Papur polisi

Cynllun PFAS: Creu dyfodol mwy diogel, gyda’n gilydd

Diweddarwyd 3 Chwefror 2026

Rhagair

Mae sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS), a elwir yn aml yn ‘gemegion am byth’, yn cynrychioli un o heriau cemegol mwyaf dybryd ein hoes. Maen nhw’n cael eu defnyddio drwy gydol ein bywydau bob dydd gan fod eu priodweddau unigryw wedi dod â manteision sylweddol i gymdeithas. Maen nhw’n ymddangos mewn padelli ffrio gwrthlud yn eich ceginau a dyfeisiau meddygol yn ein hysbytai, ac yn cael eu defnyddio mewn technolegau ynni glân sy’n pweru ein diwydiannau, ac offer diogelwch sy’n ein hamddiffyn rhag niwed. Ac eto, mae eu parhausrwydd a’u presenoldeb eang yn ein hamgylchedd yn peri risgiau na allwn eu hanwybyddu.

Mae hwn yn fater pwysig i’r llywodraeth roi sylw iddo. Mae halogiad PFAS yn bygwth iechyd y cyhoedd, bywyd gwyllt ac ansawdd ein hamgylchedd naturiol. Mae gweithredu nawr yn hanfodol i atal niwed di-droi’n-ôl ac i sicrhau bod ein fframweithiau rheoleiddio yn cadw i fyny â thystiolaeth wyddonol.

Mae’r cynllun hwn yn darparu sylfaen ar gyfer sut y byddwn yn gweithredu – yn bendant ond yn gymesur – i reoli risgiau. Ein gweledigaeth yw lleihau effeithiau niweidiol PFAS wrth newid i sylweddau amgen, mwy diogel. Mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddiogelu iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd ar yr un pryd â chefnogi arloesedd a thwf economaidd.

Mae ein dull gweithredu wedi’i wreiddio mewn gwyddoniaeth a chydweithredu. Byddwn yn cryfhau dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth, yn mynd i’r afael â ffynonellau PFAS a sut maen nhw’n symud drwy’r amgylchedd, ac yn lleihau’r cysylltiad parhaus â’r PFAS sydd eisoes yn bodoli. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ledled y DU, gyda llywodraethau datganoledig, diwydiant, gwyddonwyr, grwpiau amgylcheddol a chymunedau lleol. Byddwn yn parhau i arwain yn rhyngwladol, gan gyfrannu at ymdrechion byd-eang i ddileu PFAS niweidiol yn raddol a rhannu arferion gorau. 

Mae hon yn her hirdymor, ond drwy weithredu cyd-drefnus gallwn sicrhau ein bod yn trosglwyddo i’r cenedlaethau nesaf amgylchedd sy’n well na’r un a etifeddwyd gennym. Gyda’n gilydd, byddwn yn gwarchod ein hamgylchedd, yn diogelu iechyd y cyhoedd, ac yn adeiladu dyfodol glanach a mwy diogel.

Emma Hardy AS

Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol

(Y Gweinidog dros Ddŵr a Llifogydd)

Cyflwyniad

Mae sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS), y cyfeirir atynt yn aml fel ‘cemegion am byth’, yn her gymhleth a byd-eang. Maent yn hirhoedlog ac yn gyffredin yn ein hamgylchedd, ond eto maent yn hanfodol i lawer o ddefnyddiau yn ein cymdeithas. Mae PFAS yn cael eu gwerthfawrogi am eu gallu i wrthsefyll gwres, dŵr ac olew, ac maent wedi cael eu defnyddio’n eang ar draws diwydiannau, o ewyn diffodd tân a dyfeisiau meddygol, i decstiliau a phecynwaith. Gallant fod o fudd i gymdeithas, cefnogi twf economaidd, ein helpu i gyflawni ein nodau o wneud Prydain yn arch-bŵer ynni glân, a chyfrannu at gyrraedd targedau newid yn yr hinsawdd a diogelu’r haen osôn. Mae eu defnydd mewn cyfarpar amddiffyn ac offer milwrol yn cyfrannu at sicrhau diogelwch gwladol.

Mae tystiolaeth gynyddol bod eu defnydd helaeth a’u rheolaeth yn y gorffennol wedi creu risgiau o niwed i bobl ac i’r amgylchedd, gan gynnwys bywyd gwyllt. Mae eu parhausrwydd yn golygu y bydd rhai PFAS yn aros yn ein hamgylchedd am gannoedd o flynyddoedd. Er bod lle i barhau i wella ein dealltwriaeth ar draws pob PFAS, mae’r pryder cynyddol hwn ynghylch risgiau iechyd posibl a halogiad amgylcheddol na ellir ei wrthdroi yn golygu na ddylid gohirio gweithredu’n ddiangen.

Mae llywodraeth y DU, ynghyd â’r llywodraethau datganoledig, wedi bod yn gweithio ers dros ddau ddegawd i fonitro, gwahardd neu gyfyngu ar PFAS penodol a mynd i’r afael â materion a achosir gan eu defnydd hanesyddol. Dylai’r ffordd ymlaen gynnwys gweithredu cyd-drefnus, gyda’r llywodraethau’n gweithio gyda diwydiant, cyrff eraill, a’r cyhoedd i ddeall a rheoli risgiau PFAS. Nid oes ffiniau cenedlaethol i lygryddion cemegol, yn enwedig y rheini sydd â phriodweddau PFAS.

Nid yw hon yn her sy’n unigryw i’r DU. Mae gwledydd ledled y byd hefyd yn rheoli effeithiau defnydd blaenorol PFAS, a’r defnydd parhaus o PFAS. Fel y DU, mae llawer yn cymryd camau i ddeall a lliniaru’r effeithiau. Rydym wedi bod yn gweithio’n rhyngwladol i gytuno ar waharddiadau byd-eang ar rai PFAS peryglus, a byddwn yn parhau i ymgysylltu’n rhyngwladol, gan ddysgu o arferion gorau byd-eang a chyfrannu at ymdrechion ar y cyd.

Rydym yn dymuno dod o hyd i’r cydbwysedd cywir rhwng parhau i ddefnyddio rhai PFAS a’r manteision gwerthfawr y gall PFAS eu darparu, gan sicrhau ein bod yn symud i ddewisiadau diogel a chynaliadwy lle bo hynny’n briodol. Tra bod y newid hwn yn digwydd, ac wrth i ni ymdopi â llygredd o’r gorffennol, mae angen parhaus i reoli cyffredinrwydd PFAS a’r risgiau cysylltiedig mewn cymdeithas ac yn yr amgylchedd.

Ein gweledigaeth PFAS ar gyfer y dyfodol

Ein gweledigaeth hirdymor yw gweithio mewn partneriaeth, gan ddefnyddio dull gweithredu cymesur sy’n seiliedig ar wyddoniaeth, i leihau effeithiau PFAS niweidiol ar iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd, gan gynnwys drwy newid i ddewisiadau amgen, mwy diogel.

Byddwn yn cyflawni’r weledigaeth hon drwy:

  • ddeall a nodi ffynonellau PFAS, gan gynnwys o ble maen nhw’n tarddu;
  • ystyried symudiad PFAS o amgylch cymdeithas a’r amgylchedd, sy’n golygu mynd i’r afael â llwybrau PFAS;
  • lleihau a rheoli cysylltiad parhaus â PFAS ar gyfer pobl, anifeiliaid a’r amgylchedd.

Mae’r Cynllun PFAS hwn wedi’i strwythuro yn unol â’r tri chonglfaen hyn:

Adran 1: Deall ffynonellau PFAS

Mae Adran 1 y cynllun hwn yn ymwneud â deall PFAS a’u ffynonellau. Mae’n nodi:

  • beth rydym yn ei wybod am PFAS ar hyn o bryd;
  • blaenoriaethau ar gyfer gwella ein dealltwriaeth o’r defnydd o PFAS mewn cymdeithas, cyffredinrwydd PFAS yn ein hamgylchedd, a’r risgiau y mae hyn yn eu peri.

Adran 2: Mynd i’r afael â llwybrau PFAS

Mae Adran 2 yn ymwneud â mynd i’r afael â llwybrau PFAS, gan gynnwys lleihau PFAS yn y tarddiad ac atal PFAS rhag treiddio a chylchredeg yn yr amgylchedd. Gan ddefnyddio ein tystiolaeth ar PFAS, gallwn wneud y canlynol:

  • cymryd camau i reoli risgiau PFAS drwy gydol eu cylch bywyd cyfan;
  • cefnogi’r newid i ddewisiadau amgen mwy diogel, gan gydnabod ble mae’n hanfodol i ddefnyddio PFAS o hyd.

Adran 3: Lleihau’r cysylltiad parhaus â PFAS

Mae Adran 3 yn ymwneud â lleihau a rheoli’r cysylltiad parhaus â PFAS niweidiol, er mwyn diogelu pobl a’r amgylchedd, gan gynnwys rhag llygredd etifeddol.

Mae’r tair adran yn gweithio gyda’i gilydd i reoli risgiau PFAS mewn ffordd gyd-drefnus. Mae deall PFAS yn helpu i ddarparu ymyriadau effeithiol sy’n cael eu blaenoriaethu’n dda ac sydd, yn y tymor hwy, yn cyfrannu at leihau risgiau PFAS ar draws yr amgylchedd a chymdeithas. Bydd hyn, yn ei dro, yn lleihau ein dibyniaeth ar fesurau ataliol costus adeg dod i gysylltiad â PFAS.

Beth yw PFAS?

Grŵp o filoedd o gemegion yw PFAS. Nid oes diffiniad y mae pawb yn cytuno arno o “PFAS”, ond mae’r cemegion hyn yn cael eu grwpio gyda’i gilydd gan eu bod yn rhannu nodweddion cyffredin cemeg organo-fflworin. Mae diffiniad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn ddewis pragmatig i seilio polisi PFAS arno, a byddwn yn ei ddefnyddio i lywio’r camau gweithredu yn y cynllun hwn. Mae’n sicrhau dealltwriaeth gyffredin o ystyr “PFAS” yng nghyd-destun y cynllun hwn. Mae’r OECD yn diffinio PFAS fel “sylweddau wedi’u fflworeiddio sy’n cynnwys o leiaf un atom methyl neu garbon methylen wedi’i fflworeiddio’n llawn (heb unrhyw atom hydrogen, clorin, bromin neu ïodin wedi’i gysylltu ag ef)”. Mae hyn yn golygu, gydag ychydig o eithriadau nodedig, bod “unrhyw gemegyn sydd ag o leiaf grŵp methyl wedi’i berfflworeiddio (-CF3) neu grŵp methylen wedi’i berfflworeiddio (–CF2–) yn PFAS”.

Mae priodweddau buddiol PFAS yn cynnwys goddefiant i dymheredd a phwysedd eithafol, y gallu i wrthsefyll olew a dŵr, ac ymwrthedd cemegol. Mae hyn wedi arwain at ddefnydd eang mewn cymdeithas. Mae dros 200 o ddefnyddiau wedi cael eu nodi, (Glüge ac eraill) gan gynnwys mewn dyfeisiau meddygol, araenau gwrthlud mewn offer coginio, ewyn diffodd tân, adeiladu, a gweithgynhyrchu electroneg.

O ystyried eu hamrywiaeth strwythurol, gall grwpio PFAS yn ôl eu hunaniaeth gemegol fod yn heriol, ond cydnabyddir ei fod yn ffordd bragmatig o nodi a rheoli peryglon a risgiau PFAS.

Ein dull gweithredu

Mae tystiolaeth fyd-eang yn dangos bod rheoli risgiau PFAS niweidiol yn heriol ac nad oes datrysiadau cyflym.

Mae ein dull yn seiliedig ar wyddoniaeth ac yn cael ei arwain gan dystiolaeth. Mae hyn yn sicrhau bod rheoleiddio cymesur yn cael ei flaenoriaethu a’i weithredu’n effeithiol i fynd i’r afael â risgiau mewn ffordd gytbwys. Bydd ein blaenoriaethau uniongyrchol yn canolbwyntio ar risgiau posibl neu risgiau a nodwyd, fel PFAS y gwyddys eu bod yn cael eu defnyddio i raddau helaeth yn y DU; sydd i’w gweld amlaf yn yr amgylchedd; gyda phriodweddau sy’n peri pryder; a llwybrau cyswllt a allai achosi risgiau i iechyd y cyhoedd.

Pan fydd bylchau yn ein dealltwriaeth bresennol, byddwn yn cymryd camau i leihau ansicrwydd, gan wella ein sylfaen dystiolaeth.

Wrth benderfynu pa gamau i’w cymryd i fynd i’r afael â risgiau PFAS, bydd llywodraeth y DU yn rhoi sylw dyledus i’r datganiad polisi ar egwyddorion amgylcheddol, yn unol â Deddf yr Amgylchedd 2021. Yr egwyddorion amgylcheddol sy’n cael sylw yn y datganiad polisi ar egwyddorion amgylcheddol yw’r egwyddor integreiddio, yr egwyddor atal, yr egwyddor unioni yn y tarddiad, yr egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu, a’r egwyddor ragofalus. Wrth lunio polisïau (gan gynnwys cynigion ar gyfer deddfwriaeth), mae’n ofynnol i weinidogion yr Alban roi sylw dyledus i’r egwyddorion arweiniol ar yr amgylchedd o dan Ddeddf Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Parhad) (Yr Alban) 2021.

Bydd angen rheoliadau i ddiogelu pobl a’r amgylchedd. Bydd camau gweithredu’n cael eu cynllunio sy’n gweithio gyda’i gilydd ac yn ystyried cylch bywyd llawn PFAS, gan gynnwys gweithgynhyrchu, defnydd a rheoli gwastraff PFAS. Bydd y broses o symud oddi wrth PFAS yn cymryd amser, yn ogystal â rhoi rheoliadau newydd ar waith, ac mae angen ystyried yn ofalus y cyfaddawdu sy’n berthnasol i fesurau rheoleiddio newydd. Rhaid i ni gydbwyso sicrhau bod mesurau’n diogelu pobl a bywyd gwyllt ar yr un pryd â chydnabod yr effeithiau negyddol posibl ar gymdeithas, ar ddefnyddwyr ac ar ddiwydiant. Asesir a rhoddir cyfrif am effaith rheoliadau yn unol ag ymrwymiadau costau byw a gwell rheoleiddio’r llywodraeth. Pan fydd swyddogaethau hanfodol yn cael eu darparu gan rai PFAS (fel mewn nwyddau meddygol), dylid cynnal y rhain i ddarparu manteision cymdeithasol ac amgylcheddol na ellir eu disodli ar hyn o bryd gan ddewisiadau amgen ymarferol nad ydynt yn PFAS.

O ystyried natur fyd-eang halogiad PFAS, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cydweithredu’n rhyngwladol a dysgu o brofiadau, ymchwil a dulliau rheoleiddio gwledydd eraill i lywio ein hymateb ein hunain. Byddwn yn parhau i fonitro effeithiolrwydd dulliau arloesol a ddefnyddir mewn gwledydd eraill. Er enghraifft, mae Ffrainc wedi cyflwyno ffi am allyriadau PFAS o safleoedd diwydiannol.

Mae llywodraethau’r DU hefyd yn disgwyl i’r diwydiant fod yn rhagweithiol o ran gwella ein dealltwriaeth o risgiau PFAS a chefnogi dewisiadau gwybodus defnyddwyr. Dylai’r diwydiant gymryd camau i reoli risgiau’r PFAS y maent yn eu gweithgynhyrchu a’u defnyddio, ac i reoli’r risgiau ar ôl eu defnyddio. Mae symud oddi wrth PFAS hefyd yn gyfle economaidd. Amcangyfrifodd adroddiad diweddar gan IQ Systemic Ltd y gallai marchnad rydd PFAS yn yr UE gyrraedd tua $14.9 biliwn bob blwyddyn erbyn 2040.

Rydym yn disgwyl gweld cynnydd drwy gyfuniad o well dealltwriaeth ymysg y cyhoedd, mentrau sy’n cael eu harwain gan y diwydiant ac sy’n eiddo i’r diwydiant (fel Fforwm Cyfnewid Gwybodaeth PFAS Cymdeithas y Diwydiant Cemegol), a hunanreoleiddio tryloyw. Bydd Llywodraeth y DU, ar y cyd â’r llywodraethau datganoledig, yn ceisio cefnogi’r diwydiant drwy ddarparu amgylchedd rheoleiddio sy’n meithrin arloesedd a buddsoddiad, ac sy’n cefnogi sector ffyniannus sy’n tyfu.

Mae’r cynllun hwn yn gam cyntaf tuag at gyflawni ein gweledigaeth tymor hwy. Mae’n nodi fframwaith clir ar gyfer deall, nodi ac ymateb i risgiau PFAS niweidiol. Mae’r fframwaith hwn yn ymwneud â’r tri chonglfaen o ganolbwyntio ar ffynonellau, llwybrau a chysylltiad â PFAS. Mae’r cynllun yn nodi canlyniadau o dan bob un o’r conglfeini hyn. Mae’r canlyniadau hyn, gyda’i gilydd, yn sail i’n gweledigaeth.

Mae’r cynllun hwn yn nodi rhai camau gweithredu dangosol sy’n ymwneud â’r canlyniadau allweddol. Ni fwriedir i’r rhain fod yn gynhwysfawr. Mae’r camau gweithredu yn y cynllun hwn yn set gychwynnol o gynigion, llawer ohonynt yn ymwneud â llywodraethau’r DU, y gellir adeiladu arnynt yn y dyfodol. Dymunwn i’r cynllun fod yn llwyfan i’r llywodraethau ymgysylltu ymhellach â diwydiant, amgylcheddwyr, cyrff eraill a’r cyhoedd. Wrth wneud hynny, dros amser, byddwn yn datblygu set ehangach o gamau gweithredu a mentrau ar y cyd sy’n adlewyrchu cydberchnogaeth her PFAS, a’r cyfrifoldebau ar y cyd o ran mynd i’r afael â’r sefyllfa.

Gyda’n gilydd, gallwn fabwysiadu dull cyd-drefnus i sicrhau nad yw ‘cemegion am byth’ yn broblem am byth.

Cwmpas tiriogaethol

Bydd llywodraethau’r DU yn cydweithredu â diwydiant, cyrff eraill, defnyddwyr a’r cyhoedd yn ehangach fel y bo’n briodol. Mae perchnogaeth a chyfrifoldeb a rennir yn allweddol. Mae gwaith rheoleiddio’r Llywodraeth, a chydymffurfiaeth eraill â hyn, yn chwarae rhan bwysig.

Mae’r cynllun hwn yn cynrychioli dull gweithredu ar lefel y DU, gyda llywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cydweithio â llywodraeth y DU. Lle mae gwahaniaethau yn y dull gweithredu oherwydd datganoli, nodir y rhain yn y ddogfen. O dan Atodiad 2 Fframwaith Windsor, mae Gogledd Iwerddon yn parhau i ddilyn deddfwriaeth cemegion yr UE. Mae Gogledd Iwerddon yn ddarostyngedig i gamau gweithredu’r UE ar PFAS a, lle bo’n bosibl, bydd yn gweithio gyda chynllun y DU.

Adran 1: Deall ffynonellau PFAS

Mae angen i ni ddeall ffynonellau PFAS a’u heffaith. Mae hyn yn ein galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch risgiau a manteision cymharol y gwahanol fathau o PFAS a’u defnydd. Mae’r dystiolaeth hon yn allweddol i ddarparu sylfaen ar gyfer y gwaith rheoleiddio effeithiol sydd ei angen i ddiogelu pobl a’r amgylchedd.

Grŵp mawr o gemegion yw PFAS. Er nad yw’n ymarferol nac yn angenrheidiol archwilio pob sylwedd unigol, mae ymwybyddiaeth o’r grŵp llawn a’i amrywiaeth yn bwysig er mwyn llywio ymyriadau polisi. Mae PFAS yn rhannu nodwedd gyffredin, sef parhausrwydd. Mae parhausrwydd PFAS yn ystyriaeth allweddol wrth asesu’r risg o halogiad amgylcheddol, a dod i gysylltiad â phobl yn ddiweddarach. Mae parhausrwydd uchel iawn PFAS yn bygwth achosi difrod difrifol neu ddi-droi’n-ôl. O ganlyniad, efallai y bydd amgylchiadau lle na fydd diffyg sicrwydd gwyddonol llawn yn rheswm dros ohirio mesurau cost-effeithiol i atal dirywiad amgylcheddol. Gall hyn gefnogi camau gweithredu wedi’u targedu at y grŵp llawn. Mewn achosion eraill, efallai y bydd angen cydnabod y gall is-grwpiau PFAS hefyd fod â phriodweddau, defnyddiau a risgiau gwahanol a buddiol.

Cyffredinrwydd ac effaith PFAS ar yr amgylchedd

Mae PFAS yn gyffredin ac wedi’u canfod mewn rhannau anghysbell o’r byd, fel Antarctica. Mae PFAS yn:

  • symudol iawn (sy’n golygu eu bod yn symud drwy a rhwng gwahanol gydrannau amgylcheddol fel aer, dŵr a thir);
  • parhaus;
  • gallu cronni mewn priddoedd, planhigion ac anifeiliaid (yn enwedig mewn amgylcheddau dyfrol), a thrwy hynny fynd i mewn i’r gadwyn fwyd a phobl.

Mae PFAS yn gyffredin yn ein dyfroedd ac, wrth i afonydd lifo i’r môr, mae ein hamgylchedd morol hefyd yn cael ei effeithio.

Mae gwaith monitro PFAS yn yr amgylchedd gan y Llywodraeth wedi bod yn datblygu ac yn ehangu ers dros ddegawd ledled y DU. Mae niferoedd y PFAS sy’n cael eu monitro wedi cynyddu dros y blynyddoedd gyda datblygiadau mewn technoleg a galluoedd dadansoddol. Mae PFAS wedi’u canfod mewn tua 80% o samplau dŵr wyneb, tua 50% o samplau dŵr daear, a’r holl samplau pysgod. Ceir darlun tebyg mewn gwledydd eraill sydd â rhaglenni monitro tebyg. Mae lle i gasglu mwy o ddata monitro ar lefelau PFAS mewn aer, priddoedd a’r amgylchedd morol, er mwyn nodi lledaeniad PFAS ar draws yr amgylchedd.

Rydym yn gweithio gyda gwledydd eraill i gyfnewid gwybodaeth am ddadansoddi PFAS a dysgu o arferion gorau. Mae hyn yn cynnwys casglu a chyfnewid gwybodaeth am alluoedd dadansoddol ar draws labordai yn rhyngwladol. Mae’r ddealltwriaeth wyddonol o ddulliau cyfanredol (a elwir weithiau’n ddulliau ‘Cyfanswm PFAS’), sy’n adrodd ar gyfanswm y fflworin neu’r organo-fflworin, yn hytrach nag ar PFAS penodol, yn datblygu. Gall y dulliau hyn hefyd fod yn offer sgrinio defnyddiol mewn rhai achosion.

Mae rhaglen fonitro genedlaethol llywodraeth y DU yn asesu lefelau PFAS mewn bywyd gwyllt, gan olrhain cysylltiad â chemegion PFAS dros amser mewn ecosystemau daearol, dŵr croyw a morol. Mae gwaith monitro PFAS wedi dangos bod PFAS yn bresennol mewn ysglyfaethwyr lefel uchaf (gan gynnwys llamhidyddion, dyfrgwn, llwynogod, ac adar ysglyfaethus). Mae tystiolaeth bod lefelau rhai PFAS yn ein hamgylchedd yn niweidiol i rai rhywogaethau o fywyd gwyllt. Mae angen rhagor o waith ymchwil i bennu hyd a lled hyn yn llawn, ac i asesu i ba raddau y mae hyn yn effeithio ar ecosystemau a bioamrywiaeth.

Mae tystiolaeth yn esblygu’n gyflym mewn perthynas â risgiau eraill sy’n dod i’r amlwg. Mae un maes yn asesu cylch bywyd risgiau o fflworopolymerau, sy’n is-grŵp PFAS. Amcangyfrifir bod maint Marchnad Fflworopolymerau Ewrop yn 70.49 cilo-tunnell yn 2025, a disgwylir iddi gyrraedd 88.14 cilo-tunnell erbyn 2030 (Mordor Intelligence).

Un arall yw’r risgiau o PFAS llai a allai gael eu ffurfio gan eraill yn dadelfennu. Er enghraifft, mae asid trifflworoasetig (TFA) i’w weld yn eang mewn afonydd ac mae ganddo lawer o ffynonellau, gan gynnwys plaladdwyr, cynhyrchion fferyllol ac oeryddion yn dadelfennu.

Mae data o raglenni sy’n cael eu harwain gan y diwydiant hefyd wedi cyfrannu at ein dealltwriaeth o ba mor gyffredin yw PFAS yn yr amgylchedd. Yn 2024, perfformiodd cwmnïau dŵr Lloegr dros 770,000 o ddadansoddiadau ar gyfer PFAS unigol i lywio asesiadau dŵr yfed. Yn yr un modd, mae Scottish Water hefyd wedi monitro PFAS i helpu i asesu risgiau i’w cyflenwadau dŵr. Yn ddiweddar, mae Rhaglen Ymchwilio i Gemegion (CIP) y diwydiant dŵr wedi ehangu’r gwaith o fonitro PFAS mewn carthffrydiau, llaid a dŵr daear ledled y DU, er mwyn asesu risgiau’n well a llywio rheoliadau yn y dyfodol.

Dod i gysylltiad â phobl

Un allbwn allweddol o’n gwaith monitro amgylcheddol yw deall y llwybrau cyswllt â phobl. Gall pobl ddod i gysylltiad â PFAS mewn sawl ffordd, gan gynnwys deiet, dŵr yfed, llwch dan do a chyswllt croen. Er bod rhai PFAS, fel asid perfflworooctanoig (PFOA) ac asid sylffonig perfflworooctan (PFOS), wedi cael eu hastudio a’u rheoleiddio’n dda, mae effeithiau llawer o rai eraill ar iechyd yn dal yn fwy ansicr.

Er bod astudiaethau wedi adrodd am gysylltiadau rhwng dod i gysylltiad â PFAS a nifer o effeithiau iechyd, mae llawer o dystiolaeth yn parhau i fod yn amhendant i ryw raddau. Ceir tystiolaeth hefyd o effeithiau gwahaniaethol ar draws gwahanol rannau o gymdeithas. Er enghraifft, gall plant fod yn fwy agored i niwed yn ystod datblygiad cynnar. Mae hwn yn parhau i fod yn faes ymchwil gweithredol, gydag ansicrwydd ynghylch eu heffaith yn parhau i lawer o PFAS.

Dyma’r canlyniadau rydym yn gobeithio eu cyflawni o ran deall ffynonellau ac effeithiau PFAS:

  • gwell gwybodaeth am ddefnyddiau, graddau ac effaith PFAS ar draws cymdeithas ac yn ein hamgylchedd naturiol;
  • defnydd mwy effeithlon ac effeithiol o dystiolaeth er budd cymdeithasol, gan gynnwys drwy ddylunio a darparu rhaglenni ymchwil wedi’u cydlynu’n well ar draws y llywodraeth, y byd academaidd, diwydiant a rhanddeiliaid eraill;
  • gwell tystiolaeth o PFAS ar draws gwahanol feysydd amgylcheddol (fel tir, aer a dŵr), a gwell gwybodaeth am lwybrau cyswllt PFAS i gefnogi ymyriadau effeithiol, wedi’u blaenoriaethu yn ôl risg.

Gwella ein dealltwriaeth o raddfa ac effaith PFAS ar yr amgylchedd

Gall gwaith monitro PFAS yn yr amgylchedd fod yn heriol oherwydd eu bod yn gemegion cymhleth, sydd fel arfer yn bodoli ar lefelau isel yn yr amgylchedd ac sydd angen technegau datblygedig i’w canfod. Mae angen i ni barhau i ddatblygu ein galluoedd dadansoddi ymhellach ar gyfer monitro amgylcheddol i sicrhau bod tystiolaeth o ansawdd uchel yn cael ei darparu am gost sylweddol is. Mae llawer o le o hyd i wella’r wybodaeth bresennol am briodweddau PFAS a chyffredinrwydd PFAS. Mae hyn yn ymestyn i waith monitro ac ymchwil, gan gynnwys gwaith rheoleiddwyr, llywodraethau, diwydiant, sefydliadau ymchwil a chyrff eraill.

Weithiau, mae’n well cyfuno gwaith monitro amgylcheddol â thystiolaeth arall. Er enghraifft, y prif fecanwaith adrodd ar gyfer allyriadau diwydiannol yn y DU yw’r Gofrestr Gollwng a Throsglwyddo Llygryddion (UK PRTR), llechres o allyriadau llygredd a throsglwyddiadau gwastraff o safleoedd diwydiannol. Gellid diweddaru ac ehangu hyn i gynnwys PFAS. Pennir lefelau risg cyffredinol drwy gyfuno data monitro â gwybodaeth am wenwyndra. Er nad oes llawer o ddata am wenwyndra ar draws llawer o PFAS ar hyn o bryd, gellid ystyried yr uchelgais o ddatblygu dull Cyfwerthedd Tocsig (TEQ) yn y dyfodol, tebyg i’r hyn a ddefnyddir ar gyfer deuocsinau a ffwranau, a ddefnyddir gyda grwpiau o PFAS sydd â gwenwyndra tebyg.

Camau gweithredu dangosol cychwynnol

Cam gweithredu 1.1: Parhau i fonitro ac adrodd ar 2,400 o samplau PFAS o’r amgylchedd dŵr croyw bob blwyddyn (yn Lloegr). Yn yr Alban, byddwn yn parhau i fonitro ac adrodd ar PFAS yn yr amgylchedd dŵr bob blwyddyn (gan weithio i ehangu ein rhwydwaith o tua 300 o samplau yn 2025 i 500 o samplau yn 2026). Byddwn yn canolbwyntio ar ddyletswyddau statudol, a lle bo’n bosibl, defnyddio methodolegau wedi’u diweddaru sy’n cyd-fynd â’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf a datblygiadau technolegol. Yng Nghymru, ystyrir defnyddio’r dull hwn, gyda chynlluniau i gynyddu samplu dŵr wyneb ar gyfer ystod ehangach o PFAS, gan ategu samplu statudol ar gyfer PFOS mewn biota. Byddwn yn gweithio ar draws y DU i gryfhau’r set ddata genedlaethol a llywio asesiadau risg a phenderfyniadau polisi yn y dyfodol.

Cam gweithredu 1.2: Erbyn diwedd 2026, sicrhau bod map blaenoriaethu System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) meini prawf lluosog PFAS Asiantaeth yr Amgylchedd (EA) ar gael i bob corff sector cyhoeddus ledled Lloegr, gan gynnwys awdurdodau lleol, i gefnogi’r gwaith o asesu risg amgylcheddol a gwneud penderfyniadau. Archwilio’r gwaith o ddatblygu gwefan ryngweithiol bwrpasol erbyn diwedd 2027 i wella hygyrchedd a defnyddioldeb. Gan ddysgu o waith yr EA, bydd Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA) a Llywodraeth yr Alban yn ystyried sut y gellir defnyddio’r dull hwn yn yr Alban.

Cam gweithredu 1.3: Gwella’r gwaith o fonitro PFAS mewn priddoedd drwy gefnogi astudiaeth ddichonoldeb Arolwg Daearegol Prydain a dechrau cynllun peilot samplu mewn o leiaf pum lleoliad daearyddol cynrychiadol ledled Lloegr, er mwyn sefydlu crynodiadau sylfaenol ac asesu amrywioldeb rhanbarthol.

Cam gweithredu 1.4: Erbyn mis Chwefror 2028, darparu asesiad cynhwysfawr dros nifer o flynyddoedd o halogiad PFAS mewn amgylcheddau morydol ac arfordirol yn Lloegr, drwy waith samplu a dadansoddi targedig o waddodion, pysgod ac infertebratau benthig, er mwyn llywio dealltwriaeth o risg amgylcheddol a chefnogi’r broses o wneud penderfyniadau rheoleiddio.

Cam gweithredu 1.5: Ystyried ychwanegu rhagor o PFAS at Gofrestr Gollwng a Throsglwyddo Llygryddion (PRTR) y DU, fel y nodwyd yn ymgynghoriad llywodraeth y DU ar allyriadau diwydiannol a gyhoeddwyd ym mis Awst 2025. Mae’r PRTR eisoes yn cynnwys allyriadau nifer o fflworocarbonau i’r aer. Y cam nesaf fydd i lywodraeth y DU ddarparu ymateb i’r ymgynghoriad hwn.

Cam gweithredu 1.6: Comisiynu gwaith ymchwil i ddeall yn well canlyniadau halogiad amgylcheddol gan PFAS ar iechyd ecosystemau a bywyd gwyllt. Defnyddio’r wybodaeth hon i lywio’r camau gweithredu a’r penderfyniadau sydd eu hangen i reoli effeithiau llygryddion er mwyn diogelu a gwella iechyd ecosystemau.

Gwella ein dealltwriaeth o ble mae PFAS yn cael eu defnyddio ac wedi cael eu defnyddio

Mae gwybodaeth am briodweddau sylweddau PFAS unigol yn hysbys pan fyddant yn cael eu rhoi ar y farchnad, ond mae’r wybodaeth hon yn aml yn cael ei cholli pan fydd PFAS yn cael eu defnyddio mewn eitemau (nwyddau gweladwy sydd â siâp a swyddogaeth benodol). Mae lle i wella sut mae’r wybodaeth hon yn cael ei chyfleu drwy gadwyni cyflenwi. Gallai hyn fod o fudd i weithgynhyrchwyr, cyflenwyr, manwerthwyr, defnyddwyr, gweithredwyr gwastraff, llunwyr polisïau a rheoleiddwyr.

Gall mwy o dryloywder gefnogi gwell effeithlonrwydd adnoddau, gwell ailgylchu ac adfer deunyddiau, a rheoli sylweddau sy’n peri pryder yn effeithiol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i gynnyrch sydd â chylch bywyd hir sy’n cynnwys PFAS. Bydd gwell dealltwriaeth o PFAS, a’u cyffredinrwydd, hefyd yn cefnogi ymdrechion ymchwil a diwydiant i archwilio dewisiadau amgen mwy diogel, a gwell ailgylchadwyedd.

Cam gweithredu 1.7: Cynnal rhagor o waith ymchwil ar feysydd pryder sy’n dod i’r amlwg mewn perthynas â PFAS. Bydd hyn yn cynnwys asesu tystiolaeth ar ffynonellau TFA a dadansoddi’r defnydd hanesyddol a chyfredol o fflworopolymerau (neu fathau eraill o PFAS) yn y DU. Bydd hyn yn llywio dealltwriaeth o ba mor gyffredin ydynt mewn cymdeithas ac o stociau posibl mewn defnydd presennol, er mwyn llywio polisïau ar gyfer lliniaru effeithiau negyddol posibl ar iechyd a’r amgylchedd.

Adran 2: Mynd i’r afael â llwybrau PFAS

Mae parhausrwydd uchel PFAS yn golygu y byddant yn debygol o aros yno am flynyddoedd lawer unwaith y byddant yn yr amgylchedd. Mae’n bwysig nodi o ble mae PFAS niweidiol yn dod a sut maen nhw’n symud drwy’r amgylchedd, er mwyn i ni allu cymryd camau i’w hatal. Mae’r camau gweithredu’n cynnwys defnyddio ein fframwaith rheoleiddio, gweithio gyda diwydiant ac annog dewisiadau defnyddwyr.

Dylai ymyriadau ymdrin â chylch bywyd llawn PFAS, gan gynnwys:

  • mynd i’r afael â ffynonellau parhaus o gynhyrchu ac allyrru PFAS;
  • ymyrryd lle mae PFAS eisoes yn cylchredeg yn ein cymdeithas a’n hamgylchedd, gan gynnwys sicrhau bod gwastraff yn cael ei reoli’n briodol;
  • rheoli allyriadau o ffynonellau etifeddol, fel defnyddio ewyn diffodd tân yn y gorffennol.

Mae cynhyrchu a defnyddio rhai PFAS niweidiol eisoes wedi cael ei gyfyngu, gan leihau’r ffynonellau hyn o ganlyniad. Dylai camau rheoleiddio’r Llywodraeth i fynd i’r afael â ffynonellau PFAS niweidiol hefyd gael eu hategu gan gamau gweithredu gan y diwydiant, gan gynnwys lleihau’r galw am PFAS mewn cynnyrch a phrosesau drwy fynd ati’n rhagweithiol i newid i ddewisiadau amgen, mwy diogel.

Wrth archwilio ymyriadau yn y dyfodol, rhaid i ni gydnabod bod swyddogaethau hanfodol yn cael eu cyflawni gan rai sylweddau PFAS sy’n darparu manteision i gymdeithas a’r amgylchedd, er enghraifft lliniaru newid yn yr hinsawdd a diogelu’r haen osôn. Rhaid i ni fod yn effro i’r tensiwn o reoli effeithiau niweidiol rhai sylweddau PFAS ar yr un pryd â pheidio â cholli’r manteision hynny na ellir eu disodli ar hyn o bryd gan ddewisiadau amgen ymarferol nad ydynt yn cynnwys PFAS, a pheidio â chreu risgiau newydd fel y rhai sy’n ymwneud â diogelwch. Bydd angen i lywodraeth, diwydiant, amgylcheddwyr ac eraill gydweithio’n agos wrth i ni geisio ymdopi â’r her hon a chydbwyso canlyniadau’n effeithiol.

Dyma’r canlyniadau rydym yn gobeithio eu cyflawni wrth fynd i’r afael â llwybrau PFAS:

  • monitro PFAS yn amgylcheddol, gan ddangos gostyngiad sylweddol mewn allyriadau PFAS i’r amgylchedd o gynhyrchu, defnyddio a gwaredu;
  • diwydiant yn symud oddi wrth PFAS mewn gweithgynhyrchu a chynnyrch defnyddwyr, tuag at y farchnad ryngwladol gynyddol ar gyfer dewisiadau amgen nad ydynt yn cynnwys PFAS;
  • y cyhoedd yn cael gwybodaeth glir a hygyrch am risgiau PFAS a chynnwys cynnyrch, gan alluogi dewisiadau gwybodus ynghylch y cynnyrch maen nhw’n ei brynu a’i ddefnyddio, a chefnogi’r galw am ddewisiadau amgen nad ydynt yn cynnwys PFAS.

Mynd i’r afael â’r defnydd o PFAS drwy gamau rheoleiddio

Cemegion

Gall ein fframwaith rheoleiddio ar gyfer cemegion weithredu i reoli risgiau PFAS drwy ddefnyddio rheolaethau ar eu defnydd ac ar allyriadau.

Mae’r DU yn rhan o Gonfensiwn Stockholm y Cenhedloedd Unedig ar Lygryddion Organig Parhaus (POPs). Nod hyn yw diogelu iechyd pobl a’r amgylchedd drwy ddileu neu gyfyngu ar gemegion gwenwynig, sy’n parhau yn yr amgylchedd, sy’n biogronni mewn organebau byw, ac sy’n gallu teithio’n bell drwy’r amgylchedd. Drwy’r confensiwn hwn, mae’r DU a phartïon eraill wedi cytuno i ddileu’n fyd-eang sylweddau PFAS y canfuwyd eu bod yn bodloni’r meini prawf ar gyfer POP. Mae hyn yn cynnwys dileu PFOS, PFOA ac asid perfflworohecsan sylffonig (PFHxS) yn fyd-eang, gan gynnwys eu halwynau a chyfansoddion cysylltiedig.

Mae’r gwaharddiadau hyn wedi cael eu rhoi ar waith yn y DU drwy ddeddfwriaeth ddomestig yn unol â’r confensiwn, gan wahardd defnyddio, gweithgynhyrchu a rhoi’r sylweddau hyn ar y farchnad, a chymryd camau i sicrhau bod gwastraff sy’n eu cynnwys yn cael ei waredu mewn ffordd amgylcheddol gadarn. Ym mis Mai 2025, cytunodd y confensiwn i restru mwy o PFAS ar gyfer eu dileu yn fyd-eang, yn enwedig LC-PFCAs (asidau perfluorocarboxylic cadwyn hir), eu halwynau, a chyfansoddion cysylltiedig. Mae’r llywodraeth yn awr yn penderfynu sut y bydd yn gweithredu’r gwaharddiad diweddaraf hwn yn ddomestig yn dilyn y cytundeb lefel confensiwn hwn.

Mae cyfundrefn reoleiddio Cofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu ar Gemegion y DU (UK REACH) yn rhan o’r fframwaith rheoleiddio cemegion ar gyfer Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban). Un o nodau allweddol UK REACH yw sicrhau lefel uchel o ddiogelwch i iechyd pobl a’r amgylchedd mewn perthynas â defnyddio cemegion.

Mae cyfyngiadau UK REACH yn gosod gwaharddiadau ac amodau ar weithgynhyrchu, rhoi sylweddau cemegol ar y farchnad a’u defnyddio pan fydd risg annerbyniol i iechyd pobl neu i’r amgylchedd sy’n deillio o weithgareddau o’r fath. Cynigiwyd cyfyngiad UK REACH posibl ar PFAS mewn ewyn diffodd tân, yn unol â’r broses llunio cyfyngiadau a amlinellir yn UK REACH ac mae’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Mae Rhestr SVHCs UK REACH yn nodi’n gyhoeddus os oes gan sylwedd briodweddau sy’n peri pryder mawr iawn, gan anfon neges bwysig i annog ystyriaeth o amnewidiad i gymryd lle sylweddau sy’n arbennig o beryglus. Mae rhai PFAS eisoes wedi’u cynnwys ar y rhestr hon, ac ar hyn o bryd rydym yn ystyried ychwanegu rhagor o sylweddau PFAS penodol ati.

Nwyon wedi’u fflworeiddio (nwyon F) a sylweddau sy’n teneuo’r haen osôn (ODS)

Mae’r DU yn rhan o Brotocol Montreal ar Sylweddau sy’n Teneuo’r Haen Osôn ac mae wedi cadarnhau diwygiadau iddo. Fe’i weithredir yn ddomestig drwy ddeddfwriaeth sy’n fwy llym na’r protocol.

Mae sylweddau sy’n teneuo’r osôn (ODS) yn niweidio haen oson stratosfferig y Ddaear, sy’n hidlo ymbelydredd niweidiol o’r haul. Mae’r defnydd o ODS yn y DU wedi dod i ben bron yn gyfan gwbl. Dim ond ychydig iawn o ddefnyddiau sy’n parhau, ac mae’r rhain yn cael eu rheoli’n llym. Mae nwyon amgen (nad ydynt yn ODS) at ddefnydd cyfyngedig o’r fath yn cynnwys rhai sy’n PFAS. Er mwyn cwblhau’r broses o ddileu ODS yn raddol er mwyn cefnogi’r broses o adfer yr haen osôn, dylai opsiynau o’r fath barhau i fod ar gael lle nad oes dewisiadau amgen yn ymarferol.

O dan Ddiwygiad Kigali i Brotocol Montreal, rhaid i ni leihau ein defnydd o hydrofflworocarbonau (HFCs) yn raddol 85% erbyn 2036. Nid yw HFCs yn niweidio’r haen osôn, ond maent yn nwyon tŷ gwydr cryf, gyda photensial cynhesu byd-eang (GWPs) sy’n llawer uwch na charbon deuocsid (CO2). Maen nhw wedi disodli ODS mewn cymwysiadau fel oergelloedd, aerdymheru, pympiau gwres, ac anadlyddion dos mesuredig (er enghraifft, anadlwyr asthma). HFCs yw’r prif grŵp o nwyon tŷ gwydr wedi’u fflworeiddio (nwyon-F), gan gyfrif am 93.7% o allyriadau nwyon-F y DU yn 2023.

Mae’r rheoliad nwyon-F a gymhathwyd yn darparu ar gyfer dirwyn HFCs i ben yn raddol. Mae’n capio ac yn lleihau’n raddol faint o HFCs sy’n cael eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr yn sgil cynhyrchu a mewnforion. Mae’r amserlen bresennol yn targedu gostyngiad o 79% erbyn 2030, o’i gymharu â llinell sylfaen 2015. Ym mis Tachwedd 2025, lansiodd llywodraeth y DU ymgynghoriad ar gynnig i gryfhau’r gostyngiad hwn er mwyn sicrhau gostyngiad o 98.6% erbyn 2048.

Wrth i ni roi’r gorau i ddefnyddio HFCs (rhai ohonynt yn PFAS) yn raddol, rhaid i ni ganiatáu i weithgynhyrchwyr offer a defnyddwyr ddefnyddio dewisiadau amgen. Fodd bynnag, PFAS yw rhai o’r dewisiadau amgen mwyaf hyfyw hefyd. Er enghraifft, mae HFOs (hydrofluoroolefins), sydd â GWP llawer is na HFCs, wedi cael eu nodi fel dewis amgen addas i HFCs, ond gallant ddadelfennu i bennau saethau PFAS bach, fel asid trifluoroacetig (TFA).  

Er mwyn cyflawni ein nodau ar ddiogelu’r haen osôn a’r hinsawdd, efallai y bydd angen rhai sylweddau sy’n cael eu dosbarthu fel PFAS lle nad oes dewisiadau amgen hyfyw ar gael ar hyn o bryd. Gallai rheoleiddio nwyon wedi’u fflworeiddio chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o reoli’r defnydd o unrhyw ddewisiadau amgen i HFC sy’n nwyon-F ac yn PFAS.

Camau gweithredu dangosol cychwynnol

Cam gweithredu 2.1: Cwblhau gwaith i ystyried cyfyngiad UK REACH ar PFAS mewn ewyn diffodd tân. Fel yr asiantaeth ar gyfer UK REACH, cyhoeddodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) adroddiad ar ddefnydd PFAS mewn ewyn diffodd tân ym Mhrydain Fawr. Mae hyn yn cyflwyno dadansoddiad gwyddonol a sylfaen dystiolaeth yr HSE, ochr yn ochr ag ymgynghoriad cyhoeddus, ar gyfer cyfyngiad posibl UK REACH. Yn unol â phroses gyfyngiadau UK REACH, ar ôl i’r HSE gyhoeddi ei farn derfynol ar PFAS mewn ewyn diffodd tân, bydd y gweinidog perthnasol yn llywodraeth y DU, gyda chydsyniad y llywodraethau datganoledig, yn gwneud penderfyniad ar weithredu’r cynnig.

Cam gweithredu 2.2: Ystyried ein dull gweithredu ar gyfer rhagor o gyfyngiadau UK REACH. Fel y nodir yng Nghynllun Gwella’r Amgylchedd, byddwn yn diwygio UK REACH er mwyn gallu defnyddio mesurau diogelu sy’n mynd i’r afael â llygredd cemegol yn gyflymach, yn effeithlon ac mewn ffordd sy’n alinio’n well â’n partneriaid masnachu agosaf, yn enwedig yr UE, erbyn mis Rhagfyr 2028.

Yn y cyd-destun hwn, byddwn yn ystyried rhagor o gyfyngiadau UK REACH. Mae cyfyngiadau REACH presennol yr UE yn ymwneud â’r canlynol:

  • PFAS mewn ewyn diffodd tân
  • PFAS yn yr is-grŵp asid perfflworohecsanoig (PFHxA), gan gynnwys mewn nwyddau defnyddwyr (fel tecstiliau, pecynwaith bwyd a cholur)
  • is-grŵp o PFAS asid perfflworocarbocsylig (sydd wedi cael eu rhestru wedyn fel POPs o dan Gonfensiwn Stockholm, a byddant yn destun camau gweithredu pellach ym Mhrydain Fawr drwy’r rheoliad POPs (gweler Cam Gweithredu 2.4))

Cam gweithredu 2.3: Cynnydd tuag at ychwanegu mwy o sylweddau PFAS at Restr SVHCs UK REACH o sylweddau sy’n peri pryder mawr iawn, yn amodol ar ymgynghoriad.

Cam gweithredu 2.4: Gweithredu ein rhwymedigaethau o dan Gonfensiwn Stockholm ar POPs. Mae hyn yn cynnwys camau rheoleiddio a gorfodi parhaus ar PFAS sydd eisoes wedi’u gwahardd (PFOA, PLOS, a PFHxS, gan gynnwys eu halwynau a chyfansoddion cysylltiedig), a gwahardd LC-PFCAs, gan gynnwys eu halwynau a’u cyfansoddion cysylltiedig, yn dilyn cytundeb diweddar ar lefel confensiwn.

Cam gweithredu 2.5: Parhau i ddefnyddio’r ddeddfwriaeth nwyon-F bresennol i reoli’r defnydd o nwyon-F a’u hallyriadau (mae rhai ohonynt yn PFAS) drwy reolaethau ar atal gollyngiadau, archwilio gollyngiadau ac adfer.

Cam gweithredu 2.6: Edrych ar ddiwygiadau yn y dyfodol i godi uchelgais deddfwriaeth nwyon-F mewn ffordd sy’n ystyried y dull cytbwys a ddisgrifir yn y Cyflwyniad uchod.

Gweithio’n rhyngwladol i fynd i’r afael â PFAS fel problem fyd-eang

Nid dim ond domestig yw ffynonellau PFAS. Mae llygredd o PFAS yn cael ei gydnabod fel mater trawsffiniol, gyda chadwyn gyflenwi fyd-eang o gynhyrchion sy’n cynnwys PFAS. Gall allyriadau PFAS hefyd deithio’n bell yn yr amgylchedd ar ôl iddynt gael eu cynhyrchu a’u defnyddio. Er mwyn cyfrannu at godi safonau rheoli cemegion yn fyd-eang, byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid rhyngwladol.

Mae’r cyd-destun rhyngwladol presennol yn rhoi cyfle i weithredu’n gryfach yn fyd-eang ar PFAS. Fel rhan o drefniadau pontio, mae PFAS yn cael ei nodi ar hyn o bryd fel mater o bryder dros dro o dan y Fframwaith Byd-eang ar Gemegion (GFC). Byddai gwneud PFAS yn destun pryder parhaol yng nghynhadledd ryngwladol gyntaf y GFC yn annog rhagor o waith ar wella data a monitro byd-eang, hyrwyddo dewisiadau amgen mwy diogel a chyfnewid gwybodaeth am ddulliau rheoleiddio.

Mae’r Panel Polisi Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol newydd ar Gemegion, Gwastraff a Llygredd (ISP-CWP) yn gyfle i gryfhau’r sail wyddonol ar gyfer gwneud penderfyniadau byd-eang ar PFAS drwy asesiadau awdurdodol a chyngor sy’n berthnasol i bolisi, gan helpu gwledydd i flaenoriaethu camau gweithredu a chydlynu ymatebion yn rhyngwladol.

Camau gweithredu dangosol cychwynnol

Cam gweithredu 2.7: Parhau i gymryd rhan yng Nghonfensiwn Stockholm a’i ystyriaeth o POPs sydd hefyd yn PFAS.

Cam gweithredu 2.8: Parhau i gefnogi rhoi sylw i PFAS fel Mater o Bryder o dan y Fframwaith Byd-eang ar Gemegion (GFC) ac o dan waith yr OECD ar PFAS.

Cam gweithredu 2.9: Ystyried gofyn am adroddiad asesu byd-eang ar PFAS drwy’r Panel Polisi Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol newydd ar Gemegion, Gwastraff a Llygredd.

Lleihau allyriadau PFAS i’r aer, i’r tir ac i ddŵr o safleoedd diwydiannol

Mae’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer rheoli allyriadau diwydiannol wedi bod yn effeithiol o ran lleihau llygredd ac mae’n cael ei gefnogi’n fras gan ddiwydiant. Fodd bynnag, mae elfennau o’r fframwaith presennol wedi dyddio ac mae angen eu diwygio i gyd-fynd â thrawsnewid diwydiannol. Mae cael safonau modern a deinamig yn hanfodol i leihau llygredd, diogelu’r amgylchedd ac iechyd y cyhoedd, a chefnogi buddsoddiad, cynhyrchiant a thwf y diwydiant. 

Mae’r cyfundrefnau trwyddedu amgylcheddol ledled y DU eisoes yn rhoi’r pwerau i’r rheoleiddwyr amgylcheddol perthnasol reoli allyriadau llygryddion fel PFAS, ni waeth a ydynt yn ddarostyngedig i gyfundrefnau rheoleiddio eraill fel UK REACH ai peidio. Yn hanesyddol, mae PFAS wedi peri anawsterau sylweddol i reoleiddwyr, gyda diffyg safonau gwyddonol ffurfiol, tystiolaeth a thechnegau monitro yn gwneud gosod rheolaethau cadarn yn heriol. Mae’r diffyg safonau ffurfiol hwn hefyd wedi creu ansicrwydd rheoleiddiol, oedi a chostau ychwanegol i’r diwydiant. Mae angen gweithredu i ddatgloi twf a chyflawni safonau clir sy’n lleihau llygredd ac sy’n adlewyrchu datblygiadau mewn dealltwriaeth wyddonol, technoleg ac arferion gorau.

Camau gweithredu dangosol cychwynnol

Cam gweithredu 2.10: Datblygu canllawiau traws-sector perthnasol ar gyfer rheoleiddwyr, gweithredwyr a’r diwydiant sy’n cael eu rheoleiddio drwy drwyddedau amgylcheddol i leihau allyriadau PFAS a gwella’r ffordd maen nhw’n cael eu trin, eu monitro a’u gwaredu. Bydd hyn yn nodi gofyniad clir i’r diwydiant ei bod yn rhaid iddo fod yn dryloyw gyda rheoleiddwyr ynghylch defnydd ac allyriadau PFAS.

Cam gweithredu 2.11: Defnyddio’r canllawiau hyn i asesu ac, os oes angen, datblygu’r ffordd orau o sicrhau bod mesurau priodol ar waith i reoli PFAS. Gallai hyn gynnwys adolygu trwyddedau amgylcheddol perthnasol.

Cam gweithredu 2.12: Datblygu trothwyon a safonau amgylcheddol sy’n wyddonol gadarn ac y gellir eu hamddiffyn ar gyfer allyriadau i’r aer, tir a dŵr ar gyfer PFAS sy’n beryglus neu sydd â phriodweddau eraill sy’n peri pryder.

Cam gweithredu 2.13: Gweithio gyda’r diwydiant a rheoleiddwyr i nodi a mynnu bod y Technegau Gorau sydd ar Gael (BAT) yn cael eu defnyddio i atal neu leihau allyriadau ac effeithiau PFAS ar yr amgylchedd. Mae hyn yn dilyn comisiynu Cyfran 2 BAT y DU, sy’n ystyried yn benodol ‘llygryddion cyfaint isel niweidiol neu barhaus’.

Atal PFAS mewn safleoedd tirlenwi a gwastraff rhag mynd i mewn i’r amgylchedd

Oherwydd defnydd hanesyddol a pharhaus eang o dirlenwi yn y DU, mae llawer o wastraff sy’n cynnwys PFAS yn cael ei waredu’n barhaol mewn safleoedd tirlenwi. Ar y cyfan, nid oedd safleoedd tirlenwi hanesyddol wedi’u peiriannu i gynnwys a rheoli trwytholch ac nid oedd ganddynt ofynion i ddal llygryddion, fel PFAS, y gellir eu hallyrru nid yn unig drwy drwytholch ond hefyd drwy nwy tirlenwi. Gall y rhain fod yn ffynonellau PFAS i’r amgylchedd. Gan adeiladu ar waith ymchwil cyfredol, mae angen casglu rhagor o dystiolaeth, gan weithio gyda’r sector gwastraff, i wella ein dealltwriaeth o PFAS mewn gwastraff ac mewn seilwaith gwastraff. Bydd hyn yn cefnogi mesurau rheoleiddio a rheoli risg yn y dyfodol ar gyfer pob safle tirlenwi.

Camau gweithredu dangosol cychwynnol

Cam gweithredu 2.14: Parhau i wella ein dealltwriaeth o reoli PFAS mewn gwastraff, a’r risgiau sy’n gysylltiedig â gwaredu gwastraff, i gefnogi opsiynau posibl ar gyfer camau rheoleiddio gwell i sicrhau llwybrau rheoli gwastraff priodol ar gyfer gwastraff sy’n cynnwys PFAS. Bydd hyn yn cynnwys gwaith ymchwil ac ymgysylltu â’r diwydiant ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg, asesu’r dulliau dinistrio a gwaredu mwyaf priodol ymysg y rhai sydd ar gael ar hyn o bryd, ac adeiladu ar waith ymchwil diweddar, fel a gynhaliwyd gan yr EA ar effeithiolrwydd llosgi.

Cam gweithredu 2.15: Parhau i weithredu rheolaethau gwastraff ar gyfer y PFAS hynny sydd hefyd yn cael eu dosbarthu fel POPs, gan gynnwys deddfwriaeth, gorfodaeth, ac ymgysylltu â Chonfensiynau Stockholm a Basel i gytuno ar gamau gweithredu rhyngwladol pellach addas.

Cefnogi arloesedd y diwydiant mewn dewisiadau amgen i PFAS niweidiol

Mae PFAS yn cael eu defnyddio’n eang oherwydd eu priodweddau buddiol cyfunol (fel y gallu i wrthsefyll olew, dŵr, cemegion, tymheredd a phwysedd). Gall hyn ei gwneud yn anodd datblygu dewisiadau diogel eraill yn lle PFAS niweidiol sy’n bodloni’r gofynion technegol uchel mewn rhai cymwysiadau. Er y gallai fod pryderon ynghylch gostyngiad mewn perfformiad cynhyrchion, dangosodd arolwg diweddar o agweddau’r cyhoedd (Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol) fod llawer o bobl yn dweud y byddent yn ffafrio dewisiadau amgen i PFAS nad ydynt yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd na’r amgylchedd, ac y byddent yn fodlon derbyn safonau perfformiad is o ganlyniad. Mae’n annhebygol y bydd gostyngiad mewn perfformiad cymwysiadau eraill yr un mor dderbyniol, er enghraifft, mewn prosesau diwydiannol neu ar gyfer cymwysiadau meddygol.

Mae angen arloesiadau mewn deunyddiau uwch a chymwysiadau uwch-dechnoleg i ddatblygu amnewidion cynaliadwy ar draws diwydiannau, gan gynnwys tecstiliau, electroneg a nwyddau traul. Rhaid ystyried goblygiadau’r diwydiannau hyn yn ofalus wrth newid i ddewisiadau amgen. Er y bydd angen gwaith technegol manwl ar gyfer cymwysiadau a sectorau penodol, mae angen mynd i’r afael â rhai heriau sylfaenol cyffredin. Nod rhannu gwybodaeth rhwng y Llywodraeth a rheoleiddwyr, yn ogystal â sectorau a gyda gwyddonwyr, yw helpu i fynd i’r afael â’r broblem hon.

Rydym eisoes yn ariannu gwaith ymchwil i ddatblygu dewisiadau amgen PFAS. Er enghraifft, ar gyfer cymwysiadau sy’n cefnogi galluoedd y llywodraeth, yn 2025 cynhaliodd y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Swyddfa Gartref gystadleuaeth agored ar y cyd i ddod o hyd i ddewisiadau amgen yn lle PFAS mewn deunyddiau diogelu.

Camau gweithredu dangosol cychwynnol

Cam gweithredu 2.16: Hyrwyddo arloesedd o ddewisiadau amgen PFAS mwy diogel yn niwydiant y DU drwy ddigwyddiadau a fforymau cydweithredol, gan gynnwys drwy Fforwm Arloesi Cemegion y llywodraeth.

Cam gweithredu 2.17: Adeiladu cymuned ymarfer rhwng diwydiant ac ymchwilwyr, drwy ychwanegu PFAS fel maes ffocws o fewn llwyfannau arloesi a dewisiadau amgen presennol.

Cam gweithredu 2.18: Cefnogi gwaith rhyngwladol i asesu’r dewisiadau PFAS amgen sydd ar gael.

Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o PFAS

Gall gwell cyfathrebu ynghylch PFAS gwmpasu nifer o feysydd a bod yn ddefnyddiol i wahanol sectorau o gymdeithas. Mae’r cyfrifoldeb dros fonitro, rheoleiddio a chyfathrebu am PFAS yn berthnasol i lawer o gyrff cyhoeddus, yn ogystal ag i ddiwydiant, sefydliadau anllywodraethol (NGOs) ac yn y cyfryngau. Bydd dull cyfathrebu mwy cyd-drefnus gan y llywodraeth yn helpu i rannu data’n ehangach ac yn haws, yn rhoi eglurder ynghylch camau rheoleiddio, ac yn datblygu gwell cyd-ddealltwriaeth o risgiau a heriau PFAS. Bydd hyn yn gwella hygyrchedd gwybodaeth (gan gynnwys data monitro), tryloywder a chyd-drefniant (gan gynnwys camau a gymerwyd ar draws y llywodraeth).

Mae gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymysg defnyddwyr o gynnwys PFAS y cynnyrch y mae defnyddwyr yn eu defnyddio, a’r goblygiadau cysylltiedig i iechyd y cyhoedd ac i’r amgylchedd, yn galluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau mwy gwybodus. Ni ddylai hyn ddisodli’r angen i ddiwydiant a’r llywodraeth sicrhau bod cynnyrch a roddir ar y farchnad yn ddiogel, gan gynnwys drwy reoliadau’r llywodraeth. Fodd bynnag, mae gwell ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a thryloywder yn helpu defnyddwyr i wneud eu penderfyniadau gwybodus eu hunain, gan gydbwyso cost, ansawdd ac effeithiau amgylcheddol ac iechyd ehangach y cynnyrch maen nhw’n ei brynu.

Camau gweithredu dangosol cychwynnol

Cam gweithredu 2.19: Yn 2026, cyhoeddi tudalen we ar PFAS i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o PFAS a gwella tryloywder y gwaith sy’n digwydd ar draws y llywodraeth.

Cam gweithredu 2.20: Yn 2026, cynnwys PFAS ar wefan newydd Llywodraeth y DU, ‘Risgiau cemegol i iechyd pobl’.

Harneisio pŵer prynu’r sector cyhoeddus

Mae gan awdurdodau cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau bŵer prynu sylweddol. Gellir defnyddio hyn i sicrhau canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol. Mae Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth (GGCs) yn nodi’r camau y gall adrannau llywodraeth y DU, a’u sefydliadau partner, eu cymryd i leihau eu heffeithiau ar yr amgylchedd.

Camau gweithredu dangosol cychwynnol

Cam gweithredu 2.21: Ystyried opsiynau ar gyfer cyflwyno canllawiau PFAS fel rhan o Safonau Prynu’r Llywodraeth (GBS). Fel cam cyntaf, ceisio ehangu’r diweddariadau arfaethedig presennol i’r canllawiau ar PFAS mewn tecstiliau i gynnwys canllawiau ar PFAS ym mhob proses gaffael gan y llywodraeth cyn yr adolygiad nesaf o’r GBS.

Cam gweithredu 2.22: Adolygu canllawiau’r Adran Addysg i ysgolion ar gaffael gwisgoedd ysgol ac argymell bod ysgolion yn ystyried opsiynau eraill nad ydynt yn cynnwys PFAS.

Cam gweithredu 2.23: Adolygu cynnwys gofynion mewn prosesau tendro i gyflenwyr, er mwyn darparu gwybodaeth am y defnydd o PFAS yn eu cynnyrch a gyflenwir i’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Adran 3: Lleihau’r cysylltiad parhaus â PFAS

O ystyried parhausrwydd a chyffredinrwydd PFAS niweidiol yn yr amgylchedd, mae angen rheoli cysylltiad PFAS parhaus â phobl a’r amgylchedd er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd, gan gynnwys bywyd gwyllt. Byddwn yn gweithio gyda grwpiau defnyddwyr i gefnogi dewisiadau gwybodus ond yn rheoleiddio lle bo angen i ddiogelu pobl a’r amgylchedd.

Gall pobl ddod i gysylltiad â PFAS o nifer o ffynonellau, fel dŵr yfed, bwyd, aer a defnyddio cynhyrchion sy’n cynnwys PFAS, yn ogystal â PFAS mewn lleoliadau galwedigaethol. Dylai rheoleiddwyr barhau i weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod ymyriadau wedi’u cyd-drefnu ac yn briodol wrth gyfrannu at fesurau diogelu cyffredinol, ac archwilio dulliau addasol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer safonau a chanllawiau PFAS, gan gyflymu gwaith cydweithredol ar fethodolegau asesu newydd. Mae hyn yn cynnwys blaenoriaethu strategaethau grwpio, dulliau profi newydd ac amgen, a rhannu data rhyngwladol.

Pan fydd gweithgynhyrchwyr yn defnyddio PFAS penodol, dylent sicrhau bod y sylweddau hyn yn ddiogel ar gyfer eu defnydd arfaethedig. Fel cam rhagofalus i leihau risgiau posibl o PFAS, dylai’r diwydiant a manwerthwyr asesu a yw defnyddio PFAS yn hanfodol er mwyn cyflawni’r swyddogaeth a ddymunir, a dylent ystyried dewisiadau eraill lle bo hynny’n bosibl.

Dylai gwaith i warchod rhywogaethau a chynefinoedd ystyried crynodiadau o gysylltiad cemegol i PFAS yn yr amgylchedd. Mae dod i gysylltiad â PFAS yn peri risg i organebau unigol ac i ecosystemau, a gall effeithio ar fioamrywiaeth. Mae angen i ni reoli gwahanol lwybrau cyswllt PFAS â’r amgylchedd ac iechyd pobl gyda’i gilydd, a sicrhau bod diogelwch cyffredinol yn cael ei ddarparu mewn ffordd gost-effeithiol a chymesur.

Dyma’r canlyniadau rydym yn gobeithio eu cyflawni drwy leihau cysylltiad parhaus:

  • lleihau risgiau iechyd y cyhoedd ac amgylcheddol o ddod i gysylltiad â PFAS, fel y dangosir drwy fonitro lefelau cysylltiad â PFAS yn barhaus;
  • rhoi rheoliadau i leihau’r cysylltiad â PFAS o wahanol lwybrau ar waith, a sicrhau eu bod yn gweithio gyda’i gilydd, er mwyn sicrhau lefel uchel o ddiogelwch i iechyd y cyhoedd;
  • gwell cydgysylltu rhwng y rheoliadau a’r dulliau gweithredu sy’n lleihau cysylltiad bywyd gwyllt â PFAS, ac sy’n cyfrannu at adfer natur, gan sicrhau bod ecosystemau sensitif yn cael eu diogelu’n well.

Asesu’r risg i iechyd dynol

Mae’r Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegion mewn Bwyd, Nwyddau Defnyddwyr a’r Amgylchedd (COT) yn cynnal adolygiad annibynnol o gemegion PFAS. Mae’r adolygiad hwn yn edrych ar y sylfaen dystiolaeth iechyd dynol a sut mae PFAS yn ymddwyn yn y corff, ac mae’n ystyried a oes modd asesu mathau gwahanol o PFAS gyda’i gilydd. Lle bo’n bosibl, bydd y COT yn gosod gwerthoedd canllawiau sy’n seiliedig ar iechyd i lywio asesiadau risg a phenderfyniadau rheoleiddio yn y dyfodol.

Camau gweithredu dangosol cychwynnol

Cam gweithredu 3.1: Cwblhau adolygiad o dystiolaeth PFAS i gefnogi asesiad risg iechyd dynol.

Rheoli risgiau PFAS yn y bwyd rydym ni’n ei fwyta

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) yn gweithredu i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac amddiffyn buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae Food Standards Scotland, sy’n darparu’r swyddogaeth hon ar gyfer yr Alban, yn cydweithio â’r Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae’r FSA yn gweithio gyda’r Labordy Cyfeirio Cenedlaethol (NRL) i ddatblygu a dilysu profion PFAS ar gyfer bwyd. Mae profion PFAS wedi cael eu datblygu a’u dilysu ar gyfer rhai PFAS (Y Pwyllgor ar Docsigrwydd) mewn pysgod, pysgod cregyn, cig eidion, dofednod, llaeth ac wyau, ac mae’r gwaith dilysu’n mynd rhagddo ar gyfer cigoedd eraill, ffrwythau, llysiau a grawnfwydydd. Mae’r broses ddilysu hefyd yn mynd rhagddi ar gyfer 26 o PFAS ychwanegol mewn perthynas â phob math o fwyd.

Gellir dod o hyd i PFAS hefyd mewn pecynwaith bwyd i wneud i’r deunyddiau wrthsefyll saim, olew a lleithder. Gellir dod o hyd iddynt mewn eitemau fel papur lapio bwyd brys, bagiau popgorn microdon, blychau pitsa a rhai cynwysyddion papur. Mae’r FSA, drwy’r NRL, yn parhau i asesu a oes PFAS yn bresennol mewn pecynwaith bwyd yn y DU. Roedd y gwaith cychwynnol yn canolbwyntio ar samplu deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd (FCMs) penodol, fel blychau cludfwyd, a chanfuwyd presenoldeb bach iawn o PFAS. Rydym yn parhau i fonitro ac adolygu tystiolaeth ar bresenoldeb PFAS mewn pecynwaith bwyd ac FCMs eraill.

Mae gan PFAS y potensial hefyd i fynd i mewn i ffynonellau dŵr naturiol. Mae angen i ni sicrhau bod ein sylfaen dystiolaeth yn gadarn a gwella ein dealltwriaeth o p’un a yw dŵr potel, sy’n cael ei ystyried yn fwyd, mewn perygl o gael ei halogi.

Camau gweithredu dangosol cychwynnol

Cam gweithredu 3.2: Gwneud gwaith ar brofi PFAS mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd (FCMs). Byddwn yn ceisio cryfhau’r gallu dadansoddol ar gyfer profion PFAS mewn FCMs gan ddefnyddio safonau rhyngwladol. Byddwn yn blaenoriaethu deunyddiau risg uchel lle mae defnyddio PFAS yn gyffredin.

Cam gweithredu 3.3: Lle nad yw profion ar gael eto, datblygu a dilysu profion PFAS ymhellach mewn bwydydd. Byddwn yn parhau i wella galluogrwydd yr NRL ar gyfer profi PFAS mewn bwydydd.  

Cam gweithredu 3.4: Parhau i ddatblygu a chynnal rhaglenni monitro i gasglu data ar PFAS mewn bwyd ac FCMs i lywio asesiadau risg ac i gefnogi unrhyw fesurau rheoleiddio yn y dyfodol.

Cam gweithredu 3.5: Archwilio casglu data ar risg PFAS mewn dŵr potel drwy lwybrau fel ymgysylltu â diwydiant, mapio risg, a gwaith ymchwil o fewn y flwyddyn nesaf.

Parhau i wella’r dŵr a yfwn

Mae dŵr yfed ledled y DU o safon uchel iawn ac mae ymhlith yr ansawdd uchaf yn y byd. Yng Nghymru a Lloegr, mae dŵr yfed yn cael ei reoleiddio gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI), ac yn yr Alban gan y Rheoleiddiwr Ansawdd Dŵr Yfed (DWQR). Mae’r ddau reoleiddiwr wedi cymryd camau mewn perthynas â PFAS.

Mae gan gwmnïau dŵr ddyletswydd statudol i gynnal asesiadau i ganfod risgiau i ansawdd y dŵr yfed y maent yn ei gyflenwi. Rhaid i ddŵr yfed beidio â chynnwys unrhyw ficro-organebau, parasitiaid neu sylweddau mewn crynodiadau neu werthoedd a fyddai’n creu perygl posibl i iechyd dynol. Mae hyn yn cynnwys PFAS.

Yn yr Alban, cafodd safon statudol o 0.1µg y litr ar gyfer cyfanswm o 20 o gyfansoddion PFAS a enwir yn unigol ei chyflwyno i ddeddfwriaeth ar 1 Ionawr 2023. Mae’r DWQR hefyd wedi cyfarwyddo’r cyflenwr dŵr cyhoeddus, Scottish Water, i samplu 29 PFAS arall a enwir. Cyhoeddodd DWQR Lythyrau Gwybodaeth am PFAS i Scottish Water yn 2009, ac eto ym mis Rhagfyr 2022. Mae’r ail Lythyr Gwybodaeth yn nodi’r gofynion ar gyfer asesu, samplu a dadansoddi risg, ynghyd â gofynion gweithredol ar gyfer rheoli’r risg o PFAS.

Rhoddwyd cyfarwyddiadau ar gyfer adrodd yn rheoleiddiol ar ganfyddiadau PFAS i’r DWQR, Byrddau Iechyd ac awdurdodau lleol, yn seiliedig ar lefelau gweithredu haenog, ynghyd â manylion y camau i’w cymryd os bydd haenau’n cael eu torri. Fel y cadarnhawyd yn Adroddiad Blynyddol DWQR ar gyfer 2024, ni fu unrhyw achosion o fynd y tu hwnt i’r safon statudol. Comisiynwyd dau brosiect ymchwil i fireinio’r asesiad risg dŵr yfed ar gyfer PFAS gan Lywodraeth yr Alban yn 2024, gydag allbwn yr ymchwil yn cael ei ddefnyddio gan Scottish Water i fireinio ei system asesu risg a llywio rhaglenni samplu.

Mae’r DWI wedi darparu canllawiau i gwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr ers 2007 i reoli risgiau PFAS. Mae’n defnyddio ymateb graddedig a chynyddol o fewn system haenog yn seiliedig ar grynodiadau o PFAS a ganfuwyd. Diweddarwyd y canllawiau ym mis Awst 2024, ac maent yn mynnu bod cwmnïau dŵr yn monitro ac yn adrodd ar y swm o 48 PFAS a enwir. Dyma un o’r rhaglenni monitro mwyaf cynhwysfawr ar draws y byd. Rhaid rhoi gwybod i’r DWI am grynodiadau PFAS o 0.1µg y litr ac uwch fel digwyddiad ansawdd dŵr, a rhaid cymryd yr holl gamau angenrheidiol i leihau crynodiadau. Cytunodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) fod hon yn lefel gadarn gyda lwfans diogelwch priodol i sicrhau nad yw ein dŵr yfed yn berygl i iechyd pobl.  Ar hyn o bryd, nid oes tystiolaeth o PFAS sy’n uwch na’r lefel a ganiateir, sef 0.1µg y litr, mewn cyflenwadau dŵr yfed. Mae hyn yn cefnogi effeithiolrwydd strategaethau lliniaru’r diwydiant ac yn dangos bod cwmnïau dŵr yn cydymffurfio â’r canllawiau.

Byddwn yn ymgynghori ar gyflwyno terfyn statudol ar gyfer PFAS yn ein rheoliadau cyflenwi cyhoeddus. Yn y dyfodol, os bydd lefelau PFAS yn uwch na’r rhai a ganiateir, bydd hyn yn ei gwneud yn haws i’r DWI gymryd unrhyw gamau gorfodi angenrheidiol yn erbyn cwmnïau dŵr. Bydd y DWI ac, yn y dyfodol, y rheoleiddiwr dŵr newydd (sy’n cael ei sefydlu yn dilyn Adolygiad Cunliffe) yn parhau i fonitro’r cyhoeddiadau a’r cyngor a ddarperir gan Sefydliad Iechyd y Byd a gan Bwyllgor Gwenwyndra’r DU mewn perthynas â PFAS, a bydd yn gweithredu yn unol â’r dystiolaeth wyddonol i ddiogelu iechyd y cyhoedd rhag risgiau PFAS mewn dŵr yfed.

Camau gweithredu dangosol cychwynnol

Cam gweithredu 3.6: Ymgynghori ar gyflwyno terfyn statudol ar gyfer PFAS yn rheoliadau cyflenwi cyhoeddus Lloegr.

Gwella ansawdd ein dyfroedd

Mae sicrhau bod ein llynnoedd, ein hafonydd a’n moroedd yn rhydd o lefelau o gemegion sy’n achosi niwed yn hanfodol er mwyn diogelu ecosystemau a bioamrywiaeth, a diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd amrywiaeth eang o fesurau rheoleiddio a mesurau nad ydynt yn rheoleiddio yn cyfrannu at gryfhau’r gwaith o reoli ffynonellau PFAS yn y dyfodol yn yr amgylchedd dŵr. Bydd y mesurau hyn, ynghyd ag ymrwymiad i reoli materion etifeddiaeth yn yr amgylchedd, yn mynd i’r afael â’r risg o ddirywiad pellach mewn ansawdd dŵr, ac yn arwain at welliannau tymor hwy. Mae mesur llwyddiant a chamau gweithredu ategol yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddatblygu safonau neu drothwyon pryder clir.

Ar hyn o bryd mae un Safon Ansawdd Amgylcheddol (EQS) statudol ar gyfer un PFAS. Mae data monitro yn dangos bod mathau eraill o PFAS yn bresennol yn yr amgylchedd dŵr ar lefelau sy’n peri pryder. Mae gosod safonau ansawdd ar gyfer cyrff dŵr yn darparu safonau rheoleiddio clir i gefnogi’r gwaith o reoli PFAS.

Camau gweithredu dangosol cychwynnol

Cam gweithredu 3.7: Parhau i ddatblygu trothwyon gwenwynegol (fel y crynodiadau dim effaith a ragwelir (PNECs)) ar gyfer PFAS a allai effeithio ar ansawdd ein hamgylchedd dŵr. Mae’r rhain yn cefnogi camau rheoleiddio (fel yn adran 2, uchod) a gellir eu defnyddio, yn amodol ar ganlyniadau diwygiadau rheoleiddio dŵr, i gefnogi opsiynau ar gyfer Safonau Ansawdd Amgylcheddol (EQS) newydd ar gyfer PFAS, gan gynnwys ystyried sylweddau blaenoriaeth newydd a’r EQS a ddatblygwyd mewn awdurdodaethau eraill.

Cam gweithredu 3.8: Gwerthuso dichonoldeb datblygu dulliau profi gwell ar gyfer sylweddau parhaus, symudol a gwenwynig (PMT), gan gynnwys PFAS, gan adeiladu ar ddull dros dro’r llywodraeth o ymdrin â sylweddau PMT. Bydd hyn yn darparu tystiolaeth gliriach i gefnogi’r gwaith o reoli risg sylweddau sy’n gallu halogi adnoddau dŵr, gan gynnwys dŵr daear.

Adolygu’r risgiau o PFAS mewn llaid carthion yn cael ei ledaenu i’r tir

Llaid carthion yw’r gwastraff solet sy’n cael ei ffurfio yn ystod prosesau trin dŵr gwastraff. Mae PFAS mewn llaid, a halogyddion eraill sy’n peri pryder, yn faes o ddiddordeb oherwydd yr effaith bosibl ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl. Mae llaid carthion wedi’i drin, a elwir weithiau’n fiosolidau, yn cynnwys maetholion planhigion defnyddiol ac yn gwella pridd. Mae tua 94% o laid o gwmnïau dŵr yn cael ei ailgylchu i’r tir, ond dim ond ar tua 1.9% o ffermydd ym Mhrydain Fawr y mae’n cael ei ddefnyddio. Mae 4.1% yn cael ei losgi, ac mae’r gweddill yn cael ei ailddefnyddio, er enghraifft wrth adfer tir.

Dadansoddodd y Rhaglen Ymchwilio i Gemegion samplau o laid wedi’i drin, y bwriedir ei ddefnyddio ar y tir, o 11 safle trin llaid yng Nghymru a Lloegr i fonitro crynodiadau’r sylweddau sy’n peri pryder, gan gynnwys rhai PFAS, sef PFOS, PFOA a PFBS (perfluorobutane sulfonate). Mae’r canfyddiadau’n dangos bod presenoldeb a chrynodiad PFOS a PFBS yn amrywio ar draws samplau. Mae rhagor o waith ymchwil yn mynd rhagddo i wella’r sylfaen dystiolaeth ar ymddygiad a thynged halogyddion. Mae treialon yn mynd rhagddynt, sy’n cael eu cynnal gan gwmnïau dŵr a’u hariannu gan Gronfa Arloesi Ofwat, i dreialu technolegau newydd i gael gwared ar halogyddion fel PFAS o laid. Rydym yn dal yn effro i ganfyddiadau ymchwil newydd a byddwn yn gweithredu lle bo angen, dan arweiniad tystiolaeth, i ddiogelu’r amgylchedd ac iechyd pobl, gan gynnwys drwy adolygu’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer lledaenu llaid.

Camau gweithredu dangosol cychwynnol

Cam gweithredu 3.9: Parhau i lywio gwaith o dan gam 4 Rhaglen Ymchwilio i Gemegion (CIP) y Diwydiant Dŵr a helpu i lunio cwmpas ymchwiliadau ar gyfer cam 5. Bydd CIP4 yn cynnwys archwilio tynged halogyddion y tu hwnt i ffiniau safleoedd trin, gyda’r nod o adeiladu tystiolaeth i gefnogi dealltwriaeth o risgiau posibl i iechyd pobl a’r amgylchedd.

Cam gweithredu 3.10: Ymgynghori ar ddiwygiadau ynghylch sut mae defnyddio llaid carthion mewn amaethyddiaeth yn cael ei reoleiddio ac a ddylid cynnwys hyn yn y Gyfundrefn Trwyddedu Amgylcheddol.

Cam gweithredu 3.11: Cydweithio â’r diwydiant i ymchwilio i opsiynau trin dŵr gwastraff yn y dyfodol i leihau halogyddion mewn llaid ac archwilio a allai’r opsiynau hyn gyfrannu at fynd i’r afael â PFAS a llygryddion eraill.

Cam gweithredu 3.12: Defnyddio dulliau ymchwil systemau i ddod â rhanddeiliaid amrywiol at ei gilydd, mapio cyflwr presennol gwybodaeth a meithrin dealltwriaeth ehangach o’r broblem o’r ffynhonnell i liniaru, i helpu i nodi bylchau allweddol yn y dystiolaeth, ac i siapio blaenoriaethau ymchwil a datblygu yn y dyfodol ar halogyddion erbyn Ch2 2026.

Mynd i’r afael â llygredd PFAS etifeddol

Rydym yn wynebu llawer iawn o halogiad PFAS etifeddol. Mae hyn yn cynnwys tir sydd wedi’i halogi ag ewyn diffodd tân ac allyriadau o ddiwydiant a safleoedd tirlenwi. Er mwyn blaenoriaethu camau gweithredu’n effeithiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd, mae rheoleiddwyr yn defnyddio dull seiliedig ar risg i asesu a gweithredu ar safleoedd sy’n peri’r pryder mwyaf. Yn Lloegr, mae hyn yn seiliedig ar brosiect sgrinio risg yr EA sy’n nodi ffynonellau PFAS posibl ac yn darparu trosolwg lefel uchel o’r safleoedd halogedig mwyaf tebygol. Mae’r adnodd hwn yn fan cychwyn ar gyfer ymchwiliadau mwy lleol, gan helpu rhanddeiliaid i nodi safleoedd sy’n peri pryder a chynnig gwybodaeth werthfawr am sut i asesu a rheoli risgiau. Mae’n galluogi’r EA a’i phartneriaid i ganolbwyntio adnoddau lle mae eu hangen fwyaf ac i liniaru risgiau sylweddol yn effeithiol.

Byddwn yn adeiladu ar y gwaith hwn i ddarparu arweiniad a chymorth i alluogi awdurdodau lleol neu eraill i gyflawni camau gweithredu yn ôl yr angen. Bydd nodi’r dull hwn o fynd i’r afael â llygredd etifeddol a gweithio mewn partneriaeth yn galluogi twf. Gall canllawiau cliriach ysgogi datblygiad technoleg adfer a rhoi hyder fel y gellir ailddatblygu tir.

Camau gweithredu dangosol cychwynnol

Cam gweithredu 3.13: Nodi fframwaith clir a thryloyw ar gyfer blaenoriaethu risgiau a chamau gweithredu posibl sy’n ofynnol ar safleoedd ar gyfer PFAS ar sail y rhaglen sgrinio risg genedlaethol.

Bydd yr EA yn cefnogi awdurdodau perthnasol yn Lloegr i asesu a deall risgiau sy’n gysylltiedig â PFAS gan ddefnyddio allbynnau o’r Prosiect Sgrinio Risg Cenedlaethol. Gall y cymorth hwn gynnwys darparu arweiniad a dehongli data i lywio’r gwaith o flaenoriaethu ymchwiliadau safle.

Cam gweithredu 3.14: Bydd llywodraethau a rheoleiddwyr datganoledig yn ystyried a oes modd defnyddio egwyddorion adnodd blaenoriaethu risg yr EA yng Nghymru a’r Alban, a sut gellir gwneud hynny.

Cam gweithredu 3.15: Darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad wedi’u diweddaru ar PFAS i gefnogi awdurdodau lleol perthnasol i gyflawni eu cyfrifoldebau tir halogedig yn llawn o dan ran 2A o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, lle gallai halogiad PFAS etifeddol fod yn bresennol.

Cam gweithredu 3.16: Datblygu canllawiau technegol ar gyfer rheoleiddwyr a’r diwydiant ar ddelio â thir y mae halogiad PFAS etifeddol yn effeithio arno ar draws yr holl gyfundrefnau perthnasol. Gallai hyn gynnwys cynllunio, adfer gwirfoddol, Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (EPR) a rhan 2A, er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson ac ymarferol.

Cam gweithredu 3.17: Ymchwilio i gyfleoedd i weithio gyda phartneriaid tuag at ddatblygu safonau a chanllawiau cliriach sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwahanol sylweddau PFAS. Darparu mecanweithiau ar gyfer mynd i’r afael ag ansicrwydd presennol mewn effeithiau ar iechyd pobl a’r amgylchedd.

Rheoli risgiau PFAS mewn nwyddau defnyddwyr

Mae PFAS yn cael eu defnyddio mewn llawer o nwyddau traul. Mae’r rhain yn cynnwys tecstiliau gwrth-staen a dŵr (gan gynnwys carpedi, dillad ac esgidiau), cynhyrchion gwrthlud (fel offer coginio), polish, cwyrau, paent, cynnyrch glanhau, colur a chynnyrch gofal personol. Mae defnydd a phresenoldeb y nwyddau hyn mewn cartrefi yn arwain at ddod i gysylltiad â PFAS. Efallai y bydd gan unigolion sydd wedi gwneud defnydd hir o gynhyrchion sy’n cynnwys PFAS lefelau uwch o gysylltiad â PFAS. Yn ogystal â’r risgiau posibl i iechyd, gall PFAS o nwyddau traul beri risgiau amgylcheddol yn ystod cam gweithgynhyrchu ac ôl-ddefnyddio cylch bywyd y cynhyrchion hyn.

Mae effaith gyffredinol costau byw ar reoleiddio PFAS mewn nwyddau defnyddwyr yn elfen bwysig a fydd yn cael ei hystyried yn llawn. Bydd cyfnodau pontio a dull gweithredu cymesur ac wedi’i dargedu tuag at reoleiddio yn sicrhau’r costau cydymffurfio isaf bosibl. Mae llawer o sectorau eisoes yn symud i ffwrdd oddi wrth PFAS. Wrth i’r galw am nwyddau amgen gynyddu, dylai dewisiadau amgen am brisiau fforddiadwy fod ar gael yn fwy rhwydd. Mae lleihau amlygrwydd PFAS mewn nwyddau defnyddwyr yn arwain at fanteision amlwg i iechyd y cyhoedd ac yn cryfhau hyder pobl yn niogelwch y cynnyrch.

Camau gweithredu dangosol cychwynnol

Cam gweithredu 3.18: Ystyried eitemau defnyddwyr fel rhan o unrhyw waith i ystyried cyfyngiadau PFAS o dan UK REACH (gweler adran 2).

Cam gweithredu 3.19: Gwaith i ystyried cyfyngiadau neu fesurau rheoleiddio posibl ar ddefnyddio PFAS mewn grwpiau nwyddau defnyddwyr penodol.

Y camau nesaf

Mae’r cynllun hwn yn gam tuag at gyflawni ein gweledigaeth tymor hwy. Er mwyn monitro gweithrediad y cynllun, mae’r tabl isod yn nodi rhestr lawn o gamau gweithredu dangosol, rhagolygon cyflenwi a’r cyrff cyfrifol. Fel ymrwymiad a nodir yng Nghynllun Gwella’r Amgylchedd (EIP), bydd adolygu ac adrodd ar y cynllun hwn yn dod yn rhan o’n cylch adrodd statudol ar gyfer yr EIP.

Rhestr o gamau gweithredu dangosol: Adran 1

Deall ffynonellau PFAS

Rhif gweithredu Disgrifiad Cwmpas Tiriogaethol Rhagolwg cyflenwi Cyfrifoldeb
1.1 Bydd Lloegr a’r Alban yn parhau i fonitro ac adrodd yn flynyddol, gyda’r Alban yn ehangu ei rhwydwaith samplu, gan ddefnyddio methodolegau wedi’u diweddaru i gryfhau set ddata’r DU i lywio asesiadau risg a phenderfyniadau polisi yn y dyfodol. Yng Nghymru, ystyrir defnyddio’r dull hwn, gyda chynlluniau i gynyddu samplu dŵr wyneb ar gyfer ystod ehangach o PFAS, gan ategu samplu statudol ar gyfer PFOS mewn biota. Byddwn yn gweithio ar draws y DU i gryfhau’r set ddata genedlaethol a llywio asesiadau risg a phenderfyniadau polisi yn y dyfodol. GB Parhau i gryfhau’r set ddata PFAS genedlaethol drwy ddefnyddio methodolegau gwyddonol wedi’u diweddaru a chynnal gwaith monitro tactegol a strategol i sicrhau darpariaeth gost-effeithiol a hyblyg. Bydd hyn yn cefnogi tystiolaeth o ansawdd uchel ar gyfer asesiadau risg a phenderfyniadau polisi yn y dyfodol. Cynnal 2,400 o samplau PFAS y flwyddyn yn Lloegr ac ehangu rhwydwaith samplu’r Alban o 300 yn 2025 i 500 erbyn 2026. Yng Nghymru, ehangu’r gwaith o fonitro dŵr wyneb PFOS a PFOA o 600 sampl i 850 sampl, a cheisio cynyddu’r ystod o PFAS sy’n cael eu dadansoddi. Asiantaeth yr Amgylchedd (EA), Llywodraeth yr Alban, Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA), Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
1.2 Sicrhau bod map blaenoriaethu System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) meini prawf lluosog PFAS yr EA ar gael i’r sector cyhoeddus; datblygu gwefan ryngweithiol a rhannu’r hyn a ddysgwyd o waith yr EA. Bydd Llywodraeth yr Alban a SEPA yn ystyried sut y gellir cymhwyso’r dull yn yr Alban. Lloegr Cyhoeddi map Blaenoriaethu GIS PFAS erbyn diwedd 2026. Datblygu gwefan ryngweithiol erbyn Ch3 2027. Defra, Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth yr Alban, SEPA
1.3 Gwella’r gwaith o fonitro PFAS mewn priddoedd drwy gefnogi astudiaeth ddichonoldeb Arolwg Daearegol Prydain a dechrau cynllun peilot samplu mewn o leiaf pum lleoliad daearyddol cynrychiadol ledled Lloegr, er mwyn sefydlu crynodiadau sylfaenol ac asesu amrywioldeb rhanbarthol. Lloegr Cyflawni astudiaeth beilot arfaethedig yn 2026-2027. Asiantaeth yr Amgylchedd
1.4 Darparu asesiad cynhwysfawr dros nifer o flynyddoedd o halogiad PFAS mewn amgylcheddau morydol ac arfordirol yn Lloegr, drwy samplu a dadansoddi gwaddodion, pysgod ac infertebratau benthig wedi’u targedu, er mwyn llywio dealltwriaeth o risg amgylcheddol a chefnogi’r broses o wneud penderfyniadau rheoleiddio. Lloegr Darparu asesiad cynhwysfawr dros nifer o flynyddoedd o halogiad PFAS mewn amgylcheddau morydol ac arfordirol yn Lloegr erbyn Chwefror 2028. Asiantaeth yr Amgylchedd
1.5 Ystyried ychwanegu rhagor o PFAS at Gofrestr Gollwng a Throsglwyddo Llygryddion (PRTR) y DU, fel y nodir yn ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar allyriadau diwydiannol a gyhoeddwyd ym mis Awst 2025. Mae’r PRTR eisoes yn cynnwys allyriadau nifer o fflworocarbonau i’r aer. DU Cyhoeddi ymateb llywodraeth y DU i’r ymgynghoriad. Defra
1.6 Comisiynu gwaith ymchwil i ddeall yn well canlyniadau halogiad amgylcheddol gan PFAS ar iechyd ecosystemau a bywyd gwyllt. Defnyddio’r wybodaeth hon i lywio’r camau gweithredu a’r penderfyniadau sydd eu hangen i reoli effeithiau llygryddion er mwyn diogelu a gwella iechyd ecosystemau. DU Cynnal rhaglen i adolygu a chyfuno gwybodaeth ecotocsicolegol bresennol am PFAS a chomisiynu gwaith ymchwil wedi’i dargedu i lenwi bylchau blaenoriaeth o ran deall eu heffeithiau ar ecosystemau a bywyd gwyllt. Bydd hyn yn cynnwys: mapio’r dystiolaeth gyfredol a nodi bylchau critigol, yn enwedig ar gyfer PFAS nad ydynt wedi cael eu hastudio’n eang; cydweithio â phartneriaid rhyngwladol i fanteisio ar waith ymchwil byd-eang; cynhyrchu tystiolaeth newydd lle bo hynny’n ymarferol, gan ganolbwyntio ar rywogaethau ac ecosystemau sy’n berthnasol i’r DU. Asiantaeth yr Amgylchedd
1.7 Cynnal rhagor o waith ymchwil ar feysydd pryder sy’n dod i’r amlwg mewn perthynas â PFAS. Bydd hyn yn cynnwys asesu tystiolaeth ar ffynonellau TFA a dadansoddi’r defnydd hanesyddol a chyfredol o fflworopolymerau (neu PFAS arall) yn y DU. Bydd hyn yn llywio dealltwriaeth o ba mor gyffredin ydynt mewn cymdeithas ac o stociau posibl yn y defnydd presennol, er mwyn llywio polisïau ar gyfer lliniaru effeithiau negyddol posibl ar iechyd a’r amgylchedd. DU Cwmpasu opsiynau prosiect ymchwil ddechrau 2026. Defra

Rhestr o gamau gweithredu dangosol: Adran 2

Mynd i’r afael â llwybrau PFAS

Rhif gweithredu Disgrifiad Cwmpas Tiriogaethol Rhagolwg cyflenwi Cyfrifoldeb
2.1 Cwblhau gwaith i ystyried cyfyngiadau UK REACH ar PFAS mewn ewyn diffodd tân. Fel yr asiantaeth ar gyfer UK REACH, cyhoeddodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) adroddiad ar ddefnydd PFAS mewn ewyn diffodd tân ym Mhrydain Fawr. Mae’r adroddiad yn cyflwyno dadansoddiad gwyddonol a sylfaen dystiolaeth yr HSE, ochr yn ochr ag ymgynghoriad cyhoeddus, ar gyfer cyfyngiadau posibl UK REACH. Yn unol â phroses gyfyngiadau UK REACH, ar ôl i’r HSE gyhoeddi ei farn derfynol ar PFAS mewn ewyn diffodd tân, bydd y gweinidog perthnasol yn llywodraeth y DU, gyda chydsyniad y llywodraethau datganoledig, yn gwneud penderfyniad ar weithredu’r cynnig. GB Cyhoeddodd yr HSE gyfyngiad arfaethedig ar ewyn diffodd tân (FFF), ac mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan fis Chwefror 2026.Disgwylir barn derfynol yr HSE yn 2026, a phenderfyniad Defra ar y cyfyngiad yn 2027. Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Defra (gyda chydsyniad y llywodraethau datganoledig)
2.2 Ystyried ein dull gweithredu ar gyfer rhagor o gyfyngiadau UK REACH. Fel y nodir yng Nghynllun Gwella’r Amgylchedd, byddwn yn diwygio UK REACH er mwyn gallu defnyddio mesurau diogelu sy’n mynd i’r afael â llygredd cemegol yn gyflymach, yn effeithlon ac mewn ffordd sy’n alinio’n well â’n partneriaid masnachu agosaf, yn enwedig yr UE, erbyn mis Rhagfyr 2028. GB Alinio UK REACH â’r partneriaid masnachu agosaf, yn enwedig yr UE, erbyn mis Rhagfyr 2028. Ystyried cyfyngiadau ar is-grwpiau PFAS, yn unol â mesurau presennol yr UE. Defra (gyda chydsyniad y llywodraethau datganoledig), Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
2.3 Cynnydd tuag at ychwanegu mwy o sylweddau PFAS at Restr SVHCs UK REACH o sylweddau sy’n peri pryder mawr iawn, yn amodol ar ymgynghoriad. GB Cyhoeddi dull strategol newydd o ymdrin â Rhestr SVHCs y DU ddechrau 2026. Yr HSE i gyhoeddi ac ymgynghori ar PFAS perthnasol yn ystod haf 2026, yn unol â’r dull gweithredu strategol. Ychwanegiadau i Restr SVHCs y DU i ddilyn proses gwneud penderfyniadau’r HSE o fewn 45 diwrnod i ddiwedd yr ymgynghoriad (disgwylir y bydd yn digwydd yn hydref 2026). Gall ychwanegiadau pellach ddigwydd ar sail blaenoriaethau ym mhob Rhaglen Waith flynyddol UK REACH. Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Defra (gyda chydsyniad y llywodraethau datganoledig)
2.4 Gweithredu ein rhwymedigaethau o dan Gonfensiwn Stockholm ar POPs. Mae hyn yn cynnwys camau rheoleiddio a gorfodi parhaus ar PFAS sydd eisoes wedi’u gwahardd (PFOA, PLOS, a PFHxS, gan gynnwys eu halwynau a chyfansoddion cysylltiedig), a gwahardd LC-PFCAs (asidau perfluorocarboxylic cadwyn hir), gan gynnwys eu halwynau a’u cyfansoddion cysylltiedig, yn dilyn cytundeb diweddar ar lefel confensiwn. DU Cyfyngiadau LC-PFCAs i’w rhoi ar waith erbyn diwedd 2026. Defra (gyda chydsyniad y llywodraethau datganoledig)
2.5 Parhau i ddefnyddio’r Rheoliad nwyon tŷ gwydr wedi’u fflworineiddio (nwyon-F) presennol i reoli’r defnydd o nwyon-F a’u hallyriadau (mae rhai ohonynt yn PFAS) drwy reolaethau ar atal gollyngiadau, archwilio gollyngiadau ac adfer. GB Parhau i weithredu’r drefn bresennol o dan Reoliad Nwy-F 2014 Defra, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru
2.6 Archwilio diwygiadau yn y dyfodol i gryfhau deddfwriaeth nwy-F ar yr un pryd â chynnal dull cytbwys (fel yr amlinellir yn y cyflwyniad i adran 2 o’r cynllun PFAS). GB 2026-2027 Defra, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru
2.7 Parhau i gymryd rhan yng Nghonfensiwn Stockholm a’i ystyriaeth o POPs sydd hefyd yn PFAS. DU Ymgysylltu â Phwyllgor Adolygu POPs 22, ddiwedd 2026 (ac yn flynyddol). Ymgysylltu yng Nghynhadledd y Partïon (COP) Confensiwn Stockholm, ganol 2027. Defra
2.8 Parhau i gefnogi rhoi sylw i PFAS fel Mater o Bryder o dan y Fframwaith Byd-eang ar Gemegion (GFC) ac o dan waith y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ar PFAS. DU Mae disgwyl i gynhadledd ryngwladol gyntaf y GFC benderfynu ar PFAS fel mater o bryder ym mis Tachwedd 2026. Defra
2.9 Ystyried gofyn am adroddiad asesu byd-eang ar PFAS drwy’r Panel Polisi Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol newydd ar Gemegion, Gwastraff a Llygredd (ISP-CWP). DU Mae’n debygol mai dim ond ar ôl i’r ISP-CWP gytuno ar bolisïau ar ddatblygu rhaglenni gwaith y bydd modd gofyn am adroddiad asesu PFAS. Defra
2.10 Datblygu canllawiau traws-sector perthnasol ar gyfer rheoleiddwyr, gweithredwyr a’r diwydiant sy’n cael eu rheoleiddio drwy drwyddedau amgylcheddol i leihau allyriadau PFAS a gwella’r ffordd maen nhw’n cael eu trin, eu monitro a’u gwaredu. Bydd hyn yn nodi gofyniad clir i’r diwydiant ei bod yn rhaid iddo fod yn dryloyw gyda rheoleiddwyr ynghylch defnydd ac allyriadau PFAS. DU Ymgysylltu â’r pedair gwlad a’u rheoleiddwyr yn ystod 2026. Defra, Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth yr Alban, SEPA, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
2.11 Defnyddio’r canllawiau hyn i asesu ac, os oes angen, datblygu’r ffordd orau o sicrhau bod mesurau priodol ar waith i reoli PFAS. Gallai hyn gynnwys adolygu trwyddedau amgylcheddol perthnasol. DU I’w hystyried ar ôl cwblhau’r canllawiau a amlinellir yng ngham gweithredu 2.10. Defra, Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth yr Alban, SEPA, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
2.12 Datblygu trothwyon a safonau amgylcheddol sy’n wyddonol gadarn ac y gellir eu hamddiffyn ar gyfer allyriadau i’r aer, tir a dŵr ar gyfer PFAS sy’n beryglus neu sydd â phriodweddau eraill sy’n peri pryder. DU Datblygu trothwyon a safonau ar gyfer allyriadau o’r PFAS mwyaf gwenwynig i aer, tir a dŵr, yn seiliedig ar y data (eco)tocsicoleg sydd ar gael. Efallai y bydd y dull hwn yn gofyn am waith ymchwil ychwanegol fel sail i’r fethodoleg, ac mae ganddo gysylltiad agos â cham gweithredu 1.6. Defra, Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth yr Alban, SEPA, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
2.13 Gweithio gyda’r diwydiant a rheoleiddwyr i nodi a mynnu bod y Technegau Gorau sydd ar Gael (BAT) yn cael eu defnyddio i atal neu leihau allyriadau ac effeithiau PFAS ar yr amgylchedd. Mae hyn yn dilyn comisiynu Cyfran 2 BAT y DU, sy’n ystyried yn benodol ‘llygryddion cyfaint isel niweidiol neu barhaus’. DU Yn mynd rhagddo drwy Gyfran 2 BAT y DU a bydd yn parhau ar ôl comisiynu cyfrannau yn y dyfodol. Defra, Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth yr Alban, SEPA, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
2.14 Parhau i wella ein dealltwriaeth o reoli PFAS mewn gwastraff, a’r risgiau sy’n gysylltiedig â gwaredu gwastraff, i gefnogi opsiynau posibl ar gyfer camau rheoleiddio gwell i sicrhau llwybrau rheoli gwastraff priodol ar gyfer PFAS sy’n cynnwys gwastraff. Bydd hyn yn cynnwys gwaith ymchwil ac ymgysylltu â’r diwydiant ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg, asesu’r dulliau dinistrio a gwaredu mwyaf priodol ymysg y rhai sydd ar gael ar hyn o bryd, ac adeiladu ar waith ymchwil diweddar, fel a gynhaliwyd gan yr EA ar effeithiolrwydd llosgi. DU Gwaith parhaus ar drwytholch tirlenwi drwy’r EA gyda gweithredwyr tirlenwi i ddatblygu dulliau samplu a dadansoddi arfer gorau. Disgwylir canllawiau technegol yn 2026-2027. Defra, Asiantaeth yr Amgylchedd
2.15 Parhau i weithredu rheolaethau gwastraff ar gyfer y PFAS hynny sydd hefyd yn cael eu dosbarthu fel POPs, drwy ddeddfwriaeth a gorfodaeth, wrth ymgysylltu â Chonfensiynau Stockholm a Basel fel rhan o gamau gweithredu rhyngwladol cydweithredol. DU Mae rheolaethau gwastraff eisoes ar waith ar gyfer 3 PFAS sydd wedi’u rhestru fel POPs, yn dilyn deddfwriaeth yn 2025, ac mae Confensiwn Stockholm wedi cytuno ar restru PFAS newydd ar gyfer dileu byd-eang. Gwaith parhaus gyda Chonfensiwn Basel i bennu camau gweithredu rhyngwladol priodol o ran gwastraff sy’n cynnwys ac sydd wedi’i halogi gan PFAS POP sydd newydd eu rhestru. Defra
2.16 Hyrwyddo arloesedd o ddewisiadau mwy diogel nad ydynt yn PFAS yn niwydiant y DU drwy ddigwyddiadau a fforymau cydweithredol, gan gynnwys drwy Fforwm Arloesi Cemegion Llywodraeth y DU. DU Parhau i fod yn aelodau gweithredol o grŵp PFC yr OECD a chefnogi ei waith drwy gyllid pan fydd cyfleoedd yn alinio â blaenoriaethau’r DU. Defra
2.17 Adeiladu cymuned ymarfer rhwng diwydiant ac ymchwilwyr, drwy ychwanegu PFAS fel maes ffocws o fewn llwyfannau arloesi a dewisiadau amgen presennol. DU Darparu digwyddiadau arloesi cydweithredol i ddiwydiant yn 2026-2027. Defra, Yr Adran Busnes a Masnach, Ymchwil ac Arloesi y DU
2.18 Cefnogi gwaith rhyngwladol i asesu’r dewisiadau PFAS amgen sydd ar gael. DU Hyrwyddo cyfleoedd cyllido ymchwil a datblygu, gan gynnwys drwy ddigwyddiadau fel yr amlinellir yng Ngham Gweithredu 2.17, i gefnogi’r gwaith o gyflenwi yn 2026-2027. Defra, Yr Adran Busnes a Masnach, Ymchwil ac Arloesi y DU
2.19 Cyhoeddi tudalen we’r llywodraeth ar PFAS i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o PFAS a gwella tryloywder y gwaith sy’n digwydd ar draws y llywodraeth. DU Lansio tudalen we wybodaeth PFAS erbyn diwedd 2026. Defra
2.20 Cynnwys PFAS ar wefan newydd llywodraeth y DU, ‘Risgiau cemegol i iechyd pobl’. DU Erbyn diwedd 2026 Defra, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU
2.21 Ystyried opsiynau ar gyfer cyflwyno canllawiau PFAS fel rhan o Safonau Prynu’r Llywodraeth (GBS). Fel cam cyntaf, ehangu’r diweddariadau arfaethedig presennol i’r canllawiau ar PFAS mewn tecstiliau i gynnwys canllawiau ar PFAS ym mhob proses gaffael gan y llywodraeth cyn yr adolygiad nesaf o’r GBS. DU Mae Defra yn adolygu ac yn diweddaru Safonau Prynu’r Llywodraeth ar hyn o bryd. Defra, Trysorlys EF
2.22 Adolygu canllawiau’r Adran Addysg i ysgolion ar gaffael gwisgoedd ysgol ac argymell bod ysgolion yn ystyried opsiynau eraill nad ydynt yn cynnwys PFAS. DU Adolygiad i ddechrau yn 2026 drwy archwilio’r opsiwn i gynnwys argymhelliad fel canllawiau caffael gwisg ysgol anstatudol i ysgolion eu hystyried. Yr Adran Addysg
2.23 Adolygu cynnwys gofynion mewn prosesau tendro i gyflenwyr ddarparu gwybodaeth am y defnydd o PFAS yn eu cynnyrch a gyflenwir i’r Weinyddiaeth Amddiffyn. DU Archwilio cynnwys gofynion prosesau tendro i gyflenwyr yn 2026. Y Weinyddiaeth Amddiffyn

Rhestr o gamau gweithredu dangosol: Adran 3

Lleihau’r cysylltiad parhaus â PFAS

Rhif gweithredu Disgrifiad Cwmpas Tiriogaethol Rhagolwg cyflenwi Cyfrifoldeb
3.1 Cwblhau adolygiad o dystiolaeth PFAS i gefnogi asesiad risg iechyd dynol. DU Cyhoeddi adolygiad cyflym o dystiolaeth ddechrau 2026. Parhau i ddarparu papurau trafod i COT. Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU
3.2 Gwneud gwaith ar brofi PFAS mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd (FCMs). Byddwn yn ceisio cryfhau’r gallu dadansoddol ar gyfer profion PFAS mewn FCMs gan ddefnyddio safonau rhyngwladol. Byddwn yn blaenoriaethu deunyddiau risg uchel lle mae defnyddio PFAS yn gyffredin. Cymru a Lloegr Gwaith parhaus, gyda’r graddau’n dibynnu ar ganlyniadau trafodaethau SPS y DU a’r UE yn 2026. Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
3.3 Lle nad yw profion ar gael eto, datblygu ymhellach a dilysu profion PFAS mewn bwydydd. Byddwn yn parhau i wella galluogrwydd NRL ar gyfer profion PFAS mewn bwydydd. Cymru a Lloegr Mae profion yn cefnogi’r gwaith o weithredu rheoliadau posibl yn y dyfodol, gyda’r graddau’n dibynnu ar ganlyniadau trafodaethau SPS y DU a’r UE yn 2026. Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
3.4 Parhau i ddatblygu a chynnal rhaglenni monitro i gasglu data ar PFAS mewn bwyd ac FCMs i lywio asesiadau risg ac i gefnogi unrhyw fesurau rheoleiddio yn y dyfodol. Cymru a Lloegr Gwaith parhaus, gyda’r graddau’n dibynnu ar ganlyniadau trafodaethau SPS y DU a’r UE yn 2026. Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
3.5 Archwilio casglu data ar risg PFAS mewn dŵr potel drwy lwybrau fel ymgysylltu â diwydiant, mapio risg, a gwaith ymchwil o fewn y flwyddyn nesaf. Lloegr Mae gwaith rheoleiddio yn y dyfodol yn dibynnu ar ganlyniadau trafodaethau SPS y DU a’r UE yn 2026. Defra
3.6 Ymgynghori ar gyflwyno terfyn statudol ar gyfer PFAS yn rheoliadau cyflenwi cyhoeddus Lloegr. Lloegr Ymgynghoriad wedi’i gynllunio ar gyfer 2026. Defra, Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI)
3.7 Parhau i ddatblygu trothwyon gwenwynegol (fel y crynodiadau dim effaith a ragwelir (PNECs)) ar gyfer PFAS a allai effeithio ar ansawdd ein hamgylchedd dŵr. Mae’r rhain yn cefnogi camau rheoleiddio (fel yn adran 2, uchod) a gellir eu defnyddio, yn amodol ar ganlyniadau diwygiadau rheoleiddio dŵr, i gefnogi opsiynau ar gyfer Safonau Ansawdd Amgylcheddol (EQS) newydd ar gyfer PFAS, gan gynnwys ystyried sylweddau blaenoriaeth newydd a’r EQS a ddatblygwyd mewn awdurdodaethau eraill. Cymru, Lloegr a’r Alban. Cyhoeddi PNECs ar gyfer rhai PFAS yn 2026. Datblygiadau technegol parhaus drwy gydol 2026 ar gyfer mwy o PFAS, i benderfynu a oes modd echdynnu PNECs. Defra, Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth yr Alban, SEPA, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
3.8 Gwerthuso dichonoldeb datblygu dulliau profi gwell ar gyfer sylweddau parhaus, symudol a gwenwynig (PMT), gan gynnwys PFAS, gan adeiladu ar ddull dros dro’r llywodraeth o ymdrin â sylweddau PMT. Bydd hyn yn darparu tystiolaeth gliriach i gefnogi’r gwaith o reoli risg sylweddau sy’n gallu halogi adnoddau dŵr, gan gynnwys dŵr daear. DU Cwblhau adroddiad ar allbynnau prosiectau a gweithdai, yn 2026, i lywio camau nesaf y gwaith ymchwil. Defra, Asiantaeth yr Amgylchedd
3.9 Parhau i lywio gwaith o dan gam 4 Rhaglen Ymchwilio i Gemegion (CIP) y Diwydiant Dŵr a helpu i lunio cwmpas ymchwiliadau ar gyfer cam 5. Bydd CIP4 yn cynnwys archwilio tynged halogyddion y tu hwnt i ffiniau safleoedd trin, gyda’r nod o adeiladu tystiolaeth i gefnogi dealltwriaeth o risgiau posibl i iechyd pobl a’r amgylchedd. Cymru a Lloegr Bydd canfyddiadau ymchwiliadau CIP4 ar gael o 2027 ymlaen. Bydd CIP5 yn dechrau yn 2030. Defra, Asiantaeth yr Amgylchedd
3.10 Ymgynghori ar ddiwygiadau ynghylch sut mae defnyddio llaid carthion mewn amaethyddiaeth yn cael ei reoleiddio ac a ddylid cynnwys hyn yn y Gyfundrefn Trwyddedu Amgylcheddol. Lloegr Ymgynghori ddechrau 2026.. Defra
3.11 Cydweithio â’r diwydiant i ymchwilio i opsiynau trin dŵr gwastraff yn y dyfodol i leihau halogyddion mewn llaid ac archwilio a allai’r opsiynau hyn gyfrannu at fynd i’r afael â PFAS a llygryddion eraill. Lloegr I’w ystyried fel rhan o ddiwygiadau rheoleiddio dŵr. Defra
3.12 Defnyddio dulliau ymchwil systemau i ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd, mapio gwybodaeth gyfredol, nodi bylchau allweddol yn y dystiolaeth, a llunio blaenoriaethau ymchwil a datblygu yn y dyfodol ar halogyddion. DU Cwblhau’r gwaith o ymgysylltu â rhanddeiliaid a mapio tystiolaeth erbyn 2026. Defra
3.13 Nodi fframwaith clir a thryloyw ar gyfer blaenoriaethu risgiau a chamau gweithredu posibl sy’n ofynnol ar safleoedd ar gyfer PFAS ar sail y rhaglen sgrinio risg genedlaethol. Lloegr Allbynnau o raglen sgrinio risg sydd eisoes yn cael ei defnyddio gan yr EA. Dechrau datblygu fframwaith polisi cliriach yn 2026. Defra, Asiantaeth yr Amgylchedd
3.14 Bydd llywodraethau datganoledig a rheoleiddwyr yn ystyried a oes modd defnyddio egwyddorion adnodd blaenoriaethu risg yr EA yng Nghymru a’r Alban, a sut gellir gwneud hynny. GB Gwerthuso cymhwysedd adnodd blaenoriaethu risg yr EA ar gyfer PFAS yng Nghymru a’r Alban yn 2026-2027. Defra, Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth yr Alban, SEPA, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
3.15 Darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad wedi’u diweddaru i helpu cynghorau lleol i reoli tir halogedig o dan ran 2A o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, lle gallai halogiad PFAS etifeddol fod yn bresennol. Lloegr Ymgysylltu ag awdurdodau lleol yn ôl yr angen i lywio’r gwaith o ddatblygu canllawiau clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer awdurdodau lleol yn 2026. Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdodau lleol
3.16 Datblygu canllawiau technegol ar gyfer rheoleiddwyr a’r diwydiant ar reoli halogiad PFAS etifeddol ar draws yr holl gyfundrefnau perthnasol. Gallai hyn gynnwys cynllunio, adfer gwirfoddol, Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (EPR), a rhan 2A, i sicrhau dull cyson ac ymarferol. DU Cyhoeddi canllawiau technegol ar halogiad PFAS etifeddol erbyn 2027. Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdodau lleol
3.17 Ymchwilio i gyfleoedd i weithio gyda phartneriaid tuag at ddatblygu safonau a chanllawiau cliriach sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwahanol sylweddau PFAS. Darparu mecanweithiau ar gyfer mynd i’r afael ag ansicrwydd presennol mewn effeithiau ar iechyd pobl a’r amgylchedd. DU Mae’r ymchwiliad yn dibynnu ar y data (eco)tocsicolegol sydd ar gael fel yr amlinellir yng ngham gweithredu 2.12. Defra, Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU
3.18 Ystyried eitemau defnyddwyr fel rhan o unrhyw waith i ystyried cyfyngiadau PFAS o dan UK REACH (gweler adran 2). GB Alinio UK REACH â’r partneriaid masnachu agosaf, yn enwedig yr UE, erbyn mis Rhagfyr 2028. Darparu diweddariadau ar ddiogelu defnyddwyr a’r amgylchedd, drwy gyfyngiadau’r DU, drwy Raglen Waith flynyddol UK REACH. Defra, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru, Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
3.19 Gwaith i ystyried cyfyngiadau neu fesurau rheoleiddio posibl ar ddefnyddio PFAS mewn grwpiau nwyddau defnyddwyr penodol. GB Cyfarfod bwrdd crwn Defra-OPSS ar y cyd i’w gynnal ddechrau 2026, gydag amrywiaeth o randdeiliaid, i drafod risgiau PFAS sy’n gysylltiedig â’u defnydd mewn nwyddau traul, fel nwyddau mislif. Defra, Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch