PX9 — Codau treth i’w defnyddio o 6 Ebrill 2026 ymlaen
Diweddarwyd 19 Chwefror 2026
Ar gyfer 2026 i 2027 fydd y Lwfans Personol sylfaenol yn £12,570 ar gyfer y DU gyfan. Y trothwy (man cychwyn) ar gyfer TWE yw £242 yr wythnos (£1,048 y mis).
Y cod argyfwng yw 1257L ar gyfer pob cyflogai.
Mae’r arweiniad hwn yn rhoi gwybod i chi’r hyn y mae’n i chi ei wneud i baratoi a phryd i wneud y newid i godau treth.
Paratoi ar gyfer y flwyddyn dreth newydd sy’n dechrau ar 6 Ebrill
Ar gyfer pob cyflogai a fydd yn gweithio i chi ar 6 Ebrill, bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:
- paratoi cofnod cyflogres
- dod o hyd i’r cod treth cywir (gan gynnwys y rhagddodiad cywir, er enghraifft, ‘S’ neu ‘C’)
- nodi’r cod treth cywir ar y cofnod cyflogres
Pan fyddwn yn anfon cod treth newydd ar gyfer unrhyw un o’ch cyflogeion, cewch un o’r canlynol:
- ffurflen bapur P9(T), ‘Hysbysiad o god treth y cyflogai i’r cyflogwr’
- hysbysiad cod dros y rhyngrwyd os ydych wedi’ch cofrestru i ddefnyddio ein gwasanaeth rhyngrwyd —TWE Ar-lein
Er mwyn cyrchu eich hysbysiadau cod ar-lein:
- ewch i TWE Ar-lein i Gyflogwyr a dewiswch ‘Mewngofnodi’
- o hafan y Cyfrif Treth Busnes, dewiswch ‘Negeseuon’ ac yna dewiswch ‘Negeseuon —TWE i gyflogwyr’
- dewiswch ‘Gweld eich hysbysiadau cod treth’
- o’r rhestr yn y gwymplen ‘Blwyddyn Dreth’, dewiswch y flwyddyn dreth newydd (2026 i 2027)
Cadwch y ffurflen P9X hon gydag unrhyw godau treth newydd hyd nes eich bod yn barod i sefydlu’ch cyflogres ar gyfer 2026 i 2027. Ni fyddwn yn anfon cod treth newydd ar gyfer pob cyflogai.
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud cyn 6 Ebrill 2026
Cyflogeion heb god treth newydd
Copïwch y cod treth a awdurdodwyd o gofnod cyflogres 2025 i 2026 a pharhewch i’w ddefnyddio ar gyfer 2026 i 2027.
Peidiwch â chopïo na chario ymlaen unrhyw farciau ‘wythnos 1’ neu ‘mis 1’.
Mae’r cofnodion cyflogres ar gyfer y cyflogeion hyn bellach yn barod ar gyfer y flwyddyn dreth newydd.
Cyflogeion gyda chod treth newydd
Cadwch, a defnyddiwch, y ffurflen P9(T), neu hysbysiad cod treth arall, sydd â’r dyddiad diweddaraf ar gyfer pob cyflogai.
Dylech wneud y canlynol:
- gwaredu unrhyw ffurflen P9(T), neu hysbysiad cod treth arall, ar gyfer yr un cyflogai, sydd â dyddiad cynharach
- copïo’r cod treth o’r ffurflen P9(T), neu hysbysiad cod treth arall, i’ch cofnod cyflogres
- diweddaru unrhyw godau treth pan gewch ffurflen P9(T), neu hysbysiad cod treth arall, ar ôl i chi sefydlu’ch cofnodion cyflogres
Mae’r cofnodion cyflogres ar gyfer y cyflogeion hyn bellach yn barod ar gyfer y flwyddyn dreth newydd.
Cyflogeion sy’n gadael
Nid oes raid i chi newid cod treth cyflogai sy’n gadael cyn 6 Ebrill, hyd yn oed os byddwch yn ei dalu ar ôl 6 Ebrill. Defnyddiwch yr hen god treth.
Nid yw hyn yn gymwys ar gyfer taliadau ar ôl gadael pan eich bod eisoes wedi rhoi P45 i gyflogai. O dan yr amgylchiadau hyn mae’n rhaid didynnu treth gan ddefnyddio cod treth 0T, S0T ar gyfer cyflogeion gyda rhagddodiad S yn eu cod, neu C0T ar gyfer cyflogeion gyda rhagddodiad C yn eu cod, ar sail anghronnus.
Cyflogeion newydd
Os bydd cyflogai’n dechrau rhwng 6 Ebrill a 24 Mai, ac yn rhoi P45 i chi, dilynwch y cyfarwyddiadau yn Rhoi gwybod i CThEF am gyflogai newydd.
Os ydych yn gyflogwr sydd ag esemptiad rhag cyflwyno ar-lein y cytunwyd arno, ac sy’n gweithredu cyflogres â llaw, dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr RT7 ‘Guidance for employers exempt from filing Real Time Information online’.
Cyflogres â llaw
Os oes gennych esemptiad rhag cyflwyno ar-lein y cytunwyd arno a byddwch yn gweithredu cyflogres â llaw, parhewch i ddefnyddio’r Tablau Tâl Trethadwy Dull â Llaw (Ebrill 2026) — (yn agor tudalen Saesneg). Parhewch i ddefnyddio Tablau Treth A (1993) sydd heb newid.
Offer TWE Sylfaenol
Os ydych yn defnyddio Offer TWE Sylfaenol CThEF i gyfrifo didyniadau a wnaed drwy’r gyflogres ac i gyflwyno gwybodaeth am y gyflogres ar-lein, byddwch yn gallu gweithredu’r ffurflen P9X hon pan fydd y flwyddyn dreth newydd ar gael yn Offer TWE Sylfaenol.
Rhagor o help
Mae arweiniad pellach i’w gael ar-lein, ewch i Deall codau treth eich cyflogeion.