Policy paper

Strategaeth ar gyfer Seilwaith Amddiffyn: Summary (Welsh)

Updated 30 August 2023

Mae ein hystad a’n seilwaith wrth galon popeth y mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ei wneud. Dyma’r ased allweddol lle mae ein staff yn byw, yn gweithio ac yn hyfforddi. Yma, rydyn ni’n gweithredu ac yn trefnu ein milwyr. Mae’r strategaeth hon yn darparu’r fframwaith ar gyfer trawsnewid a moderneiddio’r ystad Amddiffyn a datblygu ei hasedau dros y degawdau nesaf. Mae hyn yn cynnwys codi safon llety preswyl ar gyfer personél y Lluoedd Arfog, gwella ansawdd gweithleoedd a chynnal cyfleusterau i gefnogi’r gwaith o ddarparu technolegau byd-eang i’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae’r ystad yn hanfodol i allu milwrol a bydd y strategaeth hon nid yn unig yn cyfeirio gweithgarwch ar draws y seilwaith Amddiffyn, ond bydd hefyd yn garreg filltir uchelgeisiol ar gyfer nodau’r dyfodol, fel cyfrannu at ymrwymiadau Sero Net a chynaliadwyedd y DU mewn ymateb i’r bygythiad cynyddol o’r newid yn yr hinsawdd.

Yn y DU yn unig, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gweithredu o dair prif ganolfan llynges, saith safle forwrol llai, 148 barics, 37 gorsaf awyr gan gynnwys 9 maes awyr mawr a dros 1,800 o safleoedd Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid. Mae’r ystad Amddiffyn yn darparu dros 100,000 o welyau a 49,500 o gartrefi i staff a’u teuluoedd. Mae hefyd yn cynnwys 58 o sefydliadau hyfforddi a 157,500 hectar o ystâd hyfforddi.

Mae gan yr SDI naw amcan o dan dair thema polisi.

Thema polisi A: Ystad sy’n cefnogi ein pobl, yn hwyluso gallu’r Weinyddiaeth Amddiffyn ac sy’n cyflawni ei hamcanion

Amcan 1: Sicrhau bod gennym y seilwaith cywir, o’r maint iawn ac yn y lleoliad iawn, nawr ac yn y dyfodol.

Amcan 2: Atal a gwrthdroi’r dirywiad yng nghyflwr ein hystâd.

Amcan 3: Sicrhau bod ein hystâd yn gallu gwrthsefyll bygythiadau diogelwch presennol a rhai sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal â pheryglon naturiol ac effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Amcan 4: Cynnal gwerth yr asedau ar draws ein hystâd, gan fanteisio i’r eithaf ar eu budd i’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Thema polisi B: Moderneiddio’r ystad, gan groesawu arloesedd, i sicrhau ei bod yn addas ar gyfer y dyfodol

Amcan 5: Sicrhau bod ein hamgylchedd byw a gweithio yn diwallu anghenion Lluoedd y Dyfodol.

Amcan 6: Gwella cynaliadwyedd ar draws yr ystad Amddiffyn.

Amcan 7: Manteisio ar arloesedd a thrawsnewid prosesau adeiladu a chaffael.

Thema polisi C: Gweddnewid sut rydyn ni’n meddwl am yr ystad ac yn ei rheoli

Amcan 8: Darparu sgiliau a chapasiti seilwaith effeithiol ac integredig i alluogi amcanion y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Amcan 9: Meithrin a defnyddio partneriaethau cryf i gefnogi’r Weinyddiaeth Amddiffyn i gyflawni ein hamcanion.

Ochr yn ochr â strategaethau’r Adran ar gyfer llety a gweithleoedd yn y dyfodol, bydd yr SDI yn codi safon llety preswyl ar gyfer staff y Lluoedd Arfog, gan wella ansawdd gweithleoedd a chefnogi ffyrdd clyfar o weithio. Mae’r ADI hefyd wedi ymrwymo i ddarparu’r setiau sgiliau cywir i gyflawni ein seilwaith, gyda buddsoddiad mewn sgiliau arbenigol yn ôl y gofyn. Bydd hyn yn golygu ehangu ein partneriaethau â diwydiant, denu gweithlu amrywiol, rhannu arferion gorau a chroesawu syniadau newydd ac arloesol.

Bydd yr SDI yn cefnogi twf y DU ac yn Codi’r Gwastad drwy arloesi, buddsoddi a datblygu. Bydd ei ffocws ar gynaliadwyedd yn cyfrannu at gyflawni uchelgeisiau Sero Net y DU. Bydd hyn yn sicrhau bod yr ystad yn barod ar gyfer bygythiadau yn awr ac yn y dyfodol, gan gynnwys bygythiad y newid yn yr hinsawdd.