Guidance

Cylch Gorchwyl ar gyfer adolygu trefniadau ymchwilio sy'n dilyn defnydd yr heddlu o rym a digwyddiadau yn ymwneud â gyrru'r heddlu (Welsh version)

Updated 13 November 2023

Pwrpas

Mae swyddogion heddlu[footnote 1] ar draws Cymru a Lloegr yn gwneud gwaith anhygoel o anodd, mewn rhai achosion yn gorfod gwneud penderfyniadau bywyd neu farwolaeth mewn eiliad hollt i’n cadw’n ddiogel. Mae’n hanfodol bod gan y cyhoedd a swyddogion eglurder a hyder yn y system atebolrwydd sy’n ymwneud â defnydd yr heddlu o rym a gyrru’r heddlu, gan gynnwys effeithiolrwydd ymchwiliadau.

Mae Llywodraethau olynol wedi cyfeirio at yr angen i ystyried y cydbwysedd rhwng sicrhau y gall yr heddlu wneud eu gwaith i gadw’r cyhoedd yn ddiogel, tra’n sicrhau y cydymffurfir â chanllawiau gweithredol a bod swyddogion yn gweithredu o fewn y gyfraith.

Bydd yr adolygiad hwn a arweinir gan y Swyddfa Gartref yn asesu’r fframweithiau cyfreithiol presennol a’r canllawiau ar arfer sy’n sail i ddefnydd yr heddlu o rym a gyrru gan yr heddlu, a’r fframwaith dilynol ar gyfer ymchwilio i unrhyw ddigwyddiadau a allai ddigwydd. Bydd yn archwilio:

  • A yw’r defnydd o rym neu fframweithiau gyrru’r heddlu yn darparu canllawiau clir, dealladwy ac a ddeallir yn dda i swyddogion;
  • A yw diffyg eglurder neu’r fframweithiau eu hunain mewn unrhyw ffordd yn rhwystro neu’n atal yr heddlu rhag cyflawni eu rôl i amddiffyn bywyd;
  • A ydynt yn cynnal hyder y cyhoedd yn yr heddlu, yn arbennig yn achos y rhai y mae defnydd yr heddlu o rym yn effeithio arnynt.
  • Sut mae’r DU yn bodloni ei rhwymedigaeth i ymchwilio’n annibynnol i sefyllfaoedd lle mae marwolaeth neu anaf difrifol (DSI) yn deillio o ddigwyddiad sy’n ymwneud â gorfodi’r gyfraith;
  • A yw gwersi angenrheidiol wedi’u deall yn flaenorol ac a weithredwyd arnynt ar ôl digwyddiadau hanesyddol; ac
  • A yw unigolion yn cael eu dwyn i gyfrif yn briodol.

Ni fydd yr adolygiad yn ystyried ymchwiliadau neu achosion byw neu barhaus. Mae’r angen i sicrhau nad yw’r adolygiad hwn yn rhagfarnu nac yn ymyrryd mewn unrhyw ffordd ag ymchwiliadau neu achosion parhaus neu sydd wedi’u cwblhau yn hollbwysig ac, i’r perwyl hwnnw, rhaid i’r Swyddfa Gartref ystyried unrhyw effaith bosibl ar ymchwiliadau neu achosion o’r fath yn barhaus.

Gan gydnabod pwysigrwydd annibyniaeth weithredol yr heddlu a chyrff o fewn y System Cyfiawnder Troseddol ehangach sy’n dod o fewn cwmpas y Cylch Gorchwyl hwn, ni fydd yr adolygiad yn amharu ar yr annibyniaeth hon nac yn gwneud argymhellion a allai ei pheryglu.

Cwmpas

Bydd yr adolygiad yn archwilio pedair thema allweddol:

1. Y fframwaith cyfreithiol / rheoleiddiol ar ddefnyddio grym a gyrru gan yr heddlu

Bydd yr adolygiad yn archwilio’r fframwaith cyfreithiol sy’n sail i ddefnydd yr heddlu o rym a gyrru ac yn cynghori a oes angen newidiadau i egluro neu ddiweddaru deddfwriaeth. Bydd hyn yn cynnwys ystyried:

  • A yw’r ddeddfwriaeth bresennol sy’n sail i’r defnydd o rym, gan gynnwys amddiffyniadau, yn darparu amddiffyniadau digonol i swyddogion heddlu yn unol â’u dyletswydd, yn arbennig mewn perthynas â swyddogion arfau tanio.
  • A yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn darparu amddiffyniadau digonol ar gyfer gyrru’r heddlu at ddibenion yr heddlu.
  • A ddylid egluro neu newid y profion cyfreithiol perthnasol sy’n ymwneud â defnyddio grym mewn hunanamddiffyniad mewn perthynas ag achosion camymddwyn a chwestau’r heddlu.
  • A ddylid defnyddio’r safon prawf troseddol ar gyfer canfyddiad o ladd anghyfreithlon ar gyfer cwestau ac ymchwiliadau perthnasol.
  • A yw’r fframwaith cyfreithiol yn darparu hawliau digonol i’r aelodau hynny o’r cyhoedd y mae defnydd yr heddlu o rym neu yrru’r heddlu yn effeithio arnynt.
  • A yw’r fframwaith yn ddigon i gynnal hyder y cyhoedd mewn plismona, yn arbennig ar gyfer cymunedau a theuluoedd y mae defnydd yr heddlu o rym yn effeithio arnynt.

2. Ymchwiliadau a phrosesau ar ôl digwyddiad

Bydd yr adolygiad yn asesu’r systemau ar gyfer sicrhau craffu ar gamau gweithredu’r heddlu, yn bennaf mewn digwyddiadau lle mae aelodau o’r cyhoedd wedi’u lladd neu eu hanafu, a systemau ar gyfer dwyn swyddogion i gyfrif. Bydd yr adolygiad yn ystyried effaith y trefniadau presennol ar swyddogion heddlu sy’n destun ymchwiliad a’r effaith ar hyder y cyhoedd. Bydd hyn yn cynnwys ystyried:

  • A yr’r system o archwilio DSIs yn dilyn cyswllt â’r heddlu yn gweithio’n effeithiol i’r heddlu a’r cyhoedd.
  • A yw’r gofynion i’r heddlu atgyfeirio DSIs a materion eraill i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn briodol.
  • A yw’r trothwyon ar gyfer lansio ymchwiliad camymddwyn neu droseddol yn briodol, ac a ddylai achosion sy’n ymwneud â’r rhai sy’n gweithredu yn unol â dyletswydd gael eu trin yn wahanol.
  • A ddylid diwygio’r trothwyon i’r IOPC gyfarwyddo achos disgyblu neu atgyfeirio mater at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS), ac a ddylid trin achosion sy’n ymwneud â’r rhai sy’n gweithredu yn unol â dyletswydd yn wahanol.

3. Amseroldeb ymchwiliadau a phrosesau cyfreithiol

Bydd yr adolygiad yn archwilio a ellir cyflawni canlyniadau cyflymach ar draws yr ymchwiliadau amrywiol sy’n dilyn defnydd yr heddlu o rym neu yrru, er budd swyddogion a’r rhai yr effeithir arnynt gan weithredoedd yr heddlu. Bydd hyn yn cynnwys sut mae’r ymatebion amrywiol i ddigwyddiadau (gan gynnwys ymchwiliadau ac achosion troseddol, crwnerol a chamymddwyn) gyda’i gilydd yn effeithio ar brydlondeb casgliadau cyffredinol. Bydd hyn yn cynnwys ystyried:

  • A all y system sicrhau canlyniadau mwy amserol i swyddogion yr heddlu a’r cyhoedd, gan ganolbwyntio’n benodol ar achosion DSI, gan gynnwys opsiynau ar gyfer terfynau amser a llwybr carlam ar gyfer ymchwiliadau ar sail budd y cyhoedd.
  • A all gweithio mwy effeithiol rhwng yr IOPC a’r CPS leihau graddfeydd amser mewn ymchwiliadau troseddol.
  • A oes lle i leihau dyblygu yn y prosesau troseddol, crwnerol a chamymddwyn ac a all mwy o weithgarwch ddigwydd ochr yn ochr, tra’n sicrhau nad yw achosion troseddol sy’n mynd rhagddynt neu sydd wedi dod i ben yn cael eu rhagfarnu nac yr ymyrrir â nhw.

4. Cyfathrebu a dysgu ar ôl digwyddiad

Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw gweithdrefnau o amgylch yr holl gyfathrebiadau yn dilyn digwyddiad yn sicrhau cydbwysedd digonol rhwng darparu eglurder, tawelu meddwl y cyhoedd a pheidio â rhagfarnu nac ymyrryd ag ymchwiliadau neu achosion cyfreithiol sy’n mynd rhagddynt neu achosion o’r gorffennol. Bydd yr adolygiad hefyd yn archwilio sut i sicrhau bod swyddogion yn hyderus eu bod yn deall y fframwaith cyfreithiol a’u bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am oblygiadau penderfyniadau perthnasol a wneir gan yr IOPC, penderfynwyr disgyblu, CPS, Crwneriaid a Llysoedd. Bydd hyn yn cynnwys:

  • A ellir gwella cyfathrebu ar ôl digwyddiad er mwyn tawelu meddwl y cyhoedd a swyddogion, a sicrhau nad yw ymchwiliadau’n cael eu rhagfarnu nac yr ymyrrir â nhw.
  • A yw’r gofynion i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bartïon â diddordeb ar gynnydd achosion ac ymchwiliadau yn ddigonol.
  • A yw’r systemau a’r prosesau perthnasol yn ddigon clir i’r heddlu a’r cyhoedd ac a all swyddogion heddlu fod yn hyderus bod eu hyfforddiant a’u harweiniad yn adlewyrchu’r gyfraith a chwmpas eu pwerau.
  • A ellid gwneud gwelliannau i bolisïau sy’n ymwneud â diogelu swyddogion a’r cyhoedd yn ystod ymchwiliadau ac achosion, gan gynnwys atal swyddogion o’r gwaith a bod yn ddienw.

Adrodd

Bydd yr adolygiad yn cael ei gydlynu gan y Swyddfa Gartref, gan adrodd i’r Ysgrifennydd Cartref, gan weithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol. Bydd yn anelu at ddarparu canfyddiadau i’r Ysgrifennydd Cartref erbyn diwedd y flwyddyn.

Goruchwyliaeth y Twrnai Cyffredinol ar y CPS

Ar wahân i adolygiad y Swyddfa Gartref, bydd y Twrnai Cyffredinol yn arfer ei swyddogaethau goruchwylio i ystyried canllawiau’r CPS a phrosesau gwneud penderfyniadau, er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi ystyriaeth briodol i rôl a gweithredoedd swyddogion heddlu gan gynnwys a yw’r olaf yn unol â’u hyfforddiant. Wrth gynnal yr ymarfer hwn, ni fydd y Twrnai Cyffredinol yn ystyried achosion neu faterion byw neu barhaus a bydd yn blaenoriaethu’r angen i sicrhau nad yw’n rhagfarnu nac yn ymyrryd mewn unrhyw fodd ag ymchwiliadau, achosion neu faterion sydd ar y gweill neu sydd wedi dod i ben.

  1. gan gynnwys Y Cwnstabliaeth Niwclear Sifil (CNC), Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) a Heddlu’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MDP).