Arbed dogfennau i'r ap GOV.UK One Login: telerau ac amodau
Cyhoeddwyd 14 Awst 2025
Rydym yn defnyddio’r geiriau a’r ymadroddion canlynol trwy gydol y telerau ac amodau hyn:
-
‘Ap’ i ddisgrifio’r ap GOV.UK One Login
-
‘Telerau’ i ddisgrifio’r telerau ac amodau hyn
-
‘Gwasanaeth’ i ddisgrifio’r gwasanaethau a ddarperir gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) sy’n caniatáu i chi gael, storio a defnyddio fersiynau digidol o ddogfennau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth drwy’r Ap
-
‘Dogfennau’ i ddisgrifio’r fersiynau digidol o ddogfennau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth y gallwch eu harbed i’r Ap
-
‘Canllawiau’ i ddisgrifio unrhyw gyfarwyddiadau neu ganllawiau yn yr Ap sy’n esbonio sut y dylid defnyddio’r Ap neu’r Gwasanaeth
-
‘Cyhoeddwr’ i ddisgrifio’r sefydliad llywodraeth sy’n cyhoeddi Dogfen, er enghraifft y Weinyddiaeth Amddiffyn yw Cyhoeddwr Cerdyn Cyn-filwr Lluoedd Arfog EF
-
‘Dilysydd’ i ddisgrifio unrhyw un sydd angen gwirio eich dogfen, er enghraifft gallai elusen cyn-filwyr fod yn Ddilysydd Cerdyn Cyn-filwr
Rhaid i chi gytuno i’r Telerau hyn os ydych am ddefnyddio’r Ap a’r Gwasanaeth a ddarperir gan GDS.
Ystyrir bod eich defnydd o’r Ap a’r Gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw Ddogfennau sydd wedi’u gosod ar yr Ap) yn cadarnhau eich bod yn derbyn a chytuno i’r Telerau hyn a rheolau, polisïau a chanllawiau o’r fath.
1. Pwy ydym ni a beth sydd yn y cytundeb hwn
Mae’r Ap yn cael ei reoli gan GDS ar ran y Goron. Mae GDS yn rhan o’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) a chyfeirir ato fel ‘ni’ o hyn ymlaen.
Gallwch ychwanegu, gweld a rhannu Dogfennau yn yr Ap i brofi eich hunaniaeth neu gymhwysedd. Mae angen i chi ddefnyddio eich manylion GOV.UK One Login i fewngofnodi i wasanaeth llywodraeth ar-lein sy’n cael ei redeg gan Gyhoeddwr. Yna byddwch yn cael cyfarwyddiadau i’ch helpu i ychwanegu eich Dogfen i’r Ap.
Fel y caniateir gan ac sy’n destun i’r Telerau hyn, rydym yn eich trwyddedu i ddefnyddio’r canlynol i gyd:
-
yr Ap yn ei fersiwn gyfredol ar y dyddiad lawrlwytho ac unrhyw ddiweddariadau neu ychwanegiadau iddo
-
unrhyw Ganllawiau o fewn yr Ap
-
unrhyw wasanaethau rydych chi’n cyrchu gan ddefnyddio’r Ap
Mae’r drwydded hefyd yn destun i unrhyw delerau ac amodau:
-
a osodwyd gan ddarparwr neu weithredwr y siop ap rydych wedi lawrlwytho’r Ap o’i safle (gan gynnwys unrhyw reolau neu bolisïau)
-
yn ymwneud â’r defnydd o GOV.UK One Login
-
yn ymwneud â’r defnydd o unrhyw Ddogfennau sydd wedi’u gosod o bryd i’w gilydd ar yr Ap fel y nodir o bryd i’w gilydd gan Gyhoeddwr y Dogfennau perthnasol
Mae hefyd yn destun i unrhyw hysbysiadau cyfreithiol sy’n bodoli ar yr Ap sy’n ymwneud â sut rydych yn defnyddio’r Ap a’r Gwasanaeth.
Fe’ch cynghorir yn gryf i ddarllen yr holl delerau ac amodau, rheolau, polisïau a chanllawiau a allai fod yn berthnasol cyn defnyddio’r Ap.
2. Gwybodaeth amdanoch chi a sut rydych chi’n defnyddio’r ap GOV.UK One Login
Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi yn unol â’n hysbysiad preifatrwydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen hwn yn ogystal â’r Telerau hyn. O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae’n ofynnol i ni ddarparu gwybodaeth benodol i chi gan gynnwys pwy ydym ni, sut rydym yn prosesu (gan gynnwys casglu, defnyddio a rhannu) eich data personol ac at ba ddibenion a’ch hawliau mewn perthynas â’ch data personol a sut i’w harfer.
Trwy lawrlwytho a defnyddio’r Ap, rydych yn derbyn ac yn cydnabod y byddwn yn casglu, defnyddio a rhannu gwybodaeth amdanoch yn unol â’n hysbysiad preifatrwydd.
3. Arbed dogfennau gan ddefnyddio’r ap GOV.UK One Login
3.1 Dibyniaeth ar GOV.UK One Login
Rhaid i chi gael GOV.UK One Login gweithredol yn gyntaf. Bydd yn rhaid i chi dderbyn telerau ac amodau GOV.UK One Login i greu un.
Rhaid i chi fewngofnodi i’r Ap gyda’ch GOV.UK One Login i arbed, gweld a rhannu eich Dogfennau.
3.2 Defnydd a ganiateir
Yn gyfnewid am eich cytundeb i gydymffurfio â’r Telerau hyn, gallwch wneud un neu fwy o’r canlynol:
-
lawrlwytho copi o’r Ap ar ffôn arall a gweld, defnyddio ac arddangos yr Ap a defnyddio’r Gwasanaeth ar ddyfeisiau o’r fath at eich dibenion personol yn unig
-
defnyddio unrhyw Ganllawiau
-
lawrlwytho a gosod yr ap ar sawl dyfais
-
derbyn a defnyddio unrhyw god meddalwedd atodol am ddim neu ddiweddariad o’r Ap sy’n ymgorffori ‘clytiau’ a chywiriadau gwallau fel y gallwn ei ddarparu i chi
-
lawrlwytho’r Ap ar unrhyw ffôn neu ddyfais arall nad yw’n eiddo i chi cyn belled â bod gennych ganiatâd y perchennog i wneud hynny, ond chi fydd yn gyfrifol am gydymffurfio â’r Telerau hyn wrth ddefnyddio’r Ap p’un a ydych chi’n berchen ar y ddyfais ai peidio
Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r Ap a’r Gwasanaeth at ddibenion cyfreithlon yn unig.
3.3. Gofynion system weithredu
I lawrlwytho’r Ap, byddwch angen naill ai:
-
iPhone sy’n rhedeg iOS 15 neu uwch
-
Ffôn Android (er enghraifft Samsung neu Google Pixel) sy’n rhedeg Android 10 neu uwch
Gall yr isafswm gofynion system hyn newid o bryd i’w gilydd.
3.4. Help a chefnogaeth gyda defnyddio’r Ap
Byddwn yn diweddaru’r Ap a’r Gwasanaeth yn rheolaidd am nifer o resymau, er enghraifft i wella ei berfformiad neu ychwanegu nodweddion newydd.
Fel arall, efallai y byddwn yn gofyn i chi gytuno i ddiweddaru’r Ap ar eich dyfais. Os byddwch yn dewis peidio â gosod y diweddariadau hyn, neu eithrio allan o ddiweddariadau awtomatig, efallai y byddwch yn parhau i ddefnyddio fersiwn o’r Ap nad ydym yn ei gefnogi.
Os ydych yn cael unrhyw broblemau wrth ddefnyddio’r Ap neu’r Gwasanaeth, cysylltwch â GOV.UK One Login.
4. Dolenni i wefannau eraill
Gall yr Ap gynnwys dolenni i wefannau sy’n cael eu rheoli gan adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth, darparwyr gwasanaeth neu sefydliadau eraill. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y cynnwys ar y gwefannau hyn.
Nid ydym yn gyfrifol am:
-
ddiogelu unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhoi i’r gwefannau hyn
-
unrhyw golled neu ddifrod a allai ddod o’ch defnydd o’r gwefannau hyn, neu unrhyw wefannau eraill y maent yn cysylltu â hwy
Rydych yn cytuno i’n rhyddhau rhag unrhyw geisiadau neu anghydfodau a allai ddod o ddefnyddio’r gwefannau hyn.
Dylech ddarllen yr holl delerau ac amodau, hysbysiadau preifatrwydd a thrwyddedau defnyddwyr terfynol sy’n ymwneud â’r gwefannau hyn cyn i chi eu defnyddio.
5. Cynnwys yn yr Ap
Mae dogfennau’n cael eu harbed mewn cyfleuster storio datganoledig i’w defnyddio ar eich dyfais bersonol yn unig.
Mae’r holl hawliau eiddo deallusol yn yr Ap, y Dogfennau a’r Gwasanaeth ledled y byd yn perthyn i ni neu’r Cyhoeddwyr. Rhoddir trwydded nad yw’n unigryw i chi ddefnyddio’r Ap, y Dogfennau a’r Gwasanaeth am y rhesymau a nodir yn y Telerau hyn. Nid yw’r hawliau hyn yn cael eu gwerthu i chi, ac nid oes gennych unrhyw hawliau eiddo deallusol yn, neu i, yr Ap, y Ddogfennaeth na’r Gwasanaeth, ac eithrio’r hawl i’w defnyddio yn unol â’r Telerau hyn.
Mae pob un o’r Dogfennau yn perthyn i’r Cyhoeddwr perthnasol. Fel y cyfryw, rydych yn cydnabod ac yn cytuno:
-
wrth lawrlwytho unrhyw Ddogfen i’ch dyfais bersonol, rydych yn derbyn y bydd y Ddogfen yn parhau i fod yn perthyn i’r Cyhoeddwr yn unig a bydd gan y Cyhoeddwr (a GDS ar ran y Cyhoeddwr) yr hawl i ddiweddaru, diwygio, dirymu a dileu’r Ddogfen
-
rhaid i’ch defnydd o unrhyw Ddogfen gydymffurfio ag unrhyw delerau, amodau, rheolau neu ofynion a osodir o bryd i’w gilydd gan y Cyhoeddwr perthnasol
-
gall y Cyhoeddwr (neu GDS ar ran y Cyhoeddwr) atal, tynnu’n ôl neu ddileu eich mynediad at Ddogfennau yn yr Ap am nifer o resymau, er enghraifft os nad ydych bellach yn gymwys ar ei gyfer neu os gafodd ei gyhoeddi trwy gamgymeriad
-
efallai y bydd angen i ddilyswyr wirio dilysrwydd Dogfennau yn yr Ap cyn iddynt roi mynediad i chi at rywbeth
Dylech ymgyfarwyddo â thelerau, amodau, rheolau neu ofynion y Cyhoeddwr cyn i chi ddefnyddio’r Gwasanaeth.
Mae pob Dogfen ac unrhyw ddeunydd arall y gallwch ei osod yn yr Ap yn cael ei gynhyrchu gan Gyhoeddwr perthnasol y Ddogfen neu’r deunydd hwnnw. Os ydych yn profi unrhyw broblemau gyda’r Ddogfen (er enghraifft, nid yw’r Ddogfen yn gyflawn neu’n gywir), dylech gysylltu â’r Cyhoeddwr perthnasol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt y maent yn eu darparu ar eu gwefan mewn perthynas â cheisiadau am Ddogfennau o’r fath.
6. Eich rhwymedigaethau
Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu drosodd i dderbyn y Telerau hyn, i lawrlwytho neu ddefnyddio’r Ap.
Rydym yn rhoi’r hawl i chi yn bersonol i ddefnyddio’r Ap a’r Gwasanaeth yn unol â’r Telerau hyn. Rhaid i chi beidio â throsglwyddo’r Ap na’r Gwasanaeth na’r defnydd ohonynt i rywun arall, boed am arian, am unrhyw beth arall neu am ddim. Os ydych yn gwerthu unrhyw ddyfais y mae’r Ap wedi’i osod arno, rhaid i chi dynnu’r Ap ohono.
Heb gyfyngu’r datganiad uchod, oni bai ei fod yn cael ei ganiatáu’n benodol yn y Telerau hyn, neu ein bod wedi rhoi caniatâd penodol ac uniongyrchol yn ysgrifenedig, byddwch yn cytuno na fyddwch yn:
-
rhentu, prydlesu, is-drwyddedu, benthyca, darparu neu sicrhau bod yr Ap cyfan neu unrhyw ran ohono ar gael i unrhyw un arall
-
cyfieithu, cyfuno, addasu, amrywio, newid neu addasu’r cyfan neu unrhyw ran ohono oni bai ei bod yn angenrheidiol defnyddio’r Ap fel y caniateir yn benodol yn y Telerau hyn
-
caniatáu i’r Ap gyfan neu unrhyw ran ohono gael ei gyfuno neu ei ymgorffori mewn unrhyw raglenni eraill, ac eithrio fel sy’n angenrheidiol i ddefnyddio’r Ap ar ddyfeisiau fel y caniateir yn y Telerau hyn
Rhaid i chi hefyd beidio â datgymalu, dadgrynhoi, gwrthdroi peirianneg neu greu gweithiau deilliadol yn seiliedig ar y cyfan neu ran o’r App, na cheisio gwneud unrhyw bethau o’r fath oni bai ei fod yn cael ei ganiatáu gan y gyfraith cyn belled bod y wybodaeth a gafwyd wrth wneud hynny:
-
ddim yn cael ei ddatgelu na’i gyfathrebu heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw i unrhyw drydydd parti nad oes angen ei ddatgelu neu ei gyfathrebu iddo er mwyn cyflawni’r amcan a ganiateir gan y gyfraith
-
ddim yn cael ei ddefnyddio i greu unrhyw feddalwedd sy’n sylweddol debyg i’r Ap
-
yn cael ei gadw’n ddiogel ac yn cael ei ddefnyddio fel y caniateir gan y gyfraith
-
ddim yn mynd yn groes i’r hyn y mae’r Telerau hyn yn ei ddweud am firysau, hacio a throseddau eraill
7. Ein atebolrwydd a’n hymwadiadau
7.1 Rydym yn gyfrifol i chi am golled a difrod rhagweladwy a achosir gennym ni
Os byddwn yn methu â chydymffurfio â’r Telerau hyn, rydym yn gyfrifol am golled neu ddifrod rydych chi’n ei ddioddef sy’n ganlyniad rhagweladwy i ni dorri’r Telerau hyn neu ein methiant i ddefnyddio gofal a sgiliau rhesymol, ond nid ydym yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod nad yw’n rhagweladwy. Mae colled neu ddifrod yn rhagweladwy os yw’n amlwg y bydd yn digwydd neu os, ar yr adeg y gwnaethoch dderbyn y Telerau hyn, roeddem ni a chi yn gwybod y gallai ddigwydd.
7.2 Efallai y byddwn yn atebol am ddifrod i’ch eiddo o bryd i’w gilydd
Os yw cynnwys digidol diffygiol rydym wedi’i ddarparu ar yr Ap yn niweidio dyfais neu gynnwys digidol sy’n perthyn i chi, byddwn naill ai’n atgyweirio’r difrod neu’n talu iawndal i chi. Fodd bynnag, ni fyddwn yn atebol am ddifrod y gallech fod wedi’i osgoi trwy ddilyn ein cyngor i gymhwyso diweddariad a gynigir i chi neu am ddifrod a achoswyd gan eich bod wedi methu â dilyn cyfarwyddiadau gosod yn gywir neu gael y gofynion system gofynnol a gynghorir gennym ni.
7.3 Nid ydym yn eithrio nac yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ein hatebolrwydd i chi lle byddai’n anghyfreithlon gwneud hynny
Mae hyn yn cynnwys atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod neu esgeulustod ein gweithwyr, asiantau neu isgontractwyr neu am dwyll neu gamliwio twyllodrus.
Fodd bynnag, nodwch fod cyfyngiadau i’r Ap a’r Gwasanaeth. Darperir yr Ap a’r Gwasanaeth ar gyfer gwybodaeth gyffredinol a hwyluso mynediad at ddibenion gwasanaethau cyhoeddus yn unig. Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth a ddarperir gan yr Ap a’r Gwasanaeth, nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau, gwarantau, boed yn fynegi neu’n ymhlyg, bod gwybodaeth o’r fath yn gywir, yn gyflawn neu’n gyfredol.
Mae’r Ap ar gael ar y rhyngrwyd. Ni allwn warantu y bydd yr Ap yn ddi-wallau, neu y bydd mynediad ato yn ddi-dor, neu y bydd bob amser ar gael i’w ddefnyddio. Er enghraifft, efallai na fydd mynediad at gynnwys ar yr Ap ar gael dros dro tra byddwn yn cynnal gwaith cynnal a chadw i’r Ap, neu am resymau technegol eraill. Yn ogystal, gall y dechnoleg a ddefnyddir ar hyn o bryd, neu y gellir ei defnyddio yn y dyfodol (gan gynnwys technoleg o’r fath sy’n cynnal profion biometrig) fod ar gael ar adegau neu gynhyrchu canlyniad anghywir.
Yn unol â hynny, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cadw copïau corfforol o’r data a’r cynnwys rydych chi’n eu storio yn yr Ap, gan gynnwys eich dogfennaeth gwirio hunaniaeth.
7.4 Gwnewch yn siŵr bod yr Ap a’r Gwasanaeth yn addas i chi
Nid yw’r Ap a’r Gwasanaeth wedi’u datblygu i fodloni eich gofynion unigol. Gwiriwch fod cyfleusterau a swyddogaethau’r Ap a’r Gwasanaeth (fel y disgrifir ar y siop ap ac yn y Ddogfennaeth) yn bodloni’ch gofynion.
Nid oes unrhyw ffordd i wneud copi wrth gefn o Ddogfennau yn yr Ap. Gallwch barhau i ddefnyddio’r fersiynau corfforol o’ch Dogfennau fel prawf hunaniaeth neu gymhwysedd os na allwch gael mynediad i’r fersiynau digidol am unrhyw reswm.
7.5 Gwiriwch delerau ac amodau unrhyw drydydd partïon y mae’r Ap yn cysylltu â hwy
Pan fydd yr Ap yn cysylltu â gwefannau eraill, dylech wirio eu telerau ac amodau. Nid ydym yn gyfrifol am ddiogelu unrhyw wybodaeth rydych yn ei roi i wefannau trydydd parti rydych yn eu cyrchu trwy ddolenni o’r Ap, nac unrhyw golled neu ddifrod a allai ddod o’ch defnydd o’r gwefannau hyn, neu unrhyw wefannau eraill y maent yn cysylltu â hwy.
7.6 Nid ydym yn atebol am golledion busnes
Mae’r Ap ar gyfer defnydd domestig a phreifat yn unig. Os ydych yn defnyddio’r Ap at unrhyw ddiben masnachol, busnes neu ailwerthu, ni fydd gennym unrhyw atebolrwydd i chi am unrhyw golled o elw, colli busnes, torri ar draws busnes, neu golli cyfle busnes a allai gael ei ddioddef o ddefnyddio’r Ap at ddibenion o’r fath, hyd yn oed os dylem fod yn ymwybodol o, neu wedi cael ein cynghori o’r blaen, am bosibiliadau o’r fath.
7.7 Nid ydym yn gyfrifol am ddigwyddiadau y tu allan i’n rheolaeth
Os bydd ein darpariaeth o’r Gwasanaeth neu gymorth i’r Ap neu’r Gwasanaeth yn cael ei oedi gan ddigwyddiad y tu allan i’n rheolaeth, yna byddwn yn ymdrechu i gysylltu â chi cyn gynted â phosibl i roi gwybod i chi a byddwn yn cymryd camau i leihau effaith yr oedi. Ar yr amod ein bod yn gwneud hyn, ni fyddwn yn atebol am oedi a achosir gan y digwyddiad, ond os oes risg o oedi sylweddol, gallwch dynnu’r Ap o’ch dyfais ac rydym yn awgrymu eich bod yn defnyddio dogfennaeth gorfforol at y Diben.
8. Tynnu cynnwys o’r Ap
Gallwch dynnu unrhyw un o’ch Dogfennau ar unrhyw adeg.
Gall Cyhoeddwr ddewis ‘dirymu’ (tynnu i ffwrdd) Dogfen. Bydd y dogfennau hyn yn cael eu labelu yn yr Ap ac ni fyddwch bellach yn gallu eu defnyddio fel prawf neu hunaniaeth neu gymhwysedd. Efallai y bydd y Cyhoeddwr hefyd yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i esbonio pam mae eich Dogfen wedi’i dirymu a beth allwch chi ei wneud nesaf.
Gallwn dynnu cynnwys arall o’r Ap, gan gynnwys Dogfennau a Chanllawiau, os naill ai:
-
mae angen i ni gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data sy’n cwmpasu hawliau a rhyddid unigolion
-
os yw’n torri deddfau hawlfraint, yn cynnwys data personol sensitif neu ddeunydd y gellir ei ystyried yn anweddus neu’n ddifenwol
Gallwch ofyn am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a deddfwriaeth diogelu data y DU.
9. Amddiffyn rhag firws
Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi’r Ap am firysau ym mhob cam o’r cynhyrchiad. Rhaid i chi wneud yn siŵr nad yw’r ffordd rydych yn defnyddio’r Ap a’r Gwasanaeth yn eich amlygu i’r risg o firysau, cod cyfrifiadurol maleisus neu fathau eraill o ymyrraeth a all niweidio’ch system gyfrifiadurol neu ddyfais arall.
10. Firysau, hacio a throseddau eraill
Wrth ddefnyddio’r Ap, rhaid i chi beidio â gwneud unrhyw un o’r canlynol:
-
defnyddio’r Ap mewn unrhyw ffordd anghyfreithlon, at unrhyw ddiben anghyfreithlon, neu mewn unrhyw ffordd sy’n anghyson â’r Telerau hyn neu weithredu’n dwyllodrus neu’n faleisus, er enghraifft, trwy hacio neu fewnosod cod maleisus, fel firysau, neu ddata niweidiol, i’r Ap, unrhyw Wasanaeth neu unrhyw system weithredu
-
cyflwyno firysau, trojans, mwydod, bomiau rhesymeg neu unrhyw ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol
-
ceisio cael mynediad anawdurdodedig i’r Ap, unrhyw weinydd, cronfa ddata neu system sy’n ymwneud â’r Gwasanaeth neu sy’n gysylltiedig â’r Gwasanaeth
-
ymosod ar yr Ap mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys ymosodiadau gwrthod gwasanaeth
-
trosglwyddo unrhyw ddeunydd sy’n ddifenwol, sarhaus neu fel arall yn annymunol mewn perthynas â’ch defnydd o’r Ap neu unrhyw Wasanaeth
-
torri ein hawliau eiddo deallusol neu hawliau unrhyw drydydd parti mewn perthynas â’ch defnydd o’r Ap neu unrhyw Wasanaeth, gan gynnwys wrth gyflwyno cynnwys i’r Ap
-
defnyddio’r Ap neu unrhyw Wasanaeth mewn ffordd a allai niweidio, analluogi, gorlwytho, amharu neu gyfaddawdu ein systemau neu ddiogelwch, neu ymyrryd â defnyddwyr eraill neu atal mwynhad yr Ap neu’r Gwasanaeth gan unrhyw un arall
-
casglu neu gynaeafu unrhyw wybodaeth neu ddata o unrhyw Wasanaeth neu ein systemau, neu geisio dehongli unrhyw drosglwyddiadau neu o’r gweinyddion sy’n rhedeg unrhyw Wasanaeth.
-
cymryd unrhyw gamau eraill y gellid eu hystyried yn rhesymol sy’n aflonyddu, cam-drin neu’n ymddygiad maleisus, aflonyddgar, twyllodrus neu droseddol
Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw weithredoedd, ymosodiadau neu ymdrechion anghyfreithlon i gael mynediad anawdurdodedig i’r Ap, y Gwasanaeth neu unrhyw weinyddion Llywodraeth EF i’r awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol ac yn rhannu gwybodaeth amdanoch chi gyda hwy.
11. Dod â’ch hawliau i ddefnyddio’r Ap i ben
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i roi terfyn ar eich hawliau i ddefnyddio’r Ap ar unrhyw adeg os ydych yn torri’r telerau ac amodau hyn. Efallai y byddwn yn rhoi cyfle rhesymol i chi unioni unrhyw doriad o’r fath.
Os byddwn yn dod â’ch hawliau i ddefnyddio’r Ap i ben, rhaid i chi:
-
stopio defnyddio’r Ap, gan gynnwys unrhyw weithgareddau a awdurdodir gan y telerau hyn
-
dileu neu dynnu’r Ap o bob dyfais yn eich meddiant
-
dinistrio ar unwaith yr holl gopïau o’r Ap sydd gennych a chadarnhau i ni eich bod wedi gwneud hyn
Efallai y byddwn hefyd yn cyrchu unrhyw un o’ch dyfeisiau o bell a thynnu’r Ap o unrhyw un neu fwy ohonynt a’ch atal rhag cael mynediad i’r Ap.
12. Cyffredinol
Dylech argraffu neu gadw copi o’r Telerau hyn ac unrhyw negeseuon e-bost gennym ar gyfer eich cofnodion, gan na fyddwn yn arbed na chadw copi i chi. Mae’r Telerau hyn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Nid ydym yn atebol os ydym yn methu â chydymffurfio â’r Telerau hyn oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.
Efallai y byddwn yn penderfynu peidio ag arfer neu orfodi unrhyw hawl sydd ar gael i ni o dan y Telerau hyn neu oedi gwneud hynny. Gallwn bob amser benderfynu arfer neu orfodi’r hawl honno yn ddiweddarach a bydd yn rhaid i chi wneud y pethau hynny y mae’n ofynnol i chi eu gwneud o dan y Telerau hyn. Os byddwn byth yn ildio ein hawliau gorfodi, ni fydd hyn yn golygu ein bod yn ildio’r hawl ar unrhyw achlysur arall ond ni fydd unrhyw ildiad yn effeithiol oni bai ein bod yn darparu yn benodol ein bod yn ildio ein hawliau yn ysgrifenedig.
Os ystyrir bod unrhyw un o’r Telerau hyn yn annilys, yn anorfodadwy neu’n anghyfreithlon am unrhyw reswm, bydd y telerau ac amodau sy’n weddill yn dal i fod yn berthnasol ac yn parhau i gael grym ac effaith lawn.
Nid yw’r Telerau hyn yn arwain at unrhyw hawliau i drydydd partïon o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 i orfodi unrhyw un o delerau’r cytundeb hwn.
13. Newidiadau i’r telerau ac amodau hyn
Diweddarwyd y Telerau hyn ddiwethaf ar 14 Awst 2025.
Efallai y byddwn yn diweddaru’r Telerau hyn ar unrhyw adeg i adlewyrchu newidiadau yn y gyfraith neu arfer gorau neu i ddelio â nodweddion ychwanegol rydym yn eu cyflwyno i’r Ap neu’r Gwasanaeth.
Yn ogystal â bod y Telerau hyn yn hygyrch trwy’r Ap, byddwn hefyd yn eich hysbysu am newidiadau o’r fath.
Bydd eich defnydd parhaus o’r Ap ar unrhyw adeg ar ôl i unrhyw un o’r Telerau gael eu diweddaru yn gyfystyr â’ch cytundeb o’r Telerau wedi’u diweddaru. Os nad ydych yn derbyn y newidiadau a hysbyswyd, rhaid i chi beidio â pharhau i ddefnyddio’r Gwasanaeth a dylech dynnu’r Ap o’ch dyfais.
14. Cyfraith lywodraethol
Mae’r Telerau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr a’u dehongli yn unol â hwy.
Os ydych yn byw yng:
-
Nghymru neu Loegr, gallwch ddwyn achos cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’r Ap yn llysoedd Cymru a Loegr
-
Yr Alban, gallwch ddwyn achos cyfreithiol sy’n ymwneud â’r Ap naill ai yn llysoedd yr Alban neu Gymru a Lloegr
-
Gogledd Iwerddon, gallwch ddwyn achos cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’r Ap naill ai yn llysoedd Gogledd Iwerddon neu Gymru a Lloegr
15. Cwynion
Os ydych yn anhapus â ni, yr Ap neu’r Gwasanaeth rydym wedi’i ddarparu i chi, cysylltwch â GOV.UK One Login.