Guidance

Notice of rights and entitlements Welsh (PACE Code H) (accessible version)

Updated 31 January 2019

Deddf Terfysgaeth 2000

Cofiwch eich hawliau tra byddwch yn y ddalfa

Mae’r hawliau yn yr Hysbysiad hwn wedi eu gwarantu i chi dan y gyfraith yng Nghymru a Lloegr ac yn cydymffurfio â Chyfarwyddeb yr UE 2012/13 ar yr hawl i wybodaeth mewn achosion troseddol.

Mae eich hawliau yng ngorsaf yr heddlu wedi eu crynhoi ar y dudalen hon.

Ceir rhagor o wybodaeth ym mharagraffau 1 i 11 ar y tudalennau nesaf.

Ceir manylion llawn yng Nghod Ymarfer H yr heddlu.

  1. Dywedwch wrth yr heddlu os ydych eisiau cyfreithiwr i’ch helpu tra’ch bod yn yr orsaf heddlu. Mae hyn am ddim.

  2. Dywedwch wrth yr heddlu os ydych eisiau rhoi gwybod i rywun ble rydych chi. Mae hyn am ddim.

  3. Dywedwch wrth yr heddlu os ydych eisiau edrych ar eu rheolau – fe’u gelwir yn Godau Ymarfer.

  4. Dywedwch wrth yr heddlu os ydych eisiau cymorth meddygol. Dywedwch wrth yr heddlu os nad ydych yn teimlo’n dda neu wedi’ch anafu. Mae cymorth meddygol am ddim.

  5. Os holir cwestiynau i chi am amheuaeth o’ch cyfranogiad yng ngweithredu, paratoi neu ysgogi gweithredoedd terfysgol, does dim rhaid i chi ddweud dim. Fodd bynnag, fe allai niweidio eich amddiffyniad os na fyddwch yn sôn wrth gael eich holi am rywbeth y byddwch yn dibynnu arno nes ymlaen yn y Llys. Gall unrhyw beth yr ydych yn ei ddweud gael ei roi fel tystiolaeth.

  6. Rhaid i’r heddlu roi gwybod i chi am natur yr amheuaeth o’ch cyfranogiad yng nghomisiynu, paratoi neu ysgogi gweithredoedd terfynol a pham eich bod wedi’ch arestio ac yn cael eich cadw.

  7. Rhaid i’r heddlu adael i chi neu’ch cyfreithiwr weld eich cofnodion a dogfennau ynghylch pam eich bod wedi cael eich arestio ac yn cael eich cadw ac ynghylch eich amser yng ngorsaf yr heddlu.

  8. Os oes arnoch angen cyfieithydd, rhaid i’r heddlu gael un i chi. Gallwch hefyd ofyn i ddogfennau penodol gael eu cyfieithu. Mae hyn am ddim.

  9. Rhowch wybod i’r heddlu os nad ydych yn Brydeinig a’ch bod eisiau cysylltu â’ch llysgenhadaeth neu gonsyliaeth neu eisiau rhoi gwybod iddynt eich bod wedi’ch cadw dan glo. Mae hyn am ddim.

  10. Rhaid i’r heddlu roi gwybod i chi am faint o amser maent yn bwriadu eich cadw.

  11. Os cewch eich cyhuddo ac mae’ch achos yn mynd i’r llys, bydd gennych chi neu’ch cyfreithiwr yr hawl i weld tystiolaeth yr erlyniad cyn mynd i’r llys.

Os nad ydych yn siŵr am unrhyw un o’r hawliau hyn, rhowch wybod i swyddog y ddalfa

Gweler y tudalennau ar ôl y crynodeb am ragor o wybodaeth ynghylch sut ddylai’r heddlu eich trin a gofalu amdanoch

Daw’r fersiwn hon o’r Hysbysiad o Hawliau i rym o 1 Rhagfyr 2018

Cadwch yr wybodaeth hon a’i darllen cyn gynted â phosibl. Bydd yn eich helpu i wneud penderfyniadau tra’ch bod yng ngorsaf yr heddlu.

1. Cael cyfreithiwr i’ch helpu

  • Gall cyfreithiwr eich helpu a’ch cynghori ynglŷn â’r gyfraith.
  • Nid yw gofyn am gael siarad â chyfreithiwr yn gwneud i chi edrych fel eich bod wedi gwneud unrhyw beth o’i le.
  • Rhaid i Swyddog y Ddalfa’r Heddlu ofyn i chi os ydych eisiau cyngor cyfreithiol. Mae hyn am ddim.
  • Rhaid i’r heddlu adael i chi siarad â chyfreithiwr ar unrhyw adeg, dydd neu nos, tra’ch bod yng ngorsaf yr heddlu.
  • Os ydych yn gofyn am gyngor cyfreithiol, fel arfer nid yw’r heddlu yn cael gofyn cwestiynau i chi nes eich bod wedi cael cyfle i siarad â chyfreithiwr. Pan fydd yr heddlu’n holi cwestiynau i chi, gallwch ofyn i gael cyfreithiwr yn yr ystafell gyda chi.
  • Os byddwch yn dweud wrth yr heddlu nad ydych eisiau cyngor cyfreithiol ond yna’n newid eich meddwl, dywedwch wrth swyddog y ddalfa a fydd yn eich helpu i gysylltu â chyfreithiwr.
  • Os na fydd cyfreithiwr yn cyrraedd neu’n cysylltu â chi yn swyddfa’r heddlu, neu os bydd arnoch angen siarad â chyfreithiwr eto, gofynnwch i’r heddlu gysylltu â nhw eto.
  • Gallwch ofyn i gael siarad â chyfreithiwr rydych yn ei adnabod ac ni fydd rhaid i chi dalu os ydynt yn gwneud gwaith cymorth cyfreithiol. Os nad ydych yn adnabod cyfreithiwr neu na ellir cysylltu â’r cyfreithiwr rydych yn ei adnabod, gallwch siarad â’r cyfreithiwr ar ddyletswydd. Mae am ddim.
  • Nid yw’r cyfreithiwr ar ddyletswydd yn gysylltiedig â’r heddlu.

I drefnu cyngor cyfreithiol am ddim:

  • Bydd yr heddlu yn cysylltu â Chanolfan Alwadau Cyfreithwyr yr Amddiffyn (DSCC). Bydd y DSCC yn trefnu i roi cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr yr ydych wedi gofyn amdano neu gan y Cyfreithiwr ar Ddyletswydd.
  • Mae’r DSCC yn wasanaeth annibynnol sy’n gyfrifol am drefnu cyngor cyfreithiol am ddim ac nid yw’n gysylltiedig â’r heddlu.

Os byddwch eisiau talu am gyngor cyfreithiol eich hunan:

  • Ym mhob achos gallwch dalu am gyngor cyfreithiol os ydych eisiau gwneud hynny.
  • Bydd y DSCC yn cysylltu â’ch cyfreithiwr eich hunan ar eich rhan.
  • Mae gennych hawl i siarad yn breifat gyda chyfreithiwr o’ch dewis ar y ffôn neu fe allant benderfynu dod i’ch gweld yng ngorsaf yr heddlu.
  • Os na ellir cysylltu â chyfreithiwr o’ch dewis chi, bydd yr heddlu’n dal i allu ffonio’r DSCC i drefnu cyngor cyfreithiol am ddim gan y Cyfreithiwr ar Ddyletswydd.

2. Dweud wrth rywun eich bod yng ngorsaf yr heddlu

  • Gallwch ofyn i’r heddlu gysylltu â rhywun sydd angen gwybod eich bod yng ngorsaf yr heddlu. Mae hyn am ddim.
  • Byddant yn cysylltu â rhywun i chi cyn gynted â phosibl.

3. Edrych ar y Codau Ymarfer

  • Mae’r Codau Ymarfer yn rheolau a fydd yn rhoi gwybod i chi beth all yr heddlu ei wneud a pheidio â’i wneud tra’ch bod yng ngorsaf yr heddlu. Maent yn cynnwys manylion yr hawliau a grynhoir yn yr Hysbysiad hwn.
  • Bydd yr heddlu yn gadael i chi ddarllen y Codau Ymarfer, ond ni allwch wneud hyn os yw’n oedi ymgais yr heddlu i ganfod a ydych wedi torri’r gyfraith.
  • Os ydych eisiau darllen y Codau Ymarfer, rhowch wybod i Swyddog y Ddalfa’r Heddlu.

4. Cael cymorth meddygol os ydych yn anhwylus neu wedi’ch anafu

  • Dywedwch wrth yr heddlu os nad ydych yn teimlo’n dda neu angen meddyginiaeth neu os oes gennych anaf. Byddant yn ffonio meddyg neu nyrs neu weithiwr gofal iechyd arall ac mae am ddim.
  • Efallai y byddwch yn gallu cymryd eich meddyginiaeth eich hun, ond bydd rhaid i’r heddlu ei gwirio yn gyntaf. Fel arfer bydd nyrs yn eich gweld yn gyntaf, ond bydd yr heddlu yn ffonio am feddyg os oes arnoch angen un. Gallwch ofyn i weld meddyg arall, ond efallai bydd rhaid i chi dalu am hyn.

5. Hawl i fod yn ddistaw

Os gofynnir cwestiynau i chi am amheuaeth o’ch cyfranogiad yn y drosedd, nid oes rhaid i chi ddweud dim byd.

Fodd bynnag, fe allai niweidio eich amddiffyniad os na fyddwch yn sôn wrth gael eich holi am rywbeth y byddwch yn dibynnu arno nes ymlaen yn y Llys.

Gall unrhyw beth yr ydych yn ei ddweud gael ei roi fel tystiolaeth.

6. Gwybod pam eich bod wedi’ch arestio a’ch cadw

  • Rhaid i’r heddlu eich darparu â gwybodaeth er mwyn i chi allu deall pam eich bod wedi cael eich arestio a pham eich bod dan amheuaeth o fod yn gysylltiedig â chomisiynu, paratoi neu ysgogi terfysgaeth.
  • Yng ngorsaf yr heddlu, rhaid i’r heddlu roi gwybod i chi pam eu bod yn credu fod angen eich cadw.
  • Cyn eich holi am yr amheuaeth o fod yn gysylltiedig â therfysgaeth, rhaid i’r heddlu roi digon o wybodaeth i chi neu’ch cyfreithiwr ynghylch beth maent yn amau eich bod wedi ei wneud er mwyn i chi allu’ch amddiffyn eich hun, ond heb niweidio ymchwiliad yr heddlu.
  • Mae hyn yn berthnasol i unrhyw droseddau eraill mae’r heddlu yn amau eich bod wedi eu cyflawni.

7. Gweld cofnodion a dogfennau ynglŷn â’ch arestio a’ch cadw

  • Pan fyddwch yn cael eich cadw yng ngorsaf yr heddlu, rhaid i’r heddlu:
    • Gofnodi yn eich cofnod dalfa y rheswm a’r angen dros eich arestio a pham eu bod yn credu bod angen eich cadw.
    • Adael i chi a’ch cyfreithiwr weld y cofnodion hyn. Bydd swyddog y ddalfa yn trefnu hyn.
  • Rhaid i’r heddlu roi mynediad i chi neu’ch cyfreithiwr at ddogfennau a deunyddiau sy’n allweddol i herio cyfreithlondeb eich arestio a chadw yn effeithiol.

8. Cael cyfieithydd ar y pryd a chyfieithiadau o ddogfennau penodol i’ch helpu

  • Os nad ydych yn siarad na’n deall Saesneg, bydd yr heddlu yn trefnu i rywun sy’n siarad eich iaith eich helpu. Mae hyn am ddim.
  • Os ydych yn fyddar neu’n profi anawsterau wrth siarad, bydd yr heddlu yn trefnu i gyfieithydd ar y pryd Saesneg Iaith Arwyddion Prydain eich helpu. Mae hyn am ddim.
  • Os nad ydych yn gallu siarad neu ddeall Saesneg, bydd yr heddlu yn gofyn i’r cyfieithydd ddweud wrthych chi pam eu bod yn eich cadw. Rhaid gwneud hyn pob tro y penderfynir eich cadw yn y ddalfa.
  • Wedi pob penderfyniad i’ch cadw yn y ddalfa ac wedi i chi gael eich cyhuddo o unrhyw drosedd, rhaid i’r heddlu hefyd roi cofnod i chi yn eich iaith eich hun o pam eich bod yn cael eich cadw ac o unrhyw drosedd y’ch cyhuddwyd o’i chyflawni, oni bai fod rhesymau arbennig dros beidio â gwneud hynny. Y rhain yw:
    • Os byddwch yn penderfynu nad oes arnoch angen y cofnod er mwyn amddiffyn eich hun gan eich bod yn deall yn llawn beth sy’n digwydd a goblygiadau peidio â chael y cofnod, a’ch bod wedi cael cyfle i ofyn am gyfreithiwr i’ch helpu i benderfynu. Rhaid i chi hefyd gydsynio i hyn yn ysgrifenedig.
    • Os byddai cael cyfieithiad llafar neu grynodeb trwy gyfieithydd ar y pryd yn hytrach na chyfieithiad ysgrifenedig yn ddigon i chi’ch amddiffyn eich hun ac i ddeall yn llawn beth sy’n digwydd. Rhaid i’r swyddog y ddalfa awdurdodi hyn hefyd.
  • Pan fydd yr heddlu yn gofyn cwestiynau i chi heb wneud recordiad sain, bydd y cyfieithydd ar y pryd yn gwneud cofnod o’r cwestiynau a’ch atebion yn eich iaith eich hun. Byddwch yn gallu gwirio hyn cyn i chi ei lofnodi fel cofnod cywir.
  • Os byddwch eisiau gwneud datganiad i’r heddlu, bydd y cyfieithydd ar y pryd yn gwneud copi o’r datganiad hwnnw yn eich iaith eich hunan i chi ei wirio a’i lofnodi ei fod yn gofnod cywir.
  • Mae gennych hefyd hawl i gyfieithiad o’r Hysbysiad hwn. Os nad oes cyfieithiad ar gael, rhaid i chi gael yr wybodaeth trwy gyfieithydd ar y pryd a derbyn cyfieithiad heb unrhyw oedi.

9. Cysylltu â’ch llysgenhadaeth neu gonsyliaeth

Os nad ydych yn Brydeinig, gallwch ddweud wrth yr heddlu eich bod eisiau cysylltu â’ch Uwch Gomisiwn, Llysgenhadaeth neu Gonsyliaeth i roi gwybod iddynt ble rydych chi a pham eich bod yng ngorsaf yr heddlu. Gallant hefyd ymweld â chi’n breifat neu drefnu i gyfreithiwr eich gweld.

10. Am faint o amser y gellir eich cadw

  • Dim ond os yw llys yn caniatáu mwy o amser i’r heddlu’ch cadw y gellir eich cadw am fwy na 48 awr heb gyhuddiad. Mae gan y llysoedd y pŵer i ymestyn cyfnod eich carchariad heb gyhuddiad am hyd at 14 niwrnod o’ch arestio.
  • Pob hyn a hyn rhaid i uwch swyddog yr heddlu edrych i mewn i’ch achos i weld a ddylid eich cadw o hyd. Fe elwir hyn yn adolygiad. Oni bai nad ydych mewn cyflwr gweddus, mae gennych hawl i gael dweud eich barn am y penderfyniad hwn. Mae gan eich cyfreithiwr hefyd hawl i roi barn am y penderfyniad hwn ar eich rhan.
  • Os nad yw’r swyddog adolygu yn eich rhyddhau, rhaid rhoi gwybod i chi pam a chofnodi’r rheswm yn eich cofnod dalfa.
  • Os nad oes angen eich cadw bellach, yna mae’n rhaid eich rhyddhau.
  • Pan fydd yr heddlu yn gofyn i’r llys ymestyn eich cyfnod yn y ddalfa:
    • Rhaid i chi gael hysbysiad ysgrifenedig yn eich hysbysu pryd fydd y gwrandawiad yn digwydd a’r sail dros ymestyn eich carchariad.
    • Rhaid dod â chi i’r llys ar gyfer y gwrandawiad, oni sefydlir cyswllt teledu fel y gallwch weld a chlywed y bobl yn y llys a gallant weld a chlywed chi.
    • Bydd gennych hawl i gael cyfreithiwr gyda chi yn y llys.
    • Fydd yr heddlu ddim ond yn cael eich cadw yn y ddalfa os yw’r llys yn credu fod hynny’n angenrheidiol ac os yw’r heddlu yn ymchwilio i’ch achos yn ofalus a heb oedi diangen.
  • Os oes gan yr heddlu ddigon o dystiolaeth i’ch anfon i’r llys, gellir eich cyhuddo yng ngorsaf yr heddlu neu drwy’r post, i ymddangos yn y llys i gael eich erlyn.

Adolygiadau ac ymestyn cyfnod o garchariad

  • Gall fod achlysuron pan fyddwch yn cael eich cadw am fwy na 48 awr wedi cael eich arestio. Dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i chi gael y canlynol:
    • Dogfen ysgrifenedig fod y cais i ymestyn eich cyfnod o garchariad wedi ei gyflwyno;
    • Yr amser y gwnaed y cais;
    • Yr amser pan fydd y cais yn cael gwrandawiad yn y llys; ac
    • Y rheswm neu resymau dros ofyn am gyfnod pellach o garchariad.

Rhaid hefyd darparu hysbysiad i chi (a’ch cynrychiolydd cyfreithiol) pob tro y gwneir cais i ymestyn neu ymestyn ymhellach eich cyfnod o garchariad.

11. Mynediad at y dystiolaeth os yw’ch achos yn mynd i’r Llys

Os ydych yn cael eich cyhuddo o drosedd, rhaid i chi neu’ch cyfreithiwr gael gweld y dystiolaeth yn eich erbyn yn ogystal â thystiolaeth a allai helpu’ch amddiffyniad. Rhaid gwneud hyn cyn i’ch achos gychwyn. Mae’n rhaid i’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron drefnu hyn a darparu mynediad at y dogfennau a’r deunyddiau perthnasol.

Pethau eraill i’w gwybod am fod mewn gorsaf heddlu

Sut y dylid eich trin a gofalu amdanoch

Mae’r nodiadau hyn yn dweud wrthych beth allwch ei ddisgwyl tra’ch cedwir yng ngorsaf yr heddlu. Am ragor o wybodaeth, gofynnwch am weld y Codau Ymarfer. Maent yn cynnwys rhestr o ble i ganfod rhagor o wybodaeth am bob un o’r pethau hyn. Gofynnwch i swyddog y ddalfa’r heddlu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Pobl sydd angen cymorth

  • Os ydych dan 18 neu’n fregus, er enghraifft os oes gennych anawsterau dysgu neu broblemau iechyd meddwl, yna mae gennych hawl i gael rhywun gyda chi pan fydd yr heddlu yn gwneud pethau penodol. Gelwir yr oedolyn hwn eich “oedolyn priodol” a rhoddir copi o’r Hysbysiad hwn iddynt.
  • Bydd eich oedolyn priodol yn eich helpu chi i ddeall yr hyn sy’n digwydd ac yn diogelu eich buddiannau. Rhaid iddo ef neu hi fod gyda chi pan fydd yr heddlu yn dweud wrthych beth yw’ch hawliau ac yn dweud pam eich bod yn cael eich cadw yng ngorsaf yr heddlu. Rhaid iddo ef neu hi hefyd fod gyda chi pan fydd yr heddlu yn darllen rhybuddiad yr heddlu i chi.
  • Gall eich oedolyn priodol hefyd ofyn am gyfreithiwr ar eich rhan.
  • Gallwch siarad â’ch cyfreithiwr heb fod eich oedolyn priodol yn yr ystafell os dymunwch.
  • Efallai y bydd yr heddlu hefyd angen gwneud un o’r pethau a restrir isod tra’ch bod yng ngorsaf yr heddlu. Oni bai fod rhesymau arbennig i beidio, rhaid i’ch oedolyn priodol fod gyda chi’r holl amser os bydd yr heddlu yn gwneud unrhyw un o’r canlynol:
    • Eich cyfweld neu ofyn i chi lofnodi datganiad ysgrifenedig neu nodiadau’r heddlu.
    • Dynnu unrhyw beth nad ydynt yn ddillad allanol oddi arnoch i’ch chwilio.
    • Cymryd eich olion bysedd, llun neu DNA neu sampl arall.
    • Gyflawni unrhyw beth ynglŷn ag ymarfer adnabod gan dyst.
  • Dylai’ch oedolyn priodol gael cyfle i fod ar gael yn bersonol neu ar y ffôn i’ch helpu pan fydd yr heddlu’n adolygu’ch achos i weld a ddylid eich cadw ymhellach.
  • Os yw’ch oedolyn priodol ar gael, dylai hefyd fod yn bresennol pan fydd yr heddlu yn eich cyhuddo o drosedd.

Cael manylion o’ch amser yng ngorsaf yr heddlu

  • Mae popeth sy’n digwydd i chi pan fyddwch yng ngorsaf yr heddlu yn cael ei gofnodi. Fe’i gelwir yn Gofnod Dalfa.
  • Pan fyddwch yn gadael gorsaf yr heddlu, gallwch chi, eich cyfreithiwr neu oedolyn priodol ofyn am gopi o’r Cofnod Dalfa. Mae’n rhaid i’r heddlu roi copi o’ch Cofnod Dalfa i chi cyn gynted â phosibl.
  • Gallwch ofyn i’r heddlu am gopi o’ch Cofnod Dalfa hyd at 12 mis wedi i chi adael gorsaf yr heddlu.

Cadw mewn cysylltiad

  • Yn ogystal â siarad â chyfreithiwr a rhoi gwybod i rywun eich bod wedi cael eich arestio, fel arfer byddwch yn cael gwneud un alwad ffôn.
  • Gofynnwch i’r heddlu os hoffech wneud galwad ffôn.
  • Gallwch hefyd ofyn am bapur a beiro.
  • Efallai y byddwch yn gallu gweld ymwelwyr ond gall swyddog y ddalfa wrthod caniatáu hynny.

Eich Cell

  • Os yn bosibl, dylid eich cadw mewn cell ar eich pen eich hun.
  • Dylai fod yn lân, yn gynnes ac wedi ei goleuo.
  • Dylai’ch dillad gwely fod yn lân ac mewn cyflwr da.
  • Rhaid gadael i chi ddefnyddio toiled ac ymolchi.

Dillad

Os byddant yn cymryd eich dillad oddi arnoch, yna mae’n rhaid i’r heddlu eich darparu â rhyw fath arall o ddillad.

Bwyd a diod

Dylid cynnig 3 phryd y dydd i chi gyda diodydd. Gallwch hefyd gael diodydd rhwng prydau.

Ymarfer corff

Os yn bosibl dylid gadael i chi fynd allan pob dydd am awyr iach.

Pan fydd yr heddlu yn eich holi

  • Dylai’r ystafell fod yn lân, yn gynnes ac wedi ei goleuo.
  • Ni ddylai fod rhaid i chi sefyll.
  • Dylai Swyddogion yr Heddlu roi eu henw a rheng i chi.
  • Dylech gael egwyl yn ystod adegau bwyta arferol ac egwyl am ddiod wedi oddeutu dwy awr.
  • Dylid caniatáu o leiaf 8 awr o orffwys i chi mewn unrhyw gyfnod o 24 awr tra’ch bod yn y ddalfa.

Anghenion Ffydd

Rhowch wybod i’r heddlu os ydych angen unrhyw beth i’ch cynorthwyo i ymarfer eich crefydd tra byddwch yn yr orsaf. Gallant ddarparu llyfrau crefyddol ac eitemau eraill, fel bo angen.

Adegau pan fydd y rheolau arferol yn wahanol

Cael cyfreithiwr i’ch helpu

Mae adegau pan fydd yr heddlu angen eich holi ar frys cyn i chi siarad â chyfreithiwr. Rhoddir gwybodaeth am hyn yn y Codau Ymarfer. Mae’r rhain yn sefydlu beth all yr heddlu wneud a pheidio â’i wneud tra’ch bod yng ngorsaf yr heddlu. Os ydych eisiau gweld y manylion, maent ym mharagraff 6.7 Cod H y Codau Ymarfer.

Mae un adeg pan na fydd yr heddlu yn gadael i chi siarad â’r cyfreithiwr a ddewisoch. Os bydd hyn yn digwydd bydd rhaid gadael i chi ddewis cyfreithiwr arall. Os ydych eisiau gweld y manylion, maent yn Atodiad B Cod H y Codau Ymarfer.

Mae un adeg pan na fydd yr heddlu yn gadael i chi siarad â’ch cyfreithiwr yn breifat. Mae hyn pan fydd swyddog uchel iawn o’r heddlu yn rhoi awdurdod i arolygydd mewn iwnifform i fod yn bresennol. Os ydych eisiau gweld y manylion, maent ym mharagraff 6.5 Cod H y Codau Ymarfer.

Dweud wrth rywun eich bod yng ngorsaf yr heddlu

Mae adegau pan na fydd yr heddlu yn gadael i chi gysylltu ag unrhyw un. Rhoddir gwybodaeth am hyn yn y Codau Ymarfer. Os ydych eisiau gweld y manylion, maent yn Atodiad B Cod H y Codau Ymarfer.

Ymwelwyr Dalfa Annibynnol

Maent yn aelodau o’r gymuned sy’n cael mynediad i orsafoedd heddlu heb drefnu o flaen llaw. Fe’i gelwir yn ymwelwyr dalfa annibynnol ac maent yn gweithio’n wirfoddol i sicrhau fod pobl a garcharir yn cael eu trin yn gywir ac â mynediad at hawliau.

Nid oes gennych hawl i weld ymwelydd dalfa annibynnol nac i ofyn i un ymweld â chi, ond gall ymwelydd ofyn am gael eich gweld chi. Os bydd ymwelydd dalfa annibynnol yn ymweld tra’ch bod yn y ddalfa, byddant yn gweithredu’n annibynnol o’r heddlu i wirio y diogelwyd eich lles a hawliau. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi siarad â nhw os nad ydych yn dymuno ei wneud.

Sut i wneud cwyn

Os ydych eisiau cwyno am y modd y cawsoch eich trin, gofynnwch am siarad â swyddog heddlu sy’n arolygydd neu’n rheng uwch. Wedi cael eich rhyddhau, gallwch hefyd gwyno mewn unrhyw orsaf heddlu, i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) neu drwy gyfreithiwr neu’ch AS ar eich rhan.