Adolygiad o Siarter Frenhinol y BBC 2025-27 - Cylch Gorchwyl
Cyhoeddwyd 16 Rhagfyr 2025
Cefndir
Mae’r BBC yn cael ei lywodraethu gan Siarter Frenhinol a Chytundeb Fframwaith, sy’n darparu’r sail gyfansoddiadol ar gyfer y BBC fel corfforaeth gyhoeddus ac yn gwarantu ei annibyniaeth ar y llywodraeth. Mae’r Siarter a’r Cytundeb Fframwaith hefyd yn nodi Cenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus y BBC fel darlledwr cenedlaethol, a sut mae’n cael ei ariannu, ei reoleiddio a’i lywodraethu, gan gynnwys ei oruchwyliaeth a’i atebolrwydd i’r cyhoedd ym Mhrydain.
Daeth Siarter bresennol y BBC i rym ar 1 Ionawr 2017 a daw i ben ar 31 Rhagfyr 2027. Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sy’n gyfrifol am lunio’r Siarter a’r Cytundeb Fframwaith a bydd yn arwain Adolygiad o gyfrifoldebau presennol y BBC a nodir yn y Siarter. Bydd yr Adolygiad yn sail i argymhellion i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar gylch gwaith y BBC yn y dyfodol dan Siarter a Chytundeb Fframwaith newydd. Bydd yr Adolygiad yn ystyried sut y mae’r BBC wedi cyflawni ei gyfrifoldebau dan y Siarter bresennol a’r heriau a’r cyfleoedd y bydd y BBC yn eu hwynebu dros y blynyddoedd nesaf, yn ogystal ag adborth gan randdeiliaid a barn y cyhoedd yn ehangach ledled y DU ar ddyfodol y BBC.
Pwrpas ac amcanion yr Adolygiad
Mae’r BBC yn ased Prydeinig hanfodol sy’n chwarae rhan unigryw mewn bywyd cyhoeddus ac sy’n helpu i ddiffinio ein cenedl. Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i gefnogi’r BBC i ffynnu am ddegawdau i ddod.
Fodd bynnag, mae tirwedd cyfryngau’r DU yn newid yn gyson. Mae’r BBC yn wynebu mwy o gystadleuaeth fyd-eang, newidiadau mewn arferion gwylio a phwysau ar ei incwm o ffi’r drwydded. Mae’r Adolygiad o’r Siarter yn gyfle i ddiogelu’r BBC at y dyfodol a’i baratoi ar gyfer llwyddiant er mwyn iddo allu parhau i gyflawni ei rwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus pwysig dros gyfnod y Siarter nesaf ac am ddegawdau i ddod. Mae sicrhau cynaliadwyedd ariannol y BBC a chynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd yn y gorfforaeth a’i hallbwn i’r eithaf yn hanfodol i hyn. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y BBC yn cael cefnogaeth y bobl sy’n talu amdano, ei fod yn ddigon atebol, a’i fod yn cynrychioli ac yn darparu ar gyfer pob unigolyn yn y DU.
Felly, bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn ystyried mesurau sy’n cefnogi’r amcanion canlynol ac yn clywed tystiolaeth yn eu cylch:
-
BBC sy’n cael ei ariannu’n gynaliadwy am ddegawdau i ddod i gefnogi ei rôl gwasanaeth cyhoeddus hanfodol;
a. Archwilio modelau cyllido sy’n gallu darparu lefel gynaliadwy o gyllid i’r BBC, i gefnogi’r BBC i wasanaethu holl gynulleidfaoedd y DU mewn amgylchedd cyfryngau sy’n fwyfwy cystadleuol.
b. Archwilio opsiynau cyllido ar gyfer S4C, darlledu ieithoedd lleiafrifol a’r World Service.
c. Sicrhau bod unrhyw fodel cyllido yn y dyfodol yn cael ei gasglu a’i orfodi’n deg.
d. Sicrhau bod y BBC yn darparu’r gwerth gorau posibl drwy nodi arbedion effeithlonrwydd ar draws y sefydliad cyfan.
-
BBC sy’n ennyn ymddiriedaeth y cyhoedd, sy’n annibynnol ac yn atebol i’r cyhoedd y mae’n eu gwasanaethu, ac sy’n cynrychioli pob cymuned ledled y DU;
a. Archwilio mesurau i wella atebolrwydd ac ymgysylltiad y BBC â’r cyhoedd ledled y DU.
b. Archwilio mesurau i gynnal annibyniaeth y BBC.
c. Archwilio rôl y BBC o ran darparu newyddion a gwybodaeth ddibynadwy a chywir, mynd i’r afael â thwyllwybodaeth, cefnogi democratiaeth a chydlyniant cymdeithasol yn y DU ac yn rhyngwladol, a chefnogi pŵer meddal a diogelwch y DU, gan gynnwys drwy’r World Service.
d. Adolygu sut y gall y BBC osod y safon uchaf ar gyfer amgylchedd gwaith cefnogol a diogel ar draws y sector creadigol ehangach gan ei fod yn hyrwyddo triniaeth deg ac yn mynd i’r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.
e. Sicrhau bod y BBC yn cefnogi amrywiaeth yn ei weithlu ac yn adrodd stori genedlaethol sy’n uno, yn ogystal â bod yn hygyrch ac yn ymatebol i wasanaethu amrywiaeth pob cymuned ledled y DU, gan gynnwys y rhai yn y gwledydd a’r rhanbarthau a thrwy ddarlledu mewn ieithoedd lleiafrifol.
-
BBC sy’n sbarduno twf, cyfleoedd a swyddi da ar draws gwledydd a rhanbarthau’r DU, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill;
a. Nodi sut y gall y BBC roi cefnogaeth bellach i’r sectorau creadigol a chyfryngau ehangach yn unol â Strategaeth Ddiwydiannol y Llywodraeth, gan gynnwys drwy weithio gyda chynhyrchwyr annibynnol, datblygu partneriaethau a sgiliau a chynlluniau hyfforddiant.
b. Adolygu sut y mae’r BBC yn blaenoriaethu darparu ei wasanaethau cyhoeddus ac yn taro’r cydbwysedd priodol o ran effaith fasnachol yn y marchnadoedd y mae’n gweithredu ynddynt ac yn cefnogi lluosogrwydd yn y cyfryngau, gan gynnwys yn yr ecosystem cyfryngau lleol.
c. Archwilio sut y gall y BBC weithredu fel sbardun yn y maes technoleg ac arloesi er budd yr economi greadigol ehangach a lles y cyhoedd, gan gefnogi cydlyniant cymdeithasol a chynhwysiad digidol.
Y broses adolygu ac amserlenni
Ochr yn ochr â’r Cylch Gorchwyl, mae’r llywodraeth hefyd yn cyhoeddi papur gwyrdd ac yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae’r llywodraeth yn bwriadu gweithio’n adeiladol gyda’r BBC yn ystod yr Adolygiad o’r Siarter. Bydd hefyd yn ymgynghori ag Ofcom, y llywodraethau datganoledig, S4C, y diwydiant, aelodau seneddol a rhanddeiliaid perthnasol eraill. Ceisir cyngor ac ymchwil arbenigol ac annibynnol ar amrywiaeth o faterion i lywio sylfaen dystiolaeth yr Adolygiad o’r Siarter.
Mae’r llywodraeth yn disgwyl cyhoeddi papur gwyn yn 2026, yn nodi’r cyfeiriad polisi mae’n ei ffafrio ar gyfer dyfodol y BBC. Bydd Siarter ddrafft hefyd yn cael ei chyhoeddi a’i thrafod yn Senedd y Deyrnas Unedig cyn i’r Siarter bresennol ddod i ben.