Guidance

Welsh: Ein siarter cwsmer

Updated 28 March 2014

Dywedoch wrthym beth sy’n bwysig i chi.

Cael eich trin yn dda

Gallwch ymddiried ynom i:

  • gwneud yr hyn yr ydym yn dweud y byddwn yn ei wneud
  • bod yn ddefnyddiol, yn gwrtais, a’ch trin yn deg a chyda pharch
  • ceisio ddeall eich amgylchiadau
  • dilyn prosesau’n gywir
  • dweud wrthych beth i’w wneud nesaf os ydych yn anfodlon â’r ffordd y cawsoch eich trin
  • diogelu eich gwybodaeth bersonol (bydd ein siarter wybodaeth yn dweud sut wrthych)
  • ymchwilio i bob adroddiad o dwyll, er mwyn amddiffyn arian cyhoeddus

Cael pethau’n iawn

Byddwn yn:

  • rhoi’r penderfyniad, gwybodaeth neu daliad cywir i chi
  • esbonio pethau’n glir os nad yw’r canlyniad yr hyn y byddech yn gobeithio amdano
  • ymddiheuro ac unioni pethau os gwnawn amgymeriad
  • defnyddio eich adborth i wella sut rydym yn gwneud pethau

Rhoi gwybodaeth i chi

Byddwn yn:

  • delio â’ch cais y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni, neu cyn gynted ag y gallwn
  • dweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf, ac erbyn pryd
  • rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd

Hawdd i gysylltu

Byddwn yn:

  • darparu mwy o’n gwasanaethau ar-lein i’w defnyddio ar amser sy’n gyfleus i chi
  • cyhoeddi gwybodaeth am fudd-daliadau a gwasanaethau ar-lein yn www.gov.uk/cymraeg
  • esbonio’n glir sut i gysylltu â ni mewn ffyrdd eraill

Yn gyfnewid am hyn, mae angen i chi:

  • rhoi’r wybodaeth gywir i ni ar yr adeg gywir
  • dweud wrthym pan fydd rhywbeth yn newid
  • bod ar amser ar gyfer unrhyw apwyntiadau
  • trin ein staff â pharch