Ffurflen

Gwneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 (CA5610)

Defnyddiwch y ffurflen bost i wneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 neu gwnewch gais ar-lein.

Dogfennau

Gwneud cais ar-lein (mewngofnodi gan ddefnyddio Porth y Llywodraeth)

Gwnewch gais drwy'r post (defnyddiwch y fersiwn hon os ydych chi'n asiant neu os na allwch ddefnyddio'r ffurflen ar-lein)

Manylion

Er mwyn gwneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4, gallwch:

  • defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
  • llenwi’r ffurflen ar y sgrîn, ei hargraffu a’i phostio i Gyllid a Thollau EM

Er mwyn gwneud cais ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn gwneud cais.

Os ydych yn defnyddio’r ffurflen ar-lein, cewch gyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich ffurflen.

Cyn i chi ddechrau

Os ydych yn defnyddio hen borwr, e.e. Internet Explorer 8, bydd yn rhaid i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth ynghylch porwyr.

Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen yn gyfan gwbl cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i chwblhau’n rhannol felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Cyhoeddwyd ar 4 April 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 November 2015 + show all updates
  1. An online service is now available.

  2. Added translation