Canllawiau

Taliadau Cymorth Coronafeirws – cosbau am fethu â hysbysu (CCFS11a)

Diweddarwyd 1 April 2022

Mae’r daflen wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth am y cosbau y gallwn eu codi os bu methiant i hysbysu am dâl Treth Incwm. Mae tâl Treth Incwm yn digwydd pan mae gordaliad o rai taliadau cymorth Coronafeirws a wnaed drwy un o’r cynlluniau canlynol:

  • y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws (CJRS)
  • y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth
  • y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan

Mae’r rheolau cosbi yn y daflen wybodaeth hon yn gymwys ar gyfer methiant i hysbysu sy’n codi ar neu ar ôl 22 Gorffennaf 2020, ar gyfer yr holl gynlluniau sydd wedi’u rhestru uchod. Gallwn godi cosbau gwahanol os byddwch yn rhoi dogfen wallus i ni wrth ddatgan eich tâl Treth Incwm. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk a chwiliwch am CC/FS7a, ‘Cosbau am wallau mewn Ffurflenni Treth a dogfennau’.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog a gysylltodd â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd dal angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at y person rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Beth yw methiant i hysbysu

Os ydych wedi cael taliad cymorth coronafeirws nad oes gennych hawl iddo, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni erbyn diwedd y cyfnod hysbysu. Os na fyddwch yn gwneud hynny, rydym yn ei alw’n ‘methiant i hysbysu’.

Y cyfnodau hysbysu yw:

Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan

90 diwrnod ar ôl y dyddiad y cawsoch y swm nad oedd gennych hawl iddo.

Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth

  1. 90 diwrnod ar ôl y dyddiad y cawsoch y swm nad oedd gennych hawl iddo.
  2. Pan fydd angen i chi roi gwybod i ni eich bod wedi diwygio Ffurflen Dreth ar neu ar ôl 3 Mawrth 2021 mewn ffordd sy’n golygu bod gennych hawl i grant is nag a gawsoch:
  • os cafodd y diwygiad i’ch Ffurflen Dreth ei wneud cyn i chi gael y grant, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen 90 diwrnod ar ôl y dyddiad y cawsoch y swm
  • os cafodd y diwygiad i’ch Ffurflen Dreth ei wneud ar ôl i chi gael y grant, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen 90 diwrnod ar ôl y dyddiad y cawsoch y diwygiad
  • nid oes angen i chi roi gwybod i ni os oeddech wedi diwygio Ffurflen Dreth ar neu ar ôl 3 Mawrth 2021 a bod swm eich grant wedi gostwng £100 neu lai

Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws

3. 90 diwrnod ar ôl y dyddiad nad oedd gennych hawl i gadw’r swm a dalwyd i chi, a allai fod oherwydd y canlynol:

  • newid yn eich amgylchiadau; neu
  • nid ydych wedi defnyddio’r taliad i dalu’r costau, y bwriad oedd eu had-dalu, cyn pen cyfnod rhesymol o amser (e.e. i dalu’ch staff)

4. Ym mhob achos arall, 90 diwrnod ar ôl y dyddiad y cawsoch y swm nad oedd gennych hawl iddo.

Cosb am fethu â hysbysu

Gallwn godi cosb arnoch os ydych yn methu â’n hysbysu, neu os nad ydych yn ein hysbysu mewn da bryd. Os gofynnwch i rywun arall, fel cyflogai neu ymgynghorydd, wneud rhywbeth ar eich rhan, mae’n rhaid i chi wneud cymaint ag y gallwch i wneud yn siŵr nad oes methiant i hysbysu. Os na wnewch hyn, mae’n bosibl y codwn gosb arnoch.

Pryd na fyddwn yn codi cosb arnoch am fethiant i hysbysu

Ni fyddwn yn codi cosb arnoch am fethiant i hysbysu os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • mae gennych esgus rhesymol am y methiant i hysbysu
  • nid oedd y methiant i hysbysu yn fwriadol
  • gwnaethoch roi gwybod i ni heb oedi afresymol ar ôl i’ch esgus rhesymol ddod i ben

Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth eich rhwystro rhag bodloni ymrwymiad treth mewn pryd, er i chi gymryd gofal rhesymol i wneud yn siŵr eich bod wedi gwneud hynny. Gall hyn fod o oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth, neu gyfuniad o ddigwyddiadau. Unwaith y bydd yr esgus rhesymol wedi dod i ben, mae’n rhaid i chi unioni pethau heb oedi diangen.

Mae a oes gennych esgus rhesymol yn dibynnu ar amgylchiadau penodol y methiant i fodloni’r ymrwymiad, a’ch amgylchiadau a’ch galluoedd penodol. Gallai hynny olygu na fyddai’r hyn sy’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos un person o reidrwydd yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos rhywun arall. Os ydych o’r farn bod gennych esgus rhesymol, rhowch wybod i ni. Os derbyniwn fod gennych esgus rhesymol, ni fyddwn yn codi cosb arnoch.

Os oedd unrhyw beth ynghylch eich iechyd neu’ch amgylchiadau personol a’i gwnaeth yn anodd i chi ein hysbysu ynghylch eich rhwymedigaeth treth, rhowch wybod i’r swyddog sy’n cynnal y gwiriad. Bydd rhoi gwybod iddo yn ei alluogi i ddwyn hyn i ystyriaeth wrth ystyried a oedd gennych esgus rhesymol.

Os oedd y methiant i hysbysu yn fwriadol, yna nid yw’r darpariaethau esgus rhesymol yn berthnasol.

Caiff ystyr ‘bwriadol’ ei esbonio yn y daflen wybodaeth hon.

Yr hyn y gallwch ei wneud i ostwng unrhyw gosbau y gallwn eu codi arnoch

Gallwn ostwng swm unrhyw gosb a godwn arnoch, yn dibynnu ar ein barn ynghylch faint o gymorth a roesoch i ni pan fyddwch yn gwneud datgeliad. Rydym yn cyfeirio at y cymorth hwn fel ‘ansawdd y datgeliad’, neu fel ‘dweud, helpu a rhoi’.

Mae enghreifftiau o sut y gallwch wneud datgeliad yn cynnwys:

  • dweud wrthym am fethiant, neu gytuno bod methiant wedi digwydd, a sut a pham y digwyddodd
  • rhoi cymaint o fanylion ag y gallwch am hyd a lled y methiant cyn gynted ag y gwyddoch amdano
  • dweud wrthym a’n helpu drwy ateb ein cwestiynau’n llawn
  • ein helpu i ddeall eich cyfrifon neu’ch cofnodion
  • ein helpu drwy ateb ein llythyrau’n brydlon
  • ein helpu drwy gytuno i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd, neu ymweliadau, ar amser sy’n gyfleus i bawb
  • ein helpu drwy wirio eich cofnodion eich hun er mwyn nodi hyd a lled y methiant
  • rhoi mynediad i ni at y dogfennau rydym wedi gofyn amdanynt, heb oedi diangen
  • rhoi mynediad i ni at y dogfennau y mae’n bosibl nad ydym yn gwybod amdanynt, yn ogystal â’r rheiny y gwnaethom ofyn am gael eu gweld

Byddwn yn gostwng y gosb gan y swm uchaf posibl os ydych yn gwneud y canlynol:

  • yn rhoi popeth ag y gallwch am unrhyw gamweddu cyn gynted â phosibl
  • yn gwneud popeth ag y gallwch i’n helpu i’w gywiro

Os byddwch yn oedi cyn gwneud datgeliad, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i ostyngiad o hyd, ond bydd hwnnw’n llai. Os nad oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnom oddi wrthych, byddwn yn rhoi rhywfaint o ostyngiad i chi am ddweud, helpu a rhoi.

Rhoi gwybod i ni am unrhyw amgylchiadau arbennig

Os ydych o’r farn y dylai’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad gymryd amgylchiadau arbennig i ystyriaeth wrth gyfrifo’r gosb, dylech roi gwybod iddo ar unwaith.

Sut rydym yn cyfrifo swm cosb

Mae 8 cham wrth gyfrifo swm unrhyw gosb. Esbonnir pob cam isod.

1 Cyfrifo swm y refeniw a gollwyd o bosibl

Mae’r gosb yn ganran o’r hyn a alwn yn ‘refeniw a gollwyd o bosibl’. Y refeniw a gollwyd o bosibl yw’r swm sydd heb ei dalu o ganlyniad i’r methiant i hysbysu. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn esbonio sut y cyfrifir hwn gennym.

Os oeddech yn ymwybodol nad oedd gennych hawl i gael y taliad ar yr adeg y gwnaethoch ei gael neu pan ddaeth eich hawl i gael y taliad i ben

Y refeniw a gollwyd o bosibl am fethu â hysbysu yw swm y Dreth Incwm a fyddai wedi bod yn agored i gael ei hasesu ar eich cyfer ar ddiwedd diwrnod olaf y cyfnod hysbysu.

Y Dreth Incwm sy’n agored i gael ei hasesu yw swm y taliad cymorth coronafeirws nad oedd gennych hawl iddo, ac ni wnaethoch ei ad-dalu erbyn diwrnod olaf y cyfnod hysbysu.

Os nad oeddech yn gwybod nad oedd gennych hawl i gael y taliad pan wnaethoch ei gael neu pan ddaeth eich hawl i gael y taliad i ben

Yn achos cwmnïau, y refeniw a gollwyd o bosibl yw swm y Dreth Incwm sydd heb ei thalu, oherwydd y methiant, ar ddyddiad 12 mis ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu.

Ym mhob achos arall, y refeniw a gollwyd o bosibl yw swm y Dreth Incwm sydd heb ei thalu, oherwydd y methiant, ar 31 Ionawr yn dilyn y flwyddyn dreth.

2 Pennu ein barn am eich ‘ymddygiad’

Pan fo methiant i hysbysu, byddwn yn gweithio gyda chi i ddarganfod yr hyn wnaeth ei achosi. Rydym yn cyfeirio at hwn fel yr ‘ymddygiad’. Bydd y math o ymddygiad yn effeithio ar p’un a fyddwn yn codi cosb arnoch, a swm y gosb.

Am gosb methiant i hysbysu lle’r oeddech yn fwriadol wedi cael taliadau cymorth coronafeirws nad oedd gennych hawl iddynt, neu hefyd ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, yn gwybod nad oedd gennych hawl mwyach i gadw’r taliad, mae’r gyfraith yn trin eich methiant fel un bwriadol ac wedi’i guddio.

Mae’r 4 math gwahanol o ymddygiad fel a ganlyn.

Anfwriadol

Dyma pan rydych wedi methu â rhoi gwybod i ni am amgylchiadau a effeithiodd ar eich rhwymedigaeth treth cyn y dyddiad cau perthnasol, ond nid oedd y methiant yn fwriadol, nac yn fwriadol ac wedi’i guddio.

O dan yr amgylchiadau hyn, os ydych yn cynnwys y taliadau a or-hawliwyd yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad neu’ch Ffurflen Dreth y Cwmni, a gwnaethoch un o’r canlynol:

  • rhoi gwybod eich bod yn agored i Dreth Incwm neu Dreth Gorfforaeth ar yr adeg arferol
  • cyflwyno’ch Ffurflen Dreth erbyn y dyddiad cyflwyno arferol

ni fyddwn yn codi cosb am fethu â hysbysu.

Bwriadol

Dyma pan rydych yn gwybod y dylech fod wedi rhoi gwybod i ni am amgylchiadau a effeithiodd ar eich rhwymedigaeth treth cyn y dyddiad cau perthnasol, ond penderfynoch beidio â gwneud hynny.

Bwriadol ac wedi’i guddio

Dyma pan rydych yn gwybod y dylech fod wedi rhoi gwybod i ni am amgylchiadau a effeithiodd ar eich rhwymedigaeth treth cyn y dyddiad cau perthnasol, ond penderfynoch beidio â gwneud hynny a chymryd camau bwriadol hefyd i guddio’r methiant i hysbysu oddi wrthym.

Gwybodaeth am ddiffyg hawl i daliad yn cael ei drin fel rhywbeth bwriadol a chudd

Dyma pan gawsoch daliad cymorth coronafeirws y gwyddech nad oedd gennych hawl iddo ar yr adeg y cawsoch y taliad, neu y gwyddech nad oedd gennych hawl mwyach i’w gadw.

O dan yr amgylchiadau hyn, mae’r gyfraith yn ystyried yr ymddygiad i fod yn fwriadol ac wedi’i guddio, a bydd yr ystodau cosb am fethiant bwriadol ac wedi’i guddio fel y dangosir yn y tabl isod yn berthnasol. Nid oes angen unrhyw elfen o guddio er mwyn i’r ystod gosb fwriadol ac wedi’i guddio fod yn berthnasol.

3 Penderfynu a oedd y datgeliad yn un heb ei annog neu wedi’i annog

Os byddwch yn rhoi gwybod i ni am fethiant i hysbysu cyn bod gennych reswm i gredu ein bod ar fin dod i wybod amdano, rydym yn galw hyn yn ‘ddatgeliad heb ei annog’. Os rhowch wybod i ni am fethiant i hysbysu ar adeg arall, rydym yn ei alw’n ‘ddatgeliad wedi ei annog’. Unwaith yr ydym wedi cychwyn gwiriad, ystyrir bod datgeliad yn un heb ei annog dim ond os, yn eithriadol, fod y canlynol yn gymwys:

  • mae’n ymwneud â methiant nad yw’n gysylltiedig â’r hyn rydym yn ei wirio
  • nid oedd gennych reswm i gredu y byddem yn dod o hyd iddo yn ystod ein gwiriad

Mae’r gosb isaf bosibl am ddatgeliad heb ei annog yn is na’r gosb isaf bosibl am ddatgeliad wedi’i annog.

4 Ystodau’r gosb

Bydd canran y gosb yn syrthio o fewn ystod. Bydd yr ystod hon yn dibynnu ar ein barn ynghylch y math o ymddygiad, a ph’un a oedd y datganiad wedi’i annog neu beidio. Mae’r tabl isod yn dangos ystod y cosbau.

Mathau o ymddygiad Datgeliad heb ei annog neu wedi’i annog Ystod y gosb
Anfwriadol Heb ei annog - o fewn 12 mis o’r dreth yn dod yn ddyledus 0% to 30%
Anfwriadol Heb ei annog - 12 mis neu fwy ar ôl i’r dreth yn dod yn ddyledus 10% to 30%
Anfwriadol Wedi ei annog- o fewn 12 mis o’r dreth yn dod yn ddyledus 10% to 30%
Anfwriadol Wedi ei annog - 12 mis neu fwy ar ôl i’r dreth yn dod yn ddyledus 20% to 30%
Bwriadol Heb ei annog 20% to 70%
Bwriadol Heb ei annog 35% to 70%
Bwriadol ac wedi’i guddio Heb ei annog 30% to 100%
Bwriadol ac wedi’i guddio Wedi’i annog 50% to 100%

5 Cyfrifo’r gostyngiadau ar gyfer ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi)

Mae ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi) yn pennu lle y bydd y gosb yn syrthio o fewn ystod y gosb. Mae’r gostyngiad a rown yn dibynnu ar faint o gymorth a rowch i ni. Ar gyfer:

  • dweud, rydym yn rhoi hyd at 30%
  • helpu, rydym yn rhoi hyd at 40%
  • rhoi caniatâd i ni weld cofnodion, rydym yn rhoi hyd at 30%

6 Cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb

Pennir cyfradd ganrannol y gosb gan ystod y gosb a’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad.

Enghraifft

Yn ystod gwiriad, daethom o hyd i fethiant i hysbysu a oedd yn fwriadol ac wedi’i guddio nad oedd y cwsmer wedi rhoi gwybod i ni amdano cyn i ni ddechrau ein gwiriad. Pan wnaethom roi gwybod iddo am y methiant, roedd yn cytuno â ni fod methiant wedi digwydd. Roedd hwn, felly, yn ddatgeliad wedi’i annog.

Ystod y gosb am fethiant i hysbysu sy’n fwriadol ac wedi’i guddio, gyda datgeliad wedi’i annog, yw 50% i 100% o’r ‘refeniw a gollwyd o bosibl’.

Y gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi) oedd 70%.

Camau

  1. I gyfrifo cyfradd ganrannol y gosb, yn gyntaf rhaid cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng cyfraddau canrannol isaf ac uchaf y gosb (100% llai 50% = 50)

  2. Yna, rydym yn lluosi’r ffigur hwnnw â’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad er mwyn rhoi canran y gostyngiad (50 × 70% = 35%)

  3. Yna, rydym yn didynnu canran y gostyngiad o ganran uchaf y gosb y gallwn ei chodi (100% llai 35% = 65%)

Mae hyn yn rhoi cyfradd ganrannol y gosb i ni. (65%).

7 Cyfrifo swm y gosb

I gyfrifo swm y gosb, rydym yn lluosi’r refeniw a gollwyd o bosibl â chyfradd ganrannol y gosb. Er enghraifft, os oedd y refeniw a gollwyd o bosibl yn yr enghraifft uchod yn £3,000, ac nid oedd gostyngiadau eraill, y gosb fyddai £1,950 (£3,000 × 65% = £1,950).

8 Ystyried gostyngiadau eraill

Ar ôl cyfrifo swm y gosb, rydym wedyn yn ystyried unrhyw ostyngiadau eraill sydd eu hangen. Er enghraifft, pan fyddwn eisoes wedi codi cosb arall ar yr un dreth neu doll. Mae hyn, yn ei dro, yn rhoi swm y gosb a godwn.

Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am gosb

Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod faint yw’r gosb a sut yr ydym wedi’i chyfrifo. Os oes unrhyw beth ynglŷn â’r gosb nad ydych yn cytuno ag ef, neu os ydych o’r farn fod gwybodaeth nad ydym eisoes wedi’i chymryd i ystyriaeth, dylech roi gwybod i ni ar unwaith. Ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw beth rydych wedi rhoi gwybod i ni amdano, byddwn yn anfon hysbysiad o asesiad o gosb atoch.

O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog ar y gosb hefyd os nad ydych yn ei thalu mewn pryd.

Pryd y byddai’n rhaid i un o swyddogion y cwmni dalu rhan o gosb y cwmni, neu’r gosb gyfan, am fethiant bwriadol i hysbysu

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i un o swyddogion y cwmni dalu rhan o gosb y cwmni, neu’r gosb gyfan, os yw’r gosb yn ddyledus o ganlyniad i’w weithredoedd, a bod un neu fwy o’r canlynol yn gymwys:

  • mae wedi, neu wedi ceisio, elwa’n bersonol o anghywirdeb bwriadol
  • mae’r cwmni’n fethdalwr, neu rydym o’r farn ei fod ar fin dod yn fethdalwr – hyd yn oed os na wnaeth y swyddog elwa’n bersonol o’r anghywirdeb bwriadol

Os yw’r cwmni’n talu’r gosb, ni fyddwn yn gofyn i’r swyddogion unigol ei thalu. Mae swyddog cwmni yn gyfarwyddwr, cyfarwyddwr cysgodol, ysgrifennydd cwmni neu reolwr cwmni, neu’n aelod o bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol

Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o erlyn os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol, megis:

  • rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen
  • cam-gyfleu’n anonest faint o dreth sydd arnoch, neu hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt

Rheoli diffygdalwyr difrifol

Os cawsoch eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, a’n bod yn canfod hyn yn ystod y gwiriad, efallai y byddwn yn monitro’ch materion treth yn fanylach. Mae gennym raglen fonitro fanylach o’r enw ‘rheoli diffygdalwyr difrifol’. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS14, ‘Rheoli diffygdalwyr difrifol’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS14’.

Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol

Efallai y byddwn yn cyhoeddi’ch manylion os ydych wedi cael eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, ond ni fyddwn yn gwneud hyn os ydym wedi rhoi’r gostyngiad mwyaf posibl i chi ar gyfer y gosb. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS13, ‘Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS13’.

Os ydych yn anghytuno

Rhowch wybod i ni os oes unrhyw beth nad ydych yn cytuno ag ef.

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:

  • anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
  • cael eich achos wedi’i adolygu gan swyddog Cyllid a Thollau EM (CThEM) na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
  • trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ar y mater

Pa ddull bynnag a ddewiswch, gallwch hefyd ofyn i un o swyddogion arbenigol CThEM weithredu fel hwylusydd diduedd er mwyn helpu i ddatrys yr anghydfod. Y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) yw’r enw a rown ar hyn.

Dim ond ar gyfer anghydfodau sy’n ymwneud â meysydd treth penodol y mae ADR ar gael. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn rhoi gwybod i chi a yw ADR ar gael ar gyfer eich anghydfod. I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau ac ADR, darllenwch y taflenni gwybodaeth canlynol:

  • HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM: beth i’w wneud os anghytunwch’
  • CC/FS21, ‘Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod’

Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC1’ neu ‘CC/FS21’.

Eich hawliau pan fyddwn yn ystyried codi cosbau

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi rhai hawliau pwysig i chi. Os ydym yn ystyried cosbau, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi fod yr hawliau hyn yn gymwys, ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn eu deall. Mae’r hawliau hyn fel a ganlyn:

  • os byddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau i chi i’n helpu i benderfynu p’un a ddylid codi cosb arnoch, mae gennych yr hawl i beidio â’u hateb – eich penderfyniad chi’n gyfan gwbl yw faint o help y byddwch yn ei roi i ni pan fyddwn yn ystyried cosbau
  • wrth benderfynu a ydych am ateb ein cwestiynau neu beidio, efallai y byddwch am gael cyngor gan ymgynghorydd proffesiynol – yn enwedig os nad oes un gennych yn barod
  • os ydych yn anghytuno â ni ynglŷn â’r dreth neu unrhyw gosbau y credwn eu bod yn ddyledus, gallwch apelio – os byddwch yn apelio yn erbyn y dreth a’r cosbau hefyd, mae gennych yr hawl i ofyn i’r ddwy apêl gael eu hystyried gyda’i gilydd
  • mae gennych yr hawl i wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir er mwyn delio ag unrhyw apêl yn erbyn rhai cosbau penodol
  • mae gennych hawl i ddisgwyl i ni ddelio â mater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol

Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’.

Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS9’.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am gynlluniau talu cymorth Coronafeirws, ewch i www.gov.uk a chwilio am:

  • CC/FS47 ‘Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth – cael grantiau nad oedd gennych hawl iddynt’
  • CC/FS48 ‘Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws – cael grantiau nad oedd gennych hawl iddynt’
  • CC/FS58 ‘Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan - cael taliadau nad oedd gennych hawl iddynt’

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.