Ffurflen

Apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch credydau Yswiriant Gwladol (CA82)

Apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch credydau yn achos amgylchiadau gwahanol, er enghraifft, os ydych yn ofalwr, ar wasanaeth rheithgor, neu’n hawlio tâl statudol ar gyfer absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb salwch.

Dogfennau

Hysbysiad o apêl yn erbyn penderfyniad a wnaed gan CThEM

Manylion

Defnyddiwch ffurflen CA82 i apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan CThEM ynghylch credydau Yswiriant Gwladol ar gyfer:

  • diogelwch cyfrifoldebau cartref
  • rhieni a gofalwyr
  • Gofal Plant Oedolion Penodedig
  • hyfforddiant cymeradwy
  • gwasanaeth rheithgor
  • Tâl Salwch Statudol, Tâl Mamolaeth Statudol neu Dâl Mabwysiadu Statudol
  • credydau awtomatig
  • aflwyddiant cyfiawnder
  • Credyd Treth Gwaith
  • priod neu bartner sifil aelod o’r Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Isafswm Pensiwn Gwarantedig

Mae’r ffurflen hon yn eich helpu i roi’r holl wybodaeth i ni y mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM ei hangen er mwyn cofrestru eich apêl. Bydd hefyd yn sicrhau bod eich apêl yn cynnwys yr holl fanylion angenrheidiol sy’n ofynnol gan y gyfraith.

Cyn i chi ddechrau

Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft, Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.

Dylech lenwi’r ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i CThEM.

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Ffurflenni ac arweiniad perthynol

Delio â CThEM
Rhoi gwybod am newidiadau, asiantau, apeliadau, gwiriadau, cwynion a help gyda’r dreth.

Cyhoeddwyd ar 11 August 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 April 2015 + show all updates
  1. Welsh version of the form CA82 has been added to this page.

  2. First published.