Canllawiau

Nodyn ymarfer y Gwarcheidwad Cyhoeddus (SD15): Sut mae’r OPG yn ymdrin â bondiau sicrwydd

Diweddarwyd 23 June 2023

Applies to England and Wales

1. Crynodeb

Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn goruchwylio dirprwyon a gaiff eu penodi gan y Llys Gwarchod.

Bydd y llys yn dweud wrth y rhan fwyaf o ddirprwyon am gael ‘bond sicrwydd’. Yswiriant yw’r bond sy’n gwarchod asedau’r sawl y mae’r dirprwy’n rheoli ei faterion a’i eiddo ar ei ran.

Mae’r OPG wedi sefydlu cynllun ar gyfer bondiau sicrwydd ond fe all dirprwyon gael bond gan ddarparwr nad yw’n rhan o’r cynllun.

Mae’r nodyn ymarfer hwn yn esbonio’r hyn y mae’r OPG yn ei ddisgwyl gan ddarparwr bondiau, er mwyn i’w fondiau sicrwydd fod yn addas ar gyfer dirprwyon.

2. Rhagarweiniad

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA) yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffyrdd y gellir gwneud penderfyniadau ar ran pobl pan nad ydynt o bosibl yn gallu gwneud penderfyniadau o’r fath eu hunain. Mewn achosion o’r fath, lle bydd gan rywun, (a elwir yn “P”) eiddo neu arian ac nad oes ganddo atwrnai i’w gynrychioli, bydd angen iddo wneud cais i’r Llys Gwarchod (y Llys) am orchymyn priodol.

Os bydd y Llys yn gwneud gorchymyn untro neu’n penodi dirprwy i reoli eiddo a materion P, gall ofyn am sicrwydd ar ffurf bond sicrwydd er mwyn gwarchod asedau P. Bydd y Llys yn penderfynu beth fydd gwerth y bond sicrwydd.

Crëwyd y Gwarcheidwad Cyhoeddus o dan yr MCA ar 1 Hydref 2007. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn Asiantaeth Weithredol i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae’n cefnogi’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau. Mae gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus nifer o swyddogaethau statudol, ac un o’r rheini yw cael y sicrwydd gan ddirprwy neu gan rywun arall yn unol â’r hyn sy’n ofynnol gan y Llys. Caiff y Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd wneud cais i’r Llys orfodi’r bond os bydd y Dirprwy’n torri ei ddyletswydd.

Y rheoliadau sy’n ymwneud â diogelwch yw:

The Lasting Powers of Attorney, Enduring Powers of Attorney and Public Guardian Regulations 2007 (fel y’i diwygiwyd)

Gellir gweld y ddeddfwriaeth ar www.legislation.gov.uk

3. Y Cynllun

Mae Rheoliad 34(4) yn caniatáu i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wneud trefniadau i hwyluso darparu bondiau. Yr enw ar y trefniant hwn gan amlaf yw ‘y Cynllun’. Mae’r Cynllun yn darparu bondiau sicrwydd sy’n addas at ddibenion sicrwydd ar gyfer yr holl ddirprwyon sy’n cael eu penodi gan y Llys.

Ers 1 Ebrill 2023, gweinyddwyr y Cynllun yw Howden Insurance Brokers Limited; Marsh Limited ac Insync Insurance Solutions Ltd.

Nid yw Insync Insurance Solutions Ltd mewn sefyllfa ar hyn o bryd i gynnig bondiau, ond maent yn gweithio’n agos ag OPG i allu darparu bondiau cyn gynted â phosibl.

4. Pwrpas y ddogfen hon

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r hyn y mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei ddisgwyl gan unrhyw gwmni sy’n dymuno darparu bondiau y tu allan i’r Cynllun. Mae angen i ddarparwyr ddangos i ddirprwyon sy’n dymuno symud y tu allan i’r Cynllun eu bod yn deall natur unigryw bondiau dirprwy a’u bod yn bodloni gofynion y Rheoliadau. Rhaid iddynt ddarparu’r amddiffyniad angenrheidiol ar gyfer P. Nid oes gan yr OPG gontract ag unrhyw ddarparwr y tu allan i’r Cynllun ac nid yw’n cymeradwyo nac yn hyrwyddo dim o’r cynnyrch a gynigir.

Ni chaiff y gorchymyn sy’n rhoi’r awdurdod i rywun weithredu fel dirprwy ei ryddhau nes bod y Llys a’r OPG yn fodlon bod y sicrwydd priodol ar waith. Er mwyn hwyluso’r broses hon, byddai’r OPG yn disgwyl cytuno bod y darparwr a’r cynnyrch yn cyflawni gofynion y rheoliadau ac yn cyflawni disgwyliadau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn iddo gael ei ddefnyddio. Fel arall, bydd yn rhaid ymdrin â’r mater fesul achos, ac fe all hyn achosi oedi wrth benodi dirprwy.

Byddai’r OPG yn disgwyl cynnal adolygiad rheolaidd i sicrhau bod darparwr yn cyflawni’r gofynion ac yn cyflawni disgwyliadau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a hynny bob blwyddyn fel rheol.

5. Yr hyn a ddisgwylir gan ddarparwyr

  1. Bydd angen i ddarparwyr allu cymeradwyo bond yn unol â’r hyn a nodir yn rheoliad 34.
  2. Bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn disgwyl i ddarparwyr bondiau gynnal aelodaeth lawn o Gymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) neu ei holynydd neu gymdeithas gyfatebol.

6. Disgwyliadau ynghylch y Bond

Unig bwrpas y sicrwydd a roddir drwy’r bond yw gwarchod P, ac nid yw’n cynnig gwarchodaeth i’r dirprwy. Mae’r disgwyliadau hyn yn rhoi sicrwydd bod y warchodaeth yn gadarn ac yn parhau’n ddi-dor drwy gydol cyfnod y ddirprwyaeth. Dylai darparwyr bondiau ddeall y canlynol:

  • Y llys sy’n pennu swm y sicrwydd sy’n ofynnol ac ni chaiff darparwyr y bond na’r OPG amrywio’r swm hwn;
  • Nid yw’r OPG na’r Llys yn barti i’r bond. Trefniant rhwng y dirprwy a darparwr y bond ydyw;
  • Ar ôl trefnu’r bond, ni chaiff y naill barti na’r llall ei ddiddymu am unrhyw reswm;
  • Dim ond y Llys a gaiff ddiddymu’r bond.
  • Pan ddaw’r ddirprwyaeth i ben, bydd y bond yn dod i ben yn unol â’r amserlenni yn Rheoliad 37(3) fel y’i diwygiwyd.
  • I ddiddymu bond y tu allan i’r amserlenni hyn, bydd gofyn i un o’r partïon wneud cais i’r Llys

7. Gorfodi

Os bydd dirprwy’n methu yn ei ddyletswyddau, gellir gorfodi’r bond os bydd gofyn. Dylai darparwyr bondiau ddeall y canlynol:

  • Caiff y Llys alw i mewn y bond i gyd neu ran ohono hyd at y terfyn a sicrhawyd. Nid oes gofyn profi twyll ac mae’n bosibl na fydd modd pennu swm y golled;
  • Caiff y Llys orchymyn taliad interim, h.y. galw rhan o’r bond i mewn nes bod modd mesur swm y golled;
  • Rhaid i’r Yswiriwr dalu pan orchmynnir iddo wneud heb ddim ymchwiliad pellach;
  • Daw’r hysbysiad ar ffurf Gorchymyn Llys;
  • Disgwylir y bydd gan Yswirwyr yr hawl i adennill y swm y maent wedi’i dalu, a’u treuliau, gan y dirprwy. Mater i’r yswiriwr fydd hwn, ac ni fydd gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus na’r Llys ran ynddo.

8. Dirprwyon sy’n dymuno newid darparwr

Os bydd dirprwy’n dymuno newid darparwr bond, yn ôl Rheoliad 35(3) rhaid i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fod yn fodlon bod gofynion penodol wedi’u cyflawni. Disgwylir i ddarparwyr roi gwybod i’r OPG am unrhyw ddirprwyon sy’n dymuno newid darparwyr.

Bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn disgwyl i ddarparwyr sicrhau bod dirprwyon sy’n dymuno newid darparwr yn deall a wnaiff yr yswiriwr dderbyn atebolrwydd neu beidio am gyfnod sydd wedi heibio gyda golwg ar unrhyw golled yn ystod y ddirprwyaeth, ni waeth pa bryd y digwyddodd hynny. Os na wnaiff dderbyn atebolrwydd am gyfnod sydd wedi mynd heibio, bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn disgwyl i ddarparwr ei gwneud yn glir, oni fydd y bond blaenorol wedi’i ddiddymu, y gall y dirprwy fod yn atebol am dalu premiymau ar gyfer y ddau fond.

9. Newid Swm y Sicrwydd

Dylai darparwyr bondiau ddeall y canlynol:

Caiff y Llys newid swm y sicrwydd sy’n ofynnol unrhyw bryd. Bydd hyn yn digwydd gan amlaf pan fydd cais yn cael ei wneud i roi mwy o hawl i’r dirprwy fynd at yr ar arian. Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn meddwl ei bod yn well, er mwyn sicrhau gwarchodaeth i P, fod geiriad y bond yn sicrhau bod y dirprwy’n derbyn unrhyw gynnydd yn y sicrwydd a’r premiwm heb fod angen llofnodi rhagor o ddogfennau.

Os na fydd hyn yn digwydd, dylai darparwyr bondiau sicrhau bod proses ar waith i hysbysu’r Gwarcheidwad Cyhoeddus os na chaiff newidiadau i’r sicrwydd eu rhoi ar waith, yn unol â gorchymyn y Llys.

10. Cyfnewid Gwybodaeth

Mae’r rheoliadau’n cynnwys gofynion ynghylch cyfnewid gwybodaeth. Byddai’r OPG yn dymuno cytuno â darparwyr sy’n gallu cyflawni’r disgwyliadau uchod ynghylch dull priodol o drosglwyddo gwybodaeth yn electronig

Byddai’r OPG yn awyddus i sicrhau cytundeb rhannu gwybodaeth rhwng y darparwr, y Llys a’r swyddfa ei hun. Disgwylid i’r cytundeb hwnnw gynnwys hysbysu bod bond wedi cael ei roi ar waith, terfynu dirprwyaeth, gorfodi bondiau, a fformat a phatrwm y wybodaeth. Byddai hefyd yn awyddus i gytuno ar amserlenni ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth ac ymateb i geisiadau am wybodaeth gan yr OPG a’r Llys.

11. Cwynion

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn disgwyl i ddarparwyr bondiau bennu gweithdrefn gwyno glir a bod honno ar gael ar ei gwefan. Dylai’r weithdrefn gyflawni gofynion yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol a Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.