfer fy archwiliad gan ganghennau nad yw fy staff wedi ymweld â nhw; neu

  • nid yw’r datganiadau ariannol a rhannau’r Adroddiad Atebolrwydd sydd i’w harchwilio yn gyson â’r cofnodion neu’r adroddiadau cyfrifyddu; neu
  • nid wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae’n ofynnol i mi eu cael ar gyfer fy archwiliad; neu

  • nid yw’r Datganiad Llywodraethu yn adlewyrchu cydymffurfiad ag arweiniad Trysorlys EM.

9.11 Adroddiad

Nid oes gennyf unrhyw arsylwadau i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.

Gareth Davies Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol

Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol
Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol
157-197 Buckingham Palace Road
Victoria, Llundain
SW1W 9SP

  1. Nid yw’r cyfarwyddwr yn aelod o’r pwyllgor na’r bwrdd hwn  2 3 4 5

  2. Gadawodd Lisa Stanger yr Awdurdod Glo ar 31 Mawrth 2020 

  3. Ymgymerodd Lisa Pinney â’r swydd Prif Weithredwr ar 1 Mehefin 2018. Swm ei band ‘cyflog’ cyfwerth â blwyddyn gyfan fyddai £130,000 - £135,000. Cafodd Lisa lwfans adleoli untro o fewn y band £5,000-£10,000. Mae’r ddwy eitem hyn, ynghyd â’r band tâl cysylltiedig â pherfformiad o £0-£5,000 uchod, yn rhoi’r amrediad £145,000 i £150,000 a ddefnyddiwyd ar gyfer 2018-19 yn y nodyn isod ar Luosrifau Cyflogau. Dechreuodd Lisa fod yn gymwys i gymryd rhan yng nghynllun tâl cysylltiedig â pherfformiad yr Awdurdod Glo ar ddiwedd cyfnod prawf, yn unol â pholisi’r Awdurdod Glo 

  4. Gadawodd Lisa Stanger yr Awdurdod Glo ar 31 Mawrth 2020 ac mae wedi cael taliad yn lle rhybudd o £70,000-£75,000. Mae hyn yn cynnwys taliad yn lle 6 mis o gyflog (£40,000-£45,000), tâl gwyliau (£5,000-£10,000) ac iawndal am gyfraniad pensiwn cyflogwr (£10,000-£15,000), sydd oll wedi’u cynnwys yn y ‘cyflog’ uchod, a lwfansau o £5,000-£10,000. Esbonnir lwfansau’r cyfarwyddwyr isod 

  5. Gadawodd Philip Lawrence a Simon Reed eu swyddi ar 31 Mai 2018 ac 8 Awst 2018, yn ôl eu trefn  2

  6. Yn ogystal â’r gydnabyddiaeth ariannol a ddangosir yn y tabl, yn 2018-19, enillodd Philip Lawrence £7,500 mewn ffïoedd am wasanaethau fel Cyfarwyddwr Anweithredol Headlam Group Plc, a dalwyd yn uniongyrchol i’r Awdurdod Glo. Ni chadwodd unrhyw ran o’r ffïoedd hyn