Policy paper

No place to hide: serious and organised crime strategy 2023 to 2028 (Welsh accessible)

Updated 17 April 2024

Dim Lle i Guddio Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol 2023-2028

Cyflwynwyd gerbron y Senedd gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref ar Orchymyn Ei Fawrhydi

Rhagfyr 2023

CP 992

© Hawlfraint y Goron 2023

Trwyddedir y cyhoeddiad hwn o dan delerau Trwydded Llywodraeth Agored f3.0 oni nodir fel arall. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3

Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth am hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd deiliaid yr hawlfraint dan sylw.

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn www.gov.uk/official-documents

Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y cyhoeddiad hwn atom yn public.enquires@homeoffice.gov.uk

ISBN 978-1-5286-3987-3

E02882768 12/23

Pennod 1: Rhagair gan y Gweinidog

Mae troseddau yn dinistrio bywydau ac yn distrywio cymunedau. Mae troseddau difrifol a chyfundrefnol yn achosi niwed ar raddfa a all beryglu diogelwch gwladol. Mae hefyd yn creu ac yn meithrin amgylchedd hunanatgyfnerthol o droseddoldeb. Mae llygredigaeth a chyllid anghyfreithlon yn tanseilio democratiaethau ac yn peryglu diogelwch byd-eang. Mae’n herio dilysrwydd y Goron. I gymhlethu pethau ymhellach, mae’r llinellau rhwng troseddwyr cyfundrefnol ac unigolion/grwpiau sy’n gysylltiedig â gwladwriaethau weithiau yn aneglur.

Mae rhwydweithiau troseddol yn dod yn fwyfwy soffistigedig, maent yn aml yn guddiedig ac maent yn gwneud defnydd llawn o dechnoleg fodern. Maent yn manteisio ar y rhyngrwyd, gan weithredu ar draws ffiniau yn aml, heb ystyried bywyd dynol.

Mae’r Llywodraeth wedi cymryd camau sylweddol i atgyfnerthu’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill. Ond mae’r bygythiadau rydym yn eu hwynebu yn parhau i ddatblygu, wedi’u llywio gan ddigwyddiadau byd-eang megis pandemig COVID-19, ymosodiad Rwsia ar Wcráin, ansefydlogrwydd mewn rhanbarthau eraill, newid yn yr hinsawdd a chyflymder newid technolegol. Rhaid i ni aros ar y blaen i bob un o’r bygythiadau hyn.

Ein cenhadaeth yw lleihau troseddau difrifol a chyfundrefnol yn y DU. Byddwn yn gwneud hyn drwy darfu ar y grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n gweithredu yn ein gwlad ac yn ei herbyn, a’u chwalu. Rydym wedi parhau i atgyfnerthu gallu’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i fynd i’r afael â throseddwyr cyfundrefnol, gan gynyddu ei chyllideb 21 y cant i £860 miliwn yn 2023-24. Ac rydym wedi cynyddu nifer y swyddogion penodol i fynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol mewn plismona rhanbarthol. Erbyn diwedd Gwanwyn 2024, byddwn yn cyflwyno’r cynllun peilot ‘Clear, Hold, Build’, sef dull partneriaeth o’r dechrau i’r diwedd o ddelio â throseddau difrifol a chyfundrefnol yn lleol, i bob heddlu tiriogaethol yng Nghymru a Lloegr.

Byddwn yn atgyfnerthu ein hymateb i’r mathau mwyaf difrifol o droseddau difrifol a chyfundrefnol. Fel rhan o’r Strategaeth Gyffuriau 10 mlynedd, rydym yn buddsoddi £300 miliwn dros dair blynedd i wneud y DU yn lle caletach o lawer i grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n ymwneud â chyflenwi cyffuriau weithredu. Bydd y Llywodraeth yn gweithio mewn partneriaeth â’r sector preifat er mwyn rhoi Cynllun Troseddau Economaidd 2 ar waith. Byddwn yn galluogi asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac erlyn i gymryd camau mwy effeithiol yn erbyn cleptocratiaid, elitau llwgr a throseddwyr difrifol a chyfundrefnol sy’n gwyngalchu eu harian yn y DU. Byddwn yn rhoi’r Strategaeth Dwyll newydd, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023, ar waith, gan fynd ar ôl twyllwyr drwy Uned Dwyll Genedlaethol newydd, gan atal achosion o dwyll yn y man cychwyn a grymuso’r cyhoedd i ymateb. Byddwn yn parhau i gyflwyno Strategaeth Mynd i’r Afael â Cham-drin Plant yn Rhywiol, gan ddefnyddio holl rym y Wladwriaeth i fynd i’r afael â’r nifer cynyddol o achosion o gam-drin plant yn rhywiol a’u heffaith gynyddol.

Byddwn bob amser yn cefnogi ein heddlu. Rydym yn rhoi’r pwerau cyfreithiol cryfaf i asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac yn creu troseddau newydd yn y Bil Cyfiawnder Troseddol, a gyflwynwyd gerbron y Senedd ym mis Tachwedd 2023. Bydd yn tarfu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol a’r rhai sy’n eu galluogi ac yn eu chwalu drwy wahardd eitemau a ddefnyddir mewn troseddau difrifol megis gweisg pils, templedi argraffu 3D ar gyfer arfau tanio a ffermydd SIM i’w defnyddio i dwyllo. Bydd y Bil hwn hefyd yn atgyfnerthu gorchmynion atal troseddau difrifol er mwyn i ni allu rheoli’r troseddwyr sy’n achosi’r niwed mwyaf a tharfu arnynt yn fwy effeithiol.

Wrth gwrs, bydd hefyd angen i ni weithio’n rhyngwladol. Mae hynny’n golygu atgyfnerthu’r ffin fel man ymyrryd a gwella ein hymateb rhyngwladol i droseddwyr cyfundrefnol sy’n gweithredu yn y DU ac yn erbyn y DU. Fel rhan o bum blaenoriaeth y Prif Weinidog, byddwn yn atgyfnerthu ffin y DU ac yn cynyddu ein gweithgarwch i darfu ar y grwpiau troseddau mewnfudo cyfundrefnol sy’n galluogi pobl i ddod i mewn i’r DU yn anghyfreithlon. Bydd y cyllid ar gyfer tarfu ar droseddau mewnfudo cyfundrefnol yn dyblu yn 2023-24 a 2024-25 a bydd y Ddeddf Mudo Anghyfreithlon yn helpu i chwalu model busnes gangiau smyglo pobl.

Byddwn yn atgyfnerthu ein gallu domestig i fynd i’r afael â throseddau â dimensiwn rhyngwladol drwy’r Gyd-Ganolfan Troseddau Rhyngwladol (JICC) newydd yn yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, gan gydweithio â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu.

Oherwydd y cynnydd yn nifer y troseddau ar-lein, mae angen i ni wneud yn siŵr bod gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith yr adnoddau, y pwerau a’r galluoedd cywir i fynd ar ôl troseddwyr ar-lein, waeth pa fath o drosedd y maent yn ymgymryd â hi. Byddwn yn gweithio gyda’r sector preifat i ddatblygu mesurau diogelwch a gydag aelodau o’r cyhoedd i gynyddu ymwybyddiaeth o sut y gallant ddiogelu eu hunain. Rydym yn cyflwyno’r Strategaeth Seiberddiogelwch Genedlaethol, gan atal unigolion/grwpiau sy’n cyflawni ymosodiadau seiber ar ran gwladwriaethau eraill i geisio tarfu ar y DU, ei buddiannau a’i dinasyddion ac unigolion/grwpiau maleisus eraill sy’n cyflawni seiberdroseddau gan beryglu ein diogelwch.

Ymdrech tîm yw hon. Rhaid i bob un o’n hasiantaethau gydweithio. Mae’r dasg yn un gymhleth ond syml, sef: nodi ac atal troseddwyr cyfundrefnol. Ni fyddant byth yn gorffwys ac ni fyddwn ninnau yn gorffwys ychwaith.

Y Gwir Anrhydeddus James Cleverly AS

Ysgrifennydd Cartref

Pennod 2: Crynodeb Gweithredol

Mae troseddau difrifol a chyfundrefnol yn fygythiad mawr i ddiogelwch gwladol a ffyniant y Deyrnas Unedig. Maent yn peri i fywydau gael eu colli, yn difetha cymunedau, yn llesteirio twf economaidd, yn achosi colled ariannol i unigolion, busnesau a’r wladwriaeth ac yn tanseilio enw da’r DU a’i sefydliadau yn fyd-eang.

Ysgogir y rhan fwyaf o droseddau difrifol a chyfundrefnol gan yr awydd diwyro i gael arian, gyda grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n ceisio sicrhau’r elw mwyaf posibl am y risg leiaf posibl. Yn aml, daw’r elw o fasnachu mewn nwyddau, megis cyffuriau, arfau tanio neu wastraff, neu drwy gamfanteisio ar bobl, gan gynnwys hwyluso mudo anghyfreithlon. Yn fwyfwy, daw’r elw o seiberdroseddu a thwyll ar-lein. Pan fydd yn mynd yn anos gwneud elw, bydd troseddwyr cyfundrefnol yn newid tactegau neu’n symud i fathau gwahanol o droseddau. Yn aml, caiff yr elw ei wyngalchu o’r byd troseddol i’r system ariannol gyfreithlon ac, yna, fe’i defnyddir i ariannu gweithgarwch troseddol pellach. Mae’r we gymhleth hon o fusnes troseddol cyfundrefnol sy’n gweithredu ar draws ffiniau yn amlygu ei hun mewn troseddau a niwed a ddioddefir gan y cyhoedd.

Mae rhai troseddau difrifol a chyfundrefnol yn gysylltiedig â gwladwriaethau sy’n elyniaethus i’r DU. Mae’r fath wladwriaethau yn noddi troseddau difrifol a chyfundrefnol, yn eu galluogi neu’n caniatáu iddynt ddigwydd neu maent yn darparu hafan ddiogel i droseddwyr. Gall yr elw o’r gweithgarwch troseddol lifo i awdurdodaethau gelyniaethus y mae eu buddiannau yn groes i fuddiannau a diogelwch y DU ac a all fod yn gysylltiedig â therfysgaeth. Mae ein hymateb i weithgarwch troseddol o’r fath yn rhan o’n hymateb ehangach i wladwriaethau gelyniaethus.

Mae i’r rhan fwyaf o droseddau difrifol a chyfundrefnol sy’n effeithio ar y DU elfen ryngwladol. Y rheswm dros hyn yw bod y nwyddau neu’r bobl y camfanteisir arnynt yn dod o wledydd tramor, bod y troseddwyr yn wladolion tramor neu fod eu gweithgarwch troseddol wedi’i leoli dramor er mwyn ei gwneud yn anos iddynt gael eu canfod a’u dal. Mae llawer o fygythiad cynyddol troseddau ar-lein hefyd yn deillio o wledydd tramor ond mae’n cael effaith uniongyrchol ar bobl yn y wlad hon.

Mae grwpiau troseddau cyfundrefnol yn ceisio cuddio eu gweithgareddau rhag cael eu canfod a’u hatal. Mae technoleg yn galluogi bron yr holl droseddau difrifol a chyfundrefnol, gyda grwpiau troseddol yn defnyddio technoleg i guddio gohebiaeth neu daliadau ariannol. Mae datblygiadau mewn technoleg yn debygol o’i gwneud yn llawer anos i asiantaethau cuddwybodaeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith darfu ar grwpiau, casglu tystiolaeth a dwyn troseddwyr o flaen eu gwell.

Gwyddom fod y bygythiadau sy’n gysylltiedig â llawer o fathau o droseddau difrifol a chyfundrefnol yn cynyddu, er gwaethaf cydymdrechion ein hasiantaethau cuddwybodaeth a gorfodi’r gyfraith. Mae newidiadau yn y sefyllfa economaidd a gwleidyddol fyd-eang yn effeithio ar lawer o’r bygythiadau hynny. Mae gwladwriaethau sy’n methu, mudo ar raddfa fawr ac ansicrwydd economaidd oll yn helpu i greu’r amodau y mae troseddwyr cyfundrefnol yn manteisio arnynt. Nodir dull y DU o fynd i’r afael â’r heriau trawswladol hyn yn fanylach yn Niweddariad 2023 o’r Adolygiad Integredig.

Mae’r strategaeth hon yn seiliedig ar fygythiad cynyddol troseddau difrifol a chyfundrefnol a’r ffordd rydym yn disgwyl iddo ddatblygu yn ystod y pum mlynedd nesaf. Ein cenhadaeth yw lleihau troseddau difrifol a chyfundrefnol yn y DU, gan ddefnyddio cyrhaeddiad a grym llawn ein hasiantaethau cuddwybodaeth a gorfodi’r gyfraith mewn partneriaeth â’r sector preifat a chymunedau. Byddwn yn mynd i’r afael â’r grwpiau troseddol cyfundrefnol sy’n gweithredu yn y DU ac yn ei herbyn, gan ddiogelu’r cyhoedd rhag y niwed a achosir ganddynt. Byddwn yn cadw’r cyhoedd yn ddiogel drwy darfu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol, gan chwalu eu rhwydweithiau a’u dwyn o flaen eu gwell. Byddwn yn trechu’r dechnoleg sydd ar gael i droseddwyr cyfundrefnol ac yn rhwystro eu hymdrechion i guddio eu gohebiaeth a’u harian. Byddwn yn lleihau’r galw am nwyddau sy’n ysgogi troseddu cyfundrefnol a’r cyflenwad sy’n ei fwydo. A byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid rhyngwladol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw fan cuddio y gall troseddwyr cyfundrefnol ymosod ar y DU ohono.

Nod y strategaeth hon yw lleihau troseddau difrifol a chyfundrefnol yn y DU. Byddwn yn gwneud hyn drwy ymateb o’r dechrau i’r diwedd â phum llinell weithredu, sef:

  1. Yn y DU: Ein llinell weithredu gyntaf yw cadw’r cyhoedd yn y wlad hon yn ddiogel. Mae hynny’n golygu tarfu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n gweithredu yn y DU ac yn ei herbyn, a’u chwalu. Mae hefyd angen i ni feithrin cadernid mewn cymunedau lleol, atal a dargyfeirio unigolion, atal troseddu drwy ddylunio a gosod rhwystrau ar-lein. Mae ein canlyniadau targed ar gyfer y llinell weithredu hon fel a ganlyn:
    • mwy o effaith ar y grwpiau troseddau cyfundrefnol â’r flaenoriaeth uchaf sy’n gweithredu yn y DU ac yn ei herbyn;
    • mwy o effaith ar dwyll a throseddau economaidd, gan gynnwys cyllid anghyfreithlon a seiberdroseddau fel galluogydd allweddol pob math o droseddau difrifol a chyfundrefnol;
    • gwell allbynnau a chanlyniadau cyfiawnder troseddol;
    • cymunedau lleol mwy cadarn i wrthsefyll gweithgarwch troseddol cyfundrefnol;
    • unigolion wedi’u dargyfeirio oddi wrth droseddu;
    • llai o fannau gwan i droseddau difrifol a chyfundrefnol ar-lein a mwy o fesurau diogelwch.
  2. Ffin y DU: Ein hail linell weithredu yw atgyfnerthu ffin y DU. Mae hyn yn cynnig cyfle unigryw i nodi a rhyng-gipio unigolion a nwyddau hysbys ac anhysbys sydd wedi llwyddo i osgoi ein gweithgareddau tarfu ‘i fyny’r gadwyn’ rhag dod i mewn i’r wlad yn anghyfreithlon neu sy’n gadael y wlad ac yn cludo elw troseddau cyfundrefnol dramor. Mae ein canlyniadau targed ar gyfer y llinell weithredu hon fel a ganlyn:
    • tarfu ar droseddau mewnfudo cyfundrefnol;
    • atal y cychod;
    • ffin fwy cadarn fel man ymyrryd er mwyn atal troseddwyr cyfundrefnol a nwyddau anghyfreithlon;
    • sicrhau bod y ffin yn llai agored i fewnwyr llwgr.
  3. Rhyngwladol: Ein trydedd linell weithredu yw dramor, gan gynnwys defnyddio cuddwybodaeth i darfu’n ddi-baid ar grwpiau troseddau cyfundrefnol â rhwydweithiau rhyngwladol sy’n gweithredu yn erbyn y DU, a hynny yn y man cychwyn, gan rwystro niwed rhag cyrraedd y DU. Byddwn hefyd yn gweithio i wella prosesau rhannu gwybodaeth a chuddwybodaeth rhyngwladol a lleihau ysgogwyr byd-eang troseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae ein canlyniadau targed ar gyfer y llinell weithredu hon fel a ganlyn:
    • tarfu ar droseddwyr cyfundrefnol tramor sy’n achosi llawer o niwed, gan leihau eu heffaith yn y DU yn ogystal â Dibyniaethau’r Goron a’i Thiriogaethau Tramor;
    • gwell prosesau rhannu gwybodaeth a chuddwybodaeth rhyngwladol er mwyn helpu i wella canlyniadau ymchwiliol a chanlyniadau cyfiawnder troseddol;
    • mwy o ewyllys wleidyddol ymhlith y rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn gwledydd tramor â blaenoriaeth i gynyddu’r ymateb i droseddau difrifol a chyfundrefnol;
    • llai o ysgogwyr byd-eang ar gyfer troseddau difrifol a chyfundrefnol, wedi’i gysylltu â nodau datblygu ehangach y Llywodraeth.
  4. Technoleg a galluoedd: Ein pedwaredd linell weithredu yw sicrhau bod y galluoedd casglu, dadansoddi ac archwilio cuddwybodaeth a data gorau ar waith er mwyn nodi troseddwyr cyfundrefnol a tharfu arnynt. Mae hon yn llinell weithredu alluogol y bwriedir iddi gyflawni’r canlyniadau a nodir yn y tair llinell weithredu gyntaf yn fwy effeithiol. Gyda’i gilydd, bydd y gweithgareddau hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn parhau i feddu ar alluoedd casglu, dadansoddi ac archwilio cuddwybodaeth a data, gan ein galluogi i darfu ar droseddwyr cyfundrefnol a diogelu rhagddynt, nawr ac yn y dyfodol.
  5. Ymateb amlasiantaethol: Ein pumed linell weithredu yw sicrhau bod pob partner yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat yn cydweithio mor effeithiol â phosibl â’r capasiti, sgiliau, strwythurau a phrosesau pennu tasgau cywir. Mae hon yn llinell weithredu alluogol y bwriedir iddi gyflawni’r canlyniadau a nodir yn y pedair llinell weithredu gyntaf yn fwy effeithiol. Gyda’i gilydd, bydd y gweithgareddau hyn yn helpu i sicrhau bod yr ymateb amlasiantaethol wedi’i alinio’n well, ei fod yn fwy effeithiol a’i fod yn cael yr effaith fwyaf posibl ac yn cynnig y gwerth gorau am arian.

Er mwyn helpu i gyflawni’r nod hwn, bydd y Llywodraeth yn mesur llwyddiant drwy set glir o fetrigau perfformiad ar effaith gweithgarwch gorfodi’r gyfraith o ran lleihau troseddau difrifol a chyfundrefnol yn y DU.

Ffigur 1 – Gweithgarwch yn ôl sefydliad

Sefydliad Gweithgarwch
Y Swyddfa Gartref Mae’n gyfrifol am yr ymateb cyffredinol i droseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae gan Gweithrediadau’r Swyddfa Gartref rôl bwysig i’w chwarae. Llu’r Ffiniau sy’n arwain yr ymateb gweithredol i droseddau difrifol a chyfundrefnol wrth Ffin y DU, gan weithio’n agos gyda Chyfarwyddiaeth Cuddwybodaeth y DU a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. Gorfodi Mewnfudo sy’n arwain ymateb y Swyddfa Gartref er mwyn mynd i’r afael â throseddau mewnfudo cyfundrefnol.
Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) Mae’n arwain ac yn cydgysylltu ymateb asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn y DU i droseddau difrifol a chyfundrefnol ac mae’n gyfrifol am ddatblygu un ‘darlun’ o’r bygythiad.
Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol (ROCUs) Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol yw’r cysylltiad gweithredol a chuddwybodaeth rhwng yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ac maent yn arwain ymateb asiantaethau gorfodi’r gyfraith i droseddau difrifol a chyfundrefnol yn eu rhanbarth.
Plismona Tiriogaethol Mae’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r gweithgarwch gweithredol yn erbyn troseddau difrifol a chyfundrefnol, gan weithio’n agos gydag Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol a’u galluoedd arbenigol.
Y Swyddfa Twyll Difrifol (SFO) Y Swyddfa Twyll Difrifol yw’r asiantaeth gorfodi’r gyfraith arbenigol sy’n ymchwilio i achosion difrifol a chymhleth o dwyll, llwgrwobrwyo, llygredigaeth a gweithgarwch gwyngalchu arian cysylltiedig ac yn eu herlyn.
Cyllid a Thollau EF (CThEF) Mae CThEF yn darparu ymateb y DU i ymosodiadau troseddol cyfundrefnol ar y system dreth drwy amrywiaeth o ymyriadau troseddol, sifil ac arbenigol a thrwy dargedu elw, asedau a busnesau troseddwyr cyfundrefnol er mwyn atal eu gweithrediadau a tharfu arnynt cyn gynted â phosibl.
Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) Mae’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn ystyried effeithiau uniongyrchol troseddau difrifol a chyfundrefnol ar y DU yn ogystal â buddiannau’r DU dramor. Mae’n cynnig arbenigedd eang ym meysydd polisi rhyngwladol, diplomyddiaeth, diogelwch, datblygu a rhaglenni fel rhan o’r ymateb i droseddau difrifol a chyfundrefnol.
Cymuned Guddwybodaeth y DU (UKIC) Cymuned Guddwybodaeth y DU sy’n arwain y gwaith o gasglu, dadansoddi a lledaenu cuddwybodaeth ochr yn ochr â’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, gan sicrhau y gall asiantaethau gorfodi’r gyfraith gael yr adnoddau a’r guddwybodaeth sydd eu hangen i gyflawni canlyniadau yn erbyn troseddau difrifol a chyfundrefnol.
Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron a, lle y bo’n briodol, erlynwyr datganoledig, yn erlyn achosion ar ran yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yr heddlu ac eraill.
Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi a heddluoedd yn arwain ymateb amlasiantaethol i darfu ar droseddwyr cyfundrefnol sy’n rhedeg eu rhwydweithiau o’r tu fewn i’r ystad carchardai ac yn cefnogi’r gwaith o reoli eu gweithgarwch pan gaiff troseddwyr eu rhyddhau i’r gymuned yn ddarostyngedig i amodau.

Pennod 3: Natur Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol a’r Niwed a Achosir Ganddynt

Natur troseddau difrifol a chyfundrefnol

Rydym yn diffinio troseddau difrifol a chyfundrefnol fel unigolion yn cynllunio, yn cydgysylltu ac yn cyflawni troseddau difrifol, p’un a ydynt yn gwneud hynny ar eu pen eu hunain, mewn grwpiau a/neu fel rhan o rwydweithiau trawswladol.[footnote 1]

Amcangyfrifir bod cost troseddau difrifol a chyfundrefnol i’r DU yn £47 biliwn bob blwyddyn o leiaf.[footnote 2] Er bod y troseddau a gwmpesir gan y term troseddau difrifol a chyfundrefnol yn hollol wahanol i’w gilydd, mae’r tactegau a’r technegau a ddefnyddir yn debyg iawn i’w gilydd. Y nod bron bob amser yw cael yr elw mwyaf posibl am y risg leiaf posibl. Pan fydd y cydbwysedd rhwng elw a risg yn newid, bydd troseddwyr cyfundrefnol yn newid eu tactegau neu’n symud i fathau gwahanol o droseddau, gan geisio manteisio ar wendidau mewn systemau bob amser. Model busnes ar gyfer troseddu ydyw. Nid oes un ideoleg unigol ar draws troseddau difrifol a chyfundrefnol, dim ond awydd i fanteisio ar y marchnadoedd nwyddau, pobl a gwybodaeth er mwyn gwneud elw.

Yn aml, mae troseddwyr cyfundrefnol yn rhan o grwpiau â rhwydweithiau dwfn y mae eu gweithgareddau yn seiliedig ar y defnydd o dechnoleg, er mwyn osgoi cael eu canfod neu gyflawni troseddau. Mae’r rhwydweithiau hyn yn gymhleth ac yn drawswladol ac maent yn dibynnu ar gydberthnasau hanesyddol y gellir ymddiried ynddynt. Mae cyfranogwyr, gwirfoddol a thrwy orfodaeth, yn aml yn cael eu dal yn y grŵp drwy systemau o ymddiriedaeth a chamfanteisio.

Yn aml, mae troseddwyr cyfundrefnol yn dibynnu ar alluogwyr, a rennir weithiau rhwng grwpiau troseddau cyfundrefnol, sy’n cymryd rhan mewn troseddau i wahanol raddau ac yn darparu gwasanaethau neu gymorth penodol i’r gangiau. Mae rhai galluogwyr yn gyfranogwyr diarwybod, mae rhai yn esgeulus ac mae rhai yn cymryd rhan mewn troseddau ac yn darparu eu gwasanaethau ar sail broffesiynol. Mae galluogwyr proffesiynol yn arbennig o gyffredin mewn troseddau economaidd gan gynnwys gwyngalchu arian. Ond ceir galluogwyr mewn mathau eraill o droseddau hefyd, er enghraifft defnyddio mewnwyr llwgr megis gweithwyr porthladd sy’n manteisio ar eu mynediad dilys at asedau, meysydd gweithredu neu systemau’r sefydliad, gan gamddefnyddio eu sefyllfa freintiedig at ddibenion awdurdodedig megis hwyluso symud nwyddau gwaharddedig neu gyfyngedig. Mae argaeledd neu ddibynadwyedd galluogwyr yn aml yn rhan allweddol o ddull cyfrifo risg/elw troseddwyr ac ni allai rhai troseddau gael eu cyflawni hebddynt.

Mae grwpiau troseddau cyfundrefnol yn manteisio ar dechnoleg bresennol, newydd a datblygol er mwyn ategu a galluogi eu gweithgarwch troseddol. Mae troseddwyr cyfundrefnol yn defnyddio technoleg i dargedu dioddefwyr, cribddeilio arian ganddynt a chamfanteisio arnynt, drwy seiberdroseddau, twyll a cham-drin plant yn rhywiol yn ogystal â chyfathrebu, cynnal trafodiadau ariannol ac osgoi cael eu canfod. Er bod achosion o arbenigwyr sy’n creu technoleg ac adnoddau pwrpasol at ddibenion troseddol, yn aml technoleg a ddefnyddir gan y boblogaeth gyffredinol y mae troseddwyr yn manteisio arni. Gall fod sawl rheswm dros hyn, megis er mwyn cuddio eu gweithgarwch a’u gohebiaeth drwy gymwysiadau negeseua diogel sy’n cynnig amgryptio o’r dechrau i’r diwedd, gwyngalchu elw neu dalu am wasanaethau neu nodi dioddefwyr neu hyrwyddo gwasanaethau troseddol ar-lein. Gall technolegau mwy newydd megis cryptoarian neu Ddeallusrwydd Artiffisial gael eu defnyddio hefyd.

Mae troseddwyr cyfundrefnol yn cymryd mantais o’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, naill ai fel dioddefwyr, cwsmeriaid neu gyfranogwyr drwy orfodaeth ac yn aml byddant yn defnyddio trais i gyflawni eu nodau. Er bod cam-drin yn rhywiol ar blant yn cael ei ysgogi gan elw yn llai aml, mae troseddwyr yn defnyddio tactegau a thechnegau tebyg i’r rhai a ddefnyddir gan grwpiau troseddau cyfundrefnol gan gynnwys rhwydweithiau cyfundrefnol a defnydido technoleg i osgoi cael eu canfod. Mae troseddwyr sy’n cam-drin plant yn rhywiol ar-lein yn aml yn fabwysiadwyr cynnar technoleg a thechnegau i hwyluso eu troseddu, megis technoleg newid lluniau a realiti estynedig. Hefyd, mae rhai troseddwyr sy’n cam-drin plant yn rhywiol yn cael eu hysgogi gan yr awydd i wneud elw yn hytrach nag atyniad rhywiol at blant ac maent yn cam-drin plant yn rhywiol ac yn hwyluso hynny er mantais fasnachol.

Gwyddom hefyd fod grwpiau troseddau cyfundrefnol yn camfanteisio ar blant a phobl ifanc sy’n agored i niwed, gan eu gorfodi i fod yn ‘rhedwyr’ i gludo cyffuriau, arian ac arfau yn lleol yn ogystal â ledled y DU. Mae troseddwyr llinellau cyffuriau yn parhau i addasu, gan dargedu unigolion sy’n agored i niwed a defnyddio amrywiaeth o ddulliau rheoli gan gynnwys caethwasanaeth oherwydd dyledion, bygwth trais difrifol (gan gynnwys defnyddio arfau), herwgipio a cham-drin rhywiol.[footnote 3]

Maent yn tanseilio sefydliadau, seilwaith a busnesau cyfreithlon yn y DU drwy danseilio systemau ariannol a gweithredu masnach gudd mewn nwyddau anghyfreithlon. Mae llygredigaeth a chyllid anghyfreithlon yn tanseilio democratiaethau ac yn peryglu dilysrwydd gwladwriaethau, sy’n effeithio ar sefydlogrwydd rhanbarthol ac yn peryglu diogelwch byd-eang. Mae gwyngalchu arian yn hwyluso ac yn ariannu grwpiau troseddau cyfundrefnol a throseddau sy’n achosi llawer o niwed megis delio mewn cyffuriau, masnachu pobl a therfysgaeth. Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin wedi tynnu sylw at fygythiad cynyddol cleptoarian sy’n manteisio ar ganolfannau ariannol byd-eang. Llundain yw un o ganolfannau ariannol mwyaf a bywiocaf y byd o hyd ac, ochr yn ochr â sefydlogrwydd economaidd ac economi agored y DU, mae’n arbennig o ddeniadol i’r rhai sydd am ymgymryd â gweithgarwch gwyngalchu arian gwerth uchel/arian parod. Mae Pennod 4 yn nodi ein llwyddiannau hyd yma o ran mynd i’r afael â gweithgarwch gwyngalchu arian, gan gynnwys drwy fesurau yn y Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi). Mae Pennod 5 yn nodi’r camau nesaf ar gyfer mynd â’n hymateb ymhellach, gan gynnwys Cynllun Troseddau Economaidd 2 a’r Strategeth Wrth- Lygredigaeth.

Mae gwytnwch troseddwyr cyfundrefnol yn tanseilio diogelwch carchardai. O’r 87,864 o unigolion yn y ddalfa ym mis Rhagfyr 2023,[footnote 4] mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) yn amcangyfrif bod 10.6% o garcharorion yn ymgymryd â throseddau difrifol a chyfundrefnol. O’r 251,926 o bobl a reolir gan y gwasanaeth prawf yn y gymuned, mae Gwasanaeth Carchardai a Phawf Ei Fawrhydi yn amcangyfrif bod 3.9% yn ymgymryd â throseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yn defnyddio sawl strategaeth rheoli risg a tharfu, megis cyfnewid gwybodaeth a chuddwybodaeth fanylach, amodau trwydded ychwanegol, trefniadau rheoli dedfrydau amlasiantaethol, yn ogystal â gosod sganwyr corff pelydr-x a chyflwyno ‘Ardaloedd Dim Hedfan’ o amgylch carchardai. Fodd bynnag, mae troseddwyr cyfundrefnol profiadol yn aml yn dod o hyd i amgylchedd yn y carchar lle y gallant ddysgu methodolegau troseddol newydd, parhau i gynnal ac ymestyn eu rhwydweithiau a pharhau i wneud elw. Mae’r gweithgarwch hwn yn tanseilio diogelwch a llesiant carcharorion eraill ac yn achosi niwed mewn cymunedau y tu allan i’r ystad carchardai. Mae hefyd yn darparu llwybr i garcharorion eraill gymryd rhan mewn troseddau difrifol a chyfundrefnol neu gael eu gorfodi i gymryd rhan ynddynt. Mae hyn hefyd yn debygol o fod yn wir yn achos y rhai sydd ar brawf yn y gymuned.

Mae ffin y DU yn fan ymyrryd pwysig yn erbyn troseddau difrifol a chyfundrefnol ac mae gan y DU alluoedd uwch i nodi ac atal pobl a nwyddau niweidiol rhag cyrraedd y DU. Fodd bynnag, gall unigolion fanteisio ar y ffin mewn sawl ffordd, gan gynnwys drwy ddefnyddio staff llwgr, defnyddio dogfennau ffug a smyglo nwyddau anghyfreithlon a phobl. Mae grwpiau troseddol cyfundrefnol yn hwyluso mudo anghyfreithlon ar draws ffiniau rhyngwladol, gan ddefnyddio unrhyw ddull cludo neu ffordd o ddod i mewn i’r wlad. Mae’r grwpiau hyn yn gwneud elw enfawr gan godi symiau mawr o arian am eu gwasanaethau anghyfreithlon heb ystyried diogelwch pobl. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae cychod bach wedi dod yn ffordd amlwg o ddod i mewn i’r DU yn anghyfreithlon, gyda chyfanswm y cychod bach sy’n cyrraedd y wlad yn cynyddu’n sylweddol. Gellir priodoli hyn yn rhannol i fodelau busnes a sefydlwyd gan grwpiau troseddau cyfundrefnol er mwyn ei gwneud yn haws i unigolion gyrraedd y DU.

Mae elfen ryngwladol wrth wraidd bron yr holl droseddau difrifol a chyfundrefnol ac mae rhai yn gysylltiedig â bygythiadau gwladwriaethol. Mae hyn i’w weld yn y farchnad nwyddau anghyfreithlon, megis y cyflenwad rhyngwladol o gyffuriau ac arfau tanio sydd, yn ei dro, yn ysgogi troseddu yn y DU. Ni ellir cynhyrchu rhai cyffuriau anghyfreithlon, yn arbennig cocên a heroin, yn y DU. Yn yr un modd, ychydig iawn o arfau tanio sy’n cael eu gweithgynhyrchu yn y DU o gymharu â gwledydd eraill, sy’n golygu bod arfau tanio yn cael eu smyglo i mewn i’r wlad, sy’n fygythiad trawsffiniol. Gall gwastraff hefyd symud ar draws ffiniau ar gyfer troseddau economaidd, sy’n effaithio ar iechyd pobl, llesiant a’r amgylchedd lle mae’n gorffen ei daith. Mae natur ryngwladol troseddau cyfundrefnol hefyd yn thema barhaus mewn seiberdroseddu a thwyll yn ogystal â gwyngalchu arian. Mae yr un mor gyffredin mewn troseddau sy’n ymwneud â chamfanteisio ar ddioddefwyr caethwasiaeth fodern a masnachu pobl, cam-drin plant yn rhywiol a throseddau mewnfudo cyfundrefnol. Mae dinasyddion a sefydliadau yn y DU hefyd yn dargedau troseddau lle nad oes unrhyw gyflawnwr ffisegol na seilwaith troseddu cyfundrefnol yn y DU megis seiberdroseddu, cam- drin plant yn rhywiol a thwyll. effeithio ar gyffredinrwydd troseddau difrifol a chyfundrefnol yn y DU. Mae gwrthdaro ac ansefydlogrwydd, gan gynnwys digwyddiadau yn Affganistan yn 2021 ac ymosodiad Rwsia ar Wcráin, wedi creu mannau gwan newydd y mae troseddwyr yn camfanteisio arnynt. Er enghraifft, mae ansefydlogrwydd hefyd yn cynyddu nifer y mudwyr y gall grwpiau troseddau cyfundrefnol gamfanteisio arnynt.

Mae natur ryngwladol troseddau difrifol a chyfundrefnol yn golygu eu bod yn cael eu gwaethygu gan ddigwyddiadau dramor. Gall ansefydlogrwydd geowleidyddol

Yn rhyngwladol, mae troseddau difrifol a chyfundrefnol yn bygwth diogelwch gwladol, yn enwedig lle mae gwladwriaethau yn cael eu tanseilio gan droseddwyr sy’n ymwneud â thwyll, cyllid anghyfreithlon a’r fasnach mewn cyffuriau anghyfreithlon. Yn yr achosion hyn, mae’r llinellau rhwng troseddwyr cyfundrefnol ac unigolion/grwpiau sy’n gysylltiedig â gwladwriaethau weithiau yn aneglur. Gall unigolion/grwpiau sy’n gysylltiedig â gwladwriaethau ddefnyddio troseddau difrifol a chyfundrefnol fel grym ansefydlogi, gan ddefnyddio dirprwyon i guddio eu gweithgarwch. Gall hyn ei gwneud yn anos i’r DU gyflawni ei hamcanion o ran diogelwch gwladol ledled y byd. Mae ein hymateb i grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n gysylltiedig â gwladwriaethau yn rhan o ymateb y DU i fygythiad ehangach gwladwriaethau o’r fath.

Mae troseddwyr cyfundrefnol yn newid eu dulliau ac yn addasu i wendidau newydd er mwyn gwneud elw. Gall eu proffil troseddu addasu’n gyflym i ddigwyddiadau, gwrthdaro neu ansefydlogrwydd rhyngwladol. Bydd y dirywiad economaidd byd-eang, yr heriau o ran cadwyni cyflenwi a datblygiadau mewn technoleg yn parhau i ddylanwadu ar natur troseddau difrifol a chyfundrefnol. Tynnodd pandemig COVID-19 sylw at ba mor gyflym y gall grwpiau troseddau cyfundrefnol addasu, er enghraifft y defnydd cynyddol o gryptoasedau. Er nad yw llawer o’r heriau hyn yn newydd, maent yn debygol o greu cyfleoedd newydd i droseddwyr cyfundrefnol fanteisio ar dirwedd ryngwladol a thechnolegol fwyfwy cymhleth, yn ogystal ag effaith gynyddol newid yn yr hinsawdd a cholli natur.

Y newid a achosir gan droseddau difrifol a chyfundrefnol

Mae’n anodd mesur y niwed a achosir i’r DU gan droseddau difrifol a chyfundrefnol gan nad oes un mesur na throsedd unigol. Yn hytrach, ceir amrywiaeth o droseddau difrifol a gyflawnir gan droseddwyr cyfundrefnol. Mae’r niwed a achosir gan droseddau difrifol a chyfundrefnol yn cael ei fesur ar draws amrywiaeth o fathau unigol o droseddau, yn union fel mae ymddygiad troseddol yn cwmpasu gwahanol fathau o droseddau. Mae hyn yn arbennig o heriol am fod troseddau difrifol a chyfundrefnol, yn ôl eu natur, yn aml yn guddiedig.

Mae dwy ffordd y gallwn asesu’r niwed a achosir gan droseddau difrifol a chyfundrefnol, sef: drwy asesiad o’r bygythiad ac yn y ffigurau cyhoeddedig ar gyfer troseddau difrifol a chyfundrefnol.

Mae Asesiad Strategol Cenedlaethol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol o Droseddau Difrifol a Chyfundrefnol 2023 yn amcangyfrif bod bygythiad cynyddol yn gysylltiedig â rhai mathau o droseddau difrifol a chyfundrefnol, a gwyddys fod o leiaf 59,000 o bobl yn y DU yn ymgymryd â throseddau difrifol a chyfundrefnol.[footnote 5] Mae’n nodi bod bygythiad y mathau canlynol o droseddau yn debygol o fod wedi cynyddu yn ystod 2022, sef: cyffuriau anghyfreithlon, twyll, caethwasiaeth fodern a masnachu pobl, gwyngalchu arian, troseddau meddiangar cyfundrefnol a throseddau mudo cyfundrefnol. Mae’n barnu bod bygythiadau eraill sy’n gysylltiedig â throseddau difrifol a chyfundrefnol yn sefydlog: cam-drin plant yn rhywiol, seiberdroseddau ac arfau tanio.

Mae’r prif dueddiadau cyffredinol a nodir yn yr Asesiad Strategol Cenedlaethol fel a ganlyn: mae grwpiau troseddau cyfundrefnol yn manteisio ar wendidau a grëir gan wrthdaro, ansefydlogrwydd a thlodi rhyngwladol; mae troseddau cyfundrefnol yn manteisio ar wendidau pobl, gan ddefnyddio costau byw fel abwyd ar gyfer seiberdroseddau a thwyll; mae technoleg yn dal i fod yn alluogydd allweddol ar gyfer troseddau difrifol a chyfundrefnol ac mae’n dod yn fwyfwy hygyrch i droseddwyr; mae grwpiau troseddau cyfundrefnol yn addasu’n gyflym i’r amgylchedd sy’n newid, heb ystyried ffiniau cyfreithiol, gan addasu eu modelau gweithredu mewn ymateb i ymadawiad y DU â’r UE a chyfyngiadau pandemig COVID-19.[footnote 6]

Isod, rydym yn nodi ein dealltwriaeth o’r prif fathau o droseddau rydym yn eu cysylltu â throseddau difrifol a chyfundrefnol a’r ffordd y maent yn amlygu eu hunain yn y DU.

Troseddau mewnfudo cyfundrefnol

Mae troseddwyr cyfundrefnol yn defnyddio sawl dull i’w gwneud yn haws i fudwyr anghyfreithlon ddod i mewn i’r DU drwy gamddefnyddio rheolau mewnfudo, darparu dogfennau ffug, hwyluso teithiau awyr a dulliau eraill o ddod i mewn i’r wlad megis cuddio unigolion mewn lorïau, er bod hyn wedi datblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ddefnyddio cychod bach i groesi’r Sianel. Mae rhai o’r dulliau hyn yn rhad iawn ac ar gael yn hawdd. Er enghraifft, mae cychod bach yn gymharol rad i’w caffael a gellir eu lansio o wahanol leoliadau ar hyd arfordir gogleddol Ffrainc. Maent yn hygyrch i grwpiau troseddau cyfundrefnol ac nid oes unrhyw gyfyngiadau, megis yr angen am drwydded, ar lansio cwch bach. Ers 2020, mae mudwyr sy’n ceisio dod i mewn i’r DU ar gychod bach yn cyfrif am y rhan fwyaf o’r mudwyr anghyfreithlon a ganfuwyd yn cyrraedd y DU. Roedd nifer y mudwyr a gyrhaeddodd y DU mewn cychodd bach rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2023 34% yn is na’r nifer a gyrhaeddodd yn yr un tri mis yn 2022.[footnote 7] Mae tystiolaeth bod ymdrechion y DU a phartneriaid rhyngwladol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi cael effaith. Ataliwyd bron i 33,000 o ymgeisiau i groesi’r Sianel yn 2022, sef cynnydd o fwy na 40% o gymharu â nifer yr ymdrechion croesi a ataliwyd yn 2021.[footnote 8] Hyd yma yn 2023, mae mwy na 22,000 o ymgeisiau i groesi’r Sianel wedi’u hatal ac rydym yn asesu bod mesurau cryfach wedi gwneud yr amgylchedd gweithredu yn fwy heriol i grwpiau troseddau cyfundrefnol, gan leihau nifer yr ymdrechion lansio, yn ôl pob tebyg.[footnote 9]

Caethwasiaeth fodern

Mae caethwasiaeth fodern yn cwmpasu caethwasiaeth, caethiwed, llafur dan orfod a gorfodol a masnachu pobl. Mae unigolion sy’n masnachu pobl a chaethgludwyr yn cymell, yn twyllo ac yn gorfodi unigolion yn erbyn eu hewyllys i fywyd o gamdriniaeth, caethiwed a thriniaeth annynol. Mae caethwasiaeth fodern yn aml wedi’i chydblethu â mathau eraill o droseddoldeb, er enghraifft, camfanteisio’n droseddol ar blant drwy eu cymell i ddosbarthu cyffuriau neu gamddefnyddio pwyntiau rheoli ffiniau i fasnachu pobl er mwyn camfanteisio’n rhywiol arnynt neu gamfanteision ar eu llafur. Mae’r niwed a achosir i ddioddefwyr yn sylweddol ac yn barhaol, ac eto mae’r elw mawr, yn enwedig o gamfanteisio rhywiol, yn rhoi cymhelliant i droseddwyr cyfundrefnol barhau i gyflawni’r drosedd hon.

Mae troseddau sy’n ymwneud â chaethwasiaeth fodern a gofnodwyd gan yr heddlu wedi cynyddu 691% ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2016, i 9,694 o droseddau ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023.[footnote 10] Mae nifer yr atgyfeiriadau at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol wedi parhau i gynyddu, gan gyrraedd 16,922 yn 2022, sy’n cyfateb i gynnydd o 624% ers 2014.[footnote 11] Mae camfanteisio troseddol yn digwydd pan gaiff dioddefwyr eu gorfodi neu eu cymell i gyflawni troseddau. Hwn yr ail fath mwyaf cyffredin o gamfanteisio wedi’i gofnodi a welir mewn atgyfeiriadau at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ac mae dioddefwyr yn aml yn wladolion y DU.

Mae’n debygol bod troseddwyr yn manteisio ar lefelau uwch o ansicrwydd ariannol ymhlith dioddefwyr i’w cymell i ddosbarthu cyffuriau. Cofnodwyd bron i 17,000 o ddioddefwyr posibl yn 2022 ac, o blith y rhain, nododd 10,095 fod eraill wedi camfanteisio arnynt yn rhannol neu’n gyfan gwbl yn y DU.[footnote 12] O blith y dioddefwyr yn y DU, roedd 49% yn blant, gyda 60% yn nodi eu bod yn ddioddefwyr camfanteisio troseddol.

Cyffuriau ac arfau tanio anghyfreithlon

Mae nwyddau anghyfreithlon yn broblem drawswladol. Ni ellir cynhyrchu cocên na heroin yn y DU a chânt eu smyglo i’r DU o wledydd tramor, gyda chyfandir Ewrop yn gweithredu fel prif ffynhonnell a man cydgrynhoi cyffuriau a fwriedir ar gyfer y DU. Mae amcangyfrifon o gynhyrchiant cocên byd-eang wedi cynyddu o 1,886 o dunelli yn 2019 i 2,304 o dunelli yn 2021.[footnote 13]

Mae cyffuriau yn un o brif ysgogwyr troseddu ac maent yn gysylltiedig â thua hanner y troseddau meddiangar a lladdiadau.[footnote 14][footnote 15] Gall troseddau sy’n ymwneud â chyffuriau ac arfau tanio orgyffwrdd yn aml ac mae cysylltiad cryf rhwng cyflenwi cyffuriau a’r defnydd o arfau tanio. Amcangyfrifodd yr adolygiad annibynnol o gyffuriau a gynhaliwyd gan y Fonesig Carol Black fod gan 61% o grwpiau troseddau cyfundrefnol hysbys a oedd yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau rywfaint o allu treisgar a bod gan 29% arfau tanio anghyfreithlon.[footnote 16] Tra bod nifer y troseddau sy’n ymwneud ag arfau tanio yn y DU yn parhau i fod yn sefydlog ac ymhlith rhai o’r ffigurau isaf yn y byd, maent yn cael effaith anghymesur mewn rhai cymunedau. Ysgogwyr allweddol trais difrifol a alluogir gan arfau tanio yw’r fasnach mewn cyffuriau, brwydrau rhwng gantiau, dyled droseddol a gelyniaeth.[footnote 17] Mae gweithgarwch gangiau stryd trefol yn cyfrif am y rhan fwyaf o achosion o saethu ag arfau tanio, gan gynnwys y rhai sy’n achosi anafiadau.[footnote 18] Defnyddir arfau tanio hefyd fel amddiffyniad neu er mwyn dial ar grwpiau troseddau cyfundrefnol eraill.

Troseddau meddiangar difrifol

Ysgogir rhai troseddau meddiangar, ond nid pob un, gan droseddau meddiangar cyfundrefnol, sy’n canolbwyntio ar fwrgleriaeth, troseddau sy’n ymwneud â cherbydau, troseddau sy’n ymwneud â threftadaeth ac eiddo diwylliannol, dwyn peiriannau a chyfarpar amaethyddol a throseddau sy’n ymwneud â metal a seilwaith, sy’n digwydd ar draws ffiniau ac yn achosi llawer o niwed. Yn aml, mae troseddu meddiangar cyfundrefnol yn amrywio o ran y dull a ddefnyddir i’w gyflawni ac fe’i hysgogir yn aml gan ffactorau allanol megis pris metal. Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn asesu bod pob math o droseddau meddiangar cyfundrefnol yn debygol o gynyddu oherwydd costau byw uwch.

Gam-drin plant yn rhywiol

Gall y niwed a achosir gan gam-drin plant yn rhywiol a throseddau eraill sy’n cynnwys camfanteisio gael effaith andwyol enfawr ar ddioddefwyr a goroeswyr, eu teuluoedd a chymunedau yn gyffredinol, sy’n aml yn para am oes. Yn 2021, lluniodd y Swyddfa Gartref adroddiad ar gost economaidd a chymdeithasol cam-drin plant yn rhywiol yng Nghymru a Lloegr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019. Amcangyfrifwyd fod cost cam-drin plant yn rhywiol a chyswllt corfforol yn £10.1 biliwn o leiaf (ym mhrisiau 2018/2019).[footnote 19] Mae effeithiau cam-drin plant yn rhywiol yn fawr ac yn bellgyrhaeddol ac ni ellir mesur ei holl effeithiau ar y dioddefwr a chymdeithas na phennu gwerth ariannol iddynt. At hynny, nid yw’r amcangyfrif hwn yn cynnwys y costau sy’n gysylltiedig â cham-drin rhywiol ar-lein a cham-drin rhywiol heb gyswllt corfforol.

Gan fod pobl yn treulio mwy o amser ar-lein ac yn cysylltu â dieithriaid, mae troseddwyr yn parhau i fanteisio ar gyfleoedd i ddod o hyd i blant, meithrin perthynas amhriodol â nhw a’u cymell, yn ogystal â thalu eraill i ffrydio camdriniaeth yn fyw a chreu cymunedau o droseddwyr ar-lein. Mae bygythiad trawswladol heriol yn gysylltiedig â hyn, lle y gall dioddefwr fod mewn un wlad, troseddwr mewn gwlad arall a’r darparwr gwasanaeth ar-lein wedi’i we-letya mewn awdurdodaeth arall. Felly, gall diwydiant chwarae rôl hanfodol o ran diogelu plant ar-lein ond bydd penderfyniadau sy’n tanseilio’r egwyddorion diogelwch drwy ddylunio[footnote 20] yn lleihau gallu cwmnïau i ddiogelu plant ar eu platfformau ac yn achosi problemau sylweddol i asiantaethau gorfodi’r gyfraith o ran gallu diogelu plant a mynd ar ôl troseddwyr.

Twyll a seiberdroseddu

Mae twyll bellach yn cyfrif am tua 40% o’r holl droseddau a amcangyfrifir gan Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr.[footnote 21] Mae twyll yn fygythiad parhaus a dyma’r math mwyaf cyffredin o drosedd a wynebir yn y DU, ond mae’n debygol ei fod yn cael ei dangofnodi o hyd. Mae twyll yn effeithio ar y DU gyfan â’i ganlyniadau cymdeithasol, economaidd a seicolegol. Mae twyll yn amrywio o ran y tactegau a ddefnyddir gan droseddwyr a gellir ei rannu’n dri chategori, sef: twyll yn erbyn yr unigolyn, twyll yn erbyn busnesau a thwyll yn erbyn y sector cyhoeddus. Amcangyfrifwyd bod cyfanswm y gost i gymdeithas yn sgil twyll yn erbyn unigolion yng Nghymru a Lloegr yn 2019-20 yn £6.8 biliwn o leiaf.[footnote 22]

Mae bygythiad seiberdroseddu i’r DU yn parhau i ddatblygu. Mae seiberdroseddau bellach yn cyfrif am 10% o’r holl droseddau[footnote 23] ac amcangyfrifir bod seiberdroseddau yn gyfrifol am filiynau o ddigwyddiadau eraill sy’n effeithio ar fusnesau ac elusennau yn y DU.[footnote 24] Y defnydd o feddalwedd wystlo yw’r bygythiad seiber mwyaf i’r DU o hyd. Gall ymosodiadau meddalwedd wystlo gael effaith sylweddol ar ddioddefwyr o ganlyniad i golli arian, data a gwasanaethau. Mae troseddwyr Rwseg eu hiaith sy’n gweithredu meddalwedd wystlo fel gwasanaeth yn parhau i fod yn gyfrifol am y rhan fwyaf o ymosodiadau seiber proffil uchel yn erbyn y DU.[footnote 25] Y tu hwnt i feddalwedd wystlo, ymosodiadau llai soffistigedig, megis tanseilio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, yw’r bygythiadau i ddinasyddion a sefydliadau yn y DU a gofnodir amlaf. Mae’r dirwedd seiberdroseddu yn parhau i gael ei galluogi gan farchnad ddynamig sydd, yn gynyddol, yn ei gwneud yn bosibl i amrywiaeth eang o ddarpar droseddwyr gael gafael yn hawdd ar adnoddau a galluoedd o ansawdd uchel. Bron yn ddiau, darparu systemau a gwasanaethau galluogi, yn bennaf gwyngalchu arian, yw cysylltiad y DU ar gyfer ymwneud â seiberdroseddu lefel uchel. Bydd mabwysiadu technolegau newydd megis deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol ymhellach, yn cynyddu ein gwendidau ac yn gostwng rhwystrau i fynediad i ymgymryd â throseddau ar-lein a seiberdroseddau. Mae Penodau 4 a 5 yn nodi’n fanylach sut rydym yn ymateb i’r bygythiadau hyn, gan gynnwys y defnydd o gosbau yn erbyn y rhai sy’n cyflawni seiberdroseddau.

Gwyngalchu arian

Ysgogir y rhan fwyaf o droseddau difrifol a chyfundrefnol sy’n effeithio ar y DU gan yr awydd i wneud elw ariannol. Mae gweithgarwch gwyngalchu arian yn datblygu drwy’r amser, gyda throseddwyr yn manteisio ar dechnolegau newydd, megis cryptoasedau. Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn amcangyfrif bod posibilrwydd realistig bod gweithgarwch gwyngalchu arian yn y DU bob blwyddyn yn cyfrif am gannoedd o filiynau o bunnau.[footnote 26] Mae rhwydweithiau mulod arian yn parhau i gael eu defnyddio gan grwpiau troseddau cyfundrefnol i wyngalchu arian drwy’r system bancio a symud enillion troseddu dramor. Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn amcangyfrif bod arian parod ac asedau nad ydynt yn arian parod gwerth mwy na £10 biliwn yn cael eu gwyngalchu bob blwyddyn yn y DU.[footnote 27] Mae’r cyhoedd, gan gynnwys plant, mewn perygl wrth i grwpiau troseddol recriwtio ar raddfa fawr i’w rhwydweithiau mulod.

Casgliad

Er bod gweithgarwch troseddol cyfundrefnol i’w gael mewn amrywiaeth o fathau gwahanol o droseddau, mae’r model busnes troseddol cyfundrefnol yn seiliedig ar ddulliau a thactegau cyffredin, sef:

  • maent bron bob amser yn dibynnu ar elfen dramor a ysgogir gan elw, nid ideoleg;
  • maent yn cael eu hategu gan dechnoleg, naill ai ar gyfer cyfathrebu, cynnal trafodiadau ariannol neu osgoi cael eu canfod. Bydd y duedd hon yn cynyddu wrth i dechnoleg a arferai fod yn gymhleth ddod yn haws i’w defnyddio, gan ostwng y rhwystrau i fynediad;
  • maent yn manteisio ar ansefydlogrwydd a newidiadau geowleidyddol ac yn aml yn cael eu gwaethygu gan y ffactorau hynny;
  • maent yn dibynnu ar amrywiaeth o alluogwyr, o gyfranogwyr diarwybod i wasanaethau troseddol proffesiynol;
  • maent yn aml yn addasu’n gyflym ac yn newid eu methodoleg er mwyn sicrhau’r elw mwyaf posibl ac osgoi asiantaethau gorfodi’r gyfraith.

Ffigur 2 – Tarddleoedd tramor troseddau difrifol a chyfundrefnol sy’n effeithio ar y D

Mae troseddwyr cyfundrefnol sy’n gweithredu yng Ngogledd Ewrop yn defnyddio cychod bach i ddod â mudwyr anghyfreithlon i’r DU.

Meddalwedd wystlo, a ddefnyddir gan grwpiau Rwseg eu hiaith, yw’r bygythiad mwyaf i’r DU o ran seiberdroseddu ac mae’n ystyriaeth benodol ar gyfer diogelwch gwladol.

UDA a chyfandir Ewrop yw prif ffynhonnell arfau tanio marwol.

Cyfandir Ewrop yw prif ffynhonnell a man cydgrynhoi cyffuriau a fwriedir ar gyfer y DU.

Mae gwrthdaro ac ansefydlogrwydd, gan gynnwys yn Affganistan yn 2021 ac yn Wcráin yn 2022, wedi creu mannau gwan newydd y gall troseddwyr fanteisio arnynt.

Mae 100% o’r holl gyffuriau Dosbarth A yn cyrraedd y DU o wledydd tramor. Daw 95% o gyflenwad heroin y DU o Affganistan.

Colombia yw cynhyrchydd cocên mwyaf y byd a’r brif wlad ffynhonnell ar gyfer cyflenwi cyffuriau Dosbarth A ochr yn ochr ag Affganistan.

Mae rhwydweithiau mulod arian yn parhau i gael eu defnyddio gan grwpiau troseddau cyfundrefnol i gyflwyno arian parod i’r system fancio a symud enillion troseddu dramor.

Pennod 4: Dull Strategol

Cyflwyniad

Mae’r strategaeth hon yn adeiladu ar y dull gweithredu a nodir yn Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol 2018 y Llywodraeth.[footnote 28] Mae’n adlewyrchu blaenoriaethau mwyaf diweddar y Llywodraeth ar gyfer lleihau troseddau a nodir yng Nghynllun Gorchfygu Troseddu 2021[footnote 29] ac ar gyfer gwella diogelwch gwladol y DU, a nodir yn yr Adolygiad Integredig o Ddiogelwch, Amddiffyn, Datblygu a Pholisi Tramor (2021)[footnote 30] a Diweddariad 2023 o’r Adolygiad Integredig.[footnote 31] Mae’r strategaeth hon yn ategu strategaethau a chynlluniau cysylltiedig eraill y Llywodraeth sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â mathau gwahanol o droseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae’r rhain yn cynnwys: O Niwed i Obaith: cynllun cyffuriau 10 mlynedd 2022; Strategaeth Mynd i’r Afael â Cham-drin Plant yn Rhywiol 2021; Strategaeth Dwyll 2023; Cynllun Troseddau Economaidd 1 (2019); Cynllun Troseddau Economaidd 2 (2023); Strategaeth Seiberddiogelwch Genedlaethol 2022; Strategaeth Wrth-Lygredigaeth 2017. Mae wedi llywio’r blaenoriaethau strategol a bennwyd ar gyfer yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol gan yr Ysgrifennydd Cartref a strategaeth yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ei hun.

Mae’r ddogfen hon yn nodi gweithgarwch sydd i’w gyflawni ar unwaith gan edrych i’r dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn aros ar y blaen i fygythiad troseddau difrifol a chyfundrefnol.

Dull strategol

Pa fathau o fygythiadau a wynebwyd gennym yn 2018?

Asesodd Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol 2018 fod troseddau difrifol a chyfundrefnol yn fyd-eang o ran eu natur, eu bod yn fygythiad sylweddol i’n diogelwch gwladol a’u bod yn achosi niwed mawr i bobl yn y DU. Nododd strategaeth 2018 faint o’r troseddau cyfundrefnol a wynebir gan bobl yn y wlad hon oedd yn guddiedig neu’n cael eu tangofnodi, megis camfanteisio ar bobl sy’n agored i niwed a thwyll. Nododd fod ansefydlogrwydd byd-eang a datblygiad cyflym technoleg newydd yn risgiau cynyddol a fyddai’n parhau i alluogi troseddau difrifol a chyfundrefnol.

Sut y ceisiodd Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol 2018 ymdrin â’r bygythiadau hyn?

Mewn ymateb, pwysleisiodd strategaeth 2018 ymateb seiliedig ar guddwybodaeth, a fyddai’n targedu’r ymdrech darfu lawer mwy at y rhwydweithiau cyfundrefnol a allai achosi’r niwed mwyaf a’r troseddwyr cyfundrefnol mwyaf peryglus a phenderfynol, gan ddefnyddio’r holl bwerau ac ysgogiadau a oedd ar gael. Nododd strategaeth 2018 fuddsoddiad i atgyfnerthu’r ymateb i droseddau economaidd a chyllid anghyfreithlon fel un o alluogwyr allweddol y rhan fwyaf o fathau o droseddau. Ehangodd y strategaeth y dull gweithredu, gan ymrwymo i weithio gyda’r cyhoedd, busnesau a chymunedau er mwyn eu hatal rhag cael eu targedu ac ymyrryd yn gynnar gyda’r rhai sy’n wynebu risg o gael eu denu i fyd troseddu. Nod y strategaeth oedd meithrin gallu’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a rhwydwaith Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol yr Heddlu, yr oedd y naill a’r llall yn gymharol newydd ar y pryd, ochr yn ochr â mesurau i wella trefniadau cydweithio rhwng pob un o asiantaethau perthnasol y Llywodraeth ac asiatnaethau perthnasol eraill. Er mwyn cefnogi hyn, addawodd y strategaeth i wella ein gallu i ymrwymo i fuddsoddi dros sawl blwyddyn.

Beth rydym wedi’i gyflawni ers strategaeth 2018?

Mae’r Llywodraeth wedi atgyfnerthu ei hymateb i droseddau difrifol a chyfundrefnol yn unol â’r blaenoriaethau a nodwyd yn strategaeth 2018 ac, yn fwy diweddar, y Cynllun Gorchfygu Troseddu a’r Adolygiad Integredig.

Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran cyflawni’r ymrwymiad i atgyfnerthu’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol er mwyn iddi allu mynd i’r afael â bygythiadau troseddau difrifol a chyfundrefnol. Cynyddodd Adolygiad o Wariant 2021 gyllideb yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol 21% i £860 miliwn yn 2023/24. Mae’r cynnydd hwn yng nghyllideb ac adnoddau’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn ei helpu i gyflawni ei rôl weithredol yn fwy effeithiol a diraddio’r troseddwyr mwyaf niweidiol a mwyaf soffistigedig yn dechnolegol, y rhai sy’n galluogi eu gweithgareddau a’r rhai sy’n gwyngalchu’r arian a wneir ganddynt.

Mae’r Llywodraeth wedi cynyddu gallu ac adnoddau ym maes plismona er mwyn mynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol. Yn rhanbarthol, mae’r Rhaglen ar gyfer Recriwtio Mwy o Swyddogion yr Heddlu wedi cynyddu nifer y swyddogion mewn Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol bron i 50%, gyda 725 o swyddogion ychwagenol wedi’u hanfon i amrywiaeth o alluoedd arbenigol.[footnote 32] Mae’r swyddogion hyn yn canolbwyntio ar amrywiaeth eang o droseddau, gan gynnwys cyflenwi cyffuriau, twyll sy’n achosi llawer o niwed, niweidiau ar-lein, camfanteisio cyfundrefnol ar oedolion sy’n agored i niwed a seiberdroseddu. Rydym wedi cyflwyno Arweinydd amser llawn Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar gyfer Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol ar lefel Prif Gwnstabl. Drwy’r Gofyniad Plismona Strategol, rydym wedi atgyfnerthu’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei ddisgwyl gan heddluoedd ac Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol. Rydym hefyd wedi gwella cyfundrefn arolygu Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) er mwyn hwyluso rhannu arferion gorau a nodi meysydd y mae angen eu gwella.

Ni all asiantaethau gorfodi’r gyfraith fynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol ar eu pen eu hunain. Rydym wedi parhau i gefnogi ymateb partneriaeth amlasiantaethol, sy’n cynnwys awdurdodau lleol a meysydd addysg, iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal â’r sectorau cymunedol, gwirfoddol a phreifat. Ynghyd â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, mae’r Llywodraeth wedi treialu dull gweithredu o’r dechrau i’r diwedd y bwriedir iddo hyrwyddo gwaith partneriaeth lleol effeithiol. Mae hyn yn cynnwys lleihau troseddau a meithrin cadernid cymunedol mewn ardaloedd troseddu aml mewn ffordd gynaliadwy. Ynghyd â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, rydym wedi treialu’r dull partneriaeth blaenllaw, ‘Clear, Hold, Build’, mewn saith heddlu ers 2020 ac rydym bellach yn ei hymestyn i gynnwys pob heddlu tiriogaethol erbyn Gwanwyn 2024. Mae heddluoedd mewn ardaloedd peilot wedi nodi’r effaith gadarnhaol y gall y dacteg ‘Clear, Hold, Build’ ei chael yn lleol. Mae’r dull gweithredu wedi’i gydnabod fel dull arloesol ac arfer da gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi ac mae’r Coleg Plismona wedi datblygu ‘Clear, Hold, Build Smarter Practice’, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023.

Rydym wedi cyflwyno partneriaethau mynd i’r afael â chyffuriau, wedi atgyfnerthu partneriaethau diogelwch cymunedol ac wedi cyflwyno’r Ddyletswydd Trais Difrifol newydd ym mis Ionawr 2023. Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu proffiliau lleol o droseddau difrifol a chyfundrefnol, proffiliau lleihau lladdiadau a phroffiliau o farchnadoedd cyffuriau, sy’n edrych ar y bygythiad mewn cymunedau yn ei gyfanrwydd. Rydym yn gweithio er mwyn helpu’r heddlu, awdurdodau lleol a’r sectorau gwirfoddol, elusennol a phreifat i roi’r rhain ar waith mor effeithiol ac effeithlon â phosibl, er mwyn iddynt sicrhau lleihad cynaliadwy mewn troseddau a niwed mewn cymunedau. Er mwyn cefnogi’r broses o’u rhoi ar waith, rydym wedi sefydlu Bwrdd Llywodraethu Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol lleol newydd, a gadeirir gan arweinydd throseddau difrifol a chyfundrefnol Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, cyfarfodydd bord gron Gweinidogol a chynllun gweithredu mewn partneriaeth y bwriedir iddo nodi rolau a chyfrifoldeb partneriaid cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, Cymdeithas Llywodraeth Leol ac arweinwyr plismona i gefnogi gweithgarwch lleol i fynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol.

Ers iddo gael ei sefydlu yn 2015, mae Prosiect INVIGOR, sef rhaglen gyllido’r Llywodraeth sy’n cefnogi buddsoddi a datblygu yng ngalluoedd Llywodraeth y DU a galluoedd tramor i fynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol, wedi bod yn gysylltiedig â mwy na 1,400 o arestiadau yn y Deyrnas Unedig a thramor gydag unigolion, yn dilyn euogfarn, yn cael eu dedfrydu i gyfanswm o 1,300 o flynyddoedd yn y carchar.[footnote 33] Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2023, llwyddodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i darfu 237 o weithiau ar fygythiad troseddau difrifol a chyfundrefnol, a arweiniodd at fwy na 90 o ymchwiliadau i grwpiau smyglo pobl sy’n achosi’r niwed mwyaf.[footnote 34]

Rydym wedi buddsoddi yng ngalluoedd asiantaethau gorfodi’r gyfraith er mwyn sicrhau bod ganddynt yr adnoddau i ymdrin â’r nifer cynyddol o seiberdroseddau mwyfwy soffistigedig, gan gynnwys drwy Uned Seiberdroseddu Genedlaethol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. Yn rhanbarthol, mae’r Llywodraeth wedi sefydlu rhwydwaith o Unedau Seiberdroseddu Rhanbarthol fel rhan o rwydwaith yr Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol er mwyn rhoi mynediad at alluoedd seiber arbenigol. Mae’r unedau hyn yn cynnwys swyddogion Amddiffyn ac Atal penodol, sy’n gweithio gyda heddluoedd perthnasol er mwyn helpu partneriaid lleol a busnesau lleol i wella eu gallu i wrthsefyll seiberdroseddau.

Yn 2018, cyhoeddodd y Llywodraeth adolygiad annibynnol o droseddau difrifol a chyfundrefnol yn y sector gwastraff, a oedd yn ategu Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol 2018. Yn dilyn hyn, sefydlodd y Llywodraeth yr Uned Troseddau Gwastraff ar y Cyd yn Asiantaeth yr Amgylchedd. Partneriaeth amlasiantaethol i’r DU gyfan yw hon (sy’n cynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yr heddlu, CThEF, y gwasanaeth tân a’r diwydiant gwastraff) a ffurfiwyd yn benodol i dargedu grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n gweithredu yn y sector gwastraff ond sydd hefyd yn dylanwadu ar droseddau eraill ac yn cyflawni troseddau eraill.

Ym mis Rhagfyr 2021, lansiodd y Llywodraeth Strategaeth Gyffuriau 10 mlynedd, a oedd yn nodi dull partneriaeth system gyfan o fynd i’r afael â chyffuriau anghyfreithlon. Mae’r Swyddfa Gartref yn buddsoddi £300 miliwn dros dair blynedd er mwyn rhoi cynllun cadarn ac arloesol o’r dechrau i’r diwedd ar waith a fydd yn ymosod ar bob cam o’r gadwyn gyflenwi, gan wneud y DU yn lle llawer mwy anodd i grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n ymwneud â chyflenwi cyffuriau weithredu ynddo.

Mae’r Strategaeth Gyffuriau yn adeiladu ar lwyddiant Rhaglen Llinellau Cyffuriau a Phrosiect ADDER (sef ‘Addiction, Diversion, Disruption, Enforcement, Recovery’ yn Saesneg), sef dull dwys o fynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau. Mae hyn yn cyfuno plismona wedi’i dargedu, llymach, â gwasanaethau trin ac adfer gwell. Ers i Raglen Llinellau Cyffuriau gael ei lansio yn 2019, mae’r heddlu wedi cau mwy na 5,100 o linellau, wedi gwneud mwy na 15,600 o arestiadau ac wedi diogelu 8,000 o bobl. Ers i ni roi’r Strategaeth Gyffuriau ar waith ym mis Ebrill 2022, rydym wedi cau mwy na 2,000 o linellau cyffuriau erbyn mis Medi 2023, gan gyflawni ein hymrwymiad cyhoeddedig ar gyfer mis Mawrth 2025 18 mis ynghynt.[footnote 35] Ers mis Ionawr 2021, mae Prosiect ADDER wedi cefnogi 4,500 o ymgyrchoedd i darfu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol (bach, canolig a mawr), wedi atafaelu arian parod gwerth mwy nag £11 miliwn, wedi gwneud 32,000 o arestiadau ac wedi sicrhau bron i 12,000 o ddatrysiadau y tu allan i’r llys (datrysiadau cymunedol) ar gyfer troseddau yn ymwneud â bod â chyffuriau yn eich meddiant.[footnote 36] Erbyn 2024-25, rydym yn disgwyl i’r genhadaeth Llywodraeth gyfan hon wneud y canlynol: lleihau troseddau a lladdiadau sy’n gysylltiedig â chyffuriau; cau mwy na 2,100 o linellau cyffuriau ychwanegol; cynnal 8,800 o ymgyrchoedd tarfu mawr a chanolig (sef cynnydd o 20%), gan gynnwys arestio cyflenwyr dylanwadol, targedu eu cyllid a chwalu cadwyni cyflenwi; cynyddu ein gweithgarwch atal asedau troseddol yn sylweddol, gan fynd ag arian parod, cryptoasedau ac asedau eraill oddi ar droseddwyr sy’n masnachu ac yn cyflenwi cyffuriau.

Rydym wedi rhoi Cynllun Troseddau Economaidd 1 ar waith ac wedi cyflwyno Ardoll Troseddau Economaidd newydd (er mwyn atal gwyngalchu arian), a fydd yn codi tua £100 miliwn bob blwyddyn er mwyn helpu i ariannu mesurau atal gwyngalchu arian), gan gynnwys mesurau newydd a nodir yng Nghynllun Troseddau Economaidd 2. Bydd hyn yn cynyddu’r gallu a’r adnoddau i gynnal ymchwiliadau ariannol yn sylweddol yn yr Unedau Troseddau Cenedlaethol Rhanbarthol a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yn ychwanegol at y buddsoddiadau a wnaed eisoes yn yr haen ranbarthol i sefydlu’r rhwydwaith cenedlaethol cyntaf o Dimau Troseddau Economaidd Rhagweithiol sy’n mynd i’r afael â thwyll. Ochr yn ochr ag arian a ddyrannwyd yn Adolygiad o Wariant 2021, mae hyn yn cyfateb i fuddsoddiad gwerth £400 miliwn er mwyn mynd i’r afael â throseddau economaidd hyd at 2024-25. Ni ddylai troseddu dalu ac ni ddylai troseddwyr allu elwa ar eu gweithgarwch anghyfreithlon. Rhwng 2017/18 a 2022/23, mae £1.6bn wedi’i adennill gan droseddwyr gan ddefnyddio pwerau yn y Ddeddf Elw Troseddau. Rydym hefyd wedi cyflwyno deddfwriaeth newydd. Derbyniodd y Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) Gydsyniad Brenhinol ar 15 Mawrth 2022. Cyflwynodd y Ddeddf ddiwygiadau er mwyn gwella tryloywder a darparu pwerau cryfach a rhagor o wybodaeth i nodi cyfoeth anghyfreithlon troseddwyr ac ymchwilio iddo. Mae’r diwygiadau hyn, sy’n cynnwys sefydlu’r Gofrestr o Endidau Tramor a lansiwyd ym mis Awst 2022, yn galluogi asiantaethau gorfodi’r gorfodi i gymryd camau mwy effeithiol yn erbyn cleptocratiaid, elitau llwgr a throseddwyr difrifol a chyfundrefnol sy’n gwyngalchu eu harian yn y DU. Mewn ymateb uniongyrchol i ymosodiad Rwsia ar Wcráin, mae’r DU a’i phartneriaid wedi cynyddu’r defnydd a wneir o gosbau ariannol cymhleth a sancsiynau economaidd eraill yn sylweddol.

Cafodd y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol Gydsyniad Brenhinol ar 26 Hydref 2023. Gan adeiladu ar Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 a’i rhagflaenodd, mae’r Ddeddf yn diwygio rôl Tŷ’r Cwmnïau a bydd yn mynd i’r afael â’r defnydd a wneir o filoedd o gwmnïau yn y DU a strwythurau corfforaethol eraill fel cyfryngau ar gyfer troseddau economaidd, gan gynnwys twyll, gweithgarwch gwyngalchu arian rhynglwadol, cyllid anghyfreithlon o Rwsia, llygredigaeth, cyllido terfysgaeth a symud arfau anghyfreithlon. Mae’r Ddeddf hefyd yn cynnwys diwygiadau er mwyn atal partneriaethau cyfyngedig rhag cael eu camddefnyddio, pwerau ychwanegol i atafaelu cryptoasedau yn gyflymach ac yn haws a diwygiadau i hwyluso rhannu gwybodaeth mewn ffordd fwy effeithiol a phenodol er mwyn mynd i’r afael â gweithgarwch gwyngalchu arian a throseddau economaidd. Mae hyn yn cyflwyno pwerau newydd i asiantaethau gorfodi’r gyfraith gasglu cuddwybodaeth ac yn dileu beichiau rheoleiddiol ar fusnesau yn ogystal â mesurau er mwyn sicrhau bod y sector cyfreithiol a busnesau rheoleiddiedig eraill yn cydymffurfio â’r agenda ar gyfer atal gwyngalchu arian a throseddau economaidd ehangach. Mae diwygiadau eraill yn cynnwys mesurau newydd i fynd i’r afael ag Achosion Cyfreithiol Strategol yn erbyn Cyfranogiad Cyhoeddus mewn perthynas â throseddau economaidd, troseddau methu ag atal twyll newydd er mwyn dwyn sefydliadau i gyfrif os byddant yn twyllo defnyddwyr a mesurau i foderneiddio athrawiaeth nodi troseddau economaidd. Bydd y mesurau hyn hefyd yn mynd i’r afael â chleptocratiaid, troseddwyr a therfysgwyr sy’n camddefnyddio economi agored y DU, gan wella enw da’r DU fel gwlad lle y gall busnesau cyfreithlon ffynnu a gyrru arian brwnt allan o’r DU ar yr un pryd.

Gwnaethom gyflwyno Strategaeth Wrth-Lygredigaeth 2017-2022 y DU, a oedd yn cynnwys mesurau i leihau bygythiadau i’n diogelwch gwladol, cynnig mwy o gyfleoedd economaidd a meithrin ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn sefydliadau’r DU. Roedd y strategaeth yn cynnwys camau gweithredu i wneud y canlynol: lleihau bygythiad mewnwyr mewn sectorau domestig risg uchel megis ffiniau; hyrwyddo tryloywder perchenogaeth buddiol yn fyd-eang; sefydlu cyfundrefn sancsiynau gwrth-lygredigaeth annibynnol y DU; a chyhoeddi adolygiad o risgiau caffael mewn llywodraeth leol sy’n gwella dealltwriaeth ac yn atgyfnerthu ein hymateb. Mae’r Llywodraeth yn parhau i roi’r camau gweithredu a nodir yn Strategaeth Mynd i’r Afael a Cham-drin Plant yn Rhywiol 2021 ar waith, yn ogystal â’r ymateb i adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol 2023. Mae nifer yr erlyniadau am droseddau sy’n ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf (8,005 o erlyniadau yn 2022).[footnote 37] Rydym wedi buddsoddi mewn rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar gyfer ein Cronfa Ddata o Ddelweddau o Gam-drin Plant sy’n arwain y byd, gan ein helpu i wella effeithlonrwydd achosion o gam-drin plant yn rhywiol ar-lein. Drwy Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022, rydym wedi cyflwyno dedfrydau llymach i’r rhai sy’n ceisio trefnu i blentyn gael ei gam-drin ar-lein neu hwyluso hynny, gan sicrhau bod y ddedfryd yn adlewyrchu difrifoldeb y drosedd. Rydym yn dal i fod yn llwyr ymrwymedig i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr. Ym mis Mehefin 2022, lansiodd y Swyddfa Gartref ei Chronfa Gymorth i Ddioddefwyr a Goroeswyr Cam-drin Plant yn Rhywiol ar gyfer 2022-25, gan ddarparu cyllid grant gwerth hyd at £4.5 miliwn i sefydliadau yn sector gwirfoddol yng Nghymru a Lloegr.[footnote 38]

Rydym wedi ymestyn cyrhaeddiad rhyngwladol y DU wrth fynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae hyn wedi cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer Gweithrediadau Rhyngwladol y Swyddfa Gartref a rhwydwaith yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol o swyddogion cyswllt rhyngwladol sy’n gweithio gyda phartneriaid gorfodi’r gyfraith mewn mwy na 130 o wledydd er mwyn manteisio ar guddwybodaeth ac asedau gorfodi’r gyfraith lleol a, lle y bo angen, feithrin gallu gweithredol yn erbyn bygythiadau a rennir. Rydym wedi cyflwyno’r rhwydwaith polisi troseddau difrifol a chyfundrefnol (SOCnet), a redir gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO), ledled y byd. Mae SOCnet yn rhwydwaith o arbenigwyr polisi sydd wedi’u lleoli mewn gwledydd tramor allweddol sy’n gweithio i wneud yn siŵr bod ein hymateb rhyngwladol mor gynhwysfawr â phosibl. Mae’n dwyn ynghyd yr holl ysgogiadau diplomataidd, milwrol, gwleidyddol a datblygol er mwyn mynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol mewn ffordd gydgysylltiedig a chydlynol, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygu mynediad, dylanwad ac ymrwymiad gwleidyddol. Mae’r rhwydwaith yn cydweithio’n agos â’r Cyd-Blatfformau Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol mewn mwy nag 80 o lysgenadaethau ac uchel gomisiynau er mwyn cydgysylltu’r broses o roi ein hymteb rhyngwladol ar waith. Rydym wedi parhau i gyflwyno portffolio trawslywodraethol o raglenni rhyngwladol ledled y byd gyda llywodraethau partner, sy’n werth mwy na £100 miliwn. Mae’r rhaglenni hyn yn mynd i’r afael â bygythiadau troseddau difrifol a chyfundrefnol i’r DU a’i buddiannau, yn mynd ar ôl grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n achosi llawer o niwed ac yn amddiffyn y rhai sy’n agored i niwed.

Rydym wedi sicrhau bod gan asiantaethau gweithredol yn y DU yr adnoddau trawsffiniol sydd eu hangen arnynt i ganfod troseddau ac ymchwilio iddynt a dwyn troseddwyr o flaen eu gwell, boed hynny yn y DU neu dramor. Mae hyn wedi cynnwys cwblhau’r Cytundeb Masnach a Chydweithrediad â’r UE, sy’n darparu pecyn cynhwysfawr (na welwyd mo’i debyg o’r blaen mewn perthynas â chydweithrediad yr UE â thrydedd wlad) o alluoedd sy’n sicrhau y gallwn weithio gyda chymheiriaid ledled Ewrop.

Rydym wedi parhau i weithio’n agos gydag Aelod-wladwriaethau’r UE, er enghraifft, ym meysydd estraddodi, cyd-gymorth cyfreithiol, cyfnewid data biometrig ar olion bysedd a DNA (“Prüm”), a chofnodion troseddol, yn ogystal â chydweithrediad gweithredol drwy Europol ac Eurojust.

Rydym wedi gwneud cyfraniad sylweddol at wella adnoddau gorfodi’r gyfraith a rennir, megis INTERPOL, sydd â chyrhaeddiad rhyngwladol ar draws 196 o wledydd, ac y gwnaethom gytuno ar ymrwymiadau uchelgeisiol a digynsail G7 mewn perthynas ag ef yn ystod llywyddiaeth y DU yn 2021. Mae’r DU wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal Cynulliad Cyffredinol INTERPOL yn 2024 yn Glasgow. Mae hyn yn adeiladu ar ein buddsoddiad parhaus yn y sefydliad drwy arbenigedd, cyllid a secondiadau, er mwyn sicrhau bod INTERPOL, sef y sefydliad heddlu rhyngwladol, yn cefnogi ymdrechion asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn y DU i fynd i’r afael â throseddoldeb rhyngwladol. Fel rhan o hyn, rydym hefyd yn cyflwyno cysylltiadau amser real â chronfeydd data INTERPOL i heddluoedd tiriogaethol ac wrth y ffin drwy Blatfform Rhybuddion Gorfodi Cyfraith Ryngwladol (I-LEAP).

Cyfunodd y Gyd-Ganolfan Troseddau Rhyngwladol (JICC), a lansiwyd ym mis Ebrill 2023, y Ganolfan Cydgysylltu Troseddau Rhyngwladol (ICCC) gynt a oedd yn rhan o Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a Biwro Troseddau Cenedlaethol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, gan gydgrynhoi a gwella galluoedd y DU i ymateb i fygythiad cynyddol troseddoldeb trawswladol, gan gynnwys troseddau difrifol a chyfundrefnol. Bydd y Gyd-Ganolfan Troseddau Rhyngwladol yn llywio, yn cydgysylltu ac yn cefnogi ymateb maes plismona ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn y DU i droseddau rhyngwladol drwy fabwysiadu dull gweithredu amlasiantaethol. Mae wedi’i hintegreiddio â galluoedd rhyngwladol arbenigol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, megis ei rhwydwaith o Swyddogion Cyswllt Rhyngwladol, a thai, ymhlith pethau eraill, Uned Estraddodi Genedlaethol y DU, Uned Genedlaethol Europol a swyddogaethau ar gyfnewidfa fiometrig Prüm â gwledydd yr UE o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithrediad rhwng y DU a’r UE. Mae hefyd yn gartref i Fiwro Canolog Cenedlaethol INTERPOL yn y DU, sy’n hwyluso cyfnewid cuddwybodaeth a gweithgarwch cydgysylltu gweithredol ar sail heddlu i heddlu ar ran asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn y DU.

Beth sydd wedi newid o ran troseddau difrifol a chyfundrefnol?

Nid yw’r cymhelliant ariannol sy’n sail i’r rhan fwyaf o droseddau difrifol a chyfundrefnol wedi newid. Mae rhai tueddiadau, yn enwedig tueddiadau economaidd a geowleidyddol, wedi cynyddu cyfleoedd i droseddwyr fanteisio ac effeithio ar brosesau cyflenwi nwyddau yn ogystal â’r galw am eu gwasanaethau megis er mwyn ei gwneud yn haws i fudwyr anghyfreithlon gyrraedd y DU. Mae tueddiadau eraill, yn enwedig datblygiad technoleg, yn galluogi troseddwyr i weithredu mewn ffordd wahanol ac maent yn peri problemau newydd ar gyfer ymateb asiantaethau gorfodi’r gyfraith. Gyda’i gilydd, mae pob un o’r datblygiadau hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol at y troseddau a wynerbir gan bobl bob dydd ledled y DU.

Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin, ynghyd ag ansefydlogrwydd rhyngwladol parhaus a gwladwriaethau sydd wedi methu, yn gwaethygu’r bygythiadau hyn ac yn tynnu sylw at y gorgyffwrdd agos rhwng bygythiadau gwladwriaethol a throseddau difrifol a chyfundrefnol a’r defnydd o droseddau difrifol a chyfundrefnol fel crefft llywodraeth i gyflawni amcanion strategol. Mewn rhai gwledydd, mae rhwydweithiau troseddol trawswladol sy’n targedu’r DU eisoes wedi sleifio i strwythurau cymdeithasol, masnachol a gwleidyddol, yn aml drwy lygredigaeth a chyllid anghyfreithlon. Mae’r Llywodraeth wedi lansio nifer o fentrau mewn ymateb i ymosodiad Rwsia ar Wcráin er mwyn diogelu’r DU rhag grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth Rwsia a gwladwriaethau eraill, megis Cell Mynd i’r Afael â Chleptocratiaeth (CKC) yn yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. Mae hyn wedi helpu i wella ein dealltwriaeth o’r ffordd y mae grwpiau/unigolion sy’n gweithredu ar ran gwladwriaethau yn cyfrannu at droseddoldeb cyfundrefnol, ei gyfarwyddo neu ei oddef er mwyn cyflawni eu hamcanion ac, wrth wneud hynny, danseilio diogelwch gwladol y DU. Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin hefyd wedi arwain at ansefydlogrwydd a phwysau economaidd, gyda phobl yn fwy tebygol o gael eu denu i gyflawni troseddau neu o fod yn ddioddefwyr troseddau.

Newidiodd pandemig byd-eang COVID-19 natur troseddu am iddo ysgogi cynnydd yn nifer y troseddau ar-lein wrth i fwy o drafodiadau ariannol gael eu cynnal ar-lein ac wrth i’r cyfleoedd i bobl a nwyddau symud yn ffisegol leihau. Enghraifft arall yw’r cynnydd yn nifer y gangiau sy’n gysylltiedig â throseddau mewnfudo a fabwysiadodd groesi’r Sianel i’r DU mewn cychod bach fel eu prif fodel busnes yn ystod y pandemig. Credir bod hyn i’w briodoli i’r ffaith bod llai o ffyrdd eraill o ddod i mewn i’r DU ar gael. Byddwn yn parhau i weld troseddwyr cyfundrefnol yn addasu eu dulliau a’u technegau wrth i amgylchiadau newid.

Yn fwy cyffredinol, mae’r duedd o ran newid technolegol cyflym yn debygol o barhau dros y pum mlynedd nesaf ac ar ôl hynny, gan ddod â heriau a chyfleoedd. Mae troseddu ar-lein yn cynyddu, gyda throseddwyr yn manteisio ar dechnoleg a’r amgylchedd ar-lein, megis systemau bancio datganoledig, er mwyn twyllo, gwyngalchu arian, cam-drin plant yn rhywiol a defnyddio meddalwedd wystlo. Bydd technolegau newydd yn parhau i ostwng y rhwystrau i fynediad i droseddwyr. Yn fwyfwy, mae troseddwyr yn prynu’r cymorth neu’r dechnoleg sydd ei (h)angen arnynt gan gyflenwyr ‘proffesiynol’ gwasanaethau troseddol penodol. Mae risg y bydd technolegau prif ffrwd megis apiau negeseua sy’n cynnig amgryptiad o’r naill ben i’r llall yn cuddio’r rhan fwyaf o achosion o gam-drin plant yn rhywiol rhag asiantaethau gorfodi’r gyfraith. Bydd yn dod yn fwyfwy anodd i asiantaethau gorfodi’r gyfraith nodi tystiolaeth, sy’n fwyfwy digidol a helaeth, a chael gafael arni, er mwyn ei dadansoddi a’i defnyddio mewn achosion cyfreithiol.

Sut y bydd ein hymateb, yn ei dro, yn newid?

Pwysleisiodd strategaeth 2018 bwysigrwydd tarfu’n ddibaid ar droseddwyr cyfundrefnol sy’n achosi llawer o niwed a chymryd camau penodol yn eu herbyn, a chadw i fyny â gweithgareddau a methodolegau troseddwyr cyfundrefnol. Gan fod troseddau cyfundrefnol yn manteisio ar gyfleoedd newydd i wneud elw troseddol ar draul pobl yn y DU, mae angen i’n hymateb domestig fod yn fwy clyfar a chadarn, gan darfu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n gweithredu yn y DU neu yn ei herbyn a’u chwalu. Er mai gweithredu yn y wlad hon yw’r flaenoriaeth gyntaf, mae angen iddo fod yn rhan o ymateb o’r dechrau i’r diwedd, ochr yn ochr â gweithgarwch tarfu ar raddfa fawr, ar-lein, wrth y ffin a thramor er mwyn lleihau troseddau difrifol a chyfundrefnol yn y DU.

Yn y DU y mae ein llinell weithredu gyntaf. Bydd yn ymateb domestig cadarn i darfu ar y grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n gweithredu yn y DU ac yn ei herbyn a’u chwalu. Er bod y rhan fwyaf o droseddau difrifol a chyfundrefnol a welwn yn y wlad hon yn gysylltiedig â gwledydd tramor neu’n deillio ohonynt, gwneir y niwed yma yn y DU. Mae angen y galluoedd hirdymor cywir arnom i achub y blaen ar yr heriau rydym yn eu hwynebu, gan sicrhau y gall asiantaethau gorfodi’r gyfraith barhau i gasglu tystiolaeth ac ymchwilio i droseddau yn effeithiol mewn byd sy’n cael ei alluogi fwyfwy gan dechnoleg.

Er mwyn cefnogi gweithgarwch tarfu effeithiol yn y DU, mae angen i ni ddelio ag effaith troseddau difrifol a chyfundrefnol mewn cymunedau ledled y wlad, gan feithrin cadernid a gweithio i ddargyfeirio mwy o’r bobl hynny sy’n ymwneud â throseddoldeb cyfundrefnol i ffwrdd oddi wrth fywyd o droseddu ac atal troseddwyr ymroddedig. Rhaid i ni hefyd wneud mwy i ymateb i’r cynnydd mewn troseddu ar-lein, y daw llawer ohono o wledydd tramor, ond sy’n cael effaith ar bobl yn y wlad hon. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith yr adnoddau a’r galluoedd cywir i fynd ar ôl troseddwyr ar-lein a’i gwneud yn llawer anos i droseddwyr weithredu ar-lein yn y lle cyntaf. Byddwn yn gweithio gyda’r sector preifat i atal troseddu drwy ddylunio ac yn gweithio gyda’r cyhoedd i gynyddu ymwybyddiaeth o sut y gall pobl ddiogelu eu hunain.

Ar ffin y DU y mae ein hail linell weithredu. Bydd yn canolbwyntio ar y ffin fel gwendid posibl a man ymyrryd hollbwysig yn erbyn troseddwyr cyfundrefnol. Mae hyn yn cynnwys diogelu ffin y DU, ymyrryd i atal y cyflenwad o nwyddau anghyfreithlon, canfod 24 Dim Lle i Guddio: Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol 2023-2028 a dal troseddwyr sy’n symud drwy’r ffin ac unrhyw elw o droseddu y gallant fod yn ei gludo a tharfu ar y gangiau troseddol hynny sy’n gyfrifol am drefnu’r cychod bach sy’n croesi’r Sianel, gan helpu i gyflawni blaenoriaeth Prif Weinidog y DU i atal cychod bach.

Mae’r drydedd linell weithredu yn rhyngwladol. Mae hyn yn golygu gweithgarwch tarfu seiliedig ar guddwybodaeth i fyny’r gadwyn, gan atal cyflenwadau yn y man cychwyn a lleihau’r cymhellion i droseddwyr sydd wedi’u lleoli mewn gwledydd tramor, dargedu’r DU, yn ogystal â Dibyniaethau’r Goron a’i Thiriogaethau Tramor, gan feithrin partneriaethau dwyochrog ac amlochrog cryfach er mwyn sicrhau’r manteision na allwn eu cael ond drwy gydweithio, megis rhannu data. Mae hyn yn cynnwys cydgysylltu â gweithgarwch ehangach er mwyn atal y llif o fudwyr anghyfreithlon i’r DU. Mae cydweithio rhyngwladol wrth wraidd ein hymyriadau i leihau nifer y cychod bach sy’n cyrraedd y DU yn sylweddol. Byddwn yn gweithredu’n gyflym i darfu ar y gadwyn cyflenwi cychod bach, er mwyn atal troseddwyr rhag elwa o ddioddefaint pobl yn y wlad hon. Yn fwy cyffredinol, mae hyn yn golygu helpu partneriaid rhyngwladol i darfu ar droseddau difrifol a chyfundrefnol, lleihau’n niwed a achosir ganddynt a mynd i’r afael â’r ffactorau sy’n eu hysgogi. Mae hefyd yn cynnwys llywio’r drefn ryngwladol er mwyn helpu i amddiffyn ein diogelwch gwladol, yn enwedig mewn perthynas â gwledydd a rhanbarthau lle mae troseddu cyfundrefnol endemig yn ei gwneud yn anos i ni amddiffyn ein diogelwch gwladol.

Er mwyn cefnogi ein hymateb yn y DU, wrth y ffin a thramor, mae angen i ni wneud yn siŵr bod gan bob asiantaeth y galluoedd cywir a’u bod yn cydweithio mor effeithiol â phosibl.

Mae a wnelo ein pedwaredd linell weithredu â thechnoleg a galluoedd. Bydd yn sicrhau bod y galluoedd casglu, dadansoddi ac archwilio cuddwybodaeth a data gorau, gan gynnwys galluoedd trawsffiniol, ar waith i nodi troseddwyr cyfundrefnol a tharfu arnynt.

Mae ein pumed linell weithredu yn ymateb amlasiantaethol. Bydd yn sicrhau bod pob partner yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat yn cydweithio mor effeithiol â phosibl â’r capasiti, sgiliau, strwythurau a phrosesau pennu tasgau cywir.

Ffigur 3 – Fframwaith y Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol

Nod y strategaeth hon yw lleihau troseddau difrifol a chyfundrefnol yn y DU. Byddwn yn gwneud hyn drwy darfu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n gweithredu yn y DU ac yn ei herbyn, a’u chwalu. Byddwn yn gwneud hyn drwy ymateb o’r dechrau i’r diwedd â phum llinell weithredu, sef:

  1. Yn y du
    • Tarfu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n gweithredu yn y DU ac yn ei herbyn, a’u chwalu.
    • Meithrin cadernid mewn cymunedau lleol, atal a dargyfeirio unigolion, atal troseddu drwy ddylunio a gosod rhwystrau ar-lein.
    • Cyflawni strategaethau’r Llywodraeth i fynd i’r afael a bygythiadau penodol troseddau difrifol a chyfundrefnol, gan gynnwys: cyffuriau anghyfreithlon, twyll, troseddau economaidd a cham-drin plant yn rhywiol.
  2. Ffin y du
    • Atgyfnerthu ffin y DU mewn ymateb uniongyrchol i’r grwpiau troseddau mudo cyfundrefnol sy’n smyglo i’r DU ac yn helpu pobl i ddod i mewn i’r DU yn anghyfreithlon.
    • Herio troseddwyr cyfundrefnol sy’n ceisio manteisio ar unrhyw wendidau yn systemau ffiniau’r DU.
  3. Rhyngwladol
    • Defnyddio cuddwybodaeth i darfu’n ddibaid ar grwpiau troseddau cyfundrefnol â rhwydweithiau rhyngwladol yn y man cychwyn.
    • Gweithio i wella prosesau rhannu gwybodaeth a chuddwybodaeth rhynglwadol a lleihau ysgogwyr byd-eang troseddau difrifol a chyfundrefnol.
  4. Technoleg a galluoedd
    • Sicrhau bod y galluoedd casglu, dadansoddi ac archwilio cuddwybodaeth a data gorau ar waith er mwyn nodi troseddwyr cyfundrefnol a tharfu arnynt.
  5. Ymateb amlasiantaethol
    • Sicrhau bod pob partner yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat yn cydweithio mor effeithiol â phosibl â’r capasiti, sgiliau, strwythurau a phrosesau pennu tasgau cywir.

Pennod 5: Ein Hymateb i Droseddau Difrifol a Chyfundrefnol 2023-2028

1. Yn y DU

Ein llinell weithredu gyntaf yw cadw’r cyhoedd yn y wlad hon yn ddiogel. Mae hynny’n golygu tarfu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n gweithredu yn y DU ac yn ei herbyn, a’u chwalu. Mae hefyd angen i ni feithrin cadernid mewn cymunedau lleol, atal a dargyfeirio unigolion, atal troseddu drwy ddylunio a gosod rhwystrau ar-lein.

Tarfu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol a’u chwalu

Mae mynd ar ôl grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n gweithredu yn y DU ac yn ei herbyn wrth wraidd ein nod o leihau troseddau difrifol a chyfundrefnol yn y DU. Byddwn yn sicrhau y gall asiantaethau gorfodi’r gyfraith darfu ar droseddwyr cyfundrefnol a’u dwyn o flaen eu gwell. Byddwn yn sicrhau y gallant darfu ar y galluogwyr a’r rhwydweithiau sy’n cefnogi eu gweithgarwch, eu hatal rhag cael gafael ar eu helw troseddol a chwalu’r seilwaith troseddol sy’n sail i’w troseddu ac yn niweidio’r DU.

Fel y nodwyd ym Mhennod 3, mae heriau yn gysylltiedig ag ymateb asiantaethau gorfodi’r gyfraith i droseddwyr cyfundrefnol. Mae’r rhain yn unigolion a rhwydweithiau penderfynol a all addasu i amgylchiadau newydd ac sy’n fedrus yn osgoi cael eu canfod, sy’n aml yn newid eu dulliau er mwyn ceisio gwneud elw ac a gefnogir gan alluogwyr proffesiynol arbenigol. Yn aml, ceir elfen ryngwladol sy’n herio ein gallu i gael effaith barhaus gan ddefnyddio technegau canlyn a tharfu traddodiadol, am fod y rhwydweithiau hyn yn fwy cadarn na throseddwyr heb rwydweithiau.

Mae angen i ni fabwysiadu dull gweithredu amlasiantaethol, gyda’r asiantaeth gorfodi’r gyfraith briodol yn cyflawni’r lefel briodol o ymyrraeth lle y gall gael yr effaith fwyaf.

Bydd hyn, nid yn unig yn ein galluogi i darfu ar rwydweithiau troseddol y nodwyd eu bod yn flaenoriaeth uchel oherwydd y niwed a achosir ganddynt ond hefyd eu chwalu, mor effeithlon â phosibl ac ag effaith barhaol. Mae i’r dull gweithredu amlasiantaethol hwnnw dair brif haen, sef: yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, sy’n arwain ac yn cydgysylltu ymateb asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn y DU i droseddau difrifol a chyfundrefnol. Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol, sy’n darparu’r cyswllt cuddwybodaeth a gweithredol rhwng yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a heddluoedd; heddluoedd lleol, sy’n cynnal y rhan fwyaf o’r gweithgarwch gweithredol yn erbyn troseddau difrifol a chyfundrefnol.

Bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn canolbwyntio ar darfu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n achosi llawer o niwed. Bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r bygythiad a’i hwyluswyr ar frig y gadwyn droseddol, wrth y ffin ac ar-lein, gan ganolbwyntio ar y bobl, y lleoedd a’r dechnoleg sy’n cefnogi ac yn galluogi troseddoldeb cyfundrefnol. Bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn nodi’r grwpiau sy’n achosi’r niwed mwyaf yn y DU, gan nodi unigolion, seilwaith a chyllid targed gwerth uchel sy’n hanfodol i’w gweithrediadau troseddol a chael gwared arnynt.

Ochr yn ochr â tharfu ar droseddwyr difrifol a chyfundrefnol, byddwn yn dwysáu gweithgarwch yn erbyn galluogwyr trawsbynciol troseddu. Bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn cynyddu ei heffaith ar wasanaethau proffesiynol a galluogwyr allweddol eraill troseddau cyfundrefnol, megis cyfrifwyr neu gyfreithwyr, y rhai sy’n camfanteisio ar rôl ag awdurdod, megis mewnwyr llwgr, darparwyr logisteg a rhwydweithiau rheolyddion ariannol rhynglwadol a delwyr mewn cryptoarian. Bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn canolbwyntio mwy ar y defnydd troseddol o dechnoleg uwch a systemau cyfathrebu diogel mwy cadarn, gan adeiladu ar waith sy’n mynd rhagddo i darfu ar blatfformau y mae troseddwyr yn eu defnyddio a buddsoddi mewn adnoddau arloesol i ragweld a lliniaru’r risg. Fel y nodir yng Nghynllun Troseddau Economaidd 2, mae’r Ganolfan Troseddau Economaidd Genedlaethol yn sefydlu ac yn gweithredu strategaeth draws-system ar gyfer mynd i’r afael â galluogwyr proffesiynol, gyda phwyslais ar gydweithio a rhannu gwybodaeth. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan nifer o gyrff yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys, ymhlith eraill, y Swyddfa Gartref a’r Swyddfa Goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian ar gyfer Cyrff Proffesiynol.

Bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn cynyddu ei hymateb i droseddau economaidd drwy arwain ymateb system gyfan drwy’r Ganolfan Troseddau Economaidd Genedlaethol er mwyn lleihau nifer yr achosion o dwyll a dod â’r cyfnod pan oedd y DU yn hafan ddiogel ar gyfer arian brwnt i ben. Bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn mynd i’r afael – ar gyfer gwaith cyfoethogi cuddwybodaeth, ymchwilio neu darfu pellach – â thargedau a galluogwyr gwerth uchel, yn enwedig y rhai sydd wedi’u lleoli dramor neu ar- lein, lle y bydd cael gwared arnynt yn diraddio bythygiad twyll i unigolion a busnesau yn y DU yn sylweddol.

Byddwn yn parhau i atgyfnerthu’r ymateb plismona rhanbarthol a lleol i’r troseddau difrifol a chyfundrefnol a wynebir gan bobl ar-lein ac mewn cymunedau. Teimlir llawer o effaith troseddau difrifol a chyfundrefnol mewn cymunedau lleol, gyda’r ymateb yn cael ei arwain yn bennaf gan heddluoedd sy’n nodi ac yn rheoli’r bygythiad mewn ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol. Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol yw’r prif gyswllt rhwng yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a heddluoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae ganddynt alluoedd arbenigol i darfu ar droseddau difrifol a chyfundrefnol, a ddarperir yn rhanbarthol ond sydd ar gael i bob heddlu. Rydym wedi cynyddu capasiti penodol i fynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol mewn Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol ac mewn heddluoedd yn Llundain bron i 50%, drwy’r Rhaglen ar gyfer Recriwtio Mwy o Swyddogion yr Heddlu, gyda 725 o swyddogion ychwanegol yn cael eu pennu i amrywiaeth o alluoedd arbenigol. [footnote 39] Mae hwn yn gynnydd sylweddol yng nghapasiti’r heddlu i fynd i’r afael â’r mathau mwyaf difrifol o droseddau difrifol a chyfundrefnol mewn cymunedau ledled y DU. Gyda chymorth y sector plismona byddwn yn parhau i gynyddu nifer swyddogion yr heddlu mewn Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol ac yn swyddogaethau troseddau difriofol a chyfundrefnol Llundain.

Bydd y Llywodraeth yn parhau i fuddsoddi mewn Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cynnydd digynsail yn nifer y swyddogion a meithrin ac atgyfnerthu amrywiaeth o alluoedd arbenigol sy’n gwella capasiti a gallu cynyddol y rhwydwaith o Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol i fynd i’r afael â bygythiadau amrywiol troseddau difrifol a chyfundrefnol a tharfu arnynt. Byddwn hefyd yn parhau i fuddsoddi yng ngallu swyddogion cudd ar-lein mewn Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol i dargedu troseddwyr cam-drin plant yn rhywiol sy’n achosi’r niwed mwyaf a tharfu arnynt a byddwn yn atgyfnerthu’r rhwydwaith o Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol a’r sector plismona lleol ymhellach er mwyn mynd i’r afael â marchnad ganol y gadwyn cyflenwi cyffuriau a chefnogi’r galluoedd ymchwilio i nodi’r bygythiadau sy’n achosi’r niwed mwyaf a tharfu arnynt

Bydd heddluoedd yn rhoi fframwaith perfformiad newydd ar waith a fydd yn adrodd ar y cynnydd mewn capasiti a, gan weithio mewn partneriaeth â’r sector plismona, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi, byddwn yn atgyfnerthu trefniadau llywodraethu ac arolygu ac atebolrwydd Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol er mwyn rhoi mwy o sicrwydd o ran y ffordd y maent yn gweithredu. Byddwn hefyd yn adolygu effeithiolrwydd model cyllido Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol er mwyn rhoi sefydlogrwydd cyllido tymor hwy i’r rhwydwaith

Camau gweithredu’r Llywodraeth i gefnogi’r ymateb gweithredol

Bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i fuddsoddi mewn gwella’r ymateb cyfiawnder troseddol i gaethwasiaeth fodern drwy roi £1.3 miliwn i Uned Caethwasiaeth Fodern a Throseddau Mudo Cyfundrefnol Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn 2023/2024. Bydd hyn yn adeiladu ar y gallu plismona cenedlaethol ac yn sicrhau cysondeb rhwng ardaloedd heddluoedd er mwyn helpu i gynyddu nifer yr erlyniadau a sicrhau canlyniadau gwell i ddioddefwyr. Cyhoeddodd y Llywodraeth Gynllun Troseddau Economaidd 2, sy’n adeiladu ar sylfeini’r Cynllun Troseddau Economaidd cyntaf. Drwy’r cynlluniau hyn byddwn yn parhau i drawsnewid ymateb y DU i droseddau economaidd drwy gyflawni tri chanlyniad allweddol. Yn gyntaf, byddwn yn lleihau gweithgarwch gwyngalchu arian drwy gyfyngu ar y camddefnydd o strwythurau corfforaethol, gwella effeithiolrwydd ein cyfundrefn goruchwylio a rheoleiddio, mynd i’r afael â’r defnydd troseddol o gryptoasedau, diwygio’r ffordd y mae Adroddiadau Gweithgareddau Amheus yn gweithredu, darparu ymateb traws-system i wyngalchu arian ac adennill mwy o asedau troseddol. Yn ail, byddwn yn mynd i’r afael â chleptocratiaeth drwy wella sancsiynau ariannol a gweithredu, gorfodi ac atgyfnerthu ein hymateb i gleptocratiaeth. Yn drydydd, byddwn yn lleihau nifer yr achosion o dwyll drwy gyflwyno’r Strategaeth Dwyll ac Awdurdod Twyll newydd y Sector Cyhoeddus. Bydd canlyniadau allweddol yn cynnwys: 475 o ymchwilwyr troseddau ariannol newydd sydd â’r dasg benodol o fynd i’r afael â gwyngalchu arian ac adennill asedau; Cell Crypto newydd sy’n cyfuno asiantaethau gorfodi’r gyfraith a rheoleiddwyr i rannu arbenigedd ac adnoddau gorfodi er mwyn mynd i’r afael â’r camddefnydd troseddol o gryptoasedau; technoleg newydd o’r radd flaenaf, gan ddefnyddio adnoddau megis technegau dadansoddi data uwch i aros ar y blaen i droseddwyr a sicrhau bod asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt. Byddwn hefyd yn cyflwyno dull blaenoriaethu cyhoeddus-preifat newydd, gan gynnwys blaenoriaethau ar y cyd i wneud y defnydd gorau posibl o adnoddau cyhoeddus a phreifat er mwyn atal a chanfod troseddau economaidd a tharfu arnynt; Cell Mynd i’r Afael â Chleptocratiaeth estynedig, a fydd yn defnyddio arbenigedd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i dargedu elitau llwgr, eu harian a’u galluogwyr; rhaglen uchelgeisiol i ddiwygio cyfundrefn oruchwylio’r DU.

Byddwn yn rhoi’r Strategaeth Dwyll newydd, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023, ar waith. Mae hyn yn dilyn y camau gweithredu i fynd i’r afael â thwyll yn y Cynllun Troseddau Economaidd (gan gynnwys diweddariad 2021 o’r Datganiad Cynnydd). Mae’r Strategaeth Dwyll yn nodi ymateb unedig a chydgysylltiedig gan y Llywodraeth, asiantaethau gorfodi’r gyfraith a’r sector preifat er mwyn mynd i’r afael â thwyll. Er mwyn cadw’r cyhoedd yn ddiogel, byddwn yn mabwysiadu dull o’r dechrau i’r diwedd o leihau nifer yr achosion o dwyll, gan ganolbwyntio ar dair prif elfen, sef: mynd ar ôl twyllwyr; atal achosion o dwyll yn y man cychwyn; grymuso’r cyhoedd i ymateb Yn benodol, rydym yn sefydlu Uned Dwyll Genedlaethol newydd â mwy na 400 o ymchwilwyr newydd er mwyn nodi a thargedu twyllwyr. Rydym wedi sefydlu uned newydd fel rhan o gymuned guddwybodaeth y DU er mwyn targedu twyllwyr ledled y byd. Rydym yn rhoi system gofnodi newydd o’r radd flaenaf ar waith yn lle Action Fraud. Rhan ganolog o’r gwaith o atal achosion o dwyll yw rôl y sector preifat wrth atal ymgeisiau rhag cyrraedd dioddefwyr posibl. Mae’r Strategaeth Dwyll yn nodi mentrau newydd i fynd i’r afael â hyn a chaiff ei hategu drwy’r siarter twyll ar-lein newydd gydag ymrwymiadau gan gwmnïau technoleg i fynd i’r afael â thwyll ar eu platfformau a rhoi mesurau diogelwch gwell ar waith. Ein nod yw atal twyllwyr rhag camddefnyddio’r rhwydwaith telathrebu drwy gyfyngu ar destunau sgamio, gwahardd galwadau diwahoddiad am gynhyrchion buddsoddi ac atal ffugio. Byddwn hefyd yn gwella negeseuon cyhoeddus am dwyll, yn atgyfnerthu cymorth i ddioddefwyr ac yn sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu harian yn ôl.

Byddwn yn parhau i gefnogi asiantaethau gorfodi’r gyfraith gyda’u hymdrechion i darfu ar droseddwyr a dwyn eu harian twyll oddi arnynt. Mae’r Rhaglen Atal Gwyngalchu Arian ac Adennill Asedau uchelgeisiol, a gyhoeddwyd yng Nghynllun Troseddau Economaidd 2, yn parhau ag ymdrechion y Llywodraeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith i feithrin gallu ym mhob rhan o’r system ac, yn y pen draw, adennill mwy o asedau troseddol. Nod y rhaglen yw cynyddu gweithgarwch i atal, canfod a tharfu ar achosion o wyngalchu arian a sicrhau bod mwy o asedau yn cael eu hadennill, er mwyn adennill £1 biliwn ychwanegol o asedau dros gyfnod y rhaglen, sef 10 mlynedd.[footnote 40]

Rydym yn cyflwyno mesurau newydd i gefnogi cydweithio agosach rhwng yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a’r Swyddfa Twyll Difrifol er mwyn mynd i’r afael ag achosion difrifol a chymhleth o dwyll, llwgrwobrwyo a llygredigaeth. Byddwn yn diwygio Deddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 er mwyn galluogi Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i gyfarwyddo Cyfarwyddwr y Swyddfa Twyll Difrifol mewn perthynas â materion sy’n ymwneud ag ymchwilio i achosion difrifol neu gymhleth o dwyll, llwgrwobrwyo a llygredigaeth a amheuir, yn yr un ffriodd ag y mae gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y pŵer i gyfarwyddo’r heddlu mewn perthynas â throseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a’r Swyddfa Twyll Difrifol yn rhannau hollbwysig ac annibynnol brwydr y Llywodraeth yn erbyn twyll.

Mae’r gwaith o ddatblygu’r Strategaeth Wrth-Lygredigaeth newydd ar gyfer y DU wedi hen ddechrau a disgwylir iddi gael ei chyhoeddi yn fuan. Bydd y strategaeth newydd yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed gan Strategaeth Wrth-Lygredigaeth 2017-2022 yn ailosod uchelgais y Llywodraeth ac yn atgyfnerthu gallu’r DU i wrthsefyll llygredigaeth. Mae llygredigaeth yn tanseilio diogelwch gwladol a sefydlogrwydd byd-eang, yn llesteirio ffyniant byd-eang ac yn erydu ymddiriedaeth mewn sefydliadau gan niweidio ei ddioddefwyr ar yr un pryd. Mae’r Strategaeth newydd yn cael ei datblygu er mwyn brwydro yn erbyn y bygythiad hwn. Bydd yn nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd i atal ein sefydliadau rhag cael eu llygru, dwyn unigolion llwgr o flaen eu gwell a mynd i’r afael â’r niwed a achosir gan lygredigaeth. Bydd hefyd yn nodi’r ffyrdd y bydd y DU yn mynd i’r afael â llygredigaeth yn rhyngwladol.

Byddwn yn parhau i roi’r camau gweithredu a nodir yn Strategaeth Mynd i’r Afael â Cham-drin Plant yn Rhywiol 2021 ar waith er mwyn mynd i’r afael â phob math o achos o gam-drin plant yn rhywiol a dwyn troseddwyr o flaen eu gwell. Byddwn yn defnyddio holl rym y Wladwriaeth i fynd i’r afael â’r nifer cynyddol o achosion o gam-drin plant yn rhywiol a’u heffaith gynyddol, gan fuddsoddi mewn asiaentaethau er mwyn sicrhau bod ganddynt y galluoedd, yr adnoddau a’r pwerau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r bygythiad. Gwnaethom gyhoeddi Tasglu’r Heddlu ar Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant ym mis Ebrill 2023, a fydd yn darparu cymorth ymarferol ac arbenigol ar lawr gwlad i heddluoedd mewn perthynas â phob math o achosion o gam-drin plant yn rhywiol, gan ganolbwyntio’n benodol ar achosion cymhleth a chyfundrefnol o gamfanteisio’n rhywiol ar blant, gan gynnwys gangiau sy’n meithrin perthnasoedd amhriodol â phlant. Bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn parhau i arwain ymateb gweithredol cenedlaethol asiantaethau gorfodi’r gyfraith, bydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn llywio ymatebion lleol effeithiol, bydd y Llu Seiberddiogelwch Cenedlaethol yn cynnal ymgyrchoedd seiber er mwyn mynd i’r afael â chamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol a bydd GCHQ yn arwain y gwaith o darfu ar droseddu sy’n achosi llawer o niwed a datblygu atebion i broblemau systemig sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd.

Byddwn yn cyflwyno’r cynllun o’r dechrau i’r diwedd i fynd i’r afael â gweithgarwch cyflenwi cyffuriau a nodir yn Strategaeth Gyffuriau 2021, sef ‘O Niwed i Obaith’, er mwyn ymosod ar y gadwyn cyflenwi cyffuriau ar bob lefel. Byddwn yn defnyddio pobl a galluoedd newydd mewn gwledydd y mae cyffuriau yn deillio ohonynt a gwledydd tramwy er mwyn tarfu ar gyffuriau sy’n teithio tuag at y DU. Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a Llu’r Ffiniau yn cyflawni’r ymrwymiad yn y Strategaeth Gyffuriau i gydweithio i greu ‘cylch dur’ o amgylch porthladdoedd allweddol. Bydd yr heddlu a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn tarfu ar weithgarwch dosbarthu cyffuriau domestig drwy fynd i’r afael â marchnad ganol y gadwyn gyflenwi, lle y gellir tarfu orau ar alluogwyr gweithgarwch dosbarthu cyffuriau. Rydym hefyd yn buddsoddi hyd at £145 miliwn er mwyn atgyfnerthu ein Rhaglen Llinellau Cyffuriau dros dair blynedd hyd at 2024/25, a byddwn yn parhau i ariannu Prosiect ADDER, sef dull system gyfan o fynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau, tan fis Mawrth 2025.[footnote 41]

Byddwn yn dwysáu ein hymateb i ddylanwadu er mwyn ansefydlogi troseddwyr difrifol a chyfundrefnol sy’n parhau i gyflawni eu gweithgarwch troseddol o’r carchar neu tra byddant o dan oruchwyliaeth brawf statudol. Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yn defnyddio ei Raglen Ymateb Amlasiantaethol i Droseddau Difrifol a Chyfundrefnol er mwyn cefnogi trefniadau cydweithio rhwng yr heddlu, carchardai, y gwasanaeth prawf ac asiantaethau eraill er mwyn nodi a blaenoriaethu gweithgarwch troseddol difrifol a chyfundrefnol a tharfu arno ar y cyd er mwyn diogelu’r cyhoedd a lleihau aildroseddu. Mae hyn yn cynnwys troseddwyr a all barhau â gweithgarwch troseddol o’r tu mewn i’r carchar. Bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghyd â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yn buddsoddi £11 miliwn ychwanegol erbyn 2025 er mwyn ehangu a gwella’r Uned Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi er mwyn tarfu ar droseddwyr difrifol a chyfundrefnol a’u tanseilio’n fwy effeithiol.

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phawf Ei Fawrhydi yn datblygu gwasanaeth rheoli cuddwybodaeth newydd er mwyn gwella prosesau rhannu cuddwybodaeth rhwng carchardai a’r gwasanaeth prawf, er mwyn gwella prosesau asesu a rheoli risg a thargedu troseddu yn y gymuned. Bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yn cynyddu lefelau diogelwch rhag troseddau difrifol a chyfundrefnol yn yr ystad carchardai drwy fuddsoddi i uwchraddio galluoedd presennol o ran ffonau symudol. Bydd hyn yn ein helpu i leihau nifer yr achosion lle mae troseddwyr cyfundrefnol yn defnyddio dyfeisiau anghyfreithlon i redeg eu rhwydweithiau cyfundrefnol tra byddant yn y carchar.

Bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod gan bartneriaid yn yr heddlu ac ym maes gorfodi’r gyfraith y pwerau sydd eu hangen arnynt i darfu ar droseddwyr cyfundrefnol ac y gallant ddefnyddio pwerau presennol i’w graddau llawn er mwyn mynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno deddfwriaeth yn y Bil Cyfiawnder Troseddol a fydd yn mynd i’r afael â bygythiadau sy’n datblygu a thechnolegau soffistigedig a ddefnyddir gan grwpiau troseddau cyfundrefnol. Mae hyn yn cynnwys troseddau newydd ar gyfer meddu ar eitemau penodol i’w defnyddio mewn troseddau difrifol, eu mewnforio, eu gweithgynhyrchu, eu haddasu, eu cyflenwi a bwriadu eu cyflenwi. Yr eitemau hyn yw compartmentau cuddio ar gerbydau, templedi argraffu 3D ar gyfer arfau tanio a gweisg pils. Bydd y ddeddfwriaeth yn galluogi’r Llywodraeth i ddiwygio’r rhestr o eitemau er mwyn sicrhau y gellir diweddaru’r rhestr wrth i dactegau troseddol ddatblygu. Rydym hefyd yn gwahardd dyfeisiau electronig a ddefnyddir i ddwyn cerbydau a meddu ar ffermydd SIM nad oes iddynt unrhyw ddiben cyfreithlon a chyflenwi dyfeisiau o’r fath. At hynny, bydd y Llywodraeth yn deddfu i atgyfnerthu Gorchmynion Atal Troseddau Difrifol er mwyn ei gwneud yn haws i’r heddlu ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill osod cyfyngiadau ar droseddwyr a ddrwgdybir a’u hatal rhag cymryd rhan mewn unrhyw droseddau eraill. Yn fwy cyffredinol, bydd y Bil hwn yn atgyfnerthu ein cyfreithiau drwy roi mwy o fynediad i’r heddlu at gronfa ddata’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau, yn ogystal â galluogi asiantaethau gorfodi’r gyfraith i wneud cais am orchymyn llys i’w gwneud yn ofynnol i enwau parth a chyfeiriadau IP a ddefnyddir ar gyfer gweithgarwch troseddol, gael eu hatal. Ni fyddwn yn petruso cyn rhoi pwerau pellach i asiantaethau gorfodi’r gyfraith er mwyn iddynt allu aros ar y blaen i fygythiad troseddau difrifol a chyfundrefnol.

Astudiaeth Achos – Ymgyrch Venetic

Dengys Ymgyrch Venetic effeithiolrwydd ymateb amlasiantaethol. Hon oedd yr ymgyrch gorfodi’r gyfraith fwyaf o’i bath yn hanes y DU. Fe’i harweiniwyd gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a fu’n gweithio’n agos â phartneriaid yn yr heddlu. Llwyddodd i dargedu defnyddwyr dyfeisiau wedi’u hamgryptio a oedd yn defnyddio platfform drwg-enwog ‘EncroChat’ ac mae wedi arwain at 3,000 o arestiadau, gan gynnwys llawer o droseddwyr cyfundrefnol pwysig, ac at atafaelu 77 o arfau tanio, mwy na 1,800 o rowndiau o getris a mwy na dwy dunnell o gyffuriau Dosbarth A a B. Mae’r ymgyrch yn parhau i ddarparu gwybodaeth hanfodol, sy’n cael effaith sylweddol ar gangiau troseddol ledled y DU.

Astudiaeth Achos – Ymateb Amlasiantaethol i Grwpiau Troseddau Cyfundrefnol o Orllewin y Balcanau

Mae grwpiau troseddau cyfundrefnol o Orllewin y Balcanau yn gweithredu ledled y byd ac maent yn gysylltiedig â nifer o wahanol droseddau megis mewnforio cyffuriau anghyfreithlon, troseddau mudo cyfundrefnol a gwyngalchu arian. Roedd eu gweithgareddau anghyfreithlon yn bygwth diogelwch ein cymunedau a chyfanrwydd ein ffiniau yn ogystal â ffyniant a sefydlogrwydd Gorllewin y Balcanau.

Defnyddiodd y Llywodraeth bob ysgogiad, gan gynnwys ein cymuned guddwybodaeth, rhwydweithiau tramor a phartneriaeth ryngwladol i gyflawni amrywiaeth o weithgareddau gorfodi’r gyfraith a gweithgareddau rhaglennol a diplomatig er mwyn lleihau’r bygythiad. Roedd hyn yn cynnwys gweithgareddau cynyddu capasiti a gallu er mwyn galluogi ein partneriaid ym maes gorfodi’r gyfraith yng Ngorllewin y Balcanau i darfu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol yng Ngorllewin y Balcanau yn fwy effeithiol, camau gweithredu i darfu ar sawl ffigur cyhoeddus yn y rhanbarth oherwydd eu cysylltiadau â throseddoldeb a llygredigaeth a chyfres o ymgyrchoedd gorfodi’r gyfraith penodol ledled y DU. Mae’r dull gweithredu cydgysylltiedig hwn wedi cyflawni canlyniadau tarfol parhaus yn erbyn grwpiau troseddau cyfundrefnol yng Ngorllewin y Balcanau.

Meithrin cadernid mewn cymunedau lleol, atal a dargyfeirio unigolion

Fel y nodir yn y Cynllun Gorchfygu Troseddu, mae’r Llywodraeth wedi buddsoddi mewn mesurau atal troseddu yn y gymdogaeth gan gynnwys Cronfa Strydoedd Diogelach. Ond mae angen gwneud mwy er mwyn gwella gallu cymunedau i wrthsefyll effaith troseddwyr cyfundrefnol, sy’n ceisio dominyddu cymunedau ag ofn a thrais. Mae angen i ni wneud yn siŵr, ar ôl tarfu ar grŵp troseddau cyfundrefnol treisgar mewn cymuned, na all ddychwelyd ac nad all unrhyw grŵp arall gymryd ei le. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod yr ystad carchardai mor gadarn â phosibl a’i bod yn cael ei diogelu cymaint â phosibl, er mwyn sicrhau na all troseddwyr cyfundrefnol redeg eu busnes anghyfreithlon o’r tu mewn i’r carchar ac na fydd troseddwyr yn aildroseddu ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r carchar.

Byddwn yn gweithio i ddelio ag effaith throseddau difrifol a chyfundrefnol mewn cymunedau, drwy eu gwneud yn fwy cadarn a helpu i atal troseddau difrifol a chyfundrefnol rhag dychwelyd Erbyn diwedd Gwanwyn 2024, byddwn yn cyflwyno’r cynllun peilot ‘Clear, Hold, Build’, sef dull partneriaeth o’r dechrau i’r diwedd o ddelio â throseddau difrifol a chyfundrefnol yn lleol, i bob heddlu tiriogaethol yng Nghymru a Lloegr. Fel rhan o’r cynllun peilot, bydd yr heddlu a phartneriaid lleol yn mabwysiadu dull integredig a chynhwysfawr o fynd ar ôl grwpiau troseddau cyfundrefnol ac yn helpu cymunedau lleol i allu gwrthsefyll troseddau difrifol a chyfundrefnol yn well yn y dyfodol. Mae’r cam ‘clear’ yn cynnwys gweithgarwch gorfodi seiliedig ar guddwybodaeth sy’n targedu aelodau o grwpiau troseddau cyfundrefnol a’u rhwydweithiau, buddiannau busnes, troseddoldeb a meysydd dylanwadu. Mae’r heddlu yn defnyddio pob pŵer ac ysgogiad i darfu ar eu gallu i weithredu, gan greu mannau diogelach lle y gall ddechrau ymgysylltu â’r gymuned. Mae’r cam ‘hold’ yn cynnwys atgyfnerthu a sefydlogi’r cam ‘clear’ cychwynnol er mwyn atal yr aelodau sy’n weddill neu grwpiau troseddol eraill rhag manteisio ar y gwagle a grëwyd. Mae’r cam ‘build’ yn cynnwys ymyriadau gyda’r gymuned er mwyn mynd i’r afael â’r ffactorau sy’n ysgogi troseddu a dileu cyfleoedd i droseddoldeb difrifol a chyfundrefnol ffynnu yn y dyfodol. Mae heddluoedd wedi nodi y gall y dull hwn o weithredu gael effaith gadarnhaol yn lleol. Mae wedi’i gydnabod fel dull arloesol ac arfer da gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi ac, ym mis Mai 2023, cyhoeddodd y Coleg Plismona gynllun ‘Clear, Hold, Build Smarter Practice’, er mwyn helpu heddluoedd yn genedlaethol i roi’r model ar waith yn llwyddiannus.

Byddwn yn gweithio i ddargyfeirio mwy o’r unigolion hynny sy’n gysylltiedig â throseddoldeb cyfundrefnol i ffwrdd oddi wrth fywyd o droseddu ac atal troseddwyr ymroddedig. Mae’r Llywodraeth yn buddsoddi mewn rhaglenni ymyrryd yn gynnar er mwyn atal pobl rhag dod yn gysylltiedig â throseddu a thrais, gan gynnwys y Gronfa Gwaddol Ieuenctid gwerth £200 miliwn ac ymyriadau penodol wedi’u hanelu at bobl ifanc sydd eisoes yn troseddu. Rhaid i ni barhau i adeiladu ar y rhaglenni hyn gydag ymyriadau yn canolbwyntio ar y risgiau penodol sy’n gysylltiedig â throseddau cyfundrefnol. Bydd y rhaglenni hyn yn dargyfeirio’r unigolion hynny sydd ar ymylon troseddau difrifol a chyfundrefnol ac yn atal troseddwyr cyfundrefnol ymroddedig drwy gyfleu’r neges glir y byddwn yn rhewi neu’n atafaelu eu cyllid, eu hasedau a’u seilwaith neu, fel arall, yn eu hatal rhag cael gafael arnynt.

Astudiaeth Achos – ‘Clear, Hold, Build’

Dechreuodd Heddlu Gorllewin Swydd Efrog roi ‘Clear, Hold, Build’ ar waith yn Bradford Moor yn 2020 fel rhan o gynllun peilot. Roedd yr ardal ymhlith y 10% o wardiau mwyaf difreintiedig yn Lloegr, gyda lefelau uchel o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ogystal â thrais a gweithgarwch cyflenwi cyffuriau. Roedd lefelau uchel o ddiweithdra a lefelau isel o ymddiriedaeth gymunedol yn yr heddlu a sawl grŵp troseddau cyfundrefnol a fapiwyd yn yr ardal, gyda thystiolaeth o gamfanteisio a oedd yn cynnwys masnachu pobl. Er mwyn deall bygythiad troseddau difrifol a chyfundrefnol yn ei gyfanrwydd, lluniodd yr heddlu broffil o’r ward drwy droshaenu amrywiaeth o ddata a gasglwyd gan yr heddlu a phartneriaid. Defnyddiwyd y data hyn i lywio ymateb partneriaeth o’r dechrau i’r diwedd a oedd yn cynnwys cam arestio wedi’i dargedu at bobl a oedd yn gysylltiedig â grwpiau troseddau cyfundrefnol, amrywiaeth o ymyriadau gan y sector gwirfoddol er mwyn ymgysylltu ag unigolion agored i niwed a’u dargyfeirio oddi wrth gamfanteisio troseddol ac adennill asedau cymunedol megis tai er mwyn eu hatal rhag cael eu defnyddio ar gyfer gweithgarwch troseddol gan ddelwyr cyffuriau. Arweiniodd hyn at leihad parhaus ym mygythiad troseddau difrifol a chyfundrefnol a gwelliannau o ran cadernid cymunedol a hyder mewn plismona. Er na allwn briodoli newidiadau mewn lefelau troseddu yn uniongyrchol i gynllun ‘Clear, Hold, Build’, gwelwyd gostyngiadau mewn lefelau troseddu ar y safle peilot yng Ngorllewin Swydd Efrog hefyd gan gynnwys gostyngiad o 57% yn nifer y bwrgleriaethau, gostyngiad o 27% yn nifer y troseddau’n ymwneud â chyffuriau a gostyngiad o 38% mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.[footnote 42]

Lansiodd Heddlu Manceinion Fwyaf un o’r ymgyrchoedd amlasiantaethol mwyaf a welwyd erioed yn y DU yn ardal Cheetham Hill er mwyn mynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol a oedd yn gysylltiedig â’r farchnad ffugio. Cynhaliodd y Prif Gwnstabl ddigwyddiad lansio amlasiantaethol, gyda chynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol, gan rannu gwybodaeth a chuddwybodaeth er mwyn sicrhau bod dealltwriaeth gyffredin o gymhlethdod a difrifoldeb troseddoldeb cyfundrefnol yn yr ardal.

Gan fabwysiadu methodoleg ‘Clear, Hold, Build’, rhoddwyd cynllun gweithredol amlasiantaethol ar waith, gan dargedu’r grwpiau troseddau, eu modelau busnes a’u galluogwyr yn ddi-baid, yn ogystal â mynd i’r afael â’r gwendidau cymunedol roeddent yn manteisio arnynt. Yn ystod y cam ‘clear’ cychwynnol, cyflawnwyd 56 o warantau amlasiantaethol, a oedd yn cynnwys Cyngor Manceinion Fwyaf, Safonau Masnach, timau atal ffugio yn y sector preifat, rheoleiddwyr meddyginiaethau ac arolygwyr adeiladau. Arweiniodd hyn at 96 o arestiadau ac atafaelu 298 o dunelli o nwyddau ffug â gwerth amcangyfrifedig o £39 miliwn. O dan y cam ‘hold’, caewyd 191 o siopau ffug a chafodd strwythurau nad oeddent yn cael eu defnyddio yn yr ardal eu clirio a’u dymchwel. Cynhaliwyd patrolau amlasiantaethol gweladwy a phroffil uchel hefyd a gweithgarwch cydgysylltu â’r gymuned fusnes gyfreithlon. Fel rhan o’r cam ‘build’, cafodd dillad eu hailfrandioa’u hawdurdodi a’u dosbarthu i ysgolion ac elusennau lleol. Ailsefydlwyd grwpiau cymunedol ac mae gwaith yn mynd rhagddo i adfywio’r ardal.

Rydym yn gweithio gyda Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol er mwyn atgyfnerthu ymateb asiantaethau gorfodi’r gyfraith i grwpiau troseddau cyfundrefnol o Orllewin y Balcanau sy’n gweithredu yn y DU. Mae hyn yn cynnwys Ymgyrch Mille, sef ymgyrch a arweinir gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu. Fel rhan o’r ymgyrch hon, a gynhaliwyd yn ystod haf 2023, cyflawnwyd hyd at 1,000 o warantau yn targedu ffatrïoedd canabis.[footnote 43] Ers hynny, mae’r gweithgarwch tarfu hwn wedi gwella ein dealltwriaeth strategol a thactegol o fodelau busnes Gorllewin y Balcanau.

Er mwyn ategu Ymgyrch Mille, byddwn yn buddsoddi swm pellach o £0.8 miliwn mewn heddluoedd a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn 2023/24 er mwyn mynd i’r afael â bygythiad grwpiau troseddau cyfundrefnol sydd â chysylltiadau â Gorllewin y Balcanau, gan gynnwys cyllid ar gyfer Cydgysylltwyr Cymunedau Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol ac ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth mewn mwy o ardaloedd troseddu aml. Ar hyn o bryd, mae’r gwaith yn cynnwys tri safle peilot yn Norwich, Manceinion Fwyaf a Brighton a chamau gweithredol sy’n ymwneud â mudo anghyfreithlon a thyfu cyffuriau. Mae’r dull gweithredu yn cynnwys amrywiaeth o fentrau chwaraeon a chyflogaeth er mwyn ymgysylltu â chyfranogwyr o’r gymuned a all fod mewn perygl o ddod yn gysylltiedig â byd troseddu a chyffuriau neu sydd eisoes yn gysylltiedig â’r byd hwnnw. Mae’r dull cymunedol hwn sydd ar waith yn y DU yn ategu ymyriadau cymunedol yng Ngorllewin y Balcanau y bwriedir iddynt fynd i’r afael â’r prif ffactorau economaidd-gymdeithasol sy’n ysgogi pobl i gyflawni troseddau difrifol a chyfundrefnol ac yn cysylltu â’r ymyriadau hynny. Penodir cydgysylltydd cenedlaethol i Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, a fydd yn gyfrifol am ddefnyddio’r wybodaeth a’r dystiolaeth o’r cynlluniau peilot er mwyn helpu heddluoedd yng Nghymru a Lloegr i wella’r ffordd y maent yn delio ag effaith grwpiau troseddau cyfundrefnol o Orllewin y Balcanau yn y DU a lleihau bygythiad y grwpiau hynny.

Bydd yr heddlu yn parhau i weithio gyda phartneriaid er mwyn atal pobl sydd fwyaf tebygol o ymuno â grŵp troseddau cyfundrefnol rhag gwneud hynny a dargyfeirio’r rhai sydd eisoes ar fin ymuno â bywyd o droseddu cyfundrefnol. Er mwyn hwyluso hyn, bydd y Swyddfa Gartref yn diweddaru adnoddau ymarferwyr presennol ar gyfer atal troseddu. Byddwn hefyd yn cyhoeddi canllawiau newydd yn 2024 ar bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth er mwyn lleihau’r niwed y mae troseddau difrifol a chyfundrefnol yn ei achosi i gymunedau.

Atal troseddu drwy ddylunio a gosod rhwystrau ar-lein

Yn fwyfwy, mae troseddwyr cyfundrefnol yn defnyddio technoleg fodern ac yn manteisio ar wendidau ar-lein, gan gyflawni troseddau ar draws ffiniau ac ar raddfa fawr. Er mwyn cael effaith ystyrlon a pharhaol ar droseddu ar-lein a diogelu’r cyhoedd, ni allwn ddibynnu ar weithgarwch tarfu yn unig. Mae angen i ni ei gwneud yn llawer anos i rwydweithiau troseddol weithredu a llwyddo yn y lle cyntaf. Mae hyn yn golygu datblygu mesurau diogelwch ar-lein, meithrin gwell dealltwriaeth o’r ffordd y mae grwpiau troseddau cyfundrefnol yn manteisio ar alluoedd a marchnadoedd ar-lein, helpu’r cyhoedd a busnesau i ddiogelu eu hunain yn well ac atal troseddu drwy ddylunio, gan ei gwneud yn anos i droseddwyr fanteisio ar wendidau er mwyn cyflawni troseddau drwy waith rheoleiddio ac atebion technegol.

Byddwn yn lleihau gwendidau ar-lein a chyfleoedd i droseddwyr cyfundrefnol gyflawni troseddau ar-lein ar raddfa fawr. Byddwn yn gweithio i wneud y cyhoedd a busnesau yn fwy cadarn ac yn fwy abl i ddiogelu eu hunain. Bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn gweithio gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a rheoleiddwyr er mwyn atal troseddau ar-lein drwy ddylunio, yn enwedig cam-drin plant yn rhywiol ar-lein, troseddau economaidd a seiberdroseddau, gan adeiladu ar waith partneriaeth cyhoeddus-preifat llwyddiannus hyd yma, megis Tasglu Cuddwybodaeth am Wyngalchu Arian Ar y Cyd. Bydd y Ganolfan Troseddau Economaidd Genedlaethol yn darparu ymatebion ataliol er mwyn atal twyll a throseddau economaidd drwy ddylunio, newid ymddygiadau a dileu’r gwendidau i fyny’r gadwyn y mae gwyngalchwyr arian yn manteisio arnynt. Rydym wedi cymryd camau drwy’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein er mwyn gosod dyletswydd ar blatfformau i roi gwybod i’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol am unrhyw gynnwys sy’n ymwneud â chamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol y maent yn dod ar ei draws. Byddwn hefyd yn cefnogi’r gwaith o atal cam-drin plant yn rhywiol drwy barhau i fuddsoddi mewn rhaglenni i atal unigolion rhag ymddwyn mewn ffordd gamdriniol a dargyfeirio pobl i ffwrdd oddi wrth droseddu a chefnogi’r rhaglenni hynny, er enghraifft drwy Ymgyrch “Stop It Now!” a llinell gymorth gyfrinachol Sefydliad Lucy Faithfull.

Rydym wedi ymgynghori ar Ddyletswydd Seiber i Ddiogelu er mwyn lleihau seiberdroseddu a’r troseddau a hwylusir ganddo ar raddfa fawr a lleihau’r baich ar ddinasyddion sy’n gysylltiedig â seiberddiogelwch. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid er mwyn ystyried mesurau sy’n gosod mwy o gyfrifoldeb ar sefydliadau sy’n rheoli cyfrifon defnyddwyr ac yn prosesu data personol, i ddiogelu’r cyfrifon personol a’r data hynny. Byddai hyn yn helpu i leihau mynediad heb awdurdod, twyll a throseddau ar-lein.

Byddwn yn gwneud y defnydd mwyaf posibl o fenter ‘Active Cyber Defence’ (ACD) yn y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol i fynd i’r afael â throseddwyr cyfundrefnol. Mae ACD yn rhaglen dechnegol i darfu ar droseddau economaidd a seiberdroseddau i fyny’r gadwyn, gan atal gohebiaeth ddigidol faleisus cyn iddi gyrraedd cyfeiriadau IP yn y DU. Drwy ganolbwyntio’r rhaglen hon yn well ar droseddwyr cyfundrefnol, byddwn yn lleihau maleiswedd a chynnwys maleisus gan droseddwyr cyfundrefnol tramor, lleihau nifer y troseddau twyllo a seiberdroseddau a lleihau niwed ar raddfa fawr, gan atal ymosodiadau ar raddfa fawr rhag cyrraedd y DU. Bydd hyn yn adeiladu ar y llwyddiannau a gafwyd hyd yma, gyda 2.3 miliwn o ymgyrchoedd nwyddau seiber yn cael eu dileu yn 2021, gan gynnwys sgamwyr.[footnote 44]

Canlyniadau a Mesurau Llwyddiant

Gyda’i gilydd, bydd y gweithgareddau hyn yn helpu i gyflawni canlyniadau yn y tri phrif faes hyn:

  • mwy o effaith ar y grwpiau troseddau cyfundrefnol â’r flaenoriaeth uchaf sy’n gweithredu yn y DU ac yn ei herbyn;
  • mwy o effaith ar dwyll a throseddau economaidd, gan gynnwys cyllid anghyfreithlon a seiberdroseddau fel galluogydd allweddol pob math o droseddau difrifol a chyfundrefnol;
  • gwell allbynnau a chanlyniadau cyfiawnder troseddol;
  • cymunedau lleol mwy cadarn i wrthsefyll gweithgarwch troseddol cyfundrefnol;
  • unigolion wedi’u dargyfeirio oddi wrth droseddu;
  • llai o fannau gwan i droseddau difrifol a chyfundrefnol ar-lein a mwy o fesurau diogelwch.

Byddwn yn mesur effeithiau yn erbyn nifer o ddangosyddion, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • cyfanswm y grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n gweithredu yn y DU ac yn ei herbyn;
  • lefelau dealltwriaeth o droseddwyr cyfundrefnol sy’n achosi llawer o niwed;
  • graddau ac ehangder gweithgareddau tarfu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol â’r flaenoriaeth uchaf;
  • gwerth asedau troseddol a adenillwyd ac yr ataliwyd mynediad atynt; tarfu ar achosion o dwyll a gweithgarwch gwyngalchu arian;
  • canlyniadau cyfiawnder troseddol megis arestiadau, cyhuddiadau ac euogfarnau; ac atafaelu cyffuriau a nwyddau anghyfreithlon eraill;
  • lefelau o fod yn agored i droseddau difrifol a chyfundrefnol mewn systemau sector cyhoeddus a sector preifat;
  • nifer y sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat sy’n dioddef ymosodiadau seiberdroseddu;
  • gwerthuso llwyddiant rhaglenni ymyrryd yn gynnar ac atal o ran dargyfeirio pobl i ffwrdd oddi wrth droseddau difrifol a chyfundrefnol;
  • gwerthuso mentrau cymunedol, gan gynnwys effaith ‘Clear, Hold, Build’ ar gyfraddau troseddu lleol.

2. Ffin y DU

Ein hail linell weithredu yw atgyfnerthu ffin y DU. Mae hyn yn cynnig cyfle unigryw i nodi a rhyng-gipio unigolion a nwyddau hysbys ac anhysbys sydd wedi llwyddo i osgoi ein gweithgareddau tarfu ‘i fyny’r gadwyn’ rhag dod i mewn i’r wlad yn anghyfreithlon neu sy’n gadael y wlad ac yn cludo elw troseddau cyfundrefnol dramor.

Mae’r ffin yn fan ymyrryd unigryw ar gyfer tarfu ar weithrediadau troseddwyr cyfundrefnol, gan atal gweithgarwch smyglo pobl yn anghyfreithlon a llif nwyddau anghyfreithlon i mewn i’r wlad. Po fwyaf rydym yn tarfu ar droseddau difrifol a chyfundrefnol wrth y ffin, y mwyaf y byddwn yn lleihau elw rhwydweithiau troseddol ac yn cynyddu’r risgiau iddynt weithredu. Mae gweithredu wrth y ffin hefyd yn helpu i leihau niwed ar strydoedd y DU yn uniongyrchol, drwy ryng-gipio ac atafaelu’r cyffuriau ac arfau tanio anghyfreithlon sy’n ysgogi troseddu mewn cymdogaethau ledled y DU. Mae Llu’r Ffiniau, Cyfarwyddiaeth Cuddwybodaeth y Swyddfa Gartref, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac asiantaethau eraill yn cydweithio, gan ddefnyddio cuddwybodaeth, galluoedd a data i nodi a thargedu troseddwyr cyfundrefnol sy’n ceisio manteisio ar ffin y DU a tharfu arnynt.

Fel rhan o bum blaenoriaeth y Prif Weinidog, byddwn yn atgyfnerthu ffin y DU ac yn cynyddu ein gweithgarwch i darfu ar y grwpiau troseddau mewnfudo cyfundrefnol sy’n gweithio’n agos at y ffin er mwyn smyglo pobl i’r DU a helpu pobl i ddod i mewn i’r wlad yn anghyfreithlon, yn fwyfwy drwy deithiau peryglus ar draws y Sianel mewn cychod bach. Yn ogystal â mynd ar ôl troseddwyr sy’n achosi llawer o niwed, byddwn yn canolbwyntio ar weithgarwch tarfu er mwyn ceisio tanseilio gallu grwpiau troseddol cyfundrefnol i weithredu methodoleg y cychod bach. Gwneir hyn drwy gymryd y camau canlynol: gwella prosesau rhannu cuddwybodaeth a chydgysylltu asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn y DU; cyflwyno mesurau i atgyfnerthu ffin y DU; defnyddio technoleg; cynyddu gweithgarwch gorfodi’r gyfraith; cydweithio â phartneriaid rhyngwladol gan gynnwys Ffrainc a chymdogion agos eraill megis Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a’r Almaen.

Yn yr Uwchgynhadledd rhwng y DU a Ffrainc ym mis Mawrth 2023, cytunodd y Prif Weinidog a Ffrainc ar y cytundeb mwyaf uchelgeisiol hyd yma i fynd i’r afael â chychod bach. Bydd y cytundeb amlflwydd newydd hwn yn cynyddu ein capasiti i atal cychod bach rhag croesi’r Sianel yn sylweddol ac yn chwalu model y gangiau troseddol sy’n hwyluso’r teithiau hyn. Bydd y cytundeb yn sicrhau’r canlynol: mwy na dwywaith nifer y personél a ariennir gan y DU yn gweithio i atal cychod bach; Canolfan Gydgysylltu Parth newydd; pecyn o dechnolegau gwyliadwriaeth arloesol newydd; mentrau tollau rhyngwladol newydd i fynd i’r afael â’r gadwyn cyflenwi cyfarpar sy’n galluogi cychod bach peryglus ac anghyfreithlon; caiff canolfan gadw newydd ei chreu yn Dunkirk er mwyn darparu ar gyfer symud mwy o fudwyr a allai, fel arall, deithio ar gychod bach i ffwrdd o arfordir Ffrainc a dwysáu gwaith cydweithio ar guddwybodaeth rhwng y DU a Ffrainc. Wrth i ni geisio lleihau nifer y cychod bach sy’n cyrraedd y DU, mae’n bosibl y bydd troseddwyr cyfundrefnol yn troi at ddulliau eraill o gyrraedd y DU, megis fferïau gyrru i mewn ac allan. Mae’r posibilrwydd y gallai mudwyr anghyfreithlon droi at ddulliau eraill o ddod i mewn i’r wlad yn peri her i’r DU o ran sicrhau bod y llwybrau a’r dulliau hynny yn weladwy, yr ymdrinnir â nhw a’u bod yn cael eu deall.

Byddwn yn gwella diogelwch ffin y DU rhag masnachu cyffuriau, gan darfu’n fwy ar droseddwyr a chynyddu nifer yr atafaeliadau a helpu i chwalu cadwyn cyflenwi, gyda Llu’r Ffiniau a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn treialu dulliau amlasiantaethol newydd o dargedu ymyriadau yn erbyn cyflenwi cyffuriau anghyfreithon. Mae’r llwybrau morol yn parhau i fod yn ddeniadol i grwpiau troseddau cyfundrefnol gynnal amrywiaeth o weithgareddau troseddol gan gynnwys masnachu eitemau a sylweddau anghyfreithlon, yn arbennig cyffuriau dosbarth A. Bydd Canolfan Reoli Forol Llu’r Ffiniau yn parhau i fynd i’r afael â’r bygythiad hwn a lleihau troseddau, drwy ei Dîm ‘Deep Rummage’ Cenedlaethol a’i fflyd o Longau Ysgafn a Llongau Patrolio’r Arfordir. Bydd asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn y DU yn parhau i weithio’n agos gyda chymdogion a phartneriaid rhyngwladol er mwyn mynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol yn y parth morol.

Mae ein dull o ymdrin â diogelwch y ffin hefyd yn dechrau dramor i ffwrdd o ffin ffisegol y DU. Lle y bo’n bosibl, rydym eisoes yn defnyddio ein cyfundrefn fisâu bresennol i wrthod rhoi fisâu i unigolion y gwyddys eu bod yn peri bygythiad i’r DU a’u hatal rhag teithio. Yn ddiweddarach eleni, byddwn hefyd yn lansio ein cynllun Awdurdodi Teithio Electronig er mwyn gwella diogelwch ein ffin ymhellach. Bydd y cynllun Awdurdodi Teithio Electronig yn gymwys i’r teithwyr hynny sy’n ymweld â’r DU neu’n teithio drwy’r DU nad oes angen fisa arnynt ar hyn o bryd ar gyfer arosiadau byr ac nad oes ganddynt unrhyw statws mewnfudo arall yn y DU eisoes cyn teithio. Felly, bydd y cynllun yn gwella ein gallu i sgrinio teithwyr o’r fath ac atal y rhai sy’n peri bygythiad i’r DU, gan gynnwys troseddoldeb, rhag teithio, gan wneud y DU yn fwy diogel.

Byddwn yn herio troseddwyr cyfundrefnol sy’n ceisio manteisio ar wendidau yn systemau ffiniau’r DU a’r bobl sy’n eu gweithredu, gan gynnwys defnyddio mewnwyr llwgr mewn porthladdoedd. Mae gan y DU alluoedd uwch i nodi ac atal pobl a nwyddau niweidiol rhag cyrraedd y DU, gan gynnwys technolegau sgrinio a chanfod a ddefnyddir wrth y ffin. Byddwn yn sicrhau bod ein galluoedd mor effeithiol â phosibl a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a gynigir gan ffin y DU i darfu ar droseddwyr cyfundrefnol. Mae hyn yn golygu cael gafael ar ddata a gwneud y defnydd gorau posibl ohonynt, gan gynnwys eu cysylltu â datblygiadau mewn galluoedd cuddwybodaeth a chanfod, er mwyn nodi a thargedu llwythi a theithiau sy’n gysylltiedig â throseddwyr cyfundrefnol. Bydd Model Gweithredu Targed 2023 yn dangos sut a phryd y byddwn yn casglu data nwyddau manylach er mwyn cyflawni’r nod hwn.

Rydym yn atgyfnerthu galluoedd Llu’r Ffiniau er mwyn amddiffyn ffin y DU a rhyng-gipio nwyddau anghyfreithlon, yn enwedig cyffuriau dosbarth A, drwy raglen fuddsoddi ehangach. Mae darganfyddiadau seiliedig ar ddata yn cyfrif am gyfran fawr o’r cyffuriau dosbarth A a atafaelir wrth y ffin. Rydym yn buddsoddi mewn dadansoddeg data cenhedlaeth nesaf er mwyn nodi symudiadau nwyddau a phobl sy’n peri bygythiad mawr (CERBERUS). Fel rhan o’r cytundeb Ymadael â’r UE, bydd y DU yn cael data ar symudiadau nwyddau o’r UE am y tro cyntaf yn 2025. Bydd y data hyn yn elfen allweddol i gynnal dadansoddeg data. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn gallu canfod, ar ffurf technoleg a phobl, er mwyn gwella ein gallu i ganfod cyffuriau sydd wedi’u cuddio mewn nwyddau cyfreithlon

Byddwn yn gwella ein hymateb i lygredigaeth wrth y ffin a bygythiad mewnwyr llwgr drwy’r Strategaeth Wrth-Lygredigaeth newydd. Byddwn yn tarfu ar ymdrechion grwpiau troseddau cyfundrefnol i sleifio i Lu’r Ffiniau drwy guddwybodaeth well, gwiriadau cefndir, gwiriadau fetio sy’n benodol i Lu’r Ffiniau a phrosesau diogelwch gwell a thrwy reoli’r risg i ddiogelwch sy’n gysylltiedig â phersonél yn barhaus. Gan weithio’n agos â phartneriaid yn y diwydiant, bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a Llu’r Ffiniau yn parhau i dreialu dulliau arloesol o ddiogelu’r ffin a mynd i’r afael â gweithgarwch cyflenwi cyffuriau a hwylusir gan fewnwyr llwgr. Mae’r Swyddfa Gartref a’r Adran Drafnidiaeth yn parhau i ddatblygu ac ehangu’r System Dosbarthu Gwybodaeth am Ddeiliaid Pasys Mynediad, er mwyn lleihau bygythiad mewnwyr i ddiogelwch sector hedfan y DU a dulliau teithio eraill.

Byddwn yn gwella diogelwch y ffin drwy brofi risgiau a chasglu cuddwybodaeth. Bydd hyn yn ein galluogi i fesur gwendid mewn porthladdoedd yn y DU ac i fyny’r gadwyn mewn gwledydd tarddiad neu fannau rhyngddynt a deall y bygythiadau rydym yn eu hwynebu a’r gwledydd y mae’r bygythiadau hynny yn deillio ohonynt. Bydd hyn yn ein galluogi i ymateb yn gyflym wrth i natur y bygythiad newid. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn galluoedd i gyflwyno’r fenter profi risgiau a fydd yn cynnwys timau gweithredol ynghyd â galluoedd canfod i nodi mannau cyrraedd bygythiadau niwed mawr, gan gynnwys cyffuriau Dosbarth A, arfau tanio a mynediad dirgel.

Byddwn yn defnyddio Asesiadau’r Gymuned Guddwybodaeth o Fygythiadau er mwyn atgyfnerthu cynlluniau gweithredol a gwella ein gallu i ddefnyddio adnoddau Llu’r Ffiniau wrth y ffin. Byddwn yn cyflwyno’r gallu Risg, Cuddwybodaeth a Chanfod er mwyn dwyn ynghyd raglenni cuddwybodaeth a gwelliannau i’n technoleg ganfod i wella ein sail data, targedu a chuddwybodaeth a’n gallu canfod er mwyn rhyng-gipio a lleihau troseddau difrifol a chyfundrefnol wrth y ffin

Byddwn yn gwella Diogelwch y Ffin drwy wella galluoedd dadansoddi data a chanfod. Mae’r Swyddfa Gartref yn datblygu gallu dadansoddi data o’r radd flaenaf a fydd yn defnyddio data a chuddwybodaeth am ffiniau i nodi symudiadau nwyddau a phobl sy’n fygythiad mawr. Byddwn yn alinio hyn â chynnydd strategol yn ein gallu canfod.

Canlyniadau a Mesurau Llwyddiant

Gyda’i gilydd, bydd y gweithgareddau hyn yn helpu i gyflawni canlyniadau mewn tri phrif faes, sef:

  • tarfu ar droseddau mewnfudo cyfundrefnol;
  • ffin fwy cadarn fel man ymyrryd er mwyn atal troseddwyr cyfundrefnol a nwyddau anghyfreithlon;
  • sicrhau bod y ffin yn llai agored i fewnwyr llwgr.

Byddwn yn mesur effeithiau yn erbyn nifer o ddangosyddion, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: nifer yr achosion o darfu ar grwpiau troseddau mewnfudo cyfundrefnol, gan gynnwys y rhai sy’n hwyluso teithiau anghyfreithlon ar draws y Sianel mewn cychod bach; nifer yr achosion o atafaelu cyffuriau, nwyddau anghyfreithlon eraill ac arian parod troseddol wrth y ffin; nifer yr achosion o darfu ar rwydweithiau troseddol sy’n ymwneud â chyflenwi nwyddau anghyfreithlon; nifer yr achosion o darfu ar fewnwyr llwgr mewn porthladdoedd ac wrth y ffin.

3. Rhyngwladol

Ein trydedd linell weithredu yw dramor, gan gynnwys defnyddio cuddwybodaeth i darfu’n ddi-baid ar grwpiau troseddau cyfundrefnol â rhwydweithiau rhyngwladol sy’n gweithredu yn erbyn y DU, a hynny yn y man cychwyn, gan rwystro niwed rhag cyrraedd y DU. Byddwn hefyd yn gweithio i wella prosesau rhannu gwybodaeth a chuddwybodaeth rhyngwladol a lleihau ysgogwyr byd-eang troseddau difrifol a chyfundrefnol.

Mae troseddau difrifol a chyfundrefnol yn her fyd-eang sy’n gofyn am gydweithio rhyngwladol ac atebion byd-eang. Mae gwrthdaro, bygythiadau gwladwriaethol, ansefydlogrwydd ac amodau economaidd-gymdeithasol gwael dramor wedi llywio’r galw am arbenigedd rhwydweithiau troseddol i hwyluso mudo anghyfreithlon i Ewrop a’r DU. Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin, ynghyd ag ansefydlogrwydd rhyngwladol parhaus, llywodraethu gwan a phwysau economaidd-gymdeithasol sylweddol, yn gwaethygu bygythiad byd-eang troseddau difrifol a chyfundrefnol. Mewn rhai gwledydd, mae rhwydweithiau troseddol trawswladol sy’n targedu’r DU ar hyn o bryd, eisoes wedi sleifio i strwythurau cymdeithasol, masnachol a gwleidyddol, yn aml drwy lygredigaeth a chyllid anghyfreithlon. Maent wedi sefydlu ‘hafanau diogel’ hunanlesol ar draul y gyfraith a hawliau dynol a pholisi diogelwch, tramor a datblygu’r DU.

Mae gweithio dramor yn cynnig cyfle i dargedu troseddau difrifol a chyfundrefnol yn y man cychwyn, gan atal problemau megis mudo anghyfreithlon rhag cyrraedd y DU. Mae ein dull rhyngwladol wedi sicrhau bod gennym y cyrhaeddiad byd-eang a’r rhwydwaith o bartneriaethau a chynghreiriau rhyngwladol, megis y Bartneriaeth rhwng y DU a’r Emiraethau Arabaidd Unedig i Fynd i’r Afael â Llifau Cyllid Anghyfreithlon, sydd eu hangen i darfu’n sylweddol ar rwydweithiau troseddol trawswladol, mynd i’r afael â’r ffactorau sylfaenol sy’n ysgogi troseddau difrifol a chyfundrefnol yn y man cychwyn ac ar y ffordd i’r DU, a meithrin cadernid byd-eang i allu gwrthsefyll bygythiadau troseddau cyfundrefnol. Ond mae’r bygythiad yn parhau i ddatblygu a pheri heriau newydd i’n hymateb.

Er mwyn cefnogi ymdrechion wrth Ffin y DU, byddwn yn gweithio ymhellach i fyny’r gadwyn er mwyn tarfu ar ymdrechion grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n manteisio ar heriau mudo byd-eang er mwyn smyglo pobl i’r DU a’i gwneud yn haws iddynt ddod i mewn i’r DU yn anghyfreithlon, gan gynnwys mewn cychod bach – ac y mae eu gweithrediadau wedi’u lleoli ymhell y tu hwnt i’r DU. Fel gyda’n hymdrechion wrth Ffin y DU, yn ogystal â mynd ar ôl troseddwyr sy’n achosi llawer o niwed, byddwn yn canolbwyntio ar weithgarwch tarfu er mwyn tanseilio gallu grwpiau troseddau cyfundrefnol i weithredu methodoleg y cychod bach yn benodol.

Rhaglen a ariennir gan y Llywodraeth yw Prosiect INVIGOR, sy’n hyrwyddo buddsoddi yng ngalluoedd Llywodraeth y DU ac mewn galluoedd tramor ac yn cefnogi’r gwaith o’u datblygu er mwyn mynd i’r afael â throseddau mewnfudo cyfundrefnol. Nodau’r gronfa hon yw:

  • nodi model busnes smyglwyr a tharfu arno dwy dargedu galluogwyr throseddau mewnfudo cyfundrefnol gan gynnwys cyllid troseddol, gohebiaeth, llygredigaeth a’r cyfryngau cymdeithasol;
  • cynyddu nifer yr achosion o darfu ar droseddwyr a gweithgarwch gorfodi yn erbyn troseddau mewnfudo cyfundrefnol a’r gangiau troseddol sy’n eu hwyluso;
  • mynd i’r afael â’r cynnydd sylweddol yn nifer y cychod bach sy’n croesi’r Sianel.

Ar 13 Rhagfyr 2022, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai cyllid ar gyfer mynd i’r afael â throseddau mewnfudo cyfundrefnol yn cael ei ddyblu fel rhan o’i ddatganiad ar fudo anghyfreithlon.[footnote 45] Mae hyn yn cynnwys dyblu’r galluoedd yn rhaglen caethwasiaeth fodern a throseddau mewnfudo cyfundrefnol genedlaethol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu er mwyn gwella ein hymateb.

Mae’r cyllid hwn wedi’i ddyrannu i nifer o bartneriaid cyflawni gan gynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu. Mae prosiectau yn cynnwys sefydlu Canolfan Gyfathrebu Ar-lein er mwyn mynd i’r afael â chynnwys sy’n ymwneud â throseddau mewnfudo cyfundrefnol ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’r cyllid i fynd i’r afael â throseddau mewnfudo cyfundrefnol hefyd wedi arwain at ddyblu cyllid ar gyfer galluoedd Ymchwiliadau’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac wedi treblu cyllid Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar gyfer galluoedd cuddwybodaeth, ochr yn ochr â chyflwyno galluoedd ychwanegol ar gyfer TRACER a’r Brif Swyddfa Ddata. Mae hefyd yn cefnogi Tasglu penodol wedi’i leoli yn Tirana Albania er mwyn cynyddu cuddwybodaeth a galluoedd sy’n ymwneud â throseddau mewnfudo cyfundrefnol ac mae wedi darparu cyllid penodol er mwyn mynd i’r afael â gweithgarwch sy’n ymwneud â throseddau mewnfudo cyfundrefnol.

Byddwn yn defnyddio ein galluoedd domestig i fynd i’r afael â throseddu â dimensiwn rhyngwladol drwy’r Gyd-Ganolfan Troseddau Rhyngwladol yn yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ar y cyd â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu. Bydd hyn yn dwyn ynghyd ac yn atgyfnerthu’r galluoedd plismona rhyngwladol o’r Ganolfan Cydgysylltu Troseddau Rhyngwadol yn nhîm rhyngwladol Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod gan bob heddlu yn y DU yr adnoddau a’r sgiliau i weithio ar draws ffiniau. Bydd y Gyd-Ganolfan Troseddau Rhyngwladol yn darparu gwasanaeth ddydd a nos, saith diwrnod yr wythnos sy’n blaenoriaethu gofynion gweithredol phartneriaid domestig a rhyngwladol ac yn ymateb iddynt, gan sicrhau bod gan yr heddlu ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn fwy cyffredinol yr adnoddau a’r wybodaeth sydd eu hangen i fynd i’r afael â throseddu â dimensiwn rhyngwladol.

Lle y bo angen, byddwn yn defnyddio ein galluoedd seiber yn erbyn troseddwyr cyfundrefnol er mwyn mynd i’r afael â’r rhai a fyddai achosi niwed i’r DU, tarfu arnynt, eu diraddio a’u herio. Gall cyrff megis y Llu Seiberddiogelwch Cenedlaethol weithredu y tu hwnt i alluoedd gorfodi’r gyfraith traddodiadol a chyflawni amrywiaeth eang o ganlyniadau sy’n cael effaith uniongyrchol go iawn, heb ystyried ffiniau daearyddol.

Byddwn hefyd yn parhau i ddefnyddio cyfundrefn sancsiynau seiber annibynnol a phroses priodoliadau’r DU er mwyn cosbi ein gelynion a chondemnio ymosodiadau seiber maleisus a difeddwl.

Byddwn yn cynnal y galluoedd yn y Cytundeb Masnach a Chydweithrediad rhwng y DU a’r UE er mwyn sicrhau y gallwn weithio gyda chymheiriaid ledled Ewrop i fynd i’r afael â throseddu, gan gynnwys troseddau difrifol a chyfundrefnol a therfysgaeth. Mae’r pecyn cynhwysfawr o alluoedd yn y Cytundeb Masnach a Chydweithrediad yn cefnogi trefniadau cyfnewid data a chydweithredu ymarferol yn ogystal â darparu sail gadarn i drefniadau cydweithredu’r DU ag asiantaethau plismona a chyfiawnder troseddol yr UE (Europol ac Eurojust).

Byddwn yn parhau i fanteisio i’r eithaf ar ein cydberthnasau gweithredol ag Europol ac Eurojust. Rydym yn cydnabod y gwerth ychwanegol y mae’r asiantaethau yn ei sicrhau drwy hwyluso gweithgarwch cydgysylltu â phartneriaid rhyngwladol a chefnogi ymgyrchoedd trawsffiniol. Byddwn yn cynnal Biwro Cydgysylltu amlasiantaethol cadarn ar ran y DU yn Europol a thîm Cydgysylltu a arweinir gan Erlynwyr ar ran y DU yn Eurojust. Mae cydberthnasau cryf â’r asiantaethau yn parhau i sicrhau canlyniadau arwyddocaol i’r DU a’n partneriaid rhyngwladol o ran mynd i’r afael â bygythiadau a rennir sy’n gysylltiedig â’r holl fathau o droseddau difrifol a chyfundrefnol a therfysgaeth.

Byddwn yn gwneud defnydd helaethach o blatfformau rhannu data er mwyn sicrhau bod ein hymateb i droseddoldeb trawsffiniol yn cael yr effaith fwyaf posibl. Byddwn yn gwneud defnydd llawn o drefniadau rhannu data a sefydlwyd drwy’r Cytundeb Masnach a Chydweithrediad rhwng y DU a’r UE, gan gynnwys gallu rhannu data Prüm, sef system cyfnewid data biometrig ryngwladol rydym yn ei defnyddio ar hyn o bryd i gyfnewid data DNA ac olion bysedd. Ein nod yw cwblhau cysylltiadau â gweddill yr aelod-wladwriaethau erbyn Gwanwyn 2024.

Bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i atgyfnerthu cydberthynas y DU ag INTERPOL, gan ei gefnogi drwy fuddsoddi mewn galluoedd craidd ac atgyfnerthu’r sefydliad rhag cael ei gamddefnyddio. Mae’r DU yn cynnal Cynulliad Cyffredinol INTERPOL yn 2024 a fydd yn cynnig cyfle i ddangos arweinyddiaeth fyd-eang y DU o ran mynd i’r afael â throseddau rhyngwladol a hyrwyddo cydweithredu trawsffiniol ym maes gorfodi’r gyfraith.

Byddwn yn parhau i weithredu I-LEAP a fydd yn sicrhau cysylltedd â chronfeydd data INTERPOL, gan sicrhau bod gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn y DU fynediad mewn amser real i bynciau a gwrthrychau o ddiddordeb. Byddwn yn parhau i nodi cyfleoedd newydd i weithio gyda phartneriaid rhyngwladol er mwyn gwella galluoedd rhannu rhybuddion, yn ogystal â dulliau rhannu cuddwybodaeth ac ymyrryd.

Mae gennym gytundebau cynhwysfawr ar waith er mwyn cyfnewid cofnodion troseddol â gwledydd yr UE o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithrediad rhwng y DU a’r UE. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn cael ein hysbysu pan gaiff un o wladolion y DU ei ddyfarnu’n euog o drosedd yn un o wledydd yr UE ac yn darparu sail i gael unrhyw hanes troseddol a ddelir gan un o wledydd yr UE am un o’i gwladolion. Rydym bellach yn rhoi trefniadau newydd ar waith er mwyn cyfnewid data cofnodion troseddol â phartneriaid rhyngwladol eraill er mwyn cefnogi’r gwaith o ymchwilio i unigolion sy’n gysylltiedig â throseddu trawsffiniol a’u herlyn. Mae hyn yn cynnwys gwaith i ymestyn y trefniadau a roddwyd ar waith gydag Albania ac, yn ddiweddar, Kosovo er mwyn cynnwys pob gwlad yng Ngorllewin y Balcanau. Mae gennym ymrwymiad hefyd o’r naill ochr a’r llall i gynnal trafodaethau ynghylch mecanwaith cyfnewid ag India. Dangoswyd bod datblygu a gwella trefniadau rhannu cofnodion troseddol yn darparu gwell cuddwybodaeth ac yn cefnogi gweithgarwch er mwyn gallu tarfu ar droseddau difrifol a chyfundrefnol. Bydd y gweithgarwch hwn yn sicrhau dedfrydu seiliedig ar wybodaeth well gan y farnwriaeth er mwyn atal y rhai sy’n gysylltiedig â throseddau difrifol a chyfundrefnol rhag gweithredu yn y DU.

Byddwn yn sicrhau trefniadau dwyochrog ac amlochrog newydd er mwyn gwella cydweithrediad rhwng heddluoedd a chydweithrediad barnwrol ar draws ffiniau a pharhau i wella’r ffordd y mae’r trefniadau presennol sy’n hwyluso canfod troseddoldeb trawsffiniol sy’n effeithio ar y DU, ymchwilio iddo a’i erlyn, yn cael eu rhoi ar waith. Caiff y gweithgarwch hwn ei lywio gan ofynion gweithredol partneriaid domestig a rhyngwladol a’r angen i gadw i fyny â bygythiadau a thechnoleg sy’n datblygu.

Bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn gwella ei rhwydwaith cydgysylltu rhyngwladol yn y gwledydd â’r flaenoriaeth uchaf er mwyn cymryd camau yn y gwledydd tarddiad a’r gwledydd tramwy sy’n berthnasol i droseddau mewnfudo cyfundrefnol a chyffuriau anghyfreithlon a bygythiadau eraill. Bydd yn parhau i ddatblygu a mabwysiadu strategaethau tarfu rhyngwladol a threfniadau cydweithredu helaethach â chyrff gorfodi cyfraith ryngwladol drwy rwydwaith Swyddogion Cyswllt Rhyngwladol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. Bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn sefydlu Cynghorwyr Rhyngwladol er mwyn darparu cymorth arbenigol ar gyfer ymgyrchoedd a arweinir gan dimau wedi’u lleoli yn y DU, gan roi cyngor ar dactegau rhyngwladol, opsiynau ar gyfer gweithgarwch tarfu ac adnoddau, galluoedd a blaenoriaethau partneriaid tramor.

Byddwn yn atgyfnerthu gwaith Ymgyrchoedd Rhyngwladol y Swyddfa Gartref. Byddwn yn parhau i leoli swyddogion mewn gwledydd â blaenoriaeth (gan gynnwys mewn lleoliadau newydd), a fydd yn gweithio gyda a thrwy bartneriaid rhyngwladol er mwyn mynd i’r afael â throseddau mewnfudo cyfundrefnol. Byddwn yn canolbwyntio ymdrechion ar weithgareddau tarfu ar raddfa fawr y bwriedir iddynt darfu’n gyflym ac yn ddi-baid ar weithgarwch troseddwyr cyfundrefnol ac, yn fwy cyffredinol, darfu ar lifoedd mudwyr anghyfreithlon i’r DU. Lle y bo angen, byddwn yn ehangu gweithgarwch i fynd i’r afael â’r bygythiad ac yn cyflwyno mathau newydd o weithgarwch er mwyn gwneud hynny.

Byddwn yn atgyfnerthu ein hymateb rhyngwladol i droseddau difrifol a chyfundrefnol drwy SOCnet, sef Rhwydwaith Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol tramor ar y cyd y Swyddfa Gartref a’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, gan ddwyn ynghyd waith diplomataidd, gweithredol, rhaglennol a datblygol er mwyn mynd i’r afael â bygythiadau troseddau difrifol a chyfundrefnol a chyllid anghyfreithlon mewn ffordd gydgysylltiedig. Mae SOCnet yn cynnwys cydgysylltwyr throseddau difrifol a chyfundrefnol rhanbarthol a gefnogir gan staff sydd wedi’u lleoli yn y DU a gwledydd eraill mewn lleoliadau allweddol, yn ogystal ag arweinwyr polisi cyllid anghyfreithlon sy’n chwarae rôl allweddol ym mhob rhan o’r rhwydwaith. Mae SOCnet yn cydgysylltu ymatebion i’r bygythiad i fuddiannau’r DU, gan gynnwys rhwng troseddau difrifol a chyfundrefnol a meysydd sy’n dod i’r amlwg megis newid yn yr hinsawdd. Mae SOCnet yn gweithio ochr yn ochr â thua 80 o swyddogion tramor sy’n cyfrannu at Blatfformau Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol ar y Cyd (JSOCs) yn y swydd.

Bydd y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn atgyfnerthu’r arweinyddiaeth strategol a’r arbenigedd diplomataidd ym maes mynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol drwy ymgorffori nodau a blaenoriaethau rhyngwladol mewn Cynlluniau Busnes a Gwlad o dan arweiniad Penaethiaid Cenedaethau. Bydd yn parhau i wella prosesau cydgysylltu ymatebion rhyngwladol trawslywodraethol drwy SOCnet tramor ar y cyd y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu a’r Swyddfa Gartref a Chyd-fyrddau Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol mewn mwy nag 80 o lysgenadaethau ac uchel gomisiynau Prydeinig.

Byddwn yn ehangu ein hymgyrchoedd rhyngwladol presennol yn erbyn troseddau difrifol a chyfundrefnol sy’n ysgogi troseddu, trais a chamfanteisio yn y DU. Bydd yr ymgyrchoedd yn dwyn ynghyd holl ysgogiadau’r llywodraeth a’r holl ysgogiadau rhyngwladol, gan gynnwys partneriaethau dwyochrog ac amlochrog, er mwyn targedu troseddwyr a rhwydweithiau trawswladol, bygythiadau â blaenoriaeth a/neu lwybrau cyflenwi pwysig mewn mannau lle y ceir llawer o droseddu ledled y byd megis Gorllewin y Balcanau.

Byddwn yn parhau i arwain y gwaith o gyflwyno rhaglenni troseddau difrifol a chyfundrefnol rhyngwladol y Gronfa Diogelwch Integredig. Mae’r rhaglenni hyn, sy’n werth bron i £100 miliwn rhwng 2022 a 2025, yn cefnogi gallu partneriaid rhyngwladol â blaenoriaeth i darfu ar fodel busnes rhwydweithiau troseddau cyfundrefnol byd-eang sy’n bygwth ein diogelwch gwladol, lleihau’r niwed a achosir ganddynt a mynd i’r afael â’r ffactorau sylfaenol sy’n eu hysgogi. Rydym yn parhau i’w targedu lle y gallant wneud y gwahaniaeth mwyaf i ddinasyddion yn y DU, gan fynd i’r afael â gweithgarwch cyflenwi cyffuriau ac arfau tanio a gweithredu i fyny’r gadwyn er mwyn cyfyngu ar allu grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n targedu’r DU i weithredu heb gosb, recriwtio ac elwa ar droseddu dramor. Bydd y rhaglenni hyn yn parhau i ategu a gwella ein hymateb gweithredol domestig a rhyngwladol i droseddau difrifol a chyfundrefnol a thargedu’r cysylltiad â bygythiadau trawswladol eraill i ddiogelwch y DU (megis cyllid anghyfreithlon neu fygythiadau gwladwriaethol).

Bydd y Swyddfa Gartref hefyd yn parhau i fuddsoddi mewn ymdrechion byd-eang i ddiogelu pobl sy’n agored i niwed rhag camfanteisio. Rhwng 2022 a 2025, byddwn yn buddsoddi £16.5 miliwn yn y gronfa Diogel Ar-lein fyd-eang er mwyn atal cam- drin plant yn rhywiol ar-lein a £24 miliwn yn y Gronfa Caethwasiaeth Fodern er mwyn lleihau caethwasiaeth fodern yn y DU a thramor, gan gynnwys drwy’r Gronfa Arloesi Caethwasiaeth Fodern. Rydym yn parhau i ddatblygu arweinyddiaeth ryngwladol bwysig, gan weithio gyda phartneriaid yn y Pum Gwlad a’r G7, ar ymrwymiad â blaenoriaeth a rennir i feithrin gallu byd-eang i fynd i’r afael â bygythiad trawswladol cam-drin plant yn rhywiol.

Er mwyn lleihau’r bygythiad y mae cyllid anghyfreithlon rhyngwladol yn ei beri i’r DU, byddwn yn gweithio i barhau i wella safonau a chydweithrediad rhyngwladol yn y Tasglu Gweithredu Ariannol, Swyddfa’r Cenhedloedd Unedig ar Gyffuriau a Throseddu, y G7 a’r G20, er mwyn dileu mannau diogel lle y gall troseddwyr fwynhau eu helw. Byddwn yn atgyfnerthu partneriaethau â chanolfannau ariannol eraill, yn enwedig UDA, yr Emiraethau Arabaidd Unedig a Dibyniaethau’r Goron a’n Tiriogaethau Tramor.

Canlyniadau a Mesurau Llwyddiant

Gyda’i gilydd, bydd y gweithgareddau hyn yn helpu i gyflawni canlyniadau mewn pedwar prif faes, sef:

  • tarfu ar droseddwyr cyfundrefnol tramor sy’n achosi llawer o niwed, gan leihau eu heffaith yn y DU yn ogystal â Dibyniaethau’r Goron a’i Thiriogaethau Tramor;
  • gwell prosesau rhannu gwybodaeth a chuddwybodaeth rhyngwladol er mwyn helpu i wella canlyniadau ymchwiliol a chanlyniadau cyfiawnder troseddol;
  • mwy o ewyllys wleidyddol ymhlith y rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn gwledydd tramor â blaenoriaeth i gynyddu’r ymateb i droseddau difrifol a chyfundrefnol;
  • llai o ysgogwyr byd-eang ar gyfer troseddau difrifol a chyfundrefnol, wedi’i gysylltu â nodau datblygu ehangach y Llywodraeth.

Byddwn yn mesur effeithiau yn erbyn nifer o ddangosyddion, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: nifer yr achosion llwyddiannus o darfu ar droseddwyr cyfundrefnol; allbynnau a chanlyniadau cyfiawnder troseddol o ganlyniad gyfnewid data a chydweithredu trawsffiniol; gwerthuso effaith polisi tramor a rhwydweithiau, ymgyrchoedd a rhaglenni sy’n canolbwyntio ar ddatblygu.

4. Technoleg a galluoedd

Ein pedwaredd linell weithredu yw sicrhau bod y galluoedd casglu, dadansoddi ac archwilio cuddwybodaeth a data gorau ar waith er mwyn nodi troseddwyr cyfundrefnol a tharfu arnynt.

Mae bygythiad throseddau difrifol a chyfundrefnol yn datblygu drwy’r amser gyda throseddwyr yn defnyddio technoleg i hwyluso eu troseddoldeb. Mae newid technolegol cyflym wedi dod â manteision a chyfleoedd enfawr i ddinasyddion a busnesau ledled y DU. Fodd bynnag, mae wedi lleihau’r rhwystrau i fynediad i droseddwyr cyfundrefnol fanteisio ar dechnoleg, sy’n ei defnyddio i guddio eu gohebiaeth a’u trafodiadau ariannol ac osgoi cael eu canfod gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith. Er bod arbenigwyr sy’n creu technoleg ac adnoddau pwrpasol er mantais droseddol, yn aml technoleg sy’n cael ei defnyddio gan y boblogaeth gyffredinol a fabwysiedir gan droseddwyr cyfundrefnol, megis apiau negeseua diogel sy’n cynnig amgryptio o’r dechrau i’r diwedd neu Rwydweithiau Preifat Rhithwir. Mae technolegau megis gohebiaeth wedi’i hamgryptio o’r naill ben i’r llall, cryptoarian, 5G, digideiddio, y we dywyll, arian cyfred rhithwir a systemau talu newydd yn peri her i allu asiantaethau gorfodi’r gyfraith sicrhau bod gohebiaeth a thrafodiadau ariannol troseddwyr yn parhau’n weladwy. Gallai datblygiadau ym maes deallusrwydd artiffisial wella galluoedd troseddol ymhellach, gan greu mynediad hawdd i fethodolegau mwy soffistigedig.

Mae newid technolegol yn cynnig cyfleoedd i asiantaethau gorfodi’r gyfraith mewn rhai achosion, er enghraifft y defnydd posibl o ddeallusrwydd artiffisial. Fodd bynnag, rydym yn canolbwyntio ar ymateb i’r heriau y mae technoleg yn eu creu, drwy sicrhau bod y galluoedd casglu, dadansoddi a rhannu cuddwybodaeth gorau ar waith er mwyn ateb yr heriau hyn. Mae’r galluoedd amlwg a chuddiedig hyn o ran data a chuddwybodaeth yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall asiantaethau gorfodi’r gyfraith gasglu data sy’n gysylltiedig â gweithgarwch troseddwyr cyfundrefnol, eu dadansoddi er mwyn creu darlun o weithgarwch troseddol a rhannu gwybodaeth ar y lefel weithredol briodol er mwyn cefnogi gweithgarwch tarfu penodol effeithiol. Mewn sefyllfaoedd eraill, mae troseddwyr yn defnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu eu gwasanaethau megis hwyluso mudo anghyfreithlon gan gynnwys mewn cychod bach. Yr her i awdurdodau gorfodi’r gyfraith yw sicrhau y caiff y postiadau hyn eu dileu cyn gynted â phosibl ac na chaiff bywydau pobl eu peryglu drwy orfod gwneud teithiau peryglus ac anghyfreithlon.

Mae newid technolegol cyflym yn debygol o barhau dros y pum mlynedd nesaf ac ar ôl hynny, gan beri her barhaus i ymateb asiantaethau gorfodi’r gyfraith. Bydd unigolion yn treulio mwy o amser ar-lein ac yn meddu ar fwy o ddyfeisiau sydd wedi’u cysylltu â’r rhyngrwyd, gan gynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer gweithgarwch troseddol. Mae prosesau storio, trosglwyddo a defnyddio data yn dod yn fwy cymhleth ac yn defnyddio mwy o adnoddau am fod cymaint o ddata ar gael ac mae’r defnydd cynyddol o amgryptio o’r naill ben i’r llall yn golygu bod cuddwybodaeth y gellir ei chasglu yn llai gwerthfawr nag yr arferai fod. Mae technolegau newydd neu wedi’u haddasu, megis deallusrwydd artiffisial a ffugio dwfn, yn cynnig cyfleoedd newydd i droseddwyr gael mynediad at alluoedd uwch er mwyn troseddu’n fwy effeithiol ac ar raddfa fwy, ac amharu ar y ffordd y caiff ymchwiliadau eu cynnal ac y caiff tystiolaeth ei chasglu, ei dadansoddi a’i defnyddio yn y llys. Mae hyn yn peri her sylweddol i’r gyfundrefn ddatgelu bresennol a’r gofyniad i erlynwyr ddatgelu i’r amddiffyniad holl ddeunydd sy’n gwanhau achos yr erlyniad neu’n cryfhau achos y diffynnydd. Fel rhan o adolygiad annibynnol newydd o’r heriau sy’n gysylltiedig ag ymchwilio i achosion o dwyll a’u herlyn, mae’r Llywodraeth yn ymrwymedig i Strategaeth Dwyll 2023 er mwyn ystyried sut y gellir symleiddio’r drefn ddatgelu ar gyfer achosion â llawer o ddeunydd digidol, gan leihau’r baich sylweddol ar asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac erlynwyr. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar gymaryddion rhyngwladol ynghylch datgelu er mwyn gweld pa wersi y gallwn eu dysgu. Yn yr un modd, bydd cydweithio’n agos â’r cwmnïau technoleg perthnasol yn bwysig er mwyn i asiantaethau gorfodi’r gyfraith allu mynd i’r afael â’r defnydd y mae troseddwyr yn ei wneud o dechnoleg.

Bydd y Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol yn gweithio ochr yn ochr â’r Strategaeth Seiberddiogelwch Genedlaethol, y bwriedir iddi feithrin cadernid ym mhob rhan o’r ecosystem seiber er mwyn atal troseddwyr rhag manteisio ar dechnoleg a datblygiadau technolegol a lleihau’r effaith y mae eu defnydd o dechnoleg yn ei chael. Drwy Biler Manteision Technoleg yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, mae’r Llywodraeth yn cymryd camau i fynd i’r afael â datblygiadau technolegol sy’n hanfodol i seiberddiogelwch, er mwyn sicrhau ein bod yn manteisio ar gyfleoedd ac yn lliniaru risg. Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn hyrwyddo datblygu technoleg gysylltiedig mewn ffordd gyfrifol, gydag egwyddorion diogelwch a chadernid wedi’u hymgorffori mewn rhaglenni megis ‘Digital Security by Desing’ er mwyn lleihau nifer y gwendidau y gellir manteisio arnynt.

Byddwn yn cymryd camau nawr i atgyfnerthu ein galluoedd data a chuddwybodaeth hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gyson, yn gadarn ac yn addas at y diben er myn mynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol. Drwy sicrhau bod ein galluoedd bob amser yn addas at y diben ochr yn ochr ag arferion, cyfleusterau a strwythurau gweithredu effeithiol, byddwn yn sicrhau y gall asiantaethau gorfodi’r gyfraith barhau i gasglu tystiolaeth, ymchwilio i droseddau a tharfu ar droseddwyr cyfundrefnol hyd yn oed wrth i newidiadau technolegol wneud hyn yn fwy heriol. Bydd galluoedd data a chuddwybodaeth cyfredol yn sicrhau bod y cynnydd yn nifer y swyddogion rheng flaen yn cael yr effaith fwyaf posibl, gan helpu i sicrhau bod capasiti swyddogion ychwanegol yn cael ei dargedu at feysydd lle mae’n fwyaf tebygol o fod yn effeithiol Mae deallusrwydd artiffisial yn cynnig cyfleoedd sylweddol i gynyddu cyflymder a gwella effeithiolrwydd y galluoedd hyn. Byddwn yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o alluoedd fforensig digidol yn genedlaethol, gan ddadansoddi’r galw a’r cyflenwad er mwyn canolbwyntio buddsoddiad.

Os bydd mathau unigol o droseddau yn gofyn am ymateb penodol, byddwn yn sicrhau bod y galluoedd ar gael i fynd i’r afael â’r bygythiad. Er mwyn mynd i’r afael â throseddau mewnfudo cyfundrefnol sy’n gysylltiedig â gweithgarwch ar-lein fel y nodir yn natganiad y Prif Weinidog ar 6 Awst 2023, bydd y Swyddfa Gartref a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn parhau i weithio mewn partneriaeth â chwmnïau cyfryngau cymdeithasol er mwyn gweithredu’n gyflymach i ddileu cynnwys megis troseddwyr yn rhannu gwybodaeth am deithiau ar draws y Sianel. Mae hyn yn cynnwys sefydlu Canolfan Galluoedd Ar-lein er mwyn mynd i’r afael â chynnwys sy’n ymwneud â throseddau mewnfudo cyfundrefnol ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol. At hynny, bydd y Swyddfa Gartref a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn parhau i adeiladu ar y Cynllun Gweithredu ar y Cyfryngau Cymdeithasol, sef cynllun gwirfoddol y cytunwyd arno ar y cyd rhwng y Swyddfa Gartref, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a nifer o gwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn 2021, er mwyn ystyried sut i gynyddu ymdrechion i ailgyfeirio defnyddwyr at negeseuon priodol, darparu gwybodaeth amserol am ddiogelwch i’r cyhoedd a rhannu arferion gorau ar raddfa fwy.

Er mwyn mynd i’r afael â cham-drin plant yn rhywiol ar-lein, bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i fuddsoddi mewn amrywiaeth o alluoedd data, cuddwybodaeth a gweithredol hanfodol yn yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, GCHQ a’r Llu Seiberddiogelwch Cenedlaethol er mwyn targedu’r troseddwyr mwyaf soffistigedig yn dechnolegol ar-lein. Rydym wedi atgyfnerthu galluoedd gorfodi’r gyfraith er mwyn mynd i’r afael â cham-drin plant yn rhywiol ar-lein drwy fuddsoddi mwy nag £11 miliwn mewn swyddogion cudd ar-lein yn 2022/23, gan gynnal timau hyfforddedig a seilwaith mewn Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. Bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i fuddsoddi yn y Gronfa Ddata o Ddelweddau o Gam-drin Plant (CAID). Bydd hyn yn helpu asiantaethau gorfodi’r gyfraith i reoli graddau’r deunydd sy’n ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol drwy wella system CAID ymhellach, cyfoethogi data a’i gwneud yn bosibl i fwy o ddata a galluoedd gael eu rhannu.

Er mwyn targedu cleptocratiaeth, bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn defnyddio Cell Mynd i’r Afael â Cheptocratiaeth (CKC), a grëwyd yn 2022, i dargedu elitau tramor, clepocratiaid a’r gwasanaethau proffesiynol yn y DU sy’n eu galluogi.

Er mwyn canfod troseddau ar y we dywyll ac ymchwilio iddynt, caiff swyddogion yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol eu huwchsgilio i gynnal ymchwiliadau ar-lein sy’n cynnwys elfen sylweddol o’r we dywyll er mwyn dadanonymeiddio troseddwyr hysbys a mynd ati’n rhagweithiol i ddatgelu troseddoldeb newydd. Bydd hyn yn targedu’r unigolion hynny yn y DU a thramor sy’n defnyddio methodolegau hawdd iawn eu hatgynhyrchu ac sy’n troseddu ar raddfa fawr.

Mewn ymateb i fygythiad troseddau difrifol a chyfundrefnol sy’n deillio o garchardai, bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yn adeiladu Labordy Fforenseg Ddigidol newydd. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i ffonau symudol a dyfeisiau tebyg a atafaelir mewn carchardai gael eu harchwilio’n fwy effeithiol a fydd, yn ei dro, yn darparu mwy o guddwybodaeth i Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith.

Byddwn yn buddsoddi i ddatblygu galluoedd cyfathrebu digidol effeithiol ac yn defnyddio galluoedd presennol er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl ar droseddwyr cyfundrefnol. Mae galluoedd presennol yn cynnwys rhyng-gipio wedi’i dargedu, ymyrryd â chyfarpar wedi’i dargedu a chaffael (a chadw) data gohebiaeth, gan gynnwys fel y’i hwylusir ar hyn o bryd drwy Gytundeb Mynediad at Ddata’r DU ag UDA sy’n rhoi mynediad uniongyrchol i ddata cynnwys a ddelir gan gwmnïau yn UDA at ddibenion troseddau difrifol. Er mwyn sicrhau bod y pwerau yn parhau i fod yn addas at y diben ac, fel sy’n ofynnol o dan Adran 260 o Ddeddf Pŵer Ymchwilio 2016, ym mis Chwefror 2023 cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref adroddiad ar y ffordd roedd y Ddeddf wedi’i rhoi ar waith hyd yma a’i osod gerbron y Senedd. Nododd yr adroddiad hwn rai meysydd posibl ar gyfer diwygiadau deddfwriaethol er mwyn gwella effeithiolrwydd y Ddeddf a allai gefnogi ymhellach ein hymdrechion i fynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol yn y dyfodol. Bydd y Llywodraeth yn ceisio cyflwyno deddfwriaeth pan fydd amser Seneddol yn caniatáu hynny.

Rydym yn gweithio i gyflwyno Rhwydwaith Cuddwybodaeth Sensitif mewn Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol ar ran y sector plismona ac mewn partneriaeth â 19 o asiantaethau eraill. Mae hyn yn darparu prosesau, hyfforddiant, modelau sicrwydd a thactegau cyson er mwyn i guddwybodaeth sensitif allu cael ei defnyddio a’i dadansoddi’n llwyddiannus i nodi troseddau difrifol ac ymchwilio iddynt. Bydd y Swyddfa Gartref bellach yn ariannu’r gwaith o gyflwyno’r rhwydwaith, gan alluogi’r heddlu i gael, dadansoddi, defnyddio a lledaenu deunydd electronig sydd wedi’i ddosbarthu’n ddeunydd cyfrinachol. Bydd hyn yn galluogi’r heddlu i nodi a thargedu’r troseddoldeb sy’n achosi’r niwed mwyaf ac ymchwilio iddo yn fwy effeithlon ac effeithiol.

Bydd asiantaethau gorfodi’r gyfraith a phartneriaid eraill yn cydweithio ac yn rhannu cuddwybodaeth a gwybodaeth er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl ar droseddwyr cyfundrefnol. Mae’r heddlu a phartneriaid gweithredol eraill yn dibynnu ar guddwybodaeth i fynd ar ôl troseddwyr a tharfu ar y rhai sy’n eu hwyluso a’u chwalu. Bydd sicrhau bod gan asiantaethau yr adnoddau a mynediad at wybodaeth a rennir yn gwella’r ffordd y caiff data eu trin a’u dadansoddi mewn ymchwiliadau ac yn ei gwneud yn anos i droseddwyr weithredu ar-lein yn y lle cyntaf

Bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau er mwyn galluogi cydweithredu ymhlith partneriaid. Mae hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth allweddol yng nghyfarfodydd Cyd-Fyrddau Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol a mynediad at brosesau casglu cuddwybodaeth cudd, prosesau defnyddio data, ei gallu rhyngwladol, swyddogaethau sganio’r gorwel ac asesu (megis y Ganolfan Asesu Genedlaethol) a’i gwasanaethau cymorth gweithredol ac ymchwiliol (megis Gwasanaethau Personau dan Amddiffyniad y DU). Bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn gweithio i gynyddu mynediad at guddwybodaeth drwy dreialu terfynellau’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ym mhob rhan o’r rhwydwaith o Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol. Os bydd yn llwyddiannus, bydd hyn yn galluogi partneriaid yn yr heddlu i archwilio data’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, gan helpu i gyflawni eu hamcanion gweithredol yn ogystal â chefnogi gweithgarwch tasg mewn ymateb i guddwybodaeth a ledaenwyd gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. Bydd hyn yn galluogi’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a’r heddlu i ddeall y bygythiad yn well a defnyddio cuddwybodaeth a rennir er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl ar droseddwyr cyfundrefnol.

Er mwyn sicrhau y gall yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ddadansoddi data plismona, mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol wedi treialu mynediad uniongyrchol at ddata plismona lleol o Gronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu i’w cynnwys mewn dadansoddiadau gweithredol. Mae gwell prosesau rhannu data yn golygu y gall ymchwilwyr yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol gael gafael ar guddwybodaeth a data eraill gan heddluoedd lleol yn ddi-oed a’u defnyddio mewn ffyrdd newydd, mwy effeithlon. Er mwyn cefnogi cydweithredu ymhlith heddluoedd, mae’r Swyddfa Gartref hefyd yn buddsoddi yn Strategaeth Dadansoddeg Data Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu er mwyn sefydlu swyddogaeth ganolog yng Nghyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar gyfer sefydlu a chynnal galluoedd rhannu data a darparu dadansoddeg data wedi’i optimeiddio ym mhob rhan o’r maes plismona. Bydd hyn yn creu galluoedd dadansoddeg data sy’n symlach ac ar gael yn gyson.

Drwy’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, mae gan Ofcom gyfrifoldebau newydd bellach fel y rheoleiddiwr diogelwch ar-lein annibynnol i sicrhau bod gwasanaethau a reoleiddir yn cyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf, y bwriedir iddynt wella diogelwch rhag lledaenu cynnwys anghyfreithlon ar-lein. Mae hyn yn cwmpasu cynnwys sy’n ymwneud â throseddau mewnfudo cyfundrefnol a gaiff ei bostio gan grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n ymwneud â smyglo pobl ar draws y Sianel mewn cychod bach a hwyluso teithiau ar draws y Sianel. Bydd angen i’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac Ofcom feithrin cydberthnasau gwaith cryf er mwyn sicrhau dull effeithiol o fynd i’r afael â niweidiau ar-lein o fewn eu priod gylchoedd gwaith. Bydd gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol rôl allweddol i’w chwarae o ran darparu tystiolaeth a gwybodaeth i Ofcom am y ffordd y mae gweithgarwch troseddol, yn arbennig camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol, a throseddau mewnfudo cyfundrefnol, yn gweithredu ar-lein a mesurau a allai helpu i fynd i’r afael â’r bygythiad. Mae pyrth rhannu gwybodaeth eisoes mewn deddfwriaeth a fydd yn galluogi Ofcom a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill i rannu gwybodaeth lle y bo’n bo’n berthnasol ac yn briodol.

Canlyniadau a Mesurau Llwyddiant

Mae hon yn llinell weithredu alluogol allweddol y bwriedir iddi gyflawni’r canlyniadau a nodir yn y tair llinell weithredu gyntaf yn fwy effeithiol. Gyda’i gilydd, bydd y gweithgareddau hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn parhau i feddu ar alluoedd casglu, dadansoddi ac archwilio cuddwybodaeth a data, gan ein galluogi i darfu ar droseddwyr cyfundrefnol a diogelu rhagddynt, nawr ac yn y dyfodol. Byddwn yn mesur effeithiau yn erbyn amrywiaeth o ddangosyddion, gan gynnwys yr allbynnau a’r canlyniadau gweithredol y bydd y galluoedd hyn yn eu cefnogi, megis tarfu ar droseddwyr ac atafaelu asedau troseddol.

5. Ymateb amlasiantaethol

Ein pumed linell weithredu yw sicrhau bod pob partner yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat yn cydweithio mor effeithiol â phosibl â’r capasiti, sgiliau, strwythurau a phrosesau pennu tasgau cywir.

Mae’r ymateb i droseddau difrifol a chyfundrefnol y tu hwnt i adnoddau a gallu unrhyw gorff unigol. Mae’n gofyn am ymateb integredig o’r dechrau i’r diwedd gan ddefnyddio holl rym y wladwriaeth a’r sector preifat gan gynnwys y system cuddwybodaeth, gorfodi’r gyfraith, diogelwch gwladol a diplomataidd gyfan.

Strategaeth gyffredinol

Yr Ysgrifennydd Cartref sy’n atebol am yr ymateb cyffredinol i droseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae’r Ysgrifennydd Cartref yn pennu’r strategaeth a’r cyfeiriad polisi, yn sicrhau bod deddfwriaeth a galluoedd yn gadarn ac effeithiol, yn rhoi cyllid i asiantaethau ar gyfer eu gweithrediadau ac yn dwyn y system i gyfrif am ei pherfformiad cyffredinol yn erbyn y bygythiad.

Yr Ysgrifennydd Cartref sy’n pennu’r blaenoriaethau strategol ar gyfer yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, a gaiff eu llywio gan y guddwybodaeth strategol am y bygythiad a’r niwed y mae’n ei achosi i’r DU. Ym mlaenoriaethau strategol 2023-24,[footnote 46] gofynnodd yr Ysgrifennydd Cartref i’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol wneud y canlynol:

  • lleihau troseddau difrifol a chyfundrefnol yn ein cymunedau drwy arwain system gorfodi’r gyfraith a gwella prosesau cydgysylltu â maes plismona a phartneriaid eraill er mwyn mynd i’r afael â grwpiau troseddau cyfundrefnol yn y DU;
  • lleihau troseddau difrifol a chyfundrefnol yn y DU drwy chwalu’r ‘grwpiau troseddau cyfundrefnol, y rhwydweithiau a’r unigolion sy’n achosi’r niwed mwyaf.
  • lleihau troseddau mewnfudo cyfundrefnol gan ganolbwyntio’n benodol ar y grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n hwyluso teithiau ar draws y Sianel mewn cychod bach fel rhan o strategaeth ehangach y Llywodraeth i atal cychod bach o dan gynllun 10 pwynt y Prif Weinidog ynghylch mudo anghyfreithlon;
  • lleihau twyll a mynd i’r afael ag elitau llwgr, bygythiadau gwladwriaethol, seiberdroseddau a throseddau economaidd;
  • gwella diogelwch ein ffiniau a’n porthladdoedd drwy weithio gyda phartneriaid gweithredol i chwalu’r grwpiau a’r rhwydweithiau troseddau cyfundrefnol sy’n ceisio tanseilio eu cyfanrwydd;
  • chwarae rhan lawn yn y gwaith o gyflawni amcanion y Llywodraeth i leihau troseddau ac ymateb i fygythiadau i ddiogelwch gwladol.

Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol sy’n pennu blaenoriaethau gweithredol i’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, gan ystyried blaenoriaethau strategol yr Ysgrifennydd Cartref.

Yr Ysgrifennydd Cartref sy’n pennu’r cyfeiriad ar gyfer plismona yn erbyn bygythiadau i ddiogelwch y cyhoedd drwy’r Gofyniad Plismona Strategol. Mae hyn yn sicrhau bod galluoedd ar waith er mwyn i’r sector plismona, gan gynnwys yr Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol, ddarparu ymateb cenedlaethol i droseddau difrifol a chyfundrefnol.

Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol

Sefydlwyd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn 2013 gan y Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd gyda’r swyddogaeth i sicrhau bod gweithgareddau effeithlon ac effeithiol i fynd i’r afael â throseddau cyfundrefnol a difrifol yn cael eu cynnal. Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol sy’n arwain ac yn cydgysylltu ymateb asiantaethau gorfodi’r gyfraith y DU i droseddau difrifol a chyfundrefnol. Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu un safbwynt ar fygythiad troseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae’r asesiad blynyddol hwn yn darparu gwybodaeth am y ffordd y mae grwpiau troseddol cyfundrefnol yn gweithredu a sut mae hynny’n datblygu. Mae’n llywio’r ffordd y mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn blaenoriaethu ei hadnoddau gweithredol ei hun, yn ogystal â llywio gweithgarwch gweithredol gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith i darfu ar rwydweithiau troseddol a’u chwalu.

Mae Cynllun Blynyddol 2023-24 yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn nodi ei blaenoriaethau strategol, gan gynnwys sut y bydd yn chwarae rhan lawn yn y gwaith o gyflawni strategaeth ehangach y Llywodraeth i leihau troseddau ac ymateb i fygythiadau i ddiogelwch gwladol a chwalu’r grwpiau a’r rhwydweithiau troseddau cyfundrefnol sy’n achosi’r niwed mwyaf.

Mae gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol alluoedd a phwerau penodol i ledaenu cuddwybodaeth strategol ym mhob rhan o’r system ac, o dan Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013, mae ganddi swyddogaeth cuddwybodaeth benodol ar gyfer troseddau difrifol a chyfundrefnol. Defnyddir gwybodaeth o’r Asesiad Strategol Cenedlaethol a gynhelir gan y Ganolfan Asesu Genedlaethol i bennu’r Strategaeth Rheoli Genedlaethol a fydd yn galluogi’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a phartneriaid eraill i ddarparu adnoddau a chynllunio ar gyfer cyflawni blaenoriaethau. Mae’r Ganolfan Asesu Genedlaethol yn gweithredu o fewn yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i ddal a gwella’r darlun strategol sy’n seiliedig ar guddwybodaeth o fygythiadau presennol troseddau difrifol a chyfundrefnol a bygythiadau sy’n dod i’r amlwg, er mwyn cefnogi ymateb gweithredol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a’i phartneriaid a darparu gwybodaeth i uwch-swyddogion sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn llywio polisi. Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn arddel safbwynt hirdymor o ran technoleg ddatblygol drwy TRACER, sef tîm amlddisgyblaethol, amlasiantaethol a leolir yn yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, sy’n asesu cyfleoedd a risgiau sy’n gysylltiedig â galluoedd ymchwilio digidol.

Y Strategaeth Rheoli Genedlaethol fydd y prif ddull o bennu a thracio cynnydd gweithgarwch gweithredol yn erbyn bygythiadau, a reolir drwy Grwpiau Llywodraethu Strategol. Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn cefnogi ac yn cydgysylltu ymateb asiantaethau gorfodi’r gyfraith cenedlaethol i droseddau difrifol a chyfundrefnol drwy fecanweithiau pennu tasgau er mwyn sicrhau bod cuddwybodaeth strategol yn bwydo i mewn i guddwybodaeth y gellir gweithredu arni ar gyfer heddluoedd yn lleol. Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn arwain gweithgarwch pennu tasgau a chydgysylltu cenedlaethol drwy ddwy broses, sef: Pennu Tasgau a Chydgysyllu Strategol Cenedlaethol a Phennu Tasgau a Chydgysylltu Tactegol Cenedaethol. Mae’r naill broses a’r llall yn cynnwys cyfres o gyfarfodydd cenedlaethol, a gadeirir gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac a fynychir gan uwch-gynrychiolwyr o’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yr heddlu ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill, sy’n pennu’r blaenoriaethau ar gyfer maes gorfodi’r gyfraith er mwyn helpu i gyflawni blaenoriaethau strategol yr Ysgrifennydd Cartref.

Mae’r Ganolfan Troseddau Economaidd Genedlaethol wedi’i lleoli yn yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac mae’n cael ei staffio gan bartneriaid o bob rhan o gymuned gorfodi’r gyfraith (gan gynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, CThEF, Heddlu Dinas Llundain a’r Swyddfa Twyll Difrifol) ac o’r sector preifat. Mae’n adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes gan y sefydliadau hyn er mwyn sicrhau yr eir i’r afael â throseddau economaidd mewn ffordd fwy cydgysylltiedig. Mae’r Gallu Defnyddio Data Cenedlaethol (NDEC) yn allu canolog cenedlaethol sy’n gwneud defnydd mwy effeithiol o waith dadansoddi data ar raddfa fawr er mwyn cefnogi ymatebion asiantaethau gorfodi’r gyfraith i droseddau difrifol a chyfundrefnol.

Mae Cell Mynd i’r Afael â Chleptocratiaeth (CKC) yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn uned weithredol drawsreolaeth sy’n ymchwilio i droseddau difrifol a chyfundrefnol sy’n gysylltiedig â bygythiadau gwladwriaethol ac yn tarfu arnynt. Er mai â chyllid anghyfreithlon a gorfodi sancsiynau mae a wnelo hyn yn bennaf, mae’r CKC yn defnyddio’r holl adnoddau a phwerau amlwg a chudd sydd ar gael i darfu ar weithgarwch troseddol sy’n gysylltiedig â gwladwriaethau a gyflawnir gan unigolion (gan gynnwys elitau), endidau a’u galluogwyr gan geisio sicrhau na all dirprwyon gwladwriaethau weithredu’n ddi- gosb yn y DU.

Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn defnyddio rhwydwaith o swyddogion cyswllt rhyngwladol sy’n defnyddio eu cydberthnasau a’u trefniadau cydweithredu gweithredol rhyngwladol i darfu ar droseddwyr cyfundrefnol cyn iddynt gael effaith ar y DU. Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn gweithredu fel awdurdod cymwys y DU ar gyfer sawl mecanwaith rhannu gwybodaeth a chydweithio ym maes gorfodi’r gyfraith. Bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, gyda chymorth y Swyddfa Gartref, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) a Gwasanaeth Erlyn y Goron, yn parhau i arwain y gwaith y mae asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn y DU yn ei wneud i darfu ar droseddwyr tramor sy’n achosi llawer o niwed. Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn hwyluso cydweithredu rhwng asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn y DU a rhai rhyngwladol, gan gynnwys drwy letya Uned Genedlaethol Europol.

Ymateb yr heddlu a’r system cyfiawnder troseddol

Gall Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol weithredu fel cyswllt gweithredol a chuddwybodaeth rhwng yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a heddluoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol yn arwain ymateb asiantaethau gorfodi’r gyfraith i droseddau difrifol a chyfundrefnol yn eu rhanbarthau ac yn gwneud yn siŵr bod cuddwybodaeth yn llifo i’r heddlu lleol ac oddi wrthynt. Mae gan Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol alluoedd i darfu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol yn rhanbarthol, sydd hefyd ar gael i heddluoedd lleol. Oherwydd y bygythiadau penodol sy’n effeithio ar Ddinas Llundain, darperir rhai o swyddogaethau Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol, yn ogystal â galluoedd arbenigol eraill, gan Wasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd, Heddlu Dinas Llundain a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

Arweinir y rhan fwyaf o’r gweithgarwch gweithredol yn erbyn grwpiau troseddau cyfundrefnol gan heddluoedd lleol. Mae eu rôl yn dal i fod yn un hanfodol i ymdrin â throseddau difrifol a chyfundrefnol fel y maent yn amlygu eu hunain mewn cymunedau lleol. Mae hyn yn cynnwys gwaith partneriaeth cryf, megis gydag awdurdodau lleol, maes iechyd a maes addysg a gweithio’n agos gyda’r sector preifat a’r trydydd sector. Mae blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer plismona, a bennir drwy’r Gofyniad Plismona Strategol, yn helpu i ganolbwyntio gwaith heddluoedd ar fynd i’r afael â throseddwyr cyfundrefnol yn eu hardaloedd heddlu. Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn chwarae rôl bwysig, gan wneud yn siŵr bod heddluoedd yn darparu ymateb effeithiol yn unol â’r bygythiadau a ddisgrifir yn y Gofyniad Plismona Strategol. Bydd y Llywodraeth yn parhau i weithio’n lleol gyda Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a CLlL er mwyn sicrhau bod yr ymateb lleol i droseddau difrifol a chyfundrefnol mor gysylltiedig ac effeithiol â phosibl. At hynny, yn ddiweddar sefydlodd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yr Uned Troseddau Gwledig Genedlaethol er mwyn darparu gwybodaeth arbenigol a chymorth ymchwiliol i heddluoedd allu delio â throseddu mewn ardaloedd gwledig gan gynnwys troseddau yn ymwneud â gwastraff a throseddau meddiangar gwerth uchel.

Er mwyn cefnogi ein hymateb i ddylanwadu ansefydlogi troseddwyr difrifol a chyfundrefnol sy’n parhau i gyflawni eu gweithgarwch troseddol o’r carchar neu tra byddant o dan oruchwyliaeth brawf statudol, byddwn yn gweithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a phartneriaid er mwyn cyflwyno strategaeth Rheoli Troseddwyr Gydol Oes bwrpasol. Er mwyn sicrhau ymateb amlasiantaethol effeithiol, mae angen i’r galluoedd cuddwybodaeth, ymchwilio a gorfodi cywir fod ar gael er mwyn ymateb ar y lefel gywir. Bydd hyn yn gofyn am fwy o eglurder ynglŷn â strwythurau a phrosesau pennu tasgau a sicrhau bod gan asiantaethau y sgiliau cywir i chwarae eu rhan yn yr ymateb hwn. Byddwn yn creu system lle y gall asiantaethau gorfodi’r gyfraith a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi nodi’r troseddwyr sy’n achosi’r niwed mwyaf yn well ac yn llunio mecanwaith cyfnewid cuddwybodaeth effeithiol er mwyn helpu asiantaethau gorfodi’r gyfraith gyda’u gallu ymchwilio mewn carchardai. Ochr yn ochr â’r strategaeth hon, byddwn yn diweddaru’r Fframwaith Rheoli Troseddwyr Gydol Oes. Mae’r fframwaith hwn yn dangos taith rheoli’r troseddwr wrth iddo fynd drwy wahanol gamau’r System Cyfiawnder Troseddol.

Ar wahân i hynny, mae’r Uned Caethwasiaeth Fodern a Throseddau Mewnfudo Cyfundrefnol yn gweithio’n uniongyrchol i Arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar gyfer Caethwasiaeth Fodern a Throseddau Mewnfudo Cyfundrefnol. Rhaglen a ariennir gan y Swyddfa Gartref ydyw, sy’n diffinio’r safonau ar gyfer plismona cenedlaethol mewn perthynas â throseddau mewnfudo cyfundrefnol. Mae’r Uned yn gweithio er mwyn helpu swyddogion yr heddlu, staff yr heddlu a phartneriaid ym maes gorfodi’r gyfraith i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern a throseddau mewnfudo cyfundrefnol, drwy ymgorffori gwell ymateb gan faes plismona ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn fwy cyffredinol. Mae’r Uned Caethwasiaeth Fodern a Throseddau Mewnfudo Cyfundrefnol yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu ymateb plismona cenedlaethol drwy dasgau’r Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd ar gyfer troseddau mewnfudo cyfundrefnol a bennwyd i bob heddlu ac Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.

Cuddwybodaeth

Arweinir gweithgarwch casglu, dadansoddi a lledaenu cuddwybodaeth gan Gymuned Guddwybodaeth y Deyrnas Unedig (UKIC) a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, sy’n cydweithio’n agos er mwyn sicrhau bod eu galluoedd a’u cyrhaeddiad yn cael yr effaith fwyaf posibl. Mae’r ymateb hwn sy’n seiliedig ar guddwybodaeth yn dibynnu ar guddwybodaeth strategol am natur a graddau’r bygythiad a’r guddwybodaeth weithredol y gellir ei throi’n gamau gweithredu yn erbyn troseddwyr.

Bydd ffocws technolegol a rhyngwladol y bygythiad sy’n gysylltiedig â throseddau difrifol a chyfundrefnol yn y dyfodol yn rhoi pwysau cynyddol ar alluoedd unigryw UKIC. Bydd ei gallu casglu cuddwybodaeth byd-eang yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall asiantaethau gorfodi’r gyfraith gael gafael ar y galluoedd a’r guddwybodaeth sydd eu hangen i gyflawni canlyniadau yn erbyn troseddau difrifol a chyfundrefnol. Gall UKIC weithredu mewn seiberofod a thrwyddo er mwyn mynd i’r afael â throseddwyr cyfundrefnol difrifol, tarfu arnynt, eu diraddio a’u herio. At hynny, gall UKIC ddarparu dealltwriaeth strategol unigryw o dechnoleg a’r defnydd y mae troseddwyr yn ei wneud ohoni, er mwyn ateb yr heriau technolegol cynyddol rydym yn eu hwynebu. Er mwyn ateb y galw sylweddol hwn mor effeithiol â phosibl, bydd UKIC yn ystyried model cyflawni newydd, gyda’r bwriad o integreiddio ymhellach â phartneriaid er mwyn meithrin gallu a sicrhau’r budd mwyaf posibl.

Gweithrediadau’r Swyddfa Gartref ar y ffin a thu hwnt

Mae gan Gweithrediadau’r Swyddfa Gartref rôl bwysig i’w chwarae o ran atal troseddau difrifol a chyfundrefnol, yn arbennig troseddau mewnfudo cyfundrefnol a, thrwy estyniad, fudo anghyfreithlon. Mae’r rhain yn cynnwys Llu’r Ffiniau, Gorfodi Mewnfudo, y Ganolfan Rheoli Gweithredol Mudo Anghyfreithlon (IMOCC), Cyfarwyddiaeth Cuddwybodaeth y Swyddfa Gartref (HOI), gan gynnwys HOI Dramor, Fisâu a Mewnfudo’r DU a Swyddfa Basbort Ei Fawrhydi. Ochr yn ochr â’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, mae’r asiantaethau hyn yn cydweithio, gan ddefnyddio cuddwybodaeth, galluoedd a data i nodi a thargedu troseddwyr sy’n ceisio manteisio ar ffin y DU a’r troseddwyr hynny sy’n hwyluso mudo anghyfreithlon sy’n gweithredu y tu allan i’r DU a tharfu arnynt. Atgyfnerthir y gwaith hwn gan gydweithredu a chydweithio agos â’n partneriaid tramor fel rhan o’r ymateb rhyngwladol i’r heriau byd-eang sy’n gysylltiedig â mudo anghyfreithlon, troseddau mewnfudo cyfundrefnol a’r fasnach mewn nwyddau anghyfreithlon.

Mae Gorfodi Mewnfudo sy’n arwain ymateb y Swyddfa Gartref i droseddau mewnfudo cyfundrefnol. Gan weithio’n agos gyda phartneriaid ym maes gorfodi’r gyfraith yn y DU a thramor, bydd timau Ymchwiliadau Troseddol ac Ariannol Gorfodi Mewnfudo yn mynd ar ôl gangiau troseddau cyfundrefnol sy’n gysylltiedig â phob math o weithgarwch hwyluso, gan gynnwys hwyluso teithiau mewn cychod bach, ac yn tarfu arnynt, yn ogystal â mynd i’r afael â gweithio anghyfreithlon ac achosion eraill o gamfanteisio ar ein system fewnfudo. Y nod yw mynd ar ôl y rhai sy’n cyflawni troseddau difrifol, eu hamddifadu o elw eu gweithgareddau troseddol, diogelu cyfarnrwydd system fewfudo’r DU a diogelu mudwyr sy’n agored i niwed rhag camfanteisio. Mae gan Lu’r Ffiniau Uned Weithredol Cychod Bach (SBOC) sy’n cefnogi amrywiaeth eang o weithgarwch gweithredol a gweithgarwch ymgysylltu â Ffrainc ac mae’n ehangu ei gylch gwaith yng Ngwlad Belg, yr Iseldiroedd a’r Almaen. Nod y gweithgarwch hwn yw diraddio dichonoldeb model busnes gangiau troseddol cyfundrefnol, gan ganolbwyntio ar brosesau rhannu gwybodaeth gwell, mesurau i atgyfnerthu’r ffin, technoleg a mwy o weithgarwch gorfodi’r gyfraith gyda phartneriaid gweithredol. At hynny, mae Llu’r Ffiniau yn gweithio’n agos gyda phob un o’i brif bartneriaid er mwyn meithrin dealltwriaeth o’r unigolion hynny sy’n gysylltiedig â throseddau mewnfudo cyfundrefnol a mynd i’r afael â’r troseddoldeb hwn wrth y ffin. Mae gwell cuddwybodaeth a phrosesau rhannu cuddwybodaeth yn allweddol i’r genhadaeth hon, am eu bod yn darparu ar gyfer nodi risgiau, gwendidau a bygythiadau yn gynnar, yn ogystal â gweithgarwch gweithredol cydgysylltiedig a gweithgarwch gweithredol tasg. Mae Cyfarwyddiaeth Cuddwybodaeth y Swyddfa Gartref yn casglu, yn datblygu, yn targedu ac yn dadansoddi gwybodaeth a chuddwybodaeth yn y DU ymlaen i wledydd tarddiad a gwledydd tramwy i fyny’r gadwyn. Drwy hyn, mae’n creu darlun cynhwysfawr seiliedig ar guddwybodaeth o’r bygythiad i’r DU sy’n gysylltiedig â mudo anghyfreithlon, gan gynnwys troseddau mewnfudo cyfundrefnol er mwyn darparu cynhyrchion cuddwybodaeth tactegol a strategol.

Mae Fisâu a Mewnfudo’r DU (UKVI) yn gweithio’n agos gyda phartneriaid yn y Llywodraeth er mwyn cefnogi ymchwiliadau i droseddau mewnfudo cyfundrefnol. Mae dangosyddion risg mewn ceisiadau am fisâu yn destun gwaith dadansoddi ac ymchwilio ehangach. Lle y ceir tystiolaeth o droseddoldeb cyfundrefnol neu os gellir datblygu tystiolaeth mewn proffiliau risg o ymddygiadau tebyg, caiff rhybuddion risg ffeithiol sy’n seiliedig ar guddwybodaeth eu rhannu â gweithwyr achos. Mae gan Swyddfa Basbort EF dîm arbenigol sy’n canolbwyntio ar atal a chanfod twyll pasbort sy’n gysylltiedig â throseddoldeb difrifol a chyfundrefnol. Mae’n gweithio’n agos gyda’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill ac yn cyfarfod ac yn rhannu cuddwybodaeth yn rheolaidd fel rhan o gydberthynas gydweithio. Mae’r gydberthynas hon wedi bod yn llwyddiannus ac mae wedi arwain at erlyniadau llwyddiannus a dedfrydau hir o garchar sy’n dangos ymrwymiad y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r gangiau troseddol hyn sy’n ceisio manteisio ar y cyhoedd a bygwth diogelwch y cyhoedd er mwyn gwneud elw, a’u chwalu. Lle y bo’n briodol, bydd ei thîm diogelu hefyd yn nodi dioddefwyr troseddoldeb cyfundrefnol ac yn sicrhau bod yr awdurdodau priodol yn cael eu cynnwys.

Ymateb ehangach y Llywodraeth

Mae gan nifer o adrannau eraill y Llywodraeth rolau pwysig i’w chwarae yn y frwydr yn erbyn troseddau difrifol a chyfundrefnol:

  • Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn darparu ymateb y DU i ymosodiadau troseddol cyfundrefnol ar y system dreth drwy amrywiaeth o ymyriadau troseddol, sifil ac arbenigol a thrwy dargedu elw, asedau a busnesau troseddwyr cyfundrefnol er mwyn atal eu gweithrediadau a tharfu arnynt cyn gynted â phosibl. Mae CThEF yn chwarae rôl allweddol drwy gefnogi’r gwaith ehangach i fynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol, gan gynnwys gwaith i fynd i’r afael â’r fasnach mewn cyffuriau anghyfreithlon, caethwasiaeth fodern, camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol. Mae’n gweithio’n agos gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith er mwyn cefnogi’r ymateb cyffredinol i droseddau difrifol a chyfundrefnol drwy archwilio systemau, cyfnewid data a dadansoddi cuddwybodaeth.

  • Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gwasnaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn cydweithio â sefydliadau ac asiantaethau cyfiawnder eraill, gan gynnwys y proffesiynau cyfreithiol, er mwyn sicrhau mynediad teg, effeithlon a hygyrch i gyfiawnder.

  • Y Swyddfa Twyll Difrifol yw’r asiantaeth gorfodi’r gyfraith arbenigol sy’n ymchwilio i achosion difrifol a chymhleth o dwyll, llwgrwobrwyo, llygredigaeth a gweithgarwch gwyngalchu arian cysylltiedig ac yn eu herlyn.

  • Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron a, lle y bo’n briodol, erlynwyr datganoledig, yn erlyn achosion ar ran yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yr heddlu ac eraill.

  • Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi a heddluoedd yn arwain ymateb amlasiantaethol i darfu ar droseddwyr cyfundrefnol sy’n rhedeg eu rhwydweithiau o’r tu fewn i’r ystad carchardai ac yn cefnogi’r gwaith o reoli eu gweithgarwch pan gaiff troseddwyr eu rhyddhau i’r gymuned yn ddarostyngedig i amodau.

  • Mae’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn ystyried effeithiau uniongyrchol troseddau difrifol a chyfundrefnol ar y DU yn ogystal ag ar fuddiannau’r DU dramor. Mae’n cynnig arbenigedd eang ym meysydd polisi rhyngwladol, diplomyddiaeth, diogelwch, datblygu a rhaglenni fel rhan o’r ymateb i droseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae hyn yn cynnwys rhwydwaith SOCnet a Chyd-Blatfformau Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol.

  • Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn arwain yr ymateb i ddiogelu’r system llesiant a budd-daliadau rhag twyll gan droseddwyr cyfundrefnol ac yn diogelu pobl sy’n agored i niwed rhag masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern.

  • Yr Adran Addysg sy’n gyfrifol am weithgarwch a gyflawnir gan y sector addysg er mwyn addysgu pobl ifanc a’u helpu i osgoi dod yn gysylltiedig â throseddau difrifol a chyfundrefnol a bod yn agored i droseddau o’r fath.

  • Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n gyfrifol am sicrhau bod y sector iechyd yn nodi ac yn diogelu dioddefwyr troseddau difrifol a chyfundrefnol.

  • Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol sy’n rheoleiddio’r sector ariannol a chynghorwyr ariannol a bydd yn cynnal erlyniadau troseddol, gan gynnwys ar gyfer delio gan fewnwyr a chamddefnyddio’r farchnad.

  • Mae sefydliadau megis Cofrestrfa Tir EF, Tŷ’r Cwmnïau a’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn chwarae rôl bwysig o ran nodi gweithgarwch sy’n gysylltiedig â throseddoldeb a rhoi gwybod amdano.

  • Yr Adran dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg (DSIT) sy’n gyfrifol am ddiogelwch ar-lein. Bydd y dyletswyddau mewn perthynas â chynnwys anghyfreithlon a nodir yn y Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr fynd ati’n rhagweithiol i liniaru’r risg y caiff eu gwasanaethau eu defnyddio ar gyfer gweithgarwch anghyfreithlon neu i rannu cynnwys anghyfreithlon.

  • Mae’r Adran Drafnidiaeth yn helpu diwydiant i roi gweithdrefnau ar waith er mwyn lleihau troseddau difrifol a chyfundrefnol yn y sector hedfan, sector y môr a’r sector trafnidiaeth dir. Mae grwpiau troseddau cyfundrefnol yn defnyddio’r rhwydwaith trafnidiaeth i hwyluso eu gweithgareddau a’u cuddio ymhlith y bobl a’r nwyddau sy’n symud yn gyfreithlon drwy’r rhwydwaith trafnidiaeth bob dydd.

  • Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig sy’n gyfrifol am ddiogelu’r amgylchedd naturiol a chefnogi’r diwydiant bwyd a ffermio ac mae’n chwarae rôl arweiniol o ran mynd i’r afael â throseddau sy’n ymwneud â gwastraff a’r fasnach anghyfreithlon mewn bywyd gwyllt. Mae’r asiantaethau amgylcheddol ledled y DU yn arwain y gwaith o fynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol yn y sector gwastraff, yn enwedig drwy’r Uned Troseddau Gwastraff ar y Cyd sy’n gweithredu allan o Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr.

Y tu hwnt i ymateb y Llywodraeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith, mae gan y sector preifat rôl bwysig i’w chwarae wrth gyflawni ei ofynion rheoleiddiol. Rhaid i bartneriaethau â’r sector preifat gael eu defnyddio’n llawn er mwyn sicrhau bod ein hymateb yn gwneud defnydd llawn o alluoedd ac adnoddau’r wladwriaeth a’r sector preifat. Mae Cynllun Troseddau Economaidd 2 yn fenter ar y cyd rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat a fydd yn parhau i drawsnewid ein hymateb i droseddau economaidd. Mae gan y sector preifat rôl hanfodol i’w chwarae o ran cyflawni’r Strategaeth Dwyll gyda chymysgedd o drefniadau gwirfoddol a rheoliadau er mwyn atal troseddwyr rhag camfanteisio ar dechnoleg ar gyfer twyll. Mae rôl y sector preifat yn arbennig o bwysig ar gyfer materion megis gwyngalchu arian lle y gall y sector preifat sicrhau, drwy wneud atgyfeiriadau at asiantaethau gorfodi’r gyfraith, nad yw’r sector yn galluogi troseddoldeb cyfundrefnol yn fwriadol nac yn anfwriadol. Mae gan y sector preifat rôl allweddol i’w chwarae hefyd o ran sicrhau nad yw ei blatfformau, ei wasanaethau na’i seilwaith yn cael eu defnyddio gan droseddwyr sy’n ceisio cam-drin plant yn rhywiol. At hynny, bydd angen i bartneriaid yn y sector preifat fabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar risg wrth ddatblygu technolegau newydd er mwyn sicrhau bod y risgiau i blant yn cael eu nodi’n gynnar ac y caiff mesurau diogelwch digonol eu rhoi ar waith. Gall y sector preifat fynd gam ymhellach drwy greu partneriaethau effaith fawr er mwyn atal troseddu drwy ddylunio a thrwy sicrhau na all troseddwyr cyfundrefnol gamfanteisio ar ei systemau, ei gynhyrchion na’i wasanaethau ei hun.

Mae gan y cyhoedd rôl i’w chwarae o ran nodi gwasanaethau sy’n gysylltiedig â nwyddau a gwasanaethau anghyfreithlon â pheidio â’u defnyddio, gan helpu i atal y cyflenwad arian i droseddwyr cyfundrefnol. Mae’r Llywodraeth yn gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth o sut y gall unigolion ddiogelu eu hunain yn well rhag troseddau ar-lein. Wrth wneud hynny, bydd hyn yn rhwystro ymosodiadau troseddol ac yn lleihau’r niwed a achosir gan unrhyw beth sy’n mynd heibio i’n mesurau diogelwch.

Gweinyddiaethau Datganoledig

Mae’r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gyfrifol am y swyddogaethau sydd wedi’u datganoli iddynt. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am faterion sy’n ymwneud â throseddu a phlismona. Mae’r gweinyddiaethau datganoledig hyn wedi cyhoeddi eu strategaethau eu hunain (Strategaeth Troseddau Difrifol Cyfundrefnol 2022 yr Alban a Strategaeth Troseddau Cyfundrefnol 2021 Gogledd Iwerddon). Yng Nghymru, bydd y Llywodraeth yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol.

Ffigur 4 – Yr ymateb amlasiantaethol i droseddau difrifol a chyfundrefnol

Llinell weithredu gyntaf: Yn y Du

Cenedlaethol:

  • Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
  • Y Swyddfa Gartref ac Adrannau Eraill y Llywodraeth
  • Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu
  • Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon
  • Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Cyllid a Thollau EF
  • Y Swyddfa Twyll Difrifol
  • Police Scotland
  • Heddlu Dinas Llundain
  • Asiantaeth yr Amgylchedd

Rhanbarthol:

  • Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol
  • Y Gwasanaeth Heddlu Metropolitan

Lleol:

  • Awdurdodau Lleol
  • Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddau
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol
  • Heddluoedd yng Nghymru a Lloegr
Ail linell weithredu: Ffin y DU
  • Gorfodi Mewnfudo
  • Llu’r Ffiniau
Y drydedd linell weithredu Rhyngwladol
  • Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu
  • Cymuned Guddwybodaeth y DU

Yn aml, mae bygythiadau ar-lein yn deillio o wledydd tramor ond maent yn cyrraedd cartrefi, busnesau a sefydliadau yn y DU yn uniongyrchol.

Y bedwaredd linell weithredu: Technoleg a Galluoedd. Y bumed linell weithredu: Ymateb amlasiantaethol

Bydd y ddwy linell weithredu ategol hyn yn helpu i sicrhau bod ymateb pob asiantaeth mor effeithiol â phosibl.

Sgiliau

Er mwyn i’n hymateb gadw i fyny â bygythiad troseddwyr cyfundrefnol sy’n datblygu, mae’n bwysig bod gan bawb dan sylw y sgiliau sydd eu hangen i fodloni’r gofynion, nawr ac yn y dyfodol. Felly, rydym yn gwella darpariaeth Datblygiad Proffesiynol Parhaus a Dysgu a Datblygu ar gyfer swyddogion sy’n ymuno â’r rhwydwaith o Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol drwy gynnig llwybrau gyrfa a fydd yn sicrhau eu bod yn datblygu eu sgiliau yn yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn ogystal ag mewn heddluoedd. Yn yr un modd, mae Strategaeth yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn ailddatgan uchelgais yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i ddenu a chadw’r swyddogion gorau a sicrhau bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn gwella ymateb y system i droseddau economaidd drwy greu rhaglenni hyfforddiant a llwybr ar gyfer rolau arbenigol, megis swyddogion seiberdroseddu, o ystyried bod mwy a mwy o droseddau twyll yn cael eu cyflawni ar-lein. Bydd darparu cyllid hyblyg gwerth £1.5 miliwn ar gyfer prosiectau ym mlwyddyn ariannol 2022/23 yn ysgogi arloesedd digidol, yn atgyfnerthu arweinyddiaeth strategol ac yn gwella sgiliau arbenigol yn y rhwydwaith o Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol. Mae’r llywodraeth yn cynyddu galluoedd hyfforddiant, cuddwybodaeth a llywodraethu a galluoedd gweithredol sy’n ymwneud â throseddau mewnfudo cyfundrefnol ar gyfer pob un o’r 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr.

Gweithio mewn partneriaeth a phennu tasgau system gyfan

Bydd penderfyniad yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i newid ei ffocws i ganolbwyntio ar y troseddwyr sy’n achosi’r niwed mwyaf a’u galluogwyr yn gofyn am weithio mewn partneriaeth ar draws ffiniau sefydliadol a daearyddol. Bydd hyn yn sicrhau bod asiantaethau yn glir ynghylch eu rôl a’r cydbwysedd rhwng gweithgarwch tarfu seiliedig ar guddwybodaeth i fyny’r gadwyn a gweithgarwch gorfodi ac atal yn y wlad. Bydd pennu tasgau ar draws yr ymateb yn seiliedig ar asiantaethau yn meddu ar y wybodaeth, y galluoedd a’r gallu dadansoddol er mwyn mynd i’r afael â maint y bygythiad rydym ei wynebu gan droseddwyr cyfundrefnol a alluogir gan dechnoleg.

Drwy gyflwyno arweinydd penodol Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar gyfer throseddau difrifol a chyfundrefnol a Strategaeth Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol genedlaethol gyntaf Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, rydym wedi atgyfnerthu’r trefniadau ar gyfer cydgysylltu ein hymateb rhanbarthol a lleol. Mae’r strategaeth genedlaethol hirdymor gyntaf erioed ar gyfer Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol yn nodi amcanion ac uchelgeisiau allweddol ar gyfer datblygu’r rhwydwaith rhwng nawr a 2030. Ei nod yw creu rhwydwaith mwy cydlynol, cyson a chysylltiedig o Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol. Caiff y broses o greu’r rhwydwaith ei monitro gan Fwrdd Gweithredol Cenedlaethol Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol drwy Gynllun Busnes Cenedlaethol y cytunwyd arno. Er mwyn helpu i gyflawni uchelgais y Llywodraeth o ran mynd i’r afael â throseddau mewnfudo cyfundrefnol, bydd Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol yn parhau i ddatblygu trefniadau gweithio amlasiantaethol â phartneriaid megis Gorfodi Mewnfudo a Llu’r Ffiniau er mwyn rhannu cuddwybodaeth yn effeithiol a hyrwyddo cydweithio ar ymchwiliadau sy’n gysylltiedig â throseddau mewnfudo cyfundrefnol.

Er mwyn parhau i gefnogi’r newid yn ffocws yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i fynd i’r afael â throseddwyr sy’n achosi niwed mawr, mae angen atgyfnerthu prosesau pennu tasgau a defnyddio pwerau pennu tasgau deddfwriaethol mewn ffordd sy’n cael yr effaith fwyaf. Mae’n rhaid i asiantaethau fod yn glir ynglŷn â pha fygythiadau y maent yn gyfrifol amdanynt ac ar ba lefel o ddifrifoldeb. Yn achos yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, bydd hyn yn golygu sicrhau bod penderfyniadau pennu tasgau yn seiliedig ar ddata, gan gynnwys drwy ddefnyddio’r Uwchrestr Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol, sy’n cofnodi lefelau o weithgarwch gweithredol yn erbyn troseddau difrifol a chyfundrefnol ar draws asiantaethau gorfodi’r gyfraith, defnyddio data perfformiad system gyfan yn effeithiol i flaenoriaethu gweithgarwch a defnyddio pwerau pennu tasgu yn y Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd, lle y bo angen, er mwyn sicrhau ymateb amlasiantaethol effeithiol. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd yr ymatebir i’r blaenoriaethau cwir ar y lefel gywir. Bydd partneriaethau rhannu gwybodaeth hefyd yn helpu i wella prosesau targedu a chasglu tystiolaeth oherwydd bydd hyn yn fodd i gymryd camau tarfu yn gyflymach. Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn gwella ei dealltwriaeth o’r bygythiad drwy gyflwyno ymhellach y System Gwybodaeth Reoli Asiantaethau a Phartneriaethau (APMIS), sef ei system ar gyfer cofnodi perfformiad a data pennu tasgau ar gyfer y mwyafrif o asiantaethau gweithredol, gan gynnwys pob heddlu yn y DU. Bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn mynd ati i geisio llunio rhagor o gytundebau rhannu gwybodaeth effaith fawr â sefydliadau partner a sefydliadau yn y sector preifat ledled y byd, gan adeiladu ar y Cytundeb Mynediad at Ddata diweddar rhwng y DU ac UDA.

Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, gan ddefnyddio’r broses pennu tasgau system gyfan ar gyfer troseddau difrifol a chyfundrefnol, er mwyn sicrhau bod unrhyw effaith weithredol y bydd y newid yn ffocws yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i niwed mawr yn ei chael ar Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol, ei deall yn glir ac, yna, ei rheoli’n effeithiol ac yn effeithlon drwy weithredu’r system. Caiff hyn ei gefnogi gan adolygiad yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol o brosesau pennu tasgau ar gyfer troseddau difrifol a chyfundrefnol ac adolygiad cynhwysfawr gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu o alluoedd Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol. Er mwyn cefnogi integreiddio pellach yn yr ymateb i droseddau difrifol a chyfundrefnol, byddwn yn datblygu fframwaith perfformiad Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol cenedlaethol newydd a fydd yn ategu strwythurau cofnodi perfformiad cenedlaethol a rhanbarthol presennol. Bydd hyn yn sicrhau mwy o atebolrwydd ac yn darparu rhagor o wybodaeth am dueddiadau o ran gweithgarwch plismona yn erbyn troseddau difrifol a chyfundrefnol ac effaith y gweithgarwch hwnnw. Bydd arolygiadau newydd gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EF hefyd yn darparu rhagor o wybodaeth am ba mor effeithiol ac effeithlon y mae heddluoedd yn cydweithio.

Yn lleol, rydym yn sefydlu dull mwy dynamig a rhagnodol newydd o ymdrin â phroffiliau lleol troseddau difrifol a chyfundrefnol er mwyn sicrhau mai nhw yw’r ffactor ysgogi ar gyfer gwella gwaith partneriaeth lleol. Proffiliau lleol yw dull heddlu o gyflwyno a dangos bygythiad troseddau difrifol a chyfundrefnol yn ei ardal a llywio’r ffordd y mae’n bwriadu mynd i’r afael â nhw gyda phartneriaid perthnasol. Bydd y proffiliau lleol newydd yn cefnogi ymdrechion ehangach i ddargyfeiro unigolion sy’n wynebu risg i ffwrdd oddi wrth weithgarwch troseddol, gan sicrhau bod cymunedau lleol yn ymwybodol o droseddau cyfundrefnol ac y cânt eu diogelu rhagddynt a’r grymuso i leihau’r niwed achosir ganddynt. Byddwn hefyd yn cyhoeddi canllawiau newydd ar bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth er mwyn mynd i’r afael â’r niwed i gymunedau a achosir gan droseddau difrifol a chyfundrefnol. Bydd y canllawiau hefyd yn cynnwys enghreifftiau o arferion da a dulliau gweithredu a all helpu i hyrwyddo gwaith partneriaeth effeithiol gan gynnwys y Ddyletswydd o ran Trais Difrifol, proffiliau cyffuriau a phartneriaethau lleol, partneriaethau diogelwch cymunedol a gweithio’n agosach gyda’r unedau lleihau trais.

Llywodraethu

Caiff Bwrdd Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol newydd, dan gadeiryddiaeth yr Ysgrifennydd Cartref, ei sefydlu er mwyn goruchwylio’r broses o gyflawni’r strategaeth hon. Bydd partneriaid gweithredol allweddol yn bresennol yng nghyfarfodydd y bwrdd hwnnw.

Rydym yn adeiladu ar gynnydd diweddar er mwyn gwella trefniadau cydweithio rhwng ymateb asiantaethau gorfodi’r gyfraith i droseddau difrifol a chyfundrefnol drwy atgyfnerthu trefniadau llywodraethu. Rydym yn sicrhau bod gan bob un o’r 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr fynediad at y System Gwybodaeth Reoli Asiantaethau a Phartneriaid erbyn diwedd 2023/24. Bydd hyn yn rhoi darlun gwell o berfformiad ac yn ein galluogi i ddeall y cyfraniad y mae pob heddlu yn ei wneud yn well. Bydd y Bwrdd Cydweithio a Goruchwylio Portffolios Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol, a gadeirir gan arweinydd Cymdeithas Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer throseddau difrifol a chyfundrefnol, yn sicrhau atebolrwydd annibynnol am y ffordd y caiff blaenoriaethau strategol yr Arweinydd Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol Cenedlaethol eu cyflawni. Rydym yn atgyfnerthu swyddogaeth gydgysylltu ganolog y rhwydwaith o Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol er mwyn sicrhau gwelliant parhaus.

Canlyniadau a Mesurau Llwyddiant

Mae hon yn llinell weithredu alluogol allweddol y bwriedir iddi gyflawni’r canlyniadau a nodir yn y tair llinell weithredu gyntaf yn fwy effeithiol. Gyda’i gilydd, bydd y gweithgareddau hyn yn helpu i sicrhau bod yr ymateb amlasiantaethol wedi’i alinio’n well, ei fod yn fwy effeithiol a’i fod yn cael yr effaith fwyaf posibl ac yn cynnig y gwerth gorau am arian. Byddwn yn mesur effeithiau yn erbyn amrywiaeth o ddangosyddion, gan gynnwys yr allbynnau a’r canlyniadau gweithredol y bydd y galluoedd hyn yn eu cefnogi, megis tarfu ar droseddwyr ac atafaelu asedau troseddol. Byddwn hefyd yn asesu effeithiolrwydd yr ymateb amlasiantaethol drwy werthusiadau, megis adroddiadau Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi.

  1. Mae’r prif gategorïau o droseddau difrifol a gwmpesir gan y term fel a ganlyn: camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant; cyffuriau anghyfreithlon; arfau tanio anghyfreithlon; twyll; gwyngalchu arian a throseddau economaidd eraill; llwgrwobrwyo a mathau eraill o lygredigaeth; troseddau mewnfudo cyfundrefnol; caethwasiaeth fodern a masnachu pobl a seiberdroseddu. 

  2. Amcangyfrifir fod costau cymdeithasol ac economaidd troseddau cyfundrefnol i’r DU tua £37 biliwn ym mlwyddyn ariannol 2015-2016, yn seiliedig ar ‘Understanding Organised Crime Estimating the scale and the social and economic costs’, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym mis Tachwedd 2018. Mae’r ffigur hwn wedi’i chwyddo gan ddefnyddio Datchwyddydd Cynnyrch Domestig Gros Trysorlys EF Tachwedd 2023 sy’n amcangyfrif bod y gost yn £47bn ym mhrisiau 23/24. Mae’r amcangyfrifon hyn yn debygol o fod yn arffin isaf am fod yr amcangyfrifon cyfrannol (ar gyfer bygythiadau troseddau difrifol a chyfundrefnol sydd ar wahan) yn geidwadol fel arfer ac, mewn rhai achosion, yn rhannol. Ers cyhoeddi adroddiad y Swyddfa Gartref, ‘Understanding Organised Crime Estimating the scale and the social economic costs’, ym mis Tachwedd 2018, amcangyfrifwyd a chyhoeddwyd costau wedi’u diweddaru ar gyfer Cam-drin Plant yn Rhywiol â chyswllt corfforol (‘The economic and social cost of contact child sexual abuse’), Cyffuriau (Adolygiad Cyffuriau Annibynnol y Fonesig Carol), a Thwyll (Strategaeth Dwyll: atal sgamiau a diogelu’r cyhoedd). Nid yw’r ffigur £47 biliwn yn cynnwys y ffigurau wedi’u diweddaru, cyhoeddedig hyn ar gyfer costau oherwydd gwahaniaethau methodolegol. 

  3. Criminal exploitation of children and vulnerable adults county lines (www.gov.uk)

  4. Ffigurau poblogaeth carchardai: 2023 (www.gov.uk)

  5. Ymgyrch Asesiad Strategol Cenedlaethol 2023 (nationalcrimeagency.gov.uk). Nid yw’r ffigur hwn yn cynnwys troseddau sy’n ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol. 

  6. Ymgyrch Asesiad Strategol Cenedlaethol 2023 (nationalcrimeagency.gov.uk)

  7. Mudo afreolaidd i’r DU, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023 (www.gov.uk)

  8. Cwestiynau ac atebion ysgrifenedig – Cwestiynau, atebion a datganiadau ysgrifenedig (Senedd y DU)

  9. Diweddariad ar gynllun y llywodraeth ar gyfer mudo anghyfreithlon (www.gov.uk)

  10. Troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu a thablau data agored canlyniadau (www.gov.uk)

  11. Caethwasiaeth Fodern: Ystadegau’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol a’r Ddyletswydd i Hysbysu’r DU, crynodeb ar ddiwedd y flwyddyn 2022 (www.gov.uk)

  12. Caethwasiaeth Fodern: Ystadegau’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol a’r Ddyletswydd i Hysbysu’r DU, crynodeb ar ddiwedd y flwyddyn 2022 (www.gov.uk)

  13. Adroddiad Cyffuriau’r Byd 2023 (unodc.org)

  14. Lladdiadau yng Nghymru a Lloegr – y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)

  15. O niwed i obaith: cynllun cyffuriau 10 mlynedd i gwtogi ar droseddau ac achub bywydau (publishing.service.gov.uk)

  16. Adolygiad annibynnol o gyffuriau gan yr Athro Fonesig Carol Black (www.gov.uk)

  17. Ymgyrch Asesiad Strategol Cenedlaethol 2023 – Arfau tanio (nationalcrimeagency.gov.uk)

  18. Ymgyrch Asesiad Strategol Cenedlaethol 2023 – Arfau tanio (nationalcrimeagency.gov.uk)

  19. Cost economaidd a chymdeithasol cam-drin plant yn rhywiol â chyswllt corfforol - (www.gov.uk)

  20. Egwyddorion dylunio platfformau diogel ar-lein (www.gov.uk)

  21. Troseddu yng Nghymru a Lloegr – y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)

  22. Strategaeth Dwyll: atal sgamiau a diogelu’r cyhoedd (hygyrch) – (www.gov.uk)

  23. Troseddu yng Nghymru a Lloegr – y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)

  24. Arolwg Achosion o Dorri Seiberddiogelwch (www.gov.uk)

  25. Ymgyrch Asesiad Strategol Cenedlaethol 2023 (nationalcrimeagency.gov.uk)

  26. Gwyngalchu arian a chyllid anghyfreithlon (nationalcrimeagency.gov.uk)

  27. Ymgyrch Asesiad Strategol Cenedlaethol 2023 (nationalcrimeagency.gov.uk)

  28. Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol – Tachwedd 2018 (publishing.service.gov.uk)

  29. Cynllun gorchfygu troseddu (publishing.service.gov.uk)

  30. Global Britain in a competitive age (publishing.service.gov.uk)

  31. Diweddariad 2023 o’r Adolygiad Integredig - Responding to a more contested and volatile world (publishing.service.gov.uk)

  32. Recriwtio mwy o swyddogion yr heddlu, y sefyllfa derfynol ym mis Mawrth 2023 – GOV.UK (www.gov.uk)

  33. Bil Mudo Anghyfreithlon – Hansard (Senedd DU)

  34. Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-2023 (publishing.service.gov.uk)

  35. Data Rhaglen Llinellau Cyffuriau – (www.gov.uk)

  36. Data rhaglenni Prosiect ADDER (www.gov.uk)

  37. Ystadegau chwarterol y System Cyfiawnder Troseddol: Rhagfyr 2022 (www.gov.uk)

  38. Cronfa Gymorth i Ddioddefwyr a Goroeswyr Cam-drin Plant yn Rhywiol 2022/25 (www.contractsfinder.service.gov.uk)

  39. Recriwtio mwy o swyddogion yr heddlu, y sefyllfa derfynol ym mis Mawrth 2023 (www.gov.uk)

  40. New plan puts UK at the forefront of fight against economic crime (www.gov.uk)

  41. O niwed i obaith: cynllun cyffuriau 10 mlynedd i gwtogi ar droseddau ac achub bywydau (publishing.service.gov.uk)

  42. Government announces crackdown against organised criminal gangs (www.gov.uk)

  43. Unprecedented operation leads to £130M of cannabis seized (npcc.police.uk)

  44. Adroddiad Blynyddol 2021 y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (www.ncsc.gov.uk)

  45. Datganiad y Prif Weinidog ar fudo anghyfreithlon: 13 Rhagfyr 2022 (www.gov.uk)

  46. Cynllun Blynyddol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol 2023-2024 (nationalcrimeagency.gov.uk)