Skip to main content
Policy paper

Terrorism (Protection of Premises) Act 2025: Scope (events) (Welsh)

Updated 24 July 2026

Mae’r daflen ffeithiau hon yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau sy’n dod o fewn cwmpas Deddf Terfysgaeth (Diogelu Mangreoedd) 2025 [footnote 1] fel digwyddiadau cymwys. Mae’r Ddeddf yn cwmpasu safleoedd a digwyddiadau cymwys. Mae rhagor o wybodaeth am ba safleoedd sydd o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth yn y daflen ffeithiau cwmpas (safleoedd) a phennod 4 y canllawiau statudol.

Mae rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau cymwys ym mhennod 5 y canllawiau statudol.

Pa ddigwyddiadau sy’n dod o fewn cwmpas fel digwyddiadau cymwys?

Bydd digwyddiadau sy’n bodloni’r chwe maen prawf canlynol yn ddigwyddiadau cymwys:

1. Rhaid i’r digwyddiad ddigwydd mewn lleoliad sy’n bodloni’r diffiniad o safle o dan adran 3(1) y Ddeddf, sef adeilad, tir arall, neu adeilad a thir arall. At y dibenion hyn mae ‘adeilad’ yn cynnwys rhan o adeilad neu grŵp o adeiladau. Nid oes gofyniad penodol bod yr adeilad wedi’i wneud o unrhyw ddeunydd penodol neu fod o unrhyw faint penodol.

2. Rhaid i’r digwyddiad ddigwydd mewn lleoliad nad yw eisoes o fewn cwmpas y Ddeddf fel safle haen uwch.

Mae gan y rhai sy’n gyfrifol am safleoedd haen uwch rwymedigaeth eisoes i ystyried a sicrhau bod gweithdrefnau a mesurau amddiffyn y cyhoedd priodol ar waith, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, mewn perthynas â’r holl weithgareddau sy’n digwydd yno. Os yw’r safle yn bodloni’r meini prawf i fod yn safle haen uwch, gweler y daflen ffeithiau cwmpas (safle).

3. Rhaid i’r digwyddiad fod yn hygyrch i’r cyhoedd.

Rhaid i aelodau’r cyhoedd allu cael mynediad i’r holl safle neu ran ohono at ddibenion mynychu’r digwyddiad. Bydd digwyddiad yn bodloni’r maen prawf hwn lle mae aelodau’r cyhoedd yn gymwys i fynychu’r digwyddiad mewn egwyddor, hyd yn oed os na allant fynychu yn y pen draw, er enghraifft, oherwydd bod tocynnau’n gwerthu allan.

Ni fydd digwyddiadau’n ddigwyddiadau cymwys lle mae’r amod ar gyfer mynediad yn bersonol neu’n breifat i’r mynychwyr ac, o ganlyniad, nad yw mynediad ar agor i’r cyhoedd. Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys lle mae mynediad wedi’i gyfyngu i berthnasau a ffrindiau sydd wedi’u gwahodd i dderbyniad priodas, neu weithwyr sydd wedi’u gwahodd i ddigwyddiad corfforaethol nad yw ar agor i’r cyhoedd.

Gall digwyddiadau nad ydynt ar agor i’r cyhoedd yn gyffredinol ddigwydd mewn safle sydd eisoes yn dod o fewn cwmpas y Ddeddf fel safle cymwys. Mewn achosion o’r fath, bydd y safle yn parhau i fod o fewn cwmpas y Ddeddf oherwydd y gweithgareddau ehangach sy’n digwydd yno. Bydd y person cyfrifol am y safle yn parhau i fod y person sy’n rheoli’r safle, ac ni fydd rheolaeth yn trosglwyddo i drefnydd y digwyddiad preifat.

4. Dylai fod yn rhesymol disgwyl y bydd 800 neu fwy o unigolion yn bresennol yn y digwyddiad ar yr un pryd, ar ryw adeg yn ystod y digwyddiad.

Rhaid i’r ffigur hwn gynnwys staff sy’n gweithio yn y digwyddiad. Dim ond y rhai sy’n mynychu neu’n gweithio yn y rhan o’r safle sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad y dylid eu cofnodi. Nid oes angen cyrraedd y trothwy hwn drwy gydol hyd y digwyddiad. Er enghraifft, byddai gŵyl undydd gyda 500 o bobl y disgwylir yn rhesymol iddynt fod ar y safle tan 6pm, ac yna disgwylir 1,000 neu fwy yn hwyrach, yn bodloni’r maen prawf hwn.

Mae rhagor o wybodaeth y gellir ei defnyddio er mwyn asesu’r ffigur hwn yn y daflen ffeithiau asesu’r nifer o unigolion y disgwylir iddynt fod yn bresennol.

5. Rheolaethau mynediad penodol ar waith.

Rhaid i’r digwyddiad gael mesurau ar waith i wirio bod mynychwyr yn bodloni amodau mynediad. Dyma’r gofyniad, er mwyn mynd i mewn i’r digwyddiad, bod aelodau’r cyhoedd wedi talu, bod ganddynt docyn neu bas, neu eu bod yn aelodau neu’n westeion clwb, cymdeithas neu gorff tebyg. Er mwyn i reolaethau mynediad fod ar waith, bydd angen perimedr diogel wedi’i ddiffinio’n dda ar y digwyddiad fel bod y gwiriad mynediad yn ystyrlon.

Mae’r maen prawf hwn yn berthnasol i ddigwyddiadau â thâl ac i ddigwyddiadau am ddim, lle mae gwiriad penodol wrth fynd i mewn fel y disgrifir uchod. Gall gwiriadau mynediad gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, docynnau, bandiau arddwrn, cardiau aelodaeth, e-byst, codau QR neu godau bar sy’n cael eu gwirio i gael mynediad i’r safle lle mae’r digwyddiad yn digwydd. Fel arfer, bydd staff yn y digwyddiad yn cynnal y gwiriadau hyn. Caiff y maen prawf hwn ei fodloni hefyd, fodd bynnag, os cynhelir y gwiriadau gan system awtomataidd neu electronig, er enghraifft, drwy giatiau tro.

Mae hyn yn golygu nad yw pob math o amod mynediad wedi’i gynnwys. Nid yw mathau eraill o amodau mynediad – er enghraifft, cael meini prawf chwilio penodol neu god gwisg – yn bodloni’r maen prawf hwn. Yn ogystal, nid yw tâl mynediad awgrymedig neu rodd yn bodloni’r maen prawf hwn, am na fyddai’n fesur i wirio bod rhywun wedi talu i fynd i mewn i’r digwyddiad, ac nid yw’n bodloni’r meini prawf mynediad eraill a restrir uchod. Nid yw tâl mynediad awgrymedig neu rodd, felly, yn amod mynediad at y dibenion hyn.

6. Ni ddylai’r digwyddiad ddigwydd mewn safle sydd wedi’i eithrio.

Mae Atodlen 2 y Ddeddf yn eithrio rhai mathau o safleoedd o gwmpas y Ddeddf, ac felly ni fydd unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir mewn safleoedd o’r fath yn cael eu cynnwys ychwaith. Y rhain yw:

  • Tai Senedd, deddfwrfeydd datganoledig a llywodraethau datganoledig.

  • Safleoedd trafnidiaeth lle maent eisoes yn ddarostyngedig i ofynion deddfwriaethol presennol i ystyried a lliniaru bygythiadau.

Cymhwyso i safleoedd haen safonol

Gall safleoedd a fyddai fel arall yn safleoedd haen safonol gynnal digwyddiadau sy’n gyfystyr â digwyddiadau cymwys, at ddiben adran 3 y Ddeddf. Yn yr amgylchiadau hynny, gall cynnal y digwyddiadau naill ai dynnu’r safle i’r haen uwch o dan adran 2(3) y Ddeddf, neu gall y digwyddiad fod yn gyfystyr â digwyddiad cymwys.

Bydd angen ystyried cyd-destun penodol y digwyddiad i benderfynu a yw’r digwyddiad yn ddigwyddiad cymwys. Mae’r canllawiau statudol yn nodi’r egwyddorion cyffredinol a fydd yn helpu deiliaid dyletswyddau i benderfynu a yw eu digwyddiad yn ddigwyddiad cymwys pan gaiff ei gynnal mewn safle haen safonol.

Ym mhob achos, bydd angen i’r person cyfrifol sicrhau bod dogfen gydymffurfio yn cael ei pharatoi a bod gweithdrefnau a mesurau amddiffyn y cyhoedd priodol ar waith, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, naill ai am hyd y digwyddiad (os yw’r digwyddiad yn ddigwyddiad cymwys) neu ar sail barhaus (os yw’r safle yn yr haen uwch).

Cymhwyso i ddigwyddiadau gydag ardaloedd mynediad agored a lleoliadau sy’n destun gwiriadau mynediad

Mae llawer o ddigwyddiadau’n digwydd ar draws ystod o leoliadau. Er enghraifft, y nifer o farathonau, triathlonau, carnifalau, gwyliau a gorymdeithiau sy’n digwydd ledled y DU bob blwyddyn.

Gallai’r digwyddiadau hyn gynnwys cymysgedd o ardaloedd mynediad agored, megis strydoedd a llwybrau tynnu, a lleoliadau eraill lle mae mynediad yn cael ei reoli. Lle mae rhannau o’r digwyddiadau hyn yn bodloni’r meini prawf a nodir yn adran 3 y Ddeddf, bydd y Ddeddf yn berthnasol i bob rhan o’r fath ar wahân (yn dibynnu ar yr amgylchiadau).

Bydd pob ardal sydd â rheolaethau mynediad ac sy’n disgwyl yn rhesymol i 800 neu fwy o unigolion fod yn bresennol ar yr un pryd o fewn cwmpas gofynion y Ddeddf. Bydd hyn yn wir hyd yn oed os nad yw elfennau eraill y digwyddiad mwy yn dod o fewn cwmpas y Ddeddf. Ni fydd ardaloedd heb wiriadau mynediad (er enghraifft, palmentydd, llwybrau tynnu a ffyrdd agored) o fewn cwmpas y Ddeddf, oni bai eu bod o fewn cyffiniau uniongyrchol y digwyddiad cymwys.

Safleoedd sy’n destun trothwyon gwahanol

Mae mathau o safleoedd o fewn cwmpas y Ddeddf sydd bob amser yn cael eu trin fel safleoedd haen safonol os ydynt yn bodloni’r meini prawf safleoedd cymwys, hyd yn oed os disgwylir yn rhesymol i 800 neu fwy o unigolion fod yn bresennol ar yr un pryd, o bryd i’w gilydd. Cyfeirir at hyn weithiau fel yr “ystyriaeth arbennig. Ni fydd digwyddiad yn ddigwyddiad cymwys os yw’n digwydd yn un o’r mathau o safleoedd sy’n dod o dan y categori hwnnw. Mae hyn yn berthnasol i safleoedd a ddefnyddir ar gyfer gofal plant, addysg gynradd neu uwchradd, addysg bellach neu fel addoldai.

  1. Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i’r Ddeddf ar 3 Ebrill 2025, ond nid yw’r gofynion hyn wedi cychwyn eto. Mae hyn yn golygu nad ydynt mewn grym eto, felly nid oes angen cydymffurfio â nhw tan eu bod yn cael eu dwyn i rym gan reoliadau.