Y Cynllun Cymdogaethau: prosbectws
Diweddarwyd 19 Mai 2025
Crynodeb o’r gronfa
Diben: Rhaglen £1.5 biliwn i fuddsoddi mewn 75 o ardaloedd yn ystod y degawd nesaf – strategaeth hirdymor i atgyweirio sylfeini’r lleoedd hynny a adawyd bellaf yn ôl.
Math o gronfa: Anghystadleuol.
Cymhwysedd: 75 o awdurdodau lleol a chymunedau ledled y Deyrnas Unedig.
Cyllid sydd ar gael: Hyd at £20 miliwn ar gyfer pob lle dros gyfnod o 10 mlynedd.
Dyddiadau pwysig:
22 Ebrill 2025: Bydd Byrddau Cymdogaeth yn cadarnhau eu haelodaeth derfynol ac unrhyw gynigion i newid ffiniau eu lleoedd.
Gwanwyn 2025 i’r gaeaf 2025: Bydd Byrddau Cymdogaeth yn cyflwyno eu Cynllun Adfywio i’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) i’w asesu a’i gymeradwyo.
O fis Ebrill 2026 ymlaen: Bydd cyllid i gyflawni’r rhaglen yn cael ei ryddhau i awdurdodau lleol, a bydd y cam cyflawni’n dechrau.
Rhagair gan y Dirprwy Brif Weinidog
Ledled y wlad, mae’r llywodraeth hon yn cyflawni ein Cynllun ar gyfer Newid gyda phwyslais diysgog ar dwf economaidd i godi safonau byw. Nid yw effaith 14 blynedd o ddirywiad wedi bod yn gyfartal ledled y wlad, ac mae gormod o gymdogaethau wedi cael eu hamddifadu o’r buddsoddiad a’r diwygiadau maen nhw’n eu haeddu. O ganlyniad, mae amddifadedd wedi gwaethygu, sy’n gwneud y llwybr tuag at dwf da yn fwyfwy anodd yn y lleoedd hynny. Trwy’r Cynllun Cymdogaethau newydd, rydym yn gosod y sylfeini i sicrhau nad oes unman yn cael ei adael ar ôl yn y degawd hwn o adnewyddu cenedlaethol, a bod gan bobman rôl i’w chwarae yn ein ffyniant cenedlaethol.
Mae gan ein gwlad yr holl gynhwysion crai i ysgogi twf. Mae talent a photensial digyffwrdd ym mhob tref, dinas, pentref ac ystad. Ond mae yna bobl hefyd nad oes ganddynt ddigon i gael deupen llinyn ynghyd, a lleoedd a gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi cael eu gwanhau. Nid yw cyfleoedd yn cael eu rhannu’n gyfartal ac mae’n anodd manteisio i’r eithaf ar y rhai sydd ar gael. Mae rhwystrau rhag safonau byw gwell wedi cael eu codi yn hytrach na’u chwalu. Mae pobl yn teimlo ar wahân ac wedi’u dadrymuso, canfyddiadau sy’n cael eu gwaethygu gan amddifadedd y mae gwleidyddion wedi’i drin gyda datrysiadau dros dro am gyfnod rhy hir.
Mae cymunedau wedi ffurfio eu datrysiadau eu hunain ar lawr gwlad. Agor banciau bwyd a banciau cynnes, siopa’n lleol i gefnogi swyddi’r stryd fawr, a chynyddu cefnogaeth trwy undebau llafur, elusennau a chyrff cymdeithas sifil. Creu cysylltiadau cryf fel y gall pobl ddibynnu ar ei gilydd pan fydd pethau’n mynd yn anodd. Er mor galonogol a nodedig yw’r ymdrechion hyn, mae’r llywodraeth wedi bod yn absennol am 14 blynedd, gan adael cymunedau ar ôl ac yn angof i ofalu amdanynt eu hunain. Dyna pam mae’r llywodraeth newydd hon yn benderfynol o gyflawni twf a chodi safonau byw ym mhobman. Dyna pam rydym bellach yn buddsoddi hyd at £1.5 biliwn trwy’r rhaglen hon.
Mae ein Cynllun Cymdogaethau newydd yn rhan o gynllun y llywodraeth hon i sicrhau nad oes unman yn cael ei adael ar ôl. Bydd yn helpu i adfywio ardaloedd lleol a mynd i’r afael â gwreiddiau amddifadedd trwy ganolbwyntio ar 3 nod: lleoedd ffyniannus, cymunedau cryfach, ac adfer rheolaeth.
Dim rhagor o ddatrysiadau dros dro; dim rhagor o atebion tymor byr – yn hytrach, cynllun 10 mlynedd sy’n datgloi potensial y lleoedd sy’n gartref i bobl. Roedd Bargen Newydd ar gyfer Cymunedau John Prescott yn weddnewidiol, gan ddarparu sefydlogrwydd cyllid hirdymor, gyda chefnogaeth llywodraeth ganolog, i rymuso pobl leol i gymryd cyfrifoldeb am adnewyddu eu cymdogaeth. Rydym wedi defnyddio hyn fel ysbrydoliaeth ar gyfer ein Cynllun Cymdogaethau, gan ddysgu’r gwersi i fynd i’r afael â’r cyfleoedd a’r heriau sy’n ein hwynebu heddiw. Mae’n mynd law yn llaw â phopeth y mae’r llywodraeth hon yn ei wneud i ailadeiladu ein gwlad: adeiladu tai cymdeithasol newydd, mwy diogel ar gyfer y dyfodol, gwneud i waith dalu a chefnu ar yr agwedd ‘Whitehall sy’n gwybod orau’ trwy rymuso arweinwyr lleol i gryfhau cymunedau.
Rydym yn gwybod beth sy’n gweithio. Mae’n well bod newidiadau lleol yn cael eu sbarduno gan y rhai hynny sydd â’r budd mwyaf ynddynt. Mae prosiect Burnley Together wedi gweld groser cymunedol, ysgol goginio a chyfnewidfa lyfrau yn agor yn yr hen dref felin yn Swydd Gaerhirfryn. Yn Hendon, mae’r grŵp preswylwyr ‘Back on the Map’ wedi treulio 10 mlynedd yn prynu ac adnewyddu 120 o gartrefi a siopau adfeiliedig yn Sunderland, ochr yn ochr â phecyn o wasanaethau cymunedol i fynd i’r afael â thlodi. Yn Swydd Efrog, mae grŵp Live Well Wakefield wedi helpu 93% o gleientiaid i wella canlyniadau iechyd trwy ymyriadau cynnar a phresgripsiynu cymdeithasol.
Gyda’n gilydd, bydd y llywodraeth hon yn gweithio mewn partneriaeth â phobl ar lawr gwlad a chydag awdurdodau lleol i gyflawni ym mhob cwr o’r wlad.
Angela Rayner AS, Dirprwy Brif Weinidog
Cyflwyniad
Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i ailadeiladu’r Deyrnas Unedig a sbarduno twf ym mhobman. Mae angen gwneud mwy nag adnewyddu seilwaith ffisegol; mae hefyd angen aduno cymunedau hollt, dod â phobl yn ôl at ei gilydd a sicrhau eu bod yn gweld gwelliant amlwg yn eu cymunedau. Mae hyn yn hanfodol i adfer ffydd yn y llywodraeth ac ymdeimlad o falchder mewn lle, gan sicrhau bod pobl yn gallu cyflawni eu llawn botensial. Mae’r dystiolaeth yn dangos yn glir bod gan y lleoedd hynny sydd â chyfalaf cymdeithasol cryfach gyrhaeddiad addysgol uwch, llai o droseddu a thwf economaidd cyflymach.
I atgyweirio sylfeini’r lleoedd hynny a adawyd bellaf yn ôl, mae arnom angen strategaeth hirdymor ar gyfer adfywio, wedi’i seilio ar gynlluniau sy’n mynd i’r afael â newidiadau demograffig a diwylliannol.
Does neb yn deall blaenoriaethau’r gymuned yn well na’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yno. Dyna pam y bydd ein Cynllun Cymdogaethau’n grymuso pobl leol i ailgydio yn awenau eu dyfodol gyda chronfa hyblyg, hirdymor o hyd at £20 miliwn o gyllid a chymorth dros y 10 mlynedd nesaf.
Awdurdodau lleol cymwys
Mae 75 o leoedd ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cael eu dewis i gael cyllid gan y rhaglen hon trwy 2 fethodoleg gyhoeddedig: y fethodoleg ar gyfer y gyfran gyntaf a’r fethodoleg ar gyfer yr ail gyfran. Roedd y metrigau a ddefnyddiwyd i’w dewis yn cynnwys:
- mynegeion amddifadedd lluosog
- maint y boblogaeth
- disgwyliad oes iach
- Gwerth Ychwanegol Gros fesul awr a weithiwyd
- lefel sgiliau (NVQ lefel 3+ yng Nghymru a Lloegr ac uwchlaw SCQF lefel 4+ yn yr Alban) – ni ddefnyddiwyd y metrig hwn yng Ngogledd Iwerddon
Mae’r rhestr ganlynol yn cynnwys awdurdodau lleol sy’n gymwys ar gyfer y Cynllun Cymdogaethau, yn nhrefn yr wyddor. Pennir y rhanbarth neu’r sir yn ôl Lefelau Tiriogaethol Rhyngwladol 1 a 2.
Lle | Awdurdod lleol | Rhanbarth neu sir |
---|---|---|
Accrington | Cyngor Bwrdeistref Hyndburn | Gogledd-orllewin Lloegr |
Arbroath | Cyngor Angus | Dwyrain yr Alban |
Ashton-under-Lyne | Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Tameside | Gogledd-orllewin Lloegr |
Barnsley | Cyngor Barnsley | Swydd Efrog a’r Humber |
Y Barri (Bro Morgannwg) | Cyngor Bro Morgannwg | De-ddwyrain Cymru |
Bedworth | Cyngor Bwrdeistref Nuneaton a Bedworth | Gorllewin Canolbarth Lloegr |
Bexhill-on-Sea | Cyngor Dosbarth Rother | De-ddwyrain Lloegr |
Bilston (Wolverhampton) | Cyngor Dinas Wolverhampton | Gorllewin Canolbarth Lloegr |
Blyth (Northumberland) | Cyngor Sir Northumberland | Gogeldd-ddwyrain Lloegr |
Boston | Cyngor Bwrdeistref Boston | Dwyrain Canolbarth Lloegr |
Burnley | Cyngor Burnley | Gogledd-orllewin Lloegr |
Ynys Canvey | Cyngor Bwrdeistref Castle Point | Dwyrain Lloegr |
Carlton | Cyngor Bwrdeistref Gedling | Dwyrain Canolbarth Lloegr |
Castleford | Cyngor Wakefield | Swydd Efrog a’r Humber |
Chadderton | Cyngor Oldham | Gogledd-orllewin Lloegr |
Chesterfield | Cyngor Bwrdeistref Chesterfield | Dwyrain Canolbarth Lloegr |
Clacton-on-Sea | Cyngor Dosbarth Tendring | Dwyrain Lloegr |
Clifton (Nottingham) | Cyngor Dinas Nottingham | Dwyrain Canolbarth Lloegr |
Clydebank | Cyngor Gorllewin Swydd Dunbarton | Gorllewin Canol yr Alban |
Coatbridge | Cyngor Gogledd Swydd Lanark | Gorllewin Canol yr Alban |
Coleraine | Cyngor Bwrdeistref Causeway Coast and Glens | Gogledd Iwerddon |
Cwmbrân | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen | De-ddwyrain Cymru |
Darlaston | Cyngor Walsall | Gorllewin Canolbarth Lloegr |
Darlington | Cyngor Bwrdeistref Darlington | Gogledd-ddwyrain Lloegr |
Darwen | Cyngor Bwrdeistref Blackburn gyda Darwen | Gogledd-orllewin Lloegr |
Derry~Londonderry | Cyngor Dosbarth Dinas Derry a Strabane | Gogledd Iwerddon |
Dewsbury | Cyngor Kirklees | Swydd Efrog a’r Humber |
Doncaster | Cyngor Dinas Doncaster | Swydd Efrog a’r Humber |
Dudley (Dudley) | Cyngor Dudley | Gorllewin Canolbarth Lloegr |
Dumfries | Cyngor Dumfries a Galloway | De yr Alban |
Eastbourne | Cyngor Eastbourne | De-ddwyrain Lloegr |
Elgin | Cyngor Moray | Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban |
Eston | Cyngor Bwrdeistref Redcar a Cleveland | Gogledd-ddwyrain Lloegr |
Farnworth | Cyngor Bolton | Gogledd-orllewin Lloegr |
Great Yarmouth | Cyngor Bwrdeistref Great Yarmouth | Dwyrain Lloegr |
Greenock | Cyngor Inverclyde | Gorllewin Canol yr Alban |
Grimsby | Cyngor Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln | Swydd Efrog a’r Humber |
Harlow | Cyngor Harlow | Dwyrain Lloegr |
Hartlepool | Cyngor Bwrdeistref Hartlepool | Gogledd-ddwyrain Lloegr |
Hastings | Cyngor Bwrdeistref Hastings | De-ddwyrain Lloegr |
Heywood | Cyngor Bwrdeistref Rochdale | Gogledd-orllewin Lloegr |
Irvine | Cyngor Gogledd Swydd Ayr | De yr Alban |
Jarrow | Cyngor De Tyneside | Gogledd-ddwyrain Lloegr |
Keighley | Cyngor Bradford | Swydd Efrog a’r Humber |
Kilmarnock | Cyngor Dwyrain Swydd Ayr | De yr Alban |
King’s Lynn | Cyngor Bwrdeistref King’s Lynn a Gorllewin Norfolk | Dwyrain Lloegr |
Kirkby | Cyngor Knowsley | Gogledd-orllewin Lloegr |
Kirkby-in-Ashfield | Cyngor Dosbarth Ashfield | Dwyrain Canolbarth Lloegr |
Leigh (Wigan) | Cyngor Wigan | Gogledd-orllewin Lloegr |
Mansfield | Cyngor Dosbarth Mansfield | Dwyrain Canolbarth Lloegr |
Merthyr Tudful | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful | De-ddwyrain Cymru |
Nelson (Pendle) | Cyngor Bwrdeistref Pendle | Gogledd-orllewin Lloegr |
Newark-on-Trent | Cyngor Dosbarth Newark a Sherwood | Dwyrain Canolbarth Lloegr |
Newton-le-Willows | Cyngor Bwrdeistref St Helens | Gogledd-orllewin Lloegr |
Ynysoedd Orkney (Kirkwall) | Cyngor Ynysoedd Orkney | Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban |
Peterhead | Cyngor Swydd Aberdeen | Gogledd-ddwyrain yr Alban |
Ramsgate | Cyngor Dosbarth Thanet | De-ddwyrain Lloegr |
Rawtenstall | Cyngor Bwrdeistref Rossendale | Gogledd-orllewin Lloegr |
Y Rhyl | Cyngor Sir Ddinbych | Gogledd Cymru |
Rotherham | Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Rotherham | Swydd Efrog a’r Humber |
Royal Sutton Coldfield | Cyngor Tref Royal Sutton Coldfield | Gorllewin Canolbarth Lloegr |
Runcorn | Cyngor Bwrdeistref Halton | Gogledd-orllewin Lloegr |
Ryde | Cyngor Ynys Wyth | De-ddwyrain Lloegr |
Scarborough | Cyngor Gogledd Swydd Efrog | Swydd Efrog a’r Humber |
Scunthorpe | Cyngor Gogledd Swydd Lincoln | Swydd Efrog a’r Humber |
Skegness | Cyngor Dosbarth Dwyrain Lindsey | Dwyrain Canolbarth Lloegr |
Smethwick | Cyngor Sandwell | Gorllewin Canolbarth Lloegr |
Spalding | Cyngor Dosbarth De Holland | Dwyrain Canolbarth Lloegr |
Spennymoor | Cyngor Sir Durham | Gogledd-ddwyrain Lloegr |
Thetford | Cyngor Breckland | Dwyrain Lloegr |
Torquay | Cyngor Torbay | De-orllewin Lloegr |
Washington | Cyngor Dinas Sunderland | Gogledd-ddwyrain Lloegr |
Wisbech | Cyngor Dosbarth Fenland | Dwyrain Lloegr |
Worksop | Cyngor Dosbarth Bassetlaw | Dwyrain Canolbarth Lloegr |
Wrecsam | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam | Gogledd Cymru |
Ein hymagwedd
Bydd y Cynllun Cymdogaethau’n sbarduno twf yn y tymor hir, gan gefnu’n llwyr ar gronfeydd cystadleuol ac arian tymor byr y gorffennol. Mae’r rhaglen yn darparu glasbrint newydd ar gyfer uno cymunedau, gan ddyrannu cyllid i 75 o leoliadau i wella safonau byw a rhoi mwy o fudd i bobl yn eu dyfodol.
I gyflawni hyn, bydd y llywodraeth yn cefnogi’r broses o sefydlu Byrddau Cymdogaeth newydd, gan roi pŵer yn nwylo pobl leol i fynd i’r afael ag amddifadedd ac adfywio eu hardal leol. Bydd pob Bwrdd, mewn partneriaeth â’i awdurdod lleol, yn datblygu ‘Cynllun Adfywio’ sy’n amlinellu ei weledigaeth ar gyfer y degawd nesaf ochr yn ochr â ‘Chynllun Buddsoddi’ manylach ar gyfer 4 blynedd cyntaf y rhaglen.
Mae hyn yn fwy na rhoi cynllun i leoedd, caif ei ategu gan fuddsoddiad go iawn i wireddu’r cynllun hwnnw: blaenoriaethu cyllid ar gyfer rhai o’n cymunedau a adawyd bellaf yn ôl i wneud newidiadau pob dydd i greu dyfodol tecach i bawb. Mae llawer o’r sefydliadau angori sy’n uno cymunedau, fel canolfannau cymunedol, clybiau ieuenctid, meysydd chwaraeon a lleoliadau diwylliannol, wedi mynd. Mae’r rhaglen hon yn rhoi cyfle i gymunedau eu hailgyflwyno er mwyn sbarduno cyfalaf cymdeithasol ac ysgogi twf. Mae gennym economi a chymdeithas sy’n gweithio i rai ond nid eraill. Mae 49 o’r 58 o drefi yn Lloegr yn yr 20% o ardaloedd adeiledig mwyaf difreintiedig yn y wlad. Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar y lleoedd a adawyd ar ôl am gyfnod rhy hir, sy’n haeddu elwa o fuddsoddiad yn eu dyfodol.
Ledled y Deyrnas Unedig, mae 53% o bobl yn credu ei bod yn bwysig iddynt allu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol, ond dim ond 27% sy’n teimlo eu bod yn gallu gwneud hynny. Mae nifer yr oedolion sy’n ymwneud â chyfranogiad dinesig wedi gostwng o 41% yn 2020 i 34% yn 2022, a’r rhai hynny o’r cefndiroedd a’r lleoedd tlotaf sy’n lleiaf tebygol o gyfranogi. Mae’r rhaglen hon yn ceisio newid hynny, gan roi rheolaeth i bobl dros eu hardal leol, a hyder bod eu hanghenion yn cael eu bodloni.
Mae meithrin cymunedau cryfach sydd wedi’u cysylltu’n well, lle mae pobl yn ymddiried yn ei gilydd ac yn teimlo eu bod yn rhannu hunaniaeth, yn gwella gwydnwch, cydlyniant a diogelwch, gan fynd i’r afael ag ymyleiddio economaidd a chymdeithasol. Mae hyn yn wir i unigolion a’r gymuned gyfan. Mae ymchwil wedi dangos y bydd gwell cysylltiadau cymdeithasol yn gwella canlyniadau economaidd i blant unigol ac yn lleihau troseddu ar draws cymuned. Mae ymchwil yn dangos yn glir fod ymddiriedaeth mewn cymunedau a sefydliadau yn achosi cynhyrchedd uchel a mwy o les, ac yn deillio o hynny. Trwy sefydlu trefniadau llywodraethu da a mwy o ymddiriedaeth gymdeithasol, fe allai’r rhaglen hon sbarduno dolen adborth ddaionus o gynhyrchedd uwch. Gall 10% yn fwy o ymddiriedaeth gymdeithasol arwain at hyd at 1.5% yn fwy o gynhyrchedd.
Mae arnom angen lleoedd ffyniannus sy’n cefnogi twf lleol cryf a chynhwysol, gan roi arian ym mhocedi pobl sy’n gweithio. Bydd y rhaglen hon yn ceisio codi safonau byw, lleihau allgáu cymdeithasol, lledaenu cyfleoedd i bobl ifanc, gwella iechyd a lles, creu cymunedau cryfach a mwy cydlynol, a lleihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn rhai o’r rhannau o’r wlad a adawyd bellaf yn ôl.
Byddwn yn rhoi’r adnoddau a’r capasiti i gymunedau gyflawni hyn, i gynnig cymorth lle mae ei angen a newid rôl llywodraeth ganolog o reoli cyflawni i gynorthwyo cyflawni. Mae profiad yn awgrymu y gellir cyflawni mwy pan fydd y llywodraeth yn ymgymryd â rôl fwy rhagweithiol a chefnogol, a bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu am hyn yn fuan. Bydd hyn hefyd yn lleihau’r angen i drefi gaffael cymorth yn unigol a chan drydydd partïon, gan gefnogi ymrwymiad y llywodraeth i gwtogi’r defnydd ar ymgynghorwyr gan y sector cyhoeddus.
Dysgu gan raglenni blaenorol
Am y 60 mlynedd diwethaf, mae llywodraethau olynol wedi ceisio mynd i’r afael â thensiynau ac anghydraddoldebau cymunedol a gwella canlyniadau yn yr ardaloedd sy’n wynebu’r heriau mwyaf.
Mae’r rhaglenni’n aml wedi bod yn rhy ganolog, heb gydnabod yr ymagwedd unigryw y mae ei hangen ar bob lle, ac nid ydynt wedi mynd i’r afael â sut i ddod â phobl at ei gilydd, gwrthweithio amddifadedd a chynorthwyo pobl i adfywio eu hardal leol. Yn rhy aml, mae’r penderfyniadau a wnaed wedi gyrru hollt rhwng pobl a lleoedd. Mae hyn wedi arwain at anfodlonrwydd cynyddol â phenderfyniadau a wneir o’r brig i lawr nad ydynt yn cyd-fynd â blaenoriaethau lleol.
Er bod rhaglenni diweddar fel Bargeinion Trefi a’r Gronfa Trefi wedi ceisio cefnogi cymunedau a rhoi pobl leol wrth wraidd y broses gwneud penderfyniadau, mae arolygon barn yn dangos mai dim ond 11% o bobl sy’n credu bod eu hardal wedi gwella yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf, a bod 29% yn credu ei bod wedi gwaethygu. Mae pobl yn credu bod mwy o densiwn rhwng mewnfudwyr a grwpiau ethnig yn y gymdeithas yn awr, o gymharu â’r blynyddoedd diwethaf. Felly, mae’n hanfodol bod y rhaglen hon yn dysgu gwersi o’r hyn a weithiodd orau yn y rhaglenni blaenorol hyn.
Lluniwyd y Fargen Newydd ar gyfer Cymunedau, a lansiwyd ym 1998 ar draws 39 o leoliadau yn Lloegr ac a ddaeth yn rhan o’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Adnewyddu Cymdogaethau yn ddiweddarach, i gau’r bylchau rhwng ardaloedd difreintiedig iawn â gweddill y wlad, gan ganolbwyntio ar 3 chanlyniad yn ymwneud â ‘lle’ a 3 chanlyniad yn ymwneud â ‘phobl’.
Roedd y canlyniadau yn ymwneud â ‘lle’ yn cynnwys:
- troseddu
- cymuned
- tai a’r amgylchedd ffisegol
Tra bod y canlyniadau yn ymwneud â ‘phobl’ yn canolbwyntio ar:
- addysg
- iechyd
- bod heb waith
Canfu’r gwerthusiad annibynnol o’r Fargen Newydd ar gyfer Cymunedau ‘fod y cymdogaethau hyn wedi cael eu gweddnewid, mewn sawl ffordd’ yn ystod 10 mlynedd y rhaglen a bod ei llwyddiannau yn parhau hyd heddiw. Rhwng 2002 a 2008, roedd cymunedau a gafodd gyllid wedi gweld gwelliant mewn 32 o 36 o ddangosyddion craidd, gan gynnwys lleihau troseddu, addysg ac iechyd, a chau’r bwlch â gweddill y wlad. Mewn rhai ardaloedd, graddiwyd bod gwerth am arian y rhaglen 5 gwaith yn uwch na buddsoddiad y llywodraeth.
Mae’r Fargen Newydd ar gyfer Cymunedau yn cynnwys 3 conglfaen graidd a gyfrannodd at ei llwyddiant.
1. Grymuso’r gymuned a chydweithio:
Trwy annog preswylwyr lleol i gyfrannu’n weithredol at wneud penderfyniadau yn eu cymunedau, roedd y cynllun wedi gwella cyfalaf cymdeithasol ym mhob lle. Roedd dwyn pobl leol ynghyd ag asiantaethau’r llywodraeth, busnesau a sefydliadau sy’n cyflawni newid wedi meithrin perthnasoedd a barodd y tu hwnt i gyfnod y cynllun.
2. Agwedd hirdymor:
Trwy ddarparu cyllid dros gyfnod o 10 mlynedd, sicrhaodd y rhaglen y gallai cymunedau ganolbwyntio ar ddatrysiadau hirdymor a oedd yn creu cyflenwad o swyddi a newid parhaus i ardaloedd lleol, yn hytrach nag atebion cyflym. Roedd hyd y rhaglen wedi helpu i wreiddio gwelliant yng nghapasiti a gallu cymunedau i eirioli drostynt eu hunain a sbarduno newid. Y tu hwnt i sicrwydd ynglŷn â chyllid, roedd hyn hefyd wedi galluogi gweledigaeth hirdymor a rennir ar gyfer lle, gan helpu i gynyddu aliniad strategol i’r eithaf ac osgoi buddsoddiadau darniog o fewn y rhaglen hon a ffynonellau eraill.
3. Canlyniadau cyfannol:
Trwy ddefnyddio dull wedi’i seilio ar ganlyniadau, roedd y rhaglen wedi galluogi pob lle i fynd i’r afael â phroblemau mewn modd cyfannol. Gallai cymunedau ddod o hyd i ddatrysiadau a oedd yn mynd i’r afael â sawl thema: tai, addysg, iechyd a chyflogaeth.
Mae ein Cynllun Cymdogaethau yn efelychu ac ychwanegu at egwyddorion y Fargen Newydd ar gyfer Cymunedau.
Proffil cyllid
Bydd pob cymuned yn cael cyllid a chymorth sy’n dod i gyfanswm o hyd at £20 miliwn. Bydd y cyllid yn cael ei rannu’n 75% cyfalaf a 25% refeniw, yn unol â’r proffil canlynol:
Math o grant | 2025 i 2026 | 2026 i 2027 | 2027 i 2028 | 2028 i 2029 | 2029 i 2030 | 2030 i 2031 | 2031 i 2032 | 2032 i 2033 | 2033 i 2034 | 2034 i 2035 | 2035 i 2036 | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyfanswm cyllid refeniw | 200 | 382 | 256 | 432 | 432 | 432 | 432 | 437 | 450 | 450 | 450 | 4,599 |
Cyllid refeniw (capasiti) | 200 | 150 | - | - | - | - | - | - | - | - | - | 600 |
Cyllid refeniw (grantiau) | - | 232 | 256 | 432 | 432 | 432 | 432 | 437 | 450 | 450 | 450 | 3,999 |
Cyllid cyfalaf (grantiau) | - | 360 | 1,736 | 1,605 | 1,605 | 1,605 | 1,605 | 1,605 | 1,605 | 1,605 | 1,605 | 14,936 |
Cyfanswm | 19,537 |
Sylwer: Ar gyfer capasiti refeniw, darparwyd £250,000 dros flynyddoedd ariannol 2023 i 2024 a 2024 i 2025.
Bydd cyllid cyflawni’n cael ei ryddhau o ddechrau blwyddyn ariannol 2026 i 2027, gan roi amser a lle i gymunedau ymgorffori’r strwythurau llywodraethu angenrheidiol, cynyddu eu presenoldeb yn yr ardal leol a datblygu capasiti a gallu lleol fel y byddant yn barod i ddechrau’n syth. I hwyluso hyn, bydd £200,000 ychwanegol o gyllid capasiti yn cael ei ryddhau ar ddechrau blwyddyn ariannol 2025 i 2026 i’r holl awdurdodau lleol sy’n derbyn cyllid. Mae hyn yn ychwanegu at y grantiau £250,000 blaenorol a roddwyd i awdurdodau lleol i sefydlu Byrddau Cymdogaeth a dechrau ymgysylltu â’r gymuned yn rhan o Gynllun Hirdymor ar gyfer Trefi y weinyddiaeth flaenorol.
Dylai awdurdodau lleol ymgynghori â Byrddau Cymdogaeth ynglŷn â’u blaenoriaethau ar gyfer defnyddio’r arian hwn, a allai gynnwys:
- sefydlu a chynnal y Bwrdd Cymdogaeth, gan gynnwys unrhyw broses i sefydlu’r bwrdd fel elusen, cwmni buddiant cymunedol, neu fodel sefydliadol arall o’r gwaelod i fyny, er mwyn cynnal buddsoddiad hirdymor
- ymgysylltu â’r gymuned, a allai gynnwys trosglwyddo arian yn syth i grwpiau sector gwirfoddol a chymunedol i gynorthwyo ag ymgysylltu
- datblygu Cynlluniau Adfywio
- sicrhau cyngor ac arbenigedd i Fyrddau Cymdogaeth ar gyfer elfennau technegol datblygu a chyflawni cynllun, gan nodi bod cymorth ar gael gan yr adran a’r cyfarwyddyd i gwtogi ar ddefnydd ar ymgynghorwyr gan y sector cyhoeddus
- sicrhau bod ymyriadau cyfalaf a seilwaith yn gallu dechrau’n syth, er enghraifft, trwy sbarduno’r broses cais cynllunio, sicrhau cynlluniau pensaernïol a chael cyngor cyfreithiol, neu unrhyw weithgarwch arall y mae cynghorau a byrddau’n credu y byddant yn datblygu eu cynlluniau
Mae’r canllawiau llywodraethu a ffiniau cysylltiedig yn rhoi mwy o fanylion am y rheolau cyllido a gwario – a bydd gwybodaeth ychwanegol yn dilyn mewn canllawiau ategol sydd i’w cyhoeddi cyn hir. Rhoddir hyblygrwydd i gymunedau ynglŷn â gwario, gan gynnwys y gallu i fenthyca yn erbyn yr hyn sy’n ffrwd refeniw warantedig a chario tanwariant ymlaen i flynyddoedd diweddarach y rhaglen.
Dylai Byrddau Cymdogaeth ystyried sut orau i ddefnyddio eu cyllid i ddenu buddsoddiad arall ac arian cyfatebol, o ffynonellau preifat a chyhoeddus eraill.
Byddwn yn cadarnhau manylion y cymorth ychwanegol a ddarperir gan MHCLG i ddatblygu a chyflawni cynlluniau maes o law.
Llinell amser
Mis Chwefror i fis Ebrill 2025:
- Bydd Byrddau Cymdogaeth ac awdurdodau lleol yn cael pecyn data wedi’i deilwra sy’n manylu ar fetrigau ar draws y 3 amcan strategol, ac arolygon barn sy’n dangos safbwyntiau lleol ar flaenoriaethau buddsoddi ar gyfer eu hardal
- Bydd Byrddau Cymdogaeth yn cadarnhau eu haelodaeth derfynol ac unrhyw gynigion i newid y ffin ardal ‘ddiofyn’ ar gyfer gwario yn eu cymuned i MHCLG erbyn dydd Mawrth 22 Ebrill 2025
Gwanwyn 2025:
- Bydd MHCLG yn adolygu aelodaeth a chynigion ffiniau ac yn rhoi gwybod i leoedd a ydynt yn dderbyniol
- Bydd canllawiau ychwanegol yn cael eu cyhoeddi ar gyflawni’r gronfa, pecynnau cymorth polisi wedi’u teilwra ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a chyflwyno, asesu a chymeradwyo Cynlluniau Adfywio
- Bydd MHCLG yn rhoi taliadau cyllid capasiti 2025 i 2026 i’r holl leoedd
Gwanwyn 2025 i’r gaeaf 2025:
- Bydd Byrddau Cymdogaeth yn cyflwyno eu Cynllun Adfywio i MHCLG i’w asesu a’i gymeradwyo
O fis Ebrill 2026 ymlaen:
-
Bydd y taliad cyllid cyntaf ar gyfer cyflawni’r rhaglen yn cael ei wneud i awdurdodau lleol arweiniol, gan ddechrau’r cam cyflawni
-
Bydd MHCLG yn rhoi taliadau cyllid capasiti 2026 i 2027 i’r holl leoedd
Amcanion y gronfa
Yr hyn sydd wrth wraidd y Cynllun Cymdogaethau yw partneriaeth rhwng Bwrdd y Gymdogaeth a llywodraeth leol, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd y bartneriaeth hon yn sbarduno twf trwy wella seilwaith ffisegol a chymdeithasol eu cymuned a darparu gwelliannau pendant i fywydau pob dydd y cymunedau hyn. I gyflawni’r effaith fwyaf, anogwn fyrddau i ganolbwyntio’r cyllid a’r ymyriadau ar y cymdogaethau a’r cymunedau hynny o fewn eu ffiniau sydd â’r angen mwyaf.
Mae’r bwrdd, gan weithio gyda’r awdurdod lleol, yn gyfrifol am gynhyrchu Cynllun Adfywio 10 mlynedd ar gyfer ei ardal, sy’n amlinellu’r gweithgarwch y bwriedir iddo gyflawni 3 amcan strategol y rhaglen hon:
- lleoedd ffyniannus
- cymunedau cryfach
- adfer rheolaeth
Trwy wneud cynnydd ar bob un o’r amcanion hyn, bydd ardaloedd lleol yn sbarduno cenadaethau hirdymor y llywodraeth.
Lleoedd ffyniannus
Mae pobl yn ymfalchïo yn eu hardaloedd lleol, ond mae gormod o’n strydoedd mawr a’n hystadau wedi cael eu hesgeuluso a’u gadael ar ôl. Mae’n rhaid i ganol trefi a chymdogaethau esblygu ac adfywio i adlewyrchu anghenion ac arferion eu cymuned yn well, a dylai preswylwyr gael mwy o lais yn y ffordd maen nhw’n cael eu dylunio.
Mae pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn haeddu cael cymdogaethau a chymunedau bywiog sydd â strydoedd mawr prysur, ystod dda o amwynderau lleol, a seilwaith ffisegol o ansawdd uchel.
Rydym hefyd eisiau i’r Deyrnas Unedig fod yn wlad â gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf sy’n gweithio i bawb, o’r GIG a gofal cymdeithasol i ysgolion, gwasanaethau i blant a gwasanaethau ieuenctid.
O ran gofal iechyd, er enghraifft, mae’r lleoedd mwyaf difreintiedig yn fwyaf tebygol o brofi’r canlyniadau iechyd gwaethaf. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn 2018 i 2020, gall menywod yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o Loegr ddisgwyl byw 20 mlynedd yn llai mewn iechyd da o gymharu â menywod yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Dylai lleoedd allu dylunio gwasanaethau cyhoeddus sy’n hygyrch, yn ymatebol, ac wedi’u teilwra i anghenion lleol. Bydd buddsoddi yn nyfodol ein pobl ifanc ac mewn mesurau ataliol yn awr yn lleddfu’r pwysau ar wasanaethau yn y tymor hwy.
Astudiaeth achos: integreiddio a chydleoli gwasanaethau iechyd
Mae’r Ganolfan Ddiagnostig Gymunedol yn The Glass Works yn Barnsley, a gefnogir gan Gyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Barnsley mewn partneriaeth â Barnsley, y GIG a’r Bwrdd Gofal Integredig, wedi gwella hygyrchedd gofal iechyd yn sylweddol ar yr un pryd â chyfrannu at adfywio’r dref yn economaidd ac yn gymdeithasol.
Agorodd y ganolfan yn 2022 ac mae wedi darparu dros 100,000 o apwyntiadau diagnostig, lleihau amserau aros ar gyfer profion a sgrinio, a lleihau’r ôl-groniad apwyntiadau.
Mae’r ganolfan, sydd wedi’i lleoli’n strategol yng nghanol y dref, yn enghraifft o ‘ddull iechyd ar y stryd fawr’, gan integreiddio gofal iechyd mewn mannau cymunedol i wella mynediad a lleihau anghydraddoldebau. Mae ei hagosrwydd i drafnidiaeth gyhoeddus wedi lleihau nifer yr apwyntiadau a gollir, gan arwain at gynnydd 22% mewn presenoldeb ar gyfer mamogramau a gostyngiad 24% mewn cyfraddau ‘heb fynychu’. Trwy ddefnyddio unedau manwerthu, mae’r fenter yn cyd-fynd ag argymhellion cenedlaethol i ddefnyddio mannau ar y stryd fawr ar gyfer gwasanaethau hybu iechyd, gan ddenu 55,000 o ymweliadau ychwanegol â chanol y dref, sy’n cefnogi busnesau lleol.
Mae hyn yn enghraifft o bartneriaeth ac arloesedd sector cyhoeddus sy’n sbarduno gwell canlyniadau iechyd a thwf economaidd, gan wella gofal cleifion a meithrin ymdeimlad cryfach o gymuned.
Cymunedau cryfach
Mae gwydnwch yn rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig wedi cael ei erydu dros amser, ac ar ei fwyaf eithafol mae wedi creu lle ar gyfer ymddieithrio ac ymrannu o’r fath a ysgogodd yr anhrefn dreisgar a welwyd yn ystod yr haf 2024. Yn ddiweddar, mae arolygon barn wedi canfod bod 76% o Brydeinwyr yn credu bod ‘y Deyrnas Unedig yn teimlo’n rhanedig’ a bod llai na hanner ohonynt yn credu eu bod yn aelod o gymuned, neu’n rhan o grŵp lleol. Rydym eisiau grymuso byrddau i fynd i’r afael â gwraidd y broblem, ailadeiladu perthnasoedd, ac adfer ymdeimlad cyfunol o berthyn i’w cymuned, gan ddwyn pobl at ei gilydd fel y gallant deimlo’n falch o’u hardal ac yn ddiogel yn eu cymdogaeth.
Bydd mynd i’r afael â’r rhaniad hwn yn cael effaith gadarnhaol, uniongyrchol ar dwf. Mae gwella cyfalaf cymdeithasol yn gylch daionus ar draws sawl agwedd ar fywyd cyhoeddus. Er enghraifft, pan fydd rhieni’n adnabod ei gilydd, bydd pobl yn sylwi ar blant sy’n colli’r ysgol a bydd hynny’n derbyn sylw’n amlach, gan wella canlyniadau addysg ac enillion posibl yn y dyfodol. Petai’r Deyrnas Unedig yn gwella ymddiriedaeth gymdeithasol i lefelau Nordaidd (cynnydd o oddeutu 30%), mae ymchwil yn dangos y gallai hyn gynhyrchu £100 biliwn o dwf y flwyddyn.
Astudiaeth achos: canolfan gymunedol yn Sheffield
Mae Zest yn ganolfan gymunedol wedi’i lleoli yn Upperthorpe, Sheffield, lle gall pobl fanteisio ar gyfleusterau hamdden a nofio, llyfrgell a arweinir gan wirfoddolwyr sy’n cynnwys cyfrifiaduron, cyngor ar waith a hyfforddiant, gwasanaethau iechyd a lles, gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar a chlybiau ieuenctid. Mae’r cyfleusterau nad ydynt yn rhai hamdden am ddim i’w defnyddio gan mwyaf, gydag opsiwn i gyfrannu rhodd trwy ‘dalu’r hyn a allwch’ ar gyfer rhai gwasanaethau, er enghraifft, prydau bwyd yn y caffi Foodworks, a weinodd 6,000 o brydau poeth y llynedd.
Y tu hwnt i gyfleusterau, mae Zest hefyd yn darparu gwasanaethau allgymorth, arweiniad a chymorth cymunedol, gan gynnal llinell gymorth sy’n rhoi gwybodaeth ac arweiniad personol i breswylwyr, naill ai wyneb yn wyneb neu ar y ffôn, ochr yn ochr â chyngor ar gyflogaeth, cymorth i oedolion agored i niwed a’r rhai hynny sydd â phroblemau iechyd meddwl a mynediad at dalebau banc bwyd.
Roedd y prosiect gweithgareddau a bwyd yn ystod y gwyliau (HAF), sef un o raglenni Zest, yn cefnogi gweithgareddau yn y gwyliau, ond dim ond 30% o’r plant cymwys oedd yn mynychu yn ardal Malin Bridge a Loxley. Trwy ffurfio partneriaeth â’r ysgol leol a defnyddio rhwydweithiau ymddiriedaeth presennol, cynyddwyd presenoldeb 400%, gan gynnwys teuluoedd a oedd wedi ymddieithrio o’r ysgol yn flaenorol. Mae hyn yn dangos pŵer ymddiriedaeth a chydweithio wrth gryfhau cysylltiadau cymunedol.
Rhwng 2023 a 2024, cynorthwyodd gwasanaethau iechyd a lles Zest fwy na 1,300 o bobl, ac ymgysylltodd eu rhaglenni ieuenctid â 213 o bobl ifanc, gan eu helpu i fagu hyder a datblygu sgiliau bywyd. Yn sgil cynnydd 50% mewn gwirfoddoli y llynedd, mae Zest yn helpu i bontio’r bwlch rhwng y gymuned a gwasanaethau ehangach, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a lleddfu’r pwysau ar adnoddau allanol i greu cymuned fwy cydlynol a gwydn.
Adfer rheolaeth
Mae talent wedi’i lledaenu’n gyfartal, ond nid felly cyfleoedd. Mae pobl eisiau cael eu grymuso i reoli eu bywydau, i gael llais dros ddyfodol eu cymuned. Ond gall hyn deimlo’n bell i ffwrdd pan fyddwch yn byw o un slip cyflog i’r llall neu ar restr aros. Ni ddylai cyfleoedd bywyd plentyn sy’n cael ei eni yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr heddiw fod mor sylweddol wahanol i rywun sy’n cael ei eni yn Llundain.
Rydym eisiau sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd a bod oedolion yn gallu byw’r bywyd o’u dewis. Boed hynny’n cael at y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer marchnadoedd swyddi sy’n dod i’r amlwg wrth i ni newid i sero net neu gefnogi’r miloedd o ddarpar entrepreneuriaid trwy eu camau cyntaf at hunangyflogaeth.
Byddwn yn grymuso pobl i ymuno â’r gweithle, gweithwyr i gamu ymlaen, a busnesau i dyfu. Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu i sbarduno twf economaidd lleol.
Bydd gan bobl sydd wedi’u grymuso fwy o lais yn y ffordd y mae eu hardal leol yn cael ei ffurfio hefyd, sy’n elfen ganolog o’r rhaglen hon a gweledigaeth y llywodraeth hon ar gyfer cymunedau.
Astudiaeth achos: mynd i’r afael â heriau cyflogaeth yn Grimsby
Yn Grimsby, sefydlodd canolfan gymunedol o’r enw Centre4 yr Asiantaeth Recriwtio Foesegol i fynd i’r afael â heriau cyflogaeth yng Ngogledd-ddwyrain Swydd Lincoln.
Maen nhw’n buddsoddi mewn hyfforddiant, lleoliadau gwaith dros dro a pharhaol, a chefnogi mentrau cymunedol ar gyfer preswylwyr lleol sy’n cael trafferth dod o hyd i waith mewn ffyrdd traddodiadol. Mae hyn nid yn unig yn cryfhau’r economi leol ond hefyd yn hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol. Mae unrhyw elw’n cael ei ailfuddsoddi mewn gwella sgiliau lleol a datblygiad personol, ochr yn ochr ag ariannu prosiectau cymunedol amrywiol. A hithau’n sefydliad nid er elw, mae’r Asiantaeth Recriwtio Foesegol yn sicrhau bod busnesau’n elwa o staff ymroddedig ac ymgysylltiedig trwy ddull recriwtio teilwredig.
Mae ei rhaglen “Yn Falch o Ofalu” yn helpu pobl i gael cyfleoedd yn y sector gofal yn benodol ar draws Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln, gan ddarparu cymorth ymarferol drwy gydol y broses recriwtio. I liniaru’r baich ariannol a logistaidd ar gyflogwyr, mae’r asiantaeth yn talu’r costau sy’n gysylltiedig â recriwtio a hyfforddi ac mae’n cymorthdalu cyflogau dros dro am 12 wythnos gyntaf y gyflogaeth. Mae’r system gymorth hon yn lleddfu rhai o’r heriau sy’n wynebu busnesau lleol, ar yr un pryd â meithrin datblygiad y gweithlu yn y gymuned.
Astudiaeth achos: Partneriaeth Adnewyddu Cymdogaeth Coleraine, Gogledd Iwerddon
Yn Coleraine, mae Bwrdd y Bartneriaeth Adnewyddu Cymdogaeth yn gweithio i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n deillio o amddifadedd. Mae’n gwneud hynny trwy wneud ymrwymiad hirdymor i gymunedau, gan gydweithio i amlygu’r ffordd orau o ddatrys achosion sylfaenol tlodi ar y cyd. Mae aelodau cymunedau lleol, grwpiau gwirfoddol, cynrychiolwyr etholedig, busnesau, a sefydliadau sector cyhoeddus yn aelodau o’r Bartneriaeth. Un o’r prosiectau a gyflawnwyd gan y Bartneriaeth oedd prosiect Adfywio Gorllewin Bann. Mae’r prosiect hwn yn dwyn ynghyd a chydlynu gwasanaethau sy’n bodloni anghenion iechyd, addysg a hyfforddiant yn y gymuned leol. Mae rhaglen y blynyddoedd cynnar, sy’n cynnwys crèches, yn rhoi’r cymorth y mae ei angen ar deuluoedd i ymgysylltu â gwasanaethau eraill neu gyflogaeth. Yn ogystal, darparodd y prosiect unedau busnes rhad a chyfleusterau i’w defnyddio gan y gymuned. Trwy gynnig gwahanol wasanaethau, mae’r prosiect yn rhoi gwell siawns i breswylwyr Gorllewin Bann fanteisio ar wahanol gyfleoedd.
Mae ein Cynllun Cymdogaethau’n ceisio cyflawni set ehangach o amcanion strategol na Chynllun Hirdymor ar gyfer Trefi y weinyddiaeth flaenorol. Rydym eisiau grymuso byrddau i feddwl am yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu eu cymunedau mewn ffordd fwy cyfannol, gan ddysgu gwersi o’r Fargen Newydd ar gyfer Cymunedau, gyda’r cyfle i fuddsoddi ar draws ystod ehangach o feysydd polisi heb fod angen cysylltu eu gweithgarwch yn ôl i un ‘thema’ fuddsoddi gaeth.
Byrddau Cymdogaethau
Mae Byrddau Cymdogaethau’n rhoi pobl leol wrth wraidd y broses o ddiffinio dyfodol eu tref, gyda’r cyfrifoldeb am ddatblygu eu Cynllun Adfywio – mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol – i gyflawni amcanion strategol y rhaglen. Dylent ddwyn ynghyd preswylwyr, busnesau lleol, ymgyrchwyr llawr gwlad, cynrychiolwyr gweithle, arweinwyr ffydd a chymuned, a’r rhai hynny sydd â chysylltiad cryf â’u hardal. Mewn ymgynghoriad â’i gymuned, dylai’r bwrdd greu gweledigaeth ar gyfer dyfodol ei ardal a gosod llwybr ar gyfer ei chyflawni yn ystod cyfnod y rhaglen 10 mlynedd (a thu hwnt), gan ystyried cyfleoedd i ddenu a chyfuno ffrydiau cyllid preifat, cyhoeddus, a dyngarol newydd a phresennol.
Gwyddom y bydd gan lawer o gymunedau strwythurau bwrdd a llywodraethu ar waith eisoes, yn fwyaf amlwg ‘Byrddau Tref’ a sefydlwyd i gyflawni Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi y weinyddiaeth flaenorol. Gwnaed llawer o waith i sefydlu’r rhain, gan benodi cadeiryddion annibynnol a churadu aelodaeth briodol o randdeiliaid lleol ymgysylltiedig. Nid ydym eisiau dadwneud y gwaith a wnaed eisoes.
Mae’n rhaid i bob un o’r 75 o fyrddau gadarnhau eu cadeirydd, aelodaeth a ffiniau arfaethedig erbyn 23:59pm ar 22 Ebrill 2025.
Mae’r canllawiau llywodraethu a ffiniau cysylltiedig yn canolbwyntio ar:
- rolau a chyfrifoldebau Byrddau Cymdogaeth a chyrff atebol
- gofynion strwythur llywodraethu ar gyfer Byrddau Cymdogaeth
- y broses a’r llinellau amser ar gyfer cadarnhau trefniadau a ffiniau eu Bwrdd Cymdogaeth i MHCLG
- ffiniau daearyddol ar gyfer lleoedd sy’n derbyn cyllid
- proses adolygu a chymeradwyo gysylltiedig MHCLG
Byrddau Cymdogaeth yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae’r llywodraeth hefyd wedi ymrwymo i ailosod cysylltiadau â’r llywodraethau datganoledig a bydd cydweithio agosach o fewn cymunedau a chyda’r llywodraeth ehangach yn gwneud byrddau’n gryfach ac yn fwy effeithiol.
Yn yr Alban, dylai Byrddau Cymdogaeth ystyried amcanion polisi Strategaeth Adfywio Llywodraeth yr Alban, sy’n amlinellu ymrwymiad yr Alban i helpu’r cymunedau trefol mwyaf difreintiedig a’r cymunedau gwledig mwyaf bregus i adfywio, a sut gall yr ymyriadau a gyflawnir ategu Egwyddor Canol Trefi yn Gyntaf a Chynllun Gweithredu Canol Trefi yr Alban. Argymhellwn fod Byrddau Cymdogaeth yn cynnal trafodaethau cynnar â’u cyswllt yn yr MHCLG ac Uned Adfywio Llywodraeth yr Alban i ystyried cyfleoedd i alinio amcanion a gwneud y mwyaf o gyfleoedd cyllido.
Yng Nghymru, dylai byrddau ystyried sut mae eu Cynllun Adfywio’n rhyngweithio ag amcanion Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y rhaglen Trawsnewid Trefi, fframwaith cynllunio Cymru’r Dyfodol, a rhaglenni a strategaethau eraill perthnasol.
Yng Ngogledd Iwerddon, dylai byrddau ystyried sut mae eu Cynllun Adfywio’n rhyngweithio ag amcanion Rhaglen Lywodraethu Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, ochr yn ochr â strategaethau eraill presennol a chynlluniau datblygu lleol fel Cynlluniau Cymunedol a Chynlluniau Datblygu Lleol Cynghorau.
Cynlluniau Adfywio
Rhoddir rhagor o fanylion am gynnwys, ffurf ac amserlen gyflwyno Cynlluniau Adfywio mewn canllawiau i ddod.
Mae’n rhaid i Fyrddau Cymdogaeth weithio gyda phobl leol a’r awdurdod lleol i lunio Cynllun Adfywio. Gwyddom y bydd yr heriau mewn lleoedd yn amrywio, a’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd hynny sydd yn y sefyllfa orau i amlygu’r heriau hyn a llywio’r datrysiadau. Dylai byrddau weithio mewn partneriaeth â’u hawdurdod lleol unigol ac, os yw’n berthnasol, sicrhau yr ymgynghorwyd â’u Hawdurdod Cyfun Maerol ynglŷn â’r cynllun.
Dylai’r cynllun amlinellu gweledigaeth drosfwaol y gymuned ar gyfer newid yn ystod y degawd nesaf i gyflawni amcanion strategol y rhaglen, a ddatblygwyd trwy ymgysylltu ar lawr gwlad i adlewyrchu blaenoriaethau pobl leol.
Yn rhan o’r Cynllun Adfywio, bydd angen i fyrddau ddarparu cynllun buddsoddi manylach ar gyfer y cylch buddsoddi 4 blynedd cyntaf, a fydd yn cynnwys yr ymyriadau yr hoffai’r bwrdd eu datblygu yn ystod y cyfnod a sut mae’r gweithgarwch hwnnw’n cyflawni ar draws 3 amcan strategol y rhaglen.
Rydym yn gwybod bod lleoedd wedi gweithio’n galed i ymgysylltu â’u cymunedau a datblygu eu ‘Cynllun Hirdymor’ ar gyfer Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi y weinyddiaeth flaenorol. Mae’r cynnydd hwnnw’n werthfawr ac ni ddylai gael ei ddadwneud, ac ni ddylai lleoedd ddadwneud eu trefniadau llywodraethu ychwaith. Dylai cymunedau deimlo’n rhydd i ddatblygu ac addasu eu cynlluniau presennol – mae ein diwygiadau’n ceisio ychwanegu at y rhaglen flaenorol a’i gwella gyda chyfres newydd o amcanion strategol sy’n cyd-fynd â chynllun y llywodraeth hon i sbarduno twf, i’w cyflawni gan ystod ehangach o ymyriadau polisi. Credwn y bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i gymunedau ynglŷn â sut a beth y gallant ei gyflawni, heb gefnu ar bopeth a wnaed eisoes.
Bydd Byrddau Cymdogaeth eisiau cyfle i addasu eu cynigion i ymateb i adborth gan y gymuned, ac mae’n cymryd amser i sefydlu trefniadau llywodraethu da ac ymddiriedaeth yn y gymuned. Ni fydd ailadeiladu gallu a hyder o fewn cymunedau a erydwyd gan ddegawdau o anghydraddoldeb, cyni ac amddifadedd yn digwydd dros nos. Un o’r gwersi craidd a ddysgwyd o’r rhaglen Bargen Newydd ar gyfer Cymunedau oedd pwysigrwydd cynnwys ‘blwyddyn sero’ ym mhob cynllun adfywio, i sicrhau canlyniadau gwell ar ddiwedd degawd o fuddsoddi. Mae hyn yn golygu neilltuo amser i sicrhau bod sylfeini’r rhaglen yn gadarn, gan gynnwys cyflogi’r bobl iawn, dewis systemau rheoli effeithiol, a sefydlu prosesau ar gyfer cynnwys y gymuned.
Dyna pam rydym wedi cadarnhau taliad capasiti ychwanegol o £200,000 ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026. Gan gydnabod y gwahanol lefelau capasiti lleol a gwaith datblygu sy’n ofynnol ar draws y 75 o gymunedau, bydd MHCLG yn darparu cyfnod eang i Fyrddau Cymdogaeth gyflwyno eu Cynllun Adfywio i ni.
Ymyriadau a gymeradwywyd o flaen llaw a rhestr pwerau
Mae’r Cynllun Cymdogaethau’n wahanol i’r broses ymgeisio gystadleuol a’r microreoli sy’n gysylltiedig â chronfeydd adfywio blaenorol. Yn lle hynny, mae’r model hwn yn rhoi rhestr ymyriadau a gymeradwywyd o flaen llaw i Fyrddau Cymdogaeth a’r annibyniaeth i symud ymlaen â gweithgarwch heb fod angen darparu achos busnes hir os gellir dangos tystiolaeth bod y gweithgarwch hwnnw’n flaenoriaeth glir i’r gymuned. Mae dadansoddwyr MHCLG wedi asesu’r holl ymyriadau a restrir ac yn credu bod ganddynt achos cryf dros fuddsoddi, gwerth am arian a chymhareb cost a budd.
Mae’r gweithgareddau a restrir yn amrywio o ddatblygiadau newydd trawiadol i’r materion pob dydd a godwyd gan bobl ar y trothwy. Er mwyn rhoi cymaint o hyblygrwydd â phosibl i fyrddau ynglŷn â beth y gallant ei gyflawni a sut, rydym wedi mwy na dyblu nifer yr ymyriadau, gan ddarparu enghreifftiau lle y bo’n bosibl i ddangos syniadau ar gyfer gwariant ar yr un pryd â grymuso’r gymuned i feddwl am ei datrysiadau llawr gwlad ei hun. Yn wahanol i Gynllun Hirdymor ar gyfer Trefi y weinyddiaeth flaenorol, nid yw’r ymyriadau a restrir wedi’u cysylltu’n benodol ag un thema – yn lle hynny, rydym yn rhoi’r hyblygrwydd i fyrddau ystyried sut gall yr ymyriadau maen nhw’n dymuno eu gweithredu fod yn gymwys i unrhyw un neu bob un o amcanion strategol y rhaglen: lleoedd ffyniannus, cymunedau cryfach ac adfer rheolaeth. Nid oes angen i Fyrddau Cymdogaeth gysylltu pob ymyrraeth yn benodol ag un amcan penodol yn unig.
Yn yr un modd, nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr. Anogwn Fyrddau Cymdogaeth i feddwl yn arloesol ac yn greadigol ynglŷn â sut i gyflawni amcanion strategol y rhaglen. Pan fydd gweithgareddau y tu allan i gwmpas yr ymyriadau a gymeradwywyd o flaen llaw, ond mae’r bwrdd yn credu ei fod mewn sefyllfa well i fodloni anghenion lleol yn seiliedig ar ei ymgysylltiad â’r gymuned, dylai’r bwrdd geisio datblygu’r rhain. I wneud hyn, byddai angen i achos busnes gael ei gytuno gydag MHCLG.
Rydym hefyd yn darparu rhestr pwerau wedi’i diweddaru (neu ‘becyn cymorth polisi’), sy’n amlinellu’r pwerau sydd eisoes ar gael i gymunedau ac awdurdodau lleol yn Lloegr (ac yng Nghymru mewn rhai achosion).
Byddwn yn cyhoeddi pecynnau cymorth tebyg i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar wahân, ar ôl ymgynghori â’r llywodraethau datganoledig.
Rydym eisiau rhoi’r offer a’r wybodaeth y mae eu hangen ar fyrddau a chymunedau i wneud penderfyniadau gwybodus, gan rymuso pobl leol i gymryd cyfrifoldeb dros ddyfodol eu cymdogaeth a’u hardal leol. Nid microleoli yw hyn, ond datganoli go iawn – trosglwyddo pŵer a buddsoddiad i’r mannau lle y mae eu hangen.
Ymgysylltu â’r gymuned
Mae ymgysylltu’n ystyrlon â’r gymuned leol yn ganolog i’r Cynllun Cymdogaethau. Mae datblygu ymddiriedaeth a grymuso’r gymuned leol yn gofyn am gysondeb, ymroddiad ac amser, a thystiolaeth bod blaenoriaethau pobl wedi cael eu gwireddu.
Wrth roi mwy o ddylanwad i gymunedau dros eu hardal, mae’n bwysig sicrhau nad yw hyn yn cael ei ddominyddu gan y rhai mwyaf penderfynol. Rydym yn darparu’r amser, y lle a’r cyllid i osgoi ymgynghori generig heb ddigon o adnoddau, i sicrhau bod Byrddau Cymdogaethau’n clywed gan bawb, ac yn cynnwys pobl o gymunedau difreintiedig neu sydd wedi’u hymyleiddio a allai gael trafferth leisio’u barn yn nodweddiadol. Mae’r grwpiau hyn nad ydynt yn cael eu gwasanaethu digon yn cynnwys pobl y mae eu hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol, eu hiaith neu eu diwylliant yn golygu y gallai fod yn anodd iddynt gael at ddulliau ymgysylltu ‘arferol’. Gallai’r rhain gynnwys pobl ddigartref, pobl nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd, pobl nad ydynt yn siarad Saesneg neu’r henoed.
Dylai ymgysylltu â’r gymuned fod yn broses ailadroddol, fel bod pobl yn deall sut mae eu blaenoriaethau’n cael eu hadlewyrchu yn y cynllun. Fe ddylai ddigwydd yn rheolaidd drwy gydol y rhaglen, wrth i anghenion a blaenoriaethau cymunedau esblygu, a dylid dychwelyd i grwpiau yr ymgysylltwyd â nhw’n flaenorol i amlinellu’r cynnydd a wnaed, sut yr ystyriwyd eu pryderon a’u blaenoriaethau a’u galluogi i ddal y bwrdd i gyfrif am eu cyflawni. Dylai Byrddau Cymdogaeth adeiladu ar strwythurau ymgysylltu â’r gymuned sydd eisoes yn bodoli trwy fapio seilwaith cymdeithasol presennol yn eu cymuned a manteisio ar yr arbenigedd hwnnw.
Astudiaeth achos: adfywio a arweinir gan y gymuned
Arweiniodd Co-operatives UK y rhaglen Datblygu Economaidd Cymunedol gwerth £1.455 miliwn, a rymusodd 71 o gymunedau yn Lloegr i greu cynlluniau economaidd wedi’u sbarduno’n lleol. Trwy bartneriaethau â grwpiau fel Locality a’r Sefydliad Economeg Newydd, darparodd Co-operatives UK grantiau a chymorth technegol, gan helpu cymunedau i ddatblygu strategaethau cynaliadwy a arweinir yn gydweithredol. Yn wahanol i ddulliau traddodiadol o’r brig i lawr sy’n canolbwyntio ar dwf economaidd, grymusodd Datblygu Economaidd Cymunedol breswylwyr i ffurfio eu heconomïau trwy gynhyrchu cyfoeth a swyddi sy’n aros yn eu cymunedau.
Ymunodd Safe Regeneration yn Bootle, Sefton â’r rhaglen Datblygu Economaidd Cymunedol gyda’r nod o ehangu y tu hwnt i’w canolfan deori busnes bresennol, er mwyn cynyddu eu heffaith a’u gweithgareddau’n sylweddol er budd yr economi ehangach. Mae eu prosiectau’n cynnwys:
- caffael tafarn adfeiliedig – fe’i prynwyd oddi wrth y bragdy i greu llety i westeion, lleoliad cerddoriaeth a thafarn gastro
- ffurfio partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd i roi bywyd newydd i’r llwybr camlas cyfagos er mwyn cynyddu nifer y bobl sy’n ei ddefnyddio a chryfhau’r economi leol
Caniataodd y model hwn o ddatblygu a arweinir gan y gymuned, wedi’i seilio ar asedau, i Safe Regeneration sbarduno twf economaidd cynaliadwy wedi’i deilwra i anghenion lleol.
Astudiaeth achos: gwella canlyniadau cymunedol ledled Cymru
Mae’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn sefydliad eiriolaeth ac ambarél trydydd sector sy’n gweithredu ledled Cymru. Mae ei rhaglen graidd, sef Buddsoddi’n Lleol, yn ceisio cryfhau cymunedau bregus yng Nghymru trwy rymuso eu preswylwyr trwy adfywio a arweinir gan y gymuned. Mae Buddsoddi’n Lleol yn darparu hyd at £1 filiwn am gyfnod o 10 mlynedd, ac mae’r ffordd y dyrennir y cyllid yn cael ei sbarduno’n llwyr gan y gymuned oherwydd rhoddir cyfle i breswylwyr amlygu nodau a datblygu gweithgareddau a fydd yn creu newid cadarnhaol yn eu cymunedau. Mae swyddog o’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn cael ei neilltuo i bob lle i ddarparu cymorth, helpu i gynyddu capasiti, a gweithredu fel galluogwr.
Ers 2016, mae Buddsoddi’n Lleol wedi helpu i wella canlyniadau cymunedol mewn 13 o leoedd ledled Cymru. Er enghraifft, yn Trowbridge a Phentref Llaneirwg, defnyddiodd preswylwyr rywfaint o’r arian i greu pantri. Yn ystod y pandemig COVID-19, bu’r pantri’n ased amhrisiadwy a wnaeth y gymuned yn fwy gwydn trwy ddarparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth.
Gweithiodd mwy na 60 o wirfoddolwyr ddydd a nos i:
- brynu nwyddau a’u danfon i aelwydydd
- derbyn galwadau i’r llinell gymorth
- rhoi cefnogaeth foesol
- helpu unigolion agored i niwed wyneb yn wyneb pan oedd angen (cynorthwywyd bron 300 o breswylwyr yn y ffyrdd yma)
- creu a danfon mwy na 350 o ‘becynnau gweithgareddau’ i gefnogi lles plant a phobl ifanc trwy gynnal eu diddordeb yn ystod y cyfnodau clo
- rhoi cymorth wedi’i deilwra i aelwydydd agored i niwed a oedd yn wynebu heriau amrywiol, fel profedigaeth neu berygl o fod yn ddigartref
Arfer gorau ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned
Fel y mae Local Trust yn nodi, ni fydd ‘un strategaeth i bawb’ yn gweithio; fodd bynnag, rydym wedi amlinellu rhywfaint o arfer gorau y gallai Byrddau Cymdogaethau ddymuno ei ystyried wrth gynllunio ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned.
Canolbwyntiwch ar bobl sy’n llai tebygol o gael eu clywed:
Bydd y Cynllun Cymdogaethau’n fwyaf effeithiol os bydd byrddau’n ymgysylltu â phobl nad ydynt yn cyfrannu at wneud penderfyniadau fel arfer. Nod craidd y rhaglen hon yw mynd i’r afael ag amddifadedd, felly ystyriwch sut gallwch ymgysylltu orau â phobl efallai nad ydynt yn teimlo bod pobl yn gwrando arnynt, fel arfer.
Amlygwch asedau lleol:
Defnyddiwch asedau lleol i ychwanegu at gryfderau presennol, a gweithiwch gyda grwpiau cymunedol sydd eisoes â pherthnasoedd ac arbenigedd ym maes datblygu cymunedol i ddylunio ymgysylltiad a sicrhau cyrhaeddiad digonol. Ystyriwch ddefnyddio’r cyllid capasiti a ddyrannwyd i fuddsoddi yn y sefydliadau hyn er mwyn cefnogi ymgysylltiad.
Neilltuwch amser ar gyfer ymgysylltu’n ystyrlon:
Pan fyddwch yn cynllunio ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned, gwnewch yn siŵr fod digon o amser yn cael ei neilltuo i ganiatáu ar gyfer ymgysylltu’n ystyrlon â phob rhan o’r gymuned.
Gwrandewch yn ofalus ar y gymuned leol:
Peidiwch ag ofni gwyro oddi wrth restr o gwestiynau a bennwyd o flaen llaw. Gadewch i sgyrsiau lifo’n naturiol a sylweddolwch pan nad yw pobl yn cytuno â diagnosis neu ddatrysiadau a ffefrir – gadewch i wahanol grwpiau gyfeirio’r sgwrs.
Defnyddiwch eich cymuned i amlygu blaenoriaethau:
Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y cynlluniau’n cael eu creu ar y cyd â’r gymuned o’r dechrau.
Astudiaeth achos: cynllun lle Stranraer
Dewiswyd Stranraer yn un o’r lleoedd i’w gynnwys yn Rhaglen Lle Bargen Dwf Gororau’r Alban. Yn rhan o hyn, roedd angen cynllun lle ar y dref i amlygu prosiectau a buddsoddiadau. Roedd llawer o bartneriaid ac aelodau’r cyhoedd wedi cael llond bol ar gymryd rhan mewn ymgynghoriadau yn y gorffennol heb lawer o allbynnau, felly gweithiodd Ymddiriedolaeth Ddatblygu Stranraer gyda grŵp o chwe phartner cymunedol i ehangu’r cyrhaeddiad a datblygu ymdeimlad o berchnogaeth.
Crëwyd ‘tîm y dref’ a oedd yn cynnwys rhanddeiliaid a sectorau o’r gymuned yn gyffredinol i ddatblygu’r cynllun. Gwnaethant edrych yn eang hefyd wrth ymgysylltu â’r cyhoedd, gan greu cysylltiadau â gweithredwyr a sefydliadau lleol. Cynhaliwyd ymgynghoriad 6 mis cynhwysol, gan gyfarfod â phobl ‘yn y fan a’r lle’ mewn ysgolion, gweithgareddau grwpiau a chlybiau presennol ac ar y stryd, yn hytrach na mynnu bod pobl leol yn dod i ddigwyddiadau a drefnwyd. Arweiniodd hyn at ddull â 5 elfen a oedd yn cynnwys trefniadau gwneud penderfyniadau cydweithredol a phleidleisio cyhoeddus i amlygu prosiectau blaenoriaethol. Mae 6 phrosiect strategol bellach yn symud i’r cam dylunio er mwyn dechrau eu gweithredu yn 2025 i 2026.
Targedwch ardaloedd lle bu ymgysylltiad ar ei gwannaf:
Defnyddiwch eich gwybodaeth am yr ardaloedd lle bu ymgysylltiad ar ei gwannaf yn nodweddiadol, a pha grwpiau a allai fod wedi’u tangynrychioli yn y gorffennol. Manteisiwch ar berthnasoedd â grwpiau cymunedol i weld sut gellid gwella ymgysylltiad i oresgyn rhwystrau fel incwm, ethnigrwydd, oedran, anabledd ac iaith.
Byddwch yn greadigol ac yn bresennol:
Ewch allan i’r gymuned. Cynhaliwch ddigwyddiadau ymgysylltu yn y mannau lle mae pobl a chymunedau’n cyfarfod, er enghraifft, y stryd fawr leol, clybiau ieuenctid, tafarnau, ysgolion a chanolfannau cymunedol. Manteisiwch i’r eithaf ar y cyfle i gael safbwyntiau gan grwpiau eang o breswylwyr efallai na fyddent yn mynychu digwyddiadau ymgynghori.
Defnyddiwch ddull cyfranogol:
Anogwch y gymuned i gymryd rhan mewn prosesau penderfynu, fel cyllidebu cyfranogol. Fe all hyn ddenu preswylwyr i ymgysylltu, gan helpu i amlygu datrysiadau lleol a datblygu syniadau arloesol. Fe allai awdurdodau lleol helpu i gynghori ar offer eraill a ddefnyddiwyd ganddynt yn y gorffennol.
Dirprwywch rolau i grwpiau cymunedol:
Amlygwch feysydd lle y gellid rhoi’r cyfrifoldeb i grwpiau cymunedol am gynllunio a chyflawni Cynlluniau Adfywio, gan wella gallu lleol trwy gynnwys y grwpiau hyn yn y broses cynllunio a chyflawni. Ystyriwch sut gall partneriaid Byrddau Cymdogaeth, fel sefydliadau cymunedol, gyflawni rôl eglur yn y broses i ysgogi diddordeb yn y rhaglen. Fe allai hyn hefyd gynnwys datganoli cyllidebau a chyflawni i grwpiau cymunedol ar gyfer blaenoriaethau cymdogaeth.
Astudiaeth achos: cydweithio ar lawr gwlad
Anogir aelodau’r Rhwydwaith Arloesedd Cynghorau Cydweithredol (CCIN) i awgrymu prosiectau lle gallant weithio gydag aelodau eraill i ganfod datrysiadau polisi cydweithredol i’r heriau sy’n wynebu llywodraeth leol. Mae rhaglen waith y CCIN wedi’i rhannu’n brosiectau mwy o faint o’r enw Labordai Polisi, a phrosiectau llai o’r enw Prototeipiau Polisi.
Rhwng 2019 a 2021, cydweithiodd 4 cyngor ar brosiect Labordy Polisi i archwilio modelau cydweithredol ar gyfer gwella ymgysylltu â’r gymuned a chyflawni canlyniadau lleol gwell. Dyma’r cynghorau a oedd yn gysylltiedig:
- Cyngor Tref Burntwood
- Cyngor Dosbarth Gogledd Swydd Hertford
- Cyngor Bwrdeistref Stevenage
- Cyngor Dinas Sunderland
Er gwaethaf gwahaniaethau o ran maint ac adnoddau, mabwysiadodd pob cyngor strategaethau ar lefel cymdogaeth i wella gwasanaethau.
Canolbwyntiodd Burntwood ar rymuso grwpiau cymunedol i ddarparu gwasanaethau, tra creodd Gogledd Swydd Hertford rwydwaith bwyd yn ystod y pandemig i sicrhau mynediad teg at fwyd. Gweithredodd Stevenage Raglen Gymdogaeth Gydweithredol i wneud penderfyniadau ar y cyd, a thrawsnewidiodd Sunderland gwrs golff segur yn barc cymunedol trwy ymgysylltiad lleol.
Mae’r modelau hyn yn dangos sut gall cynghorau gydweithio â chymunedau i ddarparu gwasanaethau’n fwy effeithiol ac effeithlon.
Astudiaeth achos: trawsnewidiad a arweiniwyd gan breswylwyr yn Lawrence Weston
Mae menter Ambition Lawrence Weston (ALW), sydd wedi’i seilio ar ystad dai wedi’r rhyfel yng ngogledd-orllewin Bryste, yn brosiect a ysgogir gan y gymuned a gefnogir gan gyllid Big Local a phartneriaethau lleol.
Trwy gynllun datblygu cymuned a chynllun datblygu cymdogaeth, dylanwadodd y preswylwyr ar bolisïau fel sicrhau bod 50% o dai newydd yn cael eu dyrannu i deuluoedd lleol. Mae ALW yn hwyluso rhwydwaith cymunedol o fwy na 45 o sefydliadau, gan feithrin cydweithio ar brosiectau sy’n cael effaith fawr, fel fferm solar sy’n pweru 1,000 o gartrefi a thyrbin gwynt arfaethedig. Mae’r ymdrechion hyn wedi denu dros £5.5 miliwn o fuddsoddiad, gan hybu’r economi leol yn sylweddol, a thrawsnewid yr ardal trwy seilwaith newydd, gwell cysylltiadau trafnidiaeth, gwell cyfleusterau i bobl ifanc a chymorth i fusnesau lleol. Trwy ddosbarthu cyfoeth yn lleol a grymuso preswylwyr, mae ALW wedi creu cymuned gryfach, fwy hunanddibynnol â buddion parhaus. $CTA
Gwnewch yn siŵr fod atebolrwydd yn parhau trwy gyfleoedd ymgysylltu parhaus:
Gwnewch yn siŵr fod eich cymuned yn cael gwybod am ddatblygiadau yn ystod cerrig milltir allweddol trwy negeseuon e-bost, datganiadau i’r wasg, arddangosfeydd neu ddigwyddiadau wyneb yn wyneb.
Y camau nesaf
Mae gosod cymunedau wrth wraidd y broses adfywio wedi diffinio mentrau blaenorol llwyddiannus gan y llywodraeth, gan gynnwys Bargen Newydd ar gyfer Cymunedau John Prescott. Trwy neilltuo amser yn gyson i gael sgyrsiau da â phreswylwyr, datblygodd arweinwyr ymddiriedaeth a chyfalaf cymdeithasol o fewn cymunedau i sicrhau bod cyllid yn cael ei wario ar y pethau a oedd yn bwysig i bobl leol.
Mae’r Cynllun Cymdogaethau’n darparu’r cyllid a’r cymorth i ddatblygu ymddiriedaeth, sbarduno twf a rhyddhau potensial 75 o ardaloedd. Trwy gyflwyno Hawl y Gymuned i Brynu a mentrau ychwanegol i gefnogi strydoedd mawr a chymunedau, byddwn yn gweld arweinwyr lleol yn adfer rheolaeth, cymdogaethau’n cael eu hailfywiogi, a chymunedau’n cael eu cryfhau ym mhob cwr o’r wlad.