Guidance

Rhieni a Gwarcheidwaid: Plant yn pledio’n ddieuog

Updated 20 August 2021

Applies to England and Wales

Siarad â chyfreithiwr

Cyn dyddiad y gwrandawiad llys siaradwch â chyfreithiwr ar unwaith. Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr trwy:

Efallai gall Asiantaeth Gynghori fel Cyngor ar Bopeth eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr.

Sut y gall cyfreithiwr helpu eich plentyn

Gall y cyfreithiwr:

  • roi cyngor i’ch plentyn am yr achos
  • gwneud cais am gymorth cyfreithiol, sydd fel arfer ar gael i blant, felly byddant yn cynrychioli eich plentyn am ddim

Mae angen i chi roi’r holl wybodaeth i’r cyfreithiwr yn achos eich plentyn. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a roddwyd i chi gan yr heddlu, yr erlyniad neu’r llys. Efallai na fydd y cyfreithiwr yn gallu helpu eich plentyn heb yr wybodaeth hon.

Sut mae’r cyfreithiwr yn amddiffyn hawl eich plentyn i breifatrwydd yn y llys

Mae’r cyfreithiwr yn annibynnol ac mae popeth a ddywedir rhwng eich plentyn a’i gyfreithiwr yn gyfrinachol a dim ond gyda chaniatâd eich plentyn y gellir ei rhannu.

Fodd bynnag, ni chaniateir i gyfreithiwr gamarwain y llys na dweud wrth y llys rhywbeth y maent yn gwybod sy’n anwir.

Bydd angen i’r cyfreithiwr rannu manylion yr amddiffyniad gyda’r llys i baratoi ar gyfer y gwrandawiad nesaf. Bydd angen caniatâd eich plentyn ar y cyfreithiwr i wneud hyn.

Pan fydd eich plentyn yn dweud wrth y llys eu bod nhw’n ddieuog

Os yw eich plentyn yn dweud wrth y llys ynadon neu’r llys ieuenctid ei fod yn ddieuog o gyflawni trosedd, mae angen i gyfreithiwr eich plentyn, yr erlynydd a’r llys lenwi ffurflen paratoi ar gyfer treial mewn llys ynadon neu lys ieuenctid.

Mae’r ffurflen yn cynnwys gwybodaeth bwysig sydd ei hangen ar gyfreithiwr eich plentyn, y llys a’r erlynydd ar gyfer yr achos. Mae hyn yn sicrhau bod gan y treial y siawns orau o fynd ymlaen ar ddyddiad y treial.

Bydd y llys fel arfer yn dewis dyddiad arall ar gyfer gwrando’r treial.

Gwybodaeth y bydd ei hangen ar gyfreithiwr eich plentyn i lenwi’r ffurflen

I gynrychioli’ch plentyn a llenwi’r ffurflen, bydd angen i’r cyfreithiwr wybod eich manylion chi a’ch plentyn (os yn wahanol), gan gynnwys:

  • cyfeiriad
  • rhifau ffôn
  • cyfeiriad e-bost

Mae angen i’ch cyfreithiwr wybod popeth am achos eich plentyn, fel:

1) Pam fod eich plentyn yn credu ei fod yn ddieuog.

2) Unrhyw dystion, ac os yw’n hysbys - eu henwau, dyddiadau geni, rhifau ffôn a chyfeiriadau.

3) Os oes angen cyfieithydd ar unrhyw un o dystion eich plentyn a’r iaith y maent yn siarad. Os yw’r llys yn cytuno bod angen cyfieithydd ar y tyst, bydd y llys yn trefnu ac yn talu am hyn.

4) Os oes unrhyw un o dystion eich plentyn eisiau rhoi tystiolaeth y tu ôl i sgrin neu dros fideo o leoliad arall. Bydd angen i chi a’ch plentyn esbonio pam. Gelwir hyn yn fesur arbennig.

Os nad yw eich plentyn yn dweud popeth wrth ei gyfreithiwr

Efallai na fydd y cyfreithiwr yn gallu rhoi’r cyngor gorau i’ch plentyn am ei achos. Os na all y cyfreithiwr ddweud wrth y llys am dystiolaeth neu dystion y mae eich plentyn am ei ddefnyddio yn y treial cyn gynted â phosibl, gallai’r llys benderfynu:

  • a ddylai’r treial fynd yn ei flaen heb y dystiolaeth a’r tyst
  • a ddylai eich plentyn (neu chi) dalu mwy o gostau os gohirir yr achos a bod eich plentyn yn euog

Os yw eich plentyn yn anghofio dweud rhywbeth wrth y cyfreithiwr, neu os oes gwybodaeth newydd, mae’n bwysig eich bod chi a’ch plentyn yn dweud wrth y cyfreithiwr ar unwaith.

Beth sy’n digwydd pan fydd y llys yn penderfynu ar ddyddiad y treial

Bydd y llys yn dweud wrthych chi a’ch plentyn beth yw dyddiad, amser a lleoliad yr achos. Mae angen i chi sicrhau eich bod chi a’ch plentyn yn aros mewn cysylltiad â’r cyfreithiwr. Dywedwch wrth y cyfreithiwr os yw eich manylion cyswllt chi neu’ch plentyn yn newid.

Rhaid i chi a’ch plentyn ddod i’r llys ar gyfer yr achos. Os na wnewch chi hynny:

  • efallai na fydd eich cyfreithiwr yn gallu siarad â’r llys ar eich rhan
  • efallai y bydd y llys yn penderfynu gwrando ar yr achos heb eich plentyn
  • efallai bydd y llys yn penderfynu cyhoeddi gwarant i’ch plentyn gael ei arestio
  • gallai eich plentyn gyflawni trosedd arall o beidio â dod i’r llys heb reswm da

Os na allwch chi neu’ch plentyn ddod i’r llys oherwydd rheswm meddygol, neu argyfwng, rhaid i chi gysylltu â’ch cyfreithiwr a’r llys cyn gynted â phosibl. Efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i ategu’r hyn rydych chi’n ei ddweud, er enghraifft nodyn gan eich meddyg teulu.

Sut i helpu eich plentyn

Sicrhewch eich bod chi a’ch plentyn yn cyrraedd 30 munud cyn y gwrandawiad llys.

Defnyddiwch y canllaw hwn i egluro i’ch plentyn beth fydd yn digwydd. Mae canllaw y gallent ei ddarllen eu hunain os dymunant : Pobl ifanc: Beth sy’n digwydd pan fyddaf yn mynd i’r llys ac eisiau dweud fy mod yn ddieuog?

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am fynd i’r llys

Mae’r taflenni hyn yn egluro beth sy’n digwydd pan fyddwch chi a’ch plentyn yn mynd i’r llys- a rhai o’r geiriau y byddwch chi’n eu clywed yn y llys:

Maent hefyd ar gael yn eich llys lleol.