Corporate report

Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Iath Gymraeg Y Weinyddiaeth Amddiffyn (MODWLS) 2019-2010

Published 15 December 2021

1. Ynghylch yr adroddiad hwn

Dyma Adroddiad Monitro Blynyddol MODWLS ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg, a gyflwynir yn Saesneg ac yn y Gymraeg. Mae’n rhoi manylion am ein perfformiad o ran bodloni ein hymrwymiadau polisi ar gyfer y MODWLS yn ystod 2019-20.

2. Ynghylch y MODWLS

Mae’r MODWLS yn pennu ein hymrwymiadau o ran y Gymraeg. Rydym yn anelu at drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal, fel y gall siaradwyr Cymraeg ymwneud â’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) yn Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, a sicrhau bod y gwasanaeth Cymraeg cystal â’r gwasanaeth Saesneg cyfatebol.

3. Rheoli’r MODWLS

Mae Syr Stephen Lovegrove, Ysgrifennydd Parhaol y MOD, yn parhau i fod â chyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â’r MODWLS. Mae Tîm Digidol MOD ar gyfer Stiwardiaeth Gwybodaeth, Rheoli Gwybodaeth a Chofnodion wedi bod yn rheoli’r MODWLS ar ei ran ers diwedd 2014.

4. Adolygiad o’r Flwyddyn

Yn gyffredinol, ni chafodd y cyfnodau clo cenedlaethol na’r cyfyngiadau lleol yng Nghymru lawer o effaith ar ein gwasanaethau yn 2020.

Rydym wedi paratoi a chyflwyno drafft o’r MODWLS 2020 sydd wedi’i ddiweddaru a’i ddiwygio, i gael sylwadau gan Gomisiynydd y Gymraeg cyn cyflwyno cyhoeddiad ffurfiol gan yr Adran yn ddiweddarach eleni.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Pencampwr Iaith Gymraeg ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD WLC) wedi cael ei benodi. Commodore Dai Williams yw’r MODWLC, ac mae mewn sefyllfa ddelfrydol, fel Swyddog Llu Awyr Cymru, i arwain ar ymgysylltu â’r MODWLS ar draws yr Adran. Hefyd, trwy ei berthnasau gydag uwch randdeiliaid yng Nghymru, mae’n gallu rhoi cyngor ar yr effaith y gall ein polisïau a’n prosiectau gael ar Gymru a’r Gymraeg, Rydym wedi ychwanegu’r Rhaglen “Gweithio’n Gymraeg” i Ysgol Ymgysylltu’r MOD a Rhestr Ieithoedd Awdurdodedig Canolfan Iaith a Diwylliant y MOD, ac mae ar gael i holl staff y MOD ar yr offer TGCh a ddarperir iddynt gan y MOD. Bydd hyn yn cefnogi ein hymrwymiad i annog ein staff, yn enwedig y rhai hynny sydd yng Nghymru, i ddysgu Cymraeg neu wella eu sgiliau Cymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Rydym yn parhau i gynnal perthynas waith dda iawn ag Uned Iaith Gymraeg Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM); sy’n darparu gwasanaeth ardderchog inni, yn cyfieithu gwaith ysgrifenedig yn brydlon ac yn gweithredu ein gwasanaeth Llinell Gymorth Cymraeg.

5. Y Flwyddyn i Ddod

Ein blaenoriaeth yn 2021 fydd gweithredu’r mesurau ychwanegol rydym wedi ymrwymo iddynt yn y MODWLS 2020 diwygiedig. Yn bennaf, byddwn yn:

  • lansio Porth Gymraeg MOD ar wefan gov.uk a chanoli’r holl wybodaeth MOD sy’n berthnasol i Gymru neu aelodau’r cyhoedd sy’n siaradwyr Cymraeg yno, a
  • chreu Wiki Cymraeg dwyieithog tebyg ar ryngrwyd yr Adran, a fydd yn darparu cyngor ac arweiniad ar sut i fodloni ein hymrwymiad i aelodau’r cyhoedd sy’n siaradwyr Cymraeg;
  • cyflwyno, ar y cyd â’n Tîm Datganoli, Llwybr Asesiad o’r Effaith ar Gymru a’r Gymraeg i’r broses Knowledge in Defence a’i wneud yn ofynnol i bob prosiect neu fenter newydd ei gwblhau. Bydd hyn yn cydnabod pwysigrwydd ystyried yr effaith gall ein prosiectau a’n mentrau gael ar Gymru a’r Gymraeg;
  • ffurfio Rhwydwaith Siaradwyr Cymraeg MOD ar gyfer gweithwyr, wedi’i arwain gan Bencampwr yr Iaith Gymraeg MOD, i ymestyn y defnydd o’r Gymraeg yn ein busnes o ddydd i ddydd a darparu sgiliau iaith Cymraeg ychwanegol o fewn yr Adran ac yn ein rhaglenni estyn allan;
  • cymryd rhan yn y Gweithgor Cynllun Iaith Gymraeg traws-lywodraethol sydd newydd gael ei ffurfio, ac sydd wedi’i gadeirio gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, i rannu’r arfer gorau a sbarduno gwelliannau i’r darpariaethau iaith Gymraeg a gynigir gan Adrannau’r Llywodraeth a Chyrff Cyhoeddus.

6. Casgliad

Rydym yn parhau i ymrwymo i fodloni disgwyliadau siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a gwella’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig iddynt.