Standards for stalking and domestic abuse perpetrator interventions (Welsh) (accessible)
Updated 7 August 2026
Applies to England and Wales
Safonau ar gyfer Ymyriadau i Gyflawnwyr Stelcio a Cham-drin Domestig
(2il argraffiad)
Egwyddorion a chanllawiau ar gyfer comisiynu a darparu ymyriadau i gyflawnwyr stelcio a cham-drin domestig yng Nghymru a Lloegr
Ebrill 2026
Comisiynwyd yr adroddiad hwn gan y Swyddfa Gartref a chafodd ei ysgrifennu gan: Fiona Vera-Gray, Liz Kelly, a Jo Lovett (Uned Camdriniaeth Plant a Menywod (CWASU) Prifysgol Metropolitan Llundain) a Nicole Westmarland (Canolfan Ymchwil i Drais a Chamdriniaeth (CRiVA) Prifysgol Durham).
Cafodd yr ymchwil ei gefnogi gan: Debs Alderson a Kelly Henderson (Addressing Domestic Abuse), Geetanjali Gangoli (CRiVA Prifysgol Durham) Maria Garner ac Emma Short (CWASU Prifysgol Metropolitan Llundain). Darparwyd cefnogaeth weinyddol gan Aruna Dudhia.
Hoffem ddiolch i bob cyfranogwr yn y setiau dysgu gweithredol, ymatebwyr i’r arolwg, ac aelodau’r paneli dioddefwyr-oroeswyr, am gymryd rhan yn feddylgar yn y broses a rhannu eu harbenigedd.
Cyfeiriad a argymhellir: Vera-Gray, L., Kelly, L., Lovett, J. a Westmarland, N. (2026) Standards for Stalking a Domestic Abuse Perpetrator Interventions (2il argraffiad), Llundain: Y Swyddfa Gartref.
Crynodeb Gweithredol
Comisiynwyd y gwaith hwn gan y Swyddfa Gartref i sefydlu egwyddorion cyffredinol a fframwaith safonau cenedlaethol ar gyfer cyflwyno ymyriadau diogel ac effeithiol i gyflawnwyr stelcio a cham-drin domestig yng Nghymru a Lloegr. Mae’n ymestyn ac yn diweddaru – ac felly’n disodli – y Safonau blaenorol ar gyfer ymyriadau i gyflawnwyr cam-drin domestig (Westmarland a Kelly, 2023) (o hyn ymlaen: yr argraffiad cyntaf) a chafodd ei ddatblygu drwy ymgynghoriad estynedig â’r ddau sector.
Y Cwmpas
Mae’r safonau hyn yn cwmpasu ymyriadau ar gyfer pob math o gyflawnwr stelcio ac ar gyfer cyflawnwyr cam-drin domestig, yn cynnwys y rhai nad yw eu hymddygiad yn cynnwys stelcio. Maen nhw’n berthnasol i sefydliadau sy’n cael eu hariannu i ddarparu ymyriadau arbenigol i gyflawnwyr sydd â’r nod o leihau niwed a chynyddu diogelwch a rhyddid dioddefwyr-oroeswyr. Mae’n cynnwys y mathau canlynol o ymyriadau:
- Ceisio cymorth – Mae hyn yn ymwneud â llwybrau a sefydlwyd i bobl siarad am eu hymddygiad yn gynnar. Fel arfer, mae hwn yn ymateb byr sy’n gweithredu fel llwybr i mewn i ymyriadau eraill
- Ymatebion cynnar, tymor byrrach – Mae hyn yn cwmpasu gwaith sy’n fyr, sydd â ffocws ac sy’n gyfyngedig o ran amser, wedi’i gynllunio i gynyddu ymwybyddiaeth a lleihau dyfalbarhad. Gall yr ymyriadau hyn gynnwys elfennau o newid ymddygiad a/neu fod yn rhan o ddulliau dargyfeiriol neu reoli achosion dwys. Gellir eu darparu mewn lleoliad un-i-un neu waith grŵp a gallant gynnwys amrywiaeth o ddulliau.
- Newid ymddygiad tymor hwy – Mae ymyriadau tymor hwy yn cynnig y posibilrwydd o ymwreiddio newidiadau mewn ymddygiad. Gall yr ymyriadau hyn fod yn seiliedig ar grwpiau neu’n waith un-i-un. Er bod modd eu cyflwyno ar-lein, dylid eu cyflwyno’n fyw bob amser yn hytrach na thrwy becyn e-ddysgu digidol. Weithiau mae’r ymyriadau hyn yn cael eu cyfuno ag asesiad risg ac anghenion, a/neu reoli achosion. Gallant fod yn rhan o brosesau amlasiantaeth
- Rheoli achosion amlasiantaeth dwys – Y nodwedd allweddol yn y fan yma yw ymateb cydlynol i unigolyn penodol. Mae’r ymyriadau hyn wedi dod i’r amlwg i weithio gydag achosion ‘niwed uchel, risg uchel’ a welwyd yn seiliedig hirbarhad a/neu ddioddefwyr lluosog, ond gallant hefyd gwmpasu lefelau niwed a risg eraill. Gallant hefyd gynnwys gwaith un-i-un i newid ymddygiad.
Dulliau
Fel ail argraffiad, roedd y fersiwn hon yn adeiladu ar y gwaith a gwblhawyd ar gyfer yr argraffiad cyntaf (Westmarland a Kelly, 2023) trwy fethodoleg dulliau cymysg dilyniannol a oedd yn cynnwys:
- Adolygiad cwmpasu cyflym o lenyddiaeth lwyd ac academaidd ar ymyriadau cyflawnwyr stelcio a thystiolaeth ôl-2021 am ymyriadau cam-drin domestig.
- Gwaith mapio gwasanaethau a oedd â’r nod o gael golwg eang ar y ddarpariaeth bresennol o ymyriadau cyflawnwyr stelcio a cham-drin domestig.
- Arolwg o 54 o gomisiynwyr a sefydliadau trydydd sector, gyda’r nod o adolygu argraffiad cyntaf y Safonau ac archwilio pa mor gymwys oedden nhw i stelcio.
- Naw sesiwn ar gyfer setiau dysgu gweithredol a fynychwyd gan 34 o arbenigwyr o bob rhan o’r meysydd stelcio a cham-drin domestig. Archwiliodd y setiau dysgu gweithredol sut i greu safonau a chanllawiau a allai fod yn gymwys i stelcio a cham-drin domestig.
- Dau banel goroeswyr gyda saith cyfranogwr lle cyflwynwyd y Safonau drafft i’w trafod ac i roi sylwadau arnynt.
Mae manylion llawn am y dulliau yn yr atodiad technegol.
Y Safonau
Drwy’r broses hon, mae’r saith safon gyffredinol ganlynol wedi’u datblygu ar gyfer ymyriadau gyda chyflawnwyr stelcio a cham-drin domestig. Mae’r dystiolaeth sy’n sail i bob un a’u canllawiau cysylltiedig wedi’i dogfennu yn yr adroddiad llawn.
-
Y canlyniad y dylid rhoi blaenoriaeth iddo mewn ymyriadau i gyflawnwyr yw cynyddu diogelwch a rhyddid (lle i weithredu)[footnote 1] pob dioddefwr-oroeswr, yn cynnwys plant.
-
Dylai ymyriadau ddigwydd o fewn ymateb amlasiantaeth ehangach lle mae pob asiantaeth yn rhannu’r cyfrifoldeb am adnabod ymddygiad stelcio a cham-drin domestig, gan olygu bod cyflawnwyr yn gallu newid a bod y dioddefwr-oroeswr yn fwy diogel a bod ganddynt ryddid (lle i weithredu).
-
Dylai ymyriadau ganolbwyntio ar y cyflawnwr i’w galluogi nhw i gymryd y cyfrifoldeb am y niwed y maent wedi’i achosi, gan hefyd eu trin â pharch, a chynnig cyfleoedd iddynt ddewis newid.
-
Dylid cynnig yr ymyriad cywir i’r bobl gywir ar yr amser cywir.
-
Dylai’r ymyriadau gael eu cyflwyno’n deg mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig sy’n croestorri ac yn gorgyffwrdd.
-
Dylai ymyriadau sy’n canolbwyntio ar gyd-destun neu fath penodol o gyflawniad gael eu cyflwyno gan staff sydd â’r medrau cywir ac sydd wedi’u cefnogi i ymateb i’r math neu’r cyd-destun penodol hwnnw.
-
Dylid monitro a gwerthuso ymyriadau i wella arferion ac ehangu’r sylfaen wybodaeth.
Dylid darllen a gweithredu pob un o’r saith safon o fewn y dull cyffredinol a gafodd ei sefydlu gan Operation Soteria (Y Swyddfa Gartref, 2022a), oedd yn nodi tair egwyddor ar gyfer plismona troseddau trais yn erbyn menywod a merched: canolbwyntio ar y dioddefwr, ffocws ar y sawl sydd o dan amheuaeth, a chael eu harwain gan y cyd-destun. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu:
- rhoi anghenion, hawliau a diogelwch dioddefwyr yn flaenllaw drwyddi draw;
- cadw’r prif ffocws ar ymddygiad y sawl sydd dan amheuaeth (neu, y tu allan i gyd-destun plismona, y cyflawnwr), yn hytrach na hygrededd, gweithredoedd neu benderfyniadau dioddefwyr; a
- seilio ymatebion — gan gynnwys ymchwiliadau — mewn dealltwriaeth o’r cyd-destun y digwyddodd y drosedd/troseddau ynddo.
Mae’r tair egwyddor hyn wedi’u hymgorffori drwy’r safonau hyn i gyd ac yn darparu’r cyfrwng ehangach y dylid comisiynu a chyflwyno ymyriadau i gyflawnwyr drwyddo.
Cyflwyniad
Cafodd y darn hwn o waith ei gomisiynu gan y Swyddfa Gartref i ddatblygu cyfres o egwyddorion cyffredinol a fframwaith safonau cenedlaethol ar gyfer darparu ymyriadau diogel ac effeithiol i gyflawnwyr camdriniaeth ddomestig a chyflawnwyr stelcio yng Nghymru a Lloegr. Mae’n ymestyn, yn diweddaru, ac felly’n disodli’r Safonau blaenorol ar gyfer ymyriadau i gyflawnwyr cam-drin domestig (Westmarland a Kelly, 2023) – y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel argraffiad cyntaf y Safonau – a chafodd ei ddatblygu drwy ymgynghori helaeth â’r sectorau stelcio a cham-drin domestig.
Mae’r penderfyniad i gynhyrchu un fframwaith safonau sy’n cwmpasu stelcio a cham-drin domestig yn benderfyniad angenrheidiol i raddau mawr, o ystyried y gorgyffwrdd sylweddol rhwng y ddau, sy’n golygu y byddai ymyriadau sy’n gweithio gydag unigolion sy’n defnyddio stelcio yng nghyd-destun cam-drin domestig yn dod o dan ddau fframwaith gwahanol. Yn ogystal, er bod stelcio yn drosedd annibynnol, mae’r diffiniad o gam-drin domestig yn bolisi sy’n cwmpasu nifer eang o droseddau, yn cynnwys stelcio o fewn cyd-destun cam-drin domestig (Westmarland, 2025). Mae hefyd yn benderfyniad strategol i gynyddu cysondeb ar draws y comisiynu ymyriadau i gyflawnwyr.
Cymhwysiad a chwmpas
Mae’r safonau hyn yn cwmpasu ymyriadau sy’n gweithio gyda phob math o gyflawnwyr stelcio, ac ymyriadau sy’n gweithio gyda chyflawnwyr cam-drin domestig gan gynnwys y rhai nad ydynt yn defnyddio stelcio. Maen nhw’n berthnasol i waith/sefydliadau a ariennir i ddarparu ymyriadau arbenigol gyda chyflawnwyr i leihau niwed a chynyddu diogelwch a rhyddid dioddefwyr-oroeswyr.[footnote 2]
Mae llawer o asiantaethau’n gwneud ymyriadau â chyflawnwyr yn eu gwaith bob dydd, yn enwedig y rhai yn y systemau cyfiawnder troseddol ac iechyd (er enghraifft, drwy arestio neu ddal yn feddygol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl). Nid yw’r Safonau’n cwmpasu asiantaethau o’r fath, fodd bynnag, gan eu bod yn berthnasol i ymyriadau arbenigol, pwrpasol yn unig yn hytrach nag arfer o ddydd i ddydd. Nid yw’r cwmpas yn cynnwys y rhan fwyaf o’r ymyriadau a ddarperir gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF (HMPPS) a’i safleoedd dan gontract, ac eithrio lle mae’r rhain yn ymyriad pwrpasol arbenigol ar gyfer cam-drin domestig neu stelcio. Mae’n ofynnol i bob ymyriad a ddarperir ar draws HMPPS a’i safleoedd dan gontract gyd-fynd â’r egwyddorion ymyriadau effeithiol sydd wedi’u hamlinellu yn fframwaith polisi’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Ymyriadau.
Mae’r cwestiwn o beth sy’n gweithio mewn perthynas ag ymyriadau ar gyfer cyflawnwyr stelcio a cham-drin domestig yn faes sy’n datblygu mewn ymchwil ac mewn ymarfer. Mae ymyriadau a gwerthusiadau’n ehangu’n gyflym ac mae ymchwil yn yr Unol Daleithiau (UDA) yn tynnu sylw at yr angen am i safonau gael eu diweddaru’n rheolaidd neu gallent fod mewn perygl o beidio adlewyrchu ymchwil nag ymarfer (Franchino-Olsen a Chesworth, 2024). Dechreuodd ymyriadau ar gyfer cyflawnwyr cam-drin domestig yn bennaf fel gwaith grŵp newid ymddygiad gyda’r rhai oedd wedi cyflawni’r drosedd ar eu partneriaid agos (a elwir yn rhaglenni cyflawnwyr trais domestig (DVPP) neu raglenni cyflawnwyr cam-drin domestig (DAPP)). Mae ymyriadau gan gyflawnwyr stelcio’n llawer mwy newydd fel maes, gan ddod i’r amlwg yn bennaf o bartneriaethau amlasiantaeth dan arweiniad yr heddlu, ac yn fwy diweddar dan arweiniad iechyd. Er bod angen i’r safonau hyn fod yn berthnasol i’r ddau fath o ymyriad, roedd angen iddynt hefyd barhau’n eang er mwyn cwmpasu gweithgareddau sy’n dod i’r amlwg a chaniatáu lle i arloesi.
Gyda’r materion hyn mewn golwg, mae’r term ymyriad yn y fan yma’n cyfeirio at weithgaredd strwythuredig, pwrpasol a gynlluniwyd i fynd i’r afael ag ymddygiad cyflawnwyr a lleihau’r risg o niwed i ddioddefwyr-oroeswyr. Mae ymyriadau o’r fath yn amrywio o ymatebion byr, un cyswllt i brosesau hirdymor, amlasiantaethol, ond maent yn rhannu’r nod cyffredin o atal cam-drin pellach. Roedd argraffiad cyntaf y Safonau’n cynnwys gwaith i ddatblygu teipoleg o bedwar ymyriad cyflawnwyr gwahanol. Dechreuodd y rhifyn hwn gyda’r deipoleg honno, gan ddiwygio’r geiriad drwy’r cyfresi dysgu gweithredu gydag ymarferwyr i sicrhau bod y disgrifiad o’r ymyriad yn disgrifio’r ymyriadau stelcio a cham-drin domestig yn gywir. Felly mae’r mathau canlynol o ymyriad cyflawnwyr wedi’u cynnwys yn y Safonau hyn:
- Ceisio cymorth – Mae hyn yn cwmpasu llwybrau a sefydlwyd i bobl siarad am eu hymddygiad yn gynnar. Fel arfer, ymateb byr yw hwn sy’n gweithredu fel llwybr i ymyriadau eraill. Er enghraifft, llinell gymorth bwrpasol.
- Ymatebion cynnar tymor byrrach – Mae hyn yn cwmpasu gwaith sy’n fyr, sy’n ffocysu ac sy’n gyfyngedig o ran amser, wedi’i gynllunio i gynyddu ymwybyddiaeth a lleihau dyfalbarhad. Gall yr ymyriadau hyn gynnwys elfennau o newid ymddygiad a/neu fod yn rhan o reoli achosion dwys neu ddulliau dargyfeiriol. Gellir eu cyflwyno mewn lleoliad un-i-un neu waith grŵp a gallant gynnwys amrywiaeth o ddulliau. Er enghraifft, cynlluniau dargyfeirio arestio arbenigol.
-
Newid ymddygiad tymor hwy – Mae ymyriadau tymor hwy yn cynnig y posibilrwydd o ymgorffori newidiadau mewn ymddygiad. Gall yr ymyriadau hyn fod yn seiliedig ar grwpiau neu un-i-un. Gellir eu cyflwyno ar-lein, ond dylid eu cyflwyno’n fyw bob amser yn hytrach na thrwy becyn e-ddysgu digidol. Weithiau mae’r ymyriadau hyn yn cael eu cyfuno ag asesiad risg ac anghenion, a/neu reoli achosion. Gallant fod yn rhan o brosesau amlasiantaeth. Er enghraifft, rhaglenni gwaith grŵp cyflawnwyr, newid ymddygiad un-i-un
- Rheoli achosion amlasiantaethol dwys -– Y nodwedd allweddol yn y fan yma yw ymateb cydlynol i unigolyn penodol. Mae’r ymyriadau hyn wedi dod i’r amlwg ar gyfer weithio gydag achosion ‘niwed uchel, risg uchel’ a nodwyd yn seiliedig ar ddyfalbarhad a/neu ddioddefwyr lluosog, ond gallant hefyd gwmpasu lefelau niwed a risg eraill. Gallant hefyd gynnwys gwaith newid ymddygiad un-i-un. Er enghraifft, partneriaethau amlasiantaethol pwrpasol.
Yn bwysig, nid yw’r ymyriadau hyn o reidrwydd yn eithrio ei gilydd; gallent ddigwydd mewn dilyniant neu ochr yn ochr, fel gwaith newid ymddygiad tymor hwy o fewn lleoliad rheoli achosion amlasiantaeth dwys.
Dulliau
Cynlluniwyd dull methodolegol y prosiect hwn drwy lens ymgysylltu. Fel ail argraffiad, adeiladodd y fersiwn hon ar y gwaith a gwblhawyd ar gyfer yr argraffiad cyntaf (Westmarland a Kelly, 2023), a oedd yn cynnwys asesiad tystiolaeth cyflym, adolygiad o 24 set o safonau rhyngwladol yn cwmpasu Cymru, y DU, Awstralia, llawer o daleithiau’r Unol Daleithiau, Canada, a rhai gwledydd Ewropeaidd, ac ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid (cyfanswm o 297 o ymarferwyr a llunwyr polisi, yn ogystal ag 8 o ddioddefwyr-oroeswyr a 7 o gyflawnwyr a oedd wedi cael mynediad at ymyriadau).
I ategu hyn, cwblhawyd adolygiad cwmpasu cyflym gennym o lenyddiaeth lwyd ac academaidd ar ymyriadau cyflawnwyr stelcio ochr yn ochr â thystiolaeth ar ôl 2021 ar ymyriadau cam-drin domestig. Yna cynhaliwyd gwaith mapio gwasanaeth gennym a oedd â’r nod o gael golwg eang ar y ddarpariaeth bresennol o ymyriadau ar gyfer cyflawnwyr stelcio a cham-drin domestig. Roedd y mapio’n cynnwys trafodaethau gyda’r holl ymyriadau i gyflawnwyr stelcio a ariennir trwy Gronfa Ymyriadau Cyflawnwyr Cam-drin Domestig a Stelcio’r Swyddfa Gartref. Roedd y dulliau hyn wedi ein galluogi ni i ddeall y sylfaen dystiolaeth gyhoeddedig gyfredol ar ymyriadau cyflawnwyr arbenigol.
Cyfunwyd dadansoddiad o’r sylfaen dystiolaeth hon gennym gydag arolwg o 54 o gomisiynwyr a sefydliadau trydydd sector. Ceisiodd yr arolwg adolygu cyfrol gyntaf y Safonau ac archwilio pa mor gymwys ydyn nhw i stelcio. Ar yr un pryd, arweiniwyd naw sesiwn set ddysgu weithredol gennym a fynychwyd gan 34 o arbenigwyr o bob rhan o’r meysydd stelcio a cham-drin domestig. Archwiliodd y setiau dysgu gweithredol yn fanwl sut i greu safonau a chanllawiau a allai fod yn gymwys i stelcio a cham-drin domestig. Yna rhannwyd fersiwn o’r Safonau a ddrafftiwyd trwy’r broses hon gyda dau banel o oroeswyr â saith cyfranogwr i’w trafod ac i wneud sylwadau. Lle’r ydym yn dyfynnu darnau o’r ffynonellau data hyn, rydym yn cyfeirio at sector y cyfranogwr a’r dull a ddefnyddiwyd i gasglu’r dyfyniad.
Gyda’i gilydd, mae’r dulliau hyn yn ffurfio’r sail dystiolaeth sy’n sail i’r safonau hyn. Mae’r atodiad technegol yn Atodiad 2 yn rhoi mwy o fanylion am y dull methodolegol, yn ogystal â diffiniadau a chyd-destun y gwaith.
Y Safonau
Isod mae’r saith safon ar gyfer ymyriadau gyda chyflawnwyr stelcio a cham-drin domestig (gweler Blwch 1). Yn ei thro, cyflwynir y dystiolaeth sy’n sail iddynt ochr yn ochr â’r canllawiau polisi ac ymarfer a ddylai lywio penderfyniadau ar gomisiynu. Darperir rhestr wirio sy’n crynhoi’r Safonau yn Atodiad 1.
Blwch 1: Y saith safon ar gyfer ymyriadau yn erbyn cyflawnwyr stelcio a cham-drin domestig
-
Y canlyniad ddylai gael blaenoriaeth mewn ymyriadau i gyflawnwyr yw cynyddu diogelwch a rhyddid (lle i weithredu)[footnote 3] yr holl ddioddefwyr-oroeswyr, gan gynnwys plant.
-
Dylid lleoli ymyriadau o fewn ymateb amlasiantaeth ehangach lle mae pob asiantaeth yn rhannu’r cyfrifoldeb am adnabod ymddygiad stelcio a cham-drin domestig, gan alluogi cyflawnwyr i newid a gwella diogelwch a rhyddid (lle i weithredu) dioddefwyr-oroeswyr.
-
Dylai ymyriadau ganolbwyntio ar y cyflawnwr i’w galluogi i gymryd atebolrwydd am y niwed y maent wedi’i achosi, gan eu trin â pharch, a chynnig cyfleoedd iddynt ddewis newid.
-
Dylid cynnig yr ymyriad cywir i’r bobl gywir ar yr amser cywir.
-
Dylid cyflwyno ymyriadau’n deg o ran nodweddion gwarchodedig sy’n croestorri ac yn gorgyffwrdd.
-
Dylai ymyriadau sy’n canolbwyntio ar ffurf neu gyd-destun penodol o gyflawni gael eu cyflwyno gan staff sydd â sgiliau a chefnogaeth i ymateb i’r ffurf neu’r cyd-destun penodol hwnnw.
-
Dylid monitro a gwerthuso ymyriadau i wella arferion ac ehangu’r sylfaen wybodaeth.
Dylid darllen a gweithredu pob un o’r saith safon o fewn y dull cyffredinol a ddatblygwyd gan Operation Soteria (Y Swyddfa Gartref, 2022a).
Sefydlodd Soteria bwysigrwydd mabwysiadu egwyddorion sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr, sy’n canolbwyntio ar y rhai a ddrwgdybir ac sy’n cael eu harwain gan y cyd-destun ar gyfer troseddau trais yn erbyn menywod a merched (VAWG). Mae hyn yn golygu: rhoi anghenion, hawliau a diogelwch dioddefwyr yn flaenllaw drwyddi draw; sicrhau bod y prif ffocws ar ymddygiad y sawl a ddrwgdybir (y cyflawnwr sydd y tu allan i gyd-destun plismona) yn hytrach na hygrededd, gweithredoedd neu benderfyniadau dioddefwyr; ac adeiladu ymatebion (yn cynnwys ymchwiliadau) sy’n dechrau o ddealltwriaeth o’r cyd-destun y digwyddodd y drosedd(au) ynddo.
Mae’r tair egwyddor hyn wedi’u hymgorffori yn y safonau hyn ar gyfer ymyriadau cyflawnwyr ac yn darparu lens ehangach y dylid comisiynu a chyflwyno ymyriadau drwyddi. Er enghraifft, mae Safon 1 yn canolbwyntio diogelwch a rhyddid dioddefwyr-oroeswyr fel yr amcan sy’n cael blaenoriaeth mewn ymyriadau ar gyfer cyflawnwyr; mae Safon 2 yn sefydlu’r cyd-destun amlasiantaeth ehangach a ddylai arwain ymyriadau; mae Safon 3 yn sefydlu’r angen i ymyriadau ganolbwyntio ar ymddygiad a chyfrifoldeb cyflawnwyr; ac mae Safonau 4, 5 a 6 yn tanlinellu pwysigrwydd gweithio mewn ffyrdd sy’n cydnabod ac yn mynd i’r afael â chyd-destunau penodol a allai fod yn gysylltiedig â chyflawnwyr, dioddefwyr-oroeswyr a/neu ymddygiadau.
Safon 1: Y canlyniad ddylai gael blaenoriaeth mewn ymyriadau i gyflawnwyr yw cynyddu diogelwch a rhyddid (lle i weithredu) yr holl ddioddefwyr-oroeswyr, gan gynnwys plant
Tabl 1: Safon 1
Y canlyniad ddylai gael blaenoriaeth mewn ymyriadau i gyflawnwyr yw cynyddu diogelwch a rhyddid (lle i weithredu) yr holl ddioddefwyr-oroeswyr, gan gynnwys plant
Mae’r safon hon yn cynrychioli’r lens trosfwaol y mae angen deall y safonau eraill drwyddi.
1.1 Dylid rhoi blaenoriaeth glir i ddiogelwch a rhyddid i bob dioddefwr-oroeswr (gan gynnwys plant) yn rhesymeg, strwythur, gweithdrefnau a chanlyniadau bwriadedig yr ymyriad. Fan leiaf, dylai ymyriadau geisio peidio â gwneud mwy o niwed i ddioddefwyr-oroeswyr. Mae gan ddioddefwyr-oroeswyr hawl i wybod a oes bygythiad penodol i’w diogelwch
1.2 Ni ddylai ymyriadau ddigwydd heb gynnig cefnogaeth ragweithiol, arbenigol i ddioddefwyr-oroeswyr. Dylai’r gefnogaeth hon gael ei harwain gan ddioddefwyr-oroeswyr o ran amlder a dull y gefnogaeth. Lle bo modd, mae partneriaethau â sefydliadau ‘gan ac ar gyfer’ yn arfer da. Ni ddylai’r un aelod o staff byth weithio gyda’r dioddefwr a’r troseddwr.
1.3 Lle darperir gwaith uniongyrchol gyda chyflawnwyr (yn hytrach na rheoli achosion), dylid darparu gwybodaeth glir sy’n disgrifio’r ymyriad a’r canlyniadau disgwyliedig i’r cyflawnwyr a’r dioddefwyr-oroeswyr mewn amrywiaeth o fformatau ac mewn ieithoedd sy’n adlewyrchu’r poblogaethau y byddant yn eu gwasanaethu. Mae’n hanfodol peidio â gor-hawlio manteision posibl yr ymyriad ac amlinellu unrhyw risgiau posibl
1.4 Dylai fod llinellau cyfathrebu clir a rheolaidd rhwng timau’r ymyriadau i gyflawnwyr a thimau cymorth dioddefwyr-oroeswyr i rannu gwybodaeth a phryderon. Bydd hyn yn caniatáu rhannu newidiadau mewn risg yn gyflym, yn cynnwys bygythiadau i ddiogelwch, a chymryd camau priodol, gan sicrhau bod dioddefwyr-oroeswyr yn derbyn gwybodaeth amserol. Dylai pwrpas rhannu gwybodaeth fod yn glir ac yn gymesur.
Mae’r safon gyntaf hon yn cyd-fynd â normau byd-eang sefydledig ynghylch diogelwch a chefnogaeth i ddioddefwyr-oroeswyr fel colofn graidd o waith ymyrryd ar gyfer cyflawnwyr (gwelwch, er enghraifft, Stewart et al., 2013; Morrison et al., 2019a). Mae argraffiad cyntaf y Safonau (Westmarland a Kelly, 2023) a safonau diweddar ar gyfer ymyriadau i gyflawnwyr o fewn ymateb amlasiantaeth i stelcio hefyd yn dilyn y ffocws hwn (Partneriaeth Stelcio Amlasiantaeth Hampshire ac Ynys Wyth, 2026).
Cafodd diogelwch a rhyddid dioddefwyr-oroeswyr fel y safon gyntaf, gyffredinol gefnogaeth eang gan ymarferwyr stelcio a cham-drin domestig yn y setiau dysgu gweithredol, lle gwelwyd hefyd ei fod yn gefnogol i’r dull plismona ehangach a anogir ar gyfer troseddau trais yn erbyn menywod a merched gan Operation Soteria.
Mae hynny’n cyd-fynd yn eithaf braf o fewn y maes stelcio oherwydd gwyddom fod ymddygiad stelcio yn ymwthiol i’r dioddefwr ac mae’n eu hatal rhag byw eu bywyd yn y ffordd y maent am ei fyw. Ac nid yw hynny’n cyd-fynd â’r rhyddid hwnnw. Y gofod hwnnw ar gyfer gweithredu (Sector stelcio, Set ddysgu weithredol).
O safbwynt yr heddlu, o ran ymchwiliadau, dyna rydyn ni’n ei weld o hyd – y dioddefwr yn ganolbwynt, ffocws ar yr un a ddrwgdybir ac yn cael ei arwain gan y cyd-destun. Felly, mae safon un yn adlewyrchu hynny, tydi? Mae’n cymryd yr egwyddorion ymchwilio, ac mae’n eu hatgyfnerthu (Heddlu, set ddysgu weithredol).
Dangosodd yr arolwg a gwblhawyd ar gyfer y gwaith hwn gefnogaeth eang i hyn hefyd, gyda 30 o’r 33 o gyfranogwyr a ymatebodd i’r cwestiynau ar gymhwysedd safonau presennol (gwelwch yr Atodiad Technegol i gael mwy o fanylion) yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod y safon hon yn berthnasol ar draws y sectorau stelcio a cham-drin domestig.
Fodd bynnag, gwahaniaeth allweddol rhwng y sectorau yw’r defnydd o’r cysyniad o ‘le i weithredu’. Er bod y cysyniad hwn yn adnabyddus o fewn sefydliadau cam-drin domestig[footnote 4] ac wedi’i gynnwys yn argraffiad cyntaf y Safonau (Westmarland a Kelly, 2023), caiff ei ddefnyddio llai yn y sector stelcio penodol. Mae’r cysyniad hwn yn adeiladu ar syniad Eva Lundgren (1998) o ‘le-bywyd’, a ddefnyddiodd i gofnodi sut mae cymhellion dynion sy’n dreisgar tuag at eu partneriaid, yn rhannol, yn seiliedig ar awydd i osod terfynau ar allu menywod i arfer eu rhyddid. ‘Lle i weithredu’ oedd y term a fathwyd gan Jeffner (2000) yn ei harchwiliad o ddealltwriaeth pobl ifanc o dreisio ac yna a ddatblygwyd gan Kelly (2003) mewn perthynas â masnachu pobl ar gyfer camfanteisio rhywiol, ac yn ddiweddarach ar gyfer cam-drin domestig (Kelly, Sharp-Jeffs, a Klein, 2014). Fe’i defnyddir yma i gyfeirio at y cyd-destunau cymdeithasol a strwythurol sy’n lleoli gweithredoedd dynol, sut mae’r rhain yn cael eu culhau gan gyflawnwyr, a sut mae angen i ymyriadau ganolbwyntio ar eu hehangu ar gyfer dioddefwyr-oroeswyr.
Fel y cydnabyddir yn y safon hon, mae cefnogaeth i ddioddefwyr-oroeswyr yn rhan greiddiol o ehangu eu lle i weithredu. Mae angen i’r gefnogaeth hon fynd y tu hwnt i wneud dioddefwyr yn ‘ymwybodol’ o sefydliad cymorth lleol neu wneud atgyfeiriad (Phillips, 2015). Mae creu diogelwch i bob dioddefwr-oroeswr yn gofyn am gymryd camau gweithredol. Wedi dweud hynny, dylai’r gefnogaeth hefyd gael ei harwain gan y goroeswr, sy’n golygu hyn: er y dylid gwneud y cynnig, ni ddylid cymryd yn ganiataol y bydd y dioddefwr-oroeswr yn ei dderbyn neu y bydd eisiau ei dderbyn mewn ffordd benodol. Daeth hyn i’r amlwg yn y setiau dysgu gweithredu fel rhywbeth arbennig o bwysig er mwyn peidio ag efelychu deinameg camdriniol.
Os oes dioddefwr hysbys, dylid rhoi dewis i’r dioddefwr gael y gefnogaeth honno, ond ni ddylem orfodi’r gefnogaeth honno ar y dioddefwr. Felly, un peth bach a gredaf am iaith yw hyn: os ydym yn adnabod dioddefwr, dylai fod ganddynt yr opsiwn hwnnw’n bendant. Ond ni ddylem fod yn gwneud y penderfyniadau hynny drostynt oherwydd, wedyn, rydym yn eu trin nhw mewn ffordd y byddai cyflawnwr yn eu trin o bosib (Sector stelcio, Set ddysgu weithredol).
Dylai ymyriadau i gyflawnwyr hefyd gynnwys prosesau clir ar gyfer rhoi gwybodaeth i ddioddefwyr-oroeswyr. Trafodwyd hyn yn y setiau dysgu gweithredol a’i bwysleisio drwy’r paneli goroeswyr.
Byddwn eisiau gweld yn y gofod hwnnw, beth bynnag a oedd yn cael ei gynnig i’r cyflawnwr, fod y goroeswr hefyd yn cael cynnig cymorth, ond gwybodaeth hefyd fel y gallent ddeall beth yr oedd eu cyflawnwr, eu stelciwr, yn ei gael o ran triniaeth. Sut olwg sydd ar hynny? Pa effaith y gallai hynny ei chael arnynt? (Sector cam-drin domestig, set ddysgu weithredol)
Cefais alwad ffôn am yr hyn yr oedd y rhaglen yn ei gynnwys, ond nid oedd unrhyw ddolen adborth. Eu rhesymeg oedd bod yn rhaid iddynt roi gwybod i mi oherwydd byddwn mewn mwy o berygl pan oedd ef ar y rhaglen, ac fe sbardunodd hynny lawer o bethau i mi. Roedd yn teimlo fel petasen nhw’n ticio blwch yn unig – a’r prif beth a gefais o’r alwad oedd bod ‘fy risg wedi cynyddu’ (Dioddefwr-oroeswr, Panel Goroeswyr).
Yn bwysig, siaradodd dioddefwyr-oroeswyr ynglŷn â bod eisiau gwybodaeth wirioneddol am brosesau, nid dim ond amlinelliad o’r hyn y byddai’r ymyriad yn ei olygu:
Beth fydd yn digwydd os na fydd ef yn mynychu? Sut ymateb fydd iddo os bydd yn ceisio cyfiawnhau ei weithredoedd? Sut fydd yn cael ei fonitro a’i asesu? (Dioddefwr-oroeswr, Panel goroeswyr).
Mae cydnabyddiaeth yn y llenyddiaeth am ymyriadau cyflawnwyr cam-drin domestig y gall fod yn anodd cefnogi dioddefwyr i ddeall cyfyngiadau’r hyn y gall gwaith gyda chyflawnwyr ei gyflawni (Morrison et al., 2019a). Dyma pam mae’r Safonau’n cynnwys gofyniad i beidio â gorbwysleisio’r manteision posibl ac i fod yn glir ynghylch unrhyw risgiau (gan fynd y tu hwnt i ddatganiad o risg yn unig), ochr yn ochr â darparu mesurau diogelwch eraill, fel cael gweithwyr ar wahân yn cefnogi’r dioddefwr-oroeswr i’r rhai sy’n cyflwyno’r ymyriad i’r cyflawnwr.
Safon 2: Dylid lleoli ymyriadau o fewn ymateb amlasiantaeth ehangach lle mae pob asiantaeth yn rhannu’r cyfrifoldeb am adnabod ymddygiad stelcio a cham-drin domestig, gan alluogi cyflawnwyr i newid a gwella diogelwch a rhyddid (lle i weithredu) dioddefwyr-oroeswyr
Tabl 2: Safon 2
Dylid lleoli ymyriadau o fewn ymateb amlasiantaeth ehangach lle mae pob asiantaeth yn rhannu’r cyfrifoldeb am adnabod ymddygiad stelcio a cham-drin domestig, gan alluogi cyflawnwyr i newid a gwella diogelwch a rhyddid (lle i weithredu) dioddefwyr-oroeswyr
2.1 Dylai ymyriadau fod wedi meithrin partneriaethau lleol cryf a gallu eu dangos.
2.2 Er mwyn cyflawni ymyriadau yn ddiogel ac yn effeithiol, dylai pob sefydliad mewn lleoliad amlasiantaeth sy’n darparu gwaith arbenigol ar stelcio a cham-drin domestig gael eu llywio gan dystiolaeth gyfredol a bod â hanes o ymatebion yn y meysydd hyn. (Mae arbenigedd staff ar gyfer ymyriadau i gyflawnwyr wedi’i drafod yn safon 6).
2.3 Ar gyfer staff ymyriadau i gyflawnwyr, disgwylir iddynt rannu gwybodaeth a rhaid i hyn fod yn gyson â fframweithiau rheoleiddio proffesiynol (e.e., codau moeseg proffesiynol y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) a dyletswyddau diogelu statudol.
2.4 O fewn cyd-destun amlasiantaeth, mae’r gwasanaeth cymorth i ddioddefwyr-oroeswyr yn wasanaeth cyfrinachol, ac ni ddylid rhannu gwybodaeth yn rheolaidd oni bai bod pryder diogelu penodol.
2.5 Dylai ymyriadau sicrhau nad yw atgyfeiriad atynt yn cael ei ddefnyddio gan yr asiantaeth sy’n atgyfeirio fel rheswm i gau achosion, gan fod cyfrifoldebau penodol ynghylch dal a monitro risg sy’n parhau gyda’r asiantaethau statudol.
2.6 Lle mae ymyriad yn cael ei chyflawni gan sefydliad anstatudol ar ran sefydliad statudol, dylid ystyried dyletswyddau cyfreithiol perthnasol, gan gynnwys diogelu, rhannu gwybodaeth, cyfraith cydraddoldeb, diogelu data a rhwymedigaethau rheoli risg
2.7 Dylai ymyriadau ddangos eu bod yn glynu wrth arfer da cyfredol drwy geisio achrediad, lle bo ar gael, drwy lwybr priodol. Mae hyn yn cyd-fynd â’r Datganiad Cenedlaethol o Ddisgwyliadau (Y Swyddfa Gartref, 2022b).
Mae bod wedi’u hymwreiddio mewn cymuned leol, a/neu fod wedi meithrin cysylltiadau parhaol yn sylfaen bwysig ar gyfer ymyriadau cyflawnwyr er mwyn iddynt allu adnabod stelcio a cham-drin domestig yn well, yn ogystal â gallu diwallu anghenion amrywiol dioddefwyr-oroeswyr a chyflawnwyr (Cantos ac O’Leary, 2014). Mae Safon 2 yn ymestyn y tu hwnt i ymyriadau sy’n rheoli achosion amlasiantaeth, i ymgorffori gwaith amlasiantaeth yn fwy trylwyr yn rhan graidd o’r cyd-destun y dylid cyflwyno pob ymyriad i gyflawnwyr drwyddo.
Dangosodd ymatebwyr yr arolwg gefnogaeth gref i’r ffordd hon o weithio, gyda 31 allan o 33 o ymatebwyr i’r cwestiwn yn cytuno neu’n cytuno’n gryf bod safon sy’n seiliedig ar ymateb cydlynol yn hanfodol i’r ddau sector. Roedd gwahaniaeth allweddol a ddaeth i’r amlwg yn y setiau dysgu gweithredu’n ymwneud â gwahaniaeth barn a oedd y cydgysylltu hwnnw’n ymwneud â chymunedau neu ag asiantaethau.
Tarddiad llawer o’r ymyriadau i gyflawnwyr cam-drin domestig oedd model Duluth, lle’r oedd gwaith gyda dynion wedi’i nythu o fewn ymateb cymunedol cydlynol (CCR). Dechreuodd y model hwn o’r egwyddor mai cyfrifoldeb pob asiantaeth oedd dwyn cyflawnwyr i gyfrif er mwyn gwella diogelwch a rhyddid menywod a phlant (Pence a Paymar, 1993). Canfu’r sail dystiolaeth a ddatblygwyd o hyn fod gan leoli ymyriadau o fewn fframwaith eiriolaeth yn hytrach na fframwaith cyfiawnder troseddol y potensial i annog dioddefwyr i riportio cam-drin (Harvie a Manzie 2011). Awgrymodd meta-ddadansoddiad diweddarach o ddulliau amlasiantaeth, ar gyfer cam-drin domestig, y gallai’r lleoliad hwn mewn gwasanaethau eiriolaeth hwyluso cychwyn ymyriad yn gynharach (Cleaver et al., 2019).
Yn yr un modd, mae llawer o’r gwaith arbenigol gyda chyflawnwyr stelcio wedi tyfu allan o bartneriaethau amlasiantaeth, a arweinir yn aml trwy fodel ar y cyd rhwng yr heddlu a’r GIG fel yr argymhellwyd mewn peilot cynnar o’r Ganolfan Asesu Bygythiad Sefydlog (James et al., 2010). Er nad yw’r partneriaethau hyn yn gwireddu model CCR yn llawn, gan eu bod wedi’u lleoli mewn asiantaethau cydlynol yn hytrach na chymunedau ehangach, mae’r fenter partneriaeth stelcio amlasiantaeth (MASIP) – sef y cyntaf o’i fath ledled y byd (Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh, 2018) – yn dwyn ynghyd amrywiaeth o bartneriaid i ddarparu dull amlddisgyblaethol y gwelwyd ei fod yn gwella canlyniadau cyfiawnder troseddol, yn cefnogi rheoli risg, ac yn cyfrannu at foddhad dioddefwyr-oroeswyr (Tompson, Belur a Jerath, 2020).
Mae pwysigrwydd cysylltu ymyriadau cyflawnwyr ar draws gwahanol systemau ac asiantaethau a gwasanaethau yn cael ei adleisio mewn gwaith safonau rhyngwladol. Mae canllawiau ar gyfer Safonau gan y Rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Gweithio gyda Throseddwyr (WWP EN), sy’n cwmpasu aelodau mewn 33 o wledydd Ewropeaidd, yn nodi bod yn rhaid i raglenni cyflawnwyr fod yn rhan o system ymyriad gyfannol ac ni ddylid eu rhedeg ar eu pen eu hunain (WWP EN, 2018). Cefnogwyd dull amlasiantaeth hefyd gan ymarferwyr stelcio yn y setiau dysgu gweithredol.
Mae angen y dull amlasiantaethol hwnnw, neu fel arall mae’n anodd iawn i’r wybodaeth honno gael ei rhannu, mae’n mynd ar goll. Ac rwy’n credu bod hynny’n effeithio’n fawr ar reoli risg a’r gefnogaeth i’r dioddefwr hefyd (Sector stelcio, Set ddysgu weithredol).
Mae angen i bob ymyriad gael ei wneud mewn cyd-destun amlasiantaeth am nad yw’n ddiogel gweithio gyda chymaint o risg y tu allan i hynny. I wneud y gwaith anodd hwnnw, mae angen i ni fod yn gynwysedig fel gweithwyr proffesiynol a gallu rhannu’r wybodaeth risg honno… er mwyn diogelu pawb a chlywed llais y dioddefwr hefyd. Mae cael y cyd-destun amlasiantaethol hwnnw i unrhyw waith ymyriad yn bwysig iawn (Sector stelcio, Set ddysgu weithredol).
Mewn lleoliadau amlasiantaethol, rhannu’r cyfrifoldeb am adnabod, asesu risg, a chefnogi - nid rhannu gwybodaeth yn unig - sy’n creu cyd-destun o atebolrwydd ystyrlon rhwng ac ar draws asiantaethau. Mae hyn yn galluogi i’r un negeseuon a disgwyliadau gael eu hatgyfnerthu ar draws y system, gydag asiantaethau statudol yn dal eu rolau a’u pwerau y tu mewn i hynny (Humphreys et al., 2000; Mullender a Burton, 2001; Pattabhiraman, Kyalwazi a Shore, 2021; Rosenbaum a Geffner, 2001).
Mae’r cyfrifoldeb cyffredin hwn am adnabod yn arbennig o bwysig mewn perthynas â stelcio, gyda’r cyd-ymchwiliad i’r gŵyn uwch am stelcio yn canfod bod “cam-adnabod stelcio yn dal i fod yn broblem ar draws plismona, er gwaethaf nifer cynyddol o droseddau stelcio a gofnodwyd gan yr heddlu” (Coleg Plismona, HMICFRS ac IOPC, 2024: 62). Canfu gwerthusiad o Uned Stelcio Integredig Swydd Gaer (Belur, 2024: 6) fod y dull amlasiantaeth wedi helpu’r heddlu i adnabod stelcio yn gywir yn hytrach na throseddau aflonyddu, gan olygu eu bod yn cael gafael ar “y stori gyfan” ac felly’n cefnogi dull sy’n cael ei arwain gan gyd-destun yn well.
Rydym yn cydnabod y gall fod yn llawer anoddach sefydlu’r cydweithio hwn ar draws ystod o asiantaethau statudol a gwirfoddol mewn cyd-destunau gwledig, lle gall materion fel gweithlu bach a dosbarthiad daearyddol mawr gyfyngu ar reoleidd-dra a dyfnder y cyswllt rhyngasiantaethol, fel y nodwyd yn y paneli goroeswyr.
Mae bod yng nghefn gwlad yn ychwanegu haenau o gymhlethdodau ychwanegol (Dioddefwr-oroeswr, Panel goroeswyr).
Wedi dweud hynny, gall yr angen am ymateb amlasiantaethol cydgysylltiedig fod yn uwch mewn cyd-destunau gwledig yn union oherwydd nad oes gan yr un asiantaeth unigol y cyrhaeddiad na’r adnoddau ar eu pennau eu hunain i ymateb yn effeithiol.
Yn olaf, mae’r Safonau’n ategu yn hytrach na disodli llwybrau achredu presennol ar gyfer gwaith cyflawnwyr cam-drin domestig, gan gydnabod nad oes llwybr achredu cyfredol ar gyfer ymyriadau i gyflawnwyr sy’n canolbwyntio ar stelcio. Mae achredu yn sicrhau bod sefydliadau naill ai’n bodloni neu’n gweithio tuag at safonau gofynnol drwy gydol eu gwaith. Dangoswyd bod llwybrau achredu gyda phroses asesu gysylltiedig, fel yr achrediad cam-drin domestig a ddarperir gan Respect, yn cynyddu hyder comisiynu (Westmarland a Zilkova, 2022). O ystyried newydd-deb ymyriadau cyflawnwyr stelcio fel maes yn Lloegr, nid oedd llwybrau achredu ar gyfer ymyriadau penodol i stelcio wedi’u sefydlu eto ar adeg ysgrifennu.
Safon 3: Dylai ymyriadau ganolbwyntio ar y cyflawnwr i’w galluogi i gymryd atebolrwydd am y niwed y maent wedi’i achosi, gan eu trin â pharch, a chynnig cyfleoedd iddynt ddewis newid.
Tabl 3: Safon 3
Dylai ymyriadau ganolbwyntio ar y cyflawnwr i’w galluogi i gymryd atebolrwydd am y niwed y maent wedi’i achosi, gan eu trin â pharch, a chynnig cyfleoedd iddynt ddewis newid.
3.1 Dylai ymyriadau drin cyflawnwyr â pharch gan hefyd eu galluogi i gymryd atebolrwydd am y niwed y maent wedi’i achosi i eraill ac, o bosibl, iddynt eu hunain. Dylai ymyriadau ddarparu cyfleoedd i gyflawnwyr ymddwyn yn wahanol a dewis peidio â cham-drin na stelcio.
3.2 Dylai ymyriadau ganolbwyntio ar gymhellion a phatrymau ymddygiad cyflawnwyr, wedi’u llywio gan dystiolaeth gyfredol. Er y gall ymyriadau gynnwys technegau ‘rheoli dicter’, ni ddylai ffocws cyffredinol y gwaith fod ar hyn.
3.3 Dylai ymyriadau newid ymddygiad tymor hwy (fel y cawsant eu diffinio eisoes) ystyried hyd yr amser sydd ei angen i gyflawni’r canlyniadau a fwriadwyd: 16 sesiwn wythnosol un-i-un (neu gyfwerth) neu 22 sesiwn gwaith grŵp yw’r hyd gofynnol a awgrymir. Fodd bynnag, bydd angen mwy o amser ar rai rhaglenni i gefnogi ac ymwreiddio newid
3.4 Dylai ymyriadau newid ymddygiad a gyflwynir fel gwaith grŵp gael dau hwylusydd, a dylid partneru staff llai profiadol â staff mwy profiadol.
Mae Safon 3 yn adleisio dull ‘canolbwyntio ar y person dan amheuaeth’ Operation Soteria. Mae atebolrwydd cyflawnwyr yn edau bwysig mewn llenyddiaeth ac ymarfer, gyda rhyw agwedd ar atebolrwydd neu gyfrifoldeb wedi’i hymgorffori yn y rhan fwyaf o ymyriadau i gyflawnwyr beth bynnag fo’u dull damcaniaethol (Grealy et al., 2013). Yn unol â’r cyntaf o Egwyddorion Ymyriad Effeithiol (yr arfer cyffredinol sy’n seiliedig ar dystiolaeth wrth reoli cyflawnwyr), mae’n bwysig gwneud y gwaith hwn mewn ffordd sy’n cynnig parch i bob person gan hefyd ddal cyflawnwyr yn gyfrifol am y niwed y maent wedi’i achosi (Morrison et al., 2019a).
Er bod cefnogaeth eang ymhlith ymatebwyr yr arolwg i gymhwysedd safon sy’n seiliedig ar egwyddorion parch ac atebolrwydd i stelcio a cham-drin domestig (gyda 26 allan o 32 o gyfranogwyr yr arolwg oedd yn ymateb i’r cwestiwn hwn yn cytuno neu’n cytuno’n gryf), mynegodd rhai eu bod yn betrus ynghylch iaith dal cyflawnwyr yn gyfrifol. Roedd eraill o’r farn nad oedd yn mynd yn ddigon pell.
Mae geiriad [dal i gyfrif] yn rhoi neges gosbol y gellir ei dehongli mewn ffordd sy’n achosi pob math o bethau di-fudd (Adran y Llywodraeth, Arolwg).
Dydw i ddim yn credu bod ymyriadau’n dal cyflawnwyr i gyfrif. Maent yn wirfoddol ac nid ydynt yn mynd yn ddigon pell (Heddlu, Arolwg).
Felly, roedd yr angen i gael y cydbwysedd hwn yn iawn o ran geiriad yn destun llawer o drafodaeth yn y setiau dysgu gweithredol.
Mae’n bwysig ein bod ni’n cael y rhan hon yn iawn. Dw i’n meddwl ei bod hi’n sicr o ddwyn pobl i gyfrif… ond mae’n ymwneud â sut i weithio mewn ffordd sy’n wybodus am drawma gyda lefelau anhygoel o uchel o gywilydd a gewch chi yn y garfan hon: gofyn y cwestiwn ‘beth ddigwyddodd i chi’ a dal i ddwyn pobl i gyfrif ynghylch yr angen i fod yn gyfrifol am eu hymddygiad eu hunain a’i effaith. (Sector stelcio, Set ddysgu weithredol)
Mae’r dull hwn sy’n seiliedig ar gryfderau ac sy’n wybodus am drawma wedi’i ymwreiddio i raddau helaeth yng ngwaith yr ymyriadau i gyflawnwyr stelcio yng Nghymru a Lloegr (gwelwch Makinde et al., 2025; Spenser et al., 2025), yn ogystal ag yn sylfaen dystiolaeth yr Unol Daleithiau ar ymyriadau i gyflawnwyr trais gan bartner agos (e.e. Bolton et al, 2022; Taft et al., 2024).
Mae gweithio gyda’r sylfaen dystiolaeth gyfredol sydd gennym ni wrth iddi ddatblygu ac sy’n newid dros amser yn awgrymu newid i ffwrdd o ddull ymyriad sy’n seiliedig ar gywilydd i feddwl yn galed am ei seilio ar gryfderau. Mae’n ymwneud â bod yn wybodus am drawma yn ein hymarfer o ystyried sut rydyn ni’n gwybod y gall hynny fod yn sail wirioneddol i lawer o’r ymddygiadau niweidiol sy’n dod i’r amlwg yn y garfan hon. (Sector stelcio, set ddysgu weithredol)
Mae adolygiad systematig diweddar yn awgrymu bod angen mwy o ymchwil yn y DU i raglenni cyflawnwyr cam-drin domestig sy’n seiliedig ar drawma (Carlisle et al., 2025). Fodd bynnag, mae ymyriadau cyflawnwyr bob amser wedi gorfod gweithio gyda thrawma cyn cyflwyno terminoleg ‘yn seiliedig ar drawma’, ac mae dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau wedi bodoli ers degawdau (gwelwch Lehmann a Simmons, 2009). Er bod modelau o newid ymddygiad cyflawnwyr yn bodoli’n ehangach, megis Egwyddorion Ymyriad Effeithiol (Bonta ac Andrews, 2017) a’r Model Bywyd Da (Ward, 2002), mae ymchwil diweddar wedi codi cwestiynau ynghylch ansawdd y dystiolaeth sylfaenol (Fazel et al. 2024) ac wedi tanlinellu pwysigrwydd eu haddasu i gyd-destun cyflawnwyr cam-drin domestig (Radatz et al. 2021). Yn ogystal, mae’r ffordd y mae’r rhain yn cael eu defnyddio’n ymarferol wedi tueddu i gael ei arwain gan anghenion a phroffiliau gwahanol grwpiau o gyflawnwyr (e.e., natur cyfraniad cyfiawnder troseddol, cymhelliant i newid).
Trafododd ymarferwyr yn y setiau dysgu gweithredol sut i gydbwyso dull o’r fath â’r ethos sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr sydd wedi’i ymgorffori yn Safon 1.
Mae ein nod yn ymwneud â’r dioddefwyr. Mae’n ymwneud â chofio nad y person o’ch blaen yw eich prif fuddiolwr mewn gwirionedd. Dw i’n meddwl, unwaith y byddwn ni’n dechrau edrych ar ddull llunio ac yn edrych ar anghenion unigol y cyflawnwyr, mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydym ni’n rhoi dull sy’n canolbwyntio ar y goroeswr a dull sy’n canolbwyntio ar y person mewn tensiwn â’i gilydd yn anfwriadol, oherwydd dydyn nhw ddim yn cyferbynu. Nid yw’n ddewis rhwng un a’r llall (Sector cam-drin domestig, Set ddysgu weithredol).
Fel y dangosir yn y dyfyniad hwn, pan gaiff ei ddefnyddio i olygu ymrwymiad i gydnabod a newid ymddygiadau sy’n niweidio dioddefwyr-oroeswyr, cymunedau ehangach, a’r unigolyn ei hun, mae atebolrwydd yn cyd-fynd â dull sy’n seiliedig ar gryfderau ac sy’n canolbwyntio ar oroeswyr. Nid yw’n gysyniad cosbol na chywilyddio yn ei hanfod, ond yn hytrach pan gaiff ei ddefnyddio gyda pharch, mae’n gofyn am barodrwydd i wrando, cyfathrebu’n onest, ac ymgysylltu mewn deialog sy’n seiliedig ar werthoedd ynghylch sut a phwy maen nhw eisiau bod yn y dyfodol.
Mae’r dystiolaeth bresennol ar gyflawnwyr stelcio a cham-drin domestig (Maiuro et al., 2001; Thompson, 2021) a’r wybodaeth sy’n seiliedig ar ymarfer a ddygwyd i’r setiau dysgu gweithredol, yn dangos yn glir nad yw cyflawnwyr stelcio a cham-drin domestig yn grŵp homogenaidd; o fewn stelcio, ymdrinnir â’r amrywiad hwn o ran teipolegau. Gan adleisio hyn, ac fel y nodwyd yn safonau cyflawnwyr cam-drin domestig blaenorol y Swyddfa Gartref, mae’r DU wedi tueddu i fabwysiadu dull eclectig o ddylunio ymyriadau, gan dynnu o amrywiaeth eang o ddulliau i weithio yn y ffordd orau â’r cyflawnwyr y maent yn ceisio ymgysylltu â nhw. Er mwyn canolbwyntio ar y cyflawnwr, mae’n bwysig bod ymyriadau wedi’u seilio ar ddealltwriaeth o’r cymhellion a’r patrymau gwahanol a newidiol o gyflawni trosedd a chydnabyddiaeth o sut mae’r rhain yn amlygu eu hunain mewn unrhyw achos unigol.
Mae’r cwestiwn am hyd yr ymyriad wedi bod yn destun trafod ers tro byd o fewn y sector ymyriad ymhlith cyflawnwyr cam-drin domestig. Nid oes unrhyw ymchwil wedi gallu dangos tystiolaeth o un ‘hyd gorau posibl’, ond cydnabyddir yn eang bod newid ymddygiad yn cymryd amser. Er enghraifft, yn seiliedig ar fframwaith traws-ddamcaniaethol Camau Newid Prochaska a DiClemente (1984), mae Begun et al. (2001) yn tynnu sylw at yr amser sydd ei angen i deithio trwy’r camau hyn.
Mae angen cryn dipyn o amser i wneud newid sylweddol mewn ymddygiadau arferol, sydd wedi hen ymsefydlu. Mae’r gofynion cronnus am newid ymddygiad ac agwedd sy’n gysylltiedig â rhoi’r gorau i drais gan bartner agos yn aruthrol. Rhaid i’r unigolyn newid agweddau ac ymddygiadau sydd wedi’u datblygu dros oes, ac sy’n aml yn cael eu hatgyfnerthu gan normau cymdeithasol (Begun et al., 2001: 120).
Mae hyn yn cael ei ategu gan gasgliadau Prosiect Mirabal yn y DU.
Mae llawer o ddynion, ar ddiwedd y rhaglen, yn nodi ei bod yn cymryd ystyriaeth, amser a myfyrio i ddeall, dadosod a newid patrymau ymddygiad ac arferion sydd wedi’u hymgorffori. Nododd llawer o fenywod ar y dechrau fod eu partneriaid yn meddwl y gallent fynychu, ‘ticio ychydig o flychau’ a pharhau fel arfer. Hyd a dyfnder y Rhaglenni Prawf Personol (DVPPs) sy’n ei gwneud hi’n bosibl mynd y tu hwnt i aflonyddwch ymddygiad syml i newidiadau dyfnach sy’n gwneud gwahaniaeth (Kelly a Westmarland, 2015: 46).
Mewn dadansoddiad cynnwys o safonau’r Unol Daleithiau, canfu Flasch et al. (2021) fod hyd gofynnol ‘triniaeth’ (sydd yn y fan yma’n golygu rhaglenni ymyriad ar gyfer cyflawnwyr partner agos) yn amrywio’n sylweddol, gyda’r nifer cyfartalog o wythnosau gofynnol yn 27.6 a’r nifer cyfartalog cyfatebol o oriau o ‘driniaeth’ yn 44.2.
Mae llai yn hysbys am hyd ymyriadau stelcio. O’r ymchwil a adolygwyd gennym a’r wybodaeth seiliedig ar ymarfer o fewn y setiau dysgu gweithredol, ymddangosodd bod ymyriadau stelcio yn tueddu i fod yn fyrrach. Yn rhannol, gellir cysylltu hyn â’r dull cyflwyno, sydd ar hyn o bryd fel ymyriadau unigol yn hytrach na gwaith grŵp (gwelwch yn ddiweddarach yn yr adran hon). Yn ogystal, nid yw rhai ymyriadau am stelcio’n cael eu cyflwyno trwy sesiynau wedi’u rhaglennu ond yn hytrach maent yn gyfres o sesiynau clinigol, lle mae’r hyd yn hyblyg ac yn cael ei bennu gan asesiad parhaus. O ystyried bod llawer o ymyriadau stelcio a ariennir yn gweithio gyda chyn-bartneriaid agos, a’r diffyg tystiolaeth bod cyflawnwyr stelcio yn gallu newid eu hymddygiad mewn llai o amser, rydym yn cadw’r isafswm awgrymedig o 16 wythnos ar gyfer gwaith un-i-un i newid ymddygiad stelcio.
Ar gyfer ymyriadau newid ymddygiad cyflawnwyr cam-drin domestig, mae cefnogaeth gref i ddarpariaeth grŵp fel y fformat a ffefrir ar gyfer y rhan fwyaf o gyflawnwyr, o ran y safonau presennol (Austin a Dankwort, 1999) ac ymchwil gan gyfranogwyr y rhaglen (Morrison et al., 2019b). Canfuwyd bod gan ddull o’r fath nifer o fanteision newid clinigol/ymddygiad, gan gynnwys helpu cyflawnwyr i oresgyn nid yn unig gwadu (Lehmann a Simmons, 2009) ond hefyd deimladau o gywilydd, a allai gynyddu cymhelliant i aros yn y rhaglen (Maiuro, Hagar, Lin ac Olson, 2001). Mae pwysigrwydd cael eu cynnwys a’u hannog gan gyfoedion mewn grwpiau a chael y lle i brosesu syniadau a gwybodaeth newydd wedi’i ddogfennu hefyd (Kelly a Westmarland, 2015).
Ar gyfer ymyriadau i gyflawnwyr stelcio, mae tystiolaeth gyfredol sy’n seiliedig ar arfer yn awgrymu nad yw ymyriadau gwaith grŵp yn briodol, ond hyd y gwyddom ni, nid yw hyn wedi’i dreialu hyd yn oed gyda grwpiau tebyg (fel y rhai sy’n stelcio cyn-bartneriaid agos). Y meddwl yn y fan yma yw y bydd rhaglen sy’n seiliedig ar grŵp yn ei chael hi’n anodd bod yn berthnasol ar draws heterogenedd cyflawnwyr stelcio gyda gwahanol fathau o berthnasoedd rhwng cyflawnwyr a dioddefwyr a gwahanol gymhellion i droseddu. Mae’r sector hefyd yn pryderu y gallai rhaglen grŵp sy’n cynnwys partneriaid agos a chyn-bartneriaid agos gadarnhau meddylfryd rhithdybiol ymhlith y cyflawnwyr hynny sy’n tybio lefel o agosatrwydd gyda dioddefwr nad ydynt erioed wedi’i chael. Gellir mynd i’r afael â’r pryder olaf hwn trwy brosesau asesu derbyniad cadarn.
Yn ogystal, mae’r rhan fwyaf o’r ymyriadau presennol i gyflawnwyr stelcio yng Nghymru a Lloegr yn cael eu darparu ar-lein. Datblygodd yr arfer o ddarparu ymyriadau i gyflawnwyr o bell ar gyflymder yn ystod pandemig COVID-19. Mae rhai astudiaethau wedi canfod bod y fformat ar-lein yn datrys rhai problemau hirsefydlog gyda darparu rhaglenni ymyriad i gyflawnwyr cam-drin domestig, gan gynnwys mynediad yng nghefn gwlad gan hefyd agor heriau newydd ar yr un pryd (Bellini a Westmarland, 2021). Fodd bynnag, nid oes unrhyw astudiaethau wedi bod yn cymharu effeithiolrwydd darparu ar-lein o’i gymharu â darparu wyneb yn wyneb ac mae angen mwy o ymchwil yn y maes hwn (Taft et al, 2024).
Safon 4: Dylid cynnig yr ymyriad cywir i’r bobl gywir ar yr amser cywir
Tabl 4: Safon 4
Dylid cynnig yr ymyriad cywir i’r bobl gywir ar yr amser cywir
4.1 Dylai sefydliadau gael model gwaith ysgrifenedig sy’n nodi amcanion, natur, cynnwys a chanlyniadau bwriadedig pob ymyriad a gynigir, pa grwpiau o droseddwyr y mae’n briodol ar eu cyfer, a sut y bydd cefnogaeth i bob dioddefwr-oroeswr yn cael ei hintegreiddio
4.2 Dylai asesiadau alluogi adnabod risgiau a achosir gan y troseddwr a’u hymatebolrwydd i newid er mwyn pennu eu haddasrwydd/gallu ar gyfer ymyriad. Dylai ymyriadau gydnabod bod risg yn ddeinamig a chael mecanweithiau ar waith i ymateb yn unol â hynny. Ni ddylai ymyriadau gyfateb ymgysylltu neu gwblhau â gostyngiad awtomatig mewn risg. Lle nodir anghenion ychwanegol neu gymhleth, dylid nodi cynllun ar gyfer mynd i’r afael â’r rhain (a, lle bo angen, llwybr atgyfeirio). Dylid dogfennu penderfyniadau asesu yn glir a dylent fod ar gael pan fo’u hangen ar gyfer craffu gwrthrychol ac allanol
4.3 Lle mae angen addasu ar gyfer poblogaeth benodol o gyflawnwyr (megis lle mae gan gyflawnwyr anghenion sy’n ymwneud â niwrowahaniaeth, iechyd meddwl, camddefnyddio cyffuriau a/neu alcohol, statws mewnfudo) dylid ystyried cydweithio ag ymarferydd medrus perthnasol
4.4 Dylai ymyriadau fod yn ymwybodol o’r ffyrdd y gall cyflawnwyr drin gwasanaethau a systemau drwy eu cyflwyno eu hunain fel dioddefwyr. Dylai prosesau asesu alluogi adnabod y prif gyflawnwr a pheidio â chyflwyno ymyriadau sy’n canolbwyntio ar y cyflawnwr i ddioddefwyr-oroeswyr y gwnaed honiadau deuol neu wrth-honiadau yn eu herbyn.
4.5 Dylid asesu cymhelliant dros gymryd rhan yn ofalus drwy gydol yr ymyriad. Dylai ymyriadau cyflawnwyr ochel rhag cael eu defnyddio fel llwybr i gynnal neu ailddatgan rheolaeth dros, a/neu gyswllt â dioddefwr-oroeswr drwy achosion llys neu gwynion dro ar ôl tro neu estynedig, neu fel dull o stelcio drwy ddirprwy. Dylai staff y rhaglen asesu cyflawnwyr sydd ar hyn o bryd (neu sydd wedi bod yn ddiweddar) yn rhan o achosion llys teulu am eu haddasrwydd yn annibynnol ar unrhyw asesiad neu argymhelliad blaenorol gan asiantaeth atgyfeirio neu gyfreithiwr
4.6 Lle gall cyflawnwr fod yn ddioddefwr trosedd arall, dylai fod llwybr atgyfeirio clir iddynt gael cefnogaeth ar gyfer hynny, tra byddant yn ymgysylltu ag ymyriad priodol sy’n canolbwyntio ar y cyflawnwr
4.7 Mae tystiolaeth gyfredol sydd wedi’i seilio ar ymarfer yn awgrymu na ddylai gwaith ar y cyd rhwng y cyflawnwr a’r dioddefwr ddigwydd ar gyfer ymyriadau sy’n canolbwyntio ar stelcio ac anaml y mae’n briodol mewn achosion o gam-drin domestig. Ar gyfer cam-drin domestig, dim ond ar ôl i waith newid ymddygiad y cyflawnwr gael ei gwblhau y dylid ei ystyried, ac ar ôl cwblhau asesiad addasrwydd pellach ar wahân gyda’r cyflawnwr a’r dioddefwr-oroeswr. Mae rhybuddion tebyg yn berthnasol i waith cyfryngu anffurfiol neu ffurfiol, cymodi, cyfiawnder adferol, neu gyflafareddu crefyddol.
Mae corff o ymchwil ar ymyriadau cam-drin domestig sy’n pwysleisio pwysigrwydd asesu er mwyn symud i ffwrdd o fodel ‘un maint i bawb’ a galluogi dull sydd wedi’i deilwra (Maiuro ac Eberle, 2008; Babcock et al., 2016). Yn yr un modd, mae rôl asesu ar gyfer stelcio yn cael ei hamlygu mewn llawer o’r ymchwil ar offer asesu risg stelcio (gweler Kelly et al., 2026).
Cafodd pwysigrwydd asesu ei adleisio gan rai o’r ymatebwyr i’r arolwg. Yn wir, roedd rhai o’r ymatebwyr yn teimlo y dylai’r Safonau fynd ymhellach yn hyn o beth:
Nid wyf yn cytuno y gellir defnyddio’r safon hon heb esboniad penodol ynghylch pwy ddylai benderfynu pwy yw’r bobl gywir a beth yw’r ymyriad cywir (OPCC, Arolwg).
Er nad yw hon yn sefyllfa ddelfrydol o bosib, nid yw argaeledd, datblygiad ac ymchwil ymyriad wedi’u datblygu i’r graddau y gallwn nodi hyn yn hyderus. Ar hyn o bryd, mae’r sefyllfa’n un o sicrhau bod ymyriadau sy’n bodoli yn cael eu cynnig i’r cyflawnwyr hynny a asesir fel y rhai sydd fwyaf tebygol o newid eu hymddygiad (gan gynyddu diogelwch a rhyddid i ddioddefwyr-oroeswyr trwy lens Safon 1) wrth ddefnyddio Safon 7 (monitro a gwerthuso) i’n helpu i symud yn agosach at y sefyllfa hon yn y dyfodol.
Cadarnhaodd y setiau dysgu gweithredol mor bwysig yw hi i ymarferwyr fod asesiadau manwl wedi’u teilwra’n digwydd cyn i rywun gael ei dderbyn ar ymyriad:
Rwy’n credu ei fod yn dibynnu ar y rhan bwysig iawn honno o asesiad cyd-destunol clir iawn i ddeall beth yw natur y broblem i’r person o’ch blaen (Sector stelcio, Set ddysgu weithredol).
Dw i’n meddwl mai’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu dros 25 mlynedd yw bod yn rhaid i chi deilwra’r ymateb i’r unigolyn. Felly beth sy’n gweithio i bwy yw’r cwestiwn pwysig iawn, ac mae angen proses asesu glir iawn a brysbennu addasrwydd ar gyfer beth bynnag yw’r ymyriad, yn ogystal ag asesiad o risg ac ymatebolrwydd ac angen. A dw i’n meddwl os oes gennych chi hynny i gyd ar waith, yna rydych chi eisiau cael cyfres o ymyriadau a all ddiwallu’r ystod eang honno o anghenion ar draws y garfan (sector cam-drin domestig, set ddysgu weithredol).
Mae rhai rhaglenni cam-drin domestig, yn enwedig y rhai sy’n gysylltiedig â’r system cyfiawnder troseddol, wedi symud tuag at alinio eu rhaglenni ag Egwyddorion Ymyriad Effeithiol (PEI). Mae’r PEI wedi’u cefnogi gan gorff mawr o ymchwil ryngwladol sy’n dangos bod rhaglenni newid ymddygiad cyffredinol ar gyfer cyflawnwyr yn dangos gostyngiadau mwy mewn aildroseddu pan fyddant yn dilyn yr egwyddorion hyn (Bonta ac Andrews, 2017). Fodd bynnag, mae synthesis tystiolaeth wedi’i ddiweddaru yn awgrymu bod y sail dystiolaeth yn dangos rhagfarn yr awdur, ei bod yn seiliedig yn bennaf ar ymchwil o ansawdd isel a bod angen mwy o ymchwil i gefnogi’r honiadau hyn (Fazel et al., 2024). Fel y dangosir yn y dyfyniad uchod, cydnabyddir yn gyffredinol mai’r tri cyntaf o’r egwyddorion hyn - Risg, Angen ac Ymatebolrwydd (a elwir gyda’i gilydd yn egwyddorion RNR) yw’r pwysicaf. Mae rhywfaint o dystiolaeth bod y symudiad tuag at ddull o ymyriadau wedi’u teilwra fwy yn cyflawni canlyniadau gwell (Travers et al., 2021). Mae hyn yn cynnwys teilwra ymyriadau i batrymau troseddu a/neu barodrwydd i newid (Arias, Arce a Vilariño, 2013; Babcock et al., 2016), ond mae hyn yn gofyn am lawer o adnoddau.
Mae tystiolaeth sy’n seiliedig ar ymarfer yn cadarnhau y gall cyflawnwyr ddefnyddio systemau i barhau i niweidio ac aflonyddu ar ddioddefwyr-oroeswyr, a dylid adeiladu’r ymwybyddiaeth hon i mewn i bob ymyriad gan droseddwyr.
Yn aml, mae cyflawnwyr yn ceisio trin a defnyddio systemau a gwasanaethau fel arfau er mwyn cam-drin a rheoli, ac mae angen i’r gwasanaeth gael cynlluniau ar waith i liniaru’r risg honno, i nodi hynny a’i liniaru (Sector cam-drin domestig, Set ddysgu weithredol).
Mae angen i wasanaethau a gomisiynir gael prosesau system i asesu cymhelliant cyffredinol defnyddwyr gwasanaeth a sut i nodi a rheoli twyll medrus (Heddlu, Set ddysgu weithredol).
O ran stelcio, cododd ymarferwyr bryderon ynghylch cydymffurfiaeth gudd mewn ymyriad fel ffordd o ‘stelcio drwy ddirprwy’ (e.e. parhau cyswllt digroeso ac ailadroddus drwy sbarduno hysbysiadau i’r dioddefwr-oroeswr), neu ddull o fwynhau eu meddwl obsesiynol neu rithdybiol drwy siarad yn hir am y dioddefwr-oroeswr. Cododd hyn hefyd i ddioddefwyr-oroeswyr fel pryder ehangach ynghylch ymyriadau cyflawnwyr. Roedd rhai yn poeni y byddai’r cyflawnwr yn cael bod yn berchen ar y naratif ac y byddai eu llais nhw’n cael ei wneud yn anweledig.
Mae’n beth annheg iawn iddynt gael ei gynnig. Mae fel nad ydw i’n rhan o fy stori a’r hyn a ddigwyddodd i mi. Rwy’n poeni na allaf fod yn berchen ar fy stori fy hun ac y gallai gael ei defnyddio fel arf yn fy erbyn (Dioddefwr-oroeswr, panel goroeswyr).
Felly, mae’n hanfodol, yn ogystal â chymhellion dros droseddu, y dylai asesiadau allu pennu cymhellion dros gymryd rhan mewn ymyriad a galluogi adnabod y prif gyflawnwr mewn cyd-destunau lle mae gwrth-honiadau.
Mae dadleuon rhyngwladol ynghylch pa mor ddiogel ac effeithiol yw cydweithio â dioddefwyr a chyflawnwyr, fel y crynhoir yn argraffiad cyntaf y Safonau (Westmarland a Kelly, 2023). Roedd cytundeb clir yn y setiau dysgu gweithredol na ddylai gwaith ar y cyd byth ddigwydd ar gyfer stelcio ac mai anaml y byddai’n briodol ar gyfer cyflawnwyr partner agos. Fodd bynnag, mae’r safonau hyn ar gyfer pob math o gam-drin domestig, ac mae rhai mathau o drais teuluol, yn enwedig trais rhwng pobl ifanc a rhieni lle mae cydweithio yn fwy cyffredin. Felly, nid oes gwaharddiad cyffredinol ar gam-drin domestig, ond mae angen i unrhyw ystyriaeth o weithio ar y cyd ddechrau gyda chael ei arwain gan oroeswyr, a chael tystiolaeth o newid sylweddol yn ymddygiad y cyflawnwyr a phrosesau amddiffynnol gofalus ar waith.
Safon 5: Dylid cyflwyno ymyriadau’n deg o ran nodweddion gwarchodedig sy’n croestorri ac yn gorgyffwrdd.
Tabl 5: Safon 5
Dylid cyflwyno ymyriadau’n deg o ran nodweddion gwarchodedig sy’n croestorri ac yn gorgyffwrdd
5.1 Dylai ymyriadau gydnabod y gallai pobl o grwpiau lleiafrifol fod wedi profi rhwystrau ac anfanteision strwythurol lluosog, a bod ymgysylltu a newid yn fwy tebygol lle cânt eu harchwilio, eu cydnabod a’u trin.
5.2 Mae mecanweithiau sylfaenol cam-drin a stelcio (e.e. hawl, obsesiwn, rheolaeth, gorfodaeth) yn berthnasol ar draws pob cymuned. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd sut mae’r rhain yn cael eu deall, eu mynegi a’u cyfiawnhau yn amrywio. Dylid archwilio amrywiadau mewn normau rhywedd, cenedlaethau a diwylliannol, a sut maent yn effeithio ar y mecanweithiau hyn.
5.3 Dylai ymyriadau archwilio’r credoau unigol, teuluol ac ehangach sy’n caniatáu, yn cyfiawnhau neu’n lleihau cam-drin a stelcio ochr yn ochr â’r rhai nad ydynt yn ei gefnogi. Mewn rhai sefyllfaoedd, gall dioddefwyr-oroeswyr a/neu gyflawnwyr fframio’r credoau hyn mewn naratifau o ddiwylliant, ffydd, crefydd a/neu werthoedd cymunedol. Fodd bynnag, mae’n bwysig nad yw ymarferwyr yn atgyfnerthu stereoteipiau o gymunedau cyfan.
5.4 Dylai ymyriadau gael prosesau ar waith fel y gellir darparu gwaith uniongyrchol (un-i-un a grŵp) i bobl y mae Saesneg yn ail iaith iddynt.
Efallai fod cyflawnwyr o grwpiau lleiafrifol wedi profi rhwystrau ac anfanteision a fydd yn rhyngweithio â’u dewis i gam-drin. Yn hanesyddol, mae’r llenyddiaeth ar ymyriadau ar gyfer cyflawnwyr cam-drin domestig wedi tynnu sylw at hyn, gan bwyntio at y gwahanol brofiadau o ddiwylliant, cymuned a theulu y gallai cyflawnwyr eu cael (Gangoli et al., 2024, Pence a Paymar, 1993; Williams a Becker, 1994; Zellerer, 2003) yn ogystal â phrofiadau o gael eu niweidio trwy hiliaeth, ablaeth, heterorywiaeth. Felly, dylai hyfforddiant sgiliau ar gyfer staff ymyriad gynnwys ffocws ar anghydraddoldebau strwythurol a sut maent yn effeithio ar fynediad; a’r ffyrdd y mae cam-drin domestig yn cael ei ddeall a’i brofi (Babcock, Green, a Robie, 2004; Stover, Meadows, a Kaufman, 2009, Stover a Lent, 2014).
Er gwaethaf hyn, dadleuwyd bod dull ‘un maint i bawb’ wedi’i ganfod mewn ymyriadau cyflawnwyr cam-drin domestig (Cannon a Buttell, 2016; Maiuro ac Eberle, 2008), gan awgrymu “nad oes fawr ddim ymdrech arbennig yn cael ei gwneud i ddeall neu ddiwallu anghenion poblogaethau lleiafrifol” (Williams a Becker, 1994: 287). Mae angen adeiladu’r sail wybodaeth ac ymarfer ar hyn yng nghyd-destun y DU, gan fod y rhan fwyaf o’r ymchwil o’r Unol Daleithiau. Yn yr ychydig achosion lle ystyriwyd lleiafrifoli yng nghyd-destun y DU, mae fel arfer wedi bod mewn perthynas â thrais partner agos, a phrin yr ystyrir trais teuluol, er gwaethaf y ffaith bod sail wybodaeth gref am gam-drin seiliedig ar ‘anrhydedd’ a phriodas dan orfod (gwelwch Bhanbhro, Cronin, a Lusambili (2016) i gael adolygiad).
Mae’r sail dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg ar ymyriadau cyflawnwyr stelcio yn gyfyngedig iawn yn y maes hwn. Mae gwerthusiadau presennol yn seiliedig ar niferoedd bach o droseddwyr (er enghraifft Jerath, Tompson, a Belur, 2022, Makinde et al., 2025, Spenser et al, 2025) sy’n golygu nad yw dadansoddiad croestoriadol a dull gwerthuso mwy realistig (beth sy’n gweithio, i bwy, o dan ba amgylchiadau, a thrwy ba fecanweithiau) yn bosibl. Cododd gweithwyr proffesiynol y sector stelcio hefyd derfynau’r offer asesu presennol yn y maes hwn.
I mi, y peth yr ydyn ni wedi bod yn llawer mwy ymwybodol ohono yn ein hymarfer dros y 10 mlynedd diwethaf, mae’n debyg, yw beth yw’r cyfyngiadau ar yr offer asesu rydyn ni’n eu defnyddio o ran eu sensitifrwydd diwylliannol… nid oes gennym ni’r sylfaen dystiolaeth honno ynglŷn â’r hyn sy’n briodol a’r hyn sydd ddim yn briodol yn ddiwylliannol ac sy’n cael ei brofi o fewn y rheini (sector Stelcio, set ddysgu weithredol).
Mae’r data ar waith gyda chyflawnwyr niwrowahanol yn brin, ond mae un astudiaeth yn awgrymu y gellir dehongli ADHD/Awtistiaeth heb ddiagnosis fel ymladdgarwch a diffyg ymgysylltiad gan ymarferwyr (Renehan a Fitz-Gibbon, 2022), ac mae gwaith mwy diweddar yn awgrymu’r angen am fwy o ddarpariaeth gadarnhaol niwroamrywiol mewn ymyriadau cyflawnwyr (Renehan, 2026). Daeth adolygiad diweddar a archwiliodd gysylltiadau posibl rhwng agweddau ar niwroamrywiaeth a stelcio i’r casgliad yn betrusgar bod gan unigolion niwrowahanol sy’n cymryd rhan mewn stelcio ffactorau cyfrannol sy’n adlewyrchu’r rhai a welwyd ymhlith cyflawnwyr niwronodweddiadol (Baciu a Worthington, 2025).
Gall addasiadau cynhwysol i ddulliau dysgu helpu i fynd i’r afael â rhwystrau i gyfranogiad, wedi’u hategu gan gyd-hwyluso gydag ymarferwyr medrus iawn sydd wedi’u hyfforddi mewn niwrowahaniaeth (Renehan a Fitz-Gibbon, 2022). Dylid cynnal gweithdrefnau asesu capasiti lle mae capasiti dan sylw ar gyfer dioddefwyr-oroeswyr neu gyflawnwyr.
Er bod rhai problemau mynediad yn cael eu datrys drwy ymyriadau ar-lein, gall mynediad at ymyriadau fod yn gyfyngedig yn gorfforol os nad oes gan leoliadau gyfarpar ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Gall cyfyngiadau mynediad eraill fod oherwydd iaith – iaith gyntaf (gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain) a defnydd iaith mewn perthynas â niwroamrywiaeth. Mae gwybodaeth sy’n seiliedig ar ymarfer o’r setiau dysgu gweithredol ar y prosiect hwn yn ogystal â’r byrddau crwn a gynhaliwyd yn rhan o argraffiad cyntaf y Safonau yn awgrymu bod grwpiau iaith-benodol yn well na defnyddio cyfieithwyr mewn grŵp, gan eu bod yn gwella cyfathrebu, cyfranogiad a dealltwriaeth.
Ar gyfer cyflawnwyr partner agos LHD a/neu T, efallai na fydd cynnwys newid ymddygiad generig yn briodol gan ei fod yn aml yn cymryd partneriaethau heterorywiol fel y rhagosodiad (Gray et al, 2020). Roedd rhifyn cyntaf y Safonau hefyd yn cynnwys pryderon gan ymarferwyr ynghylch cynnwys newid ymddygiad generig yn cael ei ddefnyddio heb ei addasu ar gyfer cyflawnwyr benywaidd (Westmarland a Kelly, 2023). Mae ymchwil wedi dangos y gall fod heriau ychwanegol wrth adnabod y prif gyflawnwr mewn perthnasoedd o’r un rhyw (Gray et al., 2020), er enghraifft gellir tybio’n anghywir mai’r partner mwy yn gorfforol yw’r prif ymosodwr. Gall mathau penodol o gam-drin o fewn perthnasoedd LHD a/neu T, fel cam-drin hunaniaeth (er enghraifft, bygwth ‘allanweddu’ partner) gael eu hanwybyddu ac maen nhw’n parhau i fod heb fawr o ymchwil (Donovan a Barnes, 2019).
Yma eto, mae cyfyngiadau sylweddol yn y sylfaen dystiolaeth bresennol ar stelcio, gan gynnwys ar gyflawnwyr benywaidd. Mae Thompson, Dennison, a Stewart (2013) yn nodi bod y rhan fwyaf o fodelau risg ar gyfer stelcio wedi’u datblygu trwy gyflawnwyr gwrywaidd, ac nid yw’n glir a ydynt yn gweithio yn yr un ffordd i fenywod. Mae’r canfyddiad hwn yn achos pryder arbennig o ystyried adolygiad o’r llenyddiaeth ar stelcwyr benywaidd sy’n canfod eu bod yn peri lefel debyg o risg trais â’u cymheiriaid gwrywaidd, er bod y risg hon yn aml yn cael ei hystyried yn ddi-fygythiad (Brooks et al, 2021). Er bod nifer fach o astudiaethau wedi edrych ar gyflawni a dioddef stelcio ar gyfer cymunedau LHD a/neu T (gwelwch Edwards et al, 2022 am adolygiad), mae’r sylfaen dystiolaeth bresennol am gyflawni’n canolbwyntio ar stelcwyr partneriaid agos (e.e. Valerian et al, 2011).
Er bod cefnogaeth glir yn yr arolwg fod y safon hon yn berthnasol ar draws stelcio a cham-drin domestig (gyda 30 o gyfranogwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â hyn), cwestiynodd un ymatebydd ei ffocws.
Dylid trin pob cleient yn gyfartal. Mae cyflawnwyr yn defnyddio hunaniaeth fel arf ac mae angen mynd i’r afael â hyn o fewn y Safonau. Cam-drin yw cam-drin, nid oes byth unrhyw gyfiawnhad drosto. Mae angen i weithwyr proffesiynol ddelio â’r mater a pheidio â chwarae gwleidyddiaeth hunaniaeth. (Sector cam-drin domestig, Arolwg)
Mae’n bwysig i ymyriadau fod yn glir nad yw lle i gydnabod, ac o bosibl hyd yn oed weithio gydag ymyleiddio, lleiafrifoli, a rhwystrau i ymgysylltu a brofir gan gyflawnwyr, yr un peth â galluogi’r ffactorau hyn i gael eu defnyddio i gyfreithloni troseddu. Mae Safon 5 yn fframio’r mater fel mecanwaith sylfaenol, sy’n bresennol ym mhob grŵp cymdeithasol, sy’n creu cyd-destunau ffafriol ar gyfer trais (Almeida a Dolan-Delvecchio, 1999; Almeida, Woods, Messineo, a Font, 1998), rhywbeth a adleisir gan ymarferwyr.
Yr hyn sy’n bwysig yma yw’r syniad am y gefnogaeth strwythurol gymdeithasol ar gyfer ymddygiad camdriniol a’r normau cymdeithasol rhyweddol hynny… Os na fyddwn yn cynnwys y strwythurol yna mae gennym broblem oherwydd rydym yn gorffen gyda naratif unigoledig yn unig sydd, yn fy marn i, ychydig yn beryglus (Sector cam-drin domestig, Set ddysgu weithredol).
Fodd bynnag, mae pob cyd-destun hefyd yn cynnwys syniadau a chredoau amgen sy’n cefnogi dim trais, a dylai ymarferwyr integreiddio chwilfrydedd am y rhain yn eu gwaith.
Safon 6: Dylai ymyriadau sy’n canolbwyntio ar ffurf neu gyd-destun penodol o gyflawni gael eu cyflwyno gan staff sydd â sgiliau a chefnogaeth i ymateb i’r ffurf neu’r cyd-destun penodol hwnnw.
Tabl 6: Safon 6
Dylai ymyriadau sy’n canolbwyntio ar ffurf neu gyd-destun penodol o gyflawni gael eu cyflwyno gan staff sydd â sgiliau a chefnogaeth i ymateb i’r ffurf neu’r cyd-destun penodol hwnnw
6.1 Dylai ymyriadau gael eu cyflwyno a’u rheoli gan dîm sy’n ceisio adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
6.2 Dylai fod gan staff wybodaeth fanwl sy’n berthnasol i’r mathau o gyflawniad a chyd-destun y cyflawniadau y maent yn gweithio â nhw, yn ogystal â gwybodaeth ymarferol am brosesau diogelu lleol ac amlasiantaeth a’r ymyriad y maent yn gweithio ynddi. Mae hyn yn berthnasol hefyd i weithwyr cymorth dioddefwyr-oroeswyr.
6.3 Dylai’r staff i gyd dderbyn datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) yn rheolaidd. Ar gyfer seicolegwyr a seiciatryddion sy’n cyflwyno ymyriadau, mae gofynion DPP wedi’u nodi gan y cyrff llywodraethu presennol.
6.4 Dylai’r holl staff sy’n ymwneud ag asesu risg gael eu hyfforddi mewn offer ffurfio barn broffesiynol strwythuredig perthnasol a sut i’w defnyddio o fewn proses o ffurfio barn broffesiynol strwythuredig
6.5 Dylai staff sy’n cyflwyno ymyriadau gael mynediad at oruchwyliaeth reoli llinell fewnol reolaidd. Dylai’r holl staff hefyd gael mynediad at oruchwyliaeth glinigol allanol reolaidd o ansawdd uchel, wedi’i hariannu. Dylid cynnig yr un gefnogaeth i staff sy’n cefnogi ond nad ydynt yn cyflwyno ymyriadau.
6.6 Ni ddylai llwythi gwaith fod yn fwy na’r lefel y gellir ei chyflawni’n ddiogel, a’i chyflwyno’n deg, ar gyfer ymyriadau penodol. Mae hyn yn berthnasol i gefnogaeth i ddioddefwyr-oroeswyr a gwaith i gyflawnwyr trosedd.
6.7 Dylid cael gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer unrhyw un sy’n darparu ymyriadau i droseddwyr a/neu ddioddefwyr-oroeswyr, a dylid datgelu unrhyw ddefnydd blaenorol o gam-drin domestig a/neu stelcio neu aflonyddu. Ni ddylai pobl sy’n cyflawni cam-drin domestig a/neu stelcio ar y pryd fod yn darparu ymyriadau. Mae angen i unrhyw un sydd wedi cyflawni cam-drin domestig neu stelcio o’r blaen ddangos tystiolaeth o newid personol ac ymddygiad sylweddol cyn cael caniatâd i ddarparu ymyriadau i gyflawnwyr.
Mae trafodaeth yn y llenyddiaeth am raglenni i gyflawnwyr cam-drin domestig ynghylch a ddylai hwyluswyr ddod o’r un cefndiroedd ethnig â’r dynion yn eu grwpiau (Pattabhiraman, Kyalwazi, a Shore, 2021). Mae hyn yn adlewyrchu tystiolaeth effeithiolrwydd ehangach sy’n awgrymu bod gwaith newid ymddygiad gyda dynion sydd mewn lleiafrif o ran hil ac ethnigrwydd yn fwy effeithiol mewn grwpiau sydd â threftadaeth gyffredin (Aymer, 2011; Parra-Cardona et al. 2013; Waller, 2016; Williams, 1992). Fodd bynnag, roedd ymchwil a gynhaliwyd ar gyfer y safonau cam-drin domestig blaenorol yn awgrymu y gall amrywiaeth mewn gwaith grŵp hefyd fod yn ffynhonnell mewnwelediad a dysgu, gan ddod i’r casgliad y gallai fod manteision i’r ddau ddull.
Er nad yw’r safonau hyn yn cwmpasu rheolaeth sefydliadol, mae ansawdd a chynaliadwyedd ymyriadau’n dibynnu ar sefydliadau i sicrhau bod gan ymarferwyr y sgiliau, y wybodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen. Mae ymchwil ar gam-drin domestig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cael tîm o staff gwybodus, hyderus a chefnogol (Stover a Lent, 2014; Morrison et al., 2019a). Roedd hi’n amlwg yn yr arolwg bod yr ymatebwyr yn teimlo’n debyg; roedd naw o 33 o ymatebwyr yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf y gellid ymestyn geiriad y safon hon o’r argraffiad cyntaf – a oedd yn cyfeirio at gam-drin domestig yn unig – i stelcio. Er bod rhai ymatebwyr yn anghytuno ynghylch y geiriad, mae hyn wedi’i ddatrys trwy ychwanegu’r term stelcio yn y safon hon.
Daeth yr arbenigedd sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith hwn, a phwysigrwydd hyfforddiant i gefnogi hyn, i’r amlwg yn gryf iawn hefyd yn y setiau dysgu gweithredol a’r paneli goroeswyr:
Dw i’n meddwl na ellir pwysleisio ddigon fod hwn yn waith arbenigol iawn mewn maes cyfyngedig iawn o ymddygiad troseddol, ac mae angen i arbenigedd a sgiliau pobl adlewyrchu hynny. (Sector stelcio, Set ddysgu weithredol)
Nid dyma’r math o waith lle mae athro yn sefyll ar flaen y dosbarth gyda siart droi ac yn dysgu’r pethau hyn yn unig. Mae hyn yn ymwneud ag archwiliad dwfn o gywilydd a gwreiddiau cymhelliant dros fod yn gamdriniol. Mae angen hwyluswyr grŵp medrus iawn neu therapyddion un-i-un neu bwy bynnag yw’r gweithwyr proffesiynol hynny. Mae’n waith anodd. (Sector cam-drin domestig, Set ddysgu weithredol)
Trwy fod yn neis ac yn ofalgar, gallai ymarferydd fwydo’r credoau [obsesiynol] hynny – mae angen i’r gwaith yma fod yn llym gyda ffiniau pendant ac mae’n rhaid iddynt fod wedi eu hyfforddi. Fy mhryder yw y byddai unrhyw ddilysu yn bwydo eu hobsesiynau mewn ffordd sefydlog, rhithdybiol. (Dioddefwr-oroeswr, Panel goroeswr)
Mae’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gwaith o’r fath yn ymestyn y tu hwnt i wybodaeth fanwl am stelcio a/neu gam-drin domestig, neu wybodaeth ymarferol am ddiogelu, prosesau amlasiantaeth ac asesu, er bod y rhain yn hanfodol. Mae’r ystod o sgiliau a hyfforddiant yn cynnwys meysydd fel gweithio gyda niwrowahaniaeth (Renehan, 2026) ac anghenion iechyd meddwl cymhleth (Jerath, Thomson, a Belur, 2023; Mullen et al., 2006; Purcell a McEwan, 2018; Spencer et al. 2024; Trevillion et al. 2012), yn ogystal â chymwyseddau penodol mewn perthynas ag asesu, gwaith grŵp ac un-i-un, a’r moddolderau a’r dulliau a ddefnyddir gan yr ymyriad ei hun. Dylid deall y rhain fel rhai sy’n ategu cymhwysedd craidd yn y math o droseddu y mae’r ymyriad yn mynd i’r afael ag ef:
Nid wyf am fod yn gyfarwyddiadol mewn cyfres o safonau ynghylch yr hyn y dylid hyfforddi pobl ynddo, ond rwy’n credu bod angen i staff ddeall mwy na dim ond yr ymddygiad neu fwy na’r drosedd… mae angen i chi gael staff sy’n fedrus ym mhob math o bethau sy’n gysylltiedig â’r ymddygiad o amgylch stelcio neu gymhelliant rhywun i stelcio (Sector stelcio, Set ddysgu weithredol).
I gefnogi hyn, daeth yr angen am oruchwyliaeth o ansawdd uchel, a lle bo modd, oruchwyliaeth arbenigol yn y pwnc i’r amlwg yn gryf yn y setiau dysgu gweithredol:
Rwy’n credu mai dyna’r rhan arall, mae angen iddo gael ei gyflwyno gan bobl sydd â sgiliau priodol, cymhwyster priodol, ond hefyd fecanweithiau goruchwylio priodol gan bobl sy’n gwybod beth yw’r broblem er mwyn gallu ei goruchwylio. (Sector stelcio, Set ddysgu weithredol)
Mae gennych chi oruchwyliaeth rheoli llinell, sef eich pethau pob dydd a’r oruchwyliaeth glinigol hefyd. Felly, ei gwneud hi’n glir eich bod chi angen y ddau hynny i safon briodol. (Sector stelcio, Set ddysgu weithredol)
Mae hyn yn cael ei gefnogi gan y fframweithiau iechyd y mae llawer o ymyriadau sy’n canolbwyntio ar stelcio eisoes yn gweithredu ynddynt, lle mae goruchwyliaeth glinigol yn arfer sefydledig. Mae’r llenyddiaeth ehangach ar ymyriadau effeithiol i gyflawnwyr cam-drin domestig hefyd yn pwysleisio’r angen am oruchwyliaeth glinigol allanol ar gyfer pob aelod o’r tîm (Evans a Robertson, 2021).
Safon 7: Dylid monitro a gwerthuso ymyriadau i wella arferion ac ehangu’r sylfaen wybodaeth.
Tabl 7: Safon 7
Dylid monitro a gwerthuso ymyriadau i wella arferion ac ehangu’r sylfaen wybodaeth
7.1 Dylai cofnodion clir a chyson fod ar waith i alluogi cyflwyno’r ymyriad yn ddiogel ac yn effeithiol a nodi pryderon risg/diogelu cynyddol ac ymateb yn brydlon iddynt.
7.2 Dylid casglu data am ymyriadau, yn unol â’u model gwaith a’u halinio â’u gofynion atgyfeirio a chyllido. Dylai data gynnwys canlyniadau sy’n berthnasol i’r ymyriad a phwy sydd (ac, yn bwysig, pwy sydd ddim) yn ei defnyddio ar hyn o bryd.
7.3 Dylid casglu profiadau a) dioddefwyr-oroeswyr sy’n gysylltiedig â defnyddwyr gwasanaeth cyflawnwyr a b) defnyddwyr gwasanaeth cyflawnwyr a’u defnyddio fel ffynhonnell ddysgu. Dylai fod proses ac amserlen dryloyw ar gyfer casglu a myfyrio ar y wybodaeth hon o fewn timau (yn gymesur â maint y sefydliad).
7.4 Dylai ymyriadau presennol geisio cael eu gwerthuso’n allanol, a dylid gwerthuso ymyriadau’n annibynnol bob amser pan fydd dulliau newydd yn cael eu treialu. Dylai gwerthusiadau ddangos ymrwymiad i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyriadau cyflawnwyr, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer cyhoeddi canlyniadau/dysgu mynediad agored.
Mae llinyn cryf yn y llenyddiaeth academaidd ar ymyriadau cyflawnwyr, yn enwedig mewn perthynas â cham-drin domestig, ynglŷn â monitro arfer fel llwybr i sicrhau bod safonau gofynnol yn cael eu bodloni drwy roi sylw i ansawdd ac atebolrwydd (Morrison et al., 2019a; Westmarland a Zilkova, 2022). Mae achredu yn darparu llwybr i sicrhau bod safonau’n cael eu bodloni, a bod ansawdd yn cael ei gynnal dros amser. Ar yr un pryd, dylai sefydliadau fod yn defnyddio eu data monitro eu hunain fel ffynhonnell ar gyfer myfyrio a dysgu: pwy sy’n ymgymryd â’r ymyriad a phwy sydd ddim; cyfraddau ymgysylltu a chwblhau; pa bynciau sy’n ffynonellau mewnwelediad a her; y rhyngwyneb rhwng gwaith cyflawnwyr a chefnogaeth i ddioddefwyr-oroeswyr.
O ystyried y sylfaen wybodaeth gyfyngedig am ymyriadau cyflawnwyr trais yn erbyn menywod a merched, ond yn enwedig ar hyn o bryd ar stelcio, dylid sicrhau ei bod hi’n ofyniad craidd ar gyfer unrhyw ymyriad a ariennir bod y data monitro hwn yn gywir ac y gellir ei ddefnyddio i gyfrannu at y sylfaen dystiolaeth. Cydnabuwyd hyn mewn adroddiad diweddar gan Gymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ar ymyriadau cyflawnwyr stelcio a cham-drin domestig (APCC, 2025) yn ogystal â chan ymarferwyr yn yr ymchwil hon.
Mae angen i ni gydnabod bod angen i ni barhau i adeiladu sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyriadau stelcio a’r hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio. Ac rwy’n credu bod hyn bron yn alwad i wella ein gwaith casglu data ar draws y bwrdd. Felly, dydw i ddim yn credu bod gennym ni gymaint o dystiolaeth o amgylch ymyriadau i gyflawnwyr stelcio ag sydd gennym ni o bosibl ar gyfer cam-drin domestig. Felly, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig cydnabod bod angen adeiladu’r sylfaen dystiolaeth honno o hyd. (Sector stelcio, Set ddysgu weithredol)
Cafodd gefnogaeth gref hefyd yn yr arolwg lle’r oedd 32 o 33 o’r ymatebwyr yn ystyried bod y safon hon yn bwysig ar gyfer stelcio a cham-drin domestig. Felly mae casglu data cywir a chyflawn ar gyfer ymyriadau yn ofyniad gweinyddol ac yn agwedd foesegol bwysig ar y gwaith y mae angen ei ariannu.
Er y dylid casglu data monitro ar gyfer pob ymyriad, efallai y bydd rhai hefyd yn elwa o werthusiad allanol, annibynnol. Mae gwerthusiad annibynnol yn cynnig y posibilrwydd o gymryd golwg ffres ar ymyriadau a modelau, cael safbwyntiau allanol ar ba mor bell y mae’r model gwaith yn cael ei weithredu, a yw’n cael ei wneud yn deg, a lle mae bylchau a meysydd i’w gwella. Ymrwymodd yr APCC (2025) i hwyluso rhannu gwerthusiadau o ymyriadau i gyflawnwyr stelcio a cham-drin domestig gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu (PCCs). O ystyried cyhoeddiad y llywodraeth y bydd PCCs yn cael eu diddymu erbyn 2028, mae’n bwysig bod beth bynnag sy’n disodli’r APCC yn mynd i’r afael â’r ymrwymiad hwn.
Wedi dweud hyn, ni fydd pob ymyriad yn barod ar gyfer asesiad allanol neu â’r gallu i ymgysylltu ag asesiad allanol. O ystyried nifer y bylchau a’r meysydd i’w gwella, mae angen bod â lle ar gyfer dulliau arloesol. Dylai gwerthusiad annibynnol a damcaniaeth newid fod ar waith bob amser ar gyfer dulliau arloesol newydd, gyda phwyslais deuol ar a ydynt nid yn unig yn arferion effeithiol ond hefyd yn ddiogel. Mae cael cynllun gwerthuso a darparu canlyniadau gwerthuso wedi’i amlygu fel elfen bwysig o fewn yr Egwyddorion ar gyfer Ymyriad Effeithiol (Bonta ac Andrews, 2017). Yr allwedd i hyn yw datblygu dealltwriaeth eang o’r hyn sy’n cyfrif fel ‘llwyddiant’, megis y chwe mesur llwyddiant ar gyfer ymyriadau cyflawnwyr cam-drin domestig a ddatblygwyd yn rhan o Brosiect Mirabal neu Brosiect IMPACT a ariannwyd gan yr UE a gynhyrchodd y pecyn cymorth Effaith a Chanlyniad.
Atodiad 1 Restr Wirio Safonau a Chanllawiau
Dylid defnyddio’r rhestr wirio hon ar y cyd â’r Safonau ar gyfer Ymyriadau i Gyflawnwyr Cam-drin Domestig a Stelcio. Mae wedi’i chynllunio fel offeryn opsiynol i helpu’r broses o wneud penderfyniadau gan gomisiynwyr a darparwyr gwasanaethau.
Gellid graddio pob eitem yn y golofn dde – 1 (heb ei chyflawni), 2 (wedi’i chyflawni’n rhannol), 3 (wedi’i chyflawni’n llawn). Mae unrhyw eitemau sydd wedi’u graddio’n 1 yn dangos nad yw’r gwasanaeth wedi bodloni’r Safonau. Nid oes angen defnyddio’r rhestr wirio hon ar gyfer defnydd y Safonau eu hunain.
Ffigur 1: Rhestr wirio ar gyfer ymyriadau i gyflawnwyr stelcio a cham-drin domestig
Safon 1: Y canlyniad ddylai gael blaenoriaeth mewn ymyriadau i gyflawnwyr yw cynyddu diogelwch a rhyddid (lle i weithredu) yr holl ddioddefwyr-oroeswyr, gan gynnwys plant.
| Safon ac arweiniad | Sgôr | |
|---|---|---|
| 1.1 | A yw rhesymeg ysgrifenedig yr ymyriad yn blaenoriaethu diogelwch a rhyddid dioddefwyr-oroeswyr yn eglur ac a yw hyn wedi’i gefnogi gan ei strwythur, ei weithdrefnau, a’i ganlyniadau bwriadedig? | |
| A oes protocol ysgrifenedig clir ar gyfer y ffordd y bydd yr ymyriad yn penderfynu a yw dioddefwr-oroeswr eisiau gwybod am fygythiad penodol a wneir i’w diogelwch, ac os oes angen sut y bydd hyn yn cael ei gyfleu? | ||
| 1.2 | A gynigir cymorth rhagweithiol, arbenigol i ddioddefwyr-oroeswyr sy’n cael ei arwain gan oroeswyr o ran amlder a dull cymorth ac a yw’n cael ei ddarparu gan aelod gwahanol o staff i’r staff sy’n gweithio gyda’r troseddwr? | |
| A oes tystiolaeth o weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau cymorth i ddioddefwyr ac ar eu rhan? | ||
| 1.3 | A yw gwybodaeth glir, fesuradwy sy’n disgrifio’r ymyriad, ei chanlyniadau bwriadedig, a’i risgiau yn cael ei darparu i droseddwyr a dioddefwyr-oroeswyr mewn amrywiaeth o fformatau/ieithoedd? (yn berthnasol ar gyfer gwaith uniongyrchol yn unig) | |
| 1.4 | A oes system ar gyfer llinellau cyfathrebu clir a rheolaidd rhwng timau ymyriad cyflawnwyr a thimau cymorth dioddefwyr-oroeswyr i rannu gwybodaeth? | |
| A yw pwrpas rhannu gwybodaeth rhwng ymyriad cyflawnwyr a thimau cymorth dioddefwyr-oroeswyr yn glir ac yn gymesur? |
Safon 2: Dylid lleoli ymyriadau o fewn ymateb amlasiantaeth ehangach lle mae pob asiantaeth yn rhannu’r cyfrifoldeb am adnabod ymddygiad stelcio a cham-drin domestig, gan alluogi cyflawnwyr i newid a gwella diogelwch a rhyddid (lle i weithredu) dioddefwyr-oroeswyr.
| Safon ac arweiniad | Sgôr | |
|---|---|---|
| 2.1 | A oes tystiolaeth o bartneriaethau lleol cryf? | |
| 2.2 | A yw’r ymyriad wedi’i llywio gan dystiolaeth gyfredol? | |
| A oes gan y sefydliad sy’n darparu’r ymyriad hanes o ymateb i stelcio a/neu gam-drin domestig? | ||
| 2.3 | A oes disgwyliad y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu sy’n gyson â fframweithiau rheoleiddio proffesiynol perthnasol a dyletswyddau diogelu statudol? | |
| 2.4 | A yw’n glir bod y gefnogaeth i ddioddefwyr a goroeswyr o fewn cyd-destun amlasiantaeth yn gyfrinachol ac a oes prosesau clir ar gyfer pryd a sut y byddai pryder diogelu penodol yn cael ei rannu? | |
| 2.5 | A oes prosesau ar waith i atal yr asiantaeth sy’n cyfeirio rhag defnyddio atgyfeiriad fel rheswm i gau achosion? | |
| 2.6 | Os yw’r ymyriad yn cael ei darparu gan sefydliad anstatudol ar ran sefydliad statudol, a yw’n glir bod ystyriaeth wedi cael ei rhoi i’r holl ddyletswyddau cyfreithiol perthnasol? | |
| 2.7 | A yw’n glir bod yr ymyriad wedi ystyried (neu, lle bo’n berthnasol, wedi ennill) achrediad ac yn deall y Disgwyliadau Cenedlaethol? |
Safon 3: Dylai ymyriadau ganolbwyntio ar y cyflawnwr i’w galluogi i gymryd atebolrwydd am y niwed y maent wedi’i achosi, gan eu trin â pharch, a chynnig cyfleoedd iddynt ddewis newid
| Safon ac arweiniad | Sgôr | |
|---|---|---|
| 3.1 | A yw dull, prosesau a chanlyniadau disgwyliedig yr ymyriad yn galluogi atebolrwydd am y niwed y maent wedi’i achosi wrth eu trin gyda pharch fel unigolion? | |
| A yw dull a phrosesau’r ymyriad yn darparu cyfleoedd i gyflawnwyr ymddwyn yn wahanol? | ||
| 3.2 | A yw’r ymyriad yn dangos ffocws ar fynd i’r afael â chymhellion a phatrymau ymddygiad cyflawnwr fel y maent wedi eu llywio gan dystiolaeth gyfredol? | |
| 3.3 | Ar gyfer ymyriadau newid ymddygiad tymor hwy, a gynigir o leiaf 16 sesiwn wythnosol un-i-un (neu gyfwerth) neu 22 sesiwn gwaith grŵp? | |
| 3.4 | Ar gyfer ymyriadau newid ymddygiad gwaith grŵp, a ddefnyddir dau hwylusydd ac a oes tystiolaeth bod staff llai profiadol yn cael eu partneru â staff mwy profiadol? |
Safon 4: Dylid cynnig yr ymyriad cywir i’r bobl gywir ar yr amser cywir
| Safon ac arweiniad | Sgôr | |
|---|---|---|
| 4.1 | A oes gan yr ymyriad fodel gwaith ysgrifenedig sy’n nodi ei hamcanion, natur, cynnwys, a chanlyniadau bwriadedig, pa grwpiau o gyflawnwyr y mae’n briodol ar eu cyfer, a sut y bydd cefnogaeth i bob dioddefwr-oroeswr yn cael ei hintegreiddio? | |
| 4.2 | A yw prosesau asesu a ddefnyddir gan yr ymyriad: (a) yn galluogi adnabod risgiau a achosir gan y cyflawnwr a’u hymatebolrwydd i newid? (b) yn cydnabod bod risg yn ddeinamig a bod ganddynt fecanweithiau ar waith i ymateb i hyn? | |
| A oes gan yr ymyriad gynllun ar gyfer mynd i’r afael ag anghenion ychwanegol neu gymhleth os cânt eu hadnabod trwy asesiad, gan gynnwys trwy lwybrau atgyfeirio? | ||
| A oes proses glir ar gyfer dogfennu pob penderfyniad asesu ac a yw’r ddogfennaeth hon ar gael pan fo angen ar gyfer craffu gwrthrychol ac allanol? | ||
| 4.3 | A ystyrir cydweithio ag ymarferwyr medrus perthnasol pan fo angen addasu ar gyfer poblogaeth benodol o gyflawnwyr? | |
| 4.4 | A yw prosesau asesu’n galluogi adnabod y prif gyflawnwr? | |
| 4.5 | A oes prosesau ar waith i wneud asesiad gofalus o gymhelliant i gymryd rhan drwy gydol ymyriad? | |
| A oes trefniadau gwarchod ar waith i atal yr ymyriad rhag cael ei defnyddio fel llwybr i gynnal rheolaeth dros a/neu gysylltiad â dioddefwr-oroeswr gan gynnwys, lle bo’n berthnasol, ystyriaethau am stelcio trwy ddirprwy? | ||
| A oes gan yr ymyriad lwybr i asesu cyflawnwyr sydd ar hyn o bryd (neu sydd wedi bod yn ddiweddar) yn rhan o achosion llys teuluol yn annibynnol ar unrhyw asesiad neu argymhelliad gan asiantaeth atgyfeirio neu gyfreithiwr? | ||
| 4.6 | A oes llwybr atgyfeirio clir ar gyfer cyflawnwyr a allai fod yn ddioddefwyr trosedd arall? | |
| 4.7 | Yn yr achlysur prin lle ystyrir gwaith ar y cyd: (a) a yw hyn ar gyfer ymyriadau cam-drin domestig yn unig (b) a yw hyn yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r cyflawnwr fod wedi cwblhau gwaith newid ymddygiad a (c) a oes proses ar waith ar gyfer asesiadau addasrwydd pellach ar gyfer cyflawnwyr a dioddefwyr-oroeswyr? |
Safon 5: Dylid cyflwyno ymyriadau’n deg o ran nodweddion gwarchodedig sy’n croestorri ac yn gorgyffwrdd.
| Safon ac arweiniad | Sgôr | |
|---|---|---|
| 5.1 | A yw’r ymyriad yn cydnabod y gallai pobl o grwpiau lleiafrifol fod wedi profi rhwystrau ac anfanteision strwythurol lluosog, ac a oes gan yr ymyriad brosesau i gydnabod, archwilio a mynd i’r afael â’r rhain? | |
| 5.2 | A yw’r ymyriad yn archwilio sut mae amrywiadau mewn normau rhywedd, cenedlaethau a diwylliannol yn effeithio ar fecanweithiau tanategol stelcio a cham-drin domestig (e.e. hawl, obsesiwn, rheolaeth, gorfodaeth)? | |
| 5.3 | A yw’r ymyriad yn archwilio’r credoau unigol, teuluol ac ehangach sy’n caniatáu, yn cyfiawnhau neu’n lleihau cam-drin a stelcio ochr yn ochr â’r rhai nad ydynt yn ei gefnogi? | |
| 5.4 | A oes prosesau ar waith fel y gellir gwneud gwaith uniongyrchol (un-i-un a grŵp) ar gael i bobl y mae Saesneg yn ail iaith iddynt? |
Safon 6: Dylai ymyriadau sy’n canolbwyntio ar ffurf neu gyd-destun penodol o gyflawni gael eu cyflwyno gan staff sydd â sgiliau a chefnogaeth i ymateb i’r ffurf neu’r cyd-destun penodol hwnnw.
| Safon ac arweiniad | Sgôr | |
|---|---|---|
| 6.1 | A yw’r ymyriad yn cael ei chyflwyno a’i rheoli gan dîm sy’n ceisio adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu? | |
| 6.2 | A oes tystiolaeth bod gan staff ymyriad wybodaeth fanwl sy’n berthnasol i’r mathau o drosedd y maent yn gweithio â nhw a chyd-destun y troseddau hynny, yn ogystal â gwybodaeth ymarferol am ddiogelu a phrosesau amlasiantaeth? | |
| 6.3 | A yw staff ymyriad yn derbyn datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) yn rheolaidd? | |
| 6.4 | A yw’r holl staff sy’n ymwneud ag asesu risg wedi’u hyfforddi mewn offer ffurfio barn broffesiynol strwythuredig perthnasol a sut i’w defnyddio o fewn proses o ffurfio barn broffesiynol strwythuredig? | |
| 6.5 | A oes gan staff sy’n cyflwyno ymyriadau fynediad at oruchwyliaeth reoli llinell fewnol reolaidd? | |
| A oes gan yr holl staff fynediad at oruchwyliaeth glinigol allanol reolaidd o ansawdd uchel ac wedi’i hariannu, gan gynnwys staff sy’n cefnogi ond sydd ddim yn cyflwyno ymyriadau? | ||
| 6.6 | A oes systemau ar waith i sicrhau nad yw llwythi gwaith (ar gyfer gwaith cyflawnwyr a chefnogaeth i ddioddefwyr-oroeswyr) yn fwy na’r lefel y gellir ei chyflawni’n ddiogel, a’i chyflwyno’n deg, ar gyfer yr ymyriad penodol? | |
| 6.7 | A oes angen i’r holl staff sy’n cyflwyno ymyriad gael gwiriad DBS manylach? | |
| A yw’r ymyriad yn glir nad yw pobl sy’n cyflawni stelcio a/neu gam-drin domestig ar hyn o bryd yn rhan o gyflwyno ymyriadau i’r cyflawnwr a/neu’r dioddefwr-oroeswr? | ||
| Os yw unrhyw ran o’r ymyriad yn cael ei chyflwyno gan bobl sydd wedi cyflawni stelcio a/neu gam-drin domestig yn y gorffennol, a oes prosesau clir ar gyfer dangos tystiolaeth o newid personol ac ymddygiad sylweddol? |
Safon 7: Dylid monitro a gwerthuso ymyriadau i wella arferion ac ehangu’r sylfaen wybodaeth
| Safon ac arweiniad | Sgôr | |
|---|---|---|
| 7.1 | A oes prosesau ar waith ar gyfer cadw cofnodion clir a chyson, gan gynnwys mewn perthynas â phryderon risg/diogelu cynyddol? | |
| 7.2 | A oes prosesau ar waith ar gyfer casglu data cyson sy’n cynnwys canlyniadau sy’n berthnasol i’r ymyriad a phwy sy’n ei defnyddio a phwy sydd ddim? | |
| 7.3 | A yw profiadau a) dioddefwyr-oroeswyr sy’n gysylltiedig â defnyddwyr gwasanaeth cyflawnwyr a b) defnyddwyr gwasanaeth cyflawnwyr yn cael eu casglu a’u defnyddio fel ffynhonnell ddysgu? | |
| A oes proses ac amserlen eglur ar gyfer casglu a myfyrio ar y wybodaeth hon o fewn timau? | ||
| 7.4 | Os yw hwn yn ymyriad sy’n bodoli eisoes, a yw wedi ceisio gwerthusiad allanol ac a yw’r gwerthusiad hwn ar gael yn rhwydd? | |
| Os yw hwn yn ymyriad newydd neu’n ddull newydd o fewn ymyriad, a oes cynlluniau clir ar gyfer gwerthusiad annibynnol sydd ar gael yn rhwydd? |
Atodiad 2 Atodiad Technegol
Rhan A. Cefndir a chyd-destun
Mae’r atodiad hwn yn disgrifio’r dull a gymerwyd ar gyfer y prosiect hwn, a gomisiynwyd gan y Swyddfa Gartref, i ddatblygu set o Safonau ar gyfer ymyriadau yn erbyn cyflawnwyr stelcio a cham-drin domestig yng Nghymru a Lloegr. Dylid deall y Safonau yng nghyd-destun, neu ar y cyd â, chanllawiau perthnasol eraill y llywodraeth yn cynnwys y Canllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig, Y Canllawiau Statudol ar Ymddygiad Rheoli neu Orfodol, y Cynllun Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestig, y Datganiad Safbwynt Cefnogi Dioddefwyr Gwrywaidd, y Datganiad Disgwyliadau Cenedlaethol ar Drais yn Erbyn Menywod a Merched, a’r Strategaeth ar Drais yn Erbyn Menywod a Merched.
Mae rhai elfennau allweddol sydd wedi fframio’r meddwl wrth ddatblygu’r Safonau hyn, o dystiolaeth ymarferol a thystiolaeth academaidd. Yn gyntaf, ni ddylai’r Safonau hyn wrthdaro na bod mewn tensiwn â’r rhai sydd eisoes yn cael eu defnyddio’n helaeth yng Nghymru a Lloegr (fel y dangosir ym Mlwch 2 isod). Yn ail, dylent gael eu llywio gan ganfyddiadau’r adolygiad diweddar o raglenni ymyriad cyflawnwyr stelcio a cham-drin domestig a gomisiynwyd gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (PCCs) yng Nghymru a Lloegr (APCC, 2025). Yn drydydd, dylent ddysgu gwersi o’r ymchwil academaidd ar Safonau o awdurdodaethau eraill. Yn bedwerydd, dylent symud y tu hwnt i gyflawnwyr partner agos, mewn perthynas â stelcio a cham-drin domestig, a chynnwys ymyriadau y tu hwnt i waith grŵp newid ymddygiad, gan adleisio argraffiad cyntaf y Safonau. Yn olaf, dylid ystyried yr hyn a allai alluogi’r cyrhaeddiad ehangach i grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n dda gan y ddarpariaeth bresennol.
Blwch 2: Crynodeb o’r tair set o Safonau sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd yng Nghymru a Lloegr
- Panel Achredu a Chynghori Gwasanaethau Cywirol (CSAAP), sy’n cynnwys academyddion ac ymarferwyr arbenigol sy’n darparu cyngor achredu annibynnol i Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS) ar draws ystod o fathau o gyflawnwyr;
- Egwyddorion Parch a Safonau, sy’n benodol i gam-drin domestig;
- Safonau Gwasanaeth Cyflawnwyr Llywodraeth Cymru, y bwriedir iddynt fod yn berthnasol i ystod o fathau o drais yn erbyn menywod a merched, gan gynnwys trais rhywiol.
Mae gwahanol ddimensiynau i’w hystyried wrth ddatblygu Safonau sy’n mynd i’r afael â’r hyn a ystyrir ar hyn o bryd yn arfer ‘orau’, ‘diogel’ ac ‘effeithiol’. Yn rhyngwladol, mae’r sylfaen wybodaeth (Saesneg) ar gam-drin domestig yn tueddu’n fawr tuag at ymchwil ac arfer o’r Unol Daleithiau (ac i raddau llawer llai o Awstralia, Canada, y DU a Seland Newydd), a thuag at ymyriadau gwaith grŵp newid ymddygiad ar gyfer trais gan bartner agos. Yn ogystal, mae’r rhan fwyaf o samplau astudio yn cynnwys cyflawnwyr gwrywaidd gwyn, heterorywiol.
Un her benodol yn y gwaith hwn oedd cydbwyso’r angen am ddangos tystiolaeth ar gyfer Safonau yn hytrach na chael sylfaen athronyddol yn unig, gan gydnabod bod llawer o’r dystiolaeth ar gyfer ymyriadau penodol i stelcio yn dal i gael ei hadeiladu. Mae ‘Stelcio’ yn faes penodol cymharol newydd ar gyfer ymyriad. Yn rhyngwladol, daeth y cysyniad o stelcio i’r amlwg yn y 1990au (Giorgi-Guarnieri a Norko, 2007), ac yng Nghymru a Lloegr dim ond yn 2012 y daeth yn drosedd pan ddiwygiwyd Deddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997 i wneud stelcio’n drosedd. Yn unol â hynny, mae ymyriadau cyflawnwyr penodol i stelcio yng Nghymru a Lloegr yn gymharol ddiweddar, yn enwedig o’u cyferbynnu ag ymyriadau i gyflawnwyr cam-drin domestig, er ei bod hi’n ymddangos eu bod yn dilyn trywydd tebyg o ran datblygu sylfaen dystiolaeth.
Roedd llawer o’r papurau cynnar am Safonau ymyriad cyflawnwyr cam-drin domestig yn canolbwyntio ar ddadlau pam bod eu hangen. Roedd hyn yn cynnwys gwneud awgrymiadau arfer gorau ar gyfer eu datblygu (gan gynnwys gweithwyr cymunedol ac academyddion) ac amlinellu dadleuon cyfredol. Roedd pob un yn seiliedig ar ‘raglenni’ cyflawnwyr gwaith grŵp oedd yn deillio o’r Unol Daleithiau. Mae’r rhain yn sylweddol wahanol i ymyriadau cyflawnwyr stelcio, y mae tystiolaeth seiliedig ar ymarfer cyfredol o’r setiau dysgu gweithredol yn awgrymu y dylid eu cyflwyno ar sail un i un yn unig. Ceisiodd llawer o’r gwaith cam-drin domestig cynnar ddadlau, er bod manteision i gael Safonau gwladol, y dylid bod yn ofalus i beidio â’u gwneud yn rhy anhyblyg oherwydd bod y sylfaen wybodaeth ar yr hyn sy’n gweithio yn ei dyddiau cynnar o hyd. Mae’r pryderon cyfredol yn y sector stelcio yn debyg - er bod angen Safonau, os cânt eu gwneud yn rhy dynn, gallent gyfyngu ar arloesedd a datblygiad.
Mae’r sail dystiolaeth gyfredol ar gyfer ymyriadau cyflawnwyr stelcio yng Nghymru a Lloegr wedi’i chyfyngu’n sylweddol gan y ffaith bod y data a gesglir yn annigonol, er enghraifft nid yw’r data a gesglir yn gyfartal neu mae’r meintiau sampl yn fach oherwydd mai nifer isel o bobl sy’n manteisio ar y cynnig neu oherwydd athreuliad. Mae gwerthusiadau o’r Ymyriad Ymddygiad Gorfodol Obsesiynol (COBI), er enghraifft, yn tynnu ar ddata defnyddwyr gwasanaeth sy’n cynnwys 11 o droseddwyr a gwblhaodd yr ymyriad mewn un astudiaeth (Y Ganolfan Arloesi Cyhoeddus, 2025) ac un troseddwr yn unig mewn un arall (Makinde et al., 2025). Tynnodd astudiaeth o safleoedd peilot MASIP ar dystiolaeth gan chwe chyflawnwr (Jerath, Tompson, a Belur, 2022). Mae tystiolaeth o effeithiolrwydd hefyd wedi’i chyfyngu gan y diffyg cyllid ar gyfer mapio canlyniadau hirdymor. Er enghraifft, canfu gwerthusiad peilot MASIP ei bod hi’n rhy gynnar i bennu’r effaith ar aildroseddu (Tompson, Belur a Jerath, 2020). Ar adeg ysgrifennu, mae gwerthusiad newydd ei gyhoeddi o’r Ymyriad Stelcio Cymorth Cynnar (EASI) yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr (Spenser et al., 2025) yn mynd i’r afael â rhai o’r cyfyngiadau hyn gyda maint sampl mwy a mesuriad mwy tymor canolig o ganlyniadau. Fe wnaeth y gwerthusiad hwn ddod o hyd i ostyngiad mewn aildroseddu fel y cafodd ei fesur gan droseddau a gofnodwyd gan yr heddlu. Fodd bynnag, nododd yr awduron fod gan y grŵp ymyriad gyfraddau troseddu sylweddol is na’r grŵp cymharu i ddechrau gan fod yr ymyriad yn gynllun dargyfeiriol ar gyfer cyflawnwyr tro cyntaf sydd wedi cyfaddef eu bod yn euog. Gallai’r cymharydd gwael hwn gyfyngu ar faint yr honiadau y gellir eu gwneud am y gwahaniaethau a welwyd.
Er bod y sail dystiolaeth ar gam-drin domestig wedi datblygu’n fwy, mae diffygion sylweddol o hyd. Mae llenyddiaeth ryngwladol ar ymyriadau cyflawnwyr partner agos wedi cydnabod cyfyngiadau gan gynnwys mewn perthynas â pherthnasoedd o’r un rhyw, cyflawnwyr benywaidd, pobl ag anableddau, a grwpiau lleiafrifol. Nid yw’r cwmpas ehangach i ffurfiau o gam-drin teuluol a oedd yn ofynnol gan y Safonau wedi’i drin yn fanwl eto mewn ymchwil academaidd, er bod rhywfaint o’r bwlch hwn wedi’i lenwi gan argraffiad cyntaf y Safonau (Westmarland a Kelly, 2023) a geisiodd dynnu ar dystiolaeth seiliedig ar ymarfer. Ar y cyfan, mae’r llenyddiaeth yn dangos consensws bod ymchwil ar effeithiolrwydd ymyriadau cyflawnwyr partner agos yn parhau i fod heb ei ddatblygu’n ddigonol, yn fyd-eang, o ran yr hyn sydd fwyaf defnyddiol ac i bwy.
Nid yn unig y mae’r sail dystiolaeth yn dal i gael ei datblygu sy’n creu cyfyngiadau, mae’r maes ‘beth sy’n gweithio’ ei hun yn llawn dadleuon. Mae nifer gynyddol o astudiaethau yn y DU wedi dangos y gall rhaglenni cyflawnwyr cam-drin domestig gael effeithiau cadarnhaol, ac maen nhw’n gwneud hynny (Dobash et al., 1997; Kelly a Westmarland, 2015; Bloomfield a Dixon, 2015; Hester et al., 2019). Mae’r llenyddiaeth ymyriad stelcio gyfyngedig hefyd yn dangos llwybr addawol mewn rhai agweddau, yn enwedig o ran gallu adnabod stelcio’n well a chynnydd yn y cyfraddau cyhuddo (Tompson, Belur a Jerath, 2020; Belur, 2023), a gwell gweithrediad seicogymdeithasol (Spenser et al., 2025). Fel y dadleuwyd yn argraffiad cyntaf y Safonau, er mwyn symud y maes ymlaen mae angen i ni symud i ffwrdd o’r cwestiwn byd-eang ‘a ydyn nhw’n gweithio’ i ddealltwriaeth fwy realistig o sut a pham mae gwahanol ymyriadau’n gweithio, a chyda pha grwpiau o gyflawnwyr. Mae gan lawer o’r astudiaethau arddull ‘a ydyn nhw’n gweithio’ gyfyngiadau sylweddol nad ydynt yn hawdd eu goresgyn wrth weithio gyda’r poblogaethau hyn, yn cynnwys lefelau uchel o athreuliad sampl ymchwil a chyfraddau cyfranogiad isel gan ddioddefwyr-oroeswyr.
Mae’r sail dystiolaeth gyfyngedig ar gyfer stelcio, yn ogystal â’r sail dystiolaeth brin ar gyfer ymyriadau cyflawnwyr cam-drin domestig, yn enwedig pan ystyriwn Gymru a Lloegr, yn golygu y byddai’n rhy gynnar gosod set rhy lym o Safonau ar ymyriadau cyflawnwyr. Rhaid bod lle i arloesi a datblygu, ond gyda gofyniad bod ymyriadau’n ceisio ehangu’r sail dystiolaeth fel y gall fersiynau yn y dyfodol o’r Safonau hyn eu seilio eu hunain yn gadarnach ar sail dystiolaeth gyhoeddedig.
Rhan B. Diffinio termau allweddol
Gan fod y Safonau hyn wedi’u comisiynu gan y Swyddfa Gartref, maent yn dilyn y diffiniad o gam-drin domestig a gynhwysir yn Neddf Cam-drin Domestig Act 2021.[footnote 5] Nid yw cam-drin domestig fel y mae wedi’i ddiffinio yn y Ddeddf yn fath o drosedd ynddo’i hun. Yn hytrach, mae’n gyd-destun ar gyfer ystod o fathau o droseddau (gan gynnwys stelcio), a gyflawnir gan ystod o droseddwyr. Mae hyn yn golygu eu bod yn cynnwys nid yn unig trais gan bartner agos, ond hefyd trais a cham-drin arall lle mae’r dioddefwr a’r troseddwr yn 16 oed neu’n hŷn ac yn gysylltiedig yn bersonol. Felly, mae trais neu gam-drin gan blentyn yn ei arddegau/oedolyn i riant (a elwir weithiau’n gam-drin rhyng-genhedlaeth) wedi’i gynnwys ond nid yw cam-drin gan blentyn (dan 16 oed) i riant wedi’i gynnwys. Er bod rhai mathau o gam-drin ar sail ‘anrhydedd’ a phriodas dan orfod hefyd wedi’u cynnwys, ychydig iawn o ymchwil neu dystiolaeth ymarferol sydd ar gael ar hyn o bryd ar ymyriadau cyflawnwyr yn y maes hwn, gan gynnwys gwaith gyda chyflawnwyr lluosog (Gangoli et al., 2024).
Mae stelcio yn fath o drosedd sy’n gallu digwydd mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Gall cyflawnwyr stelcio fod yn bartneriaid agos presennol neu gyn-bartneriaid neu’n aelodau o’r teulu, ond gallant hefyd fod yn gydweithwyr, myfyrwyr, cleifion, cleientiaid, cwsmeriaid, cydnabod, a dieithriaid. Mae ymchwil yn awgrymu bod o leiaf hanner yr holl droseddau stelcio yr adroddir amdanynt mewn arolygon yn digwydd y tu allan i berthynas agos flaenorol (gwelwch Kelly et al., 2026). Mae’n hanfodol bod ymyriadau i gyflawnwyr stelcio ar gael ar draws yr amrywiaeth o fathau o berthynas cyflawnwr-ddioddefwr, a bod y berthynas hon yn cael ei hasesu’n gywir cyn atgyfeirio ar gyfer ymyriad a chyflwyno ymyriad.
Mae’r drosedd stelcio wedi’i chynnwys mewn dwy drosedd a fewnosodwyd yn Neddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997 (Deddf 1997) yn 2012:
- Mae Adran 2A o Ddeddf 1997 yn creu trosedd o weithredu math o ymddygiad sy’n gyfystyr â stelcio.
- Mae Adran 4A o Ddeddf 1997 yn creu trosedd fwy difrifol o weithredu math o ymddygiad sy’n gyfystyr â stelcio ac sy’n achosi i’r dioddefwr ofni, ar o leiaf ddau achlysur, y bydd trais yn cael ei ddefnyddio yn eu herbyn neu’n achosi braw neu ofid difrifol i’r dioddefwr sy’n cael effaith andwyol sylweddol ar eu gweithgareddau dyddiol arferol.
Fel y dangosir uchod, er ei fod yn cael ei gydnabod fel math penodol o drosedd, nid oes diffiniad cyfreithiol na statudol o’r hyn sy’n gyfystyr â stelcio. Mae Adran 2A yn rhoi enghreifftiau o rai gweithredoedd cyffredin sy’n gysylltiedig â stelcio, fel dilyn person, cysylltu â pherson neu geisio cysylltu â pherson drwy unrhyw fodd, ond nid yw’r rhain yn weithredoedd sy’n benodol i stelcio yn unig, ac nid ydynt yn droseddau ym mhob cyd-destun. Mae diffiniadau o stelcio yn y llenyddiaeth yn gyffredin yn ei gysyniadoli fel “cyswllt ailadroddus, digroeso, sy’n achosi gofid a/neu ofn i’r derbynnydd” (Korkodeilou, 2016; McEwan, Harder, Brandt, a de Vogel, 2020), gyda Belur et al (2024: 2) yn datgan bod hyn yn golygu ei fod wedi’i “ddiffinio gan y dioddefwr, yn benodol i’r cyd-destun, ac o ganlyniad, mae’n anodd ei adnabod”.
Mae’r amwysedd diffiniadol hwn o stelcio wedi creu dryswch rhwng stelcio a throseddau ymddygiad eraill ac mae’n rhan o’r rheswm dros adolygiad deddfwriaethol o stelcio, y disgwylir ei gwblhau yn 2026 (Y Swyddfa Gartref, 2026). O ystyried nad oedd yr adolygiad terfynol yn gyhoeddus ar adeg ysgrifennu’r Safonau hyn, nid ydym wedi gallu ymgorffori ei ganfyddiadau yma.
Rhan C. Dulliau ymchwilio
Mabwysiadodd y prosiect hwn agwedd â ffocws ar ymgysylltiad oedd yn defnyddio gwahanol ddulliau i gasglu amrywiaeth o dystiolaeth feintiol ac ansoddol i lywio datblygiad Safonau ar gyfer cyflawnwyr cam-drin domestig a chyflawnwyr stelcio o fewn cyfyngiadau amserlen fer. Roedd defnyddio dulliau cymysg yn hanfodol i roi darlun mor gynhwysfawr â phosibl o dirwedd bresennol ymyriadau i gyflawnwyr stelcio yng Nghymru a Lloegr ac ymdrin â’r gwahanol ofynion yn y briff ymchwil. Roedd y rhain yn cynnwys: mapio gwasanaethau ymyriadau i gyflawnwyr cam-drin domestig a chyflawnwyr stelcio presennol yng Nghymru a Lloegr; archwilio’r sail dystiolaeth gyfredol ar gyfer y rhaglenni hyn; nodi enghreifftiau rhyngwladol o arfer gorau; mynd i’r afael â bylchau yn y sail dystiolaeth; adolygu sut roedd Safonau presennol y Swyddfa Gartref ar gyfer ymyriadau cyflawnwyr cam-drin domestig yn gweithredu a sut y gellid eu gwella.
Roedd y dyluniad aml-ddull yn gyflenwol, sy’n golygu y gallai gwahanol ddulliau lenwi bylchau, gwella dealltwriaeth neu fynd i’r afael ag elfennau penodol o’r dasg ymchwil. Cyn belled ag y bo modd o fewn yr amserlen, trefnwyd y gweithgareddau ymchwil yn olynol i sicrhau y gallai pob un adeiladu ar y blaenorol, gan helpu i oresgyn bylchau a chyfyngiadau a siapio pynciau trafod. Dechreuon ni gydag adolygiad o’r llenyddiaeth academaidd a llwyd i nodi tystiolaeth gyhoeddedig. Er bod y sylfaen dystiolaeth ryngwladol ar ymyriadau cyflawnwyr cam-drin domestig yn helaeth, ar ôl datblygu dros sawl degawd, mae’r un ar ymyriadau stelcio yn llawer mwy cyfyngedig. Nid yw’r cyfan ohoni wedi’i chynnwys mewn llenyddiaeth gyhoeddedig, a dim ond cyfran fach o hyn sy’n canolbwyntio ar ymyriadau sy’n gweithredu’n benodol yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod stelcio fel maes yn gymharol newydd. Roedd hyn yn golygu ei bod hi’n angenrheidiol harneisio gwybodaeth seiliedig ar ymarfer gan y rhai sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda chyflawnwyr stelcio a dioddefwyr-oroeswyr a chyfuno hyn â’r llenyddiaeth gyhoeddedig i ehangu’r ystod o dystiolaeth sydd ar gael.
Felly, dilynwyd yr adolygiad llenyddiaeth gydag adolygiad cwmpasu o ymyriadau presennol yng Nghymru a Lloegr i sicrhau bod gwybodaeth am gynifer o ymyriadau lleol â phosibl yn cael ei chasglu. Yna archwiliodd arolwg gyda chomisiynwyr ac ymarferwyr sut roedd y Safonau cam-drin domestig presennol yn gweithio, yn ogystal â chasglu gwybodaeth ychwanegol am ymyriadau cyfredol. Defnyddiwyd setiau dysgu gweithredol wedi hynny i drafod a mireinio’r Safonau oedd yn dod i’r amlwg, yn ogystal â gweithio drwy ganfyddiadau allweddol o’r dystiolaeth, archwilio tensiynau a bylchau gwybodaeth, a thrwy hynny ategu’r sylfaen wybodaeth academaidd. Yn olaf, adolygodd dau banel goroeswyr (a fynychwyd gan saith menyw) y drafft terfynol a rhoi mewnbwn o’u safbwynt hwy.
Yn ogystal, fe wnaethom adeiladu ar y dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer y Safonau blaenorol ar ymyriadau cyflawnwyr cam-drin domestig, a oedd yn cynnwys adolygiad cyflym o’r llenyddiaeth ar ymyriadau, Safonau o bob cwr o’r byd, ac ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid (cyfanswm o 297 o ymarferwyr a llunwyr polisi, wyth dioddefwr-oroeswr a saith cyflawnwr a oedd wedi cael mynediad at ymyriadau). Arweiniodd dau o’n tîm prosiect presennol ar y gwaith cynharach hwnnw ac roeddent yn gallu rhoi esboniad manwl o’r hyn a ganfuwyd, yn ogystal ag unrhyw fylchau oedd yn weddill.
Un o gryfderau allweddol y dull methodolegol hwn oedd dwyn data gwahanol ynghyd i archwilio pynciau tebyg, gan alluogi triongli canfyddiadau a chorff cynhwysfawr o dystiolaeth. Gan mai dim ond darlun rhannol y gallai’r llenyddiaeth gyhoeddedig ei ddarparu, yn enwedig o stelcio, bu mewnwelediadau gweithwyr proffesiynol o gymorth i sicrhau bod hyn wedi’i siapio gan arferion cyfoes. Mae cyfyngiadau’n cynnwys mynediad at lenyddiaeth Saesneg yn unig a goruchafiaeth astudiaethau yn yr Unol Daleithiau o fewn hyn, yn ogystal ag amserlen fer ar gyfer y gwaith a chapasiti cyfyngedig o fewn y sector sy’n effeithio ar rywfaint o ymgysylltiad, yn enwedig ar gyfer sefydliadau trydydd sector llai ac arbenigol.
Mae disgrifiad isod o bob cydran. Rhoddwyd cymeradwyaeth foesegol gan Banel Adolygu Moeseg Ymchwil Prifysgol Metropolitan Llundain a oedd yn cwmpasu pob llinyn o’r astudiaeth.
Adolygiad cwmpasu cyflym
Cynhaliwyd adolygiad cwmpasu cyflym (Arksey ac O’Malley, 2005) o lenyddiaeth academaidd a llwyd ar natur ac effeithiolrwydd ymyriadau i gyflawnwyr stelcio, yn rhyngwladol ac yng Nghymru a Lloegr. Daethpwyd o hyd i lenyddiaeth berthnasol trwy chwilio dwy gronfa ddata academaidd: EBSCO (sy’n cwmpasu sawl cronfa ddata ymchwil, fel PsycINFO a PubMed) a Google Scholar i sicrhau bod llenyddiaeth lwyd hefyd yn cael ei chynnwys. Cyfyngwyd cyhoeddiadau i’r rhai a ysgrifennwyd yn Saesneg o 2010 ymlaen. Defnyddiwyd y termau chwilio (stelcio) + (cyflawnwyr NEU Troseddu* NEU Dan Amheuaeth) + (Ymyriad NEU rhaglen*) ar y ddwy gronfa ddata, gan arwain at nodi 859 o ffynonellau. Cynhaliwyd yr holl chwiliadau ym mis Tachwedd 2025. Ar ôl i’r canlyniadau a ddychwelwyd gael eu sgrinio gan ddau godiwr i sicrhau eu bod yn berthnasol a thynnu dyblygiadau, barnwyd bod 47 o eitemau yn addas i’w cynnwys. Nodwyd 26 o eitemau perthnasol ychwanegol trwy samplu caseg eira a thrafodaethau gydag arweinwyr prosiectau yn rhan o fapio ymyriadau (gwelwch Cwmpasu ymyriadau cyflawnwyr cyfredol).
Tynnwyd gwybodaeth allweddol am bob ffynhonnell a’i chofnodi mewn taenlen, yn cynnwys: manylion am gyhoeddi; y pwnc; y math o ddeunydd; p’un a oedd y ffocws ar gam-drin domestig, stelcio neu’r ddau; y math o astudiaeth; cefndir disgyblaethol; manylion sampl; prif ganfyddiadau; a chryfderau a chyfyngiadau’r darn. Cwblhawyd pro-forma naratif hefyd ar gyfer pob darn i dynnu nodiadau manylach allan.
Roedd asesiad tystiolaeth cyflym wedi’i gynnal eisoes o ymyriadau i gyflawnwyr cam-drin domestig wrth baratoi ar gyfer argraffiad blaenorol y Safonau (Westmarland a Kelly, 2023), gan gwmpasu llenyddiaeth hyd at ganol 2022. Gwnaethom dynnu ar y canfyddiadau hyn a’u hategu â thystiolaeth fwy diweddar trwy adolygu llenyddiaeth academaidd a llwyd ychwanegol a gyhoeddwyd o 2022 ymlaen. Darganfuwyd y rhain trwy gronfeydd data academaidd, rhwydweithiau ymarferwyr rhyngwladol, a chyflwyniad mewn cynhadledd ryngwladol.
Yn ogystal â hyn, roedd argraffiad cyntaf y Safonau ar gyfer ymyriadau cyflawnwyr cam-drin domestig yn cynnwys adolygiad o’r Safonau cyfredol ar gyfer ymyriadau i gyflawnwyr cam-drin domestig yn rhyngwladol (gweler Westmarland a Kelly, 2023). Drwy hyn, casglwyd 24 set o Safonau oedd yn bodoli, yn cwmpasu Cymru, y DU, Awstralia, llawer o daleithiau’r Unol Daleithiau, Canada, a rhai gwledydd Ewropeaidd. Llywiodd y gwaith hwn gynnwys a geiriad y Safonau a gynigiwyd ar y pryd, sydd hefyd wedi hysbysu cynnwys a rhywfaint o eiriad y Safonau presennol. Adolygwyd Fframwaith Polisi Cenedlaethol ar gyfer Ymyriadau (NFI) Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) hefyd a’r adroddiad diweddar gan Gymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ar raglenni ymyriad a gomisiynwyd i gyflawnwyr stelcio a cham-drin domestig.
Mapio gwasanaethau
I ategu’r sylfaen dystiolaeth gyfyngedig am ymyriadau i gyflawnwyr sy’n canolbwyntio ar stelcio yn y DU a bennwyd drwy’r adolygiad llenyddiaeth, aethom ati i gynnal ymarfer mapio gwasanaeth i sefydlu tirlun eang o ymyriadau i gyflawnwyr stelcio ar y pryd yng Nghymru a Lloegr.
Cyflawnwyd hyn drwy siarad ag arweinwyr prosiect o bob ymyriad i gyflawnwyr stelcio a ariannwyd gan Gronfa Ymyriadau i Gyflawnwyr Cam-drin Domestig a Stelcio’r Swyddfa Gartref. Nid cyfweliadau ffurfiol oedd y rhain, ond sgyrsiau manwl a anelwyd at ddeall cwmpas a sylfaen dystiolaeth waelodol yr ymyriadau a chasglu dogfennaeth gysylltiedig. Cyfunwyd hyn â chanfyddiadau o’r arolwg (isod) i gynhyrchu rhestr o bob ymyriad i gyflawnwyr oedd yn canolbwyntio ar stelcio yng Nghymru a Lloegr ar adeg yr ymchwil (Tabl 8).
Tabl 8: Ymyriadau penodol i gyflawnwyr stelcio fesul math a lleoliad
| Rhanbarth | Math o ymyriad |
|---|---|
| De-ddwyrain Lloegr | Rheolaeth achosion amlasiantaeth dwys |
| De-ddwyrain Lloegr | Newid ymddygiad tymor hirach |
| Dwyrain Lloegr | Rheolaeth achosion amlasiantaeth dwys |
| Dwyrain Lloegr | Rheolaeth achosion amlasiantaeth dwys |
| Llundain | Rheolaeth achosion amlasiantaeth dwys |
| Gogledd-ddwyrain Cymru | Rheolaeth achosion amlasiantaeth dwys |
| Gogledd-orllewin Cymru | Rheolaeth achosion amlasiantaeth dwys |
| De-orllewin Lloegr | Ymatebion cynnar, tymor byrrach |
| Cymru | Ymatebion cynnar, tymor byrrach |
| Gorllewin Canolbarth Lloegr | Ymatebion cynnar, tymor byrrach |
| Safleoedd amrywiol | Newid ymddygiad tymor hirach |
Roedd rhai o’r ymyriadau rheoli achosion amlasiantaeth dwys yn cynnwys cydrannau ymateb cynnar neu newid ymddygiad, er bod y ddarpariaeth gyffredinol yn un o reoli achosion. Lle bo modd, ychwanegwyd gwerthusiadau ar gyfer yr holl ymyriadau at yr eitemau a gasglwyd ac a adolygwyd yn rhan o’r adolygiad cwmpasu cyflym. Yn nodedig, roedd gan ddau o’r ymyriadau werthusiadau ar y gweill ar adeg yr ymchwil, a dim ond un ohonynt a welwyd gan ymchwilwyr cyn ysgrifennu’r adroddiad hwn (Spenser et al., 2025).
Roeddem hefyd eisiau sicrhau bod gennym ddealltwriaeth gyfredol o ddarpariaeth yr ymyriadau i gyflawnwyr cam-drin domestig. Rhoddodd Respect (y sefydliad ail-haen ar gyfer gwaith gyda chyflawnwyr cam-drin domestig yn y DU) wybodaeth i ni am yr holl raglenni ymyriad i gyflawnwyr y maent yn gwneud atgyfeiriadau iddynt trwy eu llinell gymorth genedlaethol. Cyfunwyd hyn â’r wybodaeth am ymyriadau i gyflawnwyr stelcio i greu trosolwg dangosol o’r ddarpariaeth bresennol, a gynlluniwyd i ganiatáu rhywfaint o gymhariaeth rhwng ymyriadau penodol i gyflawnwyr stelcio ac ymyriadau i gyflawnwyr cam-drin domestig, yn hytrach na darparu mapio systematig. Mae Tabl 9 isod yn dangos canlyniadau’r gymhariaeth ddaearyddol mewn darpariaeth.
Tabl 9: Cymhariaeth ranbarthol o ymyriadau penodol i gyflawnwyr stelcio a chyflawnwyr cam-drin domestig
| Ymyriad cam-drin domestig | Ymyriad penodol i stelcio | |
|---|---|---|
| Dwyrain Canolbarth Lloegr | 3 | 0 |
| Dwyrain Lloegr | 2 | 2 |
| De Orllewin Lloegr | 3 | 1 |
| Safleoedd Niferus | 4 | 2 |
| Cymru | 6 | 1 |
| Swydd Efrog a’r Humber | 7 | 0 |
| Gogledd Orllewin Lloegr | 7 | 1 |
| Gogledd Ddwyrain Lloegr | 7 | 1 |
| Llundain | 9 | 1 |
| Gorllewin Canolbarth Lloegr | 10 | 1 |
| De ddwyrain Lloegr | 10 | 2 |
Fel mae Tabl 9 yn ei ddangos, mae diffyg darpariaeth sylweddol o ran ymyriadau i gyflawnwyr stelcio’n benodol a chyflawnwyr cam-drin domestig ledled Cymru a Lloegr. Ar hyn o bryd nid oes darpariaeth osodedig o ymyriadau i gyflawnwyr stelcio’n benodol yn Nwyrain Canolbarth Lloegr (sef y pedwerydd rhanbarth mwyaf yn Lloegr) na Swydd Efrog a’r Humber (sef y chweched rhanbarth mwyaf yn Lloegr), er y gellir prynu darpariaeth aml-safle i’r ardaloedd hyn fesul achos. Er bod gan ranbarthau eraill ymyriadau stelcio, dim ond gyda stelcwyr yng nghyd-destun cam-drin domestig y mae dau o’r rhain (Cymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr) yn gweithio. Mae’r ddarpariaeth hefyd yn amrywio yn ôl math gyda’r rhan fwyaf o ymyriadau penodol i stelcio yn rheoli achosion amlasiantaeth dwys (yn aml gydag elfen newid ymddygiad ynddo) (gweler Tabl 8), o’i gymharu â’r ymyriadau newid ymddygiad tymor hwy sy’n nodweddu’r ymyriadau i droseddwyr cam-drin domestig a gynrychiolir uchod.
Fodd bynnag, mae’r trosolwg hwn yn gyfyngedig gan y gallai ymyriadau a oedd yn eu dyddiau cynnar neu’n llai adnabyddus neu – ar gyfer cam-drin domestig – ymyriadau nad ydynt wedi’u hachredu gan Respect fod wedi’u methu o ystyried cyfyngiadau amser y prosiect.
Arolwg ar gyfer OPCCs a sefydliadau’r trydydd sector
Crëwyd arolwg ar-lein gan ddefnyddio SurveyMonkey i: adolygu defnyddioldeb y Safonau presennol ymhlith sefydliadau sy’n eu defnyddio; archwilio canfyddiadau rhanddeiliaid o’u hyblygrwydd a’u perthnasedd ar gyfer ymyriadau i gyflawnwyr stelcio; a chasglu gwybodaeth am ymyriadau i gyflawnwyr stelcio oedd yn digwydd ar y pryd ledled Cymru a Lloegr.
Dosbarthwyd yr arolwg drwy sawl rhwydwaith i gasglu ymatebion o wahanol sectorau sy’n gweithio yn y meysydd stelcio a cham-drin domestig. Anfonwyd yr arolwg at bob OPCC a dderbyniodd gyllid drwy Gronfa Ymyriad Cyflawnwyr Cam-drin Domestig a Stelcio’r Swyddfa Gartref, gyda manylion cyswllt wedi’u cyflenwi gan y Swyddfa Gartref. Bwriad hyn oedd cynnwys y rhai a oedd wedi defnyddio’r Safonau ac a fyddai felly’n gallu darparu gwybodaeth am eu defnyddioldeb o safbwynt ariannu a chomisiynu. Gwahoddwyd sefydliadau sy’n darparu ymyriadau i gyflawnwyr sy’n canolbwyntio ar stelcio a cham-drin domestig drwy Respect i gymryd rhan hefyd er mwyn casglu barn am y Safonau o safbwynt y darparwr gwasanaeth, a’r Consortiwm Stelcio Cenedlaethol er mwyn cyrraedd ymyriadau cyflawnwyr stelcio yn uniongyrchol. Mae Tabl 10 yn dangos nifer yr ymatebwyr yn ôl y sector. Mae cynrychiolaeth dda o OPCCs ond llai o gyfranogiad gan sefydliadau trydydd sector sy’n benodol berthnasol i stelcio, er bod ymyriadau sy’n cael eu harwain gan yr heddlu, fel rhai ymyriadau rheoli achosion dwys, yn gallu cael eu cynnwys o dan ‘heddlu’.
Tabl 10: Ymatebwyr i’r arolwg fesul sector
Ymatebwyr i’r arolwg safonau (n=51)
| Respondent type | Number |
|---|---|
| Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu | 19 |
| Sefydliad cam-drin domestig trydydd sector | 12 |
| Sefydliad stelcio trydydd sector | 5 |
| HMPPS | 4 |
| Clinigol/iechyd | 4 |
| Heddlu | 3 |
| Corff cenedlaethol arall | 2 |
| Asiantaeth y Llywodraeth | 2 |
Cwblhawyd yr arolwg gan 51 o ymatebwyr i gyd, er nad atebodd pob ymatebydd bob cwestiwn. Er enghraifft, dim ond 33 atebodd y cwestiynau am gymhwysedd Safonau 1, 2, 4, 5, 6, a 7 i stelcio (gyda 32 yn ateb am gymhwysedd Safon 3), er bod y cwestiynau hyn yn agored i bawb. Nid oedd unrhyw batrymau clir yn amlwg i gyfrif am hyn. Nid yw’n bosibl cyfrifo cyfradd ymateb gan fod y gwahoddiadau wedi’u hanfon trwy’r rhwydweithiau mwy hyn, sy’n golygu na allwn ddweud at faint o bobl yn union y cawsent eu hanfon. Er mwyn cadw anhysbysrwydd, dim ond yn ôl sector a rhanbarth daearyddol y gwnaeth yr ymatebwyr eu hadnabod eu hunain, nid yn ôl enw’r sefydliad. Dyma hefyd y rheswm pam mae Tabl 10 yn dangos ymatebwyr yn ôl sector ond nid yn ôl rhanbarth hefyd gan y gellid adnabod pwy ydynt o hynny. Fodd bynnag, roedd cyfranogwyr o OPCCs a sefydliadau’r trydydd sector, y ddau grŵp mwyaf o ymatebwyr, yn cynrychioli wyth allan o’r deg rhanbarth yng Nghymru a Lloegr.
Setiau dysgu gweithredol
Ein nod oedd casglu gwybodaeth seiliedig ar ymarfer ac ymgysylltiad â phrosiectau drwy gyfres o setiau dysgu gweithredol a fynychwyd gan arbenigwyr ar draws y meysydd stelcio a cham-drin domestig. Roedd y rhain yn darparu fforwm lle gellid trafod a mireinio’r Safonau oedd yn dod i’r amlwg, gan sicrhau eu bod wedi’u seilio ar realiti ymarfer yn y maes hwn. Roedden nhw hefyd yn galluogi gweithio drwy bwyntiau trafod allweddol a gododd o’r dystiolaeth, ac archwilio tensiynau a bylchau yn y wybodaeth, a thrwy hynny ategu’r sylfaen wybodaeth academaidd.
Y rhai a wahoddwyd i gymryd rhan oedd ymarferwyr sy’n ymwneud â darparu ymyriadau i gyflawnwyr stelcio a/neu gam-drin domestig, gyda chynrychiolaeth o sefydliadau trydydd sector, yr heddlu, clinigwyr, a HMPPS. Dewiswyd cyfranogwyr drwy sefydliadau a ariannwyd gan Gronfa Cyflawnwyr Stelcio a Cham-drin Domestig y Swyddfa Gartref (2023-26), y Consortiwm Stelcio, y Swyddfa Gartref, a rhwydweithiau presennol y tîm ymchwil. Roedd lefel uchel o ymgysylltu ar draws y sectorau cyflawnwyr stelcio penodol a chyflawnwyr cam-drin domestig, gyda chynrychiolaeth ar draws y setiau dysgu gweithredol o bob un ond un o’r ymyriadau penodol i gyflawnwyr stelcio a nodwyd yn y mapio gwasanaeth, cyrff cam-drin domestig cenedlaethol, ac arbenigwyr mewn cam-drin domestig yn erbyn menywod a merched mewn lleiafrifoedd hiliol. Er bod yr ymgysylltiad wedi rhagori ar ddisgwyliadau, roedd cyfyngiadau amser ac adnoddau ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector yn golygu nad oedd pob sefydliad yn gallu bod yn bresennol ym mhob cyfarfod.
Sefydlwyd tair set ddysgu weithredol oedd wedi’u trefnu o amgylch gwahanol fathau o berthnasoedd rhwng y cyflawnwyr a’r dioddefwyr er mwyn sicrhau bod y trafodaethau’n adlewyrchu’r ystod o wahanol berthnasoedd ar gyfer stelcio a cham-drin domestig. Roedd ffocws un grŵp ar gyflawnwyr partneriaid agos, un arall ar gyflawnwyr hysbys yn cynnwys aelodau o’r teulu, a’r grŵp olaf ar gyflawnwyr oedd yn ddieithriaid. Neilltuwyd rhanddeiliaid i bob grŵp yn seiliedig ar eu harbenigedd mewn gweithio gyda’r perthnasoedd cyflawnwyr a dioddefwyr penodol hyn. Os oedd ganddynt brofiad perthnasol i fwy nag un set, roeddent yn gallu cymryd rhan mewn mwy nag un set neu ddewis pa set yr oeddent am gymryd rhan ynddi. Roedd pob set yn dair sesiwn dwy awr a gynhaliwyd ar-lein trwy Microsoft Teams rhwng Rhagfyr 2025 a Mawrth 2026. Recordiwyd pob un a chynhyrchwyd trawsgrifiadau.
Hwyluswyd y setiau dysgu gweithredol gan aelodau’r tîm ymchwil, a gwahoddwyd cyfranogwyr i gyflwyno tystiolaeth yn cefnogi eu cyfraniadau, lle bo’n berthnasol. Roedd y sesiwn gyntaf yn trafod materion diffiniadol, cyflwynodd argraffiad cyntaf y safonau ar gyfer ymyriadau i gyflawnwyr cam-drin domestig ac archwiliodd eu cymhwysedd i ymyriadau ar gyfer cyflawnwyr stelcio; roedd yr ail sesiwn yn canolbwyntio ar y safonau hynny lle’r oedd mwy o ansicrwydd neu ddiffyg consensws ac yn eu harchwilio’n fanylach; ac yn y sesiwn olaf gweithiwyd drwy’r safonau diwygiedig drafft. Roedd y cyfranogwyr yn gallu rhoi adborth ychwanegol ar eiriad y Safonau drafft drwy e-bost yn dilyn y sesiwn olaf.
Cynhyrchodd y setiau dysgu gweithredol ddeunydd cyfoethog a darparodd ofod prin i’r sectorau stelcio a cham-drin domestig archwilio pynciau ar y cyd, gan gynnwys meysydd sy’n gorgyffwrdd ac elfennau penodol yn eu gwaith yn ogystal â gwahaniaethau mewn safbwyntiau disgyblaethol, fframiau cysyniadol a therminoleg.
Ymgynghoriad â dioddefwyr-oroeswyr
Ar gyfer argraffiad cyntaf y safonau, ymgynghorwyd ag wyth dioddefwr-oroeswr camdriniaeth ddomestig mewn dwy sesiwn ar-lein oedd yn para awr. Ar gyfer yr ail argraffiad hwn, buom yn ymgynghori â saith cyfranogwr arall (dau weithiwr cymorth a phump dioddefwr-oroeswr stelcio – rhai o fewn cyd-destun cam-drin domestig ar ôl gwahanu a rhai heb berthynas flaenorol). Archwiliodd y paneli brofiadau cyfranogwyr gydag ymyriadau cyflawnwyr, yr hyn y byddent eisiau/angen ei wybod o ymyriadau o’r fath, a phob un o’r safonau lefel uchel. Un o gyfyngiadau’r astudiaeth hon yw’r nifer isel o ddioddefwyr-oroeswyr y llwyddom i ymgysylltu â nhw o fewn yr amser gofynnol. Rydym yn ddiolchgar i Rwydwaith Goroeswyr Cymorth i Fenywod Cymru, Paladin, ac Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh am alluogi’r ymgynghoriad hwn. Cafodd y cyfranogwyr eu digolledu am eu hamser.
Atodiad 3 Cyfeiriadau
Almeida, R. a Dolan-Delvecchio, K. (1999) Addressing culture in batterers intervention: The Asian Indian community as an illustrative example, Violence Against Women, 5(6), tt. 654–683.
Almeida, R., Woods Messineo, T. a Font, R. (1998) The Cultural Context Model: A Socioeducational Approach to Family Intervention, in McGoldrick, M. (Gol.) Re-Visioning Family Therapy: Culture, Class, Race, a Gender. Efrog Newydd: Guilford Publication.
APCC (2025) APCC Report: Perpetrator Intervention Programmes. London: Association of Police a Crime Commissioners. Ar gael yn: https://www.apccs.police.uk/member-resources/resources/apcc-report-perpetrator-intervention-programmes [cyrchwyd 29ain Ebrill, 2026]
Arias, E., Arce, R. a Vilariño, M. (2013) Batterer intervention programmes: A meta-analytic review of effectiveness, Psychosocial Intervention, 22(2), tt. 153–160.
Arksey, H. a O’Malley, L. (2005) Scoping studies: towards a methodological framework. International journal of social research methodology, 8(1), tt.19-32.
Austin, J. B., a Dankwort, J. (1999) Standards for Batterer Programs: A Review and Analysis: A Review and Analysis. Journal of Interpersonal Violence, 14(2), 152-168.
Aymer, S. (2011) A case for including the “lived experience” of African American men in batterers’ treatment, Journal of African American Studies, 15(3), tt. 352–366.
Babcock, J., Green, C. a Robie, C. (2004) Does batterers’ treatment work? A meta-analytic review of domestic violence treatment, Clinical Psychology Review, 23(8), tt. 1023–1053.
Babcock, J., Armenti, N., Cannon, C., Lauve-Moon, K., Buttell, F., Ferreira, R., Cantos, A., Hamel, J., Kelly, D. a Jordan, C. (2016) Domestic violence perpetrator programs: A proposal for evidence-based Standards in the United States, Partner Abuse, 7(4), tt. 355–460.
Baciu, A. a Worthington, R. (2025) Is there a link between neurodiversity and stalking? A systematic review, The Journal of Forensic Practice, 27(2). doi: 10.1108/JFP-01-2024-0001.
Bhanbhro, S., Cronin De Chavez, A. a Lusambili, A. (2016) Honour based violence as a global public health problem: a critical review of literature. International Journal of Human Rights in Healthcare, 9(3), tt.198-215.
Begun, A. L., Shelley, G., Strodthoff, T., & Short, L. (2001). Adopting and Stages of Change Approach for Individuals Who Are Violent with Their Intimate Partners. Journal of Aggression, Maltreatment & Trauma, 5(2), 105–127. DOI: 10.1300/J146v05n02_07
Bellini, R. a Westmarland, N. (2021) A problem solved is a problem created: the opportunities and challenges associated with an online domestic violence perpetrator programme. Journal of gender-based violence, 5(3), tt. 499-515.
Belur, J., Tompson, L. a Jerath, K. (2024) ‘A theory of change driven approach to evaluating a multi-agency stalking intervention programme’, Journal of Criminal Justice, 92, Erthygl 102195. DOI: 10.1016/j.jcrimjus.2024.102195.
Bloomfield, S. a Dixon, L. (2015) An Outcome Evaluation of the Integrated Domestic Abuse Programme (IDAP) a Community Domestic Violence Programme (CDVP). Llundain: NOMS. Ar gael yn https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/449008/outcome-evaluation-idap-cdvp.pdf [cyrchwyd 29ain Ebrill, 2026]
Bolton, K.W., Hall, J.C., Lehmann, P., Wilkins, M. a Jordan, C., (2022) Strength‐based batter intervention programs for intimate partner violence. Facilitating desistance from aggression a crime: Theory, research, and strength‐based practice, tt. 397-416.
Bonta, J. a Andrews, D. A. (2017) The Psychology of Criminal Conduct. 6ed argraffiad. Efrog Newydd: Routledge.
Brooks, N., Petherick, W., Kannan, A., Stapleton, P., & Davidson, S. (2021). Understanding female-perpetrated stalking. Journal of Threat Assessment a Management, 8(3), 65-76. DOI: 10.1037/tam0000162
Cannon, C. a Buttell, F. (2016) The social construction of roles in intimate partner violence: Is the victim/perpetrator model the only viable one?, Journal of Family Violence, 31(8), tt. 967–971.
Cantos, A. L. a O’Leary, K. D. (2014) One size does not fit all in treatment of intimate partner violence, Partner Abuse, 5(2), tt. 204–236.
Carlisle, S., Bunce, A., Prina, M., McManus, S., Barbosa, E., Feder, G. a Lewis, N.V., (2025) Effectiveness of UK-based support interventions and services aimed at adults who have experienced or used domestic and sexual violence and abuse: a systematic review and meta-analysis. BMC Public Health, 25(1), doi: 10.1186/s12889-025-21891-5
Cleaver, K., Maras, P., Oram, C. a McCallum, K., (2019) A review of UK based multi-agency approaches to early intervention in domestic abuse: Lessons to be learnt from existing evaluation studies. Aggression a violent behavior, 46, tt. 140-155.
College of Policing, HMICFRS a IOPC (2024) Super-complaint on the police response to stalking. London: College of Policing, His Majesty’s Inspectorate of Constabulary and Fire and Rescue Services, and Independent Office for Police Conduct. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/super-complaint-on-the-police-response-to-stalking
Dobash, R. P., Dobash, R., Cavanagh, K. a Lewis, R. (1997) A Research Evaluation of British Programmes for Violent Men, Journal of Social Policy, 28(2), tt. 205–233.
Evans, B. a Robertson, P. (2021) Supervision Resource Guide: Supervising Men’s Domestic Violence Perpetrator Intervention Group Programs. Brisbane: Brisbane Domestic Violence Service — Micah Projects.
Flasch, P., Haiyasos, M., Fall, K., Evans, K., Dunlap, C. a Nesichi, T. (2021) State Standards for Batterer Intervention Programs: A Content Analysis, Violence and Victims, 36(6), tt. 683–705.
Franchino-Olsen, H. a Chesworth, B., (2024) Document review of state practice Standards for batterer intervention programs in the United States. Aggression a Violent Behavior, 77, DOI: 10.1016/j.avb.2024.101941
Edwards, K.M., Camp, E.E., Lim, S., Logan, T.K., Shorey, R.C. a Babchuk, W., (2022) Stalking among sexual and gender minorities: A systematic literature review. Aggression a violent behavior, 66, DOI: 10.1016/j.avb.2022.101777
Gangoli, G., Donovan, C., Gill, A. K., Butterby, K., Dhir, A., a Regan, S. (2024) Understanding family abuse: an intersectional approach to prevention a addressing family abuse perpetrators. Journal of Gender-Based Violence (published online ahead of print 2024). Cyrchwyd Ebrill 30, 2026, o https://doi.org/10.1332/23986808Y2024D000000054
Gill, A., (2010) Reconfiguring ‘honour’-based violence as a form of gendered violence. In Honour, violence, women and Islam, tt. 226-239. Routledge-Cavendish
Giorgi-Guarnieri, D. a Norko, M.A. (2007) Stalking: introduction, definition, and epidemiology. Yn Pinals, D. (Gol.) Stalking: Psychiatric Perspectives and Practical Approaches. Efrog Newydd: Oxford University Press, tt. 3-23.
Grealy, C., Wallace, A., Wilczynski, A., Lai, S., Bodiam, T., Dowler, B. a Jones, L. (2013) Literature Review on Domestic Violence Perpetrators. Melbourne: Urbis Pty Ltd.
Hampshire and Isle of Wight Multi-Agency Stalking Partnership (2026) Standards for Interventions with Perpetrators of Stalking (March 20, 2026). Ar gael yn: SSRN: https://ssrn.com/abstract=6468998 [cyrchwyd 29ain Ebrill, 2026]
Harvie, P., & Manzi, T. (2011) Interpreting multi-agency partnerships: Ideology, discourse and domestic violence. Social & Legal Studies, 20(1), tt. 79-95.
Hester, M., Eisenstadt, N., Ortega-Avila, A., Morgan, K., Walker, S. a Bell, J. (2019) Evaluation of the Drive Project – A Three-year Pilot to Address High-risk, High-harm Perpetrators of Domestic Abuse. Bryste: Prifysgol Bryste.
Home Office (2022) Violence against Women and Girls National Statement of Expectations. Llundain: Swyddfa Gartref. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/violence-against-women-and-girls-national-statement-of-expectations-and-commissioning-toolkit/violence-against-women-and-girls-national-statement-of-expectations-accessible
Home Office (2026) Stalking Legislation Review: Terms of Reference. Llundain: Y Swyddfa Gartref. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/stalking-legislation-review-terms-of-reference/stalking-legislation-review-terms-of-reference [cyrchwyd 29ain Ebrill, 2026]
Humphreys, C., Hester, M., Hague, G., Mullender, A., Abrahams, H. a Lowe, P. (2000) From Good Intentions to Good Practice: Mapping Services with Families Where There is Domestic Violence. Bryste: Policy Press.
James, D.V., Farnham, F.R. a Wilson, S.P., (2010) The Fixated Threat Assessment Centre: Implementing a joint policing a psychiatric approach to risk assessment and management in public figure threat cases. International handbook of threat assessment, tt. 299-320.
Jeffner, S. (2000) Different space for action: The everyday meaning of young people’s perception of rape. Cyflwyniad yn Seminar Cyfadran ESS, Prifysgol Gogledd Llundain, Mai.
Jerath, K., Thomson, L. a Belur, J. (2023) Treating and managing stalking offenders: findings from a multi-agency clinical intervention, Psychology, Crime and Law, 29(10), tt. 1161–1184. doi: 10.1080/1068316X.2022.2057981.
Kelly, L. (2003) Fertile fields Trafficking of People in Central Asia: A report, International Migration Organisation. Ar gael yn: https://publications.iom.int/books/fertile-fields-trafficking-persons-central-asia [cyrchwyd 29ain Ebrill, 2026]
Kelly, L. a Westmarland, N. (2015) Domestic Violence Perpetrator Programmes: Steps Towards Change. Llundain: Prifysgol Metropolitan Llundain.
Kelly, L., et al (2026) Risk Report [y cyfeiriad i gael ei ychwanegu unwaith y bydd wedi ei gyflwyno]
Korkodeilou, J. (2016) Stalking victims, victims of sexual violence and criminal justice system responses: Is there a difference or just “business as usual”?, British Journal of Criminology, 56(2), tt. 256–273. doi: 10.1093/bjc/azv054.
Lehmann, P. a Simmons, C. (2009) Strengths-based Batterer Intervention: A New Paradigm in Ending Family Violence. Efrog Newydd: Springer Publishing Company.
Lundgren, E. (1998). The hand that strikes and comforts: Gender construction and the tension between body and symbol. Yn R. E. Dobash & R. P. Dobash (Goln.), Rethinking violence against women, tt. 169-196. Llundain: Sage.
Maiuro, R. a Eberle, J. (2008) State Standards for domestic violence perpetrator treatment: Current status, trends, and recommendations, Violence and Victims, 23(2), tt. 133–155.
Maiuro, R., Hagar, T., Lin, H.-h. a Olson, N. (2001) Are current state Standards for domestic violence perpetrator treatment adequately informed by research? A question of questions, Journal of Aggression, Maltreatment and Trauma, 5(2), tt. 21–44.
Makinde, M., Barbin, A., Chatterjee, A., Schutte, L. a Lewis, H. (2025) Evaluating the effectiveness of stalking and domestic abuse perpetrator intervention programmes in Kent & Medway: A multi-agency approach. Canterbury Centre for Policing Research.
McEwan, T.E., Harder, L., Brandt, C. a de Vogel, V., (2020) Risk factors for stalking recidivism in a Dutch community forensic mental health sample. International Journal of Forensic Mental Health, 19(2), tt. 127-141.
Morrison, P., Hawker, L., Miller, E., Cluss, P., George, D., Fleming, R., Bicehouse, T., Wright, K., Burke, J. a Chang, J. (2019a) The Operational Challenges for Batterer Intervention Programs: Results From a 2-Year Study, Journal of Interpersonal Violence, 34(13), tt. 2674–2696.
Morrison, P., George, D., Cluss, P., Miller, E., Hawker, L., Fleming, R., Bicehouse, T., Burke, J. a Chang, J. (2019b) Male Intimate Partner Violence Perpetrators’ Perceptions of the Positives and Negatives of Peer Interactions in Group Batterer Intervention Programs, Violence Against Women, 25(15), tt. 1878–1900.
Mullen, P. E., Pathé, M., Purcell, R. a Stuart, G. W. (2006) Assessing and managing the risks in the stalking situation, Journal of the American Academy of Psychiatry and the Law, 34(4), tt. 439–450.
Mullender, A. a Burton, S. (2001) Good practice with perpetrators of domestic violence, Probation Journal, 48(4), tt. 260–268.
Parra-Cardona, J. R., Escobar-Chew, A. R., Holtrop, K., Carpenter, G., Guzmán, R., Hernández, D., Zamudio, E. a González Ramírez, D. (2013) “En el grupo tomas conciencia (In group you become aware)” Latino immigrants’ satisfaction with a culturally informed intervention for men who batter, Violence Against Women, 19(1), tt. 107–132.
Pattabhiraman, T., Kyalwazi, M. a Shore, K. (2021) State Innovation to Prevent the Recurrence of Intimate Partner Violence. California: California Initiative for Health Equity and Action.
Pence, E. a Paymar, M. (1993) Education Groups for Men who Batter: The Duluth Model. Efrog Newydd: Springer Publishing Company.
Phillips, R. (2015) British Domestic Violence Perpetrator Programmes: ‘Programme Integrity’ Within ‘Service Integrity’. Llundain: Prifysgol Metropolitan Llundain.
Prochaska, J. O. a DiClemente, C. C. (1984) The Transtheoretical Approach: Crossing Traditional Boundaries of Therapy. Homewood, IL: Dow Jones-Irwin.
Purcell, R. a McEwan, T., (2018) Treatment approaches for stalking. Yn Violent and sexual offenders. Routledge, tt. 400-416.
Radatz, D.L., Richards, T.N., Murphy, C.M., Nitsch, L.J., Green-Manning, A., Brokmeier, A.M. a Holliday, C.N. (2021) Integrating ‘Principles of Effective Intervention’ into Domestic Violence Intervention Programs: New Opportunities for Change and Collaboration. Am J Crim Justice. 46(4):609-625. doi: 10.1007/s12103-021-09627-8.
Renehan, N. a Fitz-Gibbon, K. (2022) Domestic Violence Perpetrator Programmes and Neurodiversity. Durham: Prifysgol Durham.
Renehan, N., (2026) Towards Neurodiversity-Affirmative Provision Within Domestic Abuse Perpetrator Programs: Exploring the Experiences and Perspectives of Domestic Abuse Practitioners From Australia, The Netherlands, The United Kingdom and The United States. Journal of Interpersonal Violence, DOI: 10.1177/08862605261419487
Rosenbaum, A. a Geffner, R. A. (2001) Future Directions in Mandated Standards for Domestic Violence Offenders, Journal of Aggression, Maltreatment and Trauma, 5(2), tt. 287–293.
Spencer, C.M., Keilholtz, B.M., Palmer, M. a Vail, S.L., (2024) Mental and physical health correlates for emotional intimate partner violence perpetration and victimization: A meta-analysis. Trauma, Violence, & Abuse, 25(1), tt. 41-53.
Spenser, C., Page, T., Gaffiero, D., Wallace, L., Nahouli, Z., Weekes, C. a Wheatley, R., (2025) Early Awareness Stalking Intervention (EASI) Quantitative Evaluation Report, Awst 2025.
Stewart, L., Flight, J. a Slavin-Stewart, C. (2013) Applying Effective Corrections Principles (RNR) to Partner Abuse Interventions, Partner Abuse, 4, tt. 494–534.
Stover, C. S., Meadows, A. L. a Kaufman, J. (2009) Interventions for intimate partner violence: Review and implications for evidence-based practice, Professional Psychology: Research and Practice, 40(3), t. 223.
Stover, C. S. a Lent, K. (2014) Training and certification for domestic violence service providers: The need for a national standard curriculum and training approach, Psychology of Violence, 4(2), tt. 117–127.
Subramonian, A., & Severn, M. (2020) Sex Offender Treatment Programs Delivered In Person or Virtually for Adults Convicted of Sexual Offences in Various Settings: A Review of Clinical Effectiveness and Guidelines. Ottawa (ON): Canadian Agency for Drugs and Technologies in Health. Ar gael o: https://www.ncbi.nlm.nih.gov/books/NBK565477/ [cyrchwyd 30ain Ebrill 2026]
Taft, C. T., Benzer, J. K., Kopitsky, M., & Creech, S. K. (2024). Examining Virtual Delivery of Strength at Home for Intimate Partner Violence Perpetration, Behavioral Sciences, 14(12), DOI: 10.3390/bs14121127
Taylor, H., Van Rooy, D. a Bartels, L., (2023) Digital justice: A rapid evidence assessment of the use of mobile technology for offender behavioural change. Probation Journal, 70(1), tt. 31-51.
The Centre for Public Innovation (2025) Evaluation of the Compulsive and Obsessive Behaviour Intervention, The Centre for Public Innovation.
Thompson, C.M., Dennison, S.M. a Stewart, A.L. (2013) Are different risk factors associated with moderate and severe stalking violence? Examining factors from the integrated theoretical model of stalking violence. Criminal Justice and Behavior, 40(8), tt. 850-880.
Tompson, L., Belur, J. a Jerath, K. (2020) A victim-centred cost-benefit analysis of a stalking prevention programme, Crime Science, 10, Erthygl 20. DOI: 10.1186/s40163-021-00158-5.
Travers, Á., McDonagh, T., Cunningham, T., Armour, C., a Hansen, M. (2021) The effectiveness of interventions to prevent recidivism in perpetrators of intimate partner violence: A systematic review and meta-analysis, Clinical Psychology Review, 84, Erthygl 101974. https://doi.org/10.1016/j.cpr.2021.101974
Trevillion K, Oram S, Feder G, Howard LM (2012) Experiences of Domestic Violence and Mental Disorders: A Systematic Review and Meta-Analysis, PLoS ONE 7(12): e51740. DOI: 10.1371/journal.pone.0051740
Valerian, D., Winstead, B., Pearson, M., Janda, L., Lewis, R., Dutton, L., Ferrer, R. a Greene, K. (2011) Unwanted Pursuit in Same-Sex Relationships: Effects of Attachment Styles, Investment Model Variables, and Sexual Minority Stressors, Partner Abuse, 2(3), DOI: 10.1891/1946-6560.2.3.300
Waller, B. (2016) Broken fixes: A systematic analysis of the effectiveness of modern and postmodern interventions utilized to decrease IPV perpetration among Black males remanded to treatment, Aggression and Violent Behavior, 27, tt. 42–49.
Ward, T. (2002) The management of risk and the design of good lives, Australian Psychologist, 37(3), tt. 172–179.
Westmarland, N. (2025) Violence against Women (2il argraffiad), Llundain: Routledge.
Westmarland, N., & Kelly, L. (2023, Ionawr 9). Standards for Domestic Abuse Perpetrator Interventions. https://assets.publishing.service.gov.uk/media/63b451718fa8f57351292fd6/Domestic_Abuse_Perpetrator_Standards.pdf
Westmarland, N. a Zilkova, Z. (2022) Mapping the Benefits of the Respect Standard. Durham: Prifysgol Durham.
Williams, O. J. (1992) Ethnically Sensitive Practice to Enhance Treatment Participation of African American Men who Batter, Families in Society, 73(10), tt. 588–595.
Williams, O. a Becker, R. (1994) Domestic partner abuse treatment programs and cultural competence: the results of a national survey, Violence and Victims, 9(3), tt. 287–296.
WWP EN (2018) Guidelines to Develop Standards for Programmes Working with Perpetrators of Domestic Violence. Ar gael yn: https://www.work-with-perpetrators.eu/fileadmin/WWP_Network/redakteure/Guidelines/WWP_EN_Guidelines_for_Standards_v3_2018.pdf
Zellerer, E. (2003) Culturally Competent Programs: The First Family Violence Program for Aboriginal Men in Prison, The Prison Journal, 83(2), tt. 171–190.
-
Mae’r safonau hyn yn defnyddio’r cysyniad o ddioddefwr-oroeswr i gydnabod nad yw dioddefwyr a goroeswyr yn grwpiau gwahanol o bobl a bod y ddau yn agweddau cydamserol ar brofiad bywyd yn ystod, ac yn dilyn, trais a chamdriniaeth. Mae’r cysyniad hwn yn golygu bod modd cydnabod cryfderau a gweithredoedd yn ystod ac ar ôl y cam-drin, na all y term ‘dioddefwr’ eu cynnwys. ↩
-
Wedi ei ddifinio yn yr adran sydd yn yr adroddiad hwn am Safon 1. ↩
-
Gwelwch er enghraifft ei ddefnydd gan Ffederasiwn Cymorth i Fenywod Lloegr https://womensaid.org.uk/what-we-do/change-that-lasts/ ↩
-
Mae Adran 1 o’r Ddeddf Cam-drin Domestig yn nodi bod rhaid i’r person sy’n cyflawni’r ymddygiad a’r person y mae’r ymddygiad wedi’i gyfeirio ato fod dros 16 oed. Diffinnir ‘plentyn’ yn adran 3(4) o’r Ddeddf fel person o dan 18 oed, ond mae hyn yn ymwneud â phan fo’r plentyn yn ddioddefwr cam-drin domestig fel y mae wedi’i ddisgrifio yn adran 3 - mae’r plentyn yn gweld neu’n clywed, neu’n profi effeithiau, y cam-drin rhwng y troseddwr (A) a’r dioddefwr (B) ac mae’n perthyn i A neu B. ↩