Papur polisi

Datganiad ar y cyd gan Ofcom a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar ddiogelwch ar-lein a diogelu data

Mae Ofcom a'r ICO wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd sy'n amlinellu eu barn ar y rhyngweithio rhwng diogelwch ar-lein a diogelu data.

Dogfennau

Manylion

Mae’r datganiad ar y cyd yn nodi barn Ofcom a’r ICO ar y rhyngweithio rhwng diogelwch ar-lein a diogelu data. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddarparu tirwedd reoleiddio glir a chydlynol ar gyfer gwasanaethau ar-lein sy’n gymesur, yn dryloyw ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau, ac i reoleiddio mewn ffordd sy’n helpu darparwyr gwasanaethau ar-lein i gydymffurfio â’u rhwymedigaethau cyfreithiol a chreu mannau ar-lein diogel a dibynadwy. Fe’i bwriedir yn bennaf ar gyfer darparwyr gwasanaethau ar-lein sy’n debygol o gael eu rheoleiddio o dan y gyfundrefn diogelwch ar-lein, ond bydd hefyd o ddiddordeb i randdeiliaid eraill. Mae’n nodi ein barn a rennir ar:

  • y cysylltiadau rhwng diogelu data a diogelwch ar-lein
  • y gofyniad i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein gydymffurfio â rheoleiddio diogelwch ar-lein a rheoleiddio diogelu data
  • sut rydym eisoes yn gweithio gyda’n gilydd i hyrwyddo cydlyniad rheoleiddio, sut rydym yn bwriadu dyfnhau ein cysylltiadau cryfion presennol ymhellach, a sut y byddwn yn cefnogi cydymffurfiaeth â’n cyfundrefnau priodol
Cyhoeddwyd ar 25 November 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 December 2022 + show all updates
  1. Welsh translation published.

  2. Added translation