Papur polisi

Gwladoli'r sector dŵr: sut aseswyd y gost

Cyhoeddwyd 16 Medi 2025

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) wedi amcangyfrif mai rhyw £100 biliwn fyddai cost gwladoli’r diwydiant dŵr. Mae sylwebwyr eraill wedi cyhoeddi ffigurau gwahanol.   

Mae’r nodyn technegol yma yn manylu ar y rhagdybiaethau a’r dull y mae Defra wedi’u defnyddio i gyrraedd eu hamcangyfrif nhw.

3 rhagdybiaeth ganolog Defra 

Mae Defra wedi rhagdybio:   

  • mai gwerth cyfalaf rheoleiddiol (RCV) y sector dŵr yw’r dirprwy agosaf ar gyfer cyfanswm gwerth dyled ac ecwiti y sector 

  • y byddai cyfanswm cost gwladoli yn adlewyrchu cost prynu’r ecwiti yn y cwmnïau a chost ysgwyddo’u rhwymedigaethau dyled presennol

  • nad yw’n briodol cymhwyso disgownt neu bremiwm at yr RCV, o gofio’r ansicrwydd arwyddocaol a’r amrywiad posibl rhwng y cwmnïau

Gwerth cyfalaf rheoleiddiol fel dirprwy ar gyfer gwerth menter 

RCV y sector dŵr oedd £99.3 biliwn yn 2024, a £106.7 biliwn yn 2025, fel y gwelir yn niweddariadau Ofwat ar yr RCV.

Cafodd yr RCV ei osod yn wreiddiol drwy gyfeirio at werth ecwiti a lefelau dyled pob cwmni dŵr a charthffosiaeth adeg preifateiddio. Mae wedi’i ddiweddaru wedyn gan yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr (Ofwat) ac mae’n cael ei gydnabod gan sylwebwyr fel y dirprwy gorau ar gyfer cyfanswm gwerth ecwiti a dyled y diwydiant dŵr (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘gwerth menter’).

Mae modd gweld gwir werth menter y cwmnïau dŵr a restrir yn gyhoeddus am fod eu cyfrannau’n cael eu masnachu’n gyhoeddus ar y farchnad stoc. Rhwng 1993 a 2025, roedd gwerth menter y cwmnïau hyn tua 10% yn uwch ar gyfartaledd na’r RCV, a ddisgrifir ar dudalen 57 o ddogfen Ofwat PR24 Draft Determinations – Allowed Return Appendix (PDF, 1.81 MB, 115 o dudalennau).

Gan hynny, mae amcangyfrif Defra yn defnyddio’r RCV fel y brasamcan gorau o werth menter y diwydiant.

Ffactorio costau ecwiti a dyled

Mae rhai sylwebwyr wedi awgrymu y dylai cyfanswm cost gwladoli gynnwys cost ecwiti yn unig, ac nid cost caffael dyled y cwmnïau. Nid yw Defra wedi arddel y dull yma, o gofio y gallai credydwyr y sector dŵr fynnu iawndal ar unwaith, gan wyro cyllid hanfodol oddi wrth ein gwasanaethau cyhoeddus angenrheidiol.  

Trwy ddefnyddio’r RCV fel dirprwy ar gyfer gwerth menter, mae Defra wedi ceisio cynnwys:

  • cost prynu’r ecwiti yn y cwmnïau  

  • cost ysgwyddo’u rhwymedigaethau dyled presennol 

Defnyddio amcangyfrif canolig 

Mae rhai sylwebwyr yn defnyddio’r RCV fel man cychwyn ar gyfer eu hamcangyfrifon, ond yn cymhwyso disgownt wedi’i seilio ar berfformiad gwael a thrafferthion ariannol. Mae eraill yn cymhwyso premiwm sydd wedi’i seilio ar brofiadau nodweddiadol o feddiannu cwmnïau proffidiol.

Mae Defra yn hytrach wedi defnyddio’r RCV i ddarparu amcangyfrif canolig clir o gost gwladoli, gyda dull sy’n sicrhau bod ein hamcangyfrif ni yn gynhwysfawr ac wedi’i seilio ar realiti.  

Bwriedir i’r amcangyfrif a ddarperir fod yn ddarluniadol ac nid yw’n adlewyrchu asesiad o amodau’r farchnad nac amgylchiadau unigol y cwmnïau. Gallai gwir werth menter y cwmnïau dŵr fod yn uwch neu’n is nag amcangyfrif Defra.