Guidance

Police, fire and crime panels guidance (Welsh version)

Updated 16 June 2023

Applies to England and Wales

Rhagair

Trwy ei maniffesto, gwnaeth y Llywodraeth hon ymrwymiad i gryfhau atebolrwydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (CHTh) ac ehangu eu rôl.Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn sylfaen i’n system o lywodraethu plismona lleol ac maent yn chwarae rhan hollbwysig wrth leihau troseddu a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen yn cael eu darparu’n effeithlon ac yn effeithiol ar draws gwasanaethau plismona a thân ac achub.

Rhan hanfodol o’r model craffu sydd ar waith ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yw’r rôl a chwaraeir gan Baneli’r Heddlu, Tân a Throseddu. Trwy Ran Un o’r Adolygiad CHTh, penderfynodd y Swyddfa Gartref fod gan baneli’r pwerau cywir a phriodol wrth iddynt allu craffu’n effeithiol ar Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, a “thaflu goleuni” ar gynnydd y CHTh yn ôl eu Cynllun Heddlu a Throseddu, gan ddarparu tryloywder i’r cyhoedd a’u galluogi i ddal eu CHTh i gyfrif yn y blwch pleidleisio.

Serch hynny, rwyf yn ymwybodol bod yr angen am well arweiniad a hyfforddiant i baneli wedi’i amlygu’n rheolaidd gan randdeiliaid plismona fel maes pwysig i fynd i’r afael ag ef. Dylai hyn alluogi paneli i gyflawni eu rôl yn fwy effeithiol, gan ddarparu cymorth a her adeiladol i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, a gweithredu fel ffrind beirniadol lle bo angen. Dyna pam, ar ôl i Ran Un o’r Adolygiad ddod i ben, ein bod wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â’r Gymdeithas Llywodraeth Leol i ddatblygu pecyn hyfforddi llywodraethu da ar gyfer Paneli.

Felly mae’n bleser gennyf gyflwyno’r canllawiau newydd hyn ar gyfer paneli yng Nghymru a Lloegr sydd wedi’u cynhyrchu gan y Swyddfa Gartref, ar y cyd â Dods Group Ltd.

Mae’r canllawiau newydd hyn wedi’u cynllunio ar gyfer tair cynulleidfa o fewn strwythur y paneli – cadeiryddion, aelodau a swyddogion cynorthwyol – ac maent yn darparu gwybodaeth ymarferol am rolau a chyfrifoldebau statudol y Paneli, ynghyd â sut olwg sydd ar graffu da ac effeithiol.

Fe’i hategir gan sawl canllaw cyfeirio cyflym i amlygu arfer da, ynghyd â chyfres o adnoddau dysgu digidol newydd. Gyda’i gilydd, mae’r adnoddau hyn yn diffinio’r rolau, y cyfrifoldebau a’r ymddygiadau hanfodol sydd eu hangen i ddarparu craffu cyson effeithiol.

Erbyn hyn mae storfa gynyddol o ganllawiau ar gyfer paneli, y mae’r cyhoeddiad newydd hwn wedi’i gynllunio i’w ategu ac i gyd-fynd â nhw. Rwyf yn mawr obeithio y bydd aelodau’r panel yn parhau i elwa ar yr adnoddau addysgol hyn ac yn arddangos bod y dysgu hwn yn cael ei gymhwyso’n ymarferol mewn ardaloedd heddlu lleol.

Rwyf am orffen drwy ddiolch i aelodau paneli ledled Cymru a Lloegr am eich ymrwymiad parhaus i graffu effeithiol, llywodraethu da, a gwasanaeth cyhoeddus. Mae’r rôl rydych yn ei chwarae’n un hanfodol ar gyfer iechyd ac uniondeb democratiaeth leol. Rwyf yn gobeithio y byddwch yn defnyddio’r canllawiau newydd hyn fel arf hanfodol i helpu i gryfhau atebolrwydd CHTh a gwella tryloywder wrth i ni barhau â’n cenhadaeth gyffredin i leihau troseddu a darparu’r strydoedd mwy diogel y mae’r cyhoedd yn eu haeddu.

Y Gwir Anrhydeddus Kit Malthouse AS Gweinidog Gwladol dros Droseddu, Plismona a Phrawf

Plismona yn y Deyrnas Unedig

Mae 43 o heddluoedd tiriogaethol ledled Cymru a Lloegr, heddlu cenedlaethol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, a thri heddlu arbenigol (Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, y Gwnstabliaeth Niwclear Sifil a Heddlu’r Weinyddiaeth Amddiffyn).

Ar y cyfan, mae plismona yn fater datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am benderfynu sut y caiff y rhan fwyaf o wasanaethau heddlu eu trefnu a’u rheoli yn eu gwledydd.

Mae’r 43 o heddluoedd tiriogaethol ledled Cymru a Lloegr yn cynnwys 39 o Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu (CHTh), dau Faer Awdurdod Cyfun, Maer Llundain ac Awdurdod Heddlu Dinas Llundain.

Mae’r canllawiau hyn wedi’u cynllunio’n bennaf ar gyfer y 41 o Baneli Heddlu, Tân a Throseddu ledled Cymru a Lloegr, sydd â naill ai PCC neu Faer Awdurdod Cyfun gyda swyddogaethau CHTh yn goruchwylio’r heddlu yn eu hardal.

Pwrpas Paneli Heddlu, Tân a Throseddu

Rôl y Panel Heddlu, Tân a Throseddu yw craffu ar weithredoedd a phenderfyniadau eu CHTh, gan ddarparu cymorth a her. O hyn ymlaen, dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at ‘banel’ neu ‘baneli’ fel rhai sy’n berthnasol i Baneli Heddlu a Throseddu, a Phaneli Heddlu, Tân a Throseddu.Mae gwahaniaethau yng nghylch gorchwyl neu swyddogaeth y math penodol o banel y cyfeirir ato wedi’u cynnwys yn y ddogfen ganllawiau hon.

Mae paneli’n cyfarfod yn gyhoeddus lle bo modd i sicrhau tryloywder, gan alluogi’r cyhoedd i ddwyn eu CHTh i gyfrif.Mae gan baneli bwerau i graffu ar holl benderfyniadau, gweithredoedd a dogfennau allweddol y CHTh, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth ac ateb cwestiynau. Maent yn gwneud argymhellion ar y Cynllun Heddlu a Throseddu a’r adroddiad blynyddol, y mae’n rhaid i’r CHTh eu hystyried ac ymateb iddynt. Lle mae’r CHTh yn gyfrifol am dân, byddant yn ystyried y Cynllun Tân ac Achub.

Nid oes gan baneli fandad i wneud penderfyniadau gweithredol, gan y byddai hynny’n tanseilio’r CHTh etholedig sy’n uniongyrchol atebol i’r bobl y maent yn eu gwasanaethu.

Cyfrifoldebau a disgwyliadau ar gyfer cadeiryddion, aelodau a swyddogion cynorthwyol

Mae gan gadeiryddion paneli, aelodau a swyddogion cynorthwyol rolau gwahanol gyda nod a rennir: craffu’n gyson ac yn effeithiol ar Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn eu cyd-destun lleol er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i’r cyhoedd.

Cadeiryddion paneli

Mae cadeiryddion yn rheoli cyfarfodydd paneli mewn ffordd amhleidiol, gan ganolbwyntio ar graffu ar gynlluniau a phenderfyniadau i gefnogi a herio’r CHTh. Mae cadeiryddion yn sicrhau bod trafodaethau’n cynnwys mewnbwn gan bawb, gan helpu safbwyntiau croes i gael eu clywed heb ddod yn wrthdrawiadol.

Mae gan gadeiryddion paneli rôl bwysig i nodi a chytuno ar raglen graffu, gyda blaengynllun i gefnogi a herio’r CHTh i gyflawni ei Gynllun Heddlu a Throseddu. Mae cadeiryddion paneli yn gweithredu fel sianel rhwng swyddogion cynorthwyol ac aelodau paneli. Maent yn sicrhau bod aelodau’n derbyn gwybodaethgan swyddogion cynorthwyol i wneud penderfyniadau gwybodus am feysydd i ganolbwyntio eu craffu arnynt.Mae cadeiryddion hefyd yn gweithio gyda swyddogion cynorthwyol i nodi materion sy’n dod i’r amlwg a gosod yr agenda ar gyfer pob cyfarfod panel.

Disgwylir i gadeiryddion paneli gynllunio ar gyfer cyfarfodydd a grwpiau craffu ffurfiol ac anffurfiol drwy ddarllen adroddiadau, paratoi trywyddau ymholi a chynnal ymchwil bersonol. Maent yn cyfrannu at strategaethau holi yn y panel, yn ogystal â gofyn cwestiynau eu hunain. Maent hefyd yn darparu cyngor i’r panel ar reolau gweithdrefnau yn ystod cyfarfodydd.

Mae cadeiryddion yn gweithredu’n glir ac yn awdurdodol i orfodi rheolau cyfarfodydd ac annog cyfranogiad cynhwysol, â ffocws a chytbwys. Maent yn rheoli’r agenda drwy gyflwyno eitemau, crynhoi dadl, canolbwyntio ar ganlyniadau a chyfyngu ar drafodaethau nad ydynt yn cyfrannu at y canlyniadau. Mae gan Gadeiryddion rôl bwysig i’w chwarae i sicrhau bod aelodau’r cyhoedd yn teimlo bod croeso iddynt, yn deall diben y cyfarfod ac yn cydnabod sut y gallant gyfrannu.

Yn ogystal â darparu cyfeiriad a galluogi gwneud penderfyniadau, mae cadeiryddion hefyd yn sicrhau bod camau dilynol yn cael eu cymryd y tu allan i gyfarfodydd y panel, a bod adnoddau panel yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae hyn yn cynnwys datblygu perthnasoedd gwaith da gyda’r panel, a nodi a defnyddio gwybodaeth arbenigol, sgiliau, profiad ac arbenigedd i gyflawni craffu cyson effeithiol ar Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn eu cyd-destun lleol.

Aelodau paneli

Mae aelodau paneli yn ffrind beirniadol i’r CHTh, gan gynnig cydbwysedd o gefnogaeth a her adeiladol gan ddefnyddio data, tystiolaeth ac adnoddau priodol.

Mae rolau statudol aelodau paneli fel sy’n dilyn:

  • craffu ar benderfyniadau a chamau a gymerir gan y CHTh
  • adolygu Cynllun Heddlu a Throseddu drafft y CHTh (a Chynllun Tân ac Achub lle bo’n briodol) a’r adroddiad blynyddol
  • adolygu praesept arfaethedig blynyddol y CHTh
  • adolygu’r penodiad arfaethedig o uwch staff
  • datrys cwynion nad ydynt yn droseddol ynghylch ymddygiad y CHTh
  • gwneud adroddiadau neu argymhellion i’r CHTh yn ôl yr angen

Yn aml, mae’n ofynnol i aelodau ddehongli deunydd ysgrifenedig cymhleth, gan gynnwys gwybodaeth ariannol ac ystadegol a mesurau perfformiad, i nodi’r cwestiynau y gallent ddymuno eu gofyn i’r PCC a thystion eraill. Mae angen i aelodau sefydlu a datblygu perthynas dda gyda chadeirydd y panel, aelodau eraill, aelodau cyfetholedig a swyddogion cynorthwyol i nodi a defnyddio gwybodaeth arbenigol, sgiliau, profiad ac arbenigedd yn effeithiol.

Mewn cyfarfodydd paneli, mae aelodau’n gofyn cwestiynau i’r PCC ac unrhyw dystion i gyfrannu at gyflawni proses gwneud penderfyniadau agored, atebol a thryloyw. Mae aelodau’n gwrando’n ofalus ac yn cwestiynu mewn ffordd sydd yn anfeirniadol, yn parchu cyfrinachedd ac yn helpu’r panel i wneud awgrymiadau ymarferol ar gyfer gwelliannau mewn gwasanaethau.

Mae aelodau’n cymryd agwedd gytbwys, gwrthrychol â meddwl agored, gan herio’n adeiladol ond heb ddod yn wrthdrawiadol. Yn aml, rhaid i aelodau godi uwchlaw’r manylion a gweld materion o safbwynt ehangach, mwy strategol a blaengar, gan wneud unrhyw gysylltiadau priodol. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid iddynt ddatblygu dealltwriaeth dda o gyfrifoldebau’r CHTh a’u hymrwymiadau ynghylch eu Cynllun Heddlu a Throseddu. Mae’n rhaid i aelodau Panel Heddlu, Tân a Throsedd ddatblygu dealltwriaeth dda o’r Cynllun Tân ac Achub, ac efallai y byddant am ystyried cyfethol aelodau sydd â gwybodaeth tân i’w helpu.

Mae’n ofynnol i aelodau gyfathrebu’n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, ag aelodau eraill o’r panel, y CHTh, cynrychiolwyr sefydliadau partner a’r cyhoedd. Mae aelodau yn aml yn cynorthwyo i baratoi adroddiadau a llunio argymhellion ar gyfer y CHTh.

Swyddogion cynorthwyol

Mae swyddogion cynorthwyoli effeithiol yn hanfodol i sicrhau craffu effeithiol. Maent yn darparu cyngor annibynnol a diduedd i gadeiryddion ac aelodau.

Mae eu profiad, eu gwybodaeth a’u cof cyfunol yn galluogi paneli i ddatblygu a chynnal eu mewnbwn waeth beth fo’r newidiadau i aelodau. Maent yn sicrhau bod holl gyfarfodydd a gweithgareddau’r panel yn rhedeg yn esmwyth trwy ystod eang o swyddogaethau cymorth a chynghori, gan gynnwys:

  • trefnu a chynllunio cyfarfodydd paneli, gan gysylltu â chadeiryddion, aelodau a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh)
  • paratoi strategaethau holi ar gyfer y panel a rhoi cyngor i aelodau yn ystod cyfarfodydd
  • cydlynu ceisiadau i’r panel a chefnogi cadeiryddion ac aelodau trwy gynnal ymchwil a darparu cyngor
  • cynnig cymorth dadansoddol a drafftio i’r panel, gan alluogi aelodau i ddeall gwybodaeth a chyflawni eu rolau
  • sicrhau mynediad at gyngor arbenigol ym meysydd cyllid, caffael, diogelwch y cyhoedd a meysydd technegol eraill
  • rheoli unrhyw gŵynion a wneir yn erbyn y CHTh a’r Dirprwy PCC ag awdurdod dirprwyedig y panel, a chysylltu â Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu lle bo’n briodol
  • trefnu gwrandawiadau cadarnhau ar gyfer uwch benodiadau, megis y Prif Gwnstabl, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog Cyllid
  • adolygu gofynion statudol a chanllawiau ar gyfer paneli ac unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth a allai effeithio ar eu gwaith, diwygio gweithdrefnau’r panel lle bo’n briodol
  • cydgysylltu â Swyddog Monitro’r Awdurdod Lleol ar faterion ynghylch y cod ymddygiad ar gyfer aelodau’r panel
  • darparu hyfforddiant parhaus i’r panel, gan gynnwys i aelodau newydd
  • monitro gwariant ar gyllideb y panel, gan sicrhau y caniateir lwfansau a threuliau a delir i aelodau’r panel
  • cydgysylltu â’r Swyddfa Gartref ar weinyddu’r ffrwd grant, gan gynnwys prosesu ceisiadau hawlio canol y flwyddyn a diwedd y flwyddyn
  • sicrhau bod gwefan y panel yn gyfredol a bod ganddi wybodaeth berthnasol i’r cyhoedd ddeall gwaith y panel, gan gynnwys trefniadau aelodaeth, adroddiadau o gyfarfodydd blaenorol a darpariaeth gweddarlledu (lle bo’n berthnasol)

Cyflawni cydbwysedd rhwng craffu a chymorth

Nid yw craffu yn broses arolygu neu ddisgyblu.Mae’n broses a ddefnyddir i archwilio mater yn wrthrychol, yn fanwl ac at ddiben penodol.

Anogir paneli i weithredu gan ddefnyddio pedair egwyddor craffu cyhoeddus da, a amlinellwyd gan y Ganolfan Llywodraethu a Chraffu.

  1. Darparu her ‘ffrind beirniadol’.
  2. Adlewyrchu llais a phryderon y cyhoedd.
  3. Arwain a pherchen ar y broses graffu.
  4. Cael effaith ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae panel yn effeithiol pan fo dealltwriaeth glir gan y cadeirydd, yr aelodau a’r swyddogion cynorthwyol o beth yw rôl, awdurdod a phwerau’r panel. Mae hyn yn galluogi aelodau i ganolbwyntio ar ble y gallant ychwanegu gwerth, gan ddarparu’r lefel gywir o sicrwydd a chymorth i’r CHTh.

Er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng craffu a chymorth, dylai aelodau a swyddogion cynorthwyol weithio i ddatblygu perthnasoedd adeiladol gyda’r OPCC, ynghyd â dealltwriaeth dda o gyfrifoldebau’r CHTh ac ymrwymiadau’r Cynllun Heddlu a Throseddu.

Bydd panel yn cyflawni ei rôl graffu yn fwy effeithiol gyda rhaglen i gyfarwyddo ei waith. I adeiladu rhaglen, dylai’r cadeirydd weithio gydag aelodau’r panel a swyddogion cynorthwyol i:

  • cyfarfod yn anffurfiol i gynhyrchu syniadau ar gyfer elfennau rhaglen waith – gall fod yn ddefnyddiol cysylltu â’r OPCC i sicrhau bod blaengynlluniau yn cyd-fynd â rhai’r CHTh
  • sicrhau bod y rhaglen waith yn cynnwys digon o amser i:
    • cyflawni tasgau statudol y panel
    • craffu ar y gyllideb a sut mae’n adlewyrchu’r blaenoriaethau yn y Cynllun Heddlu a Throseddu
    • gofyn cwestiynau am y strategaeth, y canlyniadau, a sut mae’r cynlluniau a’r cyllidebau wedi’u cysylltu â darparu gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon i bobl leol
    • ceisio adborth allanol gan grwpiau cymorth i ddioddefwyr, y Comisiynydd Dioddefwyr a rhanddeiliaid lleol eraill
    • strwythuro ymweliadau, cyflwyniadau a digwyddiadau allanol ar agweddau allweddol ar y gwasanaeth
    • cynnwys digon o gyfarfodydd i ledaenu’r gwaith ac osgoi gorlwytho gwybodaeth – gall sesiynau briffio anffurfiol cynnar i egluro data, adroddiadau a gwybodaeth arall fod yn ddefnyddiol

Rôl a phwerau paneli

Mae pwerau a chyfrifoldebau paneli wedi’u nodi yn adrannau 28 i 30 ac adrannau 32 i 33 Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (‘Deddf 2011’ o hyn ymlaen), ac yn atodlenni 1, 3, 5, 7 ac 8.

Gyda’i gilydd, maent yn rhoi’r awdurdod i baneli i:

  • craffu ar bob penderfyniad neu weithred mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r CHTh
  • rhoi feto ar benodiadau’r Prif Gwnstabl (gyda mwyafrif o ddau draean)
  • rhoi feto ar y praesept arfaethedig (dim ond y praesept arfaethedig cyntaf y gall y panel roi feto arno, sy’n galw am fwyafrif o ddau draean)
  • mynnu bod y CHTh yn darparu gwybodaeth ac yn ateb cwestiynau (ar rybudd rhesymol)

  • o gwneud adroddiadau ac argymhellion ar y Cynllun Heddlu a Throseddu a’r adroddiad blynyddol, y mae’n rhaid i’r CHTh eu hystyried ac ymateb iddynt

  • cynnal cyfarfodydd cyhoeddus i drafod yr adroddiad blynyddol ac i gwestiynu’r CHTh ar ei gynnwys
  • cynnal gwrandawiadau cadarnhau pan yw CHTh yn bwriadu penodi Prif Gwnstabl (a Phrif Swyddog Tân, lle bo’n briodol), Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Prif Weithredwr neu Brif Swyddog Cyllid
  • gweithio i ddatrys cwynion nad ydynt yn droseddol a wneir am y CHTh
  • cyhoeddi’r holl adroddiadau ac argymhellion y mae’n eu gwneud
  • atal y CHTh perthnasol dros dro os yw’n cael ei gyhuddo o drosedd y gellir ei garcharu amdani sy’n cario cyfnod hwyaf o ddwy flynedd neu fwy
  • penodi CHTh dros dro os na all yr un etholedig gyflawni ei rôl oherwydd analluogrwydd, ataliad, ymddiswyddiad neu waharddiad
  • chwarae rôl mewn unrhyw alwad a wneir gan CHTh i Brif Gwnstabl ymddiswyddo neu ymddeol o danadran 38 Deddf 2011

Paneli Heddlu, Tân a Throseddu

O dan bwerau yn Neddf Plismona a Throsedd 2017 (‘Deddf 2017’ o hyn ymlaen), mae’r Comisiynwyr yn gallu cymryd cyfrifoldeb am wasanaethau tân ac achub yn eu hardal heddlu, lle mae cytundeb lleol, a dod yn Awdurdod Tân ac Achub. Lle mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn ymgymryd â’r swyddogaethau hyn, fe’u gelwir yn Gomisiynwyr yr Heddlu, Tân a Throseddu (PFCCs). Yn yr un modd, bydd paneli yn yr ardaloedd hynny yn newid eu henw i Baneli Heddlu, Tân a Throseddu, fel y nodir yn Neddf 2017.

Ar hyn o bryd mae’n ofynnol i CHTh sydd am gymryd cyfrifoldeb am ei wasanaeth tân ac achub lleol ddatblygu achos busnes cadarn sy’n nodi sut mae’r newid mewn llywodraethu er budd economi, effeithlonrwydd effeithiolrwydd a diogelwch y cyhoedd. Rhaid i’r CHTh hefyd ymgynghori ar yr achos busnes yn lleol cyn ei gyflwyno i’r Ysgrifennydd Cartref i’w gymeradwyo.

Hyd yn hyn, mae’r pedair ardal ddilynol wedi cymryd cyfrifoldeb am y gwasanaethau tân ac achub:

  • Essex
  • Swydd Northampton
  • Gogledd Swydd Efrog
  • Swydd Stafford

Swyddogaethau ychwanegol

Mae gofynion newydd a osodwyd ar Baneli Heddlu, Tân a Throseddu o dan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 fel sy’n dilyn:

  • craffu ar gyfrifoldebau Awdurdod Tân ac Achub y PFCC
  • craffu ar y Cynllun Tân ac Achub a gwneud adroddiadau neu argymhellion i’r PFCC
  • adolygu’r datganiad tân ac achub, gan gynnwys trefnu cyfarfod cyhoeddus cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl derbyn y datganiad, a gofyn cwestiynau priodol i’r PFCC yn y cyfarfod
  • mynnu bod y PFCC yn darparu unrhyw wybodaeth angenrheidiol i alluogi’r panel i gyflawni ei swyddogaethau
  • mynnu bod y PFCC a staff yn darparu gwybodaeth neu’n mynychu cyfarfodydd y panel
  • cadarnhau penodiad y prif swyddog tân
  • craffu ar y praesept tân ac achub

Meiri Awdurdodau Cyfunol

Ar hyn o bryd, mae dau Faer Awdurdod Cyfun a etholir yn uniongyrchol sy’n arfer swyddogaethau CHTh, sef Gorllewin Swydd Efrog a Manceinion Fwyaf (yn ogystal â Maer Llundain, sy’n dal yr hyn sy’n cyfateb i swyddogaethau CHTh ar gyfer ardal yr Heddlu Metropolitanaidd). Mae Paneli Heddlu a Throseddu’n craffu ar Feiri a Dirprwy Feiri ar gyfer Plismona a Throseddu o ran eu hymarfer o swyddogaethau CHTh, yn yr un modd ag y maent yn craffu ar CHTh. Nid oes gan yr awdurdod cyfunol rôl o ran craffu ar y maer mewn perthynas â’i swyddogaethau CHTh.

Pwyllgor Heddlu a Throseddu Llundain

Mae gan y Pwyllgor Heddlu a Throseddu swyddogaethau tebyg i baneli yng Nghymru a Lloegr, gyda rhai eithriadau. Mae’n ofynnol i’r pwyllgor:

  • adolygu’r Cynllun Heddlu a Throseddu drafft a’r adroddiad blynyddol
  • gofyn cwestiynau i Swyddfa’r Maer dros Blismona a Throseddu mewn cyfarfodydd cyhoeddus
  • cynnal cyfarfodydd cadarnhau mewn perthynas â’r ymgeisydd arfaethedig ar gyfer Dirprwy Faer Plismona a Throseddu
  • mynd i’r afael â chwynion ymddygiad am Swyddfa’r Maer ar gyfer Plismona a Throseddu a’r Dirprwy Faer Plismona a Throseddu

Nid oes angen i Gomisiynydd Heddlu Llundain gael gwrandawiad cadarnhau gan y Pwyllgor Heddlu a Throseddu, gan mai penodiad brenhinol yw’r swydd hon.

Dinas Llundain

Mae Awdurdod Heddlu Heddlu Dinas Llundain wedi’i furfio o Lys Cyngor Cyffredin Corfforaeth Dinas Llundain. Mae’r llys yn dirprwyo’rddyletswydd hon yn bennaf i Fwrdd Awdurdod yr Heddlu, ac eithrio penodiad Comisiynydd yr Heddlu. Mae’r bwrdd yn craffu ar waith Heddlu Dinas Llundain, gan ddwyn y comisiynydd i gyfrif, gosod blaenoriaethau plismona a sicrhau gwerth am arian.

Trefniadau paneli

Gweinyddu paneli

Mae pob panel yn cael ei gynnal gan awdurdod lleol o fewn ardal yr heddlu, a elwir yn ‘awdurdod cynnal’. Yr awdurdod cynnal sy’n gyfrifol am sefydlu a chynnal panel, a chaiff ei gynrychioli ar y panel bob amser.

Mae’r awdurdod cynnal yn sicrhau bod adnoddau ar gael er mwyn i’r panel allu cynnal cyfarfodydd a chyflawni eu busnes. Telir cyllid grant gan y Swyddfa Gartref i awdurdodau cynnal sydd ag ôl-ddyledion, a nodir mewn cytundeb grant blynyddol. Rhaid i dderbynwyr grantiau arddangos gwariant a rhagfynegi alldro, gan fanylu ar gynnydd yn ôl dangosyddion perfformiad allweddol i hawlio’r cyllid grant.

Yn ogystal, rhaid i’r awdurdod cynnal ddarparu cymorth gweinyddol, cyngor cyfreithiol, cyfathrebu a chymorth gwasanaethau democrataidd i’r panel.Mae’r awdurdod cynnal hefyd yn gwneud unrhyw geisiadau perthnasol ar ran y panel i’r Swyddfa Gartref – er enghraifft, ceisiadau ynghylch newid aelodaeth neu geisiadau am grantiau yng nghanol y flwyddyn.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n ofynnol i baneli gynnal eu cyfarfodydd lle mae aelodau’r cyhoedd hefyd yn gallu mynychu neu wylio trwy weddarllediad. Mae adegau penodol pan fydd angen cynnal cyfarfod panel yn breifat o bosibl – er enghraifft, wrth ymdrin â chwynion penodol neu’r broses adran 38 (diarddel Prif Gwnstabl).

Ar gyfartaledd, mae paneli’n cyfarfod rhwng pedair a chwe gwaith y flwyddyn, gyda rhwymedigaeth statudol i gynnal pedwar cyfarfod cyhoeddus bob blwyddyn. Gallai rhai gyfarfod yn amlach, yn dibynnu ar eu rhaglenni gwaith. Cyhoeddir yr holl agendâu a chofnodion naill ai ar wefan y panel ei hun neu ar wefan yr awdurdod cynnal.

Rheolau gweithdrefnau

O dan atodlen 6 Deddf 2011, rhaid i banel gael rheolau gweithdrefnau sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer penodi cadeirydd panel ac ymddiswyddiad a diswyddiad cadeirydd panel. Mae’r rheolau gweithdrefnau’n cynnwys y dull o wneud penderfyniadau a ffurfio is-bwyllgorau. Ni chaiff is-bwyllgor o banel gyfethol aelodau.

Yn ogystal, gallai’r rheolau gweithdrefnau gynnwys:

  • memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng y CHTh a’r panel
  • cyfnodau penodol yn y swydd ar gyfer aelodau’r panel
  • gweithdrefnau i fonitro ac olrhain perfformiad paneli
  • trefniadau adrodd rhwng aelodau etholedig y paneli a’u hawdurdodau lleol priodol
  • ymgysylltu gan aelodau’r cyhoedd â gwaith y panel
  • gwybodaeth am adnoddau a lwfansau

Aelodaeth paneli

Mae panel yn cynnwys aelodau awdurdodau lleol, ynghyd ag o leiaf dau aelod cyfetholedig annibynnol.

Mae o leiaf un cynrychiolydd etholedig (cynghorwyr neu, lle bo’n berthnasol, maer etholedig) o bob awdurdod lleol yn ardal yr heddlu, ag o leiaf deg cynrychiolydd etholedig ar y panel i gyd. Mewn ardaloedd gyda llai na deg awdurdod lleol, dyrennir un aelod i bob awdurdod a bydd dosbarthiad y seddi sy’n weddill yn cael ei drafod rhwng awdurdodau lleol.

Yn Lloegr, cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol dan sylw yw ffurfio a chynnal paneli ar gyfer eu hardal heddlu. Yng Nghymru, gan fod llywodraeth leol yn gymhwysedd datganoledig, penodir aelodau’r panel yn uniongyrchol gan yr Ysgrifennydd Cartref. Mewn rhai achosion, gall yr Ysgrifennydd Cartref ddewis dirprwyo awdurdod i gymeradwyo penodiadau aelodaeth panel i’r Gweinidog dros Droseddu, Plismona a Phrawf.

Wrth benodi aelodau paneli, rhaid i awdurdodau lleol ystyried, cyn belled ag y bo’n ymarferol, yr amcan penodi cytbwys a nodir yn Neddf 2011. Mae hyn yn cynnwys cyfansoddiad yr ardaloedd lleol, gan gynnwys y cyfansoddiad gwleidyddol, a’r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad angenrheidiol i’r panel weithredu’n effeithiol. Gyda chaniatâd yr Ysgrifennydd Cartref, gall paneli gyfethol rhagor o aelodau etholedig ac annibynnol, hyd at uchafswm panel o ugain.

Mae gofynion aelodaeth y panel wedi’u nodi o dan adran 28 ac atodlen 6 Deddf 2011.

Paneli yn Lloegr

Corff o awdurdodau lleol o fewn ardal yr heddlu yw paneli yn Lloegr. Oherwydd hynny, mae’n ofynnol i’r awdurdodau lleol enwebu a phenodi cynghorwyr etholedig i’r panel. Os yw nifer penodedig aelodau’r panel yn llai na’r hyn sy’n ofynnol, neu os yw awdurdod lleol perthnasol wedi methu â phenodi un neu fwy o’i gynghorwyr, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol bwerau o dan Ddeddf 2011 i benodi cynghorwyr etholedig i’r panel. Gellir gweld canllawiau ar y broses hon yma.

Paneli yng Nghymru

Nid yw paneli yng Nghymru yn gyrff awdurdod lleol fel y maent yn Lloegr, oherwydd trefniadau datganoledig ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Er bod y gofynion ynghylch aelodaeth yr un fath ag ar gyfer paneli Lloegr, mae’r broses ar gyfer enwebu a phenodi aelodau yn wahanol. Yng Nghymru, mae awdurdodau lleol yn cynnig enwebiadau aelodau i’r awdurdod cynnal ar gyfer y panel, sydd yn ei dro yn cyflwyno enwebeion i’r Ysgrifennydd Cartref i’w hystyried a chytuno arnynt.

Gwneir hyn fel arfer drwy e-bost gan yr awdurdod lletyol ar gyfer y panel i fewnflwch y Swyddfa Gartref pccpartnersenquiries@homeoffice.gov.uk. Dylai’r awdurdod cynnal gadarnhau enw’r aelod etholedig neu’r aelod annibynnol o’r panel, cadarnhau eu bod wedi derbyn yr enwebiad, a nodi i ba blaid wleidyddol y mae’n perthyn, lle bo’n berthnasol.

Os yw awdurdod lleol yng Nghymru yn methu â gwneud yr enwebiad angenrheidiol, neu os nad yw ei enwebai’n derbyn yr enwebiad, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol naill ai:

  • gofyn i’r awdurdod wneud enwebiad arall
  • enwebu cynghorydd awdurdod lleol perthnasol i fod yn aelod o’r Panel Heddlu a Throseddu - os yw’r cynghorydd enwebedig yn derbyn, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol ei benodi’n aelod o’r panel ond os yw’n gwrthod, rhaid enwebu cynghorydd arall i awdurdod lleol perthnasol

Cyfethol aelodau paneli

Gellir gwneud ceisiadau i gyfethol aelodau ychwanegol i baneli am y naill neu’r llall o ddau reswm.

1. Cyfethol aelodau annibynnol ychwanegol (h.y. mwy na dau) – gallai hyn fod i sicrhau bod y panel yn bodloni’r amcan penodi cytbwys, fel bod ganddo’r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad angenrheidiol.

2. Cyfethol aelodau etholedig ychwanegol – yn ogystal â’r uchod, efallai y gofynnir am aelodau etholedig ychwanegol i sicrhau bod y panel yn cynrychioli pob rhan o’r ardal heddlu berthnasol a chyfansoddiad gwleidyddol yr awdurdodau lleol perthnasol.

IOs yw paneli yn dymuno penodi aelodau cyfetholedig ychwanegol, dylent gysylltu â pccpartnersenquiries@homeoffice.gov.uk i lenwi’r ffurflen gyfethol angenrheidiol.

Bydd y Swyddfa Gartref yn adolygu’r cais i sicrhau ei fod yn bodloni’r meini prawf a nodir yn atodlen 6 o Ddeddf 2011, cyn cyflwyno cyngor i’r Gweinidog Gwladol dros Droseddu, Plismona a Phrawf (mae gan yr Ysgrifennydd Cartref awdurdod dirprwyedig i gymeradwyo ceisiadau am newid panel i’r Gweinidog Gwladol dros Droseddu, Plismona a Phrawf).

Trefniadau cyllid

Mae’r Swyddfa Gartref yn darparu cyllid i gefnogi paneli i gyflawni eu swyddogaethau statudol, fel y nodir o dan atodlen 6 Deddf 2011.

Pan gyflwynodd y Swyddfa Gartref baneli yn 2012, dyrannwyd ffrwd grant blynyddol o £2.7 miliwn i grŵp diogelwch y cyhoedd yr adran (y grŵp troseddu, plismona a thân yn flaenorol) a’i gweinyddwyd gan Uned Strategaeth a Diwygio’r Heddlu, i sicrhau bod trefniadau craffu lleol effeithiol ar waith.

Darperir cyfanswm blynyddol o £53,300 ar gyfer cymorth a chostau rhedeg fesul panel, gyda phaneli Cymreig yn cael cyllid ychwanegol o £5,715 ar gyfer costau cyfieithu.

Ychwanegir cyllid o £920 fesul aelod panel y flwyddyn at gyfanswm y grant ar gyfer pob panel. Mae hyn yn golygu bod cyfanswm yr amlen ariannu ar gyfer pob panel yn dibynnu ar faint eu haelodaeth, gyda phaneli’n amrywio o 12 i 20 aelod.

Defnyddir y grant fel arfer i dalu costau cyflogi swyddog cynorthwyol, hyfforddiant a datblygiad i aelodau, treuliau, a chaffael gwasanaethau perthnasol (er enghraifft, cymorth i dudalennau gwe neu ddarlledu cyfarfodydd cyhoeddus paneli ar-lein).

Tua dechrau pob blwyddyn ariannol newydd, rhaid i’r awdurdod cynnal ddychwelyd cytundeb grant wedi’i lofnodi i’r Swyddfa Gartref, er mwyn sicrhau bod y ddau barti’n cydymffurfio â’r telerau ac amodau sy’n rhwymo o dan y gyfraith, drwy gydol y cyfnod y mae gwariant cymwys yn cael ei hawlio ar ei gyfer.

Mae paneli’n cyflwyno datganiadau i’r Swyddfa Gartref yn gofyn am daliad mewn ôl-daliadau hanner ffordd drwy’r flwyddyn ariannol, ac eto ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Er mwyn sbarduno taliadau canol y flwyddyn a diwedd y flwyddyn, mae’r Swyddfa Gartref angen copi o Atodiad A y cytundeb grant, wedi’i lofnodi’n briodol gan uwch swyddog cyllid addas o’r awdurdod cynnal.

Fel rhan o’r cytundeb grant, mae’r Swyddfa Gartref hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynnal gyflwyno rhagolwg alldro er mwyn parhau i fod yn gymwys am daliad grant ar gyfer ail hanner y flwyddyn ariannol, a datganiad alldro yn manylu ar ddadansoddiad o wariant ac incwm ar gyfer y cyfnod ariannu cyfan.

Oherwydd natur unigryw’r gwaith, dyfernir ffrwd grant y paneli yn uniongyrchol i’r awdurdodau cynnal ac felly nid yw’n broses fasnachol gystadleuol. Fodd bynnag, mae’n ofynnol yn flynyddol i’r Swyddfa Gartref geisio cymeradwyaeth ddirprwyedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ymestyn y ffrwd grant am flwyddyn ariannol arall a gofyn am yr awdurdod deddfwriaethol angenrheidiol gan Drysorlys EM.

Caniateir trosglwyddo gweinyddiaeth grant panel o un awdurdod cynnal i’r llall, cyn belled ag y gellir dod i gytundeb unfrydol rhwng awdurdodau lleol cyfansoddol mewn ardal banel. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd llofnodwr gwreiddiol y cytundeb grant mewn unrhyw flwyddyn ariannol benodol yn parhau i dderbyn cyllid tan ddechrau blwyddyn ariannol newydd, pan fydd gweinyddiaeth y panel yn newid i’r awdurdod cynnal newydd.

Swyddogaethau allweddol paneli

Craffu’r Cynllun Heddlu a Throseddu a’r adroddiad blynyddol

Rhaid ymgynghori â phanel ar Gynllun Heddlu a Throseddu drafft y CHTh a’i adolygu. Lle mae’r CHTh yn gyfrifol am dân, rhaid i’r panel ystyried y Cynllun Tân ac Achub.

Mae’r panel yn cynhyrchu adroddiad ar y cynllun drafft, gan geisio barn allanol lle bo’n briodol a chynhyrchu cyfres o argymhellion adeiladol ar gyfer y CHTh.

Dylai’r panel graffu ar sut mae’r cynllun drafft yn ystyried amcanion heddlu a throseddu lleol y CHTh, a’r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni blaenoriaethau strategol yn effeithiol.

Dylai’r panel sicrhau bod y cynllun yn cynnwys mesurau llwyddiant strategol, cytuno sut y bydd y CHTh yn cael ei graffu ar gyfer cyflawni blaenoriaethau, a bod yn ymwybodol o lwyddiannau a heriau presennol a chyfleoedd yn y dyfodol.

Dylid hefyd ystyried adroddiad blynyddol y CHTh a phartneriaethau strategol perthnasol ar draws ardal yr heddlu a fyddai’n sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflawni.

Gall y panel ofyn i’r CHTh fod yn bresennol i gyflwyno’r Cynllun Heddlu a Throseddu mewn cyfarfod cyhoeddus ffurfiol.
Rhaid i’r CHTh hefyd gyhoeddi adroddiad blynyddol, sy’n nodi’r cynnydd ar ddiwallu blaenoriaethau’r Cynllun Heddlu a Throseddu yn ystod y flwyddyn ariannol.

Rhaid i’r panel ofyn i’r CHTh fynychu cyfarfod cyhoeddus er mwyn craffu ar yr adroddiad blynyddol ac ystyried sut y gellir ei ddatblygu neu ei wella.

Dylai ffocws craffu’r panel gael ei roi ar lefel strategol a dylai ganolbwyntio ar ganlyniadau, wedi’i lywio gan fanylion perfformiad drwy gydol y flwyddyn flaenorol. Er mwyn cael y gwerth gorau posibl o gyfarfod adroddiad blynyddol, ni ddylai aelodau’r panel geisio amlygu anghywirdebau ffeithiol na chyflwyno enghreifftiau neu fanylion ychwanegol sy’n benodol i gyflenwi gweithredol.

Nid yw’r panel yno i graffu ar unrhyw agwedd ar berfformiad yr heddlu, ond yn hytrach dylai gefnogi’r CHTh i ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif.

Ymwybyddiaeth ariannol (ar gyfer craffu ar y praesept)

Prif ffynhonnell cyllid heb ei glustnodi ar gyfer y 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yw setliad cyllid blynyddol yr heddlu. Y Swyddfa Gartref sy’n gyfrifol am gyflenwi’r setliad sy’n cadarnhau faint y bydd heddluoedd yn ei dderbyn bob blwyddyn o grantiau’r llywodraeth, yn ogystal â faint y gall Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ei godi drwy braesept y dreth gyngor leol. Mae polisi’r dreth gyngor wedi’i ddatganoli yng Nghymru ac felly, nid yw heddluoedd Cymru wedi’u rhwymo gan derfynau praesept a bennir drwy’r setliad.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r Swyddfa Gartref wedi anelu at gyhoeddi setliad dros dro tua diwedd y flwyddyn galendr i gynnig mwy o sicrwydd i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ynghylch eu cyllid yn y dyfodol, a chaniatáu i’r cyhoedd graffu ac ymgynghori cyn gwneud penderfyniadau terfynol. Ar gyfer y setliad dros dro, gosodir adroddiad dros dro yn y Senedd a chyhoeddir y manylion ar y wefan GOV.UK, ynghyd â datganiad gweinidogol ysgrifenedig fel arfer.

Unwaith y bydd yr ymgynghori wedi’i gwblhau a’r penderfyniadau polisi terfynol wedi’u gwneud, bydd setliad terfynol yn digwydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol. Mae hyn yn cadarnhau’r ffigurau ariannu terfynol ar gyfer lluoedd ac mae fel arfer yn destun dadl seneddol.

Mae gosod praesept treth gyngor blynyddol yn ddewis arwyddocaol i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu etholedig o ran sut y maent yn rheoli eu cyllideb gyffredinol. Mae lefelau treth gyngor yn benderfyniad lleol, a bydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu am ystyried yr hyn y maent yn gofyn i bobl ei dalu i gadw ein strydoedd yn ddiogel. Er mwyn helpu i lywio eu hystyriaeth o braesept arfaethedig y CHTh, efallai y bydd paneli am ymgyfarwyddo â manylion setliad yr heddlu, gan gynnwys faint o hyblygrwydd sydd gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i godi arian ychwanegol yn lleol o braesept y dreth gyngor.

Craffu ar y praesept

Mae gan baneli rôl wrth adolygu praesept arfaethedig y CHTh, gyda’r pŵer i roi feto ar y praesept os ydynt yn ystyried ei fod yn rhy uchel neu’n rhy isel.

Mae deddfwriaeth sylfaenol (atodlen 5 o Ddeddf 2011) yn esbonio’r broses ar gyfer craffu gan banel ar braesept arfaethedig y CHTh. Dylid darllen hwn ochr yn ochr â rheoliadau cysylltiedig, lle amlinellir:

  • rhaid i’r CHTh hysbysu’r panel o’i braesept arfaethedig erbyn 1 Chwefror bob blwyddyn
  • rhaid i’r panel adolygu’r praesept arfaethedig a chyflwyno adroddiad i’r CHTh erbyn 8 Chwefror – os yw’r panel yn rhoi feto ar y praesept arfaethedig, rhaid i’w adroddiad gynnwys datganiad yn cadarnhau hyn.
  • lle nad yw’r panel yn rhoi feto ar y praesept, rhaid i’r CHTh ymateb i adroddiad y panel a chyhoeddi ei ymateb, cyn cyhoeddi’r praesept arfaethedig
  • pan yw’r panel yn rhoi feto ar y praesept, rhaid i’r CHTh roi sylw i’w adroddiad a chyhoeddi ymateb (gan gynnwys ei braesept diwygiedig) erbyn 15 Chwefror
  • ar ôl derbyn ymateb y CHTh a’r praesept diwygiedig, rhaid i’r panel adolygu a gwneud ail adroddiad i’r CHTh erbyn 22 Chwefror
  • rhaid i’r CHTh roi sylw i’r ail adroddiad a wneir gan y panel a chyhoeddi ei ymateb erbyn 1 Mawrth – mae hyn yn dod â’r broses graffu i ben, lle bydd y CHTh yn cyhoeddi praesept diwygiedig neu braesept gwahanol

Dim ond y praesept arfaethedig cyntaf y gall y panel roi feto arno. Rhaid i ddau draean o aelodau’r panel gytuno ar benderfyniad i roi feto (nid dim ond y rhai sy’n bresennol yn y cyfarfod).

Os yw’r panel yn methu ag adrodd i’r CHTh erbyn 8 Chwefror, daw’r broses graffu i ben, hyd yn oed os yw’r panel wedi pleidleisio i roi feto ar y praesept arfaethedig.Gall y CHTh symud ymlaen i gyhoeddi’r praesept arfaethedig.

Lle mae adroddiad y panel yn nodi bod y praesept wedi cael feto oherwydd ei fod yn rhy uchel, rhaid i’r praesept diwygiedig fod yn is na’r cynnig blaenorol. Yn yr un modd, pe byddai’n cael feto oherwydd ei fod yn rhy isel, rhaid i’r praesept diwygiedig fod yn uwch na’r cynnig blaenorol.

Trin cwynion

Mae gan baneli nifer o swyddogaethau mewn perthynas â chwynion a wneir am ymddygiad CHTh. O dan y rheoliadau, rhennir cwynion a materion ymddygiad yn:

  • cwynion - am ymddygiad CHTh
  • cwynion difrifol - honiadau bod y CHTh wedi cyflawni trosedd
  • mater ynghylch ymddygiad - arwydd bod y CHTh wedi cyflawni trosedd sydd wedi dod i’r amlwg heblaw trwy gŵyn

Gall y panel ddewis dirprwyoei holl swyddogaethau cwyno, rhai neu ddim o gwbl o’i swyddogaethau cwynion, neu eu dirprwyo mewn amgylchiadau penodol yn unig.Er enghraifft, mae rhai paneli wedi dewis dirprwyo’r driniaeth gychwynnol o gŵynion i brif weithredwr y CHTh, oherwydd efallai mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i gynnal sifft gychwynnol o’r materion a godwyd i benderfynu sut y dylid ymdrin â’r gŵyn.

Ar gyfer cwynion nad ydynt yn cael eu trin gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, rhaid i’r panel drefnu iddynt gael eu datrys yn anffurfiol o dan y rheoliadau. Gellir dirprwyo hyn i is-bwyllgor neu aelod unigol o’r panel.

Fodd bynnag, y panel sy’n gyfrifol yn y pen draw am drin cwynion, ac maent yn cadw’r gallu i adfer y broses anffurfiol o ddatrys cwyn nad yw’n droseddol os ydynt yn ystyried bod angen gwneud hynny.

Ni ddylai gweithdrefnau ar gyfer datrysiad anffurfiol gynnwys ymchwilio i’r gŵyn. Nid yw defnydd y panel o’i bwerau i’w gwneud yn ofynnol i’r CHTh ddarparu gwybodaeth a mynychu’r panel i ateb cwestiynau yn gyfystyr ag ymchwiliad at y dibenion hyn. Fodd bynnag, bydd unrhyw gam arall y bwriedir iddo gasglu gwybodaeth am y gŵyn, heblaw gwahodd sylwadau’r achwynydd a’r PCC, yn gyfystyr ag ymchwiliad.

Pa drefniadau bynnag a roddir ar waith gan banel i gyflawni eu swyddogaethau cwynion, dylai’r gweithdrefnau fod yn glir, yn gymesur ac yn ddiduedd er mwyn sicrhau tegwch i’r achwynydd ac i’r PCC.

Apwyntiadau a chadarnhadau

Mater i’r CHTh yw penodi uwch aelodau o staff i’w swydd (ceir y manylion yn atodlen 1 o Ddeddf 2011), gan gynnwys y Prif Weithredwr, y Prif Swyddog Cyllid a’r Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu. Mae hefyd yn ofynnol i’r CHTh benodi’r Prif Gwnstabl ar gyfer ei ardal heddlu (adran 2, adran 38 ac atodlen 2). Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi rheoliadau cysylltiedig ar wahân sy’n canolbwyntio ar rôl y panel wrth graffu ar benodiad Prif Gwnstabl arfaethedig y CHTh.

Mae’n ofynnol i’r CHTh geisio barn y panel ar gyfer ei ardal heddlu wrth benodi’r swyddi hyn. Amlinellir y broses hon isod.

1. Rhaid i’r CHTh hysbysu’r panel o’r penodiad arfaethedig, gan roi gwybodaeth ar:

  • enw’r ymgeisydd
  • meini prawf a ddefnyddiwyd i asesu’r ymgeisydd
  • sut y bodlonodd yr ymgeisydd y meini prawf
  • y telerau ac amodau y penodir yr ymgeisydd arnynt

2. Mae’n ofynnol i’r panel adolygu’r penodiad arfaethedig a chynnal gwrandawiad cadarnhau (cyfarfod a gynhelir yn gyhoeddus, y gofynnir i’r ymgeisydd fod yn bresennol ynddo at ddiben ateb cwestiynau’n ymwneud â’r penodiad). Mae canllawiau ar wrandawiadau cadarnhau, a gynhyrchwyd gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol a’r Ganolfan Llywodraethu a Chraffu, yn argymell y dylai gwrandawiadau cadarnhau ganolbwyntio ar faterion cymhwysedd proffesiynol ac annibyniaeth bersonol, gan roi sylw dyledus i degwch.

3. Rhaid i’r panel wedyn gyflwyno adroddiad i’r CHTh, a ddylai gynnwys argymhelliad ynghylch a yw’r panel yn cefnogi’r penodiad arfaethedig ai peidio. Rhaid iddynt wneud hyn o fewn tair wythnos i gael gwybod am y penodiad arfaethedig gan y CHTh.

4. Rhaid i’r CHTh wedyn ystyried argymhellion y panel a naill ai eu derbyn neu eu gwrthod. Y CHTh etholedig sydd i benderfynu yn y pen draw.

Wrth adolygu’r cynnig i benodi Prif Gwnstabl, mae gan y panel bŵer i roi feto gyda mwyafrif o ddau draean. Nid yw hyn yn ymestyn i uwch benodiadau eraill gan gynnwys y Prif Weithredwr, y Prif Swyddog Cyllid a’r Dirprwy CHTh.

Comisiynwyr Heddlu a Throseddu dros dro: rôl y panel

Mewn amgylchiadau nas rhagwelwyd lle nad oes CHTh wedi’i ethol yn ei swydd, cyfrifoldeb y panel fyddai penodi CHTh dros dro (mae’r manylion yn adran 62 Deddf 2011). Mae’n ofynnol i’r panel benodi PCC dros dro os:

  • nad oes CHTh yn ei swydd
  • mae’r CHTh wedi’i analluogi i gyflawni ei rôl
  • mae’r CHTh wedi’i atal o’i swydd (o dan adran 30)

Rhaid i’r CHTh dros dro fod yn aelod o staff presennol yr OPCC.Os yw’r CHTh etholedig presennol wedi’i analluogi, mae’n rhaid i’r panel ystyried unrhyw argymhellion a wnânt ynghylch pwy ddylai fod yn CHTh dros dro.

Mae gan y CHTh dros dro yr un swyddogaethau â’r CHTh etholedig, ac eithrio’r ffaith nad yw’n gallu cyhoeddi neu wneud unrhyw newidiadau i’r Cynllun Heddlu a Throseddu.

Byddai’r CHTh dros dro yn peidio â bod yn ei swydd pe byddai’r meini prawf dilynol yn berthnasol:

  • mae naill ai’r panel neu’r CHTh dros dro yn terfynu’r penodiad
  • etholir CHTh newydd
  • mae’r CHTh yn peidio â bod wedi’i analluogi
  • mae’r CHTh yn peidio â bod wedi’i atal

Mae terfyn amser o chwe mis ar faint o amser y gall PCC fod wedi’i analluogi cyn i swydd y CHTh ddod yn wag. Unwaith y bydd y terfyn chwe mis wedi’i gyrraedd, byddai angen cynnal is-etholiad i lenwi’r sedd wag. Yn ogystal, pan fo swydd wag ar gyfer CHTh o fewn chwe mis i ddyddiad yr etholiad cyffredin nesaf, nid yw’r ddeddfwriaeth (adran 51 Deddf 2011) yn ei gwneud yn ofynnol i isetholiad gael ei gynnal cyn hynny, a gall y CHTh Dros Dro ddal ei swydd hyd nes y gellir cynnal yr etholiad arferol.

Meithrin perthynas rhwng paneli a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu

Nod y CHTh yw cwtogi ar droseddu a darparu gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon (a gwasanaeth tân ac achub lle bo’n briodol) o fewn eu hardal heddlu, gan wneud yr heddlu’n atebol i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Mae paneli’n tueddu i weithredu’n fwy effeithiol pan ydynt yn buddsoddi amser ac egni i sefydlu perthynas gyda’r CHTh, yr OPCC a rhanddeiliaid allweddol eraill.Er bod gan baneli rôl allweddol wrth graffu ar gamau gweithredu a phenderfyniadau’r CHTh, mae’n well gwneud hyn pan yw’r ddwy ochr yn mwynhau perthynas gydweithredol.

Gallai rhai enghreifftiau o weithgarwch i feithrin perthynas gynnwys:

  • cadeirydd y panel yn datblygu dealltwriaeth o sut mae’r CHTh yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif drwy fynychu ac arsylwi mewn cyfarfodydd rhyngddynt o bryd i’w gilydd
  • taith neu sesiwn gynefino i wneud cyflwyniadau ac i ddeall rôl yr OPCC, yn ogystal â’r gefnogaeth a’r her y gallai’r panel eu cynnig
  • Cyflwyniadau’r OPCC i aelodau paneli, gan roi mwy o fanylion am eu gwasanaethau, y meysydd ffocws ar gyfer y CHTh (e.e. diogelwch cymunedol) a mewnbwn cyllid arbenigol ar y praesept
  • sesiynau briffio anffurfiol gan swyddogion OPCC cyn cyfarfodydd y panel, gan alluogi aelodau’r panel i ofyn cwestiynau a chynllunio eu dull craffu
  • cadeirydd y panel yn arsylwi digwyddiadau ymgysylltu cymunedol a gynhelir gan y CHTh i ddatblygu gwell dealltwriaeth o waith y CHTh a blaenoriaethau pobl leol

Adnoddau pellach

Deddfwriaeth sylfaenol

Is-ddeddfwriaeth

Rheoliadau cysylltiedig

Darllen cefndirol

Grwpiau rhanddeiliaid a sefydliadau allweddol

Cymdeithas Prif Weithredwyr Plismona a Throseddu

Cymdeithas Prif Weithredwyr Plismona a Throseddu yw’r corff proffesiynol sy’n cynrychioli prif weithredwyr ac uwch staff eraill o fewn yr OPCCs.

Association of Police and Crime Commissioners

Mae Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn gorff cenedlaethol a sefydlwyd i gynrychioli Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Mae pob PCC a PFCC yn aelodau, ochr yn ochr ag Awdurdod Heddlu Dinas Llundain, Swyddfa’r Maer ar gyfer Plismona a Throseddu ar gyfer Awdurdod Llundain Fwyaf, Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf, Awdurdod Cyfun Gorllewin Swydd Efrog ac Awdurdod Heddlu Jersey.

Domestic Abuse Commissioner

Mae’r Comisiynydd Cam-drin Domestig yn llais annibynnol sy’n siarad ar ran dioddefwyr a goroeswyr. Mae’r comisiynydd yn defnyddio pwerau statudol, sydd wedi’u nodi yn y Bil Cam-drin Domestig, i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a dwyn asiantaethau a’r llywodraeth i gyfrif wrth fynd i’r afael â cham-drin domestig.

HM Inspectorate of Constabulary and Fire and Rescue Services

Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi yn asesu’n annibynnol effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd heddluoedd a gwasanaethau tân ac achub, er budd y cyhoedd.

Home Office

Y Swyddfa Gartref yw prif adran y llywodraeth ar gyfer mewnfudo, polisi cyffuriau, troseddu, tân, gwrthderfysgaeth a’r heddlu.

Independent Office for Police Conduct

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn goruchwylio system gŵynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr. Mae’n ymchwilio i’r materion mwyaf difrifol, gan gynnwys marwolaethau yn dilyn cyswllt â’r heddlu, ac yn gosod y safonau y dylai’r heddlu ymdrin â chwynion yn eu hôl. Mae’r swyddfa’n gwneud penderfyniadau yn gwbl annibynnol ar yr heddlu a’r llywodraeth.

Local Government Association

Y Gymdeithas Llywodraeth Leol yw llais cenedlaethol llywodraeth leol, yn gweithio gyda chynghorau i gefnogi, hyrwyddo a gwella llywodraeth leol.

Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol

Mae Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol fel arfer yn cael eu trefnu o amgylch ardaloedd heddluoedd ac yn dod â sefydliadau cyfiawnder troseddol ynghyd i gefnogi cydweithio a gwella gwasanaethau. Yn aml cânt eu cadeirio gan y CHTh neu’r Prif Gwnstabl lleol. Mae gan Gymru hefyd Fwrdd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru, sy’n dod â byrddau Cymreig lleol ynghyd.

National Association of Police, Fire and Crime Panels

Mae Cymdeithas Genedlaethol y Paneli Heddlu, Tân a Throseddu yn gorff sy’n cefnogi Paneli Heddlu a Throseddu a Phaneli Heddlu, Tân a Throseddu ledled Cymru a Lloegr.

Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân

Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân yw llais proffesiynol gwasanaeth tân ac achub y DU.Mae’n bwyllgor o Gymdeithas y Prif Swyddogion Tân, sy’n elusen gofrestredig ac yn gwmni.

National Police Chiefs’ Council

Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn dod â heddluoedd yn y DU ynghyd i helpu’r gwasanaeth heddlu i gydlynu gweithrediadau, diwygio, gwella a darparu gwerth am arian. Wedi’i sefydlu ym mis Ebrill 2015, dyma’r corff cynrychioliadol ar gyfer prif swyddogion heddlu Prydain a disodlodd yr hen Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu.

Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (OPCC)

Mae OPCC yn gangen cymorth gweithredol anwleidyddol ar gyfer y CHTh a’u hardal blismona. Mae gan bob swyddfa gyfrifoldeb statudol i sicrhau bod ganddi Brif Weithredwr a Phrif Swyddog Cyllid. Bydd y Prif Weithredwr yn gweithio gyda’r CHTh i alluogi cyflawni blaenoriaethau strategol allweddol.

Police and Crime Commissioners Treasurers’ Society

Mae Cymdeithas Trysoryddion y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn cynrychioli trysorydd pob un o’r 41 CHTh yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â thrysorydd Swyddfa’r Maer dros Blismona a Throseddu, a siambrlen Cyngor Cyffredin Dinas Llundain.

Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (CHTh)

Mae CHTh yn swyddog a etholir yn gyhoeddus sy’n gyfrifol am ddal yr heddlu yn atebol i’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.Mae gan bob heddlu yng Nghymru a Lloegr CHTh.

O dan bwerau yn Neddf Plismona a Throsedd 2017, mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn gallu cymryd cyfrifoldeb am wasanaethau tân ac achub yn eu hardal heddlu lle mae cytundeb lleol. Os bydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn ymgymryd â swyddogaethau Awdurdod Tân ac Achub, cânt eu hadnabod fel Comisiynwyr yr Heddlu, Tân a Throseddu (PFCCs).

Comisiynydd Dioddefwyr

Mae Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr yn hyrwyddo buddiannau dioddefwyr a thystion troseddau ac yn annog arfer da wrth eu trin.

Welsh Local Government Association

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol yng Nghymru. Ei phrif ddibenion yw hybu gwell llywodraeth leol, hybu ei henw da a chefnogi awdurdodau i ddatblygu polisïau.