Ffurflen

Hunanasesiad: Cais i leihau taliadau ar gyfrif (SA303)

Defnyddiwch wasanaeth ar-lein neu'r ffurflen drwy'r post er mwyn gwneud cais i ostwng eich taliadau Hunanasesiad ar gyfrif.

Dogfennau

Gwneud cais ar-lein (mewngofnodi drwy ddefnyddio Porth y Llywodraeth)

Gwneud cais drwy'r post (defnyddiwch y fersiwn hwn os ydych yn asiant neu os na allwch ddefnyddio'r ffurflen ar-lein)

Manylion

Gallwch wneud cais i ostwng y swm y gofynnwyd i chi’i dalu os:

  • yw’ch elw busnes neu incwm arall yn gostwng
  • yw’r rhyddhad dreth sydd gennych hawl iddo’n codi

Gallwch wneud y canlynol:

  • defnyddio’r gwasanaeth ar-lein (mewngofnodwch i, neu agorwch, gyfrif Porth y Llywodraeth)
  • llenwi’r ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i phostio i Gyllid a Thollau EM

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.

Mae’n rhaid i chi wneud cais erbyn 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth – er enghraifft erbyn 31 Ionawr 2017 ar gyfer y flwyddyn 2015 i 2016.

Apelio yn erbyn cosb

Apeliwch yn erbyn cosb drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein neu darllenwch yr arweiniad ar sut i apelio.

Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth ynghylch porwyr.

Ffurflenni ac arweiniad perthnasol

Understand your Self Assessment tax bill
Manylion o bryd a pham y mae’n rhaid i chi wneud taliadau ar gyfrif ar gyfer Hunanasesiad.

Cyhoeddwyd ar 11 July 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 November 2015 + show all updates
  1. An online service is now available.

  2. First published.