Corporate report

OPG Annual Report HTML Welsh version / Adroddiad Blynyddol OPG Fersiwn Cymraeg HTML

Updated 8 April 2021

Adroddiad blynyddol a chyfrifon Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2019/2020

Adroddiad blynyddol a gyflwynwyd i’r Senedd yn unol ag Adran 60 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005

Cyfrifon a gyflwynwyd i D?’r Cyffredin yn unol ag Adran 7 o Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 Cyflwynwyd y cyfrifon i D?’r Arglwyddi ar Orchymyn Ei Mawrhydi

Gorchymynnwyd gan D?’r Cyffredin iddynt gael eu hargraffu ar 14 Gorffennaf 2020

Adroddiad perfformiad

Trosolwg

Diben y trosolwg yw rhoi crynodeb ynghylch Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG), ein pwrpas, y prif rwystrau rhag cyflawni ein nodau, a sut rydym wedi perfformio yn ystod y flwyddyn. Mae’r trosolwg yn cynnwys:

  • datganiad y Prif Weithredwr, gan roi ei safbwynt ar ein perfformiad yn ystod 2019/20

  • disgrifiad o bwrpas yr OPG, yr hyn rydym yn ei wneud, ein cwsmeriaid a rhanddeiliaid, ein perthynas gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a’r prif risgiau a materion y gwnaethom eu rheoli yn ystod y flwyddyn

  • crynodeb o berfformiad, gan amlinellu sut y gwnaethom berfformio yn erbyn ein nodau darparu gwasanaeth

Mae esboniad manylach o’n perfformiad ac atebolrwydd yn nhudalennau dilynol yr adroddiad. Roedd y prif risgiau a gafodd eu rheoli yn yr OPG yn ystod 2019/20 yn cynnwys:

  • yn sgil y gwaith o reoli effaith Brexit ar flaenoriaethau’r llywodraeth, a rhaglen drawsnewid yr OPG, nid oedd modd datblygu rhaglen OPG 2025 yn ôl y bwriad

  • sicrhau bod gan yr OPG y lefelau staffio a’r sgiliau angenrheidiol i fwrw ymlaen â’i gwaith

  • ymateb i her newydd y coronafeirws (COVID-19)

Nick Goodwin Chief Executive and Public Guardian for England and Wales

Nick Goodwin Chief Executive and Public Guardian for England and Wales

Datganiad gan y Prif Swyddog Gweithredol

Rwy’n falch fy mod yn gallu cyflwyno darlun cadarnhaol o’r flwyddyn yn fy adroddiad cyntaf yn yr OPG – ac er ein bod yn dal i wynebu heriau, rydym wedi cyflawni’r rhan fwyaf o’n nodau a’n targedau a gallwn ymfalchïo yn y ffordd rydym wedi gwneud hynny. Gan ein bod yn ymdrechu i roi anghenion defnyddwyr wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn yr OPG, mae’n braf gweld ein bod wedi llwyddo i gyflawni’r rhan fwyaf o’n dangosyddion gwasanaeth cwsmeriaid er gwaethaf y cynnydd sylweddol mewn llwythau gwaith. Rydym yn cofrestru atwrneiaethau mewn 40 diwrnod ar gyfartaledd, yn adolygu adroddiadau dirprwyaeth blynyddol o fewn 15 diwrnod gwaith, ac yn cyflawni dros 80% yn ein harolygon boddhad cwsmeriaid mewn perthynas ag atwrneiaethau.

Eleni rydym wedi rhoi’r Ddeddf Gwarcheidwaeth (Unigolion Coll) 2017 ar waith ac wedi lansio gwasanaeth newydd sy’n ceisio cefnogi pobl ar adeg eithriadol o anodd yn eu bywydau. Roedd y newid hwn yn golygu cydweithio helaeth rhwng cydweithwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder, staff yr OPG a rhanddeiliaid allweddol.

Ers i mi ymuno â’r OPG ym mis Gorffennaf 2019, rwyf wedi bod yn arbennig o falch o frwdfrydedd a ffocws ein staff, ac mae hynny wedi creu argraff arnaf. Dyna pam rwy’n arbennig o falch bod ein sgoriau ymgysylltu â staff wedi gwella. Gwelsom gynnydd ym mhob un o’r 10 dangosydd allweddol yn yr Arolwg Pobl blynyddol, gan gynnwys cynnydd o 3% mewn ymgysylltu â chyflogeion (62% erbyn hyn), a chynnydd o 5% mewn cynhwysiant a thriniaeth deg

(74% erbyn hyn).

Ein tîm cyfreithiol sydd wedi wynebu un o’n prif heriau perfformiad eleni. Oherwydd y cynnydd mewn llwythau gwaith, yr heriau recriwtio a newidiadau i’r tîm, mae’r llwyth gwaith sy’n weddill wedi cynyddu. Dros y misoedd diwethaf, mae timau ar draws yr OPG wedi bod yn gweithio i gefnogi’r gwaith hwn yn well, ac er y bydd yn cymryd amser i wella ein prif ddangosyddion, rydym bellach mewn sefyllfa well o lawer ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Tua diwedd y flwyddyn roeddem wedi wynebu’r her sylweddol o barhau i ddarparu ein gwasanaethau, llawer ohonynt ar bapur, yn erbyn cefndir COVID-19. Rwy’n falch iawn o’r ffordd mae’r sefydliad wedi cydweithio er mwyn parhau i ddarparu ein gwasanaethau craidd yn ystod y cyfnod hwn – rydym wedi arloesi’n gyflym i gyflwyno ffyrdd newydd o weithio a fydd yn darparu manteision i staff a defnyddwyr nawr ac yn y dyfodol.

Wrth gwrs, mae llawer i’w wneud o hyd i wella fel sefydliad, a hynny o ran gwella ein perfformiad a datblygu’r gwasanaethau y bydd pobl eu hangen yn y dyfodol. Wrth i anghenion cymdeithas newid, ac wrth i dechnoleg roi cyfleoedd i ni wneud pethau’n well, mae’n rhaid i ni ddatblygu, mireinio a gwella ein gwasanaethau. Bydd rhaglen drawsnewid OPG 2025 yn ein helpu i addasu i wireddu’r disgwyliadau hyn ac rwyf wedi ymrwymo i barhau i gyflawni ein huchelgais o gael atwrneiaeth arhosol gwbl ddigidol dros y flwyddyn nesaf.

Mae’n gyfnod cyffrous yn yr OPG. Mae yna lawer o waith i’w wneud o hyd i adeiladu ar lwyddiannau sylweddol fy rhagflaenydd, Alan Eccles CBE.

Nick Goodwin
Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus dros Gymru a Lloegr

Yngl?n â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Cyflwyniad

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei benodi gan yr Arglwydd Ganghellor o dan Adran 57 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r OPG, mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn bersonol atebol i’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder am weithredu’r asiantaeth yn effeithiol, gan gynnwys y ffordd mae’r asiantaeth yn gwario arian cyhoeddus ac yn rheoli ei hasedau.

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael cymorth gan yr OPG i gyflawni ei swyddogaethau statudol o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol a Deddf Gwarcheidiaeth (Unigolion Coll) 2017.

Mae cyfrifoldebau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymestyn ledled Cymru a Lloegr. Mae trefniadau ar wahân ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gweinidogion y llywodraeth a oedd yn gyfrifol am yr OPG yn ystod y cyfnod adrodd hwn oedd: * Y Gwir Anrhydeddus David Gauke, yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder (tan fis Gorffennaf 2019)

  • Y Gwir Anrhydeddus Robert Buckland CF, yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder (o fis Gorffennaf 2019)

  • Edward Argar AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder (tan fis Gorffennaf 2019)
  • Wendy Morton AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder (rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Chwefror 2020)

  • Alex Chalk AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder (o fis Chwefror 2020)

Fel asiantaeth weithredol i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ochr yn ochr â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM a’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol, mae ein nodau’n cyd-fynd â chynllun adrannol sengl y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym yn gweithredu i sicrhau’r gwasanaeth gorau posibl i ddefnyddwyr drwy weithio i wneud ein gwasanaethau effeithlon ac yn fwy hygyrch, drwy bolisïau sy’n’ cael eu gyrru gan dystiolaeth.

Beth mae’r OPG yn ei wneud?

Sefydlwyd yr OPG ym mis Hydref 2007. Rydym yn cefnogi ac yn galluogi pobl i gynllunio fel bod rhywun yn gofalu am eu hiechyd a’u materion ariannol os byddant yn colli galluedd. Rydym hefyd yn diogelu buddiannau pobl nad oes ganddynt y gallu meddyliol i wneud penderfyniadau penodol drostynt eu hunain.

Rydym yn gyfrifol am y canlynol:

  • cofrestru atwrneiaethau arhosol (LPA) ac atwrneiaethau parhaus (EPA)
  • goruchwylio dirprwyon a benodwyd gan y Llys Gwarchod
  • goruchwylio gwarcheidwaid a benodwyd gan yr Uchel Lys
  • cadw cofrestrau cyhoeddus o ddirprwyon, gwarcheidwaid, atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus, ac ymateb i geisiadau i chwilio’r cofrestrau
  • ymchwilio i sylwadau, cwynion neu honiadau am gam-drin sydd wedi cael eu gwneud yn erbyn gwarcheidwaid, dirprwyon ac atwrneiod sy’n gweithredu o dan bwerau cofrestredig

Ein cwsmeriaid a rhanddeiliaid

Rydym yn gwasanaethu nifer o fathau o gwsmeriaid a rhanddeiliaid, gan gynnwys y canlynol: * rhoddwyr – pobl sydd wedi gwneud LPA neu EPA i warchod eu lles neu faterion ariannol os byddant yn colli galluedd yn y dyfodol * atwrneiod – pobl sydd wedi cael eu penodi gan roddwyr i reoli eu lles neu faterion ariannol os byddant yn colli galluedd yn y dyfodol * cleientiaid (a elwir yn ‘P’) – pobl sydd wedi colli galluedd ac y mae eu lles neu faterion ariannol yn destun achos gerbron y Llys Gwarchod * dirprwyon – unigolion lleyg neu broffesiynol neu awdurdodau (fel cyfreithwyr neu awdurdodau lleol) sydd wedi cael eu penodi gan y Llys Gwarchod i reoli lles neu faterion ariannol y cleient * unigolion coll – pobl sydd ar goll ac y mae eu materion yn cael eu rheoli gan warcheidwad a benodwyd gan yr Uchel Lys * gwarcheidwaid – unigolion sydd wedi cael eu penodi gan yr Uchel Lys i reoli eiddo a materion ariannol unigolyn sy’n absennol neu sydd ar goll * rhanddeiliaid eraill – perthnasau i gleient neu roddwr, meddygon teulu neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill, elusennau, a’r sector cyfreithiol

Prif faterion, risgiau ac ansicrwydd

Mae’r prif risgiau a wynebwyd yn ystod 2019/20 wedi’u nodi ar dudalen 45. Yn erbyn y cefndir hwn, gwnaethom barhau i gyflawni ein busnes o ddydd i ddydd.

Yn 2019/20, bu’n rhaid i’r OPG ddelio ag effaith Brexit ar flaenoriaethau’r llywodraeth a’r rhaglen ddeddfwriaethol. Mae hyn wedi effeithio ar allu’r OPG i fwrw ymlaen â’i gwaith ar LPA gwbl ddigidol mor gyflym ag y byddai wedi dymuno. Mae rheoli’r risg adennill costau hefyd wedi bod yn allweddol i’r OPG – ac fe lwyddodd i’w lliniaru yn ystod y flwyddyn. Tua diwedd y flwyddyn, bu’n rhaid i’r asiantaeth ddelio hefyd â COVID-19, sydd wedi ychwanegu cryn ansicrwydd – ond a fydd yn cael effaith fwy yn ystod y flwyddyn nesaf.

Dadansoddi perfformiad

Mesur ein perfformiad

Yn ystod 2019/20 rydym wedi parhau i adolygu ein mesurau perfformiad, gan sicrhau bod y mesurau sylfaenol yn gyrru’r busnes o ddydd i ddydd ac yn addas i’r diben, a’u bod yn mesur yr wybodaeth briodol yn y ffordd gywir. Rydym wedi gwella’r cerdyn sgorio cytbwys, ac mae mewn gwell sefyllfa i helpu i lywio penderfyniadau’r busnes ac mae’n cefnogi ein cwsmeriaid yn llwyr ac yn cyflawni ein nodau a’n hamcanion allweddol. Mae’r OPG yn defnyddio ei Dangosyddion Perfformiad Allweddol i fonitro perfformiad yn y sefydliad, ac mae ei phroses rheoli risg yn helpu i dynnu sylw at faterion allweddol sy’n gysylltiedig â chyflawni’r dangosyddion hynny a’r perfformiad ehangach o fewn y sefydliad. Mae dulliau rheoli risg hefyd yn cael eu defnyddio yn yr OPG i helpu i reoli ansicrwydd. Un ansicrwydd allweddol y mae angen ei reoli drwy gydol y flwyddyn yw’r llwyth gwaith sy’n dod i mewn – gan mai incwm sy’n ariannu’r asiantaeth ac mae lefel y llwyth gwaith hefyd yn effeithio ar y gallu i fodloni’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol.

Sut rydym ni wedi perfformio?

Mae gan yr OPG set bwysig o dargedau dangosyddion cwsmeriaid - nodwyd y perfformiad yn erbyn y rhain isod, ynghyd â lefelau’r llwyth gwaith allweddol dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae rhagor o fanylion ynghylch yr ystod lawn o dargedau, perfformiad a sut y cânt eu mesur wedi’u nodi yn yr atodiad ar berfformiad. Mae perfformiad wedi’i gynnal yn y rhan fwyaf o feysydd yn erbyn cynnydd yn y llwyth gwaith, a

pharheir i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth i ddefnyddwyr a gwneud yn si?r eu bod yn unol â’r lefel ddisgwyliedig. Ar yr un pryd, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i wella ein gwasanaethau – o ran y gwasanaeth ei hun a’r ffordd mae pobl yn cael mynediad at y gwasanaethau.

Mae rhai targedau wedi bod yn anoddach eu cyrraedd nag eraill. Er enghraifft, nid ydym wedi cyflawni ein nod o gwblhau pob ymchwiliad o fewn 70 diwrnod. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y camau rydym yn eu cymryd i gyflawni’r targed hwn a blaenoriaethu achosion brys ar dudalen 19.

Mae ein tîm cyfreithiol hefyd wedi wynebu heriau sylweddol o ran perfformiad yn ystod 2019/20 oherwydd y cynnydd mewn llwythau gwaith; mae’r anawsterau wrth recriwtio cyfreithwyr, yr angen i hyfforddi cyfreithwyr newydd, a’r newidiadau mewn arferion gweithio wedi arwain at lefelau uwch o waith yn weddill. Mae’r heriau hyn yn effeithio ar rannau eraill o’r busnes, ee ymchwiliadau.

Er mwyn delio’n effeithiol â hyn, mae ein tîm cyfreithiol wedi bod yn gweithio gyda rhannau eraill o’r busnes i benderfynu ar drefn y gwaith rydym yn ei gyflwyno i’r llys yn ôl blaenoriaeth, fel sefyllfaoedd lle rydym yn ceisio cael gwared â dirprwy/atwrnai, neu geisiadau i’r llys sy’n ymdrin ag atwrneiaethau arhosol a allai fod yn dwyllodrus. Mae hyn wedi sicrhau ein bod yn ymdrin â’r achosion mwyaf brys yn gyntaf.

Bu’n rhaid newid ein deinameg a chyfeiriad o ganlyniad i ddefnyddio nifer sylweddol o gyfreithwyr newydd sy’n anghyfarwydd â’r OPG a’r Gwasanaeth Sifil. Rydym yn craffu’n fanylach ar y gwaith sy’n cael ei gyflwyno ar gyfer achosion llys, ac rydym yn datblygu ein cylchoedd adborth i’r busnes er mwyn gwella ansawdd y gwaith. Rydym hefyd yn gweithio gyda thimau eraill i roi arbedion effeithlonrwydd ar waith yn ein prosesau.

Rydym yn bwrw ymlaen â’r ymdrechion i leihau lefel y gwaith sy’n weddill ac rydym yn disgwyl i hyn barhau ymhell i 2020/21. Fodd bynnag, bydd y newidiadau rydym yn eu rhoi ar waith yn ein gwneud yn fwy cadarn yn y dyfodol.

Yng nghynllun busnes yr OPG ar gyfer 2019/2020 roedd gennym ddau faes gwaith allweddol – OPG 2025 a busnes fel arfer yr OPG. Rydym wedi gwneud cryn dipyn o waith yn y ddau faes – nodwyd rhai o’r uchafbwyntiau isod.

O fewn rhaglen OPG 2025 rydym wedi bwrw ymlaen â gwaith ar y canlynol: * ymchwil i ddeall beth sydd ei angen ar ein defnyddwyr a darpar ddefnyddwyr o LPA * ‘Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol’, sy’n caniatáu i’n defnyddwyr ddefnyddio fersiwn electronig o LPA – sydd wedi cyrraedd y cam beta breifat ar hyn o bryd * ein system rheoli achosion, hyd at y pwynt lle gellir cynnal achosion goruchwylio ar y system newydd, yn ogystal â chofrestru atwrneiaethau arhosol

O fewn y cylch busnes fel arfer, rydym wedi gwneud y canlynol:

  • parhau i weithio i gyflawni ein targedau a rhoi adnoddau yn y meysydd lle nad yw’r perfformiad wedi cyrraedd y targed
  • cyhoeddi ein Cynllun Iaith Gymraeg diwygiedig ar ôl cael cymeradwyaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg
  • parhau i edrych ar sut y gallwn ddenu pobl i’r OPG o amrywiaeth eang o gefndiroedd – mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith ar symudedd cymdeithasol ar dudalen 26
  • llunio rhaglen a strategaeth dysgu a datblygu ar gyfer yr OPG a’i lansio o fewn yr asiantaeth
  • lansio’r prosesau ar gyfer goruchwylio Gwarcheidwaid a Benodwyd gan y Llys ar gyfer unigolion coll

Ein cyflawniadau

Rhaglen drawsnewid - OPG 2025

Mae ein rhaglen drawsnewid, OPG 2025, yn ymwneud â newid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau er mwyn i ni wella bywydau gyda’n gilydd. Bydd yn ein helpu i wireddu ein nodau hirdymor. Byddwn yn gwneud gwell defnydd o gynnyrch digidol, gwasanaethau a ffyrdd mwy clyfar o weithio er mwyn rhyddhau ein hamser i gynnig mwy o gymorth, cyngor a chanlyniadau gwell i bawb yn ogystal â gwasanaeth mwy effeithlon.

Bydd dyfodol digidol yn gwneud ein gwasanaethau yn fwy hygyrch, yn fwy hyblyg ac yn fwy syml i gwsmeriaid eu defnyddio mewn ffordd sy’n fforddiadwy ac yn gyfleus iddyn nhw. Byddwn yn gwneud hyn yn ogystal â sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael i bob un o’n cwsmeriaid.

Yn 2019/20, aeth y gwaith rhagddo i’n helpu i gyflawni ein chwe nod. Bydd ein nodau yn ein helpu i osod y sylfeini ar gyfer dyfodol yr OPG. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gwneud y canlynol:

  • Lansio ymgyrch farchnata gyntaf yr OPG yn Islington a Leeds, gyda mwy na 5,000 yn ymweld â’n safle ‘eich llais chi, your eich penderfyniad chi’ yn ystod y chwe mis cyntaf.
  • Cynnal ymchwil i archwilio’r potensial am wasanaeth LPA cwbl ddigidol.
  • Dechrau ymchwil i edrych ar effaith atwrneiaethau arhosol ar gymdeithas a sut y gallem ddatblygu gwasanaethau ymhellach er mwyn diwallu anghenion ein cwsmeriaid.
  • Adeiladu a phrofi’r gwasanaeth ‘defnyddio Atwrneiaeth Arhosol’ digidol i helpu atwrneiod i ddefnyddio LPA yn haws.
  • Symud ein data i’n system rheoli achosion LPA, diffodd hen systemau a lleihau costau.

Bydd ein rhaglen 2025 yn dibynnu’n helaeth ar sicrhau’r newid deddfwriaethol sy’n angenrheidiol i ddarparu LPA cwbl ddigidol ac adnoddau digidol. Efallai y bydd pandemig COVID-19 yn golygu bod yn rhaid i ni ail-flaenoriaethu yn ystod y flwyddyn.

Atwrneiaethau

Gwaith presennol

Fy rôl allweddol i yw bod yn rhan o wasanaeth sy’n cael ei gynnig er mwyn helpu pobl agored i niwed gofrestru dogfen sydd mor bwysig a hanfodol yn eu bywydau. Mae gen i dîm gwych sy’n cydweithio - caiff staff eu hannog i ymgysylltu â’i gilydd bob amser.

Nisba Bibi – Swyddog Gweinyddol Cam Un

Mae atwrneiaethau yn hanfodol er mwyn grymuso pobl i gynllunio ar gyfer y dyfodol tra bod ganddyn nhw’r gallu i wneud hynny. Cafodd atwrneiaethau parhaus eu disodli gan atwrneiaethau arhosol pan ddaeth Deddf Galluedd Meddyliol 2005 i rym ym mis Hydref 2007; erbyn hyn nid oes modd gwneud EPA. Mae’n dal yn bosibl cofrestru’r rhai a wnaed cyn y dyddiad hwn gyda’r OPG pan fo angen. Mae cofrestru atwrneiaethau yn wasanaeth pwysig i’r cyhoedd; felly mae darparu’r gwasanaethau o ddydd i ddydd yr un mor bwysig â pharhau i wella a datblygu’r gwasanaethau hynny.

Dylai atwrneiaeth fod yn ystyriaeth safonol, ynghyd â phensiwn, cerdyn bws a gwneud ewyllys.

Dr Johanna Roberts

Pan wnes i atwrneiaeth arhosol i mi fy hun, roedd hynny ar-lein ac i gyd ar fore Sul

Mr Roger Payne

Mae prif dargedau’r gwasanaeth cwsmeriaid yn y maes hwn – cofrestru atwrneiaethau o fewn 40 diwrnod ac ateb galwadau o fewn 5 munud – yn canolbwyntio ar y defnyddiwr, ac mae perfformiad wedi’i gynnal yn erbyn pob un o’r rhain tra bo’r llwyth gwaith wedi cynyddu (mae rhagor o fanylion am y targedau hyn yn yr Atodiad ar Berfformiad). Mae’r cynnydd yn y llwyth gwaith yn uwch na’r blynyddoedd blaenorol (cynnydd o 9.76% eleni o’i gymharu â 8.42% y llynedd).

Mae ein proses cofrestru LPA yn cynnwys sawl maes gwahanol nad ydynt yn cael eu cynnwys yn uniongyrchol yn y targedau, ond maen nhw’n effeithio ar ein defnyddwyr. Mae ein swyddogaeth gwaith achos, er enghraifft, yn adolygu atwrneiaethau ac yn gweithio gyda rhoddwyr ac atwrneiod i wneud yn si?r bod modd cofrestru’r dogfennau. Os nad oes modd cofrestru atwrneiaeth oherwydd gwallau yn y ddogfen, gall ein tîm gwaith achos helpu rhoddwyr i gyflwyno dogfen gywir y gellir ei chofrestru.

Mae’r gwasanaeth wedi wynebu dwy brif her yn ystod 2019/20:

  • Y gallu i gynnal proffil staffio cyffredinol cyson, sydd wedi bod yn broblem benodol o fewn ein Gwasanaethau Atwrneiaethau, am fod nifer y staff sy’n gadael yr OPG i fynd i rannau eraill o’r Gwasanaeth Sifil ac o fewn yr asiantaeth yn uwch nag mewn rhannau eraill o’r OPG.
  • Y dymuniad i hybu’r defnydd o atwrneiaethau arhosol gyda’r ffaith eu bod yn dal i gael eu gwneud ar bapur – fel na all arbedion effeithlonrwydd yn y prosesau ddileu’r angen yn llwyr am aelodau staff ychwanegol i brosesu’r llwyth achosion cynyddol.

Er mwyn mynd i’r afael â’r cyntaf o’r materion hyn, mae’r gwaith o ddadansoddi cyfweliadau ymadael yn datgelu gwybodaeth fanylach, ac mae camau recriwtio cadarn wedi’u cymryd ac yn cael eu monitro. Mae tîm Recriwtio Canolog yr OPG bellach yn darparu adnodd penodol ar gyfer recriwtio ar draws yr OPG ac mae’n gallu rhagweld ac ymateb i anghenion newidiol y gweithlu. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym wedi gwella ein prosesau recriwtio eleni ar dudalen 25.

Er mwyn mynd i’r afael â’r ail fater, rydym yn gwneud cynnydd â’n strategaeth 2025, sy’n ceisio darparu atwrneiaethau arhosol cwbl ddigidol, ac rydym hefyd wedi gofyn i nifer o ddefnyddwyr brofi ‘Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol’ fel beta breifat, a fydd yn cefnogi’r gwaith o’i gyflwyno’n llawn yn 2020/21 gyda’r nod o wneud pethau’n symlach i gwsmeriaid.

Bydd ‘Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol’ yn caniatáu i’n rhoddwyr ac atwrneiod rannu crynodeb o’u gwybodaeth LPA gyda sefydliadau megis banciau, cymdeithasau adeiladu, cwmnïau cyfleustodau, ysbytai ac adrannau eraill y llywodraeth ar unwaith yn ddigidol.

Gwelliannau i’r gwasanaethau

Ar yr un adeg â darparu’r busnes o ddydd i ddydd, rydym wedi parhau i ystyried sut y gallwn wella ein gwasanaethau i’n defnyddwyr.

  • Rydym wedi rhoi’r gorau i ddibynnu ar hen systemau TG, sy’n golygu ein bod bellach yn gallu rhyngweithio’n fwy effeithlon a didrafferth gyda chwsmeriaid. Bydd datgomisiynu ein hen system rheoli gwaith achos yn arbed £85,000 y flwyddyn mewn costau trwyddedu ac yn ein galluogi i gadw ein ffioedd mor isel â phosibl.
  • Rydym wedi datblygu strategaeth gwirio ansawdd gadarn sydd ar waith ar draws ein Gwasanaeth Atwrneiaethau er mwyn monitro a rhoi adborth ar faterion ansawdd. Ers ei rhoi ar waith, mae ansawdd cyffredinol yr atwrneiaethau arhosol a gofrestrwyd yn gywir wedi gwella o 91% i 96%.
  • Mae’r Gwasanaeth Atwrneiaethau, fel sawl rhan o’r OPG, wedi rhoi dulliau gweithio’n glyfar ar waith, ac wedi gweld cynnydd yn nifer y staff sy’n gweithio gartref yn dilyn newidiadau i’r prosesau busnes. Mae’r hyblygrwydd ychwanegol hwn wedi cael effaith gadarnhaol ar forâl staff, ac wedi sicrhau lefelau cynhyrchiant uwch ac fe fydd, ymhen amser, yn galluogi’r OPG i leihau ei hôl troed swyddfa ac felly lleihau gorbenion.

Mae gweithio’n hyblyg wedi gwella fy mywyd. Am fod gen i anabledd, mae’n fy helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac yn fy helpu i ymdopi yn fy mywyd bob dydd.

Caroline Brown – Rheolwr Dros Dro yr Uned Gwaith Achos

  • Mae’r OPG wedi dal ati i weithio gyda chydweithwyr polisi’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i gyflawni uchelgais yr OPG i gyflwyno LPA cwbl ddigidol fel rhan o raglen OPG 2025. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle inni adolygu prosesau papur y presennol a’r dyfodol er mwyn canfod unrhyw gyfleoedd am arbedion effeithlonrwydd a mesurau diogelu ychwanegol.

Adborth gan gwsmeriaid

Atebodd un o gynghorwyr y Ganolfan Gyswllt alwad gan gwsmer pryderus a oedd yn poeni am ddefnyddio cyfrifiaduron a’n cyfleuster “Cymorth Digidol”. Roedd yn ddiolchgar i’r cynghorydd a oedd yn ei helpu, ac yn falch o’r ffordd sensitif roedd wedi’i helpu i oresgyn ei phryder. Dywedodd fod staff y Ganolfan Gyswllt yn ymddangos mor ofalgar pan fydd hi’n ffonio ac yn caniatáu digon o amser i’w helpu heb ruthro.

Goruchwylio

Llwyth gwaith presennol

Pan fydd rhywun yn colli galluedd a heb benodi atwrnai, bydd y Llys Gwarchod yn penodi dirprwy i wneud penderfyniadau ar ei ran. Oherwydd nad oes gan yr unigolyn lais yn y mater o ddewis pwy sy’n gweithredu ar ei ran, mae’r dirprwyon hyn yn cael eu goruchwylio gan yr OPG.

Mae nifer yr achosion goruchwylio wedi bod yn gyson iawn dros y flwyddyn – roedd yn 60,793 o orchmynion dirprwyaeth ddiwedd 2019/20 o’i gymharu â 59,408 yn 2018/19. Mae perfformiad ardderchog drwy gydol y

flwyddyn yn golygu ein bod wedi cyflawni pob un o’r dangosyddion perfformiad, er gwaethaf rhai o’r heriau rydym wedi’u hwynebu.

Rwy’n gymharol newydd yn fy swydd ac nid oeddwn yn si?r sut beth fyddai gweithio i’r Gwasanaeth Sifil, ond rwy’n ei fwynhau. Er mai swydd weinyddol ydy hi, rwy’n synnu fy mod yn dal i deimlo bod yr hyn rydym yn ei wneud yn rhan hanfodol o helpu pobl i fyw’r bywyd gorau posibl ar bob cam. Cyn hyn fe wnes i lawer o waith gwirfoddoli gyda phobl agored i niwed, ac wrth i mi edrych drwy’r achosion yma yn yr OPG rwy’n adnabod y gwahanol fathau o gymeriadau a dirprwyon sy’n gweithio mor galed i helpu pobl. Mae’n wych cael bod yn rhan o broses sy’n gwneud yn si?r bod yr holl bobl hyn yn derbyn gofal, beth bynnag fo’u hanghenion unigol.

Beverly Robinson, Rheolwr Achosion Goruchwylio

Fel rhan o’r broses oruchwylio, mae dirprwyon yn cwblhau adroddiad blynyddol ac mae’r OPG yn ei adolygu. Mae’r adolygiad hwn yn sicrhau nad oes unrhyw bryderon gyda’r adroddiad, y rhoddwyd cyfrif am y gwariant a’r penderfyniadau a wnaed ar ran y cleient, a’u bod wedi cael eu gwneud er eu budd gorau nhw. Os oes pryderon, cysylltir â’r dirprwy am ragor o wybodaeth ac os teimlir bod angen, caiff ymwelydd ei anfon i gasglu’r wybodaeth honno neu efallai y caiff ymchwiliad ei ddechrau. Mae hyn i gyd yn rhan o drefn ddiogelu’r OPG.

Defnyddiodd 66.98% o’r holl ddirprwyon lleyg sy’n adrodd y gwasanaeth “cwblhau eich adroddiad dirprwy” i gyflwyno eu hadroddiadau blynyddol yn electronig, ac rydym wedi rhoi’r gorau i gyhoeddi adroddiadau papur fel y norm ar gyfer achosion dirprwyaeth newydd.

Mae’r gwasanaeth wedi wynebu’r heriau canlynol eleni:

  • Yn yr un modd â’r Gwasanaeth Atwrneiaethau, er bod y trosiant staff wedi gwella o’i gymharu â’r llynedd, mae’r gallu i gynnal proffil staffio cyffredinol yn parhau i fod yn her. Gwelwyd trosiant o 12.7% yn y timau goruchwylio ac ymchwilio yn ystod y flwyddyn – gyda nifer o’r staff hyn yn gadael er mwyn derbyn rôl yn adrannau eraill y llywodraeth. Mae hyn wedi bod yn arbennig o wir ym Mandiau D a C o fewn timau Nottingham.
  • Gohiriwyd symud o’r hen system TG i system rheoli achosion newydd, a oedd yn golygu ein bod yn dal i weithio gyda hen system nad yw’n hawdd ei haddasu i’r prosesau sydd gennym ar waith am y rhan fwyaf o’r flwyddyn. Bwriedir symud i’r system newydd yn 2020/21. Bydd y dyddiad yn dibynnu ar effaith COVID-19 ar y busnes.

Gwelliannau i’r gwasanaethau

  • Rydym yn datblygu arferion gweithio gwell gyda’r Llys Gwarchod er mwyn sicrhau bod gorchmynion llys yn cael eu cyflwyno i’r OPG yn brydlon fel bod modd i ni ddechrau goruchwylio dirprwyon cyn gynted ag y byddant yn cael eu penodi, gan leihau’r risg i’r cleient a gwella mesurau diogelu.

  • Mae gwelliannau mewn arferion gweithio’n glyfar wedi arwain at fwy o hyblygrwydd a chynhyrchiant.

Adborth gan gwsmeriaid

Dyfyniad o adroddiad ymweld:

Dywedodd ei bod yn teimlo ei bod yn cael cymorth da gan yr OPG pryd bynnag y bydd ganddi unrhyw ymholiadau; cyfeiriodd yn benodol at aelod o staff yn y tîm Dirprwyaeth Leyg, sydd, yn ei barn hi, wedi bod yn barod iawn i helpu.

Unigolion coll

Ym mis Gorffennaf 2019, dechreuodd yr OPG oruchwylio gorchmynion gwarcheidiaeth o dan Ddeddf Gwarcheidiaeth (Unigolion Coll) 2017, i sicrhau bod gwarcheidwaid yn gweithredu’n unol â’r awdurdod a roddwyd iddynt gan yr Uchel Lys a bod penderfyniadau’n cael eu gwneud er budd gorau’r sawl y’u penodir i weithredu ar ei ran. Ers ei lansio ym mis Gorffennaf, rydym nawr yn goruchwylio dau orchymyn gwarcheidiaeth.

Roedd llawer iawn o waith i’w wneud i roi’r ddeddfwriaeth newydd hon ar waith, ac roedd nifer o dimau yn yr OPG ac ar draws y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi chwarae rhan flaenllaw. Ymgysylltwyd â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys sefydliadau ariannol, rheoleiddwyr ac elusennau, i wneud yn si?r bod y gwasanaeth yn cael ei ddatblygu i ddiwallu anghenion y gr?p newydd hwn o ddefnyddwyr.

Cafodd y bwrdd prosiect unigolion coll, gan gynnwys staff yr OPG, ei ddewis gan feirniaid fel enillydd Gwobr Gweithio gyda’n Gilydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder, i gydnabod y gwaith ardderchog mae wedi’i wneud i sefydlu gwasanaeth Gwarcheidwaeth yr OPG.

Ymchwiliadau

Mae’r gwaith rwy’n ei wneud fel ymchwilydd i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhan hanfodol o’r agenda diogelu cyffredinol ar gyfer ‘oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin’. Rydym yn gweithio’n agos gydag asiantaethau partner ac aelodau o’r cyhoedd i ddiogelu oedolion sydd efallai heb alluedd i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Mae’r gwaith yn rhoi llawer o foddhad am eich bod yn gwybod y bydd yr ‘oedolion mewn perygl’ mewn sefyllfa fwy diogel o ganlyniad i’ch gwaith.

Anna Freeman, Ymchwilydd

2019/20, ond mae’r cynnydd hwn yn unol â’r cynnydd mewn atwrneiaethau a gorchmynion llys ar y gofrestr.

Yn sgil y cynnydd mewn ymchwiliadau a throsiant staff uchel, ni chyflawnwyd ein nod o gwblhau pob ymchwiliad mewn 70 diwrnod ar gyfartaledd – y cyfartaledd a gyflawnwyd oedd 74 diwrnod. Gwnaethom gau 3,099 o ymchwiliadau eleni o’i gymharu â 2,617 y llynedd gyda’r un lefelau staffio â 2018/19. Rydym wedi dal ati i chwilio am welliannau yn ein prosesau drwy gydol y flwyddyn er mwyn inni allu cyflymu ymchwiliadau ond gan roi’r amser i bob achos gael ei ddatrys yn iawn.

Er mwyn diogelu ein cwsmeriaid, rydym wedi rhoi blaenoriaeth i leihau nifer yr ymchwiliadau sy’n aros i gael eu gwneud (y rhai dros 70 diwrnod) ac rydym wedi llwyddo i sicrhau gostyngiad o 53%. Roedd hyn wedi effeithio ar ein gallu i gwrdd â’n targed clirio o 70 diwrnod, ond mae wedi diogelu ein cwsmeriaid sy’n agored i niwed. Wrth ganolbwyntio ar ein hachosion hynaf a chlirio’r achosion presennol, daeth y flwyddyn i ben gyda llwyth gwaith o 691 o ymchwiliadau – gostyngiad o 27% o’r un adeg y flwyddyn flaenorol.

  • Canran yr ymchwiliadau sy’n arwain at achos llys yw 30.49%.
  • Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes camau’n cael eu cymryd (53.44%) neu mae mesurau ychwanegol heb fynd i’r llys yn cael eu defnyddio i ddatrys unrhyw faterion a sicrhau bod yr atwrneiaeth neu’r ddirprwyaeth yn ôl ar y trywydd iawn (16.07%)

Mae’r heriau rydym wedi’u hwynebu yn ein tîm cyfreithiol yn golygu y bu oedi cyn mynd ag achosion i’r llys. Er mwyn delio’n effeithiol â hyn, mae ein tîm cyfreithiol wedi bod yn gweithio gyda rhannau eraill o’r busnes i benderfynu ar drefn y gwaith rydym yn ei gyflwyno i’r llys yn ôl blaenoriaeth, fel sefyllfaoedd lle rydym yn ceisio cael gwared â dirprwy/atwrnai neu geisiadau i’r llys sy’n ymdrin ag atwrneiaethau arhosol a allai fod yn dwyllodrus. Mae hyn wedi sicrhau ein bod yn ymdrin â’r achosion mwyaf brys yn gyntaf.

Enghreifftiau o ganlyniadau ymchwiliadau

Achos nad aeth i’r llys

Mynegwyd pryderon i’r OPG fod atwrnai’n camreoli materion ariannol y rhoddwr a’i fod wedi gwrthod pecyn gofal a argymhellwyd gan yr awdurdod lleol. Ar ben hynny, codwyd pryder nad oedd gan y rhoddwr alluedd yn wreiddiol i weithredu ei hatwrneiaethau arhosol.

Nid oedd yr ymchwiliad wedi canfod bod yr atwrnai’n camddefnyddio arian y rhoddwr, ond roedd arwyddion bod cyfrifon y rhoddwr yn cael eu camreoli.

Roedd yr atwrnai wedi gwrthod pecyn gofal a argymhellwyd gan weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd; fodd bynnag, yn dilyn cyfarfod budd gorau, roedd yr awdurdod lleol yn fodlon bod yr atwrnai’n derbyn ei argymhellion ac yn gweithio gyda nhw i sicrhau’r hyn sydd er lles gorau’r rhoddwr.

Ni chafwyd digon o dystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad i benderfynu nad oedd gan y rhoddwr alluedd i weithredu ei hatwrneiaethau arhosol.

Gofynnwyd i’r atwrnai roi cyfrif eto ymhen tri mis, i’w galluogi i ddangos ei bod yn rheoli cyfrifon y rhoddwr yn briodol.

Rhoddodd yr atwrnai adroddiad llawn a boddhaol yn ddiweddarach, wedi’i gefnogi gan dystiolaeth ddogfennol, a oedd yn dangos ei bod yn gweithredu’n unol â Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r Cod Ymarfer, ac felly caewyd yr ymchwiliad.

Achos a aeth i’r llys

Mynegwyd pryderon i’r OPG nad oedd ffioedd cartref gofal a lwfans personol y rhoddwr yn cael eu talu. Roedd swm sylweddol o ffioedd cartref gofal y rhoddwr heb gael eu talu ac roedd y rhoddwr mewn perygl o gael ei droi allan.

Felly, roedd yr awdurdod lleol wedi gwneud cais am gyllid i ddiogelu lle’r rhoddwr. Dywedodd y cartref gofal yr arferai’r rhoddwr gael lwfans personol rheolaidd a dywedodd wrth ymwelydd y llys gwarchod nad oedd modd i’r rhoddwr gael gwneud ei gwallt ar ei phen-blwydd am nad oedd ganddi arian.

Yn ystod yr ymchwiliad, ni roddodd yr atwrnai gyfrif llawn i’r OPG a pharhaodd i gymryd arian o gyfrif y rhoddwr. Nid oedd unrhyw dystiolaeth i brofi bod yr arian yn cael ei ddefnyddio er budd y rhoddwr. Methodd yr atwrnai â rhoi cyfrif am £39,132.40 o arian parod

a gafodd ei godi. Roedd mwy na 20% o asedau’r rhoddwr wedi cael eu tynnu allan a heb gael eu gwario ar y rhoddwr.

Roedd swm enfawr o arian heb ei gyfrif amdano, ond yn hytrach na chais i’r llys i alw’r atwrnai i gyfrif, gwnaed cais i ddod â chyfnod yr atwrnai i ben am fod yr ymchwiliad wedi darganfod nad oedd yr atwrnai’n amlwg yn gweithredu er lles gorau’r rhoddwr nac yn cydymffurfio â Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r Cod Ymarfer.

Aeth y llys ati wedyn i ddod â chyfnod yr atwrnai i ben a chanslo’r atwrneiaeth arhosol, a phenododd ddirprwy panel i reoli materion ariannol y rhoddwr gan gynnwys pwerau i ymchwilio a chael arian y rhoddwr yn ôl.

Cyfryngu

O ddiwedd 2018 a drwy gydol 2019, fe wnaethom gynnal peilot o ddefnyddio dulliau cyfryngu mewn ymchwiliadau o dan rai amgylchiadau, lle’r oedd y partïon yn cytuno i hyn. Rydym bellach wedi cwblhau’r peilot a’r gwerthusiad. Ni fyddwn yn bwrw ymlaen â’r peilot ar hyn o bryd oherwydd nad oedd y canfyddiadau’n dangos llawer o lwyddiant o ran atal achosion rhag mynd i’r Llys. Byddwn yn rhannu ein canfyddiadau yn gyhoeddus yn y dyfodol agos.

Ymweliadau

Y rhan sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i mi yn fy ngwaith yw cael ymweld â gwahanol bobl, gyda phrofiadau bywyd gwahanol o bob math o gefndiroedd. I mi, yr her fwyaf yw ‘rhoi llais’ i bobl sy’n defnyddio ein gwasanaeth a chofnodi eu dymuniadau a’u teimladau mor fanwl â phosibl.

Barbara Joyce – Ymwelydd y Llys Gwarchod

Mae’r ymweliadau sy’n digwydd yn allweddol i ddiogelu pobl. Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn amrywio – o ymweliadau meddygol (arbennig) i asesu galluedd ôl-weithredol, ymweliadau fel rhan o

ymchwiliad (mewn perthynas ag atwrneiaethau a dirprwyaethau); i ymweliadau mwy cyffredinol er mwyn helpu i sicrhau bod atwrneiod a dirprwyon yn gweithredu er budd pennaf y cleient. Mae hyn oll yn helpu i sicrhau bod unigolion a allai fod mewn perygl yn cael eu diogelu.

Eleni, bu’r galw am ymwelwyr yn fwy nag erioed o’r blaen, ac mae hynny wedi arwain at fwy o ymweliadau brys ac ymweliadau meddygol. Erbyn hyn mae ymweliadau brys yn gyfrifol am 33% o’r proffil ymweld, i fyny o 29%

yn 2018/19. Bu hefyd gynnydd o 36% mewn comisiynau am ymweliadau meddygol. Mae nifer y comisiynau am ymwelydd arbennig o’i gymharu ag ymwelwyr arbennig wedi gostwng effeithiolrwydd gweithredol y tîm o ran dyrannu comisiynau o’r fath yn hwylus a derbyn adroddiadau mewn pryd.

O ystyried y nifer cynyddol o ymweliadau, mae’r OPG wedi parhau i recriwtio ymwelwyr i’n galluogi i ateb y galw. Hefyd, mae strategaeth ymweliadau wedi’i datblygu a’i chytuno, ac unwaith y caiff ei gweithredu bydd o fudd i’n cleientiaid.

Diogelu

Prif ffocws ein gweithgarwch diogelu oedd gweithredu ar argymhellion o’r astudiaeth diogelu – yn enwedig asesiadau risg deinamig – i sicrhau nad yw’r OPG byth yn methu ag adnabod a gweithredu ar bryderon lle gallai rhoddwyr fod mewn perygl uniongyrchol. Rhoddwyd atgyfeiriadau “dim drws anghywir” ar waith i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael gwybod am yr holl bryderon diogelu mewn achosion lle nad oes gan yr OPG awdurdodaeth i ymchwilio.

Enghreifftiau o achosion lle nad oeddem yn gallu ymchwilio, ond ein bod wedi sicrhau bod y pryderon yn cael eu trosglwyddo i’r awdurdodau perthnasol:

  • Codwyd pryderon gan dwrnai ar ran rhoddwr a oedd wedi sylwi bod ei atwrneiod yn gwneud taliadau heb awdurdod o’i gyfrif banc. Roedd yr atwrneiod wedi cymryd ei gardiau banc. Gwnaeth y rhoddwr ddirymu ei LPA am fod ganddo alluedd i wneud hynny o hyd, ond wedyn bu’n rhaid iddo ddelio ag ymddygiad camdriniol a chymhellol gan yr atwrneiod a ddi-rymwyd wrth iddynt geisio rhoi pwysau arno i’w hadfer ar LPA newydd.
  • Lleisiwyd pryderon gan roddwr a oedd yn dymuno gwrthwynebu cofrestru ei LPA ond mae ganddi anawsterau cof tymor byr. Roedd y rhoddwr yn teimlo ei bod yn cael ei gorfodi a’i rhoi dan bwysau gan ei darpar atwrnai ond yn teimlo ei bod yn dal i allu rheoli ei materion ariannol ei hun.

Rydym yn parhau i roi argymhellion yr astudiaeth diogelu ar waith er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi’r cymorth gorau i’n cwsmeriaid ac yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl. Rydym wedi parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol, yn enwedig awdurdodau lleol, i esbonio rôl yr OPG o ran diogelu oedolion agored i niwed. Rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau diogelu a rhanddeiliaid dros y flwyddyn, yn ogystal â rhoi cyflwyniadau mewn digwyddiadau gofal a’r GIG - mae’r rhain wedi ein helpu i sefydlu perthnasoedd gwaith newydd.

Isod ceir rhestr o rai o’r digwyddiadau i randdeiliaid lle mae’r OPG naill ai wedi cyflwyno neu wedi bod yn bresennol er mwyn codi ymwybyddiaeth a chryfhau ei rôl o ran diogelu oedolion agored i niwed

Digwyddiad allanol

  Cynrychiolwyr
Cyfarfodydd Bord Gron yr OPG ar Ddiogelu 20
Cynhadledd Genedlaethol Safonau Masnach Cymru 100
Cynhadledd Diogelu Genedlaethol 120
Byrddau Diogelu Oedolion Cymru 45
Rhwydwaith Cenedlaethol Diogelu GIG Cymru 15
Digwyddiad Healthcare Plus 100  
The Care Show 100
Sioeau Caring UK x 4 400
Digwyddiad Cyflawni Gweithredol y Gwasanaeth Sifil 250

Digwyddiad allanol – stondin marchnad

  Cynrychiolwyr
Digwyddiad Diogelu GIG Llundain 500
Arddangosfa Iechyd a Gofal y GIG 5000
Digwyddiad Healthcare Plus 6000

Cwynion

Rydym yn rheoli cwynion gan gwsmeriaid yn unol â’n polisi cwynion cyhoeddedig. Proses gwyno haenog ydy hi – mae cwynion yr haen gyntaf yn cael eu hystyried gan y maes busnes sy’n gyfrifol.

Os bydd y cwsmer yn anfodlon â’r ymateb hwn, gellir uwchgyfeirio’r g?yn at yr ail haen; wedyn, bydd y g?yn, a’r ffordd y deliwyd â hi, yn cael ei hadolygu gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus. Os bydd y cwsmer yn parhau i fod yn anfodlon, gall ofyn i’w AS gyfeirio ei g?yn at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (PHSO) er mwyn cynnal adolygiad annibynnol.

Cafodd un achos ei dderbyn yn ffurfiol gan yr Ombwdsmon ar gyfer ymchwiliad llawn eleni.

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar wella ansawdd ein hymatebion i gwynion er mwyn sicrhau ein bod yn datrys problemau cyn gynted â phosibl a hefyd yn dysgu gwersi.

Mae’r adborth o’r adolygiadau gan gymheiriaid ar gwynion, a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol, wedi bod yn sail i’n ffordd fwy cyson o ysgrifennu mewn cwynion. Mae tîm haen 2 wedi treialu ysgrifennu mewn ffordd newydd – gan sicrhau bod ein hymatebion yn fwy clir, yn haws eu deall ac yn fwy empathig. Mae’r prawf wedi bod yn llwyddiannus ac rydym wedi cael adborth cadarnhaol gan gwsmeriaid. Felly, rydym wedi dechrau cyflwyno’r arddull ar draws pob un o’r timau cwynion a byddwn yn parhau i wneud hynny dros y flwyddyn nesaf.

Ceir isod enghraifft o arddull llythyrau cyn ac ar ôl y newid:

Cyn

Mae’n ddrwg gennyf nad ydych chi wedi derbyn y taliad. Gallaf gadarnhau mai pwrpas y taliad o £20 roeddwn wedi’i awdurdodi oedd cydnabod yr anghyfleustra a achoswyd i chi. Rwyf wedi ymchwilio i’r mater, ac yn anffodus roedd mater na roddwyd sylw iddo ar unwaith, ac ymddiheuraf am hynny.

Hoffwn eich sicrhau bod y taliad yn cael ei brosesu ar hyn o bryd, ac fe ddylai eich cyrraedd yn fuan.

Ar ôl

Diolch am eich llythyr. Mae’n ddrwg gennyf nad ydych chi wedi derbyn y taliad sydd wedi’i addo i chi. Rwy’n deall bod hyn yn rhwystredig, ac yn deall pam eich bod yn dymuno cael eglurhad gennym.

Mae eich taliadau wedi cael eu prosesu

Rwy’n falch o ddweud wrthych fod y taliad o £20 i gydnabod yr anghyfleustra a achoswyd i chi wedi cael ei brosesu. Dylai’r taliad hwn eich cyrraedd o fewn y 15 diwrnod nesaf.

Beth aeth o’i le

Ar ôl ymchwilio i’r mater, gallaf weld na chafodd eich taliad ei brosesu oherwydd camgymeriad technegol nad oedd wedi’i ganfod ar unwaith. Roedd hyn yn golygu na chafodd eich taliad ei brosesu o fewn y cyfnod amser cywir.

Rwy’n ystyried y mater hwn yn ddifrifol iawn, a hoffwn ddiolch i chi am dynnu fy sylw ato. Byddwch yn dawel eich meddwl fy mod wedi bwrw ymlaen â’r mater hwn, a byddwn yn dysgu gwersi ohono. Byddwn yn edrych ar ein prosesau, ac yn gwneud newidiadau i sicrhau nad yw camgymeriadau fel hyn yn digwydd eto.

Unwaith eto, mae’n ddrwg gennyf am yr oedi sy’n parhau, a diolch i chi am eich amser a’ch amynedd.

Y 3 phrif g?yn am atwrneiaethau arhosol

  • Oedi wrth brosesu atwrneiaethau arhosol, oedi wrth gysylltu â chwsmeriaid a rhoi gwybod am broblemau
  • Dogfennau coll – atwrneiaethau arhosol a darnau ohonynt yn cael eu colli yn y swyddfa
  • Methu â dilyn y drefn – gwneud penderfyniadau anghywir ynghylch yr achos, peidio â chymryd y camau cywir

Y 3 phrif g?yn am ddirprwyaethau

  • Pryderon am y dirprwy – perthnasau/trydydd partïon yn anfodlon â phenderfyniadau’r dirprwy ar ran y cleient
  • Cyswllt â’r OPG – anhapus gydag ansawdd y cyswllt, boed hynny’n ysgrifenedig neu dros y ffôn
  • Cynnwys llythyrau – cwsmeriaid yn anhapus â thôn yr ohebiaeth, neu’r wybodaeth sydd yn y llythyr

Ein pobl

Rydym wedi gwneud llawer o waith yn ymwneud â staffio a gweithio gyda’n staff i wneud yr OPG yn lle gwych i weithio.

Rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol o ran recriwtio staff eleni. Mae tîm recriwtio canolog yr OPG bellach yn darparu adnodd penodol ar gyfer recriwtio ar draws yr OPG ac mae’n gallu rhagweld ac ymateb i anghenion newidiol y gweithlu. Drwy gydol y flwyddyn, gwnaethom gyflawni’r canlynol:

  • Gwnaethom gynnal 87 ymgyrch recriwtio ar gyfer 463 swydd, a chawsom 7,674
  • Gwnaethom 390 o gynigion ffurfiol, a chafodd 380
  • Gwnaethom gyflawni 82% wedi’i gyflogi yn erbyn y gyfradd darged, gwelliant o 71% yn y flwyddyn flaenorol
  • Rydym wedi lleihau’r amser y mae’n ei gymryd i gyflogi aelod newydd o Mawrth 2019 i 42 diwrnod erbyn mis Mawrth
  • Roedd ymgyrch recriwtio ddiweddaraf y Gwasanaethau Atwrneiaethau mor llwyddiannus, llwyddwyd i ddiwallu gofynion uniongyrchol y busnes o ran adnoddau a lluniwyd rhestr teilyngdod sy’n ddigonol ar gyfer dau gyfnod recriwtio gweithredol

Rydym wedi bod yn cynnal cyfweliadau ymadael gael gweld sut y gallwn barhau i leihau trosiant staff a gwneud yr OPG yn fwy deniadol i ddarpar gyflogeion. Rydym yn falch o fod wedi cynyddu amrywiaeth yng ngweithlu’r OPG, sy’n golygu ein bod yn fwy cynrychioliadol o’r gymdeithas rydym yn ei gwasanaethu.

Nid oedd yr OPG wedi cyrraedd ei tharged prentisiaethau ar gyfer 2020; ond roedd hon yn broblem ar draws y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a hynny’n bennaf o ganlyniad i heriau gyda chyflenwyr yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn a rhai prentisiaethau’n cael eu tynnu’n ôl oherwydd cyllid.

Yn 2019/20, roedd yr OPG wedi recriwtio mwy na 100 o ymgeiswyr o gynlluniau llwybrau i waith symudedd cymdeithasol, gan gynnwys pobl sy’n gadael gofal, prentisiaethau a’r Academi Gwaith Seiliedig ar Sector y Gwasanaeth Sifil cyntaf. Mae recriwtio symudedd cymdeithasol yn sicrhau amrywiaeth o fewn gweithlu’r OPG, yn gwella ymgysylltiad â chyflogeion ac yn creu gweithle cynhwysol drwy rannu gwybodaeth ddiwylliannol; byddwn yn bwrw ymlaen â’r ymdrechion recriwtio llwybrau i waith yn 2020. Ym mis Hydref 2019, cafodd yr OPG gydnabyddiaeth yn genedlaethol am ei gwaith yn hyrwyddo symudedd cymdeithasol yng Ngwobrau Symudedd Cymdeithasol y DU (SOMOs).

Mae’r academi gwaith seiliedig ar sector wedi fy helpu mewn nifer o ffyrdd, ac roedd yn gyfle perffaith i ddechrau gyrfa gydol oes yn y Gwasanaeth Sifil. Rwy’n teimlo ei bod yn fraint cael y cyfle, mae’r OPG yn lle gwych i weithio ac mae llawer o gyfleoedd i ddatblygu yn y busnes.

Kerry Lyons, Swyddog Gweinyddol

Mae pob un o gynlluniau llwybrau i waith yr OPG, yn enwedig yr Academi Gwaith Seiliedig ar Sector, yn gyfle i staff presennol yr OPG gefnogi’r gwaith o recriwtio, dysgu a datblygu ymgeiswyr sy’n cael eu recriwtio dan y cynlluniau hyn. Mae hyn yn cynnwys cynnal cyfweliadau ffug yn ystod y broses recriwtio, hyfforddi ymgeiswyr drwy hyfforddiant technegol a chefnogi datblygiad ymgeiswyr yn y dyfodol drwy fentora.

Roedd gwella’r ffigurau ymgysylltiad â staff yn un o’r prif bethau y bu’r OPG yn canolbwyntio arno eleni, ac roeddem yn falch o weld bod y sgoriau wedi gwella ar draws pob un o’r 10 dangosydd allweddol yn yr Arolwg Pobl blynyddol. Roedd cynnydd o 3% mewn ymgysylltiad â cyflogeion (62% erbyn hyn), ac mae cynhwysiant a thriniaeth deg wedi gwella 5% (74% erbyn hyn).

2017

  • Cynhwysiant a thriniaeth deg 71%
  • Bwlio ac aflonyddu (nifer a oedd yn dweud eu bod wedi cael profiad ohono) 19%
  • Gwahaniaethu (yr un fath â’r blaenorol) 21%

*Adroddiad ymchwil ACAS ar Fwlio, Aflonyddu a Gwahaniaethu

2018

  • Cynhwysiant a thriniaeth deg 69%
  • Bwlio ac aflonyddu (nifer a oedd yn dweud eu bod wedi cael profiad ohono) 17%
  • Gwahaniaethu (yr un fath â’r blaenorol) 21%

  • Uwchgynadleddau Cynhwysiant Misol y Dirprwy Gyfarwyddwr 2018
  • Lansio Ymgynghorwyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
  • Datblygu adnoddau e-ddysgu gorfodol - ymwybyddiaeth o fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu
  • Lansio proses ganolog ar gyfer ymchwilio i gwynion ynghylch bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu
  • Dathliad blynyddol o wythnos genedlaethol cynhwysiant

2019

  • Cynhwysiant a thriniaeth deg 74%
  • Bwlio ac aflonyddu (nifer a oedd yn dweud eu bod wedi cael profiad ohono) 17%
  • Gwahaniaethu 20%

  • Ymgyrch cyfathrebu cynhwysiant mewnol arobryn yr OPG
  • Fideo cynhwysiant yr OPG – ystyried yr hyn mae cynhwysiant yn ei olygu i’n pobl
  • Grwpiau ffocws ar gynhwysiant staff
  • Cyflwyno sesiynau ar barch at ein gilydd
  • Dathliad blynyddol o Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant
  • Ymgyrch cyfathrebu mewnol i gynyddu’r datganiad ar amrywiaeth staff

2020

  • Fideo gwrth-fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu’r OPG sy’n edrych ar ymddygiad digroeso
  • Lansio Rhwydwaith Ymgynghorwyr Confide
  • Ymgymryd ag adolygiad a dadansoddiad o’r bylchau yn nisgwyliadau’r Gwasanaeth Sifil o ran cynhwysiant

Rydym yn ymgysylltu’n rheolaidd â’r undeb llafur perthnasol er mwyn trafod materion priodol, ac mae’r undeb llafur yn gallu codi materion i’w trafod os yw’n dymuno gwneud hynny. Eleni, gwnaethom lansio canllaw dysgu a datblygu newydd ynghyd â llwybrau penodol i sicrhau bod staff yn ymwybodol o’r holl gyfleoedd sydd ar gael er mwyn cyflawni eu swyddi a datblygu. Rydym hefyd wedi cyflwyno proses ymgynghorwyr datblygu newydd i sicrhau ein bod yn diwallu’r anghenion dysgu priodol ar gyfer staff yr OPG. Mae hyn wedi arwain at nifer o ymyriadau dysgu newydd, gan gynnwys asesiadau risg o straen a sgyrsiau gwell.

Ar ôl rhoi ein strategaethau iechyd meddwl a lles ar waith y llynedd, roeddem yn eithriadol o falch o ennill gwobr Aur MIND am gefnogi lles meddyliol y staff.

Yn ogystal â’n tîm unigolion coll yn ennill gwobr gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder eleni, roedd gennym enillydd gwobr arall. Mohammed-Khaled Ahsan, sy’n gweithio fel rheolwr cyflawni gweithredol ar y shifft hwyr yn Axis, oedd enillydd gwobr ‘spotlight’. Penderfynwyd ar y categori hwn drwy bleidlais staff ar draws y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a’i nod yw cydnabod unigolyn sy’n newid pethau er gwell.

Perfformiad ariannol

Rhagolygon incwm

Rydym wedi parhau i gryfhau ein gallu i ragweld galw ac incwm yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gwelwyd amrywiant yn erbyn yr incwm a ragwelwyd ar gyfer atwrneiaethau sef 2.8% ac amrywiant yn erbyn yr incwm a ragwelwyd ar gyfer y gwasanaethau dirprwyaeth sef 2.7%. Fel rhan o’n partneriaeth gydweithredol

gyda Gwasanaethau Dadansoddi’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a’r timau dadansoddi canolog yn y Bartneriaeth Busnes Cyllid, mae gennym bellach fodelau ystadegol gadarn ar waith ar gyfer rhagweld galw am ein gwasanaethau a’r incwm rydym yn disgwyl i’r galw hwnnw ei gynhyrchu.

Rydym yn adolygu ac yn diweddaru’r rhagolygon galw ac incwm yn ystod y flwyddyn fel rhan o’r trefniadau misol ar gyfer rheolaeth ariannol a pherfformiad, gan ddefnyddio’r wybodaeth a gafwyd i fodelu effaith debygol y newidiadau i’r amgylchedd mewnol ac allanol.

Perfformiad ariannol

Mae’r adran hon yn cynnwys sylwadau i gefnogi’r Datganiadau Ariannol a’n perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r Datganiadau Ariannol wedi’u nodi ar dudalennau 70 i 91. Mae Nodyn 2 i’r Datganiadau Ariannol ar dudalen 81 yn nodi’r Ffioedd a’r Costau ar gyfer yr incwm isod, ac mae nodiadau 3-5 yn cynnwys mwy o fanylion ynghylch y gwariant ar draws yr OPG. Isod ceir y balansau allweddol ar gyfer yr OPG yn 2019/20.

Incwm atwrneiaethau Gwelwyd cynnydd mewn galw i gofrestru atwrneiaethau tan yn hwyr iawn yn y flwyddyn ariannol cyn iddo ostwng

wrth i bandemig COVID-19 gydio..
£68.1m Cynnydd o 8.0%

Incwm goruchwylio
achosion o un flwyddyn i’r llall ond roedd y twf yn hwyr yn y flwyddyn ac yn gwyro mwy tuag at Achosion â’r ffioedd lleiaf.
£10.6m - Gostyngiad o 7.3%

Costau staff
Cynyddodd nifer y staff i gwrdd â’r galw cynyddol am wasanaethau’r OPG, gan gynnwys ymchwiliadau.
£48.4m - Cynnydd o 13.3%

Adroddiadau ymwelwyr proffesiynol
Cynhaliodd yr OPG fwy o ymweliadau nag a welwyd yn y gorffennol, yn enwedig ymweliadau meddygol a brys.
£2.7m - Cynnydd o of 10.2%

Costau ystadau
Er gwaethaf y cynnydd yn nifer y staff, roedd defnydd doethach o stad y Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghyd â’r defnydd cynyddol o drefniadau gweithio o bell yn golygu bod costau’r ystadau yn sefydlog.
£2.3m - Wedi aros yn gyson

Yn 2019/20 roedd gan yr OPG warged o £557k a hynny’n bennaf oherwydd nifer y ceisiadau newydd am atwrneiaethau. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol, a’r trydydd tro i’r OPG adennill costau’n agos at y targed o 100%. Y galw i gofrestru atwrneiaethau yw un o’r prif sbardunau ar gyfer perfformiad ariannol yr OPG. O ran pandemig COVID-19, mae rhagolygon galw’r OPG yn 2020/21

yn ystyried gostyngiad yn y galw am y gwasanaeth hwn - a chafodd hyn ei adlewyrchu wrth osod y gyllideb ar gyfer 2020/21. Adroddiad cynaliadwyedd Rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith ar y byd naturiol ac i gefnogi ein cymunedau. I wneud hyn, rydym yn mesur ein heffaith ar y byd ac yn gweithio i leihau ein defnydd o adnoddau cyfyngedig, allyriadau nwyon t? gwydr a theithio diangen. ###Casglu data a chwmpas adroddiadau

Rydym yn adrodd ar y cyfleustodau a ddefnyddiwyd, y teithiau a wnaed a’r gwastraff a gynhyrchwyd. Mae’r rhain yn cael eu mesur yn erbyn

y blynyddoedd blaenorol ac ar y cyd â thargedau Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth. Daeth y targedau hyn i ben yn 2014/15 ond fe’u diwygiwyd ym mis Mawrth 2018, felly rydym nawr yn adrodd yn erbyn yr ymrwymiadau newydd hyn, ac mae gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder dargedau penodol ar eu cyfer.

Mae ein data yn cael ei gymryd yn uniongyrchol o fesuryddion cyfleustodau, cyflenwyr a chontractwyr gwaredu gwastraff. Os ydym yn rhannu adeiladau a chyflenwad cyfleustodau, rydym yn seilio ein ffigurau defnydd ar y lle sydd gennym.

Nid oes gennym gerbydau fflyd, ac mae milltiroedd cerbydau personol (fflyd lwyd) a ddefnyddir ar gyfer teithiau busnes yn cael eu nodi yn yr hawliadau am dreuliau.

Dim ond defnydd o bapur y swyddfa gefn y mae’n rhaid i ni adrodd amdano; fodd bynnag, rydym yn defnyddio llawer iawn o bapur wrth ddarparu pecynnau LPA i gwsmeriaid, felly er mwyn bod yn dryloyw rydym yn adrodd ar y rhain hefyd. Rydym hefyd wedi amcangyfrif yr allyriadau carbon wrth i becynnau LPA deithio yn y post.

Ar ddiwedd y flwyddyn mae ein data yn cael ei grynhoi yn adroddiad blynyddol a chyfrifon adrannau y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Gwybodaeth am ein hystadau

Mae’r OPG yn defnyddio ystadau yn Birmingham a Nottingham. Ffigurau blwyddyn 2017/18 sydd wedi gosod y waelodlin - byddwn yn defnyddio’r rhain i fesur blynyddoedd y dyfodol yn fewnol, ar ôl blynyddoedd lawer o ehangu a newid.

Nid yw tîm o bump yr OPG yn Petty France wedi’i gynnwys yn yr adroddiad hwn gan fod ffigurau’r safle hwn yn cael eu hadrodd yn uniongyrchol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Ein targedau a chyflawniadau

Mae targedau Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth a pherfformiad yr OPG i’w gweld yn y tablau isod. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, nid yw’r OPG wedi cyrraedd y targedau cyfanswm gwastraff, d?r a phapur oherwydd y cynnydd parhaus yn y llwyth gwaith a nifer y staff ers y blynyddoedd gwaelodlin. O ran papur, er bod cynnydd mewn termau real, bu gostyngiad yn y papur a ddefnyddir fesul achos – gostyngiad o 70% ers gwaelodlin 2009/10. Yn sgil darparu adnodd digidol y gellir ei ddefnyddio i lenwi ffurflenni LPA cyn eu llofnodi fe welwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y pecynnau y mae’r OPG yn eu hanfon at ein cwsmeriaid.

Mae ein gwastraff wedi cynyddu ond mae hyn yn cyd-fynd â’r cynnydd yn nifer y staff a’r llwyth gwaith yn yr asiantaeth. Rydym yn ailgylchu lle gallwn – fel batris; ac eleni buom yn ailgylchu bagiau creision i godi arian i elusennau. Rydym hefyd yn ceisio gwahanu gwastraff yn ein hadeiladau lle bo modd.

Methwyd â chyrraedd ein targedau d?r o ganlyniad i’r cynnydd yn nifer y staff ers mesur y waelodlin yn 2014/15. Fodd bynnag, rydym yn edrych ar ffyrdd o leihau’r defnydd o dd?r fesul FTE – ar hyn o bryd rydym yn edrych ar y rhesymau pam fod ein defnydd o dd?r wedi cynyddu yn Embankment House.

faint o wastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.

Yn gyffredinol, mae ein hallyriadau CO2 o gyfleustodau wedi gostwng 61% ers 2009/10. Mae hyn yn rhannol oherwydd camau’r OPG wrth i ni symud i adeiladau mwy newydd, mwy effeithlon, yn ogystal â defnyddio offer TG sy’n defnyddio llai o b?er ers mis Mawrth 2018, ac yn rhannol oherwydd cynnydd mewn datgarboneiddio yng nghyflenwad trydan y DU. Rydym yn defnyddio llai o drydan a nwy er bod gennym fwy o staff – gwasanaethu a rheoli ein systemau gwresogi ac oeri sydd i gyfrif am lawer o hyn – ac mae’n caniatáu inni wneud defnydd mwy effeithlon ohonynt.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae nifer yr hediadau domestig a wnaed yn rhy isel i allu llunio cymariaethau ystyrlon rhwng y blynyddoedd; fodd bynnag, roedd pedair taith ar awyren lle byddai teithiau trên wedi bod yn rhy hir neu wedi golygu dechrau teithio’r diwrnod cynt.

Sylwch wrth gymharu’r tablau isod â’r blynyddoedd blaenorol y dylid ystyried newidiadau i’r blynyddoedd gwaelodlin.

Y mrwymiad Gwyrdd y
Llywodraeth
Targed y Weinyddiaeth Gyfiawnder hyd at 2020 Ein sefyllfa ar 31 Mawrth 2020 Canlyniad
Allyriadau nwyon t? gwydr gostyngiad o 38% gostyngiad 61% Wedi’i fodloni
Hediadau domestig Gostyngiad o 30% mewn hediadau domestig o’i gymharu â 2009/10 Roedd pedair taith ar awyren ddomestig, ond mae’r niferoedd yn rhy isel i allu llunio cymariaethau ystyrlon Amh.
Gwastraff Gostyngiad o 31% mewn gwastraff o’i gymharu â 2015/16 Cynnydd o 160% Ddim wedi’i fodloni
  <10% i safle tirlenwi 0% Wedi’i fodloni
  Cynyddu ailgylchu a rhagori ar lefelau 2015/16 (59%) 100% Wedi’i fodloni
D?r Gostyngiad o 4% o’i gymharu â 2014/15 cynnydd o 60% Ddim wedi’i fodloni
Papur Gostyngiad o 50% o’i gymharu â 2009/10 Cynnydd o 190% mewn termau absoliwt, gostyngiad o 70% mewn defnydd fesul achos Ddim wedi’i fodloni

Dangosir ffigurau cyfanswm y defnydd ac allyriadau, ynghyd â gwariant os yw ar gael, isod.

Ffynonellau CO2 Swm ** Tunelli CO2e** ** Gwariant **
Nwy ((cwmpas 1) 540,187 99.2 £17,000
Trydan (cwmpas 2) 973,379 269.9 £172,600
Teithio (cwmpas 30      
Rheilffordd (gan gynnwys y London Underground 1,045,450km 48.9 £279,733
Fflyd lwyd (ceir) 121,600km 21.8 £30,400
Awyr 3,700 0.58 £417
** Adnoddau cyfyngedig ** ** Swm **   ** Gwariant**
Gwastraff Cyfanswm 74.5 tonnes  
  Wedi’i ailgylchu 70%  
  Troi gwastraff yn ynni 30% Mae hyn yn rhan o’r tâl gwasanaeth ar gyfer yr adeilad
  D?r 6,965 metr ciwbig  
Paper 37,715 rîm (swyddfa gefn) 9,495 fel pecynnau LPA   £128,679

Teithio

Yn 2019/20 gwnaed 14% yn llai o deithiau na’r blynyddoedd blaenorol, sef 1.17 miliwn cilomedr. Mae angen gwneud rhagor o waith i leihau nifer y teithiau a wneir rhwng ein swyddfeydd yn ystod y flwyddyn nesaf; rydym yn prynu gwell technoleg gweithio o bell i hwyluso hyn a lleihau’r angen i deithio ar gyfer cyfarfodydd.

Mae teithio mewn car yn hanfodol i gyflawni dyletswydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus o oruchwylio dirprwyon drwy ymwelwyr Llys Gwarchod sy’n mynychu cartrefi P a dirprwyon. Mae natur yr ymweliadau hyn yn golygu nad yw trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn ymarferol yn y rhan fwyaf o amgylchiadau.

Rydym yn gweithio’n agos gyda chynghorau lleol a gweithredwyr trafnidiaeth i alluogi staff i fanteisio ar docynnau bws am bris is yn ogystal â chyfleusterau parcio a theithio. Mae’r cynllun beicio i’r gwaith yn cael ei

hyrwyddo ac fe ddarperir cyfleusterau newid a storfa ddiogel ar gyfer beiciau. Mae opsiynau teithio llesol hefyd yn cael eu hyrwyddo fel rhan o agenda lles yr OPG er mwyn hyrwyddo ymarfer corff a ffyrdd iach o fyw.

Mae’r OPG yn rhedeg hyb i gymudwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Embankment House at ddefnydd staff a fyddai fel arfer yn gorfod teithio i swyddfeydd pell.

Gwreiddio cynaliadwyedd yn ein gwaith

Rydym yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynaliadwyedd i staff yn rheolaidd mewn bwletinau mewnol. Mae blogiau a’n rhwydwaith o hyrwyddwyr cynaliadwyedd yn ennyn diddordeb y staff i annog agwedd gynaliadwy tuag at ein holl waith. Mae’r hyrwyddwyr cynaliadwyedd yn adolygu syniadau gan staff ynghylch sut i leihau ein heffaith amgylcheddol ac yn rhoi awgrymiadau ar waith lle bo hynny’n ymarferol, ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ynghylch y camau a fu’n llwyddiannus.

Mae’r gr?p cynaliadwyedd yn gweithio’n agos gyda grwpiau amrywiaeth a lles yr OPG er mwyn annog camau cynaliadwy a gwirfoddoli. Mae staff yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau cynaliadwyedd a gwirfoddoli gyda phartneriaid allanol. Mae pob aelod o staff yn cael lwfans o bum diwrnod y flwyddyn ar gyfer gwirfoddoli.

Rhoddwyd mwy o bwyslais ar ddulliau gweithio hyblyg fel gweithio gartref neu hybiau i gymudwyr er mwyn osgoi teithio’n ddiangen, ac mae llawer o staff wedi manteisio ar hyn. Mae hyn hefyd yn galluogi’r OPG i ohirio ehangu’r ystâd am fod modd darparu ar gyfer mwy ostaff o fewn yr un gofod.

Mae dyfeisiau TG newydd hefyd yn galluogi telegynadledda a fideogynadledda a chydweithio obell, felly mae’r angen i deithio wedi gostwng. Bydd caffael technoleg ychwanegol a’rsesiynau hyfforddiant cysylltiedig yn gwreiddio trefniadau cydweithio o bell ymhellach.

Nick Goodwin
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
14 Gorffennaf 2020

Adroddiad atebolrwydd

Adroddiad llywodraethu corfforaethol

Cyflwyniad

Diben yr adroddiad llywodraethu corfforaethol yw egluro cyfansoddiad a threfniadaeth strwythurau llywodraethu’r corff a sut maen nhw’n helpu i gyflawni amcanion y corff. Mae ein dogfen fframwaith yn nodi’r trefniadau ar gyfer llywodraethu, atebolrwydd, cyllido, staffio a gweithrediadau. Gellir darllen y ddogfen yn llawn ar GOV.UK, https://www.gov.uk/ government/publications/opg-corporate-framework

Fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r OPG, rwy’n gyfrifol am ddefnydd yr OPG o adnoddau wrth gyflawni ei swyddogaethau fel yr amlinellir yn y ddogfen fframwaith. Mae Rheoli Arian Cyhoeddus fel y cyhoeddwyd gan Drysorlys EM hefyd yn nodi cyfrifoldebau Swyddog Cyfrifyddu.

Fel Swyddog Cyfrifyddu, rwyf yn gyfrifol yn bersonol am: amddiffyn y cronfeydd cyhoeddus yr wyf yn gyfrifol amdanynt, sicrhau priodoldeb a chysondeb wrth ymdrin â chronfeydd cyhoeddus, a gweithrediadau a rheolaeth yr OPG o ddydd i ddydd. Ar ben hynny, mae’n rhaid i mi sicrhau bod yr OPG yn gyffredinol yn cael ei rhedeg yn unol â’r safonau, a hynny mewn perthynas â llywodraethu, gwneud penderfyniadau a rheoli arian.

Mae fy adroddiad yn amlinellu’r trefniadau llywodraethu sydd ar waith i reoli’r risgiau o beidio â chyflawni’r amcanion a’r targedau mae’r OPG wedi cytuno arnynt. Mae hefyd yn darparu trosolwg a rheolaeth effeithiol dros adnoddau ac asedau’r OPG. Mae’n cynnwys y canlynol:

  • adroddiad y cyfarwyddwr
  • datganiad o gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu
  • datganiad llywodraethu

Adroddiad y Cyfarwyddwr

Mae strwythur bwrdd yr OPG, y pwyllgor archwilio a risg, a’r tîm gweithredol, ar dudalen 38. Maen nhw’n gyfrifol am osod cyfeiriad strategol yr OPG yn ogystal â monitro perfformiad yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt.

Datganiad o fuddiannau’r cyfarwyddwyr

Mae gofyn i gyfarwyddwyr anweithredol ddatgan unrhyw gyfarwyddiaethau a gwrthdaro buddiannau adeg eu penodi i’r swydd. Mae gofyn hefyd i bob aelod o’r bwrdd ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau ar ddechrau pob cyfarfod. Nid oedd unrhyw ddatganiadau yn ystod 2019/20.

Digwyddiadau yn ymwneud â data personol

Ystyriwyd a oedd unrhyw ddigwyddiad yn cynnwys data personol mor ddifrifol fel bod angen rhoi gwybod i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth amdano. Nid oedd unrhyw ddigwyddiadau a oedd mor ddifrifol â hynny yn ystod y flwyddyn.

Mae’r datganiad llywodraethu yn rhoi ystyriaeth bellach i arferion sicrhau gwybodaeth a diogelwch data yn yr OPG.

Iechyd a diogelwch

Mae’r OPG yn cydnabod ei chyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a lles ei chyflogeion a’r holl bobl sy’n defnyddio ei safleoedd. Mae aelodaeth Bwrdd yr OPG yn cynnwys y canlynol: Gwarcheidwad Cyhoeddus/Prif Weithredwr (cadeirydd
Alan Eccles (tan fis Mehefin 2019
Nick Goodwin (o fis Gorffennaf 2019)

Tri o uwch weision sifil yr OPG
Julie Lindsay
Jan Sensier
Sunil Teeluck

Tri o gyfarwyddwyr anweithredol
Alison Sansome
Shirnivas Honap
Karin Woodley

Cynrychiolydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Abigail Plenty/Laura Beaumount (rhannu swydd)

Cynrychiolydd cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Paul Henson

Datganiad o gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu

O dan Adran (7)2 o Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000, mae Trysorlys EM wedi cyfarwyddo’r OPG i baratoi datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol ar y ffurf a’r sail a nodwyd yn y Cyfarwyddyd Cyfrifyddu. Caiff y cyfrifon eu paratoi ar sail croniadau ac mae’n rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa’r OPG a’i hincwm a gwariant, ei datganiad o sefyllfa ariannol a llif arian ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Wrth baratoi’r cyfrifon, mae gofyn i’r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth ac yn benodol:

  • glynu wrth y Cyfarwyddyd Cyfrifyddu a gyhoeddir gan Drysorlys EM, gan gynnwys ygofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu priodol yn gyson
  • gwneud penderfyniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol
  • dweud a yw’r safonau cyfrifyddu perthnasol sydd wedi’u nodi yn Llawlyfr AdroddiadauAriannol yLlywodraeth wedi cael eu dilyn, a datgelu ac esbonio unrhyw wyriadau o bwys yn ydatganiadau ariannol
  • paratoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes byw
  • cadarnhau bod yr adroddiad blynyddol a chyfrifon yn ei gyfanrwydd yn deg, yn gytbwysac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol dros yr adroddiad blynyddol a chyfrifona’r dyfarniadau sy’n ofynnol er mwyn penderfynu ei fod yn deg, yn gytbwys ac ynddealladwy

Mae Prif Swyddog Cyfrifyddu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dynodi’r Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu’r OPG. Mae cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, gan gynnwys cyfrifoldeb dros briodoldeb a chysondeb y cyllid cyhoeddus y mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol amdanynt, cadw cofnodion cywir ac amddiffyn asedau’r OPG, wedi’u nodi yn Rheoli Arian Cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM.

Fel Swyddog Cyfrifyddu, rwy’n gallu cadarnhau fy mod wedi cymryd yr holl gamau y dylwn fod wedi’u cymryd i sicrhau fy mod yn gwybod am unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol ac i ganfod bod archwilwyr yr OPG yn ymwybodol o’r wybodaeth honno. Nid oes gwybodaeth archwilio berthnasol nad yw’r archwilwyr yn ymwybodol ohoni, hyd y gwyddwn.

Nick Goodwin
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
14 Gorffennaf 2020

Datganiad llywodraethu

Mae’r datganiad hwn yn esbonio sut rwyf i, fel Swyddog Cyfrifyddu, wedi cyflawni fy nghyfrifoldeb o reoli adnoddau’r OPG yn ystod y flwyddyn. Mae’r datganiad hwn yn disgrifio trefniadau llywodraethu’r OPG ac yn cyflwyno asesiad o’r modd rwyf wedi mynd ati i gydbwyso risg, sicrwydd a rheolaeth drwy gydol 2019/20.

Cyflwyniad

Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw Prif Swyddog Cyfrifyddu’r adran. Mae cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu wedi’u nodi ym mhennod 3 o Rheoli Arian Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM. Mae’r Prif Swyddog Cyfrifyddu wedi fy nynodi fel Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer gwariant gweinyddol yr OPG, ac mae wedi diffinio fy nghyfrifoldebau a’r berthynas rhwng Swyddog Cyfrifyddu a Phrif Swyddog Cyfrifyddu’r OPG.

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ddeiliad swydd statudol a benodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder o dan Adran 57 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Mae’r rôl statudol hon wedi’i chyfuno â rôl weinyddol prif weithredwr yr OPG a swyddog cyfrifyddu’r asiantaeth, fel y nodir yn nogfen fframwaith y Weinyddiaeth Gyfiawnder/OPG.

Roedd y Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi newid ym mis Mehefin 2019. Fel rhan o’r broses drosglwyddo honno, rhoddodd y Gwarcheidwad Cyhoeddus a oedd yn ymadael sicrwydd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus newydd ynghylch y prosesau a’r rheolaethau dros weithgareddau’r Asiantaeth yn ystod y cyfnod hwnnw. Arhosodd aelodaeth y Bwrdd (gan gynnwys y cynrychiolydd ariannol) yr un fath, ac roedd wedi darparu sicrwydd ar gyfer y cyfnod hwnnw hefyd. Cafodd y Gwarcheidwad Cyhoeddus newydd ei gynefino’n llawn i’r Asiantaeth, ac fel rhan o hynny cafodd gopïau o’r adroddiadau ariannol, risg a pherfformiad ar gyfer y flwyddyn gyfan.

Fframwaith llywodraethu

Mae effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu, rheoli risg a system o reolaeth fewnol yr OPG wedi’i nodi yn y datganiad llywodraethu hwn.

Mae’r datganiad yn cynnwys yr asesiad o gydymffurfiaeth â Chod Llywodraethu Corfforaethol y Trysorlys sy’n ofynnol. Er bod y cod yn canolbwyntio ar adrannau gweinidogol, lle bo hynny’n berthnasol, mae’r OPG yn defnyddio’r egwyddorion y mae’n ystyried sy’n gymesur â’i maint, statws a fframwaith cyfreithiol.

Fframwaith llywodraethu’r OPG

Ceir strwythurau’r bwrdd a phwyllgorau isod.

Bwrdd yr OPG
Darparu arweiniad strategol a chyfeiriad, gan gefnogi’r gwaith o gyflawni’r amcanion sydd yn y cynllun busnes

Y pwyllgor archwilio a risg
Rhoi barn annibynnol i’r Prif Swyddog Gweithredol o ddulliau llywodraethu, rheoli risg a sicrwydd yr OPG

Y tîm rheoli gweithredol
Yn atebol i’r Prif Weithredwr: Sicrhau rheolaeth effeithiol o gyllid, perfformiad, risg, y gweithlu, Adnoddau Dynol, cwynion, cyflenwi busnes, arweinyddiaeth a dathlu llwyddiant

Pwyllgor trawsnewid
Yn atebol i’r Bwrdd: Profi a herio ffrydiau gwaith unigol a rhoi sicrwydd ynghylch cyflawni rhaglen drawsnewid yr OPG

Pwyllgor iechyd a diogelwch
Cynorthwyo’r Prif Weithredwr â’i gyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974 a sicrhau bod yr OPG yn lle diogel ac iach i weithio

Gwaith y bwrdd

Yn 2019/20, roedd y bwrdd yn arwain yr OPG yn strategol ac yn weithredol. Roedd hefyd yn herio ac yn craffu ar faterion sy’n effeithio ar ein perfformiad a pholisïau. Mae gan y bwrdd wyth prif faes cyfrifoldeb:

  • amddiffyn a gwella enw da’r OPG drwy lywio a goruchwylio cyfeiriad yr OPG wrth gyflawniei nodau ac amcanion
  • gweithredu o fewn dogfen fframwaith y Weinyddiaeth Gyfiawnder/OPG fel ycytunwyd arni gyda’r Gweinidog a’rCyfarwyddwr Cyffredinol priodol. Mae ei aelodau yn gwneud penderfyniadau ary cyd ac nid fel cynrychiolwyr y meysydd busnes maen nhw’n eu harwain
  • darparu cyfeiriad strategol, cytuno ar nodau’r busnes, amcanion a chynllunio, gan osodtargedau ar gyfer y sefydliad a gwireddu’r weledigaeth
  • monitro ein perfformiad, cyfathrebu gyda staff ynghylch gwerthoedd acymddygiad, gan oruchwylio gweithrediadau a rheoli risg
  • cymeradwyo dyrannu’r gyllideb flynyddol ac unrhyw newidiadau sylweddol iddi yn ystod yflwyddyn
  • cefnogi’r gwaith o gynnal perthynas waith gadarn rhwng ein staff a’i sefydliadau partner
  • cymeradwyo ein fframwaith llywodraethu a rheolaethau corfforaethol, amonitro sut maen nhw’n cael eu gweithredu bob chwarter
  • sicrhau bod rheolaeth ariannol, cynllunio a pherfformiad yr OPG yn cael ei gwneud yneffeithlon ac yn effeithiol ac yn agored ac yn dryloyw. Hefyd, cyfrannu at ddatblyguein cynllun busnes blynyddol, a’i gymeradwyo

Prif lwyddiannau ac effeithiolrwydd

Yn ogystal â derbyn papurau ynghylch cyllid, perfformiad a risg ym mhob cyfarfod, mae’r bwrdd yn gwneud y canlynol:

  • mynd ati’n rheolaidd i adolygu a dwyn i gyfrif y rheini yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’ngyfrifol am ddarparu gwasanaethau i’r OPG drwy drefniadau arweinyddiaethswyddogaethol er mwyn gwneud yn si?r bod pawb yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawniblaenoriaethau’r OPG
  • derbyn gwybodaeth ariannol, perfformiad a risg yn rheolaidd, ac yn rhydd i ofyn amwybodaeth ychwanegol os bydd ei hangen arnynt. Mae’r Bwrdd o’r farn bod y data

yn dderbyniol gan fod fforymau eraill megis y Pwyllgor Archwilio a Risg yn bodoli i sicrhaubod y data sy’n mynd gerbron y Bwrdd yn gywir ac yn adlewyrchiad teg o’r sefyllfa o fewnyr asiantaeth

  • parhau i ddarparu’r cyfeiriad strategol ar gyfer rhaglen waith OPG 2025 er mwyn gwneudyn si?r bod dealltwriaeth glir ar draws yr asiantaeth yngl?n â’r prif flaenoriaethau ar gyferdarparu
  • darparu’r penderfyniadau strategol angenrheidiol i sicrhau bod cyllid yrasiantaeth yn aros o fewn y gyllideb
  • cynnal diwrnod cwrdd i ffwrdd – canlyniad y diwrnod oedd gwell dealltwriaeth a ffocws oran strategaeth yr asiantaeth, yn enwedig mewn perthynas â rhaglen drawsnewid OPG2025 a chynaliadwyedd yr asiantaeth. Roedd hefyd yn cynnwys sesiwn ar effeithiolrwyddy Bwrdd – gan gynnwys penderfyniad i gynnal adolygiad allanol o gyfarfodyddllywodraethu’r Bwrdd a’r OPG y flwyddyn ganlynol

Ein his-bwyllgorau a phwyllgor cynghori annibynnol

Mae gan y bwrdd ddau is-bwyllgor: cyfarfod y tîm rheoli gweithredol a’r pwyllgor trawsnewid. Mae pwyllgor archwilio a risg yr OPG yn bwyllgor cynghori annibynnol i’r bwrdd. Mae’r bwrdd yn dirprwyo gwaith i’r pwyllgorau/cyfarfodydd gweithredol fel bod grwpiau llai yn gallu archwilio materion yn fwy manwl. Wedyn, mae’r pwyllgorau’n cyflwyno eu canfyddiadau i’r bwrdd i’w trafod a phenderfynu (gan ddilyn “Llywodraethu corfforaethol mewn adrannau llywodraeth ganolog: Cod Ymarfer da”).

  Cyfarfod rheoli gweithredol Pwyllgor trawsnewid Y Pwyllgor Archwilio a Risg
Rolau a chyfrifoldebau Canolbwyntio’n bennaf ar gyflawniad gweithredol o ddydd i ddydd    
mewn perthynas â busnes yr OPG, gan gynnwys cyllid, perfformiad, risg, gweithlu, newid/cynllunio, cwynion, HE (rheoli presenoldeb, recriwtio), arweinyddiaeth o ran cyflawni busnes, ymgysylltu â chyflogeion a dathlu llwyddiant Dod â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd o bob rhan o’r OPG a phartneriaid i sicrhau bod y portffolio o raglenni newid yn yr OPG yn cael ei gyflawni Mae gan y pwyllgor trawsnewid strwythur llywodraethu dirprwyedig oddi tano er mwyn sicrhau bod y portffolio o brosiectau’n cael ei gyflawni Cynghori ar sut y gellir hwyluso gwelliannau a phenderfynu ar gynnydd o ran ymatebion rheolwyr i’r risgiau a nodwyd Cymeradwyo gwaith yr archwiliadau mewnol ac allanol Cytuno bod y polisïau cyfrifyddu yn gywir ac yn cael eu defnyddio’n briodol mewn perthynas â thrafodion y sefydliad Darparu argymhellion i’r Swyddog Cyfrifyddu ar bob mater y mae’r pwyllgor yn ei ystyried yn addas
Cadeirydd Newid o gadeiryddiaeth sy’n cael ei chylchdroi(aelodaeth y pwyllgor) i Nick Goodwin, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr, fel yr unig gadeirydd Jan Sensier, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Corfforaethol Shrinivas Honap, Cyfarwyddwr Anweithredol y Bwrdd
  Cyfarfod rheoli gweithredol Pwyllgor trawsnewid Y Pwyllgor Archwilio a Risg
Prif lwyddiannau a chyflawniadau * Rheoli perfformiad a chyllid o ddydd i ddydd
* Cynrychioli’r OPG mewn digwyddiadau allanol
*
* Cynllun Busnes yr OPG wedi’i lofnodi gan Alan Eccles, Mike Driver, yr Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidogion cyn iddo gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2019
* Cynhaliwyd dau ddiwrnod cwrdd iffwrdd i adolygu effeithiolrwydd y Bwrdd. Cafodd y ddau ddiwrnod eu hwyluso’n annibynnol
* Adolygu’r fframwaith llywodraethu
* Strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu yr OPG 2019/20 – gofynnwyd am sêl bendith ar gyfer cam nesaf yr ymgyrchoedd cyfathrebu ac ymgysylltu (‘Eich llais chi, eich penderfyniad chi’)
* Cymeradwywyd yr adroddiad perfformiad ar ei newydd wedd (Ebrill 2019). Mae’r adroddiad bellach yn cael ei osod mewn cwadrantau gyda sylwebaeth ychwanegol
* Ad-dalu ffioedd goruchwylio - cafwyd cymeradwyaeth gan Gynghorwyr Arbennig
* Unigolion coll – Cytunodd y Gweinidog ar drefn ffioedd hy ffi gyffredinol o£320 a ffi sefydlu o £200. Bydd gostyngiadau ac esemptiadau hefyd yn berthnasol
* Dirprwyo cyfrifoldeb dros gyflawni’r portffolio gan Fwrdd yr OPG
* Sicrhau bod y fframwaith a’r strategaeth ar gyfer gweledigaeth OPG 2025 ar y trywydd iawn
* Sicrhau bod y portffolio brosiectau o fewn OPG yn cael ei gyflawni
* Cymeradwyo Achos Busnes Amlinellol Strategol
* Parhau i roi sicrwydd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus mewn materion sy’n ymwneud â rheoli’r fframwaith risg cyfan a risgiau unigol penodol
* a’r camau lliniaru sy’n deillio ohonynt
* Sicrhau bod y rhaglen archwilio flynyddol yn cael ei chyflawni mewn ffordd gost-effeithiol gan sicrhau bod yr holl feysydd risg sylweddol yn cael eu hadolygu gan archwilwyr mewnol ac allanol
* Cytuno ar sut y byddai risgiau gwrth-dwyll yn cael eu nodi a’u monitro
* Goruchwylio’r
* cynnydd o ran Cydymffurfio â GDPR
* Cynghori a oes modd llofnodi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr OPG
    Bwrdd yr OPG   Rheoli
gweithredol
  Y Pwyllgor Archwilio a Risg   Pwyllgor trawsnewid      
  Nifer y cyfarfodydd a fynychwyd Nifer y cyfarfodydd cymwys Nifer y cyfarfodydd a fynychwyd Nifer y cyfarfodydd cymwys Nifer y cyfarfodydd a fynychwyd Nifer y cyfarfodydd cymwys Nifer y cyfarfodydd a fynychwyd Nifer y cyfarfodydd cymwys      
Alan Eccles – Prif Swyddog Gweithredol a Gwarcheidwad Cyhoeddus (tan fis Mehefin 2019) 3 3 3 3 2 2 0 3      
Nick Goodwin – Prif Swyddog Gweithredol a Gwarcheidwad Cyhoeddus (o fis Gorffennaf 2019 8 7 9 2 2 3 7        
Sunil Teeluck – Pennaeth, Cyfreithiol a Gwybodaeth 10 11 9 11 4 4 4 10      
Julie Lindsay – Prif Swyddog Gweithredu 11 11 10     11 9 10      
an Sensier – Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Corfforaethol 11 11 8 11 4 4 8 10      
Paul Henson – Dirprwy Gyfarwyddwr – Cyllid 10 11 3 9 4 4 2 10      
Abigail Plenty/Laura Beaumont – Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Bregusrwydd (dirprwy Liz Eaton, Galluedd Meddyliol) 11 11                  
Shrinivas Honap – Cyfarwyddwr Anweithredol 9 11     4 4 - -      
Alison Sansome – Cyfarwyddwr Anweithredol 10 11         9 10      
Karin Woodley – Cyfarwyddwr Anweithredol 7 11     4 4 - -      
Anne Fletcher – Aelod Annibynnol Archwilio a Risg         4 4 - -      
Iain Dougall – Pennaeth, Gwasanaeth Atwrneiaeth (tan fis Chwefror 2020)     7 9   9   10      
Marie Owen – Pennaeth, Gwasanaeth Atwrneiaeth fis Chwefror 2020)     1 2   1 1        
Angela Johnson – Pennaeth, Polisi ac Ymarfer (tan fis Awst 2019)     5 5     - -      
Ria Baxendale – Pennaeth, Polisi     7 11     8 10      
Chris Jones – Pennaeth, Perfformiad, Cynllunio a Datblygu Busnes.     9 11     9 10      
Helen Journeaux – Pennaeth, Llywodraethu, Sicrwydd a Gwasanaethau Corfforaethol     9 11 3 4 9 10      
Marie Lane – Pennaeth, Datblygu Pobl     7 11     6 10      
Jill Twigger – Pennaeth, Gwasanaethau Goruchwylio ac Ymchwilio (o fis Chwefror 2020)     1 2           - -
Matthew Butler Pennaeth Dros Dro, Gwasanaethau Goruchwylio ac Ymchwilio (o fis Medi 2019 tan fis Chwefror 2020)     4 5     5 5      
May Smith – Uwch Bartner Busnes Cyllid (o fis Ionawr 2020)     1 2     2 2      
Gemma Harvey – Pennaeth Cyfrifon Rheoli a BP     9 9     8 10      
Claire Davies – Rheolwr Cyllid (tan fis Ionawr 2020) 020)     7 9     5 8      
Meera Bhalla – Uwch Bartner Busnes Adnoddau Dynol     9 11     3 10      
Lucy Denton – Pennaeth, Cyfathrebu     10 11     9 10      
Sarah Slack – Pennaeth, Digidol (tan fis Awst 2019))     3 5     2 5      
Matthew Machell – Digidol (Medi i Tachwedd 2019)     3 3     2 3      
Su Morgan – Pennaeth, Digidol (o fis Tachwedd 2019)         2 2          

Cylch gorchwyl

Mae cylch gorchwyl pwyllgorau a Bwrdd yr OPG yn cyd-fynd ag Arweiniad y Cyngor Adrodd Ariannol ar Effeithiolrwydd Byrddau (Mawrth 2011) a’r Safon Llywodraethu Da ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth/ Y Swyddfa Rheolaeth Gyhoeddus Cyf, er mwyn sicrhau bod y trefniadau llywodraethu yn cael eu hadlewyrchu yn y cylch gorchwyl.

Cafodd gwaith ei wneud yn ystod 2019/20 i wneud yn si?r bod Fframwaith Gweithredu’r OPG yn dal yn addas i’r diben o ystyried y newidiadau i faint yr asiantaeth dros amser, a hefyd i’w adolygu a sicrhau ei fod yn gyson â’r dogfennau a restrwyd uchod. Adolygwyd y cylchoedd gorchwyl i sicrhau bod dulliau llywodraethu cyson ac eglur yn cael eu rhoi ar waith ar draws y busnes, ac i wneud yn si?r bod llinellau clir ar gyfer gwneud penderfyniadau ac i gryfhau perchnogaeth ac atebolrwydd fframwaith llywodraethu cyffredinol yr OPG; mae’r rhain wedi cael eu dwyn ynghyd mewn un ddogfen glir.

Mae’r ddogfen hon hefyd yn amlinellu’r cysylltiadau rhwng y Bwrdd a’i bwyllgorau, y goddefiannau a fframwaith adolygu clir i bawb. Mae’r Fframwaith Gweithredu hwn hefyd yn cynnwys yr is-bwyllgorau newydd

oddi tan gyfarfod y tîm rheoli gweithredol; fe ddaeth i rym ym mis Ebrill 2020 a bwriedir cynnal adolygiad ar ôl 12 i 18 mis.

Archwiliad mewnol

Fel Swyddog Cyfrifyddu a Phrif Weithredwr, rwyf wedi sefydlu a chynnal trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau archwilio mewnol gan Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth o fewn yr OPG yn unol â’r amcanion a’r safonau ar gyfer archwilio mewnol a nodwyd yn Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM). Mae hyn yn galluogi cynnal gwerthusiad annibynnol a gwrthrychol o berfformiad rheoli wrth ddarparu trefniadau effeithiol ar gyfer llywodraethu, rheoli risg a rheolaethau mewnol.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cael copïau o adroddiad blynyddol a chynlluniau archwilio mewnol blynyddol yr OPG gen i. Rhoddir gwybod i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Swyddfa’r Cabinet ynghylch unrhyw dwyll neu afreoleidd-dra o fewn y diffiniad a nodwyd gan Drysorlys EM.

Cynhaliodd Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth chwe archwiliad ar ran yr OPG yn ystod 2019/20. Roedd pob un o’r aseiniadau archwilio mewnol a gwblhawyd wedi cael eu nodi fel cymedrol neu sylweddol.

Sgôr Teitl yr archwiliad
Sylweddol Rheoli’r gyllideb
Goruchwylio dirprwyon
Cyfathrebu mewnol
Trawsnewid
Cymedrol Mesurau cynhyrchiant yr OPG
Rheoli perfformiad
Cyfyngedig DIM
Anfoddhaol DIM

Yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2019/20 mae’r Pennaeth Archwilio Mewnol wedi rhoi barn flynyddol gymedrol i’r OPG ar y fframwaith rheolaeth, llywodraethu a rheoli risg. Diffinnir barn gymedrol fel ‘Mae angen rhai gwelliannau i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheolaeth, llywodraethu a rheoli risg.’

Rheoli risg, rheolaeth a sicrwydd

Mae’r OPG yn cynnal dull cyson o reoli risg o fewn y sefydliad. Defnyddir dulliau rheoli risg yn effeithiol i hysbysu’r busnes am fygythiadau go iawn neu faterion sy’n dod i’r amlwg ac sy’n debygol o effeithio ar y gallu i gyflawni amcanion y busnes.

Y prif risgiau lefel gorfforaethol a gafodd eu hystyried yn ystod y flwyddyn oedd:

  • Cydymffurfio â GDPR
  • Arweinyddiaeth Swyddogaethol
  • Methu ag adennill costau
  • Oedi wrth fynd ag achosion i’r llys lle mae angen cymryd camau cyfreithiol
  • Cadw staff
  • Brexit a’i effaith ar flaenoriaethau’r llywodraeth a’r rhaglen ddeddfwriaethol

Mae’r materion a’r risgiau sy’n dod i’r amlwg y bydd angen eu rheoli yn y flwyddyn nesaf yn cynnwys:

  • COVID-19 – yr angen i werthuso’r ffyrdd o reoli perfformiad ariannol a gweithredol oganlyniad i heriau’r feirws. Bydd angen i hyn gynnwys cynllun adfer
  • Sicrhau ystâd gynaliadwy, briodol a fforddiadwy ar gyfer yr OPG – gan sicrhau ein bod yndysgu o’r sefyllfa bresennol o ran COVID-19 er mwyn sicrhau bod yr ystâd yn galludarparu ar gyfer yr arferion gweithio mwy hyblyg a fydd yn parhau i’r dyfodol

  • Ymgysylltu’n ehangach â rhanddeiliaid i wneud yn si?r bod pawb yn ymwybodol o’rgwasanaethau mae OPG yn eu cynnig, ynghyd â’u gwerth, a sicrhau bod lefel uchel owybodaeth am y Ddeddf Galluedd Meddyliol mewn meysydd fel yr adran iechyd a gofalcymdeithasol

Rheolir risgiau sy’n is na’r lefel gorfforaethol o fewn y cyfarwyddiaethau, ac os oes angen caiff risgiau eu huwchgyfeirio i’r gofrestr gorfforaethol. Mae’r tîm llywodraethu’n cysylltu â meysydd busnes bob mis i ddiweddaru cofrestrau er mwyn paratoi ar gyfer cyfarfodydd y bwrdd a phwyllgorau. Ymgymerir ag archwiliad pellach o’r

dulliau rheoli risg mewn cyfarfod adolygu wyneb yn wyneb yng nghanol y flwyddyn gyda’r Swyddog Cyfrifyddu. Bydd perchnogion y risgiau’n bresennol yn y cyfarfod hwn, a bydd pob un ohonynt yn trafod sut mae’r risgiau a nodwyd yn cael eu rheoli ynghyd â’r camau y bwriedir eu cymryd i ddileu’r risg erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae prosesau hefyd wedi cael eu rhoi ar waith yn yr OPG yn ystod y flwyddyn i sicrhau bod risgiau corfforaethol a risgiau rhaglenni yn cael eu hystyried gyda’i gilydd mewn cyfarfodydd adolygu rheolaidd fel bod

dealltwriaeth glir o’r amgylchedd risg yn ei gyfanrwydd o fewn yr asiantaeth. Caiff risgiau sylweddol o’r rhaglen eu huwchgyfeirio i’r gofrestr risg gorfforaethol. Yn ystod y flwyddyn, gwnaed gwaith hefyd i edrych ar sut yr eir ati i reoli risgiau o fewn yr OPG – gan symud tuag at edrych ar risgiau yn ôl categori – fel cyllid, perfformiad, rhaglenni gydag is-risgiau wedi’u rhestru oddi tanynt. Mae’r gwaith hwn yn parhau, a’r bwriad yw symud drosodd yn llwyr i ddefnyddio’r ffordd hon o reoli risgiau yn ystod 2020.

Yn ystod 2019/20, mae’r OPG hefyd wedi dechrau adrodd ar ei ddwy brif risg i Bwyllgor Gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Gan fod angen ymrwymiad y Pwyllgor Gweithredol er mwyn cyflawni rhaglen newid tymor hwy’r OPG, y

ddwy risg a nodwyd yn ystod y flwyddyn oedd a) cynaliadwyedd yr asiantaeth yn y tymor canolig i’r hirdymor (a rhan allweddol o hynny yw cyflawni LPA cwbl ddigidol) a b) y posibilrwydd o dwyll a cholli enw da’r OPG oherwydd gwendidau yn y prosesau.

rhain yn risg sylweddol o fewn yr OPG, ond mae’n un a ddylai ysgogi’r newidiadau o fewn y prosesau dros amser. O ganlyniad, ni chafodd ei rheoli fel risg benodol yn yr OPG yn ystod 19/20 ond mae wedi bwydo i mewn i risgiau eraill.

Strwythur sicrwydd yr OPG

Prif Weithredwr, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Swyddog Cyfrifyddu

Pwyllgor archwilio a risg yr OPG

Sicrhau gwybodaeth

SIRO* SIRO* Atebol i DACU** Hyfforddiant gorfodol i staff Offeryn tor-ddiogelwch Marcwyr gwerthuso risg

Rheoli risg

Fframwaith rheoli risg Cofrestrau risgiau busnes Gweithdrefnau sicrwydd risg Gweithdai risg Archwaeth risg a lefel aeddfedrwydd

Iechyd a diogelwch

Cynllun cyflawni iechyd a diogelwch corfforaethol y Weinyddiaeth Gyfiawnder Rheoliadau a hyfforddiant Polisi iechyd, diogelwch a thân Cofrestr risg yr OPG Rhestr wirio ar gyfer y broses sefydlu

Gwrth-dwyll

Polisi twyll, llwgrwobrwyo a llygru Cynllun ymateb i dwyll Hyfforddiant ymwybyddiaeth o dwyll Asesiadau risg twyll

Parhad busnes

Polisi parhad busnes

Cynlluniau rheoli digwyddiadau a pharhad busnes Dadansoddiad o’r effaith ar fusnes Rhaglen profi ac ymarfer Adnodd cydymffurfio’r Weinyddiaeth Gyfiawnder

  • Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth **Uned Mynediad at Ddata a Chydymffurfiaeth

Mae’r OPG yn mabwysiadu’r dull “tair llinell amddiffyn” ar gyfer y ffordd rydym yn rheoli risgiau, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a galluogi sicrwydd effeithiol.

Tair llinell amddiffyn

Uwch reolwyr

** Y llinell amddiffyn gyntaf **
Busnes yn adnabod risgiau Rhoi dulliau rheoli ar waith (gweithdrefnau sicrwydd risg) Cofrestr risg y maes busnes

Yr ail linell amddiffyn
Goruchwyliaeth gorfforaethol Cofrestr risg yr OPG Sicrhau cydymffurfiaeth – adrodd yn fisol ar risgiau Goruchwylio sicrwydd

Bwrdd/pwyllgor archwilio a risg yr OPG

** Y drydedd linell amddiffyn **
Sicrwydd annibynnol – archwilio mewnol Adrodd ar sicrwydd bob chwarter

Mae’r OPG yn annog arloesi gydag agwedd bwyllog at risg. Mae gan yr OPG agwedd gytbwys at risg; er enghraifft, mae ganddi oddefiant uchel i risgiau sy’n ymwneud â hyrwyddo gallu digidol i wella cynnyrch yr OPG, ond mae ganddi oddefiant is mewn meysydd fel sicrhau bod pryderon yn cael eu hasesu a’u hymchwilio i ddiogelu pobl agored i niwed a’u hasedau.

Archwaeth risg

Mae archwaeth risg yr OPG yn cael ei yrru a/neu ei gyfyngu gan ddyletswyddau statudol y Gwarcheidwad Cyhoeddus er mwyn sicrhau bod y bobl rydym yn gweithio gyda nhw yn cael llais.

Prif risg Effaith Gweithgareddau lliniaru Effaith ar risg y gweithgareddau lliniaru
Methu nnill costau Yr OPG yn me halu am ei chostau Diweddariadau ariannol
rheolaidd yng nghyfarfod y tîm rheoli gweithredol a Bwrdd yr OPG
Gostyngiadau o ran recriwtio a nifer y staff er mwyn lleihau costau staff
Gohirio prosiectau bach cyflym a’u cynnal os bydd y sefyllfa ariannol yn
gwella yn ystod y flwyddyn
Llwyddwyd i adennill costau yn 2019-20
Cadw staff yn yr asiantaeth –o ran niferoedd a sgiliau Yr OPG yn methu â
chyflawni mor effeith ac effeithiol â phosibl
Amser ac adnoddau’n cael eu treulio’n
recriwtio staff yn lle’r rhai a gollwyd
Adolygiad parhaus o feysydd penodol lle mae problemau cadw neu recriwtio staff
Cysoni cyflogau ar draws y Swyddfeydd yn
Nottingham a Birmingham
Cyfraddau trosiant wedi gostwng o fewn yr OPG
Oedi wrth fynd ag achosion i’r llys lle mae angen cymryd camau cyfreithiol Bu oedi sylweddol o ran cael achosion o’r OPG i’r Llys Gwarchod – a all olygu bod oedolion agored i niwed mewn perygl Sefydlwyd proses brysbennu i ymdrin â’r achosion mwyaf brys yn gyntaf
Mae ymgyrch recriwtio ar y gweill i recriwtio mwy o staff cyfreithiol
Gwnaed gwaith i edrych ar y prosesau rhwng
ymchwiliadau a materion cyfreithiol er mwyn lleihau dyblygu
Roedd y gostyngiad yn y llwyth gwaith oherwydd y coronafeirws yn golygu bod modd neilltuo adnoddau ychwanegol ar gyfer clirio achosion
Mae nifer yr achosion sy’n weddill wedi gostwng yn ystod mis olaf y flwyddyn
Cydymffurfio â GDPR Nid yw’r OPG yn cydymffurfio’n llawn â rheoliadau GDPR
–ac mae hyn yn arwainat gwynion a cholli enwda
Gweithio’n agos gyda Digitech y Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn bwrw ymlaen â gwaith ar systemau TG yr OPG
Cynllun gweithredu i fwrw ymlaen â gwaith ychwanegol ar GDPR yn yr asiantaeth
Ni chafwyd unrhyw gwynion yn ystod y flwyddyn, ac ni chafodd unrhyw achosion eu cyfeirio at y comisiynydd gwybodaeth am resymau GDPR
Arweinyddiaeth swyddogaethol Nid yw Meysydd Swyddogaethol y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ystyried bod yr OPG yn flaenoriaeth ac ni all gystadlu am yr adnoddau na’r sgiliau sydd eu hangen i fwrw ymlaen â’i rhaglenni gwaith newid a busnes fel arfer Sicrhau bod pob rhan o Feysydd Swyddogaethol y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cael eu cynnwys fel rhan o gyfarfodydd tîm rheoli gweithredol yr OPG a phresenoldeb yng nghyfarfodydd Bwrdd yr OPG yn ôl yr angen
Sicrhau bod meysydd Arweinyddiaeth Swyddogaethol yn ymrwymo i Gynllun Busnes yr OPG ar gyfer y flwyddyn ddilynol
Cyfarfodydd rheolaidd rhwng dirprwy gyfarwyddwyr a meysydd Arweinyddiaeth Swyddogaethol i sicrhau
dealltwriaeth glir o’r hyn sydd i’w gyflawni
Mae’r OPG wedi cael mynediad at y rhan fwyaf o’r sgiliau a’r adnoddau hanfodol ond mae rhai meysydd – Digitech – wedi cael eu llesteirio gan broblemau recriwtio a chadw ac wedi methu â darparu’r holl adnoddau angenrheidiol bob amser. Llwyddwyd i reoli hyn drwy flaenoriaethu’r gwaith ar y cyd er mwyn sicrhau y parheir i ddarparu’r gwasanaethau
Brexit Nid yw’r OPG yn gallu cael y ddeddfwriaeth y mae ei hangen oherwydd crynodiad
agenda’r Llywodraeth/Senedd ar Brexit a’r ddeddfwriaeth ofynnol
Oherwydd nad yw’r OPG yn gallu rheoli’r risg hon ofewn yr Asiantaeth,bu’n rhaid iddi oddef ynhytrach na rheoli’r risg –drwy flaenoriaethugwaith arall yn yrAsiantaeth y gellir bwrwymlaen ag ef Mae’r risg hon wedi cael ei goddef yn hytrach na’i lliniaru. Cafodd darnau o waith eraill eu blaenoriaethu a’u datblygu. Mae gwaith wedi cael ei wneud ar
y gwaith ymlaen llaw ar gyfer unrhyw ddeddfwriaeth angenrheidiol

Coronafeirws (COVID-19)

Yn ystod mis olaf y flwyddyn, bu’n rhaid i’r OPG hefyd ddelio ag effaith pandemig COVID-19 ar y DU. Yn sgil hynny, mae’r rhan fwyaf o staff yr OPG yn gweithio gartref; dim ond y bobl sy’n angenrheidiol ar gyfer prosesu atwrneiaethau arhosol, bod yn y ganolfan gyswllt, a sicrhau diogelwch yr adeiladau sydd wedi bod yn y swyddfa.

Ar ddechrau’r cyfnod clo, bu gostyngiad sylweddol yn nifer yr atwrneiaethau arhosol a oedd yn cyrraedd yr OPG i’w cofrestru, yn ogystal â nifer y galwadau i’r ganolfan gyswllt. Mae’r OPG yn bwrw ymlaen â’i gwaith goruchwylio ac ymchwilio – er bod rhai problemau yn sgil y mynediad cyfyngedig sydd at bobl oherwydd ynysu cymdeithasol.

Bydd effeithiau’r cyfnod clo yn risg sylweddol i’r OPG y flwyddyn nesaf; rydym eisoes wedi dechrau gwneud gwaith modelu sylweddol mewn perthynas ag incwm a llwyth gwaith fel bod yr asiantaeth yn y sefyllfa orau bosibl i oresgyn hyn.

Fframwaith sicrwydd/llywodraethu’r OPG

OPG governance/assurance framework 1
OPG governance/assurance framework 2

Atal twyll, llwgrwobrwyo a llygru

Twyll (GovS 013) sy’n nodi’r disgwyliad ar gyfer rheoli risg o dwyll, llwgrwobrwyo a llygru ar draws holl sefydliadau’r llywodraeth. Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar atal twyll yn unig, oherwydd nad oes raid i’r OPG adrodd ar lwgrwobrwyo a llygru tan y flwyddyn ariannol nesaf.

Defnyddir proses sicrwydd flynyddol i bennu’r lefel y mae’n cydymffurfio yn erbyn y safonau swyddogaethol, ac mae’r OPG wedi llunio a gweithredu Cynllun Gweithredu Gwrth-dwyll sy’n cynnwys y prif gamau i’w cymryd i wella gallu, gweithgarwch a chadernid.

Mae’r camau allweddol sydd wedi dechrau cael eu rhoi ar waith ar draws y busnes yn cynnwys y canlynol:

  • OPG yn cysoni â Strategaeth Gwrth-dwyll y Weinyddiaeth Gyfiawnder
  • cynnal sesiynau ymwybyddiaeth a gweithdai i baratoi ar gyfer cwblhau asesiadau risgtwyll
  • cwblhau asesiadau risg twyll
  • rhoi cyflwyniad ar dwyll i bob cyflogai newydd fel rhan o’r broses sefydlu; ac mae’nrhaid cwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth o dwyll e-ddysgu
  • ymgysylltu â fforwm twyll rhanbarthol traws-sector
  • llunio cynllun ymateb i dwyll lleol

Mae’r safonau swyddogaethol yn nodi y dylai sefydliadau gael mynediad at ymchwilwyr hyfforddedig sy’n bodloni safonau sgiliau’r sector cyhoeddus – hyd yma, nid oes cynlluniau ar waith i fuddsoddi mewn hyfforddi ymchwilwyr twyll achrededig yn yr OPG. Serch hynny, rydym yn gweithio tuag at sefydlu cytundeb gydag adrannau eraill y Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn defnyddio ymchwilwyr twyll hyfforddedig.

Adroddiadau chwythu’r chwiban

Nid oedd unrhyw achosion yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Parhad busnes

Mae’r OPG wedi cynnal lefel dda o wytnwch er mwyn cefnogi’r gwaith o adfer a darparu gwasanaethau y bu effaith niweidiol arnynt. Cafodd hyn ei brofi gan sawl digwyddiad TG a rhwydwaith a ddigwyddodd yn ystod 2019/20. Roedd yr effaith yn gyfyngedig, ac ar y cyd â darparwyr gwasanaeth perthnasol llwyddodd yr OPG i adfer a chynnal ei gwasanaethau’n effeithiol.

OPG sy’n arwain gr?p parhad busnes rhanbarthol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac mae’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn. Mae’r gr?p yn rhannu arferion gorau, yn trafod syniadau ac yn croesawu siaradwyr gwadd. Estynnwyd gwahoddiad i’r OPG gyflwyno ymarfer ar gyfer y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol - a chafodd adborth ardderchog.

Diogelwch gwybodaeth a sicrwydd yr OPG

Mae tîm dynodedig sy’n sicrhau gwybodaeth ac yn cofnodi gweithgareddau rheoli’r OPG. Pennaeth y gyfarwyddiaeth gyfreithiol a gwybodaeth sy’n cyflawni rôl Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth.

Derbyniodd yr OPG 46 o geisiadau rhyddid gwybodaeth yn 2019, a chwblhaodd 98% o’r rhain o fewn 20 diwrnod gwaith o’i gymharu â tharged o 90%. Derbyniodd yr OPG 51 cais am fynediad at ddata gan destun y data hynny yn 2019, a chwblhaodd 95% o’r rhain o fewn un mis calendr o’i gymharu â tharged o 90%.

Mae pob aelod newydd o staff yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth ar ddiogelwch gwybodaeth, rhyddid gwybodaeth, diogelu data, twyll, seiberddiogelwch a diogelwch ffisegol fel rhan o’r broses sefydlu. Aeth pecyn e-ddysgu GDPR pwrpasol yn fyw gan yr OPG ym mis Hydref 2019, a chafodd ei gyflwyno ar draws y busnes fel hyfforddiant gorfodol.

Y Tîm Sicrhau Gwybodaeth sy’n asesu risgiau preifatrwydd yn yr OPG, ac mae’n rhoi cyngor i’r busnes yngl?n â chwblhau Asesiadau o’r Effaith ar Ddiogelu Data. Mae aelodau’r tîm yn hyrwyddo preifatrwydd yn ôl y bwriad, ac ymgynghorir â nhw fel mater o drefn ynghylch preifatrwydd ar ddechrau cynnig. Mae hyn yn golygu ymgysylltu ar gynigion ar gyfer arolygon cwsmeriaid, datblygu llwyfannau digidol a newidiadau polisi.

Digwyddiadau (colli/cyfaddawdu) gwybodaeth

Roedd yr OPG yn gyfrifol am 1,069 achos o golli gwybodaeth a/neu dorri diogelwch gwybodaeth yn ystod 2019/20, ac ystyriwyd bod 51 ohonynt yn ‘niweidiol iawn’. Roedd y mwyafrif o’r achosion o golli gwybodaeth wedi digwydd wrth gamgyfeirio’r post. Prosesodd yr OPG tua 6 miliwn darn o bost yn 2019/20, sy’n golygu mai dim ond mewn 0.02% o achosion y collwyd gwybodaeth. Ni ystyriwyd bod yr achosion o golli gwybodaeth yn ystod 2019/20 yn ddigon uchel i warantu camau gan yr OPG i hysbysu’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Er mwyn sicrhau ein bod yn cymryd camau i leihau’r achosion o golli gwybodaeth, mae Tîm Sicrhau Gwybodaeth yr OPG yn parhau i weithio gyda’r busnes i ddarparu hyfforddiant, addysg ac ymwybyddiaeth i staff ynghylch diogelu data a diogelwch gwybodaeth. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys datblygu a chyflwyno pecynnau hyfforddiant sy’n benodol i’r OPG er mwyn ategu modiwlau e-ddysgu gorfodol y Gwasanaeth Sifil ynghyd â gohebiaeth reolaidd i staff drwy fewnrwyd yr OPG a sesiynau ymwybyddiaeth wyneb yn wyneb ar gyfer uwch reolwyr ac ar lefel tîm.

Rheoli cofnodion

Fel rhan o gynllun ehangach y Weinyddiaeth Gyfiawnder i wella cysondeb wrth reoli a llywodraethu cofnodion corfforaethol, mae’r OPG wedi cwblhau gwaith i adolygu a diweddaru ei Hamserlen Cadw a Gwaredu Cofnodion. Cafodd yr Amserlen newydd ei chyhoeddi a’i lansio ym mis Ionawr 2020; bydd yn sail i raglen o archwiliadau cydymffurfiaeth cofnodion dilynol ar draws y busnes a fydd yn cael eu cynnal ochr yn ochr â gweithgareddau llywodraethu gwybodaeth parhaus eraill yn ystod y flwyddyn nesaf.

Cydymffurfiaeth cyflenwyr

Mae contractau’r OPG yn cael eu rheoli’n ganolog gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, felly tîm masnachol canolog y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n sicrhau cydymffurfiaeth cyflenwyr.

Iechyd a diogelwch

Mae’r OPG yn cydnabod ei chyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a lles ei chyflogeion a’r holl bobl sy’n defnyddio ei safleoedd.

Rydym yn cydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a’r holl reoliadau a deddfwriaethau perthnasol eraill fel sy’n briodol.

Mae’r OPG yn cydnabod bod angen i’r prif elfennau gael eu rhoi ar waith er mwyn rheoli iechyd a diogelwch yn effeithiol, fel yr amlinellir yn ‘HSG65 Deddf Cynllunio Gwneud Gwirio Gweithredu’ (canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar reoli iechyd a diogelwch). Yr elfennau hyn yw polisi, trefnu, cynllunio, mesur perfformiad, archwilio ac adolygu.

Cynhaliwyd 214 o sesiynau cynefino iechyd a diogelwch ar gyfer staff eleni, sy’n cyfrannu at y ffigwr cyffredinol o 1,607 sy’n cynrychioli 97% o’r holl staff mewn swyddi.

Adolygir polisïau iechyd a diogelwch yr OPG bob blwyddyn neu pan fyddant yn cael eu newid. Mae cynllun strategaeth iechyd a diogelwch ar waith sy’n cyd-fynd ag amcanion y busnes, ac mae’n cael ei ddatblygu i wella iechyd a diogelwch galwedigaethol a diogelwch tân.

Mae cofrestr risg iechyd a diogelwch a gymeradwyir gan ddeiliad dyletswyddau’r OPG ac sy’n seiliedig ar asesiad risg lleol yn cael ei chynnal a’i hadolygu yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch bob chwarter. Fe’i defnyddir i wneud penderfyniadau a llunio blaenoriaethau ym maes iechyd a diogelwch.

Caiff perfformiad iechyd a diogelwch ei fonitro, ei adolygu a’i gyfleu drwy gynhyrchu a chyhoeddi data perfformiad a gyflwynir i’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch a’i gyhoeddi ar dudalennau mewnrwyd yr OPG.

Mae’r OPG yn cynnal rhaglen o arolygiadau sy’n cynnwys arolygiadau chwarterol a gynhelir ar y cyd â chynrychiolwyr undebau llafur ac arolygiadau rheoli misol.

Mae ymdrech barhaus gyda chefnogaeth y personél Iechyd a Diogelwch i hybu ymwybyddiaeth o’r angen i roi gwybod am ddamweiniau/digwyddiadau wedi arwain at gofnodi 18 damwain yn 2019/20, o’i gymharu â 39 yn 2018/19.

Drwy fonitro ac adolygu asesiadau risg gorsafoedd gwaith yn barhaus yn unol â Rheoliadau Iechyd a Diogelwch 1992 (cyfarpar sgrin arddangos) mae perfformiad yn y maes hwn wedi parhau i fod yn 96% o’r holl staff mewn swyddi, er gwaethaf cynnydd yn nifer y staff a’r ymarfer barhaus i gwblhau gwaith adnewyddu asesiadau risg cyfarpar sgrin arddangos bob tair blynedd ar gyfer y staff presennol. Buddsoddwyd arian hefyd i sicrhau nad yw’r staff sydd angen addasiadau rhesymol dan anfantais.

Anogir datblygiad personol parhaus drwy gaffael hyfforddiant iechyd a diogelwch proffesiynol achrededig a drefnir ar gyfer Uwch Arweinwyr, Arweinwyr Iechyd a Diogelwch, a Phersonél Iechyd a Diogelwch drwy gydol y flwyddyn.

Casgliad y Swyddog Cyfrifyddu

Fel Swyddog Cyfrifyddu, rwyf yn gyfrifol am adolygu effeithiolrwydd system rheolaeth fewnol yr OPG, gan gynnwys y fframwaith rheoli risg. Mae fy adolygiad yn seiliedig ar waith yr archwilwyr mewnol a’r rheolwyr gweithredol o fewn yr OPG. Maen nhw’n gyfrifol am ddatblygu a chynnal y fframwaith rheolaeth fewnol, a’r sylwadau a wneir gan yr archwilwyr allanol yn eu llythyr rheoli ac mewn adroddiadau eraill.

Yn eu hadroddiad blynyddol, mae ein harchwilwyr mewnol wedi rhoi lefel sicrwydd cymedrol, sy’n golygu bod angen rhai gwelliannau i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheolaeth, llywodraethu a rheoli risg. Rwyf wedi cael cyngor ar oblygiadau canlyniadau fy adolygiad gan y bwrdd a’r pwyllgor archwilio a risg. Rwy’n fodlon fod cynllun ar waith i fynd i’r afael â gwendidau yn y system o reolaeth fewnol, yn ogystal â sicrhau gwelliant parhaus y system.

Rwyf hefyd yn fodlon fod yr holl risgiau perthnasol wedi’u nodi, a bod y risgiau hynny’n cael eu rheoli’n briodol.

Nick Goodwin
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
14 Gorffennaf 2020

Adroddiad tâl a staff

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi polisi’r OPG ar dâl Aelodau Gweithredol y Bwrdd ac Aelodau Anweithredol y Bwrdd. Mae hefyd yn darparu manylion y costau gwirioneddol a’r trefniadau cytundebol.

Paratowyd yr adroddiad Tâl a staff yn unol â gofynion y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM.

Contractau gwasanaethau

Mae Deddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 yn mynnu bod penodiadau’r Gwasanaeth Sifil yn cael eu gwneud ar sail teilyngdod a hynny wedi’i seilio ar gystadleuaeth deg ac agored. Mae’r Egwyddorion Recriwtio a gyhoeddwyd gan Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil yn nodi’r amgylchiadau pan ellir gwneud penodiadau fel arall.

Oni nodir yn wahanol isod, mae’r swyddogion a gwmpasir gan yr adroddiad hwn yn dal penodiadau agored. Byddai terfynu swydd, ac eithrio am gamymddwyn, yn golygu y byddai’r unigolyn yn derbyn iawndal fel y nodir yng Nghynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil.

Ceir rhagor o wybodaeth am waith Comisiwn y Gwasanaeth Sifil yn https://civilservicecommission.independent.gov.uk/

Polisi tâl

Mae tâl uwch weision sifil yn cael ei osod gan y Prif Weinidog ar ôl cael cyngor annibynnol gan y Corff Adolygu ar Gyflogau Uwch-swyddogion.

Mae cyflogau aelodau Gweithredol y Bwrdd yn cael eu pennu gan Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn unol â’r rheolau a nodir ym Mhennod 7.1 Atodiad A o God Rheoli’r Gwasanaeth Sifil.

Wrth wneud ei argymhellion, mae’r bwrdd adolygu wedi ystyried y canlynol:

  • yr angen i recriwtio, cadw, cymell a, lle bo’n berthnasol, hyrwyddo pobl sydd â’r gallu a’rcymwysterau priodol i gyflawni eu cyfrifoldebau gwahanol

  • amrywiadau rhanbarthol/lleol mewn marchnadoedd llafur a’u heffaith ar recriwtio, cadwa, lle bo hynny’n berthnasol, dyrchafu staff

  • polisïau’r llywodraeth i wella gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y gofyniad aradrannau i gyrraedd y targedau allbwn ar gyfer darparu gwasanaethau adrannol

  • yr arian sydd ar gael i adrannau fel y nodir yn nherfynau gwariant adrannol yllywodraeth
  • targed chwyddiant y llywodraeth

Mae’r corff adolygu’n ystyried y dystiolaeth a gaiff am ystyriaethau economaidd ehangach a fforddiadwyedd ei argymhellion.

Cyfanswm y cyflogau a ffioedd

Mae cyflogau a lwfansau’n cynnwys symiau pensiynadwy ac amhensiynadwy ac yn delio â chyflogau gros, goramser, hawliau neilltuedig i bwysiadau neu lwfansau daearyddol, lwfansau recriwtio a chadw, lwfansau swyddfeydd preifat neu lwfansau eraill i’r graddau y maent yn ddarostyngedig i drethiant y DU, ac unrhyw daliadau ex-gratia. Nid yw’n cynnwys symiau sy’n ad-dalu treuliau a wnaed yn uniongyrchol wrth i unigolyn gyflawni ei ddyletswyddau.

Holl fuddion trethadwy

Mae gwerth ariannol unrhyw fuddion o fath arall yn cynnwys unrhyw fuddion a ddarparwyd gan yr adran ac sy’n cael ei drin gan Gyllid a Thollau EM fel enillion trethadwy.

Taliadau bonws

Mae bonysau’n seiliedig ar lefelau perfformiad ac yn cael eu talu fel rhan o’r broses werthuso reolaidd.

Holl fuddion sy’n gysylltiedig â phensiwn

Mae adran 229 o Ddeddf Cyllid 2004 yn pennu uchafswm y lefel flynyddol o gynilion pensiwn y gellir eu cronni o dan drefniant buddion diffiniedig cyn codi unrhyw drethiant. Swm yr arbedion a ddangosir yn Nhabl A yw’r cynnydd yng ngwerth y buddion a addawyd i’r unigolyn dros y cyfnod mewnbwn pensiwn (sef y flwyddyn ariannol ar gyfer yr OPG). Y cynnydd yw’r gwahaniaeth rhwng gwerth buddion yr unigolyn ar ddechrau’r cyfnod mewnbwn pensiwn

(1 Ebrill 2019) a gwerth buddion yr unigolyn ar ddiwedd y cyfnod mewnbwn pensiwn (31 Mawrth 2020); mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw gynnydd i’r cyflog pensiynadwy.

Mae’r rheoliadau’n nodi addasiad i reolau CThEM at y diben hwn; er mwyn prisio’r buddion mae Trysorlys EM wedi cynghori cynlluniau pensiwn i ddefnyddio lluosydd o 20.

P57 AND 58

Tabl A Taliadau uwch gyflogeion – Costau cyflogaeth (yn amodol ar archwiliad)

          2019 to 2020         2018/19
  Cyflog bonws Pob un yn drethadwy buddion (i’r £100 agosaf) Buddion cysylltiedig â phensiwn Cyfanswm Cyflog Taliadau bonws Pob un yn drethadwy buddion (i’r £100 agosaf Buddion cysylltiedig â phensiwn Cyfanswm
Aelodau gweithredol £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000
Alan Eccles CBE
Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus (tan 4 Gorffennaf 2019)
30-35 (FYE 115-120) - 2.4 - 30-35 115-120 - 7.9 - 120-125
Nick Goodwin
Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus (o 1 Gorffennaf 2019)
70-75 (FYE 100-105) - 1.1 53 125-130 - - - - -
Julie Lindsay
Prif Swyddog Gweithredu
70-75 0-5 - 33 110-115 70-75 - - 37 105-110
Jan C Sensier1
Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Corfforaethol
80-85 - 8.0 32 120-125 80-85 - 12.2 31 120-125
Sunil Teeluck
Pennaeth Cyfreithiol a Gwybodaeth (o4 Mawrth 2019)
70-75 - 13.8 33 115-120 5-10 (FYE 65-70) - - 2 5-10
Cynrychiolydd cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Paul Henson2
Dirprwy Gyfarwyddwr, Gr?p Prif Swyddogion Cyllid (o24 Gorffennaf 2018))
- - - - - - - - - -

1 Mae gan Jan C Sensier gytundebau dau weithle. Mae’r costau’n dangos y budd o fath arall ar gyfer pob taith yn ôl ac ymlaen o leoliadau’r ddau weithle ar gyfer ei chyfnod ar y bwrdd.

2 Mae Paul Henson yn cael ei gyflogi a’i dâl gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae Paul yn gweithio gyda’r OPG a’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol, ac yn eistedd ar Fwrdd y ddau fel aelod. Caiff ei gyflog ei ddatgelu yn adroddiad Taliadau’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol sydd ar gael yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019 i 2020 yr Asiantaeth.

Tabl A Taliadau uwch gyflogeion – Costau cyflogaeth (yn amodol ar archwiliad)

          2019 to 2020         2018/19
  Cyflog bonws Pob un yn drethadwy buddion (i’r £100 agosaf) Buddion cysylltiedig â phensiwn Cyfanswm Cyflog Taliadau bonws Pob un yn drethadwy buddion (i’r £100 agosaf Buddion cysylltiedig â phensiwn Cyfanswm
Aelodau gweithredol £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000
Shrinivas Honap
(o1 Mehefin 2018)
5-10 N/A 0.9 N/A 5-10 5-10 N/A - N/A 5-10
Karin Woodley<br(o1 Hydref 2018)8) 5-10 N/A 1.3 N/A 5-10 0-5 (FYE 5-10) N/A - N/A 0-5
Alison Sansome 5-10 N/A 1.7 N/A 5-10 5-10 N/A - N/A 5-10
Dean Parker
(tan 31 Mai 2018)
- N/A - N/A - 0-5 (FYE 5-10) N/A - N/A 0-5
Yr Athro Anthony Schapira
(tan 31 Mai 2018)
- N/A - N/A - 0-5 (FYE 5-10) N/A - N/A 0-5
Anne Fletcher
Aelod annibynnol o ARC
0-5 N/A - N/A 0-5 0-5 N/A - N/A 0-5

Cymarebau tâl (yn amodol ar archwiliad)

Mae’n ofynnol i gyrff adrodd ddatgelu’r berthynas rhwng cyflog y cyfarwyddwr sy’n derbyn y cyflog mwyaf yn eu sefydliad â thâl canolrifol gweithlu’r sefydliad.

Tâl band blynyddol y cyfarwyddwr sy’n derbyn y cyflog mwyaf yn yr OPG ar 31 Mawrth 2020 oedd

£100,000-£105,000 (2018/19, £115,000-£120,000). Roedd hyn 5.0 gwaith (2018/19, 5.9) yn fwy na thâl canolrifol y gweithlu, a oedd yn £20,444 (2018/19, £20,020). Mae’r newid yn y tâl canolrifol wedi cael ei yrru gan ddyfarniad cyflog 2019. Mae’r gymhareb isaf yn deillio o dâl band isaf y cyfarwyddwr sy’n derbyn y cyflog mwyaf.

Yn 2019/20, ni dderbyniodd unrhyw gontractwr (2018/19, pedwar contractwr) dâl mwy na’r cyfarwyddwr sy’n derbyn y cyflog mwyaf. Roedd y taliadau blynyddol yn amrywio rhwng £16,018 a £100,000 (2018/19, £15,280 a £126,186).

Mae’r cyfanswm tâl yn cynnwys cyflog, tâl seiliedig ar berfformiad heb ei gyfuno, a buddion ofath arall. Nid yw’n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr na gwerthtrosglwyddo cyfwerth ag arian pensiynau (CETV).

Buddion pensiwn (yn amodol ar archwiliad)

Tabl B: Aelodau gweithredol y bwrdd – Buddion pensiwn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020

  Wedi’i gronni adeg oed pensiwn ar 31/3/20 a’r cyfandaliad cysylltiedig Cynnydd real mewn pensiwn a chyfandaliad cysylltiedig ar oed pensiwn CETV ar 31/3/20 CETV ar 31/3/19 Cynnydd real mewn CETV
Aelodau gweithredol y bwrdd £000 £000 £000 £000 £000
Alan Eccles CBE3 Amh. Amh Amh Amh Amh
Nick Goodwin 25-30
( (Cyfandaliad 50-55)
2.5-5
Cyfandaliad 2.5-5
417 378 30
Julie Lindsay
Prif Swyddog Gweithredu
35-40
Cyfandaliad 80-85
0-2.5
Cyfandaliad 0-2.5
664 613 21
Jan C Sensier
Dirprwy Gyfarwyddwr
Strategaeth a Gwasa
u Corfforaethol
0-5 0-2.5 64 37 20
Sunil Teeluck
Pennaeth Cyfreithiol
a Gwybodaeth
(o 4 Mawrth 2019)
15-20 0-2.5 213 187 13

3 Nid oedd Alan Eccles yn aelod gweithredol o’r cynllun pensiwn yn ystod y cyfnod adrodd.

Pensiynau’r Gwasanaeth Sifil

Darperir buddion pensiwn drwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. O 1 Ebrill 2015 cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd ar gyfer gweision sifil – sef Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill neu alffa, sy’n darparu buddion yn seiliedig ar gyfartaledd gyrfa gydag oedran pensiwn arferol sy’n cyfateb i Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yr aelod (neu 65 os yw’n uwch). O’r dyddiad hwnnw, roedd pob gwas sifil newydd, ynghyd â’r rhan fwyaf o’r bobl sydd eisoes mewn swydd, yn ymuno ag alffa. Cyn hynny, roedd gweision sifil yn cyfranogi ym Mhrif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS). Mae gan y PCSPS bedair rhan: tair sy’n rhoi buddion ar sail cyflog terfynol (clasurol, premiwm neu clasurol a mwy) gydag oed pensiwn arferol o 60; ac un sy’n rhoi buddion ar sail gyrfa gyfan (nuvos) gydag oed pensiwn arferol o 65.

Nid yw’r trefniadau statudol hyn wedi’u cyllido ac mae cost y buddion yn cael ei thalu gan swm a benderfynir drwy bleidlais gan y Senedd bob blwyddyn. Mae pensiynau sy’n daladwy dan y cynlluniau clasurol, premiwm, clasurol a mwy, nuvos ac alffa yn cael eu cynyddu’n flynyddol yn unol â deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Arhosodd aelodau sy’n rhan o’r cynllun PCSPS

a oedd o fewn 10 mlynedd o’u hoed pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 yn y cynllun PCSPS ar ôl 1 Ebrill 2015. Bydd y rhai sydd rhwng 10 mlynedd a 13 mlynedd a 5 mis o’u hoed pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 yn newid i alffa rywbryd rhwng 1 Mehefin 2015 ac 1 Chwefror 2022. Bydd buddion PCSPS pob aelod sy’n newid i gynllun alffa yn cael eu ‘bancio’, gyda’r rheini sydd â buddion cynt yn un o adrannau cyflog terfynol y PCSPS yn cael y buddion hynny ar sail eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael cynllun alffa. (Mae’r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos y pensiwn a enillwyd yn y PCSPS neu alffa – fel sy’n briodol. Os oes gan y swyddog fuddion yn y PCSPS ac alffa

mae’r ffigur a ddyfynnir yn gyfystyr â gwerth cyfunol y buddion yn y ddau gynllun.) Gall aelodau sy’n ymuno o Hydref 2002 ymlaen ddewis naill ai’r trefniant buddion diffiniedig priodol neu bensiwn cyfranddeiliaid ‘prynu arian’ gyda chyfraniad cyflogwr (cyfrif pensiwn partneriaeth).

Mae cyfraniadau’r cyflogai’n gysylltiedig â chyflog ac maent yn amrywio rhwng 4.6% a 8.05% ar gyfer aelodau’r cynllun clasurol, premiwm, clasurol a mwy, nuvos ac alffa. Mae’r buddion yn y cynllun clasurol yn cronni ar gyfradd o 1/80fed o enillion pensiynadwy terfynol am bob blwyddyn o wasanaeth. Yn ogystal, telir cyfandaliad sydd gyfwerth â thair blynedd o bensiwn cychwynnol pan fydd cyflogai’n ymddeol. Gyda’r cynllun premiwm, mae’r buddion yn cronni ar gyfradd o 1/60fed o enillion pensiynadwy terfynol am bob blwyddyn o wasanaeth. Yn wahanol i’r cynllun clasurol, nid oes cyfandaliad

awtomatig. Mae Clasurol a Mwy yn ei hanfod yn gynllun hybrid gyda buddion yng nghyswllt gwasanaeth cyn 1 Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo’n fras fel y cynllun Clasurol, a buddion am wasanaeth ar ôl mis Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo fel yn y cynllun Premiwm. Gyda nuvos, mae’r aelod yn cronni pensiwn ar sail ei enillion pensiynadwy ef neu hi tra bo’n aelod o’r cynllun. Ar ddiwedd blwyddyn y cynllun (31 Mawrth) mae cyfrif pensiwn a enillwyd yr aelod yn cael ei gredydu gyda 2.3% o’i enillion pensiynadwy ym mlwyddyn honno’r cynllun ac mae’r pensiwn cronedig yn cael ei gynyddu yn ôl deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Mae’r buddion yn alffa yn cronni mewn ffordd debyg i nuvos, ond mae’r gyfradd gronni yn 2.32%. Ym mhob achos, gall aelodau ddewis rhoi rhan o’u pensiwn heibio (cyfnewid) i gael cyfandaliad hyd at y terfynau a bennir gan Ddeddf Cyllid 2004.

Cyfrif pensiwn partneriaeth

Mae’r cyfrif pensiwn partneriaeth yn drefniant pensiwn cyfranddeiliaid. Mae’r cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylfaenol o rhwng 8% a 14.75% (yn dibynnu ar oed yr aelod) i gynnyrch pensiwn cyfranddeiliaid a ddewisir gan y cyflogai gan y darparwr a benodwyd – Legal & General. Nid oes raid i’r cyflogai gyfrannu, ond os bydd yn gwneud cyfraniadau, bydd y

cyflogwr yn talu swm cyfatebol hyd at derfyn o 3% o gyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.5% o gyflog pensiynadwy i dalu cost yswiriant buddion risg a ddarperir yn ganolog (marw yn y swydd ac ymddeol yn sgil salwch).

Y pensiwn cronedig a ddyfynnir yw’r pensiwn y mae gan yr aelod hawl i’w gael pan fydd yn cyrraedd oed pensiwn, neu’n syth ar ôl peidio â bod yn aelod gweithredol o’r cynllun os yw wedi cyrraedd oed pensiwn neu dros yr oedran hwnnw. 60 yw’r oedran pensiwn ar gyfer aelodau cynlluniau clasurol, premiwm a chlasurol a mwy, a 65 ar gyfer aelodau nuvos, a 65 oed neu oed pensiwn y wladwriaeth, pa bynnag yw’r uchaf, ar gyfer aelodau cynllun alffa. (Mae’r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos y pensiwn a enillwyd yn y PCSPS neu alffa – fel sy’n briodol.

Os oes gan y swyddog fuddion yn y PCSPS ac alffa, mae’r ffigur a ddyfynnir yn gyfystyr â gwerth cyfunol y buddion yn y ddau gynllun, ond sylwer y gallai rhan o’r pensiwn hwnnw fod yn daladwy o oedrannau gwahanol).

Mae manylion pellach am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gael yn www.civilservicepensionscheme.org.uk.

Gwerthoedd Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod

Gwerth Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod (CETV) yw gwerth buddion y cynllun pensiwn wedi’i gyfalafu a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Buddion a gronnwyd gan yr aelod yw’r buddion a brisir ynghyd ag unrhyw bensiwn wrth gefn i briod sy’n daladwy o’r cynllun. CETV yw taliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn i sicrhau buddiannau pensiwn mewn cynllun pensiwn neu drefniant arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo’r buddiannau y mae wedi eu cronni yn ei gynllun blaenorol. Mae’r ffigurau pensiwn a nodir yn ymwneud â buddion y mae’r unigolyn wedi eu cronni o ganlyniad i gyfanswm ei aelodaeth yn y cynllun pensiwn, nid dim ond ei wasanaeth mewn swydd uwch y mae’r datgeliad yn berthnasol iddo.

Mae’r ffigurau’n cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae’r aelod wedi ei drosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd i’r aelod o ganlyniad iddo brynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun. Cyfrifir CETV yn unol â Rheoliadau’r Cynlluniau Pensiwn

Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygiad) 2008 ac nid yw’n ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl i fuddion o ganlyniad i Dreth Lwfans Oes a allai fod yn daladwy pan gymerir buddion pensiwn.

Cynnydd real mewn CETV

Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd yn y CETV sy’n cael ei ariannu gan y cyflogwr. Nid yw’n cynnwys cynnydd yn y pensiwn cronedig oherwydd chwyddiant, cyfraniadau’r cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae’n defnyddio ffactorau prisio cyffredin y farchnad ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.

Adroddiad staff

Costau staff (yn amodol ar archwiliad))

    2019
to 2020
  2018
to 2019
  Cyfanswm Staff a gyflogir yn barhaol Eraill Cyfanswm
Costau staff £000 £000 £000 £000
Cyflogau wythnosol a misol 37,798 33,096 4,702 35,145
Costau nawdd cymdeithasol 2,839 2,839 0 2,593
Costau pensiwn eraill 7,711 7,711 0 5,112
Cyfanswm costau gros 48,348 43,646 4,702 42,850
Llai asedau adferadwy mewn perthynas â secondiadau i’r tu allan (18)
48,330
(18)
43,628
0
4,702
(176)
42,674
Aelodau anweithredol (ffioedd a buddion) 25 25 0 22
Cyfanswm costau net 48,355 43,653 4,702 42,696

Cyflwynodd y llywodraeth yr Ardoll Brentisiaethau ar 1 Ebrill 2017. Ystyrir bod talu’r ardoll yn fath o drethiant ac felly caiff ei chyfrif fel cost treth fel rhan o gostau staff.

Niferoedd staff (yn amodol ar archwiliad)

Roedd cyfartaledd nifer yr unigolion cyfwerth ag amser llawn a gyflogwyd yn ystod y flwyddyn fel a ganlyn:

    2019
to 2020
  2018
to 2019
  Cyfanswm Staff a gyflogir yn barhaol Eraill Cyfanswm
Wedi’u cyflogi’n uniongyrchol 1,394 1,394 - 1,210
Arall 165 - 165 180
Cyfanswm 1,559 1,394 165 1,390

Cyfansoddiad staff

Mae’r tabl cyfansoddiad staff yn dangos nifer y staff mewn swyddi ar 31 Mawrth 2020.

  Gwryw Benyw
Aelodau’r Bwrdd 3 3
Cyflogeion yr OPG (ac eithrio’r Uwch Weision Sifil) 693 852

Uwch Weision Sifil

Absenoldeb salwch

Nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd ar gyfartaledd eleni oedd 9.5 diwrnod (2018/19 8.2 diwrnod).

Trosiant Staff

Yn 2019-20, y trosiant staff yw 5.3% (2018-19 -5.7%) ac mae trosiant yr adran yn 11.4% (2018-19 10.2%). Mae trosiant yr adran yn cynnwys trosglwyddo staff o fewn y gwasanaeth sifil. Nid yw trosglwyddiadau o fewn y Gwasanaeth Sifil wedi’u cynnwys yn y Trosiant Staff. Mae’r OPG yn parhau i fonitro cyfraddau trosiant ac yn cefnogi cynlluniau i gynnal lefel trosiant iach. Mae Arolwg Pobl blynyddol y Gwasanaeth Sifil,

ynghyd â darnau ymchwil eraill, yn ein helpu i ddeall profiad ein pobl o weithio i’r OPG a chymryd camau priodol i wella effeithiolrwydd, gan gynnwys pan fydd trosiant yn creu problemau.

Polisïau staff a ddefnyddiwyd yn ystod y flwyddyn

Mae’r OPG yn cydymffurfio â pholisi anabledd y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â recriwtio, hyfforddi a datblygu staff ag anableddau. Rydym yn recriwtio, hyfforddi a datblygu pobl ar sail eu sgiliau, cymhwyster a gallu i wneud y swydd.

Fel rhan o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, rydym yn gweithredu yn unol ag amrywiaeth o bolisïau, gweithdrefnau ac arferion adnoddau dynol, sy’n cynnwys:

  • gweithio’n hyblyg
  • bwlio ac aflonyddu
  • cyfryngu
  • recriwtio a dethol
  • cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • rheoli presenoldeb (mae gennym nifer o staff ag anabledd lle cytunwyd araddasiadau rhesymol er mwyn eu galluogi i gyflawni eu dyletswyddau)
  • rheoli perfformiad
  • hyfforddiant.

Ymgysylltiadau oddi ar y gyflogres

Yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20, mae’r OPG wedi adolygu ymgysylltiadau oddi ar y gyflogres lle mae’n rhaid i ni ystyried cyfryngwyr, (IR35), deddfwriaeth gan ddefnyddio canllawiau CThEM a dangosydd statws ar-lein. Rydym wedi hysbysu ein corff contractio ynghylch canlyniad y penderfyniadau ar statws fel bod didyniadau treth yn cael eu gwneud, lle bo hynny’n briodol, yn y tarddiad o daliadau a wneir mewn perthynas ag ymgysylltu â’r OPG. Mae rhagor o fanylion am ymgysylltiadau oddi ar y gyflogres yn yr OPG ar gael yng nghyfrifon adnoddau adrannol y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Adrodd am gynlluniau Gwasanaeth Sifil a chynlluniau iawndal eraill –pecynnau ymadael

(yn amodol ar archwiliad)

Talwyd costau dileu swydd a chostau ymadael eraill yn unol â darpariaethau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil, sy’n gynllun statudol a luniwyd dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Cyfrifir y costau ymadael yn llawn yn y flwyddyn ymadael berthnasol.

Pan fydd adran y llywodraeth wedi cytuno ar ymddeoliadau cynnar, mae’r costau ychwanegol yn cael eu talu gan yr adran ac nid gan Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

Ni thalwyd pecynnau ymadael yn 2019/20 (2018/19: dim pecynnau ymadael wedi cael eu talu).

Amser cyfleuster undebau llafur

Nifer y cyflogeion a oedd yn swyddogion undeb perthnasol yn ystod 2019/20 9
Faint o gyflogeion a oedd yn swyddogion undeb perthnasol yn ystod y cyfnod perthnasol a oedd wedi treulio
a) 0%, b)1 – 50%, c) 51-99% or d) 100% of their working hours on facility time
b)9
Canran cyfanswm y bil cyflogau a dreuliwyd ar amser cyfleuster 0.076%
Amser a dreuliwyd ar weithgareddau undebau llafur â thâl fel canran o gyfanswm oriau amser cyfleuster gyda thâl 0

Gwariant ar ymgynghorwyr

Nid oedd yr OPG wedi cyflogi ymgynghorwyr yn ystod 2019/20 (2018/19: dim).

Iawndal am golli swydd (yn amodol ar archwiliad)

Ni wnaed unrhyw iawndaliadau yn 2019/20 ar gyfer ymddeoliad cynnar neu golli swydd (2018/19: dim).

Nick Goodwin
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
14 Gorffennaf 2020

Atebolrwydd Seneddol ac adroddiad archwilio

Datganiad cyflenwad seneddol

Ariennir yr OPG gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder o’i chyflenwad seneddol, a chan incwm sy’n deillio o ffioedd a thaliadau gan gwsmeriaid allanol. Yn yr un modd ag asiantaethau eraill y llywodraeth, rhaid i gyllid ar gyfer y dyfodol gael ei gymeradwyo gan ein hadran noddi, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a chan y Senedd. Mae wedi cael ei gymeradwyo’n barod ar gyfer 2020/21. Felly, mae datganiadau ariannol wedi cael eu paratoi ar sail busnes byw at ddibenion adrodd ariannol a phrisio asedau.

Rheoleidd-dra gwariant (yn amodol ar archwiliad)

Mae’r Prif Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dynodi Prif Weithredwr yr OPG yn Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer yr asiantaeth. Mae cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, gan gynnwys cyfrifoldeb dros briodoldeb a chysondeb y cyllid cyhoeddus y mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol amdanynt, cadw cofnodion cywir ac amddiffyn asedau’r OPG, wedi’u nodi yn Rheoli Arian Cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM. Nid oedd materion rheoleidd-dra i sôn amdanynt. Mae’r Rheolwr a’r Archwilydd Cyffredinol yn cadarnhau hyn yn ei farn ar reoleidd-dra ar dudalen 66.

Ffioedd a thaliadau (yn amodol ar archwiliad)

Ym mis Ebrill 2017, gostyngodd y ffi am gofrestru atwrneiaeth i £82.00. Mae hon yn ffi uwch o dan Adran 180 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, sy’n caniatáu i’r Arglwydd Ganghellor, gyda chydsyniad y Trysorlys, i osod ffi sy’n fwy na chost darparu’r gwasanaeth hwnnw. Rydym wedi defnyddio’r p?er hwn i godi ffi uwch ar gyfer cofrestru atwrneiaethau i dalu am gostau dileu ffioedd ac esemptiad rhag talu ffioedd ac i sybsideiddio costau gweithredu’r gwasanaeth goruchwylio. Mae defnyddio’r p?er hwn wedi arwain at warged o

£11.4m yn ystod 2019/20, mae hyn yn cyfateb i tua £12.40 am bob cais, ond byddai’n cyfateb i £187.18 ychwanegol am bob achos goruchwylio yn 2019/20. Mae costau llawn darparu gwasanaethau’r asiantaeth a’r ffioedd a godir mewn perthynas â hyn wedi’u nodi yn y tabl isod.

  Cyfanswm incwm uned Cost lawn Unit Cost (Gor-dâl) / croes-gymhorthdal
  £000 £000 £ £000
Atwrneiaethau arhosol 67,354 56,217 62 (11,137)
Atwrneiaethau parhaus 774 533 62 (241)
Penodi dirprwy 936 3,222 258 2,286
Goruchwylio 9,649 18,257 300 8,608
Copïau swyddfa 282 210 26 (72)

Nid yw’r tabl uchod yn cynnwys incwm o ffioedd Gwarcheidwaeth oherwydd na ddechreuwyd defnyddio’r gwasanaeth tan ddiwedd y flwyddyn adrodd.

Ffioedd a ddilëwyd

Cafodd 114,036 o ffioedd eu dileu neu eu heithrio. Cyfanswm y gwerth oedd £7,944k (2018/19: 110,172 achos –

£7,526k) fel y disgrifiwyd yn Nodyn 2. Ni chynhwysir hawlildiad o ffioedd yn y ffigurau hyn.

Adennill costau

Am y drydedd flwyddyn rydym wedi cyflawni ein hamcan o adennill costau’n llawn, gyda dim ond mymryn o or-adennill costau. Mae hyn er gwaethaf y galw sy’n cynyddu’n barhaus am ein gwasanaethau, ac mae’n dangos llwyddiant y gwelliannau a wnaed i’r ffordd y rhagwelir y galw a’r costau cysylltiedig (gweler nodyn 6 yn y datganiadau ariannol).

Cynllun ad-dalu ffioedd hanesyddol

Yn 2016/17, gwnaethom gyhoeddi y byddai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn lansio cynllun ar gyfer ad-dalu cyfran o’r ffi i gwsmeriaid a allai fod wedi talu mwy nag y dylent yn ystod cyfnod o bedair blynedd. Penodwyd yr OPG i gyflwyno’r cynllun, a lansiwyd ar 1 Chwefror 2018. Talwyd dros 270,000 o ad-daliadau (£14.5m) mewn perthynas â ffioedd atwrneiaethau.

Lansiwyd y cynllun ad-dalu ar gyfer achosion goruchwylio ym mis Hydref 2019, a bydd yn dod i ben ymhen tair blynedd. Nifer posibl yr achosion gweithredol a chaeedig cyfunol yr effeithiwyd arnynt oedd tua 82,000. Cost ddisgwyliedig y cynllun hwnnw yw hyd at £18m. Hyd yma, mae pob un ond dau o’r achosion byw wedi cael eu had-dalu, sef cyfanswm o £6.1m. Mae £51,000 arall wedi’i dalu hyd yma mewn perthynas â cheisiadau am ad-daliadau

a dderbyniwyd ar gyfer 144 o achosion caeedig.4 Mae gwybodaeth ariannol sy’n ymwneud â’r cynllun wedi’i chofnodi yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Colledion a thaliadau arbennig (yn amodol ar archwiliad)

      2019 to 2020 2018/19
  Nifer £000 Nifer £000
Hawlildiad o ffioedd 7,808 647 5,058 525
Dileu symiau nad ydynt yn ffioedd 0 0 180 18
Ex gratia 712 24 39 32

Adroddwyd am yr holl golledion a thaliadau arbennig ar sail croniadau.

Hawlildiad o ffioedd yn ôl disgresiwn

Rhoddir hawlildiad o ffioedd naill ai yn unol â’r offeryn statudol pan nad yw’r rhoddwr/ cleient yn gymwys i gael esemptiad neu ostyngiad ond y byddai talu’r ffi, ym marn y Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn achosi caledi mawr, fel cydnabyddiaeth o’r camweinyddu.

Rhwymedigaethau digwyddiadol o bell (yn amodol ar archwiliad)

Nid oes rhwymedigaethau digwyddiadol o bell (2018/19: dim).

Rhoddion a lletygarwch (yn amodol ar archwiliad)

Nid oedd y rhoddion a wnaed gan yr OPG yn 2019/20 a 2018/19 yn fwy na’r trothwy adrodd o £300,000.

Nick Goodwin
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
14 Gorffennaf 2020

Tystysgrif ac adroddiad y Rheolwr ac Archwilydd

Cyffredinol i ddau D?’r Senedd

Barn ar y datganiadau ariannol

Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020 o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000. Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys: y Datganiadau o Wariant Net Cynhwysfawr, Sefyllfa Ariannol, Llif Arian Parod, Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr; a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu pwysig. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn o dan y polisïau cyfrifyddu a nodir ynddynt. Rwyf hefyd wedi archwilio’r wybodaeth yn yr Adroddiad Atebolrwydd y nodir ei bod wedi’i harchwilio yn yr adroddiad hwnnw.

Yn fy marn i:

  • mae’r datganiadau ariannol yn rhoi darlun cywir a theg o gyflwr materion Swyddfa’rGwarcheidwad Cyhoeddus ar 31 Mawrth 2020 a’i gwarged net gweithredol ar gyfery flwyddyn a ddaeth i ben ar y dyddiad hwnnw; ac
  • mae’r datganiadau ariannol wedi’u paratoi’n briodol yn unol â Deddf Adnoddau aChyfrifon y Llywodraeth 2000 a chyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol agyhoeddwyd o dan y ddeddf.

Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ym mhob ffordd o bwys mae’r incwm a’r gwariant a gofnodir yn y datganiadau ariannol wedi cael eu defnyddio at y dibenion y’u bwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodir yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Sail y farn

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio (y DU) a Nodyn Ymarfer 10 ‘Archwilio Datganiadau Ariannol Endidau Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig’. Caiff fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny eu disgrifio ymhellach yng nghyfrifoldebau’r Archwilydd er mwyn archwilio adran datganiadau ariannol fy nhystysgrif. Mae’r safonau hynny’n gofyn i mi a fy staff gydymffurfio â Safon Moesegol Diwygiedig y Cyngor Adrodd Ariannol 2016.

Rwyf yn annibynnol ar Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad a’r datganiadau ariannol yn y DU. Mae fy staff a minnau wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth rwyf wedi’i chasglu o’r archwiliad yn ddigonol ac yn briodol er mwyn rhoi sail ar gyfer fy marn.

Casgliadau’n ymwneud â busnes byw

Nid oes gennyf ddim i adrodd amdano yng nghyswllt y materion canlynol lle mae ISAs (y DU) yn ei gwneud yn ofynnol i mi roi gwybod i chi:

  • os nad yw defnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o sail cyfrifyddu busnesbyw wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol; neu

  • os nad yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi datgelu yn y datganiadau ariannolunrhyw ansicrwydd o bwys a ganfuwyd a allai achosi amheuaeth sylweddol ynghylch galluSwyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i barhau i fabwysiadu’r sail cyfrifyddu busnes byw amgyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o’r dyddiad pryd yr awdurdodir cyhoeddi’r datganiadauariannol

Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu dros y datganiadau ariannol Fel yr eglurwyd yn fanylach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am baratoi’r datganiadau ariannol ac am fod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg. Cyfrifoldebau’r Archwilydd dros archwilio’r datganiadau ariannol Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio, ardystio ac adrodd ar y datganiadau ariannol yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000. Mae archwiliad yn cynnwys casglu tystiolaeth am niferoedd a datgeliadau’r datganiad ariannol i roi sicrwydd rhesymol nad oes camddatganiad materol yn y datganiadau ariannol, boed y rheini wedi’u hachosi gan dwyll neu wall. Mae sicrwydd rhesymol yn golygu lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw hynny’n gwarantu bod archwiliad sy’n cael ei gynnal yn unol ag ISAs (y DU)

bob amser yn canfod camddatganiadau sylweddol. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wallau ac maent yn cael eu hystyried yn gamddatganiadau o bwys os, yn unigol neu yn gyfanredol, y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr sydd wedi’u gwneud ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Fel rhan o archwiliad yn unol ag ISAs (y DU), rwyf yn defnyddio barn broffesiynol ac yn cynnal amheuaeth broffesiynol drwy gydol yr archwiliad. Rwyf hefyd yn:

  • canfod ac yn asesu risgiau o gamddatgan sylweddol o’r datganiadau ariannol, boed hynnyoherwydd twyll neu wall, yn dylunio ac yn cyflawni gweithdrefnau archwilio sy’n ymateb i’rrisgiau hynny, ac yn cael tystiolaeth archwilio sy’n ddigonol ac yn briodol er mwyn rhoi saili fy marn. Mae’r risg o beidio â chanfod camddatganiad sylweddol sy’n deillio o dwyll ynuwch nag ar gyfer un sy’n deillio o wall, gan fod twyll yn gallu golygu cydgynllwynio, ffugio,hepgor bwriadol, anwiredd, neu ddiystyru rheolaeth fewnol.
  • dod i ddeall y rheolaeth fewnol sy’n berthnasol i’r archwiliad er mwyn dylunio gweithdrefnauarchwilio sy’n briodol yn yr amgylchiadau, ond nid er mwyn mynegi barn ynghylcheffeithiolrwydd rheolaeth fewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
  • gwerthuso pa mor briodol ydy’r polisïau cyfrifyddu sydd wedi cael eu defnyddio apha mor rhesymol ydy’r amcangyfrifon cyfrifyddu a datgeliadau perthnasol awneir gan reolwyr.
  • gwerthuso cyflwyniad, strwythur a chynnwys y datganiadau ariannol yn gyffredinol, gangynnwys y datgeliadau, ac a ydy’r datganiadau ariannol yn cynrychioli’r trafodion a’rdigwyddiadau sylfaenol mewn ffordd sy’n rhoi cyflwyniad teg.
  • llunio casgliad ynghylch pa mor briodol ydy defnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoedduso’r sail busnes byw cyfrifyddu ac, ar sail y dystiolaeth archwilio a gasglwyd, a oesansicrwydd materol yn bodoli sy’n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai dafluamheuaeth sylweddol ar allu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i barhau fel busnesbyw. Os byddaf yn dod i’r casgliad bod ansicrwydd materol yn bodoli, mae’n rhaid i midynnu sylw yn fy adroddiad at y datgeliadau perthnasol yn y datganiadau ariannol neu, os ydy datgeliadau o’r fath yn annigonol, addasu fy marn.Mae fy nghasgliadau’n seiliedig ar y dystiolaeth archwilio a gasglwyd hyd at ddyddiad fyadroddiad. Fodd bynnag, gall digwyddiadau neu amodau yn y dyfodol olygu y byddSwyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhoi’r gorau i barhau fel busnes byw.

Rwyf yn cyfathrebu â’r rheini sydd yn gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymysg materion eraill, cwmpas ac amseriad yr archwiliad a chanfyddiadau pwysig yr archwiliad, gan gynnwys unrhyw ddiffygion sylweddol mewn rheolaeth fewnol y byddaf yn dod o hyd iddynt yn ystod fy archwiliad.

Ar ben hynny, rhaid i mi gael tystiolaeth sy’n ddigon i roi sicrwydd rhesymol bod yr incwm a’r gwariant yr adroddir arnynt yn y datganiadau ariannol wedi cael eu defnyddio at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a’r trafodion ariannol i gydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Gwybodaeth arall

Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall. Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys gwybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol, ond nid yw’n cynnwys rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd y nodir eu bod wedi’u harchwilio yn yr adroddiad hwnnw, y datganiadau ariannol a’m hadroddiad archwilio ar hynny. Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cynnwys yr wybodaeth arall ac

nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar hynny. Yng nghyswllt fy archwiliad o’r datganiadau ariannol, fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall a, drwy wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth arall yn anghyson yn sylweddol â’r datganiadau ariannol neu fy ngwybodaeth a gafwyd yn yr archwiliad neu sydd yn ymddangos fel camddatganiad sylweddol fel arall. Ar sail y gwaith rwyf wedi’i wneud, os byddaf yn dod i’r casgliad bod camddatganiad materol o’r wybodaeth arall hon, mae’n rhaid i mi adrodd ar y ffaith honno. Nid oes gennyf ddim i’w adrodd i’r perwyl hwn.

Barn ar faterion eraill

Yn fy marn i:

  • mae’r rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd sydd i’w harchwilio wedi’u paratoi’n briodol ynunol â chyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol a wnaed o dan Ddeddf Adnoddau aChyfrifon y Llywodraeth 2000;
  • yng ngoleuni fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o Swyddfa’r GwarcheidwadCyhoeddus a’i hamgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi dod o hydi unrhyw gamddatganiadau materol yn yr Adroddiad Perfformiad na’r AdroddiadAtebolrwydd; ac
  • mae’r wybodaeth yn yr Adroddiad ar Berfformiad a’r Adroddiad Atebolrwydd am y flwyddynariannol y mae’r datganiadau ariannol wedi cael eu paratoi ar ei chyfer yn gydnaws â’rdatganiadau ariannol.

Materion y cyflwynaf adroddiad arnynt drwy eithriad

Nid oes gennyf ddim i’w adrodd yng nghyswllt y materion canlynol lle mae’n ofynnol i mi roi gwybod i chi os ydw i’n credu: * nad oes digon o gofnodion cyfrifyddu wedi’u cadw neu os nad oes ffurflenni perthnasoli’n harchwiliad wedi cael eu cyflwyno gan ganghennau nad yw ein staff wedi ymweld ânhw; neu * os nad yw’r datganiadau ariannol a rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd a fydd yn caelei archwilio’n cyd-fynd â’r cofnodion cyfrifyddu a’r ffurflenni; neu * Nid wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae eu hangen arnaf ar gyfer fyarchwiliad; neu * nid yw’r Datganiad Llywodraethu’n adlewyrchu cydymffurfiaeth â chanllawiau Trysorlys EM.

Adroddiad

Nid oes gennyf sylwadau i’w wneud ar y datganiadau ariannol hyn.

Gareth Davies
Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol
15 Gorffennaf 2020 Swyddfa Archwilio Genedlaethol
157-197 Buckingham Palace Road
Victoria, lundain
SW1W 9SP

Datganiadau ariannol

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020

  Nodyn 2019 to
2020
£’000
2018 to
2019
£’000
Costau staff 3 48,355 42,696
Costau gweithredu eraill 4 13,917 16,569
Gwariant anariannol arall 5 16,167 15,190
Refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid 2 (78,996) (74,979)
Gwarged net gweithredol   (557) (524)
Gwariant Net Cynhwysfawr Arall ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben
ar 31 Mawrth 2020
Nodyn 2019 to
2020
£’000
2018 to
2019
£’000
Eitemau na chânt eu hailgategoreiddio i’r gwarged net gweithredol   £’000 £’000
Enillion net ar ailbrisio eiddo, offer a chyfarpar 7 (28) (20)
Enillion net ar ailbrisio asedau anniriaethol 8 (9) (20)
Cyfanswm yr incwm cynhwysfawr (594) (564)  

Mae’r nodiadau ar dudalennau 75 i 91 yn rhan o’r cyfrifon hyn.

Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol ar 31 Mawrth 2020

sedau anghyfredo      
  Nodyn 31 March 2020
£’000

31 March 2019
£’000
Eiddo, offer a chyfarpar 7 1,833 2,673
Asedau anniriaethol 8 1,328 7,004
Cyfanswm asedau anghyfredol   3,161 9,677
Asedau cyfredol      
Masnach a symiau derbyniadwy eraill 9 14,022 14,347
Arian parod a chyfwerth ag arian parod 10 5,416 9,747
Cyfanswm asedau cyfredol   19,438 24,094
Cyfanswm asedau   22,599 33,771
Rhwymedigaethau cyfredol      
Masnach a symiau taladwy eraill 11 (20,774) (19,575)
Darpariaethau 12 (241) (21)
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol   (21,015) (19,596)
Cyfanswm yr asedau llai’r rhwymedigaethau cyfredol   1,584 14,175
Rhwymedigaethau anghyfredol      
Masnach a symiau taladwy eraill 11 (478) (550)
Darpariaethau 12 (620) (620)
Cyfanswm rhwymedigaethau anghyfredol   (1,098) (1,170)
Cyfanswm yr asedau llai cyfanswm y rhwymedigaethau   486 13,005
Ecwiti trethdalwyr      
Y gronfa gyffredinol   (264) (12,598)
Y gronfa ailbrisio wrth gefn   (222) (407)
Cyfanswm ecwiti Trethdalwyr   (486) (13,005)

Mae’r nodiadau ar dudalennau 75 i 91 yn rhan o’r cyfrifon hyn.

Nick Goodwin
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
14 Gorffennaf 2020

Datganiad Llif Arian ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020

  Nodyn 2019 to
2020
£’000
2018 to
2019
£’000
Llif arian o weithgareddau gweithredol      
Gwarged net gweithredol SoCNE 557 524
Taliadau nad ydynt yn arian parod 5 16,167 15,190
    16,724 15,714
Gostyngiad/(cynnydd) mewn masnach a symiau derbyniadwy 5 & 9 53 (1,144)
Cynnydd mewn symiau masnach a symiau taladwy eraill 11 1,199 11,490
Addasiad IFRS 15   0 (8,499)
Defnyddio darpariaethau a setlwyd gan yr OPG   0 (9)
Mewnlif arian net o weithgareddau gweithredol   17,976 17,552
Llif arian parod o weithgareddau buddsoddi      
Prynu eiddo, offer a chyfarpar 7 & 11 0 (182)
Prynu asedau anniriaethol 8 & 11 (1,901) (1,691)
All-lif arian parod net o weithgareddau buddsoddi   (1,901) (1,873)
Llif arian o weithgareddau ariannu      
Trosglwyddiad y Weinyddiaeth Gyfiawnder   (20,406) (11,289)
All-lif arian parod net o weithgareddau cyllido   (20,406) (11,289)
(Gostyngiad)/cynnydd net mewn arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod 10 (4,331) 4,390
Arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod ar ddechrau’r flwyddyn 10 9,747 5,357
Arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod ar ddiwedd y flwyddyn 10 5,416 9,747

Mae’r nodiadau ar dudalennau 75 i 91 yn rhan o’r cyfrifon hyn.

Datganiad Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020

  Nodyn Y gronfa
gyffredinol
£000
Ailbrisio
cronfa wrth
£000
 
Balans ar 1 Ebrill 2019   (12,598) (407)  
Tâl yr Archwilydd 5 (63) 0  
Gwarged gweithredu net am y flwyddyn SoCNE (557) 0  
Symudiad yng nghronfeydd wrth gefn y Weinyddiaeth Gyfiawnder*   26,153 0  
Enillion net ar ailbrisio:        
Eiddo, offer a chyfarpar 7 0 (28)  
Asedau anniriaethol 8 0 (9)  
Trosglwyddiad ailbrisio   (222) 222  
Elfen dybiannol ad-gostau adrannol 5 (12,977) 0  
Balans ar 31 Mawrth 2020   (264) 222  

*Mae symudiad o £26,153k yn y cronfeydd wrth gefn yn cynrychioli trosglwyddiad balansau arian parod dros ben o’r OPG i bencadlys y Weinyddiaeth Gyfiawnder, setliad balansau rhwng cwmnïau a throsglwyddo asedau anniriaethol sydd wrthi’n cael eu hadeiladu i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
**£12,977k yw’r gost dybiannol i’r OPG gan bencadlys y Weinyddiaeth Gyfiawnder am wasanaethau cefnogi corfforaethol.

  Nodyn Y gronfa
gyffredinol
£000
Ailbrisio
cronfa wrth
£000
Balans ar 1 Ebrill 2018   (19,337) (572)
Addasiad IFRS 15   8,499 0
Balans wedi’i addasu ar 1 Ebrill 2018   (10,838) (572)
Tâl yr Archwilydd 5 (58) 0
Gwarged gweithredu net am y flwyddyn SoCNE (524) 0
Symudiad yng nghronfeydd wrth gefn y Weinyddiaeth Gyfiawnder   11,289 0
Enillion net ar ailbrisio:      
Eiddo, offer a chyfarpar 7 0 (20)
Asedau anniriaethol 8 0 (20)
Trosglwyddiad ailbrisio   (205) 205
Elfen dybiannol ad-gostau adrannol 5 (12,262) 0
Balans ar 31 Mawrth 2019   (12,598) (407)

Mae’r nodiadau ar dudalennau 75 i 91 yn rhan o’r cyfrifon hyn.

Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020

1. Datganiad polisïau cyfrifyddu

1.1. Sail paratoi

Mae’r cyfrifon hyn wedi cael eu paratoi yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol (FReM) y Llywodraeth 2019/20 a gyhoeddir gan Drysorlys EM o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a chyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol a gyhoeddwyd o dan y ddeddf. Mae’r polisïau cyfrifo a gynhwysir yn FReM yn defnyddio Safonau Adroddiadau Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y’u haddaswyd neu y’u dehonglwyd ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus.

Pan fydd y Llawlyfr yn caniatáu dewis o ran polisi cyfrifyddu, dewiswyd y polisi cyfrifyddu y tybiwyd iddo fod yr un mwyaf priodol i amgylchiadau penodol yr asiantaeth er mwyn gallu rhoi darlun cywir a theg. Mae polisïau cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’u rhoi ar waith yn gyson wrth ymdrin â’r eitemau a ystyriwyd yn berthnasol yng nghyswllt y cyfrifon hyn.

Nid yw’r Datganiad Gwariant Net Cynhwysfawr (SoCNE) wedi’i rannu rhwng gwariant net gweinyddu a rhaglenni, gan fod gwariant net yr OPG yn cael ei ddosbarthu fel rhaglen 100%. Mae hyn yn seiliedig ar asesiad o’r gwaith a wneir gan yr OPG, sef gwasanaethau rheng flaen yn bennaf. Cytunwyd ar y dosbarthiad hwn gyda Thrysorlys EM.

1.2. Newidiadau mewn polisi cyfrifyddu a datgeliadau

Cyhoeddwyd safonau, diwygiadau a dehongliadau newydd ond nid ydynt yn weithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2019 ac ni chawsant eu mabwysiadu’n gynnar

Mae IFRS 16 yn darparu model cyfrifyddu un prydlesai, gan ei gwneud yn ofynnol i brydleseion gydnabod asedau a rhwymedigaethau ar gyfer pob prydles oni bai fod cyfnod y brydles yn 12 mis neu lai neu fod gan yr ased sylfaenol werth isel. Bydd yr asedau, a gaiff eu disgrifio fel asedau “hawl defnyddio”, yn cael eu cyflwyno o dan Eiddo, Offer a Chyfarpar. Disgwylir i’r safon gael effaith sylweddol ar ddatganiadau ariannol yr asiantaeth. Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Trysorlys EM y byddir yn gohirio mabwysiadu IFRS 16, a bydd yn cael ei fabwysiadu ar 1 Ebrill 2021.

Mae Contractau Yswiriant IFRS 17 yn gofyn am ddull sy’n defnyddio llif arian gostyngol yng nghyswllt cyfrifyddu ar gyfer contractau yswiriant. Caiff ei roi ar waith ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2023, neu ar ôl hynny. Er mwyn asesu effaith y safon, mae’r OPG yn adolygu contractau sy’n bodloni’r diffiniad o gontractau yswiriant. Nid yw’r OPG yn credu y bydd unrhyw safon neu ddehongliad newydd neu ddiwygiedig yn cael effaith sylweddol.

1.3. Confensiwn cyfrifyddu

Paratowyd y Cyfrifon hyn ar sail croniadau o dan y confensiwn cost hanesyddol wedi’i addasu i ystyried ailbrisio asedau anghyfredol.

1.4. Busnes byw Mae’r OPG yn cael ei hariannu’n bennaf o ffioedd a thaliadau gan gwsmeriaid allanol, ond mae hefyd yn cael cyllid ar gyfer buddsoddiad cyfalaf gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, o’i Chyflenwad Seneddol. Yn yr un modd ag asiantaethau eraill y llywodraeth, rhaid i gyllid ar gyfer y dyfodol gael ei gymeradwyo gan yr Adran noddi, a chan y Senedd. Rhoddwyd cymeradwyaeth eisoes ar gyfer 2020/21 ac mae’r cyfrifon hyn wedi cael eu paratoi ar sail busnes byw ar gyfer adrodd ariannol a phrisio asedau.

1.5. Refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid

Mae refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid yn cynnwys ffioedd am wasanaethau sy’n cael eu gosod ar sail adennill costau’r OPG yn llawn. Mae incwm o ffioedd yn cynnwys symiau am wasanaethau Atwrneiaeth, Goruchwyliaeth, a chopïau o dystysgrifau atwrneiaeth, a ddarperir. Mae incwm yn cael ei gydnabod yn unol ag IFRS 15 (Refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid).

Ffioedd ar gyfer ceisiadau i gofrestru atwrneiaethau arhosol a pharhaus Yn unol ag IFRS 15, mae ffioedd atwrneiaeth yn daladwy ar ôl derbyn y cais ond nid yw incwm sy’n deillio ohono’n cael ei gydnabod nes byddir wedi cwblhau darparu’r gwasanaeth, naill ai adeg cofrestru’r atwrneiaeth neu os bydd camau prosesu yn dod i ben cyn cofrestru. Pan dderbynnir taliadau am atwrneiaethau ar-lein cyn gwneud cais, cedwir yr arian mewn rhwymedigaethau contract nes bydd cais cyflawn wedi cael ei gyflwyno. Os na chaiff y cais ei gyflwyno, bydd y swm yn cael ei ad-dalu.

Ffioedd ar gyfer goruchwylio dirprwyon a benodir gan y Llys Gwarchod

Mae incwm goruchwylio yn ddyledus fel ôl-daliad ar gylch blynyddol hyd at y dyddiad y daw gwaith goruchwylio’r achos i ben, wedi’i gyfrifo ar sail pro rata. Mae incwm yn cael ei gydnabod yn y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol fel symiau masnach derbyniadwy neu asedau contract, naill ai pan fydd ffioedd yn cael eu hanfonebu neu wrth i ffioedd gronni. Cyfrifir darpariaeth drwgddyledion, ar sail y model colli credyd disgwyliedig, ac mae’n cael ei debydu oddi ar y symiau masnach derbyniadwy.

Esemptiadau a Dileu Ffioedd

Mae incwm ffioedd yn cael ei gydnabod net o esemptiadau a dileu ffioedd. Mae’r cynllun dileu ffioedd wedi’i ragnodi yn Rheoliadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (Ffioedd, etc) 2007 a gymeradwywyd gan y Senedd, ac ni chesglir ffioedd a ddilëwyd gan yr OPG.

Rhaid gwneud cais am esemptiad neu ddileu ffi gyda’r cais cychwynnol i gofrestru atwrneiaeth neu, ar gyfer ffioedd goruchwylio, rhaid ei gyflwyno o fewn 6 mis i ddyddiad hawlio’r ffi.

Yn yr achosion lle nad yw cais am esemptiad neu ddileu ffi yn cael ei wneud adeg hawlio’r ffi, mae’n rhaid cyflwyno cais wedi’i gwblhau am esemptiad neu ddileu ffi o fewn 6 mis o anfonebu. Pan fydd ffi wedi’i thalu ac y cytunir ar esemptiad neu ddileu ffi wedi hynny, rhoddir ad-daliad.

1.6. Buddion cyflogeion

Croniadau gwyliau a bonws perfformiad cyflogeion

Bydd gwyliau blynyddol a gwyliau hyblyg y cyflogai sydd heb eu cymryd yn cael eu cronni. Mae bonysau perfformiad a ddyfarnwyd, ond sydd heb gael eu talu cyn diwedd y cyfnod cyfrifyddu, hefyd yn cael eu cronni. Mewn blynyddoedd blaenorol, ni chwblhawyd y broses werthuso tan ar ôl i’r cyfrifon gael eu cwblhau.

Pensiynau

Mae darpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS), a ddisgrifir yn yr adroddiad tâl a staff, yn berthnasol i gyflogeion y gorffennol a’r presennol. Mae’r cynlluniau buddion diffiniedig heb eu hariannu. Mae’r OPG yn cydnabod cost ddisgwyliedig yr elfennau hyn ar sail systematig a rhesymol dros y cyfnod pan fydd yn elwa o wasanaethau cyflogeion drwy dalu i’r PCSPS y symiau a gyfrifir ar sail gronnus. Mae’r rhwymedigaeth i dalu

buddion yn y dyfodol yn cael ei phriodoli i’r PCSPS. Mae’r OPG yn cyfrif y cynlluniau fel cynlluniau cyfraniadau wedi’u diffinio am nad oes digon o wybodaeth ar gael i’w cyfrif fel cynlluniau buddion diffiniedig. Felly, mae’r OPG yn cydnabod y cyfraniadau sy’n daladwy ar gyfer y flwyddyn ariannol.

1.7. Prydlesi

Caiff prydlesi’r OPG eu hystyried yn brydlesi gweithredol a chaiff y rhenti eu codi ar y SoCNE ar sail llinell syth dros gyfnod y brydles. Yn unol ag egwyddorion

IAS 17 (Prydlesi) a’r canllawiau atodol a nodir yn SIC 15 (Prydlesi gweithredol - cymhellion), mae’r OPG wedi lledaenu gwerth y cyfnod heb dalu rhent am y lle mae’n ei ddefnyddio yn Axis, Birmingham ac yn Embankment House, Nottingham dros gyfnod y brydles gychwynnol.

1.8. Costau tybiannol

Cynhwysir costau tybiannol yn y SoCNE i adlewyrchu cost lawn gwasanaethau’r asiantaeth. Mae’r taliadau hyn yn cynnwys:

  • Taliad cydnabyddiaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol am archwilio cyfrifon yr OPG.
  • Defnydd yr OPG o wasanaethau corfforaethol a ddarperir gan y WeinyddiaethGyfiawnder, gan gynnwys gwasanaethau Arweinyddiaeth Swyddogaethol.

Gweithgareddau rhwng adrannau

Mae gweithgareddau rhwng adrannau’n ymwneud â’r setliad rhwng yr OPG a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder:

  • Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn setlo rhywfaint o wariant yr OPG ar ran yrasiantaeth.
  • Mae’r OPG yn cynhyrchu mewnlif arian net, a chaiff y rhain eu hildio o bryd i’w gilydd i’rWeinyddiaeth Gyfiawnder.

Nid yw gweithgareddau rhwng adrannau’n arwain at gofnod yn y SoCNE ac maent yn cael eu cydnabod yn uniongyrchol yn y Gronfa Gyffredinol drwy’r Datganiad Ecwiti Trethdalwyr.

1.9. Eiddo, Offer a Chyfarpar

Cydnabyddiaeth gychwynnol a throthwy cyfalafu

Mae eiddo, offer a chyfarpar, gan gynnwys gwariant dilynol ar asedau presennol, yn cael eu cydnabod yn y lle cyntaf yn ôl y gost. Trothwy cyfalafu asedau unigol yw £10k. Pan fydd gwariant sylweddol ar asedau unigol (sydd ar eu pennau eu hunain yn is na’r trothwy cyfalafu) mewn cysylltiad â phrosiect unigol, maen nhw’n cael eu trin fel asedau wedi’u grwpio. Mae pob trothwy yn cynnwys TAW anadferadwy.

Dull prisio dilynol

Ar ôl cael eu cydnabod i gychwyn, mae pob ased ar wahân i asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu’n cael eu datgan ar sail eu gwerth presennol ac yn cael eu hailbrisio ar bob dyddiad adrodd gan ddefnyddio Mynegai Prisiau’r Cynhyrchwyr a baratoir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ailbrisio

Caiff enillion sy’n codi yn sgil ailbrisio eu credydu i’r Gronfa Ailbrisio Wrth Gefn a’u dangos yn y Gwariant Net Cynhwysfawr Arall, oni bai eu bod yn gwrthdroi gostyngiad ailbrisio ar yr un ased. Caiff gwrthdroadau eu credydu i’r SoCNE i’r un graddau â’r swm blaenorol sydd wedi’i osod fel treuliau, a chaiff unrhyw swm dros ben ei gredydu i’r Gronfa Ailbrisio Wrth Gefn.

Mae gostyngiad ailbrisio (ac eithrio yn sgil lleihad parhaol) yn cael ei wrthdroi yn erbyn unrhyw swm presennol a gedwir yn y Gronfa Ailbrisio Wrth Gefn mewn perthynas â’r un ased, gydag unrhyw ostyngiad gweddilliol yn cael ei gymryd i’r costau gweithredu net yn y SoCNE.

Bob blwyddyn, mae’r gwahaniaeth rhwng dibrisiant ar sail swm cario wedi’i ailbrisio’r ased a godir ar y SoCNE a dibrisiant ar sail cost wreiddiol yr ased yn cael ei drosglwyddo o’r Gronfa Ailbrisio Wrth Gefn i’r Gronfa Gyffredinol.

Dibrisiant

Priodolir dibrisiant ar sail llinell syth ar gyfraddau sydd wedi’u cyfrifo i ddileu gwerth asedau llai’r amcangyfrif o’r gwerth gweddilliol yn gyson dros eu hoes ddefnyddiol.

Adolygir oes ddefnyddiol asedau neu gategorïau asedau bob blwyddyn.

Os yw eitem o eiddo, offer a chyfarpar yn cynnwys dwy gydran neu fwy, gydag oes ddefnyddiol sy’n sylweddol wahanol, yna caiff pob cydran ei thrin ar wahân at ddibenion dibrisiant a’i dibrisio dros ei hoes ddefnyddiol unigol.

Amcangyfrifir oes ddefnyddiol asedau o fewn yr ystodau a ganlyn:

  • gwelliannau lesddaliad – gweddill cyfnod y brydles *dodrefn a ffitiadau – 10 mlynedd
  • offer a chyfarpar – 5 i 7 mlynedd
  • technoleg gwybodaeth – 3 i 7 mlynedd Gwaredu asedau anghyfredol

Bydd enillion a cholledion wrth waredu asedau anghyfredol yn cael eu pennu drwy gymharu’r elw â’r swm cario ac fe’u cydnabyddir yn y SoCNE.

Pan werthir asedau sydd wedi’u hailbrisio, bydd y symiau sydd wedi’u cynnwys yn y Gronfa Ailbrisio Wrth Gefn yn cael eu trosglwyddo i’r Gronfa Gyffredinol.

Asedau wrthi’n cael eu hadeiladu

Bydd asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu’n cael eu prisio ar sail eu cost hanesyddol ac ni fydd y rhain yn cael eu dibrisio nes byddant wedi cael eu cwblhau. Ar ôl iddo gael ei gwblhau, bydd gwerth cario’r ased yn cael ei drosglwyddo i’r categori asedau perthnasol.

Mae gwariant yn cael ei gyfalafu lle gellir ei briodoli’n uniongyrchol i’r gwaith o sicrhau bod yr ased mewn cyflwr sy’n gweithio, fel costau ymgynghorwyr allanol, costau cyflogeion perthnasol a chyfran briodol o orbenion perthnasol.

1.10. Asedau anniriaethol

Mae balans yr asedau anniriaethol yn cynnwys meddalwedd a ddatblygwyd yn fewnol neu gan drydydd partïon ac sy’n eiddo i’r OPG. O 2019/20 mae costau meddalwedd sydd wrthi’n cael ei hadeiladu wedi cael eu trosglwyddo i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Gwasanaeth Digidol y Weinyddiaeth Gyfiawnder sydd bellach yn datblygu meddalwedd i’r OPG ei defnyddio. Ar ôl iddynt gael eu datblygu, bydd costau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i waith dylunio, datblygu a phrofi cynnyrch meddalwedd unigryw sydd i’w defnyddio gan yr OPG yn unig yn cael eu trosglwyddo’n ôl i’r OPG ac yn cael eu nodi fel asedau meddalwedd yng nghyfrifon yr OPG, yn unol â’r meini prawf a nodir yn y FReM, sydd wedi’i addasu o IAS 38 Asedau Anniriaethol.

Mae gwariant arall nad yw’n bodloni’r meini prawf hyn yn cael ei nodi fel gwariant fel mae’n codi. Nid yw costau a nodwyd eisoes fel traul yn cael eu nodi fel ased mewn cyfnod wedi hynny.

Priodolir amorteiddiad ar sail llinell syth ar gyfraddau sydd wedi’u cyfrifo i ddileu gwerth asedau llai’r amcangyfrif o’r gwerth gweddilliol yn gyson dros eu hoes ddefnyddiol.

Mae oes ddefnyddiol meddalwedd a ddatblygir yn fewnol yn amrywio rhwng 2 a 7 mlynedd.

Yn unol ag IAS 38 (Asedau Anniriaethol), mae’r OPG yn adolygu oes economaidd ddefnyddiol ei hasedau anniriaethol ym mhob blwyddyn ariannol.

Trothwy cyfalafu prosiectau meddalwedd yr OPG yw £10k (gan gynnwys TAW anadferadwy).

Ar ôl cael eu cydnabod i gychwyn, caiff asedau anniriaethol eu cydnabod ar sail eu gwerth presennol. Gan nad oes marchnad weithredol yn bodoli ar gyfer asedau anniriaethol yr OPG, asesir bod y gwerth presennol yn gost amnewid llai unrhyw amorteiddiad cronedig a cholledion yn sgil amhariadau.

Bydd asedau anniriaethol yn cael eu hailbrisio ar bob dyddiad adrodd gan ddefnyddio Mynegai Prisiau’r Cynhyrchwyr a baratoir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

1.11. Amhariad

Bob blwyddyn, mae’r OPG yn ymgymryd ag adolygiad amhariadau ar draws yr holl gategorïau asedau pwysig. Os oes dangosyddion amhariadau’n bodoli, caiff yr asedau dan sylw eu profi am amhariad drwy gymharu gwerth cario’r asedau hynny â’u symiau adferadwy.

1.12. Arian parod a chyfwerth ag arian parod

Mae arian parod a chyfwerth ag arian parod sydd wedi’i gofnodi yn y SoFP a’r Datganiad Llif Arian yn cynnwys adneuon a gedwir yng Ngwasanaeth Bancio’r Llywodraeth.

1.13. Treth ar werth

Nid oes gan yr asiantaeth gofrestriad TAW unigol gyda Chyllid a Thollau EM, ond daw o dan gofrestriad y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy’n rhoi gwybod i’r asiantaeth yngl?n ag unrhyw TAW wrth brynu sy’n adferadwy.

Priodolir TAW anadferadwy i’r categori gwariant perthnasol neu fe’i cynhwysir yng nghost pryniant wedi’i chyfalafu’r asedau anghyfredol. Lle codir TAW wrth werthu neu lle bydd TAW wrth brynu yn adferadwy, bydd y symiau’n cael eu datgan net o TAW.

1.14. Adroddiadau segmentol

Mae’r tîm rheoli yn adolygu perfformiad yr OPG fel cyfarwyddiaeth sengl oherwydd natur debyg yr holl weithgareddau. Ni fyddai dadansoddiad pellach o’r gweithgareddau hyn yn darparu dadansoddiad ystyrlon yn unol â bwriad yr IFRS 8 (Segmentau Gweithredu).

1.15. Amcangyfrifon a dyfarniadau cyfrifyddu critigol

Mae’r OPG yn gwneud amcangyfrifon a thybiaethau yngl?n â’r dyfodol. Anaml fydd y gwir ganlyniadau’n cyfateb i’r amcangyfrifon cyfrifyddu. Mae’r amcangyfrifon a’r tybiaethau sydd â risg sylweddol o achosi addasiad perthnasol i symiau cario asedau a rhwymedigaethau o fewn y flwyddyn ariannol nesaf yn cael eu trafod isod.

Mae’r amcangyfrifon a’r dyfarniadau yn cael eu gwerthuso’n barhaus ac fe’u seilir ar brofiad hanesyddol a ffactorau eraill, gan gynnwys disgwyliadau ynghylch digwyddiadau yn y dyfodol y credir eu bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

Amhariad asedau contract

Rydym yn dal symiau derbyniadwy yn ôl eu swm gros i ddechrau; ar ôl iddynt gael eu cydnabod i gychwyn, caiff yr asedau hyn eu cario ar sail cost wedi’i hamorteiddio gan ddefnyddio colledion credyd disgwyliedig gydol oes, sy’n seiliedig ar golledion credyd hanesyddol. Er mwyn pennu’r colledion credyd disgwyliedig, mae’r OPG yn defnyddio model i amcangyfrif pryd y bydd ad-daliadau’n cael eu gwneud. Mae’r model yn defnyddio proffiliau taliadau hanesyddol i ddarparu’r amcangyfrif hwn, sy’n tybio y bydd perfformiad y dyfodol yn adlewyrchu perfformiad y gorffenno ac na fydd newid sylweddol yn y proffil taliadau na’r cyfraddau adfer ar gyfer symiau derbyniadwy’r OPG.

Rydym yn defnyddio barn i asesu a oes unrhyw effeithiau economaidd yn y dyfodol y mae angen i ni addasu’r effaith colledion credyd hanesyddol ar eu cyfer.

Nid oes addasiad ychwanegol yn yr amhariad ar symiau derbyniadwy’r OPG ar 31 Mawrth 2020 i adlewyrchu effaith macroeconomaidd bosibl Covid-19 yn y dyfodol. Mae hyn yn seiliedig ar nodweddion yr unigolion sy’n gyfrifol am y ddyled i’r OPG, gan nad ydym yn credu y bydd hyn yn cael effaith o bwys ar y gallu i adennill y symiau derbyniadwy sy’n cael eu nodi yn y cyfrifon hyn.

Darpariaeth esemptiadau a dileu ffioedd

Mae amseriad y bilio blynyddol ar gyfer goruchwyliaeth, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, yn golygu bod ceisiadau am esemptiadau a dileu ffioedd ar gyfer y biliau hynny fel arfer yn cael eu derbyn yn y flwyddyn ganlynol. Felly, mae darpariaeth o fewn y symiau derbyniadwy sy’n seiliedig ar asesiad manwl o’r graddau y rhoddwyd esemptiadau a dileu ffioedd goruchwylio yn ystod y flwyddyn ar ôl cydnabod yr incwm. Mae hyn yn cynrychioli swm disgwyliedig yr esemptiadau a’r dileu ffioedd a dderbynnir yn y flwyddyn ganlynol. Mae’r ddarpariaeth yn tybio bod gwerth yr esemptiadau a dileu ffioedd a ddyfarnwyd yn hanesyddol yn cynrychioli’r gwerth yn y dyfodol.

Darpariaethau

Cydnabyddir darpariaethau pan fydd gan yr OPG rwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol bresennol, o ganlyniad i ddigwyddiadau yn y gorffennol, ac mae’n debygol y bydd all-lif o fuddion economaidd yn

ofynnol i setlo’r rhwymedigaeth, ac y gellir gwneud amcangyfrif dibynadwy ar gyfer swm y rhwymedigaeth.

1.16. Offerynnau ariannol

Gan fod gofynion arian parod yr OPG yn cael eu bodloni drwy’r broses amcangyfrifon, nid yw offerynnau ariannol yn chwarae cymaint o rôl wrth greu a rheoli risg ag y byddent mewn corff heb fod yn y sector cyhoeddus.

Mae’r rhan fwyaf o offerynnau ariannol yn ymwneud â chontractau i brynu eitemau anariannol yn unol â gofynion disgwyliedig yr asiantaeth o ran prynu a defnyddio, ac felly nid yw’r asiantaeth yn agored i fawr ddim risg o ran credyd, hylifedd na’r farchnad. Mae’r holl asedau a rhwymedigaethau ariannol yn cael eu datgan ar sail eu cost wedi’i hamorteiddio.

1.17. Cronfa Wrth Gefn Gyffredinol

Mae’r Gronfa Wrth Gefn Gyffredinol yn crynhoi’r cyllid seneddol net a sicrhawyd ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol ac unrhyw Gyflenwad o flynyddoedd blaenorol nad oedd wedi’i wario ac a oedd ar gael yn y flwyddyn ariannol bresennol. Rydym hefyd yn defnyddio’r Gronfa Wrth Gefn Gyffredinol i setlo taliadau tybiannol yr adroddir amdanynt yn y cyfrifon fel gwariant ond nad ydynt byth yn cael eu setlo gydag arian parod.

1.18. Cronfa Ailbrisio Wrth Gefn

Mae’r gronfa ailbrisio wrth gefn yn dangos unrhyw enillion neu golledion ar werth eiddo, offer a chyfarpar, neu asedau anniriaethol lle cofnodwyd ailbrisiad blaenorol.

2.Dadansoddiad o ffioedd a thaliadau

  2019 to
2020
£000
2018 to
2019
£000
Refeniw ffioedd    
Atwrneiaethau arhosol (72,998) (67,662)
Atwrneiaethau parhaus (796) (647)
Goruchwylio Dirprwyon (12,260) (13,085)
Penodi Dirprwy (1,250) (1,152)
Ffioedd Gwarcheidiaeth (1) 0
Arall (282) (484)
  (87,587) (83,030)
Esemptiadau a Dileu Ffioedd    
Atwrneiaethau arhosol 4,997 4,444
Atwrneiaethau parhaus 22 269
Goruchwylio Dirprwyon 2,611 2,592
Penodi Dirprwy 314 221
Hawlildiad o Ffioedd yn ôl Disgresiwn 647 525
  8,591 8,051
Cyfanswm refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid (78,996) (74,979)

3. Costau Staff

    2019 to
2020
£000
  2018 to
2019
£000
  Cyfanswm Cyflogir yn
barhaol
Eraill Cyfanswm
Cyflogau wythnosol a misol 37,798 33,096 4,702 35,145
Costau Nawdd Cymdeithasol 2,839 2,839 0 2,593
Costau pensiwn eraill 7,711 7,711 0 5,112
Cyfanswm costau gros 48,348 43,646 4,702 42,850
Llai asedau adferadwy mewnof
perthynas â secondiadau
i’r tu allan
(18) (18) 0 (176)
  48,330 43,628 4,702 42,674
Aelodau Anweithredol y Bwrdd
(ffioedd a buddion)
25 25 0 22
Cyfanswm costau net 48,355 43,653 4,702 42,696

Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) a’r Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill (CSOPS) – a elwir yn ‘alffa’ yn gynlluniau buddion diffiniedig sawl-cyflogwr nas cyllidir ond ni all yr OPG nodi ei chyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sy’n sail iddo. Yn unol â’r FReM, mae’r OPG yn cyfrif am y rhain fel cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio.

Mae’r OPG yn cydnabod y cyfraniadau sy’n daladwy i gynlluniau cyfraniadau wedi’u diffinio fel traul yn y flwyddyn y’u gwnaed, ac mae’r rhwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol wedi’i chyfyngu i’r swm mae wedi cytuno i’w gyfrannu i’r gronfa.

Ar gyfer 2019/20, roedd cyfraniadau cyflogwyr o £7,639k yn daladwy i’r PCSPS (2018/19: £5,106K ar 1 o 4 cyfradd yn yr amrediad 26.6% i 30.3% o gyflog pensiynadwy, yn seiliedig ar fandiau cyflog. Bydd Actiwari’r Cynllun yn adolygu cyfraniadau cyflogwyr, fel arfer bob 4 blynedd yn dilyn prisiad llawn o’r cynllun.

Pennir cyfraddau’r cyfraniadau i gwrdd â chost buddiannau sy’n cronni yn ystod 2019/20 i’w talu pan fydd yr aelod yn ymddeol ac nid y buddion a delir yn ystod y cyfnod hwn i rai sydd eisoes yn bensiynwyr.

Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, pensiwn cyfranddeiliaid gyda chyfraniad gan y cyflogwr. Talwyd cyfraniadau cyflogwr o £72k (2018/19: £6k) i 1 darparwr pensiwn cyfranddeiliaid penodedig. Mae cyfraniadau’r cyflogwr yn seiliedig ar oedran, ac maent yn amrywio o 8% i 14.75% o enillion pensiynadwy. Mae cyflogwyr hefyd yn rhoi cyfraniad sy’n cyfateb i gyfraniadau’r cyflogeion hyd at 3% o enillion pensiynadwy.

Mae’r OPG yn disgwyl talu cyfraniadau pensiwn cyflogwr o £7,865k yn 2020/21. Mae crynodeb pellach ar gostau staff yn yr Adroddiad Atebolrwydd.

4. Costau gweithredu eraill

  2019 to
2020
£000
2018 to
2019
£000
  £000 £000
Adeiladau, cynnal a chadw a chyfleustodau 2,251 2,257
Arweinyddiaeth Swyddogaethol* 0 1,008
Ymchwil a gynhyrchwyd yn fewnol 0 346
Ffioedd prydlesi 1,028 1,560
Nwyddau traul y swyddfa 474 333
Postio 3,709 3,525
Gwasanaethau proffesiynol 572 367
Gwasanaethau a rennir 1,796 2,770
Hyfforddiant a chostau eraill sy’n gysylltiedig â staff 599 830
Teithio, cynhaliaeth a lletygarwch 317 463
Gwasanaethau ymwelwyr 2,746 2,491
Costau rhedeg eraill 425 619
Cyfanswm 13,917 16,569

*O 2019/20, cafodd y cyfrifoldeb dros holl weithgareddau ymchwil mewnol ac arweinyddiaeth swyddogaethol yr OPG eu trosglwyddo i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ailgodi tâl ar yr OPG am y gweithgareddau hyn. Mae’r costau hyn wedi’u cynnwys yn llinell ad-daliadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn nodyn 5.

5. Gwariant anariannol arall

  2019 to
2020
£000
Ailddatganiad
2018 to
2019
£000
  £000 £000
Ad-daliadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder* 12,977 12,262
Dibrisiant - eiddo, offer a chyfarpar 766 688
Amorteiddiad - asedau anniriaethol 1,661 1,478
Tâl yr archwilydd allanol** 63 58
Colled wrth waredu eiddo, offer a chyfarpar ac asedau anniriaethol 205 0
Darpariaeth ar gyfer rhwymedigaethau:    
Darparwyd yn ystod y flwyddyn 241 21
Darpariaeth a ddefnyddiwyd (13) 0
Darpariaethau a ysgrifennwyd yn ôl (8) (160)
Symudiad mewn amhariad masnach a symiau derbyniadwy eraill 78 578
Masnach heb ei gasglu a symiau derbyniadwy eraill 194 265
Taliadau eraill nad ydynt yn arian parod 3 0
Cyfanswm taliadau nad ydynt yn arian parod 16,167 15,190

*O 2019/20, cafodd y cyfrifoldeb dros holl weithgareddau ymchwil mewnol ac arweinyddiaeth swyddogaethol yr OPG eu trosglwyddo i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ailgodi tâl ar yr OPG am y gweithgareddau hyn. Mae’r costau hyn wedi’u cynnwys yn y costau anariannol arweinyddiaeth swyddogaethol ar gyfer y flwyddyn gyfredol uchod. Mae cymhariaeth ad-daliadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer y flwyddyn flaenorol wedi’i hailddatgan ac mae’n cynnwys y swm o £6,759k a ddatgelwyd yn flaenorol ar gyfer costau anariannol arweinyddiaeth swyddogaethol a gwir ad-daliad y Weinyddiaeth Gyfiawnder o £5,503k.
**Nid oedd y C&AG wedi darparu unrhyw wasanaethau heb fod yn rhai archwilio yn ystod 2019/20 (dim: 2018/19).

6.Ffioedd a thaliadau

Mae’n rhaid i’r OPG, yn unol â Rheoli Arian Cyhoeddus, ddatgelu canlyniadau ar gyfermeysydd y gweithgareddau a wnaeth yn ystod y flwyddyn ariannol, lle codwyd ffioedd athaliadau. I gael manylion am ffioedd a chymorthdaliadau’r OPG sydd ar gael igwsmeriaid allanol, ewch i: https://www.gov.uk/government/organisations/office-of-the-public-guardian.

Darperir cymhorthdal fel y bwriadwyd er mwyn gwneud yn si?r na wrthodir gwasanaethau igleientiaid am nad ydynt yn gallu fforddio’r ffioedd gofynnol.

  2019 to
2020
£000
2018 to
2019
£000
  £000 £000
Cyfanswm incwm (78,996) (74,979)
Cyfanswm gwariant 78,439 74,455
Gwarged (557) (524)
Adennill costau (%) 100.7% 100.7%

Mae Adran 180 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn caniatáu i’r Arglwydd Ganghellor, gyda chydsyniad Trysorlys EM, i osod ffi sy’n fwy na chost darparu’r gwasanaeth hwnnw. Ers mis Ebrill 2017, mae’r OPG wedi defnyddio’r p?er hwn i godi ffi uwch ar gyfer cofrestru atwrneiaethau i dalu am gostau dileu ffioedd ac esemptiad rhag talu ffioedd ac i sybsideiddio costau gweithredu’r gwasanaethau goruchwylio.

Gwireddwyd yr amcan ariannol i’r OPG gyflawni o fewn 5% i adennill costau’n llawn (fel y cytunwyd arno gyda Thrysorlys EM ac yn unol â chynllun dirprwyo’r gyllideb gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder) drwy gyflawni 100.7% (2018/19: 100.7%). Ceir rhagor o wybodaeth yn Atebolrwydd seneddol ac adroddiad archwilio ar dudalen 64.

P87

7.Eiddo, offer a chyfarpar

  Gwelliannau Prydles Technoleg Gwybodaeth Offer a Pheiriannau Dodrefn a Ffitiadau Asedau wrthi’n cael eu hadeiladu Cyfanswm
2019/20 £’000 £’000 £’000 £’000 £’000 £’000
Cost neu brisiant ar 1 Ebrill 2019 1,266 2,220 124 1,096 12 4,718
Ychwanegiadau 0 0 0 0 99 99
Gwarediadau (5) 0 (57) (184) (12) (258)
Ailbrisio (377) 14 1 (7) 0 (369)
Cyfanswm cost neu brisiant ar 31 Mawrth 2020 884 2,234 68 905 99 4,190
Dibrisiant ar 1 Ebrill 2019 0 (1,657) (124) (264) 0 (2,045)
Taliad yn ystod y flwyddyn (405) (184) 0 (177) 0 (766)
Gwarediadau 0 0 57 0 0 57
Ailbrisio 405 (10) (1) 3 0 397
Cyfanswm dibrisiant ar 31 Mawrth 2020 0 (1,851) (68) (438) 0 (2,357)
Gwerth cario net ar 1 Ebrill 2019 1,266 563 0 832 12 2,673
Gwerth cario net ar 31 Mawrth 2020 884 383 0 467 99 1,833

*Mae’r holl eiddo, offer a chyfarpar a ddatgelir uchod yn eiddo llwyr i’r OPG.

  Gwelliannau Prydles Technoleg Gwybodaeth Offer a Pheiriannau Dodrefn a Ffitiadau Asedau wrthi’n cael eu hadeiladu Cyfanswm
2018/19 £’000 £’000 £’000 £’000 £’000 £’000
Cost neu brisiant ar 1 Ebrill 2018 1,527 2,154 123 1,097 0 4,901
Ychwanegiadau 0 170 0 0 12 182
Ail-gategoreiddio 120 (120) 0 0 0 0
Ailbrisio (381) 16 1 (1) 0 (365)
Cyfanswm cost neu brisiant ar 31 Mawrth 2019 1,266 2,220 124 1,096 12 4,718
Dibrisiant ar 1 Ebrill 2019 0 (1,450) (120) (172) 0 (1,742)
Taliad yn ystod y flwyddyn (398) (195) (3) (92) 0 (688)
Ailbrisio 398 (12) (1) 0 0 385
Cyfanswm dibrisiant ar 31 Mawrth 2019 0 (1,657) (124) (264) 0 (2,045)
Gwerth cario net ar 1 Ebrill 2018 1,527 704 3 925 0 3,159
Gwerth cario net ar 31 Mawrth 2019 1,266 563 0 832 12 2,673

*Mae’r holl eiddo, offer a chyfarpar a ddatgelir uchod yn eiddo llwyr i’r OPG.

8.Asedau Anniriaethol

  Trwyddedau
Meddalwedd
Meddalwedd a
gynhyrchwyd
ynfewnol
Asedau wrthi’n
cael eu hadeiladu
Cyfanswm
2019/20 £’000 £’000 £’000 £’000
Cost neu brisiant ar 1 Ebrill 2019 147 13,842 4,196 18,185
Ychwanegiadau 0 18 1,712 1,730
Ail-gategoreiddio 0 154 (154) 0
Trosglwyddo** 0 0 (5,750) (5,750)
Gwarediadau 0 0 (4) (4)
Ailbrisio 1 91 0 92
Cyfanswm cost neu brisiant ar 31 Mawrth 2020 148 14,105 0 14,253
Amorteiddio ar 1 Ebrill 2019 (147) (11,034) 0 (11,181)
Taliad yn ystod y flwyddyn 0 (1,661) 0 (1,661)
Ailbrisio (1) (82) 0 (83)
Cyfanswm amorteiddiad ar 31 Mawrth 2020 (148) (12,777) 0 (12,925)
Gwerth cario net ar 1 Ebrill 2019 0** 2,808 4,196 7,004
Gwerth cario net ar 31 Mawrth 2020 0 1,328 0 1,328

*Mae’r holl asedau anniriaethol a ddatgelir uchod yn eiddo llwyr i’r OPG
** Yn 2019/20, trosglwyddwyd cyllideb gyfalaf anniriaethol yr OPG i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder fel rhan o arweinyddiaethswyddogaethol, sy’n golygu nad oes gan Brif Weithredwr yr OPG gyllideb gyfalaf ddirprwyedig ac nid oes ganddo reolaeth dros asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu, a hynny’n rhai sy’n bodoli’n barod ac yn rhai sydd newydd gael eu datblygu. Cafodd y gyllideb gyfalaf ei dirprwyo i Digitech y Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn datblygu asedau digidol y Weinyddiaeth Gyfiawnder; gallan nhw benderfynu pa brosiectau i ddyrannu adnoddau iddynt, sut i ddatblygu asedau a pha rai i’w blaenoriaethu. Felly, mae rheolaeth dros yr asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu o fewn y Weinyddiaeth Gyfiawnder; rydym ni’n teimlo y dylid cydnabod yr asedau hyn yng nghyfrifon y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn hytrach na rhai’r OPG. Yn 2019/20, cafodd yr asedau a oedd wrthi’n cael eu hadeiladu, a oedd yn arfer cael eu cydnabod gan yr OPG, eu trosglwyddo i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn adlewyrchu’r ffaith y byddai datblygiad pellach o’r asedau hyn yn dod o dan reolaeth Digitech y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac nid yr OPG.

  Trwyddedau
Meddalwedd
Meddalwedd a
gynhyrchwyd
ynfewnol
Asedau wrthi’n
cael eu hadeiladu
Cyfanswm
2018/19 £’000 £’000 £’000 £’000
Cost neu brisiant ar 1 Ebrill 2018 478 13,115 2,695 16,288
Ychwanegiadau 0 39 1,755 1,794
Ail-gategoreiddio (332) 586 (254) 0
Ailbrisio 1 102 0 103
Cyfanswm cost neu brisiant ar 31 Mawrth 2019 147 13,842 4,196 18,185
Amorteiddio ar 1 Ebrill 2018 (146) (9,474) 0 (9,620)
Taliad yn ystod y flwyddyn 0 (1,478) 0 (1,478)
Ailbrisio (1) (82) 0 (83)
Cyfanswm amorteiddiad ar 31 Mawrth 2019 (147) (11,034) 0 (11,181)
Gwerth cario net ar 1 Ebrill 2018 332 3,641 2,695 6,668
**Gwerth cario net ar 31 Mawrth 2019 ** 0 2,808 4,196 7,004

*Mae’r holl asedau anniriaethol a ddatgelir uchod yn eiddo llwyr i’r OPG.

9. Masnach a symiau derbyniadwy eraill

|————————————|————————————|————————————| ||31 Mawrth 2020|31 Mawrth 2019| |Symiau a ddaw’n ddyledus o fewn blwyddyn|£’000|£’000| Swm sy’n ddyledus gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder |483|967 TAW adferadwy |114|66 Swm sy’n ddyledus gan Adrannau Eraill y Llywodraeth |177|163 Symiau masnach derbyniadwy |14,288|14,199 llai: dibrisiant*|(2,487)|(1,980) Symiau derbyniadwy drwy fasnach |11,801|12,219 Rhagdaliadau|261|147 Symiau staff derbyniadwy |576|632 Asedau contract |610|150 Symiau derbyniadwy eraill |0|3 Cyfanswm masnach a symiau derbyniadwy eraill|14,022|14,347 *Mae’r amhariad symiau derbyniadwy yn cynnwys: dyledion amheus £1,295k (2018/19: £844k); canslo ffioedd £339k(2018/19: £712k) a darpariaeth dileu ffioedd £853k (2018/19: £424k). Mae’r ddarpariaeth dileu ffioedd yn cael ei nodi ynerbyn yr adran dileu ffioedd ac esemptiadau yn Nodyn 2.

10.Arian parod a chyfwerth ag arian parod

  2019/20 2018/19
  £000 £000
Balans ar 1 Ebrill 9,747 5,357
(All-lif)/mewnlif arian parod net (4,331) 4,390
Balans ar 31 Mawrth 5,416 9,747

Mae’r balans uchod yn cael ei ddal yng Ngwasanaeth Bancio’r Llywodraeth.

11.Masnach a symiau taladwy eraill

  31 Mawrth
2020
Ailddatgan
31 Mawrth 2019
Symiau a ddaw’n ddyledus o fewn blwyddyn £’000 £’000
Swm sy’n ddyledus i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder 1,151 111
Swm sy’n ddyledus i Adrannau Eraill y Llywodraeth 0 113
Trethi a nawdd cymdeithasol* 620 644
Croniadau** 6,645 6,030
Rhwymedigaethau contract 10,745 10,841
Symiau masnach taladwy 174 757
Symiau taladwy eraill* 1,439 1,079
20,774 19,575  
  31 Mawrth
2020
** 31 Mawrth 2019**
Symiau a ddaw’n ddyledus o fewn blwyddyn £’000 £’000
Symiau taladwy eraill*** 478 550
  478 550
Cyfanswm symiau masnach taladwy a rhwymedigaethau eraill 21,252 20,125

Mae cyfraniadau pensiwn cyflogwr o £590k yn 2018/19, a oedd wedi’u cynnwys yn y symiau taladwy ar gyfer treth anawdd cymdeithasol yn y flwyddyn flaenorol, wedi cael eu hailddosbarthu fel symiau taladwy eraill yn y ffigurau syddwedi’u hailddatgan uchod
Mae croniadau yn cynnwys £99k o groniadau cyfalaf ar gyfer asedau diriaethol (2018/19 £171k o gyfalaf wedi’i gronni ar gyfer asedau anniriaethol
Rydym yn cydnabod elfen anghyfredol y cymhellion prydlesi ar gyfer y prydlesi gweithredol a ddatgelwyd yn Nodyn 13.

  2019/20 2018/19
Cysoni incwm gohiriedig £’000 £’000
Balans agoriadol 10,841 9,125
Incwm atwrneiaethau gohiriedig 68,679 65,312
Incwm atwrneiaethau a gydnabyddir yn ystod y flwyddyn (68,775) (63,596)
Balans terfynol incwm gohiriedig 10,745 10,841

12. Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a thaliadau

  Dadfeiliadau Arall Cyfanswm
2019/20 £’000 £’000 £’000
Balans ar 1 Ebrill 620 21 641
Darparwyd yn ystod y flwyddyn 0 241 241
Darpariaethau a ysgrifennwyd yn ôl 0 (8) (8)
Darpariaethau a ddefnyddiwyd yn y flwyddyn 0 (13) (13)
Balans ar 31 Mawrth 620 241 861
Dadansoddiad o amseru disgwyliedig llifau arian parod      
Heb fod yn hwyrach na blwyddyn 0 241 241
Yn hwyrach na blwyddyn a heb fod yn hwyrach na 5 mlynedd 0 0 0
Yn hwyrach na 5 mlynedd 620 0 620
  620 241 861

Dadfeiliadau

Creodd yr asiantaeth ddarpariaeth adfeiliadau o £620,000 yn 2016/17, sy’n deillio o feddiannu’r swyddfa sy’n eiddo lesddaliadol yn Nottingham.

13. Ymrwymiadau dan brydlesi gweithredol

Mae’r OPG yn prydlesu dau eiddo, yn Birmingham a Nottingham, o dan drefniadau prydlesi gweithredol nad oes modd eu canslo. Mae telerau’r prydlesi yn amrywio rhwng 4-10 mlynedd. Nid oes gan y prydlesi opsiynau prynu ac nid oes rhenti wrth gefn yn daladwy ar brydlesi gweithredol. Trafodir adnewyddu gyda’r lesydd yn unol â darpariaeth y cytundebau prydles unigol.

Nodir cyfanswm taliadau prydles sylfaenol i’r dyfodol o dan brydlesi gweithredol nad oes modd eu canslo yn y tabl isod ar gyfer pob un o’r cyfnodau canlynol:

  2019/20 2018/19
Prydlesi gweithredol - Ymrwymiadau o dan brydlesi £000 £000
Tir ac adeiladau    
Heb fod yn hwyrach na blwyddyn 1,301 1,347
Yn hwyrach na blwyddyn ond heb fod yn hwyrach na phum mlynedd 2,293 3,168
Yn hwyrach na phum mlynedd 279 894
Cyfanswm tir ac adeiladau 3,873 5,409

Pennir y taliadau prydles sylfaenol o’r cytundebau prydles perthnasol, ac nid ydynt yn adlewyrchu cynnydd posibl o ganlyniad i adolygiadau seiliedig ar y farchnad.

Datgelir y gwariant ar brydlesi a nodir yn y SoCNE yn Nodyn 4.

14.Trafodion partïon cysylltiedig

Mae’r asiantaeth yn asiantaeth weithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Ystyrir yWeinyddiaeth Gyfiawnder yn barti cysylltiedig. Yn ystod y cyfnod, mae’r asiantaeth wedicael nifer o drafodion materol gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n rheoli’r trefniadau prydlesi a’r costau llety sy’ngysylltiedig â defnydd yr OPG o’i swyddfeydd.

Cyfrifiadau methodoleg ailgodi tâl y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw’r sail a ddefnyddiryn dryloyw ac yn gyson i ddosrannu gorbenion gan gynnwys Adnoddau Dynol, Cyllida TG i holl adrannau ac asiantaethau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar sail dybiannol.Hefyd, mae Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth yn darparu gwasanaethauarchwilio mewnol i’r asiantaeth.

Roedd yr asiantaeth hefyd wedi cael trafodion gydag adrannau ac endidau eraill yllywodraeth.

Nid oes unrhyw aelod o fwrdd yr asiantaeth, staff rheoli allweddol na phartïoncysylltiedig eraill wedi cynnal unrhyw drafodion o bwys gyda’r asiantaeth yn ystod yflwyddyn ariannol.

15.Rhwymedigaethau Digwyddiadol

IR35: Gweithio oddi ar y gyflogres

Roedd newid mewn deddfwriaeth ym mis Ebrill 2017 yn rhoi’r cyfrifoldeb dros asesustatws cyflogaeth gweithwyr wrth gefn ar y cleient terfynol pan fydd y cleient sy’nymgysylltu yn gorff sector cyhoeddus. Fel y cleient terfynol, gr?p y WeinyddiaethGyfiawnder sy’n gyfrifol am benderfynu a yw ymgysylltiadau o fewn rheolau gweithiooddi ar y gyflogres ai peidio, a throsglwyddo penderfyniadau ynghylch statws i’rasiantaeth sy’n talu ffi, fel bod y didyniadau treth ac Yswiriant Gwladol priodol yn cael eugwneud. Efallai y bydd y sawl sy’n ymgysylltu â’r sector cyhoeddus yn gyfrifol amunrhyw dreth sydd heb ei thalu o ganlyniad i drosglwyddo penderfyniad anghywir i’rasiantaeth sy’n talu ffi.

Yn 2019, heriodd CThEM gr?p y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ailedrych arbenderfyniadau ynghylch statws cyflogaeth ar gyfer yr holl weithwyr oddi ar ygyflogres a ddefnyddiwyd o fis Ebrill 2017, lle roeddem wedi penderfynu eisoes bodgweithwyr yn gweithredu y tu allan i reolau gweithio oddi ar y gyflogres ar y sail y

gallai gweithiwr unigol gael ei ddisodli gan weithiwr arall yn ôl dymuniad y gweithiwr hebymgynghori â’r Adran a heb i’r Adran gael hawl i feto.

Mae deddfwriaeth IR35 yn datgan os yw’r cleient wedi cymryd gofal rhesymol ac wedicyflawni ei ddyletswyddau eraill wrth ddod i gasgliad o ran asesu a yw gweithiwr y tuallan i’r cwmpas, yna ni fydd y cyfrifoldeb dros ddidynnu treth a chyfraniadau YswiriantGwladol a thalu’r rhain i CThEM yn ei ddwylo. Defnyddiodd gr?p y WeinyddiaethGyfiawnder y rheolau oddi ar y gyflogres yn ddiwyd ac yn ofalus, gan wneud asesiadystyriol o statws pob gweithiwr wrth gefn yn y lle cyntaf, gan ddefnyddio adnoddpenderfynu statws ar-lein CThEM. Mae’n bosibl y bydd yr OPG yn gyfrifol am unrhywdreth sydd heb ei thalu o ganlyniad i benderfyniad anghywir a drosglwyddwyd i’rasiantaeth sy’n talu ffi.

Arall

Ar 31 Mawrth 2020, nid oedd unrhyw rwymedigaethau digwyddiadol eraill(2018/19: 1, ni ddatgelwyd gwerth y rhwymedigaeth ddigwyddiadol o ystyriednatur sensitif yr achos hwn).

16.Offerynnau Ariannol

Gan fod gofynion arian parod yr OPG yn cael eu bodloni drwy’r broses amcangyfrifon, nidyw offerynnau ariannol yn chwarae cymaint o rôl wrth greu a rheoli risg ag y byddentmewn corff heb fod yn y sector cyhoeddus. Mae’r rhan fwyaf o offerynnau ariannol ynymwneud â chontractau i brynu eitemau anariannol yn unol â gofynion disgwyliedig yrasiantaeth o ran prynu a defnyddio, ac felly nid yw’r asiantaeth yn agored i fawr ddim risgoran credyd, hylifedd na’r farchnad. Mae’r holl asedau a rhwymedigaethau ariannol yncael eu datgan ar sail eu cost wedi’i hamorteiddio.

17.Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Mae digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd yn cael eu hystyried hyd at ddyddiadawdurdodi’r cyfrifon i’w cyhoeddi. Dehonglir hyn fel dyddiad tystysgrif ac adroddiad yRheolwr ac Archwilydd Cyffredinol. Nid oedd unrhyw ddigwyddiadau o’r fath yn galwam ddatgelu nac addasu’r cyfrifon.

Atodiad: Targedau perfformiad

Dangosydd effaith: Amser clirio gwirioneddol ar gyfartaledd ar gyfer atwrneiaethau

Targed yr amser clirio gwirioneddol ar gyfartaledd yw 40 diwrnod gwaith.

Pwrpas Dull cyfrifo Ffynhonnell data Cyflawnwyd
hyd at
31 Mawrth 2020
Mae’r dangosydd hwn yn cyfrifo nifer y diwrnodau gwaith ar gyfartaledd a gymerir i gofrestru ac anfon pob atwrneiaeth mewn cyfnod adrodd penodol. Dyma’r amser a gymerir rhwng dyddiad y cais a’r dyddiad anfon. O’r holl atwrneiaethau, gyda dyddiad anfon o fewn cyfnod adrodd, caiff nifer y diwrnodau gwaith (ac eithrio gwyliau banc a phenwythnosau) rhwng y ‘dyddiad anfon’ a’r ‘dyddiad derbyn’ eu cyfrif ac yna cynhyrchir cyfartaledd ar sail nifer y ceisiadau.
‘Dyddiad derbyn’ yw’r diwrnod y bydd yr OPG yn derbyn y cais gyda thaliad dilys
neu, fel arall, ddyddiad penderfyniad ar gyfer cais llwyddiannus am esemptiad neu ddileu ffi. Dyma’r adeg y bydd yr OPG yn dechrau prosesu’r cais.
‘Dyddiad anfon’ yw’r dyddiad y caiff yr atwrneiaeth gofrestredig ei hanfon fel rhan olaf y broses sydd wedyn yn dangos bod y cais wedi’i gofrestru ar ein systemau rheoli achosion mewnol.
Systemau rheoli achosion mewnol yr OPG. Amser Clirio Gwirioneddol ar Gyfartaledd o 40 diwrnod gwaith o’i gymharu â tharged o 40 diwrnod gwaith
Pwrpas Dull cyfrifo Ffynhonnell data Cyflawnwyd
hyd at
31 Mawrth 2020
Mae’r dangosydd hwn yn mesur cefnogaeth ac arweiniad amserol a chywir ar gyfer holl wasanaethau’r OPG, a chyfeirio at wasanaethau’r Llys Gwarchod lle bo hynny’n briodol. Nifer y galwadau a atebwyd o fewn 5 munud +nifer y galwadau sy’ncael eu gadael o fewn 5munud wedi’u rhannu âchyfanswm y galwadau aatebwyd +cyfanswm nifer ygalwadau sy’n caeleu gadael.
*Mae galwadau sy’n caeleu hailgyfeirio y tu allani’r cwmpas yn cael eutynnu o gyfanswm ygalwadau er mwynosgoi eu cyfrifddwywaith gan fod yrhain yn cael euhadrodd ar wahân panfo angen.
System rheoli data teleffoni yr OPG. % y galwadau a atebwyd ofewn 5 munud oedd92% o’i gymharu âtharged o 95%.

Dangosydd effaith: Arolygon digidol yr OPG o fodlonrwydd cwsmeriaid

Y ganran darged o gwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â gwasanaethau digidol yr OPG yw 80%

Pwrpas Dull cyfrifo Ffynhonnell data Cyflawnwyd
hyd at
31 Mawrth 2020
Mae’r dangosydd effaith hwn yn helpu i sicrhau ein bod yn datblygu ein gwasanaethau digidol i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid. Nifer y cwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â’r gwasanaethau digidol wedi’i rhannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg sy’n ateb y cwestiwn hwn. Arolwg boddhad cwsmeriaid - adnodd digidol atwrneiaethau Sgôr yr arolwg boddhad cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn oedd 95%.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: Arolwg boddhad cwsmeriaid yr OPG – Gwasanaethau Atwrneiaeth

Canran darged y cwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â’r gwasanaethau atwrneiaethau yw 80%.

Pwrpas Dull cyfrifo Ffynhonnell data Cyflawnwyd
hyd at
31 Mawrth 2020
Mae’r dangosydd hwn yn ein helpu i ddeall anghenion ein cwsmeriaid. Mae hefyd yn ein helpu i nodi tueddiadau er mwyn i ni allu gwella gwasanaethau yn barhaus. Nifer sydd wedi ymateb eu bod yn ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ wedi’i rhannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg. Arolygon o fodlonrwydd cwsmeriaid - atwrneiaethau. Sgôr yr arolwg boddhad cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn oedd 89%.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: Arolwg boddhad cwsmeriaid yr OPG – Gwasanaethau Dirprwyaeth

Canran darged y cwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â’r gwasanaethau dirprwyaeth yw 80%.

Pwrpas Dull cyfrifo Ffynhonnell data Cyflawnwyd
hyd at
31 Mawrth 2020
Mae’r dangosydd hwn yn ein helpu i ddeall anghenion ein cwsmeriaid. Mae hefyd yn ein helpu i nodi tueddiadau er mwyn i ni allu gwella gwasanaethau yn barhaus. Nifer sydd wedi ymateb eu bod yn ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ wedi’i rhannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg. Arolygon boddhad cwsmeriaid - dirprwyaeth Sgôr yr arolwg boddhad cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn oedd 77%.

Dangosydd effaith: goruchwylio dirprwyon

a) Targed amser cyfartalog i gael adroddiadau blynyddol o fewn 40 diwrnod gwaith
b) Targed amser cyfartalog i adolygu adroddiadau blynyddol o fewn 15 diwrnod gwaith
c) Mae’r targed ar gyfer adroddiadau blynyddol heb eu cwblhau am dros 98 diwrnod calendr yn 4% neu lai.

Pwrpas Dull cyfrifo Ffynhonnell data Cyflawnwyd
hyd at
31 Mawrth 2020
Mae’r dangosyddion hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod Yn darparu cefnogaeth gymesur a phriodol i bob dirprwy. a)Nifer y diwrnodaugwaith ar gyfartaleddrhwng ‘dyddiad dyledus’yr adroddiad (40 diwrnodgwaith ar ôl pen-blwydd ygorchymyn llys) a’rdyddiad y daeth yradroddiad i law’r OPG.
b)Nifer y diwrnodaugwaith ar gyfartaleddrhwng y dyddiad y ceiradroddiad blynyddol a’rdyddiad y cafodd eiadolygu.
d)Nifer yr achosiongydag o leiaf unadroddiad heb ei gwblhauam dros 98 diwrnod /Nifer yr achosion syddwedi cael o leiaf unadroddiad yn ddyledus*100.
Systemau rheoli achosion mewnol yr OPG. a) Amser cyfartalog igael adroddiadaublynyddol oedd 38diwrnod gwaith.
b)Adolygwyd pobadroddiad blynyddol ofewn 15 diwrnod, gydachyfartaledd o 11diwrnod gwaith.
c)Roedd 3% oadroddiadau blynyddolheb eu cwblhau am dros98 diwrnod calendr.

Dangosydd effaith: ymchwiliadau

a) Y targed yw asesu risgiau 95% o bryderon a leisiwyd cyn pen 2 ddiwrnod gwaith
b) Y targed yw i 95% o asesiadau risg diogelu gyrraedd canlyniad terfynol cyn pen 5 diwrnod gwaith
c) Y targed yw cwblhau pob ymchwiliad cyn pen 70 diwrnod gwaith
d) Y targed yw’r amser cyfartalog a gymerir i roi camau sy’n eiddo i’r OPG ar waith o fewn argymhellion yGwarcheidwad Cyhoeddus, lle barnwyd bod angen achos llys o fewn 35 diwrnod gwaith

e) Y targed yw’r amser cyfartalog a gymerir i roi camau sy’n eiddo i’r OPG ar waith o fewn argymhellion yGwarcheidwad Cyhoeddus, lle barnwyd nad oes angen achos llys o fewn 25 diwrnod gwaith

Pwrpas Dull cyfrifo Ffynhonnell data Cyflawnwyd
hyd at
31 Mawrth 2020
Mae’r dangosyddion hyn yn canolbwyntio ar gyfrifoldeb yr OPG i ddiogelu oedolion agored i niwed.
(a)a (b) bydd yr OPGyn ymgymryd â phrosesasesu risg i benderfynuar y canlynol:
i)a oes gan yGwarcheidwadCyhoeddusawdurdodaeth iymchwilio i bryderonac, os nad oes ganddo,i gyfeirio’r pryder at yrasiantaeth berthnasol
ii)a yw’r unigolynagored i niwed mewnperygl uniongyrchol oran ei les personol neuarian/eiddo a phagamau y mae angen eucymryd yn ddi-oed
iii)a ellir ymchwilio i’rpryder dros gyfnod hwy
c)Mae ymchwiliad yncael ei ystyried yn unsydd wedi dod i ben os:
i) oes adroddiadysgrifenedig ffurfiolwedi’i lofnodi gan yGwarcheidwadCyhoeddus
ii) cytunir igymeradwyo cais llys(lle mae hyn ynrhagddyddioadroddiad gan yGwarcheidwadCyhoeddus)
iii) yw rheolwrcydymffurfiaeth yncytuno i ddirwyn yrymchwiliad i benoherwydd credir bod
adroddiad i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ddiangen
iv) bydd y cleient ynmarw (a’r rheolwrcydymffurfiaeth ynpenderfynu bod digon owaith wedi’i wneud ar yrachos i fod yn deilwng oddosbarthiad
a) Mae dau ddiwrnodgwaith yn dechrau o’rdyddiad y mae’r OPGyn derbyn y pryder.Diwrnod 1 yw’r diwrnodgwaith y daw’r pryder ilaw.
b) Mae pum diwrnodgwaith yn dechrau o’rdyddiad y mae’r OPGyn derbyn y pryder.Diwrnod 1 yw’r diwrnodgwaith y daw’r pryder ilaw.
c) Mae’r cyfnod o 70diwrnod gwaith yndechrau ar y dyddiad ymae’r OPG yn derbyn ypryder sy’n arwain atymchwiliad.
d) Mae’r cyfnod o 35diwrnod gwaith yndechrau o’r dyddiad ymae’r GwarcheidwadCyhoeddus yncymeradwyo’radroddiad. Diwrnod
1 fydd y diwrnod mae’radroddiad yn cael eigymeradwyo.
e)Mae’r cyfnod o 25diwrnod gwaith yndechrau o’r dyddiad ymae’r GwarcheidwadCyhoeddus yncymeradwyo’radroddiad. Diwrnod
1 fydd y diwrnod mae’radroddiad yn cael eigymeradwyo.
Asesir risg pob cwyn a phryder ac ystyrir awdurdodaeth y Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Cofnodir atgyfeiriadau ac maent yn cynnwys y canlynol:
* y dyddiad ymae’r OPG ynderbyn y pryder
* y dyddiad y mae’r tîmymchwilio yn derbyn ypryder
* dyddiad yr asesiad risg
* amser yr asesiad risg
* dyddiad cwblhau’rymchwiliad
* canlyniad y cais igyfnod y LlysGwarchod (diwrnodaugwaith)
* cyfnod ymchwilio (cynyr adroddiad)
* cyfnod ymchwilio(ar ôl yradroddiad)
* argymhellion- dyddiadcymeradwyo ei gau.
a)roedd 98% obryderon yn destunasesiad risg o fewn 2ddiwrnod gwaith.
b)roedd 99% obryderon yn cyrraeddy canlyniad terfynolcyn pen 5 diwrnodgwaith.
c)Yr amser cyfartalogi gwblhau’rymchwiliadau oedd 74diwrnod gwaith.
d)Yr amsercyfartalog igwblhau pob
argymhelliad lle bernirbod achos llys ynhanfodol oedd 116diwrnod gwaith.
e)Yr amsercyfartalog igwblhau pob argymhelliad lle nad ywachos llys yn hanfodoloedd 14 diwrnod gwaith.

Dangosydd effaith: ymchwiliadau Parhad

a) Y targed yw asesu risgiau 95% o bryderon a leisiwyd cyn pen 2 ddiwrnod gwaith
b) Y targed yw i 95% o asesiadau risg diogelu gyrraedd canlyniad terfynol cyn pen 5 diwrnod gwaith
c) Y targed yw cwblhau pob ymchwiliad cyn pen 70 diwrnod gwaith
d) Y targed yw’r amser cyfartalog a gymerir i roi camau sy’n eiddo i’r OPG ar waith o fewn argymhellion yGwarcheidwad Cyhoeddus, lle barnwyd bod angen achos llys o fewn 35 diwrnod gwaith
e) Y targed yw’r amser cyfartalog a gymerir i roi camau sy’n eiddo i’r OPG ar waith o fewn argymhellion yGwarcheidwad Cyhoeddus, lle barnwyd nad oes angen achos llys o fewn 25 diwrnod gwaith

Pwrpas Dull cyfrifo Ffynhonnell data Cyflawnwyd
hyd at
31 Mawrth 2020
(d)ac (e) Maeargymhelliad yn cael eiystyried yn un syddwedi dod i ben os:
i) gwneir cais i’r LlysGwarchod, lle’r:
oedd hyn oganlyniad iargymhelliad:
a gymeradwywyd gan yGwarcheidwad Cyhoeddus:
ii) mae achos yn cael eigymeradwyo ar gyfer eigau dan yramgylchiadau canlynol:
* ni fernir bodangen achos llys:
* mae’r ymchwilydd ynrhannu canlyniad yrymchwiliad ac unrhywofynion pellach i’ratwrnai/dirprwy:
Ni fydd hyn yncynnwys monitro’r achosyn ddiweddarach
* mae’r dirprwy yngwneud cais i’r LlysGwarchod
     

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: cwynion

Y targed yw ymateb i 90% o holl gwynion cwsmeriaid cyn pen 10 diwrnod gwaith o’u derbyn

Pwrpas Dull cyfrifo Ffynhonnell data Cyflawnwyd
hyd at
31 Mawrth 2020
Mae’r dangosydd hwn yn chwarae rhan bwysig o ran helpu’r OPG i ddeall i ba raddau rydym yn      
cyflawni disgwyliadau ein cwsmeriaid. Bob mis, mae rheolwr cwynion haen 2 yn coladu nifer y cwynion y dylid delio â nhw yn ystod y mis (‘cyfanswm gyda tharged yn y mis’) a nifer y cwynion a gwblhawyd yn unol â’r targed (‘cyfanswm yr ymatebwyd iddynt yn unol â’r targed’).
Cyfrifir y dangosydd gyda chymorth y fformiwla ganlynol:
Cwynion a gwblhawyd yn unol â’r targed/cwynion y dylid delio â nhw x 100
Gwybodaeth reoli o bob maes busnes unigol. Ymatebwyd i 88% o gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith o’u derbyn.

Y targed yw i 30% o gwsmeriaid ddewis cwblhau eu ceisiadau atwrneiaeth gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Pwrpas Dull cyfrifo Ffynhonnell data Cyflawnwyd
hyd at
31 Mawrth 2020
Mae’r dangosydd hwn yn chwarae rhan bwysig o ran helpu’r OPG i wella’r offer digidol i’w gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr gael mynediad at ein gwasanaethau ar-lein. Canran y cymeriant digidol = Nifer yr atwrneiaethau arhosol a dderbyniwyd ar-lein yn ystod y cyfnod adrodd/ Cyfanswm nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod adrodd X 100 Systemau rheoli achosion mewnol yr OPG. Cwblhawyd 28% o geisiadau atwrneiaethau arhosol drwy ddefnyddio gwasanaethau ar-lein.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: mesur ansawdd ar gyfer yr atwrneiaethau arhosol a gofrestrwyd

Y targed yw cyflawni cyfradd gwallau o 5% neu lai o’r archwiliadau ansawdd a gwblhawyd adeg cofrestru’r atwrneiaethau arhosol.

Pwrpas Dull cyfrifo Ffynhonnell data Cyflawnwyd
hyd at
31 Mawrth 2020
Mesur ansawdd yw’r dangosydd hwn ac mae’n mesur nifer yr atwrneiaethau arhosol a gofrestrwyd heb wall. I gael canran y gyfradd gwallau, mae nifer yr achosion a wiriwyd gyda gwall yn cael ei rhannu â chyfanswm yr achosion a wiriwyd. Proses â llaw yw hon sy’n defnyddio gwybodaeth a gymerwyd o’r system rheoli achosion mewnol a’r llythyrau go iawn a anfonwyd at gwsmeriaid. Cofrestrwyd 98% o atwrneiaethau arhosol heb wall, gan adael y gyfradd gwallau yn 5%.

Dangosydd pobl: Ymgysylltu â staff

a) Y targed yw sicrhau sgôr ymgysylltu â staff o 62%
b) Y targed ar gyfer % y staff sydd wedi cael eu bwlio neu eu harasio yn y gweithle yw 11% neu lai
c) Y targed ar gyfer % y staff sydd wedi dioddef gwahaniaethu yn y gweithle yw 11% neu lai

Pwrpas Dull cyfrifo Ffynhonnell data Cyflawnwyd
hyd at
31 Mawrth 2020
Mae’r dangosyddion hyn yn ein helpu i greu lle gwych i weithio ac i gefnogi agwedd dim goddefgarwch tuag at fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn y gweithle. a)Mae pob un o’r pumcwestiwn ymgysylltu ynyr arolwg wedi’u pwysoligyda sgôr o 100-
0 yn dibynnu ar euhymateb. Mae’r sgoriausy’n deillio o hyn yn caeleu rhoi at ei gilydd a’urhannu â 5 (nifer ycwestiynau) i greu sgôr ymynegai ymgysylltiad.
b)Cyfrifir y dangosyddhwn drwy rannu niferyr ymatebwyr sy’ndatgan profiad
ofwlio a/neuaflonyddu âchyfanswm yrymatebwyr.
c)Cyfrifir y dangosyddhwn drwy rannu niferyr ymatebwyr sy’ndatgan profiad owahaniaethu âchyfanswm yrymatebwyr
Arolwg Blynyddol (ymgysylltu â staff) ac Arolwg Clyfar (Smart Survey). a)Y sgôr ymgysylltu âstaff oedd 62%
b)Roedd 17% o staffwedi cael profiad o fwlioa harasio
c)Roedd 20% o staffwedi cael profiad owahaniaethu

Dangosydd pobl: data gweithlu

a) Y targed ar gyfer trosiant staff yw 10% neu lai
b) Y targed yw sgôr o 7.5 diwrnod gwaith neu lai sy’n cael eu colli oherwydd absenoldeb salwch.

Pwrpas Dull cyfrifo Ffynhonnell data Cyflawnwyd
hyd at
31 Mawrth 2020
Mae’r dangosyddion hyn yn helpu ein penderfynwyr i sicrhau bod gan yr OPG ddigon o adnoddau, a fydd yn galluogi’r OPG i gyflawni amcanion ei chynllun busnes, gwireddu ei gweledigaeth ac ymdrechu i fodloni
gwerthoedd yr OPG ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud.
a) Cyfrifir y dangosydddrwy rannu cyfanswmnifer y rhai sy’n gadaelmewn cyfnod treigl o 12mis â chyfanswm nifer ystaff ar gyfartaledd drosgyfnod treigl o 12 mis.
b)Cyfrifir y dangosydddrwy rannu cyfanswm ydiwrnodau gwaith agollwyd mewn cyfnod âblynyddoedd staff mewncyfnod.
Darperir y data gan dîm Gwasanaethau Dadansoddi’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae’r
tîm Gwasanaethau Dadansoddi yn llwytho’r data i lawr o SOP, System Rheoli Achosion Adnoddau Dynol y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
a)Y trosiant staffoedd 11.4%
b)Cyfartaledd ydiwrnodau gwaith agollwyd oedd 9.5 diwrnodgwaith.

Dangosydd pobl: amser cyfartalog i recriwtio

Y targed yw 52 diwrnod gwaith

Pwrpas Dull cyfrifo Ffynhonnell data Cyflawnwyd
hyd at
31 Mawrth 2020
Mae’r dangosydd hwn yn helpu ein penderfynwyr i sicrhau bod gan yr OPG ddigon o adnoddau, a fydd yn galluogi’r OPG i gyflawni amcanion ei chynllun busnes, gwireddu ei gweledigaeth ac ymdrechu i fodloni
gwerthoedd yr OPG ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud.
Cyfrifir cyfanswm y diwrnodau gwaith a gymerir i gyflogi drwy gyfrif nifer y diwrnodau gwaith rhwng dyddiad “hysbysebu’r swydd” a dyddiad dechrau’r contract ar gyfer pob cyflogai newydd yn
y cyfnod adrodd ac yna fe’u rhoddir at ei gilydd. Gwneir cyfrifiad cyfartaledd cymedrig ar y ffigur uchod. Bydd hyn yn rhoi’r amser cyfartalog i recriwtio (diwrnodau gwaith)
System rheoli achosion recriwtio y Weinyddiaeth Gyfiawnder Yr amser cyfartalog i recriwtio yw 42 diwrnod gwaith.

Dangosydd pobl: dysgu a datblygu

Y ganran darged o staff sydd wedi cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu a datblygu yw 90%.

Pwrpas Dull cyfrifo Ffynhonnell data Cyflawnwyd
hyd at
31 Mawrth 2020
Mae’r dangosydd hwn yn helpu i greu lle gwych i weithio a chael cefnogaeth i ddatblygu set ehangach o sgiliau a chynnig gyrfaoedd mwy amrywiol i helpu i ddal gafael ar y dalent orau. Cyfrifir y dangosydd drwy rannu’r ymatebwyr sy’n datgan eu bod wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau Dysgu a Datblygu â chyfanswm yr ymatebwyr yn yr arolwg Bydd y data’n cael ei gasglu, ei fonitro a’i ddadansoddi drwy lwyfan Arolwg Clyfar ar-lein. 53% o staff sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu a datblygu.