Guidance

Pobl Ifanc: Pan fyddwch yn mynd i’r llys ac eisiau dweud eich bod yn ddieuog

Updated 20 August 2021

Applies to England and Wales

Siarad â chyfreithiwr

Cyn dyddiad y gwrandawiad llys, siaradwch â chyfreithiwr ar unwaith.

Gall y cyfreithiwr roi cyngor ichi ynghylch a ddylech ddweud eich bod yn euog, neu’n ddieuog, o gyflawni’r drosedd.

Bydd y cyfreithiwr yn eich cynrychioli yn y llys. Mae hyn yn golygu y byddant yn siarad â’r llys ar eich rhan.

Bydd y cyfreithiwr yn edrych i weld a allwch gael cymorth cyfreithiol. Byddwch yn cael hwn fel rheol. Os yw’r llys yn cytuno, mae’n golygu na fydd yn rhaid i chi dalu arian i’r cyfreithiwr.

Mae angen i chi ddweud wrth y cyfreithiwr am bopeth a ddigwyddodd. Maen nhw yno i helpu. Byddant yn cadw popeth rydych chi’n ei ddweud yn gyfrinachol oni bai eich bod chi’n cytuno i’r llys gael gwybod.

Mae angen i chi roi’r holl wybodaeth sydd gennych i’r cyfreithiwr am eich achos.

Sut mae’r cyfreithiwr yn amddiffyn eich hawl i breifatrwydd yn y llys

Mae popeth a ddywedir rhyngoch chi a’ch cyfreithiwr yn gyfrinachol a dim ond gyda’ch caniatâd y gellir ei rannu.

Fodd bynnag, ni chaniateir i gyfreithiwr gamarwain y llys na dweud wrth y llys rhywbeth y maent yn gwybod sy’n anwir.

Bydd angen i’ch cyfreithiwr rannu manylion yr amddiffyniad gyda’r llys i baratoi ar gyfer y gwrandawiad nesaf. Bydd angen eich caniatâd ar y cyfreithiwr i wneud hyn.

Beth sy’n digwydd pan ddwedwch wrth y llys eich bod yn ddieuog

Fel rheol mae angen i’ch cyfreithiwr , yr erlynydd a’r llys lenwi ffurflen paratoi ar gyfer treial mewn llys ynadon.

Mae’r ffurflen yn bwysig. Mae angen i’r llys ddeall pam rydych chi’n dweud eich bod yn ddieuog a phenderfynu beth fydd yn digwydd yn y treial.

Bydd y llys fel arfer yn dweud wrthych pa bryd, ac i ble y mae’n rhaid i chi ddod i’r llys ar gyfer eich treial.

Gwybodaeth sydd ei hangen ar eich cyfreithiwr

Bydd angen i’ch cyfreithiwr siarad â chi am eich achos cyn y treial, felly mae angen dweud wrthynt:

  • ble rydych chi’n byw
  • beth yw eich rhif ffôn
  • cyfeiriad e-bost os oes gennych un

Mae angen i’ch cyfreithiwr wybod popeth am eich achos, fel:

1) Beth ddigwyddodd yn eich achos chi.

2) Os oes gennych unrhyw dystion. Mae’r rhain yn bobl a welodd yr hyn a ddigwyddodd neu sy’n gallu dweud wrth y llys amdanoch chi. Mae angen i chi ddweud wrth eich cyfreithiwr (os ydych chi’n gwybod hyn) eu henw, ble maen nhw’n byw, dyddiad geni, rhif ffôn ac a ydyn nhw’n siarad iaith arall. Efallai nad ydych yn gwybod hyn i gyd ond dywedwch wrth eich cyfreithiwr beth allwch chi.

3) Pam rydych chi’n dweud eich bod yn ddieuog. Dyma beth rydych chi’n dweud ddigwyddodd.

Os na fyddwch chi’n dweud rhywbeth wrth eich cyfreithiwr

Efallai na fydd eich cyfreithiwr yn gallu eich helpu chi.

Os na fyddwch yn dweud wrth y cyfreithiwr am dyst neu unrhyw dystiolaeth ar unwaith, gallai’r llys benderfynu cael y treial heb y dystiolaeth honno na’r tyst hwnnw. Efallai y bydd y llys yn penderfynu y bydd eich treial yn cael ei gynnal ar ddiwrnod arall. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu arian i’r llys am yr amser sy’n cael ei wastraffu.

Os byddwch yn anghofio dweud rhywbeth wrth eich cyfreithiwr, dywedwch wrthynt cyn gynted ag y byddwch yn cofio.

Os bydd rhywbeth yn newid, dywedwch wrth eich cyfreithiwr ar unwaith.

Beth sy’n digwydd pan fydd y llys yn penderfynu ar ddyddiad y treial

Bydd y llys yn dweud wrthych beth yw dyddiad, amser a lleoliad y treial. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n hwyr. Efallai y bydd yn rhaid i chi aros.

Efallai y bydd angen i’ch cyfreithiwr siarad â chi cyn yr achos. Gwnewch yn saff fod ganddyn nhw eich rhif ffôn. Os bydd eich rhif ffôn wedi newid, mae angen i chi ddweud wrth eich cyfreithiwr.

Rhaid i chi ddod i’r llys ar gyfer eich treial. Os na allwch ddod, er enghraifft gan eich bod yn sâl neu fod argyfwng, rhaid i chi ddweud wrth eich cyfreithiwr a’r llys ar unwaith. Rhaid i chi gael rheswm da iawn am beidio bod yn bresennol.

Os na fyddwch yn dod i’r llys:

  • efallai na fydd eich cyfreithiwr yn gallu siarad â’r llys ar eich rhan
  • efallai bydd y llys yn penderfynu os ydych chi’n euog neu’n ddieuog yn eich absenoldeb
  • efallai y bydd yr heddlu’n eich arestio
  • efallai y bydd y llys yn penderfynu yn ddiweddarach nad oedd gennych reswm da dros beidio â dod – gall y llys eich cosbi am hyn