Ffurflen

TWE: Dewis ar gyfer llenwi Datganiad Blynyddol y Cyflogwr (P350)

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein os ydych yn gyflogwr ac rydych am weithredu mwy nag un cynllun TWE.

Dogfennau

Gwnewch gais ar-lein (drwy Borth y Llywodraeth)

TWE: Dewis ar gyfer llenwi Datganiad Blynyddol y Cyflogwr (P350)

Manylion

Os ydych yn gyflogwr, ac rydych am weithredu mwy nag un cynllun TWE, bydd yn rhaid i chi wneud dewis ffurfiol ar unrhyw adeg cyn y flwyddyn y bydd yn dod i rym. I wneud hyn, gallwch wneud y canlynol:

  • defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
  • llenwi’r ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i CThEM

I wneud cais ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn gwneud cais.

Os byddwch yn defnyddio’r ffurflen ar-lein, cewch gyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich ffurflen.

Cyn i chi ddechrau defnyddio’r ffurflen bost

Sicrhewch fod eich porwr yn gyfredol.

Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen bost yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly dylech gasglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Cyhoeddwyd ar 1 January 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 August 2022 + show all updates
  1. Added translation

  2. The guidance on how to complete an election has been updated to reflect changes that have been made to the P350 form.

  3. Form P350 updated for 2019 to 2020 tax year and to allow employer returns for both student and postgraduate loans to be made.

  4. Welsh translation added.

  5. An online service is now available.

  6. First published.