Canllawiau

Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws — cael grantiau nad oedd gennych hawl iddynt (CC-FS48)

Diweddarwyd 31 May 2022

Mae’r daflen wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth am adennill grantiau’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws (CJRS) a or-hawliwyd. Mae hefyd yn rhoi gwybod i chi am y cosbau y gallwn eu codi.

Mae grant CJRS a or-hawliwyd yn cynnwys unrhyw swm o grant:

  • nad oedd gennych hawl iddo

  • nad oedd gennych hawl i’w gadw mwyach ar ôl i’ch amgylchiadau newid – er enghraifft, os gwnaethoch barhau i dderbyn grant CJRS ar gyfer cyflogai ar ôl iddo adael eich cyflogaeth

Wrth ddefnyddio ‘chi’ yn y daflen wybodaeth, gall hyn olygu unigolyn, partner neu gwmni.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. Am ragor o wybodaeth, ewch i

www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod yn rhaid i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Ad-dalu symiau rydych wedi’u gor-hawlio

Rydym yn deall y gall camgymeriadau ddigwydd, yn enwedig wrth ystyried yr amgylchiadau diweddar. Rydym wedi ei gwneud mor hawdd â phosibl ad-dalu unrhyw symiau o’r grantiau CJRS rydych wedi’u hawlio nad oedd gennych hawl iddynt.

Os cawsoch ormod oherwydd i chi wneud camgymeriad mewn hawliad, mae’n rhaid i chi dalu hyn yn ôl i ni. I ddysgu mwy, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘pay back Coronavirus Job Retention Scheme’.

Adennill symiau a or-hawliwyd

O dan y ddeddfwriaeth newydd, gallwn adennill symiau o’r grantiau CJRS rydych wedi’u gor-hawlio. Byddwn yn chwilio am hawliadau anghywir ac yn cymryd camau i’w cywiro. Drwy ad-dalu unrhyw symiau nad oedd gennych hawl iddynt, gallwch osgoi unrhyw rwymedigaeth treth ar gyfer grantiau CJRS a or-hawliwyd.

Ein blaenoriaethau yw cefnogi ein cwsmeriaid a mynd i’r afael â diffyg cydymffurfio bwriadol ac ymosodiadau troseddol. Ni fyddwn yn mynd ati i chwilio am wallau diniwed wrth ymgymryd â’n gwaith cydymffurfio. Byddwn yn asesu gorhawliadau ac yn codi cosbau i ategu’r blaenoriaethau hyn.

Ni fyddwn yn codi cosb arnoch os nad oeddech yn gwybod eich bod wedi gor-hawlio grant CJRS:

  • ar yr adeg y cawsoch ef

  • pan newidiodd eich amgylchiadau – hynny yw, pan ddaeth eich hawl iddo i ben

a gwnaethoch ei dalu’n ôl o fewn y cyfnod amser perthnasol.

Os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartner, daw’r cyfnod amser perthnasol i ben ar 31 Ionawr 2022. Os ydych yn gwmni, daw’r cyfnod amser perthnasol i ben 12 mis o ddiwedd eich cyfnod cyfrifyddu.

Rhoi gwybod i ni am grant rydych wedi’i or-hawlio

Os ydych wedi gor-hawlio grant CJRS ac nad ydych wedi’i ad-dalu, mae angen i chi roi gwybod i ni o fewn y cyfnod hysbysu.

Mae’r cyfnod hysbysu’n dod i ben 90 diwrnod ar ôl y dyddiad y newidiodd eich amgylchiadau gan olygu nad oedd gennych hawl i gadw’r grant mwyach.

Asesu’r tâl Treth Incwm

Er mwyn adennill swm llawn grant a or-hawliwyd, gallwn wneud asesiad treth. Byddwn yn asesu’r swm nad oedd gennych hawl iddo ac nad ydych wedi’i ad-dalu. Os byddwn yn gwneud asesiad, byddwn yn ysgrifennu atoch yn ei gylch.

Mae’r asesiad yn cynnwys:

  • unrhyw symiau nad ydych wedi’u defnyddio i dalu cyflogau cyflogeion ar ffyrlo

  • costau perthnasol o fewn cyfnod rhesymol

Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw swm a aseswn cyn pen 30 diwrnod i’r asesiad. Byddwn yn codi llog ar unrhyw daliadau hwyr. Gallwn hefyd godi cosbau am dalu’n hwyr os ydych yn dal heb dalu’r swm 31 diwrnod ar ôl y dyddiad dyledus.

Os nad ydym wedi gwneud asesiad, mae’n rhaid i chi gynnwys manylion y grant CJRS a or-hawliwyd yn y naill neu’r llall o’r ffurflenni priodol:

  • Ffurflen Dreth Gorfforaeth

  • Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Ceir rhagor o arweiniad yn y nodiadau a’r taflenni cymorth ar gyfer Ffurflenni Treth.

Cosb am beidio â rhoi gwybod i ni am y tâl Treth Incwm

Mae’n bosibl y byddwn yn codi cosb arnoch os na wnaethoch roi gwybod i ni o fewn y cyfnod hysbysu eich bod yn agored i Dreth Incwm ar grant CJRS a orhawliwyd.

Wrth benderfynu ar swm unrhyw gosb, byddwn yn ystyried a oeddech yn gwybod bod gennych hawl i’r grant CJRS:

  • pan gawsoch ef

  • pan ddaeth yn ad-daladwy neu’n drethadwy oherwydd bod eich amgylchiadau wedi newid

Os oeddech yn gwybod nad oedd gennych hawl i gael eich grant ac na ddywedoch wrthym yn ystod y cyfnod hysbysu, mae’r gyfraith yn trin eich methiant yn un bwriadol, sydd wedi’i guddio. Mae hyn yn golygu y gallwn godi cosb o hyd at 100% ar swm y grant CJRS nad oedd gennych hawl i’w gael na’i gadw.

Apeliadau

Byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn rhoi gwybod i chi os byddwn yn:

  • gwneud asesiad er mwyn adennill grant nad oes gennych hawl iddo

  • codi cosb arnoch

Byddwn yn rhoi’r rhesymau dros ein penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi faint o dreth neu gosb sy’n ddyledus.

Os nad ydych yn cytuno â’r penderfyniad, neu’r swm sy’n ddyledus, gallwch apelio. Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn. Mae’n rhaid i chi wneud yr apêl hon cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad ar ein llythyr.

Mae gwybodaeth am apeliadau ar gael yn nhaflen wybodaeth HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM – beth i’w wneud os anghytunwch’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC1’.

Os ydych yn bartneriaeth

Os bydd partneriaeth yn cael grant CJRS sydd wedi’i orhawlio nad yw’n ei ad-dalu, er mwyn casglu’r swm sy’n ddyledus fel Treth Incwm, gallwn asesu:

  • y partner perthnasol

  • unrhyw un o’r partneriaid

Bydd y partneriaid yn agored, ar y cyd ac yn unigol, i’r swm a asesir.

Os nad yw’r bartneriaeth yn ad-dalu’r swm ac nad ydym wedi cyhoeddi asesiad, mae’n rhaid i un o’r partneriaid gynnwys y tâl Treth Incwm ar y Ffurflen Dreth Hunanasesiad briodol. Ni fydd angen i’r partneriaid eraill hunanasesu’r swm.

Gallwn asesu’r partner perthnasol ar gyfer y gosb a godwn, ond mae pob partner yn agored, ar y cyd ac yn unigol, i unrhyw gosb a asesir.

Os bydd cwmni’n dod yn ansolfent

Os yw cwmni’n ansolfent ac na allwn adennill y dreth sydd arno, gall swyddogion y cwmni ddod yn agored yn bersonol i dalu’r dreth a godir ar grantiau CJRS eu cwmni a orhawliwyd. Gall hyn ddigwydd os oedd swyddog y cwmni’n gwybod:

  • bod y cwmni wedi gorhawlio grant CJRS ar yr adeg y daeth i law

  • na ddefnyddiwyd yr hawliad at y diben bwriadedig pan gododd rhwymedigaeth treth

Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol

Os byddwn yn codi cosb arnoch am fethiant bwriadol i roi gwybod am hawliad grant CJRS anghywir, mae’n bosibl y byddwn hefyd yn ystyried cyhoeddi eich manylion fel diffygdalwr bwriadol. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS13, ‘Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS13’.

Rhagor o wybodaeth.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr o’r taflenni, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

I gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

  • cosbau am wallau – darllenwch CC/FS7a, ‘Cosbau am wallau mewn Ffurflenni Treth a dogfennau’

  • cosbau am fethu â hysbysu – darllenwch CC/FS11a, ‘Cosbau am fethu â hysbysu ynghylch taliadau cymorth coronafeirws’

Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS7a’ neu ‘CC/FS11a’.

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth

Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.