Statutory guidance

Impact assessment: medical checks in the statutory guidance for firearms (Welsh) (accessible version)

Updated 14 February 2023

Applies to England, Scotland and Wales

Asesiad Effaith, Y Swyddfa Gartref

Teitl: Gwiriadau meddygol yn y canllawiau statudol ar gyfer arfau tanio
Rhif IA: HO0399
Cyfeirnod RPC: Amherthnasol
Adrannau neu asiantaethau eraill:  
Dyddiad: 29 Medi 2021
Cam: Development/Options
Ymyrraeth: Domestic
Mesur: Arall
Ymholiadau Uned Trais Difrifol public.enquiries@homeoffice.gov.uk
Barn RPC: Not Applicable
Targed Effaith Busnes: Non qualifying provision

Cost yr Hoff Ddewis (neu’r dewis mwy tebygol) (mewn prisiau 2021)

Gwerth Cymdeithasol Presennol Net NPSV (£m) Gwerth Presennol Net Busnes BNPV (£m) Cost net y flwyddyn i’r busnes EANDCB (£m)
-58.8 7.1 0.8

Beth yw’r broblem sy’n cael ei hystyried? Pam bod angen ymyrraeth gan y llywodraeth?

Mae Deddf Arfau Tanio 1968 (y Ddeddf 1968) yn gofyn i’r rhai hynny sy’n dymuno meddu ar arfau tanio adran 1 a gynnau haels adran 2 wneud cais i’r heddlu am dystysgrif. Mae’n rhaid i’r heddlu fod yn fodlon na fyddai cymeradwyo’r dystysgrif yn peryglu diogelwch y cyhoedd o’r heddwch, ac mae’r asesiad hwn yn cynnwys addasrwydd meddygol yr ymgeisydd. Ar hyn o bryd, mae amrywiaeth arwyddocaol o ran y ffordd ac a yw meddygon teulu’n ymateb i’r cais am wybodaeth a sut mae’r heddlu’n gweithredu heb wybodaeth feddygol, gyda’r heddlu’n aml yn cymryd yn ganiataol nad oes cyflwr meddygol perthnasol ac yn cymeradwyo’r dystysgrif. Mae’r canllawiau statudol newydd, y mae’n rhaid i’r heddlu eu hystyried, yn nodi bod rhaid i’r heddlu dderbyn y wybodaeth feddygol cyn rhoi’r dystysgrif. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth ymyrryd i gryfhau canllawiau am drefniadau rhannu gwybodaeth (2016) o dan y Ddeddf 1968.

Beth yw’r amcan strategol? Beth yw prif amcanion y polisi a’r effeithiau a fwriedir?

Amcan y polisi yw y bydd yr heddlu ond yn cymeradwyo tystysgrifau arfau tanio ar ôl ystyried gwybodaeth feddygol sy’n ymwneud â’r ymgeisydd. Bydd hyn yn lleihau’r risg y gall unigolion anaddas feddu ar arfau tanio, a’r effaith a fwriedir yw cryfhau diogelwch y cyhoedd.

Pa ddewisiadau polisi sydd wedi cael eu hystyried, gan gynnwys unrhyw ddewisiadau amgen yn lle rheoleiddio? Cyfiawnhewch yr hoff ddewis (tystiolaeth bellach yn y Sail Tystiolaeth)

Dewis 1: Gwneud dim a pharhau i asesu addasrwydd meddygol yn anghyson.

Dewis 2: Cyflwyno canllawiau strategol sy’n nodi na ddylai’r heddlu gymeradwyo tystysgrifau heb wybodaeth feddygol.

Dewis 2 yw hoff ddewis y Llywodraeth.

Prif ragdybiaethau/sensitifeddau a risgiau economaidd/dadansoddol

Cyfradd disgownt

3.5%

1. Y prif awgrymiadau yw: 1) bydd nifer yr ymgeiswyr/adnewyddiadau’n aros yn weddol gyson: y ffigwr diweddaraf: 130,719 ar gyfer 2021/22, 2) y gost meddyg teulu fesul gais yw £55 a 3) asesir 65 y cant o geisiadau heb dystysgrif feddygol.

2. Y prif risg ddadansoddol yw’r ansicrwydd o ran yr awgrymiadau uchod.

3. Y brif risg economaidd yw cynnydd mewn ceisiadau’n cael eu gwrthod wrth i wybodaeth feddygol gael ei datgelu. Gallai hyn arwain at ddiweithdra mewn nifer fach o achosion.

A fydd y polisi’n cael ei adolygu?

Bydd will yn cael ei adolygu.

Os yw’n berthnasol, nodwch ddyddiad adolygu:

10/2023

Rwyf wedi darllen yr Asesiad Effaith ac rwy’n fodlon, gan ystyried y dystiolaeth sydd ar gael, ei fod yn cynrychioli safbwynt rhesymol o gostau, buddion ac effeithiau tebygol y dewisiadau arweiniol.

Llofnodwyd gan y person sy’n gyfrifol: Minister:

Dyddiad: Medi 2021

Crynodeb Dadansoddiad a Thystiolaeth: Dewis Polisi 1

Disgrifiad: ASESIAD ECONOMAIDD LLAWN

Blwyddyn/Blynyddoedd:  
Sylfaen Prisiau 2021
Sylfaen PV 2021
Arfarnu 10
Pontio 1

Amcangyfrifiad o’r Gwerth Cymdeithasol Presennol Net NPSV (£m)

Isel -44.7
Uchel -72.9
Gorau -58.8

Amcangyfrifiad o’r BNPV (£m)

BNPV Gorau 7.1

COSTAU, £m

Pontio (Pris Cyson) Parhaus (Gwerth Presennol) Cyfanswm (Gwerth Presennol) Cyfartaledd/blwyddyn I’r Busnes (Gwerth Presennol)
Isel 0.01 5.2 44.7 5.2 0.6
Uchel 0.01 8.5 72.9 8.5 1.0
Amcangyfrif Gorau 0.01 6.8 58.8 6.8 0.8

Disgrifiad a graddfa costau ariannol allweddol gan ‘grwpiau sy’n cael eu heffeithio’n bennaf’

Gall ymgeiswyr am arfau tanio dynnu cost amcangyfrifedig o £58.8 million dros 10 mlynedd (PV) ar gyfer ffioedd sy’n cael eu codi gan feddygon i ddarparu gwybodaeth feddygol. Amcangyfrifir y bydd £51.7 miliwn (88%) ar gyfer unigolion a £7.1 miliwn (12%) ar gyfer busnesau (y ddau dros 10 mlynedd, PV).Bydd gan yr heddlu gost ymgyfarwyddo fach.

Costau allweddol eraill nad ydynt yn ariannol gan ‘grwpiau sy’n cael eu heffeithio’n bennaf’

Mae’n bosibl y bydd cost posibl i ymgeiswyr i wirio’n rheolaidd â’u meddyg i sicrhau bod y wybodaeth feddygol ofynnol wedi cael ei rhoi.

BUDDIANNAU, £m

Pontio (Pris Cyson) Parhaus (Gwerth Presennol) Cyfanswm (Gwerth Presennol) Cyfartaledd/blwyddyn I’r Busnes (Gwerth Presennol)
Isel          
Uchel          
Amcangyfrif Gorau          

Disgrifiad a graddfa buddiannau ariannol allweddol gan ‘grwpiau sy’n cael eu heffeithio’n bennaf’

Gall y polisi hwn atal lladdiadau, neu farwolaeth o ganlyniad i hunan-niweidio bwriadol. Yn ogystal ag atal costau dynol trychineb o’r fath, amcangyfrifir mai cost economaidd lladdiadau yw £3.7 miliwn a chost economaidd marwolaeth oherwydd hunan-niweidio bwriadol yw £2.7 miliwn.Nid yw wedi bod yn bosibl ariannu buddion penodol.

Buddion allweddol eraill nad ydynt yn ariannol gan ‘grwpiau sy’n cael eu heffeithio’n bennaf’

Tybir bod effaith yn Lloegr a Chymru na fydd yn berthnasol yn yr Alban, oherwydd mae Heddlu’r Alban eisoes wedi rhoi dull ar waith gydag effaith debyg. Mae’n bosibl y bydd y gofyniad i roi gwybodaeth feddygol ar gyfer pob cais yn achosi nifer uwch o wrthodiadau.

ASESIAD BUSNES (Dewis 1)

Effaith uniongyrchol ar fusnes (Blynyddol Cyfwerth) £m:

Cost, £m 0.8
Buddion, £m 0.0
Net, £m -0.8

Sgôr ar gyfer Targed Effaith Busnes (darpariaethau cymwys yn unig) £m:

Amherthnasol

A yw’r mesur hwn yn debygol o effeithio ar fasnachu a buddsoddi?

Nac ydy

A yw unrhyw un o’r sefydliadau hyn o fewn y cwmpas?

Micro Bach Canolig Mawr
Ydy Ydy Ydy Ydy

Beth yw’r newid CO2 cyfwerth mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr? (Miliwn tunnell CO2 cyfwerth)

Wedi’i fasnachu Heb ei fasnachu
Amherthnasol Amherthnasol

ASESIAD POBL AC EFFEITHIAU PENODOL (Dewis 2)

A yw’r holl Effeithiau Penodol perthnasol wedi’u cynnwys?

Ydyn

A oes unrhyw effeithiau ar grwpiau penodol?

Oes

Sail tystiolaeth (ar gyfer taflenni crynodeb)

A. Amcan Strategol a Throsolwg

A.1 Amcan strategol

Cyflwynodd Deddf Plismona a Throsedd 2017 bŵer newydd i roi canllawiau arfau tanio statudol, a fydd yn helpu sicrhau gwell cysondeb a safonau uwch o wneud penderfyniadau i’r heddlu wrth ystyried ceisiadau trwyddedu arfau tanio, a bydd yn sicrhau y rhoddir mwy o ystyriaeth i’r canllawiau gan y llysoedd.

Bwriad y canllawiau yw sicrhau gwell cysondeb ar gyfer trwyddedu arfau tanio gan yr heddlu, gan gynnwys gwiriadau meddygol. Er bod cymeradwyo tystysgrifau arfau tanio’n fater gweithredol i’r heddlu, bydd yn ofynnol iddynt ystyried y canllawiau statudol pan fyddant yn cael eu rhoi.

Bydd y canllawiau’n berthnasol i drefniadau diogelwch sydd eisoes yn bodoli o ran perchnogaeth arfau tanio, megis gwiriadau cefndir yr heddlu neu’r meini prawf o ran ymgeiswyr sydd â hanes o drais domestig. Mae hefyd yn cynnwys cynigion newydd ar gyfer y trefniadau am asesu addasrwydd meddygol ymgeiswyr, a fydd yn golygu nad yw neb yn cael trwydded arfau tanio oni bai bod eu meddyg wedi cadarnhau i’r heddlu a oes ganddynt unrhyw gyflyrau meddygol perthnasol ai peidio, gan gynnwys asesiad o’u hiechyd meddwl.

Mae meddygon eisoes yn rhoi gwybodaeth am gyflyrau meddygol perthnasol i’r heddlu yn seiliedig ar gofnod meddyg teulu’r ymgeisydd. Bydd y canllawiau newydd yn darparu rhestr o gyflyrau meddygol perthnasol y dylai’r meddyg eu hystyried pan fo unigolyn yn gwneud cais am dystysgrif arfau tanio. Fodd bynnag, yr heddlu perthnasol yn y pen draw a fydd yn penderfynu cymeradwyo trwydded arfau tanio ai peidio.

A.2 Cefndir

Mae Adran 27 Deddf Arfau Tanio 1968 yn nodi: “Bydd trwydded arf tanio’n cael ei gymeradwyo pan fo prif swyddog yr heddlu’n fodlon: (a) mae’r ymgeisydd yn addas i gael ei ymddiried ynddo gydag arf tanio y mae adran 1 y Ddeddf hon yn berthnasol iddi ac nid yw’n unigolyn sydd wedi’i wahardd gan y Ddeddf hon rhag meddu ar arf tanio o’r fath; (b) bod ganddo reswm da am feddu ar, neu brynu neu gaffael, yr arf tanio neu’r bwledi y mae’r cais ar eu cyfer; ac (c) o dan yr holl amgylchiadau caniateir i’r ymgeisydd feddu ar yr arf tanio neu’r bwledi heb beryglu diogelwch y cyhoedd na’r heddwch”.

Mae Adran 28(1) y Ddeddf 1968 yn nodi y gall “…tystysgrif dryll haels gael ei chymeradwyo, neu fel y mae’n berthnasol, ei hadnewyddu gan brif swyddog yr heddlu os yw’n fodlon y gall yr ymgeisydd feddu ar ddryll haels heb beryglu diogelwch y cyhoedd na’r heddwch”.

Rhoddwyd trefniadau rhannu gwybodaeth ar waith yn 2016 rhwng meddygon teulu a’r heddlu i asesu addasrwydd meddygol ymgeisydd Roedd hyn yn dilyn trafodaethau helaeth gyda’r heddlu, cynrychiolwyr meddygol, sefydliadau saethu, adrannau’r llywodraeth a phartïon eraill â buddiant. Cyn y trefniadau hyn, roedd y ffurflen gais arfau tanio a drylliau haels yn gofyn i ymgeiswyr ddatgan unrhyw gyflyrau meddygol perthnasol ar y ffurflen gais, a thrwy hynny efallai y gallai fod yn ofynnol i’r heddlu weld adroddiad meddygol yn darparu rhagor o fanylion am y cyflwr meddygol. Canfuodd Arolygiaeth Heddlu, Gwasanaethau Tân ac Achub ei Mawrhydi (HMICFRS), gan ystyried adroddiadau’r crwneriaid, bod gwendidau yn y dull presennol yn eu hadroddiad 2015, ‘Targedu’r Risg’[footnote 1]. Er enghraifft, gall ymgeiswyr osgoi craffu meddygol trwy beidio â datgan cyflwr meddygol perthnasol. Awgrymodd HMICFRS bod angen cryfhau’r trefniadau meddygol i amddiffyn y cyhoedd.

Cafodd y trefniadau hyn eu gweithredu rhwng Ebrill ac Awst 2016, ac erbyn Awst 2016 roedd pob heddlu yn Lloegr, Cymru a’r Alban yn cysylltu â meddyg teulu pob ymgeisydd wrth gymeradwyo neu adnewyddu i ofyn a oedd yr ymgeisydd wedi cael diagnosis o gyflwr meddygol perthnasol, er enghraifft, iselder neu dementia. O dan y trefniadau newydd hyn gofynnodd yr heddlu i feddygon teulu roi marciwr arfau tanio ar gofnod y claf i alluogi’r meddyg i gysylltu â’r heddlu ynghylch unrhyw broblemau meddygol newydd a gododd yn dilyn cymeradwyo’r dystysgrif. Mae’r marciwr yn god ar y system cofnodion cleifion electronig sy’n atgoffa’r meddyg teulu bod y claf yn ddeiliad tystysgrif arf tanio.

Yn dilyn gweithredu yn 2016, mae amrywiaeth arwyddocaol wedi codi yn yr ymateb gan feddygon teulu i gais yr heddlu: nid yw rhai’n codi ffioedd i ymgeiswyr am ddarparu’r wybodaeth feddygol, mae eraill yn codi ffioedd amrywiol, ac nid yw rhai’n cydymffurfio â’r cais. Mae meddygon annibynnol nawr yn cynnig y wybodaeth feddygol i’r heddlu, yn seiliedig ar gofnod meddygol yr ymgeisydd, am y ffi safonol. Mae hefyd anghysondeb o ran y ffordd y mae’r heddlu’n gweithredu os nad ydynt yn derbyn y wybodaeth feddygol y gofynnwyd amdani. Mae rhai lluoedd yn mynd ati i gymeradwyo’r dystysgrif, tra bod eraill nad ydynt yn cymeradwyo’r dystysgrif oni bai eu bod wedi derbyn ymateb gan y meddyg teulu. Mae pryderon wedi cael eu codi gan arweinwyr gorfodi’r gyfraith, cynrychiolwyr meddygol ac eraill am barhau i gymeradwyo tystysgrifau heb wybodaeth feddygol, o ran y risg i ddiogelwch y cyhoedd.

Safbwynt y Llywodraeth yw ei bod hi’n bwysig sicrhau, cyn belled â phosibl, bod y rhai hynny sy’n meddu ar arfau tanio’n ffit yn feddygol, i ddiogelu’r deiliad tystysgrif ei hun yn ogystal â’r cyhoedd. Dewis 2, hoff ddewis y Llywodraeth, yw cyflwyno canllawiau statudol yn nodi na ddylai’r heddlu gymeradwyo tystysgrifau heb wybodaeth feddygol. Cafodd y polisi hwn ei brofi yn yr ymgynghoriad wrth gyflwyno canllawiau statudol ar gyfer arfau tanio, a redodd o 15 Gorffennaf 2019 i 17 Medi 2019.

A.3 Grwpiau sy’n cael eu heffeithio

  • Gorfodi’r gyfraith – heddluoedd yn Lloegr, Cymru a’r Alban.
  • Unigolion – ymgeiswyr ar gyfer tystysgrifau arfau tanio a drylliau haels.
  • Busnesau – ymgeiswyr sy’n defnyddio’r arfau tanio ar gyfer eu busnes (er enghraifft, rheoli pla neu giperiaid) a meddygon sy’n darparu’r wybodaeth feddygol.

A.4 Ymgynghoriad

O fewn y Llywodraeth

Mae adrannau’r Llywodraeth wedi cael eu hymgynghori â nhw fel rhan o’r broses glirio traws-lywodraethol cyn ymgynghori ar gyflwyno canllawiau statudol a gofynion meddygol newydd, ac hefyd cyn cyhoeddi’r canllawiau statudol. Yn benodol, mae’r Swyddfa Gartref a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) wedi cydweithio’n agos dros y trefniadau meddygol i sicrhau y bydd y system a drafodir yn y canllawiau statudol yn gweithredu’n effeithiol.

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar gyflwyno’r canllawiau statudol a’r trefniadau meddygol newydd o 15 Gorffennaf i 17 Medi 2019. Gwnaeth y rhan fwyaf o’r rhai hynny a ymatebodd sylw ar y cynigion meddygol, yn benodol ynghylch y ffioedd amrywiol oedd meddygon teulu yn eu codi a gallu meddygon teulu i wrthod i ddarparu’r wybodaeth er y byddai darparu gwybodaeth feddygol yn ofyniad gorfodol cyn cymeradwyo tystysgrif. Er mai £50 yw’r ffi a godir gan feddygon ar gyfartaledd, roedd pryder bod rhai meddygon yn codi ffioedd llawer yn uwch.

O ganlyniad i ymatebion yr ymgynghoriad, cynhaliwyd trafodaethau pellach gyda’r heddlu, cynrychiolwyr meddygol, sefydliadau saethu, Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) a’r Swyddfa Gartref. Er nad oedd pob parti’n rhannu’r un barn ar rai agweddau o’r broses drwyddedu – er enghraifft, a fyddai’n rhaid i’r wybodaeth feddygol gael ei chyflenwi gan feddyg teulu’r ymgeisydd neu a allai meddyg annibynnol wneud hynny – roedd cytundeb y byddai’r ymgeisydd yn gofyn am y wybodaeth feddygol gan y meddyg yn hytrach na’r heddlu’n gwneud hynny. Roedd y newid hwn yn gysylltiedig â’r gwaith gan DHSC i ddod â chymorth TG cenedlaethol i helpu meddygon teulu wrth ddefnyddio’r marciwr arfau tanio. Unwaith y byddai’n cael ei roi ar waith a’i brofi, byddai’r datrysiad TG ar gyfer y marciwr yn ategu asesiad parhaus yr heddlu o ddeiliaid tystysgrif a helpu symud tuag at yr amcan o gynyddu hyd y dystysgrif arf tanio a dryll haels.

B. Rhesymeg dros ymyrryd

Mae’n ofynnol i ymgeiswyr ddatgan unrhyw gyflwr meddygol perthnasol ar eu ffurflen gais.Fodd bynnag, nid yw’n ofyniad gorfodol i’r heddlu gadarnhau’r wybodaeth hon gyda meddygon teulu. Oherwydd yr ymateb amrywiol gan feddygon teulu, mae cyfran arwyddocaol o dystysgrifau arfau tanio a drylliau haels yn cael eu cymeradwyo heb i’r heddlu weld unrhyw wybodaeth feddygol heblaw am y datganiad hwn. Mae’r Llywodraeth yn ceisio mynd i’r afael â’r risg y gall hyn arwain at bobl anaddas yn meddu ar arfau tanio. Er ei bod hi’n ymddangos nad yw deiliaid tystysgrifau arfau tanio’n defnyddio eu harfau tanio mewn troseddau’n aml, gall digwyddiadau o’r fath fod yn drychinebus.Rhwng Ebrill 2009 a Mawrth 2020, roedd 52 o laddiadau gydag arfau tanio wedi’u trwyddedu yn Lloegr a Chymru.Yn ogystal â throseddau, mae tua 80 o bobl yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i hunan–niweidio bwriadol gydag arfau tanio yn Lloegr a Chymru[footnote 2].

C. Amcan y polisi a’r effeithiau a fwriedir

Y bwriad yw gwella diogelwch y cyhoedd drwy gryfhau’r system trwyddedu arfau tanio mewn perthynas ag addasrwydd meddygol. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy sicrhau bod yr heddlu’n gweld gwybodaeth feddygol berthnasol am yr ymgeisydd cyn iddynt fynd ati i roi’r dystysgrif arf tanio.

Yr effeithiau a fwriedir yw sicrhau gwell cysondeb ar gyfer trwyddedu arfau tanio gan yr heddlu, gan gynnwys mewn perthynas â gwiriadau meddygol. Er bod cymeradwyo tystysgrifau arfau tanio’n fater gweithredol i’r heddlu, bydd yn ofynnol iddynt ystyried y canllawiau statudol pan fyddant yn cael eu rhoi.

Bydd y canllawiau’n berthnasol i drefniadau diogelwch sydd eisoes yn bodoli o ran perchnogaeth arfau tanio, megis gwiriadau cefndir yr heddlu neu’r meini prawf o ran ymgeiswyr sydd â hanes o drais domestig. Mae’r canllawiau hefyd yn cynnwys trefniadau am asesu addasrwydd meddygol ymgeiswyr a bydd yn golygu nad oes neb yn derbyn trwydded arfau tanio oni bai bod eu meddyg wedi cadarnhau i’r heddlu a oes ganddynt unrhyw gyflyrau meddygol perthnasol ai peidio, gan gynnwys asesiad o’u hiechyd meddwl.

D. Dewisiadau a ystyriwyd a gweithredu

Dewis 1: Gwneud dim a pharhau ag asesu addasrwydd meddygol yn anghyson.

Dewis 2: Cyhoeddi canllawiau statudol yn nodi na ddylai’r heddlu gymeradwyo tystysgrifau heb wybodaeth feddygol.

Gan mai amgylchedd rheoledig yw hwn, nid yw unrhyw ddewisiadau nad ydynt yn rheoleiddiol yn addas i gyflawni’r amcanion. Byddai dewisiadau nad ydynt yn rheoleiddiol wedi cael eu hystyried ond ni ddaethpwyd o hyd i’r fath dewis.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn 2019, sef cyn y newidiadau Windrush i asesiadau effaith (IAs) a oedd angen dewisiadau pellach i gael eu harchwilio.

Hoff ddewis a’r cynllun gweithredu

Dewis 2 yw hoff ddewis y Llywodraeth oherwydd ei fod yn diwallu amcanion y polisi.

Bydd y canllawiau wedi’u hadolygu i’r heddlu am addasrwydd meddygol yn cael eu cyhoeddi fel rhan o’r canllawiau statudol ar gyfer arfau tanio sy’n cael eu cyhoeddi yn dilyn ystyried ymatebion yr ymgynghoriad a thrafodaethau pellach gyda rhanddeiliaid. Bydd gan yr heddlu ddyletswydd i ystyried y canllawiau. Bydd ffurflenni cais wedi’u hadolygu’n nodi’r broses newydd yn cael eu cyhoeddi pan fydd y canllawiau statudol yn cael eu cyhoeddi. Bydd y ffurflenni cais yn cael eu cyflwyno gan offeryn statudol nad yw’n ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn Seneddol. Mae’r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu’r newidiadau hyn yn fuan.

Bydd y canllawiau statudol newydd yn dod i rym yn ffurfiol yn ystod yr wythnosau nesaf (wedi’i gynllunio ar gyfer 1 Tachwedd). Fodd bynnag, maent yn cael eu cyhoeddi nawr (18 Hydref) i alluogi’r heddlu i wneud y paratoadau angenrheidiol er mwyn iddynt ddod i rym.

E. Arfarnu

RHAGDYBIAETHAU CYFFREDINOL A DATA

a. Tybir mai’r ffi a godir gan feddygfeydd i ymgeiswyr ar gyfartaledd yw £55, gyda therfyn isaf ac uchaf o £48 a £61 yn y drefn honno. Mae’r terfyn uchaf yn dod o gyfartaledd wedi’i bwysoli o’r ffioedd a ddarperir gan 26 o dimau arfau tanio’r heddlu yn Lloegr a Chymru. Y terfyn isaf yw’r ffi a godir gan feddygon teulu yn yr Alban i ymgeiswyr ar gyfartaledd, fel yr adroddwyd gan Heddlu’r Alban. Yr amcangyfrif gorau yw’r pwynt canolig rhwng y terfynau isaf ac uchaf. Mae amcangyfrifon o heddluoedd unigol ond yn berthnasol i feddygon teulu a ddarparodd gwybodaeth ac a gododd ffi. Nid yw’n wyddys pa gyfran o feddygon teulu sy’n codi ffi, ond dywedodd yr heddlu bod mwyafrif sylweddol o feddygon teulu naill ai wedi codi ffi neu wedi gwrthod cydymffurfio heb dâl. Ar gyfer yr IA hwn, tybir y bydd pob meddyg teulu nad ydynt yn darparu gwybodaeth meddygol ar hyn o bryd yn codi ffi am wneud hynny pan fydd y polisi’n cael ei weithredu.

b. Mae nifer o sefydliadau’n cynnwys meddygon annibynnol nawr yn cynnig darparu’r wybodaeth feddygol yn seiliedig ar gofnod meddygol yr ymgeisydd, sy’n cael ei gyrchu trwy gais am fynediad at ddata. Tybir bod y ffioedd sy’n cael eu codi gan feddygon annibynnol ar y cyfan yn gyson gyda’r ffioedd sy’n cael eu codi gan feddygon teulu ar gyfartaledd. Mae’r ffi safonol sy’n cael ei godi gan feddygon annibynnol yn amrywio o £50 i £60, gyda disgownt ychwanegol yn aml yn cael ei darparu i aelodau sefydliadau saethu. Yn ogystal, dim ond cyfran gweddol fach o ymatebion y tybir eu bod yn cael eu darparu fel hyn, gyda meddyg teulu’r ymgeisydd yn darparu’r wybodaeth feddygol i’r heddlu yn y rhan fwyaf o achosion.

c. Tybir bod tua 65 y cant o geisiadau’n cael eu hasesu heb yr heddlu’n gweld gwybodaeth feddygol. Mae’r amcangyfrifiad hwn yn seiliedig ar ddata a ddarparwyd gan bum heddlu (sy’n gyfrifol am dua 9% o bob cais).

d. Tybir na fydd y gofyniad i’r heddlu dderbyn gwybodaeth feddygol cyn cymeradwyaeth yn cael unrhyw effaith yn yr Alban, oherwydd mae Heddlu’r Alban eisoes wedi gweithredu dull tebyg sydd wedi bod ar waith ers 2016.

e. Ar hyn o bryd, mae’n bosibl bod rhai meddygon teulu’n darparu gwybodaeth feddygol yr ymgeisydd heb godi ffi. Pan fydd y polisi’n cael ei roi ar waith, mae’n bosibl y bydd y meddygon teulu hyn yn dechrau codi ffi am ddarparu’r wybodaeth feddygol, os ydynt yn ymwybodol bod meddygon teulu eraill yn gwneud hynny. Nid yw’n wyddys sawl meddyg teulu fydd yn dechrau codi ffi, felly nid yw’r gost ychwanegol bosibl hon wedi cael ei meintioli.

f. Er y gall y polisi hwn atal marwolaethau oherwydd hunan-niweidio bwriadol, nid yw cost safonedig i gymdeithas o farwolaeth o’r fath ar gael yn gyhoeddus. Felly, defnyddir cost dynladdiad i amcangyfrif y budd o hunanladdiadau sydd wedi’u hatal, ar ôl eithrio costau na fyddent yn gysylltiedig â marwolaeth oherwydd hunan-niweidio bwriadol, megis: gwariant amddiffynnol, gweinyddiaeth yswiriant, gwasanaethau iechyd, gwasanaethau i ddioddefwyr, costau i’r heddlu a chostau CJS eraill. Amcangyfrifir y gost o farwolaeth oherwydd hunan-niweidio bwriadol fel y costau niwed corfforol ac emosiynol ac allbwn coll.

g. Y cyfnod arfarnu yw 10 mlynedd. Mae cyfradd disgownt cymdeithasol o 3.5 y cant wedi cael ei gymhwyso, yn unol â chanllawiau Llyfr Gwyrdd Trysorlys ei Mawrhydi (2018) (arfarnu a gwerthuso yn y llywodraeth ganolog) i gael costau gwerth presennol. Blwyddyn sylfaen y pris yw 2017 a blwyddyn sylfaen y gwerth presennol yw 2019.

DEWIS 2 – Cyflwyno canllawiau statudol yn nodi na ddylai’r heddlu gymeradwyo tystysgrifau heb wybodaeth feddygol

COSTAU GOSOD

Heddluoedd

Costau ymgyfarwyddo

Bydd angen i’r heddlu ddarllen a deall y canllawiau newydd, a fydd yn cymryd amser yr heddlu. Mae heddluoedd wedi nodi y bydd angen tua chwe swyddog neu aelod o staff o bob llu ymgyfarwyddo â’r canllawiau, sy’n awgrymu 258 o bobl i gyd. Mae’r canllaw 14,476 gair o hyd. Gan gymryd bod y ddogfen yn cael ei darllen 240 o eiriau y munud, cyflymder normal ar gyfartaledd yn ôl Readingsoft.com, a’r cyflog yr awr ar gyfartaledd a’r costau cyffredinol ar gyfer y swyddogion/staff yw £41 mewn prisiau 2021, mae hyn yn rhoi cost ymgyfarwyddo o £10,500 ar gyfer yr heddlu.

COSTAU PARHAUS

Ymgeiswyr tystysgrif arfau tanio

Fel yr heddlu, bydd angen i ymgeiswyr ymgyfarwyddo eu hunain gyda’r canllawiau newydd. Yn 2020/21, roedd 130,719 o ymgeiswyr ar gyfer trwyddedau newydd neu adnewyddu trwyddedau. Mae’r IA yn cymryd y bydd angen ail-ddarllen y canllawiau bob tro ar gyfer adnewyddiadau. Ni ddisgwylir y bydd ymgeiswyr yn eu cofio o’r cais hyd at yr adnewyddiad. Felly, mae’r costau ymgyfarwyddo hyn yn cronni bob blwyddyn yn hytrach nag yn ystod blwyddyn 1 yn unig, ac felly maent yn gostau parhaus. Mae’r cyflog ar gyfartaledd – a chostau amser – yr ymgeiswyr yn anhysbys, felly defnyddir y cyfartaledd cenedlaethol o £2,622, yn ôl Ystadegau Gwladol am enillion gweithwyr yn y DU[footnote 3]. Gan fod y canllawiau 14,476 gair o hyd a byddant yn cael eu darllen ar gyflymder o dua 240 yr awr (fel yr uchod), mae hyn yn awgrymu cost ymgyfarwyddo blynyddol o £2.2 miliwn i gyd. Amcangyfrifir mai cyfran yr holl dystysgrifau arfau tanio a/neu drylliau a ddefnyddir mewn cyflogaeth yw 12 y cant (daw gwybodaeth am swyddi deiliaid tystysgrif o fas data byw, System Genedlaethol Rheoli Trwyddedu Arfau Tanio).Felly, Mae £1.9 miliwn o’r costau ymgyfarwyddo blynyddol ar gyfer ymgeiswyr unigol ac mae £0.3 miliwn ar gyfer ymgeiswyr busnes.

Gyda’r cyflwyniad o ofyniad i’r heddlu weld gwybodaeth meddyg teulu cyn cymeradwyo neu adnewyddu, mae’n debygol y bydd hi’n ofynnol i ragor o ymgeiswyr dalu ffi i feddygon teulu i sicrhau y rhoddir y wybodaeth feddygol. Bu 130,719 o geisiadau ar gyfer cymeradwyo neu adnewyddu tystysgrifau arfau tanio neu ddrylliau yn 2021-21[footnote 4].

Pan fo ffioedd yn cael eu talu i meddygfeydd, amcangyfrif y ffi i fod yn £55 ar gyfartaledd, gydag amcangyfrifon isel ac uchel o £48 a £61 yn y drefn honno. Tybir nad yw’r gost gyfartalog hon wedi’i heffeithio’n faterol gan y nifer llai o achosion lle mae ffioedd yn cael eu talu i feddygon annibynnol, gyda ffioedd penodol yn amrywio o £50 i £60 gyda disgownt yn cael ei gymhwyso i rai o’r ceisiadau hyn. Fel y nodwyd uchod, tybir bod 65 y cant o geisiadau’n cael eu datrys ar hyn o bryd heb yr heddlu’n gweld gwybodaeth feddygol. Yn y dyfodol, mae gwybodaeth feddygol ynghlwm â’r holl geisiadau hyn, mae hyn yn awgrymu y bydd tua £5.3 miliwn mewn ffioedd ychwanegol yn cael eu talu i feddygon bob blwyddyn, gan achosi costau ar draws y cyfnod 10 mlynedd o £39.9 miliwn (PV), gydag amcangyfrif isel o £35.2 miliwn (PV) ac amcangyfrif uchel o £44.6 miliwn (PV).

Gan gynnwys ymgyfarwyddo a chostau’r heddlu, mae’n achosi amcangyfrif gorau ar draws y cyfnod 10 mlynedd o £58.8 miliwn (PV) gydag amcangyfrif isel o £44.7 miliwn (PV) ac amcangyfrif uchel o £72.9 miliwn (PV).

Amcangyfrifir mai cyfran yr holl dystysgrifau arfau tanio a/neu drylliau a ddefnyddir mewn cyflogaeth yw 12 y cant (daw gwybodaeth am swyddi deiliaid tystysgrif o fas data byw, System Genedlaethol Rheoli Trwyddedu Arfau Tanio).Amcangyfrifir felly mai’r gost amcangyfrifedig orau ar draws y cyfnod 10 mlynedd (gweler Tabl 1) i fusnesau fydd £7.1 miliwn (PV), gyda therfynau isaf ac uchaf o £5.4 miliwn a £8.8 miliwn (PV) yn y drefn honno.

Amcangyfrifir mai cyfran yr holl dystysgrifau arfau tanio a/neu dryll a ddelir gan unigolion yw 88 y cant. Amcangyfrifir mai’r cyfran o gyfanswm y gost amcangyfrifedig orau ar draws y cyfnod 10 mlynedd (gweler Tabl 1) i unigolion fydd £51.7 miliwn (PV), gyda therfynau isaf ac uchaf o £39.3 miliwn (PV) a £64.2 miliwn (PV) yn y drefn honno.

Tabl 1. Proffil o gostau blynyddol a 10 mlynedd (PV) amcangyfrifedig, £ million

Cost blwyddyn 1, £m

Busnes Unigolyn Heddlu Cyfanswm
Gorau 0.8 6.0 0.01 6.8
Uchaf 1.0 7.5 0.01 8.5
Isaf 0.6 4.6 0.01 5.2

Cost blynyddol, £m

Busnes Unigolyn Cyfanswm
Gorau 0.8 6.0 6.8
Uchaf 1.0 7.5 8.5
Isaf 0.6 4.6 5.2

Cost PV 10 mlynedd, £m

Busnes Unigolyn Cyfanswm
Gorau 7.1 51.7 58.8
Uchaf 8.8 64.2 72.9
Isaf 5.4 39.3 44.7

Ffynonellau: Amcangyfrifon yr heddlu ar gyfer ffioedd meddygol, Readingsoft ar gyfer costau ymgyfarwyddo, NLFMS ar gyfer nifer yr ymgesiwyr.

Heddlu

Er y bydd y canllawiau statudol yn gofyn i’r ymgeisydd ofyn am y wybodaeth feddygol gan y meddyg yn hytrach na’r heddlu’n gwneud hyn, bydd yr heddlu o hyd yn cysylltu â meddyg teulu’r ymgeisydd i’w cynghori a yw’r ymgeisydd wedi cael tystysgrif arf tanio, oherwydd mae’r wybodaeth hon yn angenrheidiol fel bod y meddyg teulu’n gallu gwneud y camau angenrheidiol i roi’r marciwr arfau tanio. Felly, tybir na fydd newid arwyddocaol i’r cyswllt sy’n ofynnol rhwng yr heddlu a meddyg teulu’r ymgeisydd.

Meddygon Teulu

Bydd meddygon teulu’n parhau i gael eu gofyn i ddarparu’r wybodaeth feddygol ofynnol i’r heddlu, a bydd yn agored i’r meddyg teulu godi ffi i’r ymgeiswyr ar gyfer cost eu hamser.Tybir nad oes unrhyw gostau parhaus net ar gyfer meddygon teulu i ddarparu’r ymateb meddygol i’r heddlu, oherwydd bydd unrhyw gostau’n cael eu gwrthbwyso gan incwm y ffi. Mewn nifer fach o achosion lle mae’r wybodaeth feddygol yn cael ei darparu gan feddyg annibynnol, mae’n bosibl y bydd cost i feddygfeydd sy’n cyflenwi’r cofnod meddygol i’w ddefnyddio gan y meddyg annibynnol o ganlyniad i gais am fynediad at ddata. Oherwydd nad yw’n wyddys pa mor aml y bydd hyn yn codi, neu ba effaith y gall hyn ei chael ar feddygfeydd yn darparu’n wybodaeth, nid yw’r cost bosibl hon wedi’i meintioli.

CYFANSWM Y COSTAU

Amcangyfrifir mai cyfanswm costau’r polisi hwn dros y cyfnod arfarnu 10 mlynedd yw £58.8 miliwn (PV) ar gyfer ymgeiswyr, gydag amcangyfrifon isel ac uchel o £44.7 miliwn (PV) a £72.9 miliwn yn y drefn honno. Y rhaniad priodol rhwng busnesau ac unigolion yw 12 ac 88 y cant; amcangyfrifir mai’r amcangyfrifiad canolog ar gyfer busnesau yw £7.1 miliwn (PV), gydag amcangyfrifon isel ac uchel o £5.4 miliwn (PV) a £8.8 miliwn yn y drefn honno. Yr amcangyfrifon canolog ar gyfer unigolion yw £51.7 miliwn (PV), gydag amcangyfrifon isel ac uchel o £39.3 miliwn (PV) a £64.2 miliwn yn y drefn honno.

BUDDIANNAU

Cymdeithas

Mae buddiant tebygol i’r cyhoedd a gorfodi’r gyfraith o ran gwell diogelwch i’r cyhoedd, oherwydd gall Dewis 2 leihau’r risg o arfau tanio’n cael eu hymdrin â nhw gan bobl anaddas ac mae’n lleihau’r risg o anafiadau a marwolaethau o arfau tanio o bosibl. Mae’n bosibl y bydd buddiant i ymgeiswyr a deiliaid tystysgrifau arfau tanio a drylliau, a’u teuluoedd, os nad ydynt yn cael cymeradwyaeth tystysgrif os nad ydynt yn addas yn feddygol i feddu ar arfau tanio.

Ni ellir amcangyfrif y buddiant hwnt yn gadarn oherwydd diffyg tystiolaeth am faint o anafiadau neu farwolaethau sy’n ymwneud ag arfau tanio sy’n debygol o gael eu hosgoi yn dilyn y newidiadau. Fodd bynnag, mae dadansoddiad adennill costau wedi cael ei gynnal i ddarlunio maint y buddiannau sydd ei angen er mwyn i’r polisi hwn gael NPSV cadarnhaol.

Amcangyfrifir mai cost dynladdiad i gymdeithas yw £3.7 miliwn. Amcangyfrifir mai cost marwolaeth oherwydd hunan-niweidio bwriadol yw £2.7 miliwn. Mae cost dynladdiad yn dod o’r cyhoeddiad Costau Economaidd a Chymdeithasol Trosedd. Cost marwolaeth o hunan-niweidio bwriadol yw’r gost hon gan eithrio gwariant amddiffynnol, gweinyddiaeth yswiriant, gwasanaethau iechyd, gwasanaethau i ddioddefwyr, costau’r heddlu, a chostau CJS eraill, a’r gwerth wedi’i gynyddu i 2021/22 gan ddefnyddio’r datchwyddydd cynnyrch domestig gros (GDP)[footnote 5].

Cyfanswm costau’r polisi yw tua £58.8 miliwn (PV), felly bydd NPSV cadarnhaol cyffredinol os yw’r polisi’n arwain at leihad mewn 22 marwolaeth o’r fath dros y cyfnod arfarnu 10 mlynedd, neu leihad mewn 16 dynladdiad.

Targed Effaith Busnes

Mae’r polisi hwn wedi’i eithrio o’r Targed Effaith Busnes.

Asesu busnesau bach a meicro

Amcangyfrifwyd bod tua 12 y cant o ddeiliaid tystysgrif arf tanio a dryll yn defnyddio eu arf tanio fel rhan o’u busnes, yn bennaf ffermio. Mae’n debyg y bydd y rhan fwyaf o’r deiliaid tystysgrif hyn mewn busnesau bach (10 i 49 gweithiwr FTE) neu fusnesau meicro (1 i 9 gweithiwr FTE). Mae data poblogaeth busnes ar gyfer 2020 yn dangos o’r 7,770 busnes yn sector ‘ffermio cymysg’ y DU, roedd 93.2 y cant yn fusnesau micro a 6.0 y cant yn fusnesau bach (Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol – Amcangyfrifon Poblogaeth Busnes (2020).[footnote 6]Er gall y newid hwn effeithio ar fusnesau bach a busnesau meicro, ni fyddai’n briodol i’w heithrio rhag y newidiadau i’r canllawiau, oherwydd byddai gwneud hynny’n darparu ffordd i bobl sy’n anaddas yn feddygol i feddu ar arfau tanio, gan roi eu hunain a’r cyhoedd ehangach mewn perygl o bosibl. Mae busnesau bach a meicro hefyd yn debygol o gronni buddiannau’r polisi hwn, felly byddai eu heithrio’n lleihau effeithiolrwydd y polisi hwn.

NPSV, BNPV, EANDCB

Fel y dengys yn Nhabl 1, amcangyfrifir mai’r Gwerth Cymdeithasol Presennol Net (NPSV) yw £58.8 miliwn dros 10 mlynedd (PV). Amcangyfrifir mai’r Gwerth Presennol Busnes Net yw £7.1 miliwn dros 10 mlynedd (PV) a’r cost net i fusnes bob blwyddyn yw £0.8 miliwn.

Gwerth am arian (VfM)

Er yr amcangyfrifir mai’r NPSV ar gyfer yr hoff ddewis yw -£58.8 million, mae hyn oherwydd nad yw buddiannau disgwyliedig y polisi wedi cael eu hariannu eto. Ar hyn o bryd, nid oes astudiaethau cadarn yn y DU sy’n gwerthuso’r effaith ar ddynladdiad neu hunanladdiad o sicrhau bod gwiriadau meddygol yn cael eu cynnal cyn i arfau tanio gael eu trwyddedu. Fodd bynnag, roedd y dadansoddiad yn yr adran Buddiannau’n dangos dim ond nifer fach o hunanladdiadau neu ddynladdiadau fyddai angen eu hatal er mwyn i fuddiannau fynd y tu hwnt i gostau.

F. Cymesuroldeb

Mae’r dadansoddiad yn yr IA hwn yn cynnwys amcangyfrifon gorau ar gyfer costau a buddiannau’r polisi arfaethedig. Mae pob ymdrech wedi cael ei gwneud i sicrhau bod y dadansoddiad yn cyflwyno amcangyfrifiad gorau posibl yr hoff ddewis, gan ystyried yr amser, adnoddau a’r data sydd ar gael. Mae effeithiau wedi cael eu meintioli lle bo hynny’n bosibl a’u hesbonio’n ansoddol lle nad oedd hynny’n bosibl. Felly, nid yw hyn yn ymdrech gymesur i arfarnu’r newid polisi arfaethedig.

G. Risgiau

Mae risg y bydd y canllawiau newydd yn arwain at gynnydd mewn gwrthodiadau wrth i wybodaeth feddygol gan ei datgelu.Mae risg wrth i ymgeiswyr neu ddeiliaid tystysgrif ddod yn ymwybodol o’r canllawiau newydd na fyddant yn adrodd am broblemau iechyd yn fwriadol i osgoi eu tystysgrif yn cael ei gwrthod neu ei thynnu yn ôl. Ar gyfer y rhai hynny sy’n defnyddio arfau tanio fel rhan o’u gwaith (er enghraifft, fel ceidwad anifeiliaid hela neu reoli pla), gallai’r risg o gynnydd mewn gwrthodiadau arwain at ddiweithdra a/neu costau i’r busnesau (er enghraifft trwy orfod cyflogi contractwyr) os na allant wneud y gweithgareddau eu hunain mwyach. Fodd bynnag, mae’r gost hon yn debygol o gael ei gorbwyso gan y budd i ddiogelwch y cyhoedd o atal unigolion anaddas rhag feddu ar arfau tanio.

H. Gorfodaeth

Ni fydd angen camau gweithredu gorfodi ar gyfer y trefniadau meddygol newydd. Ni fydd yr heddlu’n cymeradwyo tystysgrifau heb wybodaeth feddygol.

I. Costau a buddiannau uniongyrchol i gyfrifiadau busnes

Mae Tabl I.1 yn amlinellu costau a buddiannau’r newidiadau arfaethedig.

Tabl I.1 Costau a Buddiannau, £ miliwn (PV)

Dewis Costau Buddiannau NPSV
1 0.0 0.0 0.0
2 58.8 0.0 -58.8

Buddiannau nad ydynt yn ariannol: llai o ddynladdiad a hunanladdiad oherwydd cyfyngiadau meddygol ar drwyddedau arfau tanio.

Ffynhonnell: Timau arfau tanio’r heddlu; System Genedlaethol Rheoli Trwyddedu Arfau Tanio.

Hoff ddewis y Llywodraeth yw Dewis 2, oherwydd mae’n debygol bod ganddo’r gwerth cymdeithasol mwyaf, o ystyried y budd nad yw’n ariannol.

J. Effeithiau ehangach

Bydd y cyhoedd ehangach yn elwa os yw troseddau sy’n ymwneud ag arfau tanio wedi’u trwyddedu’n cael eu hatal oherwydd bod y trefniadau diogelwch a’r meini prawf gwneud penderfyniadau’n cael eu cymhwyso’n gyson o ganlyniad i’r dyletswydd statudol newydd.

Mae’n bosibl y bydd heddluoedd a’r llysoedd yn elwa o ganllawiau cliriach i seilio eu penderfyniadau arnynt yn ogystal ag os oes llai o apeliadau o benderfyniadau trwyddedu o ganlyniad i’r canllawiau cliriach hynny.

Bydd deiliaid trwydded yn elwa o fwy o eglurder dros y broses a’r meini prawf y maent yn cael eu hasesu ar gyfer perchnogaeth arfau tanio.

K. Effaith ar fasnachu

Ni fydd y mesur hwn yn effeithio ar fasnachu o gwbl.

L. Monitro ac arfarnu (PIR os yw’n ofynnol), egwyddorion gorfodi.

Bydd y Swyddfa Gartref yn asesu effeithiolrwydd y mesurau hyn a bydd yn cynnal adolygiad yn 2023.

Bydd y Swyddfa Gartref yn ceisio adborth trwy drafodaethau parhaus gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys yr heddlu, sefydliadau saethu a chynrychiolwyr meddygol.

M. Atodiadau

Rhestr Wirio Asesiad Effaith

Prawf effeithiau penodol gorfodol - Dyletswyddau Cydraddoldebau Statudol Wedi cwblhau
Dyletswyddau Cydraddoldebau Statudol

Mae Gweinidogion y Swyddfa Gartref a gweithwyr swyddogol wedi cyfarfod â chynrychiolwyr deiliaid tystysgrifau ac ymgeiswyr i drafod y pwnc a cheisio eu barn.

Anabledd

Gall anabledd fod yn ffactor sy’n cyfrannu at alluedd corfforol a meddyliol is ymgeisydd arfau tanio. Mae’r ffactor gwahaniaethau posibl hwn wedi cael ei asesu ac ystyrir yr angen i amddiffyn yr ymgeisydd ac eraill rhag niwed fel y peth pwysicaf. Caiff pob achos ei ystyried yn unigol.

Oedran

Mae deiliaid tystysgrifau arfau tanio a drylliau’n hŷn yn anghymesur. Mae tua 28 y cant yn 65 oed neu’n hŷn, o gymharu â thua 18 y cant o boblogaeth y DU. Mae tua 36 y cant yn 50-64 oed, o gymharu â thua 18 y cant o boblogaeth y DU. Felly, bydd y polisi hwn yn effeithio’r grwpiau oedran hyn yn anghymesur oherwydd mae’n effeithio ar ddeiliaid tystysgrifau. Gall mynd yn hŷn hefyd fod yn ffactor sy’n cyfrannu at iechyd yn dirywio, neu alluedd corfforol a meddyliol is ymgeisydd arfau tanio. Mae’r ffactor gwahaniaethau posibl hwn wedi cael ei asesu ac ystyrir yr angen i amddiffyn yr ymgeisydd ac eraill rhag niwed fel y peth pwysicaf. Caiff pob achos ei ystyried yn unigol.

Rhywedd

Mae deiliaid tystysgrifau arfau tanio a drylliau llawer yn fwy tebygol o fod yn wryw na benyw. Mae 94 y cant o ddeiliaid yn wryw ac felly bydd y polisi’n effeithio ar ddynion yn fwy na menywod. Mae’r ffactor gwahaniaethau posibl hwn wedi cael ei asesu ac ystyrir yr angen i amddiffyn yr ymgeisydd ac eraill rhag niwed fel y peth pwysicaf. Caiff pob achos ei ystyried yn unigol.

Cydraddoldeb cyfleoedd

Does dim anfantais i gydraddoldeb cyfleoedd ar gyfer y weithdrefn newydd hon. Ni fydd yr heddlu’n gwrthod tystysgrif yn awtomatig lle mae anabledd neu oedran yn ffactor. Bydd yr heddlu’n gwrthod neu’n tynnu tystysgrif yn ôl pan fyddant yn ystyried hyn yn ofynnol oherwydd perygl i ddiogelwch y cyhoedd neu i’r heddwch.

Meithrin cysylltiadau da

Bydd y canllawiau newydd hyn yn meithrin cysylltiadau da rhwng unigolion o fewn y grwpiau gwarchodedig ac eraill drwy sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail deg ac ecwitïol.

Mae’r SRO wedi cytuno ar y canfyddiadau crynodeb hyn.
Ydy

Gellir dileu unrhyw brawf sydd heb ei gymhwyso heblaw am y Datganiad Cydraddoldeb, lle mae’n rhaid i’r arweinydd polisi ddarparu paragraff o wybodaeth grynhoi am hyn.

Mae’r Swyddfa Gartref yn gofyn bod gan y Prawf Effeithiau Penodol ar y Datganiad Cydraddoldeb baragraff grynhoi, yn nodi’r prif bwyntiau. Ni allwch ddileu hyn ac mae’n RHAID ei gwblhau.

Profion Effaith Economaidd – os yw’r rhain yn berthnasol, rhowch baragraff crynhoi

A yw eich dewis/cynnig polisi yn ystyried…? Ydy/Nac ydy (tudalen)
Targed Effaith Busnes

Mae Deddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (s. 21-23) yn creu gofyniad i asesu effeithiau economaidd cymhwyso darpariaethau rheoleiddiol ar weithgareddau sefydliadau busnes a chymdeithas sifil. Llawlyfr Fframwaith Rheoleiddio Gwell neu [Gwiriwch ag Uned Rheoleiddio Gwell y Swyddfa Gartref]

Mae’r mesurau hyn wedi cael eu hasesu ac nid ydynt yn bodloni’r targed Effaith Busnes.
Nac ydy
Asesiad busnesau bach a micro (SaMBA)

Mae’r SaMBA yn ofyniad Rheoleiddio Gwell a fwriedir i sicrhau bod pob cynnig rheoleiddiol newydd wedi’u dylunio a’u gweithredu i liniaru beichiau anghymesur. Mae’n rhaid i’r SaMBA gael ei gymhwyso i’r holl fesurau domestig sy’n rheoleiddio sefydliadau busnes a chymdeithas sifil, oni bai eu bod yn gymwys ar gyfer y broses garlam. Llawlyfr Fframwaith Rheoleiddio Gwell neu [Gwiriwch gydag Uned Rheoleiddio Gwell y Swyddfa Gartref

Mae hyn wedi cael ei asesu ac fe’i gyflwynir yn adran E (gweler t9).
Ydy