Gwybodaeth atodol ar gyfer treialon blasu bwyd newydd
Cyhoeddwyd 10 Gorffennaf 2026
Mae treialon blasu yn disgrifio math o werthuso synhwyraidd sy’n cael ei gynnal at ddiben ymchwil a datblygu bwyd, gan ganolbwyntio ar asesu nodweddion fel blas, gwead ac arogl. Dim ond i’r treialon blasu hyn y mae’r canllawiau hyn yn berthnasol. Nid ydynt yn berthnasol i astudiaethau na threialon clinigol sy’n ymchwilio i effeithiau iechyd, diogelwch neu ffisiolegol.
Cafodd y canllawiau atodol hyn eu datblygu mewn ymateb i adborth gan y diwydiant a dylid eu darllen ar y cyd â’r canllawiau y mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi’u cyhoeddi ar gynnal treialon blasu sy’n cynnwys bwyd newydd neu fwyd sydd wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddio prosesau newydd.
Cynnal treial blasu ar fwyd newydd sydd heb ei awdurdodi
Dim ond pan fo treial blasu yn cael ei gynnal at ddiben ymchwil a datblygu y mae’n gyfreithlon i’w gynnal ar fwyd newydd sydd heb ei awdurdodi. Mae hyn oherwydd nad oes modd rhoi bwyd newydd sydd heb ei awdurdodi ar y farchnad yn gyfreithlon, a dim ond pan nad yw’n gyfystyr â ‘rhoi’r bwyd ar y farchnad’ y mae treial blasu yn dderbyniol.
Yn unol â’r canllawiau sydd wedi’u cyhoeddi, cynghorir cwmnïau’n gryf i wneud y canlynol:
-
cynnal asesiad risg trylwyr
-
cael cymeradwyaeth gan bwyllgor moeseg annibynnol
-
sicrhau bod ganddynt ganiatâd ysgrifenedig gan bob cyfranogwr a bod eu penderfyniad ar sail yr holl wybodaeth sydd ar gael
-
cadw dogfennau a chofnodion manwl
-
cynnal y treial dan amodau rheoledig a chyfyngedig
-
osgoi cyhoeddusrwydd cyn y treial
Pan fydd yr amodau hyn wedi’u bodloni, gellir cynnal treial blasu ac nid ystyrir bod y bwyd wedi’i ‘roi ar y farchnad’, gan ganiatáu i’r treial fynd yn ei flaen heb dorri deddfwriaeth bwyd newydd ym Mhrydain Fawr. Fodd bynnag, yr awdurdod lleol perthnasol sy’n penderfynu a yw gweithgaredd yn cyfrif fel rhoi bwyd ar y farchnad, a hynny ar sail y ffeithiau a’r amgylchiadau penodol.
Diffiniad o ‘roi bwyd newydd ar y farchnad’ mewn perthynas â threialon blasu
Yn unol â chyfraith bwyd, ystyr ‘rhoi ar y farchnad’ yw trefnu bod bwyd ar gael i unrhyw drydydd parti, ym mha bynnag ffordd. Mae hyn yn cynnwys:
-
ei werthu
-
ei roi yn rhodd
-
cyflenwi samplau
-
ei ddosbarthu
-
trefnu ei fod, fel arall, ar gael y tu hwnt i gyd-destun cyfyngedig y gwaith ymchwil a datblygu
Mae rhoi bwyd newydd sydd heb ei awdurdodi ar y farchnad, gan gynnwys unrhyw fath o drosglwyddo, boed am ddim ai peidio, yn anghyfreithlon. Felly, gall symud y cynnyrch mewn unrhyw fodd y tu hwnt i amodau’r treial blasu rheoledig a chyfyngedig fod yn gyfystyr â rhoi’r bwyd ar y farchnad.
Efallai y caniateir cynnal treialon blasu ar fwyd newydd sydd heb ei awdurdodi pan fyddant yn cael eu cynnal at ddiben ymchwil a datblygu yn unig, a hynny’n unol â chanllawiau’r Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP), a phan reolir cyfranogiad ac na chaiff y bwyd newydd ei werthu, ei ddosbarthu na’i farchnata.
Ar y llaw arall, mae’n debygol y bydd treialon blasu sy’n cael eu cynnal yn bennaf at ddiben marchnata, hyrwyddo, neu gysylltiadau cyhoeddus (er enghraifft, pan nad oes prawf eu bod at ddiben ymchwil a datblygu) yn cael eu hystyried yn achos o roi bwyd sydd heb ei awdurdodi ar y farchnad, sy’n anghyfreithlon.
Ar ôl i dreial blasu ddigwydd, gallwch gyfleu ei fod wedi digwydd drwy’r cyfryngau, cyn belled â bod unrhyw gyhoeddusrwydd yn eilaidd i ddiben ymchwil a datblygu’r treial.
Mae’n bwysig cofio bod penderfynu a yw gweithgaredd penodol yn gyfystyr â ‘rhoi ar y farchnad’ yn y pen draw yn nwylo’r awdurdod gorfodi perthnasol. Gan amlaf, yr awdurdod lleol lle bydd y treial blasu’n cael ei gynnal yw’r awdurdod gorfodi dan sylw, a bydd yr awdurdod yn asesu’r cyfan ar sail ffeithiau ac amgylchiadau penodol yr achos.
Rôl yr awdurdod lleol mewn treial blasu bwyd newydd
Nid yw’n ofynnol cael cymeradwyaeth gan awdurdod lleol cyn cynnal treial blasu. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod chi’n ymgysylltu â’r awdurdod lleol i’ch helpu i gydymffurfio a rhoi sicrwydd i’r awdurdod lleol fod y treial blasu yn unol â chanllawiau’r ACNFP.
Yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am benderfynu, fel rhan o’i waith gorfodi, a yw treial blasu yn ei ardal yn cyfrif fel gweithgaredd ymchwil a datblygu cyfreithlon neu a yw’n gyfystyr â rhoi bwyd sydd heb ei awdurdodi ar y farchnad. Mae hyn yn cynnwys ystyried ai dim ond at ddiben ymchwil a datblygu y mae’r treial yn cael ei gynnal ac a yw’r treial yn unol â chanllawiau’r ACNFP.
Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu, ar sail y ffeithiau a’r amgylchiadau penodol, fod gweithgaredd yn gyfystyr â rhoi bwyd newydd ar y farchnad, yr awdurdod sy’n gyfrifol am gymryd camau gorfodi lle bo tor-cyfraith.
Nid yw rôl yr awdurdodau lleol mewn treialon blasu bwyd yn ofyniad newydd nac ychwanegol ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd nac unrhyw fwyd newydd arall. Awdurdodau lleol yw’r awdurdodau gorfodi sefydledig ar gyfer busnesau bwyd sy’n delio’n uniongyrchol â defnyddwyr, safleoedd cynhyrchu bach, a bwydydd newydd, ac mae eu rôl wrth oruchwylio gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar ymchwil a datblygu, fel treialon blasu, yn dilyn y fframwaith rheoleiddio bwyd sefydledig.
Gallwch ddod o hyd i fanylion tîm bwyd eich awdurdod lleol drwy wefan yr ASB.
Ymgysylltu â’r awdurdod lleol cyn cynnal treial blasu
Rydym yn eich annog chi i ymgysylltu’n gynnar â thîm bwyd yr awdurdod lleol yn yr ardal lle bydd y treial blasu yn digwydd. Os byddwch chi’n dewis gwneud hyn, rydym yn eich annog chi i roi gwybodaeth sy’n caniatáu i’r awdurdod lleol ddeall diben a natur y gweithgarwch arfaethedig.
Efallai y bydd yr awdurdod lleol yn ystyried, fel rhan o’i waith gorfodi, a yw’r gweithgaredd yn gyfystyr â rhoi bwyd newydd ar y farchnad. Pan fo’r gweithgaredd yn gyfystyr â hynny, ni allwch drin y gweithgaredd fel treial blasu at ddiben ymchwil a datblygu.
Er mwyn helpu’r awdurdod lleol i ddeall y treial blasu, pan fyddwch yn ymgysylltu â nhw, rydym yn eich annog chi i roi digon o wybodaeth am y treial arfaethedig, gan gynnwys sut mae wedi’i gynllunio a’i reoli yn unol â chanllawiau’r ACNFP. Mae’n bosib y bydd yr awdurdod lleol yn adolygu’r wybodaeth hon fel rhan o’i swyddogaethau ehangach o ran diogelwch bwyd a gwaith gorfodi, gan gynnwys ystyried a yw’r treial yn cael ei gynnal yn unol â’r canllawiau hynny.
Gan mai awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am benderfyniadau gorfodi, rydym yn argymell eich bod chi’n ymgysylltu â nhw’n gynnar. Gall awdurdodau lleol ddefnyddio’u disgresiwn wrth ddewis ym mha ffordd y maen nhw’n rheoli’r trafodaethau hyn, gan gynnwys pa wybodaeth y maen nhw’n gofyn amdani, ac efallai y bydd dulliau’r awdurdodau gwahanol yn amrywio.
Adolygiad o asesiadau risg ar gyfer treialon blasu
Nid oes proses gyflwyno ffurfiol ar gyfer treialon blasu. Mae disgwyl i chi adolygu’r canllawiau a sicrhau bod y treialon yn bodloni’r gofynion. Fel rhan o hynny, dylech gadw dogfennau perthnasol, er enghraifft asesiad risg, adolygiad gan bwyllgor moeseg annibynnol, ffurflenni caniatâd cyfranogwyr, a chofnodion o gynllun y treial.
Nid ystyrir bod treialon blasu sy’n cael eu cynnal at ddiben ymchwil a datblygu yn achos o roi bwyd ar y farchnad. Gan fod y rhain y tu hwnt i gwmpas cyfreithiol prosesau awdurdodi’r farchnad, nid oes gan yr ASB nac FSS unrhyw gylch gwaith statudol i adolygu, cymeradwyo na gwneud sylwadau ar yr asesiadau risg ar gyfer y gweithgareddau hyn.
Y busnes sy’n cynnal y treial sy’n gyfrifol am baratoi, cynnal a dilyn asesiad risg ar gyfer y treial blasu. Mae’r risg hon o gynnal y treial, a’r cyfrifoldeb dros reoli’r risg hon, yn nwylo’r busnes.
Fel rhan o’i broses o roi sicrwydd i’w hun fod treial blasu bwyd newydd yn cael ei gynnal at ddiben ymchwil a datblygu, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn gofyn am wybodaeth am yr asesiad risg, gan gynnwys cyn neu ar ôl y treial, lle bo hyn yn berthnasol i’w waith gorfodi.
Cyfrifoldebau busnesau wrth gynnal treial blasu bwyd newydd
Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod treial blasu bwyd newydd yn cael ei gynnal yn ddiogel, yn gyfreithlon, ac yn unol â chanllawiau’r ASB ac FSS, ac egwyddorion yr ACNFP. Mae hyn yn cynnwys:
-
sicrhau bod y bwyd newydd yn ddiogel, yn unol â Chyfraith Bwyd Gyffredinol
-
gweithredu yn unol â’r canllawiau ar gynnal treialon blasu y mae’r ACNFP wedi’u cyhoeddi, sy’n cynnwys:
-
cynnal asesiad risg trylwyr – nid yw’r ASB nac FSS yn adolygu nac yn cymeradwyo asesiadau risg
-
cael cymeradwyaeth gan bwyllgor moeseg annibynnol
-
sicrhau bod gennych ganiatâd ysgrifenedig gan bob cyfranogwr a bod eu penderfyniad ar sail yr holl wybodaeth sydd ar gael
-
cadw dogfennau a chofnodion manwl
-
cynnal y treial dan amodau rheoledig a chyfyngedig
-
osgoi cyhoeddusrwydd cyn y treial, gan sicrhau bod unrhyw gyfathrebu wedyn yn ddieithriad yn eilaidd i’r diben ymchwil a datblygu
-
dangos mai dim ond at ddiben ymchwil a datblygu y mae’r gweithgaredd ac nad yw’n gyfystyr â rhoi bwyd newydd sydd heb ei awdurdodi ar y farchnad
-
rhoi rheolaethau hylendid a diogelwch bwyd priodol ar waith yn y lleoliad lle byddwch yn cynnal y treial
-
sicrhau bod unrhyw ddeunyddiau a ddefnyddir yn y treial blasu yn cael eu mewnforio’n gyfreithlon, a’u bod yn cydymffurfio â’r canlynol:
-
rheolau mewnforio bwyd perthnasol
-
gofynion y tollau
-
rheolaethau perthnasol sy’n benodol i’r gwledydd dan sylw
Mae’r ASB ac FSS yn argymell eich bod chi’n ymgysylltu â’r awdurdod lleol perthnasol yn gynnar a’ch bod chi’n barod i roi’r wybodaeth y mae’n gofyn amdani i helpu gyda’i rôl o oruchwylio diogelwch bwyd.