Gwybodaeth Reoli’r Arolygiaeth Gynllunio – prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol – Gorffennaf 2026
Updated 31 July 2026
Applies to England and Wales
1. Cyflwyniad a diben
Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn asiantaeth weithredol, a noddir gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, ac mae’n gweinyddu’r broses ymgeisio am Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) yng Nghymru a Lloegr. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn darparu’r gwasanaeth ymgeisio ar draws chwe phrif sector: Ynni, Trafnidiaeth, Busnes a Masnachol, Gwastraff, Dŵr a Dŵr Gwastraff.
Mae’r datganiad ystadegol ad-hoc hwn yn rhoi gwybodaeth gryno am yr amser y mae wedi’i gymryd i NSIPau gwblhau gwahanol gamau o’r broses ymgeisio ers mis Ionawr 2024. Ar ddyddiad ei ryddhau, mae’r bwletin hwn a’r tabl data cysylltiedig yn darparu’r ystadegau mwyaf cyfredol am brydlondeb ceisiadau NSIP a’r llwyth gwaith achosion. Mae’r is-sectorau a ddiffinnir yn y bwletin hwn wedi’u seilio ar wybodaeth o Adran 14 Deddf Cynllunio 2008, sy’n amlinellu’r mathau o brosiectau a all fod yn NSIP.
Mae’r datganiad hwn wedi’i ddosbarthu’n Wybodaeth Reoli ac nid Ystadegau Swyddogol. Nid yw’r ystadegau hyn yn cael eu cyhoeddi fel mater o drefn ac fe’u rhannwyd yn flaenorol yn rhan o drafodion Cynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol 2026 ar 6 Gorffennaf 2026.
Safleoedd eraill lle rydym wedi rhyddhau ystadegau ar NSIPs yn flaenorol yw:
- Gwybodaeth Reoli’r Arolygiaeth Gynllunio – Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol – Mawrth 2026 - GOV.UK
- Ystadegau Llwyth Gwaith Chwarterol a Blynyddol yr Arolygiaeth Gynllunio - GOV.UK
I weld rhestr lawn o’r holl NSIPau, ewch i y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol.
Gallwch gysylltu â ni ynglŷn â’r datganiad hwn trwy anfon neges e-bost at statistics@planninginspectorate.gov.uk.
2. Ystadegau prydlondeb y broses ymgeisio am NSIP
2.1 Yr amser a gymerir mewn gwahanol gamau o’r broses ymgeisio am NSIP, 2024 i 2026
Dangosir prydlondeb cyfartalog pedwar cam allweddol y broses ymgeisio am NSIP yn Nhabl 1.
Methodoleg: Cyfrifir yr amser cymedrig ar gyfer ceisiadau NSIP ym mhob cam trwy gasglu prosiectau ynghyd yn ôl y flwyddyn pan orffenont y cam penodol. Diffinnir y cam cyn-ymgeisio fel y cyfnod o ddyddiad y cyfarfod cychwynnol i’r dyddiad cyflwyno cais. Diffinnir y cam cyn-archwilio fel y cyfnod o’r dyddiad y derbyniwyd y cais i’r dyddiad y dechreuodd yr archwiliad. Diffinnir y cam archwiliad fel y cyfnod o’r dyddiad y dechreuodd yr archwiliad i’r dyddiad y caeodd yr archwiliad. Diffinnir y cam argymhelliad fel y cyfnod o’r dyddiad y caeodd yr archwiliad i ddyddiad yr argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol.
Dangosir maint y sampl ar gyfer cyfrifo’r cymedr (h.y. nifer y prosiectau a gynhwyswyd ym mhob cyfrifiad) mewn cromfachau sgwâr. Nid yw ceisiadau a dynnwyd yn ôl cyn penderfyniad wedi’u cynnwys yn y cyfartaleddau hyn. Nid yw ceisiadau Newid Sylweddol wedi’u cynnwys yn y cyfartaledd cyn-ymgeisio gan nad oes angen cyfarfod cychwynnol yn yr achosion hyn. Yn ogystal, eithriwyd un cais o’r cyfartaledd cyn-ymgeisio ar gyfer 2024 oherwydd ystyriwn mai dyddiad y farn gwmpasu yw dechrau’r cam cyn-ymgeisio (gan ei fod yn rhagflaenu dyddiad y cyfarfod cychwynnol). Mae’r amserau cymedrig ar gyfer 2026 ond yn cynnwys y prosiectau a orffennodd bob cam yn y flwyddyn hon tan y dyddiad echdynnu data (16/06/2026). Gall allanolion gael dylanwad mawr ar y gwerth cymedrig, yn enwedig pan fydd maint y sampl yn fach, felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli’r gwerthoedd cymedrig hyn ar gyfer samplau bach.
Ffynhonnell: Gwybodaeth reoli fewnol yr Arolygiaeth Gynllunio
Tabl 1: Yr amser cymedrig a gymerwyd gan geisiadau NSIP ym mhob cam; mis Ionawr 2024 i fis Mehefin 2026.
| Cam y Broses | Prydlondeb cyfartalog prosiectau a gwblhaodd gam yn 2026 (hyd yma) [nifer y prosiectau] | Prydlondeb cyfartalog prosiectau a gwblhaodd gam yn 2025 [nifer y prosiectau] | Prydlondeb cyfartalog prosiectau a gwblhaodd gam yn 2024 [nifer y prosiectau] |
|---|---|---|---|
| Cyn-ymgeisio | 2.58 blwyddyn [4] | 2.03 blwyddyn [19] | 2.40 blwyddyn [19] |
| Cyn-archwilio | 4.70 mis [11] | 4.68 mis [16] | 4.68 mis [20] |
| Archwiliad | 5.31 mis [10] | 5.78 mis [19] | 5.74 mis [17] |
| Argymhelliad | 2.95 mis [7] | 2.85 mis [19] | 2.84 mis [17] |
2.2 Llwyth gwaith achos cyn-ymgeisio ac ôl-gyflwyno NSIP, mis Tachwedd 2024 i fis Mehefin 2026, wedi’i rannu yn ôl is-sector
Mae Ffigur 1 isod yn dangos sut mae’r llwyth gwaith achos y mae’r Arolygiaeth yn delio ag ef yn ystod y cam cyn-ymgeisio wedi newid dros amser. Mae Ffigur 2 isod yn dangos sut mae’r llwyth gwaith achos y mae’r Arolygiaeth yn delio ag ef yn ystod y camau ôl-gyflwyno wedi newid dros amser. Diffinnir prosiectau ‘ôl-gyflwyno’ fel ceisiadau NSIP sydd ar unrhyw un o’r camau canlynol: derbyn, cyn-archwilio, archwiliad, adrodd/argymhelliad neu benderfyniad, h.y. unrhyw gais NSIP sydd wedi’i gyflwyno ond nad yw eto wedi derbyn penderfyniad gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae’r ddau ffigur yn dangos y newid i’r llwyth gwaith achos NSIP mewn tri is-sector o ddiddordeb (Solar, Ynni Gwynt Alltraeth a Llinellau Trydan), ac mae’r holl is-sectorau eraill, a restrir isod, wedi’u casglu ynghyd fel ‘Arall’:
- Meysydd Awyr
- Argaeau a Chronfeydd Dŵr
- Ynni o Wastraff
- Piblinellau Cludo Nwy
- Gorsafoedd Cynhyrchu
- Cyfleusterau Harbwr
- Cyfleusterau Gwastraff Peryglus
- Priffyrdd
- Prosesau Diwydiannol
- Rhyng-gysylltwyr
- Hamdden
- Cyfleusterau Nwy Naturiol Hylifol (LNG)
- Gorsafoedd Pŵer Niwclear
- Ynni Gwynt Ar y Tir
- Piblinellau Eraill
- Rheilffyrdd
- Cyfnewidfeydd Nwyddau Rheilffordd
- Trosglwyddo Adnoddau Dŵr
- Storio Nwy Tanddaear
- Dŵr Gwastraff
Gan fod NSIP yn gallu aros yn y camau cyn-ymgeisio ac ôl-gyflwyno am fisoedd lawer, bydd yr un prosiect yn cael ei gyfrif droeon mewn sawl ciplun olynol. Mae’r newidiadau a gynrychiolir gan y lefelau uchaf ac isaf yn dangos cyfnodau o lwyth gwaith uwch/is i’r Arolygiaeth yn yr is-sector penodol hwnnw.
Ffigur 1: Nifer yr NSIPau yn y cam cyn-ymgeisio ar wahanol gipluniau mewn amser ar draws gwahanol is-sectorau. Mae’r lliw yn cynrychioli is-sector y prosiectau.
Sylwer: Fe allai nifer y prosiectau a ddangosir yma yn y cam cyn-ymgeisio fod yn wahanol i’r data a gyhoeddwyd ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol gan nad yw rhai prosiectau’n cael eu cyhoeddi ar eu camau cynnar ond maen nhw’n cael eu cyfrif yn y dadansoddiad hwn o hyd.
Ffigur 2: Nifer yr NSIPau yn y cam ôl-gyflwyno ar wahanol gipluniau mewn amser ar draws gwahanol is-sectorau. Mae’r lliw yn cynrychioli is-sector y prosiectau.
Ffynhonnell: Gwybodaeth reoli fewnol yr Arolygiaeth Gynllunio
Mae’r newidiadau i’r llwyth gwaith achos cyn-ymgeisio yn deillio o brosiectau newydd sy’n dechrau’r cam cyn-ymgeisio, prosiectau sy’n symud o’r camau cyn-ymgeisio i ôl-gyflwyno, ac unrhyw brosiectau a dynnwyd yn ôl tra’u bod yn y cam cyn-ymgeisio. Mae’r llwyth gwaith achos ôl-gyflwyno wedi bod yn amrywiol ar draws y tri is-sector unigol a’r categorïau ‘arall’. Mae’r newidiadau i’r llwyth gwaith achos ôl-gyflwyno yn deillio o brosiectau yn y cam cyn-ymgeisio sy’n newid i gyflwyniadau, prosiectau y gwneir penderfyniad arnynt, ac unrhyw brosiectau a dynnir yn ôl.
Gellir dod o hyd i’r tabl data gyda’r cyfrifon a ddefnyddiwyd i greu’r ffigurau yma yma:
Mae’r tabl yn dangos nifer yr NSIPau sy’n cael eu trin fel prosiectau cyn-ymgeisio neu ôl-gyflwyno gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ddyddiadau amrywiol rhwng mis Tachwedd 2024 a mis Mehefin 2026. Cofnodir is-sector pob prosiect fel naill ai ‘Solar’, ‘Ynni Gwynt Alltraeth’, ‘Llinellau Trydan’ neu ‘Arall’, sy’n cynnwys yr holl is-sectorau NSIP a restrir uchod yn y bwletin hwn.