Ffurflen

Sut i gwblhau dewis ar gyfer llenwi Datganiad Blynyddol y Cyflogwr (P350)

Diweddarwyd 11 August 2022

Gwneud dewis ffurfiol

Os oes angen cyfeirnod TWE y cyflogwr gwahanol arnoch ar gyfer gwahanol grwpiau o gyflogeion, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • defnyddio’r ffurflen P350 i wneud dewis ffurfiol
  • gwneud hyn unrhyw bryd cyn dechrau’r mis treth – dylai hyn fod yn union cyn y mis treth rydych am i’r dewis ffurfiol ddechrau ohono

Os ydych am i ddewis ddechrau ar 6 Mehefin, dylech gyflwyno’ch cais i CThEM erbyn 5 Mai. Os byddwch yn cyflwyno cais ar 6 Mai i ddewis ddechrau ar 6 Mehefin, ni fydd yn dechrau tan 6 Gorffennaf.

Os byddwch yn gwneud dewis hwyr, caiff ei drin fel pe bai wedi’i wneud ar gyfer y mis treth ar ôl y mis treth rydych wedi gofyn iddo ddechrau ynddo.

Rhaid bod gennych reswm busnes dilys dros wneud dewis ar gyfer mwy nag un cyfeirnod TWE y cyflogwr. Gallwn wrthod unrhyw ddewis pan mae’n ymddangos eich bod yn ei wneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben amhriodol (er enghraifft, er mwyn osgoi’r gofyn i wneud taliadau drwy ddull electronig).

Os byddwn yn gwrthod eich dewis

Byddwn yn rhoi gwybod i chi os byddwn yn gwrthod eich dewis.

Apelio os anghytunwch â’n penderfyniad

Os byddwch yn anghytuno gyda’n rhesymau dros wrthod, gallwch apelio cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad yr anfonwn yr hysbysiad atoch.

Rhoi hysbysiad o ganslo

Mae’n rhaid i chi roi hysbysiad o ganslo cyn dechrau’r mis treth rydych am i’r dewis gael ei ganslo ohono.

Gallwch gysylltu â ni i ganslo neu gyflwyno cyflwyniad taliadau llawn (FPS) neu grynodeb o daliadau’r cyflogwr (EPS).