Llythyrau sy’n rhoi cyngor ar Brexit dim cytundeb i fusnesau sy’n masnachu â’r UE
Llythyrau oddi wrth CThEM at fusnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW ac sy’n masnachu â’r UE, sy’n esbonio sut i baratoi ar gyfer newidiadau i dollau, ecséis a TAW pe bai’r DU yn gadael yr UE heb gytundeb.
Dogfennau
Manylion
Mae CThEM wedi ysgrifennu at 145,000 o fusnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW ledled y DU, gan gynnwys Gogledd Iwerddon, ac sy’n masnachu â’r UE yn unig.
Mae’r llythyrau yn esbonio newidiadau i dollau, ecséis a TAW pe bai’r DU yn gadael yr UE heb gytundeb, a’r hyn y gall busnesau ei wneud i baratoi.
Mae CThEM hefyd wedi ysgrifennu at:
-
4,700 o fusnesau sy’n mewnforio neu’n allforio nwyddau ecséis, gan gynnwys alcohol, tybaco a rhai olewon, rhwng y DU a’r UE, y mae llawer ohonynt hefyd yn mewnforio neu’n allforio y tu allan i’r UE
-
y 750 prif fasnachwr sy’n masnachu â’r UE yn unig (a hynny’n seiliedig ar faint y mewnforion, allforion a’r cyfuniad o fewnforion/allforion) gan amlinellu’r buddion posibl i fusnesau o dan y Confensiwn Cludo Cyffredin (CTC) pe bai’r DU yn ymadael â’r UE heb gytundeb – mae’r llythyr hwn ond yn cyfeirio at arweiniad sydd ohoni, ac nid yw’n cyflwyno polisïau na gweithdrefnau newydd
Bydd CThEM yn parhau i ymgysylltu â busnesau, sefydliadau cynrychioliadol, cyfryngwyr a darparwyr seilwaith er mwyn sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.
Gallwch ddarllen arweiniad ynghylch masnachu gyda’r UE os yw’r DU yn gadael heb gytundeb.
Gall busnesau gael gwybod y cwbl am y newidiadau hyn drwy gofrestru i gael y diweddaraf am Brexit oddi wrth CThEM.
Updates to this page
-
Published the letter 'Letter to EU-only traders about auto-enrolment to Transitional Simplified Procedures - October 2019'
-
Page updated with 2 letters to traders about importing and exporting after Brexit, and Welsh language translations.
-
Added 'Letter to EU-only traders in the UK about next steps to get ready for Brexit - September 2019'
-
Added letters to traders regarding auto-enrolment of EORI numbers, and added Welsh translation of the page
-
Added letter to top 750 EU-only traders, based on their volume of imports, exports and combined imports/exports.
-
Page updated with a letter sent to excise traders about importing or exporting within the EU.
-
Added new letter to VAT-registered traders.
-
Page updated with two new letters which were sent to VAT-registered businesses only trading with the EU in early December 2018.
-
First published.