Adroddiad corfforaethol

Adroddiad blynyddol a chyfrifon yr Awdurdod Glo 2019 i 2020: Adroddiad ar berfformiad

Cyhoeddwyd 24 September 2020

1. Trosolwg

Mae’r Awdurdod Glo yn gorff cyhoeddus anadrannol a sefydliad partner i’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS).

1.1 Ein cenhadaeth:

Creu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.

1.2 Ein diben:

  • rydym yn cadw pobl yn ddiogel ac yn rhoi tawelwch meddwl

  • rydym yn gwarchod a gwella’r amgylchedd

  • rydym yn defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus

  • rydym yn creu gwerth ac yn lleihau’r gost i drethdalwyr gymaint â phosibl

Rydym yn defnyddio ein sgiliau i ddarparu gwasanaethau i adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth, llywodraethau lleol a phartneriaid masnachol.

Rydym yn cyfrannu at gyflawni Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y Deyrnas Unedig a blaenoriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd Llywodraethau’r Deyrnas Unedig, yr Alban a Chymru. Trwy rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd, rydym yn eu cynorthwyo nhw, a’n partneriaid, i greu gwledydd glanach a gwyrddach i bawb ohonom.

A ninnau’n gorff cyhoeddus sy’n dal data geo-ofodol sylweddol, rydym yn gweithio gyda’r Comisiwn Geo-ofodol i archwilio sut, trwy gydweithio, y gallwn ddatgloi gwerth sylweddol ar draws yr economi.

1.3 Ein trefniadau llywodraethu:

Mae gennym fwrdd annibynnol sy’n gyfrifol am osod ein cyfeiriad strategol a’n dal i gyfrif. Mae’r bwrdd yn sicrhau bod ein dyletswyddau statudol yn cael eu cyflawni’n effeithiol a’n bod yn gwireddu ein cenhadaeth, ein diben a’n gwerthoedd. Mae gan ein cadeirydd ac aelodau ein bwrdd brofiad perthnasol i gefnogi ein gwaith.

Mae cyfarwyddwyr anweithredol yn cael eu recriwtio a’u penodi i’r bwrdd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros BEIS. Mae cyfarwyddwyr gweithredol yn cael eu recriwtio i’w swyddi gan y bwrdd ac mae rhai ohonynt yn cael eu penodi i’r bwrdd wedi hynny, gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros BEIS unwaith eto.

1.4 Ein gwerthoedd

Dibynadwy

  • rydym yn gweithredu gydag uniondeb

  • rydym yn agored ac yn dryloyw

  • rydym yn cyflawni ein hymrwymiadau

Cynhwysol:

  • rydym yn hyrwyddo diwylliant o barchu pawb

  • rydym yn sylweddoli bod ein gwahaniaethau’n ein gwneud yn gryfach

  • rydym yn gweithio gydag eraill i gyflawni ein cenhadaeth

Blaengar:

  • rydym yn eangfrydig ac yn arloesol

  • rydym yn sylweddoli bod y gorffennol yn gallu ein helpu i ffurfio’r dyfodol

  • rydym yn gwrando ac yn dysgu

2. Y gwaith a wnawn

Wrth wneud ein gwaith yn 2019-20:

2.1 Cadw pobl yn ddiogel a rhoi tawelwch meddwl

10,858 o archwiliadau mynedfa pwll glo wedi’u cynnal

471 o ymchwiliadau i adroddiadau ynghylch perygl arwyneb

352 o hawliadau difrod ymsuddiant wedi’u hasesu

2.2 Defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus

228,529 o adroddiadau mwyngloddio wedi’u darparu

1,998 o drwyddedau i groestorri glo wedi’u rhoi

8,975 o ymgynghoriadau cynllunio wedi derbyn ymateb

2.3 Gwarchod a gwella’r amgylchedd

122 biliwn o litrau o ddŵr wedi’u trin

27,000m² o’n 350,000m² o welyau cyrs wedi’u hamnewid

4,500 o dunelli o solidau haearn wedi’u hatal rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr

2.4 Creu gwerth a lleihau’r gost i drethdalwyr gymaint â phosibl

£2 filiwn wedi’i arbed trwy ailgylchu deunydd gwelyau cyrs

£5.3 miliwn o incwm wedi’i gynhyrchu trwy ein gwasanaethau cynghori

77% o solidau haearn a dynnwyd ymaith wedi’u hailgylchu

3. Rhagair y Cadeirydd

Mae’n bleser gennyf gyflwyno ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2019-20. Bu’n flwyddyn arall o newid a datblygiad i’r sefydliad, ac rwy’n falch o weld bod ein cenhadaeth, ein diben a’n gwerthoedd newydd wedi cael eu hymsefydlu a bod ein strategaeth gwsmeriaid a’n hymrwymiadau newydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae hyn i gyd wedi cael ei ategu gan ddulliau darparu cryf ac ymrwymiad parhaus i arloesedd a chyfleoedd.

Dywedais yn fy rhagair y llynedd mai hwnnw fyddai fy un olaf, ar ôl 7 mlynedd fel Cadeirydd. Rwy’n falch iawn o fod wedi cael gwahoddiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) i ymestyn y rôl hon am un flwyddyn olaf ac i gael y cyfle i sôn am waith yr Awdurdod Glo unwaith eto.

Ar ddechrau’r flwyddyn, doedd gennym ni ddim syniad y byddem yn gweithredu mewn ffordd sylfaenol wahanol erbyn ei diwedd, gyda mwy na 90% o’r sefydliad yn gweithio o gartref i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol yn ystod y pandemig COVID-19 byd-eang. Rwy’n cydymdeimlo’n fawr â phawb y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt. Canolbwyntiodd ein hymateb i ddechrau ar ddarparu gwasanaethau hanfodol sy’n gwarchod bywyd a lles, ond trwy ymrwymiad ac ymroddiad ein staff, rydym wedi gallu cyflawni mwyafrif ein gweithgareddau i gwsmeriaid, yn ddiogel, yn y ffordd newydd hon. Ni allaf ddiolch digon i’n pobl am eu hymroddiad a’u hymrwymiad yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Er bod COVID-19 yn parhau i gael effaith fawr ar y gymdeithas gyfan, bydd gweddill fy rhagair yn canolbwyntio ar ein gweithgareddau yn 2019-20 cyn i fesurau’r cyfnod clo gael eu cyflwyno ym mis Mawrth 2020.

Bydd Lisa Pinney, ein Prif Weithredwr, yn disgrifio 2019-20 fel blwyddyn o ymateb i ddigwyddiadau, ac mae hynny’n sicr yn wir. Bu hefyd yn flwyddyn o arloesedd, wrth i ni achub ar nifer o gyfleoedd. Rwy’n falch iawn bod nifer o gynlluniau arwyddocaol ar y gweill bellach i adeiladu rhwydweithiau gwres datgarboneiddiedig ar gyfer tai ac ar gyfer eiddo masnachol/diwydiannol/amaethyddol sy’n rhedeg ar ddŵr twym o hen byllau glo, a fydd yn cyfrannu at bolisïau di-garbon net BEIS a’r llywodraeth. Disgrifiwyd hyn yn ddiweddar gan ein Gweinidog noddi, Kwasi Kwarteng, fel rhywbeth “gweddnewidiol o bosibl” ac aeth ymlaen i ddweud bod “gennym etifeddiaeth hanesyddol enfawr o ran glo, ac mae’r gallu i ddefnyddio’r ôl troed hwnnw a’i droi’n ffynhonnell ynni gwyrdd – mae hynny’n hynod gadarnhaol.”

Ein hymagwedd tuag at hyn yw parhau i weithio ar farchnadoedd ar gyfer sgil-gynhyrchion a gwaith seiliedig ar ddalgylch gyda phartneriaid ar leihau gwastraff dŵr, cyflawni budd i’r cyhoedd a darparu incwm. Mae ein hymrwymiad i ymchwil a datblygu yn parhau, ac rydym newydd gael cyllid gyda phartneriaid ar gyfer safle ymchwil a datblygu dŵr mwynglawdd metel newydd yng Nghernyw i ategu’r safle dŵr pwll glo sydd gennym yn Amgueddfa Fwyngloddio Genedlaethol Lloegr yn Wakefield.

Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gynaliadwyedd a chyfrannu at uchelgeisiau cynefin a di-garbon net ym mhob un o’r gwledydd a wasanaethwn. Yn 2019, gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad cyntaf ar Fioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau ar gyfer Gweinidog Cymru dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ac roeddem yn falch o lofnodi Cytundeb Twf Cynaliadwy yn ddiweddar gydag Asiantaeth Gwarchod Amgylchedd yr Alban yn rhan o’n gwaith ar ddalgylch Leven yn Fife. Mae ein bwrdd wedi ymrwymo i’n huchelgais o fod yn sefydliad di-garbon net erbyn 2030 ac i lwyr ddeall y buddion ehangach posibl i gymdeithas sy’n deillio o’r cynefinoedd a grëwn a’r cyfraniad y gallem ei wneud trwy wres ac ynni sy’n deillio o ddŵr mwynglawdd datgarboneiddiedig. Yn rhan o hynny, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn ynni solar a, hyd yma, rydym wedi arbed £237,000 mewn costau pŵer ac wedi atal 436 o dunelli o garbon rhag cyrraedd yr atmosffer.

Bûm yn falch iawn o weld ethos gwasanaeth cwsmeriaid cryfach yn ymwreiddio yn y sefydliad a’n safonau cwsmeriaid newydd yn cael eu lansio. Yr enghreifftiau o fywyd go iawn sydd bwysicaf.

Roeddwn yn falch o weld sut gwnaethom gynorthwyo cymuned Emersons Green ym Mryste pan ddaeth gwybodaeth fwyngloddio newydd i’r amlwg, a sut rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol yng Nghymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu’n gyflym fframwaith asesu tomenni pwll glo, cronfa ddata a haenau mapio newydd i ganiatáu ar gyfer categoreiddio a chynllunio gweithredu cyson, ac i roi gwybodaeth a thawelwch meddwl i gwsmeriaid trwy’r llinell gymorth tomenni glo newydd a weithredwn.

Mae’r bwrdd a minnau wedi ymrwymo i ddefnyddio’r gwersi a ddysgwyd a’r cyfleoedd sy’n deillio o’r cyfnod heriol hwn i’n helpu i ddod yn sefydliad mwy effeithiol fyth ac yn ‘lle gwirioneddol wych i weithio’. Rydym wedi ailwampio ein hymrwymiadau i amrywiaeth a chynhwysiant yn sgil yr ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys ac yn sylweddoli bod gennym fwy i’w ddysgu a mwy i’w wneud. Byddwn yn cyhoeddi ein hail adroddiad ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn fuan. Rydym wedi gwneud mwy o gynnydd ond mae angen i ni barhau â’n cynllun a’n hymrwymiad cryf i leihau’r bwlch ymhellach. Gobeithiwn y bydd mwy o weithio hyblyg yn y dyfodol a defnydd o dechnoleg yn gallu ein helpu i ddenu talent fwy amrywiol ac ystod ehangach o leisiau i lywio ein gwaith.

Ein pobl yw ein hased pwysicaf o hyd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi buddsoddi mewn datblygu arweinyddiaeth a sgiliau ymhellach i sicrhau bod y ffordd rydym yn gweithio yn parhau i fod yr un mor bwysig â’r hyn rydym yn ei wneud. I ddatblygu a chyflawni arloesedd a chyfleoedd pellach, mae angen i ni barhau i fod yn feiddgar yn ein hymagwedd a gweithio ar draws y sefydliad fel ‘Un Awdurdod Glo’ i gyflawni gwell canlyniadau ac arbedion effeithlonrwydd.

Byddwn yn parhau i gefnogi ein pobl a’u lles, yn enwedig trwy’r heriau presennol, mewn ffyrdd newydd a gwahanol. Hoffwn achub unwaith eto ar y cyfle i ddiolch i’n staff am eu hymrwymiad parhaus a’u darpariaeth sylweddol drwy gydol blwyddyn gymhleth a heriol.

Yn 2019, dathlodd yr Awdurdod Glo 25 mlynedd ac, yn rhan o hyn, cefais y fraint o roi cyflwyniad yn dathlu hanes ac esblygiad y sefydliad yn ystod y cyfnod hwnnw. Rydym wedi newid yn sylweddol yn ystod y cyfnod o fod yn sefydliad a oedd yn canolbwyntio ar drwyddedu’r diwydiant a oedd yn weddill ac ymdrin â materion etifeddol i un sy’n rheoli adfer ac etifeddiaeth ac sy’n ceisio arloesedd a chyfleoedd, gan weithio i wneud ein hen byllau a chymunedau glo yn rhan o’n dyfodol carbon isel newydd. Esblygiad cyson yw’r hyn sydd wedi cadw’r sefydliad yn berthnasol ac, i mi, yn gymaint o fraint i’w arwain. Diolch am ganiatáu i mi weithio gyda chi a dysgu cymaint gennych yn ystod yr 8 mlynedd diwethaf fel cadeirydd.

Yn olaf, hoffwn sôn am fy nghydweithwyr ar y bwrdd. Mae pob un ohonynt wedi cyfrannu at lwyddiant yr Awdurdod Glo ac wedi gwneud fy swydd yn ddiddorol, yn werth chweil ac yn ddifyr. Gadawodd Lisa Stanger ei rôl fel Cyfarwyddwr Strategaeth a Pherfformiad ar 31 Mawrth 2020 ar ôl 10 mlynedd, a hoffwn gofnodi fy niolch am ei chyfraniad mawr at ein llwyddiant. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r bwrdd a’n holl staff yn ystod 2020-21 i ychwanegu ymhellach at ein llwyddiant a rhoi’r Awdurdod Glo mewn sefyllfa i ddod allan o COVID-19 yn gryfach a hyd yn oed yn fwy effeithlon, gyda mwy o bwyslais ar gwsmeriaid.

Stephen Dingle, Cadeirydd

4. Adroddiad y Prif Weithredwr

Mae eleni wedi cael ei ffurfio gan dywydd eithafol ac ymateb i ddigwyddiadau, ac rwy’n falch iawn o broffesiynoldeb ac ymroddiad ein pobl wrth weithio oriau hir a defnyddio ein sgiliau a’n harbenigedd i gefnogi partneriaid a gwarchod y cymunedau a wasanaethwn.

Mae hyn yn cynnwys gweithio yn ardal Swydd Efrog, lle mae gennym 83 o orsafoedd pwmpio, i gefnogi’r ymateb amlasiantaethol i lifogydd, gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i reoli effeithiau glawiad eithafol ar domenni gwastraff hen byllau glo yng Nghymru ac ymateb i 471 o adroddiadau am beryglon arwyneb a 352 o hawliadau difrod ymsuddiant. O ran trin dŵr mwynglawdd, gwnaethom sicrhau bod ein 82 o gynlluniau trin yn parhau i weithredu drwy gydol y tywydd cyfnewidiol, cynnal gwaith ymchwil a datblygu pellach i gynllunio ar gyfer cynlluniau newydd, a gweithio gyda phartneriaid i reoli effeithiau llygredd dŵr mwynglawdd a achoswyd gan y tywydd eithafol.

Ar ddiwedd y flwyddyn, effeithiodd COVID-19 arnom ni, ynghyd â gweddill y wlad. Gwnaethom ganolbwyntio ein hymateb ar ddiogelwch y cyhoedd, gwarchod dŵr yfed a’r amgylchedd a llesiant ein staff. Mae ein gweithwyr allweddol a’n cyflenwyr blaenoriaeth wedi parhau i weithio drwy gydol y cyfnod clo i wneud peryglon yn ddiogel, parhau i gynnal archwiliadau tomenni pwll glo blaenoriaeth uchel a sicrhau bod gweithfeydd trin dŵr mwynglawdd yn parhau i weithredu er mwyn atal llygredd. Mae mwyafrif ein gwasanaethau eraill wedi cael eu darparu trwy weithio o gartref. Rwy’n ddiolchgar iawn am ymrwymiad ein holl bobl sydd, ar yr un pryd â wynebu eu hofnau, eu pwysau teuluol a’u cyfrifoldebau gofalu eu hunain, wedi gwneud eu gorau glas i gynorthwyo ein cwsmeriaid.

Y llynedd, gwneuthum nifer o ymrwymiadau ar gyfer 2019-20, ac rwy’n falch o ddweud ein bod wedi gwneud cynnydd cryf ar bob un.

  • Rydym wedi gweithio gyda staff, cwsmeriaid a phartneriaid i ddatblygu a chyhoeddi ein safonau cwsmeriaid newydd a’n polisi cwynion a chanmoliaeth newydd. Rydym wedi parhau i gynnwys ethos gwasanaeth cwsmeriaid cryf yn ein prosesau a’n hymagwedd, sy’n golygu ei bod yn haws ymgysylltu a chynnal busnes â ni. Byddwn yn defnyddio monitro ac adborth i ychwanegu at hyn o flwyddyn i flwyddyn.

  • Rydym wedi parhau i ddod yn fwy gweladwy trwy ein presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol a chyfryngau eraill – gwnaethom gynyddu nifer ein dilynwyr ar draws ein tair prif sianel cyfryngau cymdeithasol gan fwy na 30%. Yn ystod yr un cyfnod, gwnaeth ein postiadau cyfryngau cymdeithasol fwy nag 1.3 miliwn o argraffiadau. Yn y cyfamser, rhoddwyd sylw i’n gwaith yn aml ar y teledu a’r radio, wrth i straeon ymddangos yn rheolaidd yn y cyfryngau prif ffrwd ac yn y wasg arbenigol. Rydym hefyd wedi gwneud cynnydd ar ddiweddaru ein gwefan, gan sicrhau ei bod yn fwy hygyrch ac yn cyd-fynd â’r hyn y mae ein cwsmeriaid ei eisiau. Rydym yn cyflwyno gwell arwyddion a byrddau gwybodaeth yn ein holl safleoedd ar sail blaenoriaeth, wedi cynnal rhai diwrnodau agored ar safleoedd ac wedi defnyddio mwy o gynnwys fideo i helpu i roi bywyd i’n gwaith a’n safleoedd.

  • Rydym wedi parhau i ddatblygu ein hethos masnachol a gwerth ychwanegol trwy ddarparu gwasanaethau arbenigol i nifer o bartneriaid, datblygu opsiynau a marchnadoedd ymhellach ar gyfer nifer o sgil-gynhyrchion a sicrhau cyllid a phartneriaethau ar gyfer nifer o gynlluniau gwres ac ynni dŵr mwynglawdd. Bydd y rhain yn darparu gwres datgarboneiddiedig i gartrefi, unedau masnachol ac amaethyddiaeth, ac mae’r llywodraeth bellach yn cydnabod eu bod yn rhan bwysig o’r datrysiad di-garbon net. Roedd ein pyllau glo yn hanfodol i ddatblygiad a diwydiannu Prydain Fawr, a gobeithiwn y byddant bellach yn chwarae rôl allweddol yn ein dyfodol carbon isel.

Yn 2020-21, byddwn yn parhau i gefnogi llywodraethu’r tair gwlad a wasanaethwn trwy ddarparu’n briodol yn ystod cyfyngiadau COVID-19 a hyrwyddo adferiad economaidd trwy gefnogi’r farchnad dai, darparu arbenigedd a chyngor i ddarparwyr seilwaith a gweithio gyda’n cadwyn gyflenwi a’n partneriaid i gyflawni ein rhaglen adeiladu cyfalaf a’n prosiectau seilwaith ynni dŵr mwynglawdd.

Mae ein bwrdd wedi ymrwymo i gyflawni statws di-garbon net erbyn 2030. Gobeithiwn ragori ar hynny a gwneud cyfraniad ehangach at gymdeithas trwy’r cynefinoedd a grëwn a’r storfeydd gwres ac ynni datgarboneiddiedig yr ydym eisiau eu darparu. Eleni, byddwn yn cadarnhau sefyllfa sylfaenol a chynllun clir ar gyfer cynnydd tuag at 2030 a thu hwnt.

Byddwn yn parhau i gyflawni ein dyletswyddau craidd a darparu ymateb i ddigwyddiadau a thawelwch meddwl 24/7 i unrhyw un y mae nwy, ymsuddiant neu beryglon mwyngloddio yn effeithio arno. A byddwn yn gwneud mwy o waith gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod tomenni gwastraff pyllau glo yng Nghymru yn cael eu harchwilio ac i lywio ymagwedd yn y dyfodol at reoleiddio a chynnal a chadw er mwyn rhoi sicrwydd tymor hir i gymunedau lleol.

Ni fyddai hyn yn bosibl o gwbl heb ein pobl wych – na’r bobl amrywiol a thalentog y bydd angen i ni eu recriwtio yn ystod y flwyddyn i ddod. Mae ein pwyslais ar amrywiaeth a chynhwysiant yn bwysicach fyth, ac rydym wedi ymrwymo i weithredu i ddod yn sefydliad sy’n cymryd camau mwy gweithredol i fod yn wrth-hiliol. Mae gennym lawer mwy i’w wneud ac fe’ch anogwn i’n dal i gyfrif wrth i ni symud ymlaen.

Fel y dywed Stephen, byddwn yn defnyddio’r gwersi a ddysgwyd a’r cyfleoedd sy’n deillio o’r cyfnod gweithio anarferol hwn i sicrhau y gallwn fod yn fwy hyblyg, yn fwy galluog o ran technoleg ac yn lle ‘gwych a chynhwysol i weithio’ ar gyfer y dyfodol.

Lisa Pinney MBE, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu

5. Ein perfformiad

Rydym wedi gwneud cynnydd da yn ystod 2 flynedd gyntaf ein cynllun 5 mlynedd, gan osod y sylfeini i greu sefydliad mwy cynaliadwy a fydd yn gallu cyflawni ein cenhadaeth am flynyddoedd i ddod. Yn ogystal â pharhau i fuddsoddi yn ein dyfodol, rydym wedi cyflawni ein rolau craidd yn gryf yn ystod 2019-20, sef cadw pobl yn ddiogel, gwarchod yr amgylchedd, a darparu gwybodaeth o ansawdd da i helpu eraill i wneud penderfyniadau gwybodus.

Rydym yn datblygu ein cerdyn sgorio cytbwys yn erbyn pedwar maes – ein pobl, cwsmeriaid a rhanddeiliaid, prosesau mewnol, a rheoli ein harian. Amlinellir ein cyflawniadau allweddol yn y meysydd hyn isod.

5.1 Ein pobl

Rydym yn parhau i wneud cynnydd da yn unol â’n cynllun pobl.

Dangosodd ein harolwg pobl yn 2019 fod 81% o’n pobl yn falch o weithio yma (o gymharu â chyfartaledd o 65% ar gyfer y sector) a’n bod wedi gwella’r cymorth i’n pobl mewn nifer o feysydd. Mae hefyd wedi ein helpu i amlygu meysydd i’w gwella a chamau gweithredu pellach.

Rydym wedi gweithredu ein cynlluniau gweithredu ar amrywiaeth, cynhwysiant, iechyd meddwl a lles. Rydym wedi gwella polisïau, ymsefydlu ein staff cymorth cyntaf iechyd meddwl ymhellach ac wedi hyrwyddo grwpiau a rhwydweithiau cymorth.

Rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar ddysgu a datblygu ac wedi lansio ein rhaglenni datblygu arweinyddiaeth a ‘datblygiad i bawb’.

Rydym yn gwneud cynnydd da ar ein hymrwymiadau ‘lle gwych i weithio’ ac wedi symleiddio ein dulliau i’w gwneud yn haws i’n pobl ddarparu gwasanaeth gwych i’n cwsmeriaid. Ewch i’n hadran ‘Ein pobl’ i gael rhagor o wybodaeth am gynnydd ein hymrwymiadau ‘lle gwych i weithio’.

5.2 Cwsmeriaid a rhanddeiliaid

Rydym wedi gwneud cynnydd clir ar ein hymrwymiad i wella gwasanaeth cwsmeriaid. Ategwyd hyn gan adborth gan ein cwsmeriaid, ein partneriaid a’n staff. Gwnaethom ddefnyddio Mynegai Gwasanaethau Cwsmeriaid y Deyrnas Unedig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus am y tro cyntaf i ddarparu meincnod ar gyfer y dyfodol. Dywedodd hyn wrthym fod 77.5% o’n cwsmeriaid yn fodlon â’r gwasanaeth a gânt gennym (o gymharu â chyfartaledd o 77.7% ar gyfer y sector) ac amlygodd rai meysydd penodol i’w gwella, gan gynnwys trin a datrys cwynion, gwell mynediad digidol at ein gwasanaethau a mwy o eglurder ynglŷn â graddfeydd amser ymateb. Rydym wedi ystyried hyn yn ein strategaeth gwsmeriaid newydd a’n safonau cwsmeriaid newydd, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019. Rydym hefyd wedi cyhoeddi gweithdrefn cwynion a chanmoliaeth newydd sy’n darparu rhannau cliriach ar gyfer hawlwyr ymsuddiant a chwsmeriaid eraill er mwyn bod yn fwy eglur.

Gwnaethom weithio’n effeithiol gyda phartneriaid ar yr ymateb argyfwng i stormydd Ciara, Dennis a Jorge, gan ddefnyddio ein gorsafoedd pwmpio ymsuddiant i leihau llifogydd i’r eithaf a gweithredu gweithfeydd trin dŵr mwynglawdd mewn ffyrdd arloesol i leihau llygredd i’r eithaf. Yng Nghymru, gwnaethom weithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i leihau effeithiau llifogydd difrifol ar domenni pwll glo i’r eithaf a rhoi sicrwydd i’r cymunedau oddi tanynt. Rydym bellach yn darparu ‘llinell gymorth tomenni’ (0800 021 9230) ac yn parhau i weithio gyda phartneriaid i greu cofrestr ganolog o domenni yng Nghymru, cynnal archwiliadau risg uchel a chynllunio ar gyfer trefn reoleiddiol newydd i’w rheoli yn y dyfodol.

Rydym yn parhau i ddarparu llinell ymateb i ddigwyddiadau 24/7 (0800 288 4242) ar gyfer peryglon mwyngloddio fel ymsuddiant, nwy mwynglawdd a siafftiau sy’n dymchwel. Rydym wedi archwilio 10,858 o fynedfeydd pyllau glo, atgyweirio 81 o adeiladau, a datrys hawliadau ymsuddiant yn ymwneud â 450 o beryglon mwyngloddio hanesyddol o dan seilwaith, tir ac adeiladau.

Rydym wedi buddsoddi £9.9 miliwn mewn trin dŵr a lygrwyd gan fwyngloddiau glo a metel segur er mwyn gwarchod yr amgylchedd naturiol, ac wedi parhau â’n rhaglen ymchwil a datblygu i gyflawni canlyniadau ehangach a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Rydym wedi gweithio gydag ystod o randdeiliaid cenedlaethol a lleol ar y cynllun arwyddocaol cyntaf yn y wlad i wresogi ardal gan ddefnyddio gwres o ddŵr mwynglawdd, yn Seaham yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Bydd hyn yn darparu gwres datgarboneiddiedig ar gyfer 750 o gartrefi fforddiadwy, 750 o gartrefi preifat, ysgol, siopau a chanolfan feddygol ac arloesedd o’n cynllun trin dŵr mwynglawdd cyfagos. Mae pyllau glo hanesyddol yn ffynhonnell gwres geothermol, sydd â photensial enfawr, gan fod 25% o’r cartrefi ym Mhrydain Fawr wedi’u lleoli ar feysydd glo. Mae nifer o gynlluniau eraill ar y gweill ac rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraethau’r Deyrnas Unedig, yr Alban a Chymru i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i helpu i gyflawni eu polisïau a’u dyheadau di-garbon net a newid yn yr hinsawdd, ac i greu gwres cost-effeithiol, carbon isel i bobl a chymunedau mewn ardaloedd mwyngloddio.

5.3 Prosesau mewnol

Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi adolygu, ailwampio a symleiddio ein dogfen fframwaith rheoli allweddol a’n llawlyfr llywodraethu yn gynhwysfawr, ac wedi adolygu ein lefelau awdurdod dirprwyedig, er mwyn grymuso ein pobl yn well o fewn fframweithiau mwy eglur.

Rydym wedi gwneud cynnydd da ar gynhyrchu fframwaith rheoli a sicrhau risg newydd. Bydd hyn yn mynegi ein parodrwydd i dderbyn risg yn fwy eglur ac yn gwella prosesau rheoli risg er mwyn hwyluso adrodd am risgiau a’u rheoli’n ddynamig ac mewn amser real. Caiff ei gyflwyno’n ehangach a’i ymsefydlu yn ystod 2020-21.

Mae ein dull rhaglenni yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwell a chyflawni mwy o arbedion effeithlonrwydd a/neu ganlyniadau lluosog ar draws ein rhaglen gyfalaf a phrosiectau eraill.

5.4 Rheoli ein harian

Rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), sef ein hadran noddi, fel eu bod yn deall ein risgiau a’n cyfleoedd ariannol ac yn helpu i sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhaglenni a’n gweithgareddau yn unol â chyllidebau cytunedig.

Ariannwyd 36% o’n gwariant o’r tu allan i gymorth grant BEIS yn ystod y flwyddyn. Gwnaethom gynhyrchu £5.4 miliwn o incwm o’n gwasanaethau cynghori a’n sgil-gynhyrchion, gan ddefnyddio ein harbenigedd i helpu sefydliadau eraill y llywodraeth i reoli eu risgiau a chreu cyfleoedd o’n hetifeddiaeth fwyngloddio.

Mae ein rhaglenni Arloesedd ac Ymchwil a Datblygu wedi cynhyrchu arbedion o £2.2 filiwn i wrthbwyso ein costau yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys £2.0 filiwn o gostau y llwyddwyd i’w hosgoi yn sgil cynnal ein gwelyau cyrs trin dŵr mwynglawdd yn gynaliadwy trwy ailgylchu 24,521 o dunelli o ddeunydd wedi’i gloddio, 120 o dunelli o gyrs wedi’u torri a 2,800 o dunelli o ocr.

Ewch i’n hadran ‘Adolygiad ariannol’ i gael rhagor o wybodaeth am ein cyllid.

6. Rhagolwg ar gyfer 2020-21

Drwy gydol 2020-21, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ein cenhadaeth, sef creu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.

Byddwn yn cefnogi uchelgeisiau’r llywodraethau a wasanaethwn i sicrhau adferiad gwyrdd o COVID-19 ac yn parhau i alluogi twf seilwaith a chynaliadwy trwy ein gwaith. Rydym wedi dysgu o weithio mewn ffyrdd newydd a byddwn yn defnyddio hyn a’r potensial ar gyfer mwy o hyblygrwydd i wella ein dulliau darparu yn y dyfodol, cefnogi’r cymunedau a wasanaethwn yn well, cefnogi lles y bobl sy’n gweithio i ni a cheisio denu talent fwy amrywiol i’n rolau yn y dyfodol.

Ar hyd y cyfnod clo a thu hwnt, rydym wedi parhau â’n gwaith hanfodol i warchod bywyd, dŵr yfed a’r amgylchedd. O gynorthwyo aelwydydd yr effeithiwyd arnynt gan ymsuddiant neu nwy mwynglawdd i warchod dŵr yfed, afonydd a thraethau rhag llygredd o fwyngloddiau, mae ein gwaith yn cadw cymunedau’n ddiogel ac yn sicrhau bod pobl leol yn gallu mwynhau afonydd, traethau a mannau lleol eraill. Dyma ein gwaith craidd, a bydd yn parhau ochr yn ochr â’n gwasanaeth ymateb i ddigwyddiadau 24/7 i roi sicrwydd i gymunedau ar draws y meysydd glo.

Byddwn yn hyrwyddo adferiad economaidd cynaliadwy trwy gefnogi’r farchnad dai, rhoi arbenigedd a chyngor i ddarparwyr seilwaith a chyflenwi gwybodaeth o ansawdd da i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus.

Byddwn yn gweithio gyda’n cadwyn gyflenwi a’n partneriaid i gyflawni ein rhaglen adeiladu cyfalaf a’n prosiectau seilwaith gwres ac ynni o ddŵr mwynglawdd i’r eithaf, gan hyrwyddo cyflogaeth a gwella ardaloedd meysydd glo fel nad oes gwahaniaeth rhyngddynt ag ardaloedd eraill.

Byddwn yn ceisio gwneud cynnydd clir tuag at ein hymrwymiad i fod yn sefydliad di-garbon net erbyn 2030. Byddwn yn cadarnhau sefyllfa sylfaenol ar gyfer ein hallyriadau ac yn datblygu cynllun clir ar gyfer cynnydd hyd at 2030 a thu hwnt. Bydd hyn yn cynnwys pwyslais ar natur a bioamrywiaeth, sy’n hanfodol i allu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd.

Byddwn yn gweithio gyda’n hadran noddi, sef BEIS, y llywodraethau datganoledig, cynghorau lleol, partneriaid o’r sectorau cyhoeddus a phreifat a phartneriaid cyllid gwyrdd i gynyddu’r biblinell o brosiectau gwres ac ynni o ddŵr mwynglawdd a fydd yn darparu gwres datgarboneiddiedig a chost-effeithiol i dai cymdeithasol, datblygiadau preswyl a diwydiannol a garddwriaeth er mwyn helpu i gyflawni uchelgeisiau Cymru, Lloegr a’r Alban o ran y newid yn yr hinsawdd.

Byddwn yn parhau i ymrwymo i wneud ein gwasanaethau’n fwy hygyrch a galluogi ein cwsmeriaid i ymgysylltu â ni’n well mewn amrywiaeth o ffyrdd sy’n bodloni eu hanghenion.

Byddwn yn ychwanegu at yr hyn a ddysgwyd o gymryd rhan mewn sawl digwyddiad mawr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac yn datblygu ein systemau a’n strwythurau ymhellach i foderneiddio ein hymagwedd yn seiliedig ar arfer gorau.

Bydd hyn oll wedi’i ategu gan ein gwaith i greu gweithle a ffyrdd o weithio sy’n fwy modern, cynhwysol, bywiog a chroesawgar fyth. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar les a datblygiad gweithwyr. Mae’r ymagwedd hon wedi bod yn allweddol i’n hymateb a’n hadferiad mewn perthynas â COVID-19, a byddwn yn ei datblygu ymhellach.

Safwn gyda’n cydweithwyr, ein cwsmeriaid, ein partneriaid a’n ffrindiau du. Rydym yn gwrando ac yn dysgu, a byddwn yn cymryd camau pendant i ddod yn fwy gwrth-hiliol. Mae hyn yn cynnwys addysgu ein pobl, newid ein hymagwedd at recriwtio a chreu mwy o gyfleoedd i glywed lleisiau a safbwyntiau gwahanol wrth ffurfio ein hymagweddau. Rydym yn gwybod bod gennym lawer mwy i’w wneud. Gofynnwn i chi ein dal i gyfrif wrth i ni fynd ymlaen.

7. Ein model busnes

Mae ein model busnes yn ffurfio rhan o’n cynllun busnes. Mae’r model yn cefnogi sut byddwn yn darparu gwasanaethau i’n cwsmeriaid, buddsoddi yn y dyfodol a datblygu galluoedd fel y gallwn gyflawni ein nodau a datgloi ein gwerth tymor hir.

Mae ein diben wrth wraidd ein model Busnes, yn sail i’r pedair ystyriaeth allweddol a drafodwyd eisoes yn “Ein Perfformiad”:

  • Ein pobl

  • Cwsmeriaid a rhanddeiliaid

  • Prosesau mewnol

  • Rheoli ein harian

Trwy wella ein perthynas â’n pobl, ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid yn gyson, cryfhau ein prosesau a gwneud hyn i gyd o fewn fframwaith llywodraethu ariannol cadarn, gallwn ddefnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd:

  • i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus a

  • chyflawni ein hymrwymiadau i reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â mwyngloddio

A hynny ar yr un pryd â chreu gwerth a lleihau’r gost i drethdalwyr gymaint â phosibl.

7.1 Ein diben

  • rydym yn cadw pobl yn ddiogel ac yn rhoi tawelwch meddwl

  • rydym yn gwarchod a gwella’r amgylchedd

  • rydym yn defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus

  • rydym yn creu gwerth ac yn lleihau’r gost i drethdalwyr gymaint â phosibl

8. Ein cynllun busnes

Mae ein cynllun busnes yn gosod ein diben wrth wraidd yr hyn a wnawn. Bydd ein rhaglenni gwella a’n gweithgareddau masnachol yn sicrhau y gallwn barhau i ymgymryd â’r dyletswyddau craidd hyn mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.

8.1 Arwain, cefnogi a datblygu ein pobl:

  • mae ein hyfforddiant arweinyddiaeth yn ysbrydoli, ysgogi a helpu staff i gyflawni eu llawn botensial

  • rydym yn meddu ar y gallu i gyflawni ein dyletswyddau statudol am byth

  • rydym yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant

  • mae ein staff wedi’u grymuso ac yn ymgysylltu

  • mae ein system gwobrwyo staff yn gysylltiedig â datblygiad

8.2 Ceisio cyfleoedd masnachol:

  • rydym yn darparu gwasanaethau cynghori i alluogi sefydliadau eraill i reoli eu risgiau

  • rydym yn creu gwerth o’n hetifeddiaeth a’n sgil-gynhyrchion mwyngloddio

  • rydym yn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau i greu gwerth o’n gwybodaeth a’n data

8.3 Gweithredu strategaeth gwsmeriaid:

  • rydym yn deall ein cwsmeriaid ac yn canolbwyntio ar eu hanghenion

  • mae ein data cwsmeriaid yn cael ei fesur, ei ddeall a’i ddefnyddio i ychwanegu gwerth

  • mae ffyrdd o weithio sy’n dangos arfer gorau yn cael eu hymsefydlu

8.4 Buddsoddi yn ein trefniadau llywodraethu a’n prosesau:

  • mae trefniadau rheoli risg wedi’u hailwampio ac mae’r system adrodd am risgiau’n ddynamig

  • mae cynllunio busnes a gwaith rhaglenni effeithiol yn cefnogi blaenoriaethu a chyflawni’n effeithiol

  • mae llywodraethu’n syml ac yn grymuso pobl o fewn fframweithiau

9. Risgiau strategol

9.1 Risg: Risg diogelwch cyhoeddus

Er gwaethaf rheolaethau’r Awdurdod Glo, mae perygl arwyneb sylweddol a achoswyd gan gloddio am lo yn y gorffennol neu ddigwyddiad ar safle etifeddol yr Awdurdod Glo yn achosi anaf difrifol neu farwolaeth.

Diweddariad a mesurau lliniaru

Mae gennym brosesau sydd wedi’u hen sefydlu i reoli ein risgiau, gan gynnwys rhaglenni archwilio a chyfathrebu rhagweithiol a llinell gymorth ymateb wedi’i frysbennu sydd ar gael 24/7.

Rydym yn defnyddio ymateb cymesur i reoli’r risg hon, ond ni ellir ei dileu.

Sgôr gymharol

Uchel (sefydlog).

9.2 Risg: COVID-19 (lles staff a pharhad busnes)

Mae COVID-19 (neu ddigwyddiad iechyd tebyg) a’r cyfyngiadau cysylltiedig yn effeithio ar iechyd, diogelwch neu les staff a gallu’r Awdurdod Glo i gyflawni ei swyddogaethau craidd.

Diweddariad a mesurau lliniaru

Erbyn 31 Mawrth 2020, roedd ein cynllun parhad busnes wedi cael ei gychwyn ac roedd y sefydliad yn gweithio o gartref. Roedd uwch dîm rheoli wedi’i sefydlu i wneud penderfyniadau amser real a sicrhau bod lles staff yn cael ei warchod a bod ein dulliau cyfathrebu’n effeithiol. Blaenoriaethwyd gweithgareddau rheng flaen allweddol yn ofalus, a pharhaodd yr holl weithrediadau allweddol drwy gydol y cyfnod.

Ar yr adeg cyhoeddi, rydym yn parhau i flaenoriaethu’n ofalus, gan ailgychwyn gweithgareddau wrth i’r cyfyngiadau lacio.

Sgôr gymharol

Uchel (lleihau).

9.3 Risg: Effaith ariannol COVID-19

Mae’r effaith economaidd a achoswyd gan COVID-19 yn effeithio ar incwm yr Awdurdod Glo.

Diweddariad a mesurau lliniaru

Mae rhagolygon cychwynnol yn awgrymu y bydd incwm o wasanaethau adroddiadau, gwybodaeth a thrwyddedau mwyngloddio hyd at £3 miliwn yn is na’r gyllideb yn ystod 2020-21. Ar yr adeg cyhoeddi, mae lefelau incwm yn anwadal ac mae’n anodd rhagfynegi’r misoedd i ddod. Parhawn i weithio’n agos gyda’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) i reoli’r pwysau hyn ar ein cyllideb.

Sgôr gymharol

Uchel (sefydlog).

9.4 Risg: Amharwyr yn y farchnad wybodaeth

O ganlyniad i adnoddau a phwyslais cyfyngedig ar ddyletswyddau craidd, nid ydym yn gwella ein gwybodaeth nac yn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, gan golli cyfleoedd i’r Awdurdod Glo ac eraill greu gwerth o’n gwybodaeth a’n data.

Diweddariad a mesurau lliniaru

Rydym wedi llwyddo i ryddhau ein data i’w ddefnyddio gan eraill ac agor y farchnad adroddiadau mwyngloddio, gan arwain at gyfran is o’r farchnad a llai o incwm o’r farchnad hon, yn ôl y disgwyl.

Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r Comisiwn Geo-ofodol, ei gyrff partner, a sefydliadau eraill i amlygu cyfleoedd i rannu ein data a’n gwybodaeth, gan ddarparu gwasanaethau rhagorol i helpu ein cwsmeriaid i wneud penderfyniadau gwybodus.

Sgôr gymharol

Uchel (sefydlog).

9.5 Risg: Defnydd o wasanaethau i’r llywodraeth

O ganlyniad i bwysau cyllido allanol ac ansicrwydd economaidd, mae cyfleoedd i ddarparu gwasanaethau i sefydliadau’r llywodraeth yn datblygu’n arafach, gan arwain at golli’r cyfle i’w helpu i reoli eu risgiau neu greu gwerth o etifeddiaeth fwyngloddio a cholli cyfraniad ariannol.

Diweddariad a mesurau lliniaru

Rydym wedi adolygu ein marchnadoedd a rhesymoli’r gwasanaethau sgil-gynhyrchion a chynghori a gynigiwn a’r partneriaid rydym yn ymwneud â nhw.

Rydym wedi gwella ein proffil a chryfhau perthnasoedd allweddol. Rydym yn parhau i weithio gydag eraill, gan gynnwys Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i reoli gwaith adfer dŵr mwynglawdd, ac rydym wedi sefydlu tîm ymateb i ddigwyddiadau tomenni ar ran Llywodraeth Cymru.

Sgôr gymharol

Canolig (sefydlog).

9.6 Risg: Arloesedd

O ganlyniad i gyfyngiadau cyllido a’r risg gynhenid sy’n gysylltiedig ag arloesedd, gallai cynnydd wrth ddatblygu technoleg, prosesau a chynhyrchion newydd gymryd mwy o amser nag a gynlluniwyd, gan arwain at oedi wrth greu gwerth ac arbed costau.

Diweddariad a mesurau lliniaru

Goruchwylir y rhaglen hon gan ein bwrdd arloesedd.

Mae camau a gymerwyd yn ystod y cyfnod adolygu gwariant hwn wedi lleihau costau gweithredu trin dŵr mwynglawdd gan £2.2 filiwn yn 2019-20, ac rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer cynlluniau ynni dŵr mwynglawdd.

Byddwn yn parhau i gydweithio â’n hadran noddi, sef BEIS, Arolwg Daearegol Prydain a sefydliadau eraill i gynyddu ein llwyddiant i’r eithaf.

Sgôr gymharol

Canolig (sefydlog).

9.7 Risg: Pwysau costau gweithredu

Mae pwysau parhaus ar gostau gweithredu cynlluniau trin dŵr mwynglawdd sy’n heneiddio a natur adweithiol ac anrhagweladwy ein gwaith diogelwch cyhoeddus yn arwain at fwlch cyllido tymor byr sy’n achosi i ni arafu neu atal rhaglenni strategol allweddol.

Diweddariad a mesurau lliniaru

Mae ein rhaglenni Ymchwil a Datblygu ac Arloesedd yn cynhyrchu arbedion a byddant yn lleihau cost net gweithredu ein cynlluniau yn y dyfodol (gweler uchod). Bydd ein rhaglen adnewyddu cyfalaf yn sicrhau bod ein cynlluniau’n aros yn effeithiol ac yn effeithlon i’w gweithredu.

Rydym yn gweithio’n agos ac yn dryloyw gyda BEIS i rannu ein cynlluniau a rheoli ein risgiau ariannol.

Mae BEIS yn cefnogi ein strategaeth, a gynlluniwyd i’n galluogi i reoli etifeddiaeth lofaol y Deyrnas Unedig mor effeithlon â phosibl.

Sgôr gymharol

Canolig (sefydlog).

9.8 Risg: Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd

Gallai ansicrwydd ynglŷn â natur yr ymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd gael effaith ar gyllid a pholisi’r Awdurdod Glo a’i bartneriaid ac amhariad tymor byr.

Diweddariad a mesurau lliniaru

Rydym wedi adolygu’r elfennau o’n busnes y gallai’r ymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd effeithio arnynt yn y tymor byr, er enghraifft cyflenwi cemegau i’n gweithfeydd trin dŵr mwynglawdd, ac mae gennym gynlluniau ar waith i reoli’r rhain. Mae cost y gwaith paratoadol hwn wedi cael ei hysgwyddo o fewn ein timau busnes presennol.

Nid ydym yn disgwyl i’r ymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd gael effaith sylweddol ar ein gweithgareddau, ond byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n ofalus. Mae ein cynlluniau parhad busnes wedi cael eu hadolygu a’u diweddaru fel bod cydweithwyr yn gwybod sut i ymdrin ag amhariad bach.

Sgôr gymharol

Isel (cynyddu).

9.9 Risg: Datganoli

Mae gwahaniaethau polisi’n parhau i dyfu rhwng Llywodraethau’r Deyrnas Unedig, yr Alban a Chymru mewn meysydd sy’n berthnasol i’n gwaith, gan achosi aneffeithlonrwydd, ansicrwydd neu risg i enw da.

Diweddariad a mesurau lliniaru

Mae’r tair gwlad a wasanaethwn wedi datblygu polisïau gwahanol yn ystod COVID-19 sydd wedi achosi gwaith ychwanegol ac, ar adegau, canllawiau ac ymagweddau gwahanol ar gyfer ein pobl a’n gweithrediadau ym mhob gwlad. Mae’n bosibl y gallai’r gwahaniaethau polisi rhwng y gwledydd barhau i dyfu, yn enwedig gan fod yr ymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd ar y gorwel. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r gwledydd wrth ddarparu ein gwaith er mwyn cyflawni canlyniadau’r Deyrnas Unedig a chanlyniadau cenedlaethol i’r eithaf.

Sgôr gymharol

Canolig (cynyddu).

10. Adolygiad ariannol

Rydym wedi parhau i wneud cynnydd da â’n strategaeth o greu sefydliad cynaliadwy a fydd yn parhau i wneud dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.

Rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn arloesedd a’n cynlluniau trin dŵr mwynglawdd, cynnal perfformiad gweithredu cryf ac ymateb yn dda i ddigwyddiadau tywydd eithafol a digwyddiadau critigol. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) i gyfleu’r risgiau a’r ffactorau sensitif sydd wrth wraidd ein gofynion cyllid, ac rydym wedi cyflawni yn unol â’n cyfansymiau rheoli disgwyliedig. Cafwyd £34.8 miliwn (2018-19: £28.5 miliwn) o gymorth grant gan BEIS yn ystod y flwyddyn. Y prif resymau am y cynnydd mewn cymorth grant yw llai o incwm o adroddiadau mwyngloddio (yn gysylltiedig â’n hamcan o agor marchnad gystadleuol ar gyfer adroddiadau mwyngloddio) ac amseriad incwm adfachu cysylltiedig ag eiddo, yn ogystal â buddsoddiad parhaus angenrheidiol yn ein cynlluniau dŵr mwynglawdd a chostau uwch cynlluniau pwmpio ymsuddiant a dŵr mwynglawdd gweithredol. Esbonnir y ffactorau hyn ymhellach yn yr adroddiad hwn. Cynhyrchodd ein gwaith gwasanaethau cynghori incwm o £5.3 miliwn (sy’n debyg i’r swm yn 2018-19: £5.5 miliwn). Mae hyn yn adlewyrchu llwyddiant wrth ddarparu ar gyfer (a chyda) sefydliadau eraill y llywodraeth, gan gynnwys Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn Lloegr a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal â chynorthwyo prosiectau seilwaith cenedlaethol ac awdurdodau lleol i reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â mwyngloddio.

10.1 Sut y defnyddiom ein harian yn 2019-20

Dangosir ffigurau 2018-19 mewn cromfachau.

Ein hincwm oedd £54.1 miliwn (£51.8 miliwn)

  • Adroddiadau mwyngloddio: £9.5 miliwn (£11.7 miliwn)

  • Cynghori a thechnegol: £5.3 miliwn (£5.5 miliwn)

  • Sgil-gynhyrchion ac arloesedd masnachol arall: £0.1 miliwn (£0.3 miliwn)

  • Trwyddedu/caniatâd gweithredwyr: £0.8 miliwn (£0.8 miliwn)

  • Trwyddedu data: £1.0 filiwn (£0.5 miliwn)

  • Cysylltiedig ag eiddo: £1.4 miliwn (£3.4 miliwn)

  • Ffi rheoli diogelwch cyhoeddus ac arall: £0.2 filiwn (£0.4 miliwn)

  • Symudiad cyfalaf gweithio: £1.0 filiwn (£0.7 miliwn)

  • Cymorth grant (BEIS): £34.8 miliwn (£28.5 miliwn)

Ein gwariant oedd £54.1 miliwn (£51.8 miliwn)

  • Gweithrediadau – Diogelwch cyhoeddus: £12.0 miliwn (£12.7 miliwn)

  • Gweithrediadau – Cynlluniau trin dŵr mwynglawdd: £12.6 miliwn (£11.5 miliwn)

  • Gweithrediadau – Gorsafoedd pwmpio ymsuddiant: £1.6 miliwn (£1.3 miliwn)

  • Datblygu – Cynllunio, trwyddedu, caniatâd ac eiddo: £3.2 miliwn (£2.9 miliwn)

  • Data a gwybodaeth: £4.2 miliwn (£3.1 miliwn)

  • Masnachol: £9.1 miliwn (£8.5 miliwn)

  • Arloesedd: £0.9 miliwn (£1.1 filiwn)

  • Cynlluniau trin dŵr mwynglawdd – CYFALAF: £8.2 miliwn (£6.2 miliwn)

  • Gorsafoedd pwmpio ymsuddiant – CYFALAF: £1.3 miliwn (£3.0 miliwn)

  • Arall – CYFALAF: £1.0 filiwn (£1.5 miliwn)

Yr incwm o £18.3 miliwn a ddangosir yn y Datganiad o wariant net cynhwysfawr yw cyfanswm y ffigurau Incwm uchod heb gynnwys cymorth grant a symudiad cyfalaf gweithio.

10.2 Datganiadau ariannol

Mae ein cyfrifon wedi’u dominyddu gan ein balans darpariaethau o £2,306.0 miliwn. Dangosir y sail resymegol a’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo hyn yn nodyn 13 i’r cyfrifon. Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol ac yn unol â’n polisi cyfrifyddu, adolygwyd y ddarpariaeth hon ar gyfer datrys effeithiau cloddio am lo yn y gorffennol ar ddiwedd 2019-20. Mae’r balans hwn wedi aros ar yr un lefel i raddau helaeth, gan gynyddu 9.0 miliwn (2018-19: gostyngiad o £2,029.0 miliwn). Yn unol ag arferion cyfrifyddu, rydym yn addasu ein llifoedd arian parod i adlewyrchu gwerth amser arian yn seiliedig ar dybiaethau a chyfraddau gostyngiad a ddarperir gan Drysorlys EM. Newidiodd y cyfraddau hyn yn sylweddol ar gyfer y flwyddyn flaenorol a dyna oedd y prif reswm dros y symudiad mawr yn 2018-19. Esbonnir ein balans darpariaethau yn nodyn 13 i’r cyfrifon.

10.3 Datganiad o wariant net cynhwysfawr

Y gwariant net cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2020 oedd £48.0 miliwn, o gymharu ag incwm net o £2,003.5 miliwn yn 2018-19. Y symudiadau mewn darpariaethau a amlinellir uchod sy’n gyfrifol am y gwahaniaeth mawr rhwng y ddwy flynedd. Heblaw am y symudiadau darpariaethau hyn, y gwariant net cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn oedd £20.7 miliwn (2018-19: £7.8 miliwn), sef £12.9 miliwn yn fwy.

Amlinellir y symudiadau hyn isod:

Cyfanswm incwm gweithredu:

Cyfanswm yr incwm gweithredu, nad yw’n cynnwys cymorth grant, oedd £18.3 miliwn (2018-19: £22.6 miliwn), sy’n adlewyrchu ein strategaethau parhaus i weithio ar y cyd ar brosiectau trawslywodraethol cydgysylltiedig ar yr un pryd ag agor y farchnad adroddiadau mwyngloddio i gystadleuaeth a galluogi eraill i ddefnyddio ein gwybodaeth i reoli eu risgiau.

  • Rydym bellach ymhell o’n sefyllfa wreiddiol, lle’r oedd gennym fonopoli ar adroddiadau mwyngloddio i bob pwrpas, a hynny o ganlyniad i agor y farchnad yn llwyddiannus yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. O ganlyniad, mae ein refeniw o adroddiadau mwyngloddio wedi gostwng £2.2 filiwn yn ystod y flwyddyn i £9.5 miliwn, wedi’i wrthbwyso gan ffïoedd uwch o £0.5 miliwn o werthu ein data i gyrff allanol i ehangu’r farchnad.

  • Mae ein hincwm cynghori a thechnegol, sef £5.3 miliwn, wedi aros yn debyg i incwm 2018-19 at ei gilydd (£5.5 miliwn).

  • Mae incwm o sgil-gynhyrchion wedi gostwng eleni o £0.3 miliwn i £0.1 filiwn. Mae hyn yn adlewyrchu llwyddiant mawr y llynedd wrth ddod o hyd i ddefnyddiau ar gyfer ein sgil-gynnyrch ocr, a hefyd mwy o bwyslais yn ystod 2019-20 ar feysydd sy’n debygol o gynnig buddion mawr yn y dyfodol, sef, yn fwyaf nodedig, yr ymchwil ynglŷn â gwres mwynglawdd a drafodir mewn man arall yn yr adroddiad hwn.

  • Y gwahaniaeth mawr arall o 2018-19 yw’r gostyngiad mewn incwm ‘adfachu’ o werthu adeiladau yr oedd yr Awdurdod Glo yn berchen arnynt yn flaenorol - £1.1 filiwn o gymharu â £3.1 miliwn yn 2018-19. Mae’r incwm hwn yn anrhagweladwy ac mae’r amseriad y tu allan i’n rheolaeth i raddau helaeth.

Gwariant

  • Roedd costau staff, sef £15.1 miliwn, £1.0 filiwn yn fwy na’r flwyddyn flaenorol, a hynny’n bennaf o ganlyniad i gynnydd mewn cyfraddau cyfraniad y cyflogwr at gynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

  • Cynyddodd cost prynu nwyddau a gwasanaethau (heb gynnwys costau a ddarparwyd yn flaenorol) £0.6 miliwn i £9.0 miliwn, gan adlewyrchu costau uned uwch y pŵer a’r cemegau a ddefnyddir yn ein gwaith amgylcheddol, a mwy o waith cynnal a chadw ar draws ein cynlluniau a sbardunir yn rhannol gan gyfyngiadau cyfalaf y gorffennol. Rydym yn ceisio lleihau’r bil cynyddol hwn yn y dyfodol trwy gynyddu buddsoddiad cyfalaf, fel y trafodir isod.

  • Ffactor arall sy’n sbarduno cynnydd mewn costau yw ein hymrwymiad i ymateb i ddigwyddiadau. Arweiniodd hyn, er enghraifft, at wario £0.1 filiwn ar ein hymateb i ansefydlogrwydd nifer o domenni yng Nghymru o ganlyniad i lawiad eithafol a llifogydd y gaeaf. Yn yr un modd, mae ein hymateb i sicrhau bod ein gorsafoedd pwmpio yn ne Swydd Efrog yn parhau i weithredu yn ystod tywydd eithriadol o wlyb (£0.4 miliwn) hefyd yn adlewyrchu ein blaenoriaeth i gadw pobl yn ddiogel a gwarchod yr amgylchedd.

  • Y ffigur dibrisiant, ailbrisio a thaliadau amhariad yw £15.0 miliwn eleni, sef £7.2 miliwn yn fwy na 2018-19. Mae hyn yn adlewyrchu’r buddsoddiad mwyaf ers degawd yn ein cynlluniau trin dŵr mwynglawdd a’n gorsafoedd pwmpio ymsuddiant. Fel y mae ein polisi cyfrifyddu yn nodyn 1.1 i’r cyfrifon yn ei ddangos, mae gwariant o’r fath yn cael ei amharu’n syth yn hytrach na’i gario fel ased. Bydd y buddsoddiad hwn yn lleihau costau yn y dyfodol o ran cynnal a chadw ac adnewyddu’r cynlluniau trwy gynnig gwell effeithlonrwydd a lleihau’r gofyniad am gynnal a chadw yn y dyfodol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nodiadau 3 a 4 i’r cyfrifon.

Datganiad o’r sefyllfa ariannol

Roedd y rhwymedigaethau net, sef £2,303.0 miliwn, wedi cynyddu £13.5 miliwn o gymharu â ffigur 2018-19, sef £2,289.5 miliwn. Dyma oedd y ffactorau allweddol:

  • cynyddodd darpariaethau yn erbyn rhwymedigaethau yn y dyfodol £9.0 miliwn o ganlyniad i’r adolygiad o ddarpariaethau a amlinellir uchod. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nodyn 13 i’r cyfrifon. Mae’r gostyngiad £5.1 miliwn mewn balansau eiddo, peiriannau ac offer i £9.1 miliwn yn bennaf o ganlyniad i gwblhau ac amharu’n syth cam 2 y cynllun dŵr mwynglawdd yn Lynemouth, Northumberland a gorsaf bwmpio ymsuddiant yn Great Heck, Gogledd Swydd Efrog. Gwelir hyn hawsaf yn nodyn 6 i’r cyfrifon sy’n dangos £4.3 miliwn a ailddosbarthwyd i’r cyfryw gynlluniau o falans agoriadol asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu, a’u hamhariad dilynol. Mae £0.9 miliwn o’r gostyngiad mewn eiddo, peiriannau ac offer o ganlyniad i drosglwyddo 5 adeilad tramwy a oedd yn weithredol yn flaenorol i asedau a ddelir i’w gwerthu yn rhan o raglen waredu’r Awdurdod Glo. Cynyddodd gan swm tebyg ar gyfer yr ychwanegiadau hynny na wariwyd yn syth

  • mae asedau anniriaethol wedi gostwng ychydig gan £0.3 miliwn, gan na fu unrhyw welliannau mawr i gynhyrchion yn ein systemau yn 2019-20

  • arweiniodd pwyslais parhaus ar waredu eiddo dros ben at ostyngiad £0.2 filiwn yng ngwerth eiddo buddsoddi ar ôl gwerthu tir dros ben yng ngogledd-ddwyrain Lloegr

  • er bod ein balans dyledwyr sylfaenol wedi aros yn gymharol gyson o flwyddyn i flwyddyn, mae darpariaeth ar gyfer drwgddyledion (‘colledion credyd disgwyliedig’) yn erbyn effeithiau’r pandemig COVID-19 wedi lleihau’r balans cario £0.4 miliwn

  • mae arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod yn £5.1 miliwn (2018-19: £6.0 miliwn): gweler yr adran isod ar lif arian i gael manylion symudiadau

  • mae masnach a symiau taladwy eraill wedi gweld gostyngiad sylweddol o £1.4 miliwn, a sbardunwyd yn bennaf gan ryddhau rhwymedigaethau yn ymwneud â hawliadau diwydiant

Llif arian parod

Bu gostyngiad net o £0.9 miliwn mewn arian parod yn ystod y flwyddyn. Rhannau cyfansawdd y symudiad hwn oedd:

  • derbyn £34.8 miliwn o gymorth grant gan BEIS (2018-19: £28.5 miliwn)

  • all-lif arian parod net o weithgareddau gweithredu o £25.1 miliwn (2018-19: £26.1 miliwn), o ganlyniad i symudiadau mewn cyfalaf gweithio

  • all-lif arian parod net o weithgareddau buddsoddi o £10.6 miliwn (2018-19: £6.2 miliwn). Mae hyn yn ymwneud â phrynu eiddo, peiriannau ac offer yn rhan o’n rhaglen barhaus i ddatblygu ac adeiladu cynlluniau trin dŵr mwynglawdd a gorsafoedd pwmpio ymsuddiant. Mae’r buddsoddiad uwch wedi’i wrthbwyso’n rhannol gan £1.1 filiwn o dderbyniadau ‘adfachu’ (2018-19: £3.1 miliwn) o werthu eiddo a oedd ym mherchenogaeth yr Awdurdod Glo yn flaenorol

Ar 31 Mawrth 2020, roeddem yn dal £5.1 miliwn o arian parod (2019: £6.0 miliwn). Mae hyn yn cynnwys £2.9 miliwn (2019: £4.9 miliwn) o gronfeydd wedi’u clustnodi mewn perthynas â sicrhad a alwyd i mewn o weithredwyr mwyngloddio sydd wedi cael eu diddymu. Defnyddir y symudiad mewn sicrhad a alwyd i mewn i ryddhau’r rhwymedigaethau hawliadau diwydiant hyn yn rhan o’n gweithgareddau gweithredu.

Busnes gweithredol

I’r graddau nad ydynt yn cael eu bodloni o’n ffynonellau incwm eraill, gellir bodloni ein rhwymedigaethau dim ond trwy grantiau neu gymorth grant yn y dyfodol gan ein hadran noddi, sef BEIS. Y rheswm am hyn yw, o dan y confensiynau arferol sy’n berthnasol i reolaeth seneddol dros incwm a gwariant, ni chaiff y cyfryw grantiau gael eu rhoi cyn i’r angen amdanynt godi.

Mae paragraff 14(1) Atodlen 1 Deddf y Diwydiant Glo 1994 yn datgan: “Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol, mewn perthynas â phob blwyddyn gyfrifyddu, yn talu i’r Awdurdod Glo y cyfryw swm ag y mae ef neu hi yn penderfynu ei fod yn ofynnol i’r Awdurdod Glo gyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon yn ystod y flwyddyn honno.”

Ar y sail honno, mae’r bwrdd yn disgwyl yn rhesymol y byddwn yn parhau i dderbyn cyllid fel y gallwn fodloni ein rhwymedigaethau. Felly, rydym wedi paratoi ein cyfrifon ar sail busnes gweithredol.

11. Ein pobl

Mae popeth rydym yn ei wneud a’i ddarparu wedi’i seilio ar ein pobl – boed hynny’n gwsmeriaid, partneriaid neu’r rhai sy’n gweithio i ni. Mae ein pobl wedi dangos eu hymroddiad a’u proffesiynoldeb unwaith eto ar hyd misoedd o ymateb i ddigwyddiadau ac yn eu hagwedd a’u hymrwymiad at sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu drwy gydol COVID-19. Rydym wedi ymrwymo i’w cynorthwyo a darparu ‘lle gwirioneddol wych i weithio’.

Mae ein cynllun pobl, a lansiwyd ym mis Hydref 2018, yn canolbwyntio ar les, datblygiad a chymorth ar gyfer ein pobl, ac roedd wedi’i seilio ar wrando ar yr hyn a fyddai’n ein gwneud yn ‘lle gwych i weithio’. Drwy gydol 2019-20, rydym wedi parhau i gymryd camau i’w ymsefydlu trwy gynyddu grymuso, sicrhau bod pawb yn cael llais, datblygu polisïau mwy tryloyw a chyflwyno rhaglenni datblygu newydd ar gyfer hyfforddiant ymddygiadol ac arweinyddiaeth ochr yn ochr â datblygiad technegol. Mae hyn yn cynnwys ein rhaglen ‘Arwain i Lwyddo’ achrededig a’n rhaglen ‘Datblygiad i Bawb’ sy’n cefnogi ein strategaeth i greu gweithlu cynaliadwy, tra medrus, amrywiol ac uchel ei gymhelliad.

Cafwyd cyfradd ymateb o 92% i’n harolwg pobl yn 2019, a dangosodd fod ein pobl yn dechrau teimlo buddion y newidiadau rydym wedi’u gwneud. O’r rhai a arolygwyd, roedd 93% yn teimlo bod ganddynt y sgiliau y mae arnynt eu hangen i wneud eu gwaith yn effeithiol, roedd 85% yn teimlo ein bod wedi ymrwymo i greu gweithle amrywiol a chynhwysol ac roedd sgorau yn ymwneud â rheoli a llwyth gwaith wedi gwella’n sylweddol. Ar yr un pryd, mae meysydd clir lle mae angen i ni wneud mwy. Hoffai ein pobl gael mwy o eglurder ynglŷn â chyfeiriad corfforaethol ac maen nhw’n pryderu am y cyfle i ddatblygu gyrfa.

Er bod 91% wedi dweud eu bod yn teimlo y byddent yn gallu adrodd am fwlio ac aflonyddu, rydym yn pryderu bod 12% yn teimlo bod hynny wedi effeithio arnynt yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae gennym gynlluniau clir ar gyfer gweithredu, gan weithio gyda’n pobl, ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Yn rhan o’n pwyslais ar ddatblygu gyrfa, rydym wedi creu ein fframwaith cymhwysedd technegol cyntaf (ar nwy mwynglawdd) ar gyfer sgiliau gweithredol craidd. Mae hyn yn caniatáu ar gyfer asesu a datblygu clir ac yn cefnogi gwell trosglwyddo gwybodaeth am sgiliau allweddol – yn enwedig y rhai hynny sy’n ymwneud ag etifeddiaeth fwyngloddio. Byddwn yn parhau i gyflwyno fframweithiau cymhwysedd technegol yn ystod 2020-21. Rydym hefyd wedi cynyddu faint o’n pobl sy’n dilyn prentisiaethau, gan eu galluogi i ddatblygu sgiliau a phrofiad hanfodol.

Rydym yn cydnabod gwerth ymgysylltu â’n pobl a gwrando ar eu safbwyntiau a’u hawgrymiadau. Mae ein grŵp ymgysylltu â staff wedi bod yn rhan annatod o gefnogi a sbarduno rhaglenni darparu ac wedi cyflawni canlyniadau gwych wrth gefnogi nifer o fentrau a digwyddiadau, fel dylunio ein hadnewyddiad swyddfa a hyrwyddo lles.

Mae ein rhwydweithiau amrywiaeth a lles, a arweinir gan ein cyflogeion, wedi datblygu a chryfhau eleni, gan roi llais i’n pobl i’n helpu i ffurfio ein polisïau a’n ffyrdd o weithio yn y dyfodol.

Rydym yn gyflogwr cynhwysol sy’n hyderus o ran anabledd, a gobeithiwn, trwy weithio’n fwy hyblyg yn y dyfodol, y gallwn ddenu talent fwy amrywiol. Rydym hefyd yn parhau i fod yn gwmni sy’n rhan o’r Ymgyrch yn Erbyn Byw’n Ddigalon (CALM). Rydym wedi ymsefydlu ein hagenda ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhellach, gan ddatblygu rhaglen o ddigwyddiadau sy’n hyrwyddo dysgu am wahanol ddiwylliannau, rhannu profiadau bywyd a dathlu gwahaniaeth.

Rydym wedi darparu gweithdai rhagfarn ddiarwybod ar draws y busnes ac adolygu’r holl raglenni dysgu i sicrhau bod amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod ohonynt.

Rydym wedi gwneud cynnydd pellach i leihau ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau, gan symud y canolrif o 31.6% i 31.5% a’r cymedr o 28.3% i 21.9% yn 2019. Rydym wedi ymrwymo i leihau’r bwlch ymhellach a byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad ar gyflogau rhwng y rhywiau yn 2020 yn fuan.

Rydym wedi sefydlu tîm hyfforddedig o weithwyr cymorth cyntaf iechyd meddwl ac, yn unol â’n cynllun iechyd a lles, mae ein staff wedi dilyn hyfforddiant a hwyluswyd gan Gymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Lloegr. Gwnaethom ddathlu’r Wythnos Dysgu yn y Gwaith a’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl trwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau i hyrwyddo pwysigrwydd lles. Mae hyn wedi helpu i wella dealltwriaeth cydweithwyr o beth yw iechyd meddwl a sut gallwn helpu ein hunain a phobl eraill i’w reoli.

Rydym yn parhau i gymryd camau pendant i ddatblygu cysylltiadau cadarnhaol â chymunedau lleol trwy roi cyflwyniadau mewn ysgolion lleol ac, am y tro cyntaf, rhoddodd un o’n peirianwyr benywaidd gyflwyniad mewn cyfarfod lleol o’r geidiau. Rydym hefyd wedi cymryd rhan mewn amryw ddigwyddiadau i godi arian i achosion da, gan gynnwys digwyddiad rownderi mewn gwisg ffansi i helpu’r Gymdeithas Clefyd Alzheimer ym mis Gorffennaf 2019 ac, ym mis Rhagfyr 2019, trefnodd ein grŵp lles flychau rhodd i’r Gymdeithas Dai Framework a Hosbis Blant Bluebell Wood.

I nodi Wythnos y Gwirfoddolwyr ar ddechrau mis Mehefin, rhannodd llawer o’n staff eu profiadau o beth mae gwirfoddoli’n ei olygu iddyn nhw, a roddodd gyfle perffaith i ni lansio ein polisi sy’n annog pob aelod o staff i gymryd diwrnod bob blwyddyn i gefnogi elusen leol neu sefydliad cymunedol.

Mae mwy i’w wneud, fel bob amser, ond rydym yn falch o’r cynnydd a wnaed gennym eleni ac rydym wedi ymrwymo i barhau â’r daith tuag at fod yn ‘lle gwirioneddol wych i weithio’.

12. Iechyd, diogelwch a lles

Rydym yn rhoi iechyd, diogelwch a lles pobl wrth wraidd yr hyn a wnawn.

Ein nodau craidd ar gyfer iechyd, diogelwch a lles yw:

  • sicrhau bod pawb sy’n gweithio ar ran yr Awdurdod Glo yn mynd adref yn ddiogel ac yn iach

  • rheoli’r risgiau i’r cyhoedd o’r etifeddiaeth lofaol yr ydym yn gyfrifol amdani

Mae ein perfformiad o ran iechyd, diogelwch a lles yn parhau i fod yn gryf ac rydym yn falch o’r ffordd y mae ein timau, ein cadwyn gyflenwi a’n partneriaid yn cydweithio i’w cadw ei gilydd yn ddiogel. Mae adroddiadau arsylwadau iechyd, diogelwch a lles yn parhau i fod yn uchel ac mae arolygiadau ac archwiliadau wedi cynyddu, gan ganiatáu i ni ddysgu a chymryd camau’n brydlon er mwyn atal damweiniau rhag digwydd, lle bynnag y bo’n bosibl. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i iechyd meddwl cadarnhaol yn ogystal ag iechyd corfforol, ac rydym wedi adolygu pob agwedd ar yr hyn rydym yn ei wneud, a’n cymorth i’n pobl, drwy gydol COVID-19 i roi diogelwch a lles wrth wraidd ein darpariaeth.

Nid ydym yn llaesu dwylo. Rydym yn adolygu ein perfformiad yn rheolaidd ac yn cynnal adolygiadau dysgu o wraidd y broblem i sicrhau y gellir gweithredu gwelliannau’n gyflym. Byddwn yn ymdrechu’n barhaus i wella ein perfformiad er mwyn sicrhau bod pawb sy’n gweithio i ni yn gallu mynd adref yn ddiogel ac yn iach.

Mesur 2019-20 2018-19
Arsylwadau iechyd, diogelwch a lles – gweithredoedd anniogel (staff a chontractwyr) 3,051 3,226
Arsylwadau iechyd, diogelwch a lles – enghreifftiau o arfer da (staff a chontractwyr) 324 147
Arolygiadau iechyd, diogelwch a lles (staff) 412 379
Damweiniau – dim amser wedi’i golli (staff) 5 3
Damweiniau – amser wedi’i golli (staff) 0 0
Digwyddiadau – Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)[footnote 1] 2 0

Ein pwyslais ar gyfer 2020-21 yw parhau i adolygu ein hymagwedd mewn perthynas â’r canllawiau diweddaraf ar COVID-19 yn y tair gwlad i gadw ein pobl, ein cadwyn gyflenwi a’n partneriaid, ein cwsmeriaid ac aelodau’r cyhoedd yn ddiogel. Bydd hyn yn cynnwys pwyslais cryf ar iechyd meddwl a lles.

13. Cynaliadwyedd a’r amgylchedd

Rydym eisiau cyfrannu at greu byd mwy cydnerth a bioamrywiol, trwy gymryd camau go iawn i ymladd yn erbyn y newid yn yr hinsawdd a chreu lle ar gyfer natur. Rydym yn datblygu cynlluniau i fod yn sefydliad di-garbon net erbyn 2030, a gobeithiwn ragori ar hynny a gwneud cyfraniad ehangach at gymdeithas trwy’r cynefin a grëwn a’r storfeydd gwres ac ynni datgarboneiddiedig y gallwn eu darparu.

Eleni, byddwn yn cadarnhau’r sefyllfa sylfaenol a chynllun clir ar gyfer cynnydd hyd at 2030 a thu hwnt. Bydd y cynlluniau hyn yn cynnwys ein syniadau diweddaraf ynglŷn â rheoli dalgylch, gwres dŵr mwynglawdd, datrysiadau seiliedig ar natur a bioamrywiaeth.

Mae ein cynllun cynaliadwyedd presennol yn amlinellu ein hamcanion presennol, ac rydym wedi gwneud cynnydd da ar ein cynlluniau gweithredu i gyflawni’r targedau clir diffiniedig. Bydd ein cynllun nesaf yn fwy uchelgeisiol.

Yn ystod 2019-20, rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn ynni solar a, hyd yma, rydym wedi arbed £237,000 mewn costau pŵer ac wedi atal 436 o dunelli o garbon rhag cyrraedd yr atmosffer. Rydym wedi cyrraedd targed y llywodraeth o sicrhau bod 25% o’n cerbydau fflyd yn rhai allyriadau isel iawn erbyn 2022.

Yn 2019, gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau cyntaf ar gyfer Gweinidog Cymru dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ac roeddem yn falch iawn o lofnodi Cytundeb Twf Cynaliadwy gyda SEPA yn ddiweddar yn rhan o’n gwaith ar ddalgylch Leven yn Fife.

Bydd gweithio mewn partneriaeth a dysgu gan eraill yn parhau i fod yn allweddol i’n hymagwedd yn y dyfodol.

Sbardunwyr cynaliadwyedd 2019-20 2018-19
Allyriadau nwyon tŷ gwydr (tunelli) 1,169 3,001
Allyriadau carbon o weithrediadau dŵr mwynglawdd CO2e (tunelli) 3,753 4,435
Allyriadau carbon o’r brif swyddfa CO2e (tunelli) 216 322
Dwysedd carbon – teithio busnes (tCO2e/100,000km) 15.8 14.2
Defnydd o ddŵr m³ 1,145 1,199

Mae ein data (a grynhoir yn y tabl uchod) yn dangos ein bod yn parhau i wneud cynnydd da yn unol â’n cynllun cynaliadwyedd. Mae teithio busnes yn parhau i fod yn her i ni. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar leihau hynny trwy ddefnyddio technoleg amgen lle y bo’n bosibl, ond mae natur weithredol ein busnes yn golygu bod angen i ni deithio i fynd i ddigwyddiadau a chynnal gwaith ar ein safleoedd, y mae llawer ohonynt mewn lleoliadau anghysbell. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar leihau allyriadau o’n fflyd yn rhan o’n gwaith ehangach tuag at ddod yn sefydliad di-garbon net.

Mae’r adroddiad hwn ar berfformiad wedi cael ei gymeradwyo gan y prif weithredwr a’r swyddog cyfrifyddu.

Lisa Pinney MBE, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu

14 Medi 2020

  1. Y digwyddiadau oedd un anaf penodedig ac un achos o analluogi am 7 diwrnod, yr oedd y ddau yn ymwneud â chontractwyr