Ymateb i hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth (T422)
Diweddarwyd 16 Mai 2025
Canllawiau’r Llywyddion
Dan Reolau’r Tribiwnlys Cyflogaeth, gall Llywyddion y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yng Nghymru a Lloegr a’r Alban gyhoeddi Canllawiau. Nod y canllawiau hyn yw gwella cysondeb o ran y ffordd y mae Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn rheoli achosion a galluogi’r partïon i ddeall yn well yr hyn a ddisgwylir ganddynt a’r hyn i’w ddisgwyl gan y tribiwnlys. Nid ydynt yn orfodol ond dylid eu dilyn lle bo hynny’n bosib.
Cliciwch ar y dolenni isod i ddod o hyd i ganllawiau’r ddau Lywydd yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â chanllaw Llywydd yr Alban:
Gall Tribiwnlys Cyflogaeth gymryd nifer o fisoedd i benderfynu ynglŷn â hawliad. Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r broses yn dibynnu ar beth sydd dan sylw a beth yw’r materion yn yr hawliad - os oes llawer o faterion, neu fod y materion yn gymhleth, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i ddelio â’r achos.
Pennir yr achosion a dderbynnir i mewn, ac sy’n mynd yn eu blaenau yn y system tribiwnlysoedd cyflogaeth ar sail teilyngdod bob achos unigol. Os bydd y tribiwnlys cyflogaeth yn penderfynu o blaid yr hawlydd, bydd y tribiwnlys yn ystyried faint o ddyfarndal sydd i’w dalu, gan gyfrifo faint ddylai fod wedi cael ei dalu pe na bai hawliau’r hawlydd wedi cael ei diystyru. Nid yw’r mwyafrif o awdurdodaethau (mathau o hawliadau) yn caniatáu dyfarniadau anghyfyngedig, a hyd yn oed lle maent yn caniatáu hynny a lle bo hawliadau’n cael eu gwneud am symiau mawr o iawndal, bydd y tribiwnlys yn ystyried yr wybodaeth berthnasol er mwyn sicrhau bod unrhyw ddyfarndal yn briodol.
Bydd tribiwnlysoedd yn penderfynu faint o ddyfarndal y mae gan yr hawlydd hawl iddo, yn ôl ei amgylchiadau personol, gan gynnwys ei oed, ei enillion, ac ar gyfer achosion sy’n ymwneud â gwahaniaethu, niwed i’w deimladau. Bydd dyfarndaliadau am niwed i deimladau yn seiliedig ar y canllawiau presennol, a bennwyd mewn cyfraith achosion. Ar gyfer hawliadau diswyddo annheg, gall y tribiwnlys bennu dyfarndal am golli enillion yn y dyfodol. Pwrpas y dyfarndaliadau yw digolledu gweithwyr, nid cosbi cyflogwyr.
Rheoliadau Cyffredinol Diogelu Data
Mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn prosesu gwybodaeth bersonol amdanoch chi yng nghyd-destun achosion tribiwnlys. Darllenwch am y safonau rydym yn eu dilyn wrth brosesu eich data.
I gael copi papur o’r hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â’n Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid. Ceir manylion ar dudalen gefn y cyhoeddiad hwn. Noder: gellir anfon copi o’r ffurflen hawlio neu’r ffurflen ymateb ac unrhyw ohebiaeth arall sy’n gysylltiedig â’r Tribiwnlys at y parti arall ac Acas at ddibenion achosion Tribiwnlys neu er mwyn setlo’r hawliad.
Deddf yr Iaith Gymraeg
Os ydych yn ymateb i hawliad yng Nghymru, cewch ofyn am gael gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg. Os bydd y ddwy ochr yn cytuno, gellir cynnal y gwrandawiadau yn y Gymraeg yn unig. Os defnyddir y Gymraeg a’r Saesneg mewn gwrandawiad, gallwn ddarparu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd, dim ond ichi ofyn.
Beth mae Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn ei wneud?
Mae tribiwnlysoedd cyflogaeth yn gwrando achosion ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â materion sy’n gysylltiedig â chyflogaeth megis diswyddo annheg, taliadau dileu swydd, gwahaniaethu ac amrywiaeth o wahanol hawliadau sy’n ymwneud â chyflogau a thaliadau eraill. Er nad yw Tribiwnlys Cyflogaeth mor ffurfiol â llys, rhaid iddo gydymffurfio â rheolau gweithdrefnau a gweithredu’n annibynnol.
Rhagor o wybodaeth
Mae gan y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid a all ateb ymholiadau cyffredinol, rhoi gwybodaeth am gyhoeddiadau tribiwnlysoedd ac egluro sut y mae’r system tribiwnlysoedd yn gweithio. Efallai y gallant eich helpu i lenwi’r ffurflen, ond ni allant roi cyngor cyfreithiol ichi, megis p’un a yw’r hawliad a wnaed yn eich erbyn yn debygol o fod yn llwyddiannus.
Crynodeb o’r broses hawlio
1. Datrys anghydfod
1. Anghydfod yn codi
2. Ceisio datrys y mater yn anffurfiol gyda’r cyflogwr
3. Cymodi cynnar gydag Acas (y gwasanaeth cynghori, cymodi a chyflafareddu)
2. Cyflwyno hawliad i’r tribiwnlys
Amcangyfrif amser: 5 diwrnod
1. Anfon hawliad i dribiwnlys
2. Derbyn yr hawliad (neu dim ei dderbyn a’i ddychwelyd) a’i anfon at yr atebydd.
3. Ymateb yr atebydd
Mae gan yr atebydd 28 diwrnod i ymateb.
4. Rheoli achos
Amcangyfrif amser: 26 wythnos
1. Os na wnaeth yr atebydd ymateb i’r hawliad, bydd dyfarniad yn cael ei gyhoeddi.
2. Os cafwyd ymateb, gall y ddau barti wneud ceisiadau o fewn yr achos.
3.Cynhelir gwrandawiad
5. Dyfarniad
Cyhoeddir dyfarniad o fewn 4 wythnos ar ôl y gwrandawiad terfynol.
Mae dyfarniadau a gyflwynir ar bartïon ers mis Chwefror 2017 ymlaen yn cael eu cyhoeddi ar y gofrestr gyhoeddus ar-lein.
Rhagor o gymorth a chyngor
Nid oes angen i chi ofyn am gyngor cyn llenwi’r ffurflen ymateb, ond efallai y byddai o fudd pe baech yn gwneud hynny. Gallwch gael gwybodaeth am gyfraith cyflogaeth gan Acas a allai hefyd eich helpu i ddatrys yr hawliad yn eich erbyn drwy gymodi a heb fod angen gwrandawiad Tribiwnlys. Rhif llinell gymorth Acas yw 0300 123 1100. Cyfeiriad gwefan Acas yw www.acas.org.uk.
Gallwch gael fwy o gymorth a chyngor gan:
- Gwasanaethau cyngor di-dâl megis canolfan Cyngor ar Bopeth neu un o ganolfannau’r gyfraith. Cyfeiriad gwefan Cyngor ar Bopeth yng Nghymru a Lloegr yw www.citizensadvice.org.uk ac yn yr Alban, www.cas.org.uk
- Sefydliadau cyflogwyr – os ydych yn aelod
- Cyfreithwyr a chynghorwyr proffesiynol eraill.
Sut mae ymateb i’r hawliad?
Ni fydd eich ymateb yn cael ei dderbyn gan swyddfa’r tribiwnlys oni bai ei fod ar ffurflen wedi’i chymeradwyo a ddarperir gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM. Mae’r ffurflen ar gael yn y fformatau canlynol:
- y copi papur a anfonwyd atoch, neu,
- fersiwn sydd ar gael ar ein gwefan yn www.gov.uk/being-taken-to-employment-tribunal-by-employee/overview
Rhaid i chi lenwi a dychwelyd eich ffurflen ymateb i swyddfa’r tribiwnlys i’n cyrraedd erbyn y dyddiad ar y llythyr a anfonwyd gyda’r ffurflen hawlio. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod swyddfa’r tribiwnlys yn cael eich ymateb cyn y terfyn amser perthnasol; hynny yw, 28 diwrnod o’r dyddiad yr anfonasom gopi o ffurflen hawlio’r hawlydd atoch.
Ymateb ar-lein
Gallwch ymateb heb gynrychiolaeth cyfreithiol yn https://tribunal-response.employmenttribunals.service.gov.uk/cy
Os ydych yn weithiwr proffesiynol yn y maes cyfreithiol, neu’n weithiwr proffesiynol arall sydd wedi cael cyfeirnod 16 digid yn eich pecyn ymateb, gallwch ymateb ar-lein drwy ddefnyddio cyfrif MyHMCTS.
Pan fyddwch yn ymateb ar-lein, bydd yn cael ei anfon i’r swyddfa tribiwnlys sy’n delio â’r achos yn awtomatig. Nid oes angen i chi anfon copi o’ch ffurflen neu unrhyw ddogfennau eraill trwy’r post ar hyn o bryd.
Dylech gadw copi o’ch ffurflen ymateb ar gyfer eich cofnodion. Pa bryd bynnag y byddwch yn cysylltu â ni ddylech ddyfynnu rhif yr achos ar ein llythyr ac unrhyw ddogfennau perthnasol. Pan fyddwch yn ysgrifennu atom drwy lythyr neu e-bost, dylech anfon copi at yr hawlydd ac unrhyw atebydd arall yn yr achos, a dweud wrthym eich bod wedi gwneud hynny. Os ydych yn gofyn i’r Tribiwnlys wneud gorchymyn neu gymryd rhyw gamau eraill, rhaid i chi hefyd ddweud wrth yr hawlydd i anfon unrhyw wrthwynebiadau i’r Tribiwnlys cyn gynted â phosib.
Os yw’r hawlydd yn hawlio taliad diswyddo neu dâl yn lle rhybudd, cyflog neu dâl gwyliau na allwch ei dalu oherwydd anawsterau ariannol, dylech egluro hyn yn eich ymateb a rhoi gwybod i ni am unrhyw achos ffurfiol sy’n cael ei gynnal ynghylch eich sefyllfa ariannol.
Beth allaf ei wneud os nad wyf yn gallu anfon fy ymateb o fewn y cyfnod penodol?
Gallwch ofyn i’r tribiwnlys ymestyn y terfyn amser os nad yw’n bosibl i chi lenwi’r ffurflen mewn pryd. Er enghraifft, os oes arnoch angen rhagor o amser gan fod tyst pwysig (megis y sawl a wnaeth y penderfyniad i ddiswyddo’r hawlydd) dramor ar wyliau a bod arnoch angen gwybodaeth ganddynt. Os na fyddwch yn gofyn am ragor o amser o fewn y terfyn amser 28 diwrnod, mae’n debyg y bydd yr hawliad yn cael ei drin fel hawliad nad oedd amddiffyniad wedi’i gyflwyno ar ei gyfer ac mae’n debyg y gwneir dyfarniad yn eich erbyn chi. Rhaid i’ch cais am estyniad fod yn ysgrifenedig a rhoi rhesymau llawn i egluro pam rydych yn gofyn am yr estyniad. Os ydych chi’n gwneud cais ar ôl i’r terfyn amser 28 diwrnod ddod i ben rhaid i chi hefyd naill ai anfon drafft o’r ymateb rydych chi am ei gyflwyno neu esbonio pam na ellir gwneud hyn. Yna bydd Barnwr Cyflogaeth yn penderfynu a ddylid caniatáu estyniad. Byddwch yn cael eich hysbysu ynglŷn â’u penderfyniad ac ni allwch gymryd bod estyniad wedi cael ei ganiatáu tan hynny.
Gwybodaeth sydd ei hangen cyn y gellir derbyn eich ymateb
Ni all y tribiwnlys dderbyn eich ymateb oni bai eich bod yn darparu gwybodaeth benodol. Yn ôl y gyfraith, rhaid i chi ddweud wrthym:
- eich enw llawn a’ch cyfeiriad
- a oes arnoch eisiau gwrthod (amddiffyn) yr hawliad cyfan neu ran ohono;
Os na fydd eich ymateb ar ffurflen wedi’i chymeradwyo (darparwyd) gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM neu os nad yw’n cynnwys yr wybodaeth a ddangoswyd uchod, bydd yn cael ei dychwelyd ac ymdrinnir â’r hawliad fel pe na baem wedi derbyn ymateb.
Beth fydd yn digwydd os nad yw’r tribiwnlys yn derbyn fy ymateb?
Ni fydd eich ymateb yn cael ei dderbyn, ac felly ni allwch wrthod yr hawliad os:
- nad yw eich ymateb ar ffurflen a ddarparwyd gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM;
- nad yw eich ymateb yn cyrraedd swyddfa’r tribiwnlys o fewn y terfyn amser ac nad oes estyniad amser wedi’i ganiatáu;
- nad yw eich ymateb yn darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen
Yn yr amgylchiadau hyn, gall Barnwr Cyflogaeth roi dyfarniad os yw’n teimlo bod hynny’n briodol. Os na dderbynnir ymateb yng nghyswllt hawliad, gall Barnwr Cyflogaeth benderfynu ynghylch yr hawliad heb orfod cynnal gwrandawiad, er y bydd angen gwrandawiad weithiau i benderfynu ar iawndal. Dim ond i’r graddau y byddai’n cael ei ganiatáu gan y Barnwr Cyflogaeth sy’n gwrando’r achos y byddai gennych hawl i gymryd rhan mewn gwrandawiad o’r fath.
Beth fydd yn digwydd pan fydd y tribiwnlys yn cael fy ymateb?
Os bydd y tribiwnlys yn derbyn eich ymateb, byddwn yn anfon copi at yr hawlydd. Yn y mwyafrif o achosion byddwn hefyd yn anfon copi o’ch hawliad at Acas.
Rôl Acas
Pan fyddwn yn anfon copi o’ch ymateb at Acas, y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu, bydd un o gymodwyr Acas yn cysylltu â chi, i weld a oes modd datrys yr hawliad yn eich erbyn, drwy gymodi, a heb orfod cynnal gwrandawiad tribiwnlys.
Hawliadau Datgelu er Lles y Cyhoedd
Pan fydd hawliad yn hawlio bod yr hawlydd wedi gwneud datgeliad gwarchodedig dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (neu ‘chwythu’r chwiban’), neu’n cynnwys hawliad o’r fath, mae’n ofynnol i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM, pan fydd yr hawlydd wedi cydsynio y dylem wneud hynny drwy roi tic ym mlwch 10.1 ar y ffurflen ET1, anfon copi o ffurflen yr hawliad neu ddarnau ohoni at y Rheoleiddiwr perthnasol. Pan fydd yr hawliad yn cynnwys cwynion ar wahân i’r gŵyn ‘chwythu chwiban’, bydd pob cyfeiriad at y cwynion eraill yn cael ei ddileu cyn i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM anfon copi o’r hawliad at y Rheoleiddiwr.
Pan fydd yr hawlydd wedi cydsynio y dylem anfon copi o’r ffurflen hawlio, neu ddarnau ohoni, at y Rheoleiddiwr, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud pryd ac at bwy yr anfonwyd y ffurflen.Y Rheoleiddiwr fydd yn penderfynu a oes angen ymchwilio i’r mater sylfaenol sydd yn y ffurflen hawlio.
Ni fydd hyn yn effeithio o gwbl ar y ffordd y bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn prosesu eich hawliad. Gallwch ddod o hyn i ragor o ganllawiau yn www.gov.uk/whistleblowing.
Beth ddylwn i ei wneud os bydd yr achos yn cael ei setlo?
Dylai’r holl bartïon roi gwybod i ni ar unwaith os bydd yr achos yn cael ei setlo cyn y gwrandawiad. Bydd y swyddog cymodi’n rhoi gwybod i ni os bydd eich achos yn cael ei setlo trwy Acas.
Os bydd eich hawliad yn setlo trwy ACAS, bydd yr hawliad yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr ar gyfer gwrandawiadau (os rhestrwyd ar gyfer gwrandawiad), a bydd ffeil yr achos yn cael ei dinistrio yn unol â’n polisi dinistrio 12 mis o ddyddiad y setliad.
Hawliadau torri contract
Os nad yw hawlydd yn gyflogedig mwyach, gall ef neu hi wneud hawliad yn erbyn cyflogwr am dorri contract. Mewn rhai amgylchiadau, mae hyn yn rhoi hawl i chi wneud hawliad contract cyflogwr.
Rhaid cynnwys unrhyw hawliad contract cyflogwr o’r fath yn y ffurflen ymateb a rhaid ei wneud cyn pen 28 diwrnod i’r dyddiad yr anfonwyd copi o’r ffurflen hawlio gan y Tribiwnlys.
Gohebiaeth
Pan fyddwn yn ysgrifennu atoch, byddwn yn cyfeirio atoch fel yr ‘atebydd’. Byddwn yn anfon copi o’ch ffurflen ymateb at yr hawlydd. Dan y Rheolau Gweithdrefn, mae’n ofynnol i bartïon anfon copi o unrhyw lythyrau neu ddogfennau y byddant yn eu hanfon i’r tribiwnlys (ar wahân i gais am orchymyn tyst) at bob parti arall a nodi eu bod wedi gwneud hyn. Gallwch ddangos eich bod wedi gwneud hyn, er enghraifft, drwy ddefnyddio “cc”.
Byddwn yn anfon unrhyw benderfyniad neu ddyfarniad y bydd y tribiwnlys yn ei wneud atoch chi ac at yr hawlydd. Rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith os bydd eich manylion cyswllt yn newid. Os oes gennych gynrychiolydd yn gweithredu ar eich rhan, byddwn yn anfon pob gohebiaeth am yr achos atynt ef ac nid atoch chi. Yn ychwanegol at hyn, rhaid i chi anfon unrhyw geisiadau pellach am wybodaeth drwyddynt ac nid yn syth atom ni.
A gaf i ohebu drwy e-bost?
Cewch – gellir gweld rhestr gyflawn o gyfeiriadau e-bost y tribiwnlysoedd cyflogaeth ar gefn y cyhoeddiad hwn. Dylech sicrhau eich bod yn dyfynnu rhif yr achos mewn unrhyw ohebiaeth ym mar teitl yr e-bost a’i anfon i swyddfa’r tribiwnlys sy’n ymdrin â’r hawliad.
Bydd y swyddfa yn cyfathrebu trwy e-bost os yw’n well gennych.
Rhaid i’r dogfennau a anfonir i’r tribiwnlys fod mewn fformat sy’n gydnaws â ‘Word’. Ni fyddwn yn derbyn dogfennau mewn fformatau eraill. Pan fyddwn wedi derbyn eich e-bost, byddwn yn anfon cydnabyddiaeth electronig atoch. Peidiwch ag anfon rhagor o negeseuon e-bost na ffonio swyddfa’r tribiwnlys oni fyddwch heb dderbyn cydnabyddiaeth cyn pen dau ddiwrnod gwaith wedi ichi anfon eich e-bost.
Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod unrhyw ohebiaeth a anfonir drwy e-bost yn cyrraedd y tribiwnlys o fewn y terfyn amser perthnasol.
Os ydych eisiau i ni gyfathrebu â chi drwy e-bost, bydd angen i chi roi cyfeiriad e-bost dilys. Gallwch wneud hyn drwy lenwi bwlch 2.6 ar y ffurflen ymateb neu unrhyw bryd ar ôl hynny. Wrth ofyn i ni gyfathrebu â chi drwy e-bost rydych yn cytuno y byddwch yn edrych am e-byst sy’n dod i mewn o leiaf unwaith y dydd ac y cawn roi eich cyfeiriad e-bost i bobl eraill sy’n gysylltiedig â’r hawliad.
Y gwrandawiad
Bydd dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad, ac amcan o’r hyd a gymerir ar y llythyr a anfonasom atoch gyda’r ffurflen hawlio. Os nad ydych yn siŵr pryd ac ymhle y cynhelir y gwrandawiad, cysylltwch â swyddfa’r tribiwnlys.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd y ganolfan wrandawiadau o leiaf 30 munud cyn mae’r gwrandawiad i fod i ddechrau, gan ganiatáu amser ar gyfer unrhyw oedi posibl wrth deithio. Ar ôl i chi gyrraedd efallai y bydd rhaid i chi aros nes i’r tribiwnlys gwblhau gwrandawiadau eraill.
A allaf ofyn am gael gohirio’r gwrandawiad?
Rhaid i chi wneud unrhyw gais am ohiriad yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo modd gan roi rhesymau llawn dros eich cais. Dylech hefyd anfon copi o’ch cais at yr hawlydd er mwyn iddynt fod yn ymwybodol ohono.
Bydd Barnwr Cyflogaeth yn penderfynu wedyn a ddylid caniatáu estyniad. Os byddwch chi neu’r hawlydd (neu rywun arall sy’n gweithredu ar eich rhan chi neu’r hawlydd) yn methu ag ymddangos mewn gwrandawiad, gall y tribiwnlys benderfynu’r achos yn eich absenoldeb.
Materion rhagarweiniol
Cewch wybod os oes unrhyw faterion rhagarweiniol y bydd angen i’r tribiwnlys benderfynu arnynt, er enghraifft a yw’r hawliad wedi ei gyflwyno i’r tribiwnlys o fewn y cyfnod penodol. Pan fydd materion o’r fath yn codi, fel arfer fe ymdrinnir â hwy mewn gwrandawiad rhagarweiniol.
Paratoi ar gyfer gwrandawiad
Gall fod yn ddefnyddiol gwylio gwrandawiad mewn tribiwnlys er mwyn i chi ddeall y broses a beth sy’n digwydd. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu ag unrhyw swyddfa tribiwnlys a gofyn a oes gwrandawiad addas i chi ei arsylwi.
Pa ddogfennau fydd angen i mi eu cael ar gyfer y gwrandawiad?
Efallai fod gennych ddogfennau sy’n cefnogi’ch amddiffyniad ac rydych am eu cyflwyno gerbron y tribiwnlys fel tystiolaeth. Os yw’r hysbysiad o wrandawiad a gafodd ei anfon gyda’r ffurflen hawlio yn cynnwys gorchmynion rheoli achos sy’n ymwneud â dogfennau, rhaid i chi gydymffurfio â hwy. Os nad ydyw, rhaid i chi dal sicrhau bod yr hawlydd yn cael rhybudd rhesymol (o leiaf saith diwrnod) o’r dogfennau yr ydych yn bwriadu eu defnyddio yn y gwrandawiad.
Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad?
Bydd y tribiwnlys yn penderfynu a fydd yr hawliad yn llwyddo ynteu’n methu, ac os yw’n llwyddo, beth ddylai’r hawlydd ei gael.
Mae’n arferol mewn hawliadau fel yr un rydych chi’n ei amddiffyn, i’r Barnwr Cyflogaeth eistedd ar ben ei hun. Os ydych yn meddwl y dylai tribiwnlys llawn ei wrando, rhowch wybod i’r tribiwnlys yn ysgrifenedig, gan roi eich rhesymau.
Yn ystod y gwrandawiad, bydd y Barnwr Cyflogaeth yn gwneud yn siŵr eich bod yn cymryd y camau a ddisgrifir isod mewn ffordd gymedrol a chall. Fodd bynnag, efallai y bydd rhaid iddo/iddi fod yn gadarn o ran symud yr achos ymlaen i sicrhau ei fod yn mynd rhagddo mewn modd a fydd yn golygu y gellir delio ag ef yn y cyfnod a glustnodwyd.
Fel arfer bydd yr hawlydd yn rhoi tystiolaeth ac yn galw unrhyw dystion yn gyntaf. Fodd bynnag, nid oes rheol bendant o ran pa ochr sy’n mynd gyntaf. Bydd rhaid i chi a’ch tystion roi tystiolaeth ar lw neu drwy gadarnhau. Os byddwch yn dweud celwydd ar ôl tyngu llw neu gadarnhau, gellid eich cael yn euog o anudoniaeth (perjury). Yng Nghymru a Lloegr, os bydd gorchmynion rheoli achos wedi cael eu hanfon gyda’r ffurflen hawlio, mae’n debyg y byddant yn mynnu bod y partïon yn cyfnewid datganiadau tystion erbyn dyddiad penodedig. Bydd datganiadau’r tystion yn cael eu darllen gan y tribiwnlys ac fel arfer ni fydd y tyst yn eu darllen yn uchel yn y gwrandawiad. Yn yr Alban, nid yw datganiadau tystion yn cael eu defnyddio fel arfer ond, mewn rhai achosion, byddant yn cael eu defnyddio os bydd barnwr yn gorchymyn hynny.
Gallwch ofyn cwestiynau i’r hawlydd a’i dystion (gelwir hyn yn ‘croesholi’). Yn olaf, mai’n bosib y bydd y Barnwr Cyflogaeth yn gofyn cwestiynau. Yna, dilynir yr un drefn fel arfer ar gyfer y tystion eraill ac yna gyda’ch tystiolaeth chi.
Yng Nghymru a Lloegr, ar ôl gwrando’r holl dystiolaeth, bydd y Barnwr Cyflogaeth fel arfer yn cyhoeddi’r dyfarniad ac yn rhoi’r rhesymau dros hynny. Yn yr Alban, nid yw’r dyfarniad yn cael ei gyhoeddi mor aml ar ddiwedd gwrandawiad.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Pryd bynnag y bydd hynny’n bosibl, byddwch chi neu eich cynrychiolydd yn cael copi o ddyfarniad y tribiwnlys ar ddiwrnod y gwrandawiad. Os nad yw’n bosib gwneud hyn, byddwch chi neu’ch cynrychiolydd yn cael copi o’r dyfarniad ysgrifenedig cyn gynted ag y bodd ar ôl y gwrandawiad. Rhaid i Tudalen 11 chi gadw at ddyfarniad y Tribiwnlys Cyflogaeth gan ei fod yn eich rhwymo’n gyfreithiol.
Pan roddir y dyfarniad a’r rhesymau drosto ar lafar yn y gwrandawiad, bydd y rhesymau ysgrifenedig dros y dyfarniad yn cael eu rhoi hefyd os gofynnwch amdanynt yn y gwrandawiad neu wneud cais ysgrifenedig cyn pen 14 diwrnod o ddyddiad yr anfonwyd y dyfarniad atoch.
Rhaid i chi fynychu’r gwrandawiad gan fod yn barod i ddelio gyda’r ateb a gynigir er mwyn unioni cam pe bai’r hawlydd yn llwyddiannus.
Os nad ydych yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i’r Tribiwnlys, efallai bydd angen gwrandawiad pellach, a all arwain at orchymyn costau (neu yn Yr Alban, treuliau) yn cael ei wneud yn eich erbyn.
A oes rhaid i mi dalu costau’r hawlydd?
Fel arfer, nac oes. Fodd bynnag, gall y tribiwnlys wneud gorchymyn am gostau neu amser paratoi os yw’n credu eich bod chi neu eich cynrychiolydd wedi ymddwyn yn ymosodol, aflonyddgar neu’n afresymol mewn ffordd arall o ran sut rydych wedi trin eich achos neu os yw’n meddwl bod eich amddiffyniad mor wan fel na ddylai fod wedi ei godi. Cyfeirir at gostau fel treuliau yn Yr Alban.
Hefyd, mae gan Farnwyr Cyflogaeth a thribiwnlysoedd y pŵer, pan fo’r gwrandawiad yn ymwneud â hawliad a wnaed ar neu ar ôl 6 Ebrill 2012, i orchymyn bod parti yn talu costau i unrhyw dyst neu dystion y gofynnwyd iddynt fynychu’r gwrandawiad ar ei ran.
Cosbau ariannol
Bydd gan Tribiwnlysoedd Cyflogaeth bŵer dewisol, pan fo hawliad wedi’i wneud ar ôl 6 Ebrill 2014, i orchymyn bod atebydd sydd wedi colli achos yn talu cosb ariannol hyd at £5,000 os yw’n ystyried bod ‘un neu fwy o nodweddion gwaethygol’ pan dorrodd y cyflogwr hawliau cyflogaeth yr hawlydd. Pennir isafswm unrhyw gosb yn £100.
Gellir gorchymyn cosb ariannol yn erbyn cyflogwr hyd yn oed os nad oes dyfarniad ariannol wedi’i roi i’r hawlydd. Fodd bynnag, os rhoddwyd dyfarniad ariannol, rhaid i’r gosb ariannol fod yn 50% o swm y dyfarniad. Rhaid i dribiwnlysoedd ystyried gallu’r cyflogwr i dalu pan fydd yn penderfynu gorchymyn cosb neu beidio.
Ni thelir cosbau ariannol i’r hawlydd yn yr achos, ond i’r Ysgrifennydd Gwladol ac i Gronfa Gyfunol y Llywodraeth. Os bydd y cyflogwr yn talu’r gosb o fewn 21 diwrnod, bydd y swm sy’n daladwy yn cael ei haneru.
Anabledd neu anghenion arbennig
Os oes gennych chi, neu unrhyw un sy’n dod i dribiwnlys gyda chi, unrhyw anabledd neu angen penodol, dylech gysylltu â’r swyddfa tribiwnlys sy’n ymdrin â’ch achos i drafod y mater. Mae enghreifftiau o’r cymorth y gallwn ei ddarparu yn cynnwys trosglwyddo dogfennau i Braille neu brint mwy, a thalu am ddehonglwyr iaith arwyddion. Gallwn hefyd ddarparu dolenni sain ar gyfer teclynnau clywed yn yr ystafell lle cynhelir y gwrandawiad os byddwch eu hangen. Cysylltwch â ni cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn i ni allu gwneud trefniadau priodol neu addas.
Treuliau
Nid yw Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM, pan fo’r hawliad wedi’i wneud ar neu ar ôl 6 Ebrill 2012, yn talu treuliau na lwfansau partïon, tystion a chynrychiolwyr gwirfoddol sy’n mynychu unrhyw fath o dribiwnlys cyflogaeth (heblaw pan fydd yr unigolyn sy’n mynychu wedi cael ei alw gan y tribiwnlys i roi tystiolaeth feddygol).
Os gwnaethpwyd yr hawliad ar 5 Ebrill 2012, neu cyn hynny, mae taflen ‘Treuliau a lwfansau sy’n daladwy i bartïon a thystion sy’n mynychu Tribiwnlys Cyflogaeth’ ar gael yn: www.gov.uk/government/collections/employment-tribunal-forms.
Safonau’r gwasanaeth
Os ydych yn anhapus ynghylch ein gwasanaeth, cysylltwch ag unrhyw swyddfa tribiwnlys neu ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid i gael copi o’n taflen EX343 - Anhapus â’n gwasanaeth - beth allwch chi ei wneud? Mae’n esbonio ein trefn gwyno.
Swyddfeydd tribiwnlysoedd cyflogaeth
Aberdeen
Ground floor, AB1
48 Huntly Street
Aberdeen
AB10 1SH
Ffôn. 01224 593 137
E-bost: aberdeenet@justice.gov.uk
Bryste
Bristol Civil and Family Justice Centre
2 Redcliff Street
Bryste
BS1 6GR
Ffôn: 0117 929 8261
E-bost: bristolet@justice.gov.uk
Dundee
Ground Floor
Endeavour House
Greenmarket
Dundee
DD1 4BZ
Ffôn: 01382 221578
E-bost: dundeeet@justice.gov.uk
Dwyrain Llundain
2nd Floor, Import Building
2 Clove Crescent
London
E14 2BE
Ffôn: 020 7538 6161
E-bost: eastlondon@justice.gov.uk
Caeredin
54-56 Melville Street
Caeredin
EH3 7HF
Ffôn: 0131 226 5584
E-bost: edinburghet@justice.gov.uk
Glasgow
The Glasgow Tribunals Centre
20 York Street
Glasgow
G2 8GT
Ffôn: 0141 204 0730
E-bost: glasgowet@justice.gov.uk
Leeds
West Gate
6 Grace Street
Leeds
LS1 2RP
Ffôn: 0113 245 9741
E-bost: leedset@justice.gov.uk
Canol Llundain
Victory House
30-34 Kingsway
Llundain
WC2B 6EX
Ffôn: 020 7273 8603
E-bost: londoncentralet@justice.gov.uk
De Llundain
Montague Court
101 London Road
West Croydon
CR0 2RF
Ffôn: 020 8667 9131
E-bost: londonsouthet@justice.gov.uk
Manceinion
Alexandra House
14-22 The Parsonage
Manceinion
M3 2JA
Ffôn: 0161 833 6100
E-bost: manchesteret@justice.gov.uk
Canolbarth Lloegr (Dwyrain)
Nottingham Justice Centre
Carrington Street
Nottingham
NG2 1EE
Ffôn: 0115 947 5701
E-bost: midlandseastet@justice.gov.uk
Canolbarth Lloegr (Gorllewin)
Centre City Tower
7 Hill Street
Birmingham
B5 4UU
Ffôn: 0121 600 7780
E-bost: midlandswestet@justice.gov.uk
Newcastle
Newcastle Civil Family Courts and Tribunal Centre
Barras Bridge
Newcastle Upon Tyne
NE1 8QF
Ffôn: 0191 2058750
E-bost: newcastleet@justice.gov.uk
Cymru
Llys Ynadon Caerdydd a’r Fro
Plas Fitzalan
Caerdydd
De Cymru
CF24 0RZ
Ffôn: 029 2067 8100
E-bost: waleset@justice.gov.uk
Watford
3rd Floor
Radius House
51 Clarendon Rd
Watford
WD17 1HP
Ffôn: 01923 281 750
E-bost: watfordet@justice.gov.uk
Mae ein swyddfeydd ar agor o 9.00 y bore tan 5.00 yr hwyr, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Byddwn yn eich cyfeirio at fap sy’n dangos lleoliad y swyddfa lle mae’r gwrandawiad wedi’i drefnu.