Skip to main content
Canllawiau

Canllawiau gweithgarwch corfforol Prif Swyddogion Meddygol y DU: gwybodaeth atodol

Diweddarwyd 10 Gorffennaf 2026

Diweddariad 2019 i’r canllawiau

Disgrifiad o ddulliau adolygu tystiolaeth

Sefydlwyd nifer o weithgorau arbenigol i adolygu’r dystiolaeth ar gyfer diweddaru canllawiau gweithgarwch corfforol 2011 y Prif Swyddogion Meddygol. Manteisiodd pob gweithgor arbenigol ar 3 fath o dystiolaeth:

  1. Adolygiadau o dystiolaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar a ddefnyddiwyd i lunio neu ddiweddaru canllawiau gweithgarwch corfforol rhyngwladol.
  2. Y dadansoddiadau cyfunol, y metaddadansoddiadau a’r adolygiadau systematig diweddaraf o waith ymchwil darpar dreialon a hap-dreialon dan reolaeth (RCT) a gyhoeddwyd ers yr adolygiadau diweddaraf a ddefnyddiwyd i ddiweddaru canllawiau rhyngwladol.
  3. Unrhyw bapurau perthnasol ychwanegol a nodwyd gan bob gweithgor arbenigol.

Hefyd, nodwyd sylwadau ac awgrymiadau yn ymwneud ag argymhellion gweithgarwch corfforol y Prif Swyddogion Meddygol o 2011 ar gyfer pob gweithgor arbenigol o’r ymgynghoriad cenedlaethol cyntaf.

Mae’r adrannau isod yn disgrifio’r dulliau adolygu hyn yn fwy manwl.

Dulliau ar gyfer y canllawiau gweithgarwch corfforol i blant dan 5 oed

Mae gwaith datblygu canllawiau helaeth ar gyfer ymddygiadau symudiad 24 awr ymhlith plant dan 5 oed wedi cael ei wneud yn rhyngwladol dros y 24 mis diwethaf (gweler cyfeiriadau 83 i 85 yn y canllawiau).

Er mwyn datblygu argymhellion drafft ar gyfer y DU, defnyddiodd y gweithgor arbenigol ar gyfer plant dan 5 oed y dull GRADE-ADOLOPMENT (mabwysiadu a/neu addasu canllaw presennol, yn ogystal â datblygiad o’r newydd) (gweler cyfeiriad 86 yn y canllawiau). Defnyddiwyd y dull hwn i fabwysiadu a/neu addasu Canllawiau Symudiad 24 Awr y Canadian Society for Exercise Physiology o 2017 ar gyfer y blynyddoedd cynnar (0 i 4 oed) i lunio:

  • canllawiau ar gyfer Awstralia yn 2017 (gweler cyfeiriad 84 yn y canllawiau)
  • canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) rhyngwladol
  • canllawiau ar gyfer De Affrica (gweler cyfeiriad 85 yn y canllawiau)

Defnyddiodd y gweithgor arbenigol ar gyfer plant dan 5 oed Ganllawiau Symudiad 24 Awr y Canadian Society for Exercise Physiology ar gyfer y blynyddoedd cynnar (0 i 4 oed) (gweler cyfeiriad 83 yn y canllawiau) fel sylfaen argymhellion drafft y DU. Dewiswyd y canllawiau o Ganada oherwydd, yn wahanol i ganllawiau ymgeisiol eraill:

  • roeddent yn bodloni nifer o feini prawf hanfodol a/neu ddymunol (gweler cyfeiriadau 84 ac 86 yn y canllawiau)
  • roeddent yn dilyn dull graddio argymhellion, asesu, datblygiad a gwerthuso (GRADE)
  • roeddent yn mynd i’r afael â chwestiynau eglur
  • roeddent yn cynnwys asesiad o fanteision a/neu niweidiau
  • roeddent wedi cael eu hasesu gan ddefnyddio’r dull rhyngwladol o ymdrin â chanllawiau, ymchwil, a gwerthuso (AGREE) (gweler cyfeiriad 87 yn y canllawiau)
  • gellid eu diweddaru
  • roeddent yn cynnwys asesiad perygl o duedd
  • roeddent yn mabwysiadu dull ymddygiad symudiad 24 awr
  • roeddent yn darparu mynediad at dablau tystiolaeth a/neu grynodebau i’w hystyried gan weithgor arbenigol y DU ar gyfer plant dan 5 oed

Gwnaed canlyniadau’r chwiliadau llenyddiaeth (crynodeb o ganfyddiadau a thablau GRADE) ar gael gan y Canadian Society for Exercise Physiology a’r Australian Guideline Development Group yn 2017. Roedd yn ddymunol diweddaru ac ymestyn y chwiliadau hyn ar gyfer proses y DU a gynhaliwyd yn 2018.Roedd Grŵp Datblygu Canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd yn ddigon caredig i rannu canlyniadau eu chwiliadau llenyddiaeth wedi’u diweddaru gyda gweithgor arbenigol y DU yn 2018. Mae argymhellion drafft y gweithgor arbenigol yn seiliedig ar y synthesis tystiolaeth wedi’i ddiweddaru a’i ymestyn lle’n bosibl.

Ystyriodd y gweithgor arbenigol ar gyfer plant dan 5 oed dystiolaeth ar gyfer 3 poblogaeth ar wahân:

  • babanod (hyd at flwydd oed)
  • plant bach (1 i 2 oed)
  • plant cyn ysgol (3 i 4 oed)

Ystyriwyd nifer fawr o amlygiadau, o dan benawdau cyffredinol gweithgarwch corfforol, ymddygiad llonydd a hyd cwsg. Fe wnaethom gynnwys y canlyniadau canlynol:

  • blonegogrwydd, datblygiad motor, rheoliad ymddygiadol-emosiynol
  • iechyd seicogymdeithasol (er enghraifft, llesiant, ansawdd bywyd), datblygiad gwybyddol, ffitrwydd cardiofasgwlaidd a chyhyrysgerbydol, niweidiau (anafiadau), iechyd ysgerbydol, iechyd cardiometabolig
  • twf, gweithgarwch corfforol a/neu wylio’r teledu (canlyniadau â chwsg fel y newidyn amlygiad)

Dulliau ar gyfer y canllawiau gweithgarwch corfforol ac ymddygiad llonydd i blant a phobl ifanc, oedolion ac oedolion hŷn

Mabwysiadodd pob gweithgor arbenigol yr un egwyddor, sef nodi pa un a oedd unrhyw dystiolaeth newydd i awgrymu newid i ganllawiau 2011 yn seiliedig ar y broses GRADE-ADOLOPMENT (gweler cyfeiriad 88 yn y canllawiau). Gan ddefnyddio’r broses GRADE-ADOLOPMENT, nodwyd y canllawiau gweithgarwch corfforol rhyngwladol diweddaraf ar gyfer plant a phobl ifanc - roedd y rhain o’r Iseldiroedd. Ynghyd â chanllawiau’r DU o 2011, dyma oedd fan cychwyn yr adolygiad.

Ysgrifennwyd canllawiau gweithgarwch corfforol cyfredol y DU fel cyngor i’r boblogaeth gyffredinol am yr amlder, y dwysedd, yr amser a’r mathau o weithgarwch corfforol yr argymhellir sy’n ofynnol i atal clefydau cronig ac i gynnal iechyd. Yn y DU, mae’r clefydau yn cyfeirio’n benodol at:

  • farwolaeth
  • blynyddoedd o fywyd a gollwyd
  • baich clefyd, fel:
    • clefyd coronaidd y galon
    • strôc
    • methiant y galon
    • diabetes mellitus math 2
    • clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint
    • canser y fron
    • canser y colon a’r rhefr
    • canser yr ysgyfaint
    • osteoarthritis
    • dementia a dirywiad gwybyddol
    • iselder a symptomau iselder

Mae’r canllawiau hefyd yn canolbwyntio ar atal marwolaeth cyn pryd (neu bob achos) a thoresgyrn, anableddau ymhlith yr henoed, anafiadau ac, ymhlith plant, symptomau anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd. Cafodd pedwar ffactor risg sydd â pherthynas achosol â’r clefydau cronig hyn eu cynnwys hefyd:

  • pwysedd gwaed systolig
  • colesterol LDL
  • pwysau’r corff (sgôr z BMI ymhlith plant)
  • sensitifrwydd i inswlin

Ar gyfer yr adolygiad arbenigol plant a phobl ifanc, cafodd cryfder cyhyrau, ffitrwydd cardioanadlol, iechyd esgyrn, gweithrediad gwybyddol a pherfformiad academaidd eu cynnwys fel dangosyddion iechyd pwysig ar gyfer y grŵp oed hwn.

Disgrifir y camau penodol a ddilynwyd i fynd i’r afael ag eitemau 1 i 3 uchod yn fanwl isod.

Nodi adolygiadau tystiolaeth cenedlaethol diweddar a ddefnyddiwyd i lunio neu ddiweddaru canllawiau gweithgarwch corfforol

Cyflawnwyd chwiliadau ar-lein (gan ddefnyddio Google) a thargedwyd cyrff iechyd cyhoeddus (Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, Canolfannau ar gyfer Rheoli ac Atal Clefydau) i chwilio am adolygiadau tystiolaeth o weithgarwch corfforol a ddefnyddiwyd i lunio canllawiau ac argymhellion gweithgarwch corfforol cenedlaethol (a gyhoeddwyd ers 2010). Cysylltwyd hefyd ag arbenigwyr rhyngwladol a oedd wedi llunio canllawiau cenedlaethol diweddar i nodi enghreifftiau pellach o adolygiadau perthnasol o Awstralia, Canada a’r Iseldiroedd (gweler cyfeiriadau 23, 89 a 90 yn y canllawiau). Canfuwyd adolygiadau tystiolaeth cenedlaethol ar gyfer llunio canllawiau gweithgarwch corfforol i blant ar gyfer 15 o wledydd Ewropeaidd a 4 o wledydd byd-eang eraill. Roedd deuddeg o’r adolygiadau tystiolaeth hyn yn gymwys i gael eu cynnwys yn seiliedig ar ddyddiad cyhoeddi (gweler cyfeiriadau 23 ac 89 i 99).

Nodi’r dadansoddiadau cyfunol, y metaddadansoddiadau a’r adolygiadau systematig diweddaraf o waith ymchwil darpar dreialon a RCT i ateb y cwestiynau penodol a ofynnwyd

Cyflawnwyd chwiliadau wedi’u targedu i nodi llenyddiaeth berthnasol ar y berthynas rhwng gweithgarwch corfforol a chanlyniadau iechyd. Roedd y rhain yn canolbwyntio’n bennaf ar dystiolaeth lefel adolygiad ar gyfer astudiaethau cohort hydredol yn archwilio’r berthynas rhwng gweithgarwch corfforol a chanlyniadau iechyd. Archwiliwyd adolygiadau systematig a metaddadansoddiadau ar gyfer hap-dreialon dan reolaeth hefyd i nodi pa fathau a chyfraddau o weithgarwch corfforol a ddefnyddiwyd mewn astudiaethau effeithiolrwydd. Chwiliwyd PubMed gan ddefnyddio cyfres wedi’i theilwra o dermau penawdau pwnc cyffredinol eang (MeSH) i ddarganfod yr astudiaethau diweddaraf a gyhoeddwyd a oedd yn berthnasol i anghenion pob gweithgor arbenigol. Er enghraifft:

  • hyfforddiant ymwrthedd
  • cyhyrau
  • esgyrn
  • cydbwysedd
  • gweithgarwch corfforol ac oedolion

Roedd termau’r chwiliadau a’u dyddiadau yn adlewyrchu’r chwiliadau o adolygiadau tystiolaeth rhyngwladol diweddaraf. Er enghraifft, cwtogwyd chwiliadau’r Iseldiroedd i 1 Hydref 2016, fel bod chwiliadau yn cynnwys yr holl gyhoeddiadau rhwng 1 Ionawr 2016 (rhag ofn bod archifo wedi’i oedi) ac 1 Ionawr 2018. Fe wnaeth gweithgorau arbenigol syntheseiddio effeithiolrwydd y dystiolaeth ar draws eu canlyniadau iechyd gan ddefnyddio’r broses hon.

Nodwyd cyfanswm o 42 o gyhoeddiadau drwy’r chwiliad PubMed. Cafodd astudiaethau eu heithrio os oeddent y tu allan i’r ystod dyddiadau, yn cynnwys poblogaethau ‘mewn perygl’ neu’n canolbwyntio ar ymddygiad llonydd yn unig. Fe wnaeth cydymaith ymchwil y tîm adolygu canolog gael gwared ar ddyblygiadau ac asesu cymhwysedd yr astudiaethau yn erbyn y cwestiynau craidd a amlinellir isod, a thrwy’r broses hon roedd cyfanswm o 14 o gyhoeddiadau yn gymwys i gael eu cynnwys (gweler cyfeiriadau 30 a 100 i 112).

Nodi unrhyw bapurau perthnasol ychwanegol gan bob gweithgor arbenigol

Gofynnwyd i bob gweithgor arbenigol nodi unrhyw ganlyniadau perthnasol a phrif bapurau o’u ffynonellau a’u rhwydweithiau eu hunain hefyd. Nododd gweithgorau arbenigol yr adolygiadau ansawdd uchel mwyaf perthnasol a chyfredol o’r ffynonellau hyn gan grynhoi effeithiolrwydd y dystiolaeth ar draws eu canlyniadau iechyd.

Cyfathrebu a gwyliadwriaeth

Ystyriodd y gweithgor arbenigol cyfathrebu a gwyliadwriaeth sut y gellid gwneud cyfathrebiad canllawiau gweithgarwch corfforol 2019 y Prif Swyddogion Meddygol yn fwyaf effeithiol a’u targedu at wahanol gynulleidfaoedd, a sut y gellid gwella’r gwaith o fonitro’r niferoedd sy’n manteisio ar y canllawiau a’i wneud yn fwy cyson ledled y DU. Cyhoeddwyd papur ar y materion monitro (gweler cyfeiriad 113) a bwriwyd ymlaen â gwaith pellach ar gyfathrebu a monitro trwy 2 weithgor ar ôl cyhoeddi’r canllawiau hyn.

Aelodau’r gweithgorau arbenigol

Gweithgor arbenigol: plant dan 5 oed

Aelodau:

  • Yr Athro John Reilly - cadeirydd
  • Dr Kathryn Hesketh
  • Dr Catherine Hill
  • Dr Adrienne Hughes
  • Dr Xanne Janssen
  • Dr Ruth Kipping
  • Yr Athro Sonia Livingstone
  • Dr Anne Martin

Gweithgor arbenigol: plant a phobl ifanc

Aelodau:

  • Yr Athro Russell Jago - cadeirydd
  • Yr Athro Stuart Fairclough
  • Dr Kelly Mackintosh
  • Dr Paul McCrorie
  • Dr Simon Sebire
  • Dr Lauren Sherar
  • Dr Esther van Sluij
  • Yr Athro Craig Williams

Gweithgor arbenigol: oedolion

Aelodau:

  • Yr Athro Marie Murphy - cadeirydd
  • Dr David Broom
  • Yr Athro Jason Gill
  • Dr Cindy Gray
  • Yr Athro Andy Jones
  • Dr James Steele
  • Yr Athro Dylan Thompson
  • Dr Jet Veldhuijzen van Zanten

Gweithgor arbenigol: oedolion ag anableddau

Aelodau:

  • Yr Athro Brett Smith - cadeirydd
  • Nathalie Kirby
  • Dr Rebekah Lucas
  • Bethany Skinner
  • Leanne Wightman

Gweithgor arbenigol: oedolion hŷn

Aelodau:

  • Yr Athro Dawn Skelton - cadeirydd
  • Dr Daniel Cleather
  • Yr Athro Rob Copeland
  • Dr Carolyn Greig
  • Dr Alexandra Mavroeidi
  • Dr Afroditi Stathi
  • Dr Garry Tew
  • Yr Athro Mark Tully

Gweithgor arbenigol: ymddygiad llonydd

Aelodau:

  • Yr Athro Ashley Cooper - cadeirydd
  • Yr Athro Stuart Biddle
  • Dr Sebastien Chastin
  • Dr Stacy Clemes
  • Dr Sally Fenton
  • Dr Claire Fitzsimons
  • Dr Richard Pulsford
  • Dr Thomas Yates

Gweithgor arbenigol: cyfathrebu a gwyliadwraeth

Aelodau:

  • Yr Athro Nanette Mutrie - cadeirydd
  • Anna Chalkley
  • Nick Colledge
  • Dr Philippa Dall
  • Dr Paul Kelly
  • Bob Laventure
  • Dr Karen Milton
  • Dr Andy Pringle
  • Sarah Ruane
  • Laura Smith
  • Yr Athro Martyn Standage
  • Dr Tessa Strain

Gweithgor arbenigol: beichiogrwydd

Aelodau:

  • Yr Athro Marion Knight - cadeirydd
  • Dr Lucy Mackillop
  • Dr Anne Matthews
  • Dr Manisha Nair
  • Dr Hamish Reid
  • Dr Ralph Smith

Gweithgor arbenigol: ôl-enedigol

Aelodau:

  • Dr Hayley Mills - cadeirydd
  • Katie Dalrymple
  • Dr Marlize De Vivo
  • Yr Athro Marian Knight
  • Dr Lucy Mackillop
  • Dr Islay McEwan
  • Yr Athro Lucilla Poston
  • Dr Shuby Puthussery
  • Dr Ralph Smith

Gweithgor arbenigol: adolygwyr allanol y DU

Aelodau:

  • Yr Athro Alan Batterham
  • Yr Athro Melvyn Hillsdon
  • Yr Athro Gareth Stratton
  • Dr Simon Williams

Grŵp cynghori rhyngwladol

Aelodau:

  • Yr Athro Ulf Ekelund, yr Adran Meddygaeth Chwaraeon, Ysgol Gwyddorau Chwaraeon Norwy, Norwy
  • Yr Athro Abby King, Ymchwil a Pholisi Iechyd, Prifysgol Stanford, UDA
  • Yr Athro Tony Okely, Athrofa Ymchwil Early Start, Prifysgol Wollongong, Awstralia
  • Yr Athro Russ Pate, Ysgol Iechyd Cyhoeddus Arnold, Prifysgol De Carolina, UDA
  • Yr Athro Jo Salmon, yr Ysgol Gwyddor Ymarfer Corff a Maetheg, Prifysgol Deakin, Awstralia
  • Dr Wanda Wendel-Vos, Canolfan Ymchwil Atal a Gwasanaethau Iechyd yr Athrofa Genedlaethol Iechyd Cyhoeddus a’r Amgylchedd, yr Iseldiroedd

Cydnabyddiaethau

Hoffem ddiolch yn arbennig am y cymorth yr ydym wedi ei gael gan Ganolfan Ymarfer Corff, Maetheg a Gwyddorau Iechyd yr Ysgol Astudiaethau Polisi ym Mhrifysgol Bryste a’r arweinyddiaeth a ddarparwyd gan Dr Charlie Foster.

Hoffem ddiolch i’r awduron cyfrannu canlynol ac aelodau o’n grŵp ysgrifennu canllawiau Prif Swyddogion Meddygol y DU ac aelodau’r gweithgorau arbenigol (a restrir isod). Mae eu cyngor a’u cymorth parhaus wedi bod yn hynod werthfawr.

  • Cadeirydd: Dr Charlie Foster, y Ganolfan Ymarfer Corff, Maetheg a Gwyddorau Iechyd, yr Ysgol Astudiaethau Polisi, Prifysgol Bryste, Lloegr
  • y gweithgor plant dan 5 oed: Yr Athro John Reilly, yr Ysgol Gwyddorau Seicolegol ac Iechyd, Prifysgol Strathclyde Glasgow, yr Alban
  • y gweithgor plant a phobl ifanc: Yr Athro Russell Jago, y Ganolfan Ymarfer Corff, Maetheg a Gwyddorau Iechyd, yr Ysgol Astudiaethau Polisi, Prifysgol Bryste, Lloegr
  • y gweithgor oedolion: Yr Athro Marie Murphy, y Coleg Doethurol a’r Athrofa Ymchwil Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Prifysgol Ulster, Gogledd Iwerddon
  • y gweithgor oedolion hŷn: Yr Athro Dawn Skelton, y Ganolfan ar gyfer Byw, yr Ysgol Gwyddorau Iechyd a Bywyd, Prifysgol Glasgow Caledonian, yr Alban
  • y gweithgor ymddygiad llonydd:
    • Yr Athro Ashley Cooper, y Ganolfan Ymarfer Corff, Maetheg a Gwyddorau Iechyd, yr Ysgol Astudiaethau Polisi, Prifysgol Bryste, Lloegr
    • Dr Richard Pulsford, Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd, Prifysgol Caerwysg
  • y gweithgor anabledd: Yr Athro Brett Smith, yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Prifysgol Durham, Lloegr
  • y gweithgor cyfathrebu a gwyliadwraeth: Yr Athro Nanette Mutrie, Canolfan Ymchwil Gweithgarwch Corfforol ar gyfer Iechyd, yr Athrofa Gwyddorau Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd, Prifysgol Caeredin, yr Alban

Diolch i’r bobl ganlynol, y gwnaeth pob un ohonynt gyfrannu at yr adroddiad a/neu at y cyfarfodydd consensws gwyddonol:

  • Kate Willis (y Ganolfan Ymarfer Corff, Maetheg a Gwyddorau Iechyd, yr Ysgol Astudiaethau Polisi, Prifysgol Bryste)
  • Catherine Falconer (swyddfa Prif Swyddog Meddygol Lloegr)
  • Cysylltiadau Ymchwil Gweithgarwch Corfforol yr Alban

Diolch hefyd i:

  • arweinwyr polisi’r DU dros weithgarwch corfforol y 4 gwlad am eu cyfraniadau
  • ein hadolygwyr allanol yn y DU:
    • Yr Athro Melvyn Hillsdon
    • Gareth Stratton
    • Alan Batterham
    • Dr Simon Williams

Yn olaf, diolch arbennig i’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) ac Is-adran Active Scotland Llywodraeth yr Alban, ac i Beelin Baxter a Caspian Richards yn benodol, a wnaeth waith rheoli prosiect ar y gwaith hwn ar ran y 4 gwlad, wedi’u cynorthwyo gan Fiona Cunnah ac Ian McClure.

Hoffem gydnabod hefyd cymorth a ddarparwyd gan Sport England a Dr Mike Brannan yn Public Health England (y Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau).

Adnewyddiad tystiolaeth 2026

Cyn adnewyddiad tystiolaeth 2026, diweddarwyd y ddogfen ganllawiau ddiwethaf yn 2019 a defnyddiodd hon adolygiad tystiolaeth ochr yn ochr â gweithgorau dan arweiniad arbenigwyr i nodi, gwerthuso ac integreiddio gwaith ymchwil pwysig. Mae diweddariad llawn mewn cydgysylltiad â Sefydliad Iechyd y Byd yn cael ei gynllunio a disgwylir allbynnau yn 2030.

Ers cyhoeddi diweddariad canllawiau 2019, mae’r sylfaen dystiolaeth wedi parhau i ddatblygu, gan gynnwys ymddangosiad astudiaethau sy’n cryfhau’r canllawiau presennol. Mae’n bosibl y gallai cynnwys y dystiolaeth fwy diweddar hon gynyddu perthnasedd a hwylustod defnyddio’r canllawiau presennol.

Gyda hyn mewn golwg, mabwysiadwyd dull cyffyrddiad ysgafn dros dro i adnewyddu’r dystiolaeth atodol ar gyfer adran oedolion y canllaw. Bwriedir i hwn gynyddu defnydd y canllawiau presennol, tra’n aros yn gymesur yng ngoleuni’r diweddariad llawnach arfaethedig yn y tymor canolig.

Cyflawnwyd y broses hon gan ddadansoddwyr a llyfrgellwyr o Public Health Scotland, Gwasanaeth Llyfrgell Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Dulliau adolygu tystiolaeth

Cyhoeddwyd canllawiau Symudiad Dyddiol Awstralia ym mis Mawrth 2026. Seiliwyd y rhain ar adolygiad o dystiolaeth a gyhoeddwyd cyn Rhagfyr 2023, a disgrifiwyd y broses adolygu mewn adroddiad atodol. Adolygwyd y dyfyniadau o hwn a phan fo’n berthnasol, cawsant eu cynnwys yn yr adolygiad hwn. Hefyd, cysylltwyd ag academyddion blaenllaw a gofynnwyd iddynt argymell astudiaethau i’w cynnwys. Cyflawnwyd chwiliadau llenyddiaeth atodol fel a ganlyn.

Cyflawnwyd chwiliadau gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU rhwng Rhagfyr 2023 a Mawrth 2026. Nod hyn oedd nodi adolygiadau systematig, metaddadansoddiadau a darpar astudiaethau cohort a gyhoeddwyd ers adolygiad Awstralia. Roedd meini prawf cynnwys yn cynnwys:

  • astudiaethau sy’n berthnasol i boblogaethau’r DU neu’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD)
  • adolygiadau systematig, metaddadansoddiadau neu ddarparu astudiaethau cohort
  • astudiaethau yr oedd eu poblogaeth yn oedolion iach yn bennaf
  • astudiaethau lle mai gweithgarwch corfforol neu anweithgarwch oedd yr ymyrraeth neu’r ffactor newidiol, ac â marwolaeth, disgwyliad oes iach, ansawdd bywyd neu ddangosyddion iechyd hirdymor fel y prif fesuriad canlyniadau

Cafodd astudiaethau a oedd yn edrych ar fanteision iechyd i boblogaethau â chlefydau yn bennaf eu heithrio.

Edrychodd chwiliad llenyddiaeth arall yn benodol ar fanteision lefelau islaw canllawiau, neu gynnydd bach i weithgarwch corfforol ar farwolaeth. Cyflawnwyd hwn gan Public Health Scotland – edrychodd ar adolygiadau systematig gan gwmpasu’r cyfnod 2019 i 2026.

Arfarniad ansawdd

Nododd adolygiad llenyddiaeth yr Alban 14 o astudiaethau. Arfarnwyd y rhain yn feirniadol gan ddefnyddio meini prawf AMSTAR 2, a chanfuwyd bod yr holl astudiaethau o ansawdd isel neu gritigol isel. Mae hyn yn cyd-fynd â chanfyddiadau adolygiad Awstralia ac nid yw’n anghyffredin mewn astudiaethau yn ymwneud ag iechyd cyhoeddus, gan adlewyrchu cyfyngiadau methodolegau astudio arsylwadol.

Blaenoriaethu

Nodwyd cyfanswm o 323 o astudiaethau gan y chwiliad llenyddiaeth eang. Argymhellwyd un ar bymtheg o astudiaethau gan academyddion a nodwyd 16 arall o adolygiad Awstralia. Adolygwyd teitlau a chrynodebau ac fe’u categoreiddiwyd yn ôl pa rai o’r canllawiau presennol yr oeddent yn ymwneud â nhw. Roedd angen dull pragmatig i nodi’r gwaith ymchwil mwyaf perthnasol. Roedd hyn yn cydnabod:

  • y bydd adolygiad systematig o ansawdd da wedi nodi a chynnwys yr holl ymchwil berthnasol o fewn y cyfnod chwilio – os oes adolygiadau systematig lluosog yn bodoli, bydd gorgyffwrdd rhwng astudiaethau sydd wedi’u cynnwys
  • bod canfyddiadau yn gyffredinol debyg o fewn y llenyddiaeth

Felly:

  • os oedd adolygiad systematig perthnasol a adolygwyd gan gymheiriaid wedi cael ei nodi gan adolygiad Awstralia neu gan gydweithwyr academaidd, ystyriwyd mai hon oedd y brif ffynhonnell
  • cafodd adolygiadau systematig ychwanegol eu hadolygu a’u cynnwys os oeddent yn fwy diweddar, neu’n cynnwys canfyddiadau perthnasol nad oeddent wedi’u cwmpasu gan y brif ffynhonnell
  • ystyriwyd darpar astudiaethau cohort dim ond os na ellir nodi adolygiad systematig diweddar ar y pwnc

Cyfyngiadau

Ni chynhaliwyd adolygiad tystiolaeth systematig. Hefyd, cyfyngwyd cwmpas yr adolygiad hwn i ganlyniadau iechyd fel:

  • marwolaeth a digwydded digwyddiadau cardiofasgwlaidd
  • cyflyrau hirdymor fel canser neu ddiabetes
  • cwympau

Nid yw hyn wedi cynnwys dynodwyr iechyd fel:

  • pwysedd gwaed neu BMI
  • mesurau o weithrediad corfforol
  • dangosyddion fel ffitrwydd cardioanadlol neu fàs cyhyrau

Mae hyn yn cyfyngu cwmpas yr adolygiad i gysylltiadau rhwng gweithgarwch corfforol a marwolaeth - a gweithgarwch corfforol a digwydded digwyddiadau cardiofasgwlaidd, cyflyrau hirdymor neu gwympau. Dylid nodi hefyd na wnaeth yr adolygiad hwn ystyried effeithiolrwydd ymyriadau penodol na gofyn am wybodaeth ymddygiadol i ystyried derbynioldeb neu effeithiolrwydd dulliau o gynyddu gweithgarwch corfforol.