Enghreifftiau o e-byst gwe-rwydo, galwadau ffôn a negeseuon testun amheus sy’n ymwneud â CThEF
Diweddarwyd 27 June 2023
I helpu ein hymchwiliadau, dylech roi gwybod i ni am bob e-bost gwe-rwydo, galwad ffôn a neges destun amheus sy’n ymwneud â CThEF.
Hyd yn oed os cewch yr un cysylltiadau twyllodrus (neu rai tebyg) yn aml, rhowch wybod amdanynt.
Peidiwch ag agor atodiadau na chlicio ar unrhyw gysylltiadau mewn e-bost neu neges destun annisgwyl, gallant gynnwys meddalwedd faleisus neu gallant eich cyfeirio at wefan gamarweiniol.
Dilëwch unrhyw negeseuon e-bost neu destun unwaith y byddwch wedi rhoi gwybod amdanynt.
Codau QR
Gallwch ddefnyddio’ch ffôn symudol i wneud y canlynol:
-
Sganio cod QR.
-
Parhau â’ch taliadau ar eich ffôn.
Rydym yn defnyddio codau QR i’ch helpu gyda chwblhau taliad i CThEF gan ddefnyddio’ch ffôn symudol ac rydym yn cynnwys y rhain ar lythyrau lle rydym wedi:
- gofyn i chi ddiweddaru’ch manylion cyswllt
- rhoi gwybod i chi am daliad sy’n ddyledus
- cadarnhau eich bod chi newydd gofrestru ar gyfer Hunanasesiad — mae’r codau’n mynd â chwsmeriaid i dudalennau cyngor ynghylch Hunanasesiad sydd ar GOV.UK
Mae’r cod QR hefyd i’w weld ar borwr bwrdd gwaith pan fyddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein CThEF am y tro cyntaf gan ddefnyddio Porth y Llywodraeth.
Negeseuon testun
O fis Ionawr 2023 ymlaen, mae’n bosibl y bydd CThEF yn anfon neges destun atoch os byddwch yn defnyddio ffôn symudol i ffonio un o’n llinellau cymorth.
Ar yr alwad honno, byddwn yn dweud wrthych i ddisgwyl neges destun oddi wrthym — naill ai’n syth neu’n fuan ar ôl i’n galwad ddod i ben.
Yn y neges destun, mae’n bosibl y byddwn yn anfon cysylltiad atoch at wybodaeth berthnasol ar GOV.UK neu at ein gwasanaeth sgwrsio dros y we.
Ni fydd CThEF byth yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol wrth anfon negeseuon testun atoch.
Peidiwch ag agor unrhyw gysylltiadau, nac ymateb i unrhyw negeseuon testun, sy’n honni eu bod oddi wrth CThEF, ac sy’n cynnig ad-daliad treth yn gyfnewid am fanylion personol neu ariannol.
Anfonwch unrhyw negeseuon testun amheus i 60599 (costau rhwydwaith yn gymwys), neu e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk neu phishing@hmrc.gov.uk ac yna ewch ati i ddileu’r negeseuon testun hynny.
Delwedd sy’n dangos enghraifft o neges destun CThEF dwyllodrus sy’n ceisio’ch annog i glicio ar hypergysylltiad a nodi manylion personol.
Sgamiau cysylltiedig â choronafeirws (COVID-19)
Sgamiau drwy neges destun
SMS ‘Ad-daliad COVID-19’ / ‘COVID-19 refund’
Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau amrywiol drwy neges destun sy’n cynnig ad-daliad treth CThEF mewn cysylltiad â phandemig COVID-19.
Peidiwch ag ateb y neges, a pheidiwch ag agor unrhyw gysylltiadau ynddi.
Sgamiau yn ymwneud ag ad-daliad treth
Cyfeiriadau e-bost
Ni fydd CThEF byth yn anfon hysbysiadau am ad-daliadau treth drwy e-bost.
Peidiwch â gwneud y canlynol:
- mynd i’r wefan
- agor unrhyw atodiadau
- datgelu unrhyw wybodaeth bersonol neu wybodaeth am daliadau
Mae’n bosibl y bydd twyllwyr yn ffugio cyfeiriad e-bost go iawn neu’n newid yr ‘enw dangos’ i wneud iddo ymddangos yn ddilys. Os ydych yn ansicr, anfonwch y neges ymlaen atom ac yna’i dileu.
Enghraifft o e-bost gwe-rwydo a gwefan gamarweiniol
Delwedd sy’n dangos enghraifft o e-bost twyllodrus gyda hypergysylltiad sy’n mynd â chi i wefan we-rwydo.
Delwedd sy’n dangos enghraifft o wefan we-rwydo sydd wedi’i chynllunio i’ch twyllo i ddatgelu gwybodaeth bersonol.
Galwadau ffôn amheus
Mae CThEF yn ymwybodol o sgam galwadau ffôn awtomataidd a fydd yn dweud wrthych fod CThEF yn dwyn achos cyfreithiol yn eich erbyn ac y dylech wasgu 1 er mwyn siarad â gweithiwr achos a gwneud taliad. Gallwn gadarnhau mai sgam yw hon ac y dylech roi’r ffôn i lawr yn syth.
Mae nifer o bobl wedi rhoi gwybod am y sgam hon, ac mae’n aml yn targedu pobl hŷn a’r rheiny sy’n agored i niwed.
Efallai y bydd galwadau ffôn sgam eraill yn cyfeirio at dwyll rhif Yswiriant Gwladol neu’n cynnig ad-daliad treth ac yn gofyn i chi roi’ch manylion banc neu gerdyn credyd. Os nad ydych yn siŵr pwy sy’n ffonio, rydym yn argymell na ddylech siarad â phwy bynnag sydd ar ben arall y ffôn.
Os ydych wedi dioddef y sgam ac wedi colli arian, rhowch wybod am hyn i Action Fraud.
Defnyddir nifer o wahanol rifau ffôn i wneud y galwadau. I’n helpu i ymchwilio i alwadau ffôn amheus, rhannwch fanylion galwadau yn ein ffurflen rhoi gwybod am alwad ffôn amheus (yn Saesneg). Rhowch y canlynol:
- dyddiad yr alwad
- y rhif ffôn a ddefnyddiwyd
- cynnwys yr alwad
Negeseuon WhatsApp
Ni fydd CThEF ar unrhyw adeg, yn defnyddio ‘WhatsApp’ i gysylltu â chwsmeriaid am ad-daliad treth. Os cewch unrhyw neges drwy ‘WhatsApp’ yn dweud ei bod yn dod o CThEF, sgam yw hi. E-bostiwch fanylion y neges i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk neu phishing@hmrc.gov.uk, ac wedyn dilëwch y neges.
Sgamiau cyfryngau cymdeithasol
Mae CThEF yn ymwybodol bod negeseuon uniongyrchol yn cael eu hanfon at gwsmeriaid drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Canfuwyd sgam ar Twitter yn ddiweddar yn cynnig ad-daliad treth.
Nid yw’r negeseuon hyn yn dod o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol dilys CThEF — sgam ydynt. Ni fyddwn byth yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i wneud y canlynol:
- cynnig ad-daliad treth
- gofyn am wybodaeth bersonol neu ariannol
Os nad ydych yn siŵr pwy sy’n berchen ar y cyfrif cyfryngau cymdeithasol, anfonwch y manylion drwy e-bost i phishing@hmrc.gov.uk neu gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a’i anwybyddu.
Cwmnïau ad-dalu
Mae CThEF yn ymwybodol o gwmnïau sy’n anfon e-byst neu negeseuon testun er mwyn hysbysebu eu gwasanaethau. Mae’r cwmnïau hyn yn cynnig gwneud cais i CThEF am ad-daliad treth ar eich rhan, fel arfer am ffi. Nid yw’r cwmnïau hyn yn gysylltiedig â CThEF mewn unrhyw ffordd.
Dylech ddarllen y ‘print mân’ a’r ymwadiadau cyn defnyddio’u gwasanaethau.
Sgamiau tollau dramor CThEF
Mae CThEF yn ymwybodol o sgam dros neges destun ac e-bost sy’n rhoi gwybod i’r cwsmer bod yn rhaid iddynt dalu tollau dramor i gael parsel gwerthfawr nad yw’n bodoli.
Ni ddylid cymysgu’r sgamiau hyn â newidiadau a gyflwynwyd ar 1 Ionawr 2021, yn cynghori y gallai fod angen i rai defnyddwyr yn y DU sy’n prynu nwyddau o fusnesau yn yr UE dalu taliadau tollau pan fydd eu nwyddau’n cyrraedd. Mae rhagor o wybodaeth am y rheolau newydd hyn ar GOV.UK (yn Saesneg).
Os ydych yn ansicr, rydym yn eich cynghori i beidio ag ymateb i unrhyw beth amheus, ond i gysylltu â CThEF ar unwaith ac i ddarllen arweiniad CThEF ar we-rwydo a sgamiau.