Statutory guidance

Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol: canllaw statudol (accessible)

Updated 29 April 2024

Applies to England and Wales

Cyflwynwyd gerbron y Senedd yn unol ag adran 32(3) Deddf yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022

Mawrth 2023

Cyflwyniad

Mae pob lladd yn drasiedi, ac y mae’r Llywodraeth am wneud popeth a fedr i’w hatal a mynd i’r afael â thrais difrifol.

Cynyddodd nifer yr achosion o ladd o ryw draean rhwng 2014 a 2022. Dyma’r pedwerydd prif achos o farwolaeth ymysg dynion 20-34 oed (y tu ôl i hunanladdiad, gorddos o gyffuriau a gwrthdrawiadau traffig y ffyrdd). Mae cost lladd yn sylweddol, ac amcangyfrif ei fod yn costio dros £2.6bn bob blwyddyn ar brisiau 22/23.

Lladd gydag arf ymosodol yw cyfran fawr a chynyddol o bob achos o ladd – awgryma dadansoddiad mai dyma oedd 347 o’r 696 achos yn 2021/22. Mae’r Llywodraeth yn pryderu nad yw llawer o’r achosion hyn o ladd yn cael eu hadolygu’n ffurfiol ar hyn o bryd gan bartneriaid amlasiantaethol er mwyn dysgu a rhannu gwersi fel sy’n digwydd pan fod rhywun dan 18 oed yn marw, pan fo oedolyn bregus yn marw, pan fydd rhywun farw oherwydd trais domestig, neu pan fo rhywun sy’n derbyn gofal iechyd meddwl yn lladd.

O’r 696 trosedd a gofnodwyd i ddechrau fel lladd yn 2021/22, amcangyfrifwn nad oedd 483 yn ateb y meini prawf am adolygiad sy’n bod eisoes[footnote 1], a bod arf ymosodol yn rhan o’r 220 o’r achosion o ladd nas adolygwyd.

Cyflwynodd Deddf yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022[footnote 2] (“y Ddeddf”) ofyniad ar yr heddlu, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr a byrddau gofal integredig yn Lloegr a byrddau iechyd lleol yng Nghymru, i adolygu amgylchiadau rhai mathau o ladd lle’r oedd y dioddefwr yn 18 oed neu’n hŷn, a bod defnyddio arf ymosodol yn rhan, neu’n debygol o fod yn rhan, o’r digwyddiadau ynghylch eu marwolaeth.

Pwrpas yr adolygiadau hyn yw sicrhau pan fod achos cymwys o ladd yn digwydd, fod partneriaid lleol yn nodi’r gwersi i’w dysgu o’r farwolaeth, yn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau o ganlyniad, ac i rannu’r deilliant. Y bwriad yw i’r adolygiadau newydd hyn wella dealltwriaeth genedlaethol a lleol o’r hyn sy’n achosi lladd a thrais difrifol, gan beri bod gwasanaethau mewn sefyllfa well i atal achosion o ladd gydag arfau, a thrwy hynny arbed bywydau.

Mae Adran 34 y Ddeddf yn mynnu cynnal cynllun peilot cyn gwneud penderfyniad i gyflwyno’r polisi o Adolygu Lladd gydag Arfau Ymosodol (ALlAY) ledled Cymru a Lloegr. Yn dilyn cymeradwyo Rheoliadau Deddf yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol) 2022[footnote 3] (“Rheoliadau ALlAY”), gosod Rheoliadau Deddf yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (Dechreuad Rhif 1) (Cymru a Lloegr) 2023[footnote 4] (“y Rheoliadau Dechreuad”) a chyhoeddi’r Canllaw Statudol hwn, ymrwymodd y Llywodraeth i gynnal cynllun peilot 18-mis o broses ALlAY. Cynhelir y cynllun mewn sawl ardal awdurdod lleol yn Llundain (Bwrdeistrefi Llundain Barnet, Brent, Harrow, Lambeth a Southwark), Gorllewin Canolbarth Lloegr (ardaloedd Cyngor Dinas Birmingham a Coventry), a Chymru (ardal heddlu De Cymru). Cyflwynir ALlAY yng Nghymru fel rhan o broses Adolygiad Diogelu Unedig Sengl[footnote 5] (ADUS) Llywodraeth Cymru, sy’n adlewyrchu eu cefnogaeth i’r polisi.

Caiff y cynlluniau peilot eu gwerthuso i sicrhau bod ALlAY yn cwrdd ag anghenion, disgwyliadau a ffyrdd o weithio pawb sy’n rhan ohonynt. Dan adran 34(3) y Ddeddf rhaid cyflwyno adroddiad i’r Senedd am y cynllun peilot, cyn dod i benderfyniad am weithredu ALlAY ymhellach ledled Cymru a Lloegr. Adolygir y Canllaw Statudol hwn yng ngoleuni canfyddiadau a gwersi o’r cynllun peilot, a’i gyfoesi cyn cyflwyno ALlAY yn ehangach ledled Cymru a Lloegr.

1: Beth yw Adolygiad o Ladd ag Arfau Ymosodol (ALlAY) a beth yw ei bwrpas?

Statws a phwrpas y canllaw hwn

1.1 Cyhoeddir y canllaw hwn gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros y Swyddfa Gartref, fel canllaw Statudol dan adran 32 y Ddeddf. Mae’n gymwys i bartneriaid adolygu fel y’i diffinnir yn adran 36 y Ddeddf (prif swyddogion yr heddlu ac awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, a Byrddau Gofal Integredig (ICBs) yn Lloegr a Byrddau Iechyd Lleol (BILl) yng Nghymru) ac fe’i cynhyrchwyd i gefnogi partneriaid adolygu wrth arfer y swyddogaethau a osodwyd arnynt gan y Ddeddf parthed ALlAY.

I nodi: Fel y gosodir allan yn y Rheoliadau Dechreuad, o 1 Ebrill 2023 daw darpariaethau ALlAY i rym at ddibenion partneriaid y cynllun peilot, am gyfnod y cynllun. Oni nodir i’r gwrthwyneb (cyhoeddi, rhannu gwybodaeth ayyb), nid yw’r darpariaethau hyn yn gymwys ar hyd o bryd ar draws Cymru a Lloegr.

1.2 Wrth ddatblygu’r canllaw hwn, ymgynghorwyd â’r canlynol:

a. pobl sy’n cynrychioli partneriaid adolygu posib,

b. Gweinidogion Cymru, i’r graddau y mae a wnelo’r canllaw ag awdurdod datganoledig Cymreig,

c. rhanddeiliaid cenedlaethol a lleol perthnasol eraill yng Nghymru a Lloegr.

Beth yw adolygiad lladd ag arfau ymosodol?

1.3 Dylid trefnu ALlAY fel y gosodir allan yn adran 24(1) y Ddeddf, lle’r ystyria partner adolygu:

a. fod marwolaeth person yn lladd cymwys, neu’n debygol mai dyna ydoedd,

b. i’r farwolaeth ddigwydd, neu fwy na thebyg wedi digwydd, yng Nghymru neu yn Lloegr,

c. y bodlonir amodau eraill a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn rheoliadau (gweler paragraffau 1.8 – 1.11 y canllaw hwn), a

d. bod y partner adolygu yn un o bartneriaid perthnasol yr adolygiad parthed y farwolaeth.

Mae’r ddyletswydd yn gymwys yn unig i farwolaethau a ddigwyddodd, neu oedd yn debygol o fod wedi digwydd, adeg neu ar ôl dechreuad y Rheoliadau.

1.4 Dan adran 24(6) y Ddeddf, mae lladd rhywun yn lladd cymwys os:

a. oedd y person yn 18 oed neu’n hŷn, a

b. bod defnyddio arf ymosodol yn rhan o’r farwolaeth neu’r digwyddiadau yn ei gylch

Mae’r meini prawf a osodir allan yn y ddeddfwriaeth yn cadarnhau, i ladd gael ei ystyried am ALlAY, fod yn rhaid i’r dioddefwr fod dros 18 oed. Gall troseddwr honedig gael ei gynnwys mewn adolygiad ar unrhyw oed, gan gynnwys dan 18.

1.5 Diffinnir arf ymosodol, at ddibenion ALlAY, yn adran 1 Deddf Atal Troseddau 1953[footnote 6] fel:

unrhyw eitem a wnaed neu a addaswyd i’w ddefnyddio er mwyn peri anaf i’r person, neu a fwriadwyd gan y person sydd â’r eitem gydag ef i’w ddefnyddio felly ganddo ef, neu gan rywun arall.

Gall hyn gynnwys, er enghraifft, cyllyll, drylliau, asidau a sylweddau cyrydol eraill, poteli gwydr, brics a batiau pêl fas. Mae’n cynnwys eitemau sydd yn ymosodol per se (h.y., eitemau a wnaed i’w defnyddio er mwyn peri anaf i’r person, megis cyllell pili pala), sydd wedi eu haddasu i’w defnyddio (e.e. potel a falwyd yn fwriadol), ac eitemau y mae’r sawl sydd yn eu meddiant yn bwriadu eu defnyddio i beri anaf. Ni fwriadwyd i’r rhestr a osodir allan yma gynnwys popeth, o ystyried natur y prawf yn y diffiniad.

1.6 Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau dan adran 24(7)(a) er mwyn newid ystyr ‘lladd cymwys’. Gwnaed hyn er mwyn caniatáu am sefyllfaoedd lle gellir ystyried hyn yn briodol, er enghraifft trwy adborth, gwybodaeth, neu fygythiad o newid yn y dyfodol, y byddai adolygiadau lladd yn fuddiol i fynd i’r afael â mathau eraill o ladd megis y rhai lle nad oes arfau ymosodol dan sylw neu yng nghyswllt grwpiau oedran gwahanol. Byddai unrhyw reoliadau yn y dyfodol dan yr adran hon yn caniatáu newid ystyr ‘lladd cymwys’, er enghraifft i ymgorffori’r mathau hyn neu eraill o ladd lle defnyddir arfau gwahanol i’r rhai yn niffiniad Deddf Atal Troseddau 1953. Nid oes rheoliadau yn cael eu cyflwyno yn y maes hwn ar hyn o bryd.

1.7 Ymhellach, nid oes dyletswydd i drefnu ALlAY lle bo adolygiad statudol arall yn gymwys (gweler adran 26 y Ddeddf a pharagraffau 1.18 – 1.21 isod).

Amodau ychwanegol am ALlAY – Rheoliadau Deddf yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol) 2022

1.8 Mae Rheoliadau Deddf yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol) 2022[footnote 7] yn gosod allan, yn Rheoliad 4, yr amodau eraill sy’n tanio’r angen am adolygiad (yn unol ag adran 24(1)(c) y Ddeddf). Mae’r rhain yn mynnu:

(a) bod un o’r canlynol wedi ei ganfod –

i. corff y sawl fu farw, neu

ii. ran o gorff y sawl fu farw,

(b) y cofnodwyd pwy oedd un o’r canlynol-

i. y sawl fu farw, neu

ii. o leiaf un person a achosodd farwolaeth y person hwnnw, neu sy’n debygol o fod wedi ei achosi,

(c) bod gan un neu fwy o’r partneriaid adolygu wybodaeth am, neu y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddo/i fod â gwybodaeth am -

i. y sawl fu farw, neu

ii. o leiaf un person a achosodd farwolaeth y person hwnnw, neu sy’n debygol o fod wedi ei achosi,

Golyga “gwybodaeth” fod gwybodaeth fod risg y gall rhywun gyflawni, neu ddioddef, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddol, a bod gwybodaeth o’r fath—

i. yn cynnwys gwybodaeth am addysg yr unigolyn, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddol, tai, hanes meddygol, iechyd meddwl, a diogelu, ac

ii. nad yw’n cynnwys gwybodaeth a ddaeth yn hysbys i bartner adolygu yn unig wedi marwolaeth y person.

(d) nad yw’r farwolaeth yn ‘fater marwolaeth neu anaf difrifol’ yn ystyr adran 12(2A) Deddf Diwygio’r Heddlu 2002[footnote 8] (marwolaeth a achosir gan swyddog heddlu wrth gyflawni ei d/ddyletswyddau swyddogol).

1.9 Bydd yr amodau hyn yn helpu i sicrhau y bydd angen adolygu achosion yn unig lle bu partneriaid yn ymwneud mewn rhyw fodd ag unigolyn neu’n ei adnabod (neu lle bo’n rhesymol disgwyl y dylasent fod wedi bod mewn cysylltiad), gan sicrhau trwy hynny y gellir gwneud argymhellion ymarferol a’u cyfeirio tuag at bartneriaid i wella perfformiad yn y dyfodol. Byddant yn anghymwys mewn sefyllfaoedd, er enghraifft, lle bo ymladdfa mewn tafarn rhwng dau ddieithryn, heb unrhyw ymwneud blaenorol â’r partneriaid adolygu, yn arwain at farwolaeth oherwydd anaf i’r ymennydd a ddeilliodd o ddefnyddio ciw snwcer wedi’i dorri, er enghraifft, ond na fyddai’n debygol o esgor ar argymhellion am newid pe cynhelid ALlAY. Mae’r rheoliadau yn cyfeirio at wybodaeth fod risg i’r person, er mwyn rhoi isafswm trothwy ar gyfer tanio’r ddyletswydd gyfreithiol i drefnu adolygiad. Er enghraifft, nid y bwriad yw i unigolyn sy’n ‘hysbys’ i’r heddlu am iddo gael ei stopio am oryrru neu i’r awdurdodau lleol am beidio â thalu treth y cyngor, ayyb, fod o fewn cwmpas yr amod hwn. Mae’r rheoliadau hefyd yn cadarnhau nad yw hyn yn cynnwys gwybodaeth a ddaeth yn hysbys i’r partneriaid adolygu ar ôl i’r unigolyn farw.

1.10 Mae Adran 24 (6)(b) y Ddeddf yn rhoi’r hyblygrwydd i laddiadau gael eu hystyried lle nad yw marwolaeth, efallai, wedi ei achosi gan arf ymosodol, ond bod defnyddio arf ymosodol yn rhan o’r digwyddiadau yn ei gylch. Maer’ hyblygrwydd hwn yn caniatáu i’r achosion hyn gael eu hystyried ar gyfer eu hadolygu, gan y gall amgylchiadau ehangach y farwolaeth olygu ei bod yn debygol y gall gwersi perthnasol gael eu dysgu o’r lladd. Os atebir yr amodau ychwanegol a osodir allan yn rheoliadau ALlAY yn hyn o beth, awgrymir y dylid ystyried ALlAY.

1.11 Rhaid i bartneriaid adolygu benderfynu a fodlonwyd yr amodau a osodwyd allan yn y rheoliadau ai peidio, ac a daniwyd y trothwy am adolygiad.

Partneriaid perthnasol yr adolygiad

1.12 Diffinnir partneriaid adolygu yn adran 36 y Ddeddf fel: prif swyddog heddlu ac awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr, a Bwrdd Gofal Integredig (ICB) yn Lloegr neu Fwrdd Iechyd Lleol (BILl) yng Nghymru. Diffinnir awdurdod lleol yn Lloegr fel cyngor sir, cyngor dosbarth, cyngor bwrdeistrefol Llundain, Cyngor Cyffredin Dinas Llundain yn rhinwedd y swyddogaeth hon fel awdurdod lleol, neu Gyngor Ynysoedd Sili. Diffinnir awdurdod lleol yng nghyswllt Cymru fel cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

1.13 Gall nifer o bartneriaid ddod i gategori ‘partner adolygu’ a gallant ddal gwybodaeth sy’n berthnasol i’r adolygiad megis:

a. y partneriaid adolygu hynny yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth,

b. y partneriaid adolygu hynny mewn ardal lle’r oedd y dioddefwr yn byw ar y pryd neu lle bu’n byw, neu

c. y partneriaid adolygu hynny mewn ardal lle’r oedd y troseddwr/wyr neu’r troseddwr/wyr honedig yn byw ar y pryd neu lle bu/ont yn byw.

Dylai pob un o’r partneriaid adolygu hyn gyfrannu’n weithredol i’r adolygiad a darparu’r wybodaeth sydd ganddynt pan ofynnir amdano. O’r rhain, nodir un set fel y rhai sy’n gyfrifol am drefnu a chynnal yr adolygiad ei hun am y farwolaeth - hwy fydd partneriaid perthnasol yr adolygiad.

1.14 I gydnabod cymhlethdod llawer o achosion o ladd gydag arf ymosodol, mae adran 25 y Ddeddf yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau i nodi pa bartneriaid adolygu yw partneriaid perthnasol yr adolygiad yng nghyswllt marwolaeth unigolyn. Dywed Rheoliadau[footnote 9] ALlAY mai partneriaid perthnasol yr adolygiad yng nghyswllt marwolaeth unigolyn fydd-

(a) y rhai hynny y digwyddodd y farwolaeth yn eu hardal neu lle mae’n debygol mai yno y digwyddodd, neu

(b) os nad yw lleoliad neu leoliad tebygol y farwolaeth yn hysbys, -

i. y rhai hynny y cofnodwyd canfod corff y sawl a fu farw, neu ran o gorff y sawl a fu farw, yn eu hardal hwy, neu

ii. os cofnodwyd canfod rhannau o’r corff mewn mwy nag un ardal, yr ardal lle cofnodwyd canfod rhan gyntaf y corff.

Os bu farw mwy nag un person yn yr un digwyddiad, partneriaid perthnasol yr adolygiad yw’r rheiny –

(a) y digwyddodd y marwolaethau yn eu hardal neu lle bu’r marwolaethau yn debygol o fod wedi digwydd, neu

(b) os nad yw lleoliad y marwolaethau yn hysbys neu os oes mwy nag un lleoliad wedi ei gofnodi, yr ardal gyntaf lle cofnodwyd canfod corff, neu ran o gorff, person a fu farw.

Os nad yw’r amgylchiadau uchod yn gymwys, gall yr Ysgrifennydd Gwladol roi cyfarwyddyd i bennu pa bartneriaid yw partneriaid perthnasol yr adolygiad.

1.15 Dan adran 36(2)(a) y Ddeddf, gall yr Ysgrifennydd Gwladol, trwy reoliadau yn y dyfodol, newid y diffiniad o ‘bartner adolygu’. Byddai hyn yn caniatau ychwanegu cyrff ychwanegol at y gofynion i gynnal ALlAY neu i dynnu ymaith unrhyw rai o’r cyrff statudol cyfredol.

1.16 Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth am reoliadau sy’n nodi pwy fydd partneriaid perthnasol yr adolygiad hefyd i wneud darpariaeth (yn unol ag adran 25(5)(a) a (b)) i’r perwyl:

a. y gall grŵp o bartneriaid adolygu gytuno gyda grŵp arall o bartneriaid adolygu i fod yn bartneriaid perthnasol yr adolygiad yng nghyswllt marwolaeth person yn hytrach na’r grŵp arall hwnnw;

b. i bartneriaid adolygu a ddisgrifir fel y nodir yn y rheoliadau i gytuno rhyngddynt pa un yw’r partner adolygu perthnasol yng nghyswllt marwolaeth person.

Nid oes rheoliadau ar hyn o bryd yn cael eu cyflwyno yn y maes hwn oherwydd bod rheoliadau ALlAY yn gwneud yn glir pa bartneriaid adolygu fydd partneriaid perthnasol yr adolygiad am farwolaeth person (fel sy’n cael ei osod allan ym mharagraffau 1.12 - 1.14 uchod). Ystyrir defnyddio’r pŵer hwn yn y dyfodol os bydd adborth a dadansoddi yn rhoi tystiolaeth o’r angen i wneud newidiadau yn y maes hwn.

1.17 Unwaith iddynt gael eu nodi, dylai partneriaid perthnasol yr adolygiad gychwyn ar y broses o bennu a yw’r farwolaeth yn lladd cymwys. I egluro, o’r pwynt hwn yn y canllaw, cyfeirir at ‘bartneriaid perthnasol yr adolygiad’ yn hytrach na ‘phartneriaid adolygu’. Er bod y ddeddfwriaeth yn cyfeirio at ‘bartneriaid adolygu’ cafodd hyn ei gynnwys er mwyn darparu ar gyfer sefyllfaoedd lle na fyddai partneriaid perthnasol yr adolygiad, efallai, wedi eu nodi ar ddechrau’r ALlAY. Gan fod y rheoliadau yn gwneud y broses hon o nodi yn glir, defnyddir ‘partneriaid perthnasol yr adolygiad’ o hyn allan i osgoi dryswch ynghylch pwy all fod yn gyfrifol am ymgymryd â rôl arbennig. I egluro:

Partneriaid perthnasol yr adolygiad - fel y gosodir allan yn rheoliadau ALlAY: yr heddlu, awdurdod lleol, a’r bwrdd gofal integredig /bwrdd iechyd lleol yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth neu lle’r oedd yn debygol o fod wedi digwydd, neu lle canfuwyd y corff neu ran o’r corff gyntaf (neu’r corff/rhan o’r corff cyntaf yn achos marwolaethau lluosog).

Partneriaid Adolygu - yr heddlu, awdurdod lleol, a byrddau gofal integredig /byrddau iechyd lleol yng Nghymru a Lloegr nad ydynt yn bartneriaid perthnasol yr adolygiad. Er enghraifft, yr awdurdodau dros ardal bresennol neu flaenorol lle’r oedd y dioddefwr yn byw, neu mewn ardal bresennol neu flaenorol lle’r oedd y troseddwr/wyr honedig yn byw, cyhyd â bod yr ardal hon yn wahanol i’r un lle digwyddodd y farwolaeth neu lle’r oedd yn debygol o fod wedi digwydd, neu lle canfuwyd y corff neu ran o’r corff gyntaf.

Cyrff priodol - y rhai sy’n briodol iddynt gyfrannu at adolygiad. Bydd y rhain yn ychwanegol at bartneriaid perthnasol yr adolygiad/partneriaid adolygu ac fe allasant, neu gellid yn rhesymol dybio iddynt, fod wedi bod â chyswllt naill ai â’r dioddefwr, neu droseddwr/wyr honedig, a gallant gynnwys y rhai hynny yn y gymuned gydag arbenigedd ehangach o drais difrifol, troseddolrwydd, cam-fanteisio, a ffactorau risg cymdeithasol ac economaidd. Gweler paragraff 2.30 am restr a awgrymir o gyrff priodol.

Partneriaid lleol – defnyddir i ddisgrifio gyda’i gilydd y partneriaid/asiantaethau sy’n rhan o waith atal troseddu a diogelwch cymunedol mewn ardal, a gall gynnwys partneriaid statudol ac anstatudol. Nid yw hyn yn benodol i ALlAY yn unig.

Perthynas ag adolygiadau eraill

1.18 Mae adolygiadau statudol a rhai eraill a bennir y gellir eu cynnal pan fo marwolaeth yn digwydd. Nid dyblygu’r rhain yw bwriad yr ALlAY, ond yn hytrach sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu mewn rhai achosion lle nad yw adolygiadau o’r fath yn gymwys. Felly, dywed adran 26(1) y Ddeddf nad yw’r ddyletswydd i gynnal ALlAY yn gymwys lle:

a. mae’n rhaid neu y gellir trefnu adolygiad i farwolaeth plentyn yng nghyswllt y farwolaeth (gweler adran 16M(1) a (2) Deddf Plant 2004[footnote 10]), b. gall y farwolaeth fod yn destun adolygiad lladd domestig (gweler adran 9 Deddf Trais Domestig, Trosedd a Dioddefwyr 2004[footnote 11]), neu c. mae’n rhaid neu y gellir sefydlu adolygiad diogelu oedolyn yng nghyswllt y farwolaeth (gweler adran 44(1) a (4) Deddf Gofal 2014[footnote 12]).

Mae’r ddyletswydd i drefnu ALlAY hefyd yn cael ei anghymhwyso gan adran 26(3) y Ddeddf, lle mae gofyn i Fwrdd Diogelu (gan gynnwys Bwrdd Diogelu Plant, Oedolion neu Fwrdd ar y Cyd) yng Nghymru gynnal adolygiad o’r farwolaeth (trwy reoliadau a wnaed dan adran 135(4)(a) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 (anaw 4).

1.19 Cyn cychwyn ALlAY, dylai’r partneriaid adolygu fod yn glir am broses er mwyn gofalu bod gwiriadau yn cael eu cynnal mor fuan ag sydd modd yn dilyn marwolaeth, er mwyn cadarnhau a oes adolygiad statudol arall yn gymwys i’r farwolaeth.

1.20 Mae Adran 26(2) a (4) y Ddeddf yn caniatau gwneud rheoliadau fel na chymhwysir y ddyletswydd i gynnal ALlAY lle’r achosir y farwolaeth gan bobl sydd yn neu wedi derbyn unrhyw wasanaethau iechyd yn ymwneud ag iechyd meddwl a:

a. lle gellir neu mae’n rhaid ymchwilio i’r farwolaeth dan drefniadau a wneir gan gyrff y GIG (adolygiadau lladdiadau iechyd meddwl yw’r enw ar y rhain, neu Ymchwiliadau Annibynnol o Laddiadau Iechyd Meddwl); neu

b. fe all fod adolygiad neu ymchwiliad i ddarparu’r gofal iechyd hwnnw dan adran 70 Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.

Nid oes rheoliadau yn cael eu cyflwyno yn y maes hwn ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae mwy o ganllawiau ym mharagraffau 2.43 – 2.45 i gynorthwyo gyda rhoi ALlAY ar waith lle gall troseddwr honedig fod wedi bod yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl.

1.21 Darparwyd mwy o wybodaeth ym mharagraffau 2.46 – 2.56 ar laddiadau lluosog, lladdiadau cysylltiedig, Trefniadau Amlasiantaethol Gwarchod y Cyhoedd (MAPAA) a lladdiadau gyda chysylltiad Prevent.

Pwrpas ALlAY

1.22 Fel y manylwyd arno yn adran 28(2) y Ddeddf, pwrpas ALlAY yw:

a. nodi’r gwersi i’w dysgu o’r farwolaeth, ac

b. ystyried a fyddai’n briodol i unrhyw un gymryd camau yng nghyswllt y gwersi hynny a ddysgwyd.

Dan adran 28(3) lle’r ystyrir y byddai’n briodol i berson weithredu yng nghyswllt y gwersi hynny a ddysgwyd, (gweler paragraff 8.2), rhaid i bartneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol neu Gadeirydd Annibynnol os dirprwywyd iddynt, hysbysu’r person hwnnw. Gweler paragraffau 3.12 - 3.19 am fanylion llawn am ddirprwyo a rôl asiantaeth arweiniol /Cadeirydd Annibynnol.

1.23 Ymdrinnir yn fanylach â gwersi a ddysgwyd ym mhennod 8 ‘Sicrhau dysgu effeithiol’, a gall hyn gynnwys:

a. adnabod ffactorau a allasai fod wedi ei gwneud yn fwy anodd i’r gweithwyr proffesiynol a’r sefydliadau lleol hynny, oedd yn gweithio gyda’r dioddefwr, troseddwr/wyr honedig, pobl eraill cysylltiedig â’r farwolaeth, a chyda’i gilydd, i leihau’r risg o drais o’r cychwyn;

b. nodi’r hyn y gellid ei wneud yn wahanol ar lefel asiantaeth a system i atal lladd yn y dyfodol a lleihau trais difrifol;

c. adnabod mannau lle mae arfer da ac ymyriadau llwyddiannus y gellid eu hymgorffori i brosesau cyffredinol ac ymatebion gan systemau.

1.24 Dyma amcanion strategol ychwanegol ALlAY:

a. canfod pa wersi y gellir eu dysgu o ran agwedd ac ymateb gwasanaethau cyfan i bob lladdiad cymwys, a sut i’w cymhwyso i atal lladd a thrais difrifol yn y dyfodol .

b. atal lladd gydag arfau ymosodol a thrais difrifol cysylltiedig trwy ddatblygu gwell dealltwriaeth yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol o rôl darparu gwasanaethau gan unigolion a systemau, a pha welliannau y gellir eu gwneud mewn polisi, arferion neu’r gyfraith.

c. Cyfrannu at well gwybodaeth am laddiadau gydag arfau ymosodol a thrais difrifol cysylltiedig trwy well dealltwriaeth o’r berthynas rhwng y dioddefwr a’r troseddwr/wyr honedig, a phobl eraill cysylltiedig â’r farwolaeth, a sut y maent yn ymwneud a gwasanaethau perthnasol.

1.25 Yng nghyswllt yr amcanion hyn, argymhellir bod yr adolygiad yn archwilio gweithredoedd partneriaid/cyrff ac ymarferwyr unigol, a deall ar yr un pryd sut y gwnaeth system y sawl oedd yn rhan o’r lladd cymwys ffurfio ac ymwneud â’r digwyddiadau a arweiniodd ato. O wneud hyn, bydd adolygiadau yn rhydd i holi nid yn unig a ddilynwyd gweithdrefnau a pholisïau, ond a oedd y gweithdrefnau a’r polisïau yn ddigonol/briodol i amddiffyn y dioddefwr, troseddwr/wyr honedig a phobl eraill â chysylltiad â’r lladd cymwys yn y lle cyntaf. Dylid rhoi blaenoriaeth i ganolbwyntio ar adnabod gwersi fel bod modd cymryd agwedd wahanol gan y system i ymdrin â thrais difrifol a’i atal.

1.26 Nid ymchwiliadau i farwolaeth y dioddefwr yw ALlAY, ac nis bwriadwyd i nodi pwy sy’n euog. Nid prosesau disgyblu mohonynt chwaith. Lle bo mater disgyblu yn dod i’r amlwg yn ystod ALlAY, dylid ei drin ar wahân i’r ALlAY ac yn unol â phrosesau disgyblu’r sefydliad perthnasol. Felly, dylai ALlAY allu rhoi grym i weithwyr proffesiynol i edrych i mewn i ffyrdd o wella eu sefydliad a’r system ehangach y maent yn gweithio ynddi er mwyn amddiffyn pobl rhag trais difrifol ac atal lladd yn y dyfodol. Bydd angen meddwl o’r newydd am ffyrdd o ymchwilio, a gallu herio naratifau, arferion a pholisïau sy’n bodoli eisoes, er mwyn cael ALlAY ystyrlon.

1.27 Dylai ALlAY hefyd geisio cyfrannu at ddealltwriaeth ehangach o drais difrifol, yr hyn sy’n ei sbarduno, a phrofiadau’r sawl y cafodd effaith arnynt, er mwyn bod yn sail i bolisïau ac arferion. Dylai adolygiadau geisio gosod yr adroddiad yn amgylchedd, cymuned a rhwydwaith cymdeithasol y dioddefwr, troseddwr/wyr honedig a, lle bo modd, y bobl eraill oedd â chysylltiad â’r lladd cymwys. Bydd hyn o raid yn golygu y bydd yr adolygwyr yn edrych y tu hwnt i ymwneud yn unig a gwasanaethau, at y ffactorau a allasai fod wedi arwain at ganlyniad gwahanol, er enghraifft, trwy ymyriadau gwahanol.

1.28 Mae gofyn i bartneriaid perthnasol yr adolygiad a Chadeiryddion Annibynnol ystyried materion cydraddoldeb ac amrywiaeth bob amser, a chydymffurfio a gofynion Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus dan adran 149 Deddf Cydraddoldeb 2010. Gall oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, ethnigrwydd, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol oll gael effaith ar y modd mae adolygiad yn cael ei gynnal, ei gyflwyno a’i ddeall gan y partneriaid adolygu a chymunedau lleol.

1.29 Dylai adolygwyr a chyrff priodol gymryd camau amlwg i liniaru yn erbyn gogwydd a allai gael effaith ar gynnal a chanlyniad yr adolygiad, yn fwriadol neu’n ddiarwybod. Gall materion nodweddion gwarchodedig a rhyngadranoldeb fod yn arbennig o bresennol mewn ALlAY, ac y mae’n bwysig fod adolygwyr yn ceisio deall a chynrychioli’r ffyrdd y mae’r ffactorau hyn yn rhyngweithio ac yn dylanwadu ar ddigwyddiadau a arweiniodd at y lladd cymwys.

1.30 Bwriadwyd proses ALlAY i sicrhau bod yr arferion gorau a gwersi yn cael eu dwyn ymlaen a bod newid yn digwydd lle bo angen. I helpu’r broses hon, sefydlwyd Bwrdd Goruchwylio ALlAY i fonitro a goruchwylio gweithredu camau, ac i ddwyn ynghyd wersi thematig ar lefel genedlaethol. Mae mwy o fanylion ym mharagraffau 8.11 - 8.17.

1.31 fel y gosodir allan ym mhennod 8, anogir perthynas gydweithredol o ddeialog agored rhwng ardaloedd adolygu lleol a Bwrdd Goruchwylio ALlAY er mwyn datrys unrhyw gwestiynau/problemau yn ystod y broses adolygu. Dylid trafod y materion hyn yn lleol yn gyntaf, gan gynnwys gyda’r broses leol o oruchwylio (gweler paragraff 2.6 - 2.7). Os nad oes modd eu datrys, gellir cysylltu â’r Bwrdd Goruchwylio ALlAY i helpu i ddod o hyd i ateb. Fel y gosodir allan ym mharagraffau 7.21 - 7.22, nid oes gan Fwrdd Goruchwylio ALlAY na’r Ysgrifennydd Gwladol swyddogaeth sicrhau ansawdd o fewn y Ddeddf. Rhaid gwirio ansawdd a chyflwyno ALlAY o fewn prosesau/hierarchaeth leol. Dylai partneriaid lleol fod a hyder fod adroddiad ar safon sy’n barod i’w gyhoeddi pan gaiff ei gyflwyno i’r Swyddfa Gartref. O’r herwydd, mae’n bwysig, os cyfyd ymholiadau neu broblemau, fod yr ardaloedd sy’n bartneriaid yn defnyddio’r gefnogaeth a gynigir gan Fwrdd Goruchwylio’r ALlAY i helpu i’w datrys y cyfle cyntaf a geir.

2: Cyflwyno ALlAY

2.1 Mae’r siart broses ym mharagraff 3.1 yn ganllaw cam-wrth-gam i broses ALlAY. Argymhellir bod partneriaid lleol yn trafod gyda’u strwythurau goruchwylio lleol (gweler paragraffau 2.6 - 2.7 isod) y broses maent am ddilyn yn eu hardal pan fod lladd cymwys gydag arf ymosodol yn digwydd. Gallai hyn gynnwys nodi asiantaeth arweiniol (gweler paragraffau 2.8 - 2.9 isod) neu dîm i gydgordio eu ALlAY, y sefydliad/proses o oruchwylio, a phroses sicrhau ansawdd y cytunir arni. Dylid bod yn glir hefyd ynghylch a fydd y rôl ‘asiantaeth arweiniol’ hon yn parhau ar gyfer cyfnodau penodol yr adolygiad, tra pery’r adolygiad, neu a fydd y rôl yn parhau i’r dyfodol i ymwneud â’r Bwrdd Goruchwylio ALlAY (gweler paragraffau 8.11-8.17), wrth i argymhellion gael eu cymryd ymlaen. Dylid rhannu’r wybodaeth hon â phartneriaid a sefydliadau sy’n debyg o fod yn rhan o ALlAY yn eu hardal, gan gynnwys Uwch-Swyddogion Ymchwilio (SIOs).

2.2 Pan nodir yr hyn sy’n cael ei amau fel lladdiad gydag arf ymosodol gan un o’r partneriaid adolygu, neu gan USY y llu heddlu sy’n ymchwilio i’r farwolaeth, dylent hysbysu partneriaid perthnasol tebygol yr adolygiad am y digwyddiad. Awgrymir gwneud hyn o fewn 24-72 i’r farwolaeth.

Achosion o ladd sy’n gymwys yng Nghymru

2.3 Yng Nghymru Cymru, mae’r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS) yn cael ei ddatblygu i leihau’r angen am gynnal adolygiadau ochr yn ochr i’r un digwyddiad, gan osgoi dyblygu adnoddau ac arbed amser a chostau cynnal nifer o adolygiadau. Gweithredir yr ADUS yng Nghymru yn 2023 fel y mecanwaith i gynnal Adolygiadau Arfer Oedolion, Adolygiadau Arferion Plant, Adolygiadau Lladdiadau Domestig, Adolygiadau lladdiadau Iechyd Meddwl ac Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol yng Nghymru. Mae gwybodaeth bellach am y broses i’w dilyn wrth gynnal ALlAY yng Nghymru ym mhennod 5 y canllaw hwn, gyda manylion llawn proses yr ADUS yng nghanllaw statudol ADUS Adolygiad Diogelu Unedig Sengl | GOV.WALES

Lladd gyda chyd-destun iechyd meddwl

2.4 Mewn digwyddiadau lle gall troseddwr honedig fod wedi bod yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl, awgrymir cysylltu’n gynnar ag arweinyddion Rhanbarthol NHSE, rhag dyblygu’r broses ymchwilio; gweler paragraffau 2.43 - 2.45 am fwy o fanylion.

Pennu pwy yw partneriaid perthnasol yr adolygiad

2.5 Fel y gosodir allan ym mharagraffau 1.12 - 1.13 fe all fod nifer o bartneriaid adolygu sydd â gwybodaeth sy’n berthnasol i adolygiad. Fodd bynnag, dim ond un set (heddlu, awdurdod lleol, ICB/BILl) fydd partneriaid perthnasol yr adolygiad, a dylid nodi’r rhain yn unol â Rheoliadau ALlAY. Mae’n ofyniad ar bartneriaid perthnasol yr adolygiad dan y Ddeddf i drefnu, cydweithredu a chyfrannu at ALlAY mewn achos o ladd cymwys.

Sefydlu goruchwyliaeth leol i’r broses ALlAY

2.6 Argymhellir bod partneriaid lleol yn trafod pa broses leol o oruchwylio y carent ei defnyddio i gefnogi cyflwyno ALlAY yn eu hardal. Mae strwythurau sy’n dwyn ynghyd bartneriaid lleol mewn gwahanol fforymau eisoes yn bod, a phenderfyniad lleol fydd ynghylch pa strwythur fyddai’n fwyaf priodol i gefnogi’r broses ALlAY, neu a fyddai’n well cael strwythur newydd. Gallai ALlAY ddigwydd gyda chefnogaeth a than oruchwyliaeth y Bartneriaeth Diogelu Cymunedol lleol (PDC), Uned Lleihau Trais (ULlT) neu Gomisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) neu Ddirprwy Faer dros Blismona a Throsedd (y cyfeirir atynt o hyn allan fel CHTh)). Mewn rhai ardaloedd, gall y CHTh fod â rôl weithredol o oruchwylio/monitro ULlT a PDC, felly argymhellir ymwneud a’r CHTh. Fodd bynnag oherwydd bod amgylchiadau lleol yn amrywio ar draws Cymru a Lloegr, dylid dilyn y broses fwyaf priodol i’r ardal. Efallai bydd ardaloedd yn fodlon defnyddio strwythurau sy’n bod eisoes at ddibenion goruchwylio a chefnogi ALlAY. Neu ochr yn ochr â hyn, efallai y buasent am sefydlu eu grŵp dynodedig eu hunain fel ‘Grŵp Adolygu Achos’ neu ‘banel adolygu’ (gweler paragraff 3.7 am rolau a chyfrifoldebau) i gefnogi’r broses.

2.7 Gall y swyddogaeth cefnogi a goruchwylio helpu partneriaid perthnasol yr adolygiad yng nghyfnodau cynnar ALlAY trwy gydgordio cyfarfodydd, casglu gwybodaeth ynghyd, a helpu mewn penderfyniadau allweddol. Yng nghyfnodau diweddarach y broses adolygu, gallant gynnal y broses sicrhau ansawdd i’r adroddiad, yn ogystal â chynorthwyo wrth rannu gwersi a chydgordio’r ymateb i argymhellion. O hyn ymlaen yn y canllaw, cyfeirir at y rôl hon fel y “broses leol o oruchwylio”. I ALlAY yng Nghymru, dylid dilyn proses ALlAY o fewn y broses o Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS)[footnote 13], sydd â’i strwythurau cefnogi ei hun, (gweler pennod 5 y canllaw hwn, ‘Cyflwyno ALlAY yng Nghymru’).

Ystyried penodi asiantaeth arweiniol i gamau cyntaf y broses

2.8 Yn dibynnu ar y trefniadau lleol sydd ar waith, argymhellir fod partneriaid perthnasol yr adolygiad yn ystyried a ydynt am ddewis o’u plith asiantaeth arweiniol i gamau cyntaf y broses, os na wnaed hyn eisoes. Nid yw hyn yn ofyniad dan y ddeddfwriaeth ac nid yw’n rhyddhau partneriaid perthnasol yr adolygiad o’r gofyniad cyfreithiol a osodir arnynt gan adran 25 y Ddeddf. Fodd bynnag, mae’n cael ei awgrymu er mwyn helpu partneriaid perthnasol yr adolygiad i allu bwrw ymlaen â chamau cyntaf y broses adolygu yn sydyn. Gall rhai ardaloedd benderfynu neilltuo asiantaeth arweiniol i gydgordio’r holl adolygiadau at y dyfodol, tra bydd eraill am gadw’r dewis hwn yn agored, a phenderfynu fesul achos. Dylai hyn ddigwydd cyn i Gadeirydd Annibynnol/ partner adolygu perthnasol/asiantaeth arweiniol gael eu dirprwyo’n ffurfiol (gweler paragraffau 3.14 – 3.19) i arwain yr adolygiad, ac y mae’n darparu yn hytrach i un o bartneriaid perthnasol yr adolygiad, neu is-set ohonynt, i gael eu penodi i arwain ar y cydgordio. Gallai’r asiantaeth arweiniol fod yn gyfrifol am drefnu cefnogaeth gan y broses leol o oruchwylio a ddewiswyd neu grŵp/panel adolygu achos os sefydlwyd un, gwirio gwybodaeth sylfaenol am y lladd a chydgordio llofnodi ac anfon yr hysbysiad (gweler paragraffau 2.19 - 2.26) at yr Ysgrifennydd Gwladol (mae gwybodaeth bellach am yr asiantaeth arweiniol dan rolau a chyfrifoldebau ym mharagraff 3.7).

2.9 Fel y gosodir allan ym mharagraff 2.8, mae modd gwneud rôl yr asiantaeth arweiniol yn ddirprwyo ffurfiol, gyda gofynion yn cael eu rhoi ar bartneriaid perthnasol yr adolygiad i allu eu pasio’n ffurfiol i un ohonynt hwy (y partneriaid adolygu) neu Gadeirydd Annibynnol. Gweler paragraffau 3.14 – 3.16 am ddirprwyo.

Pennu a ddylid cynnal ALlAY

2.10 Unwaith i bartneriaid perthnasol yr adolygiad gael eu hadnabod, bod proses leol o oruchwylio yn ei lle i gefnogi gweithredu’r ALlAY ac y cadarnheir asiantaeth arweiniol (os bydd angen), bydd angen dechrau ar waith i’w galluogi i bennu a ddylid cynnal ALlAY.

2.11 Man cychwyn proses ALlAY yw pan ddaw partner adolygiad yn ymwybodol o ffeithiau sy’n ei gwneud yn debygol fod yr amodau sy’n mynnu bod ALlAY yn digwydd (a osodir allan yn adran 24(1)(a) - (c) y Ddeddf) wedi eu bodloni yng nghyswllt y farwolaeth. Bydd angen ystyried tystiolaeth i ganfod a yw’r amodau (gweler paragraffau 1.3 - 1.5) wedi eu bodloni, a phenderfynu a oes dyletswydd i drefnu ALlAY. Mae Adran 29(1) y Ddeddf yn cynnwys y pŵer y gall partner adolygiad perthnasol ei ddefnyddi i fynnu gwybodaeth gan berson er mwyn cynorthwyo unrhyw swyddogaethau a osodir allan yn adrannau 24 i 28 y Ddeddf, (gan gynnwys canfod a oes angen adolygiad ai peidio), lle mae swyddogaethau neu weithgareddau’r person hwnnw yn golygu ei bod yn debygol y bydd ganddi/o wybodaeth fyddai’n galluogi neu’n helpu’r adolygiad. Rhaid cydymffurfio â chais o’r fath, yn amodol ar ddarpariaethau yn adran 30 y Ddeddf. Hefyd, mae adran 29(7) yn caniatau i bartneriaid adolygu rannu gwybodaeth gyda phartner adolygu arall at ddibenion yr adolygiad. Rhoddwyd gwybodaeth a chanllawiau pellach am rannu gwybodaeth ym mhennod 6 ‘Rhannu Gwybodaeth a Data’, a dylid darllen y paragraffau a ganlyn yng nghyswllt y bennod honno.

ALlAY a’r ymchwiliad troseddol

2.12 Mae disgwyl i ALlAY fwrw ymlaen ochr yn ochr ag unrhyw ymchwiliad troseddol a chamau troseddol. Nid oes dewis seibiant i adolygiad, felly rhaid cynnal proses ALlAY mewn modd na fydd yn peryglu uniondeb yr ymchwiliad troseddol nac yn tanseilio hynny nac unrhyw gamau cyfiawnder troseddol. Mae peidio ag aros hyd nes ceir ateb i ymchwiliad a chamau troseddol, yn golygu efallai na chynhwysir rhai manylion yn yr adolygiad. Rhaid cydbwyso hyn yn erbyn manteision dysgu gwersi yn amserol, a chymryd camau a all helpu eraill i beidio â bod yn ddioddefwyr neu gyflawnwyr lladdiadau neu drais difrifol yn y dyfodol.

2.13 Yn ystod camau cyntaf ymchwiliad, mae’n debyg y bydd yr heddlu yn delio â nifer o ystyriaethau o ran y dioddefwr, pwy bynnag a amheuir, tystion, tystiolaeth a gwybodaeth, gyda pheth o’r wybodaeth yn sensitif, gan gynnwys gwybodaeth o ran llinellu ymchwilio sy’n cael eu dilyn, a thystion a all fod yn fregus. Oherwydd hyn, yn y dyddiau yn syth wedi’r farwolaeth, dylid cynnal trafodaeth rhwng partneriaid perthnasol yr adolygiad a’r USY sy’n edrych i mewn i’r farwolaeth er mwyn cytuno pa unigolion (megis y dioddefwr a’r troseddwr/wyr honedig) ddylai gael eu cynnwys fel rhan o’r broses o gasglu gwybodaeth. Awgrymir cynnwys troseddwyr honedig ym mhroses yr adolygiad wedi iddynt gael eu cyhuddo, er mai penderfyniad i’w wneud yn lleol yw hwn, yn dibynnu ar yr achos dan sylw a’r dystiolaeth sydd ar gael.

2.14 Yn y cyfnod cynnar hwn, mae tystiolaeth yn cael ei gasglu ynghyd yn unig i weld a atebir yr amodau (gweler paragraffau 1.3 - 1.5), a allai fod yn ymwneud naill ai â’r dioddefwr neu’r troseddwr/wyr honedig, neu’r ddau. O’r herwydd, efallai mai gwybodaeth gyda hyn-a-hyn o fanylder y bydd modd ei roi. Disgwylir mai dim ond gwybodaeth y gellir ei ddatgelu ddylai gael ei rannu fel rhan o’r broses gychwynnol hon. Os nad oes modd dod i benderfyniad ynghylch a yw marwolaeth yn gymwys am ALlAY gyda’r dystiolaeth sydd ar gael, ond y gall fod modd rhannu gwybodaeth arall yn yr wythnosau dilynol, gellid cyflwyno hysbysiad i’r Ysgrifennydd Gwladol, yn cadarnhau na fu modd dod i benderfyniad eto. Dylid cyflwyno hysbysiad pellach unwaith i benderfyniad terfynol gael ei wneud (gweler paragraff 2.19).

2.15 I grynhoi, wrth bennu a atebwyd yr amodau am ALlAY, dylai partneriaid perthnasol yr adolygiad, ymhen y cyfnod hysbysu o fis, weithio trwy’r holl gamau isod:

a. cadarnhau mai hwy yw partneriaid perthnasol yr adolygiad am y farwolaeth, yn unol â rheoliadau a wnaed dan adran 25 y Ddeddf, gweler paragraffau 1.12 - 1.16);

b. cadarnhau gyda’r USY/ partneriaid diogelu ehangach fod trafodaethau wedi eu cynnal, ac unrhyw gamau cyntaf wedi eu cymryd er mwyn sicrhau diogelwch ehangach yn yr ardal, neu’n uniongyrchol yng ngrŵp cyfoedion y dioddefwr/troseddwr/wyr honedig a/neu deulu sy’n gysylltiedig naill ai â’r digwyddiad neu gysylltiadau ehangach â throseddolrwydd a/neu gam-fanteisio, a bod unrhyw wersi yn cael eu rhannu yn briodol;

c. sefydlu pwy fydd yn cefnogi ac yn goruchwylio’r broses ALlAY yn lleol;

d. pennu a oes angen asiantaeth arweiniol, neu a fydd partneriaid perthnasol yr adolygiad yn parhau ar y cyd i gwrdd â’r gofynion a osodwyd arnynt;

e. pennu a yw’r farwolaeth yn destun unrhyw adolygiad statudol arall fel sy’n cael ei osod allan yn adran 26 y Ddeddf (gweler paragraffau 1.18 - 1.21). Dylid cynnal trafodaethau hefyd gydag Arweinwyr Rhanbarthol NHSE mewn achosion lle gall troseddwr honedig fod wedi bod yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl, rhag dyblygu prosesau ymchwilio (gweler paragraffau 2.4 a 2.43 - 2.45);

f. yn y cyd-destun a osodir allan ym mharagraffau 2.12 - 2.14, casglu’r ffeithiau am yr achos, i’r graddau y gellir eu canfod yn rhwydd, trwy wirio eu cofnodion eu hunain fel partneriaid perthnasol yr adolygiad a chysylltu hefyd â’r holl gyrff perthnasol a gofyn iddynt hwy roi trosolwg cryno o’u hymwneud â’r dioddefwr and troseddwr/wyr honedig (trwy gytundeb, fel sy’n briodol, â’r USY). Gall gwybodaeth gan bartneriaid adolygu (heddlu, awdurdodau lleol, ICB/BILl) o’r ardaloedd lle mae’r dioddefwr/troseddwr/wyr honedig yn byw neu wedi byw o’r blaen fod yn berthnasol o ran cadarnhau a yw marwolaeth yn farwolaeth gymwys, a dylid gwneud pob ymdrech i gael y wybodaeth berthnasol gan y partneriaid hyn o fewn y terfyn amser o fis. Gellid ystyried cyfarfod neu gyfarfod briffio strwythuredig fel rhan o’r broses hon (lle bo modd, gan gynnwys y cyrff priodol). Mae templed sy’n rhoi awgrym o gwestiynau allweddol i’w gofyn yn Atodiad 1. Fel y gosodwyd allan ym mharagraff 6.5, rhaid cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data yng nghyswllt unrhyw ddata personol a ddatgelir;

g. pennu a yw’r amodau a osodir allan yn y Ddeddf a Rheoliadau ALlAY (gweler paragraffau 1.3 - 1.11) wedi eu bodloni ac a yw’r farwolaeth yn lladd cymwys, neu’n debygol o fod, ac wedi digwydd, neu’n debygol o fod wedi digwydd yng Nghymru neu yn Lloegr.

2.16 Rhaid i bartneriaid perthnasol yr adolygiad drefnu adolygiad, a lle bo adolygiad yn digwydd, rhaid iddynt gydweithredu a chyfrannu at gyflwyno’r adolygiad oni bai, fel y gosodir allan yn adran 24(3) a (4) y Ddeddf, wedi’r cyfnod cychwynnol o gasglu gwybodaeth, eu bod yn ystyried:

a. nad atebir unrhyw rai o’r amodau am ALlAY yn adran 24(1)(a) i (c) y Ddeddf (h.y., yr amodau sy’n mynnu cael ALlAY) mewn achos penodol. Dan yr amgylchiadau hyn, nid oes dyletswydd arnynt bellach i drefnu adolygiad, a gellir rhoi’r gorau i’r adolygiad (os yw eisoes wedi dechrau) (gweler paragraffau 1.3 - 1.11);

b. nad ydynt hwy yn un o bartneriaid perthnasol yr adolygiad parthed y lladd ac felly nid atebir yr amod yn adran 24(1)(d). Os dechreuwyd yr adolygiad eisoes dan yr amgylchiadau hyn, mae’r partner adolygu yn dal dan ddyletswydd i drefnu’r adolygiad a rhaid i’r adolygiad fynd rhagddo i osgoi oedi. Os na ddechreuodd yr adolygiad, nid yw’r partner adolygu perthnasol posib, dan yr amgylchiad hwn, dan ddyletswydd i drefnu’r adolygiad i’r farwolaeth.

Nid oes chwaith ddyletswydd ar bartner adolygu perthnasol i drefnu adolygiad lle bo adolygiad o’r fath eisoes wedi digwydd neu wedi dechrau, dan drefniadau a wnaed gan bartneriaid adolygu eraill, neu lle mae adolygiad statudol arall a bennwyd yn digwydd (ac felly mae adran 26 yn anghymhwyso’r ddyletswydd) (gweler paragraffau 1.18 - 1.21).

Os nad yw marwolaeth yn gymwys am ALlAY

2.17 lle gwelir nad yw lladd yn ateb yr amodau i gymhwyso am ALlAY, dylai partneriaid lleol er hynny fanteisio ar y cyfle i adolygu’r wybodaeth a gasglwyd ac i drafod yr achos a’r unigolion sy’n rhan o’u proses leol o oruchwylio. Fel y gosodir allan ym mharagraffau 2.58 - 2.59 efallai y nodir rhai gwersi yn syth yn dilyn cyfnod cychwynnol casglu gwybodaeth y broses, a dylid dal i rannu hyn mewn fforwm priodol (gan gymryd i ystyriaeth bryderon am ddatgelu a diogelu data). Mae’r drafodaeth hon a rhannu gwybodaeth yn gynnar yn bwysig i gyfoethogi gwybodaeth am ladd gydag arfau ymosodol a thrais difrifol cysylltiedig, gwneud partneriaid lleol yn ymwybodol o unrhyw faterion neu gyd-destun ehangach am y digwyddiad ac ystyried a ellid sefydlu prosesau neu weithdrefnau amgen i’w gwneud yn llai tebygol y bydd sefyllfaoedd o’r fath yn codi eto yn y dyfodol. I helpu dealltwriaeth ehangach o effeithiau ALlAY, at ddibenion monitro, awgrymir y dylid rhannu’r gwersi cynnar hyn gyda’r Bwrdd Goruchwylio ALlAY.

2.18 Mae’n rhaid o hyd anfon hysbysiad at yr Ysgrifennydd Gwladol yn cadarnhau nad atebwyd yr amodau i gynnal ALlAY yng nghyswllt y farwolaeth (gweler paragraffau 2.19 – 2.26).

Hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol

2.19 Pan wneir penderfyniad yng nghyswllt marwolaeth rhywun, mae adran 27 yn mynnu bod partneriaid perthnasol yr adolygiad yn darparu hysbysiadau i’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch a fydd adolygiad yn digwydd ai peidio. Rhaid gwneud yr hysbysiad o fewn y cyfnod hysbysu o fis, yn cychwyn ar y diwrnod y daeth y partner adolygu yn ymwybodol o’r amgylchiadau oedd yn cymhwyso. Mae templed ar gyfer hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn Atodiad 2 y canllaw hwn ac y mae’n rhaid cadarnhau un o’r canlynol:

a. fod y partner adolygu dan ddyletswydd i drefnu adolygiad o farwolaeth y person, dan adran 24 y Ddeddf; b. nad yw’r partner adolygu dan ddyletswydd i drefnu adolygiad o farwolaeth y person, dan adran 24 y Ddeddf; neu c. na allodd y partner adolygu ddod i benderfyniad ar y mater. Os felly, rhaid hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn cadarnhau’r penderfyniad unwaith iddo gael ei wneud.

Am bob ALlAY yng Nghymru dan broses ADUS, dylid hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol dros y Swyddfa Gartref a Phrif Weinidog Cymru.

2.20 Mae Adran 27(7) y Ddeddf yn dweud fod partner adolygu yn dod yn ymwybodol o’r amgylchiadau cymhwyso yng nghyswllt marwolaeth os deuant yn ymwybodol o ffeithiau sydd yn ei gwneud yn debygol yr atebir yr amodau yn adran 24(1)(a) a (b) (fod y farwolaeth yn lladd cymwys, neu’n debygol ei fod, ac y digwyddodd y farwolaeth, neu ei bod yn debygol o fod wedi digwydd yng Nghymru neu yn Lloegr), a bod y partner adolygu yn un o bartneriaid perthnasol yr adolygiad parthed y farwolaeth.

2.21 Rhaid i unrhyw bartner adolygu perthnasol a ddaw yn ymwybodol o’r amgylchiadau cymhwyso hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol o’u penderfyniad, neu na lwyddasant i ddod i benderfyniad, yn ôl gofynion adran 27(1) y Ddeddf. Lle mae’r holl bartneriaid adolygu yn cytuno, gallant gyd-lofnodi’r un llythyr hysbysu a gall y broses hon gael ei chefnogi gan eu proses leol o oruchwylio neu ei chydgordio gan yr asiantaeth arweiniol (os y’i defnyddir). Fodd bynnag, rhaid ystyried yn ofalus y cyfnod hysbysu o un mis gan fod hyn yn debygol o ddigwydd yn gynharach i rai partneriaid adolygu nag eraill, fel y manylir ym mharagraff 2.19. Gan ei fod yn ofyniad ar y partneriaid adolygu i ddarparu hysbysiad i’r Ysgrifennydd Gwladol ymhen y cyfnod hwnnw o un mis, erys yn gyfrifoldeb y partneriaid adolygu unigol i sicrhau ei fod yn cael ei anfon yn ôl y galw.

2.22 Rhestrir isod amgylchiadau eraill, a osodir allan yn adran 27 y Ddeddf, lle mae’n rhaid hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol am ALlAY:

a. Dan adran 27(4) os bydd partner adolygu perthnasol yn hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol eu bod dan ddyletswydd i drefnu ALlAY, ond cyn i’r adolygiad ddigwydd, eu bod yn gwneud penderfyniad nad ydynt mewn gwirionedd dan ddyletswydd (gweler adran 23(3) a (4) y Ddeddf) rhaid iddynt anfon hysbysiad pellach i gadarnhau hynny. Gall sefyllfa o’r fath godi lle, er enghraifft, y tybiwyd bod y farwolaeth yn lladd cymwys, ond, o ymchwilio ymhellach, y gwelwyd nad oedd.

b. Ar y llaw arall, dan adran 27(6) os oedd partner adolygu perthnasol wedi hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn flaenorol nad oeddent dan ddyletswydd i drefnu ALlAY, ond eu bod yn penderfynu wedi ymchwilio ymhellach eu bod dan y cyfryw ddyletswydd, mae angen iddynt hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol o’r penderfyniad hwnnw.

c. Dan adran 27(5), lle rhoddir y gorau i ALlAY am nad atebwyd un o’r amodau yn adran 24(1)(a) i (c), rhaid iddynt hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol, (fel y nodwyd uchod, gall y sefyllfa hon godi, er enghraifft, pan fo ymchwiliad pellach yn dod i’r casgliad nad oedd y farwolaeth yn lladd cymwys).

Fel y gosodir allan ym mharagraff 2.19, bob ALlAY yng Nghymru dan broses ADUS, dylid hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol dros y Swyddfa Gartref a Phrif Weinidog Cymru.

2.23 Dan adran 27(2) y Ddeddf nid oes gofyniad i hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol lle:

a. mae adolygiad o’r farwolaeth eisoes wedi digwydd, neu wedi dechrau, gan bartneriaid adolygu eraill, neu

b. yr anghymhwysir y ddyletswydd i gynnal ALlAY gan adran 26, neu reoliadau dan adran 26, oherwydd bod adolygiad statudol arall (gweler paragraffau 1.18 – 1.21) yn gymwys.

2.24 Wrth gwblhau’r templed hysbysu yn Atodiad 2, ni ddisgwylir y bydd gwybodaeth bersonol fanwl yn cael ei gynnwys, y tu hwnt i’r hyn y gofynnir amdano ar dudalen gyntaf yr hysbysiad. Disgwylir darparu crynodeb (yn unig) er mwyn cwblhau’r blychau ‘esboniad ychwanegol / tystiolaeth ategol’ a dylid llenwi’r cyfan gan gadw mewn cof ddeddfwriaeth diogelu data. Dylid rhoi rhif cyfeirio lleol sy’n cynnwys priflythrennau ardal yr heddlu, er mwyn gallu cyfeirio’n rhwydd at yr achos yn lleol ac mewn trafodaethau gyda’r Swyddfa Gartref/ Bwrdd Goruchwylio lle bo angen, gan osgoi rhannu gwybodaeth bersonol yn ddiangen. Ochr yn ochr â hyn, ni ddylid enwi troseddwr honedig ar yr hysbysiad, onid yw wedi ei g/chyhuddo, gweler Atodiad 2.

2.25 Dylid nodi mai uchafswm cyfnod yw’r cyfnod hysbysu o un mis i wneud penderfyniad a hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol. Argymhellir hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol a Phrif Weinidog Cymru (lle bo hynny’n briodol) cyn gynted ag y deuir i benderfyniad. Yna, bydd modd sefydlu ALlAY cyn gynted ag sy’n ymarferol. Po gyntaf y gall y broses gychwyn, gorau oll i’r partneriaid o ran llwyddo i ganfod y ffeithiau a pharhau i ymwneud yn gynhyrchiol â’r rhanddeiliaid.

2.26 Mae adran 25 (1) y Ddeddf, a’r rheoliadau sy’n mynd gyda hi yn gosod allan y meini prawf y mae’n rhaid cwrdd â hwy i farwolaeth fod yn gymwys am ALlAY. Trwy gefnogaeth eu proses leol o oruchwylio, mae angen i bartneriaid perthnasol yr adolygiad sefydlu a oes angen ALlAY a rhaid cytuno yn lleol i wneud y penderfyniad hwn. Nid oes gan yr Ysgrifennydd Gwladol bwerau dan y Ddeddf i wneud penderfyniad ar ran partneriaid perthnasol yr adolygiad nac i wrthod penderfyniad unwaith iddo gael ei wneud[footnote 14]. Os, mewn achos prin iawn, nad oes modd cytuno, argymhellwn y dylai’r partneriaid gysylltu â Bwrdd Goruchwylio ALlAY am gyngor anffurfiol, cyn hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol.

Sefydlu ALlAY

2.27 Unwaith i bartneriaid perthnasol yr adolygiad, gyda chefnogaeth eu proses leol o oruchwylio, wedi sefydlu fod angen ALlAY, ac wedi hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol a Phrif Weinidog Cymru (lle bo hynny’n briodol), awgrymir y dylai’r canlynol ddigwydd ymhen y 5 diwrnod gwaith nesaf:

a. Dylai partneriaid perthnasol yr adolygiad gytuno er mwyn penderfynu pwy fydd yn cyflwyno methodoleg yr ALlAY (gweler paragraffau 3.14 - 3.16), naill ai: i. Cadeirydd Annibynnol (os cytunir i ddirprwyo, gallant ddechrau chwilio am Gadeirydd Annibynnol o’r rhestro Gadeiryddion Annibynnol hyfforddedig, a ddarperir gan y Swyddfa Gartref); ii. ac asiantaeth arweiniol (os cytunir i ddirprwyo); iii. neu i dri o bartneriaid perthnasol yr adolygiad barhau’n arweinyddion lead.

b. Dylent roi gwybod i’r USY sy’n ymchwilio i’r farwolaeth (a fydd yn ymgynghori â GEG lle bo hyn yn berthnasol) fod angen ALlAY, a threfnu cyfarfod i drafod a yw’r troseddwr/wyr honedig yn debygol o gael eu cynnwys gyda’r dioddefwr yn yr adolygiad. Gall y cyfarfod hwn gael ei ohirio hyd nes bod Cadeirydd Annibynnol (os dirprwyir iddo/i) ar gael. (gweler paragraff 2.28).

Mae awgrymiadau am amserlenni i’r broses ym mhennod 3. Cydnabyddir, yn dibynnu ar gymhlethdod yr achos, y gall yr amserlenni ar gyfer gweithredu amrywio. Argymhellir, er hynny, bwrw ymlaen â’r adolygiad cyn gynted ag sy’n ymarferol bosib er mwyn nodi gwersi yn gynnar, a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol mor fuan ag sydd modd.

2.28 Yn dibynnu ar amserlenni comisiynu Cadeirydd Annibynnol (os dirprwyir iddo/i), ar y pwynt hwn, efallai y bydd partneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol am fwrw ymlaen â chamau nesaf y broses er mwyn osgoi oedi. Gallai hyn gynnwys, gyda chefnogaeth eu proses leol o oruchwylio, ddilyn i fyny ar ganlyniadau gwybodaeth gychwynnol, gofyn am fwy o wybodaeth fanwl, a chysylltu â’r cyrff priodol ychwanegol a all fod â gwybodaeth berthnasol am y dioddefwr neu’r troseddwr/wyr honedig. Dylid cadw cofnod o bob ymwneud/ceisiadau a chanlyniadau, er mwyn eu rhannu gyda’r Cadeirydd Annibynnol (os penodir un), unwaith iddo/i gael ei gomisiynu i gynnal yr adolygiad.

2.29 Gallai’r cwestiynau a ddarperir yn Rhan B Atodiad 1, fel yr amlygir ym mharagraff 2.15 (f), helpu i gasglu’r wybodaeth hon. Bwriad Rhan B yw annog partneriaid/cyrff ac ymarferwyr lleol i fod yn broffesiynol chwilfrydig am y digwyddiadau a arweiniodd at y lladd. Yn bwysig iawn, ni fwriadwyd i’r cwestiynau ganoli ar ymddygiad unigolion na sefydliadau, na thaflu bai. Nid unig fwriad y cwestiynau chwaith yw gwerthuso a ddilynwyd gweithdrefnau a pholisïau ai peidio. Mae’r pwyslais yn hytrach ar holi a oedd y polisiau a’r gweithdrefnau oedd ar gael yn caniatau ymyriadau effeithiol, gan weithio gyda phartneriaid/cyrff lleol lle’r oedd angen. Dylai pob partner roi’r wybodaeth hon hyd yn oed lle na fu modd cynnig gwasanaeth. Dylai ddangos pwyntiau cyfeirio’r unigolyn(ion), eu hymwneud, a pha mor effeithiol oedd eu llwybrau cymorth. Bydd y gronoleg hon yn rhoi trosolwg o fannau lle na fu modd darparu gwasanaethau, a’r rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniadau hyn.

2.30 Cyrff priodol a all gyfrannu’n berthnasol i adolygiad, yn ychwanegol at bartneriaid perthnasol yr adolygiad/partneriaid adolygu, yw’r rheiny sydd â dealltwriaeth arbenigol o ddeinameg trais difrifol a’r berthynas â throseddolrwydd ehangach, camfanteisio a ffactorau risg cymdeithasol ac economaidd. Maent yn cynnwys yr isod, ond nid y rhain yn unig:

  • Heddlu (o ardaloedd eraill)

  • Awdurdodau Lleol (o ardaloedd eraill)

  • Byrddau Gofal Integredig (ICBs) (o ardaloedd eraill)

  • Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd Lleol (Cymru) (o ardaloedd eraill)

  • Partneriaethau Diogelwch Cymunedol (PDC) a Rhwydwaith Cymunedau Diogelach Cymru

  • Uned Lleihau Trais (ULlT neu gorff tebyg, e.e., VPU, VRN etc)

  • Comisiynwyr Heddlu a Throsedd/Dirprwy Feiri Plismona a Throsedd (CHTh)

  • Byrddau Diogelu Oedolion yn Lloegr/Y Byrddau Diogelu Cenedlaethol neu Ranbarthol yng Nghymru

  • Partneriaethau Diogelu Plant yn Lloegr / Y Byrddau Diogelu Cenedlaethol neu Ranbarthol yng Nghymru

  • Arweinyddion rhanbarthol NHSE (lladdiadau iechyd meddwl)

  • Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus (cynnwys ystyriaeth o Dimau Cymorth Cynnar i gefnogi teuluoedd, gwasanaeth 0-19 a Chyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus awdurdodau lleol)

  • Asiantaethau cenedlaethol a rhanbarthol gorfodi’r gyfraith gyda chylch gorchwyl i drin troseddau difrifol a threfnedig

  • Sefydliadau addysgol

  • Y Gwasanaeth Prawf

  • Bwrdd Rheoli Strategol Trefniadau Amlasiantaethol Gwarchod y Cyhoedd (MAPPA)

  • Gwasanaeth Erlyn y Goron

  • Arweinyddion Prevent

  • Gwasanaethau ieuenctid a gwasanaethau troseddu ieuenctid, etc

  • Gwasanaethau tan ac achub

  • Darparwyr arbenigol y sector wirfoddol

  • Teulu, cyfeillion, grŵp ffydd, cymunedau yr effeithiwyd arnynt, a rhwydweithiau cymdeithasol eraill (gyda chytundeb yr USY).

Unwaith i’r wybodaeth gael ei dderbyn, gellir ei ddefnyddio i lunio cylch gorchwyl yr adolygiad, yn ogystal â rhoi syniad o’r cyrff priodol y gall fod yn berthnasol gofyn iddynt am wybodaeth/trafodaethau pellach wrth i’r adolygiad fynd rhagddo.

Cwmpas a Chylch Gorchwyl yr ALlAY

2.31 Mae pennu cwmpas yr adolygiad a drafftio’r cylch gorchwyl yn rhan allweddol o broses yr ALlAY. Os dirprwyir i Gadeirydd Annibynnol, dylid bwrw ymlaen â’r prosesau hyn gyda’r cadeirydd, pan fydd yn ei swydd.

2.32 Dylai trafodaethau am gwmpas a chylch gorchwyl yr ALlAY hefyd gynnwys cyfraniadau, lle bo hynny’n berthnasol, gan:

a) partneriaid perthnasol yr adolygiad, asiantaeth arweiniol, Cadeirydd Annibynnol;

b) yr USY sy’n ymchwilio i’r farwolaeth (a fydd yn ymgynghori â GEG lle bo hynny’n berthnasol);

c) proses leol o oruchwylio;

d) partneriaid adolygu; a

e) cyrff priodol

Lle bo modd, dylai’r partner adolygu/asiantaeth arweiniol/Cadeirydd Annibynnol perthnasol alluogi ymgynghori rhwng y partïon hyn a chofnodi pob gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â gofynion diogelu data. Bydd yr ymgynghori hwn hefyd yn helpu i adnabod cyrff priodol eraill i gefnogi’r adolygiad. Gall y trafodaethau hyn ddigwydd mewn amrywiaeth o ffyrdd. I’r ALlAY hynny a gynhelir yng Nghymru, bydd y Panel Adolygu hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y broses; gweler pennod 5 y canllaw hwn a chanllawiau statudol ADUS.

2.33 Amlinellir amcanion strategol cyffredinol ALlAY yn y Ddeddf ac fe’u hadlewyrchir ym mharagraffau 1.22 - 1.27. Dylid adolygu’r rhain ochr yn ochr â’r meysydd canlynol a awgrymir ar gyfer eu hystyried wrth ddrafftio cylch gorchwyl/gosod cwmpas yr adolygiad.

Cwmpas yr adolygiad

2.34 Ffrâm amser a awgrymir ar gyfer yr adolygiad yw’r 24 mis yn arwain i fyny at y farwolaeth, ond canllaw yn unig yw hyn. Lle bu unigolion yn ymwneud llawer â phartneriaid perthnasol yr adolygiad, gall fod yn gymesur canolbwyntio ar y 12 neu 18 mis cyn y farwolaeth. Neu fe all amgylchiadau godi lle penderfynir y dylid ystyried digwyddiadau arwyddocaol - a allai, er enghraifft, gynnwys gwahardd o’r ysgol, arestio, cefnogaeth iechyd meddwl, digwyddiadau o gamdriniaeth ddomestig/trais, alcohol neu gyffuriau etc - y tu hwnt i’r 24 mis hefyd. Rhoddwyd 24 mis fel canllaw er mwyn sicrhau hyblygrwydd i ganolbwyntio ar y materion cyd-destunol ehangach, a chynnwys ar yr un pryd bwyntiau cyffwrdd allweddol. Does dim angen cronoleg hirfaith a manwl gan y gallai hyn dynnu sylw oddi wrth y meysydd allweddol. Dylai’r Cadeirydd Annibynnol/asiantaeth arweiniol/partneriaid perthnasol yr adolygiad osod allan gylch gorchwyl yr ALlAY, y ffrâm amser yr ymdrinnir â hi yn fanwl, yn ystod yr adolygiad. Mae modd cynnwys gwybodaeth ehangach hefyd fel gwybodaeth gyd-destunol yn nhempled yr adolygiad yn Atodiad 5.

2.35 Mae’n hanfodol cael rheolaeth dros unrhyw wybodaeth a rennir, a sicrhau na fydd gwybodaeth yn peryglu nac yn tanseilio’r ymchwiliad troseddol nac unrhyw gamau cyfiawnder troseddol eraill sy’n rhedeg yn gyflin â’r ALlAY. O’r herwydd, mae angen i’r Cadeirydd Annibynnol/asiantaeth arweiniol/partneriaid perthnasol yr adolygiad nodi yn eu cais pa unigolyn/ion - dioddefwr a/neu droseddwr/wyr honedig - sydd i’w cynnwys yn y cais am wybodaeth a’r adolygiad terfynol. Awgrymir mewn achosion lle na chyhuddwyd troseddwr/wyr honedig yn yr wythnosau cyntaf yn dilyn y farwolaeth, fod peth hyblygrwydd o ran cytuno, neu broses yr adolygiad, i gadarnhau cwmpas terfynol yr adolygiad. Bydd hyn yn galluogi cynnwys y troseddwr/wyr honedig mewn adolygiad, unwaith iddo/i gael ei ch/gyhuddo. Dylid rhoi peth hyblygrwydd trwy gydol yr adolygiad, fel os daw unrhyw wybodaeth newydd di’r fei, neu os bydd y teulu yn codi unrhyw faterion newydd y dylid ymdrin â hwy yn yr adolygiad, y bydd modd ymgorffori’r rhain, os yw hynny’n briodol. Awgrymir, serch hynny, y dylai partneriaid gytuno ar derfyn amser pan ddylai’r hyblygrwydd hwn ddod i ben, neu fe allai greu risg o ymestyn hyd yr adolygiad, yn enwedig petai’r wybodaeth newydd yn golygu newid sylweddol i’r adolygiad, megis ychwanegu troseddwr honedig ar gyfnod rhy hwyr yn y broses.

2.36 Fel y gosodwyd allan ym mharagraff 2.12 - 2.14, efallai na fydd yn briodol rhannu gwybodaeth am y troseddwr/wyr honedig yng nghyfnod cychwynnol ALlAY yn ôl cyngor USY yr heddlu (fydd yn ymgynghori â GEG lle bo hynny’n berthnasol), petai hyn yn gallu bygwth cywirdeb unrhyw ymchwiliad troseddol a hefyd unrhyw gamau cyfreithiol troseddol. Dan amgylchiadau prin, gall hyn ddal i fod yn wir tra pery’r adolygiad o ran gwybodaeth sensitif dros ben, ac mewn sefyllfa o’r fath, byddai’r adolygiad yn canoli ar y dioddefwr yn unig.

2.37 Cydnabyddir yn y broses ALlAY y gall peidio ag aros am derfynu ymchwiliadau a chamau troseddol olygu bod rhai manylion yn cael eu heithrio o’r adolygiad. Fodd bynnag, mae hyn yn cael ei gydbwyso yn erbyn manteision adnabod gwersi yn amserol a chymryd camau a allai helpu unigolion i osgoi bod yn ddioddefwyr neu rai sy’n cyflawni lladdiad yn y dyfodol. Nid yw’r ddeddfwriaeth yn caniatau ail-agor adolygiad unwaith iddo gael ei gwblhau, er na chyfyngir partneriaid rhag cynnal adolygiadau pellach trwy ddefnyddio unrhyw bwerau perthnasol eraill.

2.38 Rhaid i gynnal cywirdeb unrhyw ymchwiliad a chamau troseddol fod yn brif ystyriaeth i bartneriaid perthnasol yr adolygiad ochr yn ochr â sicrhau na pheryglir diogelwch unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r lladd. Fe all canlyniadau anfwriadol ddeillio o rannu rhai mathau o wybodaeth ac, o’r herwydd, dylai partneriaid perthnasol yr adolygiad/partneriaid adolygu gytuno ar ba wybodaeth a rennir a phryd. Mae mwy o fanylion ym mhennod 6 am bwyntiau ymarferol rhannu gwybodaeth.

Tasgau craidd y broses adolygu

  • Adolygu pob gwybodaeth a dderbynnir yn y cyfnod cyntaf a’r ail o gasglu gwybodaeth, cynhyrchu llinell amser yn arwain at y digwyddiad, a chrynodeb gychwynnol.

  • Cadarnhau dros ba gyfnod o amser y mae digwyddiadau ym mywydau’r unigolion i’w hadolygu, gan gymryd i ystyriaeth amgylchiadau’r lladd, h.y., pa mor bell yn ôl ddylai ymholiadau fynd a beth yw’r pwynt torri ymaith? Pa hanes/ gwybodaeth cefndir fydd yn help i ddeall yn well y digwyddiadau a arweiniodd at y farwolaeth?

  • Amlinellu gwybodaeth gan ba fudiadau gaiff ei gynnwys fel rhan o’r adolygiad.

  • Nodi pa gyrff priodol y dylid cysylltu â hwy am fwy o wybodaeth neu a oes unrhyw unigolion /cyrff priodol ychwanegol y dylid cysylltu â hwy wrth i’r adolygiad fynd rhagddo. Gallai hyn gynnwys rhai na ddaeth i gysylltiad â’r unigolion ond y gellid disgwyl iddynt fod wedi gwneud, e.e., efallai y bydd unigolion yn ei chael yn anodd ymwneud ag awdurdodau/gwasanaethau, neu fod yn gyndyn i wneud hynny – gallai gwersi ystyried ffyrdd i wella ymwneud ag unigolion/cymunedau.

  • Ceisio cyfraniadau trwy sianeli priodol ac, ar yr amser priodol, gan aelodau’r teulu/perthnasau agosaf a rhoi iddynt y newyddion diweddaraf am agweddau allweddol yr achos wrth i bethau fynd rhagddynt. Ystyried a ddylid cysylltu hefyd ag unrhyw deuluoedd, cyfeillion neu rwydweithiau cefnogi eraill.

  • Ystyried cynnal sesiwn briffio/digwyddiad dysgu i bartneriaid perthnasol yr adolygiad/partneriaid adolygu/cyrff priodol a gweld pa adnoddau sydd eu hangen er mwyn canfod pa wersi sydd i’w dysgu o’r digwyddiad. Nodi unrhyw gamau a gymerwyd eisoes/ddylai gael eu cymryd yn syth i ddatrys unrhyw broblem.

  • Cadw mewn cof unrhyw ymchwiliadau/camau troseddol sy’n ymwneud â’r achos neu unrhyw ymchwiliadau eraill sy’n digwydd yr un pryd, megis ymchwiliad gan grwner. Cadw cysylltiad rheolaidd â’r USY/heddlu sy’n ymchwilio i’r farwolaeth/GEG a gofalu bod materion datgelu yn cael eu hystyried.

  • Ystyried pa rai yw’r pynciau pwysicaf i ymdrin â hwy wrth ddysgu o’r digwyddiad.

  • Canfod a fu ALlAY eraill yn ardal yr un awdurdod lleol. Os felly, gweld a oes ymchwil neu argymhellion perthnasol y dylid eu hystyried ochr yn ochr â’r dysgu o’r adolygiad cyfredol.

  • Pennu ffrâm amser i gwblhau’r adolygiad, gan gynnwys cerrig milltir cyflwyno. Dylai hyn anelu at gwrdd â’r ffrâm amser o 12 mis a osodir allan ym mhroses ALlAY, (gweler paragraff 3.1).

2.39 Wrth i’r adolygiad fynd rhagddo:

  • Cynhyrchu cyfuniad o linell amser, dadansoddiad cychwynnol a rhagdybiaethau o ddeilliannau cynnar.

  • Drafftio adroddiad ALlAY gan sicrhau yr atebwyd y Cylch Gorchwyl, yr ymdriniwyd â’r rhagdybiaethau cynnar, ac y nodwyd unrhyw ddysgu ychwanegol a nodwyd a chynnwys hyn yn yr adroddiad terfynol.

  • Cytuno ar gasgliadau o’r adolygiad ac argymhellion. Trefnu cyflwyniad i’r broses leol o oruchwylio iddynt hwy gynhyrchu amlinelliad o gynllun gweithredu i’w ddwyn ymlaen.

  • Ystyried sut i reoli materion yn ymwneud â’r teulu a chyfeillion, y cyhoedd a’r cyfryngau cyn, yn ystod ac wedi’r adolygiad, a phwy ddylai fod yn gyfrifol am hyn.

  • Cynllunio trefniadau i roi adborth i aelodau’r teulu/perthnasau agosaf a rhannu cynnwys yr adroddiad wedi i’r adolygiad ddod i gasgliad a chyn ei gyhoeddi. Gweler pennod 4 o’r canllaw hwn am fwy o wybodaeth am ymwneud â theuluoedd, cyfeillion a rhwydweithiau eraill mewn ALlAY.

Nod y broses adolygu

2.40 Os defnyddir hwy, bydd y cwestiynau yn Atodiad 1 yn llywio’r ymatebion tuag at ddeilliannau perthnasol. Dylid ystyried y canlynol:

  • Pennu lefel yr ymwneud fu gan unigolion â phartneriaid/cyrff lleol, statudol ac anstatudol; a ddylasent fod wedi derbyn cefnogaeth; a gollwyd cyfleoedd i ymyrryd, neu na fanteisiwyd arnynt yn llawn.

  • Pennu a yw penderfyniadau a gweithredoedd yn cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau’r partneriaid/cyrff a enwyd ac a weithiodd y rhain i’r unigolion dan sylw.

    • A oedd gwybodaeth neu hanes perthnasol blaenorol am yr unigolion dan sylw yn hysbys ac wedi ei ystyried pan oedd gweithwyr proffesiynol yn asesu, cynllunio, gwneud penderfyniadau ac yn gweithredu yng nghyswllt yr unigolion hynny.

    • A oedd y camau a nodwyd i ddiogelu’r unigolion yn gadarn ac yn briodol i’r unigolion a’u hamgylchiadau, gan ystyried unrhyw ffactorau bregusrwydd.

  • Archwilio gweithio a darparu gwasanaethau rhyngasiantaethol i’r unigolion a adolygir a deall lefel y gorgyffwrdd/cydweithredu rhwng partneriaid lleol wrth gefnogi. Ystyried a oedd unrhyw her o ran effeithiolrwydd yr ymateb/camau.

  • Ystyried a roddwyd gweithredoedd ar waith yn effeithiol, a gawsant eu monitro a’u hadolygu, ac a gyfrannodd yr holl bartneriaid/cyrff lleol yn briodol i ddatblygu a chyflwyno’r gweithredoedd amlasiantaethol.

  • Pennu a oes gwelliannau gweithredol, polisi neu strategol y gellid eu gwneud yng ngoleuni’r digwyddiad hwn. Nodi meysydd o arfer da ac ymyriadau llwyddiannus y gellid eu hymgorffori i brosesau cyffredinol ac ymatebion gan systemau.

  • Ystyried a oedd rhwystrau neu anawsterau yn yr achos hwn a ataliodd partneriaid/cyrff lleol rhag cyflawni eu dyletswyddau. Gallai hyn gynnwys problemau sefydliadol a materion cyd-destunol eraill.

  • Pennu a allasai rhannu data yn well fod wedi cael effaith gadarnhaol ar yr achos.

  • Ystyried y potensial am nodi gwelliannau i ddulliau o atal trais difrifol a defnyddio arfau ymosodol, neu ehangu dealltwriaeth am sut i ymdrin â thrais difrifol o safbwynt systemau.

Argymhellion a chamau

2.41 Nodi’n glir beth yw’r gwersi, yn a rhwng partneriaid/cyrff lleol, sut ac o fewn faint o amser y gweithredir arnynt a beth a ddisgwylir fydd yn newid o ganlyniad. Ymysg y meysydd y gall hyn ymdrin â hwy mae:

  • sut i gymhwyso’r gwersi a ddysgwyd i ymateb gwasanaethau, gan gynnwys newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau fel sy’n briodol;

  • sut y bydd y gwersi yn helpu i atal lladd gydag arfau ymosodol yn y dyfodol a gwella ymateb gwasanaethau trwy well gweithio mewn a rhwng asiantaethau;

  • sut y bydd y gwersi yn cyfrannu at well dealltwriaeth o natur trais difrifol a lladd gydag arfau ymosodol; ac

  • a oes modd amlygu a lledaenu arferion da, a sut.

Ystyriaethau ehangach yn ystod y broses

2.42 Dylid ystyried:

  • a oes unrhyw ystyriaethau penodol ynghylch materion cydraddoldeb ac amrywiaeth megis oedran, anabledd (gan gynnwys anableddau dysgu), ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol a all fod angen ystyriaeth arbennig;

    • a gafodd statws mewnfudo’r unigolion unrhyw effaith ar y modd yr ymatebodd partneriaid/cyrff lleol i’w hanghenion;

    • a oedd gan yr unigolion unrhyw beth oedd yn eu gwneud yn fregus a allai alw am ystyriaeth arbennig megis rhywbeth cysylltiedig ag iechyd meddwl, trais/camdriniaeth ddomestig, defnyddio/troseddau alcohol neu gyffuriau neu drais yn erbyn menywod a merched; ac

    • a oedd yr unigolyn yn destun Trefniadau Amlasiantaethol Gwarchod y Cyhoedd (MAPPA) ac os felly, a ddylid gwneud cais i ryddhau crynodeb weithredol o unrhyw gofnodion (yn amodol ar ystyriaethau cyfreithiol perthnasol) ac a oes yn rhaid cael memorandwm dealltwriaeth gyda hyn (gweler paragraffau 2.53 – 2.54).

Gallai’r ystyriaethau hyn, lle maent yn berthnasol, gynnwys ymgynghori ag arbenigwr i helpu i ddeall yr agweddau hanfodol hyn o ladd, a chysylltu â chynrychiolydd o fudiad arbenigol i roi cyngor ychwanegol (gweler paragraffau 7.11 – 7.12).

Agweddau eraill i’w hystyried yng nghyswllt cwmpas ALlAY

i. Ymchwiliadau i Laddiadau Iechyd Meddwl

2.43 Mae Adran 26(2) a (4) y Ddeddf yn dweud y gall yr Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth y gellir anghymhwyso’r ddyletswydd i drefnu ALlAY mewn rhai achosion lle’r achosir marwolaeth gan rywun sy’n derbyn neu a dderbyniodd wasanaethau iechyd meddwl eilaidd y GIG. Cymerodd NHS England y cyfrifoldeb dros gomisiynu Ymchwiliadau Annibynnol yn dilyn marwolaethau o’r fath lle bo hynny’n briodol. Ymchwilir i’r rhain dan drefniadau ar wahan, ac fe’u gelwir yn adolygiadau lladdiadau iechyd meddwl neu Ymchwiliadau Annibynnol i laddiadau Iechyd Meddwl. Mae canllawiau ar gael yn NHS England » Patient Safety Incident Response Framework and supporting guidance Mae NHSE yn cyhoeddi adroddiadau lladdiadau iechyd meddwl yn NHS England » Independent investigation reports

2.44 Penderfynwyd peidio ag anghymhwyso’r ddyletswydd i drefnu ALlAY yn yr achosion hyn. Golyga hyn y gall ALlAY ac adolygiad neu ymchwiliad lladdiad iechyd meddwl fod yn digwydd yn gyfochrog. Mae’n bwysig felly peidio â dyblygu prosesau a sicrhau dysgu ar draws systemau yn ehangach. Argymhellir y dylai’r ddwy broses fod wedi eu hasio’n agos. Lle’r ystyrir ALlAY a bod cadarnhad/posibilrwydd fod y troseddwr honedig yn derbyn gwasanaethau eilaidd iechyd meddwl, dylai partneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol/Cadeirydd Annibynnol gysylltu ag arweinydd rhanbarthol cyfrifol NHS England ar y cyfeiriadau e-bost canlynol:

Canolbarth a Dwyrain Lloegr midlands-investigations.england@nhs.net

Arweinydd Rhanbarthol Llundain: ENGLAND.LondonInvestigations@nhs.net

Arweinydd Rhanbarthol Gogledd-Ddwyrain Lloegr a Swydd Efrog: england.ney-investigations@nhs.net

Arweinydd Rhanbarthol De-Orllewin Lloegr: sw-investigations.england@mhs.net

Arweinydd Rhanbarthol De-Ddwyrain Lloegr: se-investigations.england@nhs.net

Arweinydd Rhanbarthol Gogledd-Orllewin Lloegr: england.northwest-investigations@nhs.net

Lle bo hynny’n berthnasol, dylai partneriaid weithio ynghyd i sicrhau bod meysydd perthnasol yng nghyswllt gofal iechyd meddwl a thrin y troseddwr honedig yn cael eu cynnwys yng nghwmpas yr ALlAY ac y cytunir ar asio prosesau gydag Arweinydd Rhanbarthol NHSE.

2.45 O ran lladdiadau iechyd meddwl yng Nghymru, cynhelir adolygiadau dan broses ADUS (gweler paragraff 2.3 a phennod 5 y canllaw hwn), felly mae modd cael un adolygiad fydd yn ymdrin ag ALlAY ac agweddau perthnasol i laddiad iechyd meddwl.

ii. Lladdiadau Lluosog

2.46 Os bydd un digwyddiad yn arwain at laddiadau lluosog, gall adolygiadau statudol fod yn wahanol i’r gwahanol achosion o ladd, a bydd yn rhaid i bob proses gydymffurfio â’i ddeddfwriaeth ei hun. Fodd bynnag, ni fydd y farwolaeth honno yn destun ALlAY, os bydd adolygiad statudol arall yn gymwys (fel y gosodir allan yn adran 26(1) a (3) y Ddeddf) a pharagraffau 1.18 - 1.21.

2.47 Os cynhelir ALlAY ochr yn ochr ag adolygiadau lladd eraill, yn dilyn lladdiad lluosog, dylai partneriaid perthnasol yr adolygiad a’r Cadeirydd Annibynnol (os penodwyd un) sefydlu proses gyfathrebu glir rhwng prosesau’r adolygiadau. Awgrymir cyd-gordio’r prosesau o gasglu gwybodaeth, gan gynnwys ymwneud a theuluoedd a phartneriaid allweddol, yn ogystal â’r USY (a fydd yn ymgynghori â GEG lle bo hynny’n berthnasol) rhag dyblygu ymdrechion, ac i leihau’r effaith ar yr unigolion allweddol hynny. Gall fod yn llesol rhannu cylch gorchwyl pob un o’r adolygiadau, a chyfleu hynny rhwng yr adolygwyr/cadeiryddion Gallai hyn osgoi dyblygu, ac os yw hyn yn briodol yn neddfwriaeth pob adolygiad, byddai’n caniatau canolbwynt penodol i bob adolygiad, e.e. mae rhai adolygiadau yn canoli fwy ar y dioddefwr na’r troseddwr. Ochr yn ochr â hyn, gellid ceisio caniatad i ddosbarthu gwybodaeth ar y cyd, yn ogystal â chyfoesiadau unigol, er mwyn sicrhau bod prosesau yn dryloyw ac wedi eu cyd-amseru, er mwyn lleihau’r effaith ar deuluoedd ac unigolion allweddol eraill sy’n rhan o’r mater. Bydd angen cytuno ar y prosesau hyn o fewn y ddeddfwriaeth briodol am rannu gwybodaeth a diogelu data.

2.48 Dywed Rheoliad 8, o Ran 3 rheoliadau ALlAY, lle bo mwy nag un person yn marw mewn digwyddiad, a bod y marwolaethau hynny yn gymwys am ALlAY, y nodir partneriaid perthnasol yr adolygiad fel y rhai hynny y digwyddodd y marwolaethau yn eu hardal neu ei bod yn debygol mai yno y gwnaethant ddigwydd, neu, os oedd mwy nag un lleoliad neu nad yw’r lleoliad yn hysbys, yn y lleoliad lle cofnodwyd i gorff neu ran o’r corff gael ei ganfod gyntaf (gweler paragraff 1.14). Byddai hyn yn caniatau i un set o bartneriaid perthnasol yr adolygiad gynnal ALlAY i’r holl farwolaethau sy’n dod o fewn meini prawf ALlAY.

iii. Lladdiadau Cyd-gysylltiedig

2.49 Lladdiadau cyd-gysylltiedig yw lladdiadau sy’n digwydd mewn ardal ymhen cyfnod penodedig o amser a lle gall cysylltiad clir fod yn hysbys rhwng y marwolaethau, megis mewn sefyllfaoedd o ffraeo rhwng gangiau gyda dial am farwolaeth gynharach. Mewn sefyllfa o’r fath, efallai y bydd partneriaid perthnasol yr adolygiad am gynnal adolygiadau cyd-gysylltiedig. Awgrymir cyfnod o dri mis i osgoi oedi diangen cyn cwblhau’r adolygiad cynharach, ond mae modd penderfynu hyn ar sail amgylchiadau unigol yr achos. Er hynny, ni ddylid oedi proses yr ALlAY yn ormodol, gan aros i gysylltiad gael ei wneud, gan na fydd tystiolaeth glir ar ei gyfer, efallai.

2.50 Rhaid dal i gwrdd â’r gofynion am ALlAY ar gyfer pob marwolaeth sy’n gymwys am adolygiad, felly bydd angen anfon dwy set neu fwy o hysbysiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol a Phrif Weinidog Cymru lle bo hynny’n briodol, a chynhyrchu dwy set o adroddiadau, ayyb Fodd bynnag, os yw partneriaid perthnasol yr adolygiad a’u proses leol o oruchwylio yn cytuno, gellir neilltuo un set o bartneriaid adolygu, asiantaeth arweiniol neu Gadeirydd Annibynnol i gynnal mwy nag un adolygiad, gan leihau dyblygu ymdrechion.

2.51 Os digwyddodd lladd(iadau) wedi hynny mewn ardal wahanol i’r un gyntaf, ni fydd modd cael adolygiad cyd-gysylltiedig gan y bydd gofyniad ar set wahanol o bartneriaid perthnasol yr adolygiad i gynnal yr adolygiad. Yn y sefyllfa hon, dylid rhannu gwybodaeth rhwng yr ardaloedd, gan y bydd y naill a’r llall yn bartneriaid adolygu i ALlAY’r llall.

2.52 Gall senario fymryn yn wahanol godi os syrth marwolaeth gyd-gysylltiedig o fewn y meini prawf am adolygiad statudol gwahanol i ALlAY. Efallai y bydd modd dilyn elfennau o’r broses a osodir allan ym mharagraffau 2.46 - 2.48, ac y mae cyfathrebu clir rhwng y ddwy broses yn hanfodol. Fodd bynnag, fel y dywedir uchod, rhaid parhau i gwrdd ag oblygiadau statudol unigol pob adolygiad dan eu deddfwriaeth eu hunain. Enghraifft o hyn yw lladdiad domestig lle mae troseddwr yn lladd ei g/chynbartner, a phartner newydd y person hwnnw. Byddai marwolaeth y partner newydd yn dod y tu allan i gwmpas cyfredol adolygiad lladd domestig, ac felly gallai ALlAY fod yn gymwys, os yw’r farwolaeth yn lladd cymwys.

iv. Trefniadau Amlasiantaethol Gwarchod y Cyhoedd (MAPPA)

2.53 Sefydlwyd MAPPA trwy Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 a bwriad y trefniadau yw gwarchod y cyhoedd, gan gynnwys rhai a ddioddefodd o droseddau yn y gorffennol, rhag niwed difrifol gan droseddwyr rhywiol a threisgar. Maent yn mynnu bod asiantaethau cyfiawnder troseddol lleol a chyrff eraill yn cydweithio mewn partneriaeth wrth ddelio â throseddwyr. O bryd i’w gilydd, aiff troseddwyr ymlaen i gyflawni mwy o droseddau tebyg, a phan wnânt hynny rhaid i’r Bwrdd Rheoli Strategol (BRhS) mewn ardal ystyried comisiynu Adolygiad Achos Difrifol (AAD) MAPPA i weld a gymhwyswyd trefniadau MAPPA yn gywir, ac a weithiodd yr asiantaethau gyda’i gilydd i wneud popeth y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt wneud i atal troseddu pellach. Fe all fod gwersi i’w dysgu at y dyfodol, neu arferion da i’w lledaenu.

2.54 Gellid ystyried AAD MAPPA ar gyfer troseddwr honedig ALlAY neu, mewn achosion prin, dioddefwr ALlAY os oedd yn gymwys am MAPPA ar y pryd neu os oedd o fewn 28 diwrnod o ryddhau o gynllun MAPPA. Bydd ALlAY ac AAD MAPPA yn edrych ar wahanol agweddau o’r achos a bydd y ffocws yn wahanol. Fodd bynnag, i osgoi dyblygu ac unrhyw gamddealltwriaeth, rhaid i BRhS MAPPA, fel sydd wedi ei osod allan yn eu canllawiau i ymarferwyr, fod â system i nodi a oes adolygiad arall yn cael ei gynnal ac i hysbysu asiantaethau eraill pan fo AAD MAPPA yn digwydd. Fel gydag adolygiadau Lladdiadau Domestig a MAPPA, gellir cynnal y naill broses a’r llall yn gyflin cyhyd â bod cyfathrebu cyson yn digwydd trwy gydol y broses. Bydd angen i ‘r partner adolygu/asiantaeth arweiniol/ Cadeirydd Annibynnol perthnasol drafod gyda’r BRhS a oes angen gwneud cais am unrhyw wybodaeth berthnasol (gweler paragraff 6.38).

v. Lladdiadau gyda Chyswllt â Prevent

2.55 Lle rhoddwyd cychwyn i adolygiad statudol (gan gynnwys ALlAY) a bod gan y troseddwr honedig hanes a gadarnhawyd dan Prevent, proses yr adolygiad statudol fydd yn cael y flaenoriaeth, ac yn y rhan fwyaf o achosion, ni chynhelir Adolygiad Dysgu Prevent. Yn yr achosion hyn, byddai disgwyl i ymarferwyr Prevent (e.e. arweinydd Prevent, cadeirydd Channel, swyddog achos Channel) gyfrannu at yr adolygiad statudol. Dylai ymholiadau cychwynnol i bennu a oedd gan rywun fu’n rhan o ddigwyddiad hanes gyda Prevent gael eu cyfeirio at arweinydd Prevent yr awdurdod lleol i ddechrau, a all wedyn gysylltu â’r Heddlu Gwrthderfysgaeth i gael cadarnhad.

2.56 Lle rhoddwyd cychwyn ar Adolygiad Dysgu Prevent (ADP) dan arweiniad cenedlaethol, efallai y gofynnir i ymarferwyr lleol gyfrannu at y broses ADP. Bydd yr amseroedd a bennir am fwrw ymlaen a gorffen ADP yn dibynnu ar fanylion penodol yr achos, gan gynnwys ystyried prosesau ymchwiliadol a barnwrol sy’n mynd ymlaen ar y pryd. Os bydd ar ymarferwyr sy’n rhan o’r broses hon angen mwy o wybodaeth, unwaith eto, yr arweinydd Prevent rhanbarthol yw’r un i gysylltu ag ef/hi.

Hysbysu’r teulu a/neu’r perthnasau agosaf

2.57 Unwaith y cytunwyd ar gwmpas a chylch gorchwyl yr adolygiad, dylai partneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol/Cadeirydd Annibynnol, trwy ymgynghori â Swyddogion Cyswllt Teulu, yr USY a chyrff priodol eraill, ystyried y ffordd orau o hysbysu teulu’r dioddefwr o’r penderfyniad i gynnal ALlAY ac amlinellu’r broses, fframiau amser, a sut y gellir eu gwahodd hwy i gyfrannu. Dylid ystyried hefyd hysbysu teulu’r troseddwr honedig, er y bydd hyn yn briodol yn unig wedi cyhuddiad ffurfiol (gweler paragraff 4.1).

Rhannu gwersi cynnar

2.58 Efallai y nodir rhai gwersi yn syth yn dilyn cyfnodau casglu gwybodaeth gychwynnol y broses, ar y pwynt un mis ac yn ystod trafodaethau am gwmpas a chylch gorchwyl yr adolygiad. Fel y gosodir allan ym mharagraff 7.16, dylid cytuno ymlaen llaw ar y ffordd orau i adrodd yn ôl ar gamau at unigolyn/sefydliad ac ar ba lefel y dylid rhannu’r negeseuon hynny, er mwyn cadarnhau bod y cam wedi ei fflagio i’r person neu’r tîm/sefydliad mwyaf priodol.

2.59 Dylid rhannu’r gwersi hyn hefyd gyda phartneriaid/cyrff lleol ehangach mewn fforwm priodol (gan gymwys i ystyriaeth bryderon am ddatgelu a diogelu data), a nodi mai gwersi cychwynnol yw’r rhain sydd wedi dod i’r amlwg, gyda’r caveat y cynhelir mwy o ymchwiliadau yn ystod yr adolygiad. Mae rhannu gwersi yn gynnar fel hyn yn hanfodol er mwyn gwneud partneriaid/cyrff lleol yn ymwybodol o unrhyw broblemau neu arferion gorau fydd yn deillio o’r achos a allai olygu penderfyniad i weithredu ar unwaith neu gymryd camau i ddatrys problem, yn hytrach na gorfod aros am y 12 mis neu fwy i’r ALlAY gael ei gwblhau. I helpu i ddeall effeithiau ALlAY yn well, at ddibenion monitro, awgrymir rhannu’r gwersi cynnar hyn hefyd gyda Bwrdd Goruchwylio ALlAY.

3: Proses ALlAY

3.1 Mae’r diagram isod yn amlinellu disgwyliadau arfer gorau wrth gyflwyno ALlAY. Mae’r camau yn ddilyniannol, a’r amserlenni a argymhellir yn cronni trwy gydol cyflwyno’r broses a argymhellir. Sylwch mai dyddiau gwaith, nid dyddiau calendr yw ‘diwrnodau / dyddiau’.

Trosolwg o’r Broses

3.2 Lle nododd penodau blaenorol y canllaw hwn y gofynion statudol am ALlAY a’r rhesymeg y tu ôl i’r prif dasgu i’w cyflawni, mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar roi proses glir i bob cam posib o’r adolygiad. Datganwyd pob cam a awgrymir yng ngwahanol gyfnodau proses yr adolygiad, ynghyd â set o awgrymiadau am fframiau amser, hyd, perchenogion a phwy fydd yn cyfrannu. Dylid nodi mai awgrymiadau yw’r agweddau hyn ac nad ydynt yn rhan o’r gofyniad deddfwriaethol, ond eu bod yn rhoi awgrym o fframwaith i gynnal adolygiad.

3.3 Canfod a yw ALlAY yn gymwys

Cam y Broses 1. Hysbysu partneriaid perthnasol tebygol yr adolygiad o’r farwolaeth 2. Pennu pwy yw partneriaid perthnasol yr adolygiad 3. Sefydlu goruchwyliaeth leol. Pennu asiantaeth arweiniol (os oes angen) 4. Pennu a yw’r farwolaeth yn destun unrhyw brosesau adolygu eraill 5. Gwneud cais cychwynnol am wybodaeth 6. Sefydlu a yw’r lladd yn cwrdd â meini prawf ALlAY 7. Gwneud penderfyniad ynghylch a oes angen adolygiad ai peidio
Ffrâm amser a awgrymir 24 – 72 wedi’r digwyddiad Ymhen 5 - 10 diwrnod O fewn yr un 5 -10 diwrnod O fewn yr un 5 – 10 diwrnod O fewn yr un 5 – 10 diwrnod Mor fuan ag sydd modd, ac mewn llai nag 1 mis Mor fuan ag sydd modd, ac mewn llai nag 1 mis
Disgrifiad Hysbysu’r sawl yr ystyrir yn debygol o fod yn bartneriaid perthnasol yr adolygiad o’r digwyddiad (para 1.12 - 1.13) Sefydlu pwy o’r partneriaid adolygu yw partneriaid perthnasol yr adolygiad (PPA), fel y gosodir allan yn y rheoliadau (para 1.12 - 1.17) Os na chytunwyd ymlaen llaw, cadarnhau pa broses leol o oruchwylio fydd yn cefnogi a goruchwylio’r ALlAY (para 2.5) Pennu a fydd PPA yn parhau i gydgordio a chomisiynu fel tri, neu a gytunir i benodi un neu is-set i wneud hyn. (para 2.8) Pennu a yw’r farwolaeth yn destun unrhyw adolygiadau eraill - adran 26 y Ddeddf (para 1.18 - 1.21). Trafodaethau gydag Arweinwyr rhanbarthol NHSE mewn achosion perthnasol i osgoi dyblygu prosesau ymchwilio (gweler parau 2.3 a 2.43 – 2.45); Wedi siarad â’r USY, anfon a/neu holi’r cwestiynau yn Rhan A y templed (atodiad 1) i’r holl bartneriaid priodol, i ganfod ffeithiau’r achos yn sydyn Dadansoddi’r wybodaeth a gafwyd gan PPA, partneriaid adolygu a phartneriaid priodol i weld a yw’r lladd yn cwrdd â’r meini prawf (para 1.3 - 1.11) Gwneud penderfyniad ynghylch a yw partner adolygu i dan ddyletswydd i drefnu ALlAY
Perchennog Partneriaid adolygu neu Uwch-Swyddog Ymchwilio (USY) / heddlu lleol lle bu’r digwyddiad Partneriaid adolygu Partneriaid Perthnasol yr Adolygiad (PPA) gyda chefnogaeth proses leol o oruchwylio Asiantaeth arweiniol, PPA, gyda chefnogaeth proses leol o oruchwylio Asiantaeth arweiniol, PPA, gyda chefnogaeth proses leol o oruchwylio Asiantaeth arweiniol, PPA, gyda chefnogaeth proses leol o oruchwylio Asiantaeth arweiniol, PPA, gyda chefnogaeth proses leol o oruchwylio
Cyfranwyr D/G D/G Gallai penderfyniad lleol gynnwys: Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC), Uned Lleihau neu Atal Trais (ULlT/UAT), Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh neu, Grŵp Adolygu Achos neu banel lleol. Gweler y broses ar wahân i Gymru ym mhennod 5. Arweinyddion rhanbarthol NHSE Prif Swyddog Heddlu Awdurdod neu awdurdodau lleol ICB/BILl (O bob ardal a all fod yn berthnasol i’r farwolaeth benodol) Partneriaid priodol eraill fel y nodir ym mhara 2.30 Gweler y rhestr yn 2.30 o bartneriaid y gall fod yn briodol i gyfrannu gwybodaeth. Cynnwys gwybodaeth a ddelir gan PPA a phartneriaid adolygu ehangach o’r ardaloedd lle’r oedd y dioddefwr/troseddwr/wyr honedig yn byw etc, D/G

3.4 Cyflwyno ALlAY

Cam y Broses 1. Hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol a Phrif Weinidog Cymru (lle bo hynny’n briodol) 2. Comisiynu’r ALlAY / dirprwyo i Gadeirydd Annibynnol (os yn gymwys) 3. Hysbysu’r USY/heddlu y cymeradwywyd ALlAY 4. Cais pellach am wybodaeth a phennu cwmpas yr ALlAY 5. Hysbysu’r teulu /perthnasau agosaf fod angen ALlAY 6. Rhannu’r gwersi cynnar gyda’r partneriaid adolygu a goruchwylio lleol 7. Cynnal a chwblhau’r ALlAY
Ffrâm amser a awgrymir Mor fuan ag sydd modd, ac mewn llai nag 1 month Ymhen y 5 diwrnod nesaf O fewn yr un 5 diwrnod Ymhen yr 1 mis nesaf Mor fuan ag sydd modd wedi cytuno ar gwmpas yr ALlAY Ymhen 1 mis o gytuno ar gwmpas yr adolygiad Ymhen uchafswm a awgrymir o 12 mis o’r penderfyniad i gynnal yr adolygiad
Disgrifiad Dylid hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol a Phrif Weinidog Cymru (lle bo hynny’n briodol) o benderfyniad y partneriaid adolygu ynghylch a ydynt/nad ydynt dan ddyletswydd i drefnu ALlAY neu a ydynt heb benderfynu (para 2.19 – 2.26). Mae templed am yr hysbysiad hwn yn atodiad 2 Dylid comisiynu’r ALlAY cyn gynted ag sydd modd wedi anfon yr hysbysiad. Os yn gymwys, dylai’r PPA/asiantaeth arweiniol hysbysu a chomisiynu Cadeirydd Annibynnol i fod yn gyfrifol am gyflwyno’r adolygiad. Cyfeirier at bara 3.17-3.19, gan ddefnyddio rhestr y Swyddfa Gartref o unigolion a awgrymir. Hysbysu’r USY o’r heddlu sy’n ymchwilio i’r farwolaeth y cymeradwywyd ALlAY am y digwyddiad hwn a thrafod pa droseddwr/wyr honedig all gael eu cynnwys yn yr adolygiad, ochr yn ochr â’r dioddefwr. Anfon cais pellach am wybodaeth (gweler Rhan 2 Atodiad 1), i bennu cwmpas a chylch gorchwyl yr ALlAY (para 2.31 – 2.56). Cynnwys ystyriaeth o faterion ehangach megis ymchwiliadau lladdiadau iechyd meddwl, lladdiadau lluosog a lladdiadau cyd-gysylltiedig. ALlAY dan yr ADUS (Cymru) i gyfeirio at bennod 5. Hysbysu’r teulu /perthnasau agosaf (gweler y broses a osodir allan ym mhennod 4) o’r penderfyniad i gynnal ALlAY ac amlinellu’r broses a fframiau amser. Gall rhai gwersi gael eu nodi’n syth wedi camau cynnar casglu gwybodaeth y broses (para 2.58 - 2.59). Dylid rhannu’r rhain â’r partneriaid mewn fforwm priodol (gan gymryd i ystyriaeth bryderon datgelu a diogelu data) er mwyn sicrhau y rhennir ymwybyddiaeth yn gynnar o unrhyw faterion neu arferion gorau sy’n codi o’r achos case. Cyflwyno’r ALlAY yn unol â’r canllawiau. Gweler para 2.39 – 2.41 a phennod 7 am fethodoleg a chynnwys yr adroddiad.
Perchennog Asiantaeth arweiniol, PPA, gyda chefnogaeth proses leol o oruchwylio PPA/ asiantaeth arweiniol PPA/ asiantaeth arweiniol/ Cadeirydd Annibynnol PPA/ asiantaeth arweiniol/ Cadeirydd Annibynnol PPA/ asiantaeth arweiniol/ Cadeirydd Annibynnol PPA/ asiantaeth arweiniol/ Cadeirydd Annibynnol PPA/ asiantaeth arweiniol/ Cadeirydd Annibynnol
Cyfranwyr D/G Proses leol o oruchwylio D/G Proses leol o oruchwylio a phartneriaid sy’n cyfrannu at yr adolygiad Partneriaid lleol priodol, swyddog cyswllt teulu fel sy’n briodol Partneriaid lleol sy’n cyfrannu at yr adolygiad Partneriaid lleol sy’n cyfrannu at yr adolygiad

3.5 Wedi’r Adolygiad

Cam y Broses 1. Sicrhau Ansawdd adroddiad yr ALlAY 2. Rhannu’r adroddiad gyda’r Ysgrifennydd Gwladol/Prif Weinidog Cymru 3. Hysbysu’r sawl sy’n gymwys y dylid gweithredu 4. Cyhoeddi adroddiad ALlAY a gymeradwywyd 5. Integreiddio gwersi i gynllun gweithredu lleol/rhanbarthol/ system 6. Cynnal a chyhoeddi dadansoddiad thematig 7. Gwerthuso cynnydd y cynlluniau gweithredu
Ffrâm amser a awgrymir Yn syth wedi i’r broses HA ddod i ben Yn syth wedi i’r broses HA ddod i ben Yn syth wedi cyflwyno’r adroddiad Ig - awgrymu 30 diwrnod o’i dderbyn 3 mis o derfynu’r ALlAY Ymhen 12 mis o derfynu’r ALlAY Ymhen 12 mis o derfynu’r ALlAY
Disgrifiad Mae angen sicrhau ansawdd yr adroddiad terfynol wedi’i ALlAY gan ddefnyddio’r broses leol o oruchwylio y cytunwyd arni, fel ei fod o safon sy’n barod i’w gyhoeddi (para 7.21 – 7.22) Mae’r adroddiad, wedi sicrhau ei ansawdd, yn cael ei anfon at Ysgrifennydd Gwladol y Swyddfa Gartref a, lle bo hynny’n briodol, Prif Weinidog Cymru, yn barod i’w gyhoeddi (para 7.23 – 7.27) Trafod deilliannau’r adroddiad a’r argymhellion ar lefel leol. Hysbysu’r sawl y canfuwyd ei bod yn briodol iddynt weithredu yng nghyswllt y gwersi a ddysgwyd i wneud hynny (para 8.1 - 8.8) Yr Ysgrifennydd Gwladol yn cyhoeddi neu’n gwneud trefniadau i gyhoeddi’r adroddiad (gweler para 7.23 – 7.27). Cyhoeddi ALlAY yng Nghymru hefyd ar ystorfa Diogelu Cymru Ymgorffori’r gwersi o’r adroddiad mewn cynlluniau gweithredu ar lefel un asiantaeth, rhanbarthol a system (para 8.7 – 8.8) Dadansoddi canfyddiadau o ALlAY yn eu cyfanrwydd i adnabod pwyntiau dysgu thematig. Bydd y rhain ar gael i bartneriaid yng Nghymru a Lloegr, ac i bartneriaid perthnasol ar draws llywodraeth (para 8.11 – 8.17) Dylid adolygu cynlluniau gweithredu a ddelir yn lleol er mwyn sicrhau bod gwersi’n cael eu gwreiddio a’u bod yn dylanwadu ar arferion a pholisiau (para 8.13 – 8.16)
Perchennog PPA/ asiantaeth arweiniol/ Cadeirydd Annibynnol PPA/ asiantaeth arweiniol/ Cadeirydd Annibynnol PPA/ asiantaeth arweiniol/ Cadeirydd Annibynnol Ysgrifennydd Gwladol PPA/ asiantaeth arweiniol – gyda chefnogaeth y broses leol o oruchwylio Bwrdd Goruchwylio ALlAY Partneriaid adolygu – gyda chefnogaeth y broses leol o oruchwylio
Cyfranwyr Proses leol o oruchwylio D/G Proses leol o oruchwylio Swyddfa Gartref/proses ADUS Yr holl bartneriaid lleol a gyfrannodd at yr adolygiad D/G Bwrdd Goruchwylio ALlAY a’r holl bartneriaid lleol a gyfrannodd at yr adolygiad

Ffrâm amser enghreifftiol i gyflwyno ALlAY

3.6 Fel y gosodir allan ym mharagraff 3.1, mae diagram y broses yn nodi’r disgwyliadau arfer gorau o ran cyflwyno ALlAY. Mae’r camau yn ddilyniannol, a’r amserlenni a argymhellir yn cronni trwy gydol cyflwyno’r broses a argymhellir. Darparwyd y tablau a ganlyn fel esiampl o’r fframiau amser cam-wrth-gam y gellid eu dilyn wedi i’r hyn yr amheuir sy’n lladd cymwys ddigwydd. Dylid nodi mai awgrymiadau yw’r rhain, ac nad ydynt yn rhan o’r gofyniad deddfwriaethol, ond yn hytrach yn fframwaith a gynigir ar gyfer cynnal adolygiad. Dyddiau gwaith yw ‘diwrnodiau/dyddiau’, nid diwrnodau calendr. Yn yr esiampl isod, adlewyrchwyd hefyd dyddiau gwyliau cyhoeddus.

Canfod a yw ALlAY yn Gymwys

Cam 1 Cam 2 Cam 3 Cam 4 Cam 5 Cam 6 Cam 7
Ffrâm amser Marwolaeth yn digwydd Ymhen 24-72 awr Ymhen 5-10 diwrnod O fewn yr un 5-10 diwrnod O fewn yr un 5-10 diwrnod O fewn yr un 5-10 diwrnod Mewn llai na’r 1 mis Mewn llai na’r 1 mis
Dyddiad enghreifftiol 01 Ebrill 2023 03 - 05 Ebrill 2023 11 – 18 Ebrill 2023 11 – 18 Ebrill 2023 11 – 18 Ebrill 2023 11 – 18 Ebrill 2023 Cyn 04-05 Mai 2023 Cyn 04 – 05 Mai 2023
  • Sylwch y bydd y fframiau amser yn amrywio yn dibynnu pryd y gwnaed pob partner adolygu perthnasol yn ymwybodol o’r lladd cymwys tebygol (gweler 2.20).

Cyflwyno ALlAY

Cam 1 Cam 2 Cam 3 Cam 4 Cam 5 Cam 6 Cam 7
Ffrâm amser Mewn llai na’r 1 mis Ymhen y 5 diwrnod nesaf O fewn yr un 5 diwrnod Ymhen yr 1 mis nesaf CGAPh wedi cytuno ar y cwmpas Ymhen 1 mis wedi cytuno ar y cwmpas Dim mwy na 12 mis  
Dyddiad enghreifftiol Cyn 04 – 05 Mai 2023 Erbyn 12 Mai 2023 Erbyn 12 Mai 2023 Erbyn 12 Mehefin 2023 CGAPh 12 Gorffennaf 2023 02 Ebrill 2024  

Wedi’r adolygiad

Cam 1 Cam 2 Cam 3 Cam 4 Cam 5 Cam 6 Cam 7
Ffrâm amser Yn syth Yn syth Yn syth 30 diwrnod 3 mis Pwyntiau rheolaidd Ymhen 12 mis  
Dyddiad enghreifftiol Erbyn 02– 12 Ebrill 2024 Erbyn 15 Ebrill 2024 Erbyn 15 Ebrill 2024 Erbyn 28 Mai 2024 Diwedd Awst 2024 Pwyntiau rheolaidd Erbyn diwedd Mai 2025  

Rolau a chyfrifoldebau: trosolwg

3.7 Mae’r grynodeb isod yn rhoi awgrymiadau am rolau a chyfrifoldebau y gall partneriaid perthnasol yr adolygiad gyda chefnogaeth eu proses leol o oruchwylio fod eisiau gosod yn eu lle i helpu i gyflwyno ALlAY. Nid rolau deddfwriaethol yw’r rhan fwyaf o’r rhain, ac efallai na fydd eu hangen i gyd. Darperir ar gyfer rolau a chyfrifoldebau ALlAY a gyflwynir yng Nghymru o fewn y broses ADUS sydd ym mhennod 5 y canllaw hwn, ac yn llawn yng nghanllawiau statudol ADUS Adolygiad Diogelu Unedig Sengl | GOV.WALES

Proses leol o oruchwylio

3.8 Fel y gosodir allan ym mharagraffau 2.6 - 2.7, awgrymir bod y partneriaid lleol yn trafod pa broses leol o oruchwylio y carent ei defnyddio i gefnogi cyflwyno ALlAY yn eu hardal. Awgrymir y gallai ALlAY ddigwydd gyda chefnogaeth a than oruchwyliaeth Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC), Uned Lleihau Trais (ULlT) neu’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh). Yn ychwanegol at hyn, fe all ardaloedd fod eisiau sefydlu eu grŵp unswydd eu hunain, megis ‘Grŵp Adolygu Achos’ neu ‘banel adolygu’ (gweler isod). Gall y swyddogaeth gefnogi a goruchwylio helpu partneriaid perthnasol yr adolygiad yng nghyfnodau cynnar ALlAY trwy gydgordio cyfarfodydd, casglu gwybodaeth ynghyd, a chynorthwyo gyda phenderfyniadau allweddol. Yn y cyfnodau diweddarach, gellir nodi unigolion i gynnal proses sicrhau ansawdd yr adroddiad, cytuno ar unrhyw bwyntiau dysgu, gofalu bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol a Phrif Weinidog Cymru (lle bo hyn yn gymwys), helpu i rannu gwersi trwy eu lledaenu i bartneriaid/cyrff lleol, etc a chydgordio’r ymateb i argymhellion.

Grŵp Adolygu Achos

3.9 Fel y gosodir allan uchod, dylai proses ALlAY gael ei chefnogi yn ei hardal leol gyda phroses leol o oruchwylio. Yn ychwanegol at hyn, gellid ystyried hefyd sefydlu Grŵp Adolygu Achos gweithredol, a gall fod yn addas iddo adrodd i’r broses leol o oruchwylio. Nid yw hyn yn ofyniad dan y ddeddfwriaeth ac nid yw’n rhyddhau partneriaid perthnasol yr adolygiad o’r gofynion a osodwyd arnynt gan adran 25 y Ddeddf. Fodd bynnag, gallai’r Grŵp Adolygu Achos fod yn grŵp o bartneriaid fel y cytunwyd arnynt gan bartneriaid perthnasol yr adolygiad/proses leol o oruchwylio neu fe allent, er enghraifft, cynnwys tri phartner perthnasol yr adolygiad, yn ogystal â phartneriaid adolygu ehangach o’r ardal lle’r oedd y dioddefwr/troseddwr/wyr honedig yn byw. Gallai rôl Bwrdd Goruchwylio Grŵp Adolygu Achos fod yn un o gefnogi a helpu partneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol i gyflwyno cyfnodau cynnar yr ALlAY gan gynnwys canfod a yw marwolaeth eisoes yn gymwys am fath arall o adolygiad i ladd (paragraffau 1.18 – 1.21) a chasglu gwybodaeth ynghyd (gweler paragraff 2.15f).

3.10 Os bydd partneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol/Cadeirydd Annibynnol (os dirprwyir iddo/i) yn cytuno, gallai Grŵp Adolygu Achos hefyd fod â rôl yng nghyfnodau diweddarach adolygiad. Gellid synied am hyn yn fwy fel rôl ‘panel adolygu’ a gallai gynnwys cynorthwyo i egluro cwmpas yr adolygiad ac ystyried tystiolaeth ac argymhellion a gynigir wrth i’r adolygiad fynd rhagddo.

3.11 Fel y gosodir allan yn 3.7, efallai na fydd angen Grŵp Adolygu Achos, gan y gall y broses leol o oruchwylio neu asiantaeth arweiniol wneud y gwaith hwn. Neu fe allai fod yn llesol ei sefydlu ar gyfer rolau/pwyntiau penodol ym mhroses yr adolygiad yn hytrach na thrwyddo draw. Fodd bynnag, mae gan ardaloedd hyblygrwydd i sefydlu’r fframwaith mwyaf priodol i gyflwyno’r ALlAY yn eu hardal hwy.

Asiantaeth arweiniol i gamau cyntaf y broses a/neu fel dirprwyaeth ffurfiol i gynnal yr adolygiad

3.12 Ochr yn ochr â’r broses leol o oruchwylio, ac ystyried sefydlu Grŵp Adolygu Achos, argymhellir, o fewn y cyfnod hysbysu o un mis, y dylai partneriaid perthnasol yr adolygiad ystyried a ydynt am ddewis o’u plith asiantaeth arweiniol i gamau cyntaf y broses. Fel y nodir uchod, nid yw hyn yn ofyniad dan y ddeddfwriaeth ac nid yw’n rhyddhau partneriaid perthnasol yr adolygiad o’r gofynion cyfreithiol a osodwyd arnynt gan adran 25 y Ddeddf. Y mae, er hynny, yn broses a awgrymir i helpu partneriaid perthnasol yr adolygiad i allu bwrw ymlaen yn sydyn â chyfnodau cychwynnol proses yr adolygiad. Byddai hyn cyn dirprwyo Cadeirydd Annibynnol/ partner adolygu perthnasol /asiantaeth arweiniol yn ffurfiol i arwain yr adolygiad, ac y mae’n gwneud darpariaeth i un o bartneriaid perthnasol yr adolygiad, neu is-set ohonynt, gael eu penodi i arwain ar y gwaith cydgordio a goruchwylio. Gallai’r asiantaeth arweiniol fod yn gyfrifol am drefnu cefnogaeth gan y dewis broses leol o oruchwylio neu grŵp/panel adolygu achos os sefydlwyd un, gwirio gwybodaeth sylfaenol am y lladd, a chyd-gordio llofnodi ac anfon yr hysbysiad at yr Ysgrifennydd Gwladol (a Phrif Weinidog Cymru, lle bo hynny’n gymwys).

3.13 Wrth i’r adolygiad fynd rhagddo, gallant gymryd y cyfrifoldeb, gyda chefnogaeth y broses leol o oruchwylio, dros gomisiynu’r ALlAY, cysylltu a chael Cadeirydd Annibynnol (os dirprwyir iddo/i) a sicrhau y dilynir y broses gan oruchwylio’r gwahanol gyfnodau, cael cytundeb i gloi gan yr holl bartneriaid a, lle bo hynny’n berthnasol, trefnu digwyddiad adrodd yn ôl/dysgu wedi’r adolygiad. Os na phenodir asiantaeth arweiniol, cyfrifoldeb tri phartner perthnasol yr adolygiad yw gwneud y tasgau hyn. Gellir gwneud rôl yr asiantaeth arweiniol yn ddirprwyo ffurfiol yn unol â rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol dan adran 31 y Ddeddf (Rheoliadau ALlAY).

Dirprwyo swyddogaethau

3.14 Mae Adran 31 y Ddeddf yn rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau sy’n galluogi partneriaid perthnasol yr adolygiad i weithredu ar y cyd i ddirprwyo rhai neu’r cyfan o’i swyddogaethau. Mae Rheoliadau Deddf yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol) 2022[footnote 15] (Rheoliad 11) yn caniatau i bartneriaid perthnasol yr adolygiad yng nghyswllt marwolaeth rhywun, i weithredu ar y cyd er mwyn dirprwyo un neu fwy o’r swyddogaethau canlynol i un ohonynt hwy neu berson arall (e.e. Cadeirydd Annibynnol):

(a) adran 28(3) - hysbysu person y dylai weithredu yng nghyswllt y gwersi a ddysgwyd o’r adolygiad;

(b) adran 28(4) – paratoi ac anfon adroddiad yr adolygiad at yr Ysgrifennydd Gwladol);

(c) adran 29(1) – gofyn i berson ddarparu gwybodaeth benodol at ddibenion yr adolygiad (adran 28 y Ddeddf);

(d) adran 29(6) - pŵer i orfodi’r ddyletswydd i gydymffurfio â’r cais am wybodaeth, trwy wneud cais i’r Uchel Lys am waharddeb yng nghyswllt cais a wnaed dan is-baragraff (c).

3.15 Mae Adran 31(3) y Ddeddf yn rhoi pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau i alluogi cyngor sir a chyngor dosbarth dros ardal sydd o fewn ardal y cyngor sir i gytuno y bydd un ohonynt yn cyflawni un neu fwy o swyddogaethau partner adolygu (dan adrannau 24 i 29 y Ddeddf) a bennir yn y rheoliadau ar ran y llall. Nid oes angen y rheoliadau hyn ar gyfer rhedeg y cynllun peilot, ac felly nid ydynt yn cael eu cyflwyno ar hyn o bryd.

3.16 Mae dau brif reswm pam y gallai partneriaid perthnasol yr adolygiad geisio dirprwyo un neu fwy o’r swyddogaethau y manylir arnynt dan adrannau perthnasol y Ddeddf:

a. fod partneriaid perthnasol yr adolygiad yn dirprwyo’r cyfrifoldeb dros gyflwyno ALlAY i Gadeirydd Annibynnol (paragraffau 3.17 – 3.19 isod); neu

b. fod partneriaid perthnasol yr adolygiad yn dewis asiantaeth arweiniol o’u plith i ddirprwyo cyfrifoldeb iddynt, i gyflwyno ALlAY.

Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i bartneriaid perthnasol yr adolygiad fel y gallant ddirprwyo un neu fwy o’u swyddogaethau i’r person mwyaf priodol. Dylid gwneud y penderfyniad hwn rhwng holl bartneriaid perthnasol yr adolygiad, a chyda chefnogaeth eu swyddogaeth oruchwylio leol. Bydd a wnelo’r penderfyniad hwn â’r lladd penodol sy’n cael ei adolygu, felly bydd hyn fesul achos, nid yn benderfyniad cyffredinol i’w gymhwyso i bob ALlAY a gynhelir mewn ardal.

Cadeirydd Annibynnol

3.17 Fel y gosodir allan ym mharagraff 3.14 uchod, mae deddfwriaeth ALlAY yn gwneud darpariaeth i bartneriaid perthnasol yr adolygiad ddirprwyo nifer o’u swyddogaethau ALlAY angenrheidiol i un ohonynt eu hunain neu i Gadeirydd Annibynnol. Mae Cadeiryddion Annibynnol yn rolau a welir mewn prosesau eraill o adolygu lladdiadau gan gynnwys adolygiadau domestig neu ddiogelu, a gallant roi haen arall o sicrwydd i ymarferwyr a’r gymuned, fod yr adolygiad yn cael ei arwain gan rywun sy’n annibynnol ar yr ymchwiliad troseddol neu gefndir yr achos. Mae hyn yn gyfle hefyd i ddwyn i mewn unigolyn sydd wedi ei hyfforddi ac sydd â phrofiad o gyflwyno adolygiadau, a all fod â dealltwriaeth arbenigol, er enghraifft mewn iechyd meddwl, gangiau, camfanteisio, ayyb a chyd-destun y digwyddiad.

3.18 Mater i bartneriaid perthnasol yr adolygiad, gyda chefnogaeth eu proses leol o oruchwylio, fydd comisiynu ALlAY i Gadeirydd Annibynnol, gan gynnwys esbonio pa swyddogaethau y maent am iddo/i ymgymryd â hwy. Awgrymir y dylai gael y dasg o gyflwyno methodoleg ALlAY gan gynnwys cyfweld a chasglu data, ac ysgrifennu’r adroddiad terfynol trwy asesu’r wybodaeth a’i gyflwyno mewn ffordd sy’n cadw at y gofynion statudol am yr adroddiad (a osodir allan yn adran 28 (4) - (6) y Ddeddf). Dylai’r cadeirydd hefyd fod yn brif bwynt cyswllt i deulu a/neu berthnasau agosaf y dioddefwr a/neu troseddwr/wyr honedig (os ydynt eisiau bod yn rhan) er mwyn cynnal annibyniaeth yn y berthynas hon.

3.19 Bydd partneriaid adolygu lleol yn gyfrifol am gomisiynu Cadeiryddion Annibynnol i ALlAY; fodd bynnag, mae’r Swyddfa Gartref wedi datblygu pecyn hyfforddi cynhwysfawr i Gadeirydd Annibynnol, wedi ei gynllunio ar gyfer paramedrau ALlAY. Bydd rhestr o unigolion a gwblhaodd yr hyfforddiant hwn ar gael i bartneriaid adolygu o wneud cais. Mae templed adroddiad ALlAY, sydd yn Atodiad 5, yn cynnwys datganiad y dylid ei lenwi gan Gadeirydd Annibynnol i gadarnhau ei b/fod yn annibynnol ar yr achos, yn ogystal â chadarnhad ei b/fod wedi cwblhau’r hyfforddiant perthnasol a’i b/fod wedi ei h/enwi ar restr y Swyddfa Gartref, fel y crybwyllwyd uchod.

Rôl cyrff priodol ac eraill â diddordeb ym mhroses yr ALlAY

3.20 Bydd ALlAY yn berthnasol ac o ddiddordeb i bartneriaid perthnasol yr adolygiad, partneriaid a rhanddeiliaid eraill, fel sy’n cael eu rhestru ym mharagraff 2.30. Efallai y gofynnir i’r cyrff priodol hyn ddarparu gwybodaeth at ddibenion yr adolygiad, gan y bydd yn debygol fod ganddynt wybodaeth fyddai’n galluogi neu’n cynorthwyo cyflwyno’r adolygiad hwnnw (os yw’r datgelu yn gyson â gofynion adran 29 a 30).

3.21 Yn ogystal â darparu tystiolaeth yn y cyfnod casglu gwybodaeth, bydd yn berthnasol hefyd i nifer o’r sefydliadau a’r cyrff priodol i roi cefnogaeth i broses yr ALlAY wrth iddo fynd rhagddo, gan gynnwys wrth weithredu’r argymhellion a gynhyrchir. Gall hyn fod o fewn y rôl o oruchwylio lleol y cytunwyd arni, fel rhan o grŵp adolygu achos/panel adolygu, neu fel rhan o fecanweithiau eraill sy’n bod eisoes. Fel y crybwyllir yn 2.1, cyn cyflwyno ALlAY, awgrymir bod partneriaid lleol yn trafod gyda’r strwythurau goruchwylio lleol pa broses y dymunant ei dilyn yn eu hardal trwy bob cyfnod o ALlAY.

3.22 Yn unol ag ystyried y Ddyletswydd Trais Difrifol (gweler paragraffau 8.9 - 8.10), mae sicrhau ansawdd ALlAY a’i weithredu yn effeithiol er budd PDC, ULlT/UAT a CHTh. Gan gadw hyn mewn cof, argymhellir y dylai’r rhanddeiliaid rhanbarthol hyn fod â rhan weithredol mewn lledaenu a monitro argymhellion ALlAY ar draws eu hardal leol a thu hwnt. Efallai mai’r sefydliadau hynny sydd yn rheoli ffynonellau cyllid lleol ar gyfer gwelliannau mewn lleihau ac atal trais fyddai yn y lle gorau i oruchwylio gweithredu gwersi ALlAY.

4: Rôl teulu, cyfeillion a rhwydweithiau eraill mewn ALlAY

4.1 Gall fod yn addas i nifer o unigolion ymwneud â’r broses ALlAY y tu hwnt i’r partneriaid lleol perthnasol /cyrff priodol. O leiaf dylid mynd at deulu/perthnasau agosaf y dioddefwr fel rhan o broses ffurfiol yr ALlAY. Dylid hefyd ystyried ymwneud â theulu’r troseddwr/wyr honedig yn ogystal â chyfeillion a chynrychiolwyr rhwydweithiau cefnogi ehangach megis cyflogwyr, cymunedau ffydd a gweithgareddau cymdeithasol etc, y dioddefwr neu’r troseddwr/wyr honedig, lle tybir bod hyn yn berthnasol. Dylid bod yn wyliadwrus wrth fynd at yr unigolion hyn, a gwneud hynny trwy gytundeb/awgrym y teulu/perthnasau agosaf lle bo modd, yn ogystal ag â chytundeb USY yr heddlu sy’n ymchwilio i’r farwolaeth (a fydd yn ymgynghori â GEG lle bo hynny’n berthnasol). Awgrymir mynd at nifer cyfyngedig o unigolion yn unig, gan dargedu ymwneud er mwyn cael gwybodaeth berthnasol, a gwersi yng nghyswllt yr achos. O ran teulu neu eraill â chysylltiad â’r troseddwr/wyr honedig, byddai ymwneud yn briodol yn unig wedi cyhuddo ffurfiol. O ran adolygiadau a gynhelir yng Nghymru dan broses ADUS, mae canllawiau pellach i’w cael ym mhennod 6 canllawiau ADUS[footnote 16], yn ogystal â’r pecyn cymorth sy’n mynd gyda hwy Adolygiad Diogelu Unedig Sengl: toolkit | GOV.WALES

Pam ymwneud?

4.2 Gall ymwneud teulu/perthnasau agosaf, cyfeillion a rhwydweithiau cefnogi eraill helpu i wella ansawdd a chywirdeb ALlAY, a dod â manteision hefyd Trwy roi iddynt y cyfle i fod yn rhan o’r adolygiad, efallai y bydd modd cael gwybodaeth bwysig am y cyd-destun amgylchiadau ehangach y digwyddiad na fyddai fel arall ar gael i bartneriaid perthnasol yr adolygiad/yr asiantaeth arweiniol/y Cadeirydd Annibynnol. Gallai helpu i adnabod gwersi posib am gyfleoedd a gollwyd am ymyriadau a allai yn eu tro helpu i wella darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol. Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, y gall dwyn i mewn deuluoedd a chyfeillion i broses ALlAY olygu lefel o gymhlethdod a her, o gadw mewn cof y teimladau sensitif all fodoli, yn enwedig pan fydd yr ALlAY yn cyd-redeg ag unrhyw ymchwiliadau a chamau troseddol.

4.3 Dengys profiad o Adolygiadau Lladdiadau Domestig fod manteision i’w cael o ymwneud teulu mewn adolygiad ac fe all fod manteision tebyg i ALlAY. Yn eu mysg mae:

  • helpu’r teuluoedd gyda’r broses o wella, eu cefnogi i ymdopi ac adfer;

  • rhoi cyfle i’r teuluoedd gyfrannu at yr ALlAY os dymunant. Dylai eu cyfraniadau, pryd bynnag y rhoddir y rhain yn ystod proses yr adolygiad, gael yr un statws â chyfraniadau eraill;

  • helpu’r teuluoedd i deimlo y gallant gyfrannu at atal lladdiadau eraill gydag arfau ymosodol;

  • galluogi teuluoedd i helpu i roi gwybodaeth i’r ALlAY trwy roi darlun mwy cyflawn o fywydau’r dioddefwr a/neu droseddwr ac i weld y lladd trwy eu llygaid hwy. Gall hyn helpu’r cadeirydd annibynnol/asiantaeth arweiniol/partneriaid perthnasol yr adolygiad i ddeall y penderfyniadau a’r dewisiadau a wnaeth y dioddefwr a/neu y troseddwr/wyr honedig;

  • rhoi gwybodaeth neu fewnwelediadau perthnasol na fyddai ar gael fel arall trwy wybodaeth neu gofnodion oedd yn cael eu dal gan bartneriaid perthnasol yr adolygiad/partneriaid adolygu/cyrff priodol. Dylai teuluoedd allu darparu gwybodaeth ffeithiol yn ogystal â manylion o effaith emosiynol y lladd. Dylai partneriaid perthnasol yr adolygiad/cadeirydd annibynnol/asiantaeth arweiniol fod yn ymwybodol o’r risg o briodoli ‘hierarchaeth o dystiolaeth’ o ran y pwysau a roddant i gyfraniadau gan y sector statudol, y sector wirfoddol, a theulu a chyfeillion;

  • datgelu gwahanol olygweddau ar yr achos, a all fod â gwersi i bartneriaid/cyrff lleol o ran gwella dylunio gwasanaethau a phrosesau.

  • galluogi teuluoedd ti ddewis ffugenw addas, os ydynt yn dymuno, i’w ddefnyddio am y dioddefwr/troseddwr/wyr honedig yn yr adroddiad. Bydd dewis enw yn hytrach na defnyddio priflythrennau, llythrennau a rhifau neu symbolau yn gwneud yr ALlAY yn fwy dynol ac yn ei gwneud yn haws i’r darllenydd ddilyn y naratif. Os nad ydynt yn dymuno gwneud hyn, byddai’n fuddiol amlinellu hyn yn yr adroddiad.

Pryd i ymwneud

4.4 Awgrymir mai’r cadeirydd annibynnol neu’r asiantaeth arweiniol (os dirprwyir iddynt) yw’r prif bwynt cyswllt i aelodau’r teulu /perthnasau agosaf, er y dylid ymgynghori ag USY yr heddlu (a fydd yn ymgynghori â GEG lle bo hynny’n berthnasol), Swyddogion Cyswllt Teulu (SCT) a, lle bo angen, partneriaid perthnasol yr adolygiad, cyn gwneud y cyswllt. Bydd gofalu bod yr ymwneud yn digwydd trwy’r cadeirydd annibynnol lle bo modd yn y byd yn sicrhau annibyniaeth oddi wrth sefydliadau statudol. Dylai ymwneud gydag ymwybyddiaeth o drawma â’r rhai mewn profedigaeth a chymunedau lleol fod yn rhan allweddol o brofiad, hyfforddiant a sgiliau cadeirydd annibynnol.

4.5 Dylai’r cadeirydd annibynnol/asiantaeth arweiniol/partneriaid perthnasol yr adolygiad sicrhau bod cyfathrebu clir a rheolaidd yn digwydd gyda theulu/perthnasau agosaf y dioddefwr (fel sy’n berthnasol) trwy gydol proses yr ALlAY hyd at y diwedd. Dylent, er hynny, fod yn ymwybodol o natur sensitif bosib, a’r angen am gyfrinachedd wrth gyfarfod â’r grwpiau hyn yn ystod yr adolygiad. Weithiau, fe all unigolion fod yn dystion posib, neu hyd yn oed yn ddifinyddion neu dan amheuaeth mewn unrhyw gamau troseddol yn y dyfodol. Cyn gwneud y cyswllt, rhaid dod i gysylltiad ag USY yr heddlu (a fydd yn ymgynghori â GEG lle bo hynny’n berthnasol) ynghylch amseru unrhyw agwedd er mwyn gwneud yn siŵr na fydd yr ymwneud yn tanseilio ymchwiliadau na chamau cyfreithiol, ac er mwyn sicrhau diogelwch pawb sy’n rhan o’r mater. Ymhellach, byddai modd datgelu unrhyw drafodaethau neu gyfweliadau sydd wedi eu recordio gyda’r teulu dan Ddeddf Trefniadau ac Ymchwiliadau Troseddol 1996 lle bo hynny’n berthnasol i ymchwiliad neu erlyniad troseddol. Dylid cadw cofnod o unrhyw gyfarfodydd a thrafodaethau a fydd yn digwydd.

4.6 Argymhellir, yn ystod yr holl ymwneud â’r teulu/perthnasau agosaf, cyfeillion ac eraill, fod y cadeirydd annibynnol/asiantaeth arweiniol/partneriaid perthnasol yr adolygiad yn esbonio’n glir bwrpas a phroses yr ALlAY, y berthynas a’r gwahaniaeth rhyngddo a’r broses o ymchwilio troseddol, ac ateb unrhyw gwestiynau’n ofalus i reoli disgwyliadau o’r cychwyn cyntaf. Dylai’r sawl sy’n ymwneud â’r grwpiau hyn fod â gwybodaeth weithio da o’r gwasanaethau cefnogi arbenigol lleol a chenedlaethol sydd ar gael a sut y gallant fynd at y gefnogaeth hon. Efallai y bydd angen ystyried eiriolwyr arbenigol i siarad ar ran y teuluoedd.

4.7 Fel y gosodir allan yn 2.44, fe all achosion godi lle bu lladdiadau lluosog, neu laddiadau cyd-gysylltiedig. Rhaid i unrhyw gysylltu â theulu’r dioddefwr gael ei gydgordio rhwng yr adolygiadau er mwyn sicrhau bod unrhyw gyswllt a gwybodaeth a rennir gyda’r teuluoedd am y broses adolygu yn cael ei gydamseru o ran amser a chynnwys, ac i osgoi llethu teuluoedd â gormod o geisiadau neu fersiynau o wybodaeth.

4.8 Mae’n bwysig i aelodau teulu a/neu berthnasau agosaf y dioddefwr gael eu hysbysu’n brydlon o unrhyw ddatblygiadau gyda chynnydd ALlAY. Ymysg y cerrig milltir allweddol yn y broses ALlAY y dylai aelodau teulu a/neu berthnasau agosaf fod yn ymwybodol ohonynt mae:

a. Cyswllt cyntaf gyda theulu’r dioddefwr. Dylai hyn ddigwydd pan wnaed penderfyniad i gynnal ALlAY, fod cadeirydd annibynnol wedi ei benodi (os yn berthnasol) a bod cwmpas a chylch gorchwyl yr adolygiad wedi eu cadarnhau. Dylid cysylltu i esbonio proses yr ALlAY, ei bwrpas a rheoli disgwyliadau.

b. Ail gyswllt gyda theulu’r dioddefwr, ac os yw hyn yn briodol, gellid cysylltu hefyd â theulu’r troseddwr/wyr honedig (os bu cyhuddiad). Holi’r teulu a ydynt am gyfrannu at yr adolygiad. Os cytunir, gall eu hymwneud roi sylw i unigolion eraill y gall fod yn berthnasol cysylltu â hwy am fwy o wybodaeth.

c. Dylid gwneud y trydydd cysylltiad â theulu’r dioddefwr, ac os ydynt wedi eu cynnwys yn yr adolygiad, â theulu troseddwr/wyr honedig yn dilyn cwblhau ALlAY (tua 12 mis o ddyddiad y farwolaeth). Dylai drafft o’r adroddiad gael ei rannu. Gydag esboniad o’r broses gyhoeddi gan gynnwys syniad o’r amseru a lle cyhoeddir yr adolygiad. Fel rhan o’r broses hon, dylid cael dilyniant pellach gyda theulu’r dioddefwr i drafod y drafft o adroddiad unwaith iddynt gael siawns i’w ystyried yn llawnach. Gall fod yn gyfle hefyd i’r teulu roi adborth am eu profiad o’r broses ALlAY.

4.9 Yng nghyfnodau cychwynnol ALlAY, dylid hysbysu’r teulu o’r penderfyniad i gynnal ALlAY a hefyd o’r penderfyniad i benodi cadeirydd annibynnol a’i fanylion. Mae templed o lythyr cychwynnol i’r teulu yn Atodiad 3a. Mae taflen o aelodau’r teulu sy’n rhoi gwybodaeth am beth yw ALlAY, pwy fydd yn cynnal yr adolygiad, eu hymwneud, beth sy’n digwydd i unrhyw wybodaeth a rannant, proses yr adolygiad ac amserlenni, yn Atodiad 3b. Mae templed pellach o lythyr i’r teulu pan gwblheir yr ALlAY yn Atodiad 3c.

4.10 Hefyd, mae angen i bartneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol/cadeirydd annibynnol drafod gydag USY yr heddlu (a fydd yn ymgynghori â GEG lle bo hynny’n berthnasol) ar briodoldeb ystyried unrhyw ddynesu at deulu unrhyw droseddwr/wyr a gyhuddwyd o’r lladd rhag ofn y bydd gan eu teulu wybodaeth berthnasol i’w gynnig. Fodd bynnag, rhaid i’r cadeirydd annibynnol gadw mewn cof y gall y troseddwr/wyr neu eraill â chysylltiad â’r troseddwr weithiau fod yn risg o beri trais i deulu neu gyfeillion y dioddefwr neu vice versa. Os yw partneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol/cadeirydd annibynnol yn pryderu am unrhyw risg o niwed corfforol a all ddigwydd i unrhyw unigolyn/ion hysbys, dylent felly gysylltu’n syth â’r heddlu fel y gellir cymryd camau i’w gwarchod.

4.11 Efallai nad yw aelodau teulu a/neu berthnasau agosaf y dioddefwr yn barod o ymwneud â’r broses ALlAY. Yn y sefyllfaoedd hyn, lle mae’r teulu neu’r perthnasau agosaf yn ymateb ac yn gofyn am fwy o amser cyn y byddant yn teimlo’n barod i ymwneud, dylai’r cadeirydd annibynnol/asiantaeth arweiniol, trwy ymgynghori â phartneriaid perthnasol yr adolygiad, ystyried pa gyfnod o amser fyddai’n addas cyn dilyn i fyny â hwy ar y mater. Os oes gan y teulu a/neu’r perthnasau agosaf eiriolwr, fe all fod mewn sefyllfa i roi cyngor ar gyfnod addas o amser. Os nad yw’r teulu a/neu’r perthnasau agosaf am ymwneud â’r broses, rhaid ystyried cysylltu ag unrhyw eiriolwr (os neilltuwyd un) ar unrhyw rai o gerrig milltir allweddol proses yr adolygiad, yn enwedig pan fydd yr adroddiad wedi ei gwblhau a bod yr adroddiad drafft yn barod i’w gyhoeddi. Mae’r term “eiriolwr” yn fras: fe all fod yn arbenigwr proffesiynol a neilltuwyd i weithio gyda’r teulu naill ai trwy wasanaethau statudol neu o’r sector gwirfoddol; gallai hefyd fod yn gyfreithiwr, cyfaill i’r teulu neu arweinydd cymunedol sydd â chydsyniad neu ganiatâd y teulu i’w cynrychioli a gweithredu ar eu rhan.

4.12 O ran rhoi copi o’r adroddiad drafft i’r aelod o’r teulu a/neu berthnasau agosaf, bydd angen ystyried a fydd angen golygu unrhyw ran o’r cynnwys er mwyn sicrhau na ddatgelir unrhyw wybodaeth sensitif a all danseilio unrhyw gamau neu dreial troseddol sy’n digwydd.

4.13 Efallai, wedi darparu copi o’r adroddiad drafft, y gall yr aelod o’r teulu ofyn am fwy o amser er mwyn deall yr adroddiad yn llawn. Dylid rhoi ystyriaeth i geisiadau o’r fath, ond rhaid cytuno ar derfyn amser clir gyda’r aelod o’r teulu, o gofio’r angen i gael yr adroddiad ar ffurf derfynol i’w gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol i’w gyhoeddi. Weithiau, gall hyn olygu llunio ffurf o ymgymeriad cyfreithiol i gadw cyfrinachedd adolygiad nas cyhoeddwyd.

Ffactorau i’w hystyried wrth ymwneud

4.14 Os ystyrir hyn yn briodol wrth gwrdd ag aelodau’r teulu /perthnasau agosaf, a lle bo hynny’n addas, gyda chyfeillion ac eraill, dylai’r cadeirydd annibynnol/asiantaeth arweiniol/partneriaid perthnasol yr adolygiad wneud y canlynol:

  • cynnig cyfathrebu’n uniongyrchol, neu os yw’n well gan y teulu , trwy eiriolwr dynodedig sydd ganddo/i, lle bo modd, berthynas waith eisoes gyda’r teulu

  • cadarnhau mai gwirfoddol yw’r ymwneud. Os nad yw’r teulu am fod yn rhan o’r broses, esbonio y cynigir cyfleoedd pellach i ymwneud, gan gynnwys, o leiaf, pan baratoir yr adroddiad drafft

  • ystyried anghenion ethnig, diwylliannol, hygyrchedd ac ieithyddol

  • ystyried yn ofalus amseru’r cyswllt â’r teulu, ar sail gwybodaeth gan yr eiriolwr (os defnyddir) a chan gadw mewn cof brosesau eraill sy’n mynd ymlaen, er enghraifft, ymchwiliadau neu gamau troseddol, post-mortemau ayyb

  • cynnig y cyswllt cyntaf yn bersonol, ond gwneud yn glir fod ffyrdd gwahanol iddynt gyfrannu at yr ALlAY, er enghraifft, yn ysgrifenedig neu dros y ffôn, ayyb. Dylai’r teulu gael y daflen wybodaeth berthnasol sydd yn Atodiad 3b

  • cynnig cyfeirio at wasanaethau cefnogi arbenigol i’r sawl sydd heb eiriolwr dynodedig

  • sicrhau ymwneud cyson a chyfoesiadau am gynnydd trwy’r eiriol (os rhoddwyd un), gan gynnwys am amseru cwblhau a chyhoeddi adroddiad yr adolygiad

  • esbonio’n glir sut y defnyddir unrhyw wybodaeth a ddatgelir (gan gynnwys gwybodaeth bersonol) ac a gyhoeddir y wybodaeth hon

  • esbonio sut mae eu gwybodaeth wedi cynorthwyo’r adolygiad a sut y gall helpu i atal lladdiadau yn y dyfodol

  • rhannu fersiwn gyflawn yr ALlAY gyda’r teulu/perthnasau agosaf cyn i’r adolygiad gael ei anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol a Phrif Weinidog Cymru (lle bo hynny’n briodol) i’w gyhoeddi ac esbonio pam ei bod yn bwysig i’r ALlAY gael ei gyhoeddi fel sail i bolisi ac arferion yn y dyfodol

  • gofalu bod y teulu yn cael digon o amser i ystyried yr adroddiad a deall ei gynnwys yn llawn, gan amlygu unrhyw sylwadau neu bryderon. Dylid rhoi esboniad am y gofyniad cyfreithiol sydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol dan adran 28(7) y Ddeddf i gyhoeddi neu wneud trefniadau i gyhoeddi’r adroddiad, yn ogystal â’r caveats ynghylch y cyhoeddi hwnnw

  • sicrhau y gwneir y teulu yn ymwybodol o ganlyniadau posib cyhoeddi, megis sylw gan y cyfryngau, a sylw’n cael ei droi unwaith eto at y lladd. Dylid dyfynnu’r teulu yn llawn mewn unrhyw ddatganiadau i’r wasg a’r cyfryngau. Mae angen i’r cadeirydd annibynnol hefyd gadw mewn cof ddyddiadau allweddol, megis penblwyddi ac yn y blaen.

Agweddau eraill i’w hystyried

4.15 Bydd angen i’r cadeirydd annibynnol/partneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol hefyd gadw mewn cof brotocolau a chanllawiau Bygythiad i Fywyd. Materion yw bygythiadau i fywyd a all fod yn eithaf cyffredin yng nghyswllt y mathau o laddiadau y bydd ALlAY yn canolbwyntio arnynt. O ganlyniad, gall hyn achosi problemau os ydynt mewn cysylltiad ag aelodau teulu, cyfeillion, a chyfoedion dioddefwyr. Bydd angen i’r cadeirydd annibynnol/asiantaeth arweiniol/partneriaid perthnasol yr adolygiad gytuno gydag USY yr heddlu am ba gamau y gellir eu cymryd gyda’r teulu, cyfeillion, ac eraill yng nghyswllt yr achos. Dylai’r cadeirydd annibynnol/partneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol gofio y gall y troseddwr neu aelodau o deulu’r troseddwr/wyr ambell waith fod yn risg o drais i deulu neu gyfeillion y dioddefwr neu vice versa, gyda risg o drais i’r troseddwr/wyr neu aelodau o’u teulu, gan gynnwys dial am y farwolaeth. Er enghraifft, gall ymwneud ag aelod o’r teulu ynghylch bywyd eu hanwyliaid amlygu gwybodaeth neu faterion a allai ychwanegu at y teimladau o ddicter a loes ynghylch y digwyddiad, a gallai hyn yn ei dro arwain at fygythiadau i deulu neu gyfeillion dioddefwr/troseddwr. Os oes unrhyw bryderon am niwed corfforol a allai fod ar fin digwydd i unrhyw unigolyn/ion hysbys, dylid eu cyfleu wrth yr heddlu rhag blaen fel bod modd cymryd camau i amddiffyn yr unigolyn/ion.

4.16 Rhaid rhoi ystyriaeth yn gynnar hefyd i weithio gyda Swyddogion Cyswllt Teulu (SCT) ac USY yr heddlu i adnabod unrhyw eiriolwyr sydd ar gael (os neilltuwyd un/rhai) a sefyllfaoedd y teulu, cyfeillion, a rhwydweithiau cefnogi eraill yng nghyswllt y lladd.

4.17 Os yw cwmpas ALlAY yn cynnwys agweddau perthnasol i laddiadau iechyd meddwl neu Ymchwiliadau Annibynnol, mae teuluoedd troseddwyr yn cael eu hystyried yn allweddol er mwyn deall y gofal a’r driniaeth a dderbyniwyd. Mae teuluoedd dioddefwyr hefyd yn gyfranogwyr allweddol, petaent am fod yn rhan. Gweler y canllawiau ym mharagraffau 2.43 - 2.45.

4.18 Bydd yn bwysig i’r cadeirydd annibynnol/asiantaeth arweiniol/partneriaid perthnasol yr adolygiad fod yn ymwybodol o’r gwasanaethau cefnogi ac eiriol a all fod ar gael yn eu hardal leol i deuluoedd a/neu berthnasau’r dioddefwr a’r troseddwr/wyr honedig. Fel y gosodir allan ym mharagraff 4.11 efallai na fydd teuluoedd a/neu berthnasau agosaf yn barod i ymwneud a phroses yr ALlAY ar y dechrau, a gallant wrthod cymryd rhan neu ofyn am fwy o amser cyn y byddant yn teimlo’n barod i ymwneud. O’r herwydd, dylai gwybodaeth am wasanaethau cefnogi fod ar gael iddynt trwy gydol y broses, gan y gall eu hanghenion/parodrwydd i ymwneud newid dros amser.

5: Cyflwyno ALlAY yng Nghymru

Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS) Cymru

5.1 Yr oedd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (DLlC 1998) yn gwneud darpariaeth i drosglwyddo swyddogaethau gweithredol o Weinidogion Llywodraeth y DU i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Senedd Cymru bellach[footnote 17]). Dan DLlC 2006, trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru. Mae Gweinidogion Cymru yn awr yn arfer y rhan fwyaf o’r prif bwerau deddfwriaethol a’r rhai eilaidd yng nghyswllt llywodraeth leol, boed y pwerau hynny wedi eu cyflwyno gan Ddeddf Senedd Cymru neu Ddeddf Senedd y DU.

5.2 Mae Adran 108A ac Atodlenni 7A a 7B DLlC 2006 yn sefydlu sail cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd i wneud prif ddeddfwriaeth. Mae Atodlen 7A yn manylu am y meysydd polisi lle gall Senedd y DU yn unig ddeddfu. Mae unrhyw ardal na restrir yn Atodlen 7A o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd; mae Atodlen 7B yn cynnwys cyfyngiadau cyffredinol am y ffordd y gall y Senedd arfer ei chymhwysedd deddfwriaethol. Felly, mae addysg a hyfforddiant, gwasanaethau iechyd, tai, llywodraeth leol, lles cymdeithasol, a Thân ac Achub, (sydd oll yn berthnasol i unrhyw ystyriaeth o ALlAY) o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd

5.3 Gellir gweld felly, er mwyn cynnal unrhyw adolygiad yng Nghymru, rhaid sicrhau ei fod yn gydnaws â’r setliad datganoli a phrosesau perthnasol a sefydlwyd yng Nghymru. I roi enghraifft, mae 80% o argymhellion a wnaed mewn Adolygiadau Lladdiad Domestig yn dod o fewn maes awdurdodau datganoledig Cymreig yng Nghymru[footnote 18]. Mae’n hanfodol felly i Weinidogion Cymru ymwneud yn llawn a chael gwybod am yr adolygiadau. Mae proses yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS) yng Nghymru yn rhoi’r cyfle hwn.

Pwrpas

5.4 Mae datblygiad a phwrpas yr ADUS yng Nghymru yn cael ei osod allan yn fanwl yng nghanllaw statudol ADUS[footnote 19].

Pwrpas cyffredinol yr ADUS yw:

  • creu un broses adolygiad sengl sy’n ymgorffori agwedd amlasiantaethol lle’r atebir y meini prawf ar gyfer un neu fwy o’r Adolygiadau canlynol: Adolygiad Arfer Oedolion; Adolygiad Arfer Plant; Adolygiad Lladdiad Domestig; Adolygiad Lladdiad Iechyd Meddwl ac ALlAY.

  • creu un corff sy’n gwneud gwaith cydgordio/gweithredol i gyflwyno’r broses o’r dechrau i’r diwedd (a elwir yn Hwb Cydgordio’r ADUS);

  • sicrhau bod y llywodraethiant y cytunwyd arno yn ei le ac yn effeithiol; a

  • cadw adroddiad terfynol yr adolygiad mewn storfa ganolog ( a adwaenir fel Storfa Ddiogelu Cymru SDdC) i hwyluso hyfforddiant a dysgu lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i Gymru gyfan.

5.5 Mae’r ADUS wedi dwyn ynghyd y canllawiau a’r arferion gorau sy’n bod eisoes o’r gwahanol brosesau adolygu, gan greu un broses sydd yn rhoi agwedd sy’n symlach ac yn ddwys at adolygiadau. Mae Gweinidogion Cymru wedi gallu mabwysiadu systemau a phrosesau sy’n gweithio yng Nghymru, i Gymru.

Beth mae hyn yn olygu i ALlAY?

5.6 Trwy adeiladu’r ymateb i gyflwyno ALlAY yng Nghymru, mae Uned Atal Trais Cymru yn cefnogi’r cynllun peilot yn ne Cymru. Bydd y broses a ddilynir gan yr ADUS yn sicrhau cydnawsedd â chanllawiau cenedlaethol ALlAY a’r trefniadau datganoledig yng Nghymru.

5.7 Cytunwyd ar y broses ADUS, a ddatblygwyd gan ymarferwyr yn dilyn adolygiadau helaeth gan academyddion ac ymarferwyr, gan y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru fel y cyfrwng i gyflwyno’r ALlAY yng Nghymru. Croes-gyfeiriwyd canllaw statudol ADUS gyda chanllaw ALlAY er mwyn gwneud yn sicr y bydd yn cyflwyno popeth o safbwynt y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd.

5.8 I gloi, pryd bynnag y bydd lladd gydag arf ymosodol yn digwydd yng Nghymru a fydd trwy hynny yn ateb y meini prawf i gynnal Adolygiad Lladd gydag Arfau Ymosodol, caiff ADUS ei ystyried, a dilynir y broses hon.

5.9 Mae modd darllen Canllaw Statudol ADUS yn llawn yn Adolygiad Diogelu Unedig Sengl | GOV.WALES a Phecyn Cymorth ADUS yn Adolygiad Diogelu Unedig Sengl: pecyn cymortyh | GOV.WALES am dempledi ffurflenni sydd eu hangen i gynnal ADUS, sydd yn cwmpasu Adolygiadau Lladdiadau Iechyd Meddwl, Lladdiadau Domestig, Adolygiadau Arfer Oedolion/Plant ac Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol.

5.10 Tra bod ALlAY i’w cyflwyno yng Nghymru trwy broses ADUS, mae rhai camau y dylid eu cymryd yn ychwanegol at broses safonol ADUS er mwyn gwneud yn siwr yr atebir gofynion deddfwriaethol ALlAY o ran adolygiadau yng Nghymru.

5.11 Mae’r tablau isod yn erfyn cyfeirio cyflym i nodi’r gwahaniaethau mewn swyddogaethau am ALlAY a gynhelir dan broses ADUS. Mae diagram sy’n cyfuno’r ddwy broses yn Atodiad 4. Mae manylion pellach am broses ADUS yng nghanllaw statudol ADUS. Mae esboniad pellach o’r camau a rifir dan broses ALlAY yn y tablau ar gael fel diagram ym mharagraff 3.1 ac yn y canllaw hwn drwyddo draw.

Noder: Gan y bydd proses ADUS yn cychwyn yng Nghymru ar ôl cynllun peilot ALlAY, darperir canllawiau ychwanegol i ardaloedd y cynllun peilot fel cymorth i weithredu yn y cyfamser. Defnyddir canllaw statudol ADUS, prosesau cysylltiedig a thempledi safonedig wrth gyflwyno ALlAY yng Nghymru (trwy broses ADUS), hyd yn oed os nad yw’n gweithredu’n ffurfiol eto. Bydd Tîm ADUS, yr Hwb Cydgordio a’r Uned Atal Trais yn cydweithio’n agos gydag ardal y cynllun peilot i sicrhau bod yr holl bartneriaid yn cael gwybodaeth a chefnogaeth lawn yn ystod yr adolygiad.

Trosolwg o’r broses

5.12 Canfod a yw ALlAY yn gymwys

Proses ADUS Proses ALlAY Effaith ymarferol
Lladd yn digwydd - cyfeirio at y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol (BDRh) Lladd yn digwydd– hysbysu partneriaid perthnasol tebygol yr adolygiad (PPA) (para 1.12 Canllaw Statudol ALlAY) Rhaid hysbysu’r ddau endid am y lladd cyn gynted ag sydd modd. Awgrymir ymhen 24-72 awr i’r broses ALlAY. Gall y BDRh hefyd wahodd PDC i ymwneud â’r broses os yw eu harbenigedd penodol yn berthnasol i’r achos.    
Pasio’r cyfeiriad at y Grŵp Adolygu Achos (GAA) Pennu pwy yw PPA (para 1.12 – 1.17) Os yw’r amser yn caniatau, cynullir y GAA am gyfarfod ad hoc i drafod yr ALlAY. Gwneud penderfyniad gyda chytundeb partneriaid perthnasol yr adolygiad a GAA, gan ddefnyddio’r meini prawf a osodir allan yn neddfwriaeth ALlAY. Gwirio gyda phrosesau unrhyw adolygiad i gadarnhau a yw hyn yn ALlAY dan broses ADUS ynteu’n adolygiad amgen dan broses ADUS.    
Fframwaith llywodraethiant ADUS yn ei le Sefydlu pwy fydd yn rhoi goruchwyliaeth leol. Pennu asiantaeth arweiniol (para 2.6 - 2.7) Dim angen camau ychwanegol – proses ADUS yn rhoi’r oruchwyliaeth a’r strwythur angenrheidiol am ALlAY.    
Trafod y cyfeiriad yn y GAA – pob asiantaeth wedi’u cynrychioli Gwneud y cais cychwynnol am wybodaeth (para 2.15e a phennod 6). Canfod a yw’r lladd yn ateb meini prawf ALlAY (para 2.10 – 2.16) Rhaid i PPA gymryd rhan weithredol yn y Grŵp Adolygu Achos i ateb y gofynion a osodir arnynt gan ddeddfwriaeth ALlAY. Rhaid i rôl Bwrdd Goruchwylio GAA gynnwys casglu ynghyd a thrafod gwybodaeth gan bartneriaid/cyrff lleol, gan roi eglurder ynghylch a atebir meini prawf yr ALlAY, yn ogystal â nodau proses ADUS.    
Penderfyniad am yr adolygiad gan Gadeirydd y BDRh ar ôl derbyn argymhellion GAA Penderfyniad am yr adolygiad yn cael ei wneud gan PPA/asiantaeth arweiniol – gyda chefnogaeth eu proses leol o oruchwylio (para 2.10 – 2.16) Rhaid i’r penderfyniad i gynnal adolygiad gael ei wneud ar y cyd rhwng Cadeirydd y BDRh a’r PPA. Ateb eu gofynion deddfwriaethol, gweler para 2.11 canllaw statudol ALlAY.    

5.13 Cyflwyno ALlAY

Proses ADUS Proses ALlAY Effaith ymarferol
Hysbysu Llywodraeth Cymru (trwy Hwb Cydgordio ADUS) a’r Swyddfa Gartref am y penderfyniad. Hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol a Phrif Weinidog Cymru am y penderfyniad (gweler para 2.19 – 2.26). Cynnwys hysbysu dilynol os nad yw’n bosib cael penderfyniad cynnar. Mae gofyniad cyfreithiol i ddarparu hysbysiad ymhen 1 mis o’r PPA yn dod yn ymwybodol o ladd sy’n debygol o fod yn gymwys am ALlAY. Dylid anfon y templed yn Atodiad 2 canllaw statudol ALlAY at yr Ysgrifennydd Gwladol a Phrif Weinidog Cymru. Os na fwrir ymlaen ag adolygiad, dylid anfon y gwaith papur perthnasol hefyd at Storfa Ddiogelu Cymru (SDdC).    
GAA yn argymell cadeirydd ac adolygydd i’r panel o restr gymeradwy Comisiynu’r ALlAY / dirprwyo i gadeirydd annibynnol o restr gymeradwy ALlAY (para 3.14 - 3.19) Dylai’r GAA ddilyn proses ADUS, gan sicrhau bod yr ‘adolygydd’ (Cadeirydd Annibynnol yn Lloegr) wedi cwblhau hyfforddiant ALlAY ac wedi ei rh/restru ar restr gymeradwy ALlAY.    
Cyfarfodydd panel Hysbysu’r heddlu y cymeradwywyd ALlAY (para 2.27). Gwneud cais pellach am wybodaeth (para 2.29) Dylid cynnal cyfarfodydd panel ADUS yn ôl proses ADUS, gyda’r PPA/adolygydd yn bresennol. Sicrhau bod yr heddlu yn ymwybodol fod ALlAY wedi ei gymeradwyo. Bydd trafodaethau’r Panel yn cynnwys unrhyw gamau pellach angenrheidiol i gael mwy o fanylion yng nghyswllt yr ALlAY.    
Cael gwersi cychwynnol gan SDdC trwy ddefnyddio data hanesyddol o adolygiadau. Cytuno ar linell amser Pennu cwmpas a chylch gorchwyl yr ALlAY (para 2.31 – 2.56) Dylai’r Panel ADUS a’r adolygydd ddilyn proses ADUS i bennu cwmpas a chylch gorchwyl yr adolygiad, gan gynnwys ei linellau amser.    
Adolygwyr i gwrdd â’r teulu a’r prif unigolion Hysbysu’r teulu y cymeradwywyd ALlAY (para 2.57). Dylid dilyn proses ADUS wrth gwblhau’r cam hwn. Dylid rhoi ystyriaeth i’r manylion a roddir ym mhennod 4 canllaw statudol ALlAY am deulu, cyfeillion, a rhwydweithiau eraill.    
Gwersi Tymor Canol Rhannu gwersi cynnar gyda’r partneriaid adolygu a goruchwylio lleol (para 2.58) Rhannu gwersi cynnar yn ôl Diagram Cyfleoedd Cynnar/Cysylltiadau ADUS yn y canllaw, Rhannau gyda Bwrdd Goruchwylio ALlAY.    
Digwyddiad dysgu Cynnal a chwblhau’r ALlAY (gweler pennod 7) Dylid dilyn proses ADUS. Dylid rhoi ystyriaeth i bennod 7 canllaw statudol ALlAY. Dylid defnyddio templed ADUS i’r adroddiad. Awgrymir ei gwblhau o fewn 12 mis o’r lladd cymwys.    

5.14 Wedi’r adolygiad

Proses ADUS Proses ALlAY Effaith ymarferol
Drafft o adroddiad a chynllun gweithredu yn cael eu darparu i’r BDRh Sicrhau ansawdd adroddiad terfynol yr adolygiad gydag ymwneud gan oruchwylio lleol (para 7.21) BDRh i ystyried, herio a chyfrannu at gasgliadau’r adolygiad (canllaw ADUS) Dilyn proses/fframwaith ADUS – cadw mewn cof 7.21 y canllaw hwn. Sicrhau y rhannwyd y drafft gyda’r teulu fel sy’n berthnasol.    
Adroddiad terfynol i’r BDRh i’w gymeradwy a’i gyhoeddi ac yna i Hwb Cydgordio ADUS a’r Ysgrifennydd Gwladol os yn gymwys (LlAY/LlD) Rhannu’r adroddiad gyda’r Ysgrifennydd Gwladol a Phrif Weinidog Cymru (para 7.23 – 7.27) Hwb Cydgordio i sicrhau y rhennir yr adroddiad terfynol gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, Prif Weinidog Cymru, a’r BDRh/PDC/ corff rhanbarthol cyfatebol lle bo hynny’n briodol. Cyhoeddi gan y BDRh a Storfa Ddiogelu Cymru (SDdC) ymhen 1 mis o ddyddiad anfon yr adroddiad at yr Ysgrifennydd Gwladol, oni dderbynnir hysbysiad cyn y dyddiad hwnnw fod angen newidiadau.    
Cynllun gweithredu wedi ei gadarnhau a’i fonitro gan BDRh, Hwb Cydgordio ADUS a Grŵp Strategaeth ADUS a’i roi yn SDdC Hysbysu’r rhai cymwys y dylid gweithredu (para 8.1 – 8.6) Cynllun gweithredu i gael ei fonitro a gofyn i’r sawl yr argymhella’r adroddiad iddynt weithredu wneud hynny (yn unol â deddfwriaeth ALlAY)    
Anfon yr adroddiad at Storfa Ddiogelu Cymru (SDdC) i’w ddadansoddi, gan ddefnyddio dysgu peirianyddol, gwyddor gymdeithasol a gwyddor gyfrifiadurol. Ysgrifennydd Gwladol i gyhoeddi’r adroddiad (para 7.23 – 7.27) Adroddiad i’w anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w gyhoeddi. Yng Nghymru, cyhoeddir ADUS yn unigol gan y BDRh. Nid yw SDdC yn agored i’r cyhoedd. Gellir cyhoeddi gan y BDRh ac SDdC ymhen 1 mis o ddyddiad anfon yr adroddiad at yr Ysgrifennydd Gwladol, oni dderbynnir hysbysiad cyn y dyddiad hwnnw fod angen newidiadau.    
Cynllun gweithredu wedi ei gadarnhau gan y BDRh Dosbarthu prif wersi, gwersi tymor canol a therfynol o bob adolygiad gan Hwb Cydgordio ADUS a Digwyddiadau Dosbarthu Thematig bob Dwy Flynedd Integreiddio’r gwersi i gynllun gweithredu’r system leol (para 8.1 – 8.8) Proses ADUS i’w dilyn (canllaw ADUS) er mwyn sicrhau bod y cynllun gweithredu yn cael ei integreiddio i brosesau lleol. Cadw mewn cof bennod 8 canllawiau statudol ALlAY guidance    
Bwrdd Goruchwylio Gweinidogol (BGG) dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog Cynnal a chyhoeddi dadansoddiad thematig - Bwrdd Goruchwylio ALlAY i fonitro gweithredoedd a chyhoeddi dadansoddiad thematig (para 8.11 – 8.17) Model llywodraethiant cyffredinol y BGG o agweddau datganoledig ac annatganoledig diogelu, gyda’r nod o roi arweiniad, goruchwyliaeth a chefnogaeth. Ymwneud i ddigwydd gyda’r naill broses a’r llall yn ôl y gofyn    
Parhau i fonitro’r cynllun gweithredu. Adroddiadau cyfoesi i’w cyflwyno i BDRh, Bwrdd Strategaeth ADUS a’r Bwrdd Goruchwylio Gweinidogol lle bo angen (7) Gwerthuso cynnydd ar gynlluniau gweithredu (para 8.7 – 8.7) Proses ADUS i’w dilyn, ochr yn ochr ag ymwneud â Bwrdd Goruchwylio ALlAY    

6: Rhannu gwybodaeth a data

Cyflwyniad

6.1 Paratowyd y canllaw hwn am wybodaeth a rhannu data i gefnogi datgelu gwybodaeth i ymdrin ag achosion o ALlAY. Fe’i bwriadwyd i helpu partneriaid/cyrff lleol i ddeall pa ddata y gellir ei ddatgelu at y diben(ion) a nodwyd a rhoi sicrwydd eu bod wedi ystyried gofynion deddfwriaeth diogelu data.

Pwrpas Datgelu

6.2 Mae rhannu data personol sy’n angenrheidiol a chymesur at ddibenion adolygiad ar draws partneriaid/cyrff lleol yn allweddol i lwyddiant ALlAY. Amlinellir y mudiadau perthnasol y gellir gofyn iddynt rannu data ym mharagraff 2.30. Nod y broses yw rhannu’r wybodaeth berthnasol a ddelir gan bob sefydliad yng nghyswllt unigolyn, boed y dioddefwr, troseddwr/wyr honedig neu berson â chysylltiad â’r farwolaeth, i ofalu y gellir cynnal ALlAY yn llwyddiannus. Rhaid i bob datgeliad fod yn angenrheidiol a chymesur – hynny yw, dim ond gwybodaeth sy’n berthnasol i’r adolygiad ddylai gael ei rannu.

6.3 Mae’n hanfodol bob rheolaeth dros unrhyw wybodaeth a rennir gan bartneriaid fel rhan o broses ALlAY a bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd na fydd yn peryglu nac yn tanseilio’r ymchwiliad troseddol na chamau cyfiawnder troseddol sy’n digwydd ar y pryd â phroses yr ALlAY. Dylai partneriaid anelu at fod mor agored â phosib yn y wybodaeth maent yn rannu, gan geisio darparu llun mor llawn a manwl ag sydd modd o gyd-destun a’r digwyddiadau ynghylch y farwolaeth a’r unigolion oedd yn rhan. Fe all fod peth gwybodaeth am y troseddwr/wyr honedig neu rai unigolion gyda chysylltiad â’r farwolaeth na ellir ei rannu yng nghyfnodau cychwynnol ALlAY gan USY yr heddlu na GEG gan y gallai fygwth cywirdeb yr ymchwiliad troseddol ac unrhyw gamau troseddol. Gall hyn ddal i fod yn wir tra pery’r adolygiad am wybodaeth sensitif iawn ac y mae hyn yn cael ei gydnabod ym mhroses yr ALlAY. Trwy beidio ag aros i ymchwiliadau a chamau troseddol gael eu datrys, gall olygu y bydd rhai manylion wedi eu cau allan o’r adolygiad. Cydbwysir hyn yn erbyn manteision nodi gwersi yn amserol, a chymryd camau a all helpu unigolion i osgoi dod yn ddioddefwyr neu gyflawnwyr lladdiadau yn y dyfodol.

6.4 Rhaid i gynnal cywirdeb yr ymchwiliad a’r camau troseddol fod yn ystyriaeth allweddol i bartneriaid adolygu, ynghyd â sicrhau na pheryglir diogelwch unrhyw berson cysylltiedig â’r lladdiad. Fe all problemau nas rhagwelwyd godi o rannu peth gwybodaeth, ac o’r herwydd dylai partneriaid adolygu gytuno gydag USY yr heddlu pa unigolion ddylai gael eu cynnwys yn y ceisiadau am wybodaeth, egluro pa wybodaeth na ellir ei rannu ac unrhyw gyfyngiadau ar amseru rhyddhau’r wybodaeth. Dylid nodi hyn yn glir yn y cais. Mae mwy o fanylion isod am gamau ymarferol rhannu gwybodaeth i bob un o’r partneriaid adolygu.

Pa wybodaeth ddylid ei rannu

6.5 Mae pwrpas ALlAY a’i amcanion strategol wedi eu gosod allan yn fanwl ym mharagraffau 1.22 - 1.31). Dim ond gwybodaeth berthnasol i’r adolygiad sydd i’w rannu, i helpu i nodi unrhyw wersi a ddysgir o’r farwolaeth ac ystyried a fyddai’n briodol i unrhyw un weithredu parthed y gwersi hynny. Dylai’r data personol a rennir fod yn angenrheidiol ac yn gymesur i’r adolygiad.

6.6 Wrth bennu a yw lladdiad yn ateb meini prawf ALlAY (gweler paragraff 2.10 – 2.16), un o’r amodau a osodir allan yn rheoliadau ALlAY [footnote 20] (ac y mae’n rhaid eu hateb dan adran 24(1)(c) y Ddeddf) yw:

Bod gan un neu fwy o’r partneriaid adolygu wybodaeth am yr isod, neu y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt fod â gwybodaeth am –

i. y person fu farw, neu

ii. o leiaf un person a achosodd, neu sy’n debygol o fod wedi achosi marwolaeth y person hwnnw.

6.7 Ystyr ‘gwybodaeth’, yn y cyd-destun hwn, yw gwybodaeth fod risg y gall person gyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddol, neu fod yn ddioddefwr y fath ymddygiad, a bod y cyfryw wybodaeth—

i. yn cynnwys gwybodaeth am addysg, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddol, tai, hanes meddygol, iechyd meddwl, a diogelu, ac

ii. nad yw’n cynnwys gwybodaeth a ddaeth yn hysbys yn unig i bartner adolygu wedi marwolaeth y person (yn benodol y cynharaf o naill ai’r amser y cofnodwyd y farwolaeth neu’r farwolaeth a gofnodwyd).

6.8 Dylai gwybodaeth fod yn berthnasol i’r adolygiad, darparu mewnwelediad i’r rheswm pam y gall unigolyn fod wedi cael ei hun mewn sefyllfa trwy gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth unigolyn (h.y., gwybodaeth fod risg y gall person gyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddol, neu fod yn ddioddefwr y fath ymddygiad) ac ni ddylai gynnwys unrhyw wybodaeth y cred deiliad y cofnod nad yw’n angenrheidiol neu sy’n anghymesur i’w ddatgelu. Dylai unrhyw wybodaeth a ddelir sy’n cwrdd â’r meini prawf a osodir allan uchod ym mharagraffau 6.6 and 6.7 gael ei gynnwys yn yr adroddiad i bartneriaid perthnasol yr adolygiad, gan nodi’r awgrym ym mharagraff 2.14 am lefel y wybodaeth briodol y gellir ei ddarparu yng nghyfnod cynnar yr adolygiad. Darparwyd templed yn Atodiad 1 sy’n rhoi dwy set o gwestiynau enghreifftiol i bartneriaid adolygu i ofyn iddynt eu hunain i’w helpu i adnabod y math o wybodaeth fyddai’n berthnasol i’r adolygiad. Mae hyn yn cynnwys yr adroddiad cychwynnol o fewn y cyfnod o un mis a chwestiynau ymchwilio dyfnach i’r adolygiad llawn.

6.9 Ffrâm amser a awgrymir ar gyfer yr adolygiad yw’r 24 mis cyn y farwolaeth; canllaw yw hyn, fodd bynnag, a lle bu unigolion wedi ymwneud llawer â’r awdurdodau, efallai y byddai’n gymesur canolbwyntio ar y 12 neu’r 18 mis cyn y farwolaeth. Neu fe all amgylchiadau godi lle penderfynir y dylid hefyd ystyried digwyddiadau arwyddocaol y tu hwnt i’r 24 mis (gweler paragraff 2.34). Dylai’r cadeirydd annibynnol/asiantaeth arweiniol/partneriaid perthnasol yr adolygiad osod allan yng nghylch gorchwyl yr ALlAY y ffrâm amser yr ymdrinnir â hi yn fanwl yn ystod yr adolygiad. Mae modd cynnwys mwy o wybodaeth hefyd fel gwybodaeth gyd-destunol yn nhempled yr adolygiad, gweler Atodiad 5.

6.10 Bydd cadw pwrpas yr ALlAY mewn cof yn helpu i gyfyngu ar swm y wybodaeth y gall fod yn berthnasol i’w rannu, o gymharu â’r swm a all fod ar gael am y dioddefwr, y troseddwr/wyr honedig neu berson(au) gyda chysylltiad â’r farwolaeth. Mae’n bwysig fod gwersi sy’n deillio o’r lladd yn cael eu dwyn ymlaen a’u rhannu rhwng y partneriaid adolygu a’r strwythurau goruchwylio lleol cyn gynted ag sydd modd, lle nad yw hyn yn peryglu cywirdeb ymchwiliadau neu gamau troseddol perthnasol. Gall rhannu a gweithredu’r gwersi cynnar hyn helpu i atal lladdiadau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.

6.11 Mae disgwyl i ALlAY fwrw ymlaen ochr yn ochr ag unrhyw ymchwiliadau neu gamau troseddol a dylid anelu at gwblhau’r adolygiad o fewn y ffrâm amser a awgrymir (12 mis). Nid oes dewis i atal adolygiad, felly rhaid cynnal proses yr ALlAY mewn modd nad yw’n peryglu cywirdeb yr ymchwiliadau neu’r camau troseddol, nac yn eu tanseilio. Efallai, yn ystod yr adolygiad, y daw gwybodaeth i’r fei gan bartneriaid adolygu y gellir ei fwydo i mewn i’r adolygiad, er enghraifft, yng nghyswllt troseddwr unwaith y caiff ei arestio a’i g/chyhuddo. Mae’n bwysig, lle bwriedir gwneud gwaith pellach, y dylid ceisio barn USY yr heddlu a GEG er mwyn sicrhau nad yw’r camau troseddol yn cael eu peryglu trwy rannu’r wybodaeth ychwanegol. Dylai cylch gorchwyl yr ALlAY amlinellu fframiau amser erbyn pryd y gellir derbyn gwybodaeth ychwanegol a phryd na ellir cynnwys hyn, oherwydd yr amser cyfyngedig sydd ar gael hyd nes y cwblheir yr adolygiad, (gweler paragraff 2.35).

6.12 Yn ystod y cyfnod hysbysu cychwynnol o fis am ALlAY, dylid nodi unrhyw faterion ynghylch diogelu data neu rannu gwybodaeth, a’u trin o ran yr hyn y gellir eu datgelu a’u rhannu. Dylid datblygu trafodaethau a chamau penodol trwy gylch gorchwyl ALlAY, fel y manylir amdanynt ym mharagraffau 2.31 – 2.56.

Deddfwriaeth

6.13 Mae’r Ddeddf yn creu porthol rhannu gwybodaeth ond fel arall nid yw’n effeithio ar unrhyw bwerau na dyletswyddau sy’n bodoli eisoes ar bartneriaid adolygu i ddatgelu gwybodaeth. Dywed Adran 29(1) y Ddeddf y gall partner adolygu ofyn am wybodaeth gan rywun lle gwneir y cais er mwyn eu galluogi neu eu helpu i gyflawni ei swyddogaethau ALlAY. Swyddogaethau yw’r rhain a roddir gan adrannau 24 i 28 y Ddeddf (gan gynnwys ystyried sefydlu adolygiad ai peidio ), ac fel y gosodir allan yn Adran 29(1) lle mae’r person y gwneir y cais iddo yn rhywun, oherwydd ei swyddogaethau neu weithgareddau, a ystyrir gan y partner adolygu yn debygol o feddu ar wybodaeth fyddai’n galluogi neu’n cynorthwyo cyflawni’r swyddogaethau hynny. Mae’r rheoliadau dan Adran 31 y Ddeddf (Rheoliadau ALlAY) yn gwneud darpariaeth i bartneriaid perthnasol yr adolygiad ddirprwyo’r pwer hwn i geisio gwybodaeth i un ohonynt hwy neu i berson arall. Gellir dirprwyo i gadeirydd annibynnol neu rhwng cyngor dosbarth a sir yn yr un ardal.

6.14 Mae gofyniad cyfreithiol ar unrhyw berson sy’n derbyn cais i gydymffurfio (dan adran 29(5) a (6)). Gall partner adolygu perthnasol orfodi’r ddyletswydd hon trwy wneud cais i’r Uchel Lys neu lys sirol am waharddeb. Fodd bynnag, dan adran 30(1) y Ddeddf efallai na fydd yn rhaid i’r person ddatgelu gwybodaeth na ellir gorfodi rhywun i’w ddatgelu mewn achosion gerbron yr Uchel Lys, sy’n golygu na ellir mynnu bod person yn datgelu gwybodaeth yn amodol ar fraint gyfreithiol broffesiynol.

6.15 Mae Adran 29(7) hefyd yn rhoi’r pwer i bartneriaid adolygu ddarparu gwybodaeth i bartner adolygu arall er mwyn galluogi neu gynorthwyo cyflawni swyddogaethau dan adrannau 24 i 28 y Ddeddf. Mae hyn yn gwneud yn siwr y gall partneriaid adolygu rannu naill ai wybodaeth sydd ganddynt eisoes, neu wybodaeth a dderbyniant trwy gais a wneir dan adran 29, gyda phartneriaid adolygu eraill at y dibenion hynny.

6.16 Dywed Adran 30(2) y Ddeddf nad yw datgelu gwybodaeth a awdurdodwyd neu a fynnir gan adran 27 i 29 y Ddeddf (sef gwybodaeth mewn hysbysiadau i’r Ysgrifennydd Gwladol, sydd yn adroddiad yr adolygiad, a gwybodaeth a ddatgelir dan adran 29) yn torri:

a. unrhyw rwymedigaeth cyfrinachedd dyledus gan y sawl sy’n gwneud y datgeliad, neu

b. unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (pa fodd bynnag y caiff ei osod).

6.17 Er hynny, nid yw adrannau 27 i 29 y Ddeddf yn gofyn am nac yn awdurdodi datgelu gwybodaeth:

a. a fyddai’n mynd yn groes i’r ddeddfwriaeth diogelu data[footnote 21] (ond wrth bennu a fyddai datgelu yn gwneud hynny, dylid ystyried y ddyletswydd a osodir, neu’r pwer a roddir gan yr adran dan sylw), neu

b. a waherddir gan unrhyw rai o Rannau 1 i 7 neu Bennod 1 o Ran 9 Deddf Pwerau Ymchwiliadol 2016.

Noder: Rhaid i bob rheolydd data fodloni ei hun na yw’n mynd yn groes i ddeddfwriaeth diogelu data a rhaid cynnal ei asesiadau risg ac effaith ei hun.

Datgelu ac achosion troseddol

6.18 Datgelu yw un o’r materion pwysicaf yn y system cyfiawnder troseddol ac y mae cymhwyso datgelu cywir a theg yn rhan hanfodol o system cyfiawnder troseddol deg. Dylid trafod pob mater datgelu gydag USY yr heddlu, GEG, a chynrychiolydd Crwner EF fel sy’n briodol. Rhaid cadw mewn cof Ddeddf Trefniadau ac Ymchwiliadau Troseddol 1996. Dylid gofyn am bob deunydd a gynhyrchwyd neu a gafwyd gan yr ALlAY tra bod yr achos troseddol yn mynd rhagddo yn unig gan ymchwiliwr yr heddlu neu’r erlynydd os cafodd ei nodi fel deunydd sy’n berthnasol i fater yn yr achos. Bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos, gan gynnwys unrhyw amddiffyniad posib, ac unrhyw wybodaeth arall fyd dyn sail i gyfeiriad yr achos.

6.19 Fel mewn achosion troseddol eraill, fe all achosion o ladd godi lle cred yr ymchwiliwr neu’r erlynydd fod gan drydydd parti (er enghraifft awdurdod lleol neu sefydliad gofal cymdeithasol) ddeunydd neu wybodaeth berthnasol. Mewn achosion o’r fath, mae dyletswydd ar ymchwilwyr ac erlynwyr i gymryd camau i gael, archwilio ac adolygu’r deunydd. Gall deunydd fod yn berthnasol i ymchwiliad os yr ymddengys i ymchwiliwr neu erlynydd fod ganddo ryw berthnasedd i’r drosedd yr ymchwilir iddi neu unrhyw berson sy’n destun ymchwiliad neu ar yr amgylchiadau ynghylch achos, ac eithrio pan na fydd modd iddo gael unrhyw effaith ar yr achos. Byddai gwybodaeth a ddelir gan yr ALlAY yn cael ei ystyried yn ddeunydd trydydd parti

6.20 Mae’r prawf am fynediad at ddeunydd trydydd parti at ddibenion ymchwiliadau ac erlyniadau troseddol, ac yn benodol sut yr eir at fater perthnasedd, yn cael ei osod allan yn fanwl yng Nghanllawiau’r Twrnai Cyffredinol ar Ddatgeliadau 2022[footnote 22]. Mae’r Canllawiau ym mharagraffau 28-34 yn gosod allan egwyddorion cyrchu deunydd trydydd parti a’r rheidrwydd sydd ar yr ymchwiliwr i ddilyn pob llinell ymchwilio resymol, boed yn pwyntio tuag at neu i ffwrdd oddi wrth y sawl a amheuir, a all ddatgelu deunydd sy’n berthnasol i’r ymchwiliad neu’r materion tebygol mewn treial. Mae’r rhwymedigaeth hon yr un fath yng nghyswllt deunydd a ddelir gan drydydd partion yn y DU.

6.21 Fe all fod deunydd a gesglir wrth gynnal ALlAY yn cael ei ystyried fel deunydd a all gwrdd â’r prawf datgelu o danseilio achos yr erlyniad yn erbyn y cyhuddedig neu o gynorthwyo’r achos o blaid y cyhuddedig, a gall yr amddiffyniad geisio cael mynediad ato. Gan ei bod yn debygol y cynhelir ALlAY yn gyflin ag ymchwiliad troseddol, bydd rheidrwydd ar swyddog datgeli’r ymchwiliad troseddol i roi gwybod i’r erlynydd. Gall unrhyw wybodaeth, dogfennau ayyb a ddarperir fel rhan o ALlAY ddod yn ddatgeladwy. Cyfrifoldeb swyddog datgelu yw trafod hyn gyda phartneriaid perthnasol yr adolygiad neu’r cadeirydd annibynnol. Byddant yn gyfrifol am sicrhau fod proses gadarn ar waith at ddibenion datgelu gwybodaeth i’r swyddog datgelu sy’n gyfrifol am yr ymchwiliad troseddol.

6.22 Dywed ’Canllawiau’r Twrnai Cyffredinol ar Ddatgeliadau 2022 yn glir na ddylai cyrchu deunydd trydydd parti (y byddai’r ALlAY yn cael ei ystyried yn un ohonynt) fyth ddigwydd fel mater o drefn, a bod angen canfod perthnasedd posib y deunydd (gweler paragraff 30 y Canllawiau). Rhaid bod sylfaen y gellir ei adnabod yn iawn i’r ymchwiliad, nid dim ond dyfalu neu feddwl ar hap[footnote 23]. Lle bo hynny’n berthnasol, cyfeiria’r Cod Ymarfer Deddf Trefniadau ac Ymchwiliadau Troseddol[24] ym mharagraff 6.16 at yr angen i’r erlynydd archwilio deunydd sensitif ac asesu a yw’n ddatgeladwy ai peidio, ac os felly, a oes angen ei ddwyn gerbron llys i gael dyfarniad am ddatgelu. Lle’r ystyrir y buasai datgelu deunydd sensitif yn creu risg gwirioneddol o beryglu budd cyhoeddus pwysig yn ddifrifol, byddai angen gwrandawiad llys.

6.23 Os oes aelodau o’r teulu, cydweithwyr, cyfeillion neu unigolion y gall cadeirydd annibynnol, asiantaeth arweiniol neu bartner adolygu perthnasol fod eisiau siarad â hwy fel rhan o ALlAY ac sy’n gysylltiedig â’r achos troseddol neu’n dystion ynddo, yna dylent ymgynghori ag USY yr heddlu (a fydd yn ymgynghori â GEG) cyn cysylltu o gwbl. Gall yr USY neu GEG ofyn iddynt beidio â chysylltu â hwy am gyfweliadau tan ar ôl cyfnod penodol o amser, neu mewn rhai achosion, fe all fod unigolion na fuasai’n briodol cysylltu â hwy o gwbl.

6.24 Bydd prosesau a sianeli cyfathrebu clir sy’n cadw personél gweithredol ac adolygu ar wahan mewn ALlAY yn lleihau’r potensial am i rannu gwybodaeth mewn ALlAY i gael effaith ar ymchwiliadau troseddol a chamau cyfiawnder troseddol sydd yn mynd ymlaen. Byddai hyn yn cynnwys cadw cofnodion da a thrin gwybodaeth yn gyfrifol. Fel y gosodir allan ym mharagraff 2.35, oherwydd materion sensitifrwydd ynghylch gwybodaeth, a gall penderfyniad gael ei gymryd yn lleol ynghylch peidio â chynnwys gwybodaeth am droseddwr honedig yng nghyfnodau cynnar ALlAY. Dylid adolygu’r penderfyniad hwn o bryd i’w gilydd, a gall mai ar bwynt cyhuddo y bydd yn briodol i wybodaeth bellach gael ei geisio gan bartneriaid adolygu am y troseddwr. Fel yr amlinellir ym mharagraff 2.35 bydd hyn yn dibynnu ar amseru’r penderfyniad ac os bydd ei gynnwys yn ffitio i mewn â’r fframiau amser ar gyfer cwblhau’r ALlAY.

Pwyntiau ymarferol rhannu a datgelu gwybodaeth

6.25 Mae Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU yn llywodraethu diogelu data personol personau byw ac yn gosod rhwymedigaethau ar awdurdodau cyhoeddus i ddilyn “egwyddorion diogelu data”. Bydd ALlAY yn rhedeg ochr yn ochr ag ymchwiliadau troseddol a chamau troseddol, ac oherwydd hyn, bydd oblygiadau ynghylch pa wybodaeth y gellir ei rannu gyda’r partneriaid adolygu a phryd. Pwrpas yr adran hon o’r bennod yw gosod allan bwyntiau ymarferol pob un o’r partneriaid perthnasol.

Heddlu

6.26 Fel y gosodir allan ym mharagraffau 2.12 – 2.14 a 6.3 ni all pob gwybodaeth fod yn addas i’w ddatgelu yn ystod ALlAY oherwydd yr angen i gynnal cywirdeb yr ymchwiliad troseddol ac unrhyw erlyniad. Yng nghamau cychwynnol yr ymchwiliad, mae’n debyg y bydd yr heddlu yn delio â nifer o ystyriaethau parthed y dioddefwr, unigolion dam amheuaeth, tystion, tystiolaeth a pheth gwybodaeth sensitif, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch llinellau ymchwilio sy’n mynd ymlaen a thystion a all fod yn fregus. Disgwylir mai dim ond gwybodaeth y gellir ei ddatgelu y dylid ei rannu fel rhan o’r broses gychwynnol wrth bennu a yw amodau ALlAY wedi eu hateb. Byddai angen i’r USY drafod a chytuno ar hyn gyda phartneriaid perthnasol yr adolygiad er yn y pen draw, yr USY fyddai’n gyfrifol am bennu pa wybodaeth ddylai gael ei rannu.

6.27 I ddelio â materion ynghylch rhannu gwybodaeth, dylai’r USY gael cyfarfod cyfrinachol gyda phartneriaid perthnasol yr adolygiad o neu gadeirydd annibynnol i drafod y materion sensitif ac i gytuno beth ellir ei rannu a beth na ellir. Rhaid cadw cydbwysedd, ac ystyried a fyddai’n fanteisiol neu’n andwyol i’r ALlAY pe na bai’r wybodaeth yn cael ei rannu. Dylai’r trafodaethau hyn hefyd gynnwys yr effaith bosib y gallai adolygiad gael ar unrhyw ymchwiliad troseddol, gan gynnwys cyhoeddi’r adolygiad pan gaiff ei gwblhau. Nid proses unwaith-am-byth yw rhannu gwybodaeth, a dylid cynnal adolygiadau rheolaidd i weld a all gwybodaeth na ellid ei rannu yn awr gael ei ddarparu i’r adolygiad. Dylid rhannu gwybodaeth mor fuan ag sydd modd.

6.28 Byddai’r USY yn awdurdodi datgelu gwybodaeth gan yr heddlu i bartneriaid perthnasol yr adolygiad neu gadeirydd annibynnol. Dylid cofnodi’r penderfyniad er mwyn rheoli a dogfennu llif y wybodaeth a sicrhau ar yr un pryd fod yr USY yn gwybod ac yn rheoli pa wybodaeth a rennir a chyda phwy fel rhan o broses yr ALlAY.

Awdurdodau Lleol (Cymru a Lloegr)

6.29 Fe all fod cytundebau neu brotocolau rhannu data eisoes yn bodoli rhwng partneriaid perthnasol yr adolygiad, gan gynnwys y rhai dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998, a fydd yn caniatau datgelu a rhannu gwybodaeth bersonol sy’n berthnasol i’r adolygiad. Fodd bynnag, cydnabyddir y gall awdurdodau lleol wynebu problemau ynghylch datgelu a rhannu gwybodaeth bersonol fel y rhai sydd gan bartneriaid lleol, megis yr heddlu a Byrddau Gofal Integredig yn Lloegr a Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru.

6.30 Fel partner adolygu perthnasol, bydd gofyn i awdurdodau lleol rannu gwybodaeth am y dioddefwr a, lle bo hynny’n briodol, unrhyw wybodaeth fydd ganddynt am droseddwr/wyr honedig neu berson(au) sy’n gysylltiedig â’r farwolaeth ar yr amod na fydd hyn yn mynd yn groes i ddeddfwriaeth diogelu data. Er enghraifft, lle gofynnir am wybodaeth ynghylch troseddwyr honedig a gyhuddwyd neu am bobl gysylltiedig â’r farwolaeth yna bydd angen i awdurdodau lleol ystyried yn ofalus pa wybodaeth y gellir ei ddarparu fel rhan o broses yr ALlAY. Bydd angen iddynt fodloni eu hunain fod unrhyw rannu gwybodaeth bersonol yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data, gan gynnwys Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK-GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.

6.31 Lle mae pryderon nad yw datgelu yn llawn wybodaeth am rywun o ddiddordeb i’r adolygiad yn briodol, dylid trafod y rhain gyda phartneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol/cadeirydd annibynnol. Hefyd, os oes unrhyw ofyniad ar awdurdodau lleol i ddatgelu i’r unigolyn dan sylw fod gwybodaeth amdano/i wedi eu rhannu gyda phartneriaid adolygu oherwydd ei g/chysylltiad â’r farwolaeth, byddai’n rhaid trafod hefyd gyda phartneriaid perthnasol yr adolygiad neu gadeirydd annibynnol, a all drafod gyda’r USY briodoldeb rhannu’r wybodaeth. Rhaid cydbwyso ystyried unrhyw ddatgeliad yn erbyn y flaenoriaeth i gynnal cywirdeb unrhyw ymchwiliad troseddol neu gamau troseddol sy’n digwydd.

Byrddau Gofal Integredig yn Lloegr

6.32 Fel partner adolygu perthnasol, efallai y bydd yn rhaid i Fyrddau Gofal Integredig brosesu a datgelu gwybodaeth am y dioddefwr a, lle bo hynny’n briodol, troseddwyr honedig ac unigolion eraill a all fod yn gysylltiedig â’r farwolaeth. Ymysg ystyriaethau cyfreithiol eraill, rhaid ystyried deddfwriaeth diogelu data pryd bynnag y caiff data personol rhywun byw ei brosesu. Mae’r wybodaeth a brosesir gan Fwrdd Gofal Integredig neu a ddatgelir gan weithiwr iechyd proffesiynol yn debygol o gynnwys gwybodaeth ynghylch iechyd, megis cofnodion meddygol, sydd yn gategori arbennig o ddata personol at ddibenion deddfwriaeth diogelu data y mae amodau ychwanegol yn gymwys iddynt. Fodd bynnag, yng nghyswllt unrhyw rwymedigaeth cyfrinachedd sy’n ddyledus gan Fwrdd Gofal Integredig neu weithiwr iechyd proffesiynol (e.e. dyletswydd cyfrinachedd cyfraith gwlad) mae’r Ddeddf yn dweud na fydd datgelu gwybodaeth y gofynnir amdano neu a awdurdodir gan adrannau 27 i 29 y Ddeddf (e.e. datgeliad gan Fwrdd Gofal Integredig at ddibenion galluogi neu gynorthwyo ALlAY - gweler paragraffau 6.13 - 6.17 uchod) yn gyfystyr â thorri.

6.33 Dylai gweithwyr clinigol a gweithwyr iechyd proffesiynol gydweithredu gydag ALlAY a datgelu pob gwybodaeth berthnasol am y dioddefwr a, lle bo hynny’n briodol, troseddwr/wyr honedig a achosodd ei farwolaeth ac unrhyw unigolyn cysylltiedig â’r farwolaeth. Lle mae gweithwyr clinigol a gweithwyr iechyd proffesiynol yn ystyried bod oblygiadau a rhesymau clir pam nad yw datgeliad llawn o’r wybodaeth am rywun o ddiddordeb i ALlAY yn briodol (megis cymhwyso egwyddorion diogelu data neu ystyriaethau hawliau dynol), yna dylid trafod y rhain gyda’r partner adolygu perthnasol, asiantaeth arweiniol neu gadeirydd annibynnol.

6.34 Ar gyfer yr achosion hynny lle mae unigolion sy’n gysylltiedig â’r farwolaeth yna rhaid trafod gydag USY yr heddlu a chadeirydd annibynnol/asiantaeth arweiniol/partneriaid perthnasol yr adolygiad am y wybodaeth ac a ddylid ei ddatgelu i osgoi tanseilio’r ymchwiliad troseddol trwy dynnu sylw’r unigolion hynny at y ffaith y rhannwyd eu gwybodaeth gyda phartneriaid adolygu am eu bod yn gysylltiedig â’r farwolaeth.

6.35 Dylid trafod y rhesymau dros bryderu am ddatgelu neu rannu gwybodaeth gyda’r cadeirydd annibynnol/asiantaeth arweiniol/partneriaid perthnasol yr adolygiad a cheisio dod i gytundeb am drin cofnodion yn gyfrinachol neu olygu cynnwys cofnodion yn rhannol.

Cymru

6.36 Sefydlodd Llywodraeth Cymru broses Adolygiad Diogelu Unedig Sengl ac y maent wedi cynhyrchu drafft o ganllaw statudol. Dylai partneriaid adolygu yng Nghymru fydd yn cynnal ALlAY gadw mewn cof adrannau perthnasol canllaw Llywodraeth Cymru am ystyriaethau diogelu data a datgelu data.

Partneriaid/cyrff priodol lleol eraill

Gwasanaeth Erlyn y Goron

6.37 Gall partner adolygu/ asiantaeth arweiniol neu gadeirydd annibynnol (os dirprwyir iddi/o) ofyn i GEG ddarparu unrhyw wybodaeth berthnasol sydd ganddynt am ddioddefwr neu droseddwr/wyr honedig. Gall problemau godi ynghylch pa wybodaeth y gellir ei roi heb danseilio neu beryglu’r camau troseddol a phroses y treial. Lle cyfyd y problemau hyn, mae’n bwysig cynnal trafodaeth rhwng GEG a phartneriaid perthnasol yr adolygiad, neu’r cadeirydd annibynnol, a chytuno ar y ffordd ymlaen. Dylai’r trafodaethau hyn hefyd gynnwys effaith posib adolygiad ar unrhyw gamau troseddol, gan gynnwys cyhoeddi’r adolygiad unwaith iddo gael ei gwblhau. Dylid cynnal ALlAY mor fuan ag sydd modd er mwyn sicrhau y dysgir unrhyw wersi, a’u gweithredu, i atal lladdiadau tebyg.

Trefniadau Amlasiantaethol Gwarchod y Cyhoedd (MAPPA)

6.38 Fel y gosodir allan ym mharagraffau 2.53 - 2.54, gellid ystyried AAD MAPPA ar gyfer troseddwr honedig neu, mewn achosion prin, dioddefwr lladd ag arf ymosodol os oedd yn gymwys am MAPPA ar y pryd neu os oed do fewn 28 diwrnod o ryddhau o gynllun MAPPA. Fel gydag Adolygiadau Lladd Domestig a MAPPA, mae modd cynnal y naill broses a’r llall ochr yn ochr â’i gilydd cyhyd â bod cyfathrebu cyson yn digwydd trwy gydol y broses. Dywed canllawiau MAPPA fod angen i geisiadau am wybodaeth ar gyfer adolygiadau fod yn glir ynghylch yr hyn mae angen iddynt wybod na ellir neu na chaiff ei ddarparu gan wybodaeth gan asiantaethau unigol. Bydd angen i bartner adolygu perthnasol /asiantaeth arweiniol/cadeirydd annibynnol drafod gyda’r BRhS a oes angen gwneud cais neu beidio am unrhyw wybodaeth berthnasol a fydd yn debyg o fod ar ffurf crynodeb weithredol o unrhyw gofnodion (yn amodol ar ystyriaethau cyfreithiol perthnasol) ac efallai y bydd angen cael Memorandwm Dealltwriaeth gyda hwy.

Hanes/ymwneud â Prevent

6.39 Ar gyfer yr adolygiadau hynny lle mae hanes neu ymwneud â Prevent, fe all fod mwy o faterion sensitif, a byddai’n rhaid trafod pa wybodaeth i’w ddatgelu a chytuno ar hyn gydag arweinydd Prevent yr awdurdod lleol a chydlynydd rhanbarthol Plismona Gwrthderfysgaeth yr ardal berthnasol.

Ymchwiliadau crwneriaid

6.40 Yn ogystal â’r ymchwiliad troseddol, rhaid ystyried hefyd ymchwiliad y crwner wrth gynnal ALlAY. Dylai partneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol/ neu gadeirydd annibynnol hysbysu Swyddfa’r Crwner fod ALlAY yn cael ei gychwyn yng nghyswllt marwolaeth. Lle bo’r troseddwr yn fyw a bod camau troseddol yn cael eu cymryd, byddai Cwest y Crwner yn cael ei atal tra disgwylir canlyniad y treial. Yn yr achosion hyn, mae’n debyg y bydd y crwner eisiau cael gweld adroddiad cyhoeddedig terfynol yr ALlAY ac fe all hefyd fod eisiau cyrchu gwybodaeth berthnasol sy’n sail iddo. Rhaid i bartneriaid adolygu fod yn ymwybodol o’r penderfyniad a wnaed gan yr Uchel Lys yn Achos Swydd Gaerwrangon[footnote 25] Yn yr achos hwn, penderfyniad yr Uchel Lys ar adolygiad achos difrifol oedd bod gan y crwner hawl i ddatgeliad llawn fel y gallai benderfynu pa dystion i’w galw a pha faterion ddylai gael eu trafod yn y cwest. Gall budd y cyhoedd o ran cynnal Cwest llawn gyda manylion priodol wrthbwyso hawl budd y cyhoedd am beidio â datgelu adroddiad i farwolaeth, yn enwedig lle datgelir i’r crwner yn hytrach na’r cyhoedd. Dylai crwneriaid felly disgwyl mwy o ddatgelu iddynt hwy, fel y gallant asesu’n iawn gwmpas cwest a pha dystion i’w galw gan gynnwys unrhyw adroddiadau sy’n sail, yn ogystal ag adroddiad y trosolwg.

6.41 Bydd hysbysu’r crwner yn gynnar yn helpu i reoli’r llif gwybodaeth ac adnabod unrhyw bryderon am rannu neu ddatgelu data. Dylid cynnal trafodaethau cyn rhannu unrhyw ddrafftiau o’r adroddiad terfynol gydag aelodau’r teulu ayyb, a hefyd cyn y cyhoeddi a gynlluniwyd. Bydd hyn yn sicrhau na ddatgelir unrhyw wybodaeth sensitif. Er enghraifft, gall yr adroddiad post-mortem am y dioddefwr fod yn rhan o’r wybodaeth a ddarperir gan USY yr heddlu i’r ALlAY ac ni ddylid rhannu hyn yn ehangach heb ganiatâd y crwner. Bydd angen trin rhai mathau o wybodaeth yn briodol er mwyn gofalu nad yw’n cael ei rannu’n gyhoeddus na chydag aelodau o’r teulu ayyb cyn ei rannu trwy’r sianelau swyddogol.

Cynhyrchu a chyhoeddi’r adolygiad

6.42 Mae cynhyrchu a chyhoeddi adolygiadau yn dod dan Ddeddf Diogelu Data 2018. Ymdrinnir yn fanylach a hyn ym mhennod 7, ond y mae ystyriaethau pwysig o ran rhannu gwybodaeth a diogelu data y dylid eu cadw mewn cof. Bydd angen i bartneriaid perthnasol yr adolygiad a’r cadeirydd annibynnol ystyried a oes angen golygu unrhyw adrannau o’r adolygiad at ddibenion diogelu data ac i wneud yn siwr na chyhoeddir unrhyw wybodaeth yn yr adolygiad a allai danseilio unrhyw ymchwiliad neu gamau troseddol sy’n digwydd ar y pryd, na pheryglu diogelwch unrhyw un, megis teulu’r dioddefwr neu dystion bregus. Mewn achosion lle mae a wnelo ALlAY ag unigolyn gyda hanes Prevent, gall elfennau o ymwneud Prevent fynnu bod golygu yn digwydd cyn cyhoeddi’r adroddiad. Dan adran 28(6) y Ddeddf, ni ddylai’r partneriaid adolygu gynnwys yn yr adroddiad a anfonir at yr Ysgrifennydd Gwladol unrhyw ddeunydd a allai yn eu barn hwy beryglu diogelwch unrhyw berson neu a allai beryglu ymchwilio i neu erlyn trosedd.

6.43 Dan adran 28(7) y Ddeddf, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi, neu wneud trefniadau i gyhoeddi, yr adroddiad, oni ystyria’r Ysgrifennydd Gwladol hi’n amhriodol cyhoeddi’r adroddiad. Os felly, yna rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol, dan adran 28(8) Deddf 2022 gyhoeddi, neu wneud trefniadau i gyhoeddi, hynny o gynnwys yr adroddiad yr ystyria sy’n briodol i’w cyhoeddi.

Sail gyfreithiol

6.44 At ddibenion ALlAY, dyma’r seiliau cyfreithlon posib sydd ar gael i brosesu data personol dan ddeddfwriaeth diogelu data:

Prosesu cyffredinol

(yn ôl diffiniad Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU)

Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) y DU: Erthygl 6 – sylfaen gyfreithlon:

  • Erth. 6(1)(c) Angenrheidiol i gydymffurfio a rhwymedigaeth gyfreithiol

  • Erth. 6(1)(e) Angenrheidiol am dasg a wneir er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol

  • Erth. 6(1)(f) Angenrheidiol er mwyn eich buddiannau cyfreithlon neu fuddiannau cyfreithlon trydydd parti, onid oes rheswm da dros ddiogelu’r data sy’n goresgyn y buddiannau hynny (nid yw hyn ar gael i awdurdodau cyhoeddus sy’n prosesu data ar gyfer tasgau swyddogol)

Mae Erthygl6(1)(c) ac (e) UK GDPR yn mynnu sail mewn cyfraith ddomestig (y DU) (gweler Erthygl 6(3) UK GDPR). Byddai Pennod 2 Rhan 2 y Ddeddf yn rhoi’r cyfryw sail i unrhyw brosesu gan bartneriaid perthnasol yr adolygiad at ddibenion cynnal adolygiad ac unrhyw weithred o rannu data gan eraill a dderbyniodd gais i ddarparu gwybodaeth dan bartner adolygu at ddiben yr adolygiad.

Os yw prosesu yn golygu categorïau arbennig o ddata, fel y’u diffinnir yng nghanllaw Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth[footnote 26] rhaid hefyd ateb amod categori arbennig yn unol ag Erthygl 9 UK GDPR.

  • Erth. 9(2)(c) Buddiannau hanfodol gwrthrych y data neu drydydd parti (lle mae’n analluog i roi cydsyniad).

  • Art 9(2)(g) Angenrheidiol am resymau budd sylweddol y cyhoedd.

Mae Erth. 9(2)(g) UK GDPR yn mynnu sail yng nghyfraith y DU (gweler adran 10(3) Deddf Diogelu Data 2018 (DDD 2018).

Mae hyn yn ei dro yn cyfeirio at yr angen i gwrdd ag amod perthnasol budd sylweddol y cyhoedd yn Rhan 2 Atodlen 1 DDD 2018. Yr amodau a all fod yn berthnasol yw:

  • atal neu ganfod gweithredoedd anghyfreithlon – Amod 10

  • diogelu plant ac unigolion mewn perygl – Amod 18

(Rhaid ystyried darpariaethau deddfwriaethol pob amod fesul achos).

Os yw data am euogfarn droseddol yn cael eu prosesu (gan gynnwys troseddau neu gamau diogelwch cysylltiedig) rhaid cwrdd hefyd naill ai ag amod “awdurdod swyddogol” neu amod penodol yn Rhan 3 Atodlen 1 DDD 2018 o ran prosesu’r data hwn (Erthygl 10 UK-GDPR).

  • Buddiannau hanfodol gwrthrych y data neu drydydd parti (lle mae’n analluog i roi cydsyniad) - Amod 30

  • Atal neu ganfod gweithredoedd anghyfreithlon - Amod 36

  • Diogelu plant ac unigolion mewn perygl – Amod 36

Prosesu at ddibenion gorfodi’r gyfraith

(prosesu gan awdurdodau cymwys yn ôl diffiniad Deddf Diogelu Data 2018)

DDD 2018 – defnyddio data personol at ddibenion gorfodi’r gyfraith - adran 31

At ddibenion y Rhan hwn, “dibenion gorfodi’r gyfraith” yw’r dibenion o atal, ymchwilio, canfod neu erlyn troseddau neu weithredu cosbau troseddol, gan gynnwys diogelu rhag bygythiadau i ddiogelwch y cyhoedd, a’u hatal.

DDD 2018 – adran 35(2): prosesu cyfreithlon

  • Mae’r prosesu yn seiliedig ar y gyfraith ac yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a wneir at ddibenion gorfodi’r gyfraith gan awdurdod cymwys (adran 35(2)(b) DDD 2018)

Yn achos prosesu sensitif,

  • 35(5) – Mae’r prosesu yn hollol angenrheidiol at y diben o orfodi’r gyfraith, mae’n ateb amod

perthnasol yn Atodlen 8 ac y mae gan y rheolydd ddogfen bolisi briodol yn ei lle adeg y prosesu (gweler adran 42).

Mae’r amod perthnasol yn debygol o fod yn:

  • Amod 1 – dibenion statudol, ayyb

  • Amod 3 – buddiannau hanfodol gwrthrych y data neu drydydd parti

  • Amod 4 – diogelu plant ac unigolion mewn perygl

(Noder y dylid ystyried darpariaethau deddfwriaethol manwl pob amod fesul achos).

Mae Adran 35(8) yn diffinio “prosesu sensitif” yn y darpariaethau gorfodi’r gyfraith fel:

“(a) prosesu data personol sy’n datgelu tarddiad ethnig, barn wleidyddol, cred grefyddol neu athronyddol neu aelodaeth o undeb llafur

(b) prosesu data genetig neu ddata biometrig er mwyn adnabod unigolyn yn benodol;

(c) prosesu data am iechyd; a

(d) prosesu data am fywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol unigolyn.”

Noder: Bydd angen i bob rheolydd ystyried a yw’n prosesu data dan UK-GDPR neu Ran 3 DDD 2018, a’r sail (neu’r seiliau) cyfreithlon cymwys, a’r amodau ychwanegol, fesul achos yn dibynnu ar bwrpas penodol ac amgylchiadau unigol pob datgeliad.

Dylid ymgynghori â’r canllaw o Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth[footnote 27], a darpariaethau manwl pob sail gyfreithlon neu amod yn y ddeddfwriaeth.

Nid yw data’r dioddefwr ymadawedig yn ddata personol yn ystyr deddfwriaeth diogelu data.

Diogelwch gwybodaeth

6.45 Bydd angen i bartneriaid adolygu a sefydliadau eraill y gofynnir iddynt rannu gwybodaeth at ddibenion ALlAY sicrhau bod mynediad unigol at y data yn gyfyngedig i’r sawl sydd â phwrpas cyfreithlon i’w weld, ei ddefnyddio neu ei gyrchu fel arall. Cymerir mesurau priodol i sicrhau y cedwir cyfrinachedd y data lle bo angen.

6.46 Dylai ymarferwyr sy’n gweithredu’r swyddogaethau a amlinellir yn y canllaw hwn fod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau diogelu data, cyfrinachedd a diogelwch gwybodaeth eu sefydliad, a chadw atynt.

6.47 Rhaid i’r holl bartneriaid sicrhau y darperir hyfforddiant digonol a phriodol am bynciau diogelu data, cyfrinachedd a diogelwch gwybodaeth i’r holl staff sy’n gallu cyrchu data personol.

6.48 O ran cynhyrchu Asesiad Effaith Diogelu Data (AEDD) ar broses ALlAY, dylai’r partneriaid adolygu ddefnyddio eu templedi lleol eu hunain. Fodd bynnag, os mynnir, gall partneriaid adolygu ofyn am gopi o dempled AEDD y Swyddfa Gartref gan OWHR-Team@homeoffice.gov.uk.

7: Methodoleg, adrodd a chyhoeddi ALlAY

Methodoleg a argymhellir ar gyfer yr adolygiad

7.1 Awgrymir isod gydrannau craidd cyflwyno ALlAY. Dylai’r adolygiadau gael eu dwyn ymlaen gan y cadeirydd annibynnol/asiantaeth arweiniol/partneriaid adolygu yn ddilyniannol, gan gychwyn gydag adolygu gwybodaeth yn gyflym yn y mis cyntaf, a fydd yn pennu a yw lladd cymwys tebygol wedi ateb y meini prawf am ALlAY. Fel y gosodir allan yn nhempled y cwestiynau cwmpasu yn Rhan A Atodiad 1, dylid cynnwys cronoleg o bwyntiau cyffwrdd ac ymwneud â gwasanaeth(au). Nodir yn y cais ffurfiol am wybodaeth yr unigolyn/ion (dioddefwr a/neu droseddwr/wyr honedig sydd i’w cynnwys (gweler paragraff 2.15e).

7.2 Wedi i’r cyfnod hysbysu fynd heibio ac i ALlAY gael ei gomisiynu’n ffurfiol, gwneir ail gais mwy manwl am wybodaeth, fel sy’n cael ei osod allan yn Rhan B templed y cwestiynau i bartneriaid priodol (Atodiad 1), (also gweler paragraffau 2.28 - 2.29). Gall y cadeirydd annibynnol/asiantaeth arweiniol/partneriaid perthnasol yr adolygiad ddewis dilyni fyny ar y wybodaeth a dderbyniwyd gan ddefnyddio nifer o fformatiau a all gynnwys cyfweliadau 1:1, briffio grwpiau (lle bo hynny’n briodol), neu gyfathrebu’n ysgrifenedig. Dylid ceisio cyswllt hefyd â’r teulu/perthnasau agosaf (gweler pennod 4). Dylid gofyn wedyn am unrhyw wybodaeth bellach a all gefnogi’r adolygiad.

7.3 Bwriad Rhan B yw annog partneriaid/cyrff lleol ac ymarferwyr i fod yn broffesiynol chwilfrydig am y digwyddiadau a arweiniodd at y lladd. Mae’n bwysig nodi nad bwriad y cwestiynau yw canolbwyntio ar ymddygiad unigolion neu sefydliadau na thaflu bai. Ni fwriadwyd y cwestiynau yn unig chwaith i werthuso a ddilynwyd polisiau neu weithdrefnau. Mae’r pwyslais yn hytrach ar ganfod a oedd y polisiau a’r gweithdrefnau oedd ar gael yn caniatau ymyriadau effeithiol, gan weithio gyda phartneriaid/cyrff lleol lle’r oedd angen. Dylai pob partner roi’r wybodaeth hon hyd yn oed lle nad oed dmodd cynnig gwasanaeth; dylid dangos pwyntiau cyfeirio’r unigolyn/ion, eu hymwneud, a pha mor effeithiol oedd y llwybrau cefnogi. Bydd y gronoleg hon felly yn rhoi trosolwg o fannau lle na fu modd rhoi gwasanaethau, a rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniadau hyn.

7.4 Y ffrâm amser a awgrymir am y gronoleg yw’r 24 mis cyn y farwolaeth. Fodd bynnag, canllaw yn unig yw hyn, a lle bu unigolion wedi ymwneud llawer â phartneriaid/cyrff lleol, efallai y bernir mai cymesur fyddai canoli ar y 12 neu’r 18 mis cyn y farwolaeth. Neu fe all amgylchiadau godi lle penderfynir y dylid ystyried hefyd ddigwyddiadau arwyddocaol, a allai gynnwys, er enghraifft, wahardd o’r ysgol, arestio, cefnogaeth iechyd meddwl, digwyddiadau o gamdriniaeth/trais domestig, camddefnyddio alcohol neu gyffuriau ayyb, y tu hwnt i’r ddwy flynedd, (gweler paragraff 2.34). Dylai’r cadeirydd annibynnol/asiantaeth arweiniol/partneriaid perthnasol yr adolygiad osod allan yng nghylch gorchwyl yr ALlAY y ffrâm amser yr ymdrinnir yn fanwl â hi ar gyfer yr adolygiad. Mae modd cynnwys gwybodaeth bellach y tu hwnt i’r ffrâm amser a ddewiswyd hefyd fel gwybodaeth gyd-destunol yn nhempled yr adolygiad.

7.5 Dylai ymwneud â’r teulu a/neu berthnasau agosaf ddigwydd unwaith y cytunir ar gwmpas a chylch gorchwyl yr ALlAY a bod cadeirydd annibynnol neu asiantaeth arweiniol (os dirprwyir iddynt) yn eu lle (gweler pennod 4 am ganllawiau manwl am yr ymwneud hwn). Mae’n bwysig iawn fod yr ymwneud cyntaf â theulu a/neu berthnasau agosaf y dioddefwr yn canolbwyntio ar esbonio’n glir broses yr ALlAY, y gwahaniaeth rhyngddo ac ymchwiliad troseddol, beth sydd i’w ddisgwyl ac i beidio â disgwyl o’r broses er mwyn rheoli disgwyliadau’r grŵp hwn o randdeiliaid o’r cychwyn.

7.6 Byddai’r ymwneud sylweddol nesaf â’r teulu a/neu’r perthnasau agosaf yn cynnwys ail gysylltiad â theulu’r dioddefwr, ac os yw hyn yn briodol, gellid cysylltu hefyd â theulu’r troseddwr/wyr honedig, er y buasem yn awgrymu y dylai hyn ddigwydd yn unig wedi iddo/iddynt gael ei gyhuddo/eu cyhuddo, ac os yw’r USY yn cytuno. Dylid cynnig yr ymwneud hwn, a gofyn os yw’r teulu am gyfrannu i’r adolygiad; gallai hyn fod ar ffurf cyfarfod un-i-un gyda’r cadeirydd annibynnol. Y pwrpas yw casglu gwybodaeth bwysig am fanylion yr achos, cyd-destun y dioddefwr/troseddwr/wyr honedig a’u hymwneud â gwasanaethau gan gynnwys eu hasesiad hwy o ymwneud a chefnogaeth y gwasanaethau, a beth ellid bod wedi ei wneud yn wahanol. Fel y gosodir allan ym mharagraff 4.3, efallai y dymuna’r teuluoedd gytuno ar ffugenw addas i’r dioddefwr/troseddwr/wyr honedig y gellir ei ddefnyddio yn yr adroddiad. Os nad ydynt am gymryd rhan yn y broses hon, byddai o fudd petai hynny hefyd yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad.

7.7 Cynhwyswyd templed ochr yn ochr â’r ddogfen ganllaw hon yn Atodiadau 1 a 5 i roi fframwaith ar gyfer cysondeb wrth gasglu tystiolaeth ac i fod yn gyson gyda chyflwyniad a strwythur yr adroddiad terfynol. Dylai’r cwestiynau a ofynnir yn y templedi sbarduno chwilfrydedd proffesiynol, gan ofyn i ymarferwyr edrych ar sbardunau a rhesymeg dros lefel a math yr ymwneud rhwng y dioddefwr a/neu droseddwr/wyr honedig a’u gwasanaeth hwy, gyda’r adroddiad terfynol yn canolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng y gwasanaethau hyn - asesu ansawdd ac effeithiolrwydd ymateb y system gyfan.

Sut i sicrhau annibyniaeth a lliniaru unrhyw duedd

7.8 Bydd sicrhau annibyniaeth a lliniaru unrhyw duedd yn hanfodol i weithredu adolygiad i ladd ag arfau ymosodol. Dylai partneriaid adolygu ystyried y meysydd canlynol:

a. sicrhau ansawdd a herio’n gadarn y data a’r wybodaeth a ddarperir gan yr holl bartneriaid

b. ymwneud annibynnol dan arweiniad cadeirydd annibynnol gyda’r teulu, cyfeillion, a rhwydweithiau eraill fel sail i’r ALlAY

c. cadw at Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chyfeirio’n benodol at bwysigrwydd ymwybyddiaeth ddiwylliannol

d. cefnogi annibyniaeth proses ALlAY ar draws gwahanol ardaloedd daearyddol sydd â galwadau a galluedd amrywiol

e. ystyried sut mae’r agwedd yn cyd-fynd â phrosesau adolygu eraill, gan gynnwys proses ADUS yng Nghymru.

7.9 Bydd llywodraethiant ALlAY yn allweddol o ran sicrhau annibyniaeth y broses. Mae’n bwysig bod yr holl bartneriaid adolygu sy’n goruchwylio’r ALlAY ar wahan i’r personel gweithredol sy’n rhan o’r achos. Nid yn unig y mae hyn yn gwrthweithio unrhyw duedd a all ddeillio o’r ffaith fod partner adolygu yn adnabod y dioddefwr, y troseddwr honedig, pobl eraill sy’n gysylltiedig â’r farwolaeth, neu unrhyw rai o fanylion eraill yr achos yn bersonol; ond y mae gwahaniad clir yn lleihau’n arw y siawns y gall darparu gwybodaeth i’r ALlAY gael effaith ar ymchwiliadau troseddol sy’n mynd ymlaen. Lle bo gan bartneriaid adolygu dimau adolygu mewnol eisoes, dylid defnyddio’r rhain at ddibenion ALlAY. Lle nad oes gan bartneriaid adolygu dimau arbenigol, bydd angen bod yn fwy gofalus wrth sicrhau gwahaniad y partneriaid adolygu oddi wrth brofiad uniongyrchol o’r lladd cymwys a’r sawl sy’n gysylltiedig ag ef.

7.10 Mae’n debyg mai’r ffordd orau o sicrhau annibyniaeth ALlAY yw trwy benodi cadeirydd annibynnol i chwarae’r brif ran o gyflwyno. Fel y gosodir allan ym mharagraffau 3.17 - 3.19, gall cadeiryddion annibynnol ymgymryd â nifer o swyddogaethau gan gynnwys cyflwyno methodoleg ALlAY, cyfweld a chasglu gwybodaeth, ac ysgrifennu’r adroddiad terfynol trwy asesu’r wybodaeth hon a’i gyflwyno mewn modd sy’n cadw at ofynion statudol y Ddeddf (gweler adran 28(4) i (6)). Gall y cadeirydd annibynnol hefyd fod yn brif gyswllt i’r teulu a/neu berthnasau agosaf (os ydynt am fod yn rhan) er mwyn cynnal annibyniaeth yn y berthynas hon. Mae templed adroddiad ALlAY (Atodiad 5) a thempled adroddiad ADUS[footnote 28] yn cynnwys Datganiad o Annibyniaeth i’w gwblhau gan y cadeirydd annibynnol/adolygydd, yn ogystal â chadarnhad fod yr unigolyn ar y rhestr o gadeiryddion annibynnol/adolygwyr. Dylai partneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol sicrhau bod hyn yn cael ei gwblhau cyn cychwyn yr adolygiad.

Arbenigedd ychwanegol

7.11 Dylid ystyried hefyd ymgynghori ag arbenigwr i ddeall agweddau hollbwysig y lladd; gall fod yn gynrychiolydd mudiad arbenigol a all roi cyngor am nodweddion gwarchodedig megis oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, neu gyfeiriadedd rhywiol. Gallai’r arbenigedd ychwanegol hwn hefyd ganolbwyntio ar faterion ehangach lle bo hynny’n berthnasol, megis a oedd yr unigolyn yn fregus mewn unrhyw ffordd, er enghraifft yng nghyswllt iechyd meddwl, trais/camdriniaeth ddomestig, camddefnyddio/troseddau alcohol neu gyffuriau, neu drais yn erbyn menywod a merched. Gellid ceisio meysydd arbenigedd eraill i roi cyngor ar ryngadranoldeb yn ogystal â diwylliannau neu gymunedau penodol; bydd hyn yn help i ddeall y cyd-destun ehangach a’r amgylchedd lle bu’r digwyddiad.

7.12 Mae modd rhoi arbenigedd mewn nifer o ffyrdd, felly lle na fydd unigolyn o fudiad lleol yn wastad yn gallu dod yn bersonol i gyfarfodydd, bydd modd gwneud hynny ar-lein, neu rannu gwybodaeth gan gynrychiolwyr cenedlaethol trwy gyflwyniadau neu friffio ysgrifenedig. Dylid ystyried effaith ymwneud â phroses yr adolygiad i arbenigwyr, yn enwedig cynrychiolwyr y trydydd sector i liniaru unrhyw effeithiau ar adnoddau. Gallai hyn gynnwys ystyried tâl am eu hamser a’u harbenigedd. Fel rhan o’u rôl, gallai partneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol/cadeirydd annibynnol gynnal ymchwil i gymunedau’r unigolion dan sylw, gan sicrhau eu bod yn deall y cyd-destun ehangach a’r amgylchedd lle bu’r digwyddiad.

Cynnwys yr adroddiad

7.13 Yn unol â phwrpas strategol ALlAY fel yr amlinellir yn adran 28(2) y Ddeddf, dylai pwyslais adroddiad ALlAY fod ar ddysgu a, lle bo hynny’n briodol, ar gamau i’w cymryd yng nghyswllt y gwersi hynny. Dylai hyn fod ar lefel system a mudiad unigol, ac ni ddylid ceisio taflu bai ar weithwyr proffesiynol unigol na sefydliadau. Er y cydnabyddir y gall arferion gwael ddod i’r fei yn ystod yr adolygiad, nid pwrpas ALlAY yw ymchwilio i feiau, a lle bydd proses ddisgyblu yn digwydd, dylid trin hyn ar wahan i’r ALlAY ac yn unol â phrosesau disgyblu’r sefydliad. Ni ddylai ALlAY geisio cymryd lle strwythurau gweithredol ehangach a gwerthusiadau perfformiad partneriaid/cyrff lleol unigol. Dylai holl gynnwys yr adroddiad gael ei gyfeirio at ddiffinio deilliannau cadarnhaol y gellir gweithredu arnynt ar lefel leol a thrwy’r system, fel y gosodir allan yn y templedi o gwestiynau yn Atodiad 1 a dylai gynnwys rhannu enghreifftiau da/arferion gorau y gellir eu cyfleu i bartneriaid/cyrff/ardaloedd lleol eraill i helpu i wella eu harferion hwythau. Mae cwmpas a chylch gorchwyl yr adolygiad, yn ôl canllawiau paragraffau 2.31 i 2.56, yn rhoi awgrym o fframwaith y meysydd i ymdrin â hwy yn yr adroddiad.

7.14 Ar y lleiaf, i gwrdd â’r ddeddfwriaeth, rhaid i adroddiad ALlAY gynnwys yr isod (gweler adran 28(5) y Ddeddf):

a. canfyddiadau’r adolygiad,

b. unrhyw gasgliadau y daethpwyd iddynt gan y partneriaid adolygu, ac

c. argymhellion a wnaed yng ngoleuni’r canfyddiadau a’r casgliadau hyn, gan gynnwys y rhai lle tybiwyd ei bod yn briodol i berson weithredu yn sgil y gwersi hynny.

7.15 Fel y gosodwyd allan, mae ALlAY yn galluogi’r holl bartneriaid a chyrff perthnasol lleol i ddod at ei gilydd i ddatblygu dealltwriaeth o’r cyd-destun ehangach a’r amgylchiadau sydd ynghylch marwolaeth. Trwy adolygu eu gwaith a nodi unrhyw wersi (o ran arferion gorau a lle bo angen gwella) gallant ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau, neu wneud newidiadau mewn polisiau neu arferion i helpu i atal lladdiadau yn y dyfodol gydag arfau ymosodol. Dylai camau fod yn realistig, yn gyraeddadwy a bod yn weithredol yn ogystal ag yn strategol berthnasol i’r rhai sy’n gorfod eu gweithredu, a buasem yn awgrymu y dylai’r cadeirydd annibynnol/asiantaeth arweiniol/ partner adolygu perthnasol drafod drafft yr adroddiad a’r pwyntiau dysgu a gynigir gyda’r broses leol o oruchwylio/ partneriaid priodol ehangach i weld a ydynt yn deall ai peidio ac i roi cyfle i drafod yr argymhellion gan y gall achlysuron godi lle byddai math arall o gamau yn fwy llesol. Mae mwy am ddysgu/gweithredoedd effeithiol ym mharagraffau 8.1 - 8.6.

7.16 Argymhellir y dylai partneriaid lleol drafod gyda’u proses leol o oruchwylio beth yw’r ffordd orau i roi adborth am weithredoedd yn ôl i unigolyn/sefydliad ac ar ba lefel y dylid rhannu’r negeseuon hynny. Fel y dywedwyd uchod, nid proses o atebolrwydd unigol mo hyn, felly mae’n bwysig gofalu bod y gweithredu’n cael ei neilltuo i’r person neu’r tîm mwyaf priodol er mwyn sicrhau bod rhywbeth yn digwydd. Ni ddylid cynnwys manylion personol unigolion felly dylid defnyddio ffugenwau addas neu enw tîm/sefydliad.

7.17 Pan anfonir yr adroddiad at yr Ysgrifennydd Gwladol, dan adran 28(6) ni ddylai gynnwys deunydd sydd, ym marn y partneriaid adolygu:

a. yn debyg o beryglu diogelwch unrhyw berson, neu

b. yn debyg o beryglu ymchwilio i neu erlyn trosedd.

7.18 Mae templed ar gyfer yr adroddiad yn Atodiad 5 sydd â’r nod o roi ffocws; ymysg y prif agweddau mae:

  • amlinelliad o’r amgylchiadau a arweiniodd at yr adolygiad,

  • ystyriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth perthnasol,

  • ymwneud y teulu/perthnasau agosaf a phobl berthnasol eraill

  • gwybodaeth gyd-destunol, sy’n crynhoi digwyddiadau arwyddocaol allweddol cyn y llinell amser y cytunwyd arni.

  • llinell amser o ymwneud partneriaid/cyrff priodol, o fewn yr amser y cytunwyd arno.

  • gwersi ac arferion gorau a nodwyd yn ystod yr adolygiad, gan ymdrin â chwmpas yr adolygiad a’r llinellau ymchwilio allweddol

  • argymhellion am yr hyn y gellid ei wneud yn wahanol yn y dyfodol i wella arferion.

Dylai ALlAY a gyflawnir yng Nghymru dan broses ADUS ddefnyddio’r templed ADUS sydd yng nghanllaw statudol ADUS[footnote 29].

7.19 Cyn drafftio’r adroddiad, dylai’r cadeirydd annibynnol/partneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol drafod gyda’r USY unrhyw bryderon a all fod ganddynt ynghylch cyhoeddi, gan sicrhau na chynhwysir unrhyw wybodaeth a all beryglu diogelwch unrhyw un neu beryglu’r ymchwiliad neu erlyniad trosedd. Os yw adroddiadau wedi eu golygu’n rhy llym, gall fod risg o golli’r prif argymhellion a gweithredoedd. Gall trafodaethau cynnar helpu gyda drafftio’r adroddiad ac osgoi’r problemau hyn, gan roi dealltwriaeth o gefndir unrhyw bryderon a all fod gan y USY, a rhoi cyfle ar yr un pryd i’r cadeirydd annibynnol/partneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol esbonio’r manylion y tu ôl i’r gwersi a nodwyd. Bydd angen gwneud penderfyniadau ar gyd-destun adroddiad fesul achos. Dylid defnyddio ffugenwau addas yn wastad yn yr adroddiad drwyddo draw (gweler paragraff 4.3), am y dioddefwr a throseddwr/wyr honedig, yn ogystal â phartneriaid allweddol os cododd unrhyw bryderon diogelu.

7.20 Fel y gosodir allan ym mharagraff 4.8(c), dylid rhannu’r adroddiad drafft hefyd gyda’r teulu/perthnasau agosaf, gan eu siarad trwy’r broses, y deilliannau a’r argymhellion allweddol, a rhoi esboniad o’r broses gyhoeddi, gan gynnwys syniad o amser a lle cyhoeddir yr adolygiad. Dylai’r trafodaethau hyn hefyd gynnwys amlinelliad o’r cynllun cyfathrebu i’r cyfryngau (lle bo hynny’n briodol) y dylid ei greu, gan osod allan pwy fydd yn gyfrifol am oruchwylio sylwadau cyhoeddus ac ymatebion i ddiddordeb gan y cyfryngau yn yr ardal leol.

Sicrhau ansawdd

7.21 Mae’r cyfrifoldeb am sicrhau ansawdd adroddiadau gorffenedig ALlAY yn gorwedd gyda phartneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol a’u strwythurau rheoli lleol. Bydd angen iddynt wneud yn siwr fod proses adrodd yr ALlAY wedi ei ddilyn yn gywir, a bod yr adroddiad wedi ei gwblhau. Efallai y dymuna’r broses leol o oruchwylio roi cefnogaeth yn y maes hwn, a gallant neilltuo unigolyn sy’n annibynnol ar y broses i sicrhau ansawdd yr adroddiad terfynol.

7.22 Nid oes gan Fwrdd Goruchwylio ALlAY na’r Ysgrifennydd Gwladol swyddogaeth sicrhau ansawdd o fewn y Ddeddf. Rhaid gwirio ansawdd a chyflwyno ALlAY o fewn prosesau hierarchaeth leol. Dylai partneriaid lleol fod yn hyderus fod adroddiad o safon barod i’w gyhoeddi pan gaiff ei gyflwyno i’r Swyddfa Gartref.

Cyhoeddi

7.23 Wedi cwblhau ALlAY, rhaid i’r partneriaid adolygu ddarparu copi o’r adroddiad i’r Ysgrifennydd Gwladol i’w gyhoeddi. Mae rheidrwydd i gyhoeddi’r canfyddiadau fel sail o wybodaeth i bolisïau ac arferion yn y dyfodol, ac y mae hyn yn greiddiol i’r broses adolygu. Fel y gosodir allan ym mharagraff 7.17 ni ddylai adroddiadau a anfonir at yr Ysgrifennydd Gwladol gynnwys unrhyw ddeunydd a allai, ym marn y partneriaid adolygu, beryglu diogelwch unrhyw berson na pheryglu ymchwilio i neu erlyn trosedd. Hefyd, ni ddylai adroddiadau gynnwys unrhyw wybodaeth fyddai’n mynd yn groes i ddeddfwriaeth diogelu data neu y gwaherddir ei ddatgelu fel data cyfathrebu gan Ddeddf Pwerau Ymchwiliadol 2016 (unrhyw rai o Rannau 1 i 7 neu Bennod 1 Rhan 9 y Ddeddf honno), fel sydd wedi ei osod allan yn adran 30(3) y Ddeddf ac a amlinellir ym mhennod 6 y canllaw hwn. Dylai adroddiadau terfynol ALlAY a gwblhawyd yng Nghymru trwy broses ADUS gael eu hanfon at yr Ysgrifennydd Gwladol a Phrif Weinidog Cymru.

7.24 Dylid trafod unrhyw bryderon ynghylch cyhoeddi ac addasrwydd cynnwys i’w gyhoeddi gyda’r broses leol o oruchwylio neu, os bydd angen, gyda Bwrdd Goruchwylio’r ALlAY, trwy’r Ysgrifenyddiaeth. Mewn achosion arbennig o sensitif, gellir ystyried oedi cyhoeddi’r adroddiad yn ei gyfanrwydd, neu gyhoeddi’r canfyddiadau yn unig i ddechrau. Er hynny, dylid gwneud hyn yn unig mewn achosion lle teimlir, hyd yn oed gyda golygu, na fyddai modd gwarantu y cedwid yn anhysbys enwau’r sawl y dylid eu cadw’n anhysbys er mwyn eu diogelu.

7.25 Dan adran 28(7) rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi neu wneud trefniadau i gyhoeddi’r adroddiad onid ystyrir na fyddai’n briodol gwneud hyn; os felly, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud trefniadau i olygu unrhyw wybodaeth yr ystyrir na fyddai’n briodol ei gyhoeddi, ac yna cyhoeddi gweddill yr adroddiad.

7.26 Mae’r Swyddfa Gartref wedi ymrwymo i roi proses yn ei lle fydd yn sicrhau y cyhoeddir adroddiadau ALlAY ac y byddant ar gael i’r cyhoedd. Ar gyfer cynllun peilot yr ALlAY, pilot, fel y cam lleiaf, bydd yr holl adroddiadau’n cael eu cyhoeddi ar safle penodol ar gov.uk, fydd yn un ffynhonnell o adroddiadau ALlAY i Gymru a Lloegr. Bydd ALlAY a gynhelir yng Nghymru dan broses ADUS hefyd yn cael eu cyhoeddi yn Storfa Ddiogelu Cymru ac, fel rhan o broses ADUS, ar wefan y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol perthnasol.

7.27 Fel y gosodir allan ym mharagraff 4.7(c) dylid bod wedi rhannu’r adroddiad drafft gyda’r teulu/perthnasau agosaf cyn cyhoeddi. Dylai trafodaethau gynnwys esboniad o’r broses gyhoeddi, gan gynnwys syniad o’r amseru a chadarnhad am lle y cyhoeddir yr adolygiad. Dylai’r trafodaethau hyn hefyd gynnwys amlinelliad o’r cynllun cyfathrebu i’r cyfryngau (lle bo hynny’n briodol) y dylid ei greu, gan osod allan pwy fydd yn gyfrifol am oruchwylio sylwadau cyhoeddus ac ymatebion i ddiddordeb gan y cyfryngau yn yr ardal leol.

8: Sicrhau Dysgu Effeithiol

Lledaenu gweithredoedd a monitro cynnydd

8.1 Mae proses yr ALlAY yn cynnwys dau gyfle ffurfiol i rannu dysgu; fodd bynnag, dylid manteisio ar bob cyfle i bartneriaid drafod ac adolygu arferion. Fel y gosodir allan ym mharagraff 2.58, gall rhai gwersi gael eu nodi’n syth yn dilyn cyfnodau cychwynnol casglu gwybodaeth y broses, ar y pwynt un mis ac yn ystod trafodaethau am gwmpas a chylch gorchwyl yr adolygiad. Bydd gwersi pellach wedyn yn cael eu gosod allan yn argymhellion yr adroddiad terfynol.

8.2 Dylai’r holl bartneriaid/cyrff lleol sy’n rhan o’r ALlAY geisio nodi gwersi i’w cymhwyso o adolygiadau a chreu cynlluniau i weithredu arnynt er mwyn gwella arferion lle bo angen. Dan adran 28(3) y Ddeddf lle nodwyd gwersi o ran y farwolaeth, a bod partneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol/cadeirydd annibynnol yn ystyried y byddai’n briodol i berson weithredu yng nghyswllt y gwersi hynny, mae gofyn iddynt roi gwybod i’r person hwnnw. Fel y gosodir allan ym mharagraff 7.16, dylid cytuno ymlaen llaw ar y ffordd orau i roi adborth am weithredoedd wrth unigolyn/sefydliad, ac ar ba lefel y dylid rhannu’r negeseuon hynny, er mwyn cadarnhau fod y camau’n cael eu neilltuo i’r person neu’r tîm/sefydliad mwyaf priodol, a bod rhywbeth yn cael ei wneud. Pan hysbysir hwy o hyn, dylid cofnodi hyn, a rhannu’r wybodaeth gyda’r adroddiad. Ni ddylid cynnwys manylion personol unigolion, felly dylid defnyddio ffugenwau addas neu fanylion am dîm/sefydliad.

8.3 Dylid rhannu’r holl ddysgu hwn gyda phartneriaid mewn fforwm priodol (gan gadw mewn cof bryderon am ddatgelu a diogelu data). Dylid cytuno ar brosesau lledaenu, gan sicrhau bod partneriaid/cyrff lleol, gwasanaethau perthnasol a gweithwyr proffesiynol wedi derbyn yr adroddiad, wedi cydnabod unrhyw gamau a neilltuwyd i’w perchenogaeth/sefydliad, ac wedi cydnabod y fframiau amser a ddisgwylir ar gyfer cyflwyno. Mae modd lledaenu trwy amryw gyfrwng er mwyn rhannu negeseuon allweddol yn well, ochr yn ochr â dosbarthu’r adroddiad ffurfiol: gallai hyn gynnwys briffio llafar, digwyddiadau dysgu, sefydlu grwpiau gorchwyl a gorffen, neu gyfarfodydd briffio 7-munud. Dylid llenwi’r blychau ticio sydd ar ddiwedd templed yr adroddiad fel rhan o’r broses hon (Atodiad 5).

8.4 Wrth rannu gwersi, dylid ystyried ffactorau ehangach sy’n gwneud pobl yn fregus ac a allasai fod wedi bod yn berthnasol i’r achos arbennig, megis iechyd meddwl, trais/camdriniaeth ddomestig, camddefnyddio/troseddau alcohol neu gyffuriau neu drais yn erbyn menywod a merched. Dylid sicrhau bod gwersi a dealltwriaeth ehangach yn cael eu rhannu gyda thimau perthnasol y tu hwnt i’r union bartneriaid, a gall hyn gynnwys timau eraill sy’n gweithio gyda phrosesau adolygu lladdiadau yn ehangach, neu dimau perthnasol eraill yn yr ardal leol. Gall argymhellion sydd â chyswllt â Prevent fod yn destun goruchwylio llywodraethiant pellach gan y Swyddfa Gartref er mwyn sicrhau bwrw ymlaen ag argymhellion a gwersi cysylltiedig â Prevent.

8.5 I gael y gwerth mwyaf o broses yr ALlAY, mynd i’r afael â throseddau treisgar difrifol, a lleihau lefelau o ladd, dylai ardaloedd lleol ystyried pa fecanweithiau llywodraethiant sydd angen eu rhoi ar waith i fonitro cyflwyno yn erbyn cynlluniau gweithredu ALlAY. Awgrymir cadarnhau trefniadau rheoli’r cynllun gweithredu, gan gynnwys pwy fydd yn gyfrifol am fwrw ymlaen a’i fonitro a chyflwyno o fewn y broses leol o oruchwylio. Dylai trafodaethau gynnwys neilltuo pob cam i berchennog penodol gydag amcangyfrifon clir ar gyfer cyflwyno, a chyfnodau amser i adolygu cynnydd.

8.6 Gall fod yn briodol i’r un broses leol o oruchwylio gefnogi’r broses hon, fel y gwnaeth yn ystod adolygiad ALlAY ei hun, neu efallai y penderfynir y buasai strwythur gwahanol mewn sefyllfa well i fonitro a chyflwyno’r deilliannau, a rhannu gwersi ar draws ardal ehangach y llu. Mae modd ystyried y Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh), Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) neu’r Uned Lleihau Trais (ULlT) oll - fodd bynnag, dylid dewis y broses sydd fwyaf addas i’r ardal, gan sicrhau bod gwersi a amlygwyd trwy gynlluniau gweithredu’r ALlAY yn cael eu hintegreiddio i’r strategaeth trais difrifol ranbarthol a/neu leol ehangach.

Gwerthusiadau cynnydd

8.7 Fel rhan o fonitro a chyflwyno gwersi ALlAY a’i gynllun gweithredu perthnasol, dylai ardaloedd lleol werthuso cynnydd o fewn ffrâm amser priodol, er mwyn gweld sut y gweithredwyd ar yr argymhellion, a nodi unrhyw anghenion ychwanegol a all fod gan bartneriaid/cyrff lleol er mwyn rhoi’r gwersi ar waith. Nid cosbi yw nod yr asesiadau cynnydd hyn, ond yn hytrach ddwyn ardaloedd lleol i mewn i ymarferiad ar y cyd er mwyn gwneud y canlynol:

a. adnabod a rhannu meysydd arfer da,

b. nodi mannau lle mae angen gwelliannau i gyflwyno argymhellion ALlAY, a

c. creu strategaethau cilyddol i roi gwersi ALlAY ar waith, gan gynnwys asesu anghenion hyfforddi perthnasol, gofynion personel, sgiliau arbenigol, ayyb

8.8 Efallai y bydd rhanddeiliaid rhanbarthol eisiau ystyried sut i asio eu ffrydiau cyllido lleol i hwyluso a/neu ddileu unrhyw rwystrau i weithredu argymhellion ALlAY yn ystyrlon. Argymhellir rhannu’r gwerthusiadau cynnydd hyn gyda Bwrdd Goruchwylio ALlAY fel rhan o’u monitro chwarterol ar gyflwyno (gweler 8.13) ac i helpu eu dadansoddiad thematig strategol. Dylid nodi pwynt cyswllt penodol ym mhob un o’r sefydliadau i arwain ar fonitro, a fydd yn cysylltu â’r Bwrdd Goruchwylio.

ALlAY a’r Ddyletswydd Trais Difrifol

8.9 Cyflwynodd Deddf yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 Ddyletswydd Trais Difrifol, oedd yn newydd ac a ddaeth i rym ar 31 Ionawr 2023, er mwyn sicrhau bod awdurdodau penodol ledled Cymru a Lloegr, sef yr heddlu, gwasanaethau tân ac achub, iechyd, awdurdodau lleol, timau troseddu ieuenctid a’r gwasanaethau prawf yn cydweithio, yn rhannu data a gwybodaeth er mwyn sefydlu strategaeth i atal a lleihau trais difrifol. Mae sefydliadau addysgol a charchardai/sefydliadau cadw troseddwyr ifanc hefyd dan ddyletswydd ar wahan i gydweithredu gydag awdurdodau penodol a gallant hefyd ddewis cydweithio’n wirfoddol pe dymunant. Efallai y bydd partneriaethau lleol eisiau gweithio’n agos i ddatblygu’r Asesiad Anghenion Strategol a’r Strategaeth Ymateb. Dylai’r rhain hefyd ymgorffori, asio neu gyfeirio at fentrau cysylltiedig eraill, megis ALlAY.

8.10 Mae dealltwriaeth o laddiadau gydag arfau ymosodol a’r ffactorau a arweiniodd atynt yn lleol yn hanfodol er mwyn deall trais difrifol. Argymhellir felly, lle bo modd, a lle bo hynny’n berthnasol i sbardunau trais difrifol a lladdiadau yn eu hardal, fod ALlAY yn cael eu hasio gyda’r Ddyletswydd Trais Difrifol.

Rôl Bwrdd Goruchwylio ALlAY

8.11 Pwyllgor anstatudol yw Bwrdd Goruchwylio ALlAY (“Bwrdd Goruchwylio”) o arbenigwyr mewn diogelu, atal lladdiadau a thrais difrifol, a gwarchod y cyhoedd, a fydd yn goruchwylio cyflwyno’r ALlAY yn lleol ac yn ystyried a weithredir ar wersi a ddysgwyd o adolygiadau, a’u rhannu yn lleol a chenedlaethol.

8.12 Bydd y Bwrdd Goruchwylio yn cynnwys o leiaf unigolion gydag arbenigedd neu gefndir mewn plismona, awdurdodau lleol, ac iechyd. Er mwyn sicrhau ein bod yn sefydlu panel amrywiol gydag ehangder profiad ac arbenigedd, yr ydym yn chwilio am aelodau o’r meysydd canlynol:

  1. Llywodraeth Leol
  2. Iechyd Cyhoeddus
  3. Heddlu
  4. Addysg
  5. Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  6. Gwasanaeth Prawf
  7. Gwasanaeth Erlyn y Goron
  8. Cynrychiolydd Cymreig (gyda phrofiad o weithio yn un o’r meysydd 1-7 uchod, yng Nghymru).

Yn ystod cyfnodau cynnar y cynllun peilot, bydd Cadeirydd ac aelod cyntaf y Bwrdd Goruchwylio eisoes yn eu lle, a daw mwy o aelodau wrth i’r cynllun fynd rhagddo, ac y cwblheir adroddiadau ALlAY.

8.13 Cefnogir y Bwrdd Goruchwylio gan Ysgrifenyddiaeth a ddarperir gan y Swyddfa Gartref. Pwrpas y Bwrdd Goruchwylio yw:

a. goruchwylio cyflwyno ALlAY yn lleol.

b. sicrhau cysondeb mewn meini prawf ac agwedd trwy adolygu ac asesu adroddiadau a gwblhawyd.

c. dwyn ynghyd ALlAY ar lefel genedlaethol i asesu a lledaenu gwersi cyffredin, themâu, materion darparu gwasanaeth, a meysydd arfer da ar adegau penodol.

d. monitro cymhwyso gwersi yn rhanbarthol a chenedlaethol a gweithredu argymhellion mewn polisi, agwedd a chyflwyno.

e. rhannu’r arferion gorau a mewnwelediad ehangach trwy ddigwyddiadau a chyfleoedd dysgu.

8.14 Fel y gosodir allan ym mharagraff 8.4, dylai gwersi o adolygiad, lle maent yn berthnasol i’r achos, gynnwys ystyried materion bregusrwydd ehangach sy’n ymwneud, er enghraifft, ag iechyd meddwl, trais/camdriniaeth ddomestig, camddefnyddio/troseddau alcohol neu gyffuriau, neu drais yn erbyn menywod a merched. Yn ogystal â sicrhau bod y gwersi hyn a dealltwriaeth ehangach yn cael eu rhannu ar lefel leol, bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn gweithio gyda’r Bwrdd Goruchwylio i sicrhau y gwneir cysylltiadau â’r Swyddfa Gartref a chydag Adrannau Llywodraeth eraill, lle bo hyn yn berthnasol.

8.15 I’r perwyl hwn, dyma swyddogaethau craidd y Bwrdd Goruchwylio:

a. adolygu pob adroddiad ALlAY yn erbyn y ddogfen ganllaw a’r templedi a ddarparwyd a rhoi adborth i bartneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol/cadeirydd annibynnol os yw hyn yn briodol, er mwyn gwella prosesau yn y dyfodol neu gydnabod enghreifftiau o arferion da;

b. datblygu perthynas gydweithredol gydag ardaloedd adolygu lleol, galluogi deialog agored i helpu i ddatrys unrhyw broblemau sy’n codi yn ystod proses ALlAY na ellir eu datrys yn lleol, a rhoi her arbenigol i agweddau ac atebion lleol;

c. cynnal adolygiadau chwarterol i fonitro cyflwyno argymhellion adroddiadau mewn cynlluniau gweithredu lleol (gweler paragraff 8.7);

d. cynhyrchu adroddiad blynyddol ALlAY sy’n cynnwys dadansoddiad o sawl ALlAY a gwblhawyd, sut y cadwyd at fframiau amser, cyflwyno argymhellion a dadansoddiad thematig o faterion allweddol a nodwyd. Dylai hyn gael ei gefnogi gan ddatganiad polisi ynghylch sut y bydd y canfyddiadau cronnus yn dylanwadu ar ddatblygiadau polisi; a

e. bod yn broffesiynol chwilfrydig, cadw i fyny â datblygiadau deddfwriaethol, polisi a chymdeithasol perthnasol ym meysydd diogelu, atal lladdiadau, trais difrifol a gwarchod y cyhoedd, ac ymgorffori’r gwersi a’r arbenigedd mewn trafodaethau a dadansoddiadau thematig.

8.16 Fel y gosodir allan ym mharagraff 2.58, i helpu deall effeithiau ALlAY yn ehangach ac at ddibenion monitro, awgrymir y dylai ardaloedd adolygu lleol rannu gwersi cynnar gyda Bwrdd Goruchwylio ALlAY trwy’r Ysgrifenyddiaeth. Gall hyn ddigwydd yn dilyn cyfnod cychwynnol casglu gwybodaeth y broses, ar y pwynt un mis ac yn ystod trafodaethau am gwmpas a chylch gorchwyl yr adolygiad.

8.17 Darperir adroddiadau ALlAY a gyflwynir yng Nghymru dan broses ADUS i Fwrdd Goruchwylio’r ALlAY a Bwrdd Gweinidogol yng Nghymru.

9: Cwestiynau Cyffredin

Proses ALlAY

C1: Pa ymgynghori a ddigwyddodd wrth gynllunio proses ALlAY?

A: Gweithiodd y Swyddfa Gartref gyda chwmni ymgynghori yn 2021 mewn proses o ymwneud â rhanddeiliaid ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys yn yr ardaloedd peilot. Casglwyd tystiolaeth am bolisiau ac arferion y prosesau presennol o adolygu lladdiadau, yn ogystal â thrwy gyfweliadau a grwpiau trafod, arolygon cenedlaethol a chydag ymarferwyr, ac ymwneud ag academyddion a’r sector wirfoddol a chymunedol. Cynlluniwyd proses ALlAY ar y cyd ag asiantaethau i adeiladu ar eu harbenigedd gydag adolygiadau sy’n bod eisoes, a chynhyrchu adolygiad sydd yn y lle gorau i drin lladdiadau.

C2: A ystyriwyd proses adolygu cyflym ar gyfer ALlAY?

A: Cafodd gwahanol brosesau eu hystyried fel fframwaith i gyflwyno ALlAY. Mae’r strwythur a gynigir yn darparu ar gyfer adolygiad cychwynnol o wybodaeth ymhen y mis cyntaf wedi’r digwyddiad, ac yna adolygiad llawn os atebir y meini prawf am ALlAY. Gwneir darpariaeth ar gyfer y broses hon yn strwythur y ddeddfwriaeth (Deddf yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022).

Er ei bod yn wahanol i’r broses adolygu gyflym a welir mewn rhai adolygiadau lladdiad eraill, mae’r Swyddfa Gartref yn cydnabod fod rhannu gwersi cynnar yn hanfodol er mwyn gwneud partneriaid a chyrff lleol yn ymwybodol o unrhyw broblemau neu arferion da sy’n dod i’r amlwg o’r achos ac i ganiatáu gweithredu’n syth er mwyn unioni mater yn hytrach na gorfod aros nes bydd yr ALlAY wedi ei gwblhau.

Fel rhan o broses cyflwyno ALlAY, fe all gwersi cynnar gael eu nodi yn dilyn y cyfnod cynnar o gasglu gwybodaeth ar y pwynt un mis ac yn ystod trafodaethau am gwmpas a chylch gorchwyl yr adolygiad. Dywed y canllaw yn glir y dylid rhannu hyn gyda’r partneriaid mewn fforwm priodol, gan ystyried unrhyw bryderon am ddatgelu ac ystyriaethau diogelu data, a thynnu sylw at y ffaith mai gwersi cychwynnol sydd yma, ac y gall mwy ddod i’r fei yn ystod yr adolygiad.

C3: Pam bod y canllaw yn cyfeirio at y ffaith fod ALlAY yn cymryd 12 mis yn unig? ‘Does bosib y bydd y rhain yn cymryd mwy o amser, o gofio profiad Adolygiadau Lladdiadau Domestig (ALlD) a chymhlethdodau posib gyda lladdiadau gydag arfau?

A: Pwrpas ALlAY yw nodi unrhyw wersi i’w dysgu o’r farwolaeth ac ystyried a ddylid cymryd camau o ganlyniad. O’r herwydd, mae’r llywodraeth eisiau i’r adolygiadau gael eu cwblhau a’u cyhoeddi mor fuan ag sydd modd er mwyn sicrhau y gellir gweithredu’n sydyn ar argymhellion i ddiogelu ac i fynd i’r afael â lladdiadau ac arbed bywydau. Mae’r fframiau amser a awgrymir ar gyfer cwblhau adolygiad, fel sy’n cael eu gosod allan ym mhennod 3, wedi eu cynnwys gyda’r nod o gwblhau adolygiadau ymhen 12 mis i wneud yn siwr bod unrhyw wersi a gweithredoedd yn amserol a pherthnasol.

Efallai, mewn rhai lladdiadau mwy cymhleth, er enghraifft lle mae nifer o droseddwyr, neu gysylltiad â gangiau, y gall adolygiad gymryd yn hwy. Byd y broses o osod cwmpas yr adolygiad a’r cyfnod cyntaf casglu gwybodaeth a’r ail yn help i bennu ffrâm amser cyflwyno’r adolygiad a cherrig milltir allweddol ar gyfer cyflwyno.

C4: Sut bydd y Swyddfa Gartref yn sicrhau cydymffurfio â’r broses?

A: Bydd y Swyddfa Gartref, a’r sawl sy’n gwerthuso’r cynllun peilot, yn monitro cynnydd y cynllun yn agos, gan weithio gyda phob un o’r arweinyddion yn yr ardaloedd peilot i ddeall sut y mae’r ALlAY yn mynd rhagddynt, gan roi cyngor a chefnogaeth os bydd angen.

Tra bod proses yr ALlAY yn cynnwys Bwrdd Goruchwylio fydd yn goruchwylio cyflwyno ALlAY yn lleol, gan ddwyn ynghyd wersi cenedlaethol a monitro eu gweithredu, nid monitro cydymffurfio yw ei waith, ac nid oes ganddo swyddogaeth sicrhau ansawdd.

Cynlluniwyd proses yr ALlAY i roi hyblygrwydd i ardaloedd lleol, ac yn unol â hynny, nid yw’r Swyddfa Gartref yn disgwyl bod ag unrhyw rôl mewn monitro cydymffurfio. Serch hynny, y mae rhwymedigaethau cyfreithiol clir ar bob un o bartneriaid perthnasol yr adolygiad sydd yn cynnwys rhoi hysbysiadau i’r Ysgrifennydd Gwladol ymhen cyfnod o un mis o’r pryd y deuant yn ymwybodol o’r amgylchiadau cymwys tebygol (gweler paragraff 2.19 y Canllaw Statudol) ac anfon yr adroddiad terfynol at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w gyhoeddi. Byddai unrhyw bartner adolygu a fethodd anfon hysbysiad, trefnu a chynnal adolygiad lle’r atebwyd yr amodau neu anfon yr adroddiad terfynol at yr Ysgrifennydd Gwladol yn torri ei ddyletswyddau statudol.

C5: Beth sy’n digwydd os na fydd partneriaid adolygu yn dilyn canllaw statudol ALlAY?

A: Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar bartneriaid adolygu i gadw mewn cof ganllaw statudol ALlAY wrth gyflawni’r swyddogaethau a osodir arnynt. Rhaid i bartneriaid adolygu felly ystyried y canllaw, a bod â rhesymau da dros gymryd agwedd wahanol mewn achosion penodol. Gallai unrhyw fethiant ar ran partner adolygu i gadw at y canllaw fod yn destun camau adolygiad barnwrol.

C6: Pam nad yw ALlAY yn edrych ar farwolaethau y rhai dan 18 oed?

A: Bwriad Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol yw ymdrin â lladdiadau nad ydynt yn dod o fewn cwmpas adolygiadau sy’n bod eisoes. Cyflwynwyd y polisi dan y meini prawf hyn i osgoi dyblygu ymdrechion ac adnoddau. Er na fydd marwolaeth pob plentyn yn destun adolygiad cyfredol, prif fwriad polisi ALlAY yw gwneud yn siwr fod partneriaid yn ystyried achosion oedolion 18-25 oed sydd fel arfer yn ymwneud a gangiau, troseddau stryd a throseddau â chyllyll. Gwyddom hefyd fod cyfran fawr a chynyddol o laddiadau yng Nghymru a Lloegr yn rhai sy’n digwydd i unigolion o’r grŵp oedran hwn.

Cyn ystyried cyflwyno hyn yn genedlaethol, mae’r Swyddfa Gartref eisiau gwneud yn siwr mai ALlAY yw’r erfyn mwyaf effeithiol posib i ddysgu beth ellir ei wneud i atal lladdiadau yn y dyfodol, a bydd yn cynnal cynllun peilot arnynt am 18 mis mewn tair ardal. Bydd y cynllun peilot hwn yn help i fod yn sail i’r penderfyniad i gyflwyno’r polisi ai peidio ar draws Cymru a Lloegr, gan gynnwys holi a yw’r meini prawf am adolygiad yn cadw’r cydbwysedd iawn, neu a ddylid eu newid. Bydd unrhyw werthuso ar y cynllun peilot yn cynnwys cofnod o laddiadau na fu’n gymwys am ALlAY dan y meini prawf cyfredol.

Ysgrifennwyd y Ddeddf yn fwriadol i ganiatau newid meini prawf ALlAY gan ddefnyddio deddfwriaeth eilaidd, gan y bydd hyn yn caniatau i’r llywodraeth ymateb yn sydyn a chyfoesi’r polisi i gwrdd ag unrhyw newid mewn tueddiadau mewn lladdiadau neu amgylchiadau a all godi. Mae modd cyfoesi’r canllaw statudol hefyd i ymateb yn gyflym i newid mewn tueddiadau.

C7: Beth am laddiadau lle nad oes corff, neu nad oes modd gwybod pwy yw’r dioddefwr neu’r troseddwr a amheuir?

A: Mewn nifer fechan o achosion, gall yr awdurdodau ddod yn ymwybodol o amheuaeth o ladd lle na ddarganfuwyd unrhyw gorff, na rhannau o gorff, neu lle deuir o hyd i gorff ond nad oes modd gwybod pwy yw’r dioddefwr na neb a amheuir o gyflawni’r drosedd.

Eithriwyd yr achosion hyn o’r gofyniad i gynnal Adolygiad Lladdiadau gydag Arfau Ymosodol (gan y rheoliadau sy’n gosod amodau ychwanegol am adolygiad) oherwydd ein bod eisiau sicrhau bod proses yr adolygiad yn gwneud darpariaeth ar gyfer cwblhau adolygiad manwl a thrylwyr. Heb adnabod dioddefwr neu droseddwr honedig, na thystiolaeth gorfforol i gadarnhau fod marwolaeth wedi digwydd, cyfyngedig fydd gwybodaeth sylweddol yr adolygiad.

Caiff lladdiadau sy’n digwydd yn ardaloedd y cynllun peilot ond sydd yn dod y tu allan i feini prawf yr adolygiad yn cael eu monitro fel rhan o werthuso’r cynllun peilot. Ystyrir y wybodaeth hon cyn cyflwyno’r cynllun yn genedlaethol a chyn ystyried a ddylid gwneud unrhyw newidiadau i sicrhau a ddylai mwy neu lai o laddiadau fod yn destun ALlAY.

C8: Lle mae marwolaethau a achosir gan swyddog o’r heddlu neu lle mae’n rhan o’r lladdiad ac yn defnyddio arf ymosodol wrth gyflawni ei ddyletswydd swyddogol yn cael eu heithrio o ALlAY?

A: Mae a wnelo’r eithrio â marwolaethau a ystyrir yn ‘farwolaeth’ neu yn ‘fater anaf difrifol’ yn ystyr adran 12(2A) Deddf Diwygio’r Heddlu 2002.

Mae’r eithrio hwn yn osgoi dyblygu ymdrechion a gwrthdrawiadau gyda phrosesau barnwrol a chyfreithiol eraill, oherwydd bod yn rhaid cyfeirio unrhyw farwolaeth sy’n digwydd yn ystod neu yn syth wedi cysylltiad â’r heddlu at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu i’w ystyried.

C9: A fydd achosion gyda materion iechyd meddwl yn cael eu heithrio o Adolygiad Lladdiadau gydag Arfau Ymosodol?

A: Er nad ydynt wedi eu heithrio ar wyneb y Ddeddf, y mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys y pwer i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau i anghymhwyso’r gofyniad i drefnu Adolygiad Lladdiadau gydag Arfau Ymosodol mewn rhai achosion yng Nghymru a Lloegr lle’r achoswyd y farwolaeth gan berson oedd yn derbyn neu wedi bod yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl.

Nid oes rheoliadau yn cael eu cyflwyno yn y maes hwn ar hyn o bryd. Fel y gosodir allan ym mharagraff 2.43, anogir ymarferwyr i gydweithio’n agos yng nghyswllt digwyddiadau gyda pherson oedd yn neu wedi bod yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl. Mae hyn yn galluogi cynnwys gwybodaeth berthnasol yn y cyd-destun hwn i’w gynnwys yn yr ALlAY ei hun.

Gan na chynhwyswyd rheoliadau yn y maes hwn ar hyn o bryd, mae’n caniatau i’r achosion hynny lle mae’n rhaid neu y gellir ymchwilio i’r farwolaeth dan sylw dan drefniadau a wnaed gan gyrff y GIG yn Lloegr neu wasanaethau iechyd yng Nghymru am iddynt gael eu hachosi gan berson sydd neu oedd wedi bod yn derbyn unrhyw wasanaethau iechyd meddwl, i barhau ochr yn ochr ag ALlAY lle tybir bod angen hyn.

Yng Nghymru, y bwriad yw adolygu lladdiadau y mae arf ymosodol yn rhan ohonynt, neu gan berson sydd neu oedd wedi bod yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl, dan yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl.

C10: A fyddai ALlAY yn cael ei ystyried mewn achos o ladd lluosog?

A: Bydd angen Adolygiad Lladdiadau gydag Arfau Ymosodol (ALlAY) mewn rhai achosion lle’r atebir y gofynion am danio ALlAY. Lle bo un digwyddiad yn arwain at laddiadau lluosog, gall adolygiadau statudol gwahanol fod yn gymwys ar gyfer y lladdiadau gwahanol, a byddai’n rhaid i bob proses gydymffurfio â’i ddeddfwriaeth ei hun (gweler 2.46). Ni fyddai’r un farwolaeth yn destun ALlAY os bydd adolygiad statudol perthnasol arall (a restrir yn adran 26 y Ddeddf) yn gymwys.

Dywed Rheoliad 8 Rhan 3 y rheoliadau ALlAY, lle bydd mwy nag un person yn marw mewn digwyddiad, a bod y marwolaethau hynny yn gymwys am ALlAY, y parheir i nodi partneriaid perthnasol yr adolygiad fel y rhai yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth neu ei bod yn debygol o fod wedi digwydd, neu os oes mwy nag un lleoliad neu lle nad yw lleoliad y marwolaethau yn hysbys, y lleoliad lle cofnodwyd canfod y corff neu rannu o’r corff gyntaf (gweler 1.13). Byddai hyn yn gwneud darpariaeth i un set o bartneriaid perthnasol gynnal ALlAY i’r holl farwolaethau sy’n dod dan y meini prawf.

C11: Pam partneriaid perthnasol yr adolygiad yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth?

A: Bwriedir Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol i fod yn gyfrwng pwysig i help partneriaid lleol fyd i’r afael â thrais difrifol a lladdiadau. Lle bo marwolaeth yn digwydd mewn ardal, mae’n iawn i’r partneriaid adolygu yn yr ardal honno ymwneud ag adolygu’r farwolaeth honno, gan y gallant roi gwybodaeth leol, helpu i weld patrymau a thueddiadau lleol, a helpu i weld cyfleoedd i gamu i mewn ac atal marwolaethau yn y dyfodol. Mae’n bwysig felly i ni fod y cyfrifoldeb dros sefydlu a chynnal yr adolygiadau hyn yn gorwedd gyda’r partneriaid lleol.

Er hynny, nid yw hyn yn atal y partneriaid hyn rhag cael gwybodaeth neu gymorth gan asiantaethau mewn ardaloedd eraill, er enghraifft, lle mae neu yr oedd yr unigolion perthnasol i’r farwolaeth yn byw mewn ardal arall. Mae’n debyg y bydd hyn yn angenrheidiol mewn llawer achos (gweler 2.15f).

C12: Sut mae ALlAY yn ffitio i mewn ag unrhyw ymchwiliad ac erlyniad troseddol?

A: Mae Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol yn wahanol i ymchwiliadau ac erlyniadau troseddol. Bydd adolygiadau lladdiadau yn canolbwyntio ar wersi i’w dysgu ac argymhellion i fynd i’r afael a thrais difrifol a lladdiadau.

Oherwydd hyn, y cynllun yw i ALlAY ddigwydd ochr yn ochr ag unrhyw ymchwiliad neu erlyniad troseddol. Fel gydag adolygiadau cyfredol, bydd angen i’r partneriaid adolygu weithio gyda’r heddlu er mwyn sicrhau nad yw unrhyw adolygiad yn ymyrryd nac yn peryglu unrhyw ymchwiliadau troseddol neu gamau troseddol (gweler paragraff 2.12).

Cynllun peilot ALlAY

C13: Pam eich bod yn rhedeg cynllun peilot yn lle rhoi cychwyn ar y ddeddfwriaeth ar draws Cymru a Lloegr?

A: Dywed Adran 34 Deddf yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 fod angen gwneud cynllun peilot cyn cyflwyno ar draws Cymru a Lloegr.

Cyn i’r llywodraeth gyflwyno polisi cenedlaethol fydd yn effeithio ar bartneriaid, cymunedau a theuluoedd, mae eisiau gwneud yn siwr fod y polisi wedi ei gynllunio i gwrdd ag anghenion, disgwyliadau a ffyrdd gweithio pawb sy’n rhan ohono. Bydd y cyfnodau dylunio a pheilot yn helpu i wneud hyn, a dyna pam y cynhwyswyd y gofyniad i gynnal cynllun peilot yn neddfwriaeth ALlAY.

C14: Pam y dewiswyd Llundain, Gorllewin Canolbarth Lloegr a Chymru i gynnal y peilot, yn lle ardaloedd eraill?

A: Yr ydym yn gweithio gyda phartneriaid lleol yn Llundain, Gorllewin Canolbarth Lloegr a Chymru i ddylunio a pheilotio ALlAY. Dewiswyd y rhanbarthau hyn i sicrhau eu bod yn rhoi prawf ar yr adolygiadau yng Nghymru ac yn Lloegr, ac mewn ardaloedd gyda phroffiliau gwahanol o laddiadau a thrais difrifol.

Mae’r llywodraeth eisiau gwneud yn siwr fod yr adolygiadau hyn yn cwrdd ag anghenion, disgwyliadau a ffyrdd gweithio pawb sy’n rhan ohonynt i helpu i atal lladdiadau yn y dyfodol.

C15: Sawl adolygiad ydych chi’n disgwyl i gael eu cynnal yn ystod y cynllun peilot? Beth fydd yn digwydd os na fydd unrhyw laddiadau yn yr ardaloedd a ddewiswyd?

A: Dewisodd y Swyddfa Gartref awdurdodau lleol yn Llundain, Gorllewin Canolbarth Lloegr, a Chymru, lle, gyda’i gilydd ac ar sail data hanesyddol dros y 5 mlynedd diwethaf, yr amcangyfrifir sydd yn ardaloedd allai ddisgwyl tua 36 lladdiad [footnote 30]oedolion gydag arf ymosodol yn ystod cyfnod y cynllun peilot.

Ar hyn o bryd, mae’r Swyddfa Gartref yn disgwyl i’r cynllun peilot bara 18 mis, i roi digon o amser i roi prawf ar broses yr adolygiad. Mae modd cyflwyno rheoliadau dan adran 34(5) y Ddeddf i ymestyn y cynllun peilot, os bydd hyn yn cael ei ystyried yn briodol ac yn angenrheidiol.

C16: Sut byddwch chi’n asesu ac yn gwerthuso’r cynllun peilot?

A: Mae’r cynllun peilot yn cael ei werthuso gan gwmni annibynnol. Cesglir data a gwybodaeth ynghyd yn rheolaidd trwy gydol y cynllun, gan fonitro’r deilliannau ac asesu effeithiolrwydd y broses a’r meini prawf cyfredol.

Fel y gosodir allan yn adran 34(3) y Ddeddf, cyflwynir adroddiad am weithrediad y cynllun peilot gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn y Senedd cyn cymryd penderfyniad i’w gyflwyno ar draws Cymru a Lloegr.

C17: Oni fydd gwerthuso’r cynllun peilot yn gallu edrych ar broses y cynllun yn unig, yn hytrach na’r deilliant o ran lleihau lladdiadau?

A: Mae asesu a gwerthuso’r cynllun peilot ar hyn o bryd yn cael ei ddylunio gan gwmni annibynnol ar y cyd â swyddogion. Bydd y gwerthuso yn canoli yn bennaf ar effeithiolrwydd y broses a’r meini prawf, ond bydd hefyd yn monitro deilliannau’r adolygiadau a lledaenu gwersi cynnar yn lleol a chenedlaethol, gan amlygu’r effaith y gall adolygiadau gael at y dyfodol.

Cyflwyno adolygiad

C18: Pwy sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad fod lladdiad yn gymwys am ALlAY?

A: Dywed y ddeddfwriaeth a’r canllaw yn glir mai partneriaid perthnasol yr adolygiad, gyda chefnogaeth eu proses leol o oruchwylio (Partneriaeth Diogelwch Cymunedol, uned Lleihau trais neu’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd) fydd yn gyfrifol am sefydlu a yw’r farwolaeth yn lladd cymwys neu beidio, ac am wneud y penderfyniad ynghylch a atebwyd yr amodau am ALlAY. Partneriaid perthnasol yr adolygiad am ALlAY yw’r heddlu, awdurdodau lleol, byrddau gofal integredig (yn Lloegr) neu fyrddau iechyd lleol (yng Nghymru).

C19: A fydd y Swyddfa Gartref yn ymateb i hysbysiadau o fewn amser a bennwyd?

A: Nid oes gan y Swyddfa Gartref rôl weithredol o ran cyflwyno ALlAY. Dylai ardaloedd lleol ddilyn eu prosesau gweithredol safonol yn dilyn marwolaeth. Pan roddir hysbysiad i’r Ysgrifennydd Gwladol yn dilyn lladd cymwys tebygol, nid oes angen ymateb cyn gallu cychwyn ALlAY.

C20: Pam bod y canllaw yn awgrymu edrych ar y 2 flynedd cyn y digwyddiad wrth gynnal adolygiad? Sut y daethpwyd at y ffram amser hon?

A: Mae ffrâm amser am adolygiad yn cael ei gosod allan ym mharagraff 2.34, sy’n awgrymu 24 mis yn arwain i fyny at y digwyddiad. Canllaw yn unig yw hwn, ac y mae’n adlewyrchu’r ffaith y gall fod achosion lle canoli ar 12-18 mis yn unig, neu lle dylid ystyried digwyddiadau arwyddocaol y tu hwnt i’r ddwy flynedd.

Daethpwyd at y ffram amser hon trwy ymwneud a rhanddeiliaid cenedlaethol a lleol, ac yr oedd y mwyafrif yn ffafrio adolygiad oedd yn edrych ar 2 flynedd neu lai o fywyd unigolion. Yr oeddem eisiau gwneud yn siwr fod hyblygrwydd ar gael er mwyn gallu penderfynu ar ffram amser briodol seiliedig ar yr achos unigol. Yr ydym yn awyddus i symud ymaith oddi wrth adroddiadau hirfaith gyda chronoleg fanwl, a rhoi yn hytrach yr hyblygrwydd i gynnwys pwyntiau cyffwrdd perthnasol, ac ystyried ar yr un pryd y materion cyd-destunol ehangach a wynebodd yr unigolion ac a ellid bod wedi gwneud mwy i’w hamddiffyn.

C21: Beth sy’n digwydd os daw mwy o wybodaeth i’r amlwg megis trwy ymchwiliad troseddol sy’n digwydd, ond fod yr adolygiad wedi ei gwblhau?

A: Os cwblhawyd yr ALlAY, ni fydd gofyniad na dyletswydd i bartneriaid perthnasol yr adolygiad ail-agor yr adolygiad. Penderfyniad lleol fyddai, ymysg partneriaid perthnasol yr adolygiad a fuasent am gynnal unrhyw ymchwiliadau lleol pellach neu drafodaethau yng ngoleuni’r wybodaeth ychwanegol a ddaeth i’r amlwg, i weld a ymddangosodd unrhyw wersi neu gamau ychwanegol. Fodd bynnag, ni ellir gwneud hyn dan y pwerau a ddarperir gan ddeddfwriaeth ALlAY. Os daw gwybodaeth bellach yn ystod yr adolygiad, a bod yn briodol gwneud hynny, mae modd bwydo hyn i mewn i’r adolygiad; gweler paragraff 2.35.

C22: A oes rhaid i USY fod yn rhan o broses Adolygiad?

A: Mae disgwyliad, yn y dyddiau yn syth wedi’r farwolaeth, y bydd trafodaethau cychwynnol rhwng partneriaid perthnasol yr adolygiad a’r USY sy’n ymchwilio i’r farwolaeth er mwyn cytuno pa unigolion, megis y dioddefwr, troseddwr/wyr honedig a phobl â chysylltiad â’r farwolaeth ddylai gael eu cynnwys fel rhan o’r broses o gasglu gwybodaeth. Nid oes disgwyl i’r USY fod yn rhan o broses yr adolygiad ei hun. Bydd angen cyfathrebu rhwng yr USY, partneriaid perthnasol yr adolygiad /cadeirydd annibynnol/asiantaeth arweiniol ar bwyntiau perthnasol, gan gynnwys wrth rannu gwybodaeth, pryd i ymwneud â theuluoedd, a chyn drafftio’r adroddiad terfynol; fodd bynnag, gellir gwneud hyn ar amser/fformat y cytunir arno rhwng y naill ochr a’r llall.

C23: Sut byddai partneriaid perthnasol yr adolygiad neu asiantaeth arweiniol sy’n rhan o ALlAY yn gwybod a oes gan rywun sy’n rhan o ddigwyddiad hanes Prevent?

A: Ni fyddai Adolygiad Dysgu Prevent yn rhedeg yn gyflin ag ALlAY oni fydd y Swyddfa Gartref wedi rhoi cyfarwyddyd i gynnal un. Fel proses statudol o adolygu, yr ALlAY fyddai’n cael y flaenoriaeth; lle bo hyn yn cynnwys rhywun gyda hanes Prevent, buasem yn disgwyl i ymarferwyr lleol perthnasol Prevent fod yn rhan o broses yr ALlAY. Dylai ymholiadau cychwynnol i bennu a yw rhywun â hanes Prevent yn rhan o ddigwyddiad gael eu cyfeirio at arweinydd Prevent yr awdurdod lleol i gychwyn, a all gysylltu â’r Heddlu Gwrth-Derfysgaeth i geisio cadarnhad.

C24: Pwy fyddai’n gyfrifol am sicrhau y gweithredir unrhyw gamau /argymhellion cynnar?

A: Fel y gosodir allan ym mharagraff 7.13 dylid cytuno ymlaen llaw ar y ffordd orau i adrodd yn ôl ar gamau at unigolyn/sefydliad ac ar ba lefel y dylid rhannu’r negeseuon hynny, er mwyn cadarnhau bod y cam wedi ei fflagio i’r person neu’r tîm/sefydliad mwyaf priodol. Dylid rhannu’r gwersi hyn hefyd gyda phartneriaid/cyrff lleol ehangach mewn fforwm priodol (gan gymwys i ystyriaeth bryderon am ddatgelu a diogelu data), a nodi mai gwersi cychwynnol yw’r rhain sydd wedi dod i’r amlwg, gyda’r caveat y cynhelir mwy o ymchwiliadau yn ystod yr adolygiad. Mae rhannu gwersi yn gynnar fel hyn yn hanfodol er mwyn gwneud partneriaid/cyrff lleol yn ymwybodol o unrhyw broblemau neu arferion gorau fydd yn deillio o’r achos a allai olygu penderfyniad i weithredu ar unwaith neu gymryd camau i ddatrys problem, yn hytrach na gorfod aros am y 12 mis neu fwy i’r ALlAY gael ei gwblhau.

I helpu i ddeall effeithiau ALlAY yn well, at ddibenion monitro, awgrymir rhannu’r gwersi cynnar hyn hefyd gyda Bwrdd Goruchwylio ALlAY.

Rhannu gwybodaeth

C25: A fydd gwybodaeth bersonol am y dioddefwr neu droseddwr/wyr honedig yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad a’i gyhoeddi?

A: Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth i bartneriaid adolygu ofyn am wybodaeth sy’n berthnasol i gynnal yr adolygiad; fodd bynnag, dywed y Ddeddf na ddylai unrhyw adroddiad a anfonir at yr Ysgrifennydd Gwladol gynnwys unrhyw wybodaeth a allai beryglu diogelwch unrhyw berson neu a allai beryglu unrhyw ymchwiliad troseddol neu gamau cyfiawnder troseddol. Mae’r Ddeddf hefyd yn caniatau i’r Ysgrifennydd Gwladol dynnu allan unrhyw gynnwys sydd wedi ei gynnwys ond nad ystyria’r Ysgrifennydd Gwladol sy’n briodol i’w gyhoeddi. Ymhellach, mae’r Ddeddf yn dweud yn glir bod yn rhaid i unrhyw ddatgelu data personol dan y darpariaethau hyn gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data y DU, gan gynnwys Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol; y DU a Deddf Diogelu Data 2018.

C26: Ym mha sefyllfaoedd na fyddai USY yr heddlu yn gallu rhannu gwybodaeth hanfodol? Onid yw hyn yn atal yr adolygiad rhag mynd rhagddo?

A: Efallai na fydd pob gwybodaeth yn addas i’w ddatgelu yn ystod adolygiad oherwydd yr angen i gynnal cywirdeb yr ymchwiliad troseddol (gweler paragraff 2.12). Er enghraifft, yng nghamau cychwynnol yr ymchwiliad, mae’n debyg y bydd yr heddlu yn delio â nifer o ystyriaethau parthed y dioddefwr, unigolion dam amheuaeth, tystion, tystiolaeth a pheth gwybodaeth sensitif, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch llinellau ymchwilio sy’n mynd ymlaen a thystion a all fod yn fregus. Byddai angen i’r USY drafod a chytuno ar hyn gyda phartneriaid perthnasol yr adolygiad pa wybodaeth y gellir ei rannu yng nghyfnodau cynnar proses yr ALlAY process.

Nid yw hyn yn atal yr adolygiad rhag mynd rhagddo gan fod dyletswydd glir ar bartneriaid perthnasol yr adolygiad i bennu a yw’r farwolaeth yn lladd cymwys neu beidio. Fodd bynnag, fe all olygu, yng nghyfnodau cynnar y broses, fod y ffocws ar y dioddefwr yn unig oni fydd troseddwr wedi ei arestio a’i gyhuddo. Eto, byddai angen trafod ymhellach gydag USY yr heddlu ynghylch pa wybodaeth fyddai modd ei rannu am y troseddwr heb beryglu’r camau troseddol.

Cadeiryddion Annibynnol

C27: A fydd Cadeiryddion Annibynnol yn gyfrifol am ysgrifennu adroddiad terfynol yr ALlAY?

A: Penderfyniad lleol fydd hwn, a wneir gan bartneriaid perthnasol yr adolygiad. Dywed y canllaw yn glir mai mater i bartneriaid perthnasol yr adolygiad, gyda chefnogaeth eu proses leol o oruchwylio, fydd comisiynu ALlAY i gadeirydd annibynnol, gan gynnwys gwneud yn glir pa swyddogaethau y dymunant iddo/i ymgymryd â hwy. Mae’r canllaw yn awgrymu y gallai hyn gynnwys cyfweld, casglu data a gwybodaeth, ac ysgrifennu’r adroddiad terfynol; (gweler paragraffau 3.14 - 3.19).

C28: Beth sy’n digwydd am recriwtio Cadeiryddion Annibynnol? A fydd disgwyl i’r ardaloedd peilot eu recriwtio neu a fydd hyn yn cael ei wneud yn genedlaethol?

A: Mae’r Swyddfa Gartref wedi bod yn recriwtio yn genedlaethol i gael cronfa o hyd at 30 o unigolion i gadeirio yn annibynnol a chynnal ALlAY yn ystod y cynllun peilot. Cynhaliwyd cyfweliadau a hysbyswyd yr ymgeiswyr llwyddiannus, ac fe’u penodir ar ôl cwblhau gwiriadau diwydrwydd dyladwy a hyfforddiant yn llwyddiannus.

Gan y cyflwynir ALlAY yng Nghymru fel rhan o broses ADUS, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi nodi adolygwyr annibynnol a hyfforddwyd i gynnal yr adolygiadau yn ne Cymru.

C29: Pam y bydd y Swyddfa Gartref yn cadw rhestr o Gadeiryddion Annibynnol sydd wedi dilyn hyfforddiant pan nad oes system o’r fath ar gyfer ALlD?

A: At ddibenion y cynllun peilot, penderfynodd y Swyddfa Gartref recriwtio cronfa o Gadeiryddion Annibynnol ac i gadw’r rhestr hon yn ganolog. Ystyriwyd y buasai hyn yn ysgafnhau’r baich ar bartneriaid yn yr ardaloedd peilot ac yn osgoi’r rheidrwydd iddynt redeg eu hymgyrchoedd recriwtio eu hunain, ac ar yr un pryd helpu’r partneriaid adolygu i ddod o hyd i Gadeiryddion Annibynnol yn rhwydd petaent yn dymuno iddynt arwain a chynnal yr adolygiad.

Cyllido

C30: Pa gyllid sydd ar gael i ardaloedd lleol yn ystod cyfnod y cynllun peilot? Sut caiff hyn ei ddyrannu?

A: Cynhaliwyd ymchwil i gael amcangyfrif o gost cynnal ALlAY. Yr oedd hyn yn seiliedig ar fathau eraill o adolygiadau (gan nad oedd ALlAY eto wedi ei gyflwyno).

Yn nhermau lefel yr ariannu ar gyfer pob adolygiad, cafodd y rhain eu hamlinellu yn yr Asesiad effaith a gyhoeddwyd ar gyfer Deddf Heddlu, Trosedd a Dedfrydu 2022 (Asesiad Effaith (senedd.du)). Amcangyfrifir bod costau cyfartalog fesul OWHR yn £1,222 bob adolygiad fesul partner adolygu perthnasol (heddlu, awdurdodau lleol, byrddau gofal integredig a byrddau iechyd lleol) ac £8,688 ar gyfer y cadeirydd annibynnol. Cyfanswm cyfartaledd amcangyfrifedig cost uned OWHR yw £12,354.

Y Swyddfa Gartref fydd yn cwrdd â chostau hyfforddiant ALlAY a’r costau fesul adolygiad tra pery’r cynllun peilot, a hynny trwy grant. Cyhoeddwyd nodyn cyfoesi am amcangyfrif y costau i’r cynllun peilot cyfan Police, Crime, Sentencing and Courts Act 2022: overarching documents - GOV.UK (www.gov.uk). Mae’r Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i ganfod y ffordd fwyaf priodol a syml i’r cyllid hwn gyrraedd ardaloedd lleol sy’n cynnal adolygiadau.

C31: Pa gyllid fydd ar gael wedi’r cynllun peilot os cyflwynir ALlAY yn genedlaethol?

A: Caiff trefniadau cyllido os cyflwynir y polisi yn genedlaethol eu cadarnhau ar ôl y cynllun peilot. Fodd bynnag, rhan o’r gwersi o werthuso’r peilot fydd ystyried a yw costau cyfredol yr adolygiad yn gywir.

CC penodol i Gymru – Proses ADUS

C32: Sut dylai Cynlluniau Peilot ALlAY yn ne Cymru ddefnyddio Canllaw ALlAY a Chanllaw ADUS a’r templedi cysylltiedig?

A: Dylid cynnal ALlAY yn ne Cymru gan ddefnyddio proses a thempledi ADUS; fodd bynnag, dylid defnyddio canllaw ALlAY a chanllaw ADUS ar y cyd yn ystod y cynllun peilot er mwyn gwneud yn siwr fod pawb yn llawn ymwybodol o bwrpas, nod a gweithrediad yr ALlAY. Mae gan bartneriaid adolygu yng Nghymru ddyletswydd statudol i gadw mewn cof Ganllaw Statudol ALlAY.

C33: Os bydd lladdiad cymwys gydag arfau ymosodol yn digwydd yn ystod y cynllun peilot yn ne Cymru cyn cyhoeddi a gweithredu’r ADUS yn derfynol, sut y caiff y broses ei chyflwyno?

A: Mae Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gartref wedi cydweithio’n agos i sicrhau bod Canllaw Statudol ALlAY a Chanllaw Statudol ADUS yn gosod allan yn glir sut y cyflwynir lladdiadau cymwys gydag arfau ymosodol yn cael eu cyflwyno trwy broses ADUS. Defnyddir canllaw statudol, prosesau cysylltiedig a thempledi safonedig ADUS, hyd yn oed os nad ydynt eto’n gweithredu yn ffurfiol.

Gan y bydd proses ADUS yn cychwyn yng Nghymru ar ôl cynllun peilot ALlAY, darperir canllawiau ychwanegol i ardaloedd peilot i helpu gyda gweithredu yn ystod y cyfnod rhwng y ddau. Bydd Tîm ADUS, yr Hwb Cydgordio a’r Uned Atal Trais yn gweithio’n agos gyda’r ardaloedd peilot i sicrhau bod yr holl bartneriaid wedi eu briffio a’u cefnogi’n llawn yn ystod yr adolygiad.

C34: Beth yw rôl Byrddau Diogelu Rhanbarthol o ran ALlAY sy’n cael eu cyflwyno dan broses ADUS?

A: Bydd Byrddau Diogelu Rhanbarthol yn sefydlu ac yn goruchwylio cyflwyno ALlAY yng Nghymru sy’n rhan o’r broses Adolygiad Diogelu Unedig Sengl. Mae manylion rôl y BDRh mewn ALlAY ym mhennod 5 ‘Cyflwyno ALlAY yng Nghymru’, o ganllaw ALlAY. Hefyd, mae mwy o wybodaeth fanwl yn y drafft o ganllaw ADUS. Fel y gosodir allan ym mharagraff 5.12, gall y BDRh hefyd wahodd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) i ymwneud â’r broses os oes ganddynt arbenigedd penodol sy’n berthnasol i’r achos.

Math o adolygiad yw ALlAY y gellir ei ddal fel rhan o ADUS a dyma’r broses a ddilynir wrth gwblhau ALlAY. Mae’n bwysig nodi fod canllaw ALlAY a gyhoeddir gan y Swyddfa Gartref yn cydnabod proses ADUS ac y cynlluniwyd y ddwy set o ganllawiau i ategu ei gilydd.

C35: Beth yw rôl yr Uned Atal Trais yng nghyswllt ALlAY a gyflwynir yn ne Cymru yn ystod y cynllun peilot?

A: Uned fechan amlasiantaethol yw’r Uned Atal Trais sy’n cynnwys yr Heddlu, staff Iechyd Cyhoeddus a’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Mae’r Uned yn comisiynu nifero ymyriadau yn ne Cymru i atal trais. Mae’r Uned hefyd yn cynnal ymchwil a dadansoddiadau ar drais a’i achosion gwaelodol.

At y dyfodol a thra pery’r cynllun peilot, bydd yr Uned Atal Trais yn;

  • Parhau yn aelodau gweithredol o’r grŵp gorchwyl a gorffen.

  • Cefnogi cyfathrebu yng nghyswllt ALlAY. Mae hyn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o ALlAY yn ogystal â hyrwyddo gwersi allweddol o adolygiadau.

  • Defnyddio gwersi o ALlAY fel sail o wybodaeth i ymchwil a dadansoddi.

  • Defnyddio gwersi o Storfa Ddiogelu Cymru fel sail o wybodaeth i ymchwil a dadansoddi thematig.

  • Gwneud defnydd o wersi o adolygiadau i flaenoriaethu comisiynu ymyriadau

  • Bod yn sianel i ardaloedd UAT eraill, gan rannu gwersi a chynhyrchion thematig lle bo hynny’n briodol.

C36: Sut bydd cyflwyno canllaw ALlAY yn gweithio’n ymarferol wrth ddwyn USY i mewn i bennu cwmpas a chylch gorchwyl yr ADUS (ALlAY)?

A: Byddai USY yn chwarae rhan gychwynnol i bennu, gyda phartneriaid perthnasol yr adolygiad, pa unigolion, gan gynnwys y dioddefwr, troseddwr/wyr honedig ac unrhyw bobl â chysylltiad â’r farwolaeth ddylai gael eu cynnwys fel rhan o’r broses o gasglu gwybodaeth i’w drafod yn y Grŵp Adolygu Achos a atebwyd meini prawf ALlAY.

Yna, mater i Banel ADUS a’r adolygydd fydd pennu cwmpas a chylch gorchwyl yr adolygiad, gan gynnwys y llinellau amser.

C37: Beth yw rôl yr USY yng nghyswllt y Panel Adolygu yn yr ADUS (ALlAY)?

A: Nid oes disgwyl i’r USY ymwneud a’r broses adolygu ei hun, gan y byddai cynrychiolwyr a benodir i’r Panel Adolygu yn dod o’r asiantaethau hynny sy’n ymwneud a’r achos. Fodd bynnag, bydd gan yr USY gyswllt ar rai pwyntiau yn y broses, er enghraifft, gyda phartneriaid perthnasol yr adolygiad a’r Grŵp Adolygu Achos fel rhan o’r broses o gasglu gwybodaeth er mwyn pennu a yw’r lladdiad yn ateb y meini prawf am ALlAY, ac wrth gasglu gwybodaeth i gytuno gyda’r Grŵp Adolygu Achos a phartneriaid perthnasol yr adolygiad ynghylch pa unigolion ddylai gael eu cynnwys fel rhan o’r adolygiad.

Byddai cyfathrebu’n digwydd hefyd rhwng yr USY a’r adolygydd annibynnol /partneriaid perthnasol yr adolygiad ar bwyntiau perthnasol proses yr ADUS gan gynnwys pan fydd yr adolygydd yn cynllunio ymwneud â’r teulu/cyfeillion neu wrth roi cynnwys yr adroddiad ar ei ffurf derfynol. Fodd bynnag, gall hyn fod ar amser/fformat sy’n gyfleus i bawb.

C38: Faint o laddiadau y flwyddyn fyddai wedi arwain at ALlAY yn ne Cymru?

A: Ers 2018, yr oedd nifer y lladdiadau fyddai wedi ffitio’r meini prawf am Adolygiad Lladd gydag Arfau Ymosodol rhwng dim a phump y flwyddyn ar draws ardal de Cymru gyfan. O ran y cyd-destun, mae lladd gydag arfau ymosodol yn gyfran fawr a chynyddol o bob achos o ladd – awgryma dadansoddiad 347 o 696 laddiadau yng Nghymru a Lloegr yn 2021/22. O’r 696 trosedd a gofnodwyd i ddechrau fel lladdiadau yn 2021/22, yr ydym yn amcangyfrif nad oedd 483 yn ateb y meini prawf am adolygiad oedd yn bod eisoes, a bod 220 o’r lladdiadau nas adolygwyd yn achos gydag arf ymosodol.

C39: A fydd adolygiadau a gynhelir yn ne Cymru yn ystod y cynllun peilot yn cael eu cynnwys yng ngwerthusiad y peilot?

A: Bydd ardaloedd penodol o Orllewin Canolbarth Lloegr a Llundain yn cymryd rhan yn y cynllun peilot ochr yn ochr ag ardal heddlu De Cymru. Er bod gan y ddwy ardal hon lefelau sylweddol uwch o laddiadau a’i bod fell yn debygol y byddant yn cynnal mwy o ALlAY yn ystod y cynllun peilot, ystyrir De Cymru er hynny yn bartner cyfartal. Oherwydd bod tirwedd partneriaid Cymru yn unigryw o ran cyfrifoldebau datganoledig, strwythur partneriaethau ac ADUS, caiff profiad De Cymru ei ystyried ar bob cam o’r peilot.

Dewiswyd ardaloedd cynllun peilot ALlAY er mwyn gwneud yn siwr ein bod yn rhoi prawf ar adolygiadau yng Nghymru a Lloegr fel ei gilydd, ac mewn ardaloedd gyda phroffiliau gwahanol o ladd a thrais difrifol. Bydd gwerthuso’r cynllun peilot ALlAY yn edrych ar y modd y gweithiodd y broses mewn ardaloedd gyda lefelau uchel ac isel o adolygiadau, gan y bydd yn rhoi golwg werthfawr y gellir ei gymhwyso pan gyflwynir y polisi ar draws Cymru a Lloegr. Mae gwerthuso’r peilot yn werthusiad o broses, felly ni fydd yn canolbwyntio ar swm yr adolygiadau.

10: Atodiadau

Atodiad 1: Templed cwestiynau cwmpasu ALlAY a thempled cwestiynau ymchwiliadol at ddibenion casglu gwybodaeth gyda phartneriaid priodol

Pwrpas

Mae dwy ran i’r ddogfen hon, Rhan A:Templed Cwestiynau Cwmpasu a Rhan B: Templed Cwestiynau Ymchwiliadol. Pwrpas Rhan A yw rhoi gwybodaeth am yr unigolyn/ion /s (dioddefwr a/neu droseddwr/wyr honedig), i bartneriaid perthnasol yr adolygiad i’w galluogi i bennu a ddylid comisiynu’r ALlAY neu beidio. Bydd partneriaid perthnasol yr adolygiad (wedi i’r USY gytuno), yn pennu pa unigolyn/ion i’w cynnwys yn eu cais ffurfiol am wybodaeth. Pwrpas Rhan B yw casglu gwybodaeth fwy manwl, annog ymarferwyr a sefydliadau i fod yn broffesiynol chwilfrydig, a thrwy hynny annog dysgu yn sgil trasiedi’r lladd.

Ffeamiau amser

Dylai Rhan A gael ei gwblhau gan y partneriaid priodol a’i ddychwelyd at bartneriaid perthnasol yr adolygiad o fewn y fframiau amser a fynnir. Noder: mae partneriaid perthnasol yr adolygiad dan reidrwydd cyfreithiol i roi penderfyniad am yr adolygiad ymhen mis o ddod yn ymwybodol o’r amgylchiadau cymhwyso tebygol am ALlAY. Oherwydd hyn, bydd y fframiau amser yn fyr gan fod angen caniatáu digon o amser i’r wybodaeth gael ei dderbyn, i benderfyniad gael ei wneud yn lleol ac i’r hysbysiad gael ei anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol. Cyfrifoldeb partneriaid perthnasol yr adolygiad yw gwneud y terfyn amser am ddychwelyd atebion yn glir a phendant wrth ddarparu’r ffurflen hon.

Dylai Rhan B gael ei llenwi gan y partneriaid priodol pan geir cais, a’i dychwelyd at bartneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol neu gadeirydd annibynnol (fel sy’n berthnasol). Ceisir y wybodaeth ychwanegol hon os bydd yr ALlAY yn cael ei gomisiynu ac i helpu i osod cwmpas a chylch gorchwyl yr adolygiad. Os felly, gall y Templed Cwestiynau Ymchwiliadol gael ei gefnogi gan fwy o ddogfennau cwmpasu a gall y sawl sy’n gofyn roi mwy o fanylion. Bydd natur y dogfennau hyn yn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos unigol; ond dylent o leiaf nodi pa unigolyn/ion (dioddefwr, a/neu droseddwr/wyr honedig /sydd i’w cynnwys yn y cais am wybodaeth, yn ogystal â chanllaw i’r cyfnod o amser y gofynnir i bartner chwilio’n ôl yn eu cofnodion er mwyn nodi gwybodaeth i ateb y cais.

Rhan A: Templed o gwestiynau cwmpasu

Trosolwg

Mae Rhan A yn cynnwys awgrym o gwestiynau fel y gall partneriaid perthnasol yr adolygiad benderfynu a atebwyd yr amodau a osodir allan yn adran 24(1) a 24(6) y Ddeddf, yn ogystal â’r rheoliadau sy’n mynd gyda hwy, a daniwyd y trothwy ar gyfer adolygiad (gweler pennod 1) ac os felly, pa bartneriaid sy’n debygol o gael cais i gyfrannu at yr adolygiad hwnnw.

Fel y gosodir allan ym mharagraff 2.15(e), bydd y broses hon yn galluogi partneriaid perthnasol yr adolygiad i gasglu ffeithiau am yr achos, i’r graddau y gellir eu canfod yn rhwydd ar y pryd, trwy wirio eu cofnodion eu hunain fel partneriaid perthnasol yr adolygiad (yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth neu lle’r oedd yn debygol o fod wedi digwydd, neu lle canfuwyd y corff neu ran o’r corff gyntaf, gweler paragraffau 1.12 - 1.17). Byddant hefyd yn cysylltu â’r holl gyrff priodol ac yn gofyn iddynt gynhyrchu trosolwg byr o’u hymwneud â’r dioddefwr a’r troseddwr/wyr honedig, (fel y cytunwyd gyda’r USY). Yn ychwanegol at wybodaeth a ddelir gan bartneriaid perthnasol yr adolygiad, dylid gofyn hefyd am wybodaeth gan bartneriaid adolygu (heddlu, awdurdodau lleol, ICB/BILl) o’r ardaloedd lle’r oedd y dioddefwr/troseddwr/wyr honedig yn byw neu lle buont yn byw o’r blaen, gan fod hyn yn debygol o fod yn allweddol o ran cadarnhau a yw marwolaeth yn farwolaeth gymwys ai peidio. Dylid gwneud ymdrech arbennig i gael y wybodaeth berthnasol gan y partneriaid hyn o fewn y terfyn amser o un mis.

I grynhoi, gallai hyn gynnwys gwybodaeth am ffeithiau sylfaenol yr achos, megis:

  • a ddigwyddodd y farwolaeth yng Nghymru neu yn Lloegr;

  • a oedd y dioddefwr dros 18 oed

  • a oedd defnydd o arf ymosodol yn rhan o’r farwolaeth neu ddigwyddiadau yn ei gylch

  • a ddaethpwyd o hyd i’r corff, neu ran o’r corff

  • a gofnodwyd pwy oedd naill ai’r dioddefwr neu droseddwr/wyr honedig

  • a oes modd cadarnhau nad oedd y farwolaeth yn farwolaeth a achoswyd gan swyddog o’r heddlu wrth gyflawni ei ddyletswyddau swyddogol.

Hefyd, mae angen manylion i gadarnhau fod gan un neu fwy o’r partneriaid adolygu wybodaeth am y dioddefwr neu o leiaf am y troseddwr/wyr honedig, neu y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt fod â gwybodaeth amdano/ŷnt. Byddai ‘gwybodaeth’ yn golygu gwybodaeth fod risg y gallai’r person gyflawni neu ddioddef ymddygiad troseddol neu wrthgymdeithasol, ac y mae’r cyfryw wybodaeth yn cynnwys gwybodaeth ynghylch addysg, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddol, tai, hanes meddygol, iechyd meddwl, a diogelu person, ac nid yw’n cynnwys gwybodaeth a ddaeth yn hysbys i bartner adolygu yn unig ar ôl marwolaeth y person. Gweler pennod 1 am fwy o fanylion.

Mae’r cais Rhan A hwn yn galluogi casglu gwybodaeth am yr hyn oedd yn hysbys i’r partneriaid adolygu oedd mewn cysylltiad â’r unigolyn/ion a gynhwysir yn y cais am wybodaeth, cyn i’r lladd ddigwydd.

Nod y cwestiynau yw ceisio deall yn well sut yr oedd yr unigolyn/ion yn ymwneud â gwasanaethau, ar ba adegau, a fu cyswllt blaenorol rhyngddynt, ac a oes unrhyw wybodaeth bwysig bellach y dylai partneriaid perthnasol yr adolygiad fod yn ymwybodol ohono wrth wneud eu penderfyniad am gomisiynu.

I’w cwblhau a’u dychwelyd at bartneriaid perthnasol yr adolygiad ymhen yr amser y gofynnwyd amdanynt. Dylid nodi’r unigolyn/ion (dioddefwr, a/neu droseddwr/wyr honedig) sydd i’w cynnwys yn y cais hwn yn y cais ffurfiol am wybodaeth.

Mae Adran 29(1) y Ddeddf yn cynnwys pŵer y gall partner adolygu perthnasol ddefnyddio i fynnu gwybodaeth gan berson at bwrpas adolygiad, lle mae swyddogaethau neu weithgareddau’r person hwnnw yn ei gwneud yn debygol y bydd ganddi/o wybodaeth fyddai’n cynorthwyo neu’n galluogi’r adolygiad. Rhaid cydymffurfio â chais o’r fath, yn amodol ar ddarpariaethau yn adran 30 y Ddeddf. Hefyd, mae adran 29(7) yn caniatau i bartneriaid adolygu rannu gwybodaeth gyda phartner adolygu arall at ddibenion yr adolygiad. Mae mwy o fanylion a chanllawiau am rannu gwybodaeth ym mhennod 6.

Cais am wybodaeth

Yn yr adran hon, gofynnir i chi esbonio sut yr oedd eich sefydliad yn ymwneud â’r unigolyn/ion, ac os nad oedd yn ymwneud, i roi mwy o wybodaeth ynghylch pam na ddigwyddodd hynny/nad oedd yn berthnasol gwneud. Hefyd, gofynnir i chi roi cronoleg fer o ymwneud eich sefydliad gyda’r unigolyn/ion. Awgrymir darparu’r isod:

Tudalen deitl

a. Rhif cyfeirio lleol (gan gynnwys priflythrennau ardal llu’r heddlu)

b. Nodi pwy yw’r unioglyn/ion dan sylw yn y templed hwn

c. Dyddiad y farwolaeth a ystyrir ar gyfer ALlAY

d. Enw eich sefydliad, lleoliad, a’r ymarferwr arweiniol sy’n cwblhau’r templed hwn

e. Dyddiad cyflwyno Rhan A – Angen nodi dim

Cronolegau a natur ymwneud â phartneriaid

Llenwch yr adran isod ar sail eich ymwneud â’r unigolyn/ion a gynhwysir yn y cais hwn am wybodaeth. Llenwch gofnod ar wahân ar gyfer pob un o’r unigolion a nodwyd.

Ymwneud yr unigolyn â’ch sefydliad

a. Esboniwch sut yr oedd y sefydliad yn ymwneud â’r unigolyn. Os nad oedd y sefydliad mewn cysylltiad â’r unigolyn, rhowch fwy o wybodaeth ynghylch pam na ddigwyddodd hynny/na allasai fod yn berthnasol gwneud.

b. Os yw hyn yn gymwys, sut y daeth yr unigolyn i gysylltiad â’r sefydliad? Ai cyfeirio gan wasanaeth/sefydliad arall, neu gan gyfeillion/teulu ynteu ai cyfeirio ei hun a wnaeth?

c. Rhowch gronoleg fer sy’n olrhain ymwneud y sefydliad â’r unigolyn. A fyddwch cystal â chynnwys manylion am natur y gwasanaeth a ddarparwyd a chan bwy, lefel yr ymwneud a chyfeirio ffurfiol neu anffurfiol at wasanaethau eraill.

d. Os oes gennych unrhyw wybodaeth gychwynnol am natur y berthynas rhwng yr unigolyn/ion, a fedrwch roi amlinelliad byr o hyn?

Gwybodaeth hysbys i’ch sefydliad

a. Os yw hyn yn gymwys, rhowch grynodeb o’r wybodaeth sy’n hysbys i’ch sefydliad am yr unigolyn.

b. Rhowch unrhyw ffeithiau neu wybodaeth berthnasol arall am yr unigolyn, yn ychwanegol at unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol i’r achos hwn.

c. Lle bo modd, rhannwch unrhyw ddogfennaeth berthnasol sy’n ymwneud â’r unigolyn.

Rhan B: Templed cwestiynau ymchwiliadol

I’w gwblhau ar gais, os digwydd i’r Adolygiad Lladd gydag Arfau Ymosodol (ALlAY) gael ei gomisiynu, i helpu i osod cwmpas a chylch gorchwyl yr adolygiad. Dylai’r templed hwn gael ei gefnogi gan fwy o ddogfennau cwmpasu a manylion a ddarperir naill ai gan bartneriaid perthnasol yr adolygiad, asiantaeth arweiniol neu gadeirydd annibynnol. Bydd natur y dogfennau hyn yn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau unigol yr achos, ond fe ddylent o leiaf nodi pa unigolyn/ion (dioddefwr, a/neu droseddwr/wyr honedig) sydd i’w cynnwys yn y cais am wybodaeth, yn ogystal â chanllaw i’r cyfnod o amser y gofynnir i bartner chwilio’n ôl yn eu cofnodion i adnabod gwybodaeth i gyflawni’r cais.

Trosolwg

Mae Rhan B yn cynnwys rhestr o gwestiynau a argymhellir y dylai partneriaid anelu at ymdrin â hwy yn eu hymateb. Bydd y templed yn rhoi i bartneriaid perthnasol yr adolygiad fwy o wybodaeth i’w galluogi i gyflawni ALlAY cadarn, ymchwiliadol a heriol.

Bwriad Rhan B yw annog sefydliadau ac ymarferwyr i fod yn broffesiynol chwilfrydig am y digwyddiadau a arweiniodd at y lladd. Yn bwysig iawn, ni fwriadwyd i’r cwestiynau ganoli ar ymddygiad unigolion na sefydliadau, na thaflu bai. Nid unig fwriad y cwestiynau chwaith yw gwerthuso a ddilynwyd gweithdrefnau a pholisïau ai peidio. Mae’r pwyslais yn hytrach ar holi a oedd y polisïau a’r gweithdrefnau oedd ar gael yn caniatau ymyriadau effeithiol, gan weithio gyda phartneriaid/cyrff lleol lle’r oedd angen.

Mae’r cwestiynau ymchwiliadol yn y templed hwn yn ceisio deall a yw’r polisi a’r weithdrefn bresennol yn gweithio er lles dioddefwyr a throseddwr/wyr honedig posib trwy holi a oes unrhyw wersi i’w dysgu o’r achos? Hefyd, a ddylid gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i bolisïau a gweithdrefnau er mwyn gwella deilliannau yn y dyfodol ac atal lladd gydag arfau ymosodol rhag digwydd? Er enghraifft, a allai addasiad i bolisi neu weithdrefn fod wedi diogelu a chefnogi’r dioddefwr a/neu droseddwr/wyr honedig yn well?

Trwy fabwysiadu’r meddylfryd hwn o herio, mae modd dod o hyd i atebion priodol i wella diogelu a’r gefnogaeth a gynigir i bobl fregus sydd mewn perygl o ddod yn ddioddefwyr neu gyflawnwyr lladd gydag arfau ymosodol. Mae hyn yn asio gyda phwrpas cyffredinol ALlAY, sef gwella dealltwriaeth genedlaethol a lleol o’r hyn sy’n achosi lladdiadau a thrais difrifol, a gwneud gwasanaethau yn fwy abl i atal lladdiadau gydag arfau, ac arbed bywydau trwy hynny.

I’w cwblhau a’u dychwelyd at bartneriaid perthnasol yr adolygiad ymhen yr amser y gofynnwyd amdanynt. Dylid nodi’r unigolyn/ion (dioddefwr, a/neu droseddwr/wyr honedig) sydd i’w cynnwys yn y cais hwn yn y cais ffurfiol am wybodaeth.

Mae Adran 29(1) y Ddeddf yn cynnwys pŵer y gall partner adolygu perthnasol ddefnyddio i fynnu gwybodaeth gan berson at bwrpas adolygiad, lle mae swyddogaethau neu weithgareddau’r person hwnnw yn ei gwneud yn debygol y bydd ganddi/o wybodaeth fyddai’n cynorthwyo neu’n galluogi’r adolygiad. Rhaid cydymffurfio â chais o’r fath, yn amodol ar ddarpariaethau yn adran 30 y Ddeddf. Hefyd, mae adran 29(7) yn caniatau i bartneriaid adolygu rannu gwybodaeth gyda phartner adolygu arall at ddibenion yr adolygiad. Mae mwy o fanylion a chanllawiau am rannu gwybodaeth ym mhennod 6.

Cais am wybodaeth

Tudalen deitl

a. Rhif cyfeirio lleol (gan gynnwys priflythrennau ardal llu’r heddlu)

b. Nodi pwy yw’r unioglyn/ion dan sylw yn y templed hwn

c. Dyddiad y farwolaeth a ystyrir ar gyfer ALlAY

d. Enw eich sefydliad, lleoliad, a’r ymarferwr arweiniol sy’n cwblhau’r templed hwn

e. Dyddiad cyflwyno Rhan B – Angen nodi dim

I ymarferwyr mewn cysylltiad ag unigolyn/ion sy’n destun yr adolygiad

Llenwch yr adran isod ar sail eich ymwneud â’r unigolyn/ion a gynhwysir yn y cais hwn am wybodaeth. Llenwch gofnod ar wahân ar gyfer pob un o’r unigolion a nodwyd.

1. Cyfeirio ac asesu

a. Sut daeth yr unigolyn i gysylltiad â’ch gwasanaeth? A wnaeth yr unigolyn gyfeirio ei hun, neu a gafodd ei g/chyfeirio gan wasanaeth arall, neu deulu/cyfeillion?

b. Sut yr aseswyd yr unigolyn gan eich gwasanaeth? Pwy oedd yn rhan o’r asesu hwn?

c. A gymerodd yr ymarferwyr gamau unwaith i’r asesu ddigwydd ac i unrhyw benderfyniadau perthnasol gael eu cymryd ynghylch yr unigolyn? Oedd yr ymarferwyr yn glir am ba gamau y dylent gymryd ac at ba wasanaethau y dylent gyfeirio?

d. Oedd gan y sefydliad bolisïau, meini prawf asesu a gweithdrefnau ar waith i ddelio â phryderon am ymddygiad treisgar a natur fregus? A ddefnyddiwyd y polisiau, asesiadau a gweithdrefnau hyn?

e. Oedd ymarferwyr yn gwybod am arwyddion posib trais neu natur fregus bosib yr unigolyn? Os felly, oedd yr ymarferwyr yn ymwybodol o sut i weithredu petai ganddynt bryderon?

f. Oedd ymarferwyr yn ymwybodol y bu gan yr unigolyn arf yn ei feddiant ar unrhyw bwynt cyn i’r lladd ddigwydd?

g. Beth oedd y cyfleoedd allweddol ar gyfer asesu a gwneud penderfyniadau yng nghyswllt yr unigolyn cyn y lladd? A yw’n ymddangos fel petae’r ymarferwyr wedi manteisio ar y cyfleoedd hyn i asesu a gwneud penderfyniadau?

h. A yw ymarferwyr yn teimlo y collwyd unrhyw gyfleoedd i asesu a gwneud penderfyniadau? Os felly, pryd?

2. Gwasanaethau a gynigiwyd

a. Pa wasanaethau a ddarperir gan eich sefydliad a gyrchwyd gan yr unigolyn?

b. A gyrchodd yr unigolyn yr holl wasanaethau perthnasol mae eich sefydliad yn ei ddarparu? Esboniwch y gwasanaethau y cyrchodd yr unigolyn. Os oes gwasanaethau perthnasol na chyrchwyd gan yr unigolyn, esboniwch pam.

c. A wnaeth eich sefydliad gyfeiriad ffurfiol at wasanaeth arall i’r unigolyn?

d. Hyd y gwyddoch, a oedd yr unigolyn yn cyrchu unrhyw wasanaethau eraill?

e. Hyd y gwyddoch, a oedd yr unigolyn mewn cysylltiad â nifer o ymarferwyr? Os felly, ydych chi’n tybio y gallasai’r unigolyn fod wedi elwa o gael un person i’w gefnogi?

f. Pa mor hygyrch oedd y gwasanaethau perthnasol y gwnaethoch ddarparu i’r unigolyn?

g. A yw ymarferwyr yn teimlo bod eich sefydliad wedi darparu gwasanaethau perthnasol i’r unigolyn? Allasai eich sefydliad fod wedi darparu unrhyw wasanaethau ychwanegol i’r unigolyn? Os felly, beth fuasent?

h. Sut yr oedd y sefydliad ac ymarferwyr yn sensitif i ryngadranoldeb, bregusrwydd ychwanegol a nodweddion gwarchodedig yr unigolyn?

3. Deilliannau ac allbynnau

a. Beth oedd deilliant yr asesiad cychwynnol a wnaed gan eich sefydliad?

b. Oedd yr ymarferwyr yn fodlon â’r deilliant hwn? Esboniwch.

c. Os cyfeiriwyd yr unigolyn wedi hynny at sefydliad neu wasanaeth arall, a ydych yn ymwybodol o ddeilliant y cyfeirio hwn? Rhowch fanylion.

d. A wnaeth eich sefydliad fonitro ac archwilio’r deilliannau a’r allbynnau cysylltiedig â’r unigolyn yn yr achos hwn? Rhowch fanylion.

e. A oes gan eich sefydliad ddull o fonitro ac archwilio’r deilliannau? Rhowch fanylion.

f. A yw ymarferwyr yn teimlo bod y broses fonitro hon yn effeithiol yn ymarferol? Esboniwch ym mha ffyrdd, gan gyfeirio at yr achos hwn a phrofiad y gorffennol lle bo hynny’n gymwys.

g. A allasai addasiad mewn polisi, asesu neu weithdrefn fod wedi cael gwell deilliant i’r unigolyn? Os felly, rhowch fanylion o’r addasiadau y buasech chi’n eu hawgrymu.

4. Rhannu gwybodaeth

a. A rannodd y sefydliad wybodaeth gyda phartneriaid eraill pan oedd angen?

b. A oedd unrhyw heriau o ran rhannu data a gwybodaeth rhwng partneriaid yn yr achos hwn?

c. A allai addasiad yn yr agwedd at rannu gwybodaeth â phartneriaid fod wedi gwella’r deilliant yn yr achos hwn?

d. A oes angen unrhyw newidiadau i agwedd eich sefydliad neu’r system gyfan at rannu gwybodaeth er mwyn cael gwell deilliannau i unigolion yn y dyfodol?

5. Gwersi posib

a. Pa enghreifftiau o arferion gorau a gwersi sydd i’w dysgu o’r achos hwn am y ffordd y mae eich sefydliad ac ymarferwyr yn adnabod, asesu a rheoli’r risgiau a ddaw o du unigolion?

b. Ym mha ffyrdd y mae modd gwella polisiau, asesiadau a gweithdrefnau er mwyn diogelu unigolion yn fwy effeithiol yn y dyfodol? Ystyriwch newidiadau yn eich sefydliad, mewn sefydliadau eraill a ledled y system.

c. A oedd unrhyw wersi neu enghreifftiau o arferion gorau i’w dysgu/rhannu gan y system gyfan o’r achos hwn? Esboniwch.

d. Petaech yn mynd trwy’r siwrne hon gyda’r unigolyn eto, pa newidiadau hoffech chi eu gweld? Gall y newidiadau hyn fod yn berthnasol i’r gwasanaeth a ddarparodd eich sefydliad, neu fe allant fod yn gymwys i’r system gyfan.

Dogfennaeth berthnasol

Rhannwch unrhyw ddogfennaeth berthnasol sy’n ymwneud â’r dioddefwr a/neu droseddwr honedig a/neu bobl eraill cysylltiedig â’r farwolaeth.

Atodiad 2: Templed hysbysu am broses ALlAY

Trosolwg o broses a phwrpas hysbysu am ALlAY

Mae Adran 27 Deddf yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (“y Ddeddf”) yn mynnu bod partneriaid perthnasol yr adolygiad yn hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch a fydd Adolygiad Lladd gydag Arfau Ymosodol (ALlAY) yn digwydd. Rhaid cynnal hwn ymhen un mis iddynt ddod yn ymwybodol o ffeithiau sy’n ei gwneud yn debygol fod lladd cymwys wedi digwydd. Mae’r amgylchiadau sy’n cymhwyso wedi eu gosod allan yn adran 24(1) a 24(6) y Ddeddf yn ogystal â Rheoliadau Deddf yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol) 2022 (‘Rheoliadau ALlAY 2022’). Mae canllaw ym mharagraffau 1.3 - 1.11 dogfen ganllaw statudol ALlAY.

Os bydd y farwolaeth yn gymwys am ALlAY, dywed y Ddeddf mai’r partner /iaid adolygu perthnasol sy’n gyfrifol am drefnu a chynnal yr adolygiad, oni ddirprwyir y gofyniad hwn i un ohonynt hwy neu rywun arall, h.y., cadeirydd annibynnol (gweler paragraffau 3.14 – 3.19). Nodir partneriaid perthnasol yr adolygiad gan y meini prawf a osodir allan yn adran 25 y Ddeddf a Rheoliadau ALlAY 2022. Mae canllaw ym mharagraffau 1.12 – 1.17 dogfen ganllaw statudol ALlAY.

Ffrâm amser hysbysu am ALlAY

Unwaith i bartneriaid perthnasol yr adolygiad ddod yn ymwybodol o amgylchiadau cymwys marwolaeth, bydd y cyfnod hysbysu yn dechrau. Mae’r cyfnod hysbysu yn para un mis ar y mwyaf o’r dyddiad y deuant yn ymwybodol o’r amgylchiadau cymwys. Lle mae holl bartneriaid perthnasol yr adolygiad yn cytuno, gallant i gyd lofnodi’r un llythyr hysbysu, a gall y broses hon hefyd gael ei chefnogi gan eu proses leol o oruchwylio; fodd bynnag, dylid rhoi ystyriaeth i’r cyfnod hysbysu o un mis, gan ei bod yn debygol y bydd hwn yn cychwyn yn gynt i rai o bartneriaid perthnasol yr adolygiad nac i eraill, fel y gwelir ym mharagraff 2.21 y canllaw. Gan ei bod yn ofyniad ar bartneriaid perthnasol yr adolygiad i roi hysbysiad i’r Ysgrifennydd Gwladol ymhen y cyfnod hwnnw o un mis, erys yn gyfrifoldeb partneriaid perthnasol unigol yr adolygiad i sicrhau ei fod yn cael ei anfon yn ôl y gofyn. Argymhellir hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol cyn gynted ag y daw partneriaid perthnasol yr adolygiad i benderfyniad fel y gall proses yr ALlAY fwrw ymlaen yn amserol.

Ar gyfer pob ALlAY yng Nghymru dan broses ADUS, byddwn yn gofyn i bob hysbysiad gael ei anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol ac at Brif Weinidog Cymru.

Cwblhewch a llenwch y templed a ganlyn ymhen un mis o ddod yn ymwybodol o’r amgylchiadau sy’n cymhwyso.

Templed hysbysu am ALlAY

1. Manylion adnabod

Sylwch y gall partneriaid adolygu gytuno i gyd-lofnodi’r un llythyr hysbysu. Os felly, rhestrwch enwau’r holl bartneriaid mewn ymateb i (d).

a. Rhif cyfeirio lleol (gan gynnwys priflythrennau ardal y llu heddlu)

b. Person/au dan ystyriaeth yn yr hysbysiad hwn - (ni ddylid cynnwys enw troseddwr honedig cyn cyhuddo, dim ond rhoi cadarnhad os disgwylir cynnwys troseddwr honedig yn nes ymlaen.)

c. Dyddiad y farwolaeth dan ystyriaeth am ALlAY

d. Dyddiad cyflwyno’r llythyr hysbysu hwn

e. Enw eich sefydliad, lleoliad, a’r ymarferwr arweiniol sy’n cwblhau’r templed hwn.

2. Y broses hysbysu

Hysbysu am ddyletswydd i drefnu adolygiad

Fel partner/iaid adolygu perthnasol, mae rheidrwydd arnoch i benderfynu ar un o’r camau a ganlyn. Dewiswch pa opsiwn y cerwch hysbysu i’r Ysgrifennydd Gwladol (a Phrif Weinidog Cymru lle bo hynny’n berthnasol).

a. eich bod chi, y partner/iaid adolygu perthnasol dan ddyletswydd i drefnu adolygiad o farwolaeth y person, fel y gosodir allan yn adran 24 Deddf yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (‘y Ddeddf’). Esboniwch y rhesymau dros y penderfyniad, gan gyfeirio at y meini prawf cymhwyso, yn y blwch testun rhydd isod.

b. nad ydych chi, y partner/iaid adolygu perthnasol, dan ddyletswydd i drefnu adolygiad o farwolaeth y person, fel y gosodir allan yn adran 24 y Ddeddf, am nad yw’r farwolaeth yn ateb y meini prawf cymhwyso. Esboniwch y rhesymau dros y penderfyniad, gan gyfeirio at y meini prawf cymhwyso, yn y blwch testun rhydd isod.

c. nad ydych chi, y partner/iaid adolygu, dan ddyletswydd i drefnu adolygiad o farwolaeth y person, fel y gosodir allan yn adran 24 y Ddeddf, oherwydd nad ydych yn bartner adolygu perthnasol. Esboniwch y rhesymau dros y penderfyniad, gan gyfeirio at y diffiniad o bartner adolygu perthnasol, yn y blwch testun rhydd isod

d. nad ydych chi, y partner/iaid perthnasol yr adolygiad, wedi gall gwneud penderfyniad ar y mater. Esboniwch y rhesymau dros yr oedi, gan gynnwys unrhyw ffactorau sy’n eich gwahardd rhag gwneud penderfyniad, a ffrâm amser i’r penderfyniad gael ei wneud, yn y blwch testun rhydd isod.

Petaech wedi dewis opsiwn d, rhaid gwneud hysbysiad pellach i’r Ysgrifennydd Gwladol (a Phrif Weinidog Cymru lle bo hynny’n berthnasol) yn cadarnhau’r penderfyniad unwaith iddo gael ei wneud.

Wrth lenwi’r blychau esboniad ychwanegol, ‘does dim disgwyl cynnwys gwybodaeth bersonol fanwl, y tu hwnt i’r hyn y gofynnir amdano ar dudalen gyntaf yr hysbysiad. Dylid cwblhau crynodeb (yn unig) a phob ateb gan gadw deddfwriaeth diogelu data berthnasol mewn cof. Dylid neilltuo rhif cyfeirio lleol (sy’n cynnwys priflythrennau ardal y llu heddlu, er mwyn gallu cyfeirio’n rhwydd yn lleol ac mewn trafodaethau gyda’r Swyddfa Gartref/ Bwrdd Goruchwylio lle bo angen, gan osgoi rhannu gwybodaeth bersonol yn ddiangen.

Rhowch unrhyw esboniad ychwanegol neu dystiolaeth ategol dros eich penderfyniad.

Gofynion hysbysu eraill

Os digwydd i amgylchiadau newid, neu i wybodaeth newydd ddod i’r amlwg ar ôl cyflwyno’r llythyr hysbysu cychwynnol, mae adran 27 y Ddeddf yn gosod allan amgylchiadau eraill lle mae’n rhaid hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol. Os yw hyn yn gymwys, dewiswch pa opsiwn yr hoffech hysbysu i’r Ysgrifennydd Gwladol (a Phrif Weinidog Cymru lle bo hynny’n berthnasol).

a. eich bod chi, fel partner/iaid perthnasol yr adolygiad, wedi hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol/Prif Weinidog Cymru cyn hyn eich bod dan ddyletswydd i drefnu ALlAY, ond cyn i’r adolygiad gychwyn, eich bod wedi gwneud penderfyniad nad ydych mewn gwirionedd dan ddyletswydd, gweler adran 24(3) a (4) y Ddeddf. Esboniwch y sail dros y penderfyniad hwn yn y blwch testun rhydd isod.

b. eich bod chi, fel partner/iaid perthnasol yr adolygiad, wedi hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol/Prif Weinidog Cymru cyn hyn nad ydych dan ddyletswydd i drefnu ALlAY, ond wedi ymchwilio ymhellach, eich bod wedi penderfynu eich bod dan y ddyletswydd. Esboniwch y sail dros y penderfyniad hwn yn y blwch testun rhydd isod.

c. Rhoddwyd y gorau i ALlAY am nad atebwyd un o’r amodau yn adran 24(1)(a) i (c). Esboniwch pa amodau nas atebwyd a sut y casglwyd y wybodaeth hon.

Rhowch unrhyw esboniad ychwanegol neu dystiolaeth ategol dros eich penderfyniad.

Atodiad 3: Templedi i helpu ymwneud â theuluoedd/perthnasau agosaf

Atodiad 3(a) – Llythyr cychwynnol at y teulu i hysbysu am y penderfyniad i gynnal ALlAY

Awgrym o eiriad cychwynnol i’r llythyr cyntaf at y teulu. Dylid gwneud y llythyr terfynol yn bersonol i deulu’r dioddefwr, gan adlewyrchu amgylchiadau eu colled.

I adolygiadau a gynhelir yng Nghymru dan broses ADUS, mae mwy o ganllawiau a thempledi ym mhennod 6 canllaw ADUS[footnote 31], yn ogystal ag yn y pecyn cymorth a ddaw gyda’r canllaw[footnote 32].

[Cofiwch ychwanegu perthynas briodol derbynnydd y llythyr â’r dioddefwr yn y templed drwyddo draw – ar hyn o bryd, mae’n cyfeirio at y ‘teulu’]

Annwyl [RHOWCH ENW],

Yn gyntaf, hoffwn ymestyn fy nghydymdeimlad dwysaf i chi a’ch teulu ar golli [RHOWCH ENW’R DIODDEFWR].

Rwyf yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi fod penderfyniad wedi ei wneud i gynnal Adolygiad Lladd gydag Arfau Ymosodol gan y [RHOWCH BARTNER ADOLYGU PERTHNASOL/ASIANTAETH ARWEINIOL] yng nghyswllt eich [RHOWCH Y BERTHYNAS]. Rwy’n gwybod y gallwch chi a’ch teulu gael hwn yn llythyr anodd i’w dderbyn, ac yr ydym yn sylweddoli ac yn deall y gall esgor ar deimladau sy’n gysylltiedig â cholli eich [RHOWCH Y BERTHYNAS].

Cyflwynwyd Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol trwy Ddeddf yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 sy’n gosod rheidrwydd ar yr heddlu ac awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, byrddau gofal integredig yn Lloegr a byrddau iechyd lleol yng Nghymru i adolygu amgylchiadau rhai mathau o ladd lle’r oedd y dioddefwr yn 18 oed neu’n hŷn, a bod defnyddio arf ymosodol yn rhan o’r digwyddiadau, neu’n debygol o fod wedi bod yn rhan. Nid ymchwiliadau i’r farwolaeth yw ALlAY ac nid y bwriad yw nodi pwy oedd yn euog na chynnal unrhyw brosesau disgyblu. Nid ydynt chwaith yn rhan o unrhyw ymchwiliad troseddol na chamau cyfreithiol troseddol.

Mae’r adolygiadau ar hyn o bryd yn cael eu cynnal fel cynlluniau peilot mewn rhai ardaloedd yn Llundain, Gorllewin Canolbarth Lloegr a de Cymru cyn penderfynu a fyddant yn cael eu cyflwyno ledled Cymru a Lloegr gyfan. Bu farw [RHOWCH ENW’R DIODDEFWR] yn un o’r ardaloedd peilot hyn, a hoffwn eich sicrhau bod hyn yn ofyniad cyfreithiol sy’n gymwys i bob achos o ladd sydd yn ateb y meini prawf, ac nad yw’n cael ei gynnal oherwydd unrhyw bryderon nac amgylchiadau penodol i farwolaeth [RHOWCH Y BERTHYNAS].

Mae’r adolygiadau hyn yn galluogi’r holl bartneriaid lleol perthnasol i ddod ynghyd i ddatblygu dealltwriaeth am y cyd-destun ehangach a’r amgylchiadau ynghylch marwolaeth. Bydd y partneriaid a’r cyrff lleol hyn yn adolygu eu gwaith ac yn nodi unrhyw wersi, yn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau, neu wneud newidiadau i bolisïau neu arferion i helpu i atal achosion o ladd yn y dyfodol lle defnyddiwyd arfau ymosodol.

I fwrw ymlaen â’r adolygiad, penodwyd [RHOWCH GADEIRYDD ANNIBYNNOL / PARTNER ADOLYGU PERTHNASOL / ASIANTAETH ARWEINIOL] i oruchwylio’r adolygiad ac i gynhyrchu adroddiad sy’n gosod allan y canfyddiadau. Buasent yn croesawu’r cyfle i gyfarfod â chi yn bersonol er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi yn cael gwybod am y broses ac y gallwch gyfrannu at yr ALlAY petaech yn dymuno gwneud hynny. Mae cymryd rhan yn yr adolygiad yn wirfoddol, ac os cawsoch eiriolwr a’ch bod yn dymuno iddo ef/hi eich cynrychioli yn y cyfarfod, buasent yn hapus i drefnu hynny.

Gall cymryd rhan mewn adolygiad alluogi eich teulu i roi gwybodaeth i’r ALlAY trwy roi darlun mwy cyflawn o fywyd eich [RHOWCH Y BERTHYNAS]. Mae’n gyfle hefyd i’ch teulu gyfrannu at atal achosion eraill o ladd gydag arfau yn y dyfodol.

Mae gwybodaeth bellach am Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol a phroses yr adolygiad yn y daflen a atodir.

Os hoffech gyfarfod i drafod yr adolygiad, a fyddwch cystal â chysylltu â [XXX] ar [RHOWCH RIF FFÔN] neu [RHOWCH GYFEIRIAD E-BOST] i drefnu amser a lle sy’n gyfleus i chi. Wrth gwrs, gallwch ddod â rhywun gyda chi, fel aelod o’r teulu neu gyfaill i’ch cefnogi.

Yr eiddoch yn gywir,

[RHOWCH ENW]

Atodiad 3(b) – Taflen wybodaeth i aelodau’r teulu

Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol: Taflen wybodaeth i aelodau’r teulu

Beth yw Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol?

Cyflwynwyd Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol trwy Ddeddf yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (‘y Ddeddf’) ac y maent yn mynnu bod yr heddlu ac awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, byrddau gofal integredig yn Lloegr a byrddau iechyd lleol yng Nghymru i adolygu amgylchiadau rhai mathau o ladd lle’r oedd y dioddefwr yn 18 oed neu’n hŷn, a bod defnyddio arf ymosodol yn rhan o’r digwyddiadau, neu’n debygol o fod wedi bod yn rhan.

Mae’r adolygiadau hyn ar wahân i unrhyw ymchwiliadau troseddol neu gamau cyfreithiol troseddol, ac y maent yn ychwanegol at unrhyw gwest neu fath arall o ymholiad, os bydd yn gymwys.

Pwrpas Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol yw nodi unrhyw wersi y gellir eu dysgu yng nghyswllt y farwolaeth ac i ystyried a oes unrhyw gamau y dylid eu cymryd o ganlyniad, er mwyn cynorthwyo i atal achosion o ladd yn y dyfodol. Bydd yr adolygiad yn dwyn ynghyd yr holl bartneriaid lleol perthnasol i ddatblygu dealltwriaeth o’r cyd-destun ehangach a’r amgylchiadau ynghylch marwolaeth. Bydd y partneriaid a’r cyrff lleol hyn yn adolygu eu gwaith ac yn nodi unrhyw wersi, yn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau, neu wneud newidiadau i bolisiau neu arferion i helpu i atal achosion o ladd yn y dyfodol lle defnyddiwyd arfau ymosodol. Nid ymchwiliadau i’r farwolaeth yw’r adolygiadau, ac nid ydynt wedi eu bwriadu i ganfod pwy sydd yn euog na bod yn brosesau disgyblu.

Mae’r adolygiadau ar hyn o bryd yn cael eu cynnal fel cynlluniau peilot mewn rhai ardaloedd yn Llundain, Gorllewin Canolbarth Lloegr a de Cymru cyn penderfynu a fyddant yn cael eu cyflwyno ledled Cymru a Lloegr gyfan. Os gwneir penderfyniad i gynnal adolygiad, mae’n golygu bod y farwolaeth wedi digwydd yn un o’r ardaloedd peilot hyn, a bod y meini prawf wedi eu hateb sydd yn mynnu cwblhau adolygiad . Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol sy’n gymwys i bob achos o ladd sydd yn ateb y meini prawf, ac nad yw’n cael ei gynnal oherwydd unrhyw bryderon nac amgylchiadau penodol i farwolaeth.

Pwy fydd yn cynnal yr adolygiad?

Fel y gosodir allan yn y Ddeddf, a Rheoliadau Deddf yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol) 2022, partneriaid perthnasol yr adolygiad ar gyfer adolygiad yw’r heddlu, yr awdurdod lleol, bwrdd gofal integredig (yn Lloegr) neu’r bwrdd iechyd lleol (yng Nghymru) yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth. Daw’r partneriaid hyn ynghyd gyda’u proses leol o oruchwylio (naill ai’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd/Dirprwy Feiri dros Blismona a Throsedd, Uned Lleihau/Atal Trais neu’r Grŵp Adolygu Achos yng Nghymru), i ystyried ffeithiau’r achos a phennu a yw’r farwolaeth yn ateb y meini prawf ac a ddylai Adolygiad Lladd gydag Arfau Ymosodol ddigwydd. I symud ymlaen, bydd naill ai’r tri phartner adolygu (a elwir yn bartneriaid perthnasol yr adolygiad), asiantaeth arweiniol a ddewisir o blith partneriaid perthnasol yr adolygiad, neu gadeirydd annibynnol yn gyfrifol am gynnal yr adolygiad yn ogystal â chytuno ar gwmpas neu Gylch Gorchwyl yr adolygiad.

Eich ymwneud chi â’r adolygiad

Fel rhan o’r adolygiad, cynigir cyfle i aelodau teulu, cyfeillion a phobl eraill oedd yn adnabod y dioddefwr, a lle bo hynny’n briodol, y troseddwr/wyr honedig, i siarad â phartneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol neu’r cadeirydd annibynnol. Er bod yr adolygiad yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd gan bartneriaid a sefydliadau perthnasol yn yr ardal lle bu’r digwyddiad/lle’r oedd yr unigolion yn byw, bydd gwybodaeth gan aelodau’r teulu members, cyfeillion ac eraill yn help i roi darlun llawnach o fywydau’r unigolion. Gall teulu a chyfeillion helpu i roi cyd-destun ehangach a lefel o ddealltwriaeth o fywyd a phrofiadau unigolyn cyn y digwyddiad, a fyddai wedi mynd ar goll fel arall. Mae cymryd rhan yn yr adolygiad yn hollol wirfoddol, ond efallai y byddai aelodau’r teulu yn elwa o gael cyfle i’w lleisiau hwy a llais eu hanwylid.

Cymryd rhan yn yr adolygiad

Os dymunwch gymryd rhan yn yr adolygiad, bydd naill ai partneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol neu’r cadeirydd annibynnol yn cysylltu â chi. Byddant yn rhoi mwy o wybodaeth am bwrpas adolygiad, y broses a ddilynir a’r fframiau amser arfaethedig ar gyfer ei gwblhau, ac yna cewch chi wahoddiad i rannu eich meddyliau, atgofion a’ch safbwyntiau am unrhyw agwedd o’r drasiedi hon a’r cyfnod yn arwain i fyny ato.

Gallwch roi eich meddyliau a’ch barn mewn un o’r ffyrdd isod neu’r cyfan ohonynt:

  • yn ysgrifenedig neu trwy recordiad;

  • mewn sgwrs dros y ffôn;

  • cyfarfod wyneb yn wyneb gyda phartneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol neu gadeirydd annibynnol. Byddai’r cyfarfod hwn mewn lleoliad o’ch dewis chi, a fyddai dim gofyn i chi rannu eich meddyliau ar lw. Byddant yn gofyn cwestiynau i helpu’r drafodaeth, ac ni fydd y broses gyfan yn para mwy na rhai oriau neu mor hir ag y teimlwch chi y gallwch gymryd rhan.

Os nad ydych yn teimlo y gallwch gymryd rhan yn uniongyrchol yn yr adolygiad, gallwch awgrymu aelod arall o’r teulu neu ffrind i’ch cynrychioli yn y cyfarfod. Neu, os cawsoch eiriolwr, gallwch ofyn iddo ef/hi i’ch cynrychioli yn y cyfarfod.

Beth fydd yn digwydd i’r wybodaeth y byddwch yn ei rannu?

Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei rannu yn helpu i adeiladu llun cynhwysfawr o’r hyn a ddigwyddodd cyn y digwyddiad, a bydd hyn yn ei dro yn helpu i nodi unrhyw wersi ac a oes angen ystyried unrhyw newidiadau i bolisiau neu arferion i helpu i atal achosion yn y dyfodol o ladd gydag arfau ymosodol. Byddai unrhyw argymhellion yn cael eu rhoi mewn cynllun gweithredu.

Bydd eich cyfraniad yn gyfrinachol, ac ni fyddwch yn cael eich enwi yn adroddiad yr adolygiad. Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn cael ei ddiogelu a’i ddal yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU. Caiff ei gadw’n ddiogel gan bartneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol/cadeirydd annibynnol. Dan rai amgylchiadau, fe all gael ei rannu dan Ddeddf Trefniadau Troseddol ac Ymchwiliadau 1996 os tybir ei fod yn berthnasol i’r ymchwiliad neu’r camau troseddol.

Faint o amser a gymer proses yr adolygiad?

Bydd Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol yn cychwyn un mis wedi’r digwyddiad. Dylai’r adolygiadau fod wedi eu cwblhau ymhen tua 12 mis fel rheol, er, gydag achosion cymhleth iawn, fe allant gymryd yn hwy. Cewch wybod y diweddaraf am amcangyfrifon o fframiau amser ar gyfer yr adolygiad.

Beth sy’n dod o’r adolygiad?

Bydd yr adolygiad yn cynhyrchu adroddiad manwl fydd yn cynnwys argymhellion am gamau posib. Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi neu wneud trefniadau i gyhoeddi’r adroddiad. Wrth nesáu at derfyn proses yr adolygiad, gall y partner adolygu perthnasol /asiantaeth arweiniol/cadeirydd annibynnol fynd drwy ddrafft terfynol yr adroddiad gyda chi a sôn am y broses gyhoeddi a’r llinellau amser.

Camau nesaf

Mater i chi yn gyfan gwbl yw’r penderfyniad i gymryd rhan yn yr adolygiad hwn, ac os nad ydych am gymryd rhan, caiff eich penderfyniad ei barchu. Bydd partneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol/cadeirydd annibynnol yn dal i roi gwybod i chi (trwy ddull o’ch dewis chi) ar bwyntiau allweddol yn y broses, hyd yn oed os nad ydych yn dewis ymwneud yn uniongyrchol. Os neilltuwyd eiriolwr i chi, efallai y dymunwch iddi hi/ef fod yn bwynt cyswllt i chi trwy gydol yr adolygiad.

Mwy o wybodaeth a chefnogaeth

[DN: Ardaloedd i nodi gwasanaethau cefnogi a llinellau cymorth addas]

Atodiad 3(c) – Llythyr at y teulu pan gwblheir yr adolygiad

[Cofiwch ychwanegu perthynas briodol derbynnydd y llythyr â’r dioddefwr yn y templed drwyddo draw – ar hyn o bryd, mae’n cyfeirio at y ‘teulu’]

Annwyl [RHOWCH ENW],

Ysgrifennaf i roi gwybod i chi fod adroddiad yr Adolygiad Lladd gydag Arfau Ymosodol yng nghyswllt eich [RHOWCH Y BERTHYNAS A’R ENW] wedi ei gwblhau.

[Os rhennir yr adroddiad drafft cyn y cyfarfod, yna dylid ystyried defnyddio’r testun a ganlyn:

Fel [CADEIRYDD ANNIBYNNOL/PARTNER ADOLYGU PERTHNASOL/ASIANTAETH ARWEINIOL], hoffwn drefnu cyfarfod gyda chi ar adeg ac mewn lle sy’n gyfleus i chi dros yr wythnosau nesaf. Yr ydym wedi darparu copi o’r adroddiad i chi fel bod gennych gyfle i’w ddarllen a’i ystyried. Pan fyddwn yn cyfarfod, hoffwn drafod yr adroddiad gyda chi cyn ei gyhoeddi. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech gysylltu â mi ar [RHOWCH RIF FFÔN] neu trwy e-bost [RHOWCH GYFEIRIAD EBOST] i gadarnhau lle, dyddiad ac amser addas. Wrth gwrs, gallwch ddod â rhywun gyda chi, fel aelod o’r teulu, ffrind neu eiriolwr (os cawsoch un) i’ch cefnogi. Yr wyf yn ymwybodol y gall derbyn yr adroddiad beri loes, ac ydych yn teimlo eich bod angen mwy o amser i ddarllen yr adroddiad yn llawn, yna cofiwch gysylltu â mi.

[Os rhennir yr adroddiad drafft yn y cyfarfod, yna dylid ystyried defnyddio’r testun a ganlyn:

Fel [CADEIRYDD ANNIBYNNOL/PARTNER ADOLYGU PERTHNASOL/ASIANTAETH ARWEINIOL], hoffwn drefnu cyfarfod ar amser a lle sy’n gyfleus i chi dros yr wythnosau nesaf. Yn y cyfarfod hwn, hoffwn rannu copi o’r adroddiad a thrafod y cynnwys gyda chi. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech gysylltu â mi ar [RHOWCH RIF FFÔN] neu trwy e-bost [RHOWCH GYFEIRIAD EBOST] i gadarnhau lle, dyddiad ac amser addas. Wrth gwrs, gallwch ddod â rhywun gyda chi, fel aelod o’r teulu, ffrind neu eiriolwr (os cawsoch un) i’ch cefnogi.]

Bydd y cyfarfod hwn yn caniatau i ni drafod cynnwys yr adroddiad ac unrhyw gamau a argymhellwyd, a sut y gwnaethom drin unrhyw gyfraniadau gennych chi neu aelodau eraill o’r teulu. Ni fyddaf mewn sefyllfa i drafod unrhyw beth sy’n ymwneud ag unrhyw ymchwiliadau troseddol sy’n digwydd na chamau troseddol ynghylch marwolaeth [RHOWCH ENW’R DIODDEFWR] gan fod y rhain yn hollol ar wahan i broses yr Adolygiadau Lladd gydag Arfau Ymosodol. Bydd hefyd yn caniatau i mi ddweud beth fydd proses cyhoeddi’r adroddiad gan y Swyddfa Gartref.

Petaech yn penderfynu nad ydych am gyfarfod, yna rhowch wybod i mi ar [RHOWCH RIF FFÔN] neu trwy ebost [RHOWCH GYFEIRIAD EBOST]. Os cawsoch eiriolwr a’ch bod am i mi gyfarfod ag ef/hi fel eich cynrychiolydd, buaswn ond yn rhy falch i wneud hynny.

Yr eiddoch yn gywir,

[RHOWCH ENW]

[CADEIRYDD ANNIBYNNOL/PARTNER ADOLYGU PERTHNASOL/ASIANTAETH ARWEINIOL] yr

Adolygiad Lladd gydag Arfau Ymosodol

Atodiad 4: Templed Adroddiad Adolygu ALlAY (Lloegr)

Seiliwyd y templed hwn ar dempled adroddiad ADUS i adolygiadau yng Nghymru. Gwnaed newidiadau i gymhwyso’r ffurflen hon i ALlAY yn unig, fel sydd ei angen yn Lloegr. Dylai ALlAY a gynhelir dan broses ADUS yng Nghymru barhau i ddefnyddio’r templed ADUS a ddarparwyd yng nghanllaw statudol ADUS. Mae Pennod 7 canllaw statudol ALlAY yn rhoi mwy o fanylion am gwblhau adroddiad ALlAY.

Templed

Enw Partneriaid Perthnasol yr Adolygiad (lle digwyddodd Lladd gydag Arfau Ymosodol).

Rhif Cyfeirio’r Achos:

Ffugenw 1:

Copïwch a gludiwch y nifer priodol o ffugenwau.

Ffugenw 2:

Dilëwch os D/G

Ffugenw 3:

Dilëwch os D/G

Dyddiad y digwyddiad a arweiniodd at yr Adolygiad:

Os yn anhysbys, dywedwch hynny. Cadwch y dyddiad hwn yn amhendant (mm/bbbb) i gadw gwrthrych yr Adolygiad yn ddienw.

Dyddiad y farwolaeth lle bo hynny’n gymwys:

Os yn anhysbys, dywedwch hynny. Cadwch y dyddiad hwn yn amhendant (mm/bbbb) i gadw gwrthrych yr Adolygiad yn ddienw.

Dyddiad cychwyn (comisiynu) yr Adolygiad):

Dyddiad cwblhau (cymeradwyo a llofnodi) yr Adolygiad:

Dyddiad cyhoeddi:

Esboniwch unrhyw resymau dros oedi cyn cwblhau (dylai hyn gynnwys unrhyw oedi ychwanegol ar wahân i gynnal treial troseddol).

Amlinelliad o amgylchiadau a arweiniodd at yr Adolygiad:

I gynnwys yma:

  • Manylion y penderfyniad i gynnal Adolygiad. Y fethodoleg, pa ddogfennau a ddefnyddiwyd/a gynhaliwyd cyfweliadau. Cyfeiriwch at gwmpas/Cylch Gorchwyl yr adolygiad.
  • Cyfeiriad at Aelodau Panel yr Adolygiad a’r broses leol o oruchwylio’r ALlAY.
  • Hanes cryno, heb enwi pobl, o’r amgylchiadau a arweiniodd at yr Adolygiad (cefndir)
    • Lle’r oedd gwrthrych yr Adolygiad yn byw a lle bu’r digwyddiad. Ystyried disgrifiad ohono yn ogystal â synopsis o’r digwyddiadau.
    • Os yn gymwys/gellir datgelu, manylion y Post-mortem a’r cwest a/neu Gwest Crwner os cynhaliwyd un eisoes. Nodwch achos y farwolaeth.
    • Crynodeb heb enwau o’r rhai â chysylltiad â’r farwolaeth (os yn gymwys) Os yn gymwys, sut yr oedd y dioddefwr a’r troseddwr yn ‘gysylltiedig’ â’i gilydd a hyd y cyswllt hwnnw.
    • Os yn gymwys/gellir datgelu, nodi’r gweithgaredd cyfiawnder troseddol cysylltiedig â’r digwyddiad, gan gynnwys dyddiadau a deilliannau perthnasol. Gallai hyn gynnwys manylion am gyhuddiadau a ddygwyd, treial a dedfryd.
  • Cyfnod o amser a adolygwyd a pham

Comisiynwyd ALlAY gan:

Partneriaid Adolygu Perthnasol y farwolaeth, yn unol â Chanllaw Statudol ALlAY Atebir y meini prawf am yr Adolygiad hwn dan:

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth:

Ymdriniwch â’r naw nodwedd gwarchodedig dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010[footnote 33] i’r Adolygiad. Cynhwyswch archwilio rhwystrau i gyrchu gwasanaethau yn ychwanegol at ystyriaeth ehangach ynghylch a effeithiwyd ar gyflwyno gwasanaeth.

Cyfeiriwch at:

  • oedran

  • anabledd

  • ailbennu rhywedd

  • priodas a phartneriaeth sifil

  • beichiogrwydd a mamolaeth

  • hil

  • crefydd neu gred

  • rhyw

  • cyfeiriadedd rhywiol

  • anfantais cymdeithasol-economaidd

Ymwneud y teulu/perthnasau agosaf a phobl berthnasol eraill:

Cynhwyswch a gysylltwyd â phobl a chan bwy; natur eu hymwneud ac a roddwyd iddynt y daflen wybodaeth berthnasol am ALlAY. Ychwanegwch pan nad oedd ymwneud yn bosib a pham. Cynhwyswch a yw’r teulu/perthnasau agosaf a phobl berthnasol eraill, lle bo hynny’n briodol:

  • wedi cael cyfle i gael help eiriolwr arbenigol
  • wedi cael gwybod am y cwmpas/cylch gorchwyl
  • wedi cael eu cyfoesi’n rheolaidd
  • adolygu drafft yr Adroddiad yn breifat gyda digon o amser i wneud hynny a chael cyfle i wneud sylwadau. Lle na fu modd rhoi sylwadau aelodau’r teulu a’r prif unigolion yn yr Adroddiad, dylid bod wedi rhoi esboniad iddynt ac esbonio hyn yn yr adran hon.
  • Y gallodd pawb a gyfrannodd wneud hynny trwy ddefnyddio eu dewis gyfrwng hwy ar ôl ystyried eu hanghenion penodol.

Ystyriwch bennod 4 ‘Rôl Bwrdd Goruchwylio teulu, cyfeillion a rhwydweithiau eraill mewn ALlAY’ yn y Canllaw Statudol i ALlAY a chyfeirio ati lle bo hynny’n briodol.

Copïwch a gludo nifer priodol yr enghreifftiau.

Gwrthododd y teulu ymwneud

Nodwch pa aelod o’r teulu a wrthododd ymwneud:

Lle bo hynny’n briodol, rhowch fwy o wybodaeth am benderfyniad y teulu i beidio ag ymwneud.

Copïwch a gludo nifer priodol yr enghreifftiau.

Gwrthododd teulu’r troseddwr/wyr honedig ymwneud

Nodwch pa aelod o’r teulu a wrthododd ymwneud:

Lle bo hynny’n briodol, rhowch fwy o wybodaeth am benderfyniad teulu’r troseddwr/wyr honedig i beidio ag ymwneud.

Hanes Teuluol a/neu Wybodaeth Gyd-destunol:

Crynodeb byr o ddigwyddiadau allweddol arwyddocaol, cyn y llinell amser y cytunwyd arni.

Cynhwyswch unrhyw wybodaeth berthnasol sy’n dod y tu allan i gwmpas y llinell amser swyddogol y cytunwyd arni am yr Adolygiad. Mae modd defnyddio’r gofod hwn i gynnwys unrhyw wybodaeth gyd-destunol am y digwyddiad yn ehangach, yn ogystal ag unigolion eraill â chysylltiad â’r farwolaeth, sy’n berthnasol i wersi yn yr achos hwn.

Llinell Amser Asiantaethau:

Crynodeb byr o ddigwyddiadau allweddol arwyddocaol, o fewn y llinell amser y cytunwyd arni.

Gweler Canllaw Statudol ALlAY am wybodaeth am gwmpas yr Adolygiad.

Darparwch linell amser naratif cryno a chyfun yn siartio digwyddiadau allweddol perthnasol /cyswllt/ymwneud â’r gwrthrych, y troseddwr honedig a’u teuluoedd gan asiantaethau, gweithwyr proffesiynol ac eraill a gyfrannodd at broses yr adolygiad.

(Os oes un ar gael, cynhwyswch genogram wedi ei wneud yn ddienw ar gychwyn y gronoleg)

Arferion a gwersi i sefydliadau:

Nodwch bob pwynt dysgu unigol sy’n codi yn yr achos hwn (gan gynnwys amlygu arferion effeithiol) ynghyd ag amlinelliad byr o’r amgylchiadau perthnasol (sut/pam y digwyddodd pethau, gwybodaeth a rannwyd, penderfyniadau a wnaed, a chamau a gymerwyd/nas cymerwyd).

(Gall amgylchiadau perthnasol i gefnogi pob pwynt dysgu fod yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd o gyswllt y dioddefwr/troseddwr/wyr honedig â gwasanaethau gwahanol, safbwynt ymarferwyr a’u hasesiadau a’r camau a gymerwyd; ystyriwch gynnwys safbwyntiau aelodau’r teulu, tystiolaeth am arfer a’i effaith, ffactorau cyd-destunol, a heriau).

Dylai’r adran hon ymdrin â’r cylch gorchwyl a’i llinellau ymholi allweddol o fewn hynny. Dyma hefyd lle dylid amlygu unrhyw esiamplau o arferion da.

Gwella Systemau ac Arferion (Cenedlaethol, Rhanbarthol a Lleol):

I hyrwyddo dysgu o’r achos hwn, nododd yr adolygiad y camau a ganlyn a gwelliant a ragwelir mewn deilliannau:

(Ystyriwch bob pwynt dysgu yn yr adran uchod. Beth sydd angen ei wneud yn wahanol yn y dyfodol a sut y bydd hyn yn gwella arferion a systemau yn y dyfodol ac yn eu cefnogi? Fel y gosodir allan yn Adran 28 (2) a (3) y Ddeddf , lle’r ystyrir y gall fod yn briodol i berson weithredu yng nghyswllt y gwersi hynny a ddysgwyd, nodwch a hysbyswyd y person hwnnw - ni ddylid cynnwys manylion personol, gweler paragraff 7.14 o ganllaw statudol ALlAY)

Lledaenu

Rhestr o’r sawl fydd yn derbyn copïau o Adroddiad yr Adolygiad (yn unol â’r canllawiau ac yn sgîl argymhellion yr Adroddiad hwn): Copïwch a gludo nifer priodol yr enghreifftiau.

Dyddiad ei gylchredeg i arweinyddion polisi perthnasol:

Sefydliad Ie Na Rheswm
       

Proses ALlAY

Cynnwys yn fyr yma:

  • Y broses a ddilynwyd gan bartneriaid perthnasol yr adolygiad/asiantaeth arweiniol/cadeirydd annibynnol
  • Unrhyw sesiwn rhannu gwybodaeth a gynhaliwyd a’r gwasanaethau oedd yn bresennol

Gwiriad hyder terfynol

Gwiriwyd yr Adroddiad hwn er mwyn sicrhau y dilynwyd proses ALlAY yn gywir a bod yr Adroddiad wedi ei gwblhau fel y gosodir allan yn y canllaw statudol.

Gallaf gadarnhau bod adran hwn yr Adroddiad o safon barod i’w gyhoeddi

Unwaith iddo gael ei gwblhau, rhaid anfon yr adroddiad hwn at yr Ysgrifennydd Gwladol dros y Swyddfa Gartref. Ticiwch i gadarnhau y gwnaed hyn

Datganiadau o Annibyniaeth

Datganiad o Annibyniaeth gan y Cadeirydd:

Darllenwch a llofnodi’r datganiad a ganlyn. Ystyriwch yr adran ar annibyniaeth Canllaw Statudol ALlAY cyn ei lenwi.

Cadeirydd 1:

Datganiad o annibyniaeth o’r achos

Gwnaf y datganiad a ganlyn, cyn f’ymwneud â’r adolygiad hwn:

  • Na fûm yn ymwneud yn uniongyrchol yn yr achos na’i reoli na’i oruchwylio.
  • Fod gennyf y wybodaeth, profiad a’r hyfforddiant cydnabyddedig i gynnal yr adolygiad. Yr wyf felly wedi ateb meini prawf Cadeirydd Annibynnol.
  • Y cynhaliwyd yr adolygiad yn briodol a’i fod yn drwyadl o ran dadansoddi a gwerthuso’r materion fel y gosodwyd allan yn y Cylch Gorchwyl. Yr wyf yn cydnabod mai pwrpas hyn yw nodi gwersi o’r achos, nid taflu bai ar ymarferwyr nac asiantaethau.
  • Yr wyf wedi darllen a deall yr ystyriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth a byddaf yn eu cymhwyso’n unol â hynny.

Gosodwch allan isod sut y gwnaethoch ateb paragraffau 3.14 – 3.19 canllaw ALlAY

Canllaw: Esboniwch annibyniaeth y cadeirydd a rhoi manylion o hanes ei g/yrfa a phrofiad perthnasol. Cadarnhewch nad oes gan y cadeirydd unrhyw gysylltiad â phartneriaid perthnasol yr adolygiad na’r broses leol o oruchwylio ar gyfer yr adolygiad hwn. Os gweithiodd i unrhyw asiantaeth yn flaenorol, nodwch pa mor bell yn ôl y daeth y gyflogaeth honno i ben:

Llofnod:

Enw:

Dyddiad:

I’w lenwi gan y Swyddfa Gartref:

Ticiwch yma i gadarnhau y penodwyd y cadeirydd o blith y Rhestr o Gadeiryddion Annibynnol a ddelir gan y Swyddfa Gartref:

Os nad yw’r Cadeirydd yn aelod o Restr y Cadeiryddion Annibynnol, yna rhowch fanylion i gadarnhau sut y mae’r Cadeirydd amgen yn llawn gwrdd â’r Cymwyseddau a osodir allan yng nghanllaw ALlAY.

Cwmpas/Cylch Gorchwyl

I’w gynnwys yn unol ag adran 2 canllaw statudol ALlAY

  1. Yr ystadegyn yn cynnwys y rhai nad oedd yn ateb y meini prawf am adolygiad lladd domestig neu adolygiad Marwolaeth Plentyn. 

  2. https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2022/32/contents/enacted 

  3. The Police, Crime, Sentencing and Courts Act 2022 (Offensive Weapons Homicide Reviews) Regulations 2022 (legislation.gov.uk) 

  4. The Police, Crime, Sentencing and Courts Act 2022 (Commencement No. 1) (England and Wales) Regulations 2023 (legislation.gov.uk) 

  5. https://www.gov.wales/single-unified-safeguarding-review-guidance 

  6. https://www.legislation.gov.uk/ukpga/Eliz2/1-2/14/contents 

  7. The Police, Crime, Sentencing and Courts Act 2022 (Offensive Weapons Homicide Reviews) Regulations 2022 (legislation.gov.uk) 

  8. Police Reform Act 2002 (legislation.gov.uk) 

  9. The Police, Crime, Sentencing and Courts Act 2022 (Offensive Weapons Homicide Reviews) Regulations 2022 (legislation.gov.uk) 

  10. Children Act 2004 (legislation.gov.uk) 

  11. Domestic Violence, Crime and Victims Act 2004 (legislation.gov.uk) 

  12. Care Act 2014 (legislation.gov.uk) 

  13. Single Unified Safeguarding Review Statutory Guidance (gov.wales) 

  14. Y mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol y pŵer i gyfarwyddo pa bartneriaid adolygu yw partneriaid perthnasol yr adolygiad parthed marwolaeth person (dan adran 25(5)(c) y Ddeddf), ond bydd hyn yn gymwys yn unig lle nad atebir yr amgylchiadau arferol a osodir allan yn Rheoliadau ALlAY (ar gyfer pennu pwy yw partneriaid perthnasol yr adolygiad). 

  15. The Police, Crime, Sentencing and Courts Act 2022 (Offensive Weapons Homicide Reviews) Regulations 2022 (legislation.gov.uk) 

  16. https://www.gov.wales/single-unified-safeguarding-review-guidance 

  17. Mae cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn awr mewn grym fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (c. 32). 

  18. See section 157A of the Government of Wales Act 2006 for the definition of “devolved Welsh Authorities” and Schedule 9A for the list of such authorities. 

  19. https://www.gov.wales/single-unified-safeguarding-review-guidance 

  20. The Police, Crime, Sentencing and Courts Act 2022 (Offensive Weapons Homicide Reviews) Regulations 2022 (legislation.gov.uk) 

  21. Mae i ‘ddeddfwriaeth diogelu data ‘ yr un ystyr ag yn Neddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3(9) y Ddeddf honno). 

  22. Attorney General’s Guidelines on Disclosure - GOV.UK (www.gov.uk) 

  23. Bater James and Mohammed [2020] EWCA Crim 790 at paragraph 77 

  24. Worcestershire County Council and Worcestershire Safeguarding Children Board v HM Coroner for the County of Worcestershire [2013] EWHC 1711 (QB)1 

  25. https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-data-protection/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/lawful-basis-for-processing/special-category-data/ 

  26. https://ico.org.uk/for-organisations/ 

  27. https://www.gov.wales/single-unified-safeguarding-review-guidance 

  28. https://www.gov.wales/single-unified-safeguarding-review-guidance 

  29. https://www.gov.uk/government/publications/police-crime-sentencing-and-courts-bill-2021-overarching-documents 

  30. https://www.gov.wales/sites/default/files/consultations/2023-03/single-unified-safeguarding-review-draft-statutory-guidance_0.pdf 

  31. https://www.gov.wales/single-unified-safeguarding-review-toolkit 

  32. Equality Act 2010. Equality Act 2010 (legislation.gov.uk)