Skip to main content
Policy paper

Terrorism (Protection of Premises) Act 2025: Scope (Premises) (Welsh)

Updated 24 July 2026

Mae’r daflen ffeithiau hon yn esbonio’r math o safleoedd a fydd yn cael eu cynnwys gan Ddeddf Terfysgaeth (Diogelu Mangreoedd) 2025.[footnote 1] Mae’r Ddeddf yn cwmpasu safleoedd a digwyddiadau. Mae rhagor o wybodaeth am ba ddigwyddiadau sydd o fewn y cwmpas yn y daflen ffeithiau cwmpas (digwyddiadau).

Pa safleoedd sydd o fewn y cwmpas?

Nodir y meini prawf ar gyfer ‘safle cymwys’ yn adran 2 y Ddeddf.

Mae safleoedd sy’n bodloni’r pedwar maen prawf canlynol yn dod o fewn cwmpas y Ddeddf:

1. Mae’r safle’n bodloni’r diffiniad o safle o fewn y Ddeddf.

I fodloni’r amod hwn, rhaid i’r safle gynnwys:

  • adeilad (gan gynnwys rhan o adeilad neu grŵp o adeiladau); neu
  • adeilad a thir arall.

Mae rhai safleoedd yn cynnwys tir sydd ynghlwm wrth adeilad, megis tafarn gyda gardd gwrw, neu westy gyda thiroedd awyr agored a ddefnyddir ar gyfer bwyta a digwyddiadau.

Mae hefyd safleoedd sydd yn bennaf yn yr awyr agored ond sy’n cynnwys un neu fwy o adeiladau ar y safle. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, rhai caeau rasio, sŵau neu barciau thema.

Nid oes gofyniad penodol bod yr adeilad wedi’i wneud o unrhyw ddeunydd penodol neu fod o unrhyw faint penodol. Rhaid i’r safle fod â rhyw fath o adeilad arno bob amser i fod yn safle cymwys.

2. Defnyddir y safle’n gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer un neu fwy o’r defnyddiau y mae’r Ddeddf yn eu nodi.

Er mwyn i safle ddod o dan y cwmpas, rhaid iddo gael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer un neu fwy o’r defnyddiau a nodir yn Atodlen 1 Deddf Terfysgaeth (Diogelu Mangreoedd) 2025. Drwy ‘defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf’, rydym yn golygu bod y safle naill ai:

  1. yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd yn Atodlen 1 yn unig; neu
  2. lle mae gan yr adeilad ddefnyddiau lluosog, fe’i defnyddir yn bennaf at y dibenion a restrir yn Atodlen 1.

Y categorïau defnydd a nodir yn Atodlen 1 y Ddeddf yw:

  • siopau etc.
  • bwyd a diod
  • gweithgareddau adloniant a hamdden
  • meysydd chwaraeon
  • llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac orielau
  • neuaddau etc.
  • atyniadau ymwelwyr
  • gwestai etc.
  • addoldai
  • gofal iechyd
  • gorsafoedd bysiau, gorsafoedd rheilffordd etc.
  • awyrenfeydd
  • gofal plant
  • addysg gynradd ac uwchradd
  • addysg bellach
  • addysg uwch
  • awdurdodau cyhoeddus

Bydd p’un a yw adeilad yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer defnydd Atodlen 1 yn cael ei bennu yn seiliedig ar amgylchiadau pob adeilad. Gall penderfynu ar gyfer beth y defnyddir yr adeilad yn gyfan gwbl neu’n bennaf fod yn gwestiwn o faint o amser y defnyddir yr adeilad ar gyfer defnydd Atodlen 1 neu a oes prif ddefnydd. Er enghraifft, ni fyddai preswylfa hanesyddol breifat o fewn y cwmpas, ond gallai fod yn eiddo cymwys os caiff ei ddefnyddio’n bennaf fel atyniad ymwelwyr (yn hytrach na phreswylfa breifat).

Lle nad yw’r safle cymwys yn cael ei ddefnyddio’n bennaf at ddefnydd Atodlen 1, gall y safle fodloni’r meini prawf digwyddiad cymwys o hyd – gweler taflen ffeithiau cwmpas (digwyddiadau).

3. Mae’r safle yn bodloni’r trothwyon ar gyfer unigolion sy’n bresennol yn y safle.

Mae Deddf Terfysgaeth (Diogelu Mangreoedd) 2025 yn ei gwneud yn ofynnol i asesu’r nifer o unigolion y gellir disgwyl yn rhesymol iddynt fod yn bresennol mewn safle cymwys. Bydd angen pennu’r nifer mwyaf o unigolion y disgwylir yn rhesymol iddynt fod yn bresennol ar yr un pryd, o bryd i’w gilydd, ar y safle mewn cysylltiad ag un neu fwy o ddefnyddiau Atodlen 1.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i asesu’r nifer o unigolion mewn safle yn y daflen ffeithiau asesu’r nifer o unigolion y disgwylir iddynt fod yn bresennol.

Bydd yr asesiad hwn (ochr yn ochr â’r meini prawf cymhwyso eraill) yn pennu a yw safleoedd yn safleoedd cymwys ac a ydynt yn safleoedd haen safonol neu’n safleoedd haen uwch:

  • Yn ddarostyngedig i amodau eraill, i fod yn safleoedd cymwys rhaid disgwyl yn rhesymol i 200 neu fwy o unigolion (gan gynnwys staff) fod yn bresennol ar yr un pryd, o bryd i’w gilydd, mewn cysylltiad ag un neu fwy o ddefnyddiau a bennir yn Atodlen 1 y Ddeddf.
  • Bydd y safleoedd hynny’n safleoedd haen safonol, ac eithrio lle gellir disgwyl yn rhesymol i 800 neu fwy o unigolion (gan gynnwys staff) fod yn bresennol, ac yn yr achos hwnnw byddant yn safleoedd haen uwch, oni nodir yn wahanol.

4. Nid yw’r safleoedd yn safleoedd wedi’u heithrio.

Mae Atodlen 2 y Ddeddf yn eithrio rhai safleoedd o ofynion y Ddeddf:

  • Tai Senedd, deddfwrfeydd datganoledig a llywodraethau datganoledig.

  • Parciau, gerddi, meysydd hamdden, a safleoedd awyr agored eraill a ddefnyddir ar gyfer hamdden neu ymarfer corff (dim ond lle nad oes gan safleoedd fesurau ar waith i sicrhau neu wirio bod mynediad wedi’i gyfyngu y mae’n berthnasol).
  • Safleoedd trafnidiaeth sydd eisoes yn ddarostyngedig i ofynion deddfwriaethol perthnasol presennol i ystyried a lliniaru bygythiadau.

Rhan o adeilad

Mae diffiniad adeilad yn cynnwys “rhan o adeilad”. Gall rhai safleoedd gynnwys adeiladau a ddefnyddir yn bennaf at ddefnyddiau nad ydynt wedi’u rhestru yn Atodlen 1 y Ddeddf, ond sydd â rhan ar wahân o’r adeilad a ddefnyddir at ddiben Atodlen 1. Gall y rhan ar wahân o’r adeilad fod o fewn cwmpas y Ddeddf os bodlonir y meini prawf eraill hefyd.

Er enghraifft, mae adeilad yn cynnwys ffatri fawr a siop sy’n gwerthu rhywfaint o gynnyrch y ffatri. Prif ddefnydd yr adeilad yw ffatri – nid yw hyn wedi’i restru fel defnydd Atodlen 1, ac felly ni fyddai o fewn cwmpas y Ddeddf. Fodd bynnag, defnyddir rhan o’r adeilad fel siop, sy’n ddefnydd Atodlen 1. Felly, gallai’r rhan o’r adeilad a ddefnyddir fel siop fod o fewn cwmpas y Ddeddf os bodlonir y meini prawf eraill.

Grŵp o adeiladau

Mae llawer o safleoedd a allai gynnwys “grŵp o adeiladau” a ddefnyddir at ddefnydd/defnyddiau Atodlen 1. Gallai enghreifftiau cyffredin gynnwys adeiladau (a thir cysylltiedig) ar gampws prifysgol, cyfadeilad ysbyty neu gyfadeilad gwesty, sba a chanolfan ddigwyddiadau.

Gallai ffactorau dangosol sy’n diffinio grŵp o adeiladau gynnwys eu bod mewn ardal ddaearyddol agos, eu bod yn rhannu prif ddefnydd Atodlen 1, neu fod yr un person cyfrifol ar gyfer yr holl adeiladau yn y grŵp neu’r rhan fwyaf ohonynt.

Safleoedd o fewn safleoedd eraill

Mae enghreifftiau o safleoedd sydd o fewn cwmpas y Ddeddf sydd ag unedau lluosog ynddynt - er enghraifft, canolfan siopa neu gyfadeilad adloniant sy’n cynnwys sinemâu, bwytai ac arcedau. Byddai gan bob un o’r rhain bersonau cyfrifol ar wahân fel arfer.

Os yw safleoedd llai o fewn safleoedd mwy yn bodloni’r meini prawf i fod o fewn cwmpas y Ddeddf, bydd y safleoedd llai eu hunain yn safleoedd cymwys yn ogystal â’r safleoedd mwy. Lle mae safleoedd llai (cymwys neu anghymwys) o fewn safleoedd cymwys mwy, gall gofynion cydlynu a chydweithredu fod yn berthnasol.

Safleoedd sy’n destun trothwyon gwahanol

Bydd p’un a yw safleoedd yn yr haen safonol neu’r haen uwch yn dibynnu ar y nifer o unigolion y disgwylir yn rhesymol iddynt fod yn bresennol ar yr un pryd, o bryd i’w gilydd, mewn cysylltiad ag un neu fwy o ddefnyddiau Atodlen 1.

Fodd bynnag, mae mathau o safleoedd o fewn cwmpas y Ddeddf sydd bob amser yn cael eu trin fel safleoedd haen safonol os ydynt yn bodloni’r meini prawf safleoedd cymwys, hyd yn oed os disgwylir yn rhesymol i 800 neu fwy o unigolion (gan gynnwys staff) fod yn bresennol ar yr un pryd, o bryd i’w gilydd. Mae hyn yn berthnasol i safleoedd a ddefnyddir ar gyfer gofal plant, addysg gynradd neu uwchradd, addysg bellach neu fel addoldai. Cyfeirir at hyn weithiau fel yr “ystyriaeth arbennig”.

  1. Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i’r Ddeddf ar 3 Ebrill 2025, ond nid yw’r gofynion hyn wedi cychwyn eto. Mae hyn yn golygu nad ydynt mewn grym eto, felly nid oes angen cydymffurfio â nhw tan eu bod yn cael eu dwyn i rym gan reoliadau