Guidance

Welsh: Ychwanegiad at Bensiwn y Wladwriaeth: Beth ydyw, sut y gallai eich helpu, a sut i wneud cais

Updated 8 April 2016

This guidance was withdrawn on

The State Pension top up scheme closed on 5 April 2017.

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi cael ei dynnu

Nid yw’r cyhoeddiad hwn bellach yn gyfredol.

Beth yw Ychwanegiad at Bensiwn y Wladwriaeth?

Os ydych chi, neu aelod o’ch teulu, wedi ymddeol neu’n agosáu at ymddeol, efallai y byddwch yn ystyried ffyrdd i sicrhau sicrwydd ariannol yn ddiweddarach mewn bywyd. Neu efallai y byddwch eisiau gwneud yn siŵr y gallwch barhau I wneud yr hyn rydych yn ei fwynhau.

Gallai ychwanegiad at Bensiwn y Wladwriaeth gadael i chi wneud hyn drwy roi £1 i £25 yr wythnos yn ychwanegol yn gyfnewid am gyfandaliad.

Gallwch wneud cais am Ychwanegiad at Bensiwn y Wladwriaeth tan 5 Ebrill 2017.

Rydych yn gymwys os oes gennych hawl i Bensiwn y Wladwriaeth y DU ac rydych eisoes wedi cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu yn ei gyrraedd cyn 6 Ebrill 2016. Mae hyn yn cynnwys dynion a anwyd cyn 6 Ebrill 1951 a merched a anwyd cyn 6 Ebrill 1953.

Ychwanegiad at Bensiwn y Wladwriaeth – A yw’n iawn i chi?

Mae’r ychwanegiad at Bensiwn y Wladwriaeth yn cynnig ffordd i roi hwb i’ch incwm ymddeol. Mae p’un a yw’r dewis iawn i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Sicrhewch eich bod yn gwirio a yw’n iawn i chi.

Cyn i chi wneud taliad, ystyriwch y pwyntiau hyn I weld bod ychwanegiad at Bensiwn y Wladwriaeth yn gweddu â’ch sefyllfa.

Beth yw’r gost

Mae’r gost yn dibynnu ar faint rydych am ychwanegu at eich taliad Pensiwn y Wladwriaeth. Mae’r costau’n cynyddu yn dibynnu ar faint rydych ei eisiau – rhwng £1 a £25 yr wythnos.

Mae hefyd yn cael ei effeithio gan faint yw eich oed pan fyddwch yn gwneud y taliad: mae’r gost yn disgyn wrth i’ch oedran gynyddu. Mae hyn yn golygu y gall gwneud synnwyr i aros hyd nes eich pen-blwydd nesaf cyn gwneud y taliad.

Mae ein cyfrifiannell ar-lein yn dweud wrthych faint y bydd pob punt o’r ychwanegiad at Bensiwn y Wladwriaeth yn ei gostio.

Gallwch ddod o hyd iddo yn www.gov.uk/state-pension-topup

Treth

Mae’r ychwanegiad at Bensiwn y Wladwriaeth yn drethadwy fel incwm, felly gwiriwch faint y byddech yn ei gael ar ôl treth.

Gall hefyd effeithio ar unrhyw fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm rydych yn eu cael nawr neu yn y dyfodol.

Noder

Os ydych yn fenyw 62 oed sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, cewch wybod i wneud eich cyfraniad ar neu ar ôl eich pen-blwydd yn 63 mlwydd oed. Oherwydd effaith y newidiadau i’r oedran y gall pobl hawlio’u Pensiwn y Wladwriaeth, mae’r cyfraddau yn well i chi yn 63 oed nag yn 62 oed.

Ewch I www.gov.uk/statepensiontopup am fanylion pellach.

Ffyrdd eraill i roi hwb i’ch incwm ymddeol

Nid yr ychwanegiad at Bensiwn y Wladwriaeth yw’r unig ffordd o gynyddu eich incwm. Mae’n werth ystyried beth arall sydd ar gael cyn gwneud cais

Rydym yn argymell eich bod yn cymryd cyngor ariannol annibynnol cyn gwneud taliad.

Sut y gall ychwanegiad at Bensiwn y Wladwriaeth eich helpu chi

Mae mwy i’r ychwanegiad at Bensiwn y Wladwriaeth na’r incwm ychwanegol. Mae hefyd yn:

1. Yn warantedig am oes

2. Wedi’i ddiogelu rhag chwyddiant

Mae’r taliad pensiwn yn gysylltiedig â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr, felly ni fydd yn colli gwerth dros gyfnod o amser.

3. Etifeddadwy

Yn y rhan fwyaf o achosion, gall eich priod neu’ch partner sifil gael rhwng 50% a 100% o’r ychwanegiad at Bensiwn y Wladwriaeth ar ôl i chi farw. Bydd eich partner sy’n goroesi, yn y rhan fwyaf o achosion, yn cael y pensiwn ychwanegol ar ôl iddynt gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, os nad ydynt eisoes wedi’i gyrraedd.

Mae’r rheolau ynghylch p’un a yw’r ychwanegiad at Bensiwn y Wladwriaeth yn etifeddol yr un fath ag ar gyfer Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth.

Ffyrdd eraill i roi hwb i’ch Pensiwn y Wladwriaeth

Gohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth

Nid oes rhaid i chi gael eich Pensiwn y Wladwriaeth cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Am bob 5 wythnos y byddwch yn aros, bydd yn cynyddu o 1% am oes.

Gall y rhan fwyaf o bobl ohirio eu Pensiwn y Wladwriaeth ond os ydych yn derbyn pensiwn gwraig weddw neu fudd-daliadau eraill, efallai na fyddwch yn gallu gwneud hynny. Gwiriwch y rheolau cyn penderfynu gohirio.

Os ydych yn bodloni’r meini prawf, gallwch hefyd ohirio’r ychwanegiad at Bensiwn y Wladwriaeth, bydd eich holl daliad Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu, gan gynnwys swm yr ychwanegiad at Bensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych eisoes yn gohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn gwneud eich taliad ychwanegiad at Bensiwn y Wladwriaeth, ni fyddwch yn cael yr incwm hyd nes y byddwch yn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth - ni ellir ei dalu ar wahân.

Ceir mwy o wybodaeth am ohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth, a sut i hawlio cyfandaliad yn hytrach nag ychwanegiad wythnosol, yn www.gov.uk/deferring-state-pension

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol

Os nad oes gennych y nifer llawn o flynyddoedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd eu hangen i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth lawn, efallai y gallwch gynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth drwy wneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol. Mae’n werth gwneud hyn cyn gwneud taliad.

Fel hyn, gallwch lenwi’r bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Gallwch ddal gwneud cyfraniad i’r ychwanegiad at Bensiwn Wladwriaeth ar ôl hynny.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am yr ychwanegiad at Bensiwn y Wladwriaeth rhwng 12 Hydref 2015 a 5 Ebrill 2017. Yr hynaf ydych chi, y lleiaf y mae’n ei gostio, felly gall wneud synnwyr i aros hyd nes eich pen-blwydd nesaf cyn gwneud cais.

Unwaith rydych yn barod i wneud cais, dim ond dau gam hawdd mae’n ei gymryd.

Ffoniwch ni neu ewch ar-lein

Sicrhewch fod gennych eich rhif Yswiriant Gwladol gyda chi, gan fyddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi i brofi eich hunaniaeth.

I wneud cais ar-lein, ewch i www.gov.uk/statepensiontopup

I wneud cais dros y ffôn, ffoniwch
0300 200 1900 neu +44 191 2182076
os ydych yn ffonio o dramor

Gwneud eich taliad

Ar ôl i chi wneud cais, byddwn yn anfon ff urfl en atoch drwy’r post yn esbonio sut i dalu. Gallwch dalu drwy:

  • Debyd Uniongyrchol un-tro
  • taliad uniongyrchol
  • eich banc
  • Swyddfa’r Post
  • drwy’r post (gall gymryd yn hirach na’r dulliau eraill)

A dyna’r cyfan

Unwaith y byddwn wedi cael eich taliad, bydd swm uwch eich pensiwn yn daladwy o’r dyddiad hwnnw. Os nad ydych wedi cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn gwneud y taliad, bydd yn rhan o’r taliad pan fydd eich pensiwn yn dechrau.

Mae gennych gyfnod o 90 diwrnod i ailfeddwl. Os byddwch yn newid eich meddwl yn y cyfnod hwn, gallwch gysylltu â ni i ofyn am eich taliad yn ôl.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: gov.uk/statepensiontopup
neu ffoniwch 0300 200 1900