Skip to main content
Policy paper

Terrorism (Protection of Premises) Act 2025: Standard duty requirements factsheet (Welsh)

Updated 24 July 2026

Mae rhai gofynion yn Neddf Terfysgaeth (Diogelu Mangreoedd) 2025 [footnote 1] yn berthnasol i bob safle a digwyddiad cymwys. Ar gyfer safle dyletswydd safonol (a elwir yn fwy cyffredin yn safle haen safonol), y gofynion hyn yw’r unig rai sy’n berthnasol, tra bod gan safle haen uwch a digwyddiadau cymwys ofynion ychwanegol i gydymffurfio â hwy (gweler taflen ffeithiau gofynion haen uwch neu benodau 7 ac 8 y canllawiau statudol).

Mae’r daflen ffeithiau hon yn esbonio’r gofynion hynny, sy’n anelu at sicrhau y gall y rhai sy’n gyfrifol am safleoedd cymwys neu ddigwyddiadau cymwys gymryd camau a fydd yn lleihau’r risg o niwed corfforol a achosir gan ymosodiad terfysgol.

Mae rhagor o wybodaeth am ba safleoedd a allai fod yn yr haen safonol ar gael yn y daflen ffeithiau cwmpas (safleoedd) a phennod 4 y canllawiau statudol.

Y gofynion ar gyfer pob safle a digwyddiad cymwys yw:

1. Hysbysu

Bydd gofyn i’r person cyfrifol hysbysu Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA) pan fyddant yn dod yn gyfrifol am y safle, pan fyddant yn peidio â bod yn gyfrifol, a phan fydd gwybodaeth a hysbyswyd yn flaenorol yn dod yn anghywir.

Bydd rheoliadau a chanllawiau cysylltiedig yn nodi’r amser a’r fformat gofynnol ar gyfer hysbysu’r SIA, a pha wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu yn yr hysbysiad hwnnw.

2. Gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd

Rhaid i’r person cyfrifol ar gyfer pob safle cymwys a digwyddiad cymwys sicrhau bod gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd priodol ar waith yn y safle, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Mae gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd yn setiau o gamau y gall staff eu cymryd os ydynt yn amau bod gweithred derfysgol yn digwydd, neu ar fin digwydd, yn y safle, yn y digwyddiad neu yn y cyffiniau uniongyrchol.

Y pedwar math o weithdrefnau y mae’n rhaid iddynt fod ar waith, fel y bo’n briodol a chyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, yw:

Ymgilio

Y broses o gael pobl i ffwrdd o berygl drwy eu symud allan o’r safle neu’r digwyddiad (neu ran o’r safle neu’r digwyddiad).

Mewngilio

Y broses o symud pobl i ffwrdd o berygl i le o fewn y safle neu’r digwyddiad lle mae llai o risg o niwed corfforol yn cael ei achosi iddynt. Gall hyn gynnwys dod â phobl i mewn i’r safle neu’r digwyddiad o’r tu allan neu symud pobl o un rhan o’r safle i un arall, lle mae’n ddiogel gwneud hynny.

Cyfyngiadau Symud

Y broses o ddiogelu’r safle neu’r digwyddiad i atal unigolion rhag mynd i mewn neu adael (er enghraifft, i gyfyngu neu atal symudiad ymosodwr drwy gloi drysau, cau caeadau neu ddefnyddio rhwystrau sydd ar gael).

Cyfathrebu

Y broses o sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei darparu i unigolion yn y safle neu’r digwyddiad (er enghraifft, rhybuddio pobl am berygl cyn gynted â phosib a rhoi cyfarwyddiadau i aros yn eu lle neu symud i ffwrdd, lle mae’n ddiogel gwneud hynny).

Wrth ystyried y gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd sydd ar waith, rhaid i’r person cyfrifol ystyried beth sy’n briodol ac yn rhesymol ymarferol ar gyfer eu safle mewn perthynas â phob gweithdrefn amddiffyn y cyhoedd. Bydd hyn yn cynnwys ystyried natur y safle a’r adnoddau sydd ar gael. Nid yw’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i newidiadau ffisegol na phrynu offer penodol sy’n ymwneud â rhoi gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd ar waith. Efallai y bydd yn rhesymol ymarferol gwneud hynny mewn rhai amgylchiadau, fodd bynnag, a bydd hyn yn dibynnu ar gyd-destun y safle neu’r digwyddiad cymwys.

Fel rhan o sicrhau bod gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd priodol ar waith, rhaid gwneud pobl sy’n gweithio yn y safle yn ymwybodol o’r gweithdrefnau fel y gallant fod yn barod i’w rhoi ar waith. Er enghraifft, ni fyddai’n ddigonol cael gweithdrefn ymgilio ar waith pe na bai neb sy’n gweithio yn y safle yn deall sut i’w dilyn.

Priodol a rhesymol ymarferol

Rhaid i’r person cyfrifol ystyried beth sy’n briodol ac yn rhesymol ymarferol mewn perthynas â phob gweithdrefn amddiffyn y cyhoedd.

Mae ‘priodol’ yn golygu sicrhau bod gweithdrefnau’n addas, gan ystyried cyd-destun y safle neu’r digwyddiad, ac osgoi dull un ateb sy’n addas i bawb. Yna, er mwyn sefydlu beth sy’n rhesymol ymarferol ac felly’n gymesur, mae angen ystyried amcanion y gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd wedi’u cydbwyso yn erbyn y gost, yr amser a’r anhawster sy’n gysylltiedig â’u rhoi ar waith.

Yn y pen draw, bydd yr hyn sy’n briodol ac yn rhesymol ymarferol yn ystyriaeth ar gyfer pob safle a digwyddiad unigol o fewn cwmpas. Efallai na fydd y gweithdrefnau penodol sydd ar waith mewn un lleoliad yn briodol ac yn rhesymol ymarferol mewn un arall. Er enghraifft, gall gweithdrefnau fod yn wahanol mewn siop a all ddisgwyl yn rhesymol i fod â dim mwy na 200 o unigolion (gan gynnwys staff) ar y safle ar unrhyw un adeg o fwyty a all eistedd 400 o unigolion.

Dylid teilwra gweithdrefnau i amgylchiadau penodol y safle. Er enghraifft:

Gall siop y gall yn rhesymol ddisgwyl cael 200 o unigolion (gan gynnwys staff) yn bresennol asesu ei bod yn briodol ac yn rhesymol ymarferol sicrhau bod y gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd canlynol ar waith:

  • Ymgilio – bydd un llwybr drwy’r brif fynedfa sy’n arwain i’r maes parcio ym mlaen y siop ac un arall drwy’r drws cefn sy’n arwain i ardal allanol.
  • Mewngilio – dod ag unigolion i brif lawr y siop ac i mewn i’r ystafell storio gefn, sydd â ffenestri diogel a chlo sy’n cael ei wirio’n rheolaidd.
  • Cyfyngiadau Symud – ni fyddai angen proses soffistigedig. O’r herwydd, mae’n ddigon i berson enwebedig ddefnyddio’r clo ar y drws blaen rhag ofn y bydd ymosodiad yn digwydd y tu allan.
  • Cyfathrebu – cyflawnir drwy nodi’r gweithdrefnau uchod mewn crynodeb un dudalen a’i gylchredeg gydag unigolion perthnasol sy’n gweithio yn y siop.
  • Gweithgareddau cefnogol – rhoddir poster yn crynhoi’r gweithdrefnau mewn ardal staff breifat yn y siop, ac mae llinell dir yn bresennol.
  • Adolygir y gweithdrefnau’n flynyddol. Er nad yw’n ofyniad statudol o dan adran 5 y Ddeddf, yn ymarferol, dylai’r person cyfrifol gadw llygad ar y gweithdrefnau sydd ar waith fel eu bod yn parhau i fod yn gyfredol.

Gall bwyty 400 sedd asesu ei bod yn briodol ac yn rhesymol ymarferol sicrhau bod y gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd canlynol ar waith:

  • Ymgilio – bydd un llwybr drwy’r brif fynedfa sy’n arwain at balmant cyhoeddus ac un arall drwy ddrws ochr sy’n arwain i lôn gefn.
  • Mewngilio – i ddod ag unigolion i mewn i brif ardal y bwyty ac, os oes angen, i amrywiaeth o ardaloedd staff.
  • Cyfyngiadau Symud – unigolion enwebedig yn gwybod pryd (h.y. pryd mae eu rheolwr sifft yn eu cyfarwyddo i wneud hynny) a sut i gloi a rhwystro drysau’n gyflym, cau caeadau ffenestri, a diffodd goleuadau.
  • Cyfathrebu – cyflawnir drwy sicrhau bod staff yn gwybod pwy fydd yn gweithredu gweithdrefnau (rheolwr sifft) a chynllunio sut i gyfathrebu â chwsmeriaid sy’n bresennol yn y bwyty, pe bai ymosodiad yn digwydd.
  • Gweithgarwch cefnogol – rhoddir sesiwn friffio ymwybyddiaeth fer i aelodau newydd o staff ar weithdrefnau’r bwyty yn ystod y sesiwn ymgyfarwyddo (ochr yn ochr â mewnbynnau iechyd a diogelwch tân).
  • Adolygir y gweithdrefnau’n flynyddol. Er nad yw’n ofyniad statudol o dan adran 5 y Ddeddf, yn ymarferol, dylai’r person cyfrifol gadw llygad ar y gweithdrefnau sydd ar waith fel eu bod yn parhau i fod yn gyfredol.

Gweithdrefnau effeithiol

Dylid cyfleu gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd i bawb sydd angen bod yn ymwybodol ohonynt (er enghraifft, y bobl y mae’n rhaid iddynt eu rhoi ar waith yn effeithiol mewn ymateb i ddigwyddiad a amheuir). Gall hyn gynnwys gweithwyr, gwirfoddolwyr a chontractwyr, yn ogystal â’r rhai sy’n llogi’r safle.

Bydd sut y rhoddir gwybod i bobl am y gweithdrefnau sydd ar waith yn dibynnu ar amgylchiadau penodol y safle neu’r digwyddiad a’r adnoddau sydd ar gael. Er enghraifft, gall y person cyfrifol ei gwneud yn ofynnol i weithwyr perthnasol fynychu hyfforddiant cyfarwyddol neu dderbyn briffio priodol. Nid oes gofyniad statudol yn y Ddeddf i’r person cyfrifol neu’r staff gynnal hyfforddiant penodol. Fel rhan o sicrhau bod gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd ar waith, fodd bynnag, a bod modd eu rhoi ar waith yn gyflym ac yn effeithiol, rhaid i’r rhai sy’n gweithio yn y safle sydd â chyfrifoldeb am eu cyflawni (fel y’u nodir gan y person cyfrifol) gael gwybod am y gweithdrefnau a’u rôl benodol. Mae angen iddynt hefyd gael y ddealltwriaeth, y profiad a’r offer y mae eu hangen arnynt i’w cyflawni’n effeithiol.

  1. Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i’r Ddeddf ar 3 Ebrill 2025, ond nid yw’r gofynion hyn wedi cychwyn eto. Mae hyn yn golygu nad ydynt mewn grym eto, felly nid oes angen cydymffurfio â nhw tan eu bod yn cael eu dwyn i rym gan reoliadau.