Skip to main content
Policy paper

Terrorism (Protection of Premises) Act 2025: Enhanced duty requirements factsheet (Welsh)

Updated 24 July 2026

Mae’r daflen ffeithiau hon yn esbonio’r gofynion sy’n berthnasol i safleoedd dyletswydd uwch (a elwir yn fwy cyffredin yn safleoedd haen uwch) a digwyddiadau cymwys o dan Ddeddf Terfysgaeth (Diogelu Mangreoedd) 2025.[footnote 1]

Mae rhagor o wybodaeth am y safleoedd neu’r digwyddiadau a allai fod yn yr haen uwch yn y daflen ffeithiau cwmpas (safle), y daflen ffeithiau cwmpas (digwyddiadau) a phenodau 4 a 5 y canllawiau statudol.

Fel yr esboniwyd yn y daflen ffeithiau gofynion dyletswydd safonol, mae’r gofyniad i’r person cyfrifol sicrhau bod gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd priodol ar waith, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, yn berthnasol i bob safle cymwys a digwyddiad cymwys. Bydd y gweithdrefnau hyn yn helpu’r rhai sydd o fewn y cwmpas i baratoi ar gyfer camau gweithredu i’w cymryd yn achos ymosodiad neu ymosodiad a amheuir.

Oherwydd y nifer fwy o bobl sy’n bresennol mewn safleoedd a digwyddiadau yn yr haen uwch, rhaid i bersonau cyfrifol hefyd sicrhau bod mesurau amddiffyn y cyhoedd priodol ar waith, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol. Amcanion y mesurau amddiffyn y cyhoedd yw lleihau pa mor agored i ymosodiad terfysgol yw’r safle neu’r digwyddiadau, a lleihau’r risg o niwed corfforol, pe bai ymosodiad terfysgol yn digwydd.

Y gofynion ar gyfer safleoedd haen uwch a digwyddiadau cymwys yw:

1. Hysbysu

Rhaid i’r person cyfrifol hysbysu Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA) pan fyddant yn dod yn gyfrifol am y safle neu’r digwyddiad, pan fyddant yn peidio â bod yn gyfrifol, a phan fydd gwybodaeth a hysbyswyd yn flaenorol yn dod yn anghywir.

Bydd rheoliadau a chanllawiau cysylltiedig yn nodi’r amser a’r fformat gofynnol ar gyfer hysbysu’r SIA, a pha wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu yn yr hysbysiad hwnnw.

2. Dynodi unigolyn uwch

Os yw’r person cyfrifol ar gyfer safle haen uwch neu ddigwyddiad cymwys yn sefydliad yn hytrach nag unigolyn, rhaid i’r person cyfrifol ddynodi unigolyn uwch.

Yr unigolyn uwch yw rhywun sydd â chyfrifoldeb am reoli materion y person cyfrifol neu’r corff perthnasol, neu sydd â rheolaeth dros y person cyfrifol neu’r corff perthnasol. Mae’n annhebygol y bydd gweithiwr lefel is sydd â chyfrifoldebau a dylanwad cyfyngedig yn unigolyn uwch yn yr ystyr sy’n ofynnol gan adran 10 y Ddeddf. Mater i bob cwmni neu sefydliad unigol fydd penderfynu pa aelod o staff sy’n briodol i fod yr unigolyn uwch, a’u bod mewn swydd digon uchel bod ganddynt ddylanwad priodol i sicrhau cydymffurfiaeth â’r Ddeddf.

Prif swyddogaeth yr unigolyn uwch yw sicrhau, cyn belled ag y mae yn eu pŵer, bod y person cyfrifol yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf. Gall yr unigolyn uwch ddirprwyo camau gweithredu i eraill, megis rheolwr diogelwch. Ni allant ddirprwyo eu cyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau cydymffurfiaeth, fodd bynnag, a dylent fod â chyfrifoldeb cyffredinol ar ran y person cyfrifol.

Nid yw’r unigolyn uwch yn bersonol atebol am fethiant person cyfrifol i fodloni’r gofynion a amlinellir yn y bennod hon at ddibenion derbyn hysbysiad cosb. Fodd bynnag, os yw cwmni neu sefydliad arall wedi cyflawni trosedd o dan y Ddeddf, gellir erlyn uwch bersonél (megis pobl mewn swyddi rheoli uwch, gan gynnwys yr unigolyn uwch) am y drosedd hefyd, os gellir profi bod y drosedd wedi’i chyflawni gyda’u caniatâd neu eu hymlyniad, neu wedi digwydd oherwydd eu hesgeulustod.

Gweithdrefnau a mesurau amddiffyn y cyhoedd

Gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd

Rhaid i’r person cyfrifol ar gyfer safleoedd a digwyddiadau haen uwch sicrhau bod gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd priodol ar waith yn y safle neu’r digwyddiad, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd yw camau gweithredu, wedi’u cynllunio ymlaen llaw, y gellir eu rhoi ar waith gan unigolion perthnasol i gadw pobl yn ddiogel rhag ofn ymosodiad terfysgol a amheuir neu a geir mewn gwirionedd.

Maent yn weithdrefnau i’w dilyn gan bobl sy’n gweithio yn y safle neu’r digwyddiad lle maent yn amau bod gweithred derfysgol yn digwydd, neu ar fin digwydd, yn y safle, y digwyddiad neu yn y cyffiniau uniongyrchol.

Y pedwar math o weithdrefnau y mae’n rhaid iddynt fod ar waith, fel y bo’n briodol a chyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, yw:

Ymgilio

Y broses o gael pobl i ffwrdd o berygl drwy eu symud allan o’r safle neu’r digwyddiad (neu ran o’r safle neu’r digwyddiad).

Mewngilio

Y broses o symud pobl i ffwrdd o berygl i le o fewn y safle neu’r digwyddiad lle mae llai o risg o niwed corfforol yn cael ei achosi iddynt. Gall hyn gynnwys dod â phobl i mewn i’r safle neu’r digwyddiad o’r tu allan neu symud pobl o un rhan o’r safle i un arall, lle mae’n ddiogel gwneud hynny.

Cyfyngiadau Symud

Y broses o ddiogelu’r safle neu’r digwyddiad i atal unigolion rhag mynd i mewn neu adael (er enghraifft, i gyfyngu neu atal symudiad ymosodwr drwy gloi drysau, cau caeadau neu ddefnyddio rhwystrau sydd ar gael).

Cyfathrebu

Y broses o sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei darparu i unigolion yn y safle neu’r digwyddiad (er enghraifft, rhybuddio pobl am berygl cyn gynted â phosib a rhoi cyfarwyddiadau i aros yn eu lle neu symud i ffwrdd, lle mae’n ddiogel gwneud hynny).

Wrth ystyried y gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd sydd ar waith, rhaid i’r person cyfrifol ystyried beth sy’n briodol ac yn rhesymol ymarferol ar gyfer eu safle mewn perthynas â phob gweithdrefn amddiffyn y cyhoedd. Bydd hyn yn cynnwys ystyried natur y safle a’r adnoddau sydd ar gael. Nid yw’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i newidiadau ffisegol neu brynu offer penodol sy’n ymwneud â rhoi gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd ar waith. Efallai y bydd yn rhesymol ymarferol gwneud hynny mewn rhai amgylchiadau, fodd bynnag, a bydd hyn yn dibynnu ar gyd-destun y safle neu’r digwyddiad cymwys.

Fel rhan o sicrhau bod gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd priodol ar waith, rhaid gwneud pobl sy’n gweithio yn y safle neu’r digwyddiad yn ymwybodol o’r gweithdrefnau fel y gallant fod yn barod i’w rhoi ar waith. Er enghraifft, ni fyddai’n ddigonol cael gweithdrefn ymgilio ar waith pe na bai neb sy’n gweithio yn y safle neu’r digwyddiad yn deall sut i’w dilyn.

Mesurau amddiffyn y cyhoedd

Mae mesurau amddiffyn y cyhoedd yn wahanol i weithdrefnau amddiffyn y cyhoedd am eu bod yn ceisio lleihau pa mor agored yw safleoedd neu ddigwyddiadau i ymosodiad terfysgol fel ffordd ychwanegol o leihau’r risg o niwed corfforol a achosir gan ymosodiad. Gallant fod ar ffurf prosesau, camau gweithredu a gyflawnir gan bobl, neu liniariadau ffisegol.

Ar gyfer safleoedd haen uwch a digwyddiadau cymwys, rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod mesurau amddiffyn y cyhoedd priodol ar waith, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Mae ‘priodol’ yn golygu sicrhau bod gweithdrefnau’n addas, gan ystyried cyd-destun y safle neu’r digwyddiad, ac osgoi dull un ateb sy’n addas i bawb. Yna, er mwyn sefydlu beth sy’n rhesymol ymarferol ac felly’n gymesur, mae angen ystyried amcanion y gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd wedi’u cydbwyso yn erbyn y gost, yr amser a’r anhawster sy’n gysylltiedig â’u rhoi ar waith. Dylid ystyried effaith yr holl fesurau gyda’i gilydd i ffurfio dealltwriaeth gywir o sut y bydd gwendidau’n cael eu lleihau a sut y gellir lliniaru effaith ymosodiad terfysgol posib.

Bydd y mesurau sydd ar waith yn amrywio rhwng gwahanol fathau o safleoedd a digwyddiadau cymwys, a gellir eu rhoi ar waith drwy bobl (e.e. hyfforddiant), prosesau (e.e. polisi chwilio bagiau) neu fesurau ffisegol (e.e. teledu cylch cyfyng).

Y pedwar math o fesur yw:

Monitro

Mesurau sy’n ymwneud â monitro’r safle neu’r digwyddiad, a’r cyffiniau uniongyrchol. Bwriad mesurau monitro yw galluogi canfod ac adnabod gweithgareddau ac eitemau amheus a allai fod yn ddangosyddion ymosodiad terfysgol.

Gall enghreifftiau o fesurau o’r fath amrywio o ddosbarthu deunydd codi ymwybyddiaeth i’r rhai sy’n gweithio yn y safle neu’r digwyddiad i deledu cylch cyfyng a systemau monitro eraill.

Symud

Mesurau sy’n ymwneud â symud unigolion i mewn, allan neu o fewn y safle neu’r digwyddiad. Bwriad mesurau symud yw rheoli, gwahardd, cyfyngu neu leihau symudiad pobl i mewn, allan neu o fewn safleoedd a digwyddiadau.

Gall enghreifftiau o fesurau o’r fath amrywio o brosesau ar gyfer arsylwi ymddygiad ac eitemau amheus wrth fynd i mewn i’r safle i chwilio a sgrinio unigolion a rhwystrau.

Diogelwch a diogeledd ffisegol

Mesurau sy’n ymwneud â diogelwch ffisegol y safle, neu’r safle lle cynhelir y digwyddiad. Bwriad y mesurau hyn yw cryfhau diogelwch ffisegol safleoedd a digwyddiadau i liniaru effeithiau posib ymosodiadau a/neu atal neu rwystro ymosodwyr.

Gall enghreifftiau o fesurau o’r fath gynnwys parthau sefyll i ffwrdd (ardal ddynodedig i osod pellter rhwng un lleoliad ac un arall), gwydr diogelwch, a lliniaru cerbydau gelyniaethus (HVM).

Diogelwch gwybodaeth

Bwriad mesurau ar gyfer diogelwch gwybodaeth yw sicrhau nad yw gwybodaeth am y safle, ei weithrediad, ei ddyluniad, ei ddefnydd na’i weithrediadau mewnol ar gael yn eang ac yn hygyrch i’r rhai a allai ei defnyddio i gynllunio ymosodiad terfysgol.

Enghraifft o’r mesur hwn yw sicrhau bod gwybodaeth sensitif megis cynlluniau llawr yn cael ei chadw’n ddiogel, a bod mynediad wedi’i gyfyngu i unigolion perthnasol.

Gellir rhoi mesurau ar waith drwy:

  • Pobl: er enghraifft, aelodau staff sy’n cael eu briffio, eu cyfarwyddo neu eu hyfforddi i roi’r mesurau ar waith;
  • Polisïau neu brosesau: dyma egwyddorion sy’n nodi’r disgwyliad ar gyfer y mesurau, (er enghraifft, mae proses chwilio bagiau wedi’i hategu gan bolisïau ar faint bagiau a ganiateir ac eitemau gwaharddedig;); neu
  • Lliniaru ffisegol: bydd y rhain yn effeithio ar seilwaith y safle neu’r digwyddiad ac yn lleihau eu bregusrwydd i ymosodiad terfysgol (er enghraifft, mesurau lliniaru cerbydau gelyniaethus neu system CCTV).

Mae rhagor o wybodaeth am weithdrefnau a mesurau amddiffyn y cyhoedd ym mhenodau 7 ac 8 y canllawiau statudol.

Priodol a rhesymol ymarferol

Rhaid i’r person cyfrifol ystyried beth sy’n briodol ac yn rhesymol ymarferol mewn perthynas â phob gweithdrefn a mesur amddiffyn y cyhoedd.

Mae ‘priodol’ yn golygu sicrhau bod gweithdrefnau’n addas, gan ystyried cyd-destun y safle neu’r digwyddiad, ac osgoi dull un ateb sy’n addas i bawb. Yna, er mwyn sefydlu beth sy’n rhesymol ymarferol ac felly’n gymesur, mae angen ystyried amcanion y gweithdrefnau a mesurau amddiffyn y cyhoedd wedi’u cydbwyso yn erbyn y gost, yr amser a’r anhawster sy’n gysylltiedig â’u rhoi ar waith.
Yn y pen draw, bydd yr hyn sy’n briodol ac yn rhesymol ymarferol yn ystyriaeth ar gyfer pob safle unigol a digwyddiad cymwys o fewn cwmpas. Efallai na fydd y gweithdrefnau a mesurau penodol sydd ar waith mewn un lleoliad yn briodol ac yn rhesymol ymarferol mewn un arall.

Er enghraifft, bydd gweithdrefnau a mesurau yn wahanol mewn sinema lle gellir disgwyl yn rhesymol na fydd mwy na 1,000 o unigolion (gan gynnwys staff) yn bresennol ar unrhyw adeg o’i gymharu â’r rhai mewn stadiwm sydd â 20,000 o unigolion. Dylid teilwra gweithdrefnau a mesurau i amgylchiadau penodol y safle neu’r digwyddiad. Er enghraifft:

Gall theatr â chapasiti o 1,200 o bobl fwrw ymlaen â’r gweithgareddau canlynol mewn perthynas â gweithredu ei gweithdrefnau a’i mesurau amddiffyn y cyhoedd:

  • datblygu a rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd a sicrhau eu bod yn cael eu hymarfer yn rheolaidd
  • sicrhau bod cyfnodau sefydlu a phrofi ar gyfer staff newydd yn cynnwys pecynnau hyfforddiant ymwybyddiaeth i bawb sy’n gweithio yn y theatr mewn rolau sy’n ymwneud â diogelwch, diogeledd a gwrthderfysgaeth
  • datblygu polisïau ar gyfer gwiriadau perimedr a mynediad yn ogystal â rheoli ciwiau a gwirio tocynnau
  • defnyddio systemau radio mewnol a ffonau symudol ar gyfer cyfathrebu rhwng unigolion perthnasol sy’n gweithio yn y theatr
  • cyflwyno gweithgareddau pen bwrdd dros dro a senarios cerdded drwodd sydd wedi’u cynllunio a’u harwain gan unigolion dynodedig
  • cyflogi cymysgedd o staff drws cyflogedig a staff dan gontract i amddiffyn ardaloedd mynedfa ac allanfa yn ddigonol
  • datblygu polisïau ar gyfer eitemau amheus neu gyfyngedig, gan gynnwys gwirio bagiau a storio
  • cael teledu cylch cyfyng effeithiol gydag ystafell fonitro a rheoli gyda staff digonol

Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, a gallai newid dros amser.

Gweithdrefnau a mesurau effeithiol

Dylid cyfleu gweithdrefnau a mesurau amddiffyn y cyhoedd i bawb sydd angen bod yn ymwybodol ohonynt h.y. y bobl y mae’n rhaid iddynt eu rhoi ar waith yn effeithiol mewn ymateb i ddigwyddiad a amheuir. Gall hyn gynnwys gweithwyr, gwirfoddolwyr a chontractwyr, yn ogystal â’r rhai sy’n llogi’r safle.

Bydd sut y rhoddir gwybod i’r bobl hyn am y gweithdrefnau a’r mesurau sydd ar waith yn dibynnu ar amgylchiadau penodol y safle neu’r digwyddiad (gan gynnwys natur y defnydd a’r mathau o bobl sy’n gweithio yno) a’r adnoddau sydd ar gael. Er enghraifft, gall y person cyfrifol ei gwneud yn ofynnol i weithwyr perthnasol fynychu hyfforddiant cyfarwyddol.

Nid oes gofyniad statudol yn y Ddeddf i’r person cyfrifol neu’r staff gynnal hyfforddiant penodol. Fel rhan o sicrhau bod gweithdrefnau a mesurau amddiffyn y cyhoedd ar waith, fodd bynnag, a fellir eu rhoi ar waith yn effeithiol, rhaid i’r rhai sy’n gweithio yn y safle sydd â chyfrifoldeb am eu cyflawni (fel y’u nodir gan y person cyfrifol) gael gwybod am y gweithdrefnau a’r mesurau a’u rôl benodol. Mae angen iddynt hefyd gael y ddealltwriaeth, y profiad a’r offer y mae eu hangen arnynt i’w cyflawni’n effeithiol.

Dogfennu cydymffurfiaeth

Rhaid i’r person cyfrifol ar gyfer safle haen uwch neu ddigwyddiad cymwys ddogfennu eu cydymffurfiaeth â’r Ddeddf. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu gan yr SIA ar sut i wneud hynny. Y wybodaeth sy’n ofynnol gan y Ddeddf yw:

  • Datganiad yn nodi’r gweithdrefnau amddiffyn y cyhoedd sydd ar waith;
  • Datganiad yn nodi’r mesurau amddiffyn y cyhoedd sydd ar waith neu a fydd yn cael eu rhoi ar waith;
  • Asesiad o sut y disgwylir i’r gweithdrefnau a’r mesurau amddiffyn y cyhoedd leihau’r risg o niwed corfforol pe bai ymosodiad terfysgol yn digwydd, yn ogystal ag asesiad o sut y disgwylir i’r mesurau amddiffyn y cyhoedd leihau’r bregusrwydd i ymosodiad terfysgol.

Rhaid cadw’r ddogfen yn gyfredol, a rhaid ei darparu i’r SIA cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddi gael ei pharatoi am y tro cyntaf, ac o fewn 30 diwrnod i unrhyw adolygiad.

  1. Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i’r Ddeddf ar 3 Ebrill 2025, ond nid yw’r gofynion hyn wedi cychwyn eto. Mae hyn yn golygu nad ydynt mewn grym eto, felly nid oes angen cydymffurfio â nhw tan eu bod yn cael eu dwyn i rym gan reoliadau.